sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio
DESCRIPTION
Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio. Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Cyflwyniad. Swyddog Canlyniadau Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio
Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr
Cyflwyniad
Swyddog Canlyniadau
Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol
Amcanion y sesiwn hyfforddi
• Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad
• Byddwn yn sôn am y pethau hyn yn y sesiwn hon:– esbonio'n fras beth y byddwn yn disgwyl ichi ei
wneud ar y diwrnod pleidleisio– trafod y gweithdrefnau pleidleisio– meddwl am faterion iechyd a diogelwch– tynnu sylw at nifer o drefniadau gweinyddol
Prif nodau ar gyfer yr etholiad
• bod pawb sy'n pleidleisio'n cael profiad da, a bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio'n gallu gwneud hynny
• bod yr etholiad yn cael ei gynnal mewn ffordd broffesiynol
• bod y canlyniadau'n gywir a phawb yn teimlo y gallan nhw ymddiried yn y canlyniadau hynny
• bod y broses yn dryloyw• bod yr etholiad yn cael ei weinyddu mewn
ffordd gyson
Pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol
• Defnyddir system 'y cyntaf i'r felin' mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr.
• Bydd pleidleiswyr yn cael bwrw un bleidlais, neu fwy nag un, a dibynnu ar faint o ymgeiswyr sydd i'w hethol i gynrychioli adran etholiadol/ward.
• Dylai pleidleiswyr roi croes ('X') yn y blwch ar y dde i enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr y maen nhw am bleidleisio drostynt
Mae'n hollbwysig ichi...
– fod yn ddiduedd bob amser
– cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau
– sicrhau bod y bleidlais yn gyfrinachol ac yn ddiogel
Y Swyddog Llywyddu -
rheoli'r orsaf bleidleisio
• Cysylltu â'r sawl sy'n cadw allwedd yr adeilad
• Trefnu gosod yr orsaf bleidleisio• Rhoi cyfarwyddyd i Glercod yr
Etholiad a goruchwylio'u gwaith• Cadw cyfrif o'r holl bapurau
pleidleisio, y blychau pleidleisio a'r gwaith papur
Clerc yr Etholiad -
dyletswyddau cyffredinol
• Cynorthwyo i osod pethau yn yr orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y cyfnod pleidleisio
• Bod yn gwrtais ac yn broffesiynol wrth ymdrin â'r pleidleiswyr
• Sicrhau bod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio honno
• Deall y broses ar gyfer rhoi papurau pleidleisio i bobl
Wrth i'r diwrnod pleidleisioagosáu
• Tasgau hanfodol– Ymweld â'r man pleidleisio a sicrhau
bod y trefniadau'n iawn ar gyfer cysylltu a sicrhau mynediad
– Sicrhau bod y trefniadau'n iawn ar gyfer casglu'r blwch pleidleisio a gwirio'r cynnwys cyn gynted ag sy'n bosibl
– Cysylltu ag aelodau eraill y tîm– Cod gwisg - sicrhau bod dillad yn cyfleu
agwedd broffesiynol a diduedd ond eu bod hefyd yn gyfforddus ac yn gynnes
Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
• Pwynt cyswllt• Cyflenwi papurau ac offer• Yn gyfrifol am
– Sicrhau bod y gorsafoedd wedi'u gosod yn iawn
– Sicrhau bod pethau'n mynd yn hwylus– Bod yn ymwybodol o giwiau a helpu yn y
cyswllt hwnnw– Casglu unrhyw bleidleisiau post a
ddychwelwyd– Rhannu taliadau (os yw hynny'n briodol)
• Rhifau cyswllt [ ........................ ]
Risgiau • Methu cysylltu â cheidwad yr allwedd
• Methu mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio
• Staff heb gyrraedd neu'n hwyr
• Problemau o ran arddangos hysbysiadau
• Cofrestri anghywir wedi'u rhoi i'r orsaf
• Rhifau'r papurau pleidleisio ddim yn cyfateb â'r rheini sydd wedi'u rhagargraffu ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol
• Dilyn y drefn anghywir wrth gyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig
• Ciwiau'n hel wrth i'r etholiad ddirwyn i ben
Yr Orsaf Bleidleisio
Gosod pethau a'u lleoli a phwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio
Gosod pethau ynyr orsaf bleidleisio
• Lleoli pethau /hysbysiadau (gweler y rhestr ar gyfer gosod pethau yn Atodiad 11 o'r Llawlyfr ar gyfer gorsafoedd pleidleisio)
– rhaid i'r peth weithio i'r pleidleisiwr– dilynwch y llwybr y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn– gwnewch yn siŵr bod pob hysbysiad yn ei le a bod
pensiliau'n barod ac wedi'u minio– trefniadau priodol i sicrhau bod y lle'n hygyrch i
bleidleiswyr – ystyried anghenion defnyddwyr cadair olwyn (e.e. drysau,
lle i droi, pleidleisio'n gyfrinachol)– darparu seddi i etholwyr y gall fod angen iddynt orffwys
• Paratoi'r papurau – trefnu'r papurau pleidleisio yn nhrefn eu rhifau– paratoi'r gofrestr a'r rhestr rhifau cyfatebol– cadw papurau pleidleisio sydd i'w cyflwyno mewn paced.
Gosod pethau yn yr orsaf bleidleisio (parhad)
• Asiantiaid pleidleisio, rhifwyr ac eraill – ystyriwch ymhle y caiff asiantiaid pleidleisio, rhifwyr,
cefnogwyr/ymgyrchwyr eraill fod/ lle na chân nhw fod
• Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio– hwylus a diogel
• Selio'r blwch/blychau– dangos bod y blwch yn wag
– selio yn unol â'r cyfarwyddiadau ychydig cyn 7
– peidiwch â gadael i ymgeiswyr /asiantiaid ychwanegu sêl ar yr adeg hon
Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio
Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio
Pwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio?
– Pleidleiswyr– Y Swyddog Canlyniadau a'i staff– Ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad – Asiantiaid pleidleisio – Swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth
Cymunedol yr heddlu sydd ar ddyletswydd– Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol– Arsyllwyr achrededig– Pobl dan 18 oed sydd gyda phleidleiswyr– Cymdeithion pleidleiswyr anabledd
Arsyllwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol
Gofalu am gwsmeriaid
• Dangoswch ddiddordeb personol• Byddwch yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar• Gwrandewch arnyn nhw a chydymdeimlo• Gadewch iddyn nhw wneud eu pwynt cyn ymateb• Peidiwch â dweud 'Na', dywedwch wrthyn nhw
beth y gallwch ei wneud drostyn nhw a beth y gallan nhw ei wneud
• Ond rhaid dilyn rheolau'r etholiad yn ddieithriad, ni waeth faint maen nhw'n mynnu, na pha mor anhapus neu ddig y byddan nhw
• Os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â'r swyddfa etholiadau
Gofalu am gwsmeriaid (parhad)
• Gwnewch yn siŵr bod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb:– rhaid i'r ffordd mae pethau wedi'u gosod
fod yn hwylus i bob pleidleisiwr, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn
– dylai papurau a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn gwbl amlwg
– rhaid ichi allu darparu gwybodaeth ar gyfer etholwyr anabl ynglŷn â'r opsiynau ar gyfer pleidleisio
Templed cyffwrdd ar gyfer pleidleisio
• Mae angen i'r templed cyffwrdd fod yn amlwg a dylech deimlo'n hyderus i'w ddefnyddio
• Sut mae ei ddefnyddio - gwnewch yn siŵr bod y templed yn sownd yn y papur pleidleisio a bod y pleidleisiwr yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio.
Dylai'r pleidleisiwr: - godi'r ffenestr maen nhw'n ei dewis
- marcio'u dewis
- cau'r ffenestr
- gwahanu'r templed oddi wrth y papur pleidleisio
- plygu'r papur pleidleisio a'i roi yn y blwch pleidleisio
- dychwelyd y templed i'r Swyddog Llywyddu
Pwy gaiff a phwy na chaiff bleidleisio?Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr/rhestri rhifau cyfatebol
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol?
• Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau o flaen eu henw
• Etholwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad - sef bod y dyddiad o flaen eu henw ar neu cyn y diwrnod pleidleisio
• Etholwyr â 'G' o flaen eu henw• Etholwyr â 'K' o flaen eu henw• Etholwyr ag 'L' o flaen eu henw• Bydd gan etholwyr sydd wedi cofrestru'n
ddienw - 'N' yn lle enw
Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl
• Marcio'r gofrestr a'r Rhestr Rhifau Cyfatebol– Gofynnwch i'r etholwr gadarnhau ei enw a'i
gyfeiriad– Marciwch rif etholwr yr etholwr yn y gofrestr– Galwch rif a rhif etholwr yr etholwr– Rhowch rif yr etholwr ar y Rhestr Rhifau
Cyfatebol – PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y
papur pleidleisio!
Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl (parhad)
• Papurau pleidleisio– Agorwch y papur yn llawn fel bod y papur i
gyd i'w weld– Marc swyddogol, rhif papur pleidleisio a
Marc Dynodi Unigryw (UIM)
Marcio'r gofrestr
Queen’s Walk
BC
JP32 4LT
411 G Vella, Eva 1412 F Jolly, Simon 1413 K Vella, Christina 1414 Brown, Robert 3415 Evans, Gareth 5416 Singh, Parvinder 7417 Myers, Martin 7418 A Bishop,
Stephanie15
418/1 02 Chwef
Watts, Judith 15
Enghraifft o'r Rhestr Rhifau Cyfatebol
BC 27/1
Eithriadau i'r rheol
• Etholwyr dienw– Rhaid iddyn nhw ddangos cerdyn
pleidleisio
– Wedi'u marcio ag 'N' ar y gofrestr
– Rhaid peidio â galw'u henw a'u cyfeiriad
• Gwallau clercio ac etholwyr eraill– Ar daflen gofrestr ar wahân neu ar
ddiwedd y gofrestr
– Gwiriwch y rhain bob tro os na allwch chi ddod i hyd iddyn nhw ar y gofrestr. Fyddan nhw ddim yn nhrefn y strydoedd
Enghraifft o gefn y papur pleidleisio Rhif
Nod Adnabod Unigryw
Marcio'r papur pleidleisio ar gyfer etholiad llywodraeth leol
• Os byddan nhw'n gofyn ichi sut mae pleidleisio, dywedwch 'defnyddiwch groes' neu 'defnyddiwch 'X'.'
• Os byddan nhw'n gwneud camgymeriad, dilynwch y weithdrefn ar gyfer difetha papur pleidleisio
• Peidiwch â dechrau trafod y cyngor, yr etholiad na dim byd ac eithrio sut mae pleidleisio
Beth os...? • bydd rhywun yn rhoi tystysgrif cyflogaeth ichi• bydd pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio• bydd pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond bod y
pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy• bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y
gofrestr yn dangos bod y person hwnnw eisoes wedi pleidleisio
• bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw'n pleidleisio drwy'r post
• bydd rhywun yn cyrraedd sy'n dymuno pleidleisio fel dirprwy brys
• bydd rhywun yn credu y dylen nhw fod ar y gofrestr ond nad ydyn nhw wedi'u rhestru
• bydd helynt yn codi yn yr orsaf bleidleisio
Y cwestiynau penodedig
• Rhaid gofyn y cwestiynau penodedig:– os bydd ymgeisydd, asiant etholiad neu asiant
pleidleisio'n gofyn amdanyn nhw– cyn cyflwyno papur pleidleisio dan amgylchiadau
arbennig
• Dylid gofyn y cwestiynau penodedig:– os byddwch chi'n amau bod rhywun yn esgus
bod yn rhywun arall – os bydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan
oed– pan fydd etholwr yn dweud bod eu henw'n
wahanol i'r hyn sydd ar y gofrestr etholwyr
• Ni chaniateir holi na chwestiynu etholwyr mewn unrhyw fodd arall
Pleidleisiau Post
• caiff pleidleiswyr gyflwyno'u pleidleisiau post mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn y ward
• rhaid storio, selio a labelu pecynnau pleidleisiau post yn unol â'r cyfarwyddiadau
• cesglir pleidleisiau post yn ystod y dydd, a dychwelyd y gweddill gyda'r blwch pleidleisio pan ddaw'r cyfnod pleidleisio i ben
Pleidleisiau Post
• Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin yn yr orsaf bleidleisio i bobl sydd wedi'u marcio ag 'A':
– cyfeiriwch nhw at y Swyddog Canlyniadau i gael papur arall (cyn 5pm)
– y weithdrefn ar gyfer cyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig ar ôl 5pm
• eithriad: lle bydd etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Os felly, bydd yn gymwys i gael papur pleidleisio wedi'i gyflwyno unrhyw bryd. Serch hynny, dylid annog yr etholwyr hyn i wneud cais am bapur arall yn y swyddfa etholiadau os nad yw'n 5pm eto
Cau'r Bleidlais
Y gweithdrefnau i’w dilyn
Rheoli ciw • Ar unrhyw adeg yn ystod y dydd – ffoniwch y swyddfa etholiadol
• Ychydig cyn 10pm– gwnewch yn siŵr bod y rheiny sy’n aros yn
gallu bwrw’u pleidlaius– gwiriwch bod unrhyw un sy’n aros i bleidleisio
yn yr orsaf gywir ar gyfer eu cyfeiriad
Rheoli ciw (2)• Am 10pm– dewch â’r holl etholwyr sy’n aros i mewn i’r
ystafell/adeilad a chaewch y drws, NEU– os nad yw’r ystafell/adeilad yn ddigon mawr,
gofynnwch i aelod o’r tîm aros ar ddiwedd y ciw i’w nodi
– parhewch i roi papurau pleidleisio hyd nes bod pawb oedd yn y ciw erbyn 10pm wedi pleidleisio
• NI DDYLID rhoi papur pleidleisio i unrhyw un nad oedd yn y ciw am 10pm.
Cau’r bleidlais • Unwaith i’r pleidleisiwr olaf bleidleisio, seliwch y blwch pleidleisio
• Mae gan ymgeiswyr asiantiaid hefyd hawl i roi sêl ar y blwch pleidleisio ar yr adeg hon.
Ar ôl i'r bleidlais gau
• Hollol hanfodol bod y cyfrif papurau pleidleisio yn cael ei gwblhau'n gywir
• Rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch y rhain gyda'r blwch/blychau pleidleisio
• Gwnewch yn siŵr fod y dogfennau i gyd yn cael eu rhoi yn y pecynnau iawn ac yn cael eu llofnodi fel sy'n briodol
• Clercod pleidleisio i helpu i bacio pethau yn yr orsaf er mwyn i'r swyddog llywyddu allu gwneud y tasgau pwysig hyn
Iechyd a diogelwch
• peidiwch byth a pheryglu diogelwch rhywun yn yr orsaf bleidleisio
• byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl o ran diogelwch
• archwiliwch y lle'n rheolaidd• os gwelwch chi fod peryglon yno -
ceisiwch ddatrys y broblem• os bydd damwain - dilynwch y weithdrefn• byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm
Unrhyw gwestiynau
Gwybodaeth ychwanegol
• Manylion cysylltu’r tîm etholiadol• Gwefan y Comisiwn Etholiadol
– www.comisiwnetholiadol.org.uk
– www.fymhleidlaisi.co.uk
• Taflenni Adborth