trÖedigaeth saul actau pennod 9: 1-27 dylunio: gary craig addasiad cymraeg: nigel davies golygydd...
DESCRIPTION
Roedd Saul yn casáu dilynwyr Iesu ac roedd ganddo’r hawl i fynd o dŷ i dŷ er mwyn dod o hyd i Gristnogion a’u taflu i garchar.TRANSCRIPT
TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27
Dylunio: Gary CraigAddasiad Cymraeg: Nigel DaviesGolygydd Testun: Linda Lockley
Roedd Saul yn ddyn crefyddol a galluog. Roedd e’n addoli Duw Israel ond doedd e ddim yn credu mai Iesu oedd Mab Duw.
Roedd Saul yn casáu dilynwyr Iesu ac roedd ganddo’r hawl i fynd o dŷ i dŷ er mwyn dod o hyd i Gristnogion a’u taflu i garchar.
Cafodd lythyrau oddi wrth yr Archoffeiriad yn rhoi’r hawl iddo fynd mor bell â Damascus i chwilio am Gristnogion er mwyn eu dal.
Felly, cychwynnodd Saul ar ei daith hir i Ddamascus i chwilio am y Cristnogion
oedd yno.
Saul, Saul, pam wyt ti’n fy erlid i?
Pwy wyt ti, Arglwydd?
Iesu wyf fi, yr un rwyt ti’n ei erlid. Dos i mewn i
Ddamascus ac fe gei di wybod beth sy’n raid i ti
ei wneud.
Wedi iddo edrych ar y goleuni llachar, roedd Saul yn ddall. Bu’n rhaid i’w ffrindiau ei arwain i mewn i Ddamascus.
Yn y cyfamser, siaradodd yr Arglwydd â Christion o’r enw Ananias oedd yn byw
yn Namascus.
Ond, mae e’n ddyn cas. Mae
e wedi dod yma i ddal Cristnogion a’u dwyn i garchar.
Ananias, rwyf am i ti gwrdd â Saul.
Paid ag ofni dim. Mae Saul nawr yn
eiddo i mi.
Saul, fy mrawd annwyl. Mae Iesu wedi fy anfon i er mwyn i ti gael gweld eto a chael dy
lanw â’r Ysbryd Glân.
Bedyddiwyd Saul ac fe aeth i’r synagogau i dystio bod Iesu’n fyw ac i gyhoeddi mai
Ef yw Mab Duw.
Onid hwn yw’r dyn ddaeth yma i ddal y Cristnogion? Mae
e nawr yn un ohonyn nhw!
Roedd yr Iddewon yn ddig iawn bod Saul wedi troi’n Gristion.
Dechreuodd rhai ohonyn nhw
gynllwynio i’w ladd a bu’n rhaid i Saul
adael Damascus ar frys.
Pan gyrhaeddod Saul nôl yn Jerwsalem, ceisiodd ymuno â’r Cristnogion ond roedd pawb yn ei ofni. Doedden nhw ddim yn credu ei fod e wedi rhoi ei
fywyd i Iesu.
Ond credodd dyn o’r enw Barnabas stori Saul ac fe aeth ag e i’w gyflwyno i weddill y Cristnogion.
Does dim angen i chi
ofni Saul o hyn ymlaen. Mae’r Arglwydd wedi
newid ei galon.