professor bad trip - irp-cdn.multiscreensite.com · sarah lianne lewis bethan morgan williams...

5
PROFESSOR BAD TRIP UPROAR ENSEMBLE CERDDORIAETH NEWYDD CYMRU UPROAR.org.uk @UPROAR_Wales

Upload: others

Post on 19-Jul-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: PROFESSOR BAD TRIP - irp-cdn.multiscreensite.com · Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura

PROFESSOR BAD TRIPUPROAR ENSEMBLE CERDDORIAETH NEWYDD CYMRU

UPROAR.org.uk @UPROAR_Wales

Page 2: PROFESSOR BAD TRIP - irp-cdn.multiscreensite.com · Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura

AM UPROARUPROAR yw’r ensemble cerddoriaeth gyfoes newydd i Gymru. Dan faton ei arweinydd Michael Rafferty, mae’r ensemble yn cynnwys rhai o gerddorion medrusaf y DU gan arbenigo mewn cerddoriaeth newydd. Yn ymrwymedig ac yn awchus i ddod â’r gerddoriaeth newydd fwyaf amrwd, anturus a dychmygus gan gyfansoddwyr Cymreig a rhyngwladol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU.

Professor Bad Trip yw’r ail brosiect gan UPROAR a lansiwyd yn 2008 gyda’i berfformiad cyntaf yng Nghaerdydd lle gwerthwyd pob tocyn, gan ennill clod y beirniaid yn y wasg leol a chenedlaethol.

Cyfarwyddwr Artistig ac Arweinydd UPROAR Michael Rafferty Arweinydd arobryn yw Michael Rafferty,

sefydlydd UPROAR, sy’n byw yn ne Cymru. Ac yntau ar dân dros ddiwylliant cyfoes, mae’n arwain ensembles cerddoriaeth gyfoes gorau’r byd ac wedi cydweithredu â thros 100 o gyfansoddwyr sy’n byw heddiw. Cydsefydlodd Theatr Gerdd Cymru ac ef oedd ei Chyfarwyddwr Cerdd am 25 mlynedd. Derbyniodd MBE yn 2016 am wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru.

RHAGLENSarah Lianne Lewis we watch it burn*Kaija Saariaho Lichtbogen**Bethan Morgan Williams Devil’s Elbow*

EGWYL

Tristan Murail Winter Fragments**Andrew Lewis Canzon in Double Echo*Fausto Romitelli Professor Bad Trip: Lesson III**

HYD Tua 1 awr 45 munud gan gynnwys egwyl

*Premiere Cymru **Premiere BydMae fersiwn sain o’r rhaglen ar gael ar-lein, mae nodiadau’r cyfansoddwr hefyd ar gael ar-lein ac ym mhob lleoliad. Ewch i uproar.org.uk

Cyllidwyr UPROAR 2019-2020Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr a wnaeth y rhaglen hon yn bosibl:

Celfyddydau Rhyngwladol CymruCyngor Celfyddydau CymruDiaphoniqueSefydliad Diwylliannol yr EidalSefydliad FoyleSefydliad Garfi eld WestonSefydliad HinrichsenSefydliad Stafford HouseSefydliad y PRSTŷ CerddYmddiriedolaeth OakdaleYmddiriedolaeth RVW

RhoddionRhodd breifat er cof amPeter ReynoldsCronfa Taith Feicio’r Pyreneau Peter GolobSally GrovesYr Athro Mick Peake

Mae UPROAR yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth garedig Electroacwsteg Cymru, Tessa Shellens, Michael Ellison, Andrew Rafferty

“…meistrolgar, afi eithus a chwareus” ****Am 10x10 UPROAR, Y Guardian 2018.

Rhif Cofrestru Elusen: 1174587

TheOakdale

Trust

Page 3: PROFESSOR BAD TRIP - irp-cdn.multiscreensite.com · Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura

ENSEMBLEFfl iwt Richard Craig (ac eithrio 13 Mawrth) Joanna Shaw (13 Mawrth)Clarinét Michael WhightTrwmped/Trombôn Soprano Torbjorn HultmarkGitâr Trydan James WoodrowPiano/Allweddellau Siwan RhysAllweddellau Bethan Morgan WilliamsOfferynnau taro Julian WarburtonTelyn Manon MorrisFeiolín 1 Miranda FulleyloveFeiolín 2 Philippa MoFiola Fiona WinningSoddgrwth Deni TeoBas/Gitâr Bas Trydan Alan Taylor

Arweinydd Michael RaffertyElectroneg Fyw Andrew Lewis (Electroacwsteg Cymru) Tom Rydeard (Electroacwsteg Cymru) Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James

Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura Sheldon (25 Ebrill)

Marchnata Suzanne Carter Tabitha MilneY Wasg Hazel HardyGweinyddwr Caroline Tress

Y Bwrdd Yr Athro Michael Ellison Sally Groves MBE Yr Athro Mick Peake

Sarah Lianne Lewis we watch it burn (Ionawr 2020)

Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd gan ennill BA (Anrhydedd) 2:1 mewn Cerddoriaeth a Hanes ac MMus mewn Cyfansoddi.

Yn y gorffennol, mae Sarah wedi gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Quatuor Bozzini, Pedwarawd JACK a Phedwarawd Mivos, UPROAR, a’r soprano Sarah Maria Sun, ac mae ei cherddoriaeth wedi’i pherfformio mewn nifer o wyliau cerdd yn y DU ac Ewrop, gan gynnwys Festival d’Aix-en-Provence, Gŵyl Frühling Heidelberg, soundfestival, Musiikin Aika, Festival de Royaumont, Gŵyl Archipel a Gŵyl Lucerne.

Bethan Morgan-Williams Devil’s Elbow (Tachwedd 2019)

Cyfansoddwraig Gymreig yw Bethan Morgan-Williams (1992-) sy’n byw yn Sir Drefaldwyn. Mae’n cyfansoddi cerddoriaeth offerynnol, leisiol ac electronig i bobl o bob oed a gallu, gan gael ei hysgogi gan yr ysfa syml i gynnig cerddoriaeth newydd a chyffrous i berfformwyr.

Wedi’i disgrifi o fel cerddoriaeth ‘ryfeddol o astrus ac anuniongyrchol’ [5against4] ac ar yr un pryd wedi’i ‘gwreiddio mewn rhywbeth hynafol a gwerinol’ [Y Telegraph], mae miwsig Bethan yn llifo ac yn llawn mynegiant. Yn ei gyrfa gyfansoddi fer, mae Bethan wedi derbyn nifer sylweddol o wobrau pwysig, gan

gynnwys Ysgoloriaeth Leverhulme (2018-9); Gwobr Susan Bradshaw i Gyfansoddwyr (RPS – 2017-8); Gwobr Gyfansoddi Christopher Brooks (Cyfansoddwr Ifanc Preswyl gyda’r RLPO) (2015-7); a Chynllun Panufnik yr LSO (2015-6). Roedd hi ar y rhestr fer ar gyfer Diwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM (2019 a 2020); Gwobr Paul Hamlyn (2017) a Gwobr Irwin Mitchell Gŵyl Jazz Manceinion (2014).

Andrew Lewis Canzon in Double Echo (Ionawr 2020)

Astudiodd Andrew Lewis gyfansoddi gyda Jonty Harrison ym Mhrifysgol Birmingham lle bu’n un o aelodau sefydlu BEAST. Ef yw’r Athro Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor lle mae hefyd yn cyfarwyddo’r Stiwdios Cerddoriaeth Electroacwstig.

Mae ei gerddoriaeth wedi derbyn gwobrau yn Ffrainc, Sweden, Awstria, Hwngari, Sbaen, Brasil, Yr Ariannin a’r DU. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys ‘Lebenslieder’ i gerddorfa siambr ac electroneg, gyda lleisiau pobl sydd â dementia a’u partneriaid sy’n gofalu amdanynt. Comisiynwyd ei waith siambr ‘Etude aux objets’ gan UPROAR ar gyfer y prosiect agoriadol 10 x10. Cyhoeddir ei sgorau gan Composers Edition (Y DU) a’i gerddoriaeth ‘acwsmatig’ gan Empreintes DIGITALes (Canada).

CYFANSODDWYR COMISIWN O GYMRU

Page 4: PROFESSOR BAD TRIP - irp-cdn.multiscreensite.com · Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura

Tristan Murail Winter Fragments (2000)

Wedi’i eni yn Le Havre ym 1947, derbyniodd Tristan Murail raddau uwch mewn Arabeg clasurol a Gogledd Affrica gan Ecole Nationale des Langues Orientales Vivantes, yn ogystal â gradd mewn gwyddor economeg wrth ddilyn ei astudiaethau cerddorol ar yr un pryd. Ym 1967, daeth yn un o fyfyrwyr Olivier Messiaen yn Ysgol Gerdd Paris a hefyd astudiodd yn yr Institut d’Etudes Politiques ym Mharis. Ym 1971, derbyniodd y Prix de Rome ac yn nes ymlaen y Wobr Gyntaf mewn cyfansoddi gan Ysgol Gerdd Paris.

Cydsefydlodd Ensemble L’Itineraire gyda chriw o gyfansoddwyr ac offerynwyr ifainc ym 1973. Yn fuan, cafodd yr ensemble gydnabyddiaeth eang am ei ymchwil sylfaenol ym maes perfformio offerynnol ac electroneg fyw.

Yn y 1980au, defnyddiodd Tristan Murail dechnoleg gyfrifi adurol i hybu ei ymchwil ym maes dadansoddi a chyfosod ffenomenau acwstig. Datblygodd ei system ei hun o gyfansoddi gyda chymorth microgyfrifi adur ac yna bu’n cydweithredu ag Ircam am sawl blwyddyn lle bu’n dysgu cyfansoddi gan gymryd rhan wrth greu’r rhaglen cyfansoddi gyda chymorth cyfrifi adur, ‘Patchwork’. Ym 1997, penodwyd Tristan Murail yn athro cyfansoddi ym Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd gan ddysgu yno tan 2010.

Kaija SaariahoLichtbogen (1986)

Aelod blaenllaw yw Kaija Saariaho o grŵp o artistiaid o’r Ffi ndir sy’n cael effaith bellgyrhaeddol ar draws y byd. Astudiodd yn Helsinki, Fribourg a Pharis.

Yn IRCAM, datblygodd Kaija dechnegau cyfansoddi gyda chymorth cyfrifi adur a daeth yn fedrus iawn wrth ddefnyddio tâp a chydag electroneg fyw.

Mae gwaith Kaija yn cynnwys Verblendungen (1984), Du Cristal (1989), ac …à la Fumée (1990), Orion (2004), Laterna Magica (2008) a Circle Map (2008). Mae ei chatalog hefyd yn cynnwys Aile du songe (2001), Notes on Light (2006), D’OM LE VRAI SENS (2010) a Maan Varjot (2014). Yn 2015, perfformiwyd True Fire i fariton a cherddorfa am y tro cyntaf gan Gerald Finley a Cherddorfa Ffi lharmonig Los Angeles o dan arweiniad Gustavo Dudamel.

O ddiwedd y nawdegau, mae Saariaho wedi troi at opera gyda llwyddiant ysgubol: L’Amour de Loin (2000), Adrian Mater (2006), Emilie (2010) a’r oratorio La Passion de Simone (2006). Perfformiwyd ei hopera Only The Sound Remains am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2016 yn Opera Genedlaethol yr Iseldiroedd. Bydd perfformiadau eraill yn dilyn ym Mharis, Helsinki, Madrid a Toronto.

Mae Saariaho wedi ennill y prif wobrau cyfansoddi: Gwobr Grawemeyer, Gwobr Wihuri, Gwobr Nemmers, Gwobr Sonning a Gwobr Gerddoriaeth Pegwn y Gogledd.

Perfformiwyd Trans, concerto cyntaf Kaija Saariaho i’r delyn am y tro cyntaf ym mis Awst 2016 gan Xavier de Maistre a Cherddorfa Symffoni Tokyo o dan arweiniad Ernest Martinez-Izquierdo yn Neuadd Suntory, Tokyo.

Fausto RomitelliProfessor Bad Trip: Lesson III (2000)

Yn un o gyfansoddwyr Eidalaidd mwyaf addawol y genhedlaeth ifanc, bu farw Fausto Romitelli, a aned yn Gorizia yn 1963, yn gynamserol yn 2004 ar ôl salwch hir.

Astudiodd gyntaf yn yr Accademia Chigiana yn Siena a nes ymlaen yn y Scuola Civica ym Milan. Mae ei weithiau yn cynnwys: Ganimede (1986), i alto, a Kû (1989), i 14 o gerddorion. Yn y 1990au, parhaodd ei ymchwiliadau i sain yn Ircam ym Mharis a chyda cherddorion L’Itinéraire—Tristan Murail, Gérald Grisey, Michael Lévinas a Hugues Dufourt.

Yn bell o fod yn gyfansoddwr ffurfi olaidd, nid oedd Romitelli yn swil o gymysgrywio, gan chwalu’r rhwystr rhwng cerddoriaeth gelf a cherddoriaeth boblogaidd. Roedd ystumio, boddi, cyfansoddiadau wedi’u hysbrydoli gan roc seicedelig a harmonïau ‘budr’ yn rhan o’i

fydysawd cerddorol, yn amlwg yn Acid Dreams & Spanish Queens (1994) i ensemble wedi’i fwyhau, EnTrance (1995) a Cupio Dissolvi (1996). Ysbrydolwyd Cylch Professor Bad Trip (I, II a III, 1998—2000) oedd yn cyfuno lliwiadau ystumiedig offerynnau acwstig ac electronig yn ogystal ag ategolion fel y mirliton a’r organ geg gan ysgrifau Henri Michaux o dan ddylanwad cyffuriau seicedelig gan ail-greu awyrgylch rhithweledol.

CYFANSODDWYR Y GWEITHIAU ERAILL YN Y RHAGLEN

Page 5: PROFESSOR BAD TRIP - irp-cdn.multiscreensite.com · Sarah Lianne Lewis Bethan Morgan Williams Goleuo Ceri James Rheolwr yr Ensemble Charlotte Templeman (ac eithrio 25 Ebrill) Laura

28.02.2020 – 7.30pmChapterCaerdyddchapter.org029 2030 4400

13.03.2020 – 8pmCanolfan y Celfyddydau aberystwythartscentre.co.uk01970 62 32 32

21.03.2020 – 7.30pmGaleri, Caernarfongalericaernarfon.com01286 685 222

25.04.2020 – 4pmBristol New MusicVictoria Rooms, Brystebristolnewmusic.org

03.06.2020 – 7pmFestival KLANG! électroacoustique Opéra Comédie, Salle MolièreMontpellier, Ffraincopera-orchestre-montpellier.fr