cylchlythyr / newsletter cyngor yr ysgol / eco ......dyma gynrychiolwyr cyngor yr ysgol / eco...

4
CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER YSGOL LLANBRYNMAIR Tymor yr Hydref / Autumn Term 2015 CROESO / WELCOME Ar ddechrau ail hanner o Dymor yr Hydref fe groesawyd Evie Owen i flwyddyn 1. After the half term holidays we welcomed Evie Owen to year 1. Ysgolion Iach / Healthy Schools Daeth swyddogion o Ysgolion Iach Powys i siarad gyda Chyngor yr ysgol am ddau faes roeddynt wedi bod yn dysgu amdanynt yn benodol ar gyfer ennill 4ydd deilen ysgolion iach Powys, sef Hylendid ac Addysg Bersonol a Pherthnasau. Braf yw dweud ein bod wedi ennill y ddeilen yng ngham 4 gyda theilyngdod. Roedd y swyddogion wrth eu boddau yn arsylwi amser cylch disgyblion Blwyddyn 1. Powys Healthy Schools officials came to speak with the School Council on two areas that they had been learning about specifically towards winning the 4th leaf of Powys Healthy Schools regarding Personal Hygiene and Personal and Social Education. We are pleased to say that we have won the leaf in step 4 with merit. The officers loved observing Yr 1 pupils. Dyma gynrychiolwyr o gyngor yr ysgol yn dilyn ein llwyddiant ar ennill y 4ydd ddeilen Ysgolion Iach Powys. These are the representatives of the School Council following their success in obtaining the 4th leaf of Powys Healthy Schools. Cyngor yr Ysgol / Eco bwyllgor School Council / Eco Commitee Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 – 2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn ethol un disgybl o bob blwyddyn i’w cynrychioli ar y cyngor. Mae pob disgybl ym mlwyddyn 6 yn rhan o Gyngor yr Ysgol / Eco bwyllgor. Here are representatives of the School Council / Eco committee in 2015 - 2016. At the beginning of the school year all pupils elect one pupil from each year to represent them on the council. All pupils in year 6 are part of the School Council / Eco committee. Presenoldeb 100% Tymor yr Hydref 100% Attendance Autumn Term Llongyfarchiadau mawr i Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian, Marvin, Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi, Caleb, Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali am fod yn bresennol yn yr ysgol bob dydd y tymor hwn. Da iawn chi. Congratulations Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian, Marvin, Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi, Caleb, Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali for 100% attendance this term. Well done to you all. Clwb yr Urdd / The Urdd Club Mae Clwb yr Urdd wedi ail gychwyn gyda 10 aelod newydd. Mae’r clwb yn cwrdd ar ôl ysgol bob nos Fercher 3.30 – 4.15 drwy hanner tymor yr Hydref hyd at ddiwedd Tymor y Gwanwyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 – 6. Rydym wedi mwynhau chwarae bingo, gemau parasiwt, gwnio, paentio ac yna gemau potes gyda Mr David Oliver, Swyddog Datblygu’r Urdd.

Upload: others

Post on 26-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER Cyngor yr Ysgol / Eco ......Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 – 2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn ethol un disgybl

CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER

YSGOL LLANBRYNMAIR

Tymor yr Hydref / Autumn Term 2015

CROESO / WELCOME

Ar ddechrau ail hanner o Dymor yr Hydref fe groesawyd Evie

Owen i flwyddyn 1.

After the half term holidays we welcomed Evie Owen to year

1.

Ysgolion Iach / Healthy Schools

Daeth swyddogion o Ysgolion Iach Powys i

siarad gyda Chyngor yr ysgol am ddau faes roeddynt wedi

bod yn dysgu amdanynt yn benodol ar gyfer ennill 4ydd

deilen ysgolion iach Powys, sef Hylendid ac Addysg

Bersonol a Pherthnasau. Braf yw dweud ein bod wedi

ennill y ddeilen yng ngham 4 gyda theilyngdod. Roedd y

swyddogion wrth eu boddau yn arsylwi amser cylch

disgyblion Blwyddyn 1.

Powys Healthy Schools officials came to speak with the

School Council on two areas that they had been learning

about specifically towards winning the 4th leaf of Powys

Healthy Schools regarding Personal Hygiene and Personal

and Social Education. We are pleased to say that we have

won the leaf in step 4 with merit. The officers loved

observing Yr 1 pupils.

Dyma gynrychiolwyr o gyngor yr ysgol yn dilyn ein

llwyddiant ar ennill y 4ydd ddeilen Ysgolion Iach Powys.

These are the representatives of the School Council

following their success in obtaining the 4th leaf of Powys

Healthy Schools.

Cyngor yr Ysgol / Eco bwyllgor

School Council / Eco Commitee

Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 –

2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn

ethol un disgybl o bob blwyddyn i’w cynrychioli ar y cyngor.

Mae pob disgybl ym mlwyddyn 6 yn rhan o Gyngor yr Ysgol /

Eco bwyllgor.

Here are representatives of the School Council / Eco

committee in 2015 - 2016. At the beginning of the school

year all pupils elect one pupil from each year to represent

them on the council. All pupils in year 6 are part of the

School Council / Eco committee.

Presenoldeb 100% Tymor yr Hydref

100% Attendance Autumn Term

Llongyfarchiadau mawr i Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian,

Marvin, Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi,

Caleb, Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali

am fod yn bresennol yn yr ysgol bob dydd y tymor hwn. Da

iawn chi.

Congratulations Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian, Marvin,

Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi, Caleb,

Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali for

100% attendance this term. Well done to you all.

Clwb yr Urdd / The Urdd Club

Mae Clwb yr Urdd wedi ail gychwyn gyda 10 aelod newydd.

Mae’r clwb yn cwrdd ar ôl ysgol bob nos Fercher 3.30 –

4.15 drwy hanner tymor yr Hydref hyd at ddiwedd Tymor y

Gwanwyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 – 6. Rydym wedi

mwynhau chwarae bingo, gemau parasiwt, gwnio, paentio

ac yna gemau potes gyda Mr David Oliver, Swyddog

Datblygu’r Urdd.

Page 2: CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER Cyngor yr Ysgol / Eco ......Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 – 2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn ethol un disgybl

The Urdd Club has begun once again with 10 new

members. The club meets every Wednesday 3.30 – 4.15

throughout this Autumn term and will run until the end of

the Spring Term for pupils in Years 1 – 6. The children have

enjoyed playing bingo, parachute games, sewing, painting

and playing games with Mr David Oliver, Urdd

Development Officer.

Penwythnos Glan-llyn / Glan-llyn weekend

Aeth disgyblion ym mlwyddyn 5 & 6 ar benwythnos

gweithgareddau i Wersyll yr Urdd Glan-llyn (Bala) ym mis

Medi. Cawsant brofiadau gwych ar y cwrs rhaffau, yn

dringo, yn canŵio ar y llyn ac yn adeiladu rafft.

Children from Years 5 & 6 went on an activities weekend to

the Urdd camp at Glan-llyn (Bala) in September. They had a

fantastic time on the rope course, canoeing on the lake and

making a raft.

Gala Nofio’r Urdd Swimming Gala

Llongyfarchiadau i Oliver, Eva, Thomas, Osian Pennant,

Rhodri, Elgan, Elin, Sara, Erin Meddins, Rhiannon & Manon a

fu’n cynrychioli’r ysgol yn y Gala Nofio ym mis Tachwedd.

Roedd yn dipyn o gamp nofio yn gystadleuol ac mewn pwll

sydd dipyn mwy na phwll nofio Machynlleth. Da iawn chi.

Congratulations to Oliver, Eva, Thomas, Osian Pennant,

Rhodri, Elgan, Elin, Sara, Erin Meddins, Rhiannon & Manon

who represented the school in

the Swimming Gala in

November. It was a challenge

for them to swim

competitively in a much larger

pool than they are used to in

Machynlleth. Well done to you

all.

Pêl droed a Phêl Rhwyd

Cafodd disgyblion blwyddyn 5 & 6 gyfle i gymryd rhan yng

nghystadleuaeth pêl droed a phêl rwyd yr Urdd yn

ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd am roi o’ch

gorau.

Year 5 & 6 pupils took part in the Urdd Football and netball

tournament recently. Congratulations to you all for giving

of your best.

Diwrnod Chwaraeon / Sports day (5x60)

Cynhaliwyd diwrnod chwaraeon ar gae chwarae’r ysgol a

daeth disgyblion o Ysgolion Bro Hyddgen, Glantwymyn a

Charno atom. Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan a

dysgu sgiliau amrywiol gan gynnwys sgiliau rygbi tag, pel-

droed, naid hir, bocca, chwarae gemau parasiwt, rhedeg a

chriced.

A sports day was held on the school playing field and pupils

from Bro Hyddgen, Glantwymyn and Carno came to us. The

students had the opportunity to learn various skills

including tag rugby skills, football, long jump, bocca, play

parachute games, running and cricket.

Pêl droed Blwyddyn 1 a 2 football

Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 gyfle i fynd i chwarae pêl

droed yn erbyn ysgolion eraill y ffederasiwn. Cawsom fore

cyffroes yn enwedig wrth sgorio ambell gôl.

Pupils from Years 1&2 had the opportunity to play football

against other schools in the Federation. We had an

exciting morning especially when we scored a few goals.

Cyfeiriannu

Cafodd disgyblion blwyddyn 3,4,5 & 6 gyfle i fwynhau

prynhawn o gyfeiriannu ar Gampws uwchradd ysgol Bro

Hyddgen. Llongyfarchiadau mawr i Elin a Sara am ddod yn

gyntaf yn ras Blwyddyn 5/6 (pâr) ac i holl ddisgyblion

blwyddyn 5/6 ar ddod yn ail fel tim yn eu dosbarth

hwythau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i dim 3/4 ar ddod

yn 3ydd mewn ras ar eu cwrs hwythau.

Orienteeting

Pupils in years 3,4,5 & 6 had the opportunity to enjoy an

afternoon of orienteering at the Ysgol Bro Hyddgen

secondary school campus. Congratulations to Elin and Sara

for coming first in the race for Years 5/6 (pairs) and to all

the pupils in years 5/6 for coming second as a team in their

race. Congratulations also to 3/4 team for coming 3rd in a

race on their course.

Page 3: CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER Cyngor yr Ysgol / Eco ......Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 – 2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn ethol un disgybl

Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase

Dydd a Nos oedd thema’r Cyfnod Sylfaen yn ystod y tymor.

Mae’r disgyblion wedi cael llawer o hwyl yn darganfod

gwybodaeth am dylluanod ac am anifeiliaid eraill y nos

ynghyd â dysgu am y gofod.

Day and Night was the Foundation Phase theme this term.

The pupils have had much fun in discovering information

about owls and other night animals as well as learning about

space.

Cyfarfod Diolchgarwch / Thanksgiving Service

Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch ddydd Mercher

Hydref 14eg. Thema y Gwasanaeth oedd ‘Ein synhwyrau’.

Roedd y casgliad yn mynd at Cymorth Cristnogol a daeth Ms

Llinos Roberts o Gymorth Cristnogol i siarad gyda’r

disgyblion.

Our Harvest Thanksgiving Service was held on Wednesday

October 14th

. The service theme was “Our Senses”. The

collection was for Christian Aid and Ms Llinos Roberts from

Christian Aid came to talk with the pupils.

Dathlu 100 T.Llew Jones/T. Llew Jones Centenary Celebration

Ar yr 11eg o Hydref eleni bu Cymru’n dathlu can mlynedd

ers geni T. Llew Jones, Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru.

Cynhaliwyd te parti arbennig yn yr ysgol i ddathlu’r

achlysur a daeth wyres T.Llew i ddathlu gyda ni.

On the 11th October this year, Wales was celebrating the

centenary of the birth of T. Llew Jones, the king of Wales’

Children Literature. A special tea party was held at the

school to celebrate the occasion and T. Llew’s

granddaughter came to celebrate with us.

Bags2school

Diolch i rieni a thrigolion y pentref am glirio cypyrddau,

droriau, y garej a’r atig am ddillad, esgidiau a deunyddiau i’w

hailgylchu. Llwyddwyd i godi £104 at gronfa’r ysgol. Fe

fydd casgliad arall yn fuan yn nhymor yr Haf, felly os oes

gennych chi ddillad nad ydych eisiau rhagor dowch a nhw

mewn i’r ysgol mewn bag du. Rydym yn gwerthfawrogi pob

cyfraniad.

Thank you to the parents and the people who live in the

village for clearing their wardrobes, drawers, garage and

attic for clothes, shoes, and materials for us to re-cycle.

Together we raised £104 towards school funds. There will

be another collection early in the Summer Term so if you

have any clothes, shoes etc that you no longer need please

feel free to bring them into school. We appreciate every

donation.

Entrepreneuriaeth / Enterprise

Fel y gwyddoch bu’r plant yn brysur cyn hanner tymor yn

cynllunio cerdyn Nadolig. Diolch yn fawr iawn i chi am

brynu’r cardiau unwaith eto eleni.

Mae dosbarth Miss Rowlands wedi bod yn brysur yn sefydlu

eu cwmni busnes hwythau yn ddiweddar. Maent wedi

gwneud gwaith ymchwil ac wedi rhoi at ei gilydd gynllun

busnes syml. Enw’r busnes eleni yw ‘Geiriau Gwych’ ac

maent wedi bod wrthi’n ddiwyd yn cynllunio a chreu costeri

ynghyd â chymryd archebion am luniau arbennig. Maent

wedi cael dros 60 o archebion am y lluniau ac wrthi’n brysur

yn cyfri’r elw. Bydd ganddynt benderfyniadau mawr i

wneud yn y Flwyddyn Newydd ar sut maent yn mynd i

wario’r arian.

As you are aware the children have been busy before half

term creating a Christmas card. Thank you very much for

buying the cards again this year.

Miss Rowlands’ class have been busy establishing their new

business company recently. They have been researching and

have put together a business plan. The name of this year’s

business is ‘Geiriau Gwych’ – ‘Fantastic words’ and they have

been busy designing and creating coasters as well as taking

orders for special pictures. They have received over 60

orders for pictures and have been busy counting their profit.

They will have big decisions to make in the New Year on how

they are going to spend the money.

Marchnad Ffermwyr / Farmers Market

Cynhaliwyd ein Marchnad Ffermwyr flynyddol ym mis

Tachwedd. Daeth nifer o stondinau i’r Farchnad a chafwyd

gyfle gwych i bawb brynu anrhegion Nadolig. Bu’r disgyblion

wrthi’n brysur yn gwnio addurniadau nadolig, yn coginio

danteithion di ri ac hefyd yn brysur yn gweithio ar y

stondinau. Diolch yn fawr i’r stondinwyr daeth i’n cefnogi a

hefyd i’r rhai a ddaeth i brynu nwyddau gan y stondinwyr.

Llwyddwyd i godi £370 i gronfa’r ysgol.

We held our Annual Farmers Market in November. It was a

good opportunity for everyone to buy Christmas presents

from a variety of stalls. The children had been busy sewing

Christmas decorations and cooking chutneys, fudge and

cakes to sell on our stall. Many thanks to everyone who

came to support the stall holders and to those who bought

foods and supported the event. We raised £370 towards

school funds.

Page 4: CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER Cyngor yr Ysgol / Eco ......Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 – 2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn ethol un disgybl

Ymweliad gan Swyddog yr Heddlu / Police Liason Officer

Yn ystod y tymor daeth PC Mark Davies i siarad gyda’r

disgyblion am y pwysigrwydd o ddefnyddio’r we yn ofalus.

During the term, PC Mark Davies came to speak with the

pupils about the importance of internet safety.

Pontio / Transition

Yn ystod y tymor mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi cael cyfle i

fwynhau diwrnodau pontio gyda’r ysgolion Uwchradd o’u

dewis. Mae hyn yn gyfle da iddynt gael blas ar fywyd ysgol

Uwchradd a chyfle i gwrdd a ffrindiau newydd ac athrawon.

During the term pupils from Year 6 had the opportunity to

enjoy a transition day with their Secondary school of choice.

This is a good opportunity for them to have a taste of

secondary school life and have the opportunity to meet new

friends and teachers.

Agor y Llyfr / Opening the Book

Braf yw croesawu y Parch Roland Barnes, Anti Heulwen a

ffrindiau atom yn fisol i gynnal Gwasanaeth arbennig o Agor

y Llyfr. Mae’r disgyblion yn mwynhau gwrando ar straeon

o’r Beibl.

It has been great to welcome Rev Roland Barnes, Aunty

Heulwen and friends on a monthly basis to hold a special

service of Opening the Book. The pupils enjoy listening to

stories from the Bible.

Sioeau / Shows

Mae’r disgyblion wedi bod yn hynod o lwcus i fwynhau

ystod o sioeau arbennig yn ystod y tymor. Fe aeth

disbyblion Blwyddyn 3,4,5 & 6 i fwynhau sioe Owain

Glyndwr yn y sened-dy ym Machynlleth nôl ym mis medi ac

yna i Glantwymyn i fwynhau sioe Arad Goch ‘ Hola’. Yna ar

ddiwedd y tymor cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen fynd i

fwynhau pantomeim ‘Dacw Mam yn Dwad’ gan Martyn

Geraint yn Theatr Hafren.

The pupils have been extremely lucky to enjoy a number of

special shows during the term. Pupils from Years 3,4,5 & 6

enjoyed the Owain Glyndwr show at the Senedd-dy,

Machynlleth back in September and then to Glantwymyn

to enjoy the Arad Goch show “Hola”. At the end of term

pupils from the Foundation Phase went to enjoy a

pantomime “Dacw Mam yn Dwad” by Martyn Geraint in

Hafren Theatre.

Cyngerdd Nadolig / Christmas Concert

Hoffwn longyfarch y plant am berfformiad gwych o ‘Ble yn y

Byd mae Sion Corn’ nos Lun. Roedd pawb wedi dysgu’r

geiriau yn dda ac yn morio canu. Da iawn chi.

I would like to congratulate the children on their

performances in the Christmas concert ‘Ble yn y Byd mae

Sion Corn?’ (Where in the world is Father Christmas?) on

Monday evening. Everyone had learned their words well

and were obviously enjoying the singing. Well done

everyone.

Dyddiadau pwysig / Important dates

Rhagfyr 17 December Parti / Party (own clothes)

Rhagfyr 18 December ysgol yn cau am y gwyliau / school

closes for the Chrismas holidays

Ionawr 4 January Ysgol yn ail agor / School re opens

I weld rhagor o luniau neu am unrhyw wybodaeth bellach

ewch i’n gwefan. Cofiwch wylio allan am yr aderyn sydd

yn hysbysu digwyddiadau’r ysgol.

www.llanbrynmair.powys.sch.uk

For more pictures or information regarding the school

please visit our website. Remember to look out for

forthcoming events from the bird on the home page.

Twitter - @ysgllanbrynmair