· web viewcynghorodd peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y...

21
11 High Street Fairford Gloucestershire GL7 4AD 07969 888823 [email protected] g.uk Twitter @NAAONB Hyfforddiant i Aelodau Cymreig Gofynnodd Partneriaethau AHNE Cymru am hyfforddiant i’w haelodau. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd yr Hyfforddiant cyntaf NAAONB i aelodau Cymreig ar 26-27 Ionawr. Yn bresennol: Cynghorydd Hugh Jones Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mr Mike Skuse Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mr John Roberts Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cynghorydd Paul Lloyd Partneriaeth AHNE Gŵyr Mr Alan Woodman Partneriaeth AHNE Gŵyr Cynghorydd Mark Child Partneriaeth AHNE Gŵyr Cynghorydd Richard Dew Partneriaeth AHNE Ynys Cynghorydd Angela Ann Russell Partneriaeth AHNE Llŷn Mr Ashley Thomas Partneriaeth AHNE Dyffryn Gwy Philip Hygate Cymdeithas Genedlaethol AHNE Howard Davies Cymdeithas Genedlaethol AHNE Jill Smith Cymdeithas Genedlaethol AHNE David Dixon Cymdeithas Genedlaethol AHNE Cafwyd ymddiheuriadau gan Ieuan Llŷr Jones, Llywodraeth Cymru Cynghorydd John Arwel Roberts Mr Efan Milner

Upload: lyanh

Post on 05-Apr-2019

216 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Hyfforddiant i Aelodau Cymreig

Gofynnodd Partneriaethau AHNE Cymru am hyfforddiant i’w haelodau. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd yr Hyfforddiant cyntaf NAAONB i aelodau Cymreig ar 26-27 Ionawr.

Yn bresennol:

Cynghorydd Hugh Jones Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn DyfrdwyMr Mike Skuse Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn DyfrdwyMr John Roberts Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn DyfrdwyCynghorydd Paul Lloyd Partneriaeth AHNE Gŵyr Mr Alan Woodman Partneriaeth AHNE GŵyrCynghorydd Mark Child Partneriaeth AHNE GŵyrCynghorydd Richard Dew Partneriaeth AHNE Ynys Cynghorydd Angela Ann Russell Partneriaeth AHNE Llŷn Mr Ashley Thomas Partneriaeth AHNE Dyffryn Gwy

Philip Hygate Cymdeithas Genedlaethol AHNEHoward Davies Cymdeithas Genedlaethol AHNEJill Smith Cymdeithas Genedlaethol AHNEDavid Dixon Cymdeithas Genedlaethol AHNE

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ieuan Llŷr Jones, Llywodraeth CymruCynghorydd John Arwel RobertsMr Efan Milner

11 High StreetFairfordGloucestershire GL7 4AD

07969 888823Jill.Smith@ landscapesforlife.org.uk Twitter @NAAONB

Page 2:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Sesiynau Rhyngweithiol a’r canlyniadau

Cynhaliwyd dwy sesiwn lle gofynnwyd i gyfranogwyr gydweithio i gasglu data.

Sesiwn Un. Ar y diwrnod cyntaf edrychwyd ar ddisgwyliadau a swyddogaethau Aelodau’r AHNE a gweithiodd y mynychwyr mewn parau i drafod y pedwar prif ‘gofyniad’ i bob Aelod.

Beth yw’r gyfrinach yn fod aelod delfrydol o Bartneriaeth?

Ymroddiad, brwdfrydedd ac yn mwynhau AHNE.Dylai cyfarfodydd fod yn rhai agored yn agored i’r gymuned leol – dylai cyfarfodydd ddenu 100 o bobl o leiaf (Alan Woodman). Rôl y bartneriaeth yw pecynnu ac ymgysylltu â’r cymunedau ehangach. Golyga hyn bod angen edrych yn allanol yn hytrach na mewnol. Symudwch gyfarfodydd o amgylch gwahanol rannau o’r AHNE – angen creu ysbryd cystadleuol er mwyn i wahanol gymunedau o fewn yr AHNE fod yn falch o’u rhan y maen nhw’n ei chwarae yn yr AHNE a bod mor fyrlymus yn hynny o beth.

FC1Cyfathrebwr daGwrandawr daYn barod i leisio barn a dylanwadu cydweithwyr – yn cynnwys y cyngor

FC2Cynrychioli grwpiau o ddiddordebDeall eich “ardal” a’r darlun ehangach“Llais” ar gyfer yr ardal a bod yn barod i gefnogi egwyddorion AHNE

FC3Bod yn frwdfrydig, ymroddgar, awyddus i ddysgu, byrlymus, barod i ddysguCysylltu â chynulleidfaoeddLlais etholedig = cadernid, cysylltiadau ag Awdurdodau Lleol, ariannuCyfathrebu gwerth a pherthnasedd dynodiad AHNE i gynghorau a chymunedau

FC4Dylai ychwanegu at y cydbwysedd a chynhyrchiantAdnoddau i weithredu – cyllidoDylanwadu ar gynllunio a datblyguGwybodaeth am fusnesau lleol

FC5Mwynhau’r ardal – brwdfrydigGwybodaeth am gynllunio a datblygu – cadw cydbwyseddGwybodaeth am gyflwr y dirwedd – gwerthfawrogiad o’r amrywiaeth o fewn AHNE unigolAdnoddau i weithredu: cyllido – pwysigrwydd y gwahanol ffrydiau ariannu a’u hargaeleddLlais etholedig – rhanbarth/sir, cynorthwyo wrth hybu’r agenda cymaint â phosib.

Page 3:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

FC6Cynllunio – datblygu cynaliadwy, deddfwriaeth, polisïau, dylanwad, systemTreftadaeth Ddiwylliannol – gwybodaeth, teimlad/dealltwriaeth, cynhaliaethRheoli Tir – bioamrywiaeth, dealltwriaeth, buddion AHNE, cynlluniau amaethyddolLlais etholedig – negeseuon/gwybodaeth, cynrychioli cymuned, prosiectau/syniadau/cydweithrediad

Yr ail sesiwn ryngweithiol oedd sesiwn olaf Diwrnod Dau a bu’r mynychwyr yn trafod a phenderfynu beth fyddent yn ei wneud ar ôl y digwyddiad hyfforddiant. Mae’r nodiadau o’r siart droi wedi’u crynhoi isod.

FC1MwyGosod yr agendaCymorth anffurfiol i’r tîmProffil uwch ar gyfer yr AHNE

LlaiGoruchafiaeth elfennau cynllunio mewn cyfarfodydd

FC2MwyAnnog dealltwriaeth a chymorth gan grwpiau o ddiddordebCyrraedd consensws o “werth” yr ardal a’r darlun ehangachHyrwyddo’r buddion i’r “Holl” AHNE. Gosod yr AgendaCymorth anffurfiol i’r grŵpProffil uwch ar gyfer yr AHNE

FC3MwyBrwdfrydigLlysgennad daHerioDiddordeb cryfMynychu

FC4MwySet amrywiol o gynrychiolwyr ar y JAC h.y. annog cynrychiolwyr o Undebau AmaethwyrGwell cyfathrebu (heb jargon). Adnabod eich cynulleidfa (Defnyddio’r negeseuon allweddol o Strategaeth Gyfathrebu NAAONB)Gwell hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr (ON, gallai trefniadau newydd erydu mewnbwn a gwybodaeth leol. Byddai uno yn gwanhau llywodraeth leol efallai).

Page 4:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

FC5MwyDeall y darlun mwyYmwybyddiaeth o newidiadau a phwysau a sut i addasu ac ymdopi â hynnyHyfforddiant mewn Cyfathrebu/Ymwybyddiaeth

FC6MwyRhoi’r AHNE lleol o fewn y darlun ehangach (cenedlaethol, rhyngwladol)Gwerthu llwyddiant – peidio â chymryd yn ganiataol eu bod yn deall yr hyn a wnaethochCymorth anffurfiol – cymorth ymarferol, llenwi amlenni, glanhau toiledau ac atiHyfforddiant ymgynefinoRhyngweithio rhwng cydweithwyrAdborth i’r TNAs

Page 5:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Cyflwyniadau a dolenni

Cafwyd pedwar siaradwr dros y ddau ddiwrnod o hyfforddiant.

Sesiwn Dau, Diwrnod Un – edrychwyd ar yr heriau i’r dyfodol. Siaradodd Peter Ogden, Cyfarwyddwr, YDCW am yr “AHNE yng Nghymru – yr heriau o’n blaenau”.

http://www.landscapesforliferesources.org.uk/images/uploads/pdf/Welsh_member_training_-_CPRW.pdf

Mae gan YDCW berthynas symbiotig gyda NAAONB er s blynyddoedd lawer.30 mlynedd o brofiad personolRhaid i ni ddiogelu “creiriau gwerthfawr y teulu”

“Mae ein tirweddau yn adlewyrchu gorffennol i gyd ac yn pennu ein safon byw i’r dyfodol. Mae tirweddau yn ymwneud â phobl a lleoedd, yn greiddiol i’n hiechyd a’n llesiant ac yn rhan bwysig o’n hunaniaeth. Mae’n hanfodol bwysig bod gwerth y dirwedd yn cael ei gydnabod wrth wneud penderfyniadau lleol a chenedlaethol.” Howard Davies, Ionawr 2015, ac a ddefnyddiwyd gan YDCW i lansio’i faniffesto “Tirweddau i Bawb” i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd oedd y man cychwyn a edrychodd ar

Atal treftadaeth ddiwylliannol a daearegol rhag dirywio Diogelu prydferthwch a hunaniaeth amrywiol Cywiro’r cysyniad o ddiffyg integreiddio o’r tirweddau Sefydlu gwell ymwybyddiaeth gan y cyhoedd a lluniwyr polisi

Negeseuon allweddol Peter

Tirweddau: yn symbol o allu a chlyfrwch dynol y canolbwynt lle mae popeth yn digwydd yn cadw cyfrinachau’r diwydiant o ran Cynaliadwyedd ein neuadd fwyd, ein hynni a’n tanwydd ein dynamos sy’n dal bywyd yn ysgwyddo beichiau amgylcheddol ffatrioedd llesiant theatrau o ddysgu a dychymyg o her ac ysbrydoliaeth yn cynnig yr hyn sy’n anghyffyrddadwy – gwerthoedd diwylliannol a threftadol

Yn fyr, mae ein Tirweddau yn diffinio ein “Bro”:

Ein hunaniaeth bersonol a chymunedolEin Naws am Le, safon ein bywydau

Page 6:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Mae dau weinidog yng Nghymru wedi nodi bod datblygu economaidd yn flaenoriaeth.

Dywed Jeff Cuthbert Gweinidog dros Genedlaethau’r Dyfodol

Ystyr datblygu cynaliadwy llwyddiannus yw • Creu mwy o swyddi• Cael cydraddoldeb cymdeithasol• Trechu tlodi• Cynnig cyfleoedd dysgu i bawb• Mwy o ymgysylltu cyhoeddus

Dywed Carl Sargeant Gweinidog dros Adnoddau Naturiol

“Hoffwn weld Tirweddau Gwarchodedig Cymru’n gwneud rhagor, gan ddod yn eiconau datblygu cynaliadwy.”

“ystyriaf mai agweddau economaidd y datblygiadau arfaethedig yw’r brif ystyriaeth wrth wneud hynny.”

Cynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy.

Mae deddfwriaeth ar y gweill a fydd yn newid sut mae AHNE yn gweithredu. Nid ydynt yn rhydd o’r materion mwy sylweddol fel newid hinsawdd a’r angen i wneud mwy gyda llai o adnoddau.

Rhaid i ni hyrwyddo gwerth a buddion cyhoeddus ein tirweddau. Rhaid iddynt fod yn fwy perthnasol i bobl.

Rhaid symud o dirweddau “gwarchodedig” i “Fywydweddau” a werthfawrogir

Buddsoddi mewn Bywydweddau i greu lleoedd a all

Wella ansawdd yr aer, dŵr a phridd a rhoi cymorth i addasu i newid hinsawdd. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer gweithio’n well, gwell dysgu a datblygu personol. Rhoi cymorth i drechu anghydraddoldeb. Annog byw’n iach. Fod yn adnewyddadwy, yn gwella iechyd corfforol a meddyliol. Wneud pobl yn fwy cyfforddus, gan gynyddu rhyngweithio cymdeithasol.

Mae angen i AHNE fod yn fwy cadarn, cael mwy o ymgysylltiad cymunedol, cynnal amrywiaeth o fewn AHNE a rhyngdddynt, gwneud y defnydd gorau o’r broses o newid er mwyn gwella cymeriad yr ardal.

Pobl a chymunedau yw asedau pwysicaf ein Tirweddau Gwarchodedig - Llysgenhadon

Page 7:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Beth sydd ei angen?

Gwell eglurdeb o lawer ar lefel genedlaethol ynglŷn â chyfeiriad AHNE i’r dyfodol Cysondeb a chydlyniad sy’n sicrhau tirwedd integredig, bioamrywiaeth a stiwardiaeth

dreftadol. Mewn perthynas â chynllunio, annog/cynorthwyo gyda

• Newid ymddygiad• Gwell fframwaith strategol ar gyfer gweithredu• Adnoddau digonol• Arweinyddiaeth amlwg ond cyfrifoldebau a rennir• Hwyluso ymgysylltiad dinasyddol a gyda rhanddeiliaid

MAE AHNE AR Y RHENG FLAEN WRTH DDARPARU LLESIANT. Maent yn arbenigwyr mewn gwaith partneriaeth mewn modd nad yw’n bodoli mewn parciau cenedlaethol, oherwydd mae’n rhaid iddynt weithio felly.

Mae eich AHNE angen eich cymorth! Lleisiwch eich barn!

Pwyntiau allweddol a Chwestiynau o’r llawr i Peter Ogden

GŵyrSut i ymdrin â llesiant y gymuned gyfan. Nid yw Diogelwch yn tynnu AHNE i ffwrdd o weddill cymdeithas (h.y. mae pobl yn meddwl fod “diogelu” yn golygu na ellir ymweld â’r AHNE). Ai problem iaith yw hyn” “Diogelwch” – ai hwn yw’r gair cywir? Er gall hyn weithio i’r gwrthwyneb hefyd o ran cynllunio – pobl yn gwneud sylw na ddylai pethau ddigwydd gan fod yr ardal wedi ei diogelu.

Dyffryn GwyGwerthfawrogiad o “brydferthwch naturiol” wedi ei ddeall gan bobl yn well na’r disgwyl – e.e. plant yn Sir Fynwy ar ymweliadau maes yn tynnu lluniau.

Pa fath o newid/datblygu sy’n dderbyniol?A ddylai ceisiadau cynllunio orfod gwella yn hytrach na chynnal AHNE?Mae angen gwell cyfathrebu er mwyn cael y wlad gyfan i dderbyn mai asedau cenedlaethol ydynt – angen edrych eto ar athroniaeth Deddf 1949.

A ydym yn gwneud digon i gyfleu nodweddion arbennig ein tirweddau? Rhaid defnyddio iaith y mae’r cyhoedd y ei deall er mwyn iddynt gynnig cefnogaeth ar ein rhan i wleidyddion ynglŷn ag economeg, iechyd ac ati.

GŵyrMae gogwydd yr angen wedi newid. Mae traethau Gŵyr yn wag – mae pobl yn mynd ar dripiau i siopa erbyn hyn. Rhaid i ni newid ymddygiadau ac agweddau er mwyn cael pobl i ddeall gwerth a pherthnasedd AHNE.

Page 8:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Daeth y cyfarfod i ben am y diwrnod wedi’r drafodaeth hon a bu rhagor o drafod anffurfiol dros swper.

Edrychodd Sesiwn Un, Diwrnod Dau ar AHNE sydd â pherthnasedd rhyngwladol a chenedlaethol. Siaradodd Nigel Dudley, IUCN am “AHNE fel Ardaloedd Gwarchodedig Rhyngwladol” gyda Howard Davies, Prif Weithredwr NAAONB yn ei ddilyn.

http://www.landscapesforliferesources.org.uk/images/uploads/pdf/Welsh_member_training_-_IUCN.pdf

Nigel Dudley, IUCN – Negeseuon allweddol

Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol “Targed 11 Aichi” – 17% o ardaloedd tirol a 12% o ardaloedd morol wedi’u gwarchod erbyn 2020.

Mae IUCN wedi treulio’r ddwy ddegawd ddiwethaf yn adolygu ac yn ailystyried i raddau y cwestiwn ynghylch yr hyn sy’n diffinio “ardal warchodedig” a sut a pha ardaloedd gwarchodedig sy’n cyfrannu at gymdeithas ddynol.

Yn 1975, dechreuodd yr IUCN ddatblygu systemau gategoriau ar gyfer ardaloedd gwarchodedig yn seiliedig ar amcanion rheoli a chyhoeddwyd hyn ymhen amser fel set o chwech o gategoriau yn 1994. Cyn hir, daeth yr hyn a ddechreuodd fel offeryn ystadegol yn rhywbeth a ddylanwadodd ar gynllunio, rheoli, polisi, cyfraith a hyd yn yr athroniaeth sylfaenol ynghylch ardaloedd gwarchodedig a chadwraeth.

O 2000-2004 cwblhawyd dadansoddiad o sgôp ac effaith y categoriau ar gyfer IUCN, gan Brifysgol Caerdydd. Yn sgil yr adroddiad Siarad Iaith Gyffredin, cafwyd penderfyniad yng Nghyngres Gadwraeth y Byd 2004 yn galw am adolygiad o’r categoriau a chynhyrchu canllawiau newydd.

O ganlyniad cyhoeddodd IUCN argraffiad newydd o ganllawiau o’r categoriau o ardaloedd Gwarchodedig IUCN yng Nghyngres Gadwraeth y Byd 2008 yn dilyn proses o ymgynghori sylweddol yn fyd-eang. Mae’r canllawiau hyn yn rai technegol gan yr IUCN ac mae tair prif elfen yn perthyn iddynt:

1. Diffiniad o ardal warchodedig2. Diffiniad o chwe chategori reoli o ardaloedd gwarchodedig3. Diffiniad o bedwar math o lywodraethu ar gyfer ardaloedd gwarchodedig

yn ogystal â chanllaw ar ddeall, defnyddio ac adrodd ar y tair elfen.

Diffiniad o ardal warchodedig : Ardal ddaearyddol a ddiffiniwyd yn glir, yn ddynodedig ac a reolir, drwy ddulliau cyfreithiol neu ddull effeithiol arall, er mwyn sicrhau cadwraeth hirdymor ynghlwm â gwasanaethau ecosystem a gwerthoedd diwylliannol.

Page 9:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Roedd y diffiniad hwn yn un o’r prif adolygiadau yng nghanllawiau 2008 – mae’n adlewyrchu golwg ehangach ar natur, yn cynnwys amrywiaeth ddaearyddol – ond yn cynyddu’r pwyslais ar gadwraeth natur.

Mae’r canllawiau’n egluro’r diffiniad, fesul brawddeg ac yn cynnig egwyddorion ar gyfer ei ddefnyddio.

Un egwyddor allweddol ar gyfer IUCN yw mai dim ond y safleoedd hynny lle rhoddwyd gwarchod natur fel prif nod neu ganlyniad, ddylid eu hystyried fel ardaloedd gwarchodedig. Noder y byddai hynny’n cynnwys amryw o safleoedd sydd ag amryw o nodau eraill hefyd, ar yr un lefel, megis rhai diwylliannol neu ysbrydol, ond os ceir unrhyw wrthdaro yna cadwraeth natur yw’r flaenoriaeth yn sicr.

Mae’r IUCN yn cydnabod fod gan ardaloedd gwarchodedig ystod o amcanion rheoli a mathau gwahanol o ddulliau llywodraethu.

Amcanion rheoli :Ia Diogelu natur yn llym Ib Diogelu ardaloedd gwyllt II Diogelu ecosystemau ac ecodwristiaeth III Heneb neu nodwedd naturiol IV Diogelu cynefin / rhywogaethau V Diogelu tirwedd / morlun VI Diogelwch gyda defnydd cynaliadwy

Mathau o lywodraethu:A Gan lywodraethau B Drwy reoli ar y cyd C Gan gyrff preifat D Gan bobl a chymunedau lleol

Categori V (tirweddau gwarchodedig) diogelu ardaloedd lle mae’r rhyngweithio rhwng pobl a natur dros amser wedi creu ardal o gymeriad arbennig gyda gwerth ecolegol, biolegol, diwylliannol a golygfaol arwyddocaol a lle ystyrir bod diogelu cryfder y rhyngweithio hwn yn hanfodol ar gyfer cynnal yr ardal a’r gwerthoedd cysylltiedig.

Bu i bwyllgor Cenedlaethol IUCN ar gyfer y Deyrnas Unedig asesu ardaloedd a ddiogelir yn y DU yn erbyn y diffiniad a’r categoriau newydd – cynhyrchodd pob sefydliad ar gyfer ardal sylweddol a warchodir “ddatganiad o gydymffurfiaeth” a llwyddodd yr AHNE i gael eu derbyn o drwch blewyn.

Ein her yn awr yw profi mai hwn oedd y penderfyniad cywir.

Page 10:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Howard Davies, NAAONB – Negeseuon Allweddol

http://www.landscapesforliferesources.org.uk/images/uploads/pdf/Welsh_member_training_-_NAAONB.pdf

Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 Dynodi AHNE Sefydlu Byrddau Cadwraeth Dyletswydd i roi sylw

Cydraddoldeb mewn statws gyda’r Parciau Cenedlaethol

O adroddiad annibynnol ar AHNE gwelwyd bod ein Partneriaethau yn Rhai a ymddiriedir ynddynt yn lleol – gan dyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddod

yn gyrff ymgynnull ymddiriededig (mae trafodaethau gyda busnesau wedi ategu hyn) Gyrff cydweithredol Yn ddemocrataidd

Mae teulu’r AHNE yn cynnwys 240 o staff ac aelodau etholedig

Mae NAAONB yn dod â phartneriaethau a staff AHNE, Bwrdd Ymddiriedolwyr NAAONB a’r tîm craidd a sefydliadau sy’n aelod o’r NAAONB oll ynghyd i gynnig un llais.

Ein gweledigaeth ar y cyd yw “Bod prydferthwch naturiol ein Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cael ei werthfawrogi a’i ddiogelu, a bod y berthynas rhwng pobl a’r tirweddau hyn sydd o bwys cenedlaethol yn cael ei deall a’i chefnogi ar bob lefel”.

Ein nod ywCryfhau proffil y teulu o AHNE a gwerth ei waith.

TrafodaethMae staff yn cyfarfod ac yn trafod yn rheolaidd. Dylai aelodau geisio cyfarfod yn amlach a rhannu’u cyfoeth o arbenigedd – mae heddiw yn gychwyn da. Mae Cynhadledd Tirweddau am Oes yn gyfle blynyddol. Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael neu a allai gael eu darparu yn lleol neu gan NAAONB?

Mae Partneriaethau AHNE yn cael eu hymddiried. (Gan nad ydym yn awdurdodau cynllunio, nid ni yw’r corff sy’n dweud na). Mae gennym ased gwerthfawr. Mae’r grym gennym i gyfarfod, negodi, broceru ac i greu consensws.

Page 11:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Beth fydd y berthynas gyda’r Parciau Cenedlaethol yn y dyfodol?Mae Tirweddau a Warchodir yng Nghymru wedi cyd-dynnu erioed, gyda phobl yn arwain yr agenda.Bydd NAAONB yn cwrdd â Chadeirydd Parciau Cenedlaethol Lloegr (NPE) ddydd Iau.Nododd YDCW ei ddymuniad i AHNE/Parciau Cenedlaethol edrych y tu hwnt i’w ffiniau fel bod y gwaith da’n ymestyn i’r cymunedau yn ehangach.

Nid yw anawsterau’n parchu ffiniau Adnoddau a chaniatâd i weithredu Ymagwedd ecosystemau Archwilio adnoddau o fewn ein AHNE – pwy sydd ag arbenigedd ar gynllunio,

cyfathrebu ac ati Adnodd gwerthfawr AHNE yw eu pobl – staff, aelodau, gwirfoddolwyr cymunedol,

cynghorau

Edrychodd Sesiwn Dau, Diwrnod Dau ar AHNE o bersbectif Cymreig gyda chyflwyniad gan Liza Tomos, Cyfoeth Naturiol Cymru gyda thrafodaeth gyffredinol i ddilyn ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

http://www.landscapesforliferesources.org.uk/images/uploads/pdf/Welsh_member_training_-_NRW.pdf

Liza Tomos – Negeseuon allweddol

Mae Liza yn rhan o dîm tirwedd bach ym Mangor/Aberystwyth sy’n datblygu a darparu tystiolaeth a’r gallu i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau e.e. Landmap, Seascapes, Mapiau Nodweddion Tirwedd Rhanbarthol ac yn rhoi cyngor ar e.e. dulliau newydd, ariannu, partneriaethau.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)• Prif bwrpas yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn

• Cael eu cynnal yn gynaliadwy• Cael eu gwella• Cael eu defnyddio – nawr ac i’r dyfodol

• CNC yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru (LlC) ar yr amgylchedd• Y prif nod yw gwella canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol yng

Nghymru drwy ystod eang o wasanaethau a chyfrifoldebau sydd gan y corff. Datblygu cynaliadwy fydd y brif egwyddor o ran trefniant.

• Mae CNC yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu Polisi Cenedlaethol, ymatebion i ymgynghoriadau cenedlaethol a rhoi sail dystiolaeth.

• Mae CNC yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ond o bell (h.y. yn cynghori ar bolisi, ond nid yn darparu polisi – yn gorff cyflawni).

• Mae CNC yn ANNIBYNNOL

Mae Cyfoeth naturiol Cymru wedi cyfuno

Page 12:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

• Cyngor Cefn Gwlad Cymru• Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru• Comisiwn Coedwigaeth Cymru• Yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru (e.e. trwyddedu morol)

Mae CNC wedi ei deilwra i gwrdd ag anghenion unigryw Cymru: Mae Cymru’n wynebu sawl her – i’r bobl, cymunedau, yr economi, yr amgylchedd a

natur. Cwrdd â’r anghenion heriol hyn, ffyrdd newydd o feddwl a ffyrdd newydd o wneud

pethau, yn cynnwys o Sicrhau cyflenwad o ynni, darparu swyddi, trechu bygythiadau newid

hinsawdd a llifogydd, gwella iechyd a llesiant poblo Sut yr ydym yn cynnal, gwella a defnyddio’n adnoddau naturiol

Mae cyfle i newid yr ymagwedd tuag at reoli adnoddau naturiol yn sylweddol yng Nghymru – cymryd ymagwedd ecosystemau yn fwyfwy.

• Tirwedd, amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru yw asedau gorau’r wlad, ond maent yn fwy gwerthfawr na hynny. Maent yn• Cynnal ein hanghenion sylfaenol, yr aer a anadlwn, y dŵr a yfwn, y bwyd a fwytawn• Maent yn rhoi ynni, ffyniant a diogelwch; mae’n ein diogelu ac yn ein gwneud yn

iachach

Mae CNC yn werth gwell am arian – yn cynnwys buddion sy’n rhyddhau arian: Cyfanswm buddion ac arbedion = £150m dros 10 mlynedd

• E.e. prosesau mwy effeithlon, disodli gwasanaethau trawsnewidiol o Asiantaeth yr Amgylchedd/Comisiwn Coedwigaeth i greu ymagweddau newydd ac ati.

Drwy ddatgloi’r posibiliadau sydd ar gael o fewn ei adnoddau, eu rheoli a’u defnyddio mewn modd mwy cydlynol ac integredig, gellir sicrhau rhagor o fuddion, a helpu i lwyddo i gwrdd â’r heriau a wynebwn.

Un llais yn hytrach na thair set o dystiolaeth, cyngor ac arweiniad – gwell ar gyfer cwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Rhagor o wybodaeth ar CNC• Y Corff Mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru gyda rhagor na 2,000 o staff• Cyllideb weithredol o £177 miliwn• Yr unig sefydliad yn y byd sydd â chymysgedd unigryw o weithgareddau o ran rheoli,

gwarchod a defnyddio adnoddau naturiol.• Prif Weithredwr = Dr Emyr Roberts; Cadeirydd = Athro Peter Matthews.• Mae Bwrdd CNC eisoes wedi ei sefydlu ac wedi cyfarfod yn gyhoeddus am y tro

cyntaf ym mis Mai.

Cyfarwyddiaethau’r sefydliad newydd

Page 13:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio Cynghori ar Ddatblygiad Polisi Cenedlaethol LlCYmatebion i ymgynghoriadau CenedlaetholDarparu sail dystiolaeth ar gyfer cyngor gan

Gwasanaethau CenedlaetholCaniatáu, gwasanaeth cwsmer Mentergarwch Rheoli rhaglen gyfalafCapital programme managementRheoli Peryglon Llifogydd- cydgordio digwyddiadau

Yn weithredol mae CNC wedi ei rannu’n bedwar rhanbarth. Gogledd, Canolbarth, De Ddwyrain a De Orllewin.Mae’r ffiniau’n dilyn ffiniau’r awdurdod lleol, yn hytrach na dalgylchoedd afonydd. Darperir rhai gwasanaethau ar draws y ffiniau a rhai ohonynt yn uno ar gyfer rhai dalgylchoedd e.e. Y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr.

AHNE yng Nghymru GŵyrDyffryn GwyYnys MônLlŷnBryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Tystiolaeth Dirweddol a Gweithredu CNC • Landmap• Seascapes• Map Cymeriad Rhanbarthol• Cynghori cysylltiol ar Ymagwedd Ecosystem a chynllunio rheoli• Tirweddau Hanesyddol• Dynodiad diweddar o estyniad i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Methodoleg wedi’i

phrofi• Adroddiad ar sefyllfa’r Dirwedd yn cael ei baratoi

CyfeiriadYmagwedd EcosystemYstyried materion i’r hirdymorAdolygiad Williams o Wasanaethau CyhoeddusAdolygiad o Dirweddau DynodedigCynllun MorolCanlyniadau a Rennir Llywodraeth Cymru

Ymgymerir â phob un o’r uchod mewn cyfnod o doriadau ariannol lle mae, er enghraifft, cyllidebau’r Parc Cenedlaethol wedi’u cwtogi 12%. Yn sgil y penderfyniad i ddiogelu cyllidebau Iechyd rhoddwyd rhagor o bwysau ar feysydd eraill h.y. £900 miliwn yn cael ei dorri o gyllidebau llywodraeth leol erbyn 2018 er mwyn ariannu’r GIG.

Page 14:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Bydd y nifer o awdurdodau lleol yn cael eu cwtogi i hanner y nifer sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Canlyniadau a Rennir Llywodraeth CymruDatblygwyd canlyniadau hirdymor CNC gan yr adrannau nawdd yn Llywodraeth Cymru, a disgwylir i’r llywodraeth alinio ei gwaith er mwyn helpu i gyflawni’r rhain.Nod CNC yw cydweithio â rhanddeiliaid eraill, i ganfod ffyrdd i ganfod ffyrdd ar y cyd yn erbyn y canlyniadau hyn, ar draws adrannau LlC.

• Gwella’n Hamgylchedd• Diogelu pobl• Cefnogi mentergarwch a swyddi• Gwella iechyd y genedl• Lleoedd llewyrchus llawn addewid• Cyflawni cyfiawnder cymdeithasol• Cefnogi sgiliau a gwybodaeth

Adolygiad LlC o Dirweddau Dynodedig• Panel Annibynnol• Manteision dynodiad sengl?• A yw’r Tirweddau Dynodedig yn cynnwys yr offer gorau ar gyfer y 60 mlynedd nesaf?• Cyfnod 1 adroddiadau erbyn diwedd mis Ionawr• Cyfnod 2 o ganol Chwefror, adroddiadau mis Mehefin

Cadeirir y Panel gan yr Athro Terry Marsden gyda Ruth Williams a John Lloyd Jones.Nhw fydd yn cynnig argymhellion i LlCBydd y Panel yn ystyried y Bil Cynllunio os bydd unrhyw newid i bwerau cynllunio’r Parciau Cenedlaethol.Mae CNC wedi cynnig tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i’r PanelMae’n bosib y bydd dyletswydd debyg i’r hyn a geir ym Mharciau Cenedlaethol yr Alban i hyrwyddo llesiant cymdeithasol ac economaidd y Preswylwyr yn datblygu – ar draws Tirweddau Dynodedig? Cryfach na ‘parchu’.

Rhaglen Ddeddfwriaethol • Bil Amgylcheddol• Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol• Bil Cynllunio Cadarnhaol• Bil Treftadaeth Ddiwylliannol

Bil Amgylcheddol • Fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.• Yr elfennau allweddol yw

• Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR)• Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol (NNRP)• Ymagwedd ar sail Ardal (ABA) a Datganiadau Ardal • Defnydd priodol o’n hymagweddau rheoleiddiol

Page 15:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Nod y Bil yw helpu i reoli’r amgylchedd mewn ffordd gydlynol AC i symleiddio, minio a chael eglurdeb gyda phrosesau a rheoleiddio e.e. trwyddedu morol.

Mae’r Bil yn rhoi’r offer i CNC fedru gwneud y gwaith e.e. PES (yn nodi hefyd – cytundebau a’r defnydd o bwerau arbrofol).

Mae’r Bil yn cydnabod gwerth a’r cyfleoedd a gynigir gan adnoddau naturiol

Rheolaeth gynaliadwy o’n Hadnoddau Naturiol yw’r cyfraniad allweddol gan CNC i ddarparu nodau, amcanion a chynlluniau llesiant

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) NODI Gyrff cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, yn unol â’r “egwyddor o ddatblygu cynaliadwy”.

I’w weithredu yn 2016

Effeithiau Rhaglen Ddeddfwriaethol LlC• Awdurdodau Lleol newyd• Cyflawni ar y cyd• Adnoddau peellach a rennir• Rheolaeth integredig bellach• Dangos gweithgarwch

Cyflawni Nodau Llesiant ar y cyd: Cymru Ffyniannus, Cymru Gadarn (newid hinsawdd), Cymru Iachach, Cymru fwy Cyfartal, Cymunedau Cydlynol, Diwylliant Llewyrchus ac Iaith Gymraeg Ffyniannus.

Sut i gysylltu â CNC • Ffôn: 0300 065 3000• E-bost: [email protected]• We: www.naturalresourceswales.gov.uk• Dilynwch ar Twitter, Facebook, Flickr ancYoutube ar NatResWales

Heriau a Chyfleoedd ar gyfer AHNE o 2015-2019

Codi proffil yr AHNE ymysg y cyhoedd.Beth yw diben AHNE?

Defnyddio strategaeth gyfathrebu genedlaethol ar gyfer negeseuon trosfwaol ar gyfer AHNE/partneriaethau AHNE a theilwra gydag enghreifftiau/elfennau lleol. Ymgysylltu gyda’r Cynllun Gweithredu cenedlaethol (5 gweithred y flwyddyn yn unig).

Cyfleu gwerth a pherthnasedd i amrywiaeth o gynulleidfaoedd (gweler Strategaeth Gyfathrebu genedlaethol ar gyfer enghreifftiau o gynulleidfaoedd).

Page 16:  · Web viewCynghorodd Peter na ddylid siarad am “diweddau” gan fod hynny “oddi ar y radar”. Mae angen siarad am ddatblygu economaidd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth ar y gweill

Buddion iechyd mewn Tirweddau Gwarchodedig – egluro’r cynnig yn glir h.y. gall llwybr arfordirol wella iechyd felly mae angen adnoddau i reoli hynny. Ymgysylltu â menter Parciau Iach, Pobl Iach.

Mater sylfaenolGwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwanhau – angen herioSymud at fodelau newydd o weithio – sut?

Llysgenhadon dros Iechyd (gweler uchod)Llysgenhadon dros Dwristiaeth – cyfle ardderchog i Dirweddau AHNE i gael cyllideb gan Groeso Cymru.

Sesiwn Tri, Diwrnod dau – canolbwyntio ar Ganllaw i Bartneriaethau AHNE. Mae hwn ar gael ar ddol http://www.landscapesforliferesources.org.uk/images/uploads/pdf/Guidance_for_AONB_Partnership_Members.ppt

neu drwy ofyn i [email protected]

Yn gryno mae’n cynnwys Strwythur Rheoli AHNE syml – a yw’r bobl iawn gennych chi ar gyfer cyflawni’ch

gwaith? Gweithio mewn partneriaeth, pam a pha bryd? Beth yw gwaith Partneriaethau Aelodau Partneriaeth Partneriaid effeithiol a’u nodweddion Cynlluniau Rheoli AHNE Rôl gynllunio

Materion i Aelodau’r Bartneriaeth eu hystyried Deall nodweddion arbennig Canlyniadau Bioamrywiaeth Monitro Gwybod beth sy’n digwydd Cynllunio Cyfathrebu Herio partneriaid