prospectws israddedig ysgol yr amgylchedd, adnoddau naturiol a daearyddiaeth

24
YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH

Upload: bangor-university

Post on 07-Apr-2016

238 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

YSGOL YR AMGYLCHEDD,ADNODDAU NATURIOL ADAEARYDDIAETH

Page 2: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

"Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)2014 yn adlewyrchu pwyslais y Brifysgol ar brofiadmyfyrwyr drwodd a thro. Roedd y canlyniadau'n rhoiBangor ymysg y 10 prifysgol uchaf ym Mhrydain amfoddhad myfyrwyr (7fed ym Mhrydain heb gynnwyssefydliadau arbenigol), a'r uchaf yng Nghymru am foddhadmyfyrwyr."

7fed YN Y DU AMFODDHAD

MYFYRWYR

1 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 3: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

CroesoNeges gan

Bennaeth yr Ysgol

www.bangor.ac.uk/senrgy 2

Croeso i Ysgol yr Amgylchedd,Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth!

Rydym yn adran gyfeillgar sydd wedi cael yraddfa annibynnol uchaf bosibl amansawdd ein dysgu ac mae gennym enwda’n fyd-eang am ein hymchwil. Er bod einstaff yn arbenigwyr yn eu maes, maenthefyd yn groesawus ac yn barod iawn iymwneud â myfyrwyr. Yn wir, mae’r gofalbugeiliol a gynigir i’n myfyrwyr yn ddiguro.Mae Bangor ar gyrion Eryri; nid yn unigmae’n lle hardd iawn i fyw ynddo, ond maehefyd yn rhoi cyfleoedd unigryw i astudio'ramgylchedd naturiol. Hefyd, mae gan einhymchwil gysylltiadau rhyngwladol cryf ynymestyn ar draws ystod o gynefinoeddlleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’rYsgol yn rhan o Goleg y GwyddorauNaturiol, ynghyd â’r Ysgol GwyddorauBiolegol, yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a'rGanolfan Biogyfansoddion. Mae’r Coleg ynun o’r canolfannau blaenaf ym Mhrydainar gyfer dysgu ym maes gwyddorau’ramgylchedd, bioleg, daearyddiaeth agwyddorau eigion, ac mae myfyrwyr yn

elwa oddi wrth ycysylltiadau hyn drwyfedru astudio ystod eang o bynciau. Einnod yw cynhyrchu cenhedlaeth newydd oraddedigion sy’n ymwybodol o anghenioncymdeithas, ond sydd hefyd â’r sgiliau ifod yn llwyddiannus ym myd gwaith yn ysector hwn. Felly, mae ein cyrsiau’n rhoipwyslais ar feithrin a datblygu sgiliautrosglwyddadwy a gwybodaeth ynymwneud â phynciau penodol. Maent yncynnwys cyfleoedd i astudio dramor neugael ‘blwyddyn allan’ mewn gwaith, acennill cymhwyster cyflogadwyedd.Ymhellach, caiff ein cyrsiau ‘amgylchedd’,'daearyddiaeth' a ‘choedwigaeth’ euhachredu gan yr Institution ofEnvironmental Sciences a’r Institute ofChartered Foresters. Gall y rhain i gydgynyddu eich rhagolygon o gael swydddda.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu iFangor!

Yr Athro Morag McDonald Pennaeth yr Ysgol

Canolfan Amgylchedd Cymru

Page 4: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Cynnwys

3 www.bangor.ac.uk/senrgy

Tudalen Cynnwys

2 Neges Groeso gan Bennaeth yr Ysgol3 Cynnwys4 Lleoliad ac Adnoddau6 Cysylltiadau â Sefydliadau eraill

Achredu Proffesiynol7 Ein Hymchwil8 Sut y Caiff ein Cyrsiau eu Dysgu a’u Hasesu10 Y Cyrsiau a Gynigir gennym11 Gwybodaeth am y Cyrsiau

BSc Ecoleg Daear a Môr GymhwysolBSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth

12 BSc Cadwraeth AmgylcheddolBSc Rheoli’r Amgylchedd

13 BSc Gwyddor yr AmgylcheddMeistr Gwyddor/Rheoli'r Amgylchedd (MEnvSci)

15 BSC/MFor CoedwigaethBA/BSC/MGeog Daearyddiaeth

16 Gwybodaeth am y Brifysgol18 Llety

Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddGwobrau Cyflogadwyedd Bangor

19 Gofynion Mynediad, Sut i Wneud Cais a Diwrnodau AgoredFfioedd Dysgu, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

22 Wyddech chi

Page 5: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Lleoliad ac Adnoddau

Bangor yw’r lleoliad delfrydol argyfer astudio’r amgylchedd a’iadnoddau naturiol.

Prifysgol Bangor yw’r lleoliad perffaith iastudio’r amgylchedd a’i gysylltiad â phobl,cadwraeth a rheoli tir a dwr. Mae ffermio achoedwigaeth, twristiaeth a hamdden ynweithgareddau pwysig eraill yn yr ardal, gydarhai o’n cyrsiau’n edrych ar y cydbwyseddrhwng y gweithgareddau hyn a'r gwrthdarorhyngddynt ar brydiau. Yn rhanbarth GogleddCymru mae yna lawer o nodweddion eraill oddiddordeb y gellir eu hastudio. Er enghraifft,mae’r diwydiant llechi a chloddio am gopr ametelau eraill wedi amharu ar safleoedd acmewn rhai achosion wedi eu llygru. Wrth ymylhefyd ceir cyfleusterau cynhyrchu trydanniwclear, trydan-dwr a ffermydd gwynt ar y tirac oddi ar yr arfordir.

Yn Henfaes, gorsaf faes yr Ysgol, sydd ychydigfilltiroedd o’r ddinas, ceir tir yn codi o forfa helia thir isel wedi’i wella ar yr arfordir, i dir porimynydd 1000 o fetrau uwchlaw lefel y môr. Ynoceir cyfleusterau ar gyfer gwaith maes, taigwydr a labordy ac fe’u defnyddir yn helaethgan fyfyrwyr ar gyfer gwaith project.

Mae Canolfan Amgylchedd Cymru, sefydliadymchwil sy'n cyfuno gwyddorau'r amgylchedd,yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor aChanolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) CyngorYmchwil yr Amgylchedd Naturiol. Mae'rganolfan mewn adeilad modern iawn sy'ndefnyddio dulliau arbed ynni, goleuni naturiol athechnolegau ynni adnewyddadwy. Mae'r

adeilad wedi dod i fri rhyngwladol fel enghraifftwych o adeilad cynaliadwy o ran ei gynllun a'iadeiladwaith, ac mae'n un o ddim ond triadeilad drwy'r byd sydd wedi caelcymeradwyaeth arbennig am ei nodweddioncynaliadwy neilltuol.

Mae swyddfeydd, ystafelloedd darlithio alabordai’r Ysgol wedi eu lleoli’n ganolog, ynagos at Lyfrgell y Gwyddorau, ac o fewn pelltercerdded o’r holl Neuaddau Preswyl. Ynddiweddar sefydlwyd Ystafell SystemauGwybodaeth Ddaearyddol, sy’n galluogimyfyrwyr i astudio cysylltiadau gofodol rhwngdata amgylcheddol, hinsoddol, biolegol achymdeithasol. Mae labordy pwrpasol ar gaelar gyfer gwaith project myfyrwyr gydaphlanhigion, pridd a chyfleusteraudadansoddol amgylcheddol eraill.

www.bangor.ac.uk/senrgy 4

Page 6: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

5 www.bangor.ac.uk/senrgy

Danielle Lea-Smith

Gradd BSc Coedwigaeth

Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Swyddog Coetir

Erbyn hyn mae’n gweithio i:Y Comisiwn Coedwigaeth

Dwi wrth fy modd yn yr awyr agored ac erbyn hyn dwi wedi hengynefino â hynny fel fy mod yn teimlo'n gynnes bob amser.Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio ym maes coedwigaethpan oeddwn yn yr ysgol a chael cymwysterau lefel A mewn bioleg,cemeg a daearyddiaeth, fel y gallwn wneud gradd mewncoedwigaeth. Gwneuthum brofiad gwaith gyda'r ComisiwnCoedwigaeth ac euthum yn ôl bob blwyddyn nes oeddwn yn 18 oed.Gorffennais y cwrs rhyngosod ym Mangor a threuliais y drydeddflwyddyn gyda'r Comisiwn Coedwigaeth yn East Anglia. Mae'rflwyddyn ychwanegol honno'n rhoi dyfnder a phrofiad pellach i chi.

Ar ôl graddio cefais swydd blwyddyn fel coedwigwr graddedig gyda'rNational Forest Company, sy'n creu coetiroedd ar diroedd lle ceidpyllau glo cynt. Erbyn hyn rwyf yn gweithio'n llawn amser i'rComisiwn Coedwigaeth ar Lannau Mersi. Rwy'n gwneud y gwaithyma oherwydd fy mod yn ei fwynhau'n fawr iawn; fodd bynnag, wnesi erioed freuddwydio y byddwn yn ennill cymaint, bron £30,000 yflwyddyn, ddim ond pedair blynedd ar ôl gorffen yn y brifysgol.Dwi'n hynod falch fy mod yn helpu i adfer coetir hynafol er na fyddpobl yn elwa ar hynny am 20 i 40 mlynedd. Hoffwn feddwl y bydd fymhlant yn gweld y coetiroedd a'm bod yn rhoi rhywbeth i'r dyfodol.

Page 7: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Cysylltiadau gyda Sefydliadau Eraill

Achrediad Proffesiynol

Ym Mangor ceir un o’r crynodiadau mwyafym Mhrydain o sefydliadau o’r sectorgwladol a phreifat yn gweithio yn yramgylchedd gwledig. Yma ceir swyddfaranbarthol Adnoddau Naturiol Cymru, yGanolfan Ecoleg a Hydroleg a Dwr Cymru.Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhagorol â’rrhain a sefydliadau eraill yn cynnwys yComisiwn Coedwigaeth, Natural England,Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, BritishTrust for Ornithology, yr Adran DatblyguRhyngwladol a’r Society for Conservation

Biology. Mae rhai o’r cyrff hyn yn cyfrannu atddysgu; mae rhai eraill yn cynnig lleoliadaui’n myfyrwyr sy’n gwneud gradd ryngosodneu’n cyllido gweithgarwch ymchwil yn yrYsgol. Mae gan yr Ysgol gysylltiadaurhyngwladol cryf hefyd â'r WorldAgroforestry Centre a'r Centre for TropicalAgricultural Research, ynghyd ag amryw obrifysgolion a sefydliadau Ewropeaidd, achyda llawer o sefydliadau eraill yn NeAmerica, Affrica ac Asia.

Caiff llawer o’n graddau amgylcheddol euhachredu gan yr Institution ofEnvironmental Science (IES). Mae hynny’ndangos eu bod yn cyrraedd y safonau uchela ddisgwylir gan gyflogwyr. Trwy ddilyncyrsiau gradd o’r fath sydd wedi’uhachredu, byddwch yn dod yn aelod o’r IESyn awtomatig a chewch wybodaeth amgyfleoedd swyddi, cynadleddau, cyrsiau ygellwch eu gwneud, etc. Unwaith ybyddwch wedi graddio, gellwch gael statws‘Gwyddonydd Siartredig’ a fydd yn apelio’nsylweddol at lawer o gyflogwyr. Y graddau aachredir gan yr IES yw’r BSc CadwraethAmgylcheddol, BSc Gwyddor yrAmgylchedd, MSc Gwyddor yr Amgylchedd,BSc Rheoli’r Amgylchedd, Meistr mewnRheoli'r Amgylchedd, BSc Daearyddiaeth,BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol.

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a'n graddauisraddedig sy'n ymwneud â choedwigaeth(BSc Coedwigaeth, Meistr mewnCoedwigaeth a BSc Cadwraeth gydaChoedwigaeth), yn cael eu hachredu gan yrInstitute of Chartered Foresters (ICF). Gallmyfyrwyr a gofrestrodd ar y rhaglenni hyna achredir wneud cais am statws Siartredigar ôl iddynt raddio’n llwyddiannus a chael oleiaf ddwy flynedd o brofiad proffesiynolperthnasol. Mae aelodaeth o’r ICF a chaelstatws siartredig yn cynyddu’n sylweddoleich rhagolygon o gael gyrfa dda a symudymlaen yn y sector.

Mae ein cyrsiau MBA ôl-radd mewnRheoli'r Amgylchedd a'r MSc mewnRheoli'r Amgylchedd a Busnes wedi euhachredu gan yr Institute of EnvironmentalManagement (IEMA) ar gyfer y AssociateCertificate in Environmental Management.

Mae myfyrwyr yn manteisio ar gydweithrediad yr Ysgol â sefydliadauymchwil a datblygu eraill.

Mae llawer o’n rhaglenni’n cael eu hachredu’n broffesiynol.

www.bangor.ac.uk/senrgy 6

Page 8: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Ein Hymchwil

Mae gwaith ymchwil yn aml o fuddsylweddol i’r gymdeithas ehangach acmae’r Ysgol hon yn credu bod yna lawer ofanteision wrth gyfuno ymchwil ac addysg.Mae’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eudysgu gan wyddonwyr sydd ar y blaen yn eumaes, a bod y myfyrwyr yn gofyn cwestiynauanodd ac ysgogol i’n darlithwyr am eugwaith. Mae’r mathau o ymchwil a wneir ynamrywio’n fawr o fewn meysydd yramgylchedd, daearyddiaeth a defnydd tir.Gwneir llawer o’n hymchwil dramor ac maegennym brojectau mewn gwledydd mor belloddi wrth ei gilydd â Fietnam, Ethiopia aPheriw. Yn ogystal â’r gwaith maes hwn, a’nlabordai ym Mangor, mae’r Ysgol yn rhedegei chanolfan ymchwil ei hun 6 milltir y tuallan i’r ddinas. Mae hwn yn gartrefarbrofion hir-dymor mewn coedwigaeth,coedamaeth, newid hinsawdd, bridio cnydauac ecoleg. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref iganolfannau ymchwil o bwys a gydnabyddiryn genedlaethol a rhyngwladol, megis yGanolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaetha'r Ganolfan Ymchwil Integredig yn yrAmgylchedd Gwledig.

Mae enw da’r Ysgol ym maes ymchwil ynamlwg nid yn unig yn nifer y projectauymchwil y mae’n eu cynnal, ond hefyd ynnifer y bobl sy’n dewis astudio am raddauuwch gyda ni. Ar hyn o bryd mae gennymfwy na 150 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd sy’ngwneud ein cyrsiau MA/MSc blwyddyn, dwyflynedd a dysgu o bell. Mae llawer oraddedigion y cyrsiau hyn yn mynd ymlaen igael swyddi rhagorol yn y meysydd o’udewis. Yn ogystal, mae gennym dros 65 ofyfyrwyr ar hyn o bryd yn gwneud ymchwilar gyfer eu gradd PhD. Maent hwy’ncyflawni eu gwaith dros gyfnod o dairblynedd gan arwain at gynhyrchu thesis anifer o bapurau gwyddonol. Mae’r casgliadhwn o ôl-raddedigion sy’n ymwneud âphynciau amgylcheddol a rheoli adnoddauyn golygu bod yr Ysgol yn rym sylweddol oran ymchwil fyd-eang yn y maes. Rydym yndenu ysgolheigion ar ymweliad o bob rhano’r byd ac maent yn cyfrannu at y dysgu acat awyrgylch fywiog yr Ysgol.

Mae ymchwil wyddonol yn gyffrous ac yn werth chweil ac mae'n cael effaithfyd-eang

Cyfleusterau Ty Gwydr yngNghanolfan Ymchwil Henfaes

7 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 9: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Mae holl raddau Bangor yn rhai modiwlaidda defnyddir system dau semester lle’rastudir nifer o fodiwlau gorfodol a dewisolgwerth 10, 20 neu 30 credyd yr un. Maeisraddedigion yn astudio modiwlau gwerth120 credyd y flwyddyn. Mae rhai modiwlau’norfodol ar gyfer rhaglenni gradd unigol, trabo eraill yn ddewisol. Mae hyn yn eichgalluogi i gynyddu hyd a lled eichastudiaethau ac arbenigo mewn meysyddneilltuol. Fe gewch fanylion am y modiwlaugorfodol a dewisol ar gyfer pob cwrs ar eingwefan.

Ym Mangor rydym yn defnyddio amrywiaetheang o ddulliau dysgu, yn amrywio oddarlithoedd, gwaith labordy a gwaith maesi seminarau a thiwtorialau ar gyfer grwpiaubychain. Mae seminarau a thiwtorialau’ncanolbwyntio ar ddatrys problemau,datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthudeunydd a ddysgwyd mewn darlithoedd.Mae’r amgylchedd hamddenol ac anffurfiolhefyd yn annog trafodaethau bywiog arfaterion cyfoes a dadleuol. Defnyddiramrywiaeth o ddulliau i asesu cyrsiau, gydarhaniad o 60% gwaith cwrs a 40% arholiad

yn gyffredin. Mae mathau gwaith cwrs ynamrywio, ond maent yn cynnwys traethodauac adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadauposter a llafar, ac adroddiadau labordy.Efallai y bydd angen i chi hefyd luniocynllun rheoli mewn maes pwnc perthnasoli’ch cwrs astudio. Mae’r rhan fwyaf ofodiwlau’n gwneud defnydd helaeth oamgylchedd dysgu rhithwir Blackboard yBrifysgol, sy’n rhoi mynediad uniongyrcholat adnoddau rhyngrwyd, dogfennau cwrs anodiadau darlithoedd. Mae’r Ysgol yn trefnunifer o deithiau astudio maes ym Mhrydaina thramor, yn cynnwys teithiau i Tenerife aBarcelona, yn ogystal â gwneud defnyddcyson o leoliadau yn Eryri.

Cynhelir arholiadau ar ddiwedd pobsemester. Ym mhob un o’n cyrsiau graddmae angen i fyfyrwyr wneud project o bwysyn eu blwyddyn olaf. Mae hwn yn ddarn owaith ymchwil gwreiddiol, mewn maesperthnasol i’ch rhaglen radd, ac fe’igoruchwylir gan aelod staff academaidd.Mae llawer o’n graddau israddedig ar gaelnaill ai fel rhaglenni llawn-amser tairblynedd neu ryng-gyrsiau pedair blynedd.

Sut y caiff ein Cyrsiaueu Dysgu a’u Hasesu

www.bangor.ac.uk/senrgy 8

Page 10: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Gyda’r olaf, treulir cyfnod o hyd at 12 misgyda chyflogwr diwydiannol neu sefydliadllywodraeth neu an-lywodraethol naill aiym Mhrydain neu dramor, a hynny rhwngail a thrydedd flwyddyn y radd. Mae’rlleoliadau hyn yn galluogi myfyrwyr i gaelprofiad ymarferol perthnasol ac maecyflogwyr yn aml yn rhoi pwys ar y rhainpan maent yn recriwtio graddedigionnewydd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd ynmwynhau ac yn elwa ar y seibiant hwn oddiwrth astudio. Rydym yn cymryd rhan lawnmewn cynlluniau cyfnewid ac mae gennymgysylltiadau arbennig o gryf â’r Ffindir,Canada a’r Unol Daleithiau. Mae eingraddau hefyd yn cynnwys cyfleoedd sy’natgyfnerthu profiad proffesiynol acymarferol. Gall myfyrwyr gyda

chymwysterau addas fod yn gymwys iastudio am raddau 4 blynedd estynedig(MEnvSci) mewn Gwyddor yr Amgylchedd aRheoli’r Amgylchedd, (MFor) mewnCoedwigaeth a (MGeog) mewnDaearyddiaeth. Yn y rhain ceir gwybodaethddyfnach am wyddor yr amgylchedd acmaent yn cryfhau'r siawns o gael swyddida.

Mae gennym nifer sylweddol o fodiwlau argael trwy’r Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi ifyfyrwyr cymwys gael bwrsariaethau afwriedir yn benodol i gynyddu nifer ygraddedigion Cymraeg eu hiaith sydd yn ysector amgylcheddol a daearyddiaeth.

9 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 11: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Y cyrsiau a gynigir gennymCYRSIAU TAIR BLYNEDD HEB LEOLIADAU COD UCAS

BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol C180BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth 5DKDBSc Cadwraeth yr Amgylchedd D447BSc Rheoli’r Amgylchedd F854BSc Gwyddor yr Amgylchedd F900BSc Coedwigaeth D500BSc Daearyddiaeth F800BA Daearyddiaeth L700

CYRSIAU 4 BLYNEDD YN CYNNWYS LLEOLIADAU

BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol C183BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth 5DLDBSc Cadwraeth Amgylcheddol D448BSc Coedwigaeth D501

GRADDAU MEISTR (4 BLYNEDD, RHAGLEN ISRADDEDIG ESTYNEDIG)

Rheoli’r Amgylchedd MEnvSci D450Gwyddor yr Amgylchedd MEnvSci F850Coedwigaeth MFor D512Daearyddiaeth MGeog F801

CYRSIAU MEISTR HYFFORDDEDIG

MSc CoedamaethMSc Cadwraeth a Rheoli TirMSc Coedwigaeth AmgylcheddolMBA Rheoli’r AmgylcheddMSc Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes MSc Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd sy'n Newid (dysgu o bell) MSc Coedwigaeth (dysgu o bell)MSc Cadwraeth Planhigion MSc Rheoli Coedwigoedd a Natur yn Gynaliadwy (SUFONMA)MSc Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy (SUTROFOR)MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell)MA/MSc Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy

Mae manylion pellach i’w cael ym Mhrosbectws Ôl-radd Coleg y Gwyddorau Naturiol, argael i’w lawrlwytho yn: www.bangor.ac.uk/cns

“Efallai mai blwyddyn fwyaf defnyddiol a dadlennol fy ngradd fu'r flwyddynar leoliad." Laura Mai Pozzi, graddiodd gyda BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol

"Mae treulio blwyddyn yn y Ffindir fel rhan o'r radd ATME wedi agor fyllygaid i weld graddfa fyd-eang astudio Ecoleg a pha mor bell y gall fyngradd fynd â mi." Nicole Giglia, graddiodd gyda BSc mewn Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol

www.bangor.ac.uk/senrgy 10

Page 12: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

G W Y B O D A E T H

C W R SBSC ECOLEG DAEAR A MÔR CYMHWYSOL

Mae ecolegwyr yn astudio’r cysylltiadau rhwngpethau byw a’u hamgylcheddau. Mae dealltwriaetho’r fath yn hanfodol ar gyfer rheoli ecosystemau iroi’r gwasanaethau a werthfawrogir gangymdeithas, gan wneud ecoleg gymhwysol yn bwnccynyddol bwysig yn y byd cyfoes. Mae’r arbenigeddsydd ar gael ym Mangor ym maes amgylcheddaudaear a môr yn ein galluogi i gynnig y radd unigrywhon. Mae Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol (EDMC)yn rhoi sylfaen drwyadl yng ngwyddor ecoleg, ondgyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ecolegolyn ymarferol at reoli’r amgylchedd a chadwraeth.Rydym yn gwneud defnydd llawn o'n lleoliadeithriadol gydag ymweliadau rheolaidd iwarchodfeydd natur lleol a Pharc CenedlaetholEryri yn rhan allweddol o’r cwrs. Rydym hefyd yntrefnu teithiau ymhellach i ffwrdd, gyda chwrs maesi Tenerife yn y drydedd flwyddyn yn uchafbwyntpoblogaidd. Yn y flwyddyn gyntaf ceir sylfaen mewnecoleg ac esblygiad, yn ogystal â chyflwyno naturryngddisgyblaethol rheoli’r amgylchedd. Yn yr ailflwyddyn byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth oecoleg, gan gymryd cyrsiau hefyd yn egwyddorionrheoli cadwraeth ac yn y sgiliau ymarferol y mae arecolegwyr maes eu hangen. Cynigir amrywiaeth ofodiwlau dewisol hefyd, gan eich galluogi i ddechrauarbenigo. Yn y flwyddyn olaf mae myfyrwyr yncymryd modiwlau mewn ecsbloetio’r môr, ecoleg achadwraeth bywyd gwyllt, gan ddewis yn ogystal oystod o fodiwlau dewisol, yn cynnwys ecolegcoedwigoedd, fertebratau môr, ymddygiadanifeiliaid ac ecosystemau dwr croyw. Mae EDMC ynwahanol i raddau ecoleg bur drwy roi cyfle iastudio’r agweddau economaidd-gymdeithasol arreolaeth ecolegol, yn cynnwys polisi amgylcheddol.Byddwch yn gwneud Project Anrhydedd hefyd, llebyddwch yn gweithio gyda goruchwyliwr i gynllunioa chyflawni ymchwil wreiddiol. Rydym yn cynhyrchugraddedigion a all roi sylw i’r seiliau gwyddonoldros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, aceffaith penderfyniadau polisi a rheoli yn ecolegol.Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio felecolegwyr neu reolwyr amgylcheddol ym Mhrydaina thramor, yn ogystal â mynd i fyd addysg neuymchwil. Caiff y radd hon ei hachredu gan SefydliadGwyddorau’r Amgylchedd (Institution ofEnvironmental Sciences).

BSC CADWRAETH GYDA CHOEDWIGAETH

Coedwigoedd yw’r mwyaf bioamrywiol o’r hollecosystemau tir, ac maent yn cynnwys y mwyafrifhelaeth o rywogaethau tir y byd. Mae mwy na 25%o goedwigoedd y byd yn cael eu rheoli’n bennaf ermwyn gwarchod bioamrywiaeth, ac mae deall sutmae ecosystemau coedwigoedd yn gweithio ynhanfodol os yw ymdrechion cadwraeth coedwigoeddi lwyddo. Mae'r radd Cadwraeth gydaChoedwigaeth yn canolbwyntio ar egwyddorion acymarfer cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd acecosystemau coedwigoedd, a’r ffyrdd y gellir rheolicoedwigoedd i gyflawni amcanion cadwraeth. Dros110 o flynyddoedd yn ôl Bangor oedd y brifysgolgyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd mewncoedwigaeth, a nawr mae gennym arbenigedd eangmewn ecoleg, gwyddor yr amgylchedd, rheolicoedwigoedd a chadwraeth coedwigoedd. Rydymyn agos at amrywiaeth o wahanol ecosystemau amathau o goedwigoedd, a ddefnyddir yn helaethmewn gwaith ymarferol a phroject, ac mae gennymgysylltiadau gyda sefydliadau cadwraeth achoedwigoedd yn y sectorau cyhoeddus a phreifatym Mhrydain a thramor. Gellwch ddewis gwneudblwyddyn allan o Brifysgol Bangor, gan weithio isefydliad cadwraeth neu goedwigaeth, astudiodramor (mewn rhannau eraill o Ewrop neu yngNghanada) neu wneud blwyddyn o brofiadrhyngwladol (unrhyw le yn y byd bron). Gyda gwellymwybyddiaeth o bwysigrwydd byd-eang coed achoedwigoedd, bydd graddedigion wedi'u paratoi'ndda ar gyfer gyrfaoedd o safon ym myd cadwraeth ameysydd cysylltiedig coedwigaeth aml-bwrpas.Mae’r radd hon wedi ei hachredu’n llawn ganSefydliad y Coedwigwyr Siartredig (Institute ofChartered Foresters).

11 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 13: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

BSC CADWRAETH AMGYLCHEDDOL

Wrth i bryderon ynghylch yr amgylchedd gynyddu’ngyson, mae mwy a mwy o angen deall sut y gallwnddiogelu bywyd gwyllt a rheoli ein cefn gwlad yneffeithiol. Mae’r rhaglen radd hon wedi’i hanelu atrai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewncadwraeth bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a chefngwlad. Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen dda yn y wyddor osut mae poblogaethau ac ecosystemau’ngweithredu, gyda modiwlau mewn ecoleg,amaethyddiaeth a choedwigaeth. Ond mae’rpwyslais, yn enwedig wrth i chi symud trwy’rrhaglen, yn fwy ar y materion mwy cymhwysol,rhyngddisgyblaethol sydd ynghlwm wrth warchodyr amgylchedd. Caiff pwysigrwydd ffactoraueconomaidd a chymdeithasol i sicrhau cadwraethlwyddiannus ei ddadansoddi mewn modiwlau,megis egwyddorion cadwraeth a pholisiamgylcheddol. Mae modiwl mewn ecoleg achadwraeth ymarferol yn defnyddio lleoliaddigymar Prifysgol Bangor i ddysgu’r sgiliauymarferol mewn cynnal arolygon ac asesubioamrywiaeth a ddefnyddir gan weithwyrproffesiynol yn y maes. Dysgir rhan o hwn mewncydweithrediad ag Ymddiriedolaeth OrnitholegPrydain. Yn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yngwneud cwrs ar bolisi amgylcheddol - sy'n eu helpui ddeall sut mae penderfyniadau ar reoli'ramgylchedd yn cael eu gwneud. Maent hefyd ynastudio ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt ac maeganddynt amrywiaeth o fodiwlau dewisol, yncynnwys un lle maent yn datblygu cynllun rheoli argyfer gwahanfa ddŵr yng ngogledd Cymru, acmaent yn cael cyfle i fynd ar gwrs maes i Tenerife.Mae myfyrwyr hefyd yn gwneud darn sylweddol oymchwil sy'n berthnasol i'w diddordebau. Maegraddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd ymlaen iweithio gydag chyrff cadwraeth ym Mhrydain athramor, yn ogystal â gwneud astudiaethau acymchwil pellach ym meysydd bioleg cadwraeth arheoli adnoddau. Caiff y radd hon ei hachredu ganSefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd (Institution ofEnvironmental Sciences).

BSC RHEOLI’R AMGYLCHEDD

Mae ymwybyddiaeth gynyddol o ganlyniadaugofynion dynol ar yr amgylchedd wedi tynnu sylw atyr angen am reolwyr amgylcheddol wedi'uhyfforddi'n broffesiynol a all ddatblygu dulliau apholisïau ymarferol. Bydd y radd Rheoli’rAmgylchedd yn rhoi i reolwyr amgylcheddol ydyfodol y cefndir gwyddonol a’r gallu i’w gymhwysoat broblemau amgylcheddol go iawn. Mae Bangormewn sefyllfa hynod dda i gynnig y radd hon ganfod gennym gryfderau yn yr holl feysydd dysgu acymchwil perthnasol, yn cynnwys cymhwysoegwyddorion gwyddonol ac amcanion rheoli atystod o broblemau amgylcheddol megis llygredd,darparu ynni a newid hinsawdd a'r peirianwaith argyfer eu lliniaru, yn cynnwys polisi a deddfwriaeth.Byddwch yn datblygu sgiliau penodol a dysgu amystod eang o faterion amgylcheddol gartref athramor. Byddwch yn gallu dangos eich gallu iweithio’n annibynnol a defnyddio eich gwybodaeth ilunio cynllun rheoli ar gyfer dalgylch cyfagos achwblhau project anrhydedd, sydd i gyd yn sgiliaugwerthfawr yng ngolwg cyflogwyr. Bydd digon ogyfle i ymwneud â darpar gyflogwyr ac edrych arbosibiliadau gyrfa. Gall graddedigion ddisgwyl caelgwaith gyda sefydliadau megis Asiantaeth yrAmgylchedd, DEFRA, awdurdodau lleol acymgynghorwyr amgylcheddol, neu symud i feysydderaill cysylltiedig, e.e. cyfraith amgylcheddol. Maeangen rheolwyr amgylcheddol ar hyn o bryd mewnllawer o feysydd, yn cynnwys y diwydiannauadeiladu, ynni a gwastraff. Bydd eich gradd hefydyn sylfaen ar gyfer cyrsiau ôl-radd pellach neuymchwil mewn ystod o feysydd amgylcheddol. Caiffy radd hon ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’rAmgylchedd (Institution of EnvironmentalSciences).

www.bangor.ac.uk/senrgy 12

Page 14: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

BSC GWYDDOR YR AMGYLCHEDD

Daw’r radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd âgwybodaeth berthnasol o ystod eang o bynciauynghyd i edrych ar rai o’r bygythiadau mwyaf sy’nwynebu’r byd, megis newid hinsawdd, cadwraeth,llygredd a sicrwydd bwyd. Mae problemau o'r fath yngolygu y bydd hyd yn oed fwy o alw am wyddonwyramgylcheddol yn y dyfodol. Mae gan Fangor laweri’w gynnig ym maes Gwyddor yr Amgylchedd. Rydymmewn lleoliad gwych i astudio ystod eang oamgylcheddau a materion yn ymwneud â hwy. Maegennym deithiau maes drwy gydol eich gradd abyddwch yn ymwneud yn sylweddol â’r math osefydliadau allanol y gellwch weithio iddynt rhywddiwrnod. Byddwch yn datblygu sgiliau penodol adysgu am ystod eang o faterion amgylcheddolgartref a thramor; gellwch arbenigo hefyd drwywneud darn o ymchwil wreiddiol ar gyfer eichproject anrhydedd. Byddwch yn ogystal wedimeithrin ystod eang o sgiliau ehangach y maecyflogwyr yn chwilio amdanynt, a datblygu hydermewn cyflwyniadau a chyfweliadau. Gallgraddedigion ddisgwyl cael gwaith gyda sefydliadaudiwydiannol, asiantaethau cynghori, ymgynghorwyramgylcheddol, cwmnïau dwr, Asiantaeth yrAmgylchedd, ac mewn ymchwil a datblygu, yn Ewropac ymhellach. Mae ymchwil ôl-radd bellach ynbosibl, yn ogystal â hyfforddi ar gyfer swyddi ym myddysgu, y cyfryngau ac addysg. Caiff y radd hon eihachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd(Institution of Environmental Sciences).

MEISTR GWYDDOR/RHEOLI YRAMGYLCHEDD (MENVSCI)

Gall myfyrwyr â chymwysterau priodol wneud caisi astudio am radd pedair blynedd Meistr Rheoli'rAmgylchedd neu Gwyddor yr Amgylchedd(MEnvSci). Bydd y cymwysterau hyn ar lefel uwchyn rhoi gwybodaeth eang a dwfn i chi o wyddor yramgylchedd/rheoli'r amgylchedd ac ystod eang osgiliau trosglwyddadwy, gan wella eich siawns ogael gyrfa lewyrchus. Yn ystod y ddwy flyneddgyntaf mae fframwaith y cwrs yr un fath â'ropsiynau BSc; fodd bynnag, yn y drydedd flwyddynbyddwch yn cymryd nifer estynedig o fodiwlau ynhytrach na gwneud project anrhydedd. Maemyfyrwyr yn gwneud project ymchwil mwy yn ybedwaredd flwyddyn, yn ogystal â mynd ar leoliadproffesiynol. Trwy'r lleoliad proffesiynol maemyfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr iawn felrheolwyr neu wyddonwyr amgylcheddol. Hefydceir modiwl Economïau Gwyrdd, lle mae myfyrwyryn defnyddio eu gwybodaeth i ddatblygu cynllunbusnes ymarferol gyda chynaliadwyeddamgylcheddol yn sail iddo. Mae'r modiwlau hyn yngalluogi graddedigion i gymhwyso dulliau rheoli atbroblemau amgylcheddol go iawn. Yn ogystal ârhoi’r cyfleoedd gyrfa y gall y BSc Gwyddor yrAmgylchedd a'r BSc Rheoli'r Amgylchedd arwainatynt, bydd y graddau hyn hefyd yn rhoi iraddedigion y sgiliau angenrheidiol i wneud gwaithymchwil ôl-radd. Mae'r ddwy radd hyn wedi'uhachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd(Institution of Environmental Sciences).

Mesuriadau pridd ar gwrs maes Tenerife

13 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 15: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Rachel Carpenter

Gradd MenvSci Gwyddor yrAmgylchedd

Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Rheolwr dan Hyfforddiant(Cydlynydd Project)

Erbyn hyn mae’n gweithio i: G’s Fresh, Ely, Sir Caergrawnt

Wedi cael fy magu ar dyddyn yng nghefn gwlad, rwyf wedi bod âchywreinrwydd naturiol ynghylch yr amgylchedd erioed, ynghyd âdiddordeb mewn gwyddoniaeth a dyfodd drwy gydol fy nghyfnodyn yr ysgol.

Astudio ym Mangor oedd y dewis perffaith ar gyfer Gwyddor yrAmgylchedd. Gan fod Bangor mor agos i fannau gwych fel Eryri achoedwigoedd a thraethau Ynys Môn cawsom deithiau maesardderchog iawn. Roedd dewis eang o fodiwlau yn y cwrs agallwn ddewis y rhai roedd gennyf wir ddiddordeb ynddynt, acroedd y dysgu bob amser yn wych hefyd. Rwy'n arbennig o falch imi ddewis symud ymlaen i'r cwrs 4 blynedd, oherwydd gellaiswneud lleoliad 8 wythnos fel rhan o'r flwyddyn olaf. Y lleoliad addewisais oedd gwneud ymchwil i gynnyrch ffres yn HarperAdams University College. Fe wnes i ei fwynhau'n fawr achyflwynodd fi i nifer o wahanol fusnesau - fe wnaeth hyd yn oedfy helpu i gael swydd cyn i mi raddio hyd yn oed!

Ers i mi raddio o Fangor, rwyf wedi ymuno â ChynllunHyfforddiant Rheoli dwy flynedd gyda G's Fresh, un o'r cyflenwyrmwyaf o gynnyrch salad a llysiau ffres i farchnadoedd ymMhrydain a'r UE. Rwyf newydd ddechrau'r trydydd o'm pedwarlleoliad 6 mis fel Cydlynydd Project dan y cynllun hwn. Fy nauleoliad blaenorol oedd fel Cynorthwywr Cydymffurfio Technegolac fel Cynorthwywr Gwerthu i'r Tîm Gwerthu Saladau Masnachol.

Er iddo deimlo'n frawychus iawn ar brydiau ac yn dra gwahanol ifywyd prifysgol, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyflwyniadgwych i'r diwydiant cynnyrch ffres a sut mae busnes mor fawr âG's yn cael ei gynnal yn llwyddiannus. Rwy'n sicr heb fy ngradd oFangor a'r cyfleoedd a roddodd i mi na fyddwn wedi cyrraedd llerydwyf ar hyn o bryd. Diolch! www.bangor.ac.uk/senrgy 14

Page 16: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

BSc/MFOR COEDWIGAETH

Rydym wedi bod yn dysgu coedwigaeth am fwy na110 o flynyddoedd ac ni fu erioed amser mwycyffrous i fynd i'r proffesiwn. Bangor oedd y brifysgolgyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd mewncoedwigaeth a hi'n awr yw'r gyntaf i gynnig rhaglenisraddedig estynedig (y radd MFor). Maecoedwigoedd yn ffynhonnell bwysig o adnoddauadnewyddadwy - coed, coed tân a chynhyrchioneraill megis ffyngau, olewau hanfodol ameddyginiaethau. Maent yn nodwedd o dirweddauar draws y byd, gallant liniaru effeithiau newidhinsawdd, gwarchod priddoedd a dwr, rhoi lloches ifywyd gwyllt a rhoi cyfleoedd ar gyfer hamdden.Mae ein graddau'n ymdrin â'r holl agweddau hyn argoedwigaeth a byddant yn eich paratoi ar gyfer herrheoli coedwigoedd ar adeg o newid amgylcheddolbyd-eang. Gellwch ddewis gwneud blwyddyn allan oBrifysgol Bangor, gan weithio i sefydliadcoedwigaeth gyda gweithwyr proffesiynol profiadolyn y maes, astudio dramor (mewn rhannau eraill oEwrop neu yng Nghanada) neu wneud blwyddyn obrofiad rhyngwladol (unrhyw le yn y byd bron). Maeein modiwlau'n cynnwys ymweliadau rheolaidd âchoedwigoedd, coedlannau a chwmnïau lleol sy'ndefnyddio coed, a cheir teithiau astudio bobblwyddyn: i Eryri yn y flwyddyn gyntaf, i Loegr a'rAlban yn yr ail flwyddyn ac i Tenerife yn y drydeddflwyddyn. Mae cynllun rheoli coedwig i goedwig leolyn rhan bwysig o'r asesu yn y drydedd flwyddyn.Mae gennym gysylltiadau agos â llawer osefydliadau coedwigaeth, yn cynnwys y ComisiwnCoedwigaeth, Adnoddau Naturiol Cymru, cwmnïaupreifat sy'n rheoli coedwigoedd, sefydliadaucoedwigaeth nad ydynt yn perthyn i’r llywodraeth adiwydiannau sy’n defnyddio coed. Mae parch helaethi radd mewn coedwigaeth o Fangor ac mae ganraddedigion da ragolygon gwaith rhagorol. Gallantddisgwyl cyflog uwch na’r cyfartaledd a rhagolygondatblygiad gyrfa da o fewn ychydig flynyddoedd ar ôlgraddio. Mae’r radd hon wedi ei hachredu ganSefydliad y Coedwigwyr Siartredig (Institute ofChartered Foresters).

BA/BSC/MGEOG DAEARYDDIAETH

Mae Daearyddiaeth yn bwnc deinamig a chyffrous,sy’n edrych ar y prosesau sy’n ffurfio’r Ddaear a’rberthynas rhwng y ddynoliaeth a’r amgylchedd. YmMangor rydym yn cynnig graddau Anrhydedd BA aBSc mewn Daearyddiaeth a gradd MGeog pedairblynedd ar lefel meistr. Trwy’r holl raddau hyn maemyfyrwyr yn datblygu gwybodaeth o’r pwnc asgiliau trosglwyddadwy ar draws ffiniau pynciautraddodiadol. Mae'r graddau BA, BSc a MGeog yncanolbwyntio ar lawer o brosesau ffisegol,cymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy'nsiapio'r tirwedd a chymdeithas. Byddwch yn edrychhefyd ar y berthynas ddeinamig sydd rhwng pobl a'ramgylchedd. Mae Daearyddiaeth yn ganolog i lawero faterion mawr byd-eang, sy’n golygu y bydd y galwam ddaearyddwyr yn dal i gynyddu. Mae’rgraddau'n rhai modiwlaidd ac fe’u dysgir ganarbenigwyr sy’n ymwneud â’r ymchwil ddiweddarafmewn ystod eang o feysydd daearyddol. Maemyfyrwyr Daearyddiaeth ym Mangor yn manteisio ofyw ac astudio mewn ardal o harddwch naturioleithriadol. Mae teithiau maes ym MharcCenedlaethol Eryri yn galluogi myfyrwyr i archwilioprosesau cymdeithasol a ffisegol allweddol. Hefydmae myfyrwyr yn elwa ar raglen eang o gyrsiaumaes ym Mhrydain a thramor, sy’n cyfnerthu dysguyn y dosbarth a dysgu ymarferol. Mae galw mawram raddedigion Daearyddiaeth o ganlyniad i’rsgiliau a’r wybodaeth bwnc y maent yn eu datblyguyn ystod eu hastudiaethau. Gall graddedigionddisgwyl cael gwaith mewn ystod eang o sectorau.Mae graddau Daearyddiaeth hefyd yn rhoi sylfaenar gyfer astudiaeth ôl-radd bellach, ymchwil neuwneud cymhwyster athro. Gall myfyrwyrDaearyddiaeth gryfhau eu siawns o gael swyddi osafon drwy gofrestru ar gyfer CymhwysterCyflogadwyedd Bangor (gweler tudalen 18 amfanylion pellach). Caiff y radd BSC Daearyddiaeth eihachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd(Institution of Environmental Sciences).

15 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 17: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Gwybodaeth amy Brifysgol

YN YR 20UCHAF YN Y

DU AMBROFIAD

MYFYRWYR

Mae maint cryno’r ddinas yn golygu bodcyfleusterau myfyrwyr – yn cynnwysneuaddau preswyl, y Ganolfan Chwaraeonac Undeb y Myfyrwyr – o fewn pelltercerdded rhwydd o adeiladau’r Brifysgol.Mae siopau’r stryd fawr, banciau,archfarchnadoedd, bwytai, tafarndai, atheatr yn y cyffiniau hefyd fel nad oes fawrgostau teithio. Mae costau byw yn is na’rrhan fwyaf o ardaloedd dinesig, fellygellwch wneud yn fawr o’ch arian, a hynnymewn amgylchedd pleserus iawn i fyw acastudio ynddo. Mae’n werth cofio hefyd bodBangor yn cael ei ystyried yn lle cymharolddiogel i astudio (mae’r raddfa droseddu argyfer gogledd Cymru yn un o’r isaf yn ywlad). Mae’r cymysgedd o fyfyrwyr a ddawyma o bob rhan o’r byd yn golygu bodBangor bob amser yn ddinas fywiog, liwgara diddorol. Mae Bangor yn bendant ynddinas prifysgol – mae’r rhan fwyaf o’radloniant a’r bywyd nos wedi eu cyfeirio atfyfyrwyr a’u harwain ganddynt, ac mae ynarywbeth yn mynd ymlaen bob amser. Ynogystal â’r adloniant, mae Undeb yMyfyrwyr hefyd yn trefnu amrywiaeth fawro glybiau a chymdeithasau, gan ymdrin agamrywiaeth eang o ddiddordebau

cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol,gwleidyddol a chwaraeon. Tra bo Bangor eihun yn gryno ac yn gyfleus, mae’r ardal oamgylch yn cynnig digon o fannau eangagored. Mae mynyddoedd ac arfordir Eryriyn ardal o harddwch naturiol eithriadol,sy’n cynnig cyfleoedd hamdden rhagorol ichi, boed gennych ddiddordeb mewngweithgareddau awyr agored neu eisiaumwynhau’r olygfa yn unig. I’r rhai sy’n frwddros chwaraeon, mae dringo, hwylio,rhwyfo, canwio, syrffio a deifio ymhlith ygweithgareddau awyr agored sydd ar gael.Mae gan y Brifysgol ddewis da ochwaraeon dan do hefyd yng NghanolfanBrailsford, sydd wedi cael ei hadnewyddu'nsylweddol yn ddiweddar.

"Bydd Canolfan Celfyddydau Perfformio acArloesi Prifysgol Bangor, gwerth £45m, ynagor yn 2015. Mae'n gartref i’r cyfleusterau addysgu adysgu diweddaraf, theatr gyda rhwng 450 a550 o seddau, sinema, theatr fach, ynogystal â chyfleusterau cymdeithasol, yncynnwys bariau, llefydd bwyta a pharc."

www.bangor.ac.uk/senrgy 16

Page 18: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Rachel Ward

Gradd BA DaearyddiaethTAR (Cantab)

Erbyn hyn mae’n gweithio fel:Athrawes Ddaearyddiaeth Uwchradd Erbyn hyn mae’n gweithio i:Cyngor Sir Caergrawnt

Ar ôl graddio o Fangor gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewndaearyddiaeth fe wnes i Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ymMhrifysgol Caergrawnt. Rwyf wedi cael swydd ger Caergrawnt yndysgu daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd.

Fe wnaeth fy nghyfnod ym Mangor roi i mi'r sgiliau a'r hyder isymud ymlaen gyda'r yrfa o'm dewis. Taniodd y modiwlau addewisais ym Mangor fy niddordeb mawr mewn daearyddiaeth a'rawyr agored. Yn arbennig, mwynheais y modiwl DaearyddiaethAwyr Agored a'm lleoliad proffesiynol, yn ogystal â GwobrCyflogadwyedd Bangor. Fe wnaeth y cymysgedd o ddarlithoedd agwaith maes fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau'n arwain grwpiau ynyr awyr agored.

Ni allai lleoliad y brifysgol fod wedi bod yn well; mynyddoedd,traethau a choedwigoedd. Mae hwn yn lle perffaith i astudiodaearyddiaeth a'r awyr agored. Yn fy ngyrfa ddysgu rwy'n bwriaducwblhau fy ngradd Meistr mewn Addysg yng Nghaergrawnt, ganbarhau i fwynhau daearyddiaeth a dysgu.

© James Lowen

17 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 19: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol sydd ohoni y dyddiau hyn, mae’n bwysig eich bodyn manteisio’n llawn ar y gweithgareddau academaidd, hamdden a chysylltiedig â gwaithsydd ar gael i chi fel myfyriwr.P’un a ydych yn gwybod pa lwybr gyrfa rydych eisiau ei ddilyn ai peidio, mae’r GwasanaethGyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i helpu myfyrwyr a graddedigion drwy ddarparu ystodeang o wasanaethau cyfarwyddyd gyrfa a chefnogaeth cyflogaeth, yn cynnwys:

• cyfweliadau gyrfaol unigol a chyfrinachol, a sesiynau galw heibio• haglen trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys datblygiad personol, chwilio am swyddi, a

gweithdai a sesiynau hyfforddi sy’n gysylltiedig â chyflogwyr• gwybodaeth gynhwysfawr a phriodol am yrfaoedd drwy ein Canolfan Wybodaeth a’n

Gwefan• Biwrô Cyflogaeth Myfyrwyr (Job Zone), sy’n rhoi cyfleoedd am swyddi rhan-amser,

swyddi gwyliau, a swyddi i raddedigion• dewis eang o gyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol, yn cynnwys Arwain Cyfoedion a

Mentora gan Fyfyrwyr• lleoliadau profiad gwaith cyflogedig i israddedigion a graddedigion• y cyfle i ddatblygu sgiliau menter a dod yn fwy ymwybodol o hunan-gyflogaeth trwy ein

rhaglen Byddwch Fentrus (B-Enterprising)

Cynlluniwyd Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (BEA) i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyrPrifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r cynllun yn gweithredu mewncydweithrediad rhwng y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Undeb y MyfyrwyrBangor a sefydliadau yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n cynnig achrediadar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac all-gwricwlaidd (e.e. gwirfoddoli, clybiau achymdeithasau, profiadau gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd etc.). Efallainad yw'r rhain yn cael eu cydnabod yn ffurfiol yn eich rhaglen gradd academaidd, ondmaent yn werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion.

Llety

Gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

www.bangor.ac.uk/senrgy 18

Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf sicrheir lle ichi yn un o’r Neuaddau Preswyl a reolirgan y Brifysgol. Ceir llety en-suite yn yrhan fwyaf o neuaddau sy’n rhoi mwy obreifatrwydd. Yn ddiweddar gwariwyddros £35m yn ailddatblygu’r campws, yncynnwys gwaith sylweddol yn gwella lletyi fyfyrwyr. Wrth gwrs, mae yna ddewishelaeth o lety preifat hefyd i’w gael ym

Mangor a'r cyffiniau, os yw’n well gennychhynny, a gall y Swyddfa Tai Myfyrwyr eichhelpu i gael y llety rydych ei eisiau. Unfantais fawr yw na fyddwch angen car neugludiant cyhoeddus; gellir cerdded ynhwylus i bob man o’r neuaddau preswyl.Dim ond 10 munud mae'n ei gymryd igerdded o’r prif safle llety i brifadeiladau’r Brifysgol.

Page 20: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

GOFYNION MYNEDIAD, SUT I WNEUD CAISA DYDDIAU AGOREDGOFYNION MYNEDIADYma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr gydagystod eang o gymwysterau a chefndiroedd, acrydym yn ystyried pob cais yn unigol. Yn unol âpholisi’r Brifysgol, rydym yn ystyried ceisiadaugan ddarpar-fyfyrwyr sydd ag anabledd ar yr unseiliau â’r holl fyfyrwyr eraill. Rydym hefyd ynystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyn a all ddangosbod ganddynt yr ysgogiad a'r ymroddiad i astudiorhaglen mewn prifysgol. I astudio ar gwrs gradd,diploma neu dystysgrif gofynnir am nifer benodolo bwyntiau tariff UCAS gennych. Fel rheol, gellirdefnyddio unrhyw bynciau TAG lefel-A neu AS,VCEau a Sgiliau Allweddol i gyfrif cyfanswm eichpwyntiau. Fe gewch fanylion mwy penodol arofynion mynediad ar y tudalennau am gyrsiauunigol ar ein gwefan yn:www.bangor.ac.uk/senrgy

DYDDIAU AGOREDMae’r Ysgol yn cynnal nifer o Ddyddiau Agoredgydol y flwyddyn i roi gwell syniad i chi beth i’wddisgwyl os penderfynwch ddod i astudio gyda ni.Bydd ein staff a’n myfyrwyr presennol wrth law iateb eich cwestiynau a rhoi gwybodaeth fanwl ichi am y cwrs o’ch diddordeb. Gellwch gael golwgar y ddinas hefyd ac fe awn â chi ar daith i weld yneuaddau preswyl er mwyn i chi blas ar fywydmyfyriwr ym Mangor. I gael mwy o wybodaeth ac iarchebu lle, ewch i’n gwefan.

SUT I WNEUD CAISRhaid i fyfyrwyr o’r DU a’r UE wneud cais drwyUCAS a dylid ymgeisio mor fuan â phosibl, gannodi cod y cwrs (gweler tudalen 10). Gallmyfyrwyr rhyngwladol wneud cais ynuniongyrchol atom drwy ddilyn y drefn ar wefan yGanolfan Addysg Ryngwladolwww.bangor.ac.uk/international

FFIOEDD DYSGU, YSGOLORIAETHAU ABWRSARIAETHAUFFIOEDD DYSGU Gall ffioedd dysgu newid a gellir cael hyd i wybodaeth gyfredol yn: www.bangor.ac.uk/fees

YSGOLORIAETHAU Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. Mae'rrhain yn cynnwys yr Ysgoloriaethau Rhagoriaeth (gwerth hyd at £5,000 yr un), YsgoloriaethauTeilyngdod (i rai sy'n rhagori mewn arholiad mynediad, gwerth hyd at £3,000), YsgoloriaethauChwaraeon (ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio unrhyw bwnc academaidd, gwerth hyd at £2,000 yr un)ac Ysgoloriaethau'r Rhaglen Dawn a Chyfle (sy'n anelu at ehangu cyfranogiad ar draws GogleddCymru).

Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i gefnogi myfyrwyr o deuluoedd sydd ar incwm is, yn ogystal ârhai sy’n mynd i Addysg Uwch o ofal.

Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio mwy na 40 credyd yflwyddyn drwy'r Gymraeg. Yn ogystal a hyn mae sawl un o'n graddau isradd yn gymwys ar gyferbwrsariaethau cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £500 y flwyddyn.

Gellir gweld mwy o fanylion ar ein gwefan am yr Ysgoloriaethau a’r Bwrsariaethau sydd ar gaelar hyn o bryd .

19 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 21: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Carys Ford

BSc Daearyddiaeth

Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Swyddog Asedau Technegol Erbyn hyn mae’n gweithio i: Cyngor Dinas Bryste

Cyn gynted ag y deuthum i Brifysgol Bangor ar ddiwrnod agored,syrthiais mewn cariad â'r ddinas a'r ardal gyfagos. Roeddagosrwydd y brifysgol i Barc Cenedlaethol Eryri yn sicr yn un o'rrhesymau pam roeddwn eisiau dod i'r brifysgol. Fe wnaeth ydewis o glybiau a chymdeithasau a oedd ar gael drwy Undeb yMyfyrwyr brofi'n bendant i mi mai hon oedd y brifysgol roeddwneisiau dod iddi.

Yn ystod fy nhair blynedd fel myfyriwr roedd amrywiaeth eang othemâu y gellid eu hastudio ar y cwrs. Roedd digon o opsiynau argael yn dibynnu pa lwybr roeddwn eisiau ei ddilyn. Yn sicr, roedd ycwrs yn manteisio i'r eithaf ar y ffaith bod Parc Cenedlaethol Eryrimor agos gyda nifer o deithiau lleol yn cael eu trefnu bob blwyddyngyda gwahanol fodiwlau. Roedd y teithiau maes a gynigid i gyd ynberthnasol iawn i'r cwrs a dysgais lawer oddi wrthynt. Fe wnaethfy sgiliau maes wella'n eithriadol ac roedd yn gyfle gwych hefyd iddod i adnabod fy nghyd-fyfyrwyr.

Ar ôl gorffen fy ngradd gyntaf, euthum ymlaen i astudio am MScmewn Rheoli Argyfyngau ar gyfer Peryglon Amgylcheddol ymMhrifysgol De Cymru. Penderfynais wneud y cwrs hwn oherwydd imi fwynhau cymaint ar y modiwl Geoberyglon ym mlwyddyn 2 ymMangor. Roedd fy mhrofiad ym Mangor yn un cadarnhaol iawn acyn sicr taniodd fy mrwdfrydedd i symud ymlaen ymhellach gyda fyaddysg. Bu'r sgiliau a ddatblygais, o ran gwaith ysgrifenedig agwaith maes, o fudd mawr i mi wrth i wneud yr MSc. Ar hyn o brydrwy'n gweithio i Gyngor Dinas Bryste yn mapio eu hasedau ganddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

www.bangor.ac.uk/senrgy 20

Page 22: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Francesca McGrathGradd BSc CadwraethAmgylcheddol

Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Ymgeisydd PhD

Erbyn hyn mae’n gweithio i:Prifysgol Genedlaethol Singapore

Graddiais gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor arôl cwblhau BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol. Rhoddodd y cwrsi mi'r sgiliau craidd sydd eu hangen i wneud ymchwil sy'ndylanwadu ar brojectau cadwraeth ymarferol. Cyfnerthwyd hynhefyd gan wybodaeth mewn meysydd cysylltiedig megis polisiamgylcheddol, gwyddor pridd a choedwigaeth. Ar gyfer fynhraethawd hir BSc edrychais ar CITES yn yr Emiradau ArabaiddUnedig ac a fu gweithredu'r confensiwn hwn yn effeithiol ai peidio.Bûm yn ffodus hefyd i gael y wobr Cyrhaeddiad Academaidd panraddiais.

Wedi gorffen fy BSc penderfynais wneud gradd MSc mewnAmgylchedd a Datblygu yn y London School of Economics andPolitical Science. Roedd y cwrs hwn yn canolbwyntio'n bennaf arddatblygu cynaliadwy a rheolaeth/polisïau amgylcheddol. Yn ystodfy MSc cefais fy hun yn parhau i fod â diddordeb mewn ymchwilio iddulliau cadwraeth ymarferol sy'n cymryd i ystyriaeth systembresennol y farchnad a deinameg gymdeithasol.

Ar hyn o bryd rwy'n gwneud gradd PhD ym MhrifysgolGenedlaethol Singapore ar ôl derbyn Ysgoloriaeth RyngwladolSingapore i Raddedigion (SINGA). Mae fy ymchwil yn canolbwyntioar gynlluniau Taliadau am Wasanaeth Ecosystem (PES) a'ugweithredu yn Ne ddwyrain Asia. Mae gennyf ddiddordeb ynbenodol yn nhegwch y cynlluniau hyn a'u potensial i gynnalymdrechion cadwraeth.

Rwy'n credu bod fy llwyddiant hyd yma wedi deillio o fy BSc ymMangor. Mae'r darlithwyr yn SENRGY wedi bod yn rhai o'rathrawon mwyaf dymunol rwyf wedi eu cael hyd yma. Roeddwn ynffodus hefyd i gael goruchwyliwr gwych, Dr Julia Jones, sydd wedify helpu ar hyd y llwybr hwn. Byddwn yn argymell SENRGY, a'mcwrs yn arbennig, i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfaacademaidd ym maes cadwraeth.

21 www.bangor.ac.uk/senrgy

Page 23: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

• Gan Fangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoedmwyaf ymysg prifysgolion Prydain. O’r funud y byddwch yncyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth âphosibl, gyda materion iechyd a lles, yn ogystal â rhaiacademaidd. Mae’n gynllun sy’n cael ei gynnal ganfyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, felly maen nhw’n gwybod ynunion beth ydi bod yn yr un sefyllfa â chi.

• Mae Bangor mewn safle delfrydol a chyda phob math ogyfleusterau i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn chwaraeon- yn arbennig rhai awyr agored. Yn Eryri ceir cyfleoeddgwych i ddringo a cherdded mynyddoedd, a digonedd ochwaraeon dwr, yn cynnwys canwïo, caiacio, syrffio,hwylio a chaiacio môr.

• Ym Mangor ceir un o brif grynodiadau Gwyddorau’rAmgylchedd yn Ewrop, gyda chanolfannau gan sefydliadaucenedlaethol a rhyngwladol yn y cyffiniau.

'Mae'r Rhaglen Profiad Rhyngwladol yn rhoi dewisi fyfyrwyr astudio dramor am un flwyddynychwanegol mewn amrywiaeth eang o wahanolfannau. Mae hyn hefyd yn cryfhau eu CV ac ynrhoi'r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr mae llawer ogyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn.’

Oeddech chi’n gwybod...

INTERNATIONALEXPERIENCE

www.bangor.ac.uk/senrgy 22

Page 24: Prospectws Israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

GWYBODAETH GYSYLLTU

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn:

www.bangor.ac.uk/senrgy

neu cysylltwch â’r Cydlynydd Derbyniadau yn:

YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAUNATURIOL A DAEARYDDIAETHPRIFYSGOL BANGOR BANGORGWYNEDDLL57 2UW

Ffôn: +44 (0) 1248 382281E-bost: [email protected]

\BangorUniversity.SENRGY

@BUGeography@ConservResearch@BangorForestry@bangorfoodsecurity

Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol isicrhau bod y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn yn gywiradeg ei argraffu (Rhagfyr 2014).