ydych chi wedi ni fyddwch farw ond unwaith - dyingmatters.org · j1233...

2
Ni fyddwch farw ond unwaith... Trafodwch eich dymuniadau Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael am faterion marwolaeth yn www.dyingmatters.org rhadffôn 0800 021 44 66 Y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol sy’n arwain y Gynghrair Materion Marwolaeth, Rhif Elusen Gofrestredig 1005671 Rhowch wybod i’ch anwyliaid beth yw eich dymuniadau • Nid yw siarad am farw’n beth rhwydd, ond mae’n gyfle i chi a’r bobl sy’n agos atoch symud ymlaen i wneud y gorau o’ch bywyd • Trafodwch eich dymuniadau gyda’r bobl sy’n agos atoch • Os oes gennych ddogfennau pwysig ynglyn â’ch dymuniadau, cadwch nhw rhywle diogel a rhowch wybod i’ch anwyliaid lle maen nhw “Ar ol paned a sgwrs, maen nhw’n gwybod beth yw fy nymuniadau, pa gynlluniau rydw i wedi’u gwneud a lle maen nhw” ^ ^ “Rwy’n ddiolchgar iawn bod fy rhoddwr wedi trafod ei ddymuniadau. Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan na fyddaf yn meddwl amdano a’i rodd werthfawr” Ydych chi wedi ystyried cofrestru i roi eich organau? • Beth bynnag yw eich dymuniadau ynglyn â rhoi eich organau, cofiwch roi gwybod i’r bobl sy’n agos atoch • Cewch gofrestru i roi eich organau waeth faint yw eich oed • Gallech achub neu drawsnewid hyd at naw o fywydau ar ôl eich marwolaeth trwy gofrestru i roi eich organau ^ J1233 dm_yodo_welsh_leaflet_02.indd 1 06/05/2014 15:13

Upload: dotruc

Post on 22-Mar-2019

214 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ydych chi wedi Ni fyddwch farw ond unwaith - dyingmatters.org · J1233 dm_yodo_welsh_leaflet_02.indd 1 06/05/2014 15:13. Byw’n dda a marw’n dda Wyddoch chi fod oedolyn yn gwneud

Ni fyddwch farw ond unwaith...

…Trafodwch eich dymuniadauMae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael am faterion marwolaeth yn www.dyingmatters.org rhadffôn 0800 021 44 66Y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol sy’n arwain y Gynghrair Materion Marwolaeth, Rhif Elusen Gofrestredig 1005671

Rhowch wybod i’ch anwyliaid beth yw eich dymuniadau• Nid yw siarad am farw’n beth

rhwydd, ond mae’n gyfle i chi a’r bobl sy’n agos atoch symud ymlaen i wneud y gorau o’ch bywyd

• Trafodwch eich dymuniadau gyda’r bobl sy’n agos atoch

• Os oes gennych ddogfennau pwysig ynglyn â’ch dymuniadau, cadwch nhw rhywle diogel a rhowch wybod i’ch anwyliaid lle maen nhw

“Ar ol paned a sgwrs, maen nhw’n gwybod beth yw

fy nymuniadau, pa gynlluniau rydw

i wedi’u gwneud a lle maen nhw”

^

^

“Rwy’n ddiolchgar iawn bod fy rhoddwr

wedi trafod ei ddymuniadau. Nid oes diwrnod yn mynd heibio

pan na fyddaf yn meddwl amdano a’i rodd werthfawr”

Ydych chi wedi ystyried cofrestru i roi eich organau?• Beth bynnag yw eich dymuniadau

ynglyn â rhoi eich organau, cofiwch roi gwybod i’r bobl sy’n agos atoch

• Cewch gofrestru i roi eich organau waeth faint yw eich oed

• Gallech achub neu drawsnewid hyd at naw o fywydau ar ôl eich marwolaeth trwy gofrestru i roi eich organau

^

J1233 dm_yodo_welsh_leaflet_02.indd 1 06/05/2014 15:13

Page 2: Ydych chi wedi Ni fyddwch farw ond unwaith - dyingmatters.org · J1233 dm_yodo_welsh_leaflet_02.indd 1 06/05/2014 15:13. Byw’n dda a marw’n dda Wyddoch chi fod oedolyn yn gwneud

Byw’n dda a marw’n ddaWyddoch chi fod oedolyn yn gwneud tua 35,000 o benderfyniadau bob dydd, ar gyfartaledd? Nid yw pob un – er enghraifft ‘aros yn y gwely am 5 munud arall neu godi a bwydo’r ci’- yn fater o fyw neu farw.Ond gallech wneud rhai penderfyniadau a chymryd rhai camau pwysig iawn a allai gael effaith gadarnhaol dros ben ar eich bywyd chi a bywydau’r bobl sy’n bwysig i chi.Un waith y byddwch yn marw. Beth am wneud y penderfyniad heddiw i roi gwybod i’ch anwyliaid beth yw eich dymuniadau, cyn iddi fod yn rhy hwyr?I gael gwybodaeth ymarferol ynglyn â rhoi gwybod am eich dymuniadau ewch i www.dyingmatters.org. Mae gwybodaeth hefyd am sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cynnig cymorth yn eich ardal chi ar wefan: www.help.dyingmatters.org

“Ni ddylai fy nghynhebrwng

fod yn achlysur trist: rwyf am i bobl ddathlu fy

mywyd”

Trafodwch eich cynhebrwng• Gwnewch yn siwr eich bod yn

cael y cynhebrwng o’ch dewis, trwy nodi eich dymuniadau

• Efallai eich bod eisoes yn gwybod a ydych yn dymuno cael eich claddu neu eich amlosgi, ond beth am yr holl bethau eraill?

• Trwy gynllunio ymlaen llaw, gallech arbed eich teulu a’ch ffrindiau rhag y straen o geisio dyfalu beth y byddech wedi’i ddymuno

“Wnes i erioed drafod

pethau gyda mam ac wedi iddi gael stroc, doedd hi ddim yn gallu

siarad”

Cynlluniwch eich gofal a’ch cymorth ar gyfer y dyfodol• Nid oes raid i chi fod yn sâl

neu’n marw i ystyried beth fyddech chi, neu na fyddech chi, ei eisiau

• Siaradwch â’ch teulu a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, gan gynnwys eich meddyg teulu, ynglyn â’r math o ofal yr hoffech ei gael

• Cofiwch, gallwch newid eich meddwl ynglyn â’ch dymuniadau

“Pan fu farw fy nhad heb un, dysgais o brofiad fod ewyllysiau’n bwysig iawn”

^

^ ^

^

Ysgrifennwch eich ewyllys• Mae ewyllys yn caniatáu i

chi nodi pwy fydd yn cael beth wedi i chi farw

• Os oes gennych blant, dylai eich ewyllys gynnwys enwau gwarcheidwaid a fyddai’n gofalu amdanynt wedi i chi farw

• Dyma’r unig ffordd o fod yn siwr y bydd eich dymuniadau’n cael eu gweithredu ac mae’n osgoi gadael problemau cyfreithiol i’ch teulu

^

J1233 dm_yodo_welsh_leaflet_02.indd 2 06/05/2014 15:13