149 £3,942 18 82% 87% 96% - ysgol y gwernant · 2016. 12. 14. · ein hysgol mewn ffeithiau 149...

6
Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl yw’r gymhareb Disgbl i Athro 82% 87% 96% yn cyrraedd y deilliannau disgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen yn cyrraedd y lefel disgwyledig yng Nghyfnod Allweddol 2 yw cyfradd presenoldeb am y flwyddyn ysgol gyfan Ysgol Y Gwernant Adroddiad y Llywodraethwyr 2015-2016

Upload: others

Post on 22-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Ein Hysgol mewn Ffeithiau

149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r

ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob

Disgybl yw’r gymhareb Disgbl

i Athro

82% 87% 96% yn cyrraedd y

deilliannau disgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen

yn cyrraedd y lefel disgwyledig yng

Nghyfnod Allweddol 2

yw cyfradd presenoldeb am y

flwyddyn ysgol gyfan

Ysgol Y Gwernant Adroddiad y Llywodraethwyr 2015-2016

Page 2: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Ambell air...

Ar ran holl aelodau’r Corff Llywodraethol rwy’n falch o gyflwyno Adroddiad y Llywodraethwyr Blynyddol. Bydd hwn yn rhoi cip olwg i chi o berfformiad yr ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd diwethaf (2015/16) a’r cynlluniau ar gyfer 2016/17. Mae nifer helaeth o ddata ar gael ar gyfer dadansoddi llawer o agweddau’r ysgol. At ddiben yr adroddiad hwn, ac yn unol â’n dyletswydd statudol, darparwn uchafbwyntiau a luniwyd o’r corff mawr o wybodaeth a data. Os oes unrhyw beth sydd wedi ei amlygu yr hoffwch wybod mwy amdano, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna gadewch i’r ysgol wybod trwy alw mewn yn y swyddfa neu ebostio [email protected]. Parhawn ein nod o fod yn gwbl ddi-bapur eto eleni yn unol â’n statws Gwobr Platinwm Eco, felly unwaith eto ni fyddwn yn rhedeg ’argraffiad gloyw’. A fyddwch cystal â’n helpu ni gyflawni hyn trwy ddiweddaru’r ysgol gyda’ch manylion e-bost a mewngofnodi i’r wefan ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf. Rydym yn ymfalchïo ei bod hi’n flwyddyn gwych arall o ganlyniadau i’n disgyblion. Eto eleni, roedd y lefelau uwch a gyflawnwyd gan ein disgyblion blwyddyn 6 yn llawer uwch na chyfartaleddau Cenedlaethol. Rhagorodd ein disgyblion hefyd yn y profion darllen Saesneg a Chymraeg statudol gyda sgorau safonedig ar draws yr holl ddosbarthiadau yn uwch na chyfartaleddau Cenedlaethol. Mae uchafbwyntiau’r canlyniadau hyn wedi ei darparu gan Bethan Jones yn ddiweddarach yn yr adroddiad. Roedd y targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn diwethaf yn uchelgeisiol o ystyried cyfyngiadau cyllidol cyffredinol, ac felly rydym ni’n ymfalchïo ymhellach yn ein disgyblion a staff am gyflwyno blwyddyn wych arall o berfformiadau. Gan ysgrifennu fel rhiant presennol yn yr ysgol rwy’n credu, fel yr ydym oll, ei bod hi’n hanfodol bod ein plant yn hapus a hyderus. Nid yw hyn bob amser yn deillio’n llwyr o ganlyniadau academaidd. Mae’r holl staff yn gweithio gyda hyn mewn golwg bob amser. Maent yn darparu amrywiaeth eang o glybiau ‘ar ôl ysgol’, yn cefnogi’r Urdd, cynllunio teithiau ysgol a phrofiadau cyffrous, trefnu ymweli-adau allweddol i’r ysgol, ac yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ehangu a chyfoethogi profiadau ein holl blant. Fel y gwelwch, mae iard yr ysgol yn uchel a bywiog! Mae’n llawn chwerthin, cyfeillgarwch ac atgofion hapus…dechrau gwych i’n plant! Hoffwn ddiolch i’r holl dîm staff am eu gwaith caled ac ymrwymiad dros y flwyddyn diwethaf, a’r Pennaeth, Mrs Bethan Jones, am ei harweiniad i helpu ei gwneud hi’n flwyddyn llwyddiannus arall. Mae recriwtio a datblygu staff cyfrwng Cymraeg gwych yn her fawr nid yn unig i ni yma’n Llangollen, ond un sy’n cael ei gydnabod gan Gynulliad Cymru ar lefel cenedlaethol. Rydym yn hynod falch o’n tîm a’u brwdfrydedd parhaus. Hoffwn hefyd ddiolch i rieni a ffrindiau’r ysgol sy’n ein helpu mewn nifer o ffyrdd, unai trwy gefnogi dig-wyddiadau CRhAFf, helpu gyda gweithgareddau’r ysgol, neu ein darparu ni gyda meddyliau a syniadau ar gyfer gwella. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n parhau i weithio gyda’n gilydd ar gyfer lles y disgyblion. Gobeithiaf y bydd eich plant yn parhau i ffynnu yn Ysgol Y Gwernant wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn lleoliad mor braf. Yr Athro Jethro Newton, Cadeirydd y Llywodraethwyr

Gan Gadeirydd y Llywodraethwyr

Page 3: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Diweddariad Y Pennaeth Annwyl Rieni

Dyw un ddim yn sylweddoli ysgol mor brysur yw Ysgol y Gwernant nes i’r amser ddod i gasglu’r holl wybodaeth ar gyfer adroddiad y

llywodraethwyr blynyddol. Wrth gael amser i bori trwy’r cylchlythyrau a rhestru’r holl ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod blwyd-

dyn academaidd 15-16 mae rhywun yn sylweddoli pa mor brysur mae’r holl staff, llywodraethwyr, grwpiau rhieni a disgyblion yn gwei-

thio yn yr ysgol, weithiau ymhell tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt.

Daeth blwyddyn academaidd 2015-16 ag amryw o heriau mewn ffurf aseswyr allanol ac asesiadau, fodd bynnag cawsom ein gwobrwyo

a’n cydnabod am ein llwyddiannau gyda’r Wobr Ysgolion Iach Cenedlaethol, Gwobrau Platinwm Eco a Gwobr Efydd y Siarter Gymreig

yr ydym ni’n falch iawn ohonynt.

Rydym hefyd yn ymfalchïo ymhob disgybl yn Ysgol y Gwernant, hwy oll gyda’u nodweddion ac anghenion unigryw. Eto eleni, roedd yr

holl ddisgyblion wedi eu cynnwys ymhob agwedd o fywyd ysgol, beth bynnag oedd eu hanghenion. Cefnogom anghenion dysgu ac

ymddygiad penodol y disgyblion ac er nad yw rhai wedi cyrraedd y meincnod disgwyliedig a osodwyd gan y llywodraeth leol, rydym ni

fel ysgol yn gwybod eu bod nhw wedi cyflawni i’w potensial ac ar adegau wedi rhagori hyn yn holl agweddau eu datblygiad.

Mae’r data ar gyfer y flwyddyn diwethaf yn adlewyrchu natur ein hysgol. Mae’n adlewyrchu bod gennym niferoedd uchel o ddisgyblion

gydag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol (cyfartaledd o 13% ymhob cohort), mae’n adlewyrchu gallu uchel ein disgyblion hŷn

sy’n ein gadael gyda deilliannau a lefelau uwch na’r disgwyl ac mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod ein holl ddisgyblion beth bynnag

yw eu hiaith gyntaf, yn llwyddo i fod yn unigolion dwyieithog hyderus.

Ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, cyflawnodd 82.4% y deilliant 5 disgwyliedig, mae hyn yn adrodd bod holl ddisgyblion heb Anghenion Dys-

gu Ychwanegol wedi cyflawni neu ragori’r disgwyliad Cenedlaethol. Ar ddiwedd blwyddyn 6 cyflawnodd 86.7% y lefel 4 disgwyliedig,

eto bob disgybl heb anghenion dysgu ychwanegol wedi cyflawni neu ragori’r disgwyliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd canlyniadau

lefel 5 ar gyfer blwyddyn 6 yn sylweddol uwch na chyfartaleddau Cenedlaethol a Sir yn arbennig yn Saesneg a Chymraeg.

Roedd ein targedau datblygu ysgol ar gyfer 2015-16 yn cynnwys gwella dealltwriaeth disgyblion o ffracsiynau a degolion, codi safonau

ysgrifennu er mwyn cau’r bwlch rhwng llafaredd, darllen ac ysgrifennu, gwella safonau gwyddoniaeth ac ABChI. Yn dilyn gweithrediad

nifer o strategaethau y dosbarth a rhaglenni ymyrraeth ychwanegol llwyddom i godi canlyniadau profion mathemateg, felly mae can-

lyniadau’r ysgol yn uwch na chyfartaleddau cenedlaethol ar draws yr ysgol. Roedd ysgrifennu yn gyffredinol, hefyd wedi gwella. Nid yn

unig mae hyn i’w weld yng nghanlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 ond hefyd wedi ei adlewyrchu wrth fonitro llyfrau’r disgyblion.

Edrych ymlaen

Eleni, rydym wedi sylwi nad yw’r disgyblion mwy galluog yn mathemateg yn cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig yn y profion.

Datgelodd ddadansoddiad o’r profion rhifedd bod rhai disgyblion wedi methu â chwblhau’r prawf yn yr amser dynodedig ac roedd hyn

yn un o’r prif ffactorau. Felly byddwn yn canolbwyntio ar godi safonau trwy sicrhau bod ein disgyblion yn cymryd rhan mewn

gweithgareddau cyfrifo cyson a gwaith mathemateg pen dyddiol er mwyn cyflymu eu sgiliau mathemateg.

Hefyd eleni, bydd yr ysgol yn cymryd rhan mewn rhaglen o’r enw ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’. Oherwydd y nifer cynyddol o’n disgyblion

sy’n cael diagnosis o Awtistiaeth, ADHD yn ogystal ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, bydd yr ysgol yn gweithredu

strategaethau i gefnogi’r disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd ar gyfer holl ysgolion. Er nad yw’n statudol ar hyn o

bryd, mae disgwyl bod holl ysgolion yn codi safonau Cymhwysedd Digidol a dechrau gweithredu’r fframwaith. Fel ysgol sy’n ymfalchïo

mewn sicrhau’r offer a’r addysg TGCh gorau ar gyfer ein disgyblion. Bydd gweithredu’r fframwaith yn flaenoriaeth arall eleni. Ein nod

yw y bydd ein disgyblion yn hyderus wrth ddefnyddio platfform HWB + ar gyfer cyfathrebu ac yn deall pwysigrwydd e-ddiogelwch wrth

ddefnyddio’r we.

Gobeithiaf bod yr adroddiad hwn yn ddogfen llawn gwybodaeth sy’n rhoi amlinelliad i chi o’r hyn oll rydym yn ymdrechu i’w gyflawni

yn Ysgol y Gwernant. Hoffwn ddiolch i holl aelodau o staff, llywodraethwyr a rhieni am eich cyfraniad parhaus i wneud Ysgol y Gwer-

nant yn ysgol hapus a llwyddiannus.

Bethan Jones

Page 4: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Beth mae’r Corff Llywodraethol yn ei wneud? Mae holl lywodraethwyr yn rhannu yr un pwerau a prif nodau sef diogelu safon yr addysgu a dysgu a ddarperir gan yr ysgol er mwyn codi safonau cyflanwiadau a chyrhaeddiadau i ddisgyblion a staff, a bod yn atebol i’r gymuned leol, yr Awdurdod Lleol a Chynulliad Cymru am effeithlondeb yr ysgol. Mae amcanion ar gyfer y corff llywodraethol fel a ganlyn:

· Cytuno ar nodau a gwerthoedd yr ysgol · Cytuno ar bolisïau sy’n berthnasol i nodau polisïau ac arferion yr ysgol · Dylanwadu neu wella cynllun datblygu’r ysgol a gwella a monitro dyraniad a gwariant yr ysgol · Sicrhau bod y cwricwlwm genedlaethol yn cael ei ddysgu a bod digon o staff i’w addysgu · Monitro ac adolygu cynnydd yr ysgol · Sicrhau bod anghenion unigol y disgyblion yn cael eu diwallu, yn cynnwys anghenion ychwanegol · Recriwtio a dewis staff · Rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol · Cynhyrchu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwelliannau yn dilyn arolygiadau · Sefydlu a chynnal cysylltiadau busnes cadarnhaol o fewn busnes lleol a’r gymuned ehangach · Cefnogi penderfyniadau gweithredol dydd i ddydd a wneir gan y Pennaeth · Hybu effeithlondeb y corff llywodraethol

Am unrhyw wybodaeth ychwanegol ewch ar www.governorswales.org.uk neu er mwyn dod o hyd i fanylion am ein Corff Llwyodrae-

thol presennol, edrychwch ar ein gwefan.

Gwybodaeth Ddefnyddiol i Rieni

Gadawyr Ysgol

Mae 86% o adawyr ysgol eleni wedi gwneud trosglwyddiad

llwyddiannus i Ysgol Dinas Brân gyda 6% o’r gweddill yn par-

hau eu haddysg yn Ysgol Morgan Llwyd a 6% arall yn Ysgol

Bryn Hyfryd.

Presenoldeb

Mae Presenoldeb Ysgol i fyny o 95.8% yn 2014/2015 i 96.2%

yn 2015/2016 gan daro ein targed o 96%

Mae Prosbectws Ysgol 2017-2018 newydd wedd a

chyffrous nawr ar gael i’w weld ar-lein ac mewn copi

caled o’r Dderbynfa

Tymor / Gwyliau

Diwrnod Cyntaf Diwrnod Olaf

Tymor yr Hydref Dydd Llun, Medi 5,

2016 Dydd Gwener, Hydref

21, 2016

Tymor yr Hydref Dydd Mawrth,

Tachwedd 1, 2016 Dydd Gwener, Rhagfyr

16, 2016

Tymor y Gwanwyn

Dydd Mercher, Ionawr 4, 2017

Dydd Gwener, Chwefror 17, 2017

Tymor y Gwanwyn

Dydd Llun, Chwefror 27, 2017

Dydd Gwener, Ebrill 7, 2017

Tymor yr Haf Dydd Mawrth, Ebrill

25, 2017 Dydd Gwener, Mai 26,

2017

Tymor yr Haf Dydd Llun, Mehefin 5,

2017 Dydd Gwener,

Gorffennaf 21, 2017

Page 5: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Chwaraeon a Gweithgareddau Allgyrsiol Yn ystod y flwyddyn 2015-2016 llwyddodd disgyblion Ysgol y Gwernant mewn nifer o wahanol weithgareddau a chynlluniau allgyrsiol a di-

nasyddiaeth. Roedd hi’n flwyddyn lle roedd staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion yn gweithio ar y cyd er mwyn datblygu ein hysgol fel

cymuned sy’n gofalu am yr amgylchedd, iechyd a lles, yr iaith Gymraeg yn ogystal â chyflawniadau academaidd pawb sy’n mynychu ein hys-

gol. Yn ystod tymor y Gwanwyn, casglodd y pwyllgor Eco gyda Miss Einir Jones dystiolaeth eang o weithgareddau a chynlluniau eco i brofi

bod Ysgol y Gwernant yn ysgol sy’n cymryd materion Eco yn ddifrifol iawn. Mae’r pwyllgor Eco yn sicrhau bod disgyblion yn deall holl ag-

weddau’r amgylchedd yn cynnwys ailgylchu, arbed egni, garddio, dinasyddiaeth a llawer mwy. Ar y 14eg o Fehefin cawsom ein gwobrwyo

gyda’r wobr Blatinwm ar gyfer ysgolion Eco sef y wobr uchaf bosib.

Mae’r rhaglen ysgol iach yn un mae Mrs Anna Rowlands a’r pwyllgor SNAG wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd, gyda’r ysgol yn ennill ei

’deilen’ gyntaf yn ôl yn 2008. Yn ystod yr wythnos olaf ym Mehefin, cafodd yr ysgol ymweliad gan ddau aseswr allanol a dreuliodd dau ddi-

wrnod yn edrych ar holl agweddau’r ysgolion iach yn cynnwys ffitrwydd, bwyd, hylendid, addysg bersonol a llawer mwy. Roeddem yn falch

iawn i dderbyn Gwobr Genedlaethol a chawsom ganmoliaeth uchel am yr holl waith ac ymdrech sy’n mynd i sicrhau bod ein disgyblion yn

dilyn ffordd iach o fyw.

Erioed, mae hi wedi bod yn her fel ysgol i sicrhau bod ein disgyblion yn defnyddio eu Cymraeg o amgylch yr ysgol, ar yr iard ac yn ystod am-

ser cinio. Gan bod mwyafrif o’n disgblion o gartrefoedd Saesneg, mae hi’n hollbwysig bod ein disgyblion yn ymarfer eu Cymraeg llafar

gymain â gallen nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw’n unigolion gwbl ddwyieithog. Yn ystod y flwyddyn cafodd yr ysgol wahoddiad i ymuno â

menter y Cynulliad o’r enw ‘Y Siarter Iaith’. Mae’r siarter hwn yn hybu cynlluniau iaith Gymraeg er mwyn annog disygblion a rhieni i siarad

Cymraeg gymaint â gallen nhw. Cynlluniodd ac arweiniodd Mrs Diane Davies ynghyd â dau ddisgybl y rhaglen drwy’r ysgol. Cawsom ein

hasesu yn ystod tymor yr Haf a cawsom ein gwobrwyo â’r wobr Efydd gyntaf.

Parhaodd y disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, chwaraeon a cherddorol. Cyd-weithiodd yr ysgol

gyda Gwasanaeth Awyr Agored Glanllyn a drefnodd i’n disgyblion dreulio diwrnod yn dringo yn Chwarel Trefor a chanŵio ar y gamlas.

Cafodd ein sioe Nadolig ‘Y Lion King’ ei berfformio yn Ysgol Dinas Brân, lle cymrodd yr holl ddisgyblion ran yn y profiad bythgofiadwy.

Cystadlodd ein disgyblion mewn amrywiaeth o gy-

stadlaethau yn yr Urdd gyda’r ensemble a grŵp dawn-

sio gwerin yn cystadlu yn y Genedlaethol yn Yr

Wyddgrug. Parhaodd Ysgol Y Gwernant i weithio’n agos

gydag Eisteddfod Llangollen gan fynychu Diwrnod y

Plant ac arwain yr orymdaith. Am y tro cyntaf, roedd

gennym ddisgyblion yn cystadlu mewn cystadlaethau

coginio yn ogystal â nifer o weithgareddau i ddathlu

bywyd Roald Dahl.

Mae ein Timoedd Chwaraeon wedi cystadlu mewn am-

rywiaeth o gystadlaethau yma yn yr ysgol ac ar draws

Sir Ddinbych yn ogystal â chael y cyfle i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Nglanllyn.

Arhosodd y Gwariant Blynyddol ar lefel gymharol i Wari-

ant 2014-2015, gyda chynnydd mewn gwariant ar Staffio, a

lleihad mewn gwariant ar gyflenwadau a chynnal a chadw

adeilad.

Mae dadansoddiad llawn o Ddata Perfformiad Ysgol,

yn ogystal â Data Cyllidol yr Ysgol ar gael ar-lein neu

trwy wneud cais i’r Pennaeth

Gwariant Blynyddol

Page 6: 149 £3,942 18 82% 87% 96% - Ysgol y Gwernant · 2016. 12. 14. · Ein Hysgol mewn Ffeithiau 149 £3,942 18 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol bob dydd yw Cyllid Ysgol i bob Disgybl

Data Perfformiad Ysgol

Ar ddiwedd 2015-16 roedd gan ddosbarth blwyddyn 6,

15 o ddisgyblion. Roedd gan 2 ddisgybl (13.3%) anghe-

nion dysgu ychwanegol, gyda mynediad at gefnogaeth

amrywiol. Cyflawnodd 46.7% o’r disgyblion y lefel 4

disgwyliedig gyda 53.3% yn cyflawni lefel 5. Mae canlyniadau lefel 5 yr ysgol yn uwch na chyfartaleddau

Cenedlaethol ymhob pwnc, gyda Cymraeg a Saesneg yn perfformio’n

llawer uwch.

Dehongli’r Canlyniadau

Cyfnod Sylfaen—Disgwylir i ddisgyblion adael y Cyfnod Sylfaen yn 7 oed (h.y. Blwyddyn 2) gyda ‘deilliant 5’. Mae ganddynt dair

maes allweddol; Iaith, Maths, ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Os yw disgyblion yn cyflawni ‘deilliant 6’ yna mae hyn

yn uwch na’r disgwyl.

Cyfnod Allweddol 2—Disgwylir i ddisgyblion adael yn 11 oed (h.y. Blwyddyn 6) gyda ‘Lefel 4’ mewn Cymraeg, Saesneg, Maths a

Gwyddoniaeth. Os yw disgyblion yn cyflawni ‘Lefel 5’ yna mae hyn yn uwch na’r disgwyl.

Mae’r holl lefelau hyn yn cael eu mesur yn fewnol drwy asesiad athro. Caiff rhain eu cymedroli o fewn grŵp o ysgolion lleol (sef ein

clwstwr) a gallwn hefyd gael ein dewis i fod yn rhan o Raglen Cymedroli Cenedlaethol o fewn Cymru. Cawsom ein dewis i fod yn

rhan o’r Rhaglen hwn y llynedd.

Cyfnod Sylfaen

Cyfnod Allweddol 2

Mae canlyniadau deilliant 6 ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn uwch

na chyfartaleddau Cenedlaethol mewn Addysg Bersonol a

Chymdeithasol. Strategaethau Maths newydd a parhad o raglenni

ymyrraeth yw rhai o’r rhaglenni sydd wedi eu hanelu at godi

safonau eleni.

Roedd gan Ysgol y Gwernant 17 disgybl yn nosbarth

blwyddyn 2 ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2015-

16. Roedd gan 3 disgybl (17.6%) anghenion dysgu

ychwanegol gyda mynediad at gefnogaeth

ychwanegol. Cyflawnodd 64.7% o’r disgyblion y deil-

liant 5 disgwyliedig, gyda 35.3% o’r disgyblion yn

cyflawni’n uwch na’r disgwyliad cenedlaethol gyda

deilliant 6.