pux d /orhju *25&+
TRANSCRIPT
not_l001\5321993\2 1
GWEINIDOGION CYMRU 2019
Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992
Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006
GORCHYMYN PARTH ARDDANGOS MORLAIS
_______________________________________
Memorandwm Esboniadol _______________________________________
Rheol 10 (2) (b)
2
1. Mae'r memorandwm hwn yn egluro pwrpas ac effaith y Gorchymyn drafft fel sy'n ofynnol
yn ôlRheol 10 (2) (b) Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a
Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 20061.
2. Gwneir cais am y Gorchymyn dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (“y Gorchymyn”)
gan Menter Môn Morlais Cyfyngedig (“MM”)], fydd yn cynnwys yr ymgymerwr at ddibenion
y Gorchymyn. Gyda’r Gorchymyn byddai modd adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw,
ailbweru a datgomisiynu gorsaf gynhyrchu newydd yn y môr gyda chynhwysedd allbwn
gros o hyd at 240 megawat yn cynnwys dyfeisiau ynni llanw a seilwaith cysylltiedig yn y
môr ynghyd â cheblau ar y tir a chysylltiad â'r rhwydwaith trydan presennol (“y Prosiect”).
3. Mae'r Prosiect yn cynnwys gosod a gweithredu nifer o araeau o ddyfeisiau ynni llanw ar
raddfa fasnachol mewn ardal arae morol o 35km² oddi ar Ynys Cybi, Ynys Môn. Bydd pŵer
a gynhyrchir gan ddyfeisiau ynni'r llanw yn cael ei gasglu mewn hybiau a'i allforio trwy
geblau allforio fydd yn tirio yn yr ardal a elwir yn Bae’r Henborth. Bydd gwaith ar y tir yn
cynnwys is-orsaf ar y lan, adeilad offer switsio ym Mharc Cybi a cheblau i gysylltu â'r grid
ac yna allforio trydan iddo yn y cyswllt presennol ym Mharc Eco Ortheos i'r gorllewin o
Gaergybi.
4. Pwrpas y Prosiect yw caniatáu i weithredwyr masnachol osod ac arddangos eu technolegau
ar raddfa fasnachol. Fel y cyfryw, bydd angen caniatáu i weithredwr symud ei ddyfeisiau ac
i dechnolegau newydd gael eu gosod yn yr un lleoliad neu mewn lleoliadau gwahanol. Er
mwyn hwyluso gwaith symud a gosod y dyfeisiau llanw, ceir hyblygrwydd ar gyfer yr
‘ailbweru’ yn y Gorchymyn drafft ond mae’n ddarostyngedig i derfynau morol y Gorchymyn
a pharamedrau’r prosiect fel y’u haseswyd drwy’r Datganiad Amgylcheddol sy’n gysylltiedig
â’r cais.
5. Ni ddaw’r Prosiect dan ddiffiniad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn unol â
Deddf Gynllunio 2008 oherwydd, ers 1 Ebrill 2019, tynnwyd o Ddeddf Gynllunio 2008 y
pŵer i ganiatáu gorsafoedd cynhyrchu trydan ar y tir ac yn y môr yng Nghymru dan 350MW
a’i ddatganoli i Weinidogion Cymru. At hynny, nid yw cynllun Cymru ar gyfer caniatáu’r
datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn berthnasol i’r môr.
6. Bydd y gwaith i adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r orsaf gynhyrchu arfaethedig yn
ymyrryd â hawliau mordwyo mewn dyfroedd o fewn Cymru a gerllawhyd at derfynau i
gyfeiriad y môr tiriogaethol. Mae adran 3 (1) (b) Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 yn
grymuso Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn ymwneud â chyflawni gwaith o'r fath
os yw o ddisgrifiad a ragnodir trwy orchymyn. Mae’r Prosiect yn cynnwys adeiladu
gosodiadiadau a strwythurau cyfleustodau allan yn y môr fel y rhagnodir gan Orchymyn
1 O.S. 2006/1466.
3
Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Disgrifiad o'r Gweithfeydd sy'n Ymyrryd â Hawliau Mordwyo)
1992.
7. Mae adran 5 y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd hefyd yn caniatáu i Orchymyn Deddf
Trafnidiaeth a Gweithfeydd (TWAO) ddefnyddio, addasu neu eithrio unrhyw ddarpariaeth
statudol sy'n ymwneud ag unrhyw fater lle gellid gwneud gorchymyn dan adrannau 1 neu
3. Yn hynny o beth, bydd cydsynio i’r cynigion trwy TWAO hefyd yn fodd i gymhwyso Deddf
Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 fel bod modd gwneud gwaith mewn 'strydoedd' fel y'i
diffinnir yn y Ddeddf honno, ac i gau a dargyfeirio strydoedd er mwyn i'r gwaith hwn gael
ei wneud. Gall TWAO hefyd roi pwerau ar gyfer caffaeliad gorfodol ac ymyrryd â hawliau
preifat sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu, adeiladu a chynnal a chadw’r cynigion.
Ceisia’r cais am y Gorchymyn ganiatâd am bwerau o’r fath.
8. Gallai cais am Orchymyn dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 hefyd fod yn
gysylltiedig â chais am ganiatâd cynllunio tybiedig sy'n angenrheidiol ar gyfer elfennau ar
y tir y Prosiect. Mae cais o’r fath yn gysylltiedig â’r cais am y Gorchymyn hwn.
9. Er y bydd yn dal yn ofynnol gwneud cais ar wahân am drwydded forol, mae'r Ddeddf
Trafnidiaeth a Gweithfeydd, fel arall, yn darparu un mecanwaith ar gyfer cydsynio i'r
Prosiect wrth hefyd ganiatáu i'r graddau o hyblygrwydd sy'n ofynnol yn ôl natur y Prosiect
fel parth arddangos. Felly, mae'r drefn gydsynio hon yn cyflwyno manteision sylweddol dros
fecanwaith amgen cais am ganiatâd dan Ddeddf Trydan 1989 nad oes ganddi ar hyn o bryd
broses statudol ddiffiniedig yng Nghymru. Byddai angen dilyn trefn ar wahân gyda’r
mecanwaith hwn er mwyn caniatáu prynu tir yn orfodol. Byddai’n rhaid prynu tir yn orfodol
i gyflawni’r Prosiect gan nad yw’r pwerau hynny dan Ddeddf Trydan 1989 wedi’u datganoli
i Weinidogion Cymru.
10. Mae'r Gorchymyn yn seiliedig ar y cymalau enghreifftiol a ragnodwyd yn unol ag adran 8
Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, ond gan fod y rhain yn ymwneud yn bennaf â
phrosiectau rheilffyrdd a thramiau llinellol ar y tir, mae'r Gorchymyn yn tynnu oddi ar y
drafftio a ddefnyddiwyd mewn gorchmynion blaenorol ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu yn y
môr a wnaed dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd a gorchmynion caniatâd datblygu a
wnaed mewn perthynas â gorsafoedd cynhyrchu yn y môr yn unol â Deddf Cynllunio 2008.
Mae hefyd yn cynnwys pŵer i weithredu’r Prosiect ar ôl y gwaith adeiladu.
11. Mae tir sy'n destun y Gorchymyn drafft yn cynnwys y tir sy'n ofynnol i gyflawni'r orsaf
gynhyrchu trydan ar y tir ac ar y môr. Mae’r Goron wedi rhoi budd prydlesu yn y man y
caiff y technolegau eu defnyddio yn y môr (yng Ngwaith Rhif 1) ac mae gan MM hawl
gysylltiedig i osod ceblau o’r man hwn i’r man y byddant yn tirio. Ar y tir, lle bynnag y
bo’n bosib, y bwriad yw lleoli’r ceblau allforio yn y briffordd fabwysiedig. Mae'r Gorchymyn
yn ceisio pwerau prynu gorfodol i gaffael nifer gyfyngedig o fuddiannau tir mewn
perchnogaeth trydydd parti ar gyfer cyflawni'r gwaith ar y tir a pharhau i’w weithredu a’i
gynnal a’i gadw, a phwerau meddiant dros dro fel bod modd i’r gwaith gael ei wneud.
4
12. Mae disgrifiad manylach o'r cynnig wedi'i nodi ym Mhennod 4 y Datganiad Amgylcheddol a
cheir y cefndir i'r cynigion yn y Datganiad o Nodau sy'n gysylltiedig â'r cais am y Gorchymyn.
13. Mae cais am gyfarwyddyd am ganiatâd cynllunio tybiedig yn unol ag adran 90 (2A) Deddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn perthynas â'r gwaith ar y tir yn gysylltiedig â'r cais am
y Gorchymyn. Mae cais am drwydded forol dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir
2009 wedi'i gyflwyno i Gorff Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdod trwyddedu priodol ar
gyfer y gweithfeydd yn y môr.
[Yr Ymgymerwr]
14. Mae MM yn arf at ddibenion arbennig wedi’i sefydlu gan Menter Môn Cyf (MMC) i
gyflawni’r Prosiect. Menter gymdeithasol a sefydlwyd er 1995 yw MMC i weithio gyda
chymunedau a'r llywodraeth i ddarparu atebion arloesol ar ran y cyrff hynny. Mae'n
gwmni nid er elw a'i nod yw sicrhau'r buddion mwyaf posib i'r cymunedau y mae'n
gweithio ynddynt. Yn hynny o beth, mae'n cynnig cyflwyno’r Prosiect i hyrwyddo gwaith
cynhyrchu ynni adnewyddadwy i Gymru gan greu swyddi i bobl leol a chefnogi datblygiad
a thwf economaidd ardal Ynys Môn ymhellach.
15. Bydd MMC yn sicrhau caniatâd i’r cynigion ac yn adeiladu ac yn cynnal a chadw’r ceblau
allforio trydan a’r gweithfeydd ar y tir er mwyn darparu seilwaith cyffredin ar gyfer
cysylltu dyfeisiau ynni llanw a osodir yn y môr i gysylltu ynni â'r rhwydwaith trydan a’i
allforio iddo. Y bwriad yw rhoi prydlesi o rannau o'r ardal arae yn y môr i weithredwyr
technoleg ynni morol fel bod modd iddynt osod ac arddangos dyfeisiau ynni llanw a
hybiau casglu cysylltiedig ar raddfa fasnachol ar y môr (Gwaith Rhif 1). Bydd ceblau
allforio’n cysylltu â'r seilwaith tirio (Gwaith Rhif 2) ar draws yr ardal rynglanwol ac i’r
gweithfeydd ar y tir (Gwaith Rhif 3-9) a’r gweithiau pellach y manylir arnynt ym Mhennod
2 Rhan 2 o Atodlen 1). Pan ddaw pob prydles o'r fath o ran o’r parth arddangos i ben
bydd y gweithredwr yn symud ei seilwaith a gellid rhoi prydles newydd dros yr un rhan
neu ran arall o'r ardal yn y môr ar gyfer defnyddio technoleg ynni morol amgen
(ailbweru).
16. Mae MMC yn sicrhau cyllid ar gyfer y cynigion gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a
ffynonellau eraill.
RHAN 1
RHAGARWEINIOL
17. Mae Erthygl 1 (Enwi a chychwyn) yn darparu ar gyfer enwi a chychwyn y Gorchymyn.
5
18. Mae Erthygl 2 (Dehongli) yn cynnwys darpariaethau ar gyfer dehongli geiriau ac
ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn. O bwys arbennig yw diffiniadau ‘cynnal a
chadw’ ac ‘ailbweru’
18.1 Mae diffiniad cynnal a chadw yn cynnwys cynnal a chadw'r holl weithfeydd sy'n destun y
Gorchymyn ond hefyd unrhyw rannau ohonynt. Mewn perthynas â rhannau cyfansoddol,
mae'r term yn cynnwys adnewyddu, symud ac amnewid.
18.2 Mae diffiniad ailbweru yn cynnwys amnewid gwaith llanw yn dilyn symud yr hen seilwaith.
Gellid amnewid gwaith a’i osod yn yr un lleoliad neu mewn lleoliad gwahanol a gallai
olygu'r un math o ddyfais llanw neu fath gwahanol. Mae ailbweru wedi’i ystyried yn y
Datganiad Amgylcheddol sy’n nodi paramedrau’r prosiect sy’n berthnasol i weithgareddau
ailbweru. Mae hyn yn angenrheidiol i ddarparu ar gyfer gwahanol weithredwyr y gallai bod
angen ardaloedd arae o wahanol feintiau arnynt i osod a dangos eu technolegau.
RHAN 2
DARPARIAETHAU GWAITH
19 Mae Erthygl 3 (Pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisynu’r gweithfeydd) yn
awdurdodi gwaith adeiladu, cynnal a chadw a datgomisynu'r gweithfeydd arfaethedig ar y tir
ac adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanw sy'n cynnwys yr
orsaf gynhyrchu yn y môr. Disgrifir y gweithfeydd yn Atodlen 1 y Gorchymyn ac fe'u dangosir
ar y cynlluniau a'r adrannau mewn cysylltiad â'r cais ac sydd ar gael i’w gweld. Mae erthygl
3 (3) yn darparu pŵer penodol i ailbweru'r gweithfeydd llanw neu unrhyw rannau ohonynt o
fewn terfynau’r Gorchymyn yn y môr. Mae erthyglau 3 (4) (5) a (7) yn sicrhau y bydd gwaith
adeiladu a chynnal a chadw ac ailbweru’r gweithfeydd llanw'n cael ei wneud o fewn
paramedrau’r prosiect sydd wedi’u hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r
cais, ac yn unol â’r manylion a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru cyn i weithgareddau
penodol gael eu cynnal, fel y'u nodir yn Rhan 4 o Atodlen 1. Mae hyn yn sicrhau y rhoddir
camau lliniaru a nodir ym Mhennod 27 y Datganiad Amgylcheddol ar waith. Gan y bydd angen
trwydded forol hefyd ar gyfer y gweithfeydd yn y môr fydd yn debygol o fod yr un peth â
llawer o’r rheoliadau yn Rhan 4 o Atodlen 1, mae erthygl 3(6) yn datgan mai caniatâd tybiedig
am yr un ddogfen gan Weinidogion Cymru at ddibenion erthygl 3 yw caniatâd dan y drwydded
forol, a roddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
20 Mae Erthygl 4 (Pŵer i ddargyfeirio) yn darparu ar gyfer terfynau o fewn yr hyn y gall yr
ymgymerwr ddargyfeirio gyda gwaith ceblo a chynnal a chadw i gysylltu'r gweithfeydd llanw
â'r rhwydwaith trydan presennol gan gynnwys mewn perthynas â’r man ceblo sydd i’w osod
trwy ddrilio cyfeiriadol llorweddol dan yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae
hefyd yn sicrhau mai dim ond gweithfeydd nad ydynt yn llinellol ac a nodir i’r pwrpas hwn yn
Rhan 2 o Atodlen 1 a gaiff eu hadeiladu o fewn y tir. Mae hyn yn ymwneud yn unig â'r
gweithfeydd ar y tir, gan i’r gweithfeydd llanw yn y môr gael eu diffinio trwy gyfeirio at amlen
brosiect o fewn yr hyn y mae'n rhaid lleoli'r araeau llanw a gosod ceblau allforio i’r tir.
6
21 Mae Erthygl 5 (Pŵer i weithredu) yn darparu pŵer datganedig i weithredu'r gwaith a
drefnwyd unwaith y caiff ei adeiladu.
22 Mae Erthygl 6 (Budd y Gorchymyn) (1) yn caniatáu i'r ymgymerwr drosglwyddo ei hawliau
i adeiladu, defnyddio cynnal a chadw neu weithredu'r gweithfeydd awdurdodedig i berson
arall gyda chaniatâd Gweinidogion Cymru. Mae erthygl 6(2) yn caniatáu i'r ymgymerwr roi
prydles ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu ac ailbweru'r gweithfeydd llanw sy'n
cynnwys Gwaith Rhif 1 neu ran ohono heb fod gofyn sicrhau caniatâd Gweinidogion Cymru.
Mae'r gweithfeydd hynny'n dal i fod yn ddarostyngedig i baramedrau’r Prosiect a byddant
hefyd yn ddarostyngedig i delerau unrhyw drwydded forol a roddir ar gyfer y gweithfeydd
llanw hynny
23 Mae Erthygl 7 (Pŵer i gyflawni gwaith stryd) yn rhoi awdurdod i'r ymgymerwr ymyrryd â
strydoedd penodedig o fewn terfynau ar y tir y Gorchymyn a gwneud gwaith yn y strydoedd
hynny neu danynt.
24 Mae Erthygl 8 (Cau strydoedd dros dro) yn darparu ar gyfer cau strydoedd dros dro. Lle
nodir y stryd yn Atodlen 4, rhaid i'r ymgymerwr ymgynghori â'r awdurdod strydoedd
perthnasol. Os yw'r ymgymerwr yn dymuno cau dros dro strydoedd nad ydynt wedi'u nodi
fel hynny yn Atodlen 4, bydd angen iddo gael caniatâd yr awdurdod strydoedd perthnasol.
Os bydd awdurdod strydoedd yn methu ymateb i gais am ganiatâd o fewn 28 diwrnod i gais
gael ei wneud, bernir ei fod yn rhoi ei ganiatâd.
25 Mae Erthygl 9 (Mynediad i waith) yn rhoi'r pŵer i ffurfio a gosod dulliau mynediad neu i
wella dulliau mynediad i strydoedd fel y'u nodir ar y cynlluniau ar y tir ac yn Atodlen 5. Os
yw'r ymgymerwr yn dymuno ffurfio a gosod neu wella dulliau neu fynediad eraill mewn
lleoliadau eraill o fewn terfynau'r Gorchymyn ar y tir, bydd angen iddo gael caniatâd yr
awdurdod priffyrdd. Ni ddylid atal y gymeradwyaeth honno’n afresymol.
26 Mae Erthygl 10 (Cytundebau gydag awdurdodau strydoedd) yn awdurdodi'r ymgymerwr i
wneud cytundebau gydag awdurdodau strydoedd sy'n ymwneud â chreu strydoedd newydd,
gwaith ar strydoedd neu waith sy’n cael effaith arnynt a stopio, newid a dargyfeirio strydoedd.
Mae hyn yn atgynhyrchu’r warchodaeth a roddir i awdurdodau strydoedd yn Neddf Ffyrdd
Newydd a Gwaith Stryd 1991.
27 Mae Erthygl 11 (Defnyddio ffyrdd preifat ar gyfer adeiladu) yn caniatáu i’r ymgymerwr
ddefnyddio unrhyw ffordd breifat mewn cysylltiad ag adeiladu’r gwaith awdurdodedig. Rhaid
i’r ymgymerwr dalu iawndal i’r person sy’n gyfrifol am atgyweirio ffordd breifat am unrhyw
golled neu ddifrod a geir oherwydd i’r ymgymerwr ddefnyddio’r ffordd breifat ar gyfer
adeiladu.
28 Mae Erthygl 12 (Gollwng dŵr) yn galluogi'r ymgymerwr i ollwng dŵr i unrhyw gwrs dŵr,
carthffos neu ddraen gyhoeddus mewn cysylltiad ag adeiladu a chynnal a chadw'r gwaith
7
arfaethedig gyda chymeradwyaeth y person y mae'r cwrs dŵr, y garthffos neu’r ddraen
gyhoeddus yn perthyn iddo (ni ddylid gwrthod cymeradwyaeth o'r fath yn afresymol) a
chydag amodau eraill. Os bydd person perthnasol yn methu ymateb i gais am ganiatâd o
fewn 28 diwrnod i gais gael ei wneud, bernir ei fod yn rhoi ei ganiatâd.
29 Mae Erthygl 13 (Gwaith gwarchod adeiladau) yn caniatáu i'r ymgymerwr wneud rhywfaint
o waith gwarchod cyn adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig, yn ystod y gwaith neu wedi iddo
orffen y gwaith awdurdodedig (hyd at gyfnod o bum mlynedd ar ôl i'r rhan honno o'r
gweithfeydd awdurdodedig gael ei hagor i'w ddefnyddio) a hynny i adeiladau o fewn terfynau
ar y tir y Gorchymyn a ddangosir ar y cynllun tir ac y gallai’r gweithfeydd gael effaith arnynt.
Gwneir darpariaeth ar gyfer rhai cyfyngiadau a thalu iawndal.
30 Mae Erthygl 14 (Pŵer i arolygu tir ac ymchwilio iddo) yn rhoi pŵer i'r ymgymerwr (yn
ddarostyngedig i roi rhybudd i bob perchennog a deiliad y tir hwnnw) arolygu tir ac
ymchwilio iddo o fewn terfynau'r Gorchymyn ar y tir neu dir y gallai’r gweithfeydd
awdurdodedig gael effaith arno ac i wneud tyllau prawf, cynnal ymchwiliadau ecolegol neu
archeolegol a'u gosod ar offer, eu gadael arnynt a'u tynnu. Gwneir darpariaeth ar gyfer talu
iawndal. Mae angen cymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd (na ellir ei dal yn ôl yn
afresymol) i wneud tyllau prawf yn achos ffordd gerbydau neu droedffordd neu, yn achos
stryd breifat, yr awdurdod strydoedd.
31 Mae Erthygl 14(5) yn galluogi person sy'n cael ei atal rhag mynd ar dir i gynnal arolygon
ac ymchwiliadau dan erthygl 14 i wneud cais i ynad heddwch am warant sy'n awdurdodi
defnyddio grym. Ni ellir cyhoeddi'r warant onid yw’r Ynad yn fodlon ei bod yn rhesymol
defnyddio grym wrth arfer y pŵer a bod y grym a awdurdodir gan y warant wedi'i gyfyngu
i'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol. Mae erthygl 14(6) i (8) yn darparu mesurau diogelwch
eraill. Mae erthygl 14(6) i (10) yn seiliedig ar adran 173 Deddf Tai a Chynllunio 2016 ac
wedi'i ddefnyddio yng Ngorchymyn Network Rail (Gwelliannau i Linell Cangen Felixstowe -
Cau Croesfannau Rheilffordd) 2018.
32 Mae Erthygl 15 (Gwarchodaeth ar gyfer Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) yn ei
gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr sicrhau trwydded forol i adeiladu, cynnal a chadw neu
ailbweru unrhyw weithfeydd llanw i'r graddau bod gweithgareddau o'r fath yn
weithgareddau morol trwyddedig. Bydd yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru benderfynu
ar unrhyw gais (geisiadau) o'r fath yn unol â gofynion statudol y drefn honno
33 Mae Erthygl 16 (Yr hawl i garthu) yn galluogi'r ymgymerwr i garthu a chael gwared ar
ddeunyddiau a garthwyd. I gael gwared â deunydd rhaid glynu wrth amodau a
gymeradwywyd neu a ragnodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru
34 Mae Erthygl 17 (Darpariaeth yn erbyn perygl i fordwyo) yn sicrhau, os oes perygl i
fordwyo yn sgil y Prosiect neu ei adeiladu, bod gan yr ymgymerwr y pŵer i weithredu i
atal unrhyw berygl pellach ac yn darparu ar gyfer hysbysu Trinity House.
8
35 Mae Erthygl 18 (Atal gweithfeydd llanw wedi’u gadael neu eu dinistrio) yn darparu bod
yr awdurdod gorfodi perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr atgyweirio neu
adfer, ar ei gost ei hun, unrhyw weithfeydd llanw a gafodd eu gadael neu y parwyd iddynt
ddadfeilio, ac sy'n cynnwys unrhyw waith sy'n cynnwys yn rhannol weithfeydd ar y tir
uwchlaw lefel y dŵr uchel neu dros y tir hwnnw ac a allai ymyrryd â hawl mordwyo
hawliau cyhoeddus eraill dros y blaendraeth. Bydd hyn yn berthnasol i unrhyw lesddeiliaid
mewn perthynas â’u dyfeisiau yn rhinwedd erthygl 6.
36 Mae Erthygl 19 (Arolwg o weithfeydd llanw) yn caniatáu i Weinidogion Cymru orchymyn
arolwg ar gost yr ymgymerwr o weithfeydd llanw neu o dir y bwriedir adeiladu
gweithfeydd llanw arno.
37 Mae Erthygl 20 (Goleuadau ar weithfeydd llanw) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr
arddangos goleuadau rhwng machlud haul a chodiad yr haul ar unrhyw weithfeydd llanw
neu ar unrhyw beiriant neu offer yn yr ardal adeiladu tua'r môr yn ystod y gwaith
adeiladu ac arddangos goleuadau ar eithaf allanol yr holl weithfeydd llanw unwaith y mae
wedi’u gorffen.
38 Mae Erthygl 21 (Diogelwch mordwyo) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr sicrhau
cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i gynllun i sicrhau diogelwch mordwyo mewn
ymgynghoriad â phartïon eraill â diddordeb cyn yr ymyrrir â'r hawliau mordwyo hynny.
RHAN 3
CAFFAEL TIR
39 Mae Erthygl 22 (Pŵer i gaffael tir) yn rhoi pwerau i ymgymerwr gaffael tir yn orfodol o
fewn terfynau'r dargyfeiriad ac sydd wedi'i nodi ar y cynlluniau sydd ar gael i’w harchwilio
ac a ddisgrifir yn y llyfr cyfeirio, ar gyfer y gwaith awdurdodedig neu mewn cysylltiad ag o.
Mae hefyd yn awdurdodi caffael tir a bennir yn Atodlen 2 yn orfodol at y diben a bennir yn
yr Atodlen honno.
40 Mae Erthygl 23 (Pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol) yn gwneud
darpariaeth ategol mewn perthynas â phrynu gorfodol lle mae’n ofynnol cael hawliau dros
dir neu y mae angen pŵer i osod cyfamodau cyfyngol. Yn achos y tir a bennir yn Rhan 1 o
Atodlen 6 y Gorchymyn, dim ond hawliau gellid eu caffael dros y tir hwnnw at y diben a
bennir yn y Rhan honno o’r Atodlen. Yn achos y tir a bennir yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen
6, gallai’r ymgymerwr osod cyfamodau cyfyngol dros y tir hwnnw. Cyfyngir y tir sydd yn y
tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 i dir y caniateir gosod ceblau trydan tanddaear ynddo dan
ddarpariaethau’r gorchymyn. O’r herwydd, mae’n ofynnol cael y pŵer i osod cyfamodau
cyfyngol dros y tir hwn fel bod modd i’r ymgymerwr sicrhau y gellir gwarchod y ceblau
hynny yn y dyfodol trwy arfer y pŵer. Gwna Atodlen 7 addasiadau i ddeddfiadau
perthnasol sy'n ymwneud ag iawndal a chaffaeliad gorfodol mewn perthynas â chaffael
hawl neu osod cyfamod gorfodol dan erthygl 23. Mae'r addasiadau'n adlewyrchu'r
9
newidiadau i'r gyfraith sy'n ymwneud â chaffaeliad gorfodol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf
Tai a Chynllunio 2016 ac maent yn seiliedig ar y rhai yn Atodlen 6 Deddf Rheilffyrdd
Cyflymder Uchel (Llundain - Gorllewin Canolbarth Lloegr) 2017, a ddarllenir gydag Atodlen
14 y Ddeddf honno ac wedi’u cymhwyso mewn gorchmynion Deddf Trafnidiaeth a
Gweithfeydd blaenorol, megis Gorchymyn Network Rail (Gwelliannau Llinell Gangen
Felixstowe - Cau Croesfannau Rheilffyrdd) 2018
41 Mae Erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965) yn cymhwyso, gydag
addasiadau, ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Prynu Gorfodol 1965 2 i gaffael tir dan y
Gorchymyn fel pe bai'n Orchymyn prynu gorfodol ar gyfer dibenion Deddf Caffael Tir 1981.
Mae'r addasiadau'n adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith sy'n ymwneud â chaffael gorfodol a
wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 ac maent yn seiliedig ar y rhai yn Atodlen
6 Deddf Rheilffordd Gyflym Iawn (Llundain - Gorllewin Canolbarth Lloegr) 2017, a ddarllenir
gydag Atodlen 14 y Ddeddf honno ac wedi’u cymhwyso mewn gorchmynion Deddf
Trafnidiaeth a Gweithfeydd blaenorol fel Gorchymyn Network Rail (Gwelliannau Llinell
Gangen Felixstowe - Cau Croesfannau Lefel) 2018.
42 Mae Erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981) yn darparu i'r Gorchymyn fod yn gymwys fel pe
bai'n orchymyn prynu gorfodol at ddibenion Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio)
19813 ac yn darparu i'r Ddeddf honno ddod i rym yn ddarostyngedig i rai addasiadau. Mae'n
rhoi opsiwn i'r ymgymerwr gaffael tir trwy'r dull hwn yn hytrach na thrwy'r weithdrefn
rhybudd i drin. Mae'r addasiadau'n adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith sy'n ymwneud â
chaffaeliad gorfodol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 ac maent yn seiliedig
ar y rhai yn Atodlen 6 Deddf Rheilffyrdd Cyflym Uchel (Llundain - Gorllewin Canolbarth Lloegr)
2017, a ddarllenir gydag Atodlen 14 y Ddeddf honno ac wedi’u cymhwyso mewn gorchmynion
Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd blaenorol, megis Gorchymyn Network Rail (Gwelliannau
Llinell Gangen Felixstowe - Cau Croesfannau Lefel) 2018.
43 Mae Erthygl 26 (Pŵer i gaffael isbridd yn unig) yn darparu y gellid caffael yr isbridd i’r tir o
fewn terfynau ar y tir y Gorchymyn dan erthygl 26 yn hytrach na’r cyfan o’r tir. Yng nghyswllt
y tir a bennir yn Atodlen 8 y Gorchymyn, cyfyngir pŵer caffael gorfodol i dir sydd fwy na naw
metr dan wyneb y tir. Yn gyffredin gyda deddfiadau megis Deddf Rheilffordd Cyflymder Uchel
(Llundain – Gorllewin Canolbarth Lloegr) 2017, caiff y darpariaethau sy’n ymwneud â
chyflwyno gwrth-hysbysiadau andwyol perthnasol yn unol ag un ai Atodlen 2A Deddf Prynu
Gorfodol 1965 neu Atodlen A1 Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (fel bo’n
briodol) eu heithrio pe caffaelid yr isbridd yn unig i’r tir.
44 Mae Erthygl 27 (Hawliau dan strydoedd neu drostynt) yn caniatáu i'r ymgymerwr feddiannu
a defnyddio stryd o fewn terfynau dargyfeirio ar gyfer y gwaith a drefnwyd ac o fewn terfynau
2 1965 tud.56 3 1981 tud.66
10
tir i'w caffael neu eu defnyddio heb iddi fod yn ofynnol iddo gaffael unrhyw ran o'r stryd neu
unrhyw hawddfraint neu hawl ynddi. Gwneir darpariaeth ar gyfer talu iawndal.
45 Mae Erthygl 28 (Defnyddio Tir Dros Dro ar gyfer Adeiladu Gweithfeydd) yn galluogi'r
ymgymerwr, mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, i gymryd meddiant
dros dro o (i) y tir a gynhwysir yn Atodlen 9 y Gorchymyn, a (ii) unrhyw dir arall sydd o fewn
cwmpas paragraff (1)(a)(ii) erthygl 28 sy'n ddarostyngedig i gaffaeliad gorfodol dan y
Gorchymyn ar yr amod nad yw'r broses gaffael orfodol wedi cychwyn mewn perthynas ag ef.
Mae paragraff (1)(a)(ii) yn caniatáu hyblygrwydd yn yr ystyr, yn dilyn dyluniad manwl y
gweithfeydd, meddiannaeth dros dro yn unig a geir yn hytrach na chaffael tir yn barhaol os
mai dyna'r cyfan sy'n ofynnol. Mae hyn yn dilyn y dull a fabwysiadwyd mewn nifer o
orchmynion Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd diweddar megis Gorchymyn Network Rail
(Gwelliannau Llinell Gangen Felixstowe - Cau Croesfannau Rheilffordd) 2018. Gwneir
darpariaeth hefyd ar gyfer talu iawndal.
46 Mae Erthygl 29 (Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd) yn darparu’r
hawl i’r ymgymerwr gymryd meddiant dros dro o dir o fewn terfynau tir y Gorchymyn sy'n
rhesymol ofynnol at ddibenion cynnal y datblygiad awdurdodedig ac adeiladu unrhyw
weithfeydd ac adeiladau dros dro ar y tir ag a fyddai’n rhesymol angenrheidiol at y diben
hwnnw mewn cyfnod o bum mlynedd o'r dyddiad yr agorir y rhan honno o'r datblygiad
awdurdodedig i'w defnyddio am y tro cyntaf. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer iawndal.
47 Mae Erthygl 30 (Ymgorffori’r Côd Mwynau) yn darparu ar gyfer ymgorffori Rhannau 2 a 3 o
Atodlen 2 y Ddeddf Caffael Tir (mwynau).
48 Mae Erthygl 31 (Gwarchod hawliau pysgota) yn darparu i iawndal gael ei dalu lle mae gwaith
codi’r gweithfeydd awdurdodedig, eu gweithredu neu eu cynnal a’u cadw, gan gynnwys eu
hailbweru, yn cael effaith niweidiol ar hawl berchnogol i bysgota.
49 Mae Erthygl 32 (Diystyru gwelliannau a buddiannau penodol) yn darparu, wrth asesu'r
iawndal sy'n daladwy mewn perthynas â chaffaeliad gorfodol, bod yn rhaid i'r Uwch
Dribiwnlys ddiystyru unrhyw fuddiant mewn tir neu unrhyw welliant i fuddiant mewn tir a
achosir gan welliannau y mae'n fodlon iddynt gael eu creu neu yr ymgymerwyd â nhw gyda'r
bwriad o gael iawndal neu fwy o iawndal.
50 Mae Erthygl 33 (Gwrth-hawliad ar gyfer gwella gwerth tir a gedwir) yn darparu, wrth asesu'r
iawndal sy'n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw dir neu hawliau
newydd dros dir, bod yn rhaid i'r Uwch Dribiwnlys roi gwerth y tir yn erbyn unrhyw gynnydd
yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy'n eiddo i'r person hwnnw ac a ddaw yn sgil
adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig.
51 Mae Erthygl 34 (Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill) yn caniatáu i'r ymgymerwr
drechu hawliau preifat wrth gyflawni gweithgareddau awdurdodedig fel sy'n ofynnol mewn
cysylltiad â'r gweithfeydd awdurdodedig. Gwneir darpariaeth ar gyfer talu iawndal.
11
52 Mae Erthygl 35 (Hawliau preifat dros dir) yn darparu ar gyfer dirwyn i ben hawliau preifat
dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffaeliad gorfodol, ac atal hawliau preifat mewn perthynas â
thir a feddiannir dros dro. Gwneir darpariaeth ar gyfer talu iawndal.
53 Mae Erthygl 36 (Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael) yn gosod terfyn amser o bum
mlynedd o’r amser y daw’r Gorchymyn hwn i rym ar gyfer arfer pwerau i gaffael tir yn orfodol
a meddiannu tir dros dro dan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu
gweithfeydd).
54 Mae Erthygl 37 (Datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol) yn anghymhwyso'r
darpariaethau yn adran 36 Deddf Trydan 1989 ac yn adran 23 Deddf Draenio Tir 1991.
55 Mae Erthygl 38 (Amddiffyn achos mewn perthynas â niwsans statudol) yn rhoi amddiffyniad
i ymgymerwr rhag hawliad mewn achos o niwsans statudol a ddygir dan adran 82 (1) Deddf
Gwarchod yr Amgylchedd 19904 os gall ddangos bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â
hysbysiad a gyflwynwyd dan adran 60, neu â chaniatâd a roddwyd o adran 61 Deddf Rheoli
Llygredd 19745, neu fod y niwsans y cwynir yn ei gylch yn ganlyniad i wneud gwaith a
awdurdodwyd gan y Gorchymyn ac na ellir yn rhesymol ei osgoi.
56 Mae Erthygl 39 (Caniatâd cynllunio a materion atodol) yn galluogi'r ymgymerwr i gyflawni
unrhyw waith awdurdodedig sy'n cael effaith ar goed a warchodir fel pe bai caniatâd
cynllunio y bernir ei fod yn unol ag adran 90 (2A) wedi'i roi yn ddarostyngedig i gais dan
Ran 3 o Ddeddf 1990. Mae Erthygl 39(3) hefyd yn addasu deddfwriaeth gynllunio mewn
perthynas â thrin tir fel tir gweithredol sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd ynghylch
caniatâd cynllunio tybiedig yn unol ag adran 90 (2A) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
57 Mae Erthygl 40 (Pŵer i docio coed sy'n crogi dros y gwaith awdurdodedig) yn galluogi'r
ymgymerwr i dorri neu docio coed a llwyni at ddibenion atal y datblygiad awdurdodedig,
ei rwystro neu ymyrryd ag o. Cynhwysir darpariaeth ar gyfer talu iawndal am golled a
difrod.
58 Mae Erthygl 41 (Cymhwyso cyfraith landlordiaid a thenantiaid) yn mynd y tu hwnt i
waith cymhwyso cyfraith landlordiaid a thenantiaid i'r graddau y gall ragfarnu cytundebau
ar gyfer gweithredu ac ati'r gwaith awdurdodedig.
59 Mae Erthygl 42 (Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig) yn ei gwneud yn
drosedd, heb achos rhesymol, rwystro gwaith adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig ac
ymyrryd â chyfarpar yr ymgymerwr
60 Mae Erthygl 43 (Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillio ac angori) yn ei gwneud yn
drosedd mordwyo llong o fewn parth diogelwch a nodwyd yn ystod unrhyw gyfnodau
adeiladu ac unwaith y bydd y gweithfeydd llanw yn eu lle; y parthau hyn yw’r mannau lle
4 1990 tud.43 5 1974 tud.40
12
caiff gweithgareddau eu heithrio dan erthygl 43(1). Gwneir darpariaeth i hysbysu morwyr
am y parth diogelwch ac i Weinidogion Cymru fynnu bod camau ychwanegol yn cael eu
cymryd i hysbysu unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb, ac i'r parth gael ei newid o bryd
i'w gilydd i adlewyrchu unrhyw newidiadau i'r gweithfeydd llanw o ganlyniad i ailbweru.
Mae'r troseddau a nodwyd yn adlewyrchu'r rhai a gâi eu gosod yn dilyn dynodi parth
diogelwch yn unol â Deddf Ynni 2004
61 Mae Erthygl 44 (Ymgymerwyr Statudol a darpariaethau gwarchodol ac ati) yn cyflwyno
Atodlen 10 y Gorchymyn sy'n cynnwys mesurau diogelwch penodol ar gyfer ymgymerwyr
statudol
62 Mae Erthygl 45 (Gwarchod buddiannau) yn cyflwyno Atodlen 11 y Gorchymyn sy'n
darparu gwarchodaeth i ymgymerwyr trydan, nwy, dŵr a charthffosiaeth, Network Rail
Infrastructure Limited a gweithredwyr telegyfathrebu wrth i'r ymgymerwr arfer y pwerau
a roddir dan y Gorchymyn.
63 Mae Erthygl 46 (Ardystio cynlluniau ac ati) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr
gyflwyno'r datganiad amgylcheddol, y llyfr cyfeirio, cynlluniau’r gweithfeydd yn y môr, y
cynlluniau ar y tir a'r adrannau i Weinidogion Cymru i’w hardystio wedi i’r Gorchymyn hwn
gael ei wneud.
64 Mae Erthygl 47 (Cyflwyno hysbysiadau) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflwyno
hysbysiadau neu ddogfennau eraill at ddibenion y Gorchymyn.
65 Mae Erthygl 48 (Dim adenilliad dwbl) yn atal iawndal rhag bod yn daladwy mewn
perthynas â'r un mater dan y Gorchymyn a than unrhyw ddeddfiad, contract neu reol
gyfreithiol arall.
66 Mae Erthygl 49 (Cyflafareddu) yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu ar
wahaniaethau a gyfyd dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn trwy gyflafareddu.
67 Mae Erthygl 50 (Gwarchodaeth ar gyfer Trinity House) yn darparu nad oes unrhyw beth
yn y Gorchymyn yn rhagfarnu nac yn rhanddirymu o unrhyw un o hawliau, dyletswyddau
na breintiau Trinity House.
68 Mae Erthygl 51 (Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017) yn datgan nad yw'r darpariaethau
ym Mhennod 1, Rhan 2 o’r Ddeddf Cynllunio Cymdogaeth sy'n ymwneud â meddiant dros
dro i fod yn berthnasol o ran y Gorchymyn. Ar hyn o bryd nid yw'n hysbys pryd y bydd y
darpariaethau ym Mhennod 1, Rhan 2 o'r Ddeddf hon a'r rheoliadau sydd i'w gwneud
danynt yn dod i rym. Yn ogystal, ni wyddys eto pa effaith a gaiff y rheoliadau hynny ar
ddarpariaethau'r Gorchymyn (os bydd effaith o gwbl) gan nad ydynt ar gael eto. Mae
erthygl 51 yn dileu'r ansicrwydd hwn sy'n caniatáu i'r cais am y Gorchymyn hwn gael ei
wneud ar sail y gyfraith bresennol.
13
ATODLENNI
69 Mae Atodlen 1 Rhan 1 (Gwaith awdurdodedig) yn disgrifio'r prif waith yr awdurdodwyd ei
adeiladu dan erthygl 3 y Gorchymyn. Mae'n cynnwys elfennau ar y tir a’r gweithfeydd llinellol
ar y tir gan gynnwys gwaith rhynglanwol. Disgrifir y gwaith yn y môrsy'n cynnwys Gwaith
Rhif 1- Rhif 3 trwy gyfeirio at nifer uchaf yr hybiau casglu dyfeisiau ynni llanw a cheblau
allforio sydd wedi'u hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol i sicrhau bod eu heffaith wedi'i
hasesu a bod unrhyw liniaru sy'n ofynnol yn cael ei sicrhau'n briodol. Bydd y gwaith
rhynglanwol a llwybr y cebl ar y tir yn sefydlog (yn ddarostyngedig i derfynau dargyfeirio) ac
eithrio nifer uchaf o geblau ac eitemau eraill o seilwaith a nodir gan y gallai hyn ddibynnu ar
nifer yr araeau a godir ac sy'n weithredol. Bydd dal angen i’r elfennau hyn ddangos eu bod
yn cydymffurfio â pharamedrau’r prosiect.
70 Mewn perthynas â Gwaith Rhif 3 a 4 rhoddir dau ddewis arall ar gyfer darparu llwybr cebl o’r
man y bydd y cebl yn tirio a mynd i'r is-orsaf. Asesir y ddau opsiwn yn y Datganiad
Amgylcheddol.
71 Mae Atodlen 1 Rhan 2 yn nodi'r gwaith ategol sy'n ofynnol er mwyn gallu adeiladu,
gweithredu, atgyweirio a chynnal a chadw'r gwaith awdurdodedig ar y tir ac yn y môr gan
gynnwys ailbweru unrhyw weithfeydd llanw sy'n cynnwys arae ar gyfer y gweithfeydd yn y
môr. Ym Mhennod 1 ceir gwaith ategol ac ym Mhennod 2 ceir elfennau o’r gweithfeydd yn y
môr nad ydynt yn llinellol, sef yr is-orsaf trydan yn agos i le mae’r ceblau’n tirio, seilwaith yr
offer switsio a’r gwaith i gysylltu’r prosiect â’r rhwydwaith trydan presennol.
72 Mae Atodlen 1 Rhan 3 yn nodi’r ardal arae lle ceir adeiladu a gweithredu, cynnal a chadw
ac ailbweru’r araeau a’r dyfeisiau llanw. Mae hefyd yn nodi eithafoedd coridor y cebl allforio
i gysylltu’r araeau â’r man y byddant yn tirio. Diffinnir yr ardaloedd hyn gan y mannau pellaf
y maent yn eu cyrraedd gan y gallai math a nifer yr araeau a dyfeisiau llanw, a cheblau
cysylltiedig newid dros amser wrth i wahanol weithredwyr feddiannu rhannau o’r ardal ar
gyfer defnyddio’u technoleg ac i gydnabod y bydd y technolegau’n datblygu dros amser.
Rheolir y defnydd a wneir o’r araeau, y dyfeisiau a’r ceblau yn yr ardal hon gan baramedrau’r
prosiect sydd wedi’u hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol. Mae Rhan 3 hefyd yn nodi’r
cyfesurynnau ar gyfer y rhannau hynny o ardal yr arae lle cyfyngir o bosib ar ddefnyddio
dyfeisiau llanw sydd â nodweddion arbennig.
73 Mae Atodlen 1 Rhan 4 yn nodi'r dogfennau hynny y mae’n rhaid eu cyflwyno i Weinidogion
Cymru iddynt eu cymeradwyo cyn cymryd camau penodol ac, wedi hynny, rhaid cydymffurfio
â nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithfeydd awdurdodedig o fewn paramedrau’r prosiect
fel y’u sefydlwyd gan y Datganiad Amgylcheddol.
74 Mae Atodlen 2 (Caffael tiroedd penodol ar gyfer gwaith ategol) yn nodi'r tir y tu allan i'r
terfynau dargyfeirio y caniateir cyflawni'r gwaith ategol a awdurdodir gan erthygl 3 ac sy'n
ddarostyngedig i bwerau caffael gorfodol a roddwyd dan erthygl 22(1)(b) at y diben a bennir
mewn perthynas â'r tir yng ngholofn (3) y tabl yn yr Atodlen.
14
75 Mae Atodlen 3 (Strydoedd sy'n ddarostyngedig i waith stryd) yn darparu tabl o'r strydoedd
sy'n destun gwaith stryd ar gyfer y Prosiect dan y Gorchymyn.
76 Mae Atodlen 4 (Strydoedd i'w cau dros dro) yn rhestru'r strydoedd y caiff yr ymgymerwr eu
hatal, eu newid neu eu dargyfeirio dros dro dan erthygl 8 y Gorchymyn. Rhaid i'r ymgymerwr
ymgynghori â'r awdurdod strydoedd perthnasol cyn arfer y pwerau a roddir dan erthygl []
mewn perthynas â'r strydoedd a restrir yn Atodlen 4.
77 Mae Atodlen 5 (Mynediad i waith) yn darparu tabl o strydoedd sy'n ofynnol ar gyfer llwybrau
mynediad i waith dan y Gorchymyn.
78 Mae Atodlen 6 (Tir lle gellid caffael hawliau newydd yn unig a thir y gellid gosod cyfamodau
cyfyngol drosto) yn nodi'r tir y mae pwerau'r ymgymerwr i gaffael yn orfodol dan y
Gorchymyn wedi'u cyfyngu i gaffael hawliau a gosod cyfamodau cyfyngol yn unig yn y tir.
Nodir y dibenion y gellir caffael hawliau ar eu cyfer mewn perthynas â'r tir yng ngholofn (3)
y tabl yn Atodlen 6.
79 Mae Atodlen 7 (Addasu Iawndal a Deddfiadau Prynu Gorfodol ar gyfer Creu Hawliau Newydd
a Gosod Cyfamodau Cyfyngol) yn nodi'r addasiadau a wneir i ddeddfiadau perthnasol yn
ymwneud ag iawndal a chaffaeliad gorfodol mewn perthynas â chaffael hawliau a gosod
cyfamodau cyfyngol.
80 Mae Atodlen 8 (Tir lle ceir caffael dim ond isbridd sydd fwy na naw metr dan y wyneb) yn
nodi tir lle dim ond isbridd sydd fwy na naw metr dan yr wyneb sydd i'w gaffael
81 Mae Atodlen 9 (Tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono) yn nodi'r tir y caiff yr
ymgymerwr gymryd meddiant dros dro ohono dan erthygl 28 y Gorchymyn.
82 Mae Atodlen 10 (Darpariaethau sy'n ymwneud ag ymgymerwyr statudol) yn rhoi
gwarchodaeth i ymgymerwyr statudol.
83 Mae Atodlen 11 (Darpariaethau gwarchodol) yn darparu ymgymerwyr nwy, dŵr a
charthffosiaeth, Network Rail Infrstructure Limited a gweithredwyr rhwydweithiau côd
cyfathrebiadau electronig â darpariaethau gwarchodol dan y Gorchymyn.
15
ADRAN DRAFNIDIAETH 2019
Rheol 10 (2) (b)
Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992
Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a
Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006
GORCHYMYN PARTH ARDDANGOS MORLAIS
________________________________
Memorandwm Esboniadol ________________________________
Eversheds Sutherland (International) LLP One Wood Street London EC2V 7WS United Kingdom Cyfreithwyr ac Asiantiaid Seneddol