swyddogion cyswllt newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · delma thomas julie brooker dafydd...

12
Hydref, 1995 40c Rhifyn 21 CYLCHGRAWNIGYMRY CYMRAEG A DYSGWYR A MAGAZINE FOR WELSH LEARNERS AND SPEAKERS Swyddogion Cyswllt Newydd Mae CYD a consortia'r siroedd wedi datblygu rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt yn barod. Mae chwech ohonyn nhw yn y maes yn barod ac 'rydym yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o benodi sawl un eto yn y dyfodol. Os oes gennych chi unrhyw angen neu awgrymiad ynglyn â gweithgareddau i ddysgwyr yn eich ardal, cysylltwch â nhw. Dyma'r enwau, ardaloedd a'r rhifau ffôn (o'r chwith i'r dde): Eirlys Wynn Tomos Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd (01686) 688538 Gogledd Powys (01766) 830712 Gwynedd (01834)813249 Dyfed (01591)610975 DePowys Elwen Lloyd Roberts (01490)420223 Dwyrain Clwyd JACI TAYLOR - Cadeirydd Newydd I / Etholwyd Jaci Taylor fel Cadeirydd CYD yn y Cyfarfod Cyffredinol Cenedlaethol eleni. Mae'n ei chyflwyno ei hun ar dudalen 3. Bydd ein cyn-Gadeirydd, Shirley Williams, yn parhau mewn cysylltiad â'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol fel Swyddog Bugeilio. Noddwyd y rhifyn hwn gan: AAC Awdurdod Afonydd Cenedlaethol Rhanbarth Cymru

Upload: others

Post on 04-Jul-2020

9 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Hydref, 1995 40c Rhifyn 21

CYLCHGRAWNIGYMRY CYMRAEG A DYSGWYR A MAGAZINE FOR WELSH LEARNERS AND SPEAKERS

Swyddogion CyswlltNewydd

Mae CYD a consortia'r siroedd wedi datblygurhwydwaith o Swyddogion Cyswllt yn barod. Maechwech ohonyn nhw yn y maes yn barod ac 'rydym ynedrych ymlaen at y posibilrwydd o benodi sawl un etoyn y dyfodol. Os oes gennych chi unrhyw angen neuawgrymiad ynglyn â gweithgareddau i ddysgwyr yneich ardal, cysylltwch â nhw. Dyma'r enwau, ardaloedda'r rhifau ffôn (o'r chwith i'r dde):

Eirlys Wynn TomosDelma ThomasJulie BrookerDafydd GwylonGwyneth Rowlands

(01745) 813714 Gorllewin Clwyd(01686) 688538 Gogledd Powys(01766) 830712 Gwynedd

(01834)813249 Dyfed(01591)610975 DePowys

Elwen Lloyd Roberts (01490)420223 Dwyrain Clwyd

JACI TAYLOR- Cadeirydd Newydd

I /Etholwyd Jaci Taylor fel Cadeirydd CYD yn y CyfarfodCyffredinol Cenedlaethol eleni. Mae'n ei chyflwyno eihun ar dudalen 3. Bydd ein cyn-Gadeirydd, ShirleyWilliams, yn parhau mewn cysylltiad â'r PwyllgorGwaith Cenedlaethol fel Swyddog Bugeilio.

Noddwyd y rhifyn hwn gan:

AACAwdurdod Afonydd CenedlaetholRhanbarth Cymru

Page 2: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

CYD

Llywydd Anrhydeddus:Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd: Jaci TaylorIs-gadeirydd: Neil Baker

Ysgrifennydd: Lona DaviesTrysorydd: Arthur Burt

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Emrys Wynn Jones

SwyddfaCYD, YrHenGolegHeol y Brenin, Aberystwyth,

Dyfed, SY23 2AXFfôn/ffacs 01970 622143

Swyddog Ymholiadau: Chris Smith

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif 518371)

Golygydd Cadwyn CYDFran Disbury, Noddfa

Terrace Row, Tre-TaliesinMachynlleth, Powys SY20 8JL

Ffôn: 0970 832214

Mae Cadwyn CYD yn ymddangos pedair gwaith yflwyddyn.

Dyddiadau cyhoeddi:lSMawrth 15 Mehefin 15 Medi 5 Rhagfyr

Dyddiad cau ar gyfer erthyglau, newyddion ac ati:3 wythnos cyn cyhoeddi.

Dyddiad cau ar gyfer hysbysebion (copi barodi'r camera): bythefnos cyn cyhoeddi.

Mae'n bosibl i rai sefydliadau/grwpiau addysgbaratoi rhifyn o Cadwyn CYD.

Cysylltwch â'r swyddfa.

TAL AELODAETH 1995/96

Aelodaetb i unigolion£5£2 i fyfyrwyr, pensiynwyr a'r di-waith

Aelodaeth Corfforaethol£20 i fudiadau gwirfoddolDim llai na £50 i gyrff cyhoeddus a phreifat

Aelodaeth unigolyn am oes£100

Ffarwelio ag Ellen acAnne

Yn ystod cyfarfod diwethaf y Pwyllgor GwaithCenedlaethol 'roedd rhaid i ni ddweud ffarwel i'nCyfarwyddydd egniol, Ellen ap Gwynn, ac i un o'nSwyddogion Cyswllt, Anne Richards. Oherwyddgweithgareddau diweddar Bwrdd yr Iaith 'doedd hiddim yn bosib i gadw sgiliau a brwdfrydedd Anne acEllen a bydd pawb sy wedi gweithio gyda nhw'nteimlo'r golled. Mae Ellen wedi derbyn swydd felSwyddog Gwledig gyda CGGC ac mae Anne wedimynd yn ôl i ddysgu. Estynnwn ni ein dymuniadaugorau i'r dwy yn y dyfodol.

CYNNIG I DDYSGWYRgan Menter Taf Elái

Bydd tri chwrs Wlpan i ddechreuwyr yn dechrau ynystod y Gaeaf. Trefnir y cyrsiau hyn gan GolegPriofysgol Cymru Caerdydd. Y gost yw £73 am 27dosbarth hyd at y Nadolig gyda chwrs arall yn dilynar ôl y Nadolig.

PontypriddNos Lun/Fawrth/IauDydd Llun/Mercher/IauYsgol Gyfun LlanhariNos Lun/Mercher/Iau

2 Hydrefymlaen7-9 y.h.

10-12 y.b.6 Tachwedd ymlaen

6:45-8:45 y.h.

Mae Menter Taf-Elái yn cynnig grantiau bychain ihelpu pobl sydd yn dysgu'r Gymraeg i sefyllarholiad, gwneud cwrs arall megis cwrs preswyl neubrynu deunyddiau dysgu. Dosbarthwyd dros £500mewn grantiau bychain llynedd ac Thagwelir y byddswm tebyg yn cael ei dosbarthu eto eleni. HoffaiMenter Taf-Elái gydnabod ymdrechion dysgwyr yrardal sydd yn codi yr arian yma er mwyn eidosbarthu i ddysgwyr eraill.

Am fanylion pellach:Steffan Webb

Swyddog Datblygu Menter Taf-EIái01443 226386

Page 3: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Cyfarchion o'r Gadair

Fel un o sulfaenwyr CYD ac aelod o gangen CYDArdal Aberystwyth ers 1982, a ChadeiryddCenedlaethol CYD 1995/96, mae'n bleser o'r mwyaf i'chcyfarch gan edrych ymlaen at flwyddyn Uawngweithgarwch a chyfeillgarwch. Mae'n fraint ac ynanrhydedd i fod yn gadeirydd ar gymdeithas sy ar findatblygu a chydio'n gryfach nag erioed, gydaSwyddogion Cyswllt wedi'u penodi yng Ngwynedd,Clwyd, Powys a Dyfed hyd yma, i ysgogi a threfnugweithgareddau cymdeithasol difyr ar gyfer dysgwyr aChymry Cymraeg.

Dros y blynyddoedd dw i wedi cael fy ysbrydoli gansawl person, ac mae sawl un wedi dylanwadu arnafhefyd - diolch iddynt am fy ngnhynorthwyo i groesi'rbont, yn enwedig fy ffrind Felicity Roberts am ei ffyddynof fel athrawes Gymraeg. Wrth ddysgu Cymraeg fyhun fel dysgwraig ac athrawes dw i wedi cael llawer ohwyl, ac wedi gwneud llawer o ffrindiau mewndosbarthiadau Cymraeg a gweithgareddau CYD. Dw iwedi teimlo embaras hefyd, wrth ynganu rhai geiriau'nanghywir, fel gofyn am raw yn fy niod, a'r boen ogamdreiglo, ond gydag amser mae popeth yn gwella.Dw i'n berson sy'n cael syniadau - maen nhw'n Uifo i'mpen yn ddi-ri, heb i mi wneud dim, a dw i'n gobeithiobyddant yn Uifo cyn rwydded ag erioed er lles yGymdeithas.

Logo CYDRhaid i ni ddiolch i'r diweddar Dan Lynn James am uno'r pethay mwyaf pwysig sy gynnon ni heddiw, hynnyyw, LOGO CYD. Mae mor syml - dau berson ynwynebu'i gilydd, yn siarad - sgwrsio - llefaru, a dynabeth yw CYD, dau berson yn siarad Cymraeg.Hwyluso'r sgwrs 'na yw nod CYD - galluogi'r ddauberson i ddod ynghyd i sgwrsio yn y Gymraeg, un ynddysgwr/aig a'r llall yn siaradwr/aig r(h)ugl y Gymraeg.

Dyfodol CYDMae llawer ohonoch chi wedi bod yn gofyn beth ywhanes CYD ers i ni golli'n grant canolog. "Roedd cryndristwch wrth ffarwelio â'r Cyfarwyddydd, Ellen apGwynn a'r Swyddog Cyswllt, Anne Richards ar ynawfed o Fedi, ond 'roedd rheswm i lawenhau hefydwrth i ni groesawu'r chwe swyddog cyswllt i'n plith.'Does dim swyddogion cyswllt wedi'u penodi ar gyferGorllewin Morgannwg, Morgannwg Ganol a Gwent,ond mae'r sefyllfa dan drafodaeth ar hyn o bryd. Trwyhaelioni Cyngor Dosbarth Meirionydd bydd modd iCYD hysbysebu am Swyddog Cyswllt arall i weithio ymMeirionydd cyn bo hir.

Mae swyddi'r Swyddogion Cyswllt eraill yn cael euhariannu gydag arian sy wedi ein cyrraedd trwy'rConsortia, arian gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ydy o,arian a ddyfamwyd i'r consortia er mwyn iddyntddarparu gweithgareddau cymdeithasol i ddysgwyr.Ond dewisodd y Consortia wneud y gwaith hwn drwy

ddefhyddio CYD fel asiant gyda'r holl rwydwaith a'rcysylltíadau gennym yn barod. Nid oedd modd i ni gaelyr arian yn uniongyrchol gan y Bwrdd, ac fel y gallwchddychmygu mae wedi achosi llawer mwy o waith i ni -diolch i Ellen am wneud y rhan fwyaf o'r gwaith cyniddi adael.

Bydd CYD yn wynebu'r her newydd o greu rhwydwaithcenedlaethol dan arweiniad Swyddogion y PwyllgorGwaith, ac yn ystod y misoedd nesaf byddwn ni'nchwilio am nawdd i ariannu prosiectau cenedlaetholnewydd. Dan ni'n gobeithio codi digon i ariannu'rgwaith craidd, hynny yw, y costau gweinyddol, ac yn ypen draw penodi cyfarwyddydd.

Mae gan bob un ohonoch chi sydd yn gysylltiedig â'rGymdeithas ran bwysig iawn i chwarae yn ystod ymisoedd nesaf, trwy fod yn gefri i'ch Swyddog Cyswlltgan gynnig eich syniadau ac awgrymiadau am y math oweithgareddau a fyddai'n apelio atoch.

Gofiwch fod modd cysylltu â'n Swyddog Ymholiadau,Christine Smith, yn Swyddfa CYD rhwng 9.30 a 3.30dydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau neu adael neges ary peiriant ateb ffôn. Dan ni'n edrych ymlaen at glywedeich newyddion hefyd.

Jaci Taylor

Euro Walk 2000Iwerddon De a'r Gogledd

Ym mis Hydref 1995, bydd pobl Iwerddon, Ewrop a'r bydyn dathlu ei blwyddyn o heddwch. Mae EurowalkIwerddon yn siwrnai arbennig i gefnogi prosiectau sy'ncynnal cyfeillgarwch, gobaith ac iechyd yn yr amser hwn onewid hanesyddol.

Cynhelir gweithgareddau amrywiol ledled Iwerddon achef d yn Gogledd Cymru. Am wybodaaeth pellach,cysyllter â Paulette Agnew (Cyd-lynydd Eurowalk)

d/o 15 Ffordd Caergybi,BANGOR, LL57 2EGFfôn: 01248 370076

Atebion i groesair (rhif 21)

Ardraws: l.Cyfandir 10. Ymeffeithiol 11. Ri 12. Fe13. Adran 14. Oer 15. Eiddo 16. Wyr 17. Isaf 19. Ci21. Cwrw 22. Ymwelwyr 24. YntauIlawr: l. Cyfarwyddyd 2. Ym 3. Fe 4. Affrae 5. Neídr6. Di 7. Ithfaen 8. Rieni 9. Glawog 14. Oriawr 18. Ail20. IV 21. Cyn 23. Wy

Page 4: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Cwis Cenedlaethol Gweithgareddau i'r Gangen

Pencampwyr y Cwis

Tîm Cangen CYD Abertawe oedd pencampwyr CwisCYD 1995. *Roedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfodym Mro Colwyn a Changen CYD yr Wyddgrug ddaethyn ail, tîm Ystrad Fflur Ceredigion yn drydydd, a thîmMerched y Wawr y Bala enillodd y bedwaredd wobr.

Aelodau tîm CYD Abertawe yw Adrian Rees, NormanHarris, Colin Hopkins, Clive Manison, Mark Stonelakea Peter Williams. Y Cwisfeistr yn y rownd derfynoloedd Siôn Meredith a rhoddwyd y gwobrau hael ganFanc y Midland.

Dafydd Gwylon

Cystadlu yw'r peth

Fe gyrhaeddodd tîm Ystrad Fflur rownd derfynol CwisCYD 1995 ar ôl bod yn gyfartal â thîm CYDAberystwyth yn y rownd gyntaf, ac ennill o drwchblewyn yn yr ail rownd.

Pan oedd y tîm yn eistedd dan gysgod ymbarél mawr ary maes 'roedden nhw'n teimlo eitha hyderus; gwarioddpob un y £100 o wobr drosto a throsto. Unwaithcerddon nhw i mewn i Babell y Dysgwyr newidiodd yteimlad oherwydd bod y timau eraill yn edrych yn f yhyderus. "Roedd timau o'r Wyddgrug, Abertawe a'rBala.

Mae tîm Ystrad Fflur wedi rhoi'r ffidil yn y to onddoedd e ddim yn ddigon. Daeth Ystrad Fflur yndrydydd gydag Abertawe yn gyntaf a'r Wyddgrug yn ail.Un pwynt yn unig oedd rhwng y timau.

Mwynhaodd pawb y ddwy awr o hwyl ac wi'n siwr fodpawb yn edrych ymlaen at Eisteddfod 1996 ym MroDynefwr.

Janice M'Connochie(aelod o'r tîm a ddaeth yn drydydd)

Oes angen llenwi pum munud ar y diwedd weithiau,neu torri'r iâ wrth ddechrau? Dyma un neu ddau osyniadau i gadw wrth gefn. Mae nhw'n gweithio gydagrwpiau o ddysgwyr neu grwpiau o ddysgwyr aChymry Cymraeg.

1. Beth sy'n gyffredin?

Rhannwch bawb mewn grwpiau i fyny at 5 neu 6 agofyn iddyn nhw feddwl am 3 pheth sy'n gyffredinrhyngddyn nhw. Mi fedran nhw drafod pethau fel llegwyliau, lle geni, lle siopa, hoff lyfr/ffilm ac ati.

Os oes amser (ac awydd) medrwch geisio dod o hyd iUN peth sy'n gyffredin i bawb yn y 'stafell!

2. Pwy ydw i?

Ysgrifennwch enw person ar bapur a gyda seloteprhowch un ar gefn pob person yn yr ystafell. Mae'nrhaid iddyn nhw siarad gyda'i gilydd a gofyn cwestiwni ddarganfod pwy ydyn nhw. Yr ateb bob tro ydyie/nage/oes/do/oedd!!

e.e Ydw i'n byw rwan? Cymro ydw i?

Mae angen enwau mor amrywiol â phosib o bobl sy yny newyddion ar y pryd, i bobl mewn hanes,chwaraewyr pel-droed, cymeriadau ar y teledu mewnopera sebon, cyflwynwyr rhaglenni, sêr pop hen amodern, cymeriadau o lyfrau plant neu gartwnau(Asterisk/Mici Mows). Gwnewch yn siwr eu bod ynenwau cyfarwydd. Gellir addasu'r gêm hefyd. AdegyNadolig fe fedran nhw ddyfalu beth yw'r anrhegionNadolig sy ar y papurau.

3. Disgrifìo person

Rhaid i bawb feddwl am berson sy'n adnabyddus ibawb yn y 'stafell. Rhywun fel y Prif Weinidog,rhywun o'r teledu, neu berson o'r pentref neu o'rgangen ei hun (os ydyn nhw'n fodlon!) Rhannwchmewn grwpiau bach. Rhaid i bob grwp ddisgrifio'rperson yn nhermau un o'r canlynol ac yna esboniopam. (Fe ddylai'r geiriau yma fod ar gerdyn neu ar ywal).

aderyn lliw stori ffilm defnyddtywydd blodyn coeden peiriant tegandodrefnyn gêm llun offeryn anifaillyfr rhaglen dwr dilledyn planed

e.e aderyn Disgrifiwyd Richard Tudor (y dyn oBwllheli a hwyliodd mewn ras yn ddiweddar) felalbatros yn taro'r tonnau.

Cofiwch mai cael hwyl wrth ddefnyddio'r Gymraegydy'r nôd bob tro!

Page 5: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

HWYL HAF yn Nant Gwrtheyrn

(neu ... beth wnes i haf diwethaf)

*Roedd Hwyl Haf eleni yn Uwyddiannus iawn gydathywydd poeth a braf ym mhrydferthwch NantGwrtheyrn. Y man gorau i ymlacio a gwella einCymraeg.

"Roedd tua deg ohonom ni yn y gr p gydag einharweinydd, Dafydd Gwylon.

Buasom yn ymweld â charchar Biwmaris ar Ynys Môn.'Roedd e'n ddiddorol dros ben ond afiachus a dadlennuagweddau penydiol o'r ganrif diwethaf, sef hardlabour, hardfare and hard beds.

Un o'r uchelbwyntiau oedd ymweliad i FlaenauFfestiniog. Cerddasom ni bron filltir i mewn i GloddfaMawr, y gloddfa mwyaf yn Ewrop.

Heblaw teithiau o gwmpas Gogledd Cymru,gwnaethom gwrdd â phobl lleol gan gynnwys UllaWeber Jones, Dysgwraig y Flwyddyn RhanbarthGwynedd, sy'n byw yn Llithfaen. Treuliasom ein amserhamdden yn nofio yn y môr. Adloniant delfrydol oeddhwn gan fod y tywydd mor braf ac mor dawel.

Ar y noson olaf, cawsom Noson Lawen a barbeciw.Daeth Meg ag acordian ac fe 'roedd cerddoriaeth ahwyl tan oriau mân y bore.

Robert Spriggs

Penlôn-lasTALYBONT

Dyfed

Ymwelwyr Hwyl Haf

Ulla Weber Jones oedd enillydd round cyn-derfynolCystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yng Ngwyneddeleni. Mae Ulla yn byw yn Llithfaen gerllaw NantGwrtheyrn, a daeth i'r Hwyl Haf i gwrdd â'r aelodau acateb eu cwestìynau gyda'i g r Merfyn a'r meibion bach,sy'n efeilliaid.

Yn y Noson Lawen yn yr Hwyl Haf 'roedd MegBrowning a Neil o Fraichmelyn, Bethesda, a'u ffrindStuart yn difyrru ar eu hofferynnau cerdd a dawnsiodipyn bach hefyd.

Ar y dydd Sul daeth teulu Cymraeg o Bwllheli i ymweldâ'r Nant, sef Malcolm ac Annwen Hughes, FfermYorkhouse, a'r plant Geraint, Dafydd, Eilyr a Malan.Ffermwr yw Malcolm, ac mae Annwen yn gwneudllawer o waith gwirfoddol ers graddio'n y Brifysgolmewn Seicoleg. 'Roedd yn gyfle i aelodau iau yr HwylHaf gyfarfod â Chymry ifainc o'r ardal, hefyd.

Dafydd Gwylon

Annwyl Olygydd

Carwn drwy gyfrwng Cadwyn CYD ddiolch ynddiffuant i CYD a rhaglen Hywel Gwynfryn am y cyfle iennill gwyliau Hwyl Haf '95 yn Nant Gwrtheyrn o 18-26 Awst.

Cefais i a'm g r Hefin wythnos ardderchog. Braf oeddcwrdd â rhai o Swyddogion CYD a'r dysgwyr, a chaelein rhyfeddu gan safon Cymraeg y dysgwyr a oedd yndod o Lundain, Southampton, Hwlffordd, Abertawe,Caerdydd, Sweden a'r Unol Daleithiau. Maent i'wllongyfarch yn fawr am ddysgu'r Gymraeg mor dda.

Carem hefyd ddatgan ein diolch i weithwyr y Nant ac istaff Caffi Meinir am y prydau bwyd rhagorol. *Roeddhi'n bleser cael aros yno drwy gydol yr wythnos, ahonno'n wythnos heulog braf. "Roedd y gwmniaeth, allonyddwch arbennig y Nant yn brofiad i'w drysori.

Gyda Uawer o ddiolch

Rita Llwyd

CANOLFAN IAITHGENEDLAETHOLNANT GWRTHEYRNTHE NATIONAL LANGUAGE CENTRE

Y gwasanaeth cyflawn i ddysgwyrProviding a complete service

to learners of all levels

Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6PAFfôn/Tel: (01758) 750334 Ffacs/Fax: (01758) 750335

Newid cyfeiriad Catchphrase

Yn y gorffennol gwrandawoch chi ar Catchphrase ar RadioCymru. O 2*' Hydref ymlaen mae'n ar gael ar Radio Wales(882 KHz MW/AM) Dydd Llun-Gwener am 10 y.h.Mae'r myfyriwr blwyddyn 1 eleni yn Nigel Walker,chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Y derbyniad ehangach yw'r mantais y lleoloiad newydd.Pan dych chi'n teithio trwy Iwerddon, yr Alban, yrIseldiroedd, Frainc ... ac ati, dych chi'n gallu cadw i í nnyefo'r cwrs a'ch astudiaethau. Dyma'r cam arall ymlaen at yfíliwn !

Page 6: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Bwrlwm Pabell y DysgwyrEisteddfod Bro Colwyn

'Roedd gweithgareddau a drefnwyd ym Mhabell yDysgwyr Eisteddfod Bro Colwyn yn rhoi cyfle di-bendraw i'r dysgwyr i glywed y Gymraeg, i siaradCymraeg yn ogystal â chymryd rhan mewnamrywiol weithgareddau a gwersi Cymraeg dyddiol.

Da oedd gweld cynulleidfa dda yn y rhagbrofion bobbore a nifer helaeth o ddysgwyr yn cystadlu. Rhaidcanmol y dysgwyr am gystadlu mor frwd yn eihailiaith. Gwnaeth Triawd Caeran (Carol, Iola,Bethan) argraff dda yno hefo'i canu gwefreiddiolgan dynnu pobl i wrnado tu mewn a thu allan i'rbabell. Orig ddifyr arall oedd dysgwyr CanolfanIaith Clwyd yn cyflwyno rhaglen ddiddorol acamrywiol a phawb yn haeddu clod am euhymdrechion.

"Roedd y babell dan ei sang i glywed Dafydd Iawanyn canu'r hen ffefrynnau a phawb wrth eu bodd ynymuno yn yr hwyl. Ef oedd arweinydd seremonicyflwyno gwobrau Adran y Dysgwyr gyda PaulAttridge (Dysgwr y Flwyddyn 1995) yn cyflwyno'rgwobrau i'r enillwyr. "Roedd y babell yn orlawnhefyd ar gyfer rownd derfynol Cwis CYD a phawbyn mwynhau hwyl a sbri a dysgu llawer hefyd. Buplant o ysgolion yr ardal yn rhoi adloniant dyddiolac 'roedd cwis gwahanol i'r dysgwyr bob dyddynghyd â sialens iddynt gystadlu yn erbyn rhai oenwogion.

Bum i'n bersonol yn ffcxius o fod yn diwtor yn ybabell drwy'r wythnos yn rhoi gwersi Cymraeg iddysgwyr Lefel 3. "Roedd safon iaith y dysgwyryma yn rhywbeth i'w ryfeddu ato. Tloedd rhai yno oPortsmouth, Lancaster, Efrog, Dyfnaint, eraill arhyd a lled Cymru ac un wedi dod i'r Eisteddfod amwythnos o Rufain i ymarfer ei Gymraeg a ddysgoddei hun gyda llyfrau.

Fedra i ddim canmol difon ar y dysgwyr yma fu'ndod yn rheolaidd i'r gwersi bob dydd - 'roeddennhw'n wych ac yn codi cywilydd arnon ni'r CymryCymraeg am eu dygnwch a'u dyfalbarahad iddysgu'r iaith. Do, mi ges i wefr arbennig iawn yngnghwmni'r dysgwyr ym Mro Colwyn. Rhaid diolchhefyd i Swyddog y Dysgwyr am ei drefniadautrylwyr.

Yn ystod misoedd Medi, Hydref, Tachwedd aRhagfyr gobeithiaf fynd o gwmpas ardal YGlannau, Dyffryn Clwyd a Glynd r i sefydlu neuailsefydlu clybiau CYD er mwyn rhoi cyfle i'rdysgwyr gwych sydd gennym yn y fro i ymarfer euCynìraeg ac i ddod yn rhan o'r gymuned ac i ymunoyn yr amrywiol weithgareddau.

Eirlys Wynn TomosSwyddog Cyswllt CYD - Gorllewin Clwyd

DYSGWR Y FLWYDDYN

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Paul Attridge, enillyddy gystadleuaeth Dysgwr Y Flwyddyn eleni. Dyma lun

ohono yn cael ei wobrau gan Fred Cunningham,Cyfarwyddwr Coleg Llysfasi, Rhuthun

Geirfadibendrawamrywiolcynulleidfarhagbrofiongwefreiddiolorigdifyrhaedduymdrechionffefrynnaugorlawnrhyfeddurheolaiddcywilydddygnwch a

dyfalbarhadgwefrtrefniadautrylwyrcymuned

- endless- various- congregation- preliminary tests- thrilling- a little while- pleasant- to deserye- efforts-favourites- overflowing- to amaie- regular- shame- perseverance

- thrill- arrangements- thorough- community

6

Page 7: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Gwyl Haf Genedlaethol CYD

Cynhaliwyd G yl Haf Genedlaethol CYD ddyddSadwrn, 15 Gorffennaf yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.Diwrnod i'r teulu oedd hwn, yn blant ac oedolion, ynGymry Cymraeg a dysgwyr. Trefnwyd nifer oweithgareddau yn ystod y dydd a'r nôd oedd cynnigamrywiaeth o ran cynnwys a lefel ieithyddol pobgweithgarwch.

Diddanwyd y plant yn ystod y bore gan Martyn Geraint(Slot Meithrin), siaradodd yr Athro Hywel Teifí Edwardsar Ddiwylliant Cwmtawe a Mrs Fiona Wells arDafodiaith y Cwm. Cafodd nifer o'r dysgwyr fwynhadwrth wrando ar Ellen Rhys yn sôn am ddeunydd Acen iddysgwyr a thrwy chwarae gemau iaith. Cynhaliwyd ailrownd Cwis Cenedlaethol CYD gyda thîm CYD TTawe yn llwyddo i guro timau Aberhonddu a'r Rhonddaam le yn y Rownd Derfynol yn Eisteddfod Bro Colwyn.

Cynhaliwyd Twmpath yn ystod yr awr ginio yngnghwmni'r gr p gwerin lleol, Jac-y-Do. 'Roedd yTwmpath yn fodd i ddysgwyr gymdeithasu yn hollolnaturiol â Chymry Cymraeg a dysgwyr eraill ac ymarfereu Cymraeg.

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Bêl-droed pump-bob-ochr ynystod y prynhawn gydag wyth tîm yn cystadlu. 'Roeddhi'n gystadleuaeth gyfírous ac agos iawn gyda thimauCYD T Tawe a thîm yr Allt-wen yn cyrraedd y RowndDerí nol. Llwyddodd tîm T Tawe i guro'r tîm lleol acfe'u gwobrwywyd gan y peldroediwr proffesiynol, MarkAizlewood sydd hefyd yn ddysgwr.

Daeth y diwrnod i ben yng nghwmni'r gantores, HeatherJones. 'Roedd fíreutur yr ysgol dan ei sang â phawb ynmwynhau clywed llais swynol Heather Hones yn canurhai o'r hen fFefiynnau ac ambell i gân newydd hefyd.Symbolaidd iawn ar achlysur o'r fath oedd geiriau'rclasur, "Colli Iaith". Diweddglo priodol iawn i'r Wyl.

Geirfacynhaliwydgweithgareddauamrywiaethieithyddoldiddanwyddiwyllianttafodiaithcystadluswynolachlysurpriodol

- washeld- activities- variety- linguistic- were entertained- culture- dialect- to compeíe- charming- occasion- appropriaíe

CRONFA APÊL CYDCasglwyd swm sylweddol o arian at Gronfa Apêl CYDym Mhabell Golwg yn Eisteddfod yr Urdd Bro'rPreselau yn ogystal ag ar Stondin CYD ym Mhabell yDysgwyr. Diolch i Mary Davies a Chyfarwyddwr a staffy cylchgrawn Golwg am eu cefhogaeth hael, ac nichofnodwyd y gefnogaeth yn y CADWYN diwethaf.Erbyn hyn y mae bron £3,000 wedi dod i law tuag at ytarged o £20,000.

Page 8: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Newyddion o'r Canghennau

CANGEN CYD CASTELL NEWYDDEMLYN

CLECS CLWYDO'r gorffenol ifr dyfodol

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf 1995 ym Maes Llewellyn achawsom noson Uawn hwyl a sbri. Cadeirydd y nosonoedd Betty Hutchinson a'r g r gwadd oedd GwynforThomas o Felindre. Rhoddodd Gwynfor gwis i ni âchwestiynau am lawer o bynciau yn cynnwys Cymru,pobl, hanes chwaraeon a gwybodaeth gyffredinol.Cawsom noson ddoniol a diddanol a dysgom lawer offeithiau diddorol. Diolch i Gwynfor am ei ymdrechgyfeillgar drosom.

Cadeiriwyd y noson ym mis Chwefror gan Ken Jones achawsom daith o gwmpas yr Alban mewn sleidiau ganMary Stephenson. Aethom i'r Ucheldiroedd a draw iYnysoedd Heledd a gwelsom draethau gwyn,mynyddoedd uchel a golygfeydd hyfryd.

Edrychwn ni ymlaen at ein cyfarfcxiydd misol yngnghartref hen bobl Maes Llewellyn lle cawn groesocynnes gan y Prif Swyddog Nyrsio Mrs McCreary a'istaff. Estynnir croeso i aelodau eraill CYD ymuno â niyn ein gweithgareddau; rhagor o fanylion ar gael oddiwrth y Cadeirydd Ken Jones, ffôn (01239) 811301.

Yn y llun hwn cwrddodd aelodau y tu allan "BwlchMelyn", lle ganed yr awdur a bardd adnabyddus T. LlewJones, ger Pentrecwrt. Wedyn aethom draw i BontAlltcafan yn Nyffryn Teifí lle darllenwyd ei gerdd "CwmAlltcafan a chlywsom hanes yr ardal. Arweinyddion ywibdaith hon oedd Betty Jenkins a Morwenna Davies.Cafwyd swper bendigedig wedyn yn nhy Morwenna ardiwedd noson lwyddiannus iawn.

Dechreuon ni'n dwy ar ein gwaith ddechrau mis Medi1995. Eisoes dan ni wedi dechrau casglu enwaugwirfoddolwyr, cysylltu â mudiadau eraill, ac anfonUythyrau i'r papurau bro. Dydy'r cyrsiau Cymraeg ddimyn dechrau tan yr wythnos olaf ym mis Medi, fellybyddwn yn ymweld â'r dosbarthiadau i gael sgwrs hefo'rdysgwyr a'r tiwtoriaid. Gobeithio wedyn y byddwn ni'ngallu sefydlu canghennau neu glybiau CYD mewngwahanol ardaloedd yn y sir. Rydyn ni'n edrych ymlaenat weld llawer o ddysgwyr Clwyd yn ymaelodi ac yn dodyn aelodau o CYD.

Eirlys ac Elwen - Swyddogion Cyswllt Clwyd

CANGHENNAU DYFED

Megan Thomas yw cyswllt newydd Cangen CYDPenfiro a'r Cylch. Rhif ffôn Megan adre yw (01834)811293. Claire James oedd Cyswllt Penfro, ond maeClaire wedi symud i fyw i Langynin, ger San Clêr.Diolch yn fawr Claire am y gwaith i CYD Penfro, a'rdymuniadau gorau yn y cartref a'r ardal newydd.

Ken Jones yw cyswllt CYD yng Nghastell NewyddEmlyn rhif ffôn (01239) 811301. Mae CYD CastellNewydd wedi bod yn cwrdd trwy'r haf yng nghartrefirhai o'r aelodau; mae rhaglen wedi ei pharatoi ar gyferyr Hydref hefyd.

CODI ARIAN YN NHREGARON

Gwelwyd gyrfa aelodaeth ym Mis Medi i ddechrau'rtymor newydd. Ein neges oedd;

ar y strydar draws y rhydo gwmpas y byd ar y cyd!

Treuliasom bedair awr yn y sgwâr, Tregaron, gyferbynâ'r Neuadd Goffa, er mwyn tynnu sylw atom. Ac fegawsom ddigon o sylw gan yr eisteddfodwyr.Gwnaethpwyd £144 o elw drwy werthu cacennau a rafflac fe wnaethpwyd £32 o elw i CYD yn ganolog drwywerthu mygiau a bathodyn a.y.y.b.

Er fod llawer o bobl heb ymuno, 'roedd y diwrnod yngyfle reit braf i ddod at ein gilydd mewn un dasg, ac ilansio ein rhaglen ar gyfer yr Hydref.

Peter Gilbert

8

Page 9: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Ffilmiau yn Sir Benfro

Mae Megan Thomas wedi ymuno â CYD yn sir Benfroyn ddiweddar, ar ôl symud i Ddinbych y Pysgod yllynedd o Fryste. Mae Megan yn gweithio ibartneriaeth leol sydd yngl n â pharatoi cyfresi clasuronwedi eu hanimeiddio ar gyfer S4C a'r teledu. MaeBBC2 yn dangos Operavox, cyfres o chwech operaboblogaidd, wedi eu crynhoi i hanner awr o hyd, a'ugwneud yn fyw trwy animeiddio.

Mae Cwmni Megan yn ymwneud â'r gwaith ar yffilmiau, o'r cam cyntaf, gyda'r syniad dechreuol, acymlaen at ysgrifennu'r sgript a recordio ac animeiddiones bo'r gyfres yn y diwedd yn cyrraedd ein sgrin.

Geirfaclasuron wedi'u hanimeiddiocyd-gynhyrchiadauclasuron llenyddolcrefyddau'r bydtrac sainaddasu

- animaüon classics- co-producüon- literary classics- worldfaiths- sound track- to adapt

Papageno a'r fîliwt hud o'r gyfres Opera Vox

Mae'r cyd-gynhyrchiadau gan S4C/BBC yn parhau gydachyfres o ffilmiau epig wedi eu seilio ar y Beibl; mae'rgwaith animeiddio yn cael ei wneud ym Moscow (ganChristmas Films Cyf.) ac yng Nghaerdydd (Cart nCymru Cyf.). Mae Rheolwr Animeiddio S4C, ChrisGrace yn anelu at barhau'r cynllun o gyflwyno pynciauanodd i gynulleidfa fwy trwy animeiddio pynciau, megisy clasuron llenyddol a chrefyddau'r byd. Recordir tracsain pob ffilm yn gyntaf yn Saesneg a Chymraeg, ac ynagellir eu haddasu ar gyfer unrhyw iaith arall yn fydeang.

CYD YN CYDIOo hanesìon difyr am ý

rnlynedd cyntaf

Boaz a Ruth o'r gyfres wedi'i seilio ar y Beibl

NWYDDAU CYDMae nwyddau newydd gyda ni! Béth am anfoni'r swyddfa?

Mygiau - (logo coch ar wyn i ddathlu'rdengmlwyddiant)

Beiros - (aur a du - 'Cymry Cymraeg aDysgwyrary CYD')

Bathodynnau('Rydw i'n dysgii Cymraeg)

Sticcri car CYDSticeri 'Siaredir Cymracg Yma'Detholiad o Cilmcri mcwn ysgrifcn cainCardiau Nadolig

(pecynnau o 10)Gair am AirTapiau Aberporth

@

@

@@@@

@@f

archeb

£2.00

£6

£2£2£3

70

40404000

009550

9

Page 10: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

SIOP Y PENTRE(neu ... tymor newydd yr ysgol nos)

DEI: Wel, Sal! Mae'r amser yma eto. Beth wyt ti'n mynd i gofrestru ar gyfer eleni?

SAL: Dw i heb feddwl llawer am y peth, ond mae gennyf ryw chwant i ddysgu Eidaleg.

DEI: Eidaleg? I ba pwrpas byddet yn defnyddio Eidaleg yn y lle bach yma? Neu wyt ti'n gwybod rhywbeth nadwyf i'n gwybod? Ti wedi bod yn prynu pasta yn aml yn ddiweddar, mae'n rhaid dweud.

SAL: So, pe baswn i wedi bod yn prynu llawer o reis, byddet yn dweud mai rhywbeth fel Urdu dylswn i gofrestruamdano? Paid â bod mor dwp Dei - ffansi yn unig yw Eidaleg. Pwy a wyr, efallai rhyw ddydd caf gyfle ifynd i'r Eidal, dim fod llawer o obaith o hynny ar y foment yma - arian yn sobor o brin!

DEI: Well, pob lwc i ti Sal fach, os dyna beth wyt ti eisiau - ma guts 'da ti, mae'n rhaid i fí ddweud. Dw i wedipenderfynu cofrestu ar gyfer Karate. Ha-ha! Falle dof i 'da ti i'r Eidal pan ei di yna i safio ti rhag y Mafíapan byddi yn ceisio siarad yr iaith!! Maen nhw'n dweud bod y bois 'na yn very toiwhy - falle neud di ddweudrhywbeth heb feddwl!!

SAL: Dynafete! I ni wedí trefnu ein gwyliau hefyd, dim dim ond ein dosbarthiadau. Wela i ti eto, Dei. Pob hwyl!

GeirfacofrestuelenichwantEidalegprynu

- register- thisyear- a desire- Italian- buy

twppwy awyrcyflesobor o brinpenderí nu

- stupid- who lcnows- opportunity- very scarce- decide

CYD - yma o hyd

Aelodau'r Pwyllgor Gwaith CenedlaetholO'r chwith i'r dde: Shirley Williams (Swyddog Bugeilio); Emyr Wyn Morris (Trysorydd);Neil Baker(Is-gadeirydd): Jaci Taylor (Cadeirydd); Gareth Hughes; Chris Smith (Swyddog Ymholiadau); FelicityRoberts; Fran Disbury; Mary Davies; Menna Jones; Anne Parry; Prifathro Bobi Jones (LlywyddAnrhydeddus); Eileen Price-Jones.

10

Page 11: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

'Cymry ddoe'gan Catrin Stevens

(YLolfa, 1994 £3.95 0-866243-328-2)

Ymgais tra chlodwiw i gyfleu rhyw faint o hanes Cymru i'rrhai nad ydyn nhw'n gyfarwydd iawn â fe yw'r llyfr hwnMae'r awdur, Catrin Stevens, wedi dewis deuddeg o'rffigurau allweddol o orffennol ein cenedl o'r 6ed ganrif hydat yr 20fed ac wedi cyflwyno'r hyn a wnaethon nhw yn eucyd-destun hanesyddol mewn iaith fywiog, digon hawdd eidarllen. 'Dyw'r awdur ddim wedi anwybyddu rhai o'ragweddau mwy anhyfryd chwaith. Mae hi'n egluro hefydsut mae'r bobl hyn yn o hyd yn berthnasol ac yn bwysig iGymru heddiw, ac yn esbonio'r daleuon amdanyn nhw sy'nparhau hyd heddiw.

Rhoddir daarlun cryno gofalus o bob un o'r deuddeggwrthrych, gan gynnwys disgrifíadau o'u prif weithredoedd,gyda thipyn o'u cefìidir teuluol a daearyddol. Ymhlith ycymeriadau mwy anarferol eu cynnwys mewn llyfr fel hwnyw Aneurin Bevan, pensaer y 'Gwasanaeth IechydGwladol', Edward Llwyd, academydd amlochrog eiddoniau, ac Ann Griffiths, emynydd a chyfrinydd.

Mae geirfa wedi'i osod ar wahân i'r testun ar bob tudalen.Mae hynny'n dda ond rhaid dweud bod ychydig o wallau,sef defnyddio geiriau benthyg, rhai fíùrfiau gramadegolSaesneg yn lle'r rhai Cymraeg, a newid cyweiriau'rGymraeg trwy'r llyfr. Serch hyn, faswn i ddim yn petrusorhag cymeradwyo'r gyfrol rhagorol hon i unrhyw un sy'ndysgu'r Gymraeg o ddifri ers cyfiiod gweddol hir o amserac sydd am gael rhywbeth o sylwedd i gnoi cil arno.

Geirfaclodwiwcyd-destun hanesyddolgweithred(oedd)daearyddolemynyddcyfrinyddgwall(au)cywair (cyweiriau)petruso rhagcymeradwyocnoi cil arno

Andy Missell

- praiseworthy, commendable- historical context- action(s)- geographical- hymn writer- mystic-fault(s)- register (ìevel oflanguage)- to hesitate to- to recommend• to mulì over, to consider

Cofiwch - mae CYD ar y We

Cysylltwch âhttp ://www. aber. ac. uk: 80/~welwww/

Ydych chi'n siarad Cymraeg? Ydych chi'n dysguCymraeg? Ydych chi'n hoffi cymdeithasu? Os mai"YDW" yw'ch ateb i un neu fwy o'r cwestiynau hyn -CYD yw'r mudiad i chi!

Gyda CYD fe gewch chi'r cyfle i ddefnyddio'chCymraeg gyda siaradwyr Cymraeg eraill mewnawyrgylch hamddenol a chymdeithasol yn ogystal âchael cymryd rhan mewn llu o weithgareddau moramrywiol â nosweithiau carioci a chwis,penwythnosau llenyddiaeth a bowlio-10.

Trwy lenwi'r ffurflen hon, gallwch chi hefyd ymuno âCYD. Wedi'r cyfan, beth all fod yn well na mwynhaueich hun tra'n siarad Cymraeg?

Siarad Cymraeg tra'n mwynhau eich hun, o bosib?

FFURFLEN YMAELODI CYD 1995-96

ENW

CYFEIRIAD

CÔD POST

RHIF FFÔN

CANGEN (os oes un)

TÂL £

Aelodaeth blwyddyn i unigolion£5.00£2.00 i fyfyrwyr, pensiynwyr a'r di-waith

Aelodaeth corfforaethol£20 i fudiadau gwirfoddolDim llai na £50 i gyrff cyhoeddus a phreifat

Aelodaeth unigolyn am oes£100

RHIF AELODAETH 1994/5

Hoffwn dderbyn gwybodaeth am y gweithgareddaucanlynol:

D Enw'r gangen agosafD Cyfeillion llythrD Cyfeillion ffônD Llyfrau a chyrsiau i ddysgwyr

DYCHWELWCH AT:

CYDYr Hen GolegHeol y BreninABERYSTWTHDyfed SY23 2AXFfôn/Ffacs (01970) 622143

Rhif Elusen CYD 518371

11

Page 12: Swyddogion Cyswllt Newyddcyd.org.uk/uploads/cadwyn21.pdf · Delma Thomas Julie Brooker Dafydd Gwylon Gwyneth Rowlands (01745) 813714 Gorllewin Clwyd ... Steffan Webb Swyddog Datblygu

Geiriadur yr Academi CymreigThe Welsh Academy English-Welsh

dictionarygan Bruce Grifíîths

(Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 £40.00 0-7083-1186-5)

Dyma'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawrerioed. Mae'n agor y drws i gyfoeth y Gymraeg wrth iddiaddasu at of nion meysydd newydd megis masnach agweinyddiaeth, addysg a'r cyfiyngau torfol. Bydd ynangenrheidiol i Gymry Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd acyn hawlio'i le ymhob cartref, ysgol a swyddfa yngNghymru, ac mewn llyfrgelloedd a phrifysgolion drwy'rbyd.

Mewn 1750 tudalen mae'n cynnwys geiriau cyfystyr,dyí niadau eglllurhaol, priod-ddulliau, lleoliad yr acen,amrywiadau rhanbarthol, yr iaith llenyddol a'r iaith lafar,termau arbenigol a thechnegol ac enwau lleoed ac enwaupersonol. Gwerth y pris yn llwyr; codwch ail forgaisheddiw !

UCACYR UNIG

NDEB

A REOLIR GANTHRAWoN

CYMRU

HOLWCH > FFONIWCH > YMUNWCH

(01970 615577)

G0LWGGOLWG GYFLAWN AR GYMRU A'R BYD

'Dych chi'n edrych am gylchgrawnffres, Hiwgar a bywiog?

'Dych chi'n edrych am gylchgrawn sy'Ddefnyddio îaith ystwyth a naturiol?

'Dych chi am ddarllcn am bethau sy'nbwysig i chi ac i Gymru?

'Dych chi am ddarllen am bcthau cyfoesa chyfîrous ac ar yr un pryd ymestyncich defnydd o'r iaith Gyraraeg?

Newyddion, Chworoeon, Swyddi- a llower mwy!

Ewch i'ch siop leol a gofyn am gopi o Golwgoeu cysylltwch ft ni i gacl copi

o Golwg pob dydd Iau drwy'r post.

Golwg, 13 Strydy Bont, Llanbedr Pont Steffan,Dyfed. SA48 7LXRhifffôn 01570 423 529.

*Six Thousand Welsh Wordsf

gan Ceri Jones

(Gwasg Gomer 1995 £6.95 1 85902 162 X)

Mae'r gyfrol hon yn un anarferol iawn, sef un gyda blyrbsy' ddim yn twyllo'r prynwr. Mae nhw'n hawlio bod hi'ncynnwys nifer mawr (6,000 - wrth gwrs !) o eiriaugwerinol cartrefol wedi'u trefnu yn ôl priod-ddull argyfleuster y dysgwr. Ac dw i'n cytuno'n llwyr. Maegwan-galondid yn sicr pan dych chi'n ceisio paratoipynciau ar gyfer arholiadau wrth ddcfnyddio dim ondgeiriadur cyfîredinol. Ond gyda llyfr fel hwn mae'rbusnes yn haws.

Hefyd, gallech chi ddod yn rhan o'r gymuned yn haws achyflymach os dych chi'n astudio'r pennawd perthnasol.Wrth pontio'r ífin rhwng rhestrau geiriau sylfaenol ageiriaduron safonol mae 'Six thousand Welsh words' yneich arwain i mewn i sgyrsiau'r tafarn, boreau coffi ac ati.

Y peth cyntaf gwnes i oedd chwilio am eiriau a chymalaulliwgar sy' ddim ar gael fel rheol mewn dosbarth [cofifanc o hyd gen i!]. Mi ges i fy siomi, ond dyn doeth sy'ncadw rhai pethau yn ôl ar gyfer y tro nesaf. Mae'r awduryn gweithio ar gyfrol cydymaith, sef arweinlyfr i eiriau acarferion tafodieithoedd. Byddaf i'n ei brynu hefyd.

Fran Disbury

12