ymarferion adolygu gramadeg
DESCRIPTION
Ymarferion Adolygu Gramadeg. Tasg - tabl treigladau. Pwy fydd y cyntaf i allu ysgrifennu’r tabl treigladau yn gywir ?. Treigladau. Ymarferion adolygu. Rhannwch yn dimoedd o dri . Pan fydd y frawddeg yn ymddangos ar y sgrîn , penderfynwch fel tîm beth yw’r camgymeriad , - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Ymarferion Adolygu
Gramadeg
Tasg - tabl treigladau
Pwy fydd y cyntaf i allu ysgrifennu’r tabl treigladau yn gywir?
Cytsain Treiglad Meddal
Treiglad Trwynol
Treiglad Llaes
p b mh pht d nh thc g ngh chb f md dd ng - ngll lm frh r
Treig
ladau
Ymarferion adolygu
Rhannwch yn dimoedd o dri.
Pan fydd y frawddeg yn ymddangos ar y sgrîn,penderfynwch fel tîm beth yw’r camgymeriad,y cywiriad a’r rheswm a nodwch hwy ar bapur.
Bydd eich athro/athrawes yn egluro’r atebion arddiwedd y cwis a’r tîm sydd wedi cael y nifer fwyafo atebion cywir fydd yn ennill!
1. Aeth Sian â’i ci adref.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
â’i ci â’i chi Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw mewnol, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’.
2. Mae fy ci yn wael.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
fy ci fy nghi Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen,
person cyntaf unigol ‘fy’.
3. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn prifysgol Bangor.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmyn prifysgol ym mhrifysgol Mae’r enw ‘prifysgol’ yn treiglo’n
drwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’.
4. Yr wythnos diwethaf, aeth y Frenhines i Caernarfon.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmi Caernarfon i Gaernarfon Mae’r enw ‘Caernarfon’ yn
treiglo’n feddal ar ôl yr arddodiad ‘i’.
5. Mae Nia yn perthyn iddo fi.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
iddo fi i mi Mae’r arddodiad ‘i’ wedi cael ei redeg yn anghywir.
6. Rwy’n mynd i’r meddyg p’nawn ‘ma.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmi’r meddyg at y meddyg Defnyddiwyd yr arddodiad
anghywir. Mynd ‘at’ berson yr ydych ac ‘i’ le. Dylanwad cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
7. Roedd y dinas yn brydferth yng ngolau’r lleuad.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmy dinas y ddinas Mae enw benywaidd unigol (dinas)
yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod ‘y’.
8. Roedd y gi yn cyfarth yn ffyrnig.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmy gi y ci Camdreiglad. Nid yw enw
gwrywaidd unigol (ci) yn treiglo ar ôl y fannod ‘y’.
9. Clywaf fod y bwyd yn flasus yno neithiwr.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmclywaf clywais Mae amser anghywir y ferf wedi cael ei
ddefnyddio. Gan fod y weithred wedi digwydd ‘neithiwr’, mae angen amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf unigol i gyd-fynd.
10. Gwelir yr artist lawer o’i luniau mewn orielau.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
gwelir gwêl Gan mai am yr artist y sonnir dylid fod wedi defnyddio ffurf amhersonol y ferf yn hytrach na’r personol. O’r herwydd, mae angen y ferf trydydd person unigol yn yr amser presennol i gyd-fynd.
11. Un cath, dau gi a cheffyl sy’n byw acw.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmun cath un gath Mae enw benywaidd unigol yn
treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn ‘un’.
12. Mae gen i gi a cath.
Camgymeriad Cywiriad Rheswma cath a chath Mae’r enw ‘cath’ yn treiglo’n llaes ar
ôl y cysylltair ‘a’.
13. Wn i ddim os ydi Alun am fynd i wylio’r gêm.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
os ydi a ydi Mae’r gair anghywir wedi cael ei ddefnyddio. Mae angen
defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn anuniongyrchol.
14. Gwelais, ar ôl dychwelyd, pentwr o ddillad ar lawr.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmpentwr bentwr Ceir treiglad meddal ar ôl y
sangiad.
15. Dywedodd hi wrth ei mam fod dim gwers yrru ganddi fory.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmfod dim nad oes Negyddu anghywir. Ni ddylid
defnyddio ‘dim’ i negyddu cymal.
16. Rydw i’n sicr mae’n mynd i ennill y gystadleuaeth heddiw.Camgymeriad Cywiriad Rheswmmae’n mynd ei fod o’n mynd Mae angen y ferf ‘bod’ yn y cymal
enwol.
17. Dyma’r bachgen a plannodd y blodau yn yr ardd i mi.
Camgymeriad Cywiriad Rheswma plannodd a blannodd Mae berf yn treiglo’n feddal os
yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.
Pwy yw’r tîm buddugol?!