@tech
DESCRIPTION
@TECH yw newyddlen adran TG Coleg Ceredigion ar gampws AberteifiTRANSCRIPT
01239 612032 [email protected] www.ceredigion.ac.uk
Ionawr 2015
hc:0
Cynhyrchiad Theatr Byd
Bychan
Cafodd fyfyrwyr TGAU a TG Coleg Ceredigion eu gwahodd yn ddiweddar i gael rhagolwg ar gynhyrchiad arloesol diweddaraf Theatr Byd Bychan. Mae One Way Street yn sioe bypedau newydd i oedolion, sy'n teithio Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r profiad genre noir diddorol hwn yn berfformiad theatr fyw gyda phypedau a thafluniadau ffilm animeiddiedig gan yr artist Sean Vicary. Mae'r gynulleidfa yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y sioe drwy lwytho i lawr yr ap, ateb ychydig o gwestiynau syml a bod yn gymeriad gyda llinell i’w chyflwyno yn y perfformiad.
Yn ystod yr ymweliad cafodd myfyrwyr gyfle i werthfawrogi'r manylion cymhleth sy’n gysylltiedig ag adeiladu setiau, pypedau 2D a 3D mewn meintiau gwahanol sy'n adlewyrchu golygfeydd agos a saethiadau hir, pypedau cysgod a thafluniadau wedi'u hanimeiddio sy'n cyfuno i ffurfio'r cyflwyniad cyfryngau cymysg theatraidd hwn.
animeiddio newydd ar gampws Aberteifi. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnig mwy o gyfle i’n myfyrwyr archwilio a datblygu eu sgiliau animeiddio clai wrth ddefnyddio'r meddalwedd safon diwydiant a ddefnyddiwyd i greu'r ffilmiau mawr a enillodd Gwobrau Academi i Aardman. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Laurie am roi ei hamser a rhannu ei phrofiad sylweddol gyda ni ac edrychaf ymlaen at barhau ein cysylltiadau gyda hi drwy gydol y flwyddyn." Meddai Laurie Sitzia, "Roedd yn wych i gwrdd â myfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion a rhoi cipolwg iddynt i fyd animeiddio stop symudiad. Rwy'n gobeithio y byddant wedi cael eu hysbrydoli ac edrychaf ymlaen at weld sut mae eu prosiectau personol yn datblygu eleni."
Ymweliad Animeiddiwr Aardman
Coleg Ceredigion Yn Parhau i Adeiladu Cysylltiadau
Cafodd myfyrwyr o Goleg Ceredigion gipolwg gwerthfawr yn ddiweddar ar y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr yn y Brifysgol.
Trefnodd adran TG Campws Aberteifi ymweliad â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe i ymweld ag Arddangosfa Brandio Ffasiwn ail flwyddyn gwrs BA (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand ar Gampws Dinefwr. Yn ystod yr ymweliad cafodd fyfyrwyr gyfle i siarad â myfyrwyr PCYDDS ac i drafod eu prosiectau a phrosesau gwaith o’r syniadau cychwynnol hyd at greu eu dyluniadau.
"Roeddem yn falch iawn o gael y myfyrwyr o Goleg Ceredigion yn ymweld â'n harddangosfa," esboniodd
Angela Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen BA (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand yn PCYDDS. "Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau'r cyfle i drafod eu syniadau a darnau gwaith terfynol ac roedd gan fyfyrwyr Coleg Ceredigion ddiddordeb arbennig yn y broses ddylunio a'r amrywiaeth o syniadau a oedd gan ein myfyrwyr yn eu harddangosfa."
Dywedodd Arweinydd Tîm y Cwrs TG ar Gampws Aberteifi, Marion Phillips : "Mae ein rhaglen Lefel 3 yng Ngholeg Ceredigion yn cynnwys nifer o unedau creadigol, gan gynnwys Graffeg Ddigidol, Animeiddio Digidol a Dylunio Amlgyfrwng; ac roedd yn ddefnyddiol i ystyried cymwysiadau eraill ar gyfer eu
gwaith dylunio ac i archwilio'r cyfleoedd dilyniant posibl sydd ar gael o fewn y grŵp PCYDDS. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cysylltiadau gyda'r adran ar hyd y flwyddyn hon."
Yn ddiweddar croesawodd Coleg Ceredigion yr animeiddiwr Aardman, Laurie Sitzia, i ymweld â'i stiwdio animeiddio newydd ar gampws Aberteifi. Mae gan Laurie bron i ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn Stiwdios Animeiddio Aardman, sydd â phortffolio o waith yn cynnwys yr enillwyr Gwobr Academi Creature Comforts, Shaun the Sheep, Timmy the Sheep ac yn fwy diweddar The Pirates! In an Adventure with Scientists! a enwebwyd am Wobr Academi.
Rhoddodd yr ymweliad unigryw hwn gyfle i fyfyrwyr gael mewnwelediad arbennig ar y sgiliau a'r technegau a ddefnyddir i greu ffilm lawn a darnau byr animeiddiad clai gan un o'r animeiddwyr cyfoes mwyaf profiadol.
Dywedodd Marion Phillips, tiwtor TG yng Ngholeg Ceredigion, “Heb amheuaeth Stiwdios Aardman ym Mryste yw’r stori lwyddiant mwyaf yn y don newydd o animeiddio Prydeinig ac mae wedi bod yn brofiad gwych i'n myfyrwyr i ddysgu gan rywun sy'n gweithio ar frig y diwydiant hwn.
Mae'r unedau animeiddio a gynigir o fewn y Diploma Lefel 2 a'r Diploma Lefel 3 Estynedig yn anhygoel o boblogaidd, gyda llawer o'n prosiectau animeiddio digidol 2D wedi eu neilltuo fel arfer ardderchog gan ein corff dyfarnu. Rwy'n gyffrous iawn y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy ehangu ein darpariaeth ymhellach trwy ddatblygu stiwdio
Laurie animating Pirates, an Adventure with Scientists!
01239 612032 [email protected] www.ceredigion.ac.uk
Tachwedd 2014
hc:0
Datblygiadau Newydd @ Aberteifi
Mae adeiladu
cyfrifiadur mor rhwydd!
Myfyrwyr ar yr uned newydd Systemau Cyfrifiadur yn cael profiad gwerthfawr wrth osod caledwedd a meddalwedd.
Mae e’n fyw!
y ddisg optegol …..
a’r cof,
Dyna’r ddisg galed,
Ar ôl blwyddyn lwyddiannus mae adran TG Aberteifi wedi elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn cyfarpar a chyfleusterau a fydd yn datblygu ein darpariaeth ymhellach.
Bydd y datblygiadau cyffrous hyn yn effeithio’n sylweddol ar y Diplomâu Cambridge TEC Lefel 2 a Lefel 3. Fel rhan o’r buddsoddiad mae dwy ystafell TG wedi cael eu hail-gyfarparu gyda chyfrifiaduron newydd yn defnyddio prosesyddion Core i7 a monitorau 27” yn rhedeg ‘Adobe Design and Web Premium’ ynghyd â rhaglenni Microsoft Office. Erbyn hyn mae bwrdd gwyn rhyngweithiol gyda thaflunyddion sgrin lydan yn y ddwy ystafell hefyd.
Mae’r adran hefyd wedi gweld ehangiad i gynnwys labordy pwrpasol gyda chyfarpar arbenigol ar gyfer animeiddio a gwaith systemau cyfrifiadur. Mae’r labordy wedi’i ddylunio yn benodol i gefnogi’n unedau animeiddio sy’n cynnwys Technegau Animeiddio, Animeiddio Cyfrifiadurol, Animeiddio 2D ac Animeiddio We ar gyfer Cyfryngau Rhyngweithiol ynghyd â’r unedau mwy technegol megis Systemau Cyfrifiadur, Datblygu’r We a Chynhyrchu ar gyfer y We. Bydd hyn yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ac yn eu galluogi i greu animeiddiadau Claymation ac animeiddiadau cyfrifiadurol gan ddefnyddio cyfarpar safonol o’r diwydiant. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael profiadau ymarferol wrth osod cydrannau caledwedd, meddalwedd a rhwydweithio cyfrifiaduron.
Mae ein hunedau Graffeg Digidol a Datblygu Amlgyfrwng hefyd wedi elwa o gyfarpar newydd. Camerâu digidol SLR Nikon D3200 a chamera fideo manylder uwch SONY HXR-MC1500P ynghyd â sawl ‘Handycam’ SONY HDR-CX220E a set o lechi graffeg Wacom Intuos Pro a fydd yn galluogi ein myfyrwyr i weithio o fewn gofynion proffesiynol sy’n adlewyrchu’r diwydiant.
GRAFFEG DIGIDOL
AMLGYFRWNG
ANIMEIDDIO
01239 612032 [email protected] www.ceredigion.ac.uk
Darlithydd yn arbenigwr
TG ar Radio Cymru
Ymddangosodd Glyn Howells, darlithydd TG ar gampws Aberteifi, ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar i drafod achos o hacio eBay ac i gynnig cyngor am ffyrdd o wella diogelwch arlein.
Mae Glyn wedi bod yn
ymgynghorydd arbenigol i’r orsaf am nifer o flynyddoedd ac yn cael ei alw i roi barn broffesiynol ar ystod o faterion TG yn aml.
Mae hwn yn gyswllt pwysig i Goleg Ceredigion ac yn enghraifft arall o ymrwymiad y Coleg i hybu dwyieithrwydd ymhob agwedd o Ddysgu ac Addysgu.
Medi 2014
hc:0
yn ddiweddar.
Mae cynaliadwyedd yn thema bwysig sy’n cael ei chynnwys ar draws ein cyrsiau TG. Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gyfuno eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol mewn prosiect ymarferol.
Crys-T yn Ennill Cystadleuaeth Masnach Deg
Myfyrwyr TG yn Edrych ar Faterion Cynaliadwyedd
Yn ddiweddar, fel rhan o’u hastudiaethau cynaliadwyedd, cafodd fyfyrwyr TGCh o Goleg Ceredigion Aberteifi daith hynod ddiddorol o gwmpas
un o’r canolfannau arloesol ar gyfer technolegau cynaliadwy a gwyrdd.
Dechreuodd y daith gyda chyflwyniad gan Gabi Ashton, Gweinyddwr
Addysg yn y Ganolfan, a derbyniodd myfyrwyr gyflwyniad i hanes a datblygiad y Ganolfan. Yna cafodd y myfyrwyr gyfle i weld yr arddangosfeydd rhyngweithiol eang ac amrywiol ac i brofi syniadau a thechnolegau amgylcheddol mewn ffordd ymarferol.
Darparodd yr ymweliad addysgol gyfleoedd i fyfyrwyr i gasglu gwybodaeth a syniadau y gellid eu cymhwyso i nifer o unedau, megis Cynhyrchu Gwefannau ac Animeiddio Cyfrifiadurol, o fewn eu cymhwyster.
Enillodd Michelle Furney, myfyrwraig Diploma Estynedig TG Lefel 3 ar gampws Aberteifi, gystadleuaeth dylunio crys T Masnach Deg a gynhaliwyd ar draws y ddau gampws yn ddiweddar. Hwn oedd un o weithgareddau’r Coleg yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Gofynnwyd i fyfyrwyr ddylunio crys T i adlewyrchu ethos Masnach Deg.
Defnyddiodd Michelle sgiliau a ddatblygodd fel rhan o’i chwrs Diploma Estynedig i greu’r dyluniad dwyieithog a enillodd. Trefnodd Sarah Wright, Cydlynydd Addysg ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), fod y dyluniad yn cael ei gynhyrchu a chyflwynwyd y crys T buddugol i Michelle ar gampws Aberteifi
Unedau Ymarferol Newydd yn Boblogaidd gyda Myfyrwyr
Y llynedd mi gyflwynwyd nifer o unedau technolegol newydd sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer gosod cydrannau caledwedd a meddalwedd gan ffurfweddu a phrofi
systemau er mwyn ateb gofynion defnyddwyr. Mae myfyrwyr wedi mwynhau’r unedau newydd sy’n ychwanegu dimensiwn newydd i’r cwrs.
01239 612032 [email protected] www.ceredigion.ac.uk
Cafodd y myfyrwyr gyfle i gyfarfod â staff a myfyrwyr o’r Brifysgol ac i ddysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael yno.
Mae’r Ysgol Gyfrifiadureg Gymhwysol yn cynnig ystod gyffrous o raglenni HND a rhaglenni gradd. Mae’r rhaglenni’n amrywio o rai cyffredinol fel Cyfrifiadureg Gymhwysol a Chyfrifiadureg Busnes i gynigion mwy arbenigol fel Roboteg & Systemau Deallus a Datblygu Gwefannau.
Ymweliad â PCDDS Abertawe
Gwaith Myfyrwraig o Aberteifi yng Ngŵyl Ffilmiau Emlyn
Bu animeiddiad gan gyn-fyfyrwraig Coleg Ceredigion, Janet Lloyd-Davies, yn chwarae rhan amlwg mewn gŵyl ddiweddar a oedd yn dathlu talentau gwneuthurwyr ffilm addawol. Arddangosodd yr Ŵyl Ffilmiau Emlyn gyntaf, a gynhaliwyd yn Theatr yr Attic yng Nghastell Newydd Emlyn, waith gan wneuthurwyr ffilm addawol ynghyd â thalent leol.
Cafodd ffilm Janet, cyn-fyfyrwraig TGCh yn Aberteifi, sef Gaia Who
Knows, ei chynhyrchu ar y cyd â stiwdio ffilm Planet Sunday yn Sir Benfro ar gyfer y band The
Hipwaders o Galiffornia.
Er mwyn gweld y ffilm ewch i dudalen newyddion Coleg Ceredigion:
http://www.ceredigion.ac.uk/cy/newyddion/
Ebrill 2014
Corff Dyfarnu yn rhoi
Adborth Ardderchog
Mewn ymweliad diweddar cadarnhaodd wiriwr allanol OCR fod y safonau yn Aberteifi yn dal yn uchel iawn. Nododd y gwiriwr fod yna nifer o enghreifftiau o ‘ymarfer ardderchog’ a bod gwaith enghreifftiol wedi’i weld ar draws yr unedau a archwiliwyd. Gwelwyd tystiolaeth amrywiol gan gynnwys cyflwyniadau, storifyrddau, mapiau llywio, siartiau Gantt, holiaduron, cynlluniau profi, llawlyfrau, cod iaith sgriptio, animeiddiadau a thudalennau gwe.
Fel rhan o’r cysylltiadau sy’n datblygu rhwng yr adran TG a’r Ysgol Gyfrifiadureg Gymhwysol ym Metropolitan Abertawe (PCDDS), gwahoddwyd myfyrwyr lefelau 2 a 3 ar y cwrs TG Cambridge TEC i gymryd rhan mewn gweithdy roboteg a gynhaliwyd gan Dr Nik Whitehead.
Cydweithredu yn Enghraifft o Arfer Ardderchog
Yn ddiweddar cwblhaodd fyfyrwyr TG Aberteifi brosiect cydweithredol cyffrous gyda’r Adran Gymraeg er mwyn creu animeiddiad addysgiadol arloesol. Defnyddiwyd briff a ddatblygwyd gan Anna ap Robert, Ymgynghorydd Iaith, gyda chyfraniadau
oddi wrth Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, disgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi a myfyrwyr o’r Coleg.
Disgrifiwyd eu hymdrechion fel ‘arfer ardderchog’ gan wiriwr allanol OCR mewn ymweliad diweddar.
Caroline yn PCDDS
Mae Caroline Probert, a gwblhaodd Ddiploma Lefel 3 Cambridge TEC llynedd, yn awr yn astudio Datblygu Gwefannau ym Metropolitan Abertawe (PCDDS). Dywedodd “Rwy’n mwynhau fy amser yma’n fawr. Mi oedd yn newid sylweddol ar y dechrau ond rwy’n falch fy mod wedi dod i Fetropolitan Abertawe.”
hc:3
01239 612032 [email protected] www.ceredigion.ac.uk
Croeso i rifyn cyntaf @TECH, newyddlen Adran Technoleg Gwybodaeth Coleg Ceredigion ar Gampws Aberteifi. Gobei-thiwn y gwnewch chi fwynhau darllen am yr Adran a rhai o weithgareddau’r myfyrwyr sy’n dilyn y cyrsiau isod.
trosglwyddadwy sy’n hanfodol yn y gweithle neu ar gyfer astudiaeth bellach.
Mae’r Diploma Lefel 2 yn gyfwerth â 4 TGAU gradd A *- C ac yn darparu cyflwyniad ardderchog i dechnoleg gyfredol a’i gymwysiadau TGCh / busnes / sector creadigol ac felly o fudd arbennig i’r rhai sy’n chwilio am gyflogaeth neu sy’n symud ymlaen I Ddiploma Estynedig Cambridge TEC Lefel 3 mewn TG.
Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 yn gyf-werth â thair Lefel Uwch ac yn arwain at ddealltwriaeth fwy datblygedig o dechno-leg gyfredol a’i gymwysiadau TGCh / busnes / sector creadigol ac felly’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i addysg uwch yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am waith.
Croeso i @TECH
Ffotograffiaeth Teuluol yn y Diwrnod Agored
Trefnwyd sesiynau Ffoto-graffiaeth Teuluol llwyddi-annus iawn gan yr Adran TG yn ystod y diwrnod ag-ored diweddaraf yng Ngholeg Ceredigion ar gampws Aberteifi.
Rhoddwyd cyfle i deuluoedd lleol i gael sesiwn ffotograffiaeth am ddim lle defnyddiwyd y cy-farpar a’r meddalwedd di-weddaraf.
Medrodd y myfyrwyr Lefel 3 ddefnyddio’u sgiliau mewn sefyllfa realistig a phroffesiynol.
Chwefror 2014
Siaradwyr Gwadd
Fel rhan o Wythnos Entre-preneuriaeth y Coleg mi wnaeth myfyrwyr TG elwa ar arbenigedd a phrofiad siaradwyr gwadd Neal Jones a Greg David.
Cyrsiau TG Cambridge TEC yn Aberteifi
Diploma Lefel 2 (1 flwyddyn)
Diploma Estynedig Lefel 3 (2 flynedd)
Mae’r cymwysterau newydd yma’n be-nodol ar gyfer myfyrwyr 16 + oed ac wedi eu cynllunio i fod yn fwy perthnasol i ad-dysg bellach. Mae gan Cambridge Tech-nical ymagwedd glir, ymarferol a syn-hwyrol tuag at asesu parhaus ac yn cynnig cymhwyster cyffrous, ysgogol a heriol sy’n datblygu sgiliau
Plant Mewn Angen
Cymerodd fyfyrwyr TG ran flaenllaw unwaith eto yn niwrnod Plant Mewn An-gen. Trefnwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys cystadleuaeth Xbox FIFA, dyfalu pwysau’r Twrci Dynol a sesiwn kara-oke lwyddiannus (a swn-llyd) iawn a fwynhawyd gan
fyfyrwyr a staff.
Mi godwyd cyfanswm o £146.12 tuag at ymdrech elusennol y Coleg gan fyfyrwyr TG.
Diolch yn fawr i Chris Flow-ers (Flowers Entertain-ment) am ddarparu’r cy-farpar karaoke.
Siaradodd Neal Jones, o Dragon Graphix yn Aberteifi, yn frwdfrydig iawn am gyfleoedd entre-preneuraidd ym maes graffeg ddigidol.
Mi oedd Greg David o Planet Sunday yn Hwlffordd, yn medru rhoi cyfle unigryw i’r myfyrwyr i ddarganfod mwy am fyd animeiddio 2D gan ddef-nyddio ei brofiad o sefydlu a rhedeg stiwdio animeid-dio ryngwladol mewn ardal
wledig yng Nghymru.