408 chwefror 2016 50c pri dasjonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/...dechreuodd ar y...

16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 408 408 408 408 408 Chwefror 2016 Chwefror 2016 Chwefror 2016 Chwefror 2016 Chwefror 2016 50c William Jones Dolhywel Priodwyd Carys, Plas Iolyn, Llanfair Caereinion, merch Glyn a Gill Evans ac Iwan mab Susan a Gareth, Caersws ac @yr i’r diweddar Richie ac Eira Jones, Cefnau, Llangadfan ar ddiwrnod olaf 2015. Wrth ddymuno’r gorau i’r ddau yn eu bywyd priodasol, gadawn i’r cwpl ifanc ddisgrifio hud y diwrnod yn eu geiriau eu hunain: “Priodasom ar Ragfyr 31ain yng Nghapel Penarth, gyda pharti yng Nghanolfan Hamdden Caereinion i ddilyn. Roedd yn bleser cael dathlu’r flwyddyn newydd yng nghwmni ein teulu a’n ffrindiau ar ddiwrnod llawn hwyl, chwerthin a chanu. Iwan a Carys Mae cynllun ar droed a allai weddnewid addysg gynradd yn nhref y Trallwm. Gallai pedair ysgol gynradd yn y dref gau i wneud lle i ddwy ysgol newydd gwerth £13 miliwn. Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn trafod y cynlluniau y diwrnod y bydd y Plu yn mynd i’r Wasg ac argymhellir i’r aelodau dderbyn y cynllun chwyldroadol. Byddai derbyn y cynllun yn golygu y byddai ysgolion Ardwyn, Gungrog ac Oldford yn cau gydag ysgol gynradd newydd cyfrwng Saesneg yn cael ei hadeiladu ar safle’r Ysgol Uwchradd ac ysgol Gymraeg yn agor, o bosibl ar safle Ysgol Maesydre. Meddai’r Cyng. Arwel Jones, aelod y Cabinet dros Addysg: “Mae llawer o’r adeiladau mewn cyflwr gwael, mae galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ac angen am ddarpariaeth ffydd a rheidrwydd i gwtogi ar nifer y llefydd gwag yn ysgolion y dref. Mae’r arolwg a wnaed dros y misoedd diwethaf yn argymell disodli’r ysgolion presennol gydag Ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru cyfrwng Saesneg i 420 o blant ac ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i 120 o blant ar safle Maesydre. Bydd y cynlluniau yn destun ymgynghoriad llawn ac os derbynnir nhw, ac os cefnogir y cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw i’r ysgolion newydd agor eu drysau ym mis Medi 2018 . Amcangyfrifir y byddai cyfanswm y buddsoddiad yn £12.75 miliwn. Mae’r rhain yn gynlluniau enfawr a chyffrous sy’n mynd i gael effaith bellgyrhaeddol. Gydag agor Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd y mis hwn hefyd, ydy rhieni, staff a llywodraethwyr Ysgol Caereinion yn mynd i fod yn ddigon dewr i fanteisio ar y posibiliadau neu a welir y ddarpariaeth Gymraeg yma yn cael ei cholli i’r Drenewydd neu’r Trallwm? Gwae ni os gadawn i hyn ddigwydd! DYFODOL YSGOLION Y TRALLWM Bu’r cyfnod cyn y Nadolig yn gyfnod prysur fel arfer i Mrs Enid Edwards, Talwrn, Llangadfan. Yn ogystal â bod wrthi gyda’i pharatoadau arferol bu Enid hefyd yn gwerthu cardiau Nadolig ar ran Hope House. Dechreuodd ar y gwaith yn y flwyddyn 2000 pan brynodd ychydig o gardiau i’w hanfon ei hun. Wedi meddwl am y peth, penderfynodd y gallai werthu’r cardiau i bobl eraill hefyd, ac am bymtheg mlynedd mae wedi bod yn gwerthu gwerth cannoedd o bunnoedd o gardiau y mae eu helw yn mynd at gefnogi Hope House, yr hosbis i blant yng Nghroesoswallt. Dros y blynyddoedd mae Enid wedi casglu dros £9,000 at Hope House drwy werthiant y cardiau a thrwy roddion. Llongyfarchiadau i Enid am ei gwaith a diolch i bawb sydd wedi ei chefnogi a thrwy hynny gyfrannu at elusen sy’n gwneud gwaith mor werthfawr dros deuluoedd mewn trallod. Pri das Pri das Pri das Pri das Pri das YMDRECH LEW! YMDRECH LEW! YMDRECH LEW! YMDRECH LEW! YMDRECH LEW! CYMRODORIAETH TALAITH A CHADAIR POWYS CYF CYF CYF CYF CYFARFOD BL ARFOD BL ARFOD BL ARFOD BL ARFOD BLYNYDDOL YNYDDOL YNYDDOL YNYDDOL YNYDDOL Y GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH Y Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Y Trallwng rallwng rallwng rallwng rallwng Dydd Sadwrn Chwefror 20fed Dydd Sadwrn Chwefror 20fed Dydd Sadwrn Chwefror 20fed Dydd Sadwrn Chwefror 20fed Dydd Sadwrn Chwefror 20fed Cynhelir yr IS-BWYLLGOR CYLLID am 11.00 o’r gloch (Darperir cinio i aelodau’r is-bwyllgor am 12.00) Cynhelir IS-BWYLLGOR YR ORSEDD am 12.45 o’r gloch Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol am 2 o’r gloch Croeso i holl aelodau’r Gymrodoriaeth i’r Cyfarfod Blynyddol Gwesty’r Cann Offis Nos Wener, Chwefror 5ed am 7.30 o’r gloch Mynediad £5 Darlith gan yr Darlith gan yr Darlith gan yr Darlith gan yr Darlith gan yr Athro Geraint Jenkins Athro Geraint Jenkins Athro Geraint Jenkins Athro Geraint Jenkins Athro Geraint Jenkins

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    408408408408408 Chwefror 2016Chwefror 2016Chwefror 2016Chwefror 2016Chwefror 2016 5555500000ccccc

    William Jones

    Dolhywel

    Priodwyd Carys, Plas Iolyn, LlanfairCaereinion, merch Glyn a Gill Evans ac Iwanmab Susan a Gareth, Caersws ac @yr i’rdiweddar Richie ac Eira Jones, Cefnau,Llangadfan ar ddiwrnod olaf 2015. Wrthddymuno’r gorau i’r ddau yn eu bywydpriodasol, gadawn i’r cwpl ifanc ddisgrifio hudy diwrnod yn eu geiriau eu hunain:“Priodasom ar Ragfyr 31ain yng NghapelPenarth, gyda pharti yng Nghanolfan HamddenCaereinion i ddilyn.Roedd yn bleser cael dathlu’r flwyddyn newyddyng nghwmni ein teulu a’n ffrindiau ar ddiwrnodllawn hwyl, chwerthin a chanu.

    Iwan a Carys

    Mae cynllun ar droed a allai weddnewidaddysg gynradd yn nhref y Trallwm. Gallaipedair ysgol gynradd yn y dref gau i wneudlle i ddwy ysgol newydd gwerth £13 miliwn.Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn trafod ycynlluniau y diwrnod y bydd y Plu yn mynd i’rWasg ac argymhellir i’r aelodau dderbyn ycynllun chwyldroadol.Byddai derbyn y cynllun yn golygu y byddaiysgolion Ardwyn, Gungrog ac Oldford yn caugydag ysgol gynradd newydd cyfrwngSaesneg yn cael ei hadeiladu ar safle’r YsgolUwchradd ac ysgol Gymraeg yn agor, o bosiblar safle Ysgol Maesydre.Meddai’r Cyng. Arwel Jones, aelod y Cabinetdros Addysg: “Mae llawer o’r adeiladau mewncyflwr gwael, mae galw cynyddol am addysgcyfrwng Cymraeg ac angen am ddarpariaethffydd a rheidrwydd i gwtogi ar nifer y llefyddgwag yn ysgolion y dref.Mae’r arolwg a wnaed dros y misoedddiwethaf yn argymell disodli’r ysgolionpresennol gydag Ysgol newydd yr Eglwys yngNghymru cyfrwng Saesneg i 420 o blant acysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i120 o blant ar safle Maesydre.Bydd y cynlluniau yn destun ymgynghoriadllawn ac os derbynnir nhw, ac os cefnogir ycais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, ybwriad yw i’r ysgolion newydd agor eu drysauym mis Medi 2018 . Amcangyfrifir y byddaicyfanswm y buddsoddiad yn £12.75 miliwn.Mae’r rhain yn gynlluniau enfawr a chyffroussy’n mynd i gael effaith bellgyrhaeddol.Gydag agor Ysgol Dafydd Llwyd yn yDrenewydd y mis hwn hefyd, ydy rhieni, staffa llywodraethwyr Ysgol Caereinion yn mynd ifod yn ddigon dewr i fanteisio ar y posibiliadauneu a welir y ddarpariaeth Gymraeg yma yncael ei cholli i’r Drenewydd neu’r Trallwm?Gwae ni os gadawn i hyn ddigwydd!

    DYFODOLYSGOLION Y TRALLWM

    Bu’r cyfnod cyn y Nadolig yn gyfnod prysurfel arfer i Mrs Enid Edwards, Talwrn,Llangadfan. Yn ogystal â bod wrthi gyda’ipharatoadau arferol bu Enid hefyd yn gwerthucardiau Nadolig ar ran Hope House.Dechreuodd ar y gwaith yn y flwyddyn 2000pan brynodd ychydig o gardiau i’w hanfon eihun. Wedi meddwl am y peth, penderfynoddy gallai werthu’r cardiau i bobl eraill hefyd, acam bymtheg mlynedd mae wedi bod yngwerthu gwerth cannoedd o bunnoedd ogardiau y mae eu helw yn mynd at gefnogiHope House, yr hosbis i blant yngNghroesoswallt. Dros y blynyddoedd maeEnid wedi casglu dros £9,000 at Hope Housedrwy werthiant y cardiau a thrwy roddion.Llongyfarchiadau i Enid am ei gwaith a diolchi bawb sydd wedi ei chefnogi a thrwy hynnygyfrannu at elusen sy’n gwneud gwaith morwerthfawr dros deuluoedd mewn trallod.

    Pri dasPri dasPri dasPri dasPri dasYMDRECH LEW!YMDRECH LEW!YMDRECH LEW!YMDRECH LEW!YMDRECH LEW!

    CYMRODORIAETH TALAITH A CHADAIR POWYS

    CYFCYFCYFCYFCYFARFOD BLARFOD BLARFOD BLARFOD BLARFOD BLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOL YYYYY GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETH GYMRODORIAETHYYYYY Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, Capel Cymraeg, YYYYY TTTTTrallwngrallwngrallwngrallwngrallwngDydd Sadwrn Chwefror 20fedDydd Sadwrn Chwefror 20fedDydd Sadwrn Chwefror 20fedDydd Sadwrn Chwefror 20fedDydd Sadwrn Chwefror 20fed

    Cynhelir yrIS-BWYLLGOR CYLLID

    am 11.00 o’r gloch(Darperir cinio i aelodau’r

    is-bwyllgor am 12.00)

    CynhelirIS-BWYLLGOR YR

    ORSEDD am12.45 o’r gloch

    Cynhelir yCyfarfod Blynyddol

    am 2 o’r gloch

    Croeso i holl aelodau’r Gymrodoriaeth i’r Cyfarfod Blynyddol

    Gwesty’r Cann OffisNos Wener, Chwefror 5ed

    am 7.30 o’r glochMynediad £5

    Darlith gan yrDarlith gan yrDarlith gan yrDarlith gan yrDarlith gan yrAthro Geraint JenkinsAthro Geraint JenkinsAthro Geraint JenkinsAthro Geraint JenkinsAthro Geraint Jenkins

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    DYDDIADURIon. 30 Dawns Santes Dwynwen, Ffrindiau

    Ysgol Llanerfyl – Johnny a Hywel.Chwef. 5 Darlith gan yr Athro Geraint Jenkins ar

    William Jones, Dolhywel yng Ngwesty’rCann Offis, Llangadfan am 7.30.Croeso cynnes i bawb.

    Chwef. 5 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh. Croeso cynnes i bawb

    Chwef. 13 ‘Bold and Bright’ gyda Bandiau Teyrngedi Meat Loaf a Queen yn y GanolfanHamdden gyda’r elw yn mynd atGarnifal Llanfair

    Chwef. 20 Cyfarfod Blynyddol CymrodoriaethEisteddfod Powys yng NghapelCymraeg y Trallwm am 2 o’r gloch.

    Chwef. 24 Cawl a Sgwrs gan Penri Roberts iddathlu G@yl Ddewi yn yr Institiwt. MyWLlanfair yn trefnu. £8

    Chwef. 26 Menter Berllan. Noson Agored ynNeuadd Llanerfyl rhwng 6.30-8.00 o’rgloch. Lluniaeth ysgafn.Dewch draw iddarganfod mwy.

    Chwef. 27 Steddfod Cylch yr Urdd i’r YsgolionCynradd yn y Ganolfan yn Llanfair

    Mawrth 2 Urdd Gobaith Cymru RhanbarthMaldwyn Eisteddfod Ddawnsio –Ysgolion Cynradd ac Uwchradd ynTheatr Hafren, Y Drenewydd

    Mawrth 5 Eisteddfod yr Urdd yr YsgolionUwchradd ac Aelwydydd yn TheatrLlwyn / Ysgol Uwchradd Llanfyllin

    Mawrth 12 Eisteddfod yr Urdd yr Ysgolion Cynraddyn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd

    Mawrth 18 Bingo’r Pasg yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh. Croeso cynnes i bawb

    Mai 13 Gwerthiant Ffasiwn am bris rhesymol.Trefnir gan CRhA Ysgol UwchraddCaereinion. Lleoliad i’w drefnu

    Mai 14 Cyngerdd Linda Griffiths a Sorela ynNeuadd Llanfihangel

    Meh. 25 Taith Gerdded y Plu yn ardal Dolanog.Gorff. 15-16 2016 Eisteddfod Powys yng

    Nghroesoswallt

    TIM PLU’R GWEUNYDD

    Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolAlwyn a Catrin Hughes, Llais Afon,

    Llangadfan 01938 [email protected] Steele, Eirianfa

    Llanfair Caereinion SY210SB 01938 [email protected]

    Sioned [email protected]

    Ffôn: 01938 552 309Pryderi Jones

    [email protected]

    TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, Meifod

    [email protected], 01938 500733

    CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddArwyn Davies

    Coedtalog, Llanerfyl, 01938 820710

    Is-GadeiryddionIs-GadeiryddionIs-GadeiryddionIs-GadeiryddionIs-GadeiryddionDelyth Francis a Dewi Roberts

    Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

    Ysgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

    Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

    RHIFYN NESAFA fyddech cystal ag anfon eichcyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyndydd Sadwrn, Chwefror 20. Byddy papur yn cael ei ddosbarthu nosFercher, Mawrth 2

    Nid yw Golygyddion na PhwyllgorPlu’r Gweunydd o anghenraid yn

    cytuno gydag unrhyw farn afynegir yn y papur nac mewn

    unrhyw atodiad iddo.

    Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,

    bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.Ffres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio i

    archebarchebarchebarchebarcheb

    Gwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, Llangynyw

    mewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefol

    Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar 07854239198 07854239198 07854239198 07854239198 07854239198 01938 810214 01938 810214 01938 810214 01938 810214 01938 810214

    neu neu neu neu [email protected]

    DiolchDymuna Rhiannon, Janet, John a’r teulu ddiolchyn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth ar adegdrist, am y negeseuon caredig, cardiau arhoddion er cof o dros £1700 i’w rhannu rhwngCanolfan Feddygol Caereinon a Mynwent PlwyLlanerfyl.Diolch arbennig i’r gweinidog Mr Peter Williams,Mr John Ellis, Mrs Dwynwen Jones, Mr AledEvans am ei deyrnged hyfryd, Doctoriaid Llanfaira Nyrsys y Gymuned am eu gofal a Mr GeraintPeate am ei gymorth a’i garedigrwydd.

    DiolchDymuna Enid Edwards ddiolch i bawb am eucefnogaeth eto eleni trwy brynu Cardiau NadoligHope House – hefyd diolch arbennig i’r CwpanPinc am eu cyfraniad. Rwy’n falch o ddweudbod cyfanswm eleni yn £550.25 a hefyd diolcham y rhoddion.

    RhoddionHoffai’r Golygyddion a Phanel Plu’r Gweunyddddiolch yn fawr iawn i deulu Rhandir am eu rhoddhaelionus tuag at goffrau’r Plu’r Gweunydd.Diolch hefyd i deulu Tynewydd, Llanerfyl am eurhodd hwythau er cof am y diweddar Mr NormanGittins, gwerthfawrogir eich cyfraniad yn fawriawn.Hefyd hoffem ddiolch yn fawr iawn am rodd o£50 a dderbyniwyd gan Mai Porter tuag atgoffrau’r papur.

    Diolch am ein papur broAr ddechrau Blwyddyn Newydd dymunafddweud diolch wrth dîm Plu’r Gweunydd ameu gwaith diwyd o gyflwyno i ni bapur brogwerth ei gael bob mis. Fel o’r cychwyn cyntafbydd pawb mor eiddgar ac yn aros amdanogyda gwên!Gan fy mod yn cael y cyfle i weld nifer obapurau bro, rhaid dweud bod y Plu yn un o’rgoreuon.Mai

    Garej Llanerfyl

    Ffôn LLANGADFAN 820211

    Ceir newydd ac ail lawArbenigwyr mewn atgyweirio

    Annwyl ddarllenwyr,

    Apêl am gyfraniadau i gofioApêl am gyfraniadau i gofioApêl am gyfraniadau i gofioApêl am gyfraniadau i gofioApêl am gyfraniadau i gofio hanes y genedl hanes y genedl hanes y genedl hanes y genedl hanes y genedl

    Mae’n ganrif ers y Rhyfel Mawr ac maecymaint o’n treftadaeth heddwch ac effaith yrhyfel ar Gymru eto i’w ddatgelu. Ond ni ddaw’rhanes yma i’r fei oni bai am ymdrechionunigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedolwrth wirfoddoli i ymchwilio a chyflwyno’rhanes. Yn aml ceir gwraidd hanes diddorolyn y papur bro neu gan y gymdeithas haneslleol. Nawr dychmygwch werth yr ymdrech ogasglu’r holl ymchwil yma ynghyd fel cenedl,gan sicrhau ei fod ar gael yn ddigidol ar ffurfhanesion a delweddau (wedi eu sganio gydachymorth Casgliad y Werin). Dyma’r ysgogiadtu ôl i brosiect Cymru dros Heddwch. Onddim ond tair blynedd sydd gennym bellach igasglu’r holl ‘hanesion cudd’ yma. Hanesionall fod yn gyfarwydd i chi efallai ond, hebgymorth gennych i chwilota ac i rannu, a allaifynd yn angof i’r cenedlaethau i ddod. Gallfod yn hanes effaith rhyfeloedd y ganrifddiwethaf ar eich cymuned, hanesgwrthwynebwyr cydwybodol lleol, cyfraniadeich bro i @yl neu ymgyrch heddwch,ymdrechion mudiadau lleol, neu lenyddiaetha chelf yn dehongli agweddau o anghydfod/heddwch.I gynnwys eich ymchwil yn y darlun mawrcenedlaethol, a fyddech mor garedig achysylltu â www.cymrudrosheddwch.org [email protected] am daflen‘Hanesion Cudd/Hidden Histories’, neu galwch01248 672104 os am sgwrs cyn dechrau arni.O gofio cyfraniad papurau bro fel ystorfa ohanes lleol yr ardal, mawr yw ein diolch rhagblaen,CofionHanna a FfionCydlynwyr Cymunedol Cymru dros Heddwch

    G.H.JONESG.H.JONESG.H.JONESG.H.JONESG.H.JONESEINION ELECTRICS

    Yn dal i fynd!Rhif ffôn newydd: 01938 554325

    Ffôn symudol: 07980523309E-bost: [email protected]

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 33333

    MM aldwynenterMererid Haf Roberts

    01686 610 [email protected]

    Diwrnod Mamiaith: 21 ChwefrorMae Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith, asefydlwyd gan adain ddiwylliant UNESCO,wedi bod yn cael ei ddathlu bob blwyddyners 2000 er mwyn hyrwyddo amlieithrwyddac amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Felrydyn ni Gymry Cymraeg yn gwybod, maeiaith yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus oddatblygu a dathlu ein hunaniaeth athreftadaeth ac mae’n bwysig dathlu ieithoeddlleiafrifol ac addysg amlieithog er mwyn codiymwybyddiaeth o draddodiadau ieithoedd adiwylliannau dros bedwar ban byd. Beth amddathlu eich mamiaith eleni? Rhannwch eichCymraeg yn falch yn y siop, gweithle, ar eichcyfrifon Facebook ac yn yr ysgol i ddangosi’r byd bod ein hiaith ni’n fyw ac iach!

    #DyddMiwsigCymru - DathluCerddoriaeth GymraegEleni, am y tro cyntaf, 12 Chwefror 2016 ywDydd Miwsig Cymru - diwrnod i ddathlucerddoriaeth Gymraeg yn arwain i fyny atwobrau’r Selar ar 20 Chwefror. Gydachefnogaeth rhai o brif gerddorion Cymru a’rdiwydiant, bydd y prosiect yn codiymwybyddiaeth o, a dathlu bron i 50 mlyneddo gerddoriaeth anhygoel. A gallwch chi fod

    yn rhan o’r dathlu! Gall unrhyw un gefnogi’rymgyrch #DyddMiwsigCymru drwy rannu euhoff #Tiwn ar y cyfryngau cymdeithasol,mynd i wylio gig Cymraeg, prynu albwm neugân Gymraeg, gwrando C2 ar BBC RadioCymru neu ddarllen copi o Y Selar ar-lein.Bydd Menter Maldwyn yn dathlu, fellyymunwch efo ni i godi ymwybyddiaeth amgyfoeth ein cerddoriaeth Gymraeg!

    Dydd G@yl DewiDydd G@yl DewiDydd G@yl DewiDydd G@yl DewiDydd G@yl DewiBob blwyddyn, mae’r calendr cymdeithasolyn llawn dop o gwmpas Mawrth y 1af wrth igymunedau Maldwyn gyfan ddathlu dydd g@ylein nawddsant. Mae’n braf iawn gweld cymaintyn digwydd, a llawer o hynny yn Gymraegwrth gwrs. Os ydech chi’n trefnu digwyddiad,noson gymdeithasol neu ddathliad Dydd G@lDewi, rhowch wybod i ni a gallwn ni eich helpuchi hyrwyddo! Gyrrwch unrhyw fanylion erbyn15 Chwefror ac fe allwn ni gynnwys ymanylion yn ein cylchlythyr misol sy’n myndallan ar e-bost i dros 350 o bobl erbyn hyn.Cysylltwch ar 01686 610 010 [email protected].

    Taith NadoligDiolch yn fawr iawn i’r holl rieni, plant bach ababis ddaeth i ddigwyddiadau Taith NadoligMenter Maldwyn a Mudiad Meithrin nôl ymmis Rhagfyr. Daeth dros 50 o rieni a bron i 70o blant bach i gael profiad Cymraeg hwyliogo ganu, clywed stori a chael gwneud crefftauNadoligaidd yn Y Trallwng, Llanbrynmair,Llansilin, Llanfyllin a Machynlleth. Gobeithioy cawn ni’ch gweld chi i gyd mewndigwyddiadau tebyg yn y dyfodol agos.

    Ysgewyll BrwselMae’r llysiau hyn ar eu gorau pan ddaw ydyddiau rhewllyd gan fod y rhew a’r oerni yncyfoethogi eu blas a’u lliw gwyrdd hyfryd. Yngyffredinol dydi’r ysgewyll Brwsel ddim y rhaimwyaf poblogaidd ymysg y llysiau gwyrdd acfelly mae’n rhaid darganfod rysetiau sydd yneu newid er gwell o ran blas a golwg.Does ddim rhyfedd bod yr ysgewyll yn caeleu galw yn ‘super sprouts’ gan eu bod yn llawnmaeth a daioni, ac yn gyfoethog mewnfitaminau A, B ac C, haearn, magnesiwm,folate, manganis ac wrth gwrs maent yn uchelmewn ffibr.Wrth goginio’r ysgewyll y dulliau gorau i’wdefnyddio i ddiogelu y fitaminau rhag eudinistrio yw stemio neu ffrio a throi (stir/fry).Dyma rysait sydd yn foddhaol dros ben ac yngyflym i’w baratoi.

    Troi a Ffrio Ysgewyll Brwsel aBacwn

    400g o ysgewyll1 nionyn coch2 glof o arlleg2 olwyth o facwn25g (owns) o haenau almon25g (owns) o fenyn2 llond llwy fwrdd o olewpupur a halenpinsied o nytmegpinsied o twmerig

    Paratoi’r cynhwysion gan chwarteru’r ysgewyll,sleisio’r nionyn coch a’r garlleg. Torri’r bacwnyn ddarnau maint cymhedrol.Toddi’r menyn a’igynhesu gyda’r olew.Ffrio’r llysiau a’rbacwn gan eu tafluyma a thraw yn ybadell. Ychwanegu’rhaenau o’r cnaualmwn a’u blasu rhyw funud cyn i’r llysiau fodyn barod. Dylai’r ysgewyll fod yn ‘al dente’ aheb fod wedi meddalu.Mwynhau gyda berw’r d@r a bara ffrescrystiog.

    Mwynhewch! Nel ac Eldra yn mwynhau Taith Nadolig Menter Maldwyn yn Llyfrgell y Trallwm

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    LLANGADFAN

    FOELMarion Owen

    820261

    BedyddCynhaliwyd gwasanaeth bedydd Elsi Cêt,merch fach Rob ac Elin, Garthmyl yn EglwysGarthbeibio ar ddydd Sul y 17eg o Ionawr.Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch Pe-ter Pike a’r Parch Colonel Glyn Jones.Dathlwyd yr achlysur gyda te bedydd i deulua ffrindiau ym mwyty’r Dyffryn.Cynhaliwyd y bedydd diwethaf yn EglwysGarthbeibio yn 2008 - mor wahanol wrth edrychar gofrestr bedyddio’r eglwys ddau ganmlynedd yn ôl pan fedyddiwyd 14 o fabanodyn y flwyddyn 1816 yn unig. Dyma enwau’rbabanod hynny: Robert Williams, Tynllwyn,Richard Lloyd, Tynshetin, Jane Morgan;Bryneirych, David Hughes, Dolymaen, Eliza-beth Hughes, Maesgarthbeibio, HughRowlands, Brynchwilod, Catherine Evans,Llwyn, Jane Davies, Pentrebach, GwenDavies, Efel, Catherine Davies, Brynwch,Catherine Jones, Ty’n llan, Edward Evans,Lluest (ei dad Edward Evans yn wehydd),Robert Jones, Llety’r Aur (Evan Jones, telynoroedd ei dad), a Mary Morris, Llechog (syddyn digwydd bod yn hen-hen-hen nain i minnaua llawer o rai eraill yn yr ardal). Tybed faint oddisgynyddion y babanod uchod sydd yn dali fyw yn Nyffryn Banw?Prawf gyrruWel, mae’r cyw melyn olaf yng Nghaerlloi wedillwyddo i basio ei brawf gyrru!Llongyfarchiadau mawr i ti Henri a phob hwylwrth ddreifio’r ‘Landrover’.Merched y WawrCawsom noson arbennig o ddiddorol ar nosIau y 7fed o Ionawr yng nghwmni Maureen,Pantrhedynog. Y llynedd aeth Maureen ardaith beicio i China - a chawsom ni yranrhydedd o fynd gyda hi ar ei beic drwy’rwlad brydferth a chlywed am y profiadauanhygoel a gafodd. Roedd y lluniau a’rdisgrifiadau yn dod â’r lle yn fyw. Ond y llun awnaeth yr argraff fwyaf arnaf oedd pan oeddMaureen yn siopa yn y farchnad am fwyd agweld y c@n a’r cathod mewn cewyll yn barodi chi ddewis pa un oeddech am gael i swper!Sôn am swper - dwi’n gobeithio na fydd Brendayn coginio un o gathod y Maes inni yn ycyfarfod nesa’, oherwydd bydd hithau ac Edith,Maesdyfnant yn dod atom i goginio a rhoi’rcyfle inni brofi eu ryseitiau.

    Catrin

    LLUN O’R GORFFENNOL

    Ym Mwlchpentre roedd ‘na helfaUn dydd Sadwrn oer a braf,Dyma lecyn da am gadnoBoed yn aeaf neu yn haf.

    Codwyd llwynog yn reit sydynAc fe’i saethwyd cyn bo hir,Roedd yr helgwn yno’n udoWrth garlamu dros y tir.

    Galw wnaent wrth fynd yn gyflymI gyfeiriad Allt Cae D@r,Aled oedd yn disgwyl yno –Roedd ei ergyd yn go si@r.

    Yna gwelwyd llwynog arall,Aeth i fyny tua’r coed.Keith yr helsmon yno’n gweiddi“Rhaid ei ddilyn yn ddi-oed.”

    Thomas Bebb o fferm yr Hendre,Ysgrifennydd gwych y [email protected] ei fod yn berson hawddgarMae’n un da am gadw s@n.

    Ffwrdd a fo ar draws y llechweddYn y pickup ac ar frys,Rhaid oedd blaenu’r c@n a’r llwynog,“Cymer ofal Tom” medd Rhys.

    Dyna ddiwedd ar y cowsio –Aeth yn sownd ar dop rhyw glap,Tom yn methu mynd i ‘unlle,“O am le i gael mishap.”

    Tom yn gweiddi ar y radio“Rwyf yn sownd, mae’n rhaid cael rhaff.”Diolch byth am Huw, Ffridd Gowny,Saethwr da a heliwr craff.

    Er fod Huw yn gwneud ei orau,Dal yn sownd yr oedd ‘r hen Twm.Eistedd yno roedd yn diawlioAc yn refio dros y cwm.

    Eirwyn Peate oedd yno’n gwrando“Dof â’r tractor i roi plwc”,Ond roedd Huw yn dal i dynnuA daeth Tom yn rhydd drwy lwc.

    Cymer gyngor Tom yr Hendre –Beth am gerdded dipyn bach?Ffordd go dda i arbed dîsl,Ffordd go dda i gadw’n iach!

    Llwynog Llangadfan

    Helynt Tom yr Hendre

    Hen YsguborLlanerfyl, Y TrallwmPowys, SY21 0EGFfôn (01938 820130)Symudol: 07966 [email protected]

    Gellir cyflenwi eich holl:

    anghenion trydannol:Amaethyddol / Domestig

    neu ddiwydiannolGosodir stôr-wresogyddion

    a larymau tân hefydGosod Paneli Solar

    KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

    Petrol a’r Plu

    POST A SIOPLLWYDIARTH Ffôn: 820208

    Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

    Dros 10 mlynedd o brofiad yn y maes

    Cysylltwch i drafod eich ceisiadaucynllunio, apeliadau,amodau S106 a mwy

    07771 553 773 /[email protected]

    Dyma bobl ifanc Dyffryn Banw yn ôl yn y gorffennol pell tua dechrau’r 1970au. GwelerRichard Maes, Aled Dolmaen, John Caerlloi, Hywel Dolmaen, Alun, Cefne, Nerys, Fronlasac Elen Cefne yn mwynhau cawl Noson Calan Gaeaf yn hen Neuadd y Foel.

    Y Cwpan PincNewyddion pwysig i bawb sydd yn mynychu’rCwpan Pinc. Bydd y siop a’r caffi AR GAUddydd Llun 22, Mawrth 23 a Mercher 24 oChwefror ar gyfer ail-addurno’r lle. Byddposib casglu eich papurau a bara rhwng 8 o’rgloch a 10 o’r gloch y bore.DarlithCofiwch ddod draw i’r Cann Offis ar nosWener y 5ed o Chwefror erbyn 7.30. Byddwnyn croesawu yr Athro Geraint Jenkins atoma fydd yn rhoi darlith hwyliog ar y cymeriadlliwgar hwnnw William Jones, Dolhywel.Yr Athro Geraint Jenkins yw’r arbenigwr arWilliam Jones a gallwn sicrhau noson hwyliogdros ben yn ei gwmni.Gig yn Cann OffisAr nos Sadwrn y 6ed o Chwefror cynhelir gigyn y Cann Offis gyda’r ‘Welsh Whisperer’a’rgr@p pop ‘Dan Gilydd’. Bydd y noson yndechrau am 7.30. Dewch draw i fwynhau.Trefnir y noson gan Gell Cymdeithas yr IaithPowys.

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 55555

    Ann y Foty yn cofio Ziggy Stardust LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    CARTREF

    Ffôn:Carole neu Philip ar 01691 648129

    Ebost:[email protected]

    Gwefan:www.cartrefbedandbreakfast.co.uk/rooms

    Gwely a BrecwastLlanfihangel-yng Ngwynfa

    Te Prynhawn a Bwyty

    Byr brydau a phrydau min nos ar gael

    Cinio Dydd Sul (archebu o flaen llaw)

    Dafydd Iwan oedd gen i y trodiwetha’ i mi roi pin ar bapur.Dafydd arall sydd gen i y tro hwner mai David Jones oedd enwbedydd y ddau arwr! Daeth y naillyn enwog am ganu a pheintio’i

    wyneb a’r llall am ganu a pheintio seins.Eisteddwn wrth y bwrdd arferol yn y CwpanPinc un bore ddechrau Ionawr. Cerddoriaethoedd testun y drafodaeth y diwrnod hwnnw.Siaradem am Vernon a Gwynfor, John ac Aluna Jac a Wil. Roedd rhai yn cofio Jac a Wil yndod i ganu yn neuadd y Foel flynyddoedd ynôl a’r lle yn orlawn o wrandawyr eiddgar.Edward Hywel Evans oedd wedi anfon llythyrat y ddeuawd yn eu gwahodd i’r ardal a hynnyheb wybod eu cyfeiriad. Yr enwau ‘Jac a Wil’yn unig oedd ar yr amlen , ond gan mor enwogoedd y ddeuawd fe gyrhaeddodd y llythyr benei daith.Yr oeddem yn rhyfeddu at eu poblogrwyddpan gerddodd Alun Pantrhedynog i mewn i’rcaffi gyda’r newyddion fod David Bowie wedimarw. Aeth enw hwnnw ymhellach nac un Jaca Wil hyd yn oed. Nid fod pawb oedd rownd ybwrdd y bore hwnnw mor gyfarwydd â hynnyâ’r ymadawedig. Ond cefais flas ar oleuo yrhai hynny oedd yn y tywyllwch. Synnu wnaiambell un (a hynny nid am y tro cyntaf) fodhen wraig o dop Cwm Twrch yn gwybodcymaint am David Bowie, fel pe bai angen ichi fyw mewn llefydd trendi fel LlanfairCaereinion neu’r Trallwm cyn gwybod dim owerth am y byd a’i bethau. Ond mae Jac ymab sy’n byw yn Llundain wedi fy nghadw i’nifanc ac wedi fy ngoleuo ar lawer o bynciaudyrys. Roedd David Bowie (yn arbennig yn eiymgnawdoliad fel Ziggy Stardust) yn arwrmawr iddo fo. Mae o hyd yn oed wedi ei alwyn broffwyd ac yn sant a hynny am iddo heriocymaint o gonfensiynau. Bowie oedd y cyntafi ddweud fod gan hogia’ berffaith hawl i wisgocolur a dillad lliwgar ac nad oedd angen iddyntfod yn ‘macho’ er mwyn profi eu hunain. Adydyn ni ddim wedi dechrau sôn am eigerddoriaeth arloesol a chyffrous. Gwnai i Jaca Wil a John ac Alun swnio braidd yn saff.Rhaid hefyd edmygu’r ffordd y trefnodd Bowieei farwolaeth. Ac yntau yn dioddef o ganser

    ers deunaw mis fe luniodd sioe gerdd o’r enw‘Lasarus’ ac fe ryddhaodd albwm newydd arei wely angau. Gwrthododd fynd i’w dranc yndawel. Bu iddo ddathlu bywyd i’r diwedd.Ond, proffwyd? Sant? Synhwyraf fod ambellun ohonoch yn gwingo. Geiriau o fyd crefyddyw’r rhai hyn ac fe fyddai rhai yn mynnu maiIoan Fedyddiwr oedd yr olaf o’r proffwydi abod seintiau yn perthyn i oes Cadfan aThydecho.Mae rhai o’m cyfeillion wedi fy meirniadu ambeidio trafod crefydd yn fy ngholofn (ynarbennig gan fod gen i farn bendant iawn arbopeth arall meddent). Ond mae’n well gen iadael y pwnc hwn i Gwyndaf Roberts. Fyddwni ddim yn dymuno tresbasu yn ei winllan ef.Rydw i hefyd yn adnabod llawer sy’n fwyteilwng na fi i wyntyllu barn ar y pwnc. Unyw’r hen flaenor Emyr Davies a’r llall yw AlunPantrhedynog sydd wedi gwneud cryn enwiddo’i hun yn pregethu ym mhulpudau’r fro.Clywais ganmol mawr i Alun er i ambell unawgrymu fod tipyn o flas papur newydd y‘Guardian’ ar rai o’i sylwadau. Ond fe awn i fyhun mor bell â dweud fod colofnwyr y Guard-ian yn dod gryn dipyn yn agosach at neges yBregeth ar y Mynydd na cholofnwyr y DailyMail, y Telegraph a’r Daily Express, y papurauhynny sy’n efengylu tros y Toriaid.Gyda llaw, rai blynyddoedd yn ôl cofiaf i rywunholi i’r diweddar T J Davies, oedd yn gweithioi Gymdeithas y Beiblau, pa un oedd y pechodmwyaf. ‘Pleidleisio i’r Toriaid,’oedd ei atebiadpendant. Os yw hynny’n wir mae ynabechaduriaid mawr iawn yn byw yn NyffrynBanw ac yn darllen y Plu hyd yn oed!Ond yn ôl â ni at y ‘Guardian’. Yn y papurhwnnw mae yna golofnwyr fel GeorgeMombiot ac Owen Jones (y naill yn byw ymMachynlleth a’r ail o dras Cymreig). Felproffwydi’r Hen Destament maent yn barod igeryddu y rhai sy’n teyrnasu trosom ac yntynnu sylw at yr anghyfiawnderau sy’n llethu’rbyd. Buont yn eithriadol o huawdl ers tro arbwnc cynhesu byd-eang. Heb amheuaeth,pobl fel nhw a David Bowie yw ein proffwydicyfoes. Ond a ydym ni yn barod i wrandoarnynt? Neu a ydym am droi clust fyddar feltrigolion yr Hen Destament?

    TriniaethDdiwedd Tachwedd 2015 derbyniodd LenaJones, Cyffin Isa, driniaeth yn yr ysbyty.Deallwn ei bod yn gwella ac yn cryfhau ac’ibod yn fendith iddi ei bod yn gallu gyrru’r careto. Dymunwn yn dda iddi ac ymddiheuriadnad oeddwn wedi cynnwys hyn yn rhifynIonawr.Anfonwn ein cofion at Dilys Lloyd, Pandy.Gobeithio y byddwch yn teimlo’n well cyn bohir, Dilys.Sefydliad y MerchedCawsom ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn arIonawr 11eg. Mabel ddarllenodd y Collect aLinda, y Llywydd, a groesawodd pawb yno.Ymlaen wedyn i ddelio efo materion ygangen. Mae Angie, ein hysgrifenyddes ynbrysur gyda chymorth gan aelodau, yngwneud albwm ar gyfer dathliadcanmlwyddiant y Sefydliad. Trist oeddclywed bydd Barbara yn ymddiswyddo o’i rôlfel Trysorydd am ei bod hi a’i g@r yn symudi fyw yn Sir Amwythig. Diolchwn iddi am eigwaith a diolch hefyd i Catherine sydd ynfodlon llenwi’r bwlch gyda chefnogaethDianne. Croesawyd Helen Jones o Bontroberti ddangos sut mae’n gwneud ‘fascinators’.Roedd yn ddiddorol ac yn llawer o hwyl.Diolchodd Linda iddi. Meinir a Morwennaofalodd am y lluniaeth ysgafn. Catherineenillodd y raffl efo Barbara, Angie a Catherineyn ennill y gystadleuaeth fisol oedd dan ofalMorwenna. Rhaid diolch i Meinir a Morwennaam drefnu’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn iddod. Dwi’n si@r y cawn flwyddynlwyddiannus eto eleni. Mis Chwefror mi fyddHilary Jones, Meifod efo ni yn dangos innisut i drin ein hewinedd. Ymunwch â ni yn ySefydliad am noson gymdeithasol.

    Linda Roberts

    Dydd Sul a Dydd Mercher 9.00 - 2.30Dydd Llun i Ddydd Gwener

    8.00 tan 5.00Dydd Sadwrn 8.00 tan 4.00

    CAFFICAFFICAFFICAFFICAFFIDydd Sul a Dydd Mercher: 9.00 - 2.00

    Ddydd Sadwrn 8.00 tan 3.30Dydd Llun i Ddydd Gwener

    8.00 tan 4.30

    ym mhentre Llangadfan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

    BARGEN FLASUSBARGEN FLASUSBARGEN FLASUSBARGEN FLASUSBARGEN FLASUSbob Dydd Mercherbob Dydd Mercherbob Dydd Mercherbob Dydd Mercherbob Dydd MercherCinio - Pwdin - Te/Coffi

    DIM OND £6.95Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / AnrhegionAnrhegionAnrhegionAnrhegionAnrhegion

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    Colofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrLois Martin-Short

    Noson LawenMae rhai o ddysgwyr lefel Canolradd weditrefnu Noson Lawen, a fydd yn cael ei chynnalNos Sadwrn, Chwefror 20fed, am 7:30yh yngNghlwb Y Monty, yn y Drenewydd. Cawngerddoriaeth werin gan “Hen Fegin,” aceitemau eraill gan ddysgwyr Cymraeg yr ardal.Pris y tocynnau yw £10, i gynnwys mynediad,adloniant a lluniaeth ysgafn. Mae tocynnauar gael o Siop Pethe Powys, o Glwb y Monty,drwy ffonio Menna ar 01686 614226 neu trwye-bostio [email protected]. Bydd elw’rnoson yn mynd at Ambiwlans Awyr Cymru.Mae croeso cynnes i bawb - yn GymryCymraeg ac yn ddysgwyr, felly dewch yn llu!Sadwrn SiaradGan fod y Pasg yn gynnar eleni, fydd ddimSadwrn Siarad y mis yma. Ond cofiwch amyr Ysgol Basg, 31 Mawrth – 1 Ebrill. Mwy ofanylion fis nesaf.Penwythnos Cymraeg i’r Teulu

    Mae dysgwyr efoplant ifancweithiau yndweud bod hi’nanodd mynd argyrsiau dros ypenwythnos. Weldyma gwrs sy’ndatrys y broblem!Beth am fynd â’rplant am wyliaubach ar lan y môr,a dysgu Cymraegyr un pryd? Byddcwrs arbennig ynLlangrannog, 19-21 Chwefror.Mae’n addas argyfer pob lefel.Mae’n costio£120 i oedolion,£100 i blant dros8 oed, ac maeplant dan 4 oed yncael mynd am£10. Mae’r pris ynynynynyncynnwys lletycynnwys lletycynnwys lletycynnwys lletycynnwys llety,,,,,

    bwyd, gwersi Cymraeg,bwyd, gwersi Cymraeg,bwyd, gwersi Cymraeg,bwyd, gwersi Cymraeg,bwyd, gwersi Cymraeg,gweithgareddau ac adloniant!gweithgareddau ac adloniant!gweithgareddau ac adloniant!gweithgareddau ac adloniant!gweithgareddau ac adloniant! Am fanylionpellach cysylltwch â Chanolfan Morgannwg:01443 483 600

    Catrin ar Radio WalesFel rhan o ymgyrch (campaign) i hyrwyddo’r Gymraeg, roedd un o ddysgwyr ardal y Plu ynsôn am ei phrofiad yn dysgu Cymraeg ar raglen Eleri Sion ar Radio Wales. Os hoffech chiglywed y cyfweliad, ewch i http://www.bbc.co.uk/programmes/p03dq2mt neu https://www.facebook.com/BBCCymruWales/

    Beibl.netTybed dachchi wedigweld yf e r s i w nnewydd hwno’r Beiblmewn iaithsyml? Mae’naddas iawnar gyfer poblifanc ad y s g w y r .Mae o wedibod ar y Weers rhaiblynyddoedd,(www.beibl.net)

    ond r@an dach chi’n gallu prynu copi printiedig.Mae’n costio £14.99 ac mae ar gael i’warchebu yn Pethe Powys. Os dach chi’n prynu25 copi neu fwy, mae gostyngiad o 30% argael.Mae beibl.netbeibl.netbeibl.netbeibl.netbeibl.net ar gael am ddim hefyd ar ApApApApApBeiblBeiblBeiblBeiblBeibl i’w roi ar eich ffôn neu ar eich cyfrifiadurllechen (tablet) Ewch i iOS App Store neuAndroid Play Store.Llwyddiant yn y FoelLlongyfarchiadau i Alun Bowen, Ffordun aJillian Jenkinson, Llangadfan am ennillgwobrau yn Eisteddfod y Foel. Teitl ytraethawd i’r dysgwyr oedd ‘Fy hoff fancyfarfod’. Gobeithio byddwn ni’n cael cyfle iddarllen y traethodau buddugol yn y golofncyn bo hir.

    HUW EVANSGors, Llangadfan

    Arbenigwr mewn gwaith:

    FfensioUnrhyw waith tractor

    Troi gydag arad 3 cwys ‘spring’a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’Torri Gwair a Thorri Gwrych

    Bêlio bêls bach

    01938 820296 / 07801 583546

    ar ddydd Llun a dydd Gwener

    PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

    yn ymarfer uwch ben

    Salon Trin GwalltAJ’s

    Stryd y BontLlanfair Caereinion

    Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

    E-bost: [email protected]

    ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

    Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

    AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

    Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

    BANWY BAKERY

    STRYD Y BONT, LLANFAIR CAEREINION, SY21 0RZ

    CAFFIBara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

    Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

    Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

    Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952neu e-bostiwch: [email protected]

    www.banwybakery.co.uk

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 77777

    BECIAN DRWY’R LLÊNgyda Pryderi Jones

    (E-bost: [email protected])

    S

    Croeso gan KarinaDyma sgwrs fach arall yn y gyfres o sgyrsiaugyda rhai o bobl ddifyr yr ardal am ydylanwadau arnyn nhw a beth maen nhw’nhoffi ei ddarllen y dyddiau yma. Gyda’rathrawes, y bardd, y llenor a fy ffrind Karinay bues i’n siarad y tro hwn, Mrs Dafis iddisgyblion yr ysgol uwchradd, a gwraig AledPentre Mawr i rai!Diwrnod llwyd a llonydd a phob man yn daweldawel ar ddechrau’r flwyddyn fel hyn. Maehi’n fwyn ac mae’r Cennin Pedr wedi drysuac yn bygwth blodeuo. Rydw i’n curo drws yt~ yn Llanbrynmair ac ymhen dim o dro dawdau ben melyn i’r golwg, Aria Wyn ac AronWyn, dau fwndel bach o egni. Yna, daw Aleda Karina i’r fei, Aled wedi bod yn canu ynLlandudno neithiwr a Karina wedi bod yngwmni iddo. Mewn chwinciad mae paned ynfy llaw a thractor glas gan Aron imi ei edmygua’i ganmol yn fy llaw arall. Mae hi’n gartrefolbraf yn y gegin ond gwn beth sydd drwy’r drwsyn yr ystafell fyw, llond gwlad o gadeiriau achoronau y mae Karina wedi eu hennill mewneisteddfodau. O fy mlaen mae powleniad haelo dreiffl. Un dda am dreiffl ydy Karina. Felhyn yr aeth y sgwrs.Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Helpa dy hunan, gwna fel tase tigartre!Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Diolch i ti. Cardi wyt ti yntê Karina.Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Ie, ie. Ces i fy magu yng nghefngwlad dyffryn Aeron, lle sy’n bwysig iawn imi a dylanwad mawr arna i. Rydw i’n dod ogefndir gwledig ac amaethyddol. Ro’n i’n aelodo Glwb Ffermwyr Ifanc Pennant, Ceredigionac yng nghystadlaethau llenyddoleisteddfodau’r Ffermwyr Ifanc y gwnes igystadlu am y tro cyntaf. Ro’n i’n ddigonffodus i ennill tair cadair Eisteddfod FfermwyrIfanc Cymru.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Tair gwaith! Iesgob! Mae hynny’ndipyn o gamp. Mae ennill yn y sir yn wychiawn ond ennill yn y genedlaetholdeirgwaith...mae’n rhaid fod rhywbeth arbenniggen ti.

    Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Wel sai’n gwbod amhynny ond fe ges i athroCymraeg da yn YsgolAberaeron. Emyr Llewelyn,ro’n i’n lwcus iawn o’i gael felathro Cymraeg arnaf. Roeddei wersi’n ddiddorol ac ynysbrydoledig – yn ei wersi ef ygwnes i ddechrau ysgrifennu’ngreadigol o ddifri a chymrydgwir ddiddordeb yn yr iaith acmewn llenyddiaeth Gymraeg.Roedd Emyr Llew yn fy annogi lenydda’n gyson. Fe sy’nbennaf gyfrifol, mae’n si@r, fymod i’n dal i ymddiddori yn y‘pethe’ ac yn mwynhau darllenac ysgrifennu. Mae fy nyled i’nfawr iawn iddo ac mae eiddywediadau a’i ffordd o siaradffraeth yn dal i atsain yn y cof– yn ein hannog ni, ddisgyblion,

    i ddal ati ac i beidio â digalonni – ‘Daliwch atii bedlo’ yw un o’i hoff ddywediadau!Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Mi rydw inna wedi cwrdd ag EmyrLlewelyn ac mi greda i ei fod o’n athro daiawn. Pa fath o lyfrau wyt ti wedi mwynhaueu darllen te Karina?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina:Wel mae’n rhaid imi enwi Un Nos OlaLeuad i ddechrau...Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Go dda, nofel gan ogleddwr iddechrau petha felly!Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Ie, ie! Er i mi ddarllen y nofel hondroeon erbyn hyn, mae’n dal i fy nghyffwrdd.Mae ynddi ddarluniau ingol o dlodi adioddefaint yn aros yn y cof ond yng nghanolhyn i gyd, mae ’na hiwmor. Y llon a’r lleddf yncydredeg mor agos i’w gilydd drwy’r nofelgyfan ac mae hyn, yn y pen draw, ynadlewyrchiad teg o fywyd yn ei gyfanrwydd adyna paham y mae hi’n nofel mor arbennig imi.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Oes yna nofel arall wedi creu argraffdebyg arnat ti?Karina: Karina: Karina: Karina: Karina: Oes! Mae Blasu gan Manon SteffanRos wedi rhoi’r unwefr i mi wrth eidarllen ag Un NosOla Leuad – ddimyn aml mae hynyn digwydd mewnb y w y d .P w y s l e i s i o ’ rcysylltiad unigrywrhwng bwydyddneu flasauarbennig aphrofiadau bywydy mae’r nofel, acmae’r ryseitiaudiddorol arddechrau pob pennod yn fodd o brocio cofPegi, prif gymeriad y nofel, i ddweud ei stori.Mae nifer o bethau’n debyg rhwng Un NosOla Leuad a Blasu – mae hanes plentyndodPegi yn ingol o drist hefyd ac mae ganddihithe berthynas gymhleth â’i mam, yn union

    fel yr adroddwr yn nofel Caradog Prichard.Mae’r disgrifiadau o salwch meddwl y fam ynBlasu yn ein cyffwrdd i’r byw, yn union fel yrhyn a welwn yn Un Nos Ola Leuad.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Wyt ti’n mynd am nofelau digontywyll felly Karina?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Roedd y profiad o ddarllen y ddwynofel uchod yn chwerw-felys. Mae’r ddwygyfrol yn cynnwys themâu tywyll ac ysgytwolyn ogystal â hiwmor a phrofiadau melys. Maearddull y ddwy yn gyfoethog ac yn gwneuddefnydd llawn o’r synhwyrau. Dwy nofel fyddyn aros yn hir yng nghof y darllenydd ydy’rrhain.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Oes yna nofelwyr eraill yr wyt ti wedimwynhau eu gwaith nhw te?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Oes! Rydw i yn mwynhau gwaithJohn Gower. Mae Y Storïwr ganddo yn nofelswmpus ond yn werth ei darllen. Maedychymyg John ei hun yn ffrydio drwy’r nofela’i ddawn unigryw o adrodd stori. Mae Dala’rLlanw ganddo hefyd yn aros yn y cof, ynenwedig ei ddarlun arbennig o Buenos Aires.Mae’n llwyddo i dod â’r ddinas yn fyw i chi oflaen eich llygaid. Arddull liwgar, gofiadwy.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Mi fwynheais inna Dala’r Llanw hefydKarina, a dw i’n cytuno efo ti, mae o yn gadaeli’w ddychymymyg ffrydio’n braf. Be ydy’rgorau gen ti, darllen llyfr neu ddarllen ar Kin-dle?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Llyfr i mi, bob amser. Does dim bydyn well na theimlad ac arogl llyfr a’r profiadarbennig o ddal cyfrol newydd sbon yn eichdwylo. Dyw darllen stori neu nofel ar sgrinddim yn rhoi’r un wefr i mi o bell ffordd.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Pa lyfr wyt ti’n bori ynddo fo ar hyno bryd te Karina?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Pan dw i’n cael llonydd gan Aledgyda’r nos, dw i’n darllen Y Bwthyn gan CarylLewis. Rydw i newydd ddarllen y bennodagoriadol ac roedd hi’n apelio’n syth, y bywydgwledig a byd natur yn ganolog i’r nofel. Sônam fwthyn ar fferm fynyddig mae hi ac rydwinnau’n hen gyfarwydd, erbyn hyn, â bywydar fferm fynyddig ym Maldwyn ac yn galluuniaethu â’r math yma o fywyd yn syth. Ceirdisgrifiadau hyfryd o fyd natur yn y bennodgyntaf.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Mi fydd yn rhaid i finna fynd i’r afaelâ’r nofel honno te. Beth ydy dy obeithion amy dyfodol dwed?Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Wel dal ati i ymddiddori yn y ‘pethe’– darllen a llenydda gan obeithio y caiff fymhlant, Aria ac Aron, yr un mwynhad oddarllen ac o lenyddiaeth ag a gefais i.Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi:Pryderi: Pob hwyl i ti Karina yn y dyfodol adiolch am y sgwrs fach hon ar ddechrau’rflwyddyn. Blwyddyn newydd dda i ti!Karina:Karina:Karina:Karina:Karina: Ac i tithe a llawer ohonyn nhw!

    Cyn gadael, rydw i’n gofyn am gael mynd i’rparlwr i gael cip bach ar y cadeiriau. Bobl bach!Mae deg cadair eisteddfodol yno a dwy goronmewn eisteddfodau megis Llanuwchllyn,Rhydlewis a Chastellnewydd Emlyn. Yndisgleirio yn eu canol mae cadair EisteddfodPowys, Llanfair Caereinion 2013 a choronauEisteddfod Powys Dyffryn Ceiriog 2014 acEisteddfod Powys Dyffryn Banw 2006. Maennhw’n werth eu gweld, a rhywsut, wrth gamuallan i lwydwyll llonydd y dydd unwaith eto,mi rydw i’n cael y teimlad y bydd yna ragor ogadeiriau a choronau yn dod i barlwr Karinaac Aled yn Llanbrynmair.

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    Croesair 223Croesair 223Croesair 223Croesair 223Croesair 223- Ieuan Thomas -

    (12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

    Enw: ______________________________

    Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

    MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

    Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.

    Ffôn: 01650 531210

    1. Beth yw gwaith Eifion? (8)7. Gofyn yn daer (5)8. Tref y dyffryn (7)9. David o’r NHS (7)11. Mae yn y mur Trefaldwyn (4)13. Mae Megan fach yn y gwyddoniaeth (15)16. Curo’r wal (4,3)19. Gobaith hyn yn yr ysbyty (5,2)20. Ffrwythau lliwgar o’r de? (5)24. Edward Fychan bywiog (3,5)

    I Lawr1. Cadw heb fynd yn bell yn y ......??????..2. Ceir letrig o hyn (4,4)3. Siop nwyddau yn Llanfair (4)4. Mae’n edrych ar ôl llefydd (6)5. Rhedegfa dd@r (4)6. Bu farw wrth gario glo i Fflint (2,4)7. Llythyr o’r Beibl (7)10. Ar waelod y byd? (5,2)12. Mae miloedd o’r dwyrain yn hyn ynddiweddar (5)13. Miawod y Cofi Caernarfon (6)14. Ceir hyn ar y ffyrdd yn ddiweddar15. Sut wna’r athro ar y bwrdd du (1,5)17. Daw gyda’r oerni (4)18. Rheswm neu achlysur (4)

    Atebion 223Ar draws: 1. Meusydd; 4. Cnau; 6. YnWeddw; 9. Yr Adfa; 11. Siarad; 14. Rahael;16. Unioni; 19. Ap Wilie; 21. Gwag; 22. A RwsiaI Lawr1. Mwynderau; 2. Un Waith; 3. Dod; 4.Canada; 5. Addef; 7. Dechre; 8. Wy; 12. Islaw;13. Rhiwlas; 17. Na yw; 18. Ia; 20. Pâr

    Neb ag atebion, wedi gloddesta yn ormodoltybed?

    Dymuniadau gorauAr 14eg o’r mis bach fe ddymunwnbenblwydd hapus iawn i Mrs Primrose Lewisgynt o Pencoed ar y dyddiad yma sydd ynun arbennig iawn yn ei chalendr.YmddeolDaeth dwy chwaer i fyw i blwy’ Llanlluganrai blynyddoedd yn ôl - Meg Ringrose i’r henFicerdy a Pam Adcock i Bleakhouse (y t~uchaf ym mhentre Cefncoch a’r oeraf). Ymddeolodd Meg o Morrisons ym mis

    LLANLLUGANI.P.E. 810658

    Gorffennaf a rhoddodd Pam y gorau i’w gwaithtu mewn i Neuadd Gregynog yn mis Rhagfyr.Mae’r ddwy yn edrych ymlaen at gerdded agarddio o hyn ymlaen.ColledClywsom fod Dei Drain gynt yn yr ysbyty, ondmewn deuddydd fe ddaeth tristwch i’r plwyf pan ddaeth y newyddion fod Dei wedi’n gadaelni. Roedd gan Dei diddordeb mawr mewntreialon C@n Defaid Cefncoch a’r Ardal, wedibod yn aelod am flynyddoedd. Y tro olaf imiei weld oedd yng nghinio Nadolig yr henoedyn yr hen ysgoldy cyn y Dolig yn llawn hwylfel arfer. Collodd ei wraig Una tua 3 blyneddyn ôl a’i ferch Ann ac yna’i wyres - merch Ann.Ond roedd yn dal i wenu a chodi ysbryd pobleraill er gwaethaf popeth.

    Yr ArddFe ddaeth i’m meddwl yngnghanol haf 2015 nad oedd yrhododendron yn yr ardd o flaeny t~, yn y lle iawn, a byddai’nrhaid symud y llwyn. Ondroedd y tywydd a’r pridd yn rhysych. Daeth y glaw o’r diwedda thua diwedd Tachwedd cefaisafael ar @r llawn o ddiddordebaui fy helpu. Wel fe lawiodd aglawiodd ond heddiw dyddGwener olaf Ionawr daeth MrAlwyn Hughes ac fe symudwydy llwyn i lawr i’r dingl. DiolchAlwyn, rwyt ti wedi gwneud fyniwrnod. Hip-hip hwre...

    Bridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrs

    Bwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch Cymreig

    Seidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaeth

    Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:01938 81191701938 81191701938 81191701938 81191701938 811917

    DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

    Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

    ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

    Ffôn: 01938820387 / 596

    Ebost: [email protected]

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 99999

    O’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANGwyndaf Roberts GWE FAN

    Y Brigdonnwr

    G wasanaethau A deiladu D avies

    Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

    Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

    Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

    Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

    www.davies-building-services.co.uk

    Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domesitg a gwaith diwydiannol

    IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

    Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

    Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

    Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

    Yvonne Steilydd Gwallt

    Ffôn: 01938 820695

    neu: 07704 539512

    Hefyd, tyllu

    clustiau a

    thalebau rhodd.

    Ar gyfer eich holl

    ofynion gwallt.

    Wrth i’r flwyddyn 2015 ddirwyn i ben fe gafoddpobl Cymru anrheg amhrisiadwy pangyhoeddwyd beibl.net gan Gymdeithas yBeibl. Mr Arfon Jones, Caerdydd yw’r un sy’ngyfrifol am y cyfieithiad newydd hwn o’rieithoedd gwreiddiol sef Groeg y TestamentNewydd a Hebraeg yr Hen Destament.Cefnogwyd Arfon Jones gan Gobaith i Gymrugyda’r bwriad cychwynnol o roi’r TestamentNewydd ar y we erbyn 1 Mawrth 2002. Erbynhyn mae’r Beibl cyfan newydd gennym mewnCymraeg llafar syml. Fel y dywedir yn yrhagair efallai na fydd yr iaith wrth ddant pawba bydd rhai yn ansicr o’r arddull, yr eirfa a’rgramadeg a ddefnyddir ynddo. Ond gan mai’rbwriad oedd hybu pobl ifanc i ddarllen gairDuw a’i ddeall, bydd yn rhaid derbyn bod i’rcyfieithiad hwn ei le ymhlith y Beiblau eraillsydd gennym eisoes. Problem unrhywgyfieithiad yw cyflwyno’r hyn a ddywedwydyn wreiddiol heb syrthio i’r demtasiwn o wneudy peth yn esboniad. Mater i arbenigwyr yn ymaes fydd barnu a yw beibl.net wedi llwyddoi osgoi’r demtasiwn honno.William Salesbury oedd y cyntaf i ddarparucyfieithiad Cymraeg cyflawn o’r TestamentNewydd a hynny yn 1567. I ychwanegu at eigamp roedd eisoes yn yr un flwyddyn wedicyhoeddi’r Llyfr Gweddi Gyffredin. O Hydref1567 roedd yn rhaid cynnal gwasanaethau yny Gymraeg yn y plwyfi Cymraeg eu hiaith.Yn anffodus ni fu’r cyfieithiad yn boblogaiddoherwydd yr orgraff a ffurf od ac unigrywSalesbury o sillafu’r Gymraeg. Gan fod Deddf1563 yn gorchymyn i gyfieithiad o’r Beiblcyfan gael ei ddarparu, fe ofynnwyd i WilliamMorgan ymgymryd â’r gwaith. Diwygiwyd Tes-tament Salesbury ganddo a bu’n gweithio aryr Hen Destament gan wneud llawer o’r gwaithyn Llanrhaeadr ym Mochnant. Mae’r Beibl agyhoeddwyd ganddo yn 1588 yn gampwaithna welir ei fath eto ac nid gormodedd ywdweud y bu’n fodd nid yn unig i achub iaithond i achub enaid y genedl hefyd.Wedi cyhoeddi fersiwn awdurdodedigSaesneg o’r Beibl yn 1611, gofynnwyd i’r

    Esgob Richard Parry, Llanelwy a Dr JohnDavies, Mallwyd ddiwygio testun BeiblWilliam Morgan. Credir mai John Davies awnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith a chyhoeddwydffrwyth ei lafur yn 1620. Mae’n syn meddwlmai Beibl 1620 fu ar ddefnydd gan bob Cymrones cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd yn1988!!Yn 1961 ar gais Cyngor Eglwysi Cymruffurfiwyd panelau o ysgolheigion Beiblaidd allenyddol i ddechrau ar y gwaith o ddarparucyfieithiad hollol newydd o’r Beibl i Gymraegcyfoes. Gwelwyd blaenffrwyth y gwaith pangyhoeddwyd y Testament Newydd yn 1975 afersiwn o’r Salmau yn 1979. Ar Fawrth ycyntaf 1988, mewn gwasanaeth yn yTabernacl, capel y Bedyddwyr yngNghaerdydd, fe gyflwynwyd y Beibl CymraegNewydd i’r genedl.Daeth yn amlwg erbyn 1995 bod yn rhaiddiwygio BCN 1988 er mwyn gwella’r cyfieithiada chywiro rhai camgymeriadau. Manteisiwydar y cyfle i gysoni enwau priod a geiriautechnegol a defnyddio iaith gymhwysol.Cyhoeddwyd y Beibl Cymraeg NewyddArgraffiad Diwygiedig yn 2004. Bellach maegennym fel Cymry bedwar Beibl y gallwn droiatynt wrth ddarllen ac astudio Gair Duw.Mae’n demtasiwn i ddyfynnu sawl adnod felenghraifft o waith y gwahanol gyfieithwyr ondbodlonaf wrth ddwyn eich sylw at adnod 4 ynSalm 8.Dyma’r adnod fel y’i ceir ym Meibl 1588/1620:Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i tiymweled ag ef?Beibl Cymraeg Newydd 1988: beth yw dyn,iti ei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano.Beibl Diwygiedig 2004: beth yw meidrolyn, itiei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?beibl.net: Beth ydy pobl i ti boeni amdanynnhw? Pam cymryd sylw o un person dynol?

    Argraffwyd beibl.net yn Tsiena ond nid oesrhaid ei brynu oherwydd mae ar gael ar y We.O deipio beibl.net ar eich ffôn symudol, eichtabled neu gyfrifiadur gallwch ddewis unrhywlyfr i’w ddarllen. Pan ddaw’r awydd i ffoniocyfaill, beth am gysylltu â’r “cyfaillgwerthfawrocaf erioed”. Synnwn i ddim ybyddwch yn cael y profiad yn un pleserus,adeiladol a bendithiol iawn.

    Fel dw i wedi sôn o’r blaen yn y Plu, weithiaumae rhywun yn dod ar draws gwefan sydd ynarbennig o dda ac yn sefyll allan a digwyddoddhynny yn ddiweddar i mi. Y safle dan sylwyw http://www.airpano.com/ sef gwefan gydaamryw o deithiau rhithwir (‘virtual tours’) gydagolygefydd 360 gradd. Nid peth newydd ywlluniau panorama ond be sydd yn gwneud ysafle yma sefyll allan yw ansawdd anhygoely lluniau – maen nhw’n werth eu gweld! Maetua 300 o deithiau gwahanol i ddewis ohonynnhw. Gyda’r teithiau mae’n bosibl caelgolygfeydd gwahanol gan gynnwys rhai o’rawyr. Yn ogystal, mae rhai lle gellwch wyliofideo rhyngweithiol o leoliad lle mae gennychy dewis i reoli’r olygfa! Mae angen cyfrifiadurmodern gyda chysylltiad cyflym i hyn weithioyn iawn! Dyma ambell enghraifft i chi gaelsyniad o’r math o deithiau sydd yn eichdisgwyl: -· Rhaeadr Iguazu ar yr arfordir rhwng

    Brasil a’r Ariannin· Gwlad yr Iâ· Barcelona· Manhattan, Efrog Newydd· Pyramidau Giza yn yr Aifft· Ynys Sakhalin, Rwsia· Mont Blanc, Eidal/Ffrainc· Anialwch Namib· Buenos AiresA llawer iawn mwy! I’ch helpu chi ddewis maeadran ‘20 Gorau’ ganddynt hefyd. Mae themâugwahanol yn ogystal fel dinasoedd yn y nosa llosgfynyddoedd gorau’r byd o’r awyr. Maellawer o waith ac ymdrech wedi mynd i’r saflefendigedig yma ac mae yn un o’r safleoddmwya trawiadol dw i wedi ei weld ers tro. Wrthi dechnoleg ddatblygu gobeithio y bydd mwya mwy o safleodd fel yma yn cael eu rhoi ar yrhyngrwyd. Felly, beth amdani – dim angenpasbort arnoch na newid arian ac ati, dim ondcyfrifiadur a chyswllt i’r we! Mwynhewch yteithio!

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    M ac L JonesPentre IsafLlanfair Caereinion

    Peiriant prosesu coed i’w huriosy’n torri ac yn hollti

    [email protected]

    01938 81033707773591895

    D Jones Hire

    TyntwllLlangadfanY Trallwng

    PowysSY21 0QJ

    Dylan: 07817 900517

    Chwalwr KTwo 6 tunnell Rear DischargerRitchie 3.0M Grassland Aerator

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

    Ffordd Salop,Y Trallwm.

    Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

    Mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu a 2016mewn ‘full swing’ yn barod. Cydymdeimlafefo rhai sydd yn cyfrannu erthyglau’nwythnosol i wahanol bapurau gan fod mis yPlu yn teimlo fel wythnos ynddi ei hun!Y defaid sydd wedi bod yn cael y prif sylwdros gyfnod y mis efo’r holl ddefaid wedi caeleu sganio. Mae’r canlyniadau yn dda iawnefo 10% mwy o @yn na’r arfer, sy’n debygiawn i ganlyniadau pawb arall. Wrth gwrs,rhagolwg yw’r ffigurau sganio efo llawer oelfennau a ffactorau yn golygu bod y nifer o@yn sydd yn cael eu magu a’u gwerthu ynffigur gwahanol iawn. Os collwch 10% ynunig o’r sganio i’r gwerthu yr ydych yn gwneudyn dda iawn. Gobeithiwn am dywydd ffafriolsydd yn un o’r prif elfennau adeg wyna.Mae un pit/sied silwair wedi dod i ben syddyn golygu bod lle i ddod ag ychydig o ddefaidi mewn. Ar ôl rhoi’r tanciau d@r a gatiau yneu lle mae’r sied wedi ei thrawsnewid ac ynsied ddefaid am ychydig o fisoedd. Mae tua200 o’r defaid cynnar wedi ymgartrefu i mewnac yn fodlon iawn eu byd efo digon o silwairo’u blaen a gwely sych.Cafodd y lloi i gyd eu dyfnu ar y 4ydd efo’rcyfan yn cael eu pwyso. Roedd y lloi gwrywyn pwyso 390kg ar gyfartaledd efo’r heffrodyn pwyso 368kg. Mae’r treial dyfnu yn parhauefo’r lloi wedi eu pwyso eto ers hynny. Felarfer, y lloi sydd yn cael eu geni yn hwyr syddar eu hôl hi ar y pwysau, yn tanlinellu’rpwysigrwydd o gael popeth i loio o fewn daufis yn unig.Rydym wedi gwerthu ychydig o wartheg ‘tew’ac ychydig o wartheg gwag i ladd-dy ABP ynyr Amwythig dros y mis. Nid yw’r prisiau yngyffrous iawn ac efo’r cwmni yn newid i sys-tem graddio electronig mae llawer o ffermwyryn amheus iawn efo’r sefyllfa. Mae carcaspob anifail yn cael ei sganio ac yna ei raddioyn ôl y canlyniad gan gyfrifiadur, sydd yngolygu am y tro cyntaf yn y diwydiant nadoes angen person i arfarnu a chategoreiddio’ranifail. Y dull yma sydd yn cael ei ddefnyddioi raddio gwartheg yn yr Iwerddon ers amsera’r @yn yn Seland Newydd hefyd. Mae hi’nsicr bod angen cyfnod o addasu i’r newidiadaua gobeithio y bydd dealltwriaeth a

    chydweithrediad rhwngy lladd-dai a’r ffermwyr.Bu cyfarfod BwrddHybu Cig Cymru ar y15ed efo llawer i’wdrafod. Y newyddionpositif oedd er bodgwerthiant cig oen wedidisgyn yn 2015 roeddgwerthiant cig oen oGymru wedi cynyddu,sydd yn arwydd bod ygwaith marchnata achodi ymwybyddiaethyn gweithio. Rhaidcofio bod canran ucheliawn o’r cig oen syddyn cael ei gynhyrchuyng Nghymru yn caelei fwyta dros GlawddOffa a thramor. Newidmawr arall sydd wedidigwydd yw’r galwaddramor am rannau o’roen; coesau, loins neuysgwyddau, ynhytrach na’r oencyfan. Cofiwch ofynam gig oen er mwynsicrhau ei fod bobamser ar y fwydlen!Yn dilyn y cyfarfodcawsom olwg ar HQEIDCymru, sefcanolfan hollsymudiadau defaid ac@yn Cymru ers yr 18fed o’r mis. Roeddwnyn disgwyl gweld llawer mwy o staff acadnoddau ond syml iawn oedd popeth efo’rsystem i’w gweld yn effeithiol iawn a phawbyn gyfeillgar ac yn barod iawn i atebcwestiynau. Os oes eisiau mwy o wybodaethneu gyngor yngl~n â’r symudiadau newyddcysylltwch a’r tîm ar 01970 636959 neu ewchar y we i eidcymru.org i fewngofnodi. Mae’nsiwr y bydd cyfnod o ansicrwydd am gyfnodond rwyf yn hyderus iawn y bydd EIDCymruo wasanaeth a mantais fawr i’r diwydiant yny dyfodol.Ar ôl cyfnod o ansicrwydd rwyf yn falch oweld Cyswllt Ffermio yn parhau i fodoli, erbod angen i bawb ail-gofrestru. Mae’rgyfundrefn yn debyg iawn i’r gorffennol efocymorth o 80% i’w gael ar gyrsiau hyfforddianta datblygu sgiliau. Mae’r cyrsiau yn amrywioyn eang o gneifio i defnyddio llif gadwyn iddefnyddio pla-laddwyr. Mae rhestr o’r hollgyrsiau i’w chael ar wefan Cyswllt Ffermio/

    Menter a Busnes. Mae’r cyfnod ymgeisiocyntaf ar gyfer blwyddyn 1 yn cau ar y 29aino Ionawr, ond bydd cyfle arall ym mis Ebrill.Os am fwy o wybodaeth mae Gwenan Ellisyn barod iawn efo cymorth bob amser [email protected] neu07866 547894. Mae Gwenan wedi bod efoCyswllt Ffermio ers 2001 a rhaid canmol eiholl waith da yn cynorthwyo ffermwyr a’rdiwydiant dros y cyfnod.Mae Superbowl 50 ar y 7ed o Chwefror ynCalifornia, sydd o ddiddordeb mawr iAmericanwyr ond ychydig llai i ni! Ta waeth,un o’r pethau diddorol yw’r holl hysbysebionsydd yn ymddangos ar y teledu yn ystod ygêm. Mae cost hysbyseb 30 eiliad yn $5miliwn a dim prinder ohonynt! Ar eich cyferar ‘Youtube’ mis yma mae hysbyseb o’rSuperbowl yn 2013; ‘So God made a farmer’Mwynhewch a hwyl am y [email protected] am unrhywsylwadau.

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 1111111111

    MEIFODMorfudd Richards

    01938 [email protected]

    Capel SeionAr bnawn Sul y 10fed o Ionawr cynhaliwydgwasanaeth dechrau’r flwyddyn dan ofal MrTom Ellis. Gwnaed y casgliad tuag atAmbiwlans Awyr Cymru.Gwellhad BuanDa clywed fod Elaine Jones, Lower Hall yngwella ar ol cael llawdriniaeth yn ddiweddar.GeniLlongyfarchiadau mawr i Tom a VanessaLewis, Pentre Cottage ar enedigaeth mabbach, Alfred Thomas.Arholiadau pianoLlongyfarchiadau mawr i’r canlynol ar eullwyddiantGwennan Smith, Meifod - Gradd 4 (Pass)Cerys Evans, Castell Caereinion - Gradd 4(distinction)Maent yn ddisgyblion i Haf Watkin, Pentrego.Cymdeithas Gymraeg Meifod aPhontrobertDaeth cynulleidfa dda iawn ynghyd i nosonwefreiddiol nos Fawrth, Ionawr 12 yn NeuaddPontrobert yng nghwmni dynes leol sy’n tuhwnt o ddawnus sef Linda Gittins. Yn tydenni’n lwcus fod ffasiwn dalent yn ein hardalgyda chymaint o bobl a phlant wedi manteisioa chael bod yn rhan o Gwmni/ YsgolTheatrMaldwyn. Yn amlwg yr oedd Penri, Derec aLinda yn gweithio’n agos iawn ac yn deall eigilydd i’r dim - tîm da yn de!! Roedd clywedyr hanes a’r storïau tu ol i’r sioeau cerdd ynhynod ddiddorol yn ogystal â chlywed ygerddoriaeth a oedd yn dod â llawer o atgofionyn ôl i ambell un ohonom.Diolch i ferched Pont am y bwyd blasus yn ôlyr arfer, mi roedd y brechdanau salmon ynhynod flasus yn toedden nhw, Roy a Del!!!

    Mi fyddwn yn cwrdd nesaf ar nos Iau, 4ydd oChwefror, yn Neuadd Meifod am 7.30 lle ybydd Dr Siwan a’r deintydd Rhian Lewis ynsôn am eu byd gwaith.Ffermwyr Ieuainc Dyffryn EfyrnwyBu aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc DyffrynEfyrnwy yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth‘Siarad Cyhoeddus’ ym mis Tachwedd.Enillwyd y gystadleuaeth dadlau i rai dan 21gan Glwb Dyffryn Efyrnwy. Aelodau’r tîm oeddRachel Andrew, Laura Andrew, T~ Cerrig; TomParry ac Owen Leeson. Enillodd RachelAndrew y wobr am y Cadeirydd gorau.Roedd dau dîm gan y Clwb yn cystadlu yn ygystadleuaeth i rai dan 16 gyda thîm AmberWilkinson, India Wilkinson, Dyffryn a FrancisAndrew, T~ Cerrig yn ennill yr 2il safle.Enillodd Amber Wilkinson yr ail wobr am ysiaradwr gorau. Sion Watkin, Pentrego;Edward Birchall, Penylan a Bryn Jones,Greenhill oedd aelodau tîm y bechgyn.Bu’r aelodau yn canu carolau o amgylch yffermydd lleol cyn y Nadolig gan lwyddo igasglu tua £250 tuag at yr Ambiwlans Awyr.Hoffent ddiolch i bawb am eu rhoddion ac amy croeso a’r lletygarwch.Mae’r aelodau yn brysur ar hyn o bryd ynymarfer ar gyfer y gystadleuaeth drama.Byddant yn perfformio yn Theatr Hafren arnos Fawrth yr 16eg o Chwefror.

    Phil Watkin

    DyweddïadLlongyfarchiadau i Kevin Williams o Meifod aJo Williams o Four Crosses ar eu dyweddïaddros gyfnod y Nadolig. Pob dymuniad daiddynt yn y dyfodol.PantomeimAr ôl llwyddiant y pantomeim llynedd mae’rcriw am berfformio unwaith eto eleni ac arhyn o bryd yn brysur iawn yn ymarfer ‘PeterPan’. Mi fydd y perfformiadau ymlaen nosWener 5ed o Chwefror am 7:30 yh , pnawnSadwrn 6ed o Chwefror am 2:30 a nosSadwrn am 7:30.Bydd croeso cynnes a llawer o chwerthin yneich disgwyl, dewch yn llu i gefnogi.

    BOWEN’SWINDOWS

    Gosodwn ffenestri pren a UPVC oansawdd uchel, a drysau acystafelloedd gwydr, byrddau

    ffasgia a ‘porches’am brisiau cystadleuol.

    Nodweddion yn cynnwys unedau28mm wedi eu selio i roi ynysiad,

    awyrell at y nosa handleni yn cloi.

    Cewch grefftwr profiadol i’w gosod

    Ffôn: 01938 811083

    BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,TRALLWM, POWYS

    argraffu daam bris da

    holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

    ProfedigaethTrist oedd clywed am farwolaeth MeurigEvans Bronffynnon (Frislan gynt) yn 101 oedyn Llwynteg, Llanfyllin. Cofion cynnes atMona a’r teulu oll.Nain a TaidMae Mair ac Arwyn, Pencreigiau yn Nain aThaid unwaith eto. Ganwyd mab, SionGwynne i Ffion a Gerallt yn y Bala, brawdbach i Lois Gwynne.SalwchBu merch fach Bryn a Hayley, Ruby, yn yrysbyty yn ddiweddar. Gobeithio ei bod hi’nteimlo’n lot gwell.Cymdeithas y MerchedCafwyd noson gyda Kath Owen yn dangossut mae gwneud addurniadau Nadolig ym misRhagfyr. Roedd y swper Nadolig eleni ynDyffryn gyda chwis wedi ei drefnu gan BerylRoberts.

    DOLANOG

    MARSAnnibynnol

    Old Genus Building, Henfaes Lane,Y Trallwng, Powys, SY21 7BE

    Ffôn 01938 556000Ffôn Symudol 07711 722007

    Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol

    Trevor JonesRheolwr Datblygu Busnes

    Morgeisi * Pensiynau * Buddsoddiadau * Cynilion* Yswiriant Bywyd * Diogelu Incwm

    * Adeiladau a Chynnwys

    01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

    TANWYDD

    OLEWON AMAETHYDDOL

    POTELI NWY

    BAGIAU GLO A CHOED TAN

    TANCIAU OLEW

    BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

    ANIFEILIAID ANWES

    A BWYDYDD FFERM

    Brian Lewis

    Gwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymioa Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

    Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

    Ffôn 07969687916neu 01938 820618

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    CAlwyn Hughes

    ynefin

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybont syddyn ei argraffu

    Cofio Teulu Caethle, Y FoelRwyf yn ddiolchgar iawn i Mrs Tilly Gittins,Preswylfa, Llanerfyl am gael benthyg y llunarbennig a welir ar y dde. Gwelir dau ddyn ynsefyll o flaen twnnel Marchnant, oedd yn cludod@r i Lyn Llanwddyn o gwm Marchnant neugwm Pentre (yn ymyl pentref Abertridwrheddiw).

    Credaf mai’r pen agosaf i’r llyn a welir yma,lle mae’r d@r yn llifo i’r llyn drwy’r twnnel sy’nunion o dan Westy’r Llyn. Yn ôl Mrs Gittins,ei thad William Evans, a welir ar y dde aGruffydd Rees, Pencae, Y Foel (perthynas iMerfyn Rees, Dolgaseg a Megan Crosby, YFoel) sy’n sefyll ar y chwith.

    Roedd William Evans (neu Masiwn fel y’igelwid) yn byw gyda’i deulu yn Caethle ger yFoel. Cafodd ef a’i wraig Elizabeth Evansddeg o blant, ond bu farw dau ohonynt panoeddent yn fabanod. Erbyn heddiw Mrs TillyGittins yw’r unig blentyn sy’n fyw i adrodd yrhanes.Bu ei thad yn gweithio am flynyddoedd felmasiwn yn Llanwddyn, ar yr argae, y t@r a’rtwneli sy’n bwydo’r llyn â d@r. Roedd yncerdded i ben boncyn Bwlch Pentre ar foreLlun i gyfarfod Gruffydd Rees a gerddai oBencae, Y Foel ac yna cerddai’r ddau ohonynti Lanwddyn i weithio am yr wythnos. ArhosaiWilliam Evans yn Nh~ Capel y Methodistiaid(ger yr argae) ond ni wyddom ble’r arhosaiGruffydd Rees. Yn ôl Mrs Gittins, cariai eithad fasged a wnaed o wellt ar ei gefn gangludo ychydig o eiddo personol ac ychydig ofwyd i’w gadw hyd y penwythnos. Mae’n bosibeu bod yn gweithio ar foreau Sadwrn, cyncerdded yn ôl i’w cartrefi yn Nyffryn Banw.Roedd Gruffydd Rees yn labrwr a gynorthwyaiWilliam Evans gyda gwaith masiwn. DywedMrs Gittins ei bod wedi gweld hen lun o’i thadyn gweithio ar ochr yr argae uwchben y d@roddi ar ysgol oedd mewn cwch. Cafodd gynnigcael ei ollwng i lawr ar fath o gadair ar raff ondcredai fod yr ysgol yn saffach oherwyddboddai os torrai’r rhaff!

    Medrwn ddyddio’r llunyn eithaf sicr.Gwyddom fodEdward, TywysogCymru wedi agortwnnel Marchnant ynswyddogol ar Fawrth16, 1910. Yn ôl yr hyna welir yn y llun,ymddengys fod ygwaith masiwn bron â’igwblhau o gwmpasceg y twnnel, fellymedrwn ei ddyddio itua ail hanner 1909,neu ddechrau 1910.

    Fel mae’n digwyddmae gennyf docyngwreiddiol yn fymeddiant sy’n wahoddiad swyddogol i agoriad twnnel Marchnant, a gwelir ef yma. Ym mhenyr argae mae tri placanferth yn nodig w a h a n o lddigwyddiadau ynhanes codi’r argae.Mae un ohonynt ynnodi’r achlysur panagorwyd twnnelMarchnant ganDywysog Cymru(gweler y llun). Yn ôlMrs Gittins, roedd eithad yn un o’rmasiyniaid neu seirimaen a oedd yngyfrifol am y gwaithcywrain o osod ycerrig oddi amgylch yplaciau swyddogol.Mae’r hanes hwn wedify nghyffroi yn arw.

    Dyma linc pendant gydag adeiladu Llyn Llanwddyn – yr olaf un mae’n beryg. Mae Mrs TillyGittins yn perthyn i’r cyfnod arbennig hwnnw gan fod ei thad wedi bod yn gweithio ar yprosiect enfawr hwnnw.

    Diolch o galon iddi am gael benthyg y llun ac am rannu’r hanes gyda mi – buasai’n bechodpetai’r hanes wedi mynd yn angof.

    Gruffydd Rees, Pencae a William Evans. Caethle

    CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

    Gwaith Cerrig

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 1313131313

    CYSTADLEUAETHSUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: __________________

    ____________________________________

    ____________________________________

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gystadlu. Erbod amser yn brin mis yma, fe lwyddodd 30ohonoch ei gwblhau a’i anfon i mewn. Diolchyn fawr i’r canlynol am ymgeisio:

    Linda Roberts, Abertridwr; Megan Roberts,Llanfihangel; Aled Evans, Llanerfyl; JeanPreston, Dinas Mawddwy; Ken Bates,Llangadfan; Gwyndaf Jones, Llanbrynmair;Menna Lloyd, Pontrobert; Bryn Jones,Llanwddyn; J. Jones, Y Trallwm; Ifor Roberts,Llanymawddwy; Ella Jones, Tyntwll; AnnEvans, Bryn-cudyn; Heulwen Davies,Llangadfan, Beryl Jacques, Cegidfa; HeatherWigmore, Llanerfyl; Anne Wallace, Llanerfyl;Glenys Richards, Pontrobert; GwynethWilliams, Cegidfa; Eirys Jones, Dolanog;Maureen, Talar Deg; Wat, Brongarth; CledsEvans, Llanfyllin; Shirley Davies, Llangedwyn;Roger Morris, Wrecsam; Arfona Davies, Ban-gor; Eirwen Robinson, Cefncoch; DavidSmyth, Foel; Carwen Jones, Derwenlas;Myra Chapman, Pontrobert ac ElizabethGeorge,Llanelli.

    Yr enw cyntaf allan o’r fasged olchi oeddGlenys Richards, Pontrobert ac yn ennilltocyn gwerth £10 i’w wario yn Alexanders yTrallwm, sydd yn siop deuluol, llawnrhyfeddodau.Anfonwch eich atebion ar gyfer Sudocw misChwefror at Mary Steele, Eirianfa, LlanfairCaereinion, Y Trallwm, Powys SY21 0SB neuCatrin Hughes, Llais Afon, Llangadfan, YTrallwm, Powys, SY21 0PW erbyn dyddSadwrn, Chwefror 20. Bydd yr enillydd lwcusyn ennill tocyn gwerth £10 i’w wario yn CelticCompany y Trallwm.

    PONTROBERTSian Vaughan Jones

    01938 [email protected]

    Penblwyddi HapusYn ystod mis Ionawr bu dathlu yn nheuluNantlle gan fod Gwyn Jones yn cael eibenblwydd yn 94 oed. Dymuniadau gorau iddoa gweddill y criw a fu’n dathlu gyda chinioarbennig yn y Tanhouse.Dymuniadau gorau i Tegwyn Jones T~ Mawrfu’n dathlu ei benblwydd yn 80 oed ym misIonawr. Bu yntau yn dathlu gyda phryd o fwydteuluol. Pa ffordd well o gael dathlu na chaelpawb at ei gilydd a mwynhau eu cwmni?Penblwyddi hapus iawn i’r ddau @r bonheddigyma.CofionAnfonwn ein cofion at Tristan, Green Hill syddyn dioddef gyda’i gefn. Poenus iawn yn wir.Gobeithio y bydd yn gwella yn fuan ac yngallu symud o gwmpas yn rhwydd.Cafodd Margaret Herbert lawdriniaeth ynddiweddar. Mae hi bellach adref yn gorffwysoac yn cryfhau. Dymunwn wellhad buan iddi.PlygainAeth dau barti o’r ardal hon i ganu ym MhlygainFawr Eglwys Llanfihangel. Cafwyd noson ofendith a mwynhad gyda nifer dda o bartïonyn cymryd rhan a naws hyfryd y blygain wediei deimlo gan bawb oedd yn rhan o’r achlysurarbennig.‘Ar noson fel hon’Cafwyd cyflwyniad cofiadwy iawn yngNghymdeithas Gymraeg Pont a Meifod ar 12

    Ionawr pan ddaeth Linda Gittins atom i sônam hanes a datblygiad Theatr IeuenctidMaldwyn ac am y berthynas agos ac arbennigoedd yn bodoli rhyngddi hi a Derec a Penri.Fe soniodd hi am y sioeau nodweddiadol agwefreiddiol a grewyd ganddynt a’u cyflwynoi Gymru gyfan a chwaraewyd rhai darnau oganeuon y sioeau, ond ddim hanner digon.Roedd yn orig fach hyfryd ac yn gwneud i nisylweddoli mor lwcus yr ydym o gael rhywunmor arbennig o ddawnus a thalentog yn bywyn ein mysg. Noson wefreiddiol.Tenoriaid TalentogCawsom gyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaethlleisiol dros #yl y Nadolig gyda rhaglen ‘YDeg Tenor’. Braf oedd cael gweld Rhodri, mabGwenan Bryn Derwen gynt, yn cael rhan yn ysioe yn ogystal â Robert ac Aled, y ddaudenor arall o Faldwyn. Mae’r tri ohonynt ynrhoi Sir Drefaldwyn ar fap cerddorion Cymru.Cymdeithas CynddylanYn dilyn llwyddiant Eisteddfod 2015, a’rbwrlwm cymdeithasol gafwyd fel rhan o’rparatoadau a chodi arian aethpwyd ati i ffurfiogweithgor lleol i drefnu a chynnaldigwyddiadau Cymraeg yn yr ardal. Fellysefydlwyd Cymdeithas Cynddylan gyda’rbwriad o drefnu amrywiaeth o weithgareddau,ac sy’n cynnwys trawsdoriad o aelodau oardaloedd Pont, Meifod ac o gwmpas. MaeRoy Griffiths wedi cymryd rôl y cadeirydd,gyda Bethan Williams yn is-gadeirydd a RhodriJones yn drysorydd. Mae Menter Maldwynyn rhoi cymorth a chefnogaeth i’r gweithgornewydd ar y dechrau, ac felly bydd SianVaughan Jones yn cymryd rôl yr ysgrifennyddar y dechrau. Felly cadwch eich llygaid ar agoram fanylion o ddigwyddiad cyntaf CymdeithasCynddylan yn fuan iawn.

    Babi Newydd!Llongyfarchiadau i Mrs Llinos Edwards a’i g@r, Andrew, ar enedigaeth eu mab, Elis Crwys, arnoswyl y Nadolig. Anrheg Nadolig perffaith! Dymunwn yn dda iddynt.Croeso CynnesCroesawn Miss Mari Jones, Hafod, Llanerfyl a Miss Haf Howells, Goetre, Llanerfyl sydd yndysgu dosbarth Mrs Edwards am ei chyfnod mamolaeth.Gobeithio y bydd y ddwy yn hapus iawn gyda ni. Hefyd croesawyd Thea Jones i’r dosbarthCyfnod Sylfaen i ymuno â’i dau frawd.Ymweliad awdures enwogRoedd y disgyblion yn lwcus iawn ar fore Ionawr y 6ed pan ddaeth Mari Vaughan, ffrind da i’rysgol, i drafod ei llyfr newydd “Llanast”. Cyflwynodd Mari gopïau i’r disgyblion ac atebodd luo gwestiynau am ei llyfr. Dyma lun o Mari yn cyflwyno llyfrau i’r disgyblion.

    Newyddion Ysgol Pontrobert

    Ffôn: Meifod 500 286

    Post a Siop MeifodHuw Lewis

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    LLANERFYL

    PlygainCynhaliwyd Plygain Llanerfyl ar nos Sul Ionawry 3ydd. Mae’n ddrwg iawn gennyf ddweudmai siomedig oedd y Blygain eleni, nid o ranansawdd y canu ond o ran nifer y gynulleidfaa nifer y partïon a ddaeth i gymryd rhan. YParch Glyn Morgan oedd yn arwain ygwasanaeth gyda’r Parch David Francis wrthyr organ. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth igefnogi ac i gymryd rhan yn un o henBlygeiniau traddodiadol Cymru.GenedigaethLlongyfarchiadau i Barry a Mary Morris ar ddodyn daid a nain unwaith eto. Ganed mab bachi Matthew a’i wraig Sarah yng Nghaerdydd.YsbytyRoedd hi’n ddrwg iawn gennym glywed fodLois fach, Caerffynnon wedi treulio cyfnod ynyr Ysbyty yn ddiweddar. Rydym yn falch oglywed ei bod wedi cael dod adre ac ynteimlo’n llawer gwell.Cinio Ffermwyr IfancAr nos Sadwrn Ionawr 9fed daeth aelodau achyfeillion Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banwi Neuadd Llanerfyl i ddathlu blwyddyn brysura llwyddiannus yn eu cinio blynyddol.Paratowyd y bwyd gan deulu T~ Cerrig,Meifod a chafwyd cyfle wedyn i ymlacio adawnsio tan oriau mân y bore.Pysgod Aur Llanerfyl

    Bu Medi Lewis a Lois Tudor yn cynrychiolieu hysgolion a Sir Drefaldwyn yng Ngala NofioCynradd Cenedlaethol yr Urdd yn y pwll nofiorhyngwladol yng Nghaerdydd. Roedd Lois ynnofio broga a Medi yn nofio cefn.Cyrhaeddodd y ddwy y ffeinal wedi ennill eurhagras yn y bore a daeth y ddwy yn 9fed yny ffeinal. Dwi’n credu bod angen pwll nofioyn yr ardal!Noson Agored Menter BerllanMae Lesley Long o Menter Berllan yn rhoigwahoddiad i drigolion yr ardal i ddod i’r nosonagored yn Neuadd Llanerfyl ar y 26ain oChwefror rhwng 6.30 ac 8.00 er mwyndarganfod mwy am y fenter newydd hon.

    LLYFR LLOFFION YSGOL LLANERFYL

    Dyma lun uchod o Emma a Carys gyda’umedalau pêl-droed. Mae’r ddwy wedi bod ynhynod o lwyddiannus fel aelodau o dîmmerched dan 12 oed TNS. Anrhydeddwydhwy gyda’r fedal o ganlyniad i ennill gemaucwpan gyda’r clwb.Llongyfarchiadau i Cemlin a Medi (llun uchodar y dde) sydd wedi cael cryn lwyddiant yn ybyd Jiwdo yn ddiweddar. Braf gwelddisgyblion yn ymddiddori mewn chwaraeongwahanol.Llongyfarchiadau i Ben Phillips (gyferbyn) -yntau hefyd wedi mentro i faes camp wahanoliawn. Enillodd Ben ei darian ar ôl cwblhauarddangosfa bocsio.Rhaid llongyfarch Medi hefyd ar gyrraedd yrownd derfynol yng Ngala Nofio Genedlaetholyr Urdd yn ddiweddar.Mae’r disgyblion wrthi yn brysur iawn ynparatoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Maepawb wrthi’n brysur yn ymarfer ac yn dysgugeiriau.

    HELEN DAVIES Dip.CFHP, MPSPractYMARFERWR IECHYD TRAED

    I drefnu apwyntiad yn eich cartref,cysylltwch â Helen ar:

    07791 22806507791 22806507791 22806507791 22806507791 22806501938 81036701938 81036701938 81036701938 81036701938 810367

    Maesyneuadd, Pontrobert

    Gwasanaeth symudol:* TTTTTorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewinedd* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd

    MENTER BERLLAN

    [email protected]

    Creadigol . Tyfu . Cydweithio

    Noson Agored - Croeso i Bawb

    Neuadd LlanerfylNos Wener 26 Chwefror

    6.30yh-8.00yh

    Dewch i ddarganfod mwy

    Lluniaeth ysgafn

    01938 820819

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016 1515151515

    LLANFAIR CAEREINION

    A.J.’s

    Ann a Kathy

    Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 8112271227122712271227

    Stryd y Bont, LlanfairAr agor yn hwyr

    ar nos Iau

    Siop Trin Gwallt

    ANDREANDREANDREANDREANDREW W W W W WWWWWAAAAATKINTKINTKINTKINTKIN

    Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330

    Adeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr Tai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac EstyniadauGwGwGwGwGwaith Bricaith Bricaith Bricaith Bricaith Bric, Bloc neu Ger, Bloc neu Ger, Bloc neu Ger, Bloc neu Ger, Bloc neu Gerrigrigrigrigrig

    Froneithin,Llanfair Caereinion

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    01938 500355 a 500222

    Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

    Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv acOlew Iro a

    Thanciau StorioGWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

    Pob math o waith tractor,

    yn cynnwys-

    Teilo gyda chwalwr

    10 tunnell,

    Chwalu gwrtaith neu galch,

    Unrhyw waith gyda

    Amryw o beiriannau eraill ar

    gael.

    Ffôn: 01938 820 305

    07889 929 672

    Colli Banc yr HSBCEr gwaethaf anniddigrwydd lleol a phrotestioar ein rhan gan ein cynghorwyr a’r aelodausy’n ein cynrychioli yn y Cynulliad ac ynLlundain, troi clust fyddar i’r cyfan a wnaethBanc yr HSBC a mynd ymlaen â’upenderfyniad i gau cangen Llanfair Caereinionar Chwefror 12fed. Dywedir bod y banc ynystyried gadael peiriant arian parod yn y drefos deuir o hyd i leoliad addas. Fel arall, byddmodd cael gwasanaeth banc yn Swyddfa’rPost yn siop Spar. Bydd cangen Llanfyllin o’rHSBC yn cau ar yr un diwrnod. Bydd ynddiwrnod trist i’r staff a’r cwsmeriaid ac ynergyd arall i’n hardal.Sioe LlanfairYn y cyfarfod blynyddol etholwyd swyddogionnewydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. YCadeirydd newydd fydd Gwyn Morris,Tynfron, Is-gadeirydd David Oliver, Trysorydd– Gerallt Hughes, Cyfarwyddwr y sioe – GlynRoberts; Is-gyfarwyddwr y sioe – MelvinJones, Prif stiward – T.J. Jones, Hyrwyddwry raffl – Elwyn Owen, a’r Ysgrifenyddion –Liz Harding a Rhianon Jones.Cynhaliwyd Noson Gymdeithasol ganbwyllgor y sioe ar Ionawr 23 yn yr Institiwtac roedd swper blasus wedi ei baratoi.Croesawyd Trebor Jerman fel Llywydd y Sioeyn 2016 ac estynnwyd llongyfarchiadau i MrsEnid Thomas Jones, Melingrug am gael eidewis i fod yn Llywydd ar gyfer 2017.Wrth groesawu Gwyn Morris fel Cadeiryddnewydd y Sioe diolchwyd i Elwyn Owen syddwedi rhoi gwasanaeth ffyddlon a gwerthfawrfel Cadeirydd i Sioe Llanfair am flynyddoeddlawer.PantomeimMae’r Llanfair Players wrthi’n brysur ynymarfer ar gyfer eu pantomeim blynyddol.‘Betty and the Beast’, sy’n seiliedig ar stori‘Beauty and the Beast’, yw’r panto eleni ac

    Er bod cangen o Fanc Gogledd a De Cymru wedi bod yn gweithredu yn Llanfair ers 1874mae’r llun uchod o ‘The Photographer in Rural Wales’ yn dangos adeiladu’r London City andMidland Bank ar safle’r HSBC ar hyn o bryd yn 1912. Wedi dros ganrif o wasanaeth, bydd yBanc yn cau ym mis Chwefror.

    ysgrifennwyd y sgript gan Clive Hopwood.Bydd y sioe i’w gweld yn yr Institiwt nosWener, Chwefror 19 am 7.30 a nos Sadwrn,Chwefror 20. Pris y tocynnau yw £6 i oedoliona £4 i blant.ColledionBu farw David Jones, Drain, Cefn Coch gyntac yn ddiweddar o Finffordd, Llanfair yn 88oed. Roedd yn @r i’r ddiweddar Una ac yndad i Dai, Glyn, Edwina a’r ddiweddar Ann.Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewnhyfforddi c@n defaid a bridio defaid Penfrithac enillodd lu o wobrau am ei waith.Bu farw Mervyn Edwards, mab y diweddarMaldwyn a Dilys Edwards, Y Mownt, Llanfairyn 72 oed wedi salwch byr. Roedd yn ffermioyn Broadway Farm, Ford Heath, yn briod âRuth ac yn dad i chwech o blant sydd i gydyn gweithio ym musnes y teulu yn ffermio agyrru lorïau. Daeth tyrfa enfawr i’w angladdyn Eglwys y Santes Fair ar Ionawr 23.

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2016

    AR GRWYDYRgyda Dewi Roberts

    Roedd sawl blwyddyn ers i migerdded yn ardal Croesor fellyroedd yn hen bryd mynd yn ôlyno! Un person adnabyddus o’rardal oedd Bob Owen; yn wir,mae cymdeithas wedi ei henwiar ei ôl. Fe’i magwyd yn

    Llanfrothen ac yna priodi a gwneud ei gartrefyn Ael-y-bryn. Gweithiodd fel clerc yn ychwareli am 30 o flynyddoedd a chafodd hynddylanwad mawr arno wrth iddo gyfarfod âphobl wybodus a diwylliedig. Dechreuoddgasglu nifer fawr iawn o lyfrau, achau allawysgrifau ac roedd yn chwilotwr o fri. Buhefyd yn ddarlithydd i Gymdeithas Addysg yGweithwyr a cafodd radd M.A. er anrhydeddgan Brifysgol Cymru pan oedd yn 47. Yn ôl y

    sôn treuliodd ei fis mêl yn y LlyfrgellGenedlaethol! Tipyn o gymeriad felly a byddwnwedi bod wrth fy modd yn ei gyfarfod. Dw i’ncredu bod cysylltiad wedi bod rhwng fy nheuluar ochr fy nhad ag ef (er nad oeddynt ynperthyn).Y daithParciwn yng nghanol y pentre bychan acmae’n amlwg mai ardal chwareli yw hi gydallechi i’w gweld o’n cwmpas gan gynnwys arfwy nag un ffens. Roeddwn eisiau gweld cartreBob Owen a chefais ar ddeall bod ei d~ drwsnesa i’r capel ac felly’n hawdd iawn i’wddarganfod. Wrth edrych ar ei d~ gyda’r Cnichti’w weld yn glir yn y pellter meddyliais am yrholl waith roedd wedi ei wneud dros yblynyddoedd; byddai nifer o Americanwyr yndod yma i olrhain eu hachau gan ei fod wediarbenigo yn y maes yma hefyd. I fyny’r fforddallan o’r pentre wedyn cyn troi i’r dde ac ynadilyn trac amlwg yn mynd drwy dir garw achreigiog. Pasiais furddun ac roedd y cerddedyn hawdd a hamddenol.Disgrifir y Cnicht fel ‘Matterhorn Cymru’ er eifod yn llawer iawn llai (!) gan ei fod yn edrychyr un siâp o’r cyfeiriad yma; mewn gwirioneddpen cefnen o dir yw’r mynydd ac mae’r siâpyn wahanol iawn wrth edrych o lefydd eraill.Yn annisgwyl, daw’r gair Cnicht o’r hen airSaesneg ‘knight’ (byddai’r ‘k’ yn cael ei ynganuy pryd hynny) oherwydd bod y mynydd ynatgoffa rhywun o helmed marchog (o uncyfeiriad beth bynnag a gyda thipyn oddychymyg!).Mae llwybr mwy uniongyrchol at y mynyddond roeddwn eisiau mynd i weld rhai oweddillion y gwaith llechi. Dilynais ‘lefel’ o’rhen waith cyn dringo at adeilad carreg a hefyd

    holltau yn y graig lletynnwyd y llechi. Wedigweld hyn anelais amy mynydd gan wneudfy ffordd fy hun i fynygan nad oedd llwybryn y rhan yma heblawambell i rai defaid aphethau defnyddiol ywrheiny weithiau! Roeddy rhan yma yn serthond roedd y golygefydd yn fendigedig wrthedrych yn ôl bob yn hyn a hyn. Gallwn weldyn glir i gyfeiriad Porthmadog ac aberoedd yrafonydd Glaslyn a Dwyryd wrth godi yn uwch.Roedd copaon ucha Eryri wedi ei gorchuddioag eira ac roedd yr awyr yn hollol glir. Wrth

    nesau at y gefnen miwelais lwybr amlwg acroedd yr olygfa o’r rhanyma yn wych gyda’rpelydrau yn goleuo’rtirlun gan gynnwysCwm Croesor.Roedd y rhan nesa ynedrych yn anoddach aroedd angen bod ynofalus yn enwedig ganfod cenllysg ar ycerrig; er hyn, roedd yllwybr yn glir a chadarna gallwn ddringo yngymharol rhwydd tuag

    at y copa gan ddenyddio fy nwylo nawr ag yny man. Ochr arall y cwm gallwn weld MoelwynMawr yn glir gydag olion gwaith chwareli ar yllethrau serth. Camu wedyn gan ddilyn ygefnen weddol agored ac roedd tipyn o rewac eira yma. Y tro diwetha’ roeddwn wedidringo o’r ochr yma ro’n mewn niwl tew iawnac felly roedd fel petai fy mod yn darganfodyr ardal yma o’r newydd. Edrychais yn ôl igyfeirad y môr a deallais y byddai’r tywyddyn newid yn gyflym iawn gyda’r awyr yntywyllu. Anelais at Lyn yr Adar ac wrth i migamu lawr drwy’r hesg abrwyn dechreuoedd hibluo eira. Roeddwn wedibod at y llyn yma o’rblaen ar daith hirach oDanygrisiau. Cerdded i’rdwyrain wedyn yn ôl at ygefnen ac yna newidioddy tywydd eto; erbyn hynroedd niwl trwchus wedidisgyn ar y mynydd acroedd yn bwrw cenllysgyn gry iawn. Oherwyddyr amgylchiadau cefaisgip ar y map a’rcwmpawd gan wneud ynsiwr fy mod yn myndlawr y man cywir gan nadoedd llwybr yn y rhannesa. Gwyddwn ybyddai’r nant yn ymunoâ llyn yn fuan bethbynnag a chyn hirgwelais furddun ac ynapen ucha y llyn; gwelaisgraig anferth wrth y d@r

    gydag olion amlwg o Oes yr Iâ arni pan fyddairhewlif wedi erydu’r gefnen isel ganddefnyddio cerrig ar waelod yr afon o rew wrthsymud yn araf a phwerus i lawr y cwm. Un ofy hoff ddiddordebau yw edrych ar dirlun aceisio gweithio allan pam mae ardal fel ag ymae; geomorffoleg yw’r gair swyddogol amhyn ac mae yn bwnc hynod ddiddorol gan helpurhywun ddeall prosesau a nodweddion syddo’n cwmpas. Roedd dyffryn siâp U clasurolCwm Croesor yn rhan o’r un math o broseshefyd fel nifer o rai eraill yn y rhan yma oGymru.Nid yw’r llyn yma yn naturiol ac fel cannoeddo rai eraill mae wedi ei wneud drwy adeiladuargae. Roedd angen cerdded heibio ochr yllyn ac roedd yn bwysig cymryd gofal gan fody d@r yn edrych yn ddwfn ac oer! Croesi’rargae gymharol fechan wedyn gan ddod ardraws llwybr gweddol amlwg. Dyma oedd yrhan oeraf o’r holl daith gyda’r gwynt yn rhuoi fyny’r cwm ac roedd ymhell o dan y pwyntrhewi, ond dim ond am amser byr. Materhawdd wedyn oedd dilyn y llwybr, cul mewnmannau, ar ochr y cwm; cyn hir, mae’r llwybryn mynd tuag at lawr y dyffryn a chroeswnbont gerdded gan droedio yn hawdd ar hydtrac clir yn ôl i’r pentre. Cefais sgwrs wedyngyda dau @r ifanc oedd yn atgyweirio walgerrig. Taith gymhedrol o tua chwe milltir ahanner.Roedd camgymeriad bach yn y rhifyn diwetha– enw’r argae yn y llun oedd Craig Goch acnid Nant y Gro.