sylw ar adal bro morgannwg

16
Bro Morgannwg Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Cynllun er ymddeol Oak Court yn dathlu ei 20fed pen-blwydd Hefyd yn y rhifyn hwn... Cydweithio i gwrdd ag anghenion lleol Gweinidog yn ymweld â chynllun gwyrdd iawn i weld arferion da

Upload: sharon-buckley

Post on 09-Mar-2016

238 views

Category:

Documents


12 download

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for the Vale of Glamorgan area (Cymraeg)

TRANSCRIPT

Bro Morgannwg

Gwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Cynllun er ymddeol Oak Court yn dathlu ei 20fed pen-blwyddHefyd yn y rhifyn hwn...

Cydweithio i gwrdd ag anghenion lleol Gweinidog yn ymweld â chynllun gwyrdd iawn i weld arferion da

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Bro Morgannwg

Staff cynllun er ymddeol Oak Court yn helpu preswylwyr i ddathlu 20fed pen-blwydd y cynllun

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Cydweithio i gwrdd ag anghenion lleol

Rydym wedi llofnodi cyfamod sy’n addo gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl sy’n byw yn ardaloedd gwledig Bro Morgannwg.

Fe wnaeth ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Shayne Hembrow (sydd i’w weld yn y llun uchod) ymuno â’r Cynghorydd Paul Church, aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor Bro Morgannwg, a chynrychiolwyr Cymdeithasau Tai Newydd, Hafod ac Unedig Cymru i lofnodi’r addewid ar dai gwledig wythnos diwethaf.

Mae’r pedair cymdeithas tai wrthi’n datblygu cartrefi newydd yn y Fro, ac er mwyn sicrhau fod anghenion y preswylwyr lleol yn cael eu hateb, mae’r pedwar partner wedi addo rhoi blaenoriaeth briodol i bobl leol sydd angen cartref.

Mae ymrwymiad hefyd i safonau

dylunio uchel yn ardaloedd gwledig y Fro, cadarnhad o safiad moesegol cymdeithasau tai, ymrwymiad i barchu cefn gwlad a chyfraniad tymor hir at gymunedau gwledig cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Church: “Mae dod â’r pedwar partner ynghyd yn dangos ymwybyddiaeth Cyngor Bro Morgannwg o fater sensitif adeiladu cartrefi newydd mewn ardaloedd gwledig, ynghyd â’n hymrwymiad parhaus i helpu pobl ardaloedd gwledig i ganfod atebion i’r broblem dai ddifrifol.”

Dywedodd Shayne Hembrow: “Mae galw mawr am gartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn y Fro, ac rydym yn gweithio’n galed i roi sylw i hyn gyda dau ddatblygiad newydd yn y Barri. Bydd yr addewid hwn yn helpu pob darparwr tai i gydweithio er budd y gymuned.”

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Gweinidog yn gweld arferion da

Fe wnaeth Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ymweld â’n datblygiad diweddaraf ym Mro Morgannwg i weld arferion da ynghylch eco-gartrefi.

Ymwelodd y Gweinidog â Chapel Close yn Sain Tathan yn gynnar ym mis Mawrth ar ymgyrch canfod ffeithiau ynghylch eco-ddatblygiadau yn yr ardal.

Roedd Chapel Close yn gynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi newydd sy’n garedig i’r amgylchedd, gan helpu i leihau biliau tanwydd y preswylwyr ynghyd â gostwng allyriadau carbon.Cafodd y 16 cartref ar gyrion

Sain Tathan eu cwblhau yn ystod gwanwyn 2010, ac mae preswylwyr wedi bod yn byw ym mhob un dan Gynllun Gosod yn Seiliedig ar Ddewis Cyngor Bro Morgannwg.

“Mae darparu cartrefi sy’n fwy gwyrdd yn gallu ysgafnhau’r baich ar yr amgylchedd a chartrefi lle mae arian yn brin. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae pob ceiniog yn cyfrif, ac mae’r nodweddion arbed ynni yn nifer o’r cartrefi hyn yn gallu helpu i leihau biliau tanwydd teuluoedd,” meddai’r Gweinidog, sydd i’w weld yn y llun uchod (yr ail o’r chwith) gyda Paul Wyatt, Lyndon Griffiths ac Alison Pearce o WWHA.

Huw Lewis gydag aelodau o staff WWHA, Paul Wyatt, Lyndon Griffiths ac Alison Pearce

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Grŵp Llywio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mae WWHA yn aelodau o Grŵp Llywio Rheoli Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sydd newydd gael ei ffurfi o yn y Fro, ac sy’n cyfarfod bob chwarter blwyddyn i drafod y prosesau sydd ar waith, ynghyd â thrafod mentrau newydd, cyfl eoedd am gyllid, ac ati.

Treuliodd amser yn cael golwg ar gartref Natalie Pearson (sydd i’w gweld yn y lluniau isod ac ar y dde), sy’n byw yn Chapel Close gyda’i phlant Sienna, sy’n bump oed, Seren, sy’n chwech oed, a Summer, sy’n naw oed.

“Ers i ni fyw yma yn ein cartref pedair ystafell wely yn Chapel Close, mae Sienna, sy’n anabl ac sydd ag afi echyd tymor hir, wedi dechrau cerdded, ac mae hi’n ceisio mynd o le i le yn araf bach, sy’n syrpreis hyfryd,” meddai Natalie.

“Mae ei hysgyfaint gymaint gwell, ac rydw i’n meddwl y gallai’r ffi lteri yn y cartref hwn, sy’n dod ag awyr lân i mewn, fod wedi gwella ei hiechyd. Mae popeth sydd wedi digwydd yn ein bywydau ers i ni ddod i fyw yma wedi bod yn wych.

“Nid yw ein biliau ynni wedi cynyddu o’u cymharu â’r gorffennol, pan oeddem yn byw mewn cartref tair ystafell wely. Yn awr, gydag ystafell wely ychwanegol, mae’r bil yn dal i fod tua £120 y mis, ac rydw i’n cadw’r gwres i lawr grisiau ar dymheredd cyson o 21°, fel y cynghorwyd i mi

ei wneud, ac addasu’r tymheredd yn ôl yr angen ar yr ail a’r trydydd llawr, er bod y llofftydd yn cadw’n gynnes iawn diolch i’r inswleiddio gwych.

“Mae’r holl blant yn hoffi byw yma gan eu bod nhw’n gallu chwarae y tu allan gyda’u ffrindiau. Pan oeddem yn byw yn Boverton, nid oeddwn i’n teimlo ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw fynd allan i chwarae, ond mae byw fan hyn wedi gwella ein bywydau o ddifrif.”

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i’r Fro

Mae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o fl aenoriaethau pennaf WWHA.

Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfl eusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi cytuno ar fargen pecyn gyda’r datblygwyr Taylor Wimpey i ddarparu 20 tŷ ar safl e datblygu mwy o faint yn y Barri, a fydd yn cynnwys 67 tŷ.

Mae’r gwaith wedi dechrau, ac mae disgwyl i’r cartrefi gael eu trosglwyddo mewn dau gam yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn darparu 10 tŷ â dwy ystafell wely i bedwar o bobl, 8 tŷ â thair ystafell wely i bump o bobl a 2 dŷ â phedair ystafell wely i chwech o bobl.

Rydym hefyd yn bwriadu caffael safl e bychan yn y Barri i godi chwe ffl at. Mae trafodaethau yn parhau gyda’r awdurdod cynllunio, ac rydym yn obeithiol y gallwn gytuno ar delerau gyda’r gwerthwr yn fuan iawn.

Ynghyd â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill, rydym wedi cytuno ar delerau i ddarparu tai y mae angen mawr amdanyn nhw yn natblygiad glan y dŵr yn y Barri. Disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud yno yn 2014.

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

Yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Ledled Cymru, rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn). Un enghraifft o’r gwaith hwn yn y Fro yw yn Salisbury Close, Penarth, lle’r ydym wedi buddsoddi £60,000

yn gosod ceginau newydd.

Rydym hefyd wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi ledled Cymru, gan gynnwys cynllun er ymddeol Hanover Court yn Ninas Powys. Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Cartrefi WWHA ar werth yn y Fro

Bridgeman Court, Penarth

• Rhif 9 – rhandy 2 ystafell wely ar y llawr cyntaf – cysylltwch â’r Gwerthwr Eiddo Peter Alan

• Rhif 3 - rhandy 1 ystafell wely ar y llawr gwaelod – cysylltwch â’r Gwerthwr Eiddo Peter Alan

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys 34 rhandy un a dwy ystafell wely dros dri llawr, sy’n edrych dros dir parc, coetir, gerddi cymunol a/neu Fôr Hafren.

Mae preswylwyr yn gallu defnyddio ein Canolfan Larwm mewn Argyfwng 24/7, ac mae pob cartref yn cynnwys cortyn i’w dynnu mewn argyfwng ym mhob ystafell, a rhoddir larymau i bob preswyliwr eu gwisgo o amgylch eu gyddfau.

Byron Court, Llanilltud Fawr

• Rhif 13 - rhandy un ystafell wely ar y llawr cyntaf – manylion gan y Gwerthwr Eiddo Peter Alan

Mae Byron Court wedi ei leoli ym mhentref tawel Boverton, ger tref hanesyddol Llanilltud Fawr. Mae wedi ei leoli ym mhen draw ffordd bengoll, lle mae’r gerddi o’i gwmpas yn cynnig amgylchedd byw tawel a heddychlon.

Mae’r cynllun yn cynnwys 19 rhandy perchnogaeth breifat – gyda phump yn cynnwys un ystafell wely a phedwar ar ddeg yn cynnwys dwy ystafell wely.

Mae gan y ddau gynllun reolwr cynllun rhan amser wrth law, hefyd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran tenantiaethau i bobl hŷn sy’n dymuno rhentu neu brynu eu cartref eu hunain. Rydym yn rheoli 22 cynllun tai ar werth er ymddeol a chynlluniau prydles i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnig amrywiaeth o brisiau a lleoliadau i’r rhai sy’n dymuno prynu.

Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sy’n ystyried prynu cartref yn ardal Bro Morgannwg, mae gennym y cartrefi canlynol ar werth:

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Oak Court yn dathlu ei 20fed pen-blwydd mewn steil

Gwisgodd staff WWHA fel cymeriadau Alis yng Ngwlad Hud er mwyn helpu preswylwyr i ddathlu mewn steil ar ddiwrnod eu 20fed pen-blwydd.

Fe wnaeth ffotograffau o breswylwyr pan oedden nhw’n iau gael eu dangos, gan beri llawer o

chwerthin wrth i bawb geisio rhoi enwau i’r wynebau – nid oedd hynny’n waith hawdd!

Dywedodd Sally, y Rheolwr Cynllun “Roedd yn hyfryd gweld pawb yn mwynhau eu hunain ar y diwrnod arbennig iawn hwn, ac roedd y gwisgoedd ffansi yn llawer o hwyl!”

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Mae tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hunain ychydig yn haws i nifer o’n preswylwyr erbyn hyn.

Diolch i’n Cronfa Amgylcheddol newydd, mae 28 eco-brosiect dan arweiniad preswylwyr wedi cael eu sefydlu, gyda phwyslais mawr ar helpu grwpiau o breswylwyr i dyfu eu cynnyrch eu hunain.

Dywedodd Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd WWHA: “Rydym yn gwybod fod nifer o’n preswylwyr yn mwynhau garddio, a’u bod nhw eisiau gwneud yn fawr o’r mannau sydd ar gael iddyn nhw.

“Rydym hefyd yn gwybod fod mwy a mwy o bobl yn malio am yr amgylchedd, ac eisiau gwneud beth allan nhw i gael effaith gadarnhaol ar lle

Hwyl cartref iach a da

maen nhw’n byw, yn ogystal â helpu i leihau eu hôl troed carbon.

“Rydym wirioneddol eisiau gweld tir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn cael ei adfywio gan y preswylwyr, ac mae tyfu ffrwythau a llysiau yn ffordd wych o gadw’n heini ac iach a chadw’r biliau bwyd yn isel. Rydym eisiau clywed gan breswylwyr sydd wedi ffurfio clwb garddio, neu a fyddai’n hoffi gwneud hynny, ac sydd eisiau rhoi cychwyn ar brosiectau newydd, neu ddatblygu cyfleusterau sydd eisoes yn bod.”

Yn y Fro, mae preswylwyr cynllun er ymddeol Oak Court ym Mhenarth wedi gwario grant o £500 ar gasgenni dŵr a man storio offer, tra bod y preswylwyr sy’n garddio yn Hanover Court yn Ninas Powys wedi prynu potiau planhigion, tai gwydr bychan a chasgenni dŵr.

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Achub morgeisi

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi.

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Mae ein cynllun achub morgeisi ynparhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno

Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Chymunedau 2.0 a Take Ctrl

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Chymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae

hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i:

www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012

Cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddiantRydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewndigwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfl e i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyfl ogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyfl enwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfl eoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Bro Morgannwg – Gwanwyn 2012 Cysylltiadauallweddol

Chris Walton, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 [email protected]

Jackie Bloxham, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)029 2041 4083

[email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

STRATEGOL

TAI

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]