y bont · [email protected] . 1 cynnwys rhagair t. 2 cofrestru ar y bont t. 2 cyrchu adnoddau dysgu...

12
Y BONT http://ybont.org/course/ Canllawiau i Fyfyrwyr Phyl Brake [email protected]

Upload: vuminh

Post on 06-Mar-2019

219 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Y BONT http://ybont.org/course/

Canllawiau i Fyfyrwyr

Phyl Brake [email protected]

1

Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd: t. 6

Aseiniad t. 6 Cronfa ddata t. 6 Adborth t. 6 Fforwm t. 6 Cwis t. 6 Ffeil t. 6 Ffeil sain t. 7 Plygell t. 7 URL t. 7 Quizlet t. 8 Hot Potatoes t. 8

Modiwlau gweithgaredd ar waith: t. 8

Cwis t. 8 Quizlet t. 10 Hot Potatoes t. 11

Gweithgareddau o’r Bont Genedlaethol t. 11 Rhestr ddarllen pellach t. 12

2

Y Bont

Canllawiau i Ddysgwyr

Rhagair Mae Y Bont (http://ybont.org/course/) nawr yn rhan o safle rhyngweithiol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n cynnwys ‘cyrsiau’1 pwysig o’r hen Bont Fach a ddatblygwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, sydd nawr yn dod dan y pennawd ‘Prifysgol Aberystwyth’:

Cofrestru Er mwyn cofrestru, mae angen clicio ar ‘click here’ yn y neges Saesneg isod ar hafan Y Bont (http://ybont.org/course/) a dilyn y cyfarwyddiadau:

1 ‘Cwrs’ y gelwir modiwl ar-lein Moodle.

3

dewiswch yr ail opsiwn.

Mae modd cadw eich manylion mewngofnodi ar eich cyfrifiadur pen bwrdd, gliniadur neu ddyfais. Felly, y tro nesaf y mewngofnodwch, fe welwch sgrin fel hon:

Ar ôl mewngofnodi, eir â chi at eich hafan fel y gwelir yma:

***PWYSIG*** Gallwch gyrchu adnoddau’r Bont fel ‘gwestai’, ond wrth fewngofnodi, byddwch yn cael mynediad i’r holl ymarferion, gan gynnwys rhai Moodle cynhenid.

4

Cyrchu Adnoddau Dysgu Er mwyn cyrchu’r adnoddau dysgu sy’n cyd-fynd â chyrsiau Prifysgol Aberystwyth, cliciwch ar ‘Prifysgol Aberystwyth’ dan y pennawd CATEGORÏAU’R CWRS ar ochr dde uchod. Wrth wneud, eir â chi at y dudalen hon:

‘Mynediad Dwys’ yw’r ‘cwrs’ cyntaf mewn rhestr o gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Y rhestr lawn yw:

1. Beginners Fast-track / Mynediad Dwys 2. Foundation Fast-track / Sylfaen Dwys 3. Canolradd Dwys / Intermediate Fast-track 4. Cwrs Uwch Ceredigion /Ceredigion Advanced Course: Part 1 5. Cwrs Meistroli / Ceredigion Advanced Course: Part 2 6. Cymraeg Graenus 1 / Welsh Proficiency Course (Academic): Part 1 7. Cymraeg Proffesiynol 1 / Welsh Proficiency Course (Vocational): Part 1

Wrth glicio ar ‘Mynediad Dwys’, eir â chi at yr adnoddau dysgu sy’n cyd-fynd â’r cwrs:

5

Moodle Platfform e-ddysgu ffynhonnell agored2 yw Moodle. Fe’i datblywyd yn ôl egwyddorion pedagogaidd, ac fe’i defnyddir ar gyfer dysgu cyfunol, dysgu o hirbell mewn ysgolion, prifysgolion a gweithleoedd. Mae Moodle yn cynnwys nifer o adnoddau dysgu rhyngweithiol fel:

Aseiniad Cronfa ddata Adborth Fforwm Cwis Ffeil Ffeil sain Plygell URL

Ac mae adnoddau dysgu rhyngweithiol allanol wedi eu datblygu i’w defnyddio gyda Moodle hefyd, yn enwedig Hot Potatoes. Mae HotPot yn cynnwys set o chwe rhaglen greu adnoddau dysgu ar-lein, a grewyd gan ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada. ***PWYSIG IAWN*** Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynhyrchu adnoddau dysgu ar-lein i gyd-fynd â’r cyrsiau newydd y maen nhw’n eu creu. Cyfeiriad gwe’r adnoddau ar-lein i gyd-fynd â’r cyrsiau cenedlaethol newydd yw: https://dysgucymraeg.cymru/cyrsiau/adnoddau/mynediad/:

2 Yn agored i unrhyw un i’w ddefnyddio ac i’w ddatblygu.

6

Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd Aseiniad Mae ‘aseiniad’ yn caniatáu athrawon i gasglu gwaith gan ddysgwyr, ei adolygu a darparu adborth gan gynnwys graddau. Mae’r gwaith y mae dysgwr yn ei gyflwyno yn weladwy i’r athro yn unig ac nid i ddysgwyr eraill. Cronfa Ddata Mae ‘cronfa ddata’ yn caniatáu’r athro a/neu’r dysgwyr i adeiladu, arddangos a chwilio trwy fanc o gofnodion yn ymwneud â phwnc penodol. Gall y cofnodion hyn gynnwys delweddau, ffeiliau, URLau, rhifau a thestun. Adborth Mae ‘adborth’ yn galluogi’r athro i greu a chynnal arolygon i gasglu adborth. Mae’n galluogi’r athro i ysgrifennu ei gwestiynau ei hunan, yn hytrach na dewis o restr o gwestiynau a ysgrifennwyd ymlaen llaw, a gellir hefyd greu cwestiynau heb radd. Fforwm Mae ‘fforwm’ yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ac athrawon i gyfnewid syniadau trwy bostio sylwadau. Mae yna bedwar math o fforwm sylfaenol. Cwis Mae ‘cwis’ yn caniatáu’r athro i ddylunio ac adeiladu cwisiau sy’n cynnwys amrywiaeth fawr o fathau o gwestiynau, gan gynnwys atebion amlddewis, gwir-ffug, atebion byr a llusgo a gollwng delweddau a thestun. Cedwir y cwestiynau hyn yn y Banc Cwestiynau, a gellir eu hailddefnyddio mewn cwisiau gwahanol. Ffeil Mae ‘ffeil’ yn galluogi’r athro i wneud deunyddiau darllen – fel arfer ar ffurf ffeiliau PDF – ar gael i’r dysgwyr ar ffurf electronig y gellir ei lawrlwytho. Ffeil sain Crëir ‘ffeil sain’ yn union fel ‘ffeil’, ond mae’n golygu fod dysgwyr a thiwtoriaid yn gallu gwrando ar, a lawrlwytho, ffeiliau sain sy’n cyd-fynd â’r cwrs y maen nhw’n ei ddilyn/gyflwyno.

7

Plygell Mae ‘plygell’ (folder) yn galluogi’r athro i gynnwys mwy nag un ffeil mewn trefn gyda’i gilydd. Mae hyn y ddefnyddiol iawn yn achos ffeiliau sain:

URL Mae ‘URL’ (Universal Resource Locator) yn galluogi athro i gyfeirio’r dysgwyr at adnodd dysgu allanol fel, er enghraifft, fideo Youtube:

Quizlet Rhaglen astudio ar-lein yw Quizlet. Mae’n helpu i hyfforddi dysgwyr trwy gyfrwng fflachgardiau a gwahanol gemau a phrofion. Crëwyd Quizlet gan Andrew Sutherland ym mis Hydref 2005, a’i ryddhau i’r cyhoedd ym mis Ionawr 2007. Hot Potatoes (HotPot) Mae’r gyfres meddalwedd o’r enw Hot Potatoes, neu ynteu HotPot, yn cynnwys pum rhaglen a all greu ymarferion ar gyfer y we fyd-eang, yn enwedig Moodle. Yr arfau hyn yw JCloze, JCross, JMatch, JMix a JQuiz. Ceir chweched rhaglen hefyd o’r enw ‘The Masher’, sy’n rhoi holl ymarferion HotPot mewn un uned. Crëwyd meddalwedd HotPot gan Dîm Ymchwil a Datblygu yr Adran Cyfrifiadureg a Chanolfan y Cyfryngau ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada.

Modiwlau gweithgaredd ar waith Cwis Ceir enghraifft o’r defnydd o ‘cwis’ yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad (https://ybont.org/course/view.php?id=47):

8

Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon:

Ac wedyn:

Ar ôl cwblhau pob cwestiwn, eir â chi at y sgrin hon:

9

Ar waelod y dudalen, gwelir botwm ac arno ‘Submit all and finish’. Cliciwch arno, a gwelir y sgrin hon:

Lle ceir yr atebion, ynghyd ag adborth defnyddiol. Quizlet Ceir enghraifft o sut mae Quizlet yn gweithio yng nghwrs Mynediad Dwys: Uned 1: Cyfarch (https://ybont.org/course/view.php?id=470):

Wrth glicio ar CLICK TO FLIP, gwelir ‘un’ a chlywir llais yn dweud ‘un’:

10

Ac ymlaen nes cyrraedd 20. Yn ogystal, mae modd eich eich profi eich hunan trwy glicio ‘Play’ a chlywed rhifau ar antur trwy glicio ar ‘Shuffle’. Hot Potatoes (HotPot) Ceir enghraifft o’r defnydd o HotPot yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad (https://ybont.org/course/view.php?id=47#section-1):

Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon:

Defnyddir bysellfwrdd eich dyfais i ysgrifennu yn y bwlch:

11

Os nad oes modd i chi greu acenion â’ch dyfais, gellir clicio ar y llythrennau arbennig mewn blychau ar waelod y sgrin. Ceir adborth a sgôr trwy glicio’r blwch ‘Gwiriwch’:

Gweithgareddau o’r Bont Genedlaethol Mae’r Bont (https://ybont.org/) newydd hefyd yn cynnwys adrannau o’r hen Bont Genedlaethol, gan gynnwys:

Banc Gweithgareddau Opera sebon ‘Rhyd-y-bont’ Cilpiau sain o raglen Radio Cymru ‘Beti a’i Phobol’ Adnoddau tiwtor Un, dau, tri – hwyl a sbri

Rhestr ddarllen pellach Dvorak, D. (2011). Moodle for Dummies. Hoboken, New Jersey: John Wiley & Sons Inc. Managing a Moodle Course. Ar gael o:

https://docs.moodle.org/33/en/Managing_a_Moodle_course [cyrchwyd 02/11/2017]. Moodle Manuals. Ar gael o: https://docs.moodle.org/24/en/Moodle_manuals [cyrchwyd

02/11/2017] Teacher Quick Guide (Moodle). Ar gael o: https://docs.moodle.org/30/en/Teacher_quick_guide

[cyrchwyd 02/11/2017]