yswiriant cynnwys y cartref - cardiff · 029 2053 7382. 2 symiau isaf arbennig a yswirir ... chi...

16
Tawelwch meddwl sy’n fforddiadwy Gwasanaeth arbennig i denantiaid Cyngor Caerdydd fandaliaeth lladrad carpedi dŵr dillad eitemau trydanol dodrefn tân yswiriant cynnwys y cartref

Upload: others

Post on 17-Jun-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

Tawelwch meddwl sy’n fforddiadwy

Gwasanaeth arbennig i denantiaid Cyngor Caerdydd

fandaliaeth lladradcarpedi dŵr

dillad eitemau trydanol dodrefn tân

yswiriant cynnwys y cartref

Page 2: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

Beth sydd wedi’i yswirio?Chi fydd yn pennu’r swm y byddwn yn ei dalu i brynu nwyddau newydd.

Cynnwys

Colled neu ddifrod i gynnwys yn y cartref a’r garej, adeiladau allanol neu erddi

Gosod cloeon newydd ar ddrws allanol os caiff yr allweddi eu colli neu eu dwyn

Difrod damweiniol i offer sain, fideo neu gyfrifiadurol yn eich cartref

Atebolrwydd personol – os ydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddifrod i drydydd parti neu ddifrod i’w eiddo

Atebolrwydd tenantiaid – Os ydych yn atebol yn gyfreithiol am ddifrodi eiddo eich landlord (hyd at 20% o swm yr yswiriant)

Difrod i fwyd yn y rhewgell a achoswyd gan newid mewn tymheredd (hyd at swm yr yswiriant)

Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dros ben (y swm fydd angen i chi talu ar unrhyw hawliad)

Bwyd y rhewgell hyd at swm yr yswiriant.

Yswiriant Dewisol

• Estyniad difrod damweiniol i gynnwys – yn yswirio’r rhan fwyaf o gynnwys.

Dyma grynodeb o’n polisi yswiriant. Cewch hyd i’r holl delerau a’r amodau, ynghyd â gwybodaeth bwysig arall, yn nogfennau’r polisi.

Beth yw’r math hwn o yswiriant?Mae yswiriant cynnwys y cartref i denantiaid yn eich amddiffyn rhag colled neu ddifrod i’ch Cynnwys. Mae’n ymdrin â phethau megis tân, bwyd, storom, lladrad, dŵr yn dianc ac ymsuddiant – fel y disgrifir yn ein llyfryn polisi.

Yswiriant y CartrefDogfen Wybodaeth am Gynnyrch YswiriantCwmni: Aviva Insurance Limited Cynnyrch: Cynnwys Cartref Tenantiaid

Cofrestrwyd yn yr Alban, rhif 2116. Swyddfa gofrestredig: Pitheavlis, Perth PH2 0NH. Awdurdodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a rheoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential. Rhif Cyfeirnod Cwmni 202153.

Beth nad yw’n cael ei yswirio? Difrod yn sgil traul, methiant trydanol a mecanyddol,

neu ddirywiad graddol Pydredd gwlyb neu sych Difrod storom i ffensys, gatiau a chloddiau Colledion a difrod penodol (e.e. yn sgil peipiau’n byrstio)

i adeiladau neu gynnwys pan nad yw eich cartref wedi’i feddiannu am fwy na nifer y dyddiau a ddangosir yn ein llyfryn Polisi.

Colledion neu ddifrod penodol (e.e. lladrad neu ddifrod maleisus) a achoswyd gennych chi, gwesteion sy’n talu neu denantiaid

Y gost o brynu eitemau newydd yn lle’r rhai a ddifrodwyd sy’n rhan o bâr, set neu swît

Cerbydau modur, awyrennau, cychod, byrddau, carafanau neu drelars.

Yswiriant dewisol – yr hyn nad yw’n cael ei gynnwys

• Difrod Damweiniol - Difrod a achoswyd gan anifeiliaid anwes yn cnoi, yn crafu neu’n baeddu.

! Gallai cyfyngiadau penodol fod yn berthnasol i’ch polisi. Er enghraifft:– – cyfyngiadau ariannol ar gyfer yswiriannau

penodol, a/neu– – gymalau sy’n eithrio mathau penodol o golled

neu ddifrod! Nid ydym yn yswirio eiddo sy’n cael ei ddefnyddio at

ddibenion busnes neu broffesiynol (ac eithrio offer swyddfa gartref dan yswiriant cynnwys) oni bai ein bod wedi cytuno i wneud hynny.

Yswiriant dewisol - cyfyngiadau

• Nid yw rhai o’n dewisiadau difrod damweiniol yn yswirio difrod pan fydd eich cartref yn cael ei fenthyg, ei osod (neu ei is-osod) neu’n cael ei ddefnyddio gan westeion sy’n talu.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr yswiriant?

Yn y cartref rydych yn ei yswirio – cyn belled â’i fod o fewn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd Y Sianel neu Ynys Manaw I ffwrdd o’r cartref (o fewn Ynysoedd Prydain) – os byddwch yn prynu yswiriant cynnwys, bydd yswiriant cyfyngedig yn weithredol

ar gyfer eitemau allan o’r cartref dros dro. Mae Yswiriant Difrod Dros Dro Dewisol yn berthnasol i eitemau y tu fewn i’ch cartref yn unig.

Lle mae’r yswiriant yn weithredol?

Page 3: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

Gallwch dalu’ch premiwm i weinyddwr y cynllun. Gweler y manylion yn ein llyfryn polisi.Pryd a sut i dalu?

O’r dyddiad dechrau (a ddangosir yn eich Amserlen Polisi). Bydd eich polisi yn parhau mewn grym tan y dyddiad dechrau cyhyd â’ch bod yn parhau i dalu’ch premiwm – noder y bydd rhai cynlluniau yn cael eu hadnewyddu’n flynyddol.

Pryd fydd yr yswiriant yn dechrau ac yn gorffen?

Gallwch ganslo’ch polisi o fewn 14 diwrnod ar ôl ei brynu (neu ei adnewyddu lle bo’n briodol) neu o’r diwrnod rydych yn derbyn eich dogfennau polisi (neu’ch dogfennau adnewyddu lle bo’n briodol), p’un bynnag sydd hwyraf.Os byddwch yn canslo cyn i’r yswiriant ddechrau, byddwn yn ad-dalu’r premiwm rydych wedi’i dalu.Os byddwch yn canslo ar ôl i’ch yswiriant ddechrau, byddwn yn lleihau eich ad-daliad yn ôl yr amser y cawsoch eich yswirio. Gallwch ganslo’ch polisi ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr yswiriant hefyd. I ganslo’ch polisi, cysylltwch â gweinyddwyr eich cynllun.

Sut i ganslo’r contract?

• Rhaid i chi gymryd gofal rhesymol i ateb unrhyw gwestiynau y byddwn yn eu holi’n gyflawn ac yn gywir – waeth eich bod yn prynu yswiriant o’r newydd, yn adnewyddu’ch polisi neu’n gwneud newidiadau iddo

• Rhowch wybod i weinyddwr eich cynllun ar unwaith os yw’r wybodaeth a nodwyd yn y ffurflen gais neu’ch atodlen yn newid• Rhaid i chi lynu wrth a chyflawni telerau, darpariaethau, amodau a chymalau’r polisi hwn – gallai methu â gwneud hynny effeithio

ar eich yswiriant• Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiad a allai arwain at hawliad cyn gynted â phosibl• Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi i ni er mwyn datrys unrhyw hawliad. I weld y manylion yn

llawn, gweler yr adran “Amodau Cyffredinol” yn y llyfryn polisi.

Beth yw fy rhwymedigaethau?

Page 4: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

204045PP_Welsh_GDPR_v35_02/19

Aviva Insurance Limited Cofrestrwyd yn yr Alban, rhif 2116

Swyddfa gofrestredig: Pitheavlis, Perth PH2 0NH. Awdurdodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a rheoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential.

Page 5: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

1

Yr hyn rydych yn cael ei yswirio ar ei gyferCyfeiriwch at y ddogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriantamgaeedig, sy’n nodi’r prif amgylchiadau sy’n cael eu cynnwys yn yryswiriant (e.e. tân, lladrad, difrod dŵr). Mae esiampl o lyfryn polisiar gael ar gais.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn yswirio eich dodrefn,eich eiddo na’ch addurniadau yn erbyn lladrad,tân, fandaliaeth na phibellau’n byrstio.Mae angen i chi drefnu yswiriant cartref eich hunnaill ai dan gynllun arbennig drwy Aviva neu drwywneud eich trefniadau eich hun.Mae’r cynllun hwn yn agored i bob tenant Cyngor Caerdydd. * Ni allwn warantubod y cynllun yn sicrhau’r yswiriant rhataf sydd ar gael, na’i fod yn rhoi’ryswiriant ehangaf. Cynghorir i chi geisio dyfynbrisiau eraill a dewis yr yswiriantsy’n addas i’ch anghenion.

Yswirio cynnwys eich cartref (gweler yddogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriant)Wrth brynu’r yswiriant hwn bydd nwyddau a chynnwys eichaelwyd yn cael eu hyswirio pan fyddwch yn eich cartref ynerbyn digwyddiadau megis tân, lladrad neu lifogydd. Mae’ryswiriant hefyd yn ymdrin â’ch allweddi’n cael eu dwyn achynnwys eich rhewgell. Mae yswiriant hefyd am atebolrwyddpersonol.Nid yw difrod damweiniol nac yswiriant i ffwrdd o’r cartref yncael eu cynnwys fel elfennau safonol oni bai am yr hyn y manylirarnynt yn y ddogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriantamgaeedig. Gallwch ddewis prynu opsiwn difrod damweiniolllawn, ond am gost ychwanegol. Nid oes unrhyw yswiriant amdraul na methiant mecanyddol.

*yn amodol ar gyflwyno ffurflen gais foddhaol

Talu’r premiwmMae cost yr yswiriant yn daladwy’n wythnosol. Gellir ei dalu’nfisol drwy archeb sefydlog, mewn unrhyw gangen y Swyddfa Bostgan ddefnyddio cerdyn sweipio, neu â cherdyn debyd drwyffonio’r Swyddog Yswirio Cynnwys yng Nghaerdydd. Ffoniwch029 2053 7382.

Page 6: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

2

Symiau isaf arbennig a yswirir£6,000 - £7,000 i denantiaid dan 25 oed neu dros 60 oed£8,000 i bob tenant arall.

Yswiriant “Newydd yn Lle’r Hen”Caiff holl gynnwys eich cartref eu hyswirio gan y polisi ar sail“newydd yn lle’r hen”, ac eithrio lleiniau a dillad, a fydd yn caeleu hamnewid am eu cost bresennol, gan dynnu swm i ffwrdd amdraul. Pan fyddwch yn cyfrifo cost eich yswiriant, bydd angen ichi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrthdanbrisio gwerth eich cynnwys, mae’n bosibl nafydd modd i chi gael gwerth cyfan eich hawliad osbydd angen i chi hawlio.

£

Mae’n bosibl y byddwch am ddefnyddio’r daflen hunanwerthuso drosodd, i’ch helpu i gyfrifo faint o yswiriant fyddei angen arnoch. Mae’r taliadau a ddangosir yn cynnwys Treth Premiwm Yswiriant ar y gyfradd briodol.

Y SWM AYSWIRIR

YSWIRIANTSAFONOL

YSWIRIANTSAFONOL GAN

GYNNWYS DIFRODDAMWEINIOLESTYNEDIG

Y SWM AYSWIRIR

YSWIRIANTSAFONOL

YSWIRIANTSAFONOL GAN

GYNNWYS DIFRODDAMWEINIOLESTYNEDIG

£6,000 £0.52 £0.62

£7,000 £0.60 £0.72

£8,000 £0.69 £0.83

£9,000 £0.77 £0.93

£10,000 £0.86 £1.03

£11,000 £0.94 £1.14

£12,000 £1.03 £1.24

£13,000 £1.12 £1.34

£14,000 £1.20 £1.44

£15,000 £1.29 £1.55

£16,000 £1.37 £1.65

£17,000 £1.46 £1.75

£18,000 £1.55 £1.86

£19,000 £1.63 £1.96

£20,000 £1.72 £2.06

£21,000 £1.80 £2.17

£22,000 £1.89 £2.27

£23,000 £1.98 £2.37

£24,000 £2.06 £2.48

£25,000 £2.15 £2.58

£26,000 £2.23 £2.68

£27,000 £2.32 £2.79

£28,000 £2.41 £2.89

£29,000 £2.49 £2.99

£30,000 £2.58 £3.10

£31,000 £2.66 £3.20

£32,000 £2.75 £3.30

£33,000 £2.83 £3.41

£34,000 £2.92 £3.51

£35,000 £3.01 £3.61

Cost yr yswiriant

ar gael i denantiaiddan 25 neu dros 60oed yn unig

Page 7: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

3

CWBLHEWCH Y FFURFLEN AMGAEEDIG OSHOFFECH WNEUD CAIS

Cadw i fyny â’r taliadau• I wneud yn siŵr eich bod wedi’ch yswirio ar bob adeg, rhaid

i chi dalu erbyn y dyddiadau priodol.• Gall Cyngor Caerdydd ganslo’r polisi os bydd gennych ôl-

daliadau ar eich premiwm. • Mae’n bosibl na fydd modd i chi hawlio os nad yw’ch

taliadau’n gyfredol.

Dyddiad dechrauMae’r yswiriant yn dechrau pan fydd Cyngor Caerdydd yn rhoigwybod i chi eich bod wedi cael eich derbyn ar y cynllun Arddydd Llun bydd yr yswiriant yn dechrau bob tro. Byddwn ynysgrifennu atoch gyda manylion eich taliadau yswiriant a’rdyddiad y bydd angen i chi ddechrau talu amdano. Cewchwybod yn ysgrifenedig os, am unrhyw reswm, nad ydych wedicael eich derbyn ar y cynllun.

!

Nodiadau Arbennig• Os bydd eich cartref yn debygol o fod yn wag (e.e. os byddwch yn yr

ysbyty, ar wyliau estynedig) am gyfnod o 60 diwrnod yn olynol yn ystodcyfnod yr yswiriant, bydd rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddog YswiriantCynnwys. Ffôn 029 2053 7382.

• Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod swm yr yswiriant ynddigon i yswirio holl eitemau eich aelwyd a’ch eiddo personol.

• Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ystyried amlder eich taliadau rhentwrth brosesu eich cais.

Mae Cyngor Caerdydd yn annog pob tenant i drefnu yswiriantcartref, naill ai dan gynllun arbennig drwy Aviva neu drwywneud eich trefniadau eich hun.

Sut mae gwneud caisCwblhewch y daflen sydd wedi’i hamgáu yn y llyfryn hwn.Sicrhewch eich bod yn ateb pob cwestiwn ac yn llofnodi’rdatganiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’chffurflen, ffoniwch y Cyngor ar 029 2053 7382. Ar ôl cwblhau’rffurflen, ewch â hi i’ch Hyb lleol neu ei phostio i CyngorCaerdydd, Swyddog Yswiriant Cynnwys. Blwch Post 6000,Caerdydd, CF11 0WZ.

Page 8: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

4

Hunan brisio cynnwys eich aelwydMae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld bod cynnwys eu haelwyd yn werth mwy na’r disgwyl. Defnyddiwch y dudalen hon i’chhelpu i brisio cynnwys eich eiddo, ond yn gyntaf darllenwch yr adran ynglŷn ag yswiriant ‘Newydd yn Lle’r Hen’.

Cyfrifwch y ddwy golofn a thalgrynnu’r cyfanswm hyd at y £1,000 agosaf, ac yna rhowch y ffigur hwn ar y ffurflen gais.(Cadwch y ffurflen er mwyn gallu cyfeirio ati yn y dyfodol.)

YSTAFELL/EITEMAU CYFANSWM YGWERTH

YSTAFELL/EITEMAU CYFANSWM YGWERTH

Eitemau yn ystafell fyw 1 e.e. teledu, radio,peiriant fideos, Hi-Fi, teledu lloeren, cyfrifiadur,celfi, carpedi, byrddau, Dodrefn arall, CDs, fideos,goleuadau, llyfrau, addurniadau, llenni ac ati

Eitemau yn ystafell wely 1 e.e. gwely,dodrefn yr ystafell wely, carped, llenni, goleuadau,cloc dillad gwely, gemwaith, addurniadau, gemau,teganau, tyweli, cyfrifiadur, ac ati

Eitemau yn ystafell fyw 2 e.e. bwrdd ciniocadeiriau, seld, dodrefn arall, carpedi, llenni,goleuadau, addurniadau ac ati.

Eitemau yn y gegin e.e. ffwrn, peiriant golchidillad, oergell, rhewgell, sosbenni, crochenwaith,bwrdd, cadeiriau, gorchudd lloriau, goleuadau,addurniadau microdon, tostiwr, tegell, eitemautrydanol eraill ac ati

Eitemau yn ystafell wely 2 e.e. gwely,dodrefn yr ystafell wely, carpedi, llenni, goleuadau,cloc, dillad gwely, gemwaith, addurniadau, gemau,teganau, tyweli, cyfrifiadur, ac ati

Eitemau yn ystafell wely 3 e.e. gwely,dodrefn yr ystafell wely, carpedi, llenni, goleuadau,cloc,dillad gwely, gemwaith, addurniadau, gemau,teganau, tyweli, cyfrifiadur, ac ati

Eitemau mewn ystafelloedd eraill a thaiallan e.e. hwfer, offer, peiriant torri gwair, OfferGarddio ac ati

£ £

Page 9: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

5

GWYBODAETH BWYSIGDIOGELU DATA – HYSBYSIAD PREIFATRWYDDGwybodaeth bersonolRydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi er mwyn rhoi polisi i chi sy’naddas ar gyfer eich anghenion yswirio. Mae’r hysbysiad hwn yn egluro’r agweddau mwyaf pwysig ar sutrydym yn defnyddio eich gwybodaeth, ond gallwch gael rhagor o wybodaeth am y telerau rydym yneu defnyddio a gweld ein polisi preifatrwydd yn llawn yn www.aviva.co.uk/privacypolicy neu gallwchwneud cais am gopi drwy ysgrifennu atom yn Aviva, Freepost, Mailing Exclusion Team, Unit 5, WanlipRoad Ind Est, Syston, Leicester LE7 1PD.

Y rheolydd data sy’ gyfrifol am y wybodaeth bersonol hon yw Aviva Insurance Limited fel yswiriwr ycynnyrch. Mae rheolyddion eraill yn cynnwys y Gweinyddwr a Thistle Insurance Services Limited sy’ngyfrifol am werthu a gweithredu’r cynnyrch, ac unrhyw ailyswirwyr perthnasol.

Y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddioByddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:• i ddarparu yswiriant i chi: bydd ei hangen arnom i benderfynu a allwn gynnig yswiriant i chi ac os

felly, ar ba delerau, ac i weinyddu eich polisi, ymdrin ag unrhyw hawliadau a rheoli unrhyw brosesadnewyddu.

• cefnogi ein buddiannau cyfreithlon fel busnes: mae angen i ni wneud hyn i reoli’r trefniadau syddgennym ag ailyswirwyr, i ganfod ac atal twyll ac i’n helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well a gwella’rmodd rydym yn cysylltu â’n cwsmeriaid (mae hyn yn cynnwys marchnata, dadansoddi a phroffiliocwsmeriaid),

• bodloni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol neu reoliadol: rhaid i ni wneud hyn i fodloni gofynioncydymffurfio ein rheoleiddwyr (e.e. Awdurdod Ymddygiad Ariannol), i gydymffurfio â’r gyfraith ac ireoli hawliadau cyfreithiol, a

• chynnal gweithgareddau eraill o fudd y cyhoedd: er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen i niddefnyddio gwybodaeth bersonol i gynnal gwiriadau atal gwyngalchu arian.

Yn ogystal â chasglu gwybodaeth bersonol amdanoch, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddiogwybodaeth bersonol am bobl eraill hefyd, er enghraifft, aelodau teulu rydych yn dymuno eu hyswirioar bolisi. Os ydych yn rhoi gwybodaeth i ni am berson arall rydym yn disgwyl eich bod yn sicrhau eubod yn gwybod eich bod yn gwneud hynny ac yn fodlon rhannu’r wybodaeth â ni. Mae’n bosibl ybyddai’n ddefnyddiol dangos yr hysbysiad preifatrwydd hwn iddynt ac os oes ganddynt unrhywbryderon cysylltwch â ni yn un o’r dulliau a ddisgrifir isod.

Bydd y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu ac yn ei defnyddio’n cynnwys enw, cyfeiriad adyddiad geni, gwybodaeth ariannol a manylion eich cartref. Os bydd hawliad yn cael ei wneud, byddwnyn casglu gwybodaeth bersonol am yr hawliad gennych hefyd ac unrhyw drydydd parti perthnasol.Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am fanylion sy’n ymwneud ag iechyd neu unrhyw droseddau neueuogfarnau heb eu disbyddu sydd gennych chi neu unrhyw un arall dan eich polisi. Rydym yncydnabod bod wybodaeth am iechyd a throseddau neu euogfarnau yn wybodaeth sy’n arbennig osensitif. Lle bo’n briodol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon.

Page 10: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

6

Os oes angen eich caniatâd arnom i ddefnyddio gwybodaeth bersonol, byddwn yn egluro hynny i chipan fyddwch yn cwblhau neu’n cyflwyno hawliad. Os byddwch yn caniatáu i ni ddefnyddio gwybodaethbersonol, mae hawl gennych dynnu’r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni – gweler ymanylion “Cysylltu â ni” isod. Noder os byddwch yn tynnu’r caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth yn ôl,mae’n bosibl na fydd modd i ni ddarparu’r polisi na phrosesu hawliadau ac mae’n bosibl y bydd angen ini ganslo’r polisi.

Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, ond os nad ydych yn rhoi’rwybodaeth sydd ei hangen arnom, mae’n bosibl na fydd modd i ni barhau â’ch cais nac unrhywhawliad fyddech yn ei wneud.

Gallai peth o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn rhan o’r cais hwn gael ei rhoi i ni gan drydydd parti.Gallai hyn gynnwys gwybodaeth sydd eisoes wedi’i chadw amdanoch chi a’ch cartref o fewn grŵpAviva, gan gynnwys manylion o ddyfynbrisiau ac hawliadau blaenorol, gwybodaeth rydym yn ei chasglugan gofnodion sydd ar gael yn gyhoeddus, ein trydydd partïon dibynadwy a chronfeydd data’rdiwydiant, gan gynnwys asiantaethau atal twyll a chronfeydd data.

Proses Benderfynu Awtomataidd Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud penderfyniadau awtomataidd i benderfynu a allwn ddarparuyswiriant i chi ac ar ba delerau, delio â hawliadau neu gynnal gwiriadau twyll. Yn benodol, mae’n bosibly byddwn yn defnyddio peiriant yswirio awtomataidd i ddarparu dyfynbrisiau ar-lein, gan ddefnyddio’rwybodaeth rydym wedi’i chasglu.

Sut rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag eraillMae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol:• â’r grŵp Aviva, ein hasiantau a thrydydd partïon sy’n darparu gwasanaethau i ni, a’ch cyfryngwyr ac

yswirwyr eraill (naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng y rhai sy’n gweithredu ar ran yryswiriwr, megis addaswyr colled neu ymchwilwyr) i’n helpu i weinyddu ein cynnyrch a’ngwasanaethau

• â chyrff rheoliadol a chyrff gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys yr heddlu, e.e. os bydd angen i ni wneudhynny i gydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol neu reoliadol.

• â sefydliadau eraill gan gynnwys yswirwyr, cyrff cyhoeddus a’r heddlu (naill ai’n uniongyrchol neudrwy ddefnyddio cronfeydd data a rennir) at ddibenion atal a chanfod twyll

• ag ailyswirwyr sy’n darparu gwasanaethau ailyswirio i Aviva ac i’w gilydd. Bydd ailyswirwyr yndefnyddio eich data i benderfynu a ddylid ddarparu ailyswiriant i chi, i asesu a delio ag unrhywhawliadau ailyswirio ac i fodloni dyletswyddau cyfreithiol. Byddant yn cadw eich data am y cyfnodangenrheidiol at y dibenion hyn ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt ei datgelu i gwmnïau eraill ofewn eu grŵp, eu hasiantau a darparwyr gwasanaeth trydydd parti, cyrff gorfodi’r gyfraith a chyrffrheoleiddiol.

Gallai rhai o’r sefydliadau rydym yn rhannu gwybodaeth â nhw fod y tu allan i Ardal EconomaiddEwrop (“AAE”). Byddwn bob tro’n cymryd camau i sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy’n cael eithrosglwyddo y tu allan i Ewrop yn cael ei rheoli’n ofalus i ddiogelu eich hawliau preifatrwydd. Amragor o wybodaeth am hyn gweler ein Polisi Preifatrwydd neu cysylltwch â ni.

Page 11: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

7

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?Mae gennym bolisi cadw i sicrhau ein bod yn cadw gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n rhesymoly byddwn ei hangen yn unig, a hynny at y dibenion a eglurwyd yn yr hysbysiad hwn. Mae angen i nigadw gwybodaeth am y cyfnod angenrheidiol i weinyddu eich yswiriant a delio â hawliadau acymholiadau ynglŷn â’ch polisi. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw gwybodaeth ar ôl i’n perthynas âchi ddod i ben hefyd, er enghraifft, i sicrhau bod gennym gofnod cywir rhag ofn bydd cwynion neuheriau’n codi, i gynnal gwiriadau atal twyll, neu lle bo angen i ni wneud hynny at ddibenion cyfreithiol,rheoliadol neu drethi.

Eich hawliauMae gennych wahanol hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys yr hawl i ofynam fynediad i’ch gwybodaeth bersonol, cywiro camgymeriadau ar ein cofnodion, dileu neu gyfyngu argofnodion pan nad oes eu hangen mwyach, gwrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddioar sail buddiannau busnes teg, gofyn am beidio â bod yn destun penderfyniad a wnaed yn awtomataiddos yw’r penderfyniad yn arwain at effeithiau cyfreithiol neu sylweddol eraill arnoch, a throsglwyddodata. Am ragor o fanylion ynglŷn â’ch hawliau, gan gynnwys sut i’w harfer, gweler ein polisipreifatrwydd llawn neu cysylltwch â ni – gweler y manylion “Cysylltu â ni” isod.

Cysylltu â niOs oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol, neu os ydycham arfer eich hawliau fel y nodir uchod, cysylltwch â’n tîm Diogelu Data drwy naill ai [email protected] neu ysgrifennu at y Swyddog Diogelu Data, Level 4, Pitheavlis, Perth PH2 0NH.

Os oes gennych gŵyn neu bryder ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol,cysylltwch â ni yn gyntaf a byddwn yn ceisio datrys y broblem cyn gynted â phosibl. Mae gennych yrhawl hefyd i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynwyr Gwybodaeth ar unrhyw adeg.

Atal a Chanfod TwyllEr mwyn atal a chanfod twyll, gallwn, ar unrhyw adeg, wneud y canlynol:• Rhannu gwybodaeth amdanoch chi â sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys yr Heddlu;• Cynnal gwiriadau credyd a gwiriadau twyll ychwanegol;• Gwirio eich manylion gydag asiantaethau a chronfeydd data atal twyll, ac os byddwch yn rhoi

gwybodaeth ffug neu anghywir i ni ac rydym yn amau twyll, byddwn yn cofnodi hyn er mwyn ataltwyll a gwyngalchu arian.

Gallwn ddarparu, ar gais, manylion pellach yr asiantaethau a’r cronfeydd data rydym yn eu defnyddioneu’n cyfrannu atynt a rhoi gwybod sut y gallai’r wybodaeth hon gael ei defnyddio. Os oes angenrhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â ni: Policy Investigation Unit, Aviva, Cruan Business Centre, Westerhill Business Park, 123 Westerhill Road,Bishopbriggs Glasgow G64 2QR. Ffôn: 0345 300 0597. E-bost: [email protected]

Gallwn ni a sefydliadau eraill chwilio’r cronfeydd data a’r asiantaethau hyn er mwyn:• Ein helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r modd rydym yn darparu ac yn gweinyddu yswiriant,

credyd a gwasanaethau cysylltiedig i chi ac aelodau’ch aelwyd.

Page 12: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

8

• Olrhain dyledwyr neu fuddiolwyr, adennill dyled, atal twyll a rheoli eich cyfrifon neu bolisïauyswiriant

• Gwirio eich hunaniaeth er mwyn atal gwyngalchu arian, oni bai eich bod yn rhoi tystiolaethfoddhaol arall i ni o’ch hunaniaeth.

• Gwirio manylion ymgeiswyr am swyddi a chyflogeion.

Hanes Hawlio• Dan amodau’ch polisi, rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddamweiniau sy’n ymwneud ag

yswiriant (megis tân, difrod dŵr, lladrad neu ddamwain), p’un a ydynt yn arwain at hawlio ai peidio.Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am ddigwyddiad byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth amdano igronfa ddata.

• Mae’n bosibl y gallwn chwilio’r cronfeydd data hyn pan fyddwch yn gwneud cais am yswiriant, aradeg unrhyw ddigwyddiad neu hawliad, neu ar adeg adnewyddu’r polisi er mwyn dilysu’ch haneshawlio chi neu unrhyw berson neu eiddo arall sy’n debygol o fod yn rhan o’r polisi neu’r hawliad.

Dylech ddangos yr hysbysiadau hyn i unrhyw un sydd â budd yn yr yswiriant dan y polisi.

OS OES GENNYCH GŴYNGobeithiwn y byddwch yn fodlon iawn ar y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Fodd bynnag, os, amunrhyw reswm, rydych yn anfodlon ar y gwasanaeth, hoffwn glywed gennych. Yn gyntaf, ceisiwchddatrys y broblem drwy gysylltu ag Uned Cynnwys Tenantiaid Aviva drwy ffonio 0345 0308 733. MaeAvivia wedi’i warantu gan y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol. Os ydych wedi cwyno wrthym ac nidydym wedi llwyddo i ddatrys y gŵyn, gallwch ei chyfeirio at y corff annibynnol hwn. Nid yw dilyn yweithdrefn gwyno’n effeithio ar eich hawl i gymryd camau gweithredu cyfreithiol.

DEWIS Y GYFRAITHBydd Cyfraith Cymru a Lloegr yn weithredol i’r contract hwn oni bai: 1) Eich bod chi a’ch Yswirwyr yn cytuno fel arall; neu2) Ar ddyddiad y contract, rydych yn byw yn (neu, yn achos busnes, mae’r swyddfa gofrestredig neu

brif fan y busnes wedi’i leoli yn) yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw,ac mewn achos o’r fath (yn absenoldeb cytundeb sy’n nodi fel arall) bydd cyfraith y wlad honno’nweithredol.

COSTAU A RECORDIO GALWADAU FFÔNMae galwadau i rifau 0800 o linellau tir y DU a ffonau symudol am ddim. Codir cyfraddau galwcenedlaethol ar alwadau i rifau sy’n dechrau â 03 (gallai’r ffioedd amrywio yn dibynnu ar eichdarparwyr rhwydwaith) a chaent eu cynnwys mewn cynlluniau munudau wedi’u cynnwys gan amlaf olinellau tir a ffonau symudol. I’n hamddiffyn ni a chi, gallai galwadau ffôn gael eu recordio a/neu eumonitro.

Page 13: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

9

##

#Cardiff Council Tenants Home Contents Insurance SchemeApplication Form(Subject to the terms, exclusions and conditions of the policy, a specimen of which is available on request).

• Before you fill in the form, read the declaration at the end.• Make sure that you answer all the questions as fully as possible.• Please return the whole completed form to Cardiff Council. Contents Insurance Officer. P.O. Box 6000,

Cardiff CF11 OWZ.Please keep a copy of this form together with any information you send with it. Or you can ask for a copy from the insurance company within three months of taking out insurance.

This form is used to work out your insurance premium and whether you can be insured. Please include all information. If youare in any doubt about whether to include information, please include it. If you do not it may mean that any claim you make is turned down.

Your Full Name (Mrs/Ms/Miss/Mr/other)

Date of Birth Your Job (please state if retired)

Your domestic partner or joint proposer, Full name (Mr/Mrs/Ms/Miss/Other)

Date of Birth Their Job (please state if retired)

Is the policy required in joint names? YES NO

Address

Post Code

Telephone no.

Please tick if you or any applicant is over 60

Are you a Tenant of the Council? YES NO

Do you require Accidental Damage cover? YES NO

Required start date (must be a Monday)

The Amount of Insurance Required (your sum insured) to the nearest £1,000 £

Preferred payment method

Where did you hear about the scheme?

Insurance starts when Cardiff Council informs you that you have been accepted onto the scheme. You will be sent a policy booklet and schedule which will confirm the sum insured, premium and start date. It isimportant that the sum insured chosen (in round sums of £1000) is sufficient to cover the full replacement cost of allyour household goods and personal effects.

Page 14: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

10

PLEASE ANSWER ALL THE QUESTIONS BELOW. WE CAN ONLY CONSIDER YOUR APPLICATION ONCETHESE QUESTIONS HAVE BEEN ANSWERED. PLEASE USE CAPITAL LETTERS WHEN FILLING IN THIS FORM

TO BE ANSWERED BY THE APPLICANT (please tick the correct box in answer to the questions below) We can only consider your application once ALL these questions are answered in full.

1. Is your home self-contained with its own separate lockable front door?2. Is this property your permanent home and occupied only by yourself and members

of your immediate family normally living with you?3. Does the amount of insurance you have chosen cover the full cost of replacing all your

household goods and personal belongings? If you have answered NO to any of the above questions, please give more details below (use a separate sheet if more space is needed).

4. Do you regularly leave your home empty or unattended for more than 60 days?5. Is your home used for running a business?6. Have you or anyone living with you ever been refused insurance, had insurance cancelled or

had special terms imposed by an insurer?If you have answered YES to any of the above questions, please give more details below (use a separate sheet if more space is needed).

7. Have any incidents occurred in the last five years which would have caused you to make a claim for household contents or personal effects, whether or not you were insured at the time?

If you have answered YES to the above question, please give us the following information(use a separate sheet if more space is needed):

Date(s) of incident(s)

What caused the loss (theft, water damage etc.)?

Value of goods lost or damaged

Were you insured at the time?

If so, how much did the insurers pay in settlement of the claim? 8. If you have had a burglary in the last five years please state

How entry was gained?

What additional security has been installed since the incident? (extra locks, alarms etc.)

9. Have you or anyone living with you ever been convicted or charged with any offence, other than motoring offences, or is any prosecution or police enquiry pending?

If you have answered YES to the above question, please tell us:

Date of conviction or charge

Nature of offence

Penalty received (amount of fine, length of sentence etc.)

Your age at the time

YES NO

YES NO

YES NO

YES NO

Page 15: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

11

Special noteIf during the period of your insurance cover, your home is likely to be unoccupied (e.g through hospitalisation, extended holiday)for more than 60 days in a row you will have to advise Cardiff Council.

Aviva Regulatory StatusWe are authorised by the Prudential Regulation Authority and regulated by the Financial Conduct Authority and the PrudentialRegulation Authority. We are registered as: Aviva Insurance Limited and our firm’s reference number is 202153.

You may check this information and obtain further information about how the Financial Conduct Authority protects you by visitingtheir website www.fca.org.uk or by contacting them on 0800 111 6768.

FOR OFFICIAL USE ONLY

Date Received: Premium:

Start Date:Policy No.

Important Notice - Information and changes we need to know aboutYou must take reasonable care to provide complete and accurate answers to the questions we ask when you take out, makechanges to, and renew your policy. Please read any assumptions carefully and confirm if they apply to your circumstances.Please tell your insurer if any of the information provided by you changes after you purchase your policy, or if there are anychanges to the information set out on your schedule. You must also tell the insurer about the following changes;• any change to the people, or to be insured• any change or addition to the contents or the property to be insured that results in the need to increase the amounts insured

or the limits that are shown on your policy schedule• if your property is to be lent, let, sub-let, or used for business purposes (other than occasional clerical work)• if your property is to be unoccupied for any continuous period exceeding 60 days, or• if any member of your household or any person to be insured on this policy is charged with, or convicted of a criminal offence

(other than motoring offences).

If the information provided by you is not complete and accurate:-• we may cancel your policy and refuse to pay any claim, or• we may not pay any claim in full, or• we may revise the premium, or• the extent of the cover may be affected

The Insurer recommends you keep a record (including copies of letters) of all information provided to the insurer for your futurereference. A copy of the completed application form will be supplied on request within a period of three months after itscompletion.

PLEASE READ THE DECLARATION BELOW CAREFULLY BEFORE SIGNING IT

Declaration• I/We declare that the information given is to the best of my/our knowledge and belief correct and complete.• If the risk is accepted I/We undertake to pay the premium when called upon to do so.• I/We understand that my/our information may also be disclosed to regulatory bodies for the purposes of monitoring and/or

enforcing the insurer’s compliance with any regulatory rules/codes.• I/We have read the information overleaf under the heading “Important Information”.

You must ensure that your sum(s) insured are not less than the full cost of replacing the goods; failure to do so may invalidateyour policy or reduce claims settlements.

Applicant’s signature Date

DateJoint proposer signature

Joint applicants should both sign if policy is required in joint names.

##

#

Page 16: yswiriant cynnwys y cartref - Cardiff · 029 2053 7382. 2 Symiau isaf arbennig a yswirir ... chi gyfrifo faint fydd y gost o amnewid yr holl gynnwys. Wrth danbrisio gwerth eich cynnwys,

12

Notes