ttaaffoodd ee áái ihydref 2007 rhif 221 pris 60c ttaaffoodd ee ll áái i cofiwch archebu eich...

16
HYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c www.tafelai.com tafod e tafod e l l ái ái Cofiwch archebu eich copi o Tafod Elái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd rhaglen Taro 9 ar S4C ddiwedd mis Medi wedi rhoi sylw i’r pryderon am y gwastraff a gladdwyd yn chwarel Brofisicin i’r gogledd o Heol yr Haul yng Ngroesfaen. Mae trigolion lleol wedi tynnu sylw at y problemau yma ers rhai blynyddoedd ac mae’r Cyngor Sir wedi bod yn ymchwilio i natur ac effaith y gwastraff. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru defnyddiwyd chwarel Bro Feisgyn rhwng 1965 a 1970 fel safle gwaredu gwastraff diwydiannol a chemegol er nad oedd trwydded ar gyfer hynny. Cynhwysai’r gwastraff sylweddau gwenwynig megis toddyddion, metelau trymion, biffenylau amlglorinedig (PBC) a deuocsinau. Daeth y broblem i’r amlwg yn 2003 wrth i drigolion y pentref arogli nwyon cas yn dod o’r safle. Yn dilyn hyn fe wnaed astudiaethau amgylcheddol sy’n cadarnhau bod dyfroedd daear dyfnion wedi’u llygru, a’r dyfroedd wyneb hwythau o bryd i’w gilydd ond yn ôl yr Asiantaeth ni ellir canfod unrhyw niwed neu fygythiad uniongyrchol i iechyd dynol. Erbyn hyn mae’r cwmni fu’n gyfrifol am y gwastraff yn fethdalwr ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn dwyn achos am £30miliwn yn llysoedd yr Unol Daleithiau. Mae angen parhau i bwyso ar Asiantaeth yr Amgylchedd a Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod iechyd a diogelwch pobl lleol yn flaenoriaeth yn yr achos hwn. Jonsi yn Gwobrwyo Dysgwyr Cafwyd bore o ddathlu ar 18 Medi i nodi llwyddiant nifer o ddysgwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg. Oherwydd bod y dysgwyr yn gwrando ar Jonsi wrth ddod i’r gwersi ac yn trafod cynnwys y rhaglen yn gyson yn y dosbarth roeddent am ei wahodd i’r Seremoni Wobrwyo. Penderfynodd Jonsi y byddai’n darlledu ei raglen o’r Brifysgol y bore hwnnw a chafwyd cyfweliadau ar y radio gyda nifer o’r dysgwyr. Roedd yn braf clywed y dysgwyr yn siarad yn gyfforddus gyda Jonsi er mai ond cwta blwyddyn neu ddwy maent wedi bod yn dysgu Cymraeg. Cyflwynwyd tystysgrifau gan Jonsi i 16 o fyfyrwyr a gwblhaodd y cwrs Cymraeg dwys dros gyfnod o ddwy flynedd ac maent i’w llongyfarch ar eu llwyddiant oherwydd eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, eu dycnwch a’u penderfyniad. Hefyd cyflwynwyd tystysgrifau Defnyddio’r Gymraeg i Jonsi yn dathlu yng nghanol myfyrwyr llwyddiannus Cymraeg i Oedolion fyfyrwyr o bob lefel yn cynnwys chwech a gyrhaeddodd y lefel uchaf Defnyddio’r Gymraeg Hyfrededd. Ar ddiwedd y Seremoni cyflwynwyd tusw o flodau i un o’r myfyrwyr oedd wedi derbyn clod arbennig yn ystod yr haf. Enillodd Julie MacMillan, o Dreorci, wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Sir Fflint. Roedd Julie wedi dysgu Cymraeg yn y Brifysgol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac wedi penderfynu newid iaith y cartref i’r Gymraeg oherwydd bod ei phlant yn mynd i Ysgol Gymraeg Ynyswen. Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn un o chwe chanolfan rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion. Helen Prosser, Cyfarwyddwraig y Ganolfan yn siarad ar raglen Jonsi Gellir cael llyfryn o’r cyrsiau Cymraeg i Oedolion drwy ffonio 01443 483600 neu www.welshlearners.org.uk

Upload: others

Post on 20-Sep-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

HYDREF 2007

Rhif 221

Pris 60c

w w w . t a f e l a i . c o m

tafod e tafod e l l ái ái

Cofiwch archebu eich copi o

Tafod Elái £6 am y flwyddyn

Pryderon am Wenwyn mewn

Chwarel Roedd rhaglen Taro 9 ar S4C ddiwedd mis Medi wedi rhoi sylw i’r pryderon am y gwastraff a gladdwyd yn chwarel Brofisicin i’r gogledd o Heol yr Haul yng Ngroesfaen. Mae trigolion lleol wedi tynnu sylw at y problemau yma ers rhai blynyddoedd ac mae’r Cyngor Sir wedi bod yn ymchwilio i natur ac effaith y gwastraff. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd

Cymru defnyddiwyd chwarel Bro Feisgyn rhwng 1965 a 1970 fel safle gwaredu gwastraff diwydiannol a chemegol er nad oedd trwydded ar gyfer h ynny. Cynhwysa i’r gwastr a ff s ylwedd a u gwenwyn ig meg i s toddyddion, metelau trymion, biffenylau amlglorinedig (PBC) a deuocsinau. Daeth y broblem i’r amlwg yn 2003

wrth i drigolion y pentref arogli nwyon cas yn dod o’r safle. Yn dilyn hyn fe wnaed astudiaethau amgylcheddol sy’n cadarnhau bod dyfroedd daear dyfnion wedi’u llygru, a’r dyfroedd wyneb hwythau o bryd i’w gilydd ond yn ôl yr Asiantaeth ni ellir canfod unrhyw niwed neu fygythiad uniongyrchol i iechyd dynol. Erbyn hyn mae’r cwmni fu’n gyfrifol

am y gwastraff yn fethdalwr ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn dwyn achos am £30miliwn yn llysoedd yr Unol Daleithiau. Mae angen parhau i bwyso ar

Asiantaeth yr Amgylchedd a Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod iechyd a diogelwch pobl lleol yn flaenoriaeth yn yr achos hwn.

Jonsi yn Gwobrwyo Dysgwyr

Cafwyd bore o ddathlu ar 18 Medi i nodi llwyddiant nifer o ddysgwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg. Oherwydd bod y dysgwyr yn gwrando ar Jonsi wrth ddod i’r gwersi ac yn trafod cynnwys y rhaglen yn gyson yn y dosbarth roeddent am ei wahodd i’r Seremoni Wobrwyo. Penderfynodd Jonsi y byddai’n darlledu ei raglen o’r Brifysgol y bore hwnnw a chafwyd cyfweliadau ar y radio gyda nifer o’r dysgwyr. Roedd yn braf clywed y dysgwyr yn siarad yn gyfforddus gyda Jonsi er mai ond cwta blwyddyn neu ddwy maent wedi bod yn dysgu Cymraeg. Cyflwynwyd tystysgrifau gan Jonsi i

16 o fyfyrwyr a gwblhaodd y cwrs Cymraeg dwys dros gyfnod o ddwy flynedd ac maent i’w llongyfarch ar eu llwyddiant oherwydd eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, eu dycnwch a’u penderfyniad. Hefyd cyflwynwyd tystysgrifau Defnyddio’r Gymraeg i

Jonsi yn dathlu yng nghanol myfyrwyr llwyddiannus Cymraeg i Oedolion

fyfyrwyr o bob lefel yn cynnwys chwech a gyrhaeddodd y lefel uchaf ­ Defnyddio’r Gymraeg Hyfrededd. Ar ddiwedd y Seremoni cyflwynwyd

tusw o flodau i un o’r myfyrwyr oedd wedi derbyn clod arbennig yn ystod yr haf. Enillodd Julie MacMillan, o Dreorci, wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Sir Fflint. Roedd Julie wedi dysgu Cymraeg yn y Brifysgol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac wedi penderfynu newid iaith y cartref i’r Gymraeg oherwydd bod ei phlant yn mynd i Ysgol Gymraeg Ynyswen. Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion

Morgannwg yn un o chwe chanolfan rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion.

Helen Prosser, Cyfarwyddwraig

y Ganolfan yn siarad ar raglen Jonsi

Gellir cael llyfryn o’r cyrsiau Cymraeg i Oedolion drwy ffonio 01443 483600 neu www.welshlearners.org.uk

Page 2: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

GOLYGYDD Penri Williams 029 20890040

HYSBYSEBION David Knight 029 20891353

DOSBARTHU John James 01443 205196

TRYSORYDD Elgan Lloyd 029 20842115 CYHOEDDUSRWYDD

Colin Williams 029 20890979

Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar 2 Tachwedd 2007 Erthyglau a straeon i gyrraedd erbyn 23 Hydref 2007

Y Golygydd Hendre 4 Pantbach

Pentyrch CF15 9TG

Ffôn: 029 20890040

Tafod Elái ar y wê http://www.tafelai.net

e-bost [email protected]

2

Argraffwyr: Gwasg

Morgannwg Castell Nedd SA10 7DR

Ffôn: 01792 815152

tafod elái

Cangen y Garth

‘Tlws‛ - gemwaith cyfoes

8yh, Nos Fercher, 10 Hydref

Am ragor o fanylion, ffoniwch: Rhiannon Price, Ysgrifennydd

01443 223282

Gwasanaeth addurno, peintio a phapuro

Andrew Reeves

Gwasanaeth lleol ar gyfer eich cartref

neu fusnes

Ffoniwch

Andrew Reeves 01443 407442

neu 07956 024930

I gael pris am unrhyw waith addurno

CYLCH CADWGAN

CENNARD DAVIES yn siarad ar y testun:

‘Reid rownd y Rhondda’

yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys.

Nos Wener, 19 Hydref 2007 am 8.00pm

Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig

Manylion pellach: 029 20891577

CLWB Y DWRLYN

Traddodiad Canu Gwerin Cymru Gyda Sioned Webb ac Arfon Gwilym

8yh, Nos Wener, 26 Hydref Yn Ysgol y Creigiau.

Manylion: 029 20890493 Gyda chefnogaeth yr Academi

NOSON FFILM HEDD WYN

Mae'r ffilm am fywyd Hedd Wyn, a enwebwyd am Oscar nôl ym 1993, yn cael ei dangos fel rhan o Glwb Ffilm Clwb y Bont, Pontypridd nos Sul, 20 Hydref. Dewch i weld y clasur ar y Sgrîn Fawr yn y Clwb. Noson yn dechrau am 7.30 yr hwyr.

NOSON GWIS Mae cwis dwyieithog yn cychwyn yng Nghlwb y Bont. Nos Sul olaf bob mis. Gwobrau arian a chroeso cynnes i bawb!! Nos Sul 28 Hydref am 8yh.

CINIO CYNHAEAF gydag adloniant

De Courcey’s, Pentyrch Nos Fercher, Hydref 3 ydd 2007

7.15 p.m. ar gyfer 7.45 p.m.

£25 Yr Elw at Gronfa’r Eisteddfod

PWYLLGOR APÊL CREIGIAU, PENTYRCH,

GWAELOD Y GARTH, FFYNNON TAF

EISTEDDFOD Y CYMOEDD

Nos Wener Hydref 19 eg 2007 am 5 o’r gloch

Ysgol Lewis i Ferched Ystrad Mynach

Ysgrifenyddion: Iola Llwyd, Ffôn: 07891 177 983

Gareth Steffan, Ffôn:02920882577

http://www.caerffili.org/ eisteddfod.php

Page 3: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

3

EFAIL ISAF Gohebydd Lleol: Loreen Williams

TONYREFAIL Gohebydd Lleol: Helen Prosser

671577

Dymuniadau Da Llongyfarchiadau i Dewi, mab Geraint a Caroline Rees, Penywaun ar ei lwyddiant yn yr Arholiadau Lefel A. Mae bellach yn astudio Hanes yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Dymuniadau gorau iti, Dewi. Dymunwn yn dda hefyd i’r myfyrwyr eraill sydd wedi bod yn treulio’r Haf gyda’u teuluoedd yn y pentref, ond sydd erbyn hyn wedi ail­gydio yn eu hastudiaethau.

Gwellhad Buan Braf yw deall bod Pat Edmunds, Penywaun yn gwella’n raddol ar ôl cael damwain yn ystod gwyliau’r Haf. Deallwn fod Michael Lloyd Williams, Heol Iscoed, yn gwella a’i fod wedi cael dod adref o’r ysbyty erbyn hyn. Mae Arthur Garnon, Heol y Ffynnon yn dod yn ei flaen yn dda ar ôl derbyn triniaeth yn yr ysbyty. A nawr fod Maralyn wedi ymddeol, mae ganddo ‘nyrs’ wrth law i edrych ar ei ôl. Gwellhad buan a llwyr i chi eich tri.

Priodasau Llongyfarchiadau i Jessika Lavis a John Ward ar eu priodas ar Awst y pedwerydd. Merch Ann a Chris Lavis yw Jessika ac wyres i Trevor a Barbara Griffiths, Heol y Ffynnon. Cynhaliwyd y briodas yng Nghapel y Wesleaid, Ton­ du ger Pen­y­bont ar Ogwr, gyda’r Parchedig Eirian Rees yn gweinyddu. Y ddwy forwyn briodas oedd Sarah Brimble (ffrind y briodferch) a Jeni Mair (chwaer). Y forwyn fach oedd Shannon Lavis Jones (merch Jeni Mair). Dymunwn yn dda i’r pâr ifanc. Llongyfarchiadau hefyd i Eilir Owen

Griffiths a Leah Jones ar eu priodas ar Fedi’r cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Ll anda f. E i l i r yw a rwein ydd llwyddiannus Côr Godre’r Garth a Chôr CF1, a’r ddau gôr wedi dod i’r brig yn yr Eisteddfod eleni. Roedd clywed y ddau gôr yn ymuno i gyd­ganu Salm 23 gan Euros Rhys yn ystod y gwasanaeth priodas yn wefreiddiol. Darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yw Eilir ac mae Leah newydd ymuno â chwmni Urdd Gobai th Cymru. Dymunwn yn dda i’r ddau.

Swydd Newydd Llongyfarchiadau i Eir i Jones, Nantcelyn ar ei phenodiad yn Brif Swyddog Nyrsio, Awdurdod Iechyd

Ceredigion. Bydd Eiri’n byw yn Aberystwyth yn ystod yr wythnos waith gan ddychwelyd i Nantcelyn at ei mam, Mrs Enyd Arfon Jones i fwrw’r Sul.

Y TABERNACL

Gwibdaith yr Ysgol Sul Bu gwibdaith yr Ysgol Sul i Folly Farm yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, Medi 22ain.

Merched y Tabernacl Mae cryn ddisgwyl am ein hymweliad â’r Theatr Newydd yng Nghaerdydd i weld y Sioe “Aspects of Love” ddydd Iau Medi 27ain. Y dydd Mawrth canlynol, Hydref 2il, byddwn yn mynd i gerdded ym Mharc y Rhath.

Genedigaeth Llongyfarchiadau i Carwyn a Heather Jones ar enedigaeth eu mab bach, Osian, yn ystod gwyliau’r Haf.

Cydymdeimlo Bu farw tad Gareth Humphreys, Y Parchedig Teifion Humphreys, Porthcawl ar Fedi 8fed. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Gareth a Rhiannon a’r teulu i gyd yn eu profedigaeth.

Pen­blwydd Hapus Dymunwn yn dda i Eirian a fydd yn dathlu pen­blwydd arbennig iawn yn ystod y mis. Mae’n dda ei weld yn edrych lawer yn well ar ôl cyfnod o salwch yn ystod y flwyddyn.

John Ward a Jessika Lavis

Trefn yr Oedfaon ar gyfer mis Hydref Hydref 7 Gwasanaeth cymun o dan ofal Y Gweinidog Hydref 14 Gwasanaeth Diolchgarwch Hydref 21 Emlyn Davies, Pentyrch Hydref 28 Elenid Jones, Pentyrch

Pen­blwydd Pen­blwydd hapus iawn i Loreen Williams, gohebydd ffyddlon Efail Isaf ar ddathlu ei phen­blwydd ddiwedd mis Medi – gan obeithio iddi fwynhau’r dathliadau arbennig yng Ngwesty Cymru, yn Aberystwyth.

Croeso Croeso cynnes i’r ysgol i Miss Bethan Ware sydd wedi ymuno â’r adran iau i ddysgu Blynyddoedd 3 a 4. Braf hefyd yw estyn croeso i dair o gyn­ ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ar brofiad gwaith – Natalie Lewis a Chloe Walters o Ysgol Gyfun Llanhari a Rhianydd Williams o Ysgol Gyfun y Cymer. A phob lwc i gyn­ddisgybl arall, sef Bethan Rosser a fu’n treulio wythnos yn arsylwi yn yr ysgol cyn dechrau ar ei chwrs ymarfer dysgu yng Nghaerdydd.

Darllen Miliwn o Eiriau yng Nghymru Llongyfarchiadau i dri o’r disgyblion ar eu llwyddiant wrth lunio portread o Uwch Arwr ar gyfer yr ymgyrch Darllen Miliwn o Eiriau yng Nghymru. Y disgyblion llwyddiannus oedd Erin Heymann, Lauren Jones a Dion Button.

Arholiadau telyn Ar ôl ymarfer yn galed bu saith o ddisgyblion yn llwyddiannus yn eu harholiadau telyn – chwech yn gwneud gradd un ac un arall yn gwneud gradd dau. Llongyfarchiadau iddynt a diolch o galon i Miss Lowri Phillips am eu hyfforddi.

Diolch yn fawr Diolch yn fawr i Miss Cerys Jones am ei gwaith caled yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol yn hyfforddi i fod yn g y n o r t h w y y d d d o s b a r t h a llongyfarchiadau iddi ar ei llwyddiant yn ei harholiadau.

Page 4: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

4

TAITH GLANLLYN Cafwyd taith ardderchog i wersyll Yr Urdd Glan Llyn yn ystod tymor yr Haf. Mwynha odd y p l an t yr h ol l weithgareddau a chawsant gyfle i

Mordaith Jonsi Bu'r darlledwr "Jonsi" yn cyfeirio'n aml yn ddiweddar at ei fordaith fel rhan o raglenni "Y Briodas Fawr sydd i'w darlledu cyn hir ar S4C. Roedd y gŵr parablus o Radio Cymru i gludo'r priodfab fel sgipar ar gwch hwylio o Ogledd Ynys Mon ynghanol y nos i ardal Llandudno. Ei hyfforddwr ar gyfer y fordaith hollbwysig oedd Gareth Roberts, gynt o Bentyrch ­ sydd bellach yn un o swyddogion Clwb Hwylio Pwllheli. Dengys y llun y ddau ar y cei yng

Nghemaes cyn cychwyn ar eu taith ­ a'r gwynt yn codi'n eithaf bygythiol ar y pryd, gyda llaw! Cewch weld y

ymweld â llefydd hanesyddol enwog yr ardal, gan gynnwys Llyn Tryweryn gan eu bod wedi darllen llyfr “Ta Ta Tryweryn”. Aeth y plant i weld co fg o l o fn O .M. E dwar d s yn Llanuwchllyn a chofgolofn Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd hefyd. Diolch i Mr. Meilir Tomos am drefnu’r daith ac i aelodau’r staff am helpu.

Ysgol Evan James yng Nglanllyn, ger cofgolofn Hedd Wyn a Thryweryn

CROESO Croeso i Mr. Paul Spanswick a Mrs. Ceri Morgan sydd wedi dechrau eu swyddi newydd yn yr ysgol y tymor yma.

LLONGYFARCHIADAU Llongyfarchiadau i Kerry Hughes ar enedigaeth Jac, brawd bach i Sophie. ’Rydym yn dymuno’n dda i Jac sydd yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Llongyfarchiadau hefyd i Mrs. Jan

Faulkner a Mrs. Karen Williams ar lwyddo mewn arholiadau lefel A Cymraeg. ’Rydym yn ddiolchgar iawn am eu help yn yr ysgol bob amser.

CYNGOR YSGOL/SWYDDOGION Mae’r plant wedi ethol Cyngor Ysgol a swyddogion. Llongyfarchiadau i bawb gafodd eu dewis. Elinor Cavil gafodd ei hethol yn brif ferch, Brython Payne yn brif fachgen ac Asha Elley ac Ethan Brown gafodd eu dewis yn ddirprwyon.

Tudalen 5

cyfan ­ ynghyd â'r sêr eraill fel Sian Lloyd, Jonathan Davies a Glyn Wise ­ ar y gyfres Y Briodas Fawr ar S4C.

Page 5: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

5

TONTEG A PHENTRE’R

EGLWYS Gohebydd Lleol:

Sylfia Fisher

Swyddog Treftadaeth y Gymraeg yng Nghaerdydd (Rhan Amser) £24,000 Pro rata + Pensiwn 20 awr yr wythnos Swydd i gychwyn 19eg Dachwedd 2007

Swyddog Gweithgareddau Plant (Llawn Amser) £18,000 ­ £21,000 + Pensiwn (yn ddibynnol ar brofiad) 37.5 awr yr wythnos Swydd i gychwyn 7fed Ionawr 2008

Mae trwydded gyrru gyfredol a sgiliau dwyieithog yn hanfodol.

Bydd unrhyw benodiadau i’r swyddi uchod yn dibynnu ar archwiliad boddhaol o'r cofnod troseddol.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â Sian Lewis, Menter Caerdydd; (02920) 565658 neu [email protected] Dyddiad cau 10fed Hydref 2007

Graddau Pleser yw cael cyfle i roi gwybodaeth am ragor fyth o lwyddiannau prifysgol. Llongyfarchiadau i Rhys Lewis a Richard Johnson, y ddau o’r Ridings Tonteg a’r ddau yn ennill graddau o Brifysgol Abertawe. Pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau Safon Uwch Unwaith eto mae gennym brawf mai pobl ifanc ddawnus yw pobl ifanc P en t r e ’ r E g lwys a Th on t eg . Llongyfarchiadau calonnog i Menna Davies, Rhian Jenkins, Carly Jones, Rhys Norman, Richard Tennant a Rebecca Tutt ar eu llwyddiant yn yr arholiadau Safon Uwch a phob dymuniad da iddyn nhw wrth iddyn nhw dderchrau cyfnod newydd yn eu bywydau. Llongyfarchiadau hefyd i holl

blant yr ardal fu’n datyhlu llwyddiant yn yr arholiadau Uwch Gyfrannol a TGAU eleni.

Swydd Newydd Llongyfarchiadau i Helen John ar ei phenodiad yn Swyddog Gweithgareddau Canolfan Gydol Oes Gartholwg. Mae Helen hefyd yn gweithio i Fenter Caerdydd a chyn hynny bu’n gweithio i Fenter Iaith a CYD. Pob dymuniad da iddi yn ei swydd newydd.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau hefyd i Menna Davies, High Mead, ar ennill y drydedd wobr yn Llais Llwyfan Llambed yn ddiweddar.

Cydymleimlad Estynwn ein cydymdeimlad dwys at Gareth a Rhiannon Humphreys, Manon ag Aled, y Padocs Pentre’r Eglwys ar golli tad Gareth yn ddiweddar.

Dysgu Cymraeg Llongyfarchiadau i Wendy McPhail Ffordd y Gollen Tonteg, a Faye Johnson, Fferm Maes Bach, Tonteg ar eu llwyddiant yn yr Arholiad Uwch Gyfrannol Cymraeg. Mae Wendy yn athrawes wedi ymddeol ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd yn unig, gan fynychu dosbarthiadau yng Ngholeg Morgannwg a Chanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg. Mae hi hefyd wedi ennill Diploma Prifysgol Morgannwg ac fe gyflwynwyd ei thystysgrif iddi gan Jonsi, Radio Cymru, yn Seremoni Wobrwyo Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg. Dechreuodd Faye ddysgu Cymraeg yn Ysgol Bryn Celynnog ac ar hyn o bryd mae'n hyfforddi i fod yn athrawes gynradd. Dilynodd y cwrs Cymraeg yng Ngholeg Morgannwg er mwyn gwella ei Chymraeg ddigon i ddysgu'r iaith i ddisgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal hon, achos sy'n agos iawn at ei chalon. Pob llwyddiant i'r ddwy yn y dyfodol. Llongyfarchiadau i Andrea Newton a

Karen Williams, dwy chwaer o bentref Rhydfelen ac sydd hefyd yn gyn ddisgyblion o Ysgol Gyfun Rhydfelen ar eu llwyddiant yn yr arholiad Defnyddio' r Gymraeg ­ Uwch . Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Andrea hefyd ar ei phenodiad yn athrawes yn Ysgol Heol y Celyn ­ ei hen ysgol.

Ysgol Evan James (parhad)

YMWELIADAU Diolch i’r Parchedig Simon Walkling am wasanaeth hyfryd oedd yn pwysleisio bod pawb yn bwysig; ac i Miss Lisa Greaney wnaeth ymweld â dosbarthiadau 11 a 12 i sôn am bwysigrwydd gofalu am ddannedd, enwau’r dannedd a geirfa addas. Cafodd y plant bast dannedd yn rhad ac am ddim ar ddiwedd y sesiwn!

SIOE WYDDONOL Mwynhaodd plant Yr Adran Iau sioe wyddonol yn sôn am “ Y Gofod”.

CHWARAEON Cyrhaeddodd tîm rygbi’r ysgol rownd gyn­derfynol cystadleuaeth ‘Cwpan Y Byd Ysgol Carnetown’ ac ’roedden nhw’n anlwcus i golli o dri chais i ddau ar ôl amser ychwanegol yn erbyn tim Ysgol Hawthorn. Mae Rhys Blacker, Luke Deeley,

Corey Llywellyn a Greg Mogford wedi cael eu dewis i dîm rygbi ysgolion Pontypridd. Pob lwc iddyn nhw!

Page 6: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

Huw’n cwblhau ei bererindod i Santiago de Compostela

Ar Awst 20ed 2007, cwblhaodd yr athletwr a’r cyfrifydd Huw Roberts o’r Eglwys Newydd, bererindod o 70 milltir mewn pedwar diwrnod i Eglwys Santiago de Compostela yng ngogledd orllewin Sbaen. Dilynodd lwybrau cannoedd o filoedd

o bererinon o bedwar ban byd ar daith hanesyddol sydd wedi ei gwneud ers yr Oesoedd Canol. Mae’r daith yn cael ei chydnabod fel un o’r pwysicaf ynghyd â Rhufain a Jeriwsalem. ‘Roedd cannoedd yn cerdded wrth

ymyl Huw, ac ar yr un diwrnod i Huw gwblhau ei daith ‘roedd 300 o bererinion eraill yn gorffen, gan gynnwys pobol o Mecsico, Yr Ariannin a Norwy – i enwi dim ond rhai o’r gwledydd a gynrychiolwyd. Cafodd Huw ei gyfweld gan Hywel

Gwynfryn yn ystod y daith, a disgrifiodd yr olygfa yn fyw ar BBC Radio Cymru wrth iddo weld dinas Santiago am y tro cyntaf. “Roedd gweld y ddinas yn brofiad

emosiynol i mi, ond tybiaf sut fyddai pobol wedi teimlo yn y Canol Oesoedd

ar ôl cerdded dipyn pellach na fi mewn esgidiau a dillad llai cyfforddus.” Derbyniodd dystysgrif ar gwblhau’r

daith a’i enw yn Lladin ar dystysgrif y pererin yw Hugonem Roberts! Pan gyrhaeddodd Santiago de

Compostela, ymunodd â thair mil o gynulleidfa yn Offeren y Pererinion yn y Gadeirlan sy’n cael ei chynnal yn ddyddiol am hanner dydd. Galwyd ‘Galles’ allan – Cymru – yn y gwasanaeth fel arwydd o bresenoldeb

6

Huw yn yr Offeren. Yn ogystal â throedio llwybr

hanesyddol, nôd y daith oedd codi arian at glinig meddygol Kaselin, Lesotho, sydd yn cael ei gefnogi gan Gapel Bedyddwyr y Tabernacl, Caerdydd, ac i Sefydliad Brydeinig y Galon. Hyd yma, mae Huw wedi codi dros £6,000 tuag at y ddau achos, ac mae’r arian yn dal i gyrraedd. Hoffai Huw diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gallwch wneud cyfraniad trwy anfon siec yn daladwy i Capel y Tabernacl neu’r British Heart F o u n d a t i o n n e u ym we l d â w w w . b h f . o r g . u k / s p o n s o r / huwpilgrimage.

Mwynhau Llenyddiaeth

Ydych chi’n mwynhau llenyddiaeth? Yn ystod y sesiynnau hyn bydd y

Prifardd Cyril Jones yn cyflwyno pytiau amrywiol o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Gallwch bwyso nôl a mwynhau

gwrando ar drafodaeth neu gynnig sylwadau yn ôl yr awydd ar y testunau o dan sylw. Bydd cyfle hefyd i wneud cais i drafod darn penodol o lenyddiaeth. Dyddiad: Nos Fawrth, Hydref 2 (4 wythnos) am 7­9p.m. yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg.

Page 7: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

7

Caerdydd a’r Cylch 2008

PENTYRCH Gohebydd Lleol: Marian Wynne

PRIODAS AUR Llongyfarchiadau gwresog i Margaret a Cyril Hughes ar ddathlu eu priodas aur yn ystod mis Awst. Bu’r teulu’n dathlu’r achlysur hapus yn y Warpool Court yn Nhŷ Ddewi.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Unwaith eto ‘rydym yn llongyfarch Ifan Roberts ar lwyddiant eisteddfodol, y tro yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fflint. Llongyfarchiadau iddo ar ennill dwy wobr yn yr adran ddrama – am gyfansoddi drama gomedi rhwng 30 – 40 munud o hyd ac am gyfansoddi monolog ar gyfer ieuenctid.

GENEDIGAETH Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Catrin a Rhodri Llywelyn ar enedigaeth eu mab bach, Gruffudd Morgan. Mae Mam­gu a Thad­cu, sef Carol a Huw wrth eu boddau â’u hwŷr newydd.

SWYDD NEWYDD Llongyfarchiadau i Cerian Hughes ar gael ei derbyn i Heddlu De Cymru. Mae hyn yn dipyn o gamp gan fod y gystadleuaeth am le yn frwd iawn. Pob lwc i ti Cerian pan fyddi yn dechrau ar dy gwrs ym Mhrifysgol Morgannwg ym mis Tachwedd.

DYMUNIADAU DA Dymunwn adferiad buan a llwyr i Henry Jones, y cigydd, sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen at ei weld yn ôl yn y siop unwaith eto. Yn ogystal, da yw gweld Myra

Thomas, Pantbach wedi gwella yn dilyn y driniaeth ar ei llygaid yn ystod yr Haf.

LLONGYFARCHIADAU Llongyfarchiadau i Rebecca John a Natalie Cashin ar eu llwyddiant yn yr arholiadau T.G.A.U., ac i Rhodri Perryman yn dilyn ei lwyddiant yntau yn yr arholiadau Lefel A. Pob lwc iddo wrth ddechrau ar ei gwrs ym Mhrifysgol Morgannwg.

Dathlu Priodas Llongyfarchiadau i Rowland a Marian Wynne a fu’n dathlu eu priodas Rhuddem ar fordaith i Alsaka.

Y Gymraeg bob tro Ydych chi eisiau i’r cyngor gyfathrebu â chi fel unigolyn, naill ai drwy lythyr neu dros y ffôn, trwy gyfrwng y Gymraeg?

Os felly, mae angen i’ch enw chi fod ar gronfa ddata gofal cwsmer y cyngor.

Ffoniwch, anfonwch lythyr neu neges ebost yn nodi’ch manylion (enw, cyfeiriad a rhif ffôn) ar gyfer sylw staff Uned Gwasanaethau Cymraeg y cyngor a nodi’ch dewis.

Yn unol â’n Cynllun Iaith, mae rhaid i gylchlythyrau, holiaduron, posteri, taflenni, llyfrynnau ac unrhyw wybodaeth sydd wedi’i hanelu at y cyhoedd fod yn ddwyieithog.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!

Uned Gwasanaethau Cymraeg Tŷ Trevithick Abercynon Aberpennar CF45 4UQ Caroline.m.mortimer@rhondda­cynon­taf.gov.uk

01443 744033 / 744069

Er cystal cipio’r Castell Un tro ­ yn wir, gellir gwell! Dyma’r wŷs; dewch, dymor ha’ I wersyll cynnull Pontcanna, Yn hardd lu ar y ddôl las – Oddi yno, cipio’r Ddinas!

Cyn ymosod, i’n codi Cawn Ŵyl i’n hymlacio ni! Cawn gyngerdd a cherdd a chân Am ddyddiau, a’n hymddiddan Ynghýn, pob llecyn yn llys; Hogi’n harfau’n gynhyrfus.

Ac o win a medd y gwyll, Daw cynnwr’ sgwrs y gwersyll; Mwynhau nosau cynhesaf Y lawnt hael ar lannau Taf, Dan nodded castanwydden A’i chwa balch, a’r sêr uwchben.

Awn wedyn yn llawn hyder Fel un, a wynebu’n her; Gwnawn ddinas falch yn falchach O’i hen iaith a’i chadw’n iach, A’i rhan yn edrych ar ôl Hunaniaeth sy’n wahanol.

A gwnawn y Gymraeg yn iaith Yr hwyl yn y bár eilwaith; Iaith y brys, iaith bys ar byls, A dyheu’n ffenest Howells; Bydd Caerdydd a’i mynd­a­dod Yn hectig gan Gymreictod!

O’ch cymell, dewch! Fe ellir Ym mro Taf ail gipio tir. Rhowch fonllef Ifor hefyd Wrth gyrchu o Gymru i gyd I’n Gŵyl lon â’ch gorau glas ­ I feddiannu’ch prifddinas.

Rhys Dafis

CYWYDD CROESO PRIFWYL CAERDYDD 2008 [Yn y flwyddyn 1158, cipiodd Ifor Bach, Senghennydd, a’i lu Gastell Caerdydd mewn cyrch nos beiddgar. Y flwyddyn nesaf, 850 o flynyddoedd yn ddiweddarach, bwriadwn fynd un cam ymhellach!]

O’r Babell Lên

Page 8: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

8

GILFACH GOCH Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

PONTYPRIDD

Gohebydd Lleol: Jayne Rees

PARTÏON PENBLWYDD Cafwyd parti yn y dosbarth Cwiltio yn ddiweddar gan fod dwy o'r aelodau yn dathlu eu pen­blwydd un dydd ar ôl y llall. Roedd Mrs Gwyneth Abraham un o athrawon y dosbarth yn dathlu ei phen­blwydd yn 94 oed a Mrs Kitty Jones yn 81. Llongyfarchiadau i'r ddwy a dymuniadau gorau am lawer pen­ blwydd eto. Roedd hi'n ben­blwydd arbennig

hefyd i Mrs Megan Evans, athrawes y Dosbarth Cymraeg sy'n cwrdd yng Nghalfaria am hanner awr wedi un ar brynhawn dydd Mawrth, gan fod Megan yn dathlu ei phen­blwydd yn 70oed. Aeth allan i ginio gyda rhai o'r teulu i Langeinor ac yna cafodd barti mwy ym Maenordy Meisgyn ar y nos Wener. Llongyfarchiadau Megan a dymuniadau gorau am y dyfodol. Mae croeso i unrhyw un sydd am ddysgu Cymraeg i ymuno â'r dosbarth. Mae Megan yn gwneud y gwaith yn wirfoddol bob prynhawn dydd Mawrth. Diolch yn Fawr Megan am yr holl waith dros yr iaith.

YMWELWYR O FFRAINC Tro y Ffrancod oedd hi i ddod i Gilfach eleni. Dyma'r 27ed cyfarfod rhwng Gil fach a'u cyfei l lion o ardal Montsoreau ar lan yr afon Loire yn Ffrainc. Daeth llond bws, 56 i gyd i ymweld â'r Spartans dros benwythnos gŵyl banc Awst. Roedd Bwffe croeso yn eu disgwyl pan gyrhaeddon nhw y Fferm Bysgod ar ddechrau'r prynhawn ar y dydd Gwener ac yna aethant i dreulio gweddill y dydd gyda'r teuluoedd lle roedden nhw'n aros. Bore dydd Sadwrn aeth pawb am dro i'r Mwmbwls gan ddychwelyd ar ddiwedd y prynhawn er mwyn paratoi pryd o fwyd gyda'r teuluoedd cyn mynd i'r Fferm Bysgod am Noson Gymdeithasol a Disgo. Wedi treulio'r bore a chael cinio gyda'r teuluoedd roedd llawer am fynd i'r Fferm Bysgod i wylio'r gêm rhwng Cymru a Ffrainc ar y sgrin fawr. Yn yr hwyr cafwyd Mochyn wedi ei rostio a Bwffe cyn Noson Gymdeithasol pryd roedd cyfnewid anrhegion a chwaraeon. Bore dydd Llun am wyth o'r gloch a

phawb yn flinedig iawn daeth amser ffarwelio a dweud 'au revoir' tan tro nesa'.

Ysgol Heol­y­Celyn

Priodasau Yn ystod mis Awst fe briododd Hannah Clarke a James Morris ­ y ddau yn wreiddiol o Graigwen ac yn gyn­ ddisgyblion Ysgol Pont Sïon Norton a Rhydfelen. Maent wedi ymgartrefu yn H i l l s i d e V i e w , G r a i g w e n . Llongyfarchiadau! Yn Chamonix yn Ffrainc ar ddiwedd

mis Awst priododd Sara Mair, yn wreiddiol o Bontypridd, â’i chariad Robbie. Mae’n ferch i Meinir Heulyn a Brian Raby, Tyfica Road. Aeth llond awyren o deulu a ffrindiau o Gymru a’r Alban i ymuno yn y dathlu. Morynion Sara oedd ei ffrindiau Delyth Caffery a Mared Swain. Mae Sara a Robbie wedi bod yn gweithio yn Ffrainc ers sawl blwyddyn. Dymuniadau gorau a “Bonne chance”!

Radio Cymru Yn ystod gwyliau’r Haf fe ddarlledwyd nifer o raglenni a recordiwyd yng Nghanolfan Gydol Oes Gartholwg. Clywyd Guto Harri yn holi dwy o’r ardal ar ei raglen “Pawb a’i Brofiad”. Buodd Margaret Francis, Parc Prospect, yn trafod salwch ei merch Siwan pan yn fabi. Yna buodd Gwen Griffiths, Maesycoed yn siarad am ei phrofiadau yn mabwysiadu pedwar o blant.

Cydymdeimlo Bu farw y bardd a’r awdur Eingl Gymreig Roland Mathias yn ystod mis Awst. Roedd wedi ymgartrefu ers nifer o flynyddoedd yn Aberhonddu. Estynnwn ein cyd ymdeimlad at ei ferch Ceinwen ynghyd â Tom a Lowri, Y Comin , Pontypridd.

Llongyfarchiadau Mae Elin Llywelyn, gynt o Bontypridd wedi dyweddïo â’i chariad Gareth Williams. Maent wedi ymgartrefu ym Mhontyclun. Newyddion ardderchog!

Swyddi Newydd Ar ddechrau Medi fe gychwynnodd tri o fois Graigwen ar swyddi gwahanol. Bellach mae Mike Ebbsworth, Parc Prospect yn teithio i Gaerdydd i weithio i CBAC. Hefyd yn ymlwybro i’r brifddinas bob dydd mae Owain Morgan Jones, Maes y Deri ­ mae e wedi derbyn swydd gyda S4C yn yr Adran Farchnata. I fyny’r cwm aiff Trystan Griffiths, Pavia Court, Pontypridd i weithio fel athro pontio rhwng ysgolion cynradd

Cymraeg y Rhondda ag Ysgol Gyfun Cymer. Pob dymuniad da i’r tri ohonoch!

Symud Tŷ Pob hwyl yn eu cartref newydd yn Rhiwbeina, Caerdydd i fab Dorothy a Barry Todd, Geraint Wyn a’i gariad, Sara. Buodd Geraint a Sara yn byw yn y Bae am ychydig o flynyddoedd cyn symud i’r tŷ newydd ym mis Awst.

Angen Gwyliau Arall?? Ar werth yn Tenerife ­ fflat ­ lle i bedwar ­ yn ystod yr ail a’r drydedd wythnos ym mis Awst bob blwyddyn. Patio mawr yn edrych dros y môr a’r pwll nofio. Lle delfrydol ar gyfer gwyliau teuluol. Am fwy o fanylion cysylltwch â 01443 407273.

I ddechrau blwyddyn addysgol newydd rhaid yn anffodus i ffarwelio â rhai aelodau o staff a phlant a chroesawu rhai newydd. Yn anffodus i ni mae Mr Christian Coole wedi gadael i ddechrau ei swydd newydd fel dirprwy brif athro Ysgol Tre Hafod ac mae Miss Sally Jenkins wedi gadael i ddechrau ei chwrs addysgu PGCE yng ngholeg UWIC yng Nghaerdydd. Mae'r ddau yn golled mawr i'r ysgol a diolch iddynt am eu blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled.

Rhaid nawr croesawu aelodau staff newydd nawr i'r ysgol sef Miss Charlotte Jones a Mr Gareth Hodgson fel athrawon dosbarth yn ogystal â Mrs Linda Jones, Mrs A. Parker a Miss R Kedward sydd yn cynorthwyo mewn gwahanol ddosbarthiadau. Mae nifer o blant newydd wedi dechrau mewn amryw o ddosbarthiadau yn yr ysgol hefyd, nifer yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn a rhaid croesawu Millie Lawrence a Keanu Birkinshaw i ddosbarth 3C, Jarad Lawrence i ddosbarth 2C, Lauryn Davies i ddosbarth 4E a Kenny Watkins a Hannah Fletcher i ddosbarth 9E.

Llongyfarchiadau mawr i Miss Julie Jones a Huw hefyd ar enedigaeth eu merch Mia Jones ar y 28ain o Fehefin.

Bu Liam Williams yn brysur dros yr haf yn hyfforddi pêl­droed gyda Cardiff City a rhaid llongyfarch Karla Benjamin am ennill cystadleuaeth yn chwarae

Page 9: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

MENTER IAITH

ar waith yn Rhondda Cynon Taf

01443 226386

www.menteriaith.org

9

Ysgol Garth Olwg

Ysgol Gymraeg Castellau

Cyfarfod Blynyddol Menter Caerdydd

Nos Fercher, 24 Hydref 2007 am 7.30 pm

Clwb y Cameo, Stryd Pontcanna

Siaradwr Gwadd: Ffion Gruffudd, Swyddog Iaith

Cyngor Caerdydd

Dewch i glywed am ddatblygiadau’r Fenter dros y

flwyddyn diwethaf.

Croeso cynnes Croeso cynnes i Arwel Davies sydd wedi dod aton ni'r flwyddyn hon. Bydd Mr Davies yn addysgu Blwyddyn 2. Yn ogystal, croeso nol i Julie Earles ar ôl ei chyfnod mamolaeth a chroeso nol hefyd i Rebecca Morris (un o'n cyn­ ddisgyblion) sydd wedi dod aton o ysgol Gyfun Garth Olwg i weithio gyda phlant Mrs Widgery.

Chwaraeon Llongyfarchiadau i Trystan Gruffydd ar gael ei ddewis yn aelod o garfan tîm cyntaf Ysgolion Pontypridd. Dymunwn bob lwc iddo am y tymor rygbi sydd o'i flaen.

Ymweliad gan yr Affricanwyr Braint yw cael croesawu saith o athrawon o Affrica a fydd yn ymweld â’ n hysgol ni, Ysgol Gyfun Garth Olwg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sïon Norton yr wythnos nesaf (24ain ­ 28ain o Fedi). Daw pedwar o Uganda a 3 o Dde Affrica. Edrychwn ymlaen at y gyngerdd sydd wedi ei threfnu ar eu cyfer yn y Ganolfan Gydol Oes nos Fercher 26ain o Fedi.

Llangrannog Mae disgyblion yr Urdd yn edrych ymlaen at fynd i Langrannog. Gobeithio bydd y tywydd yn garedig eleni. Pob hwyl i'r staff sy'n mynd hefyd!

Clwb Carco Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Clwb Carco wedi mynd o nerth i nerth. Er ei phoblogrwydd, mae llefydd ar gael o hyd, a’r oedran cychwynnol yw 3 mlwydd oed. Os oes diddordeb gennych chi i anfon eich plentyn i'r clwb, dewch i nôl ffurflen gan Mrs Langdon.

Croeso. Estynnwn groeso i Miss Gemma Holman a fydd yn dysgu plant blwyddyn 6 y tymor yma. Hefyd i Miss Laura Thomas a fydd yn cynorthwyo yn y dosbarth Meithrin. Croeso hefyd i 30 o blant bach newydd a ddechreuodd yn y dosbarth Meithrin ym Mis Medi.

Pennaeth Newydd. Dymuniadau gorau hefyd i‘n pennaeth newydd sef Mr. Dafydd Iolo Davies. Mae e wedi ymgartrefi’n barod yn ei 'stafell newydd.

Gweithgareddau. Mae’r plant eisoes wedi ymuno a chlybiau rygbi, pêl­rwyd a’r Urdd sydd yn cael eu trefnu gan yr athrawon ar ôl ysgol. Mae plant blwyddyn 5 a 6 a saith o staff yr ysgol yn edrych ymlaen yn arw at fynd i Langrannog ar ddechrau mis Hydref ac i’r Jambori yn hwyrach yn y mis.

Cymdeithas Rieni a Ffrindiau Castellau. Braf oedd gweld nifer fawr o rieni’r ysgol yn y cyfarfod cyntaf. Edrychwn ymlaen felly at weithgareddau bywiog yn ystod y flwyddyn. Cynhelir parti Calan Gaeaf i’r

Babanod a disgo i’r Adran Iau ar Hydref 25 yn neuadd yr ysgol.

Myfyrwyr. Croesawyd Jenna Rolls cyn ddisgybl Castellau a Simon Callow i’r ysgol wrth iddynt arsylwi yn y dosbarthiadau cyn d ech r a u a r gwr s d ysgu yn g Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.

Gwasanaeth Diolchgarwch. Eleni cynhel ir ein gwasanaeth diolchgarwch ar Ddydd Iau, Hydref 18. Bydd y plant yn casglu tuag at apêl Dr Barnardos.

CWLWM BUSNES Y CYMOEDD Nos Fercher 10 Hydref

DIEMWNTAU A CHAMPAGNE

Mae Canolfan Diemwntau Cymru a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn croesawu busnesau lleol ac unigolion â diddordeb mewn marchnata i’r Ganolfan ym Mharc Busnes Ton ysguboriau. Bu’r cwmni yn brysur yn ddiweddar

yn dylunio a gwneud eitemau ar gyfer priodas Ioan Gruffudd. I sicrhau tocyn a lle ar y noson

cysylltwch gyda Geraint Bowen Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ar 01443 226 386. Rhagor o fanylion ar gael gan [email protected] 07981 906 102

Mi fydd cyfarfod Blynyddol y Fenter yn un pwysig eleni gan fod Rhodri Glyn Thomas AC , Gwein idog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth newydd y Cynulliad wedi cytuno i fod yn wr gwadd. Mae’n siŵr fod nifer ohonoch yn awyddus i glywed beth mae’r glymblaid yn mynd i gyflawni i gryfhau statws yr Iaith. Mi fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar nos Fawrth 9fed o Hydref yng Nghanolfan Fenter y Cymoedd, Parc Hen Lofa’r Navigation, Abercynon. Mi fydd lluniaeth ysgafn ar gael ar gyfer y noson am 7:00yh cyn bod y cyfarfod yn ddechrau am 7:30.

Page 10: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

10

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant

Cornel

y

Plant

Hwyl Fawr a Chroeso Erbyn hyn, disgwylir bod disgyblion Blwyddyn 6 llynedd wedi ymgartrefu yn Ysgol Gyfun Llanhari. Diolch yn fawr iddynt am eu cyfraniad i’r ysgol a phob lwc iddynt yn eu hysgol newydd. Croeso mawr i’n disgyblion newydd. Mae 43 o blant bach Meithrin wedi dechrau yn yr ysgol yn Nosbarthiadau 1 a 2. Croeso hefyd i Miss Ffion Williams athrawes Dosbarth 3.

Llangrannog Bydd nifer o blant Blwyddyn 5 & 6 yn gadael yr ysgol yn llawn cyffro mae’n siŵr, i dreulio penwythnos yn Llangrannog o dan ofal Mrs Veck, Miss Jones, Mr Williams a Miss Thomas.

Cyngor yr ysgol Mae’r amser wedi dod unwaith eto i ethol plant ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4,

5, a 6. Pob lwc i bawb a fydd yn ymgeisio.

Ysgol Pont Siôn Norton

Bore Coffi McMillan Cynhelir bore coffi McMillan yng nghapel Pont Siôn Norton Ddydd Gwener, Medi 28ain. Disgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol sy’n trefnu’r bore yma yn flynyddol.

Rygbi Llongyfarchiadau i Connor Mahoney sydd wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi dros ranbarth Pontypridd.

Llangrannog Mae criw o blant yn aros yn eiddgar i fynd i Langrannog ar Hydref 5ed. Diolch i’r holl athrawon sy’n rhoi o’i hamser eu hunain i ofalu am y plant dros y penwythnos.

Côr Bu côr yr ysgol yn canu mewn cyngerdd yng Nghanolfan Gydol Oes, Garth

Olwg, Nos Fercher, Medi 26ain. Cyngerdd oedd hwn i groesawu athrawon o Uganda i’n gwlad ac i roi blas iddynt o draddodiadau Cymreig.

Bwyta’n Iach Mae ymgyrch fawr ar waith yn yr ysgol ar hyn o bryd i hybu’r disgyblion i fwyta’n iach. Mae siop ffrwythau ar agor bob bore ac fe gynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgol i greu poster oedd yn hyrwyddo bwyta’n iach. Cafodd yr enillwyr o bob dosbarth barti yn swyddfa Mr Williams – Parti ffrwythau wrth gwrs!!

Darllen Miliwn o Eiriau Mae’r ysgol wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Darllen Miliwn o Eiriau’. Erbyn hyn mae’r disgyblion wedi darllen dros ddwy filiwn o eiriau. Dydd Mawrth, Medi 18 fed cyflwynwyd tystysgrif i’r ysgol am gyrraedd y targed. Pont Siôn Norton yw’r ysgol gyntaf yn y sir i gyrraedd miliwn o eiriau. Cyflwynwyd tystysgrif hefyd i Ieuan Bennett, Blwyddyn 6, am fod yn Filiwnydd Geiriau

Gan bwy mae‛r te? Mrs Jones, Anti Nel neu Miss Huws?

Beth fyddwch chi‛n wneud ar ddydd Calan Gaeaf?

Page 11: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

11

1 1 2 3 4 5 6

7 8

9 10

10

11 12 13 11 12 14 15 16

13 17

18 17 19

14 20 20 21

21 22 23 24 24 25 26

18 19

27

28 29

30

C C R O E S A I R

L

Atebion i: Croesair Col 34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil, Meisgyn, Pontyclun. CF72 8QX erbyn 19 Hydref 2007

Dyma gyfle arall i chi ennill Tocyn Llyfrau.

Ar Draws 3. Gŵr caeth (5) 7. Dilyn mewn swydd (5) 8. Gohiriwr (5) 9. Cuchiog (5) 11. Llofft dros ran o ystafell (5) 14. Anrasol (5) 17. Cyff, coes (3) 18. Gwaywffon (5) 19. Segurdod (5) 20. Ddim yn agos (3) 21. Di­gŵyn (5) 24. Maldod, anwyldeb (5) 27. Siarad, sgwrs (5) 28. Ymdrochi (5) 29. Dodi ar y bar y mae olwyn yn troi

arno (5) 30. Anrhydeddus (5)

I Lawr 1. Tynnu llaeth o fuwch (5) 2. Twpdra, hurtwch (5) 3. Pleidlais ddirgel (5) 4. Sefydlu, dodi (5) 5. Dychwelyd (5) 6. Gorthrwm (5) 10. Wedi ei ddewis (9) 12. Mwstwr (5) 13. Y flwyddyn hon (5) 15. Beichio wylo (5) 16. Mynwes, calon (5) 21. Meddwyn (5) 22. Parhaol, bythol (5) 23. Rhychio, crimpio (5) 24. Yr ail laeth (5) 25. Clwyf peryglus yn cynnwys gôr

(5) 26. Di­waith, ofer (5)

Atebion Medi

Enillydd croesair mis Medi: Mrs G Edwards Pontyclun

1 D A D W E N W Y N I A D

O L E S N I

C L A E R E DD 9 B T S

S R M 10 I E I

I A CH A W R C W S G O

W 12 13 D A E A R R

N I C O 15 S I W FF U R T

14 A B A L O G A

A D O L D W S T E R

S W CH A 18 O 19 DD

C O R E D 21 T Y M E S T L

O F E A T E

T R A G W Y DD O L D E B

Taihirion Mae aelodau Capel Tabernacl, Efail Isaf, yn gyfarwydd â darllen am John Taihirion Davies ond efallai nad yw llawer yn gwybod ymhle mae Taihirion. Yn y rhifyn diweddaraf o Garth

Domain, Rhif 37 ­ Capel Llanilltern, mae Don Llewellyn yn cyflwyno hanes y capel o’i gychwyn yn y 1760’au hyd ei ddiwedd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mynnwch gopi o siopau Pentyrch

neu 029 20890535.

A wyddoch chi...? Mae i ardal Taf Elái le blaenllaw yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn 1815 cynhaliodd Iolo Morgannwg orsedd ar safle'r Maen Chwyf, mangre a fagodd arwyddocâd cyfrin yn llygaid nifer helaeth o lengarwyr lleol a ymddiddorai yn y derwyddon. Yn yr ardal hon yn 1962 yr agorwyd Ysgol Rhydfelen, yr ysgol Gymraeg swyddogol gyntaf i'w sefydlu yn ne Cymru. Erbyn dechrau'r 21 Ganrif, roedd chwarter disgyblion Pontypridd yn derbyn addysg Gymraeg. Mae Gwyddoniadur Cymru yr

Academi Gymreig yn waith diffiniol a chynhwysfawr. Heb os, hwn fydd un o'r llyfrau mwyaf gwerthfawr i'w gyhoeddi yn hanes Cymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Gwasg Prifysgol Cymru a'r Academi, ac fe'i ariennir yn rhannol gan Gyngor y Celfyddydau a'r Loteri Genedlaethol. Mae tîm ymchwil y Ilyfr yn cynnwys pedwar o academyddion amlycaf Cymru: Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur I. Lynch. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r

cyhoeddiad ar werth am bris o £60 o fis Tachwedd ymlaen. Cynigir gostyngiad yn y pris i £50 gyda phostio am ddim o fewn y DU, i'r sawl sydd yn archebu o f l a e n l l a w d r w y ' r w e f a n www.gwyddoniadurcymru.com, neu d r wy f fon i o l l i n e l l Ar ch ebu Gwyddoniadur Gwasg Prifysgol Cymru ar 029 2055 7451.

Page 12: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

12

CREIGIAU

Gohebydd Lleol: Nia Williams 029 20890979

Croeso i’r byd, Ted! Ar yr unfed ar hugain o fis Gorffennaf, yn Llundain, fe aned Ted Gruffydd – yr hogyn bach del sy’n pipo arnoch yn y llun! Mae Ted yn fab i Rebecca (Elis Owen) a Tom, ac yn frawd bach newydd sbon i Archie Llewelyn. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i chi fel teulu, i fyny yn Twickenham.

Noson agoriadol Merched y Wawr Cafodd y criw da ddaeth ynghyd i neuadd ysgol Creigiau eu swyno ar noson gynta’r tymor. Dwy ferch ifanc oedd yn gyfrifol am ein hadloni – Beth Pickard ar y ffliwt, a’i chyfeilles o Gaerfyrddin, Rhiannon Pritchard ar y piano. Mae’r ddwy yn fyfyrwyr cerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, ar fin dychwelyd i’w trydedd flwyddyn. Perfformiwyd rhaglen hynod o amrywiol – o Blavet i Handel, o’r cellweirus Andante et Scherzo gan Louis Ganne i’r hudolus Romance pour flute et piano gan Saint­Saëns, a mwy. Dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol – maent ar gael i berfformio mewn cyngh erddau n eu br i oda sau – cysylltwch â Beth – sy’n dod o Bentyrch, gyda llaw, ar 07932 702 842 neu [email protected]. Sheila Dafis, Cadeiryddes eleni fu’n

llywio’r gweithgareddau yn feistrolgar, ac fe gafwyd lluniaeth hyfryd iawn ar ffurf bwffe, wedi ei baratoi gan aelodau’r pwyllgor. Dewch, ymunwch â’r criw hwyliog – cyfarfod nesa – Hydref 10fed yn Neuadd Pentyrch.

Cyfeilyddes newydd! Dymuniadau gorau i Siwan ap Rhys ar ei phenodi yn gyfeilyddes Cantorion Creigiau. Profiad anhygoel i Siwan sy’n dal i astudio’r piano yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Cymru yng Nghaerdydd. Efallai y daw yna deithiau cyffrous a phrofiadau amheuthun iawn i’w rhan yn y dyfodol agos. Beth am rannu manylion cyngherddau’r Côr efo darllenwyr Tafod Elái – neu adroddiad neu ddau weithiau am y perfformiadau diweddar?

Cylch Meithrin Creigiau Mae Cylch Meithrin Creigiau yn mynd o nerth i nerth gyda athrawon newydd y tymor yma. Cofiwch ­ os ydych am anfon eich

plant yno o fore Llun tan ddydd Iau rhwng 9.30 a 12 o'r gloch cysylltwch â Lisa Evans ar: 02920 891777. Bydd parti Calan Gaeaf ar gyfer y

plant cyn bo hir a noson siopa 'Pam Lai?' i'r rhieni cyn y Nadolig. Rydym eisoes wedi mwynhau noson gyda 'Pampered Chef' ­ a diolch i'r holl rieni am eu cefnogaeth.

Llond tŷ o gerddorieth! Am braf! Bu’r misoedd diwetha’ yma’n gyfnod o wai th caled, ymar fer cyson a llwyddiannau lu i Geraint, Catrin ac Aled Herbert. Llongyfarchiadau eich tri ar eich campau cerddorol ­ mae Geraint wedi pasio gradd 7 ar y piano a gradd 5 ar y soddgrwth, Aled ­ gradd pump ar y trwmped a gradd 3 ar y piano a Catrin gradd 6 ar y trwmped! Mae’r tri nawr yn chwarae i fand jaz CYJO, band jaz ysgol Plasmawr a cherddorfa CAVMS ac yn dal i fwynhau eu cerddoriaeth a’r cymdeithasu yn fawr iawn! Daliwch ati – bydd eich cymwysterau cerddorol yn agor cymaint eto o ddrysau i chi.

Llwyddiannau’r haf ... Llongyfarchiadau i blant y pentref gafodd ganlyniadau ardderchog yn eu harholiadau TGAU yr haf yma – yn eu plith – disgyblion Plasmawr – Rhys Cook, Owain Griffiths, Rachel Holly, Emyr Honeybun, Rhys Jones, Jonathan Prosser, Hannah Stracey, Sara Thomas a Morgan Rhys Williams. Goeliech chi ddim sawl A* gasglon nhw rhyngddynt! Diolch, athrawon Plasmawr! Llongyfarchiadau i ddisgyblion Lefel

‘A’ Plasmawr – wnaeth sicrhau canlyniadau arbennig o dda – sy’n eu galluogi i ddilyn cyrsiau/gyrfaoedd pellach – cyrsiau cyffrous – ar hyd a lled y wlad! Bydd Steffan Jones yn mynd i Brifysgol Ravensbourne, yng Nghaint i ddilyn cwrs Cynhyrchu a Darlledu; Eleri Middleton yn mynd i Br i fysg ol Sh effi e l d i a st udio Gwyddorau Biolegol; Gareth Prosser a Ieuan Stracey sy’n cymryd blwyddyn allan; tra bo Rhys Thomas wedi hen

gychwyn ar ei gwrs gradd Hanes ym Mhrifysgol Caeredin – clywais Rhys yn siarad ar Radio Cymru yn fuan iawn wedi iddo gyrraedd – roedd yn sôn wrth Hywel a Nia am ei argraffiadau o’r ddinas a’r coleg. Dymuniadau da i chi i gyd wrth i chi ddilyn llwybrau newydd cyffrous – cadwch mewn cysylltiad – cofiwch bod darllenwyr Tafod Elái yn mwynhau darllen eich hanesion.

Graddio Llongyfarchiadau i Gareth Holvey a Simon Evans – wnaeth raddio yn ystod yr haf. Pob dymuniad da i chi eich dau i’r dyfodol. Un arall wnaeth yn arbennig o dda yn

ei arholiadau yw Dafydd Brooks – mae Dafydd yn dilyn cwrs Meddygaeth – ond yr haf yma enillodd radd B.Sc. dosbarth cyntaf mewn Physioleg – dim ond dwy flynedd ar ôl, Dafydd – ac mi fyddwn yn dy longyfarch fel ‘Dr. Brooks’ – pob dymuniad da i ti ar weddill y daith. Llongyfarchiadau – Kate Staple – ar

ennill dy radd M.A. yn y Gyfraith.

Ymchwil ar Myrr Bu Catrin Heledd Middleton, sydd ar hyn o bryd yn astudio geneteg ym Mhrifysgol Caeredin, yn gwneud gwaith ymchwil dros yr haf yn labordy'r Athro Delme Bowen yn ysgol Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd. Bu yn astudio effeithiau cemegolion o’r planhigyn Myrr ar dyfiant a marwolaeth celloedd cancr y fron. Dangosodd ei gwaith fod dosraniad o’r cemegau Myrr yn difa y celloedd cancr drwy broses arbennig o hunan laddiad. Bu Catrin yn cydweithio hefyd gyda Dr Jon Court, gynt o ysbyty Felindre, sydd bellach yn ymchwilydd yn labordy Delme. Byddant, maes o law, yn cyhoeddi eu gwaith ar ffurf poster fydd yn cael ei arddangos yn y Brifysgol. Mi fydd y gwaith yn debyg o gael ei ehangu y flwyddyn nesaf os caiff y labordy arian pellach of Frwsel.

Clwb y Dwrlyn Daeth criw arbennig o hwyliog ynghyd i noson agoriadol Clwb y Dwrlyn. Cwis ydoedd yr arlwy gerbron yng ngofal yr hybarch Rhys Dafis a’i gynorthwywraig fedrus Sheila. Roedd y cystadlu’n frwd – y ceffylau

blaen yn newid o rownd i rownd – ond yn fuddugol ar y noson oedd – Criw’r Campws!! Llongyfarchiadau mawr i Liz Begg, Idris Andrews, Andrew Richards, Ifan Roberts a’r Dr Maldwyn Pate. Diolch o galon i Rhys a Sheila am yr

holl waith paratoi – a dyna braf ydoedd cael cwmni cymaint o ffrindiau newydd – dewch eto – fe gewch hwyl!

Bethan Pickard

Page 13: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

13

Llun Lliw o’r Gorffennol

Pwy nad sy’n adnabod Brei? Y darlithydd, y diddanydd, y sylwebydd, yr ocsiwnïar, y chwaraewr rygbi (cyn ganolwr Llanelli a Chymru – dim llai), y cymwynaswr – ac yn y blynyddoedd diwethaf – yr arlunydd. Mae Brian wedi gwerthu dros bedwar ugain o’i luniau – lluniau o wŷr a gwragedd amlwg Cymru – yn eu plith Catrin Finch, Hywel Teifi Edwards, Dafydd Iwan, Ray Gravell, Rebecca Evans, Rhodri Morgan, Shân Cothi – a’i ffefryn personol ef – y cawr o Bant Glas – Bryn Terfel. Mae’r cyfan wedi codi mwy na £10,000 tuag at Ymddiriedolaeth Cystis Fibrosis. Yn ystod yr haf cynhaliwyd

arddangosfa o’i waith yn Theatr Gwynedd, Bangor a chyn hynny yn y Senedd yng Nghaerdydd. Dechreuodd beintio o ddifrif adeg Cwpan y Byd 2003, a thestun ei lun cyntaf oedd Shane Williams a Johnny Wilkinson. Tynnu ffotograffau o’r gwrthrych a wna Brian i ddechrau – a dim ond ar ôl llawer o bwyso a mesur y bydd yn gosod paent ar gynfas. Hir y parhaed ei lwyddiant! Os am fwy o wybodaeth trowch at y

we: www.brian­davies.com – yno hefyd cewch weld llawer mwy o enghreifftiau o’i waith.

Brian Davies gyda Iestyn Garlick

a’i lun.

Print Bryn Terfel Ar Werth

Rhediad Lithograffig Cyfyngedig i 200 594x420mm ar Bapur Sidan 380gsm £60 heb ffrâm; £90 wedi ei lofnodi gan Bryn heb ffrâm. Pob print wedi ei lofnodi gan yr artist, Brian Davies. Elw tuag at Ymddiriedolaeth Cystic Fibrosis ac elusennau lleol.

Llun o’r Parchedig Cynwil Williams, gan Brian a gyflwynwyd i Gapel y

Crwys, Caerdydd. Rhodd i’r capel oedd hwn gan deulu

Mr Winston Roddick, Q.C. Cystadlu brwd yng Nghlwb y Bont yn 1994

Cystadleuaeth pŵl, tippit a dartiau rhyng­ysgolion.

Beth sy’n digwydd dan y bwrdd?

Cwis yn dechrau tymor Clwb y Dwrlyn

Ifan, Liz, Andrew, Maldwyn ac Idris

Cywydd Eisteddfod

Caerdydd 2008 Rhys Dafis yn cyflwyno ei gerdd (gweler tudalen 7) yn y Babell Lên yn Eisteddfod Sir Fflint.

Arddangosfa Brian Davies ym Mangor

Page 14: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

14

FFYNNON TAF NANTGARW A GWAELOD Y GARTH

Gohebydd Lleol: Martin Huws 029 20 811413 neu [email protected]

CODI 48 O DAI AR SAFLE GWYRDD Mae cwmni Lovell wedi cael caniatâd cynllunio i godi 48 o dai ar Faes Ifor ger Clwb Rygbi Ffynnon Taf. Roedd rhai pobol leol yn erbyn

cymaint o dai ar safle gwyrdd yng nghanol y pentre. “Er bod rhai anfanteision, mae’r

datblygiad yn golygu nifer o fanteision arbennig,” meddai’r Cynghorydd Adrian Hobson ar ei wefan. “Yn gynta, fe fydd yn helpu datrys

problem prinder stoc tai ac fe fydd 15 o’r tai yn rhai fforddiadwy fel y gall pobol leol brynu tai’n lleol. “Mae cwmni Lovell wedi addo rhoi

£48,000 i Ysgol Gynradd Ffynnon Taf ... fe fydd mwy o blant yn golygu mwy o arian oddi wrth y cyngor.” Ar hyn o bryd mae’r tai dwy, tair neu

bedair stafell wely’n cael eu codi ond does dim manylion eto am y prisiau.

TOM MEWN CAE ARALL Llongyfarchiadau i Tom James, 11 oed o Heol Brynnau, Tŷ Rhiw, aelod o Academi Ieuenctid Dinas Caerdydd. Erbyn hyn, mae rhaglen y tîm cynta’n

sôn am ei sgiliau ar y cae pêl­droed fel rhai allai ysbrydoli chwarewyr eraill o’r un oedran. Cyn dechrau’r tymor enillodd y tîm

dan 12 gystadleuaeth yn yr Amwythig cyn maeddu Manchester United o 2­1. Roedd y tîm dan 18 wedi maeddu Manchester United o 5­1. Ry’n ni’n gobeithio y bydd llwyddiant

y timau ieuenctid yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol.

GWLEDD I’R LLYGAID Aeth criw ohonon ni i wylio Cafe Cariad, sioe gerdd y Cwmni Theatr Cenedlaethol (Saesneg) yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Er bod y syniad o wneud sioe gerdd

am deulu o Eidalwyr mewn caffi yn y cymoedd ddim yn hollol wreiddiol, fe lwyddodd i gyfuno hanes y gymuned â thrychineb yr Ail Ryfel Byd. Roedd y gwaith ensemble yn

drawiadol a chanu, actio a dawnsio’r 40 o bobol ifanc yn broffesiynol. Yr uchafbwyntiau i mi oedd y gêm rygbi rhwng capel ac eglwys drodd yn ddawns oedd yn wledd i’r llygaid a’r darnau o bapur gafodd eu gollwng ar y llwyfan a’r rhai yn y rhesi blaen, y llythyrau

gafodd eu hanfon adeg y rhyfel ond na lwyddodd i gyrraedd pen eu taith. Yn ôl y rhaglen, roedd hwn yn

berfformiad oedd i fod i “ysbrydoli, herio a chyfareddu” cynulleidfa. Wel, ar y diwedd, roedd 90% ohonyn nhw ar eu traed. Pan fydd y cyfarwyddwr Greg Cullen

yn gadael fe fydd bwlch mawr ar ei ôl.

Y FFORDD YMLAEN Mae’n bosib y bydd y Parchedig Ddoctor R Alun Evans yn weinidog dau gapel erbyn y Flwyddyn Newydd. Ers saith mlynedd mae wedi bod yn

weinidog Eglwys Bethel, Caerffili, lle mae’r diaconiaid yn cefnogi’n llawn drefn “rannu a chydweithio” â Chapel Bethlehem, Gwaelod­y­garth. Ar Hydref 21 fe fydd yn cymryd y

gwasanaeth ym Methlehem cyn cyfarfod yn anffurfiol ag aelodau. Wedyn ar Dachwedd 4 fe fydd Cwrdd Eglwys ym Methlehem ac ar Dachwedd 12 fe fydd Cwrdd Eglwys ym Methel. Os bydd yr ymateb yn gadarnhaol, y

bwriad yw ei wahodd i fod yn rhan o ddigwyddiadau Bethlehem cyn y Nadolig a gweithredu’r drefn newydd yn y Flwyddyn Newydd.

RYGBI: Y PEDWAR MAWR Cafodd cyfarfod blynyddol cyffredinol y clwb rygbi ei gynnal ar Awst 16. Roedd 40 yn bresennol. Y canlynol gafodd eu hethol: Llywydd: Gwyn Davies; Cadeirydd: Peter Flood; Ysgrifennydd: Michael Gibbons; Cyfarwyddwr: Michael Chown. Y pedwar uchod a’r pedwar

ymddiriedolwr yw aelodau bwrdd gweithredol y clwb sy’n dathlu 125 mlynedd eleni.

GWARIO £280,000 AR GAPEL Mae capel hanesyddol wedi cael ei adnewyddu oherwydd ymdrech aelodau a chyrff ariannu. Cafodd Capel y Groeswen, adeilad

cofrestredig Graddfa 2, ei godi ar fryn rhwng Nantgarw a Chaerffili yn 1742 ac erbyn hyn mae ganddo do llechi, ffenestri gwydr lliw, drysau newydd, maes parcio a llwybr o gwmpas y fynwent. Roedd yr aelodau wedi casglu £15,000

ac wedi derbyn grantiau gwerth £265,000. Mae’r ymddiriedolwyr wedi dweud

taw hon oedd rhan gynta’r cynllun adnewyddu a’u bod yn codi arian cyn gwella tu mewn y capel. Hwn oedd capel cynta’r Methodistiaid

Calfinaidd yng Nghymru ac yn y fynwent mae beddau mawrion oes Fictoria fel Ieuan Gwynedd a Chaledfryn. Yn y capel mae clwb ieuenctid yn

cwrdd a chyngherddau ysgol yn cael eu cynnal. Mae wedi bod yn orsaf bleidleisio. Diolch i’r aelodau, cynghorwyr lleol, Cymdeithas Hanes Caerffili a Llywodraeth y Cynulliad.

CO­OP AR NEWYDD WEDD Mae siop y Co­op, oedd ar gau rhwng Medi 2 a Medi 13, wedi cael ei hailwampio ar gost o £325,000. Cafodd y to, y llawr, y nenfwd a’r

silffoedd eu hadnewyddu ac mae bwriad i godi ffensys newydd y tu allan a rhoi wyneb newydd ar y maes parcio. Yn y seremoni agoriadol, plant y

ddwy ysgol leol, Ysgol Gwaelod­y­ garth ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, dorrodd y rhuban. Mae’r ddwy ysgol yn derbyn £100 yr un. “Rydyn ni’n falch bod y ddwy ysgol

yn rhan amlwg o’r seremoni,” meddai’r rheolwr Mark Thomas.

ADFERIAD BUAN Rydyn ni’n dymuno adferiad buan i Mrs Jessie James, King Street, gafodd ddamwain yn yr Unol Daleithiau. Roedd hi a’r teulu mewn car oedd yn

teithio i briodas ei hŵyr, mab Molly. Fe graciodd ei hasennau ond erbyn hyn, mae Mrs James nôl adref ac yn gwella.

DIGWYDDIADAU CAPEL BETHLEHEM, Gwaelod­y­garth, 10.30am. Hydref 7: Parchedig Leslie Jones, Cymundeb; Hydref 14: Gwasanaeth Diolchgarwch y Plant; Hydref 21: Gwasanaeth Ardal: Pentyrch a Rhydlafar; Hydref 28: Parchedig Catrin Roberts.

CYLCH MEITHRIN Ffynnon Taf, 9.30­ 12, ddydd Llun tan ddydd Gwener. Taliadau: £4.75 y sesiwn. Ti a Fi, 1.15­2.30 bob dydd Mawrth. Taliadau: £1.50 y sesiwn.

CYMDEITHAS ARDDWROL Ffynnon Taf a’r Cylch: ddydd Mawrth cynta’r mis, Clwb Cyn­Aelodau’r Lluoedd Arfog, Glan­ y­llyn. Manylion oddi wrth Mrs Toghill, 029 20 810241.

Page 15: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

15

YSGOL GYFUN RHYDFELEN www.rhydfelen.org.uk

Lluniau ar dudalen 16

Taith Blwyddyn 8 i Oakwood Ddydd Gwener y nawfed ar hugain o Fehefin, aeth Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10 ar daith i Oakwood gyda’r ysgol. Roedd pedwar bws wedi mynd â ni ar y daith. Fe gymerodd awr a hanner i gyrraedd y parc. Dechreuodd pethau gyda Zoe Jenkins o Lys Gruffydd yn cwympo, fe redodd lawr y llethr a bwrw mewn i’r ffens, a syrthiodd y ffens i’r llawr! Roedd y plant yn falch o gael mynd o

amgylch y parc ar eu pen eu hunain. Roeddem yn gyffrous iawn wrth feddwl am fynd ar "Speed" a "Megaphobia", y reidiau mwyaf yn y parc. Nid dim ond y plant oedd yn cael hwyl, roedd yr athrawon wedi mwynhau hefyd. Amser cinio roedd pawb wedi

cyfarfod â’i gilydd i fwyta eu brechdanau ac i rannu eu profiadau o’r diwrnod cyn belled. Aeth Danielle ar “Vertigo” gyntaf, y

reid doedd neb eisiau mynd arno! Dechreuodd rhai plant ar y reidiau bach ac wedyn symud ymlaen i’r rhai mwy. Roedd pob math o reidiau i’w dewis. Y rhai mwyaf poblogaidd oedd “Megaphobia” a “Speed”. Diolch yn fawr iawn i Mr Caffery am drefnu'r daith i ni, a gobeithio y cawn fynd eto.

Gareth, Danielle, Rachel a Seren. Blwyddyn 8 (Dafydd)

Taith Blwyddyn 10 i Oakwood Ar y nawfed ar hugain o Fehefin ymdeithiodd Blwyddyn 8 a 10 i Oakwood am y dydd. Dechreuon ein taith i Oakwood yn gynnar ar ôl cofrestru, roedd pawb yn frwdfrydig ac yn gyffrous gan fod yr arholiadau blinedig wedi gorffen. Ar ôl cyrraedd fe wnaeth pawb ffoi

oddi ar y bws. Fe aeth criw mawr o bobl yn syth at “Megaphobia”, ac eraill at “Bounce”. Dewisodd fy ffrindiau a finnau fynd ar “Bounce”. Wrth i’r seddi godi fe wnaeth fy nghalon neidio mewn ofn a sioc. Ar ôl amser fe wnaeth y seddi ostwng yn ôl lawr i’r ddaear. Unwaith eto, fe wnaeth y seddi godi, ond yn wahanol i’r tro cyntaf, fe gododd y seddi yn uwch ac yr oeddem yn gallu gweld y parc cyfan! Teimlais ryddhad wrth i’r reid orffen! Aethom yn ein blaenau at “Spooky

3D”. Yn wahanol i “Bounce”, nid oedd “Spooky 3D” yn codi. Yr oedd yn teithio o gwmpas mewn cylch, ac ar y ffordd yr oeddem yn dod ar draws nifer

o gymeriadau annifyr fel sgerbydau, ystlumod a chorynnod! Roedd pob disgybl ac athro yn edrych

ymlaen at gael tro ar “Speed” a “Hydro”, ond roedd rhaid aros mewn rhesi hir cyn cael cyfle i fynd arnynt. Roeddem yn gallu gweld a chlywed cynnwrf pawb oedd ar “Speed” pan oeddem yn disgwyl am ein tro ni. Yn olaf, fe aeth nifer fawr o’r

disgyblion ar “Hydro”. Roedd y reid yma yn gyflym iawn ac yr oeddem yn cael ein gwlychu gyda’r dŵr. Yn ogystal â hyn fe aeth rhai o’r disgyblion i sefyll ar y bont gyfagos, a bob tro yr oedd y reid yn pasio yr oeddynt yn cael eu gwlychu. Erbyn diwedd y dydd yr oedd llawer

ohonom yn wlyb iawn ond yn hapus. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr. Diolch yn fawr iawn i’r athrawon am drefnu’r daith. Rhiannon Griffiths. Blwyddyn 10

Gardd Newydd Ysgol Rhydfelen Yn sgil adeiladu Campws Garth Olwg ac Ysgol Newydd Rhydfelen fe grëwyd rhandiroedd newydd i’r gymuned leol ­ Rhandiroedd Maesnewydd. Cynigiodd Cyngor Rhondda Cynon Taf un o’r rhandiroedd i’r ysgol fel adnawdd addysgol os oedd awydd ganddyn nhw, ac fe benderfynwyd y byddai’r ysgol yn derbyn cyfrifoldeb am yr ardd ac yn creu Clwb Garddio a Gwersi Garddio. Blwyddyn 10, y grŵp Sgiliau Bywyd

dderbyniodd yr her o sefydlu’r ardd newydd ar lain o dir na chafodd ei weithio fel gardd o’r blaen. Cafwyd cymorth gan nifer o bobl oedd â gerddi eisoes ym Maesnewydd ­ er hyn gweithiodd y grŵp yn galed iawn dros y misoedd i sefydlu’r ardd, troi’r tir a phlannu cnydau. Ym mis Gorffennaf fe ddaeth Mrs

Jane Davidson i’r ysgol ar gyfer Agoriad Swyddogol yr Ardd Newydd a derbyn siec o Gronfa’r Loteri gan Mrs Janet Thickpenny. Braf oedd rhannu’r achlysur gyda Mr Peter Griffiths, Pennaeth Ysgol Rhydfelen, Mr Gareth Jenkins, Llywodraethwr Ysgol, Mrs Jan L ew i s , P e n n a e t h y r A d r a n Alwedigaethol, Mrs Maralyn Tomlison, Pennaeth Ysgol Gynradd Garth Olwg, Mr Tony Lower y, Cadei r ydd Maesnewydd, Mr Brain Job a Mr Paul Young, aelodau’r pwyllgor. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n helpu.

Taith yr Adran Ffrangeg i Barc Asterix, Paris, Gorffennaf 2007 Cafwyd hwyl eleni eto ym Mharis ac ym Mharc Asterix gyda Blynyddoedd 7 ac 8 ym mis Gorffennaf. Mwynhawyd y sioeau yn y parc, yn arbennig, pan welwyd ymladdwyr Rhufeinig yn brwydro yn erbyn Asterix a’i ffrindiau ­ nid oes dim yn newid! Bu’n braf hefyd, cael teithio mewn

cwch ar yr afon “Seine”, gan weld a d e i l a d a u h a n e s yd d o l u n o brifddinasoedd hardda’r byd, a mwynhau hufen iâ ar yr un pryd, wrth gwrs. Mawr obeithiwn y bydd cyfle i

ymweld eleni eto. Gwenllian Rees,

Pennaeth Ieithoedd Modern

Gwledd i godi arian at Elusen Marie Curie Ar y 19eg o Orffennaf ymunodd staff Ysgol Gyfun Rhydfelen mewn gwledd a baratowyd gan grŵp Arlwyo Blwyddyn 10. Roedd y dathliad yn rhan o ymgais yr ysgol i goffau Ms. Llinos Jones, ac i godi arian tuag at yr elusen Marie Curie. Codwyd dros £100 at yr achos.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Harri Lloyd, Blwyddyn 11 ar dderbyn tystysgrif BTEC fel rhan o gwrs datblygiad diffoddwyr tân yn ddiweddar.

Harri Lloyd gyda’i dystysgrif.

CYDNABYDDIR CEFNOGAETH

I’R CYHOEDDIAD HWN www.bwrdd­yr­iaith.org

Page 16: ttaaffoodd ee áái iHYDREF 2007 Rhif 221 Pris 60c  ttaaffoodd ee ll áái i Cofiwch archebu eich copi o Tafod E lái £6 am y flwyddyn Pryderon am Wenwyn mewn Chwarel Roedd …

16

YSGOL GYFUN LLANHARI

Dod â Hanes yn Fyw Ym mis Mehefin ymwelodd grŵp ohonon ni â Gwlad Belg ac ardal y Somme yn Ffrainc gyda’r Adran Gymraeg. Roedd y trip yn llwydiannus ac ymwelon ni â llawer o lefydd gwahanol. Cafodd y mwyafrif ohonon ni brofiad emosiynol a dirdynnol wrth i ni ymweld â bedd Hedd Wyn a Mynwent Tyne Cot. Braint oedd mynychu seremoni’r Last Post yn y Menin Gate hefyd. Buon ni i lawer o fynwentydd gwahanol gan gynnwys mynwent yr Almaenwyr a mwynheuon ni’r siop siocled a siopa yn Cite Europe yn Ffrainc yn fawr iawn. Fe hoffen ni hefyd ddweud diolch i athrawon yr Adran Gymraeg a wnaeth drefnu’r trip ac am ddod gyda ni.

Set 2 Cymraeg

Mrs Janet Thickpenny, Mrs Jane Davidson, Harri Lloyd, Shineen Bowler, Leah Williams, Rachel Griffiths, Mr. Peter Griffiths a Mr Gerwyn Caffery

Y staff yn mwynhau gwledd i godi arian at Elusen Marie Curie

Croeso Mae'r ysgol yn croesawu nifer o athrawon newydd eleni eto. Mae Mr Dewi Thomas, Mr Tom Price a Mr Dylan Owen wedi dod i ymuno gyda’r Gyfadran Dylunio a Thechnoleg. Mae Miss Donna Payne sy’n gyn­ dddisgybl, Mr Rhodri Thomas a Miss Menna Davies yn ymuno gyda’r Gyfadran Wyddoniaeth. Mae Miss Llinos Williams yn dod i ddysgu Cymraeg. Mae Mrs Anne Dawson wedi cychwyn swydd Cydlynydd Mentora disgyblion. Pob lwc iddynt oll yn eu swyddi newydd. Llongyfarchiadau mawr i Miss Betsan Thomas sydd

nawr yn Mrs Jones ar ei phriodas i Mr Eilir Jones yn yr haf, a hefyd i Mr Charles Gale ar ei briodas ef hefyd. Mae Mr Gale a’i wraig Anwen wedi cymryd cyfnod i ffwrdd o’u swyddi i deithio o amgylch y byd. Llongyfarchiadau mawr iawn hefyd i ddwy athrawes

sydd wedi geni babanod yn ddiweddar iawn. Ganed mab Tomos Rhys Bathard i Miss Sara Thomas a’i gŵr Mr Simon Bathard. Ganed Tomos yn y tŷ ac roedd yn pwyso 8 pwys 11 ½ owns. Ganed Rhydian Llewelyn Jones i Mrs Amanda Jones

a’i gwr Mr Rhodri Jones. Roedd Rhydian yn pwyso 9 pwys ac 8 owns. Mae pob un ohonynt yn iach.

Lluniau Ysgol Gyfun Rhydfelen