€¦  · web viewmae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y...

28
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddold eb Strategol Prifysgol Caerdydd Mawrt h 2015 Ar gyfer cyfnod adrodd mis Mawrth 2013-14 Mae’r ddogfen hon ar gael ar-lein yn http://www.caerdydd.ac.uk/govrn/cocom/equalityanddiversity /stratequalplan/index.html . Mae hefyd ar gael mewn fformatau amgen ar gais e.e. copi caled, Braille, print mawr, sain. Os ydych chi neu unrhyw un arall am gael y ddogfen mewn fformat amgen, cysylltwch â’r Uned Gydraddoldeb - 02920 870230, ebost [email protected] . Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am y wybodaeth yn yr adroddiad hwn, cysylltwch â Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: ffôn: 02920 870230, ebost [email protected] . Mae'r ddogfen ar gael yn Gymraeg a Saesneg. 1

Upload: vanphuc

Post on 21-Aug-2018

215 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Prifysgol Caerdydd

Mawrth 2015Ar gyfer cyfnod adrodd mis Mawrth 2013-14

Mae’r ddogfen hon ar gael ar-lein yn http://www.caerdydd.ac.uk/govrn/cocom/equalityanddiversity/stratequalplan/index.html.

Mae hefyd ar gael mewn fformatau amgen ar gais e.e. copi caled, Braille, print mawr, sain. Os ydych chi neu unrhyw un arall am gael y ddogfen mewn fformat amgen, cysylltwch â’r Uned Gydraddoldeb - 02920 870230, ebost [email protected].

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am y wybodaeth yn yr adroddiad hwn, cysylltwch â Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: ffôn: 02920 870230, ebost [email protected].

Mae'r ddogfen ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

1

Page 2: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Cynnwys

Adran 1 – Cyflwyniad 3

Adran 2 – Nodi, casglu a defnyddio gwybodaeth berthnasol 3

Ein Myfyrwyr 5Ein Staff 7

Adran 3 – Ein Hamcanion - Cynnydd Hyd Yma 9

EIN DIWYLLIANT: Diwylliant yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch Amcanion 1 a 2 9

EIN MYFYRWYR A’N STAFF: Profiad ysbrydoledig a chyfoethog i fyfyrwyr a staff ym meysydd addysg a gwaith

Amcanion 3, 4 a 5 10

EIN CYMUNEDAU: Annog a chefnogi cydlyniant cymunedol Amcan 6 14

Adran 4 CASGLIAD…………………..………………………………………………....18

Atodiadau 19

Atodiad 1 Camau’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol -Cynnydd Hyd YmaAtodiad 2 Data myfyrwyrAtodiad 3 Data cyflogaeth

2

Page 3: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

1 Ebrill 2013 – 31 Mawrth 2014

1 - Cyflwyniad

1.1 Cyflwyniad a chefndir

O dan Ddyletswyddau Penodol Cymru yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r Brifysgol (fel corff cyhoeddus) lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol a pharatoi adroddiad monitro blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.

Rhaid i’r adroddiad monitro blynyddol gynnwys datganiadau am gynnydd sy’n cynnwys:

y camau a gymerwyd i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol;

sut mae’r sefydliad wedi defnyddio’r wybodaeth;

y rhesymau dros beidio â chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol;

datganiad am effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol, a’r camau a gymerwyd i gyflawni pob un o’i amcanion cydraddoldeb;

cynnydd y sefydliad o ran cyflawni pob un o’i amcanion cydraddoldeb;

datganiad am effeithiolrwydd y camau mae’r awdurdod wedi’u cymryd i gyflawni pob un o’i amcanion cydraddoldeb

gwybodaeth benodedig am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflogau (oni bai bod y wybodaeth hon eisoes wedi’i chyhoeddi yn rhywle arall).

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Prifysgol Caerdydd yn amlinellu ei hamcanion a’i chynllun gweithredu ar gyfer cyflawni’r amcanion cydraddoldeb ar gyfer cyfnod 2012-2016. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd yn erbyn y cynllun ar gyfer cyfnod adrodd 1 Ebrill 2013 – 31 Mawrth 2014 (yn unol â'r dyletswyddau penodol). Mae diweddariadau ar gyfer 2014–15 wedi’u cynnwys hefyd, os ydynt ar gael.

2 – Nodi, casglu a defnyddio gwybodaeth berthnasol

2.1 Y camau a gymerwyd i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol;Nodwyd data monitro ar gyfer proffil amrywiaeth staff a myfyrwyr fel rhan o’r wybodaeth berthnasol y dylid ei chasglu i ategu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Er bod y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon wedi’i chofnodi eisoes, daeth rhai meysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw i'r amlwg mewn dadansoddiad cychwynnol o’r

3

Page 4: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

bylchau a gynhaliwyd wrth ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Yn benodol, nododd yr ymarfer nad oedd y Brifysgol yn casglu gwybodaeth am rai nodweddion gwarchodedig, sef crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol myfyrwyr. O ganlyniad i hyn, mae cwestiynau monitro ychwanegol wedi'u cynnwys yn y broses o gofrestru myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14.

I ategu data ystadegol, defnyddir gwybodaeth ansoddol am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr bob blwyddyn a'i chyflwyno i’r Grŵp Gweithrediadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn rhoi mwy o wybodaeth am faterion cydraddoldeb nad ydynt yn y data monitro fel arall.

Mae cwestiynau am nodweddion gwarchodedig y staff yn y system e-recriwtio a gyflwynwyd yn ddiweddar yn ogystal â system gwybodaeth reoli newydd Adnoddau Dynol - 'CRAIDD'. Caiff adroddiadau am ddata staff/cyflogaeth eu paratoi'n flynyddol. Cafodd adborth o arolwg diwethaf y staff ei ddadgyfuno hefyd yn ôl grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Caiff canlyniadau arolwg y staff yn y dyfodol eu defnyddio hefyd i lywio’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

2.2 Sut mae’r sefydliad wedi defnyddio’r wybodaeth;

Defnyddir data monitro staff a myfyrwyr mewn amrywiol ffyrdd i lywio cynnydd mewn cysylltiad â'r cynllun gweithredu cydraddoldeb ac i lunio camau gweithredu ychwanegol neu newydd yn ôl y gofyn. Defnyddir adroddiadau data monitro hefyd i lywio asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a chynlluniau gweithredu ar lefel Coleg/Ysgol lle y bo’n briodol.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb ad Amrywiaeth y Brifysgol yn adolygu adroddiadau data monitro yn flynyddol.

Defnyddir adroddiadau data monitro ar gyfer ceisiadau ‘Athena SWAN’, GEM (Marc Cydraddoldeb Rhywiol) a Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall y Brifysgol hefyd fel rhan ofynnol o’r broses o wneud cais ac i nodi materion perthnasol o ran tangynrychiolaeth a gallu cymryd camau cadarnhaol.

Ceir enghraifft o sut mae'r Brifysgol wedi defnyddio data monitro i ddatblygu camau perthnasol yn dilyn yr adolygiad o ddata monitro ar gyfer myfyrwyr ym mis Mawrth 2013. Cytunodd Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol i gynllun gweithredu penodol gael ei ddatblygu i gefnogi myfyrwyr anabl o ganlyniad i adolygiad o’r data am gynnydd myfyrwyr. Yn 2014-15, caiff data am ethnigrwydd ei ddefnyddio'n helaeth gan ddau weithgor a sefydlwyd i ystyried materion cydraddoldeb hiliol staff a myfyrwyr (er mwyn cymryd rhan ym 'Marc Siarter Cydraddoldeb Hiliol' yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb yn y dyfodol). Bydd y gweithgorau yn nodi materion perthnasol o ganlyniad i ddadansoddi data ac yn paratoi cynllun gweithredu i ddatblygu gwaith sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol. Caiff ymatebion mewn holiadur penodol i staff a myfyrwyr eu hystyried hefyd yn rhan o'r broses hon.

Mae’r tablau canlynol yn rhoi’r prif ffigurau ar gyfer staff a myfyrwyr. Ceir adroddiad ystadegol llawn yn Atodiadau 2 a 3.

4

Page 5: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Prif Ddata – Data Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

(Sylwer: Lluniwyd yr adroddiad hwn gyda data myfyrwyr ar gyfer 2012/13 i gyd-redeg â'r data meincnodi sydd ar gael. Mae'r prif adroddiad yn cynnwys dadansoddiad cynnar o ddata 2013/14 hefyd)

Rhyw:

Yn 2012/13, roedd 58% o'r holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd yn fenywaidd a 42% yn wrywaidd. Mae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13.

Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled y Brifysgol yn amrywio'n sylweddol ac yn parhau i adlewyrchu’r pynciau traddodiadol a ddewisir gan ddynion a menywod i raddau helaeth, sydd hefyd i’w weld yn y data meincnodi ar gyfer y DU.

Er bod menywod yn llai tebygol o wneud cais am leoedd ar gyrsiau traddodiadol 'wrywaidd', nid yw menywod yn llai tebygol o gael cynnig lle/cael eu derbyn ar y cyrsiau hyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae bwlch rhwng gwrywod a benywod o ran cyrhaeddiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae 7.9% yn fwy o israddedigion benywaidd yn cael gradd dosbarth cyntaf/2:1 o'i gymharu ag israddedigion gwrywaidd. Mae hyn yn debyg i ddata meincnodi Cymru ond mae'n uwch na'r bwlch yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (4.6%-4.9%).

Ethnigrwydd:

Roedd 10.5% o’r holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd oedd yn hanu o’r DU a ddatganodd ethnigrwydd yn 2012/13, o gefndir du neu leiafrif ethnig1. Mae cyfrannau'r myfyrwyr du a lleiafrif ethnig wedi codi bob blwyddyn er 2005.

Mae hyn yn is na chyfran y myfyrwyr o gefndir du neu leiafrif ethnig sy'n hanu o'r DU yn holl brifysgolion y DU yn 2012/13 (19.6%) a chyfran y myfyrwyr ym mhrifysgolion Grŵp Russell (17.2%), ond mae'n uwch na chyfran y myfyrwyr o gefndir du a lleiafrif ethnig ym mhrifysgolion Cymru (8%).

Mae 14.4% yn llai o israddedigion o gefndir du neu leiafrif ethnig sy'n hanu o'r DU yn cael gradd dosbarth cyntaf/2:1 o'i gymharu ag israddedigion gwyn sy'n hanu o'r DU sy'n cael gradd dosbarth cyntaf/2:1. Mae hyn ychydig yn is na'r bwlch o ran cyrhaeddiad ar gyfer y DU i gyd (16.1%) ac ychydig yn uwch na'r bwlch o ran cyrhaeddiad ar gyfer Cymru (13.4%).

Anabledd:

Roedd 8% o'r holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd yn anabl yn 2012/13 o'i gymharu â 9.5% o'r holl fyfyrwyr ar draws holl brifysgolion y DU (boed yn hanu o'r DU ai peidio). Ar draws prifysgolion Cymru, roedd 9.5% yn anabl, a dywedodd 7.5% o'r myfyrwyr ym mhrifysgolion Grŵp Russell fod ganddynt anabledd.

1 Du a Lleiafrif Ethnig Gan gynnwys, Du, Asiaidd, Tsieineaidd, cymysg a chefndir ethnig arall Cydnabyddir y diffiniad hwn yn eang, ond mae iddo gyfyngiadau gan ei fod yn awgrymu bod myfyrwyr lleiafrifoedd ethnig yn grŵp unffurf.

5

Page 6: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Yn 2012/13, roedd israddedigion anabl o Brifysgol Caerdydd yn llai tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf, ond yn fwy tebygol o ennill gradd 2.1 o'i gymharu â myfyrwyr heb anabledd. 4.6% oedd y bwlch cyffredinol o ran cyrhaeddiad ar gyfer myfyrwyr anabl ym Mhrifysgol Caerdydd a enillodd radd dosbarth cyntaf/2:1. Mae'r bwlch hwn yn uwch na'r un ar gyfer Cymru (0.7%), a'r DU yn gyffredinol, sef 2.1%.

Oedran:

Yn 2012/13, roedd 63.3% o'r holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd yn 21 oed neu'n iau. Mae hyn tua 10% yn uwch na'r data meincnodi ar gyfer prifysgolion y DU a Chymru.

Mae data dilyniant ym Mhrifysgol Caerdydd yn awgrymu bod cyfraddau parhau a chymhwyso yn is ymhlith y rhai sydd dros 22 oed. O'r rheini sydd dros 22 oed a raddiodd, roeddent yn fwy tebygol o gael gradd 2:2 neu drydydd dosbarth.

Mae'r tueddiadau hyn yn cyfateb i ddata meincnodi yn y DU.

Cyfeiriadedd Rhywiol:

Ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd cyfraddau datgelu uwch ymhlith myfyrwyr israddedig gyda thros 80% o fyfyrwyr israddedig yn ateb y cwestiwn gwirfoddol hwn.

Roedd 3.06% o fyfyrwyr israddedig y ystyried eu hunain yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol, a nodwyd 'arall' gan 1.06%.

Dywedodd 2.51% o fyfyrwyr ôl-raddedig eu bod yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol, ac 'arall' oedd y dewis a nodwyd gan 1.25%.

Ymhlith myfyrwyr ôl-raddedig y gwelwyd y cyfraddau uchaf o'r rhai oedd yn disgrifio eu hunain fel Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol (4.63%), ac roedd 1.81% ychwanegol yn disgrifio eu hunain fel 'arall'.

Dim ond ychydig o ddata meincnodi sydd ar gael ar gyfer y categori hwn, gan nad oes rhaid ei ddychwelyd i HESA.

Crefydd neu Gred:

Mae data ar gyfer 2013/14 ym Mhrifysgol Caerdydd yn nodi mai 'Dim crefydd/cred' oedd y categori uchaf a ddatgelwyd gan fyfyrwyr israddedig, myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Cristion oedd y categori uchaf nesaf gan ei fod wedi'i nodi gan 22%-27% o'r holl fyfyrwyr (israddedig, ôl-raddedig, ôl-raddedig a addysgir).

Roedd 5.38% o'r israddedigion, 7.46% o'r ôl-raddedigion, a 12.38% o'r ôl-raddedigion ymchwil yn Fwslemiaid (ymhlith y rhai a gyflwynodd y wybodaeth hon).

Dim ond ychydig o ddata meincnodi sydd ar gael ar gyfer y categori hwn, gan nad oes rhaid ei ddychwelyd i HESA.

6

Page 7: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Prif Ddata – Staff Prifysgol Caerdydd Mae’r canfyddiadau isod yn seiliedig ar gyfrif pennau fel y cofnodwyd ar y system Adnoddau Dynol ar 31 Mawrth 2014 (ac ar gyfer rhai adroddiadau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014). Nid yw’n cynnwys cytundebau dros dro.

Rhyw• Ymhlith y 6,535 o staff oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ar 31 Mawrth

2014, roedd 54% o'r holl staff yn fenywaidd ac roedd 46% yn wrywaidd. Mae hyn yn cyfateb i'r data meincnodi ar gyfer holl brifysgolion y DU a Chymru.

• Mae canran y staff benywaidd a gwrywaidd yn amrywio yn ôl rôl. Roedd 45% o'r academyddion yn fenywaidd a 65% o'r staff proffesiynol a chefnogi yn fenywaidd. Mae hyn unwaith eto'n cyfateb i ddata meincnodi ar gyfer y DU a Chymru.

Ethnigrwydd• Nododd 7% o holl staff Prifysgol Caerdydd eu bod o gefndir Du neu Leiafrif Ethnig,

roedd 85% yn Wyn, 6% yn Wyn Arall ac nid oedd y wybodaeth ar gyfer 1% yn hysbys.

• Yn ôl data meincnodi, mae canran uwch o staff Du neu Leiafrif Ethnig yn holl brifysgolion y DU (11.4%) ond bod canran is o staff Du neu Leiafrif Ethnig ym mhob un o'r prifysgolion yng Nghymru (5.7%).

Anabledd • Nododd 4.7% o holl staff Prifysgol Caerdydd eu bod yn anabl, nid oedd 80.1%

yn ystyried eu hunain yn anabl, roedd yn well gan 7.2% beidio â dweud, ac nid yw'r wybodaeth yn hysbys ar gyfer 8% o'r staff. hysbys.

• Ymhlith holl brifysgolion y DU, mae 3.9% o'r staff wedi datgan anabledd a 5.4% yw'r ffigur ar gyfer Cymru. Mae'r data yn 'anhysbys' ar gyfer 3.3% ar lefel y DU

Oedran• Roedd 32.4% o’r holl staff rhwng 35 a 44 oed; Mae hyn yn uwch na data

meincnodi'r DU a Chymru (26%).

• Wrth i'r oedran gynyddu, mae canran y staff benywaidd yn gostwng o gymharu â'r staff gwrywaidd. Ar lefel genedlaethol, mae cyfran y staff benywaidd yn gostwng ymhlith y rhai sydd dros 55 oed.

Crefydd a Chred• Nododd 26.6% o staff eu bod yn Gristnogion, ac roedd yn well gan 57.9% beidio â

dweud. Nododd 4.9% nad oedd ganddynt grefydd.

• Nid yw pob sefydliad addysg uwch yn y DU yn casglu data am grefydd neu gred. Cyflwynodd 95 o 162 sefydliad ddata i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac nid yw gwybodaeth gyffredinol am grefydd a chred yn hysbys ar gyfer 73.1% o'r staff sy'n gweithio yn y sector addysg uwch. Felly, nid oes data meincnodi ar gael.

Cyfeiriadedd Rhywiol• Nododd 52.7% o staff mai heterorywiol oedd eu cyfeiriadedd rhywiol, roedd 0.3%

yn Ddeurywiol, 0.7% yn Ddynion Hoyw, 0.5% yn Fenywod Hoyw/Lesbiaid ac 'Arall' oedd yr ateb gan 0.2%. Roedd yn well gan 45.5% beidio â dweud. Nid yw'r ystadegau meincnodi ar gael ar gyfer data cyfeiriadedd rhywiol staff ar lefel y DU.

7

Page 8: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

2.3 Rhesymau dros beidio â chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol a nodwyd ond na chedwir;Cynhaliwyd adolygiad o ddata yn 2013 a nodwyd y rhesymau canlynol dros beidio â chasglu data:

Ailbennu Rhywedd Yn seiliedig ar gyngor y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a nododd fod angen cymryd gofal penodol wrth fonitro hunaniaeth o ran rhywedd a bod problemau penodol mewn perthynas â defnyddio a chyhoeddi’r data o ganlyniad i niferoedd isel, cytunwyd na fydd data ystadegol ar gyfer myfyrwyr yn cael ei gasglu ar gyfer y nodwedd warchodedig hon nawr, a defnyddir ffynonellau gwybodaeth eraill i lywio gweithgareddau perthnasol. Mae data staff am ailbennu rhywedd wedi'i gasglu ers 2014; fodd bynnag, nid yw'r canfyddiadau data wedi'u cyhoeddi yn yr adroddiad blynyddol gan mai nifer isel iawn sydd o dan sylw.

Beichiogrwydd a Mamolaeth Ni chesglir data ystadegol am feichiogrwydd a mamolaeth ar hyn o bryd. Argymhellir chwilio am ffyrdd eraill o fesur effaith beichiogrwydd a mamolaeth e.e. drwy gyfrwng gwybodaeth ansoddol.

Priodas a Phartneriaeth Sifil Nid argymhellir bod data am briodas a phartneriaeth sifil yn cael ei gasglu ar gyfer myfyrwyr gan nad yw hon yn nodwedd warchodedig ar gyfer gofynion addysg bellach ac addysg uwch ac felly nid yw’n cynnwys myfyrwyr. Bwriedir i drefniadau ar gyfer casglu data staff ar briodas a phartneriaeth sifil gael eu rhoi ar waith tua diwedd y flwyddyn.

2.4 Effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol a’r camau a gymerir i gyflawni pob amcan cydraddoldeb;Dros y tair blynedd ddiwethaf gwnaed ymdrechion sylweddol i gasglu’r wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb yn dilyn canllawiau gan CCAUC a’r Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb. O ganlyniad i hyn, mae llawer iawn o ddata ar gael, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud yn siŵr bod y data ar gael i bawb sydd ei angen ledled y Brifysgol mewn fformat ystyrlon er mwyn llywio amrywiaeth o weithgareddau. Mae trafodaethau ar waith hefyd i goethi’r wybodaeth a gaiff ei chasglu a’i dadansoddi gennym.

Caiff gwybodaeth am y camau a gymerwyd i gyflawni pob un o’r amcanion cydraddoldeb ei chynnwys yn y diweddariadau i’r cynllun gweithredu ac mewn adroddiadau monitro blynyddol ac fe’u crynhoir isod.

8

Page 9: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

3 – Ein Hamcanion - Cynnydd Hyd Yma

Ceir crynodeb isod o’r mentrau a’r gweithgareddau a gynhaliwyd i ddatblygu amcanion cyffredinol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Ceir adroddiad llawn am gynnydd yn Atodiad 1.

Mae'r diweddariad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd mwyaf diweddar ar gyfer 2013-14. Mae cynnydd dros y blynyddoedd blaenorol wedi'i gynnwys yn fforwm perthnasol yr adroddiadau blynyddol ar wefan y Brifysgol: http://www.caerdydd.ac.uk/govrn/cocom/equalityanddiversity/stratequalplan/index.html

AMCAN 1: Ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mywyd y Brifysgol drwy weithgareddau targed megis hyfforddiant, ymwybyddiaeth a chyfathrebu. Mae rhaglen barhaus o hyfforddiant orfodol i staff wedi’i rhoi ar waith sy’n gorfodi pob aelod o staff i gwblhau hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein. Rhaid i'r holl staff perthnasol gael hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth wedi hynny hefyd. Caiff diweddariadau i’r hyfforddiant eu monitro’n rheolaidd a hysbysir y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Briffiad penodol am gydraddoldeb i aelodau'r cyngor a gynhaliwyd yn 2014 gan gynnwys trafodaeth am rôl y Cyngor wrth weithredu dyletswyddau (sector cyhoeddus) o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cynhaliwyd nifer o fentrau i wella cyfathrebu a hybu ymgysylltiad yn 2013-14. Yn 2014, sefydlodd Uned Cydraddoldeb y Brifysgol gyfrif Twitter a ddefnyddir yn rheolaidd i gyfathrebu datblygiadau/mentrau cydraddoldeb. Cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffau hefyd ar gyfer calendr cydraddoldeb yn 2014 i amlygu dyddiadau allweddol ar gyfer 2015. Ei nod oedd codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac annog ymgysylltu wrth amlygu pwysigrwydd hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled y Brifysgol. Mae'r Uned Cydraddoldeb yn paratoi bwletinau rheolaidd am Amrywiaeth. Mae'r rhain yn rhoi'r newyddion diweddaraf am wybodaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb a mentrau, ac mae swyddogion cydraddoldeb ym mhob un o Ysgolion ac Adrannau'r Brifysgol yn eu dosbarthu.

Mae Prifysgol Caerdydd yn annog ei staff i gymryd rhan mewn rhwydweithiau cydraddoldeb fel bod grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig yn cymryd rhan yn barhaus ym materion cydraddoldeb. Ychwanegwyd sesiwn newydd yn rhan o hyfforddiant ymsefydlu staff yn 2014 fel bod staff newydd yn cael cyflwyniad i’r rhwydweithiau cydraddoldeb a manteision ymuno â rhwydwaith. Cyhoeddodd y Brifysgol erthygl yn ei chylchlythyr mewnol yn 2014 i roi gwybodaeth am y

9

Page 10: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

rhwydweithiau sydd ar gael ac i gadarnhau bod uwch-reolwyr yn cefnogi staff i gymryd rhan yn y rhwydweithiau cydraddoldeb. Cafodd Grŵp Rhwydwaith Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT +) y Brifysgol ei henwi'r 'Grŵp Rhwydwaith Gorau gan Gyflogwr yng Nghymru' gan Stonewall Cymru yn 2014.

Rhoddwyd cynllun penodol ar waith yn 2014 hefyd i gyfathrebu â myfyrwyr (a darpar fyfyrwyr) drwy ddatblygu podlediad am gydraddoldeb. Roedd ar gyfer pob myfyriwr ac yn amlinellu ymrwymiad y Brifysgol at gydraddoldeb. Cafodd y Brifysgol farciau llawn (10/10) yn 2013 a 2014 hefyd am y wybodaeth sydd ar gael ar ei gwefan ar gyfer darpar-fyfyrwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (yr unig brifysgol yng Nghymru i ennill y wobr hon yn 2014, ac un o 5 prifysgol yn unig yn y DU).

Lansiodd y Brifysgol 'Wobr Rhagoriaeth' newydd yn 2014 i gydnabod cyfraniad staff cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd hefyd yn cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o sut mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi cyfraniad at faterion cydraddoldeb.

AMCAN 2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig er mwyn deall anghenion gwahanol grwpiau yn well.Mae adroddiadau Gwrthrychau Busnes wedi cael eu paratoi er mwyn monitro gwybodaeth am fyfyrwyr, yn benodol felly o ran derbyniadau, nifer y myfyrwyr, cynnydd a chyrhaeddiad. Mae system newydd ar gyfer casglu data ar gyfer staff wedi’i chyflwyno sy’n rhoi cyfle i staff ddiweddaru eu cofnodion eu hunain mewn perthynas ag amrywiaeth yn uniongyrchol ar y system Adnoddau Dynol ‘Craidd’.

Cafodd y System Craidd a'r Porth Craidd eu huwchraddio ym mis Gorffennaf 2014. Bryd hynny, anfonwyd mwy o wybodaeth at yr holl staff drwy erthygl mewn cylchlythyr mewnol i annog staff i fewngofnodi i'r Porth Craidd a diweddaru eu manylion. Eglurodd yr erthygl wrth y staff y rhesymau dros gasglu data amrywiaeth. Roedd hefyd yn eu hannog i ddatgelu data am gydraddoldeb drwy esbonio sut caiff y data ei gadw'n gyfrinachol.

Caiff hyn ei wneud yn barhaus yn y dyfodol er mwyn monitro'r data'n rheolaidd ac i weld sut gallwn adrodd yn well yn y maes hwn.

AMCAN 3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau cefnogol a chynhwysol, gan gynnwys cwricwla cynhwysol ac amgylchedd ffisegol.

Mae'r holl bolisïau newydd a gafodd eu hamlygu fel camau gweithredu ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi'u datblygu erbyn hyn ar wahân i'r Polisïau

10

Page 11: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

a'r Canllawiau am Famolaeth, Tadolaeth a Chyd-fagu a ddylai fod yn barod i'w cyflwyno'n derfynol ym mis Chwefror 2015.

Lluniwyd canllawiau am ddatblygu’r cwricwlwm cynhwysol gyda chyngor i academyddion o ran cynllunio a darparu dysgu ac addysgu. Erbyn hyn, mae'r broses ar gyfer asesu sut mae ysgolion yn gweithredu egwyddorion cynhwysol y cwricwlwm wedi'i hymgorffori ym mhroses adolygu ganolog Adolygiad Blynyddol y Brifysgol.

Mae'r Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn yr Is-adran Adnoddau Dynol wedi cyflwyno hyfforddiant canolog a phwrpasol am Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb. Mae'r hyfforddiant hwn yn parhau i fod ar gael i staff. Mae'r dudalen am Asesu Effaith ar Gydraddoldeb yn cynnwys gwybodaeth am becyn cymorth y Brifysgol, yr hyfforddiant sydd ar gael, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am gwblhau asesiadau effaith ar gydraddoldeb. Ystyriodd Grŵp Gweithredol Amrywiaeth a Chydraddoldeb y camau angenrheidiol i ddatblygu proses ar gyfer cynnal a chyhoeddi Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2013. Mae hyn wedi arwain at beilota templed newydd a chanllawiau yn 2014 ar gyfer cynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb ynghylch penderfyniadau perthnasol ac ar ailstrwythuro. Mae gwefan yr Uned Cydraddoldeb, sy'n rhoi gwybodaeth am Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb, wedi'i diweddaru gan ei bod bellach yn rhoi asesiadau enghreifftiol a dolenni i ffynonellau data perthnasol.

Mae Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac am Symudedd Allanol ymhlith yr asesiadau pwysig a gwblhawyd yn 2013-14.

Er mwyn hyrwyddo proses hyrwyddo gynhwysol, cynhaliodd y Brifysgol ddigwyddiadau wedi'u teilwra cyn dechrau ymarfer hyrwyddo academaidd 2012/13. O ganlyniad i strwythurau newydd y Coleg, cynhelir gweithdai ar y lefel hon i gefnogi'r prosesau newydd sydd eu hangen ar gyfer sesiwn 2013/14.

Lansiodd y Brifysgol ei rhwydwaith 'Menywod Caerdydd' newydd yn 2014 gyda digwyddiad ar gyfer 2014-15 a chynllun mentora newydd yn cael ei beilota. Cafodd hyfforddiant Hwb i Gynnydd Gyrfaol ei beilota yn 2011 ac mae bellach wedi'i ymgorffori ym mhrif Raglen Digwyddiadau Datblygu Staff. Mae'r Brifysgol yn cynnal hyfforddiant 'Datblygiad Gyrfaol i Academyddion Benywaidd' hefyd.

Llwyddodd y Brifysgol i adnewyddu ei Gwobr Efydd Athena Swan (sy'n ceisio hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer menywod, yn enwedig mewn pynciau anhraddodiadol e.e. gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg, mathemateg, meddygaeth) ym mis Medi 2014. Mae gan dair o ysgolion STEMM y Brifysgol

11

Page 12: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

ddyfarniadau arian ac mae gan chwech ohonynt ddyfarniadau efydd. Mae saith o ysgolion STEMM y Brifysgol wrthi'n paratoi eu cyflwyniad ar gyfer Athena SWAN 2014. Mae dwy o Ysgolion y Brifysgol nad ydynt yn rhai STEMM yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol wedi ennill Marc Siarter Efydd am Gydraddoldeb Rhywiol ym mis Awst 2014.

Cymeradwyodd Comisiynydd y Gymraeg Gynllun Iaith Gymraeg diwygiedig y Brifysgol a'r Cynllun Gweithredu ategol ym mis Chwefror 2014. Grŵp Llywio'r Gymraeg (a gadeirir gan y Prif Swyddog Gweithredol) sy'n hwyluso'r gwaith o'i gyflwyno, a chyflwynir adroddiad blynyddol i'r Comisiynydd.

Rhoddodd y Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fewnbwn i ymgynghoriad cynllunio'r Is-adran Ystadau mewn cysylltiad â sut i ymgorffori materion sy'n ymwneud ag amgylchedd ffisegol cynhwysol yn strategaeth gynllunio'r Is-adran Ystadau. Mae cynrychiolydd o Is-adran Ystadau'r Brifysgol bellach yn aelod o Grŵp Gweithrediadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth erbyn hyn, a chafwyd trafodaeth yn 2014 am drefniadau cyfredol y Brifysgol ar gyfer cyfleusterau penodol e.e. ystafelloedd tawel, cyfleusterau bwydo ar y fron a newid cewynnau yn ogystal â gwneud yn siŵr y caiff mynediad a gofynion eraill eu hystyried wrth ddatblygu adeiladau newydd.

AMCAN 4: Adolygu a mynd i’r afael â grwpiau a dangynrychiolir mewn perthynas â recriwtio, cadw a chynnydd/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr.

Yn unol ag Amcan y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, mae’r Brifysgol wedi llunio dau adroddiad cynhwysfawr am ddata monitro (Atodiadau Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol) yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig myfyrwyr a staff. Mae’r data yn edrych ar bwyntiau allweddol yn y cylch cyflogaeth/astudio. Mae’r adroddiadau data monitro ar gyfer staff/cyflogaeth yn cynnwys data am recriwtio, niferoedd y staff, cynnydd a’r niferoedd sy’n gadael (yn ogystal â data perthnasol eraill). Mae’r adroddiadau data monitro ar gyfer myfyrwyr yn ystyried nifer y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn, eu cynnydd a'u cyrhaeddiad. Lle y bydd adroddiadau monitro yn nodi achos o dangynrychiolaeth, caiff hyn ei amlygu yn yr adroddiad monitro a hysbysir y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ohono er mwyn iddo ystyried camau perthnasol.

Er mwyn gallu adolygu data am gynnydd a chyrhaeddiad yn fwy cyson, paratowyd adroddiadau newydd yn 2014 yn rhan o fenter cydweithredu rhwng y Gofrestrfa ac Is-adran Llywodraethu'r Brifysgol. Bydd yr adroddiadau hyn yn rhoi data cyson a gynhyrchir gan y ddwy adran gan olygu bod modd adrodd yn ôl yn well ac yn fwy cyson i bwyllgorau perthnasol y Brifysgol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried dull cydlynol o gasglu data eraill am staff a myfyrwyr.

12

Page 13: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Fel rhan o’n gwaith ar gyfer Athena SWAN a’r Marc Cydraddoldeb Rhywiol, ystyrir y rhesymau dros dangynrychiolaeth/diffyg cynnydd staff ar gyfer y nodwedd warchodedig ‘rhyw’ a rhoddir camau ar waith i geisio mynd i’r afael â chynrychiolaeth annigonol/diffyg cynnydd. Mae hyfforddiant penodol am y broses ddyrchafu ar gael i bob aelod o staff ynghyd â hyfforddiant penodol am Ddatblygiad Gyrfaol i Academyddion Benywaidd, wedi’i anelu at fenywod fel Mesur Gweithredu Cadarnhaol. Caiff setiau data am ddyrchafiadau eu mesur bellach yn ôl rhyw, ac mae wedi dangos, yn ddiddorol ddigon, gynnydd mewn ceisiadau a chyfraddau llwyddiant gan fenywod dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer academyddion benywaidd.

Mae'r Brifysgol wedi sefydlu gweithgorau staff a myfyriwr hefyd i ddechrau gwaith cychwynnol tuag at Farc Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr o ddata am ethnigrwydd staff a myfyrwyr a bydd yn nodi nifer o gamau perthnasol o ganlyniad i adolygu'r data.

Mae'r Brifysgol yn parhau i gymryd rhan ym Mynegai Stonewall am Gydraddoldeb yn y Gweithle fel bod dull wedi'i dargedu o adolygu cynnydd a phennu camau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb staff a myfyrwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Llwyddodd y Brifysgol i gael ei henwi'n un o'r '100 cyflogwr gorau' yn 2014 (am y bedwaredd flwyddyn yn olynol). Datblygodd 'Enfys', sef rhwydwaith staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol y Brifysgol, bodlediad o'r enw 'Daw Pethau'n Haws' yn 2014 (yn rhan o fenter ryngwladol ehangach 'It gets better'). Cafodd ei ddosbarthu'n eang ac mae'n cynnwys neges gan yr Is-Ganghellor a'r uwch-staff am bwysigrwydd trin pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn gyfartal.

Mae'r Brifysgol wedi llofnodi Adduned 'Amser i Newid' yn 2014. Dyma fenter a gynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth a lleihau stigma sy'n ymwneud â materion iechyd meddwl.

AMCAN 5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb mewn perthynas â chyflog staff a strwythurau cysylltiedig.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella ym maes cyflog cyfartal.  Erbyn hyn, mae'r gweithgor cyflog cyfartal yng nghamau olaf eu trafodaethau gyda'r undebau llafur ynglŷn â'u drydydd Archwiliad Cyflog Cyfartal.  Ar ôl cwblhau'r adroddiad archwilio, bydd cynllun gweithredu manwl gydag amserlenni'n cael ei lunio er mwyn gallu canolbwyntio ar y camau a nodwyd.

Mae trafodaethau'n parhau gydag Uwch-reolwyr ynglŷn â thaliadau goramser/patrymau gwaith fel bod taliadau o'r fath yn gyson a chydlynol ar draws

13

Page 14: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

y Brifysgol. Er mwyn symud y gwaith hwn yn ei flaen ymhellach, bydd y gwaith yn cael ei rannu'n ddwy ffrwd yn ôl pob tebyg, gydag un ffrwd yn canolbwyntio ar drefniadau goramser ar gyfer graddau 1-4. Yn sgîl y rhaniad hwn, bydd datblygu polisi newydd, ymgynghori arno, a'i gyflwyno yn 2014/15.

AMCAN 6: Cynnal gweithgareddau ymgysylltu (yn fewnol ac yn allanol) a meithrin cysylltiadau da er mwyn hyrwyddo cydweithredu allanol, ehangu mynediad a chyfathrebu. Mae gwaith cydweithredol wedi'i gynnal yn rhan o ddigwyddiadau ymgysylltu'r Brifysgol am faterion cydraddoldeb e.e. Mis Hanes Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Bu’r Brifysgol yn gweithio gyda Stonewall hefyd i dreialu sut y gallai ystyriaeth o gyfeiriadedd rhywiol gael ei chynnwys yn y cwricwlwm.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn aelod gweithgar o’r Cynllun Mentora Menywod mewn Prifysgolion a’r fenter Aurora gyda nifer o fenywod yn elwa ar y cymorth o gynlluniau hunanddatblygu o’r fath.

Mae’r Brifysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran hyrwyddo amrywiaeth a meithrin cysylltiadau da drwy gyfrwng yr agenda ryngwladoli gan gynnwys datganiadau rheolaidd i’r wasg ar weithgareddau rhyngwladol e.e. teithiau tramor gan yr Is-Ganghellor, dirprwyaethau rhyngwladol yn ymweld â Chaerdydd a chydweithrediadau rhyngwladol newydd neu sy’n cael eu datblygu. Mae’r Brifysgol wedi rhoi prosiect ar waith i gynyddu symudedd myfyrwyr allanol tuag at y targed a geir yn ‘Y Ffordd Ymlaen’. Bydd hyn yn cynorthwyo’r Brifysgol i feithrin gallu a dealltwriaeth ddiwylliannol ac ieithyddol ymhlith poblogaeth myfyrwyr Caerdydd.

Cytunwyd ar dargedau ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a chynyddu’r gweithgareddau a gynhelir mewn gwledydd newydd er mwyn amrywio’r boblogaeth myfyrwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd e.e. Brasil, Mecsico, Indonesia, Wcrain.

Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y Prosiect Symudedd Allanol ac unrhyw effaith bosibl ar grwpiau nodweddion gwarchodedig gwahanol. Nodwyd nifer o gamau o ganlyniad i’r Asesiad a fydd yn cael eu rhoi ar waith gan y Rheolwr Astudio Dramor a Chyfnewidiadau a’r Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (GOVRN). Mae’r camau’n cynnwys monitro myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau drwy edrych ar ddata ansoddol a meintiol.

Mae Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn datblygu’n fwy strategol gyda phedwar Clwstwr Caerdydd ac mae tiwtoriaid bellach wedi’u recriwtio. Llwyddwyd i gyrraedd y targed o sicrhau chwe Llwybr Cynnydd erbyn diwedd 2013/14. Mae cysylltiadau â Sefydliadau Addysg Bellach yn datblygu gyda nifer gynyddol o fyfyrwyr hŷn yn mynychu ‘Consider Cardiff’ a’n ‘Cynllun Cynefino i Fyfyrwyr Hŷn’.

Mae Is-adran Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol yn trefnu’n rheolaidd bod myfyrwyr yn ymweld ag ysgolion a cholegau e.e. drwy Sioeau Teithiol. Mae’r adran Recriwtio

14

Page 15: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

Myfyrwyr hefyd yn cynnal clwb cymorth gwaith cartref i fyfyrwyr sy’n gadael gofal yr awdurdod lleol. Bydd Prosiect Myfyrwyr a Thiwtoriaid LEARN yn ehangu yn 2013/14 i gynnwys tiwtoriaid gwirfoddol o adran Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd.

Cynnydd pob cam gweithredu

Mae swyddogion y nodwyd eu bod yn gyfrifol am gamau gweithredu sy’n ategu amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi rhoi diweddariadau rheolaidd dros y flwyddyn ac mae’r rhain wedi’u coladu yn Atodiad 1. Yn y siart canlynol dangosir cynnydd cyffredinol yn erbyn amserlenni.

Cynnydd camau gweithredu yn erbyn amserlenni

Nifer

Cwblhawyd 34

Parhaus – wedi'i gwblhau eleni a chaiff ei ailadrodd y flwyddyn nesaf

36

Yn unol â'r amserlen 10

Ychydig ar ei hôl hi 8

Cyfanswm 88

Canran y camau a gwblhawyd

Cwblhawyd; 39%

Yn mynd rhagddo – Cw-

blhawyd ar gyfer y flwyddyn bresennol 41%

Yn unol â'r amserlen; 11%

Ychydig ar ei hôl hi; 9%

Crynhoir y camau gweithredu hynny a oedd ychydig ar ei hôl hi o ran yr amserlen fel a ganlyn:

Amcan 2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig er

15

Page 16: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

mwyn deall anghenion gwahanol grwpiau yn wellCam Cyfrifoldeb Sylw2.4Gweithredu camau sy'n deillio o'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb parthed derbyn myfyrwyr er mwyn gwella cyfraddau datgelu ac adolygu'r rhesymau dros dangynrychiolaeth mewn rhai meysydd.

Pennaeth Derbyn Myfyrwyr(Y Gofrestrfa)

Mae'r adolygiad o'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a gynhaliwyd yn 2011 yn parhau i gael ei gynnal. Mae nifer o gamau gweithredu sy'n deillio o'r Asesiad cyntaf o Effaith ar Gydraddoldeb wedi'u gweithredu erbyn hyn.

Amcan 3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau cefnogol a chynhwysol, gan gynnwys cwricwla cynhwysol ac amgylchedd ffisegol.Cam Cyfrifoldeb Sylw3.8b) Paratoi a lledaenu polisïau a chanllawiau am Famolaeth, Tadolaeth a Chyd-fagu i fyfyrwyr

Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth -GOVRN

Mae'r gwaith hwn yn datblygu ar hyn o bryd (mae'r polisïau a'r canllawiau wedi eu drafftio a chynhelir ymgynghoriad ynglŷn â'r drafft). Fodd bynnag, ni fydd yn barod erbyn y dyddiad cwblhau.

3.16a. Adolygu'r strategaethau i wneud yn siŵr bod gwaith newydd gan yr Is-adran Ystadau yn cydymffurfio ag egwyddorion dylunio cynhwysol a gofynion pobl anabl.

Ystadau Mae rhywfaint o waith wedi'i wneud, ond mae newidiadau mewn strwythurau wedi ei oedi.

3.21Adolygu sut y cofnodir myfyrwyr anabl ar y System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SIMS).

Cyfarwyddwr, y Ganolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyra Chyfarwyddwr REGIS

Mae'r gwaith wedi dechrau, ond mae angen newid yr adroddiad am Wrthrychau Busnes.

Amcan 4: Adolygu a mynd i’r afael â grwpiau a dangynrychiolir mewn perthynas â recriwtio, cadw a chynnydd/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr.Cam Cyfrifoldeb Sylw4.3Lleihau cyfradd y staff sy'n rhoi 'ddim yn hysbys' fel ateb i'r cwestiwn am grefydd, cred a chyfeiriadedd rhywiol, i 20%.

Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth HUMRS

Nid yw'r targed am gael ei gyrraedd eto ar gyfer y gyfradd datgelu

Ar ôl trafod y cam hwn yng nghyfarfod y Grŵp Gweithrediadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, caiff mwy o wybodaeth ei hymgorffori yn y

16

Page 17: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

cam hwn. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut cyflawnir y cam (e.e. cyfleu neges gadarnhaol am ddatgelu, camau i greu amgylchedd cadarnhaol lle mae staff yn hyderus ynghylch datgelu gwybodaeth).

4.6Staff - Monitro'r nifer sy'n manteisio ar gyfleoedd gweithio hyblyg (o dan y cynllun cydbwysedd bywyd a gwaith) a chyfleoedd gweithio rhan-amser.

Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - HUMRS

Bydd data ar gael am geisiadau a gedwir yn ganolog i weithio'n hyblyg sydd wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo'n swyddogol yn unig. Ar hyn o bryd, nid yw'r Brifysgol yn cofnodi ceisiadau a wrthodwyd. Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth HUMRS i archwilio a oes modd monitro hyn.

4.12Gweithio gyda chysylltiadau Ehangu Mynediad i wneud yn siŵr bod data monitro cydraddoldeb sy'n berthnasol i faes ehangu mynediad yn rhan o'r Strategaeth Ehangu Mynediad a Chadw, a bod cysylltiadau rhwng materion ehangu mynediad a chydraddoldeb.

Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth -GOVRNRheolwr Ehangu Mynediad a Phennaeth Recriwtio Israddedigion

Rhai cysylltiadau wedi'u gwneud, ond byddai cysylltiadau gwell o fantais wrth symud ymlaen.

Amcan 5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb mewn perthynas â chyflog staff a strwythurau cysylltiedigCam Cyfrifoldeb Sylw5.2Adolygu taliadau patrwm gwaith i wneud yn siŵr bod pob un yn rhoi cyfiawnhad gwrthrychol dros wahaniaethau mewn cyfanswm cyflogau dynion a menywod.

Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth HUMRS

Mae gwaith yn cael ei wneud ond nid o fewn y terfyn amser.

Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma'n cynnwys:

- Sefydlu gweithgor i ystyried meysydd perthnasol, gwaith i'w ehangu ac mae polisi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd

Ceir adroddiad llawn am y camau sy’n ategu pob un o amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn Atodiad 1.

17

Page 18: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

4 - Casgliad

Sefydlwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2012-16 yn y lle cyntaf, ac mae llawer o'r camau a gynlluniwyd naill ai wedi eu cyflawni neu'n cael eu datblygu. Dros y flwyddyn nesaf, caiff y cynllun ei adolygu'n llawn a chyhoeddir cynllun gweithredu newydd erbyn mis Ebrill 2016.

Mae modd nodi rhai o'r casgliadau yn yr adroddiad hwn a'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol fel hyn:

1. Nodi, casglu a defnyddio gwybodaeth berthnasol:

Fel rhan o'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2012-2016) cyfredol, mae'r Brifysgol wedi cymryd nifer o gamau i nodi data perthnasol fydd yn llywio ein dyletswyddau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y ddyletswydd i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb.

Er bod gofynion data perthnasol wedi'u nodi, a sawl gweithdrefn adrodd wedi'i roi ar waith, byddai camau pellach i wneud yn siŵr bod data ar gael i lywio holl weithgareddau perthnasol cylchol staff a myfyrwyr o fantais. Mae gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â chywirdeb data, sefydlu prosesau cyson o adrodd am ddata, mapio gofynion data ar gyfer pob gweithgaredd perthnasol, ac annog datgelu data yn parhau yn y flwyddyn weithredu olaf.

2. Prif Ddata am Staff a Myfyrwyr:

Data Myfyrwyr

Mae data myfyrwyr yn dangos y ceir heriau parhaus o ran dewis pynciau anhraddodiadol a'r gwahaniaeth mewn cynnydd a chyrhaeddiad (yn enwedig parthed ethnigrwydd ac oed). Er bod data Prifysgol Caerdydd yn debyg i'r data meincnodi sydd ar gael ar gyfer holl brifysgolion y DU o ran dewis pynciau anhraddodiadol, cynnydd a chyrhaeddiad, mae'r Brifysgol yn cydnabod yr angen i roi camau ar waith i ymdrin â'r materion a godwyd yn y dadansoddiad data. Bydd y camau a weithredir yn 2015-16 ac sydd wedi'u datblygu'n rhan o'r adolygiad o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ystyried sut gellir targedu'r materion hyn fel rhan o agenda gyffredinol y Brifysgol. Bydd y Brifysgol hefyd yn mynd ati i weithredu'r fframweithiau a ddatblygwyd ar lefel genedlaethol e.e. Marc Siarter Cydraddoldeb Hiliol i fynd i'r afael â materion cyffredin a godwyd gyda data Prifysgol Caerdydd a data meincnodi ar lefel y DU.

Data Staff

Mae newid i system electronig 'hunanwasanaeth' fel bod staff yn diweddaru eu data eu hunain wedi cyflwyno rhai heriau a chyfleoedd ar gyfer lleihau cyfran y data 'anhysbys' sydd gan y Brifysgol ar gyfer staff. Bydd y Brifysgol yn parhau i geisio gwella'r data hwn

18

Page 19: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

fel cam gweithredu ar gyfer 2015-16. Bydd mynd i'r afael â thangynrychiolaeth menywod mewn uwch-swyddi yn parhau i fod yn gam a flaenoriaethir yn 2015-16 ac yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig ar gyfer 2016-2020 gan fod y Brifysgol yn parhau i ymrwymo i geisio ennill achrediad Athena Swan. Mae data meincnodi’n dangos bod tangynrychiolaeth menywod mewn swyddi academaidd ac uwch yn broblem ym mhob prifysgol yn y DU gan mai dim ond 20.1% o sefydliadau sydd â menywod yn bennaeth arnynt (2012/13). Bydd y sylw hwn yn cael ei ehangu i gynnwys tangynrychiolaeth staff Du a Lleiafrif Ethnig mewn uwch-swyddi hefyd. Caiff hyn ei wneud yn y lle cyntaf drwy weithio gyda fframwaith cynllun peilot Marc Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn 2015-16.

3. Ein Hamcanion - Cynnydd Hyd Yma

Yn ôl y disgwyl, ar ddechrau blwyddyn weithredu olaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyfredol, bu cynnydd gyda mwyafrif y camau a nodwyd.

Mae newid o weithredu deddfwriaeth sy'n ymwneud â 'meysydd cydraddoldeb' penodol, i ddull mwy cynhwysol o drin nodweddion gwarchodedig a gwneud yn siŵr y ceir dealltwriaeth o'r newid yn y fframwaith deddfwriaethol, wedi bod yn gam gweithredu pwysig i'r Brifysgol yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyfforddiant staff cynhwysfawr ar waith bellach yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr gael gwybodaeth/hyfforddiant. Mae cyfleoedd i hyrwyddo diwylliant sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'u gweithredu hefyd gan fod nifer o strwythurau i rannu gwybodaeth ac arferion da ar waith erbyn hyn.

Bydd cyfleoedd i wella dealltwriaeth ac ymgysylltiad (mewnol) o ofynion cymorth penodol grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig yn parhau yn 2015-16 yn ogystal â chyfleoedd i fynd i'r afael â materion a amlygwyd drwy ddadansoddi'r data monitro (uchod).

Mae'r broses asesu effaith yn cael ei adolygu i sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer gweithredu ein dyletswydd yn y sector cyhoeddus i roi 'sylw dyledus' i gydraddoldeb fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.

Er y nodwyd bod rhywfaint o'r gwaith wedi'i wneud i feithrin amgylchedd cynhwysol ar gyfer ar gyfer myfyrwyr a staff, caiff mwy o waith ei wneud yn y maes hwn yn 2015-16 a'i ymgorffori yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig fel y bo'n briodol.

Mae trefniadau ymgysylltu allanol y Brifysgol wedi datblygu'n sylweddol, ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros y 3 blynedd diwethaf a bydd hyn yn parhau yn 2015-16 ac yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf.

Fel casgliad cyffredinol, nodwyd bod llawer o'r camau yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol yn rhai sy'n 'mynd rhagddynt'. Felly, bydd datblygu camau gweithredu yn y dyfodol yn elwa ar ddefnyddio dull sy'n fwy seiliedig ar ddull CAMPUS er mwyn gallu mesur cynnydd yn haws bob blwyddyn.

Nodir hefyd bod cyfnod gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn wedi bod yn gyfnod o gryn newid i Brifysgol Caerdydd a Sectorau Addysg a Chyhoeddus yn

19

Page 20: €¦  · Web viewMae hyn ychydig yn uwch na chyfran y myfyrwyr benywaidd yn holl brifysgolion y DU, Grŵp Russell, a phrifysgolion Cymru yn 2012/13. Mae proffil rhyw myfyrwyr ledled

gyffredinol. Felly, bydd cydredeg yn agosach â strategaethau a phrosiectau cyffredinol y Brifysgol yn ffactor pwysig wrth lunio'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf.

20