tgau cbac cyfrifiadureg - wjec

55
TGAU TGAU CBAC CYFRIFIADUREG CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU CANLLAW ADDYSGU Addysgu o 2017 Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.

Upload: others

Post on 16-Oct-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

TGAU

TGAU CBAC

CYFRIFIADUREG

CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

CANLLAW ADDYSGU

Addysgu o 2017

Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.

Page 2: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

2

Cynnwys

Cyflwyniad 3

Nodau'r Canllawiau Addysgu 4

Gwybodaeth i athrawon sy'n newid o Fanyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg 2012 5

Uned 1 8

1. Caledwedd 8

2. Gweithrediadau rhesymegol 15

3. Cyfathrebu 17

4. Trefn a strwythur data 22

5. Meddalwedd System 26

6. Egwyddorion Rhaglennu 27

7. Peirianneg Meddalwedd 28

8. Llunio Rhaglenni 29

9. Diogelwch a rheoli data 31

10. Effeithiau moesegol, cyfreithiol ac amgylcheddol technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach

34

Uned 2 35

1. Datrys problemau 35

2. Algorithmau a lluniadau rhaglennu 36

3. Ieithoedd rhaglennu 40

4. Strwythurau data a mathau data 42

5. Diogelwch a dilysu 43

Uned 3 44

Page 3: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

3

Cyflwyniad

Caiff ei ddyfarnu am y tro cyntaf yn ystod haf 2019, gan ddefnyddio graddau A*-G.

Mae ein manyleb TGAU Cyfrifiadureg yn cynnwys tair uned. Fe'i cynlluniwyd i alluogi dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth am ddamcaniaeth cyfrifiadureg a'i chysylltu'n ddi-dor â rhaglennu a meddwl cyfrifiannol.

Mae'r fanyleb yn adeiladu ar yr enw da y mae CBAC wedi'i sefydlu gyda'i gymhwyster TGAU presennol mewn Cyfrifiadureg o ran asesiadau clir a dibynadwy wedi'u hategu gan ganllawiau a threfniadau gweinyddol hygyrch a syml. Mae gennym hanes da o lwyddo i gynnal asesiadau sy'n darparu ar gyfer ystod eang o allu ac sy'n llwyddo i ysgogi llawer o ddysgwyr i astudio ymhellach yn y pwnc.

Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:

• Cyfleoedd ar gyfer dulliau addysgu hyblyg • Cwestiynau wedi'u geirio mewn modd syml • Hygyrchedd deunyddiau • Amrywiaeth o fathau o gwestiynau • Cyfleoedd ar gyfer ysgrifennu estynedig • Cyfleoedd i gysylltu cysyniadau damcaniaethol ac ymarferol • Deunyddiau adnoddau ac arholiadau o safon uchel

Amlinellir y set gyflawn o ofynion yn y fanyleb sydd ar gael ar wefan CBAC.

Yn ogystal â'r Canllawiau hyn, darperir cymorth fel a ganlyn:

• Deunyddiau asesu enghreifftiol • Digwyddiadau DPP wyneb yn wyneb • Adroddiadau'r arholwyr ar bob papur cwestiynau • Mynediad rhad ac am ddim at gyn-bapurau cwestiynau a chynlluniau marcio drwy'r wefan

ddiogel • Y gallu i gysylltu'n uniongyrchol â'r Swyddog Pwnc • Adnoddau ar-lein rhad ac am ddim • Dadansoddi Canlyniadau Arholiadau • Adolygu Arholiadau Ar-lein

Page 4: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

4

Nodau'r Canllawiau Addysgu

Prif nodau'r Canllawiau Addysgu yw cynnig cefnogaeth i athrawon i gyflwyno manyleb newydd CBAC TGAU mewn Cyfrifiadureg a chynnig arweiniad ar ofynion y cymhwyster a'r broses asesu.

Ni fwriedir i'r Canllawiau fod yn gyfeirbwynt cynhwysfawr, ond yn hytrach bwriedir iddynt helpu athrawon i ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous sydd wedi'u teilwra i anghenion a sgiliau'r myfyrwyr yn eu sefydliadau penodol eu hunain.

Mae'r Canllawiau yn cynnig cymorth i athrawon gyda chefnogaeth yr Uwch Arholwyr sy'n tynnu sylw at rannau o'u hunedau gan ehangu ar y wybodaeth yn y fanyleb.

Page 5: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

5

Gwybodaeth i athrawon sy'n newid o Fanyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg 2012

Mae'r adran hon yn nodi manylion y testunau sydd wedi newid ers Manyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg 2012. Mae'r newidiadau hyn yn perthyn i'r tri chategori canlynol:

1. Testunau sydd wedi cael eu tynnu 2. Testunau sy'n cynnwys mwy o fanylder 3. Testunau newydd

Nid yw categorïau 1 a 2 uchod yn annibynnol ar ei gilydd, oherwydd gall testun sydd wedi cael ei dynnu fod wedi'i ddisodli gan destun gwahanol sy'n cwmpasu cynnwys a oedd wedi'i ddiffinio o dan bennawd gwahanol, ond sydd wedi cael ei atgyfnerthu. Er enghraifft, mae IP a TCP (fel protocolau ar wahân) a phentyrrau protocol wedi cael eu tynnu ond mae TCP/IP a'r model 5 haen wedi cael eu cynnwys yn eu lle.

1. Testunau sydd wedi cael eu tynnu

• Storio yn y cwmwl • Natur data • Pam mae angen trawsnewid data i fformat deuaidd • Sut mae’r cyfrifiadur yn gwybod a yw’n darllen cyfarwyddiadau neu ddata • Llyfrgelloedd • Trefniadaeth disgiau • Rhaglenni (prosesu geiriau/taenlen/cyflwyno/cronfa ddata/lluniadu) • IP a TCP (fel protocolau ar wahân), pentyrrau protocol • Y galedwedd sydd ei hangen i gysylltu â’r rhyngrwyd • Safonau ffeil cyffredin sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd • Afreidrwydd data • Cyfeiriadau MAC • Pam mae HTML yn bwysig fel safon ar gyfer creu tudalennau gwe • Sut mae peiriannau chwilio yn gweithio • Dehongli algorithmau syml a chynnal rhediad ffug (dry-run) (wedi'i ddisodli gan

ddadansoddiad manylach) • Yr angen am fanwl gywirdeb yn yr algorithm a’r data • Cwblhau a phrofi algorithmau (wedi'i ddisodli gan ddadansoddiad manylach) • Cyfieithwr (wedi'i ddisodli gan ddadansoddiad manylach o grynoyddion, cysodyddion,

dehonglydd) • Strategaethau i osgoi gwallau a all godi mewn cod rhaglennu • Ieithoedd parth-benodol bach • Llunio ac ysgrifennu datrysiadau i broblemau a roddir fel: ysgrifennu ap, gêm neu erfyn i

gyflawni tasg (wedi'i ddisodli gan adran lawer manylach ar ddatblygu meddalwedd) • Dadfygio rhaglenni (gweler y cyfeiriad uchod at adran fanylach ar ddatblygu

meddalwedd) • Esbonio sut mae rhaglen yn llwyddo i gyflawni'r hyn a fwriadwyd (gweler y cyfeiriad

uchod at adran fanylach ar ddatblygu meddalwedd) • Defnyddio strategaethau ar gyfer goresgyn a chanfod problemau a achosir gan

gamgymeriadau yn y rhaglen wreiddiol.

Page 6: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

6

2. Testunau sy'n cynnwys mwy o fanylder

• Mae saernïaeth Von Neumann wedi'i nodi'n benodol

• Mae'r gwahaniaeth rhwng mathau RISC a CISC o broseswyr wedi'i ddiffinio'n

benodol

• Mae dadgodio bellach yn cael ei drafod yn benodol yn yr adran ar y cylchred cywain-

gweithredu

• Mae manteision ac anfanteision gwahanol dopolegau rhwydwaith wedi'u nodi

• Mae cyfathrebu gwifredig a di-wifr yn cael ei drafod yn benodol

• Mae protocolau yn fwy penodol (Ethernet, Wi-Fi, HTTPS a phrotocolau e-bost (e.e.

POP3/IMAP/SMTP)

• Mae cynnwys pecynnau TCP/IP yn cael ei drafod yn benodol

• Mae storio graffeg a sain yn ddigidol yn cael ei drafod yn benodol

• Mae cyfiawnhau strwythurau data yn cael ei drafod yn benodol

• Mae'r angen i ddylunio, dehongli a thrin strwythurau data bellach yn cael ei drafod yn

benodol

• Mae swyddogaeth y system weithredu yn cael ei thrafod yn benodol o ran ei

swyddogaethau e.e. adnoddau a rhyngwyneb

• Mae meddalwedd wasanaethu bellach yn elfen ar wahân

• Mae lluniadau rhaglennu nawr yn cael eu trafod yn benodol, gan gynnwys cyfrifon,

gwalchwerthoedd, dilyniant, detholiad, iteriad

• Mae'r adran ar algorithmau wedi'i symleiddio i ‘dilyn, addasu ac ysgrifennu’

• Mae mathau data, cysonion a newidynnau yn cael eu trafod yn benodol yn yr adran

ar algorithmau

• Mae cwmpas newidynnau wedi'i gynnwys yn benodol yn yr adran ar algorithmau

• Mae dynodwyr hunanddogfennol ac anodiadau yn cael eu trafod yn benodol yn yr

adran ar algorithmau

• Mae gweithrediadau mathemategol wedi'u cynnwys yn benodol yn yr adran ar

algorithmau

• Mae deall pwrpas ieithoedd lefel uchel a lefel isel bellach wedi'i gynnwys yn benodol,

yn ogystal â nodi ble y gellid eu defnyddio

• Nodir IDE bellach a'i swyddogaeth o ran datblygu/dadfygio rhaglenni

• Mae'r gridiau marcio ar gyfer yr asesiad di-arholiad yn fanylach o lawer

• Caiff seiberddiogelwch ei drafod yn benodol a'i rannu'n adrannau ar fathau o

faleiswedd, mathau o ymosodiadau, dulliau o nodi gwendidau.

Page 7: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

7

3. Testunau newydd

• Cyfrifo gofynion o ran cynhwysedd data (e.e. ffeil)

• Swyddogaeth caledwedd ychwanegol (GPU, cardiau sain ac ati)

• Systemau wedi'u mewnblannu

• Defnyddio gweithredyddion rhesymegol NEUA

• Mynegiadau, rheolau ac unfathiannau Boole

• Switsio cylchedau

• TCP/IP a model 5 haen

• Cyfrifo cost llwybro

• Adio deuaidd

• Syfliadau

• Cofnodion

• Trefniad Bwrlwm a Chyfunol

• Chwilio Llinol a Deuaidd

• Dilysu a gwirio (diogelwch)

• Seiberddiogelwch.

Canllawiau Addysgu

Bwriedir i'r adran ganlynol roi canllawiau i athrawon ar y fanyleb. Ei nod yw ysgogi syniadau ar gyfer addysgu a meysydd pwnc posibl y gellir eu harchwilio er mwyn ehangu ar gynnwys y fanyleb. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr ac ni fwriedir iddi gymryd lle addysgu da yn yr ystafell ddosbarth.

Dylai athrawon ddefnyddio'r deunydd ehangu hwn ar y cyd â nodiadau dosbarth, ymarferion a gwerslyfrau neu adnoddau tebyg.

Rhoddir syniadau ar gyfer gwersi, lle bo hynny'n briodol, ar ddiwedd yr adrannau. Y gobaith yw y bydd y rhain yn eich helpu i gyflwyno'r pwnc, ond nid yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r syniadau hyn. Os bydd gennych unrhyw syniadau y gellid eu hychwanegu at y Canllawiau hyn yn eich barn chi, anfonwch nhw i [email protected] gan roi 'Syniad ar gyfer gwers TGAU Cyfrifiadureg' fel testun i'ch neges.

Page 8: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

8

Uned 1

1. Caledwedd

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Saernïaeth Disgrifio nodweddion saernïaeth uned brosesu ganolog (CPU), gan gynnwys saernïaeth Von Neumann.

Uned rifyddeg-resymeg, uned reoli (cloc), bws rheoli/data/cyfeiriad o fewn saernïaeth Von Neumann.

Gwybod am fodolaeth saernïaeth Harvard.

Nodi ac esbonio swyddogaeth cydrannau'r CPU yn y cylchred cywain-dadgodio-gweithredu.

Gwybod bod yn rhaid cywain cyfarwyddiadau o'r cof, eu dadgodio o fewn y CPU ac yna eu gweithredu.

Cofrestri:

• Rhifydd Rhaglen (Program Counter (PC)) – rhifydd sy'n cadw cofnod o gyfeiriad cof y cyfarwyddyd sydd i'w weithredu nesaf.

• Cofrestr Cofgyfeiriad (Memory Address Register (MAR)) – y cyfeiriad yn y prif gof sy'n cael ei ddarllen neu ei ysgrifennu ar y pryd.

• Cofrestr Cyfarwyddyd Presennol (Current Instruction Register (CIR)) – man dros dro i ddal y cyfarwyddyd sydd newydd gael ei gywain o'r cof.

Cydrannau:

• Uned Reoli (Control Unit (CU)) / Cloc – mae'n dadgodio'r cyfarwyddyd rhaglen yn y CIR, gan ddethol adnoddau peiriant a gweithrediad rhifyddol penodol, ac yn cydgysylltu'r broses o weithredu'r adnoddau hynny.

• Uned Rifyddeg-Resymeg (Arithmetic-logic unit (URR)) – mae'n cyflawni gweithrediadau mathemategol a rhesymegol.

Page 9: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

9

Esbonio sut mae maint y storfa dros dro, cyflymder y cloc a nifer y creiddiau yn effeithio ar berfformiad.

Maint y storfa dros dro

• Mae mwy o storfa dros dro yn gwella perfformiad oherwydd ei fod yn gallu rhoi cyfarwyddiadau a data i’r CPU yn llawer cyflymach nag unrhyw gof system arall, fel RAM.

• Bydd mwy o storfa dros dro yn caniatáu i fwy o gyfarwyddiadau a ddefnyddir dro ar ôl tro gan CPU gael eu storio, ac felly'n cynyddu'r gyfradd taro; gan wella perfformiad o ganlyniad i hynny.

Cyflymder y cloc

• Po gyflymaf yw cyflymder y cloc, y cyflymaf y bydd y cyfrifiadur yn gallu rhoi’r cylchred cywain-datgodio-gweithredu ar waith, ac felly, y mwyaf o gyfarwyddiadau y bydd yn gallu eu prosesu.

• Po gyflymaf yw'r cloc, y mwyaf o bŵer sydd ei angen fel arfer sy'n creu mwy o ofynion ar gyfer gwasgaru gwres a gall roi mwy o straen ar oes y batri.

• Gall yr effaith ar dymheredd fod yn niweidiol.

Nifer y creiddiau

• Mewn CPU un craidd, mae pob cyfarwyddyd yn cael ei brosesu un ar ôl y llall, ond mewn CPU dau graidd, gall dau gyfarwyddyd gael eu prosesu ar yr un pryd. Mewn egwyddor, dylai CPU dau graidd olygu bod y cyfrifiadur yn gallu prosesu cyfarwyddiadau ddwywaith mor gyflym â CPU un craidd.

• Efallai yr effeithir ar berfformiad os yw un craidd yn aros am ganlyniad un arall ac felly na all gyflawni rhagor o gyfarwyddiadau, gan arwain at berfformiad nad yw'n well na pherfformiad prosesydd un craidd.

• Fodd bynnag, mae mwy nag un craidd yn cynyddu cost y prosesydd.

Page 10: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

10

Esbonio'r gwahaniaeth rhwng mathau RISC a CISC o broseswyr.

Mae gan RISC lai o gyfarwyddiadau na CISC i gyflawni tasgau cymhleth; Rhaid i CPU RISC gyfuno gweithrediadau syml felly gall RISC fod yn fwy effeithlon am gyflawni tasgau symlach.

Er mwyn ymdrin â chyfarwyddiadau cymhleth, mae CPU CISC yn gorfforol fwy er mwyn iddynt gynnwys cylchedwaith mwy cymhleth.

Mae CPU RISC wedi'u dylunio i ddefnyddio llai o bŵer a chynhyrchu llai o wres, sy'n golygu bod modd eu defnyddio mewn ffonau clyfar sydd heb systemau oeri arbennig (fel ffaniau).

Mae CPU RISC yn tueddu i fod yn rhatach i'w masgynhyrchu.

Mae CPU RISC yn rhedeg ar gyflymderau cloc is na CPU CISC. Gallant gyflawni tasgau symlach yn gyflymach na CISC, ond ni chânt eu defnyddio i ddilyn cyfarwyddiadau cymhleth ar y cyfan.

Mewnbwn / allbwn

Disgrifio'r defnydd o ddyfeisiau mewnbwn ac allbwn a'u nodweddion.

Deall a pherthnasu'r defnydd o ddyfeisiau mewnbwn mewn cyd-destunau penodol.

Er enghraifft:

• Wrth deipio dogfennau, bysellfwrdd yw'r ddyfais sy'n cael ei ffafrio.

• Ar gyfer rhywun ag anabledd, fel parlys, gellir defnyddio tiwb sipian/chwythu.

• Mewn amgylchedd swnllyd, ni fyddai mewnbwn llais yn ddefnyddiol.

Storio cynradd

Esbonio nodweddion gweithredol Cof Hapgyrch (RAM), Cof Darllen yn Unig (ROM), cof fflach a storfa dros dro.

Deall bod pob cof yn storio gwybodaeth fel didau a beitiau.

Mae RAM yn fath hedegog o gof, sy'n storio rhaglenni a data sy'n cael eu defnyddio ar y pryd.

Mae ROM yn fath anhedegog o gof, sy'n storio rhaglenni a data nad ydynt yn newid.

Gall cof fflach fod yn gof NIAC. Mae cof fflach yn cael ei ddefnyddio i storio data’n barhaol. Mae hyn yn golygu na fydd y data’n cael eu colli wrth ddiffodd y pŵer. Fodd bynnag, gellir newid y data sydd wedi’u storio mewn cof fflach.

Mae storfa dros dro yn hedegog a gellir ei ddefnyddio i storio dros dro unrhyw gyfarwyddiadau a data y mae angen cael gafael arnynt yn gyson. Mae’n cynnwys nifer fach o leoliadau storio y mae’r CPU yn gallu cael mynediad cyflym iawn iddynt; mae’n gyflymach na RAM.

Deall a gallu rhoi enghreifftiau o ffyrdd o ddefnyddio'r mathau hyn o gof mewn gwahanol gyd-destunau.

Page 11: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

11

Storio eilaidd Disgrifio nodweddion technolegau storio eilaidd cyfoes gan gynnwys magnetig, optegol a chyflwr solet.

Storio magnetig – disg/tâp

Storio optegol – CD/DVD/Blu-ray

Storio cyflwr solet – Fflach / SD

Esbonio nodweddion gweithredol dyfeisiau storio eilaidd cyfoes o ran addasrwydd, gwydnwch, cludadwyedd a chyflymder.

Perthnasu mathau o storio eilaidd i sefyllfa neu ddefnydd.

Mae addasrwydd yn ymwneud ag addasrwydd cyffredinol i dasg a gall fod yn seiliedig ar unrhyw rai o'r isod:

Gall gwydnwch ymwneud â'r gallu i wrthsefyll niwed neu hirhoedledd.

Mae cludadwyedd yn ymwneud â symudadwyedd a maint.

Mae cyflymder yn ymwneud ag amser cyrchu.

Er enghraifft:

Storio magnetig:

• Cyfrwng: gyriannau disg caled • Addasrwydd: Gyriant wrth gefn ar gyfer system

gyfrifiadurol yn y cartref • Cynhwysedd: 500 MB – 4 TB • Gwydnwch: • Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:

Storio optegol:

• Cyfrwng: CD/DVD/Blu-ray • Addasrwydd: Storio ffeiliau amlgyfrwng • Cynhwysedd: 650 MB (CD), 9GB (DVD), 50

GB (Blu-ray) • Gwydnwch: • Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:

Cyflwr solet:

• Cyfrwng: Gyriannau cof fflach • Addasrwydd: Symud ffeiliau eithaf bach o’r

gwaith i’r cartref • Cynhwysedd: 2 GB – 64 GB • Gwydnwch: • Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:

Page 12: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

12

Gofynion storio

Disgrifio'r berthynas rhwng unedau storio data, gan gynnwys did, darn (nybble), beit, cilobeit a lluosyddion rhagddodi ychwanegol.

Did fel 1 neu 0

Darn fel bloc o 4 did (a'i ddefnyddioldeb wrth drosi rhwng hecsadegol a deuaidd) e.e. 11012 → C

Beit fel 8 did 101101102

Deall bod lluosyddion rhagddodi yn gweithio o ddidau fel cynyddiadau o 23.

Symbol Gwerth

Beit B 8 did

Cilobeit KB 1024 beit

Megabeit MB 1024 Kb

Gigabeit GB 1024 MB

Terabeit TB 1024 GB

Petabeit PB 1024 TB

Ecsabeit EB 1024 PB

Setabeit ZB 1024 EB

Iotabeit YB 1024 ZB

Disgrifio cynhwysedd data a chyfrifo gofynion cynhwysedd data.

Deall cynhwysedd data o ran faint o ddata (a fesurir mewn beitiau) sy'n gallu cael eu storio gan gyfrwng penodol.

Cydrannau caledwedd eraill

Disgrifiwch nodweddion a swyddogaeth caledwedd ychwanegol, gan gynnwys GPU, cardiau sain a mamfyrddau.

Deall bod angen caledwedd ychwanegol ar gyfrifiaduron er mwyn cyflawni tasgau.

Er enghraifft, mae'r GPU yn gylched electronig arbenigol sydd wedi'i gynllunio i drin a newid cof yn gyflym. Mae GPU yn trin graffeg gyfrifiadurol yn effeithlon ac yn prosesu delweddau.

Systemau wedi'u mewnblannu

Disgrifio'r defnydd o systemau wedi'u mewnblannu a rhoi enghreifftiau ohonynt.

Deall bod systemau wedi'u mewnblannu yn bodoli mewn llawer o ddyfeisiau yn y cartref a'r tu allan i'r cartref ac mai cyfrifiaduron bach, un-pwrpas yw'r rhain. Mae systemau wedi'u mewnblannu yn tueddu i gael eu storio ar ROM ac maent yn barhaol (ac eithrio mewn rhai achosion lle caiff cadarnwedd ei dal ar gof Fflach ac mae modd ei newid).

Gallai'r enghreifftiau gynnwys peiriannau golchi (y system wedi'i mewnblannu sy'n cynnwys y rhaglenni golchi), systemau agor drysau garej o bell a synwyryddion injan.

Page 13: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

13

Syniadau ar gyfer gwersi:

Defnyddiwch hen gyfrifiadur personol (PC) – Cynhelir hyn dros nifer o wersi Saernïaeth: Weithiau mae'n gallu bod yn anodd amgyffred graddfa'r CPU a'r cydrannau mewnol. Os gallwch gael gafael ar PC nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd (mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o ysgolion gadw'r rhain nes eu bod wedi'u cofrestru fel cyfarpar wedi'i waredu), gall fod yn ddiddorol ei ddatgymalu. Y pwyntiau allweddol i'w dangos yma yw mai system fach wedi'i hintegreiddio yw'r CPU a bod RAM ar wahân. (Tynnwch y ffan a'r suddfan gwres i ffwrdd, crafwch y past thermol i ffwrdd a thynnwch y CPU allan – wedyn dangoswch mai'r CPU yw'r sglodyn bychan yng nghanol y cydosodiad.

Trafodwch fod y sglodyn bychan hwn yn cynnwys y CU, yr ALU a'r cofrestri. Atgyfnerthwch y ffaith bod y sglodyn yn cynnwys ei gof ei hun (cofrestri a storfa) ond bod y RAM ar wahân i'r sglodyn a bod hwn yn storio rhaglenni wrth iddynt redeg. Mae hwn yn gyfle i esbonio cysyniadau'r CU, ALU a'r cofrestri/RAM.

Didau a Beitiau: Gallwch esbonio bod RAM yn dal data wedi'u storio fel didau a beitiau. Esboniwch y cysyniad o ddidau fel 1 a 0 (ymlaen ac wedi diffodd) gan mai dyma'r cyfan y gall cyfrifiadur ei 'ddeall', yn y bôn. Esboniwch y gall gwahanol gyfuniadau o 1 a 0 gynrychioli ystod ddiddiwedd o ddata a bod data'n cael eu storio fel beitiau, cilobeitiau, megabeitiau ac ati. Storio eilaidd: Ceir cyfleoedd yma i drafod gyriannau storio eilaidd wrth ddatgymalu'r PC ac i weld sut mae'r rhain yn cysylltu â'r mamfwrdd. Trafodwch addasrwydd gwahanol fathau o storio eilaidd o ran cynhwysedd, cludadwyedd, gwydnwch a chyflymder mynediad.

Gallai fod yn syniad cynnal 'ras storio' er mwyn trafod cyflymder. Cymharwch amser trosglwyddo ffeil fawr (>2GB) ar yriant disg galed (HDD) magnetig yn erbyn gyriant optegol yn erbyn chof fflach. Gellir edrych ar briodweddau'r dyfeisiau storio yma er mwyn ystyried cynwyseddau (e.e. bydd gan yr HDD, fwy na thebyg, ystod storio GB neu TB uchel ond dim ond 4.7GB fyddai gan DVD, a byddai cof fflach yn amrywio ond fel arfer rhywle rhwng y ddau).

CISC a RISC: Wrth drafod y CPU, nodwch fod gwahanol fathau o CPU, gan gynnwys RISC a CISC. Mae PC bob amser yn defnyddio saernïaeth CISC, ac mae ffonau symudol yn tueddu i ddefnyddio saernïaeth RISC. Esboniwch y gwahaniaeth rhwng setiau cyfarwyddiadau RISC a CISC.

Cyflymder y cloc: Efallai y byddwch hefyd am drafod cyflymderau cloc a'r ffaith ei bod yn bosibl gorglocio. Mae hyn yn gyfle i chi esbonio cyflymder y cloc a materion sy'n ymwneud â gorglocio (cyfeiriwch yn ôl at y suddfan gwres a'r ffan rydych eisoes wedi'u tynnu oddi ar y CPU). Nifer y creiddiau: Gofynnwch i bum myfyriwr wirfoddoli i'ch helpu i ddangos manteision prosesu paralel. Esboniwch i'r dosbarth y gall pedwar o bobl (prosesydd pedwar craidd) gyflawni tasg fel trefnu pecyn o gardiau (o'r Âs i'r Brenin → Clybiau, Diemyntau, Calonnau a Rhawiau) yn gyflymach o lawer nag un unigolyn (prosesydd un craidd).

Rhowch un pecyn i'r myfyriwr sy'n cynrychioli prosesydd un craidd a rhowch chwarter y pecyn arall i bob myfyriwr yn y grŵp o bedwar sy'n cynrychioli prosesydd pedwar craidd.

Rhaid i'r ddau grŵp drefnu'r pecyn mor gyflym â phosibl

Esboniwch i'r dosbarth y gall problemau mawr gael eu rhannu’n broblemau llai, sydd wedyn yn cael eu datrys yn gydamserol ac yn gyflymach.

Cydrannau caledwedd ychwanegol: Gellir dangos y cerdyn graffeg, y cerdyn sain (a all fod wedi'i integreiddio) a chydrannau eraill yn ystod yr ymarfer hwn.

Page 14: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

14

Systemau wedi'u Mewnblannu: Dangoswch y BIOS ar y mamfwrdd ac esboniwch ei fod yn enghraifft o ROM a'i fod yn storio dilyniannau cychwynnol syml. Wedyn, esboniwch y gall ROM fel hwn ddal unrhyw raglen. Perthnaswch hyn i ROM mewn peiriannau golchi ac ati. Esboniwch nad ROMs yw'r rhain bob amser, ac mai cof NIAC ydynt weithiau, a all gynnwys cadarnwedd y mae modd ei diweddaru (e.e. uned rheoli injan car) drwy ei 'fflachio'.

Page 15: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

15

2. Gweithrediadau rhesymegol

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Gweithredyddion rhesymegol

Defnyddio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID a NEUA, cyfuniadau o'r rhain, a'u cymhwyso mewn gwirlenni priodol i ddatrys problemau.

Deall egwyddorion sylfaenol y 4 gweithredydd rhesymegol, er enghraifft:

1 AC 0 = 0

1 NEU 0 = 1

NID 1 = 0 (neu NID 0 = 1)

1 NEUA 0 = 1

Defnyddio cyfuniad o'r rhain, er enghraifft:

(1 AC 0) NEU (1 AC 1) = 1

NID (1 NEUA 0) = 0

Rhesymeg Boole

Symleiddio mynegiadau Boole gan ddefnyddio unfathiannau a rheolau Boole.

Defnyddio'r unfathiannau a'r rheolau Boole canlynol:

Ffurf AC Ffurf NEU

Deddf Gymudol A. B = B . A A + B = B + A

Deddf Gysylltiol

(A' = 0. B) . C = A . (B . C) (A + B) + C = A + (B + C)

Deddf Ddosbarthol

(A+B)+ C = (A+C).(B+C) (A + B) . C = (A . C) + (B . C)

Deddf Unfathiant A . 1 = A A + 0 = A

Deddf Sero ac Un A . 0 = 0 A + 1 = 1

Deddf Wrthdro A . A' = 0 A + A' = 1

Deddf Idempotent A . A = A A + A = A

Deddf Amsugniad A(A+B) = A

A + A. B = A A + A' B = A+B

Deddf Cyflenwad Dwbl

x� = x

Page 16: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

16

Syniadau ar gyfer gwersi:

Gweithrediadau rhesymegol - Cadwyni gweithrediadau: Yn gyntaf, nodwch y gwahaniaeth rhwng AC a NEU o ran pryd o fwyd

Mae 'Hoffet ti frechdan AC afal?' yn wahanol i 'Hoffet ti frechdan NEU afal?'

Ar ôl i chi sefydlu bod AC a NEU yn wahanol, esboniwch y canlynol:

1 AC 0 = 0, 0 AC 1 = 0, 1 AC 1 = 1, 0 AC 0 = 0 (esboniwch fod yn rhaid i'r ddau fod yn 1 er mwyn i'r canlyniad fod yn 1)

1 NEU 0 = 1, 0 NEU 1 = 1, 1 NEU 1 = 1, 0 NEU 0 = 0 (esboniwch mai 1 fydd y canlyniad os oes un 1 neu fwy)

Nesaf, esboniwch fod NEUA yn weithrediad gwahanol sy'n golygu 'un neu'r llall ond byth y ddau' lle mae:

1 NEUA 0 = 1, 0 NEUA 1 = 1, 1 NEUA 1 = 0, 0 NEUA 0 = 0 (esboniwch mai dim ond un 1 fydd yn rhoi'r canlyniad 1)

Yn olaf, esboniwch fod NID yn 'gwrthdroi' canlyniad

NID 1 = 0, NID 0 = 1 Nawr rhowch gynnig ar gadwyn gweithrediadau gyda'r dosbarth. Rhowch ddilyniant o weithrediadau rhesymegol i'r dosbarth ar lafar/ar y bwrdd gwyn/mewn cyflwyniad. Er enghraifft, dechreuwch gyda'r gadwyn hon, ond peidiwch â rhoi atebion A–D:

1 NEU 0 = AtebA (1)

AtebA AC 0 = AtebB (0)

AtebB NEUA 0 = AtebC (1)

NID AtebC = AtebD (0)

Yn olaf, rhowch her iddynt i orffen (bydd hyn yn defnyddio BODMAS, felly efallai y bydd angen i chi ei addysgu iddynt os nad ydynt wedi ei ddysgu mewn gwersi mathemateg eto).

NID (AtebD NEUA 1) = AtebE (1)

Nawr gallwch holi'r myfyrwyr am y canlyniad sydd ganddynt (dylai'r gadwyn hon arwain at y canlyniad terfynol 1), a gweithiwch drwy'r broblem. Bydd rhai wedi cael y canlyniad anghywir, ond bydd gweithio drwy'r broblem yn helpu eu dealltwriaeth. Gwnewch hyn eto gyda rhagor o gadwyni yn y dosbarth, neu fel tasgau dysgu annibynnol.

Gwirlenni fydd y cam nesaf pan fydd y myfyrwyr yn gyfarwydd â gweithrediadau syml. Esboniwch mai fersiwn llaw fer o'r gwaith y maent eisoes wedi'i wneud yw gwirlenni.

Page 17: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

17

3. Cyfathrebu

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Rhwydweithiau Esbonio nodweddion rhwydweithiau a phwysigrwydd mathau gwahanol o rwydweithiau, gan gynnwys LAN a WAN.

Esbonio'r gwahaniaeth rhwng rhwydweithiau ardal eang (Wide Area Networks (WAN)) a rhwydweithiau ardal leol (Local Area Networks (LAN)) o ran dosbarthiad, sef bod rhwydweithiau ardal leol wedi'u lleoli ar un safle a bod rhwydweithiau ardal eang wedi'u lleoli ar fwy nag un safle.

Defnyddir caledwedd arbenigol i lunio rhwydweithiau, er enghraifft:

Switshis

• Mae switsh yn dadansoddi pob pecyn o ddata a'i anfon i'r cyfrifiadur roedd wedi'i fwriadu ar ei gyfer.

Bothau

• Mae both yn copïo'r holl becynnau o ddata i'r holl ddyfeisiau ar y rhwydwaith.

Llwybryddion

• Mae llwybrydd yn storio cyfeiriadau cyfrifiaduron ar y rhwydwaith ac yn trosglwyddo data rhwng dyfeisiau.

Pyrth

• Mae porth yn cysylltu dau rwydwaith sy'n defnyddio protocolau sylfaen gwahanol, e.e. cysylltu LAN â WAN.

Pont

• Mae pont yn cysylltu dau rwydwaith sy'n defnyddio'r un protocolau sylfaen, e.e. cysylltu LAN â LAN.

Ymhlith y mathau eraill o rwydweithiau mae Rhwydweithiau Ardal Bersonol (Personal Area Networks (PAN)) (ardal fach iawn), Rhwydweithiau Ardal Fetropolitan (Metropolitan Area Networks (MAN)) (o fewn rhanbarth metropolitan) a Rhith-rwydweithiau Preifat (Virtual Private Networks (VPN)) (sy'n galluogi pobl i fewngofnodi i rwydwaith o bell a chael mynediad at ei adnoddau, sef gweithrediad WAN).

Page 18: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

18

Disgrifio pwysigrwydd topolegau rhwydwaith cyffredin, gan gynnwys cylch, seren, bws a rhwyll, a'u manteision a'u hanfanteision.

Deall ffurfweddiad y canlynol a disgrifio eu pwysigrwydd:

Cylch – lle mae pob nod yn cysylltu â dau nod arall yn union, gan ddarparu un llwybr ar gyfer signalau drwy bob nod. Mae'r cyflymderau trosglwyddo yn uchel ond gallant fethu os bydd un nod yn methu.

Bws - lle caiff nodau eu cysylltu'n uniongyrchol â chebl llinol cyffredin (neu fws). Mae'n rhad ac yn gyflym i'w osod ond gall fod yn araf pan fydd llawer o drafnidiaeth (oherwydd gwrthdrawiadau) a bydd toriad yn y prif fws yn torri'r rhwydwaith.

Seren – lle bydd o leiaf un switsh, both neu gyfrifiadur canolog yn gweithredu fel sianel ganolog i drosglwyddo negeseuon. Mae'n ddibynadwy iawn ac mae cyflymderau trosglwyddo data uchel yn bosibl (llai o wrthdrawiadau) ac mae'n hawdd nodi diffygion. Mae'n gallu bod yn ddrud i'w osod am fod switshis a cheblau yn ddrud. Os bydd y prif switsh yn methu, bydd y rhwydwaith yn methu a gall tagfeydd ddigwydd os bydd gormod o ddata'n mynd drwy'r switsh canolog.

Rhwyd – pob nod yn trosglwyddo data ar gyfer y rhwydwaith. Mae pob nod rhwyd yn cydweithio i ddosbarthu data yn y rhwydwaith. Mae hyn yn ddibynadwy iawn a gall rhwydwaith 'atgyweirio ei hun' drwy ailffurfweddu ei hun o amgylch llwybrau sydd wedi torri. Mae rhwydwaith yn gymhleth, yn ddrud ac yn anodd i'w osod. Gall rhan fawr o'r rhwydwaith fod yn ddi-angen.

Esbonio pwysigrwydd cysylltedd, yn wifredig ac yn ddiwifr.

Mae cysylltedd yn bwysig ar gyfer trosglwyddo data. Heb gysylltedd, ni fyddai modd cyfnewid data yn hawdd rhwng cyfrifiaduron heb ddefnyddio storfeydd y gellir eu tynnu.

Mae cysylltiadau gwifredig yn defnyddio protocol cysylltiad gwifredig, e.e. ceblau Cat6 yn defnyddio Ethernet.

Nid yw cysylltiadau diwifr yn defnyddio ceblau ond mae angen i'r peiriant sy'n trosglwyddo a'r peiriant sy'n derbyn fod â chardiau addasydd rhwydwaith ac, fel arfer, mae angen cyfarpar llwybro diwifr ychwanegol (nid ar gyfer P2P).

Ar y cyfan, mae cysylltiadau diwifr yn arafach na chysylltiadau gwifredig o ran cyfradd didau, ond un fantais sy'n gallu gwrthbwyso hyn yw eu bod yn cynnig mwy o ryddid.

Page 19: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

19

Esbonio a nodi manteision ac anfanteision switsio cylchedau a switsio pecynnau.

Deall bod switsio cylchedau yn safon gyffredinol dderbyniol nes i switsio pecynnau ei ddisodli.

Er mwyn switsio cylchedau, mae angen creu cyfres o gysylltiadau er mwyn ffurfio un llwybr ac mae angen i'r holl ddata deithio ar hyd yr un llwybr. Mae'r broses hon yn agored i ryng-gipiadau a methiant, oherwydd os bydd unrhyw un o'r cysylltiadau yn methu, bydd y llwybr cyfan yn methu.

Mae switsio pecynnau yn wahanol oherwydd caiff y data eu rhannu'n becynnau sydd i gyd yn teithio ar hyd llwybrau gwahanol. Caiff y data eu hailgydosod ar ôl iddynt gyrraedd y cyrchfan. Mae switsio pecynnau yn llai agored i ryng-gipiadau ac mae'n fwy cadarn oherwydd os bydd llwybr yn methu, gall y pecyn ddefnyddio llwybr amgen.

Esbonio pwysigrwydd amrywiaeth o brotocolau rhwydwaith cyfoes a'u defnydd, gan gynnwys Ethernet, Wi-fi, TCP/IP, HTTP, HTTPS, FTP a phrotocolau e-bost.

Mae protocolau rhwydwaith yn hollbwysig er mwyn galluogi cyfrifiaduron ar rwydweithiau i gyfathrebu. Heb brotocolau cyffredin a rennir, ni fyddai cyfrifiaduron yn gallu cyfathrebu.

Mae llawer o fathau o brotocolau:

Ethernet – protocol gwifredig (cysylltiad cebl).

Wi-Fi – di-wifr, er enghraifft y ddwy safon gyffredin, Bluetooth ac 801.11.

TCP/IP – protocol rheoli trosglwyddo/protocol rhyngrwyd (transmission control protocol/internet protocol) – sef protocol neu iaith gyfathrebu sylfaenol y Rhyngrwyd.

HTTP – protocol trosglwyddo hyperdestun (hypertext transfer protocol) – sy'n galluogi tudalennau gwe i gael eu rhannu rhwng gwahanol gyfrifiaduron a phorwyr gwe.

HTTPS – fersiwn ddiogel o HTTP – sy'n gweithio ar y cyd â phrotocol arall, sef Haen Socedi Diogel (SSL: Secure Sockets Layer) i drosglwyddo data yn ddiogel.

POP3 – protocol swyddfa bost 3 (post office protocol 3) – sef protocol ar gyfer derbyn negeseuon e-bost, lle caiff negeseuon e-bost eu derbyn a'u storio gan weinydd e-bost, a'u llwytho i lawr gan y cleient pan fydd yn barod i wneud hynny.

SMTP – protocol trosglwyddo post syml (simple mail transfer protocol) – mae gweinyddion post yn defnyddio SMTP i anfon a derbyn negeseuon post. Dim ond ar gyfer anfon negeseuon i weinydd post y bydd rhaglenni post yn defnyddio SMTP fel arfer.

IMAP – protocol mynediad negeseuon rhyngrwyd (internet message access protocol) – sy'n trosglwyddo negeseuon e-bost rhwng systemau cyfrifiadurol dros y rhyngrwyd. Fodd bynnag, yn lle POP fel ffordd o dderbyn a storio negeseuon e-bost y caiff protocol IMAP ei ddefnyddio ar y cyfan.

Page 20: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

20

Disgrifio cynnwys nodweddiadol paced TCP/IP.

Cynnwys nodweddiadol paced TCP/IP yw:

• Cyfeiriad y ffynhonnell • Cyfeiriad y gyrchfan • Gwybodaeth sy’n galluogi’r data i gael eu

hailgydosod ar eu ffurf wreiddiol • Gwybodaeth dracio arall • Y data eu hunain • Prawfswm sy’n gwirio nad yw’r data wedi cael

eu llygru

Esbonio pwysigrwydd haenau a model 5-haen TCP/IP.

Nid un protocol yw TCP/IP, sy'n sail i'r Rhyngrwyd, ond cyfres gyfan o brotocolau cysylltiedig.

Dyma 5 haen y model TCP/IP:

• Haen y Rhaglen • Haen Gludo • Haen y Rhwydwaith • Haen y Cyswllt Cata • Haen Gorfforol

5 Haen y Rhaglen

Haen y Rhaglen yw'r grŵp o raglenni y mae angen cyfathrebiadau rhwydwaith arnynt

Gwesteiwr A

Creu'r data ac yn gwneud ceisiadau am

gysylltiadau

Gwesteiwr B

Porwr Gwe

Gweinydd Gwe

4 Haen Gludo (TCP/UDP)

Yr haen Gludo sy'n sefydlu'r cysylltiad rhwng rhaglenni ar wahanol westeiwyr.

Sefydlu cysylltiadau â gwesteiwr pell

3 Haen y Rhwydwaith (IP)

Haen y Rhwydwaith sy'n gyfrifol am greu'r fframiau sy'n symud ar draws y rhwydwaith.

Trosglwyddo pecynnau â rhith-gyfeiriadau (IP)

2 Haen y Cyswllt Data (MAC)

Haen y Cyswllt Data sy'n gyfrifol am greu'r fframiau sy'n symud ar draws y rhwydwaith.

Trosglwyddo fframiau â chyfeiriadau corfforol

(MAC)

1 Haen Gorfforol

Yr Haen Gorfforol yw'r trosdderbynnydd sy'n anfon y signalau ar y rhwydwaith.

Trosglwyddo a derbyn data

Page 21: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

21

Disgrifio dulliau llwybro traffig ar rwydwaith a chyfrifo'r costau llwybro.

Deall y bydd rhwydweithiau, yn ystod y broses lwybro, yn chwilio am y llwybr byrraf a'r nodau cyflymaf er mwyn trosglwyddo data. Gyda'i gilydd, caiff y llwybr rhwng nodau a chyflymder y nodau eu hasesu gan y ddyfais sy'n trosglwyddo data.

Bydd cyfrifiaduron yn chwilio am y llwybr â'r gost isaf (y llwybr byrraf a'r nodau cyflymaf) ac yn trosglwyddo data drwy'r llwybr cost isaf hwn.

Rhyngrwyd Esbonio sut mae gweinyddion System Enw Parth (DNS: Domain Name System) a chyfeiriadau Protocol y Rhyngrwyd (IP: Internet Protocol) yn gweithio.

Deall sut y caiff gweinyddion DNS eu defnyddio i ddatrys cyfeiriadau gwe yn gyfeiriadau IP.

Deall bod cyfeiriadau IP yn anodd i'w cofio o gymharu â chyfeiriadau gwe ac mai dyma pam mae DNS yn hollbwysig er mwyn gwneud cyfeiriadau gwe yn hawdd i'w defnyddio.

Page 22: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

22

4. Trefn a strwythur data

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Cynrychioliad rhifau Defnyddio a throsi rhwng systemau rhifo degaidd, deuaidd (hyd at 16 did) a hecsadegol.

Trosi fel a ganlyn:

Degaidd i ddeuaidd

Degaidd i hecsadegol

Deuaidd i ddegaidd

Deuaidd i hecsadegol

Hecsadegol i ddegaidd

Hecsadegol i ddeuaidd

Mae trosi uniongyrchol neu drosi gan ddefnyddio sylfaen ganolradd yn dderbyniol

Esbonio'r defnydd o nodiant hecsadegol fel llaw fer ar gyfer rhifau deuaidd.

Deall bod rhif deuaidd yn llawer haws i'w ddefnyddio ar ffurf nodiant hecsadegol, sy'n fyrrach.

e.e. 1101101010111102 = 6D5E16

Defnyddio ffwythiannau syfliadau rhifyddol ac esbonio'u heffaith.

Deall effaith syfliadau i'r chwith a'r dde.

Syfliad i'r chwith

e.e. ar gyfer y rhif 0011002 (1210)

byddai syfliad un lle i'r chwith yn rhoi

0110002 = 2410

Sy'n gyfwerth â lluosi â 2

byddai syfliad dau le i'r chwith yn rhoi

1100002 = 48 10

Sy'n gyfwerth â lluosi â 4

Syfliad i'r dde

e.e. ar gyfer y rhif 0011002 (1210)

byddai syfliad un lle i'r chwith yn rhoi

0001102 = 610

Sy'n gyfwerth â rhannu â 2

byddai syfliad dau le i'r chwith yn rhoi

0000112 = 310

Sy'n gyfwerth â rhannu â 4

Page 23: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

23

Cymhwyso technegau adio deuaidd.

Defnyddio'r dull adio/rhannu/gweddill i adio rhifau deuaidd.

Esbonio cysyniad gorlif. Deall, os bydd proses adio neu syfliad yn arwain at rif sy'n rhy fawr i'r lle sydd ar gael, fod gorlif wedi digwydd.

Er enghraifft, pe baem yn ceisio storio canlyniad y broses o adio'r ddau rif 8 did canlynol mewn cofrestr 8 did.

11011011

11111011 +

111010110

Mae'r ateb yn rhy fawr i'w roi yn y gofrestr (mae'n 9 did o hyd). Pan fydd hyn yn digwydd, dywedir bod gorlif wedi digwydd.

Cynrychioliad graffeg a sain

Esbonio storio graffeg yn ddigidol.

Deall bod modd storio graffeg rastr a fector ar gyfrifiadur.

Deall mai strwythurau data matrics sy'n cynrychioli grid o bicseli yw graffeg rastr, ac nad oes modd cynyddu maint y strwythurau hyn heb golli ansawdd. Mae'r strwythurau'n tueddu i fod yn fawr o ran y cof sydd ei angen i'w storio.

Mae delwedd ddidfap yn fath o ddelwedd rastr ac mae'n cynnwys llawer o rannau bychan, o'r enw picseli, sy'n aml yn amryliw. Mae'n bosibl golygu pob picsel unigol.

Mae graffeg fector yn defnyddio gwrthrychau geometrig gysefin fel pwyntiau, llinellau, cromliniau a siapiau neu bolygonau sy'n seiliedig ar fynegiadau mathemategol i gynrychioli delweddau. Mae modd cynyddu maint graffeg fector heb golli ansawdd. Mae'n llai na graffeg didfap o ran y cof sydd ei angen i'w storio.

Esbonio storio a samplu sain yn ddigidol.

Caiff sain ei storio fel cynrychioliad digidol. Caiff y cynrychioliad digidol ei gyflawni drwy samplu (prosesau signalau).

Mae'r gyfradd samplu a'r amledd samplu yn gallu effeithio ar ansawdd y sampl. Po uchaf yw'r gyfradd samplu a'r amledd samplu, y mwyaf fydd y sampl a gynhyrchir.

Page 24: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

24

Disgrifio'r defnydd o fetadata mewn ffeiliau.

Deall y mathau o fetadata sy'n cael eu storio gyda ffeiliau a rhoi enghreifftiau ohonynt, e.e. lleoliad, dyddiad ac ati mewn delwedd, neu mewn ffeil sain, y ffeil neu'r artist, y dyddiad recordio, teitl y gân ac ati mewn ffeil sain.

Storio nodau Disgrifio sut y caiff nodau eu storio fel rhif deuaidd.

Deall y caiff nodau eu cynrychioli gan rifau deuaidd

e.e yn ASCII

mae 01100001 yn cynrychioli a

mae 01000001 yn cynrychioli A

(Nid oes angen cofio'r rhif sy'n cynrychioli nod).

Disgrifio setiau nodau safonedig, gan gynnwys Unicode ac American Standard Code for Information Interchange (ASCII).

Deall bod setiau nodau safonedig yn galluogi cyfnewid data rhwng rhaglenni gwahanol.

Deall bod ASCII ac Unicode yn ddwy safon o'r fath.

Gall Unicode gynrychioli mwy o nodau nag ASCII, ond mae'n defnyddio mwy o gof.

Mathau data Disgrifio'r cysyniad mathau data, gan gynnwys cyfanrif, Boole, real, nod a llinyn.

Cyfanrif (rhif cyfan) 7, 0, 15, -5

Boole (cywir/anghywir)

Real (rhif gyda ffracsiwn neu heb ffracsiwn) 7.2, 8.9, -6.8, 12.0

Nod (un nod) a, @, #, 8, Q

Llinyn (un nod neu fwy) Helo, abc, b, Y

Strwythurau data Disgrifio, dylunio, dehongli a thrin strwythurau data gan gynnwys cofnodion, araeau un dimensiwn a dau ddimensiwn.

Mae disgrifio yn ymwneud â gallu disgrifio a nodi strwythur data (er enghraifft, lluniadu cynrychioliad o arae un dimensiwn neu arae dau ddimensiwn).

Mae dylunio yn ymwneud â gallu dylunio arae neu gofnod a fyddai'n addas ar gyfer diben penodol (e.e. dylunio arae sy'n addas ar gyfer storio data ar werthiannau dros gyfnod o amser).

Mae dehongli yn ymwneud â gallu defnyddio strwythur data i ddewis data neu drosi cynrychioliad graffigol o arae yn ffurf wedi'i rhaglennu, neu'r ffordd arall.

Mae trin yn ymwneud ag ychwanegu, dileu a golygu data o fewn arae neu gofnod.

Dewis, nodi a chyfiawnhau strwythurau data priodol ar

Mae hyn yn ymwneud â dewis y strwythur data cywir ar gyfer sefyllfa benodol (e.e.

Page 25: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

25

gyfer sefyllfaoedd penodol. dylunio arae sy'n addas ar gyfer storio data ar werthiannau dros gyfnod o amser) neu nodi'r strwythur data mwyaf priodol o ddetholiad o strwythurau data ac, yn y naill achos a'r llall, gallu cyfiawnhau pam mae'r math data yn addas.

Dylunio ffeiliau Dylunio ffeiliau a chofnodion sy'n briodol ar gyfer rhaglen benodol.

Fel uchod, ond mewn perthynas â ffeiliau a chofnodion.

Dilysu a gwirio data Esbonio a defnyddio technegau priodol er mwyn dilysu a gwirio data.

Dilysu:

Gwiriad amrediad, gwiriad math, gwiriad fformat, gwiriad presenoldeb, tabl am-edrych, gwirio digid.

Dilysu:

Bysellu dwbl, prawfddarllen.

Dylunio algorithmau a rheolweithiau rhaglennu sy'n dilysu ac yn gwirio data.

Algorithmau sy'n gysylltiedig â'r rhestr uchod.

Esbonio bonion

'Yn ôl i'r hanfodion' – Bydd llawer o fyfyrwyr wedi anghofio eu bod wedi dysgu cyfrif gan ddefnyddio bôn 10, a byddant yn derbyn mai 'felly y mae hi'.

Gallwch ddechrau gyda'r llinell:

'Mae 10 math o bobl yn y byd – y rhai sy'n deall rhifau deuaidd a'r rhai nad ydynt yn eu deall' – gadewch y geiriau hyn ar y sgrin/bwrdd gwyn yn ystod y wers. Dywedwch wrth y myfyrwyr fod hyn yn ffaith, a'r gobaith yw y bydd hyn wedi ennyn eu chwilfrydedd, neu y byddant yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr.

Atgoffwch y myfyrwyr eu bod, pan oeddent yn yr ysgol gynradd, wedi ysgrifennu 'Cannoedd, Degau ac Unedau' uwchben rhifau cyn eu defnyddio mewn problemau mathemateg. Esboniwch fod defnyddio'r system hon, a 10 rhif (0-9) wedi rhoi'r blociau adeiladu iddynt allu llunio unrhyw rif.

Nawr, gofynnwch iddynt beth petai dim ond dau rif oedd ganddynt, sef 1 a 0. A allent gynrychioli unrhyw rif? Gofynnwch am y rhif mwyaf y gallent ei gynrychioli gan ddefnyddio dau ddigid yn unig. Byddant yn dweud '11' (oni bai eu bod eisoes yn deall rhifau deuaidd).

Esboniwch fod rhifau deuaidd yn seiliedig ar system bôn wahanol. Yn hytrach na cholofnau ar gyfer miloedd, cannoedd, degau ac unedau, mae'r colofnau wedi'u rhannu fel a ganlyn: ...128, 64, 32, 16, 8, 4, 2, 1. Gyda'r system hon, gellir cynrychioli unrhyw rif.

Esboniwch fod y system ddeuaidd yn cynhyrchu rhifau hir iawn sy'n anodd i'w trin ac, er y gellir defnyddio rhifau degaidd fel llaw fer, fod bôn 16 (hecsadegol) yn system well i'w defnyddio. Esboniwch fod angen 0-9 arnom, a rhai digidau ychwanegol, sef A-F, a bod y colofnau yn y drefn ...256, 16, 1

Cyfeiriwch yn ôl at y geiriau, 'Mae 10 math o bobl yn y byd – y rhai sy'n deall rhifau deuaidd a'r rhai nad ydynt yn eu deall'

Page 26: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

26

5. Meddalwedd System

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Rheoli adnoddau Disgrifio pwrpas a swyddogaeth y system weithredu wrth reoli adnoddau, gan gynnwys perifferolion, prosesau, cof a storfa gynorthwyol.

Mae'r system weithredu yn rheoli adnoddau, er enghraifft:

• Rheoli perifferolion fel dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu

• Rheoli argraffu gan ddefnyddio sbwlio • Rheoli storfa gynorthwyol • Cywasgu ffeiliau • Dad-ddarnio disg • Rheoli cof (RAM) • Rheoli prosesau • Rheoli diogelwch

Darparu rhyngwyneb

Disgrifio pwrpas a nodweddion y system weithredu wrth ddarparu rhyngwyneb defnyddiwr.

Mae'r system weithredu yn darparu rhyngwyneb drwy wneud y canlynol:

• Darparu rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (ffenestri, eiconau, dewislenni, pwyntyddion)

• Darparu rhyngwyneb llinell orchymyn • Galluogi defnyddwyr i

gopïo/dileu/symud/trefnu/chwilio ffeil neu ffolderi

• Cyrchu gosodiadau’r system, fel caledwedd.

• Galluogi defnyddwyr i gael mwy nag un ffenestr ar agor

• Rhoi negeseuon gwallau/cymorth i’r defnyddiwr.

• Galluogi addasu’r rhyngwyneb, e.e. newid cefndir/cynllun y bwrdd gwaith

• Galluogi'r defnyddiwr i symud rhwng tasgau (rhaglenni/ffenestri)

Meddalwedd wasanaethu

Esbonio pwrpas a nodweddion amrediad o feddalwedd wasanaethu.

Esbonio pwrpas a nodweddion amrediad o feddalwedd wasanaethu, er enghraifft:

• Sganio am firysau • Mur gwarchod • Dad-ddarnio • Cywasgu • Monitro'r system • Rheoli tasgau • Sganio a thrwsio disgiau • Copi wrth gefn o'r system

Page 27: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

27

6. Egwyddorion Rhaglennu

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Lefelau iaith gyfrifiadurol

Disgrifio nodweddion a phwrpas ieithoedd lefel uchel a lefel isel.

Nid yw ieithoedd rhaglennu lefel isel yn debyg i ieithoedd naturiol, fel Cymraeg neu Saesneg. Maent wedi'u ffurfio'n llwyr o batrymau didol (cyfarwyddiadau neu ddata) sy’n gallu cael eu gweithredu’n uniongyrchol gan y CPU.

Iaith raglennu sy’n caniatáu i god gael ei ysgrifennu yw iaith lefel uchel, ac mae'n debyg i iaith ddynol fel Cymraeg neu Saesneg. Mae’n well gan rai rhaglenwyr ddefnyddio ieithoedd rhaglennu lefel uchel am eu bod yn haws i'w deall, eu dysgu a’u rhaglennu gan fod y gorchmynion yn debycach i'r Saesneg a bod dynodwyr yn gallu bod yn hir ac yn ystyrlon. Mae ieithoedd rhaglennu lefel uchel hefyd yn caniatáu defnyddio gorchmynion pwerus sy’n cyflawni tasgau eithaf cymhleth fel MsgBox yn Visual Basic neu’r cymal SORT yn COBOL.

Nodi a disgrifio sefyllfaoedd sy'n galw am ddefnyddio iaith lefel uchel neu lefel isel.

Mae ieithoedd lefel isel yn ddefnyddiol pan fydd y cyflymder gweithredu yn allweddol neu wrth ysgrifennu meddalwedd sy'n rhyngweithio'n uniongyrchol â'r galedwedd, e.e. gyriannau dyfeisiau.

Caiff ieithoedd lefel uchel eu defnyddio pan nad yw’r cyflymder gweithredu yn allweddol, e.e. mewn rhaglenni cynhyrchedd cyffredin, fel prosesydd geiriau.

Page 28: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

28

7. Peirianneg Meddalwedd

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Offer meddalwedd Esbonio swyddogaeth offer Amgylchedd Datblygu Integredig (IDE) wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni.

Deall sut mae IDE yn helpu wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni, gan gynnwys:

• Golygydd • Crynhoydd • Dehonglydd • Cysylltwr • Llwythwr • Dadfygiwr • Olrhain • Torbwynt • Gwyliwr newidyn • Arolygwr cof • Diagnosteg gwallau

Page 29: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

29

8. Llunio Rhaglenni

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion

Disgrifio pwrpas crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion, a rhoi enghreifftiau o'u defnydd.

Rhaglen sy’n trawsnewid yr iaith raglennu gydosod lefel isel yn god peiriant yw cydosodydd.

Rhaglen sy'n trawsnewid cod yn god peiriant un llinell ar y tro ac yna'n ei weithredu yw dehonglydd.

Rhaglen sy'n trawsnewid rhaglenni lefel uchel yn god peiriant i'w weithredu yn ddiweddarach yw crynhoydd (caiff y rhaglen gyfan ei thrawsnewid, nid un llinell ar y tro fel yn achos dehonglydd).

Esbonio'r prif gamau sy'n gysylltiedig â'r broses grynhoi: dadansoddiad geiriadurol, llunio tabl symbolau, dadansoddiad cystrawen, dadansoddiad semantig, cynhyrchu cod ac optimeiddiaeth.

Dadansoddiad geiriadurol:

• Mae sylwadau a bylchau diangen yn cael eu dileu.

• Caiff ‘tocynnau’ (tokens) eu rhoi yn lle geiriau allweddol, cysonion a dynodwyr.

Llunio tabl symbolau:

• Caiff tabl symbolau ei greu sy’n dal cyfeiriadau newidynnau, labeli ac is-reolweithiau.

Dadansoddiad cystrawen:

• Mae tocynnau’n cael eu harchwilio i weld a ydyn nhw’n cyd-fynd â’r sillafu a’r gramadeg disgwyliedig, gan ddefnyddio diffiniadau iaith safonol. Caiff hyn ei wneud trwy ddosrannu pob tocyn i benderfynu a yw’n defnyddio’r gystrawen gywir ar gyfer yr iaith raglennu

• Os caiff gwallau cystrawen eu darganfod, caiff negesau gwall eu cynhyrchu.

Dadansoddiad semantig:

• Caiff newidynnau eu harchwilio i sicrhau eu bod wedi cael eu datgan a’u defnyddio’n iawn.

• Caiff newidynnau eu harchwilio i sicrhau eu bod o’r math data cywir, e.e. nad yw gwerthoedd real yn cael eu neilltuo i gyfanrifau.

Page 30: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

30

• Caiff gweithrediadau eu harchwilio i sicrhau eu bod yn gyfreithlon am y math o newidyn sy’n cael ei ddefnyddio, e.e. fyddech chi ddim yn ceisio storio canlyniad gweithrediad rhannu fel cyfanrif.

Cynhyrchu cod:

• Mae cod peiriant yn cael ei gynhyrchu.

Optimeiddio cod:

• Gall optimeiddio cod gael ei ddefnyddio i’w wneud yn fwy effeithlon/yn gyflymach/yn llai dwys o ran adnoddau.

Disgrifio a rhoi enghreifftiau o wallau rhaglennu.

Gwallau rhaglennu fel:

• Cystrawen • Amser rhedeg/gweithredu • Rhesymegol • Cysylltu • Talgrynnu • Trychiad.

Page 31: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

31

9. Diogelwch a rheoli data

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Diogelwch data Disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio cyfrifiaduron i storio data personol.

Ymwybyddiaeth o'r risgiau i ddata sy'n cael eu dal ar gyfrifiaduron personol. Risgiau hacio, colli i firysau, methiannau technegol, rhyng-gipio, dwyn corfforol a dwyn data o gydrannau wedi'u gwaredu.

Disgrifio dulliau sy'n diogelu data gan gynnwys lefelau mynediad, cyfrineiriau addas ar gyfer mynediad a thechnegau amgryptio.

Dulliau fel:

• Lefelau mynediad yn caniatáu mynediad defnyddiwr at swyddogaethau/mannau penodedig

• Llunio cyfrinair (cyfrineiriau 'cryf' a 'gwan') • Technegau amgryptio (e.e. amgryptio NEUA.)

Rheoli data Esbonio'r angen am ffeiliau wrth gefn a chenedlaethau o ffeiliau.

Deall bod copïau wrth gefn yn diogelu data ar ôl colli data cynradd. Mae cenedlaethau o ffeiliau, e.e. y drefn nain-mam-merch, yn fodd i adfer data i fersiwn flaenorol ar ôl colled data gatastroffig.

Esbonio'r angen i archifo ffeiliau.

Archifo yw’r broses o storio data nad ydyn nhw bellach yn cael eu defnyddio’n gyfredol neu’n aml. Maen nhw’n cael eu cadw am resymau diogelwch, cyfreithiol neu hanesyddol.

Cywasgu Esbonio sut y defnyddir algorithmau cywasgu data colledus a digolled.

Deall bod cywasgu yn lleihau maint ffeil o ran cof.

Mae cywasgu colledus yn arwain at golli ansawdd data ar ôl cywasgu. Nid yw cywasgu digolled yn arwain at golli unrhyw ansawdd data ar ôl cywasgu.

Cyfrifo cymarebau cywasgu.

Cyfrifo cymarebau cywasgu yn seiliedig ar faint ffeil cyn ac ar ôl cywasgu (e.e. bydd gan ffeil 10MB sydd wedi'i chywasgu i ffeil 2MB gymhareb gywasgu o 5:1).

Gan ddefnyddio cymarebau, cyfrifo maint ffeiliau ar ôl cywasgu.

Gan ddefnyddio data (e.e. maint cyfrwng storio'r gyrchfan), cyfrifo'r gymhareb gywasgu sydd ei hangen i storio data.

Page 32: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

32

Diogelwch rhwydweithiau

Cydnabod pwysigrwydd diogelwch rhwydweithiau a disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio rhwydweithiau.

Gwybodaeth am ddiogelwch rhwydweithiau, gan gynnwys:

• Meddalwedd wrthfirws • Muriau gwarchod • Dilysiad dau ffactor • Lefelau mynediad • Cyfrineiriau

Disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio rhwydweithiau, er enghraifft:

• Risgiau hacio • Risgiau firysau • Methiannau technegol • Rhyng-gipio.

Esbonio pwrpas a chynnwys nodweddiadol polisi defnydd derbyniol a pholisi adfer ar ôl trychineb.

Cynnwys a phwrpas polisïau defnydd derbyniol a pholisïau adfer ar ôl trychineb enghreifftiol.

Seiberddiogelwch Disgrifio'r nodweddion ac esbonio'r dulliau o ddiogelu rhag maleiswedd, gan gynnwys firysau, mwydod a chofnodwyr trawiadau bysellau.

Maleiswedd

• Mae maleiswedd, sy'n golygu meddalwedd faleisus, yn derm sbectrwm eang a ddefnyddir i ddisgrifio meddalwedd a ddefnyddir i amharu ar weithrediad cyfrifiadur.

Firysau

• Rhaglen gyfrifiadurol sy’n gallu ei chopïo ei hun ar raglenni eraill, yn aml gyda’r bwriad o ddifrodi data yn faleisus, yw firws. Caiff firws ei drosglwyddo drwy gael ei gario gan raglen arall a elwir yn 'fector'.

Mwydyn

• Mae'n debyg i firws ond yn rhaglen annibynnol sy'n dyblygu ei hun er mwyn lledaenu i gyfrifiaduron eraill. Nid oes angen fector arni.

Cofnodwyr trawiadau bysellau

• Rhaglenni cudd yw'r rhain sy'n cofnodi mewnbwn bysellfwrdd (neu ddyfais fewnbynnu arall) ac yn trosglwyddo'r data hyn i drydydd parti neu'n dal y data iddynt gael eu casglu.

Gellir gwarchod drwy'r canlynol:

• muriau gwarchod • rhaglenni gwrthfirws • diweddaru meddalwedd sydd wedi mynd yn hen • offer diogelwch

Page 33: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

33

• personél.

Disgrifio'r ffurfiau gwahanol ar ymosodiad yn seiliedig ar wendidau technegol a/neu ymddygiad defnyddwyr.

Gwendid technegol:

• Heintiad gan unrhyw rai o'r rhaglenni uchod. • Chwistrellu SQL • Ymosodiad DoS. • Ymosodiad sy'n seiliedig ar gyfrineiriau. • Ffug-gyfeiriadau IP.

Ymddygiad defnyddiwr

• Teilwrio cymdeithasol. • Gwe-rwydo.

Disgrifio dulliau o nodi gwendidau.

Llunio ôl troed

• Archwilio adnoddau ar y Rhyngrwyd er mwyn dod o hyd i wybodaeth am systemau, gan geisio darganfod yr hyn y gall ymosodwr posibl hefyd ei ddarganfod heb yn wybod i sefydliad (gellir cael gwared ar bethau a all ddenu ymosodwyr drwy ddefnyddio'r dull hwn).

Profi treiddiad

• Ceisio treiddio i haenau diogelwch system er mwyn dangos risgiau diogelwch.

Esbonio ffyrdd gwahanol o ddiogelu systemau meddalwedd wrth ddylunio, creu, profi a defnyddio.

Deall y gall systemau meddalwedd fod yn anniogel ac y gall dilyn arferion penodol yn ystod prosesau dylunio, creu a phrofi liniaru'r peryglon hyn. Yr enw cyffredin ar hyn yw ‘diogel o fwriad’. Caiff arferion maleisus eu cymryd yn ganiataol a thybir y bydd data annilys yn cael eu rhoi i mewn i'r system neu y bydd pobl yn ceisio ei hacio, ac felly caiff y materion hyn eu hystyried wrth greu system newydd. Ymhlith yr enghreifftiau cyffredin mae:

• Gorlifo o'r byffer • Gormod o ganiatâd • Cyfyngiadau sgriptio • Derbyn paramedr heb ddilysu

Disgrifio swyddogaeth cwcis y rhyngrwyd.

Cwci yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio darn bach o god a roddir i borwr Gwe gan weinydd Gwe.

Prif bwrpas cwci yw nodi defnyddwyr a pharatoi tudalennau gwe wedi'u teilwra neu gadw gwybodaeth am fewngofnodi i wefannau.

Gellir ystyried cwcis yn broblem diogelwch am eu bod yn cynnwys gwybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio neu ei gwerthu ac mae cwcis olrhain yn gallu cynnwys gwybodaeth am y gwefannau y mae defnyddwyr wedi ymweld â nhw.

Page 34: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

34

10. Effeithiau moesegol, cyfreithiol ac amgylcheddol

technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Moesegol Disgrifio effeithiau moesegol technoleg ddigidol, gan gynnwys materion yn ymwneud â phreifatrwydd a seiberddiogelwch.

Y rhaniad digidol.

Amodau gwaith.

Effaith amgylcheddol (cysylltiadau â materion amgylcheddol).

Goblygiadau preifatrwydd data preifat. Hacio het ddu/het wen/het lwyd.

Pwysigrwydd cynyddol seiberddiogelwch yn sgil amlder cynyddol ymosodiadau.

Esbonio pwysigrwydd cydymffurfio â safonau proffesiynol, gan gynnwys codau ymddygiad moesegol ffurfiol ac anffurfiol.

Byddai cod ffurfiol yn cynnwys polisi defnydd derbyniol neu bolisi mynediad rhyngrwyd. Mae unrhyw bolisi sy'n cael ei ysgrifennu'n ffurfiol ac mae pobl yn ymrwymo iddo yn cael ei ystyried yn god ffurfiol.

Mae cod anffurfiol yn cynnwys disgwyliadau, arferion, gonestrwydd personol.

Deddfwriaeth Esbonio sut mae deddfwriaeth gyfredol berthnasol yn effeithio ar ddiogelwch, preifatrwydd, diogelu data a rhyddid gwybodaeth.

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys:

Deddf Diogelu Data.

Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.

Deddf Hawlfraint.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Materion amgylcheddol

Disgrifio effeithiau amgylcheddol technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach.

'Technotrash'/E-wastraff

Defnyddio mwy o egni yn y cartref.

Llinellau cydosod byd-eang.

Mwy o gloddio am elfennau prin yn y ddaear.

Llawer iawn o egni yn cael ei ddefnyddio gan ffermydd gweinyddion (gweinyddion ac, yn fwy sylweddol, oeri).

Page 35: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

35

Uned 2

1. Datrys problemau

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Datrys problemau Defnyddio dull systematig o ddatrys problemau gan gynnwys defnyddio dadelfennu a haniaethu.

Dadelfennu yw’r broses o rannu problem gymhleth yn ddarnau cydrannol llai.

Haniaethu yw'r broses o gael gwared ar fanylion diangen a symleiddio.

Yn gyffredinol, mae haniaethu yn rhagflaenu dadelfennu.

Defnyddio haniaethu yn effeithiol i fodelu agweddau dethol ar y byd allanol mewn algorithm neu raglen.

Defnyddio haniaethu er mwyn tynnu manylion diangen o sefyllfa byd go iawn a modelu'r canlyniad wedi'i symleiddio mewn algorithm neu raglen.

Defnyddio haniaethu yn effeithiol i strwythuro rhaglenni yn briodol yn rhannau modiwlaidd gyda rhyngwynebau clir, wedi'u dogfennu'n dda.

Defnyddio haniaethu i lunio rhaglen sydd wedi'i strwythuro'n dda (mor syml a chain â phosibl). Dylai rhaglenni modiwlaidd gael eu llunio o is-reolweithiau hunangynhaliol. Dylai rhyngwynebau fod yn glir ac yn ddiamwys, a lle y cânt eu dogfennu, dylai dogfennaeth fod mor ddiamwys â phosibl.

Page 36: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

36

2. Algorithmau a lluniadau rhaglennu

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Algorithmau Defnyddio dulliau cyffredin o ddiffinio algorithmau, gan gynnwys ffug-god a siartiau llif.

Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y confensiynau ffug-god a'r confensiynau siartiau llif a ddefnyddir.

Lluniadau rhaglennu

Nodi, esbonio a defnyddio is-reolweithiau mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi is-reolweithiau mewn algorithmau ac esbonio eu swyddogaeth.

Deall mai dilyniant o gyfarwyddiadau sy'n cyflawni tasg benodol yw is-reolweithiau.

Defnyddio is-reolweithiau i ddatrys problemau penodol.

Nodi, esbonio a defnyddio dilyniant, detholiad ac iteriad mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi dilyniant, detholiad ac iteriad mewn algorithmau ac esbonio eu swyddogaeth.

Dilyniant: gweithred, neu ddigwyddiad, yn arwain at y weithred nesaf mewn trefn benodedig.

Detholiad: Mewn detholiad, gofynnir cwestiwn ac, yn dibynnu ar yr ateb, bydd y rhaglen yn cyflawni un o ddwy weithred.

Iteriad: Y broses o fynd drwy gyfres o gyfarwyddiadau unwaith yw iteriad. Mae'r rhan fwyaf o raglenni yn cynnwys dolenni o gyfarwyddiadau a weithredir dro ar ôl tro. Bydd y cyfrifiadur yn gweithredu'r ddolen dro ar ôl tro, gan iteru drwy'r ddolen.

Nodi, esbonio a defnyddio cyfrifon a gwalchwerthoedd mewn algorithmau a rhaglenni.

Rhaid i iteriadau o fewn dolen gael eu terfynu yn y pen draw. Gellir defnyddio cyfrifon a gwalchwerthoedd i derfynu dolenni iteriad.

Mae cyfrifon yn cyfrif sawl gwaith mae proses wedi cael ei chyflawni.

Gwerthoedd nad ydynt yn perthyn i'r ystod neu'r math o ddata 'arferol' a brosesir gan y rhaglen yw gwalchwerthoedd.

Yn y ddau achos, gellir terfynu dolen os bydd cyfrif yn cyrraedd gwerth a bennir ymlaen llaw neu os bydd y ddolen yn dod ar draws gwalchwerth.

Page 37: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

37

Nodi ac esbonio lluniadau mewn rhaglenni gwrthrych-gyfeiriadol.

Nodi ac esbonio'r canlynol mewn rhaglen benodol:

• uwchddosbarth • dosbarth • gwrthrych • priodwedd • dull • sylw

Dilyn a gwneud newidiadau i algorithmau a rhaglenni sy'n datrys problemau gan ddefnyddio:

dilyniant, detholiad ac iteriad

mewnbynnu, prosesu ac allbynnu.

Dilyn llif algorithmau, a chynnal rhediadau ffug, gan wneud newidiadau i'r algorithmau a fydd yn effeithio ar allbwn neu'n trwsio algorithm sydd 'wedi torri'.

Y mathau posibl o algorithmau yw dilyniant, detholiad ac iteriad, a gallant gynnwys mewnbynnu, prosesu ac allbynnu gwerthoedd.

Ysgrifennu algorithmau a rhaglenni sy'n datrys problemau gan ddefnyddio:

dilyniant, detholiad ac iteriad

mewnbynnu, prosesu ac allbynnu.

Ysgrifennu algorithmau i ddatrys problemau penodol.

Y mathau posibl o algorithmau yw dilyniant, detholiad ac iteriad, a gallant gynnwys mewnbynnu, prosesu ac allbynnu gwerthoedd.

Newidynnau Nodi, esbonio a defnyddio newidynnau lleol ac eang mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi newidynnau eang a lleol mewn algorithmau a gallu defnyddio'r rhain yn briodol.

Deall mai dim ond yn ystod oes is-reolwaith y mae newidynnau lleol yn bodoli ac mai dim ond i'r is-reolwaith y maent wedi'u datgan ynddi y bydd y data yn y newidynnau hynny ar gael.

Deall bod newidynnau eang yn bodoli drwy raglen gyfan a bod y data yn y newidynnau hynny ar gael i bob rheolwaith o fewn y rhaglen gyfan.

Dynodwyr Esbonio pam mae defnyddio dynodwyr hunanddogfennu ac anodiadau yn bwysig mewn rhaglenni.

Rhoi enghreifftiau o ddynodwyr au hunanddogfennu ac

Deall y dylai rhaglenni fod wedi'u henwi'n synhwyrol lle bynnag y bo modd er mwyn i drydydd parti ddeall eu pwrpas, e.e. dylai newidyn sy'n cynnwys enw cyntaf gael ei ddiffinio fel enwcyntaf

Page 38: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

38

anodiadau.

Trin llinynnau Nodi, esbonio a defnyddio rheolweithiau ar gyfer trin llinynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

Pasio llinynnau

Cydgadwynedd

Cymharu llinynnau

Amnewid

Trimio

Mesur hyd

Gweithrediadau mathemategol

Nodi, esbonio a chymhwyso gweithrediadau mathemategol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura mewn algorithmau a rhaglenni.

Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y gweithrediadau mathemategol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura a ddefnyddir. Defnyddio'r rhain o fewn algorithmau a rhaglenni i brosesu data.

Gweithrediadau rhesymegol

Nodi, defnyddio ac esbonio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID a NEUA mewn algorithmau a rhaglenni.

Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y gweithrediadau rhesymegol a ddefnyddir. Defnyddio'r rhain o fewn algorithmau a rhaglenni i brosesu data.

Trefnu Disgrifio nodweddion algorithmau trefniad cyfunol a threfniad bwrlwm.

Trefniad cyfunol fel algorithm "rhannu a gorchfygu" lle mae'r canlynol yn digwydd:

Caiff rhestr heb drefn ei rhannu'n n o is-restri, gyda phob un yn cynnwys 1 elfen.

Caiff yr is-restri eu cyfuno dro ar ôl tro i ffurfio is-restri newydd sydd wedi'u trefnu, nes bod ond 1 is-restr wedi'i threfnu yn weddill.

Trefniad bwrlwm fel algorithm trefnu syml lle mae'r canlynol yn digwydd:

Mae'r algorithm yn mynd drwy'r rhestr sydd i'w threfnu dro ar ôl tro.

Mae'r algorithm yn cymharu pob pâr o eitemau cyfagos ac yn eu cyfnewid os nad ydynt yn y drefn gywir.

Caiff y broses o fynd drwy'r rhestr ei hailadrodd nes nad oes angen cyfnewid unrhyw eitemau

Page 39: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

39

Chwilio Esbonio a defnyddio algorithmau chwilio llinol a deuaidd.

Defnyddio chwiliadau llinol a deall mai proses chwilio syml yw hon lle caiff rhestr ei chwilio nes bod y gwerth gofynnol yn cael ei ddarganfod.

Defnyddio algorithmau chwilio deuaidd a deall chwilio deuaidd fel algorithm "rhannu a gorchfygu" lle mae'r canlynol yn digwydd:

Mae'r gwerth canol mewn rhestr yn cael ei archwilio er mwyn gweld a yw'n cyfateb i'r gwerth chwilio.

Os yw'r gwerth canol yn fwy na'r gwerth chwilio, bydd hanner uchaf y rhestr yn cael ei anwybyddu. Os yw'n llai na'r gwerth chwilio, bydd yr hanner isaf yn cael ei anwybyddu.

Caiff y broses ei hailadrodd dro ar ôl tro, gyda'r rhestr yn haneru bob tro nes bod y gwerth chwilio wedi cael ei ddarganfod.

Profi a gwerthuso Esbonio sut mae algorithm neu raglen yn gweithio a gwerthuso pa mor addas i'r pwrpas ydyw wrth fodloni gofynion.

Esbonio sut mae algorithm yn prosesu data er mwyn cael canlyniad.

Cymharu algorithmau gwahanol (e.e. a yw datganiad OS nythol yn hirach na dolen nythol, ac os felly pa un a raglennwyd yn fwy effeithlon?).

Gwerthuso effeithlonrwydd algorithm neu raglen gan ddefnyddio rhesymu rhesymegol a phrawf-ddata.

Cynnal rhediadau ffug ar algorithmau gan ddefnyddio prawf-ddata ac esbonio'r allbynnau.

Syniadau ar gyfer gwersi:

Chwilio Deuaidd yn erbyn Chwilio Llinol – Gofynnwch i ddau grŵp o fyfyrwyr ddyfalu'r rhif rydych yn meddwl amdano (rhwng 1 a 1000). Dylai un grŵp ddefnyddio'r fethodoleg chwilio deuaidd, a dylai'r llall ddefnyddio'r fethodoleg chwilio llinol. Pwy yw'r cyntaf i ddyfalu eich rhif? (I wneud hyn yn fwy hwyliog, gwnewch hyn nifer o weithiau gyda gwahanol rifau, wedyn dewiswch y rhif 1 er mwyn profi nad yw chwilio deuaidd yn gyflymach bob amser).

Page 40: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

40

3. Ieithoedd rhaglennu

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Ieithoedd tagio Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio tudalennau HTML gan ddefnyddio'r tagiau canlynol:

• HTML <html> • Pen <head> • Teitl <title> • Corff <body> • Penawdau <h1> - <h6> • Paragraff <p> • Italig <i> • Trwm <b> • Alinio i'r canol <center> • Angori <a href=”URL”> • Rhestr heb drefn <ul> • Eitem Rhestr <li> • Dyfyniad Bloc <blockquote> • Llinell Lorweddol <hr> • Delwedd <img>

a'u caefeydd cyfatebol.

Deall bod tagiau'n cael effeithiau gwahanol ar destun a gallu nodi tagiau sy'n cael yr effeithiau hyn.

Defnyddio'r tagiau i farcio dogfen yn unol â gofynion penodol.

Page 41: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

41

Ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol

Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni Java o fewn amgylchedd Greenfoot, gan ddefnyddio'r sgiliau canlynol:

• Creu dosbarthiadau newydd ac ymestyn y rhai sydd eisoes yn bodoli

• Creu gwrthrychau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn bodoli

• Creu bydoedd newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn bodoli

• Ysgrifennu a chyflawni dulliau

• Newid dulliau sydd eisoes yn bodoli

• Creu priodweddau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn bodoli (gan gynnwys rhai cyhoeddus, preifat, statig ac ati)

• Ychwanegu a thynnu gwrthrychau o fydoedd

• Defnyddio actorion • Symud gwrthrychau o

amgylch byd • Mewnbwn bysellfwrdd • Ychwanegu a chwarae

seiniau • Gweithredu a defnyddio dull

pasio paramedrau (yn ôl gwerth a chyfeiriad)

• Cyrraedd un gwrthrych o un arall

• Gweithredu dull canfod gwrthdrawiad gwrthrych

• Gweithredu generadur haprifau

• Defnyddio cysyniad etifeddu a mewngapsiwleiddio.

Er enghraifft, gellid gofyn i ymgeiswyr wneud y canlynol:

• Creu byd Greenfoot newydd • Llenwi byd penodol ag un gwrthrych

neu fwy • Golygu'r gwrthrychau er mwyn

iddynt droi a symud a hap • Golygu cod y rhaglen er mwyn

gwneud i'r gwrthrychau symud i gyfeiriad y bysellau saeth pan gânt eu pwyso

• Golygu'r gwrthrychau er mwyn canfod gwrthdrawiadau rhwng gwrthrychau a thynnu'r gwrthrychau hyn allan o'r byd

• Ychwanegu sain a fydd yn chwarae pan fydd gwrthrych yn gofyn iddo wneud

• Ychwanegu gwrthrych sy'n gallu derbyn negeseuon gan wrthrychau eraill

• Golygu gwrthrychau fel eu bod yn gallu newid y ddelwedd/gwerth sydd i'w gweld ar y byd Greenfoot

• Cadw bydoedd gorffenedig o dan yr enwau ffeiliau a roddir.

Iaith gydosod Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni cydosod syml gan ddefnyddio'r cofrifau canlynol:

• Mewnbwn INP • Allbwn OUT • Storio STA

Er enghraifft, gellid gofyn i ymgeiswyr ddylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni cydosod syml sy'n gwneud y canlynol:

• llwytho cofrestr R â chynnwys cyfeiriad X

• llwytho cofrestr S â chynnwys

Page 42: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

42

• Llwytho LDA • Adio

ADD • Tynnu

SUB • Canghennu

BRA • Gorffen/Stopio/Atal

HLT • Diffiniad data

DAT

cyfeiriad Y

ac adio'r ddau rif at ei gilydd.

4. Strwythurau data a mathau data

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Gweithredu strwythurau data

Defnyddio araeau un dimensiwn a dau ddimensiwn, ffeiliau a chofnodion.

Defnyddio, fel sy'n briodol, araeau un dimensiwn mewn algorithmau a rhaglenni er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu data.

Defnyddio, fel sy'n briodol, araeau dau ddimensiwn mewn algorithmau a rhaglenni er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu data.

Defnyddio, fel sy'n briodol, gofnodion mewn algorithmau a rhaglenni er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu data.

Gweithredu mathau data

Defnyddio amrywiaeth o fathau data, gan gynnwys cyfanrif, Boole, real, nod a llinyn.

Defnyddio, fel sy'n briodol, fathau data i ddal data mewn newidynnau/araeau/cofnodion mewn algorithmau a rhaglenni.

Cyfanrif (rhif cyfan) 7, 0, 15, -5

Boole (Cywir/Anghywir)

Real (rhif gyda ffracsiwn neu heb ffracsiwn) 7.2, 8.9, -6.8, 12.0

Nod (un nod) a, @, #, 8, Q

Llinyn (un nod neu fwy) Helo, abc, b, Y (Gellir ymestyn hyn yn ymarferol i gynnwys mathau data gwahanol mewn rhaglenni (e.e. sengl, dwbl, nod, dyddiad, degolyn ac ati)

Page 43: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

43

Newidynnau a chysonion

Pennu, nodi ac esbonio'r defnydd o gysonion a newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

Pennu, nodi a defnyddio cysonion mewn rhaglenni ac algorithmau i storio data nad ydynt yn newid.

Pennu, nodi a defnyddio cysonion mewn rhaglenni ac algorithmau i storio data sy'n gallu newid.

Deall ble mae cysonion a newidynnau yn briodol a'u defnyddio'n briodol.

Disgrifio cwmpas a hyd oes newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

Mae cwmpas newidyn yn golygu gwelededd/hygyrchedd newidyn.

Mewn geiriau eraill, pa rannau o'ch rhaglen sy'n gallu gweld neu ddefnyddio'r newidyn.

Gall fod yn eang neu'n lleol.

Hyd oes newidyn. Hyd oes newidyn yw hyd y lleoliad lle mae'r newidyn yn bodoli.

Hyd oes newidynnau Eang.

Bydd newidynnau Eang yn dechrau bodoli pan fydd y rhaglen yn dechrau.

Bydd newidynnau Eang yn peidio â bodoli pan fydd y rhaglen yn cau.

Hyd oes newidynnau Lleol.

Bydd newidyn lleol yn dechrau bodoli pan fydd y newidyn yn cael ei ddiffinio o fewn is-reolwaith.

Bydd newidyn lleol yn peidio â bodoli ar ddiwedd y cwmpas y mae'r newidyn wedi'u ddiffinio ynddo (pan fydd yr is-reolwaith yn dod i ben).

5. Diogelwch a dilysu

Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon

Technegau diogelwch

Defnyddio technegau diogelwch priodol, gan gynnwys dilysu a gwirio.

Defnyddio technegau sy'n dilysu data (gallai hyn gynnwys unrhyw rai o'r ystod o wiriadau dilysu a drafodwyd) mewn algorithmau.

Defnyddio technegau sy'n dilysu gwybodaeth a roddir mewn algorithm.

Page 44: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

44

Uned 3 Asesiad di-arholiad

Dyddiad cyflwyno

Caiff y gwaith ei gyflwyno mewn pryd i gyrraedd y safonwr yn unol â'r amserlen arholiadau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn ardystio academaidd. Rhaid mai'r dasg yw'r un a bennwyd gan CBAC ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.

Dull cyflwyno

Rhaid i'r holl farciau gael eu cyflwyno i System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol (IAMIS) CBAC. Bydd y system hon yn nodi'r sampl ofynnol yn awtomatig. Rhaid cyflwyno gwaith mewn fformat electronig. Ar hyn o bryd, bydd hyn yn golygu copïo'r sampl i system ar-lein fesul ymgeisydd a fydd yn dosbarthu'r gwaith i'r safonwr priodol. Dylid trefnu'r gwaith fel y disgrifir ar dudalen 20 o'r fanyleb.

Goblygiadau ymarferol rheolau asesiad di-arholiad

Amodau/Adnoddau

Rhaid cynnal asesiad di-arholiad o dan yr amodau a ragnodir. Hynny yw, rhaid i gyfrifon a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad di-arholiad gael eu cloi rhwng sesiynau asesiad di-arholiad, a rhaid sicrhau nad oes gan y cyfrifon hyn fynediad at y rhyngrwyd nac e-bost. Ni ellir dod ag unrhyw waith i mewn o'r tu allan i amgylchedd rheoledig yr asesiad di-arholiad. Mae ymgeiswyr yn rhydd i wneud gwaith ymchwil y tu allan i'r amodau rheoledig, ond dylid defnyddio'r ymchwil hon i feithrin eu sgiliau a'u gwybodaeth. Ni ddylid dod ag unrhyw waith wedi'i deipio, diagramau na chod i mewn i'r arholiad. Mae'r rheol hon yn debyg i reolau arholiadau yn yr ystyr bod ymgeiswyr yn rhydd i adolygu er mwyn gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau y tu allan i arholiadau, ond ni chânt ddod ag unrhyw waith corfforol i mewn i arholiad. Rhaid i ganolfannau gadw cofnod o'r amser a dreulir gan ymgeiswyr ar yr asesiad di-arholiad ac ni chaniateir i ymgeiswyr dreulio mwy nag 20 awr arno. Mae canolfannau'n rhydd i ddewis eu dull o wneud hyn, ond rhaid bod tystiolaeth o hyn. Gall CBAC ofyn am y dystiolaeth hon ar unrhyw adeg.

Tasgau rhyddhau ac ymarfer

Mae canolfannau yn rhydd i ddefnyddio tasgau eraill i sicrhau bod ymgeiswyr yn gwella eu sgiliau i baratoi ar gyfer y dasg. Gallai hyn fod ar ffurf deunydd enghreifftiol neu gyn-bapurau.

Page 45: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

45

Mae canolfannau'n rhydd i osod 'tasgau ymarfer' cyn dechrau'r asesiad di-arholiad er mwyn hwyluso'r broses o feithrin sgiliau. Fodd bynnag, ni chaniateir i'r tasgau hyn gael eu cymryd yn uniongyrchol o'r dasg a ryddheir.

Cyfrif geiriau

Mae'r uchafswm geiriau o 2000 yn gysylltiedig â'r adroddiad a ddarperir gyda'r datrysiad wedi'i raglennu. Nid yw'r uchafswm geiriau hwn yn cynnwys cod y rhaglen na'r anodiad.

Trefniadau amser

Yr amser a ganiateir ar gyfer yr asesiad di-arholiad yw 20 awr. Yn amlwg, mae'n amhosibl i ymgeiswyr weithio am 20 awr mewn un sesiwn ac felly caiff yr amser hwn ei drefnu yn ôl disgresiwn y ganolfan. Mae'r dulliau isod yn ddilys; fodd bynnag, gall canolfannau ddewis dulliau gwahanol. 1. Cyflawni'r dasg o fewn cyfnod o wythnos Byddai hyn yn golygu bod yr ymgeiswyr yn gweithio dros gyfnod o wythnos (er enghraifft, 2 sesiwn 2 awr o hyd fesul diwrnod) ac yn cwblhau'r dasg gyfan o fewn yr amser hwn. Manteision y dull hwn

• Caiff y dasg ei chwblhau mewn cyfnod byr o amser a gall hyn fod yn fwy ymarferol o ran dilyniant

• Llai agored i effaith absenoldeb dysgwyr • Bydd yr 'ymdrwytho llwyr' a gyflawnir gan y dull hwn yn arwain at waith parhaus sydd

â ffocws pendant • Gall myfyrwyr wneud ymchwil fel gwaith cartref bob nos a bydd y gwaith yn fyw yn eu

cof pan fyddant yn dechrau ar dasgau'r diwrnod canlynol • Mae'n hawdd cadw cofnod o'r amser a dreulir.

Anfanteision y dull hwn

• Mae'n ddibynnol iawn ar sicrhau bod yr holl sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dasg wedi cael eu haddysgu cyn dechrau'r dasg, ac mae'n ddibynnol ar allu'r myfyrwyr i gofio nifer fawr o gysyniadau

• Mae angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Mae'n ddifaddeuant os bydd ymgeiswyr yn mynd yn sownd ar faes unigol, oherwydd

ni fyddant yn gallu ymchwilio a dychwelyd at y dasg nes iddynt gael eu rhyddhau o'r amodau rheoledig

• Mae'n anhyblyg os bydd ymgeisydd unigol yn absennol yn ystod wythnos y dasg

2. Rhannu'r gwaith dros nifer o sesiynau. Byddai'r dull hwn yn golygu neilltuo amser o fewn y cwricwlwm i'r ymgeiswyr a byddai'r holl waith yn cael ei gyflawni yn ystod y sesiynau hyn. (Er enghraifft, sesiynau 2 awr o hyd yn cael eu cynnal bob wythnos dros gyfnod o 10 wythnos).

Page 46: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

46

Manteision y dull hwn

• Caiff y dasg ei chwblhau mewn cyfnod penodedig o amser a gall hyn fod yn fwy ymarferol o ran cadw cofnod o amser

• Gellir addysgu sgiliau ar gyfer adrannau gwahanol mewn gwersi ar wahân rhwng y sesiynau prawf

• Gall ymgeiswyr wneud ymchwil fel gwaith cartref yn y cyfnod rhwng tasgau.

Anfanteision y dull hwn

• Mae angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Bydd ymgeiswyr sy'n colli diwrnodau pan gynhelir y sesiynau prawf yn colli cyfnodau

sylweddol o amser a bydd angen aildrefnu sesiynau ar eu cyfer • Ni fydd ymgeiswyr sy'n colli sesiynau addysgu rhwng y sesiynau asesiad di-arholiad

yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol.

3. Cynnal y dasg mewn sesiynau gwersi arferol Byddai hyn yn golygu addysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r dasg ac yna newid i amodau asesiad di-arholiad pan fydd yr ymgeiswyr wedi cael eu haddysgu. Er enghraifft, addysgu cysyniadau dadansoddi am 30 munud, yna newid i amodau rheoledig am y 30 munud nesaf ar ôl i'r cysyniadau sy'n ofynnol er mwyn mynd i'r afael â'r dasg gael eu haddysgu i'r ymgeiswyr. Ni chaniateir i'r tasgau yn y gwersi gael eu cymryd yn uniongyrchol o'r dasg a ryddheir, a dim ond y sgiliau gofynnol y dylid eu haddysgu cyn dechrau'r asesiad di-arholiad. Manteision y dull hwn

• Nid oes angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Gellir addysgu sgiliau ar gyfer adrannau unigol mewn gwersi ar wahân rhwng y

sesiynau prawf. • Gall ymgeiswyr wneud ymchwil fel gwaith cartref yn y cyfnod rhwng tasgau.

Anfanteision y dull hwn

• Mae'n anodd cadw cofnod o'r amser a dreulir, oherwydd rhaid i'r amser y mae'r ymgeiswyr yn ei dreulio ar yr asesiad di-arholiad gael ei gofnodi mewn munudau (gan mai rhan o wers yw'r amser y bydd yr ymgeiswyr yn ei dreulio ar y dasg (e.e. 30 munud)

• Gall y fethodoleg olygu bod ymgeiswyr yn dibynnu ar gof tymor byr, a fydd yn effeithio ar eu dealltwriaeth

• Bydd cyflwyno'r gwaith fesul darn yn effeithio ar allu'r ymgeiswyr i weld y darlun ehangach o ran datblygiad y project, a all arwain at waith cynllunio, gweithredu a gwerthuso gwannach a digyswllt.

Page 47: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

47

Gridiau marcio asesiad di-arholiad

Tasg Benodol Y dasg ar gyfer Uned 3 fydd senario a osodir gan CBAC a fydd ar ffurf project fydd ar gael i'w gyflwyno yn y flwyddyn a nodir yn unig. Gosodir senario wahanol ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dylai'r holl waith a wneir ar gyfer y dasg hon gael ei gyflawni o dan oruchwyliaeth athro, heb unrhyw fynediad at y Rhyngrwyd nac e-bost. Yr amser a ganiateir ar gyfer y dasg hon yw 20 awr, a dylai'r holl amser a dreulir ar y dasg gael ei fonitro a'i gofnodi gan y ganolfan fel y nodir yn y fanyleb.

Bydd y senario yn rhoi disgrifiad i ymgeiswyr o angen cleient am ddatrysiad cyfrifiadurol newydd i broblem benodol. Yn ogystal â rhaglen gyfrifiadurol weithredol, bydd angen i ymgeiswyr lunio adroddiad prosesu geiriau gyda therfyn awgrymedig o 2000 o eiriau. Ymdrinnir â'r meysydd i'w cynnwys yn yr adroddiad yn fanwl yng nghynnwys yr elfen hon ac maent wedi'u crynhoi isod:

Adran 1 – Cwmpas y broblem

• Dadansoddi'r senario benodol o ran mewnbynnu, prosesu ac allbynnu • Amcanion, gan gynnwys meini prawf i fesur llwyddiant y system arfaethedig.

Adran 2 – Dylunio Disgrifiadau o'r canlynol:

• Y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sy'n ofynnol i lunio rhyngwyneb defnyddiwr • Y strwythurau data a fydd yn ofynnol • Dogfennu'r rheolweithiau canlynol gan ddefnyddio confensiwn safonol (ffug-god neu

siart llif): o rheolweithiau dilysu o trin a phrosesu data o dilysu

Adran 3 – Datblygu meddalwedd

• Rhestriad wedi'i anodi/rhestriadau wedi'u hanodi o'r holl godau rhaglennu • Tystiolaeth o'r rhyngwyneb defnyddiwr

Adran 4 – Strategaeth brofi

• Disgrifiad o'r strategaeth brofi • Disgrifiad o bwrpas yr uned, integreiddiad a phrofion gweithredol • Cynllun profi a phrawf-ddata

Adran 5 – Profi

• Tystiolaeth o weithredu'r cynllun profi a'r canlyniadau profi gyda sylwebaeth

Adran 6 – Datblygiad pellach

• Trafod canlyniadau'r profion • Disgrifiad o nodweddion llwyddiannus y datrysiad a nodi meysydd i'w datblygu

ymhellach • Awgrymiadau ar gyfer estyniadau i'r datrysiad

Page 48: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

48

Y Log Mireinio Mae'r log mireinio yn rhan annatod o'r project a dylid ei gwblhau yn ystod pob sesiwn. Pwrpas y log yw galluogi'r ymgeiswyr i ddangos eu bod yn gweithio mewn dull rhesymegol a systematig.

Disgwylir i ymgeiswyr gofnodi unrhyw broblemau sy'n codi ac esbonio sut yr ymdriniwyd â nhw.

Darperir y log mireinio fel dogfen electronig a rhaid cyflwyno'r log gyda'r rhaglen gyfrifiadurol a'r adroddiad.

Mae tudalen enghreifftiol o'r log i'w gweld ar dudalen 27 o'r fanyleb.

Dylai'r gridiau marcio gael eu defnyddio ynghyd â'r cyngor a roddir ar dudalen 28 o'r fanyleb. Mae gridiau marcio'r asesiad di-arholiad yn y fanyleb wedi'u llunio ar ffurf tabl hierarchaidd fertigol, ond, yn ymarferol, mae'r gridiau hyn yn haws i'w defnyddio mewn fformat llorweddol, gan ei bod yn haws cymharu'r deilliannau yn y gridiau yn y fformat hwn. Isod, mae'r gridiau wedi cael eu trosglwyddo i fformat o'r fath er mwyn eu gwneud yn haws i'w defnyddio.

Page 49: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

49

Cwmpas y broblem - AA3 Hyd at 8 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Cynnal dadansoddiad

arwynebol o'r senario benodol sydd ond yn rhannol wedi nodi'r mewnbwn, y prosesau a'r allbwn sy'n ofynnol i lunio datrysiad gweithredol

• Cyflwyno amcanion ar gyfer y datrysiad o ran y tasgau i'w cyflawni. Nid yw'r holl amcanion yn fesuradwy nac yn briodol i'r datrysiad

Band 2 3 – 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Cynnal dadansoddiad

o'r senario benodol, gan nodi'r canlynol:

o y data sylfaenol sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol

o y gofynion prosesu sylfaenol i lunio datrysiad gweithredol

o yr allbynnau sylfaenol o'r datrysiad

• Pennu amcanion, y mae lleiafrif ohonynt yn fesuradwy, sy'n disgrifio'r prif dasgau sy'n ofynnol er mwyn creu datrysiad gweithredol

Band 3 5 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Cwblhau dadansoddiad

o'r senario benodol, heb unrhyw hepgoriadau sylweddol, gan nodi'r rhan fwyaf o'r canlynol:

o y data sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol

o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad

o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad

• Cyflwyno amcanion, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fesuradwy, sy'n diffinio'r tasgau i'w cyflawni gan y datrysiad arfaethedig

Band 4 7 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Cwblhau dadansoddiad

trylwyr o'r senario benodol gan nodi'r canlynol:

o yr holl ddata sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol

o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad

o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad

• Llunio cyfres fanwl o amcanion, sy'n fesuradwy, sy'n diffinio'n glir y tasgau sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol a chwbl weithredol

Page 50: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

50

Dylunio – AA3 Hyd at 12 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar

gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer dyluniad amlinellol ar gyfer datrysiad rhannol

• Llunio dyluniadau amlinellol ar gyfer y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn a nodwyd a ddarparwyd gan y rhyngwyneb defnyddiwr

• Amlinellu'r ffeiliau allweddol a/neu'r strwythurau data sy'n ofynnol i lunio datrysiad rhannol

• Rhoi ystyriaeth i ddilysiad posibl y data mewnbwn, nad yw'n gywir nac yn briodol efallai

• Amlinellu'n rhannol reolweithiau prosesu sydd efallai'n defnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif. Efallai nad yw'r disgrifiadau'n fanwl nac yn gywir.

Band 2 4 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar

gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer y dyluniad a fydd yn cynhyrchu datrysiad a fydd yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r nodweddion sy'n ofynnol

• Nodi'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sylfaenol i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr

• Nodi'r strwythurau data sy'n ofynnol i lunio datrysiad sy'n rhannol weithredol ond sy'n cyflawni gofynion sylfaenol y senario benodol

• Nodi sawl mewnbwn y bydd angen eu dilysu

• Amlinellu'r angen am brosesau dilysu

• Disgrifio'r rheolweithiau prosesu sylfaenol ar gyfer y datrysiad fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif. Gall rhai rheolweithiau fod yn anghywir neu'n anghyflawn.

Band 3 7 – 9 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar

gyfer y datrysiad i lywio dyluniad a fydd yn cynhyrchu'r cyfleusterau sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod y datrysiad yn weithredol

• Nodi a disgrifio'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr ac wedi ystyried anghenion y defnyddiwr

• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r strwythurau data sy'n ofynnol gan ddefnyddio terminoleg briodol

• Nodi'r rhan fwyaf o'r mewnbynnau y bydd angen eu dilysu ac amlinellu cynigion ar gyfer gweithredu rheolweithiau dilysu

• Ystyried yr angen am reolweithiau dilysu

• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r rheolweithiau prosesu ar gyfer y datrysiad fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif

Band 4 10 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Llunio dyluniad cynhwysfawr

a fyddai'n caniatáu i drydydd parti cymwys greu datrysiad sy'n cwmpasu pob amcan penodedig

• Nodi'n llawn a disgrifio'n fanwl y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr a fydd yn addas i'r pwrpas

• Disgrifio'r holl strwythurau data sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol, gan ddefnyddio terminoleg dechnegol gywir

• Disgrifio'n llawn y rheolweithiau dilysu sy'n ofynnol i sicrhau mai dim ond data priodol y gellir eu nodi yn y datrysiad

• Ystyried yn llawn yr angen am ddilysiad

• Disgrifio'r holl reolweithiau prosesu ar gyfer datrysiad effeithiol fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif

Page 51: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

51

Log Mireinio - AA3 Hyd at 5 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Amlinellu'r cynnydd a wnaed yn

y rhan fwyaf o sesiynau • Disgrifio problemau a gododd

ond efallai na ddefnyddiwyd terminoleg dechnegol

• Amlinellu newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol

• Nodi un gweithgaredd neu fwy ar gyfer y sesiwn nesaf

Band 2 2 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Dangos dull strwythuredig o

ddatblygu'r datrysiad • Cynnal gweithgareddau mewn

trefn briodol • Disgrifio'r cynnydd a wnaed ym

mhob sesiwn • Darparu disgrifiad o unrhyw

broblemau a gododd gyda defnydd boddhaol o derminoleg dechnegol

• Disgrifio unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol

• Llunio camau gweithredu synhwyrol ar gyfer sesiynau dilynol

Band 3 4 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Dangos dull strwythuredig o

ddatblygu'r datrysiad • Cynnal gweithgareddau mewn

trefn briodol • Gwerthuso'n effeithiol y cynnydd

a wnaed ym mhob sesiwn • Darparu disgrifiad llawn o

unrhyw broblemau sy'n codi gyda defnydd da o derminoleg dechnegol

• Cyfiawnhau unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol gan ddangos dealltwriaeth hyddysg o'r angen am newid

• Llunio camau gweithredu rhesymegol a blaenoriaethol ar gyfer sesiynau dilynol

Page 52: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

52

Effeithiolrwydd y datrysiad – AA3 Hyd at 15 Marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni

gofynion y senario benodol yn rhannol

• Â rhyngwyneb defnyddiwr rhannol weithredol

Band 2 4 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni

gofynion sylfaenol y senario benodol

• Yn cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr sylfaenol nad yw o bosibl yn addas i'r pwrpas

• Yn cynnwys nifer sylfaenol o elfennau rhaglennu strwythuredig

Band 3 7 – 9 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni'r rhan

fwyaf o ofynion y senario benodol

• Yn darparu tystiolaeth o ryngwyneb defnyddiwr gweithredol

• Yn cynnwys rhai o elfennau rhaglennu strwythuredig

• Yn defnyddio rheolweithiau dilysu

• Yn gludadwy

Band 4 10 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn gywir ac yn

cyflawni'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol

• Yn ddefnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n weithredol ac yn hawdd i'w ddefnyddio ar y cyfan

• Yn strwythuredig a modiwlaidd ei natur

• Yn ddiogel gyda rheolweithiau dilysu

• Yn gludadwy a chadarn ar y cyfan

Band 5 13 – 15 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn gywir ac yn

cyflawni holl ofynion y senario benodol

• Yn ddefnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n sythweledol ac yn addas i'r gynulleidfa a'r diben

• Yn strwythuredig iawn ac yn fodiwlaidd ei natur

• Yn effeithlon o ran y defnydd o adnoddau

• Yn ddiogel gyda rheolweithiau dilysu effeithiol

• Yn gludadwy, dibynadwy a chadarn

Page 53: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

53

Ansawdd Technegol – AA3 Hyd at 20 Marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad rhannol i un o ofynion y senario benodol o leiaf. Mae'r ymgeisydd wedi: • Gwneud defnydd o

ddynodwyr ystyrlon

• Defnyddio mewnoli

Band 2 5 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sy'n cwmpasu gofynion sylfaenol y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod

sy'n cynnwys rhywfaint o waith hunanddogfennol

• Defnyddio mewnoli priodol

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon

• Anodi'r cod mewn ffordd sylfaenol

Band 3 9 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod sy'n

hunanddogfennol • Defnyddio dull

rhaglennu cyson gan gynnwys mewnoli

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o gysonion

• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o newidynnau eang yn gyffredinol

• Llunio rheolweithiau dilysu

• Anodi'r cod lle y bo'n briodol

Band 4 13 – 16 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu holl ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod sy'n

hunanddogfennol ac yn fodiwlaidd ei natur

• Defnyddio dull rhaglennu cyson gan gynnwys mewnoli

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o gysonion

• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o newidynnau eang

• Llunio rheolweithiau dilysu a chreu rheolweithiau ar gyfer trin eithriadau

• Anodi'r cod yn effeithiol lle y bo'n briodol

Band 5 17 – 20 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad llwyddiannus sy'n cwmpasu holl ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod sy'n

hunanddogfennol, wedi'i strwythuro'n dda ac yn fodiwlaidd ei natur

• Defnyddio dull rhaglennu cyson drwy gydol y gwaith, gan gynnwys mewnoli a'r defnydd o ofod gwyn o amgylch gweithredyddion a geiriau allweddol

• Gwneud defnydd llawn o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o gysonion

• Creu is-reolweithiau gyda rhyngwynebau wedi'u diffinio'n dda

• Gwneud defnydd effeithiol o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o newidynnau eang

• Llunio rheolweithiau dilysu effeithiol a chreu rheolweithiau ar gyfer trin eithriadau

• Anodi'r cod yn hyddysg lle y bo'n briodol

Page 54: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

54

Strategaeth brofi - AA2 Hyd at 8 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Ceisio disgrifio cwmpas ac ystod y

strategaeth brofi a ddewiswyd • Nodi pwrpas profi'r datrysiad • Llunio cynllun profi i gynnal y

profion ar y datrysiad ond efallai nad yw'r cynllun yn cwmpasu'r holl feysydd allweddol

• Nodi prawf-ddata i brofi'r datrysiad yn rhannol

Band 2 3 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Ystyried natur y datrysiad wrth

ddatblygu strategaeth brofi • Darparu disgrifiad o gwmpas ac

ystod y strategaeth brofi a ddewiswyd

• Disgrifio diben y profion uned, integreiddio a gweithredol, gan ystyried natur y datrysiad

• Ystyried sut y gall canlyniadau'r broses brofi fod yn ddefnyddiol wrth ddatblygu'r datrysiad ymhellach

• Llunio cynllun profi ar gyfer cynnal profion uned, integreiddio a gweithredol y rhan fwyaf o ofynion y senario benodol

• Nodi prawf-ddata priodol i brofi'r rhan fwyaf o nodweddion y datrysiad

Band 3 6 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Ystyried yn llawn natur y datrysiad

wrth ddatblygu strategaeth brofi wedi'i strwythuro'n dda

• Darparu disgrifiad hyddysg o gwmpas ac ystod y strategaeth brofi a ddewiswyd

• Esbonio pwrpas y profion uned, integreiddio a gweithredol yn llawn, gan ystyried natur y datrysiad

• Ystyried yn fanwl sut y caiff canlyniadau'r broses brofi eu defnyddio i ddylanwadu ar unrhyw ddatblygiad pellach o'r datrysiad

• Llunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynnal y profion uned, integreiddio a gweithredol i gwmpasu holl ofynion y senario benodol

• Nodi prawf-ddata cynhwysfawr i brofi'r datrysiad yn llawn

Page 55: TGAU CBAC CYFRIFIADUREG - WJEC

55

Profi – AA3 Hyd at 8 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Gwneud defnydd o ddata i

brofi'r rhan fwyaf o feysydd y datrysiad a gwblhawyd

• Cyflwyno canlyniadau profi gyda sylwebaeth fras gywir

Band 2 3 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r cynllun profi i

gynnal profion ar y datrysiad • Gwneud defnydd o ddata

realistig i brofi holl feysydd y datrysiad

• Cyflwyno canlyniadau profi gyda sylwebaeth dechnegol addas

Band 3 6 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Dilyn y cynllun profi mewn ffordd resymegol a

systematig • Gwneud defnydd effeithiol o ddata

nodweddiadol, eithafol a gwallus • Cyflwyno'r holl ganlyniadau profi gyda

sylwebaeth fanwl a hyddysg

Datblygiad pellach – AA3 Hyd at 4 marc

Band 0 0 marc

Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band 1 1 marc

Mae'r ymgeisydd wedi amlinellu: • Canlyniadau'r broses brofi • Awgrymiadau ar gyfer ymestyn y

datrysiad

Band 2 2 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Ystyried canlyniadau'r prosesau

profi yn erbyn amcanion y datrysiad

• Nodi nodweddion llwyddiannus a meysydd i'w datblygu ymhellach

• Cynnig awgrymiadau penodol ar gyfer estyniadau i'r datrysiad

Band 3 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi: • Ystyried yn llawn ganlyniadau'r

broses brofi o ran amcanion y datrysiad

• Disgrifio'n llawn y nodweddion llwyddiannus a meysydd i'w datblygu ymhellach

• Cynnig awgrymiadau manwl a chynhwysfawr ar gyfer estyniadau penodol i'r datrysiad