y negesydd - resourcing · y negesydd hydref 2016 rhifyn 4 o’r llwyfan cyfarfodydd blynyddol...

4
Y NEGESYDD HYDREF 2016 RHIFYN 4 Or Llwyfan Cyfarfodydd Blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru 2017 Dydd Gwener, 16 Mehefin yn Theatr yr Halliwell Prifys- gol y Drindod Dewi Sant Cynhelir Oedfa Ddwyieithog yn yr hwyr pan fydd y ddau Lywydd yn cael eu hurddo. Dydd Sadwrn, 17 Mehefin yn Theatr yr Halliwell Dathlu 150 mlynedd UBC Cynhelir Dathliad Unedig i holl Fedyddwyr Cymru Diwrnod ir teulu cyfan! *********** Taith Dramor gydar BMS A oes gennych ddiddordeb i fynd ar daith dramor am ryw wythnos gydar BMS? I gyd-fynd â dathliadau 150mlwyddiant Undeb Bedyddwyr Cymru, trefnir taith dramor gydar BMS o dan arweiniad y Parchedig Mark Thomas a Mrs Tricia Rogers. Bwriad y daith fydd ymweld â rhai o brosiectau y maer BMS yn cynnal a chefnogi. Pryd? Gwanwyn neu Haf 2017. Ble? Nid ywr lleoliad wedii benderfynun derfynol eto ond mae Kolkata a Nepal dan ystyriaeth. Cost? Tua £1,000 Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âr Parchedig Simeon Baker ar [email protected] neu Mrs Bonni Davies [email protected] neu 01267 245660 "...Dyma dy Fam..." Apêl Cymorth Cristnogol - Undeb Bedyddwyr Cymru 2016 A ninnau bellach yn prysur nesáu at ddi- wedd y flwyddyn, tybed a yw eich eglwys yn cofio am Apêl Cymorth Cristnogol Un- deb Bedyddwyr Cymru? Rydym eisoes wedi derbyn cyfraniadau hael gan rhai eglwysi ac unigolion ond mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn cyrraedd y nod o £40,000. Anfonwyd gwybodaeth ac adnoddau am y prosiect Iechyd Mamol a gefnogir gennym yng ngogledd Ghana at Ysgrifenyddion yr Eglwysi ar ddechraur flwyddyn. Mawr obei- thir eich bod wedi cael cyfle i ddefnyddior deunydd er mwyn dysgu mwy am y wlad ar heriadau y maen ei hwynebu. Os oes angen mwy o adnoddau, mae croeso i chi ddod i gysylltiad âr Swyddfa ac fe anfonir cyflenwad or hyn sydd ei angen arnoch. Maer holl adnoddau ar gael ar wefan Undeb Bedyddwyr Cymru ac maen cynnwys amry- wiaeth helaeth o ddeunydd: cyflwyniad pwerpwynt, cerdyn gweddi, poster, taflenni gwybodaeth am Ghana a syniadau codi arian. Yn ogystal â hyn i gyd, ceir nodiadau pregeth syn seiliedig ar y geiriau a fynegwyd gan yr Arglwydd Iesu or Groes pan welodd ei fam yn sefyll gerllaw: Pan welodd Iesu ei fam, felly, ar disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll wrth ei hymyl, meddai wrth ei fam, Wraig, dyma dy fab di.Yna dywedodd wrth y dis- gybl, Dyma dy fam di.(Ioan 19: 26-27). Ym mis Awst, yn ystod wythnos yr Eistedd- fod Genedlaethol, ychwanegwyd at yr adnod- dau pan lansiwyd ffilm fer am y gwaith a gyflawnir i hyrwyddo iechyd mamol yng ngogledd Ghana. Mae modd lawrlwythor ffilm ai defnyddio wrth gyflwyno gwybodaeth am yr apêl. Ewch i wefan Cy- morth Cristnogol yng Nghymru http:// www.christianaid.org.uk/cymru/ a chlicio ar y linc Adnoddau’. Maer cyfan ar gael yn rhwydd ac yn hwylus. Medrwn hybu'r Apêl trwy roi gwybodaeth am y prosiect a gefnogir, cymell pobl i gyfrannu'n anrhydeddus er mwyn achub bywyd babanod newydd eu geni a chefnogi mamau i fedru edrych ymlaen at fagu teuluoedd iachach yn Ghana. Mae'r amgylchiadau yno yn galw am y deunydd a'r offer diweddaraf mewn meddygaeth genedi- gaethau. Trwy bartneriaid Cymorth Cristnogol (SEND Ghana), sy'n gweithredu'r prosiect, ceisir pwyso ar lywodraeth y wlad i sicrhau bod yr adnoddau gorau ar gael at ddefnydd pawb sy'n gweithio yn y maes meddygaeth genedigol. Er gwaethaf llwyddiant cymharol Ghana yn economaidd mae yna anghyfartaledd mawr o fewn y wlad gydar gogledd gwledig yn parhau yn dlawd, yn enwedig yn y maes iechyd mamol. Mae pob Apêl a wnaed gan ein henwad yn y gorffennol wedi croesi'r nod a osodwyd a mawr hyderwn y gwireddir hynny eleni eto. Bydd cyrraedd y swm o £40,000 yn gymorth i ddatgloi £400,000 o gyllid yr Un- deb Ewropeaidd. Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad er llwyddiant yr Apêl wrth inni gefnogi'r ymdrechion i achub bywydau cenedlaethau'r dyfodol yn Ghana. Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm y derbyni- adau yn y Negesydd a gobeithir y bydd hynny yn fodd i ysgogi eglwysi ac unigolion i gyfrannun hael tuag at yr apêl. Cofiwch, os ydych yn dymuno cyfrannu trwy Cymorth Rhodd bydd Cymorth Cristnogol yn medru hawlio 25% yn ychwanegol am bob £1 a gyfrennir. Mae cyflenwad or amlenni pri- odol iw cael or Swyddfa. "...Dyma dy Fam..." Tu allan ir Clinig newydd gydar pentrefwyr yng Ngorllewin Gonja, Ghana

Upload: others

Post on 19-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y NEGESYDD HYDREF 2016 RHIFYN 4

    O’r Llwyfan Cyfarfodydd

    Blynyddol Undeb Bedyddwyr

    Cymru 2017

    Dydd Gwener, 16 Mehefin yn Theatr yr Halliwell Prifys-

    gol y Drindod Dewi Sant Cynhelir Oedfa Ddwyieithog yn

    yr hwyr pan fydd y ddau Lywydd yn cael eu hurddo.

    Dydd Sadwrn, 17 Mehefin yn

    Theatr yr Halliwell

    Dathlu 150 mlynedd UBC

    Cynhelir Dathliad Unedig i holl Fedyddwyr Cymru

    Diwrnod i’r teulu cyfan!

    ***********

    Taith Dramor gyda’r BMS

    A oes gennych ddiddordeb i fynd ar

    daith dramor am ryw wythnos gyda’r

    BMS?

    I gyd-fynd â dathliadau 150mlwyddiant

    Undeb Bedyddwyr Cymru, trefnir taith

    dramor gyda’r BMS o dan arweiniad y

    Parchedig Mark Thomas a Mrs Tricia

    Rogers. Bwriad y daith fydd ymweld â

    rhai o brosiectau y mae’r BMS yn cynnal

    a chefnogi.

    Pryd? Gwanwyn neu Haf 2017.

    Ble? Nid yw’r lleoliad wedi’i

    benderfynu’n derfynol eto ond mae

    Kolkata a Nepal dan ystyriaeth.

    Cost? Tua £1,000

    Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r Parchedig Simeon Baker ar [email protected] neu Mrs Bonni Davies [email protected] neu 01267 245660

    "...Dyma dy Fam..." Apêl Cymorth Cristnogol -

    Undeb Bedyddwyr Cymru 2016

    A ninnau bellach yn prysur nesáu at ddi-wedd y flwyddyn, tybed a yw eich eglwys yn cofio am Apêl Cymorth Cristnogol Un-deb Bedyddwyr Cymru? Rydym eisoes wedi derbyn cyfraniadau hael gan rhai eglwysi ac unigolion ond mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn cyrraedd y nod o £40,000. Anfonwyd gwybodaeth ac adnoddau am y prosiect Iechyd Mamol a gefnogir gennym yng ngogledd Ghana at Ysgrifenyddion yr Eglwysi ar ddechrau’r flwyddyn. Mawr obei-thir eich bod wedi cael cyfle i ddefnyddio’r deunydd er mwyn dysgu mwy am y wlad a’r heriadau y mae’n ei hwynebu. Os oes angen mwy o adnoddau, mae croeso i chi ddod i gysylltiad â’r Swyddfa ac fe anfonir cyflenwad o’r hyn sydd ei angen arnoch. Mae’r holl adnoddau ar gael ar wefan Undeb Bedyddwyr Cymru ac mae’n cynnwys amry-wiaeth helaeth o ddeunydd: cyflwyniad pwerpwynt, cerdyn gweddi, poster, taflenni gwybodaeth am Ghana a syniadau codi arian. Yn ogystal â hyn i gyd, ceir nodiadau pregeth sy’n seiliedig ar y geiriau a fynegwyd gan yr Arglwydd Iesu o’r Groes pan welodd ei fam yn sefyll gerllaw: Pan welodd Iesu ei fam, felly, a’r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll wrth ei hymyl, meddai wrth ei fam, ‘Wraig, dyma dy fab di.’ Yna dywedodd wrth y dis-gybl, ‘Dyma dy fam di.’ (Ioan 19: 26-27). Ym mis Awst, yn ystod wythnos yr Eistedd-fod Genedlaethol, ychwanegwyd at yr adnod-dau pan lansiwyd ffilm fer am y gwaith a gyflawnir i hyrwyddo iechyd mamol yng ngogledd Ghana. Mae modd lawrlwytho’r ffilm a’i defnyddio wrth gyflwyno gwybodaeth am yr apêl. Ewch i wefan Cy-morth Cristnogol yng Nghymru http://www.christianaid.org.uk/cymru/ a chlicio ar

    y linc ‘Adnoddau’. Mae’r cyfan ar gael yn rhwydd ac yn hwylus. Medrwn hybu'r Apêl trwy roi gwybodaeth am y prosiect a gefnogir, cymell pobl i gyfrannu'n anrhydeddus er mwyn achub bywyd babanod newydd eu geni a chefnogi mamau i fedru edrych ymlaen at fagu teuluoedd iachach yn Ghana. Mae'r amgylchiadau yno yn galw am y deunydd a'r offer diweddaraf mewn meddygaeth genedi-gaethau. Trwy bartneriaid Cymorth Cristnogol (SEND Ghana), sy'n gweithredu'r prosiect, ceisir pwyso ar lywodraeth y wlad i sicrhau bod yr adnoddau gorau ar gael at ddefnydd pawb sy'n gweithio yn y maes meddygaeth genedigol. Er gwaethaf llwyddiant cymharol Ghana yn economaidd mae yna anghyfartaledd mawr o fewn y wlad gyda’r gogledd gwledig yn parhau yn dlawd, yn enwedig yn y maes iechyd mamol. Mae pob Apêl a wnaed gan ein henwad yn y gorffennol wedi croesi'r nod a osodwyd a mawr hyderwn y gwireddir hynny eleni eto. Bydd cyrraedd y swm o £40,000 yn gymorth i ddatgloi £400,000 o gyllid yr Un-deb Ewropeaidd. Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad er llwyddiant yr Apêl wrth inni gefnogi'r ymdrechion i achub bywydau cenedlaethau'r dyfodol yn Ghana. Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm y derbyni-adau yn y Negesydd a gobeithir y bydd hynny yn fodd i ysgogi eglwysi ac unigolion i gyfrannu’n hael tuag at yr apêl. Cofiwch, os ydych yn dymuno cyfrannu trwy Cymorth Rhodd bydd Cymorth Cristnogol yn medru hawlio 25% yn ychwanegol am bob £1 a gyfrennir. Mae cyflenwad o’r amlenni pri-odol i’w cael o’r Swyddfa.

    "...Dyma dy Fam..."

    Tu allan i’r Clinig newydd gyda’r pentrefwyr yng Ngorllewin Gonja, Ghana

    mailto:[email protected]:[email protected]://www.christianaid.org.uk/cymru/http://www.christianaid.org.uk/cymru/

  • Oedfa Sefydlu yn Nhref-y-Clawdd

    Parchg Andrew Wyton (Arolygwr Maesyfed a Maldwyn) yn arwain Oedfa Sefydlu’r

    Parchg Kevin Dare a’i wraig Judith yng Nghapel Stryd Norton, Knighton ddydd

    Sadwrn, 15 Hydref 2016. Estynnwn groeso cynnes i Kevin a Judith.

    Daeth cynrychiolaeth dda o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy’n hannu o Ghana i gefnogi ymdrech codi arian ddiweddaraf Eglwys Emaus, Bangor, tuag at apêl Ghana.

    Rhestr cyfraniadau i Apêl Ghana UBC Cymorth Cristnogol

    Gwerthiant llyfr – Parchg Wynn Vittle: £3,000.00 Ainon Dolywern: £106.00 Clwb Henoed Maenclochog : £50.00 Eglwys Penyrheol: £55.00 Bethlehem, Cemaes, Môn: £100.00 Salem Fforddlas: £50.00 Noddfa Garnswllt: £250.00 Penuel Maenorbŷr: £105.00 Rhuthun: £75.00 Calfaria Login: £500.00 Parchg Judith Morris: £250.00 Carmel Pontrhydfendigaid: £65.00 Miss Gaynor Davies, Talgarth £55.00 Parchg Gwyn Rogers: £10.00 Calfaria Abersoch: £50.00 Bethesda Tycroes: £100.00 Noddfa Ynysybwl: £50.00 Bethania Llansannan: £50.00 Bethlehem, Cemaes, Môn: £200 Calfaria Garnant: £100.00 Seion Noddfa Gorseinon: £125.00 Miss Heulwen Ann Davies: £15.00 Linda, Cymanfa Brycheiniog: £20.00 Noddfa Ruhamah Porthcawl: £500.00 Caersalem Caernarfon: £800.00 Cwrdd Dosbarth Bedyddwyr Cylch Tregwyr:

    £155.00 Mr Graham Perret, Glanaman Rhydaman:

    £20.00 Parchg Judith Morris: £145.00 Oedfa ym Methlehem Porthyrhyd: £55.00 Moriah Coelbren: £50.00 Noddfa Foelcwan: £50.00 Babell Pontarddulais: £100.00 Zion Cwmcarn: £200.00 Bethania Talog: £50.00 Tabernacl Pontarddulais: £300.00 Mrs Mairwen Crockett, Tabernacle EBC:

    £100.00 Carmel Pontlliw: £1,223.00 Ainon Ystradgynlais: £200.00 Seion San Clêr: £35.00 Chwiorydd Salem Llangennech: £50.00 Cymanfa D.Ff.M: £250.00 Casgliad Cynhadledd BUW: £365.00 Casgliad Cymanfa Ganu Caerffili a’r Cylch:

    £251.32 Bethany Llansteffan: £50.00 Dolau Nantmel: £100.00 Mrs Falmai Puw Davis: £30.00 Moriah Coelbren: £100.00 Sutton: £140.00 Di-enw: £2.00 Heol y Felin Aberdâr: £100.00 Hermon Abergwaun: £200.00 Ramoth Cwmfelin Mynach: £167.00 Moreia Porthaethwy: £300.00 Eglwys Sarn : £150.00 Chwiorydd Seion Newydd Treforus: £25.00 Casgliad Undeb Caerdydd: £190.00 Tabernacl Porth Tywyn: £50.00 Eglwysi Unedig Saundersfoot : £416.60 Bethel Y Tymbl: £1,000 Bethel Aberystwyth: £300.00 Cymanfa Ganu Bedyddwyr Cylch Aberteifi:

    £849.16 Pwyllgor Gŵyl Maesyfed: £50.00 Capel Rhydyfelin: £300.00 Tabernacl Caerfyrddin: £187.00 Cylch Eglwysi Gogledd Teifi: £37.00 Ebeneser Llangynog: £100.00 Casgliad Oedfa’r Llywydd C&C: £269.95

    Y Graig, Castellnewydd Emlyn: £150.00 Cwrdd Dosbarth Bedyddwyr Pen-y-Bont ar Ogwr: £250.00 Carmel Pontlliw: £165.00 Beulah Cwmtwrch: £100.00 Parchg Ddr Michael Collis: £25.00 Penrhiwgoch: £20.00 Pisgah Pyle: £200.00 Seion Llanelli: £400.00 Eglwys Gymraeg Canol Llundain: £1,900.00 Eglwys Gymraeg Canol Llundain: £275.00 Calfaria Skewen: £207.00 Cymanfa Ganu Cymanfa Brycheiniog:

    £150.00 Eglwys Erwood: £50.00 Judah Dolgellau: £100.00 Gilead Belan, Môn: £200.00 Carmel Pontrhydfendigaid: £20.00 Parchg & Mrs Glandwr Roberts: £30.00 Ebeneser Llanllyfni: £92.81 Tabernacle Caerfyrddin: £80.00 Di-enw: £110.00

    Kensington Aberhonddu: £151.00 Cymanfa Arfon: £800.00 Tabernacle Llandudno: £240.00 Cymanfa Penfro (Saesneg): £500.00 Gŵyl Ddiolchgarwch Erwood : £310.00 Siloam Kidwelly: £50.00 Cymanfa Penfro (Cymraeg): £1,200.00 Cymanfa Môn: £65.00 Mudiad Chwiorydd Bedyddwyr Cymru:

    £500.00 Mrs Elizabeth M Widlake: £100.00 Ramoth Cwmfelinmynach: £80.00 Horeb Penrhyncoch: £200.00 Salem Llangennech: £100.00 Mr & Mrs Denzil Harries, Penrhiwgoch:

    £38.00 Calfaria Clydach: £100.00 Penuel Caerfyrddin: £200.00 Noddfa Llambed: £146.00 Bethel Mynachlogddu: £500.00 Bethel, Abergwaun: £100.00

    Cyfanswm ar Dachwedd 1af: £25,298.84

  • pobl ysbrydoledig yn gwneud pethau ysbrydoledig i’r Arglwydd

    Cyngor Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop

    2016 yn Tallinn, Estonia

    Parchg Mark Thomas (Llywydd BUW) yn oedfa agoriadol Cyngor EBF yn Tallin, Esto-

    nia gyda’r Parchg Alan Donaldson (Undeb Bedyddwyr yr Alban) a’r Parchg Tony Peck

    (Ysgrifennydd Cyffredinol EBF).

    Gohebiaeth oddi

    wrth Rheolwr

    Perthynas ag

    Eglwysi y BMS

    Cyfnod Mamolaeth Annwyl ffrindiau Rwy’n siŵr ein bod yn llawenhau o glywed y newyddion hyfryd fod Menna Machreth yn mynd i gael babi yn fuan iawn. Daw’r newyddion da hwn law yn llaw â phroblem i ni ynglŷn â beth i’w wneud tra bod Menna’n mwynhau amser gyda’i theulu newydd yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth. Fel y gwyddoch mae rôl Menna yn ymwneud â galluogi cenhadaeth yng Nghymru boed hynny’n lleol neu’n fyd-eang, ac yn achos y cyswllt byd-eang gwneir hynny drwy Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr – BMS World Mission. Mae Menna’n rhan o dîm o swyddogion yn y BMS sy’n ymwneud â pherthynas eglwysi, ac rydym yn delio â chwestiynau yn ymwneud â cheisiadau am siaradwyr am waith y BMS ynghyd â phart-neri eglwysi â gweithwyr cenhadol dramor. Dyma restr o gysylltiadau allweddol i’ch sylw: Ceisiadau am siaradwyr BMS http://www.bmsworldmission.org/speakers Partneri Eglwysi (Church Partners) http://www.bmsworldmission.org/churchpartners Y Tîm Perthynas ag Eglwysi Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredi-nol neu os hoffech siarad â rhywun am gael rhywun i siarad am waith y BMS yn eich eglwys, neu gwestiynau am eich partneriaeth â gweithwyr cenhadol y BMS, cysylltwch â: 01235 517600 neu trwy e-bost: [email protected] Teimlwch yn rhydd i gysylltu â ni ac fe wnawn ein gorau glas i ateb eich cwestiynau, er fe fydd yn rhaid i ni wneud hynny yn Saesneg! Rwy’n siŵr, fel fi, y byddwch yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Menna yn dychwelyd i’r gwaith, ond yn y cyfamser gallwch fod yn sicr ein bod am eich gwasanaethu chi, er o bellter, yn ystod ei habsenoldeb. Yn gywir yn Ei wasanaeth

    Alastair Clunie Rheolwr Perthynas ag Eglwysi Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr

    Braint oedd mynychu’r digwyddiad hwn a buan iawn y cefais argraff fyddai’n aros – dyma bobl ysbrydoledig yn gwneud pethau ysbrydoledig i’r Arglwydd. Tŵr eglwys fawreddog St Olaf yw tŵr uchaf Tallinn. Mae’r eglwys erbyn hyn yn eglwys Fedyddiedig fywiog, a hynny diolch yn rhannol i benderfyniad y Sofietiaid i osod pob un o gynulleidfaoedd yr eglwysi rhyddion yn yr un lle yma yn ystod eu goresgyniad o Estonia. Dyma leoliad trawiadol dathliad agoriadol Cyngor Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop (EBF) lle daeth dros 40 o Undebau sy’n aelodau o’r ffederasiwn at ei gilydd i addoli’r Arglwydd.

    Mae’r Cyngor yn cwrdd yn flynyddol ym mis Medi, gyda rhyw 120 -130 o gynadleddwyr yn dod at ei gilydd. Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i addoli, i gael ysbrydoliaeth ac i rannu profiadau yn anffurfiol.

    Caiff yr EBF ei ddisgrifio fel ‘ffederasiwn ar gyfer cydweithio’. Ystyr hyn yw nad yw’n Undeb nac yn ‘uwch-Undeb’ hyd yn oed, ond yn hytrach ei fod yn ceisio ymgasglu a gwei-thio gyda’n gilydd o gwmpas hunaniaeth Fedyddiedig gyffredin ac ymrwymiad gyf-fredin i efengylu a phlannu eglwysi, gwar-chod rhyddid crefyddol, addysg ddiwinyddol a helpu’r rhai sydd mewn angen ymarferol. Yr angen mwyaf taer yw’r argyfwng ffoadu-riaid, a bu hyn yn ffocws yn y Cyngor hwn. Fe glywsom adroddiadau ar sut y mae eglwysi Bedyddiedig mewn gwahanol wle-dydd yn estyn allan at ffoaduriaid ac yn profi bendith fawr, ynghanol yr heriau parhaus.

    Siaradodd Nabil Costa am effaith ysbrydol cynnig tosturi wrth gyfeirio at waith diflino Bedyddwyr Lebanon sydd wedi bod yn estyn allan at ffoaduriaid o Syria ers i’r gwrthdaro cychwyn yn 2011.

    Roedd un o’r penderfyniadau gafodd eu gwneud yn y Cyngor yn ymwneud yn be-nodol â’r sefyllfa yn Aleppo, Syria ar ffurf geiriau allai gael eu defnyddio gan bob Un-deb er mwyn pwyso ar eu llywodraethau i

    weithredu yn gyfiawn a gyda thosturi.

    Hanesion am beth mae Duw’n ei wneud

    Fe glywsom straeon o’r Wcráin am yr eglwysi yn adfer eu hysbryd cenhadol.

    Fe glywsom hanesion o’r Ffindir am y modd y mae’r Undebau Ffinneg a Swedeg (oes, mae dwy Undeb yn yr un wlad!) yn cydweithio fwy a mwy.

    Fe glywsom hanesion gan ein gwesteiwyr (Estonia). Soniodd Erki Tamm am sut mae Bedyddwyr yn rhedeg rhwydwaith o siopau ail law sy’n darparu lleoliadau lle mae modd cwrdd ag anghenion pobl, ac am Birthday 365 – prosiect lle maen nhw’n dathlu pen-blwydd plentyn na fyddai fel arall yn dathlu, a hynny am wahanol re-symau cymdeithasol.

    Ac roedd hi’n brofiad ysgytwol i glywed Josifs Makarenko o Rwsia yn siarad am freuddwydion i blannu eglwysi mewn man-nau lle nad oes eglwysi, a darparu’r Beibl i rai o’r 140 o grwpiau o bobl frodorol yn Rwsia, er gwaethaf heriau problemau arian-nol a chyfyngiadau ar ryddid cyfreithiol yn y wlad. Meddai, ‘Mae anawsterau presennol yn creu cyfleoedd newydd,’. Meddwl am beth mae Duw’n ei wneud

    Cafwyd cyflwyniadau hefyd i ymestyn y meddwl, gyda phob dydd yn cychwyn gyda myfyrdod ar hunaniaeth Fedyddiedig mewn cyfnod ôl-Enwadol gan siaradwyr o Esto-nia, Slovakia, gwlad Pŵyl a Teun van der Leer, Rheithor Athrofa’r Bedyddwyr yn Amsterdam. Mae’r papurau hyn ar gael ar wefan EBF ac mae’n werth edrych arnyn nhw, yn enwedig y cyntaf gan y diwinydd o Estonia, Toivo Pilli, a siaradodd am y dull Bedyddiedig o fod yn eglwys a pha mor addas mae hyn yn ein gwneud ar gyfer cen-hadaeth yn ein cyfnod.

    Mae gennym ni yn Undeb Bedyddwyr Cymru lawer i’w ennill o fod yn rhan o’r EBF. Mae’n dda bod yn Ewropeaid.

    Mark Thomas, Llywydd UBC

    http://www.bmsworldmission.org/speakershttp://www.bmsworldmission.org/churchpartnershttp://www.bmsworldmission.org/churchpartnersmailto:[email protected]

  • ARGLWYDD TRUGARHA—Lansio Prison Hope 2017

    Cameron, Aled a Brandon yn ymgartrefu yn eu llety gyda’r dechnoleg diweddaraf!

    Byddai’r tri yn falch o’ch gweddïau wrth iddynt ymgartrefu yn yr eglwysi.

    Ers rhai misoedd mae prosiect Prifysgol Abertawe, ‘Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr’, wedi bod yn casglu lluniau a gwybodaeth am y placiau a ‘rhestrau an-rhydedd’ sydd yng nghapeli Cymru i goffáu’r rhai a oedd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

    Mae manylion am y prosiect, ac enghreifftiau o’r deunydd a gasglwyd, ar gael ar war-memorials.swan.ac.uk/?lang=cy

    Bydd y gwaith o gasglu yn parhau tan ddi-wedd y flwyddyn, felly os oes gwybodaeth gennych am gofebau capeli yn eich ardal (a llun, os yn bosibl), plîs cysylltwch â Gethin Matthews ar [email protected] / (01792) 606536.

    Byddem yn croesawu storïau

    o Newyddion Da o’ch

    eglwysi CHI

    Cofebau Cymreig i’r

    Rhyfel Mawr

    Diolch i chi am fy anfon i’r carchar. A diolch enfawr i staff CEM Pentonville am fy rhyddhau ar yr un diwrnod!

    Y diwrnod – Dydd Llun, 10fed Hydref. Yr achlysur – digwyddiad i ddathlu cychwyn Wythnos Carchardai 2016 (thema: Arglwydd Trugarha), a lansio ‘Prison Hope’.

    Wrth i mi ysgrifennu am y profiad hwnnw, mae fy llif newyddion yn fy hysbysu bod carcharor wedi marw a dau arall wedi eu hanafu’n ddifrifol mewn achos o drywanu yn yr union garchar hwnnw, a dwi fan hyn yn gweddïo ‘Arglwydd trugarha’.

    Mae’n weddi y byddwch wedi ei gweddïo

    sawl gwaith siŵr o fod – drosoch eich hun, dros eraill, dros bobl rydych chi’n eu hadnabod a thros rai nad ydych yn eu hadnabod.

    Yn y digwyddiad fe glywsom un o gyn-garcharorion Pentonville yn rhoi perfformiad gair llafar oedd yn mynegi’r angen i gofio mewn gweddi y daith anodd y mae llawer o garcharorion wedi ei phrofi wrth iddyn nhw wynebu barn a chywilydd. O ganlyniad i hyn, mae fy ngweddïau ‘Arglwydd trugarha’ yn awr yn cynnwys pobl sy’n gweithio yn ein carchardai (maen nhw’n gweithio dan amgylchiadau heriol), y rhai sydd ag anwyliaid mewn carchar (yn enwedig y 96,993 plentyn sydd â rhiant mewn carchar), a’r rhai sy’n cael eu cadw mewn carchar (sydd angen cyfarfyddiad â Duw gobaith).

    Mae gobaith yn rhan annatod o’r Efengyl.

    Gobaith yw’r hyn y mae Duw’n ei roi i ni yn Iesu Grist.

    Gobaith yw’r hyn sydd gennym ni fel Cristnogion i’w gynnig i’r byd yn enw Crist.

    Roedd hi’n briodol felly bod trefnwyr y dig-wyddiad yn tynnu ein sylw at ‘Prison Hope’, menter sy’n anelu at wella’r cysylltiad

    ‘Tîm i Gymru’ yn ymgartrefu yn Llanelli

    rhwng eglwysi lleol a charchardai, drwy an-nog rhagor o eglwysi i weddïo dros eu car-char lleol a thrwy ddatblygu rhwydwaith wir-foddoli i ddarparu cefnogaeth ymwelwyr cyn rhyddhau ac ar ôl rhyddhau pobl o’r carchar.

    Mae ‘Prison Hope’ yn ceisio dod â’r gobaith Cristnogol i mewn i’n system cyfiawnder troseddol – ar gyfer troseddwyr, cyn droseddwyr, a’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil troseddu. Ewch i’w gwefan am ragor o wybodaeth: www.hopetogether.org.uk

    Mark Thomas Wrth i ni dyfu mewn ffydd a sylweddoli faint mae Duw yn caru pob un ohonom - mor fawr yw ei drugaredd yn maddau, yn meithrin ac yn ein hannog - yna rydym yn dod i weld ein bod ni ein hunain yn dod yn fwy abl i ddan-gos trugaredd at eraill, ac yna i ofyn i Dduw ddangos mwy o drugaredd i ni. Mae'n gylch rhinweddol: mae Ef yn drugarog, felly rydym ni’n dod yn drugarog, ac yna byddwn yn profi mwy o'i drugaredd! Felly, ym Mlwyd-dyn Trugaredd, fel y datganwyd gan y Pab Francis, "Arglwydd, trugarha” yw ein gwed-di gyffredin, gan ein rhoi ni i gyd ar dir sanc-taidd wrth i ni nesáu at Iesu. Ymunwch â ni felly drwy weddïo dros y rhai sy'n ymwneud â’r weinidogaeth hanfodol hon. (Cymerwyd o wefan ‘Prison Hope’)