adroddiad blynyddol y llywodraethwyr i’r rhieni...blwyddyn 1 a 2 bae caerdydd – cwch cyflym o...
TRANSCRIPT
-
1
Ysgol Gynradd Gymraeg
Y Castell
Adroddiad Blynyddol Y
Llywodraethwyr i’r Rhieni
2015-2016
I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol
30ain
o Dachwedd 2016.
Copi papur ar gael ar gais trwy swyddfa’r ysgol.
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân.
-
2
Cynnwys
Tudalen
2. Cynnwys
3. Cyflwyniad gan Y Llywodraethwyr
4. Gweithgareddau’r Disgyblion
13. Gwaith y Llywodraethwyr
14. Data Perfformiad Ysgol 2016
16. Cynllun Datblygu Ysgol
19. Datganiad Cyllidol
20. Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2016/2017
21. Anghenion Dysgu Ychwanegol
22. Y Corff Llywodraethol
23. Manylion Cysylltu
-
3
Annwyl Rieni a Gwarchodwyr,
Mae’n bleser gennym gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni ar
gyfer y flwyddyn academaidd 2015-2016. Fe welwch yn yr adroddiad taw blwyddyn
brysur arall oedd eleni yn yr ysgol. Tyfwn o hyd, mewn niferoedd a statws.
Cafwyd llwyddiannau diri ym mhob blwyddyn ysgol yn academaidd ac yn allgyrsiol.
Mae unrhyw ymwelydd â’r ysgol yn sôn am awyrgylch dda yn yr ysgol a’r
hapusrwydd a gofal a roddir i’r disgyblion. Fel Llywodraethwyr, yr ydym yn aml yn
ymweld â dosbarthiadau i arsylwi ar wersi. Mae’n brofiad heb ei ail i weld sut mae’r
disgyblion yn dysgu a sut maent yn rhyngweithio gyda’r athrawon ac eraill.
Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, datblygwyd nifer o fentrau â’r nod o godi
safonau. Gwaith caled y staff, y dysgwyr a’r uwch dîm rheoli sy’n gyfrifol am hyn.
Hoffem ddiolch iddynt a chi fel rhieni am wneud y flwyddyn ddiwethaf yn un
lwyddiannus iawn.
Dathlodd yr ysgol ei phenblwyddyn yn ugain mlwydd oed eleni gyda diwrnod mawr o
weithgareddau hwyliog i’r plant.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Gyfeillion yr Ysgol am eu cefnogaeth barhaus a'u gwaith caled. Yr ydym yn gwybod y byddent yn croesawu mwy o rieni i ymuno â nhw ac yn eu helpu i drefnu digwyddiadau.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad ac yn dathlu llwyddiannau’r
ysgol gyda ni.
Yn gywir,
Llywodraethwyr Ysgol Y Castell
Derbyniwyd pump cŵyn swyddogol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Deliwyd â
hwy ac fe’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol
a datryswyd ar gam 3 o’r Polisi Cwynion.
-
4
Gweithgareddau’r Disgyblion
Yn Ysgol Y Castell, rydym yn falch iawn o’n darpariaeth gwricwlaidd, profiadau dysgu a
chyfoethogrwydd y gweithgareddau allgyrsiol a gynigir. Mae’r holl brofiadau isod yn sicrhau
darpariaeth eang a chytbwys ar gyfer ein plant. Mae’r profiadau oll yn cyfoethogi eu dysgu
ac yn eu hysgogi i weithio hyd uchaf eu gallu; gyda mwynhad, dyfalbarhad ac at bwrpas.
Tymor yr Hydref
Cynhaliwyd cyfarfod i rieni blwyddyn 5 a 6 i esbonio ein dulliau o addysgu plant
mewn setiau o allu tebyg ar gyfer mathemateg. Darparwyd pamffled llawn syniadau,
enghreifftiau o brofion a chopi o'r fframwaith rhifedd i’r rhieni.
Cyfarfu Mrs John gyda rhieni blwyddyn 3 i egluro sut y cyflwynir Saesneg. Cafoddy
rhieni a fynychodd y cyfarfod hwyl wrth ymuno yng ngweithgareddau Read, Write, Inc
cyn derbyn copi o synau ffoneg Saesneg a rhigymau RWI.
Cyflwynodd Mrs Rees ein cynllun darllen ysgol / cartref i rieni’r plant
derbyn. Daeth nifer fawr o’r rhieni gan dderbyn gwybodaeth am
strategaethau dysgu darllen cynnar a disgwyliadau’r ysgol am ddarllen
wythnosol.
Ymwelwyr ac Ymweliadau
Meithrin a Derbyn Estynnwyd croeso cynnes i dylluan yn y dosbarthiadau
Blwyddyn 1 a 2 Morrisons fel sbardun i’w thema Yr Archfarchnad
Blwyddyn 3 a 4 Blaenavon fel man cychwyn I’w hastudiaethau ar Oes Fictoria
Blwyddyn 5 a 6 Trefnodd Clwb 707 (elusen gristnogol leol) weithgareddau I
ddathlu Cwpan y Byd gyda chysylltiadau â stori Dafydd a
Goliath.
Blwyddyn 5 a 6 Canolfan Amgylcheddol Cilfynydd (Dŵr Cymru) i gynnal
arbrofion yn yr afon
Ysgol gyfan Daeth PC Thomas i’r ysgol i gyflwyno gwersi ABCh ar y canlynol
Blwyddyn 3 - diogelwch ar y we,
Blwyddyn 4 - diogelwch personol,
Blwyddyn 5 – ymddygiad gwrth-gymdeithasol
Blwyddyn 6 - alcohol a chyffuriau
Blwyddyn 6 Aeth Blwyddyn 6 i Langrannog am benwythnos o weithgareddau
anturiaethau awyr agored. Diolch i’r staff am roi o’u hamser
personol unwaith eto er lles y plant.
-
5
Ar gyfartaledd, mynychodd dros 50 o ddisgyblion bob clwb allgyrsiol – Adran yr Urdd,
clwb tenis bwrdd, iwcaleli, clwb ffitrwydd, clwb rhedeg, pêl-rwyd a phêl-droed, clwb
Eco, dawnsio cyfoes, arweinwyr digidol, clwb crefft, gwnio a darllen. Hefyd
cynhaliwyd clwb gwaith cartref yn ystod oriau ysgol gan y tîm lles i ddysgwyr bregus
a’u rhieni a oedd angen cymorth gyda’r gwaith.
Gweithiodd ein Pwyllgor Eco yn galed iawn i hyrwyddo
negeseuon cynaladwyedd. Fe dreulion amser arbennig yn cynaeafu’r
holl lysiau o’r ardd a’u gwerthu i’r rhieni. Rydym yn ddiolchgar iawn i
rieni ffyddlon, Mrs Godfrey a Mrs Coxon, am eu gwaith dibrisiadwy gyda’r
plant yn yr ardd. Hefyd, clywsom ein bod wedi ennill £1,000 y tymor hwn
trwy ein prosiect ailgylchu Tassimo a Mcvities. Diolch i Mrs Lewis-Jones
(rhiant arall) am ei pharodrwydd i gydlynu’r prosiect hwn yn yr ysgol a’r
gymuned leol.
Gweithiodd ein llysgenhadon Prosiect Ysbyty Glowyr yn galed i
leisio barn pobl ifanc Caerffili wrth ddatblygu’r ganolfan gymunedol
newydd. Y tymor hwn cynhaliwyd y cyfarfod yn ein hysgol ni a gosodwyd
tasg o greu poster i hyrwyddo’r ymgyrch Prynwch Fricsen.
Enwebwyd criw bach o ysgrifenwyr brwd i gynrychioli’r ysgol
yn Sgwad Sgwennu Caerffili. Buont yn cwrdd ar y
penwythnos unwaith bob hanner tymor i weithio gyda beirdd
ac awduron i hybu a gwella eu sgiliau creadigol wrth
ysgrifennu.
Cynhaliwyd Gwasanaethau Cynhaeaf yn yr ysgol. Braf oedd
derbyn clod gan y Parchedig Milton Jenkins am awyrgylch
ysbrydol, feddylgar i’n gwasanaeth. Canodd glod mawr i
urddas a pharch y plant trwy gydol y gwasnaeth. Eleni
casglwyd tuniau bwyd ar gyfer apêl “Bridging the Gap” a
drefnir gan eglwys leol.
Bu timoedd yr ysgol yn cystadlu’n ffrwd mewn cystadlaethau nofion, pêl-rwyd, pêl-
droed a rygbi’r Urdd. Fe redodd ein timoedd traws-gwlad fel y gwynt yn ystod
cystadleuaeth sirol Caerffili. Fe ddaeth tîm y merched blwyddyn 3 a 4 a thîm
blwyddyn 5 a 6 yn gyntaf ac yn ail.
Trefnwyd gŵyl pêl-droed hwyliog gan Mr Davies i ddysgwyr hŷn
yr ysgol sydd erioed wedi cynrychioli’r ysgol o’r blaen, fel rhan o’i darged
CDY i godi dyhead plant trwy gyfleodd cyfoethog. Gwahoddwyd timoedd
tebyg o blant gan Ysgol Gymraeg Caerffili ac Ysgol Ifor Bach. Cafodd y
plant eu gwobrwyo am chwarae teg, siarad a chefnogi yn y Gymraeg a
dangos parch i’w cyd-chwaraewyr a’r dyfarnwr. Nid ennill pob gêm sy’n
bwysig! Cyn chwarae, trefnwyd gweithdy sylwebu iddynt gan wahodd Mr
Dafydd Roberts i gyflwyno dosbarth meistr iddynt yn ei rôl fel sylwebydd
-
6
pêl-droed i S4C. Gosodwyd her i’r plant greu sylwebaeth am un gêm gan gyflwyno
eu gwaith terfynnol ar ffurf digidol.
Gwisgodd pawb fel Pencampwyr ar gyfer diwrnod Plant mewn Angen ar gais Y
Cyngor Ysgol. Fe ddathlodd yr ysgol wythnos Gwrth-Fwlian trwy nifer o
weithgareddau, gan orffen â gwasanaeth arbennig i hyrwyddo’r neges “Dwedwch NA
i fwlian!”
Cafodd dysgwyr CA2 y cyfle i brofi sesiwn blasu gwersi iwcaleli gydag Alun Tan Lan.
Prynwyd 20 iwcaleli i’r ysgol er mwyn sicrhau bod canran uwch o’n dysgwyr yn
medru derbyn gwersi offerynnol. Cynhaliwyd clwb iwcaleli yn wythnosol a daeth dros
30 o blant i ddysgu’r offeryn.
Tymor y Gwanwyn
Ymwelwyr ac Ymweliadau
Meithrin a Derbyn Amgueddfa Genedlaethol Cymru i weld y dinosoriaid
Ysgol gyfan Aerobathon a Zumbathon – codi arian i brynu offer chwaraeon
Blwyddyn 4 Gweithdy TGCh – y sgrin werdd
Blwyddyn 1 a 2 Taith o amgylch tref Caerffili
Cyfnod Allweddol 2 Gwasanaeth gan NSPCC “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth”
Blwyddyn 3 a 4 Castell Caerffili
Blwyddyn 5 a 6 Gweithdai Gwrth-Fwlian ac Hiliaeth (NSPCC)
Blwyddyn 5 a 6 Y Galeri, Caerffili
Blwyddyn 5 Wythnos breswyl yn Llangrannog. Diolch i Mrs L. Griffiths, Mr G. Robinson, Miss C. Hewer a Miss A. Williams am gymryd gofal dros y plant.
Blwyddyn 6 Gwersi Seiclo
Derbyn Sesiynau Pori Drwy Stori gyda’r rhieni
Ysgol gyfan Arddangosfa Gelf gan y plant
Blwyddyn 4 Llyfrgell Caerffili
Blwyddyn 5 Capel Elim – Cracio’r Pasg
Ysgol gyfan Aethom i weld y ddraig yng Nghastell Caerffili
Blwyddyn 2 Parc Saffari West Midlands
Blwyddyn 6 Adenydd i Hedfan – codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch
Crëwyd Prosbectws Ysgol Digidol gan yr Arweinwyr Digidol i hyrwyddo llais y plant
a’u barn am yr ysgol.
Penodwyd pedwar plentyn i fod yn JRSO (Junior Road Safety Officer) mewn
cydweithrediad â Heddlu Gwent a Swyddog Diogelwch Y Ffordd, Caerffili.
-
7
Derbyniant hyfforddiant er mwyn arwain ymdrech yr ysgol i hyfforddi’r rhieni am
barcio’n ddiogel o amgylch ffiniau’r ysgol.
Dathlwyd Diwrnod Cenedlaethol Diogelwch ar y We ym mhob dosbarth trwy
amrywiaeth o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth y plant am e-ddiogelwch.
Rhannwyd llythyr gyda’r rheini yn nodi oedrannau cyfreithlon i ddefnyddio gwefannau
cymdeithasol.
Aeth y tîm nofio i Gystadleuaeth Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd. Cafwyd cryn
dipyn o fwynhad gyda’r dysgwyr oll yn curo eu hamserau gorau personol. Hefyd,
cystadlodd y tîm Gymnasteg yn rownd genedlaethol Cystadleuaeth Gymnasteg yr
Urdd, gydag Aled Lewis yn ennill yr ail safle yng Nghymru. Diolch i Mr Trystan
Griffiths am eu hyfforddi.
Cystadlodd y plant yn frwd mewn cystadlaethau pêl-rwyd, pêl-
droed, bwrdd tenis a rygbi.
Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi trwy gynnal Eisteddfodau. Cawsom
wledd wrth ddathlu amryw o ddoniau’r dysgwyr. Cafodd Libby-May
Roberts ei chadeirio a Cerys Baker ei choroni yn brif lenorion yn ystod
seremoni arbennig o dan arweiniad Gorsedd Blwyddyn 5. Diolch yn
fawr i Mrs A. Hill am feirniadu’r holl gystadlaethau llenyddol a Mr R.
Griffiths am feirniadu llefaru a chanu.
Cystadlodd ein plant yn frwd yn yr Eisteddfod Gylch ar
ddechrau Mis Mawrth. Unwaith eto, enillon y cwpan am yr ysgol gyda’r
nifer uchaf o farciau yn yr Eisteddfod Gylch.
Cawsom arddangosfa benigamp o waith celf a chrefft y plant. Dewiswyd enillwyr o
bob blwyddyn i fynd ymlaen at yr Eisteddfod Gelf yng Nghoed Duon lle derbyniwyd
sawl gwobr gyntaf, ail a thrydydd.
Dathlwyd “Diwrnod Cenedlaethol Y Llyfr” trwy wisgo fel ein hoff gymeriadau Cymreig.
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys Clwb yr Urdd, chwaraeon o
bob math, bwrdd tenis, côr, dawnsio disgo, iwcaleli, cyfnewid sticeri pêl-droed, clwb
darllen, clwb gwaith cartref, clwb gwnϊo.
Tymor yr Haf
Ymwelwyr ac Ymweliadau
Blwydydn 5 a 6 Canolfan Eden – lego a gweithgareddau codio
Blwyddyn 3 a 4 Gwlyptiroedd Casnewydd
Ysgol gyfan Cymdeithas Pêl-droed Cymru – gweithgareddau noddedig
Arweinwyr Digidol Gweithdai Codio
-
8
Meithrin a Derbyn Ymweliad gan Gwmni Silent World
Clwb Tenis Bwrdd Ymweliad gan Steve Jenkins (hyfforddwr cenedlaethol)
Blwyddyn 4 Cwrs preswyl yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd. Diolch i Mrs John, Mrs Lees a Mrs Nuttall am dreulio’r noson gyda’r plant.
Cyngor Ysgol Agored swyddogol Cynulliad Cymru
Blwyddyn 1 a 2 Bae Caerdydd – cwch cyflym o amgylch y bae
Dysgwyr PYADd Gŵyl Pêdroed ac Hyfforddiant Rhifedd
Blwyddyn 6 Gŵyl Pêdroed
Blwyddyn 5 Ffair Entrepreneuriaeth
Blwyddyn 3 a 4 Clwb 707 – grŵp Christnogol lleol
Blwyddyn 3 Pizza Express a’r Amgueddfa Genedlaethol
Teuluoedd PYADd Prifysgol de Cymru a Mountain Ranch, Caerffili
Derbyn Parc Gwledig Bryngarw
Meithrin Gŵyl Feithrin – Fferm Greenmeadows
Blwyddyn 1 a 2 Parc Gwledig Cwm Darren
Ysgol gyfan Perfformiad gan Fand Roc Caerffili
Blwyddyn 5 a 6 Drayton Manor
Aelodau’r Urdd Blwyddyn 1 a 2
Hwyl yr Urdd (Parc Pontypŵl)
Diolch i bob teulu a ddaeth i Wasanaeth Blynyddol Sul o Fawl yng Nghapel Tonyfelin.
Roedd yn wasanaeth hyfryd a braf oedd y cyfle i ymuno â’n ffrindiau o ysgolion
Cymraeg eraill y cwm gan ledaenu Neges Heddwch ac
Ewyllys Da ar ddiwedd Wythnos Cymorth Gristnogol.
Mynychodd holl blant Blwyddyn 3 a 4 wersi nofio dyddiol
am dair wythnos a llwyddodd pob plentyn i gyrraedd nod
y llywodraeth o allu nofio 25m.
Derbyniodd dysgwyr Blwyddyn 6 wersi “Tyfu i Fyny” gan
nyrs yr ysgol a oedd yn eu dysgu am newidiadau corfforol
ac emosiynol wrth iddynt gyrraedd y glasoed.
Cafodd ein tîm athletau gyfleoedd diri i gystadlu yn nifer
fawr o gystadlaethau dros yr wythnosau diwethaf o dan
arweiniad Mr T. Griffiths a Mr A. Hill.
Yn ystod gwyliau’r Sulgwyn, aeth grŵp o blant yr ysgol i
gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y
cystadlaethau isod:
-
9
Llefaru dan 8 (Lois James)
Llefaru dan 10 (Carys Corden)
Deuawd (Megan Morris ac Aneurin Thomas)
Parti Llefaru
Cogurdd (William Nicholas)
Celf (Pyped) – Kit Rhymni – 1af
Llongyfarchiadau pennaf iddynt. Yn ystod yr wythnos, roedd
perfformiadau’r plant yn wefreiddiol, er i ni gael cam unwaith eto!
Braf oedd dathlu eu llwyddiannau fel cymuned yr ysgol - athrawon,
plant a’n teuluoedd balch. Diolch i’r holl staff am eu horiau o waith
diflino wrth baratoi’r plant ar gyfer yr achlysur. Y pleser mwyaf oedd
gweld ein Cymry ifanc yn crwydro’r maes gan ddefnyddio eu hiaith yn naturiol.
Cafodd y plant ddiwrnod i’w gofio yn Ffiliffest gan fwynhau dawnsfeydd gwerin a
dathlu eu Cymreictod gyda phlant eraill y cwm. Diolch i Mrs Evans am fynd â nhw.
Treuliodd rhyw ugain teulu ac aelodau o staff ddau ddiwrnod cyfan ar ddydd Sadwrn
yn tacluso a pharatoi’r ardd ar gyfer y tymor plannu. Cliriwyd y sbwriel a dechreuwyd
y broses ailgylchu ffrwythau o’r newydd. Adeiladwyd gwelyau tyfu newydd gan
blannu llysiau a ffrwythau newydd.
Cynhaliwyd Noson Wobrwyo i ddysgwyr Blwyddyn 6. Cyfle i ni ddangos ein
diolchiadau i’r plant a’u teuluoedd am eu holl waith caled a’u hymroddiad a dathlu eu
doniau a’u cyfraniadau i’r ysgol.
Cystadlodd y plant yn frwd mewn cystadlaethau pêl-rwyd, pêl-
droed, bwrdd tenis, criced, athletau a rygbi.
Cynigir hyfforddiant wythnosol i ddisgyblion ar y delyn, ffidl a
chwythbren yn rhad ac am ddim. O Fedi 2016, bydd pob plentyn yng
Nghyfnod Allweddol 2 yn derbyn gwersi recorder am dymor yr un.
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys
Clwb yr Urdd, athletau, garddio, bwrdd tenis, clwb cyfnewid sticeri
pêl-droed, côr, dawnsio gwerin, iwcaleli, clwb I-Pad, clwb darllen a
chlwb gwnϊo. Rydym yn ffodus iawn bod y rhan fwyaf o’n staff yn
fodlon rhoi cymaint o’u hamser personol er lles y plant.
Llogir Neuadd Glyndŵr yn wythnosol gan Gôr Merched
Caerffili a Chlwb Dawnsio lleol. Trefnwyd clwb gofal plant gan Fenter
Iaith Caerffili dros hanner tymor ar safle’r ysgol.
Cyfarfu Cyfeillion yr Ysgol yn fisol er mwyn cefnogi’r ysgol yn ei gweithgarwch a chodi arian ychwanegol i gyfoethogi profiadau’r dysgwyr. Eleni, trefnwyd disco Calan Gaeaf, Ffair Nadolig, boreau coffi Mcmillan, nosweithiau ffilm, tê’r prynhawn, cwis,
-
10
noson rasys i oedolion, gweithgareddau Hwyl y Pasg, ffair haf a barbeciw ganddynt. Llwyddwyd i gyrraedd y nod o godi £5,000 i brynu offer dringo newydd i’r iard flaen. Hoffem estyn ein diolchiadau pennaf i’r grŵp ffyddlon o rieni a ffrindiau sy’n cefnogi’r
ysgol i’r eithaf. Diolch.
Gwybodaeth Presenoldeb 2015/2016
Presenoldeb Absenoldeb gyda
chaniatad
Absenoldeb heb
ganiatad
Targed ysgol 2015-2016 95.2% 4.8% 0%
Tymor yr Hydref 2015 96% 3.83% 0.17%
Tymor y Gwanwyn 2016 93.65% 5.87% 0.48%
Tymor yr Haf 2016 94.5% 5.35% 0.03%
Blwyddyn Academaidd
2015-2016
94.7% 5.1% 0.2%
Yr ydym yn cyfathrebu’n rheolaidd â rhieni / gwarchodwyr i leihau’r nifer o absenoldeb heb
ganiatad trwy negeseuon testun.
Mae mwyafrif o rieni a dysgwyr yn meddwl bod presenoldeb o 90% yn dda. Ydyn nhw’n gywir?
90% presenoldeb = ½ diwrnod ar goll yn wythnosol!
90% presenoldeb dros bum mlynedd yn yr ysgol = ½ blwyddyn ysgol ar goll!
Rydym yn ymbil ar rieni i beidio â chymryd y plant allan o’r ysgol.
Presenoldeb ar ddiwedd y
flwyddyn
Diwrnodau a gollwyd o’r
ysgol
100% 0
99.5% 1
97.4% 5
95% 10
90% 19
87% 24
85% 28
80% 38
75% 47
-
11
Mae pob gwers yn cyfrif!
ADOLYGIAD GWAITH LLYWODRAETHWYR Y FLWYDDYN 2015/16
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Lywodraethwyr Ysgol y Castell. Mae'r corff llywodraethol yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor gyda chyfarfodydd is-bwyllgorau yn cwrdd yn rheolaidd. Mae’r Llywodraethwyr yn cwrdd yn rheolaidd i drafod adroddiad tymhorol ar gynnydd yr ysgol gyda Mrs Nuttall a’i staff. Hefyd, derbyna’r Llywodraethwyr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at dargedau’r Cynllun Datblygu. Mae'r Pennaeth yn cyflwyno dadansoddiad manwl o gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn ei hadroddiad. Mae’r dadansoddiad data hwn yn galluogi staff i ganfod disgyblion a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gan gynnwys dysgwyr mwy able a thalentog. Mae darpariaeth briodol yn ei lle ar gyfer yr hioll ddysgwyr. Yn unol â gofynion statudol, mae'r rhan fwyaf o lywodraethwyr wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ddadansoddi data a herio'r pennaeth ar ei chanfyddiadau. Yn gyffredinol, mae’r
Llywodraethwyr yn fodlon ar gynnydd, ond mae meysydd i'w datblygu yn amlygu eu hunain, fel gwella sgiliau ysgrifennu ar lefelau uwch a chau’r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched. Caiff y rhain eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Ysgol 2016-2017. Mae llawer o bolisïau wedi cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn. Derbyniodd y llywodraethwyr gyflwyniadau gan nifer o staff ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys metawybyddiaeth, lles a bwyta'n iach. Yn dilyn cyflwyniad am fwyta’n iach, ysgrifennodd Cadeirydd y Llywodraethwyr at yr awdurdod lleol am farn y dysgwyr am y ciniawau a ddarperir gan y Tîm Arlwyo Caerffili. Yr ydym yn aros am ymateb ar hyn o bryd. Mae gwaith cynnal a chadw'r adeilad yn parhau, megis gosod toiledau newydd yn y cyfnod sylfaen a chodi arian i gefnogi gosod cyfarpar chwarae newydd ar yr iard flaen. Penodwyd tri rhiant-lywodraethwyr newydd hanner ffordd drwy'r flwyddyn. Maent wedi bod yn brysur yn ymgymryd ag holl hyfforddiant statudol a magu dealltwriaeth am dargedau'r ysgol a’i chynllun datblygu. Derbyna’r llywodraethwyr nifer o gyfleoedd i ymweld â'r ysgol ac arsylwi gweithgareddau bob dydd gan gynnwys teithiau dysgu, gwasanaethau a chyfarfodydd â’r cyngor ysgol yn ogystal â chymryd rhan yn y ddarpariaeth allgyrsiol megis prosiectau garddio, cyngherddau, ffeiriau a gweithgareddau eraill sy’n agored i gymuned yr ysgol i. Mae'r cyfleoedd hyn yn llawn gwybodaeth ac yn bleserus. Mae’r Llywodraethwyr yn falch o'r hyn y maent yn ei arsylwi. Yn olaf, hoffem ddiolch i Mrs Nuttall a'i staff am eu holl waith caled ag arweiniodd at
-
12
flwyddyn brysur a llwyddiannus arall yn Ysgol Y Castell. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw unwaith eto yn y flwyddyn nesaf i weithredu targedau'r Cynllun Datblygu Ysgol a chodi safonau ymhellach.
Data Perfformiad Ysgol 2016
Y Cyfnod Sylfaen:
Disgwylir i blant ar ddiwedd YCS (7 oed) gyrraedd Deilliant 5. Mae ambell ddisgybl
yn rhagori gan gyrraedd Deilliant 6 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd Deilliant 4.
Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 5 ac uwch ar ddiwedd Y Cyfnod
Sylfaen 2016
Pwnc Targed
ysgol
Ysgol Y Castell Teulu o
ysgolion
AALl Cymru
Cymraeg 92% 92% 92% 93% 91%
Mathemateg 93% 95% 94% 91% 90%
Lles 90% 95% 97% 94% 95%
Dangosydd Pwnc
Craidd (llwyddo yn
y 3 phwnc craidd)
85% 86% 89% 89% 87%
Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 6 ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen
2016
Pwnc Targed
ysgol
Ysgol Y Castell Teulu o
ysgolion
AALl Cymru
Cymraeg 32% 31% 32% 32% 36%
Mathemateg 33% 31% 35% 36% 36%
Lles 37% 31% 48% 56% 60%
-
13
Cyfnod Allweddol 2:
Disgwylir i blant ar ddiwedd CA2 (11 oed) gyrraedd lefel 4. Mae ambell ddisgybl yn
rhagori gan gyrraedd lefel 5 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd lefel 3.
Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 4 ac uwch ar ddiwedd Cyfnod
Allweddol 2 2016
Pwnc Targedau
ysgol
Ysgol Y
Castell
Teulu o
ysgolion
AALl Cymru
Cymraeg 93% 98% 93% 92% 91%
Saesneg 90% 100% 93% 92% 90%
Mathemateg 98% 96% 94% 92% 91%
Gwyddoniaeth 98% 100% 95% 93% 92%
Dangosydd
Pwnc Craidd
90% 91% 91% 90% 89%
Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2
2016
Pwnc Targedau
ysgol
Ysgol Y
Castell
Teulu o
ysgolion
AALl Cymru
Cymraeg 20% 28% 33% 34% 38%
Saesneg 18% 23% 36% 41% 42%
Mathemateg 25% 37% 42% 43% 43%
Gwyddoniaeth 28% 35% 37% 42% 42%
-
14
Camau Gweithredu Cynllun Datblygu Ysgol (2016-2017)
Parhau i godi safonau ysgrifennu bechgyn (deilliant 6 a lefel 5) trwy’r ysgol.
Mireinio darpariaeth Gwyddoniaeth trwy’r ysgol – ail-edrych ar ein
themau / cynlluniau gwaith a sicrhau cyfleoedd i addysgu
Gwyddoniaeth yn rheolaidd.
Codi dyhead plant cinio rhad a’u teuluoedd am ddyfodol gwell i
gwrdd â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol i waredu effaith tlodi ar blant.
Mireinio a datblygu arferion ymddygiad trwy’r ysgol fel bod bron bob un
dysgwr yn arddangos ymddygaid rhagorol wrth ddysgu (Targed Cyngor Ysgol
Gweithredu ar Fframwaith Cymhwysedd Digidol – hyfforddiant ac arweiniad i
bawb fel ein bod yn hyderus wrth gyflwyno’r fframwaith sgiliau
Sicrhau parhad yn safonau addysgu da neu’n well trwy raglan
fentora, cymell ac herio i holl aelodau o staff yn ysgol.
Glendid tai bach yr ysgol.
Cyflogir glanheuwyr trwy gytundeb gyda’r AL. Glanheuir y tai bach ddwywaith y
dydd gan sicrhau cyflenwad digonol o bapur tŷ bach, sebon a dŵr poeth. Profir
tymheredd y dŵr yn wythnosol gan y gofalwr. Cynhaliwyd arolygon glendid ar hap a
datganwyd bod safonau glendid yn foddhaol.
-
15
Datganiad Cyllidol
Cyllid Ysgol – Gwariant ac Incwm (Ebrill 2015 – Mawrth 2016)
Ardal o Wariant Cyfanswm Balans Cyffredinol
Costau Staffio £1,378,664
Costau Adeilad £140,420
Cyflenwadau a Gwasanaethau £72,137
Cynllun Datblygu Ysgol £8,550
Cytundeau Lefel Gwasanaeth
AALl
£25,204
Cyfanswm o Wariant £1,624,976
Incwm £688,919
Gwariant Net £936,057
Cyfanswm Ariannu Ysgol (Ebrill 2015 – Mawrth 2016)
Cyllido Cyfanswm Balans Cyffredinol
Dyraniad Fformiwla
Cyfanswm
£1,222,655
Balans a gariwyd drosodd o’r
flwyddyn flaenorol
£50,287
Cyfanswn y Gyllideb £1,272,942
-
16
Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2016/2017
Yn ogystal â hyn, bydd yr ysgol yn cau am bum niwrnod arall ar gyfer hyfforddiant mewn swydd i’r
staff. Cewch wybod am y rhain cyn gynted â phosib trwy neges destun ac ar wefan yr ysgol. Mae’r
calendr hwn yn cwrdd â’r gofynion statudol o 195 o ddiwrnodau, gan gynnwys 190 gyda’r disgyblion
yn bresennol a phum niwrnod ar gyfer hyfforddiant mewn swydd.
Amseroedd Ysgol
Yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n ofynnol i blant Y Cyfnod
Sylfaen weithio am o leiaf 21.5 awr yr wythnos (ac eithrio amseroedd chwarae,
gwasanaethau a chofrestri). Dylai disgyblion Cyfnod Allweddol 2 weithio am o leiaf
23.5 awr yr wythnos.
Y Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol 2
Dechrau ysgol 9.00 – 10.30 y.b. 9.00 – 10.45 y.b.
Toriad boreol 10.30 – 10.45 y.b. 10.50 – 11.05 y.b.
Cinio 12.00 – 1.15 y.p. 12.15 – 1.15 y.p.
Toriad prynhawn 2.35 – 2.45 y.p. 2.20 – 2.30 y.p.
Diwedd y dydd 3.30 y.p. 3.30 y.p.
D.S. Mae disgyblion oed meithrin anstatudol yn mynychu’r ysgol rhan amser:
Bore : 9:00 – 11:45
Prynhawn : 12:45 – 3:30
O I Hanner Tymor
Tymor yr Hydref 2016 01.09.16 18.12.16 26.10.16-30.10.16
Tymor y Gwanwyn 2017 04.01.17 24.03.17 15.02.17-19.02.17
Tymor yr Haf 2017 11.04.17 20.07.17 30.05.17-03.06.17
-
17
Mynediad i Ddisgyblion Anabledd
Mae croeso cynnes yn Ysgol y Castell i ddisgyblion gydag anghenion a galluoedd arbennig. Er mwyn
sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i’r cwricwlwm, bydd y CLAAA, athrawon dosbarth,
Pennaeth ac asiantaethau allanol yn cydweithio i ddarparu anghenion unigol y dysgwyr. Mae Polisïau
Cyfle Cyfartal ac Anghenion Addysgol Ychwanegol yn esbonio hyn yn fanwl.
Mae gan yr adeilad ei hun gyfyngiadau wrth ystyried mynediad i’r anabl. Mae ramp i’r brif adeilad,
neuadd a dosbarthiadau allanol. Er bod gan yr ysgol ddau dŷ bach sy’n addas i’r anabl, mae
mynediad i ambell ardal fewnol yn anodd tu hwnt.
Lle bo’n bosibl, gwneir trefniadau i gwrdd ag anghenion disgyblion ac ymwelwyr anabl.
Anghenion Addysgol Ychwanegol
Tra ein bod yn annog yr holl ddysgwyr yn Ysgol Y Castell i weithio tuag at eu llawn potensial, rydym
yn cydnabod y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai disgyblion ar adegau yn ystod eu gyrfaoedd
ysgol.
Rydym yn cynnwys y disgyblion yma ar gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Yna, mae ein
Cydlynydd Anghenion Arbennig (CLAAA) yn cynorthwyo’r athrawon dosbarth, y rhieni a’r dysgwyr i
ysgrifennu sy’n gosod rhaglen waith unigol i’r disgyblion hyn:-
Cynllun Addysgol Unigol (CAU),
Cynllun Ymddygiad Unigol (CYU)
Cynllun Chwarae ar gyfer y pant ieuengaf
Hefyd, mae’r CLAAA (Mr G. Robinson) yn cysylltu â rhieni, staff eraill, nyrs yr ysgol, therapydd Iaith a
Llefaredd a’r Gwasanaeth Seicolegol. Derbynnir cyngor a chynhaliaeth gan yr ALl trwy Wasanaethau
Cynhwysiad, megis therapydd galwedigaethol, cynhaliaeth ymddygiad a gwasanaeth clyw a golwg.
Mae angen cynhaliaeth ddwys 1:1 ar ambell ddisgybl; derbynia rhai
ychydig o oriau o gefnogaeth, cefnogir eraill mewn gweithgareddau grŵp
bach. Derbynia’r mwyafrif o ddisgyblion gymorth yn y dosbarthiadau, trwy
weithgareddau gwahaniaethol a chymorth gan yr athrawon. Ysgol
gynhwysol yw ein hysgol ni, ac rydym yn croesawu dysgwyr gydag
amrywiaeth eang o anghenion i mewn i’n dosbarthiadau. Mae pob disgybl
yn cael ei gynnwys mewn gweithgareddau dyddiol yn yr ysgol a’r
gymuned ehangach.
Cynhwysa’r term Anghenion Arbennig ddisgyblion sydd â doniau
arbennig; boed yn academaidd, yn gerddorol neu’n chwaraeon. Felly,
rydym yn cydnabod ac yn herio disgyblion Abl a Thalentog i gyrraedd eu
llawn botensial.
Anelwn at sicrhau bod gan bob disgybl fynediad i’r cwricwlwm, beth
bynnag yw ei anghenion a’i allu a byddwn yn parhau i ddefnyddio ystod o
fecanwaith gynhaliol er mwyn cyrraedd ein nod.
Adnewyddir prosbectws yr ysgol yn flynyddol a’i osod ar wefan yr ysgol.
-
18
Y Corff Llywodraethol
Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am reolaeth effeithiol yr ysgol. Mae gennym
ddau ar bymtheg o Lywodraethwyr (gan gynnwys y Pennaeth yn rhinwedd ei swydd).
Fel arfer, gwasanaethant am bedair blynedd. Nodwyd cyfansoddiad presennol y
Corff Llywodraethol isod.
Irene Jones yw Clerc i’r Llywodraethwyr; gellir cysylltu â hi trwy Education
Achievement Service, Tŷ Tredomen, Tredomen, Caerffili.
Enw Math o Lywodraethwr Cyfnod o Wasanaeth
Cynghorydd Colin Elsbury
(Cadeirydd)
Cynrychiolydd AALl 29.09.15 – 28.09.19
Cyng. Dr. Kim Choo Yin
(Is-gadeirydd)
Cynrychiolydd Awdurdod Llai 07.05.13 – 06.05.17
Mrs Anwen Hill Cynrychiolydd AALl 23.01.16 – 22.01.20
Mrs Eleri Betts Cynrychiolydd AALl 12.06.13 – 11.06.17
Mrs Lisa Missen Cynrychiolydd Cymunedol 05.02.16 – 04.02.20
Mr. Gareth Williams Cynrychiolydd AALl 10.02.16 – 09.02.20
Mr. Emyr Jones Cynrychiolydd Cymunedol 04.11.15 – 03.11.19
Dr. Iwan Morris Cynrychiolydd AALl 01.09.16 – 31.08.20
Mrs Heather Bie Cynrychiolydd Rhieni 05.11.14 – 04.11.18
Mr Chris Webb Cynrychiolydd Rhieni 15.03.16 – 14.03.20
Mrs Vicky Coxon Cynrychiolydd Rhieni 28.11.13– 27.11.17
Mrs Sonya Hughes Cynrychiolydd Rhieni 15.03.16 – 14.03.20
Mrs Ceri Tomlinson Cynrychiolydd Rhieni 15.03.16 – 14.03.20
Mrs Helen Nuttall Pennaeth 01.09.09
Mrs Cath Evans Lugg Cynrychiolydd Athrawon 12.03.15 – 11.03.19
Mr Daniel Davies Cynrychiolydd Athrawon 11.04.16 – 10.04.20
Mrs Mairwen Dainton Cynrychiolydd Staff Atodol 01.09.14 – 31.08.18
Cynhelir etholiadau nesaf ar gyfer Rhiant-Lywodraethwr ym Mis Tachwedd
2017.
-
19
Manylion Cysylltu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Awdurdod Addysg Lleol
Prif Swyddog Addysg
Mrs. K. Cole
Tŷ Penalltau,
Tredomen.
Ffon (01443 815588)
www.caerphilly.gov.uk
Manylion Ysgol
Cadeirydd y Llywodraethwyr: Cyng. Colin Elsbury (trwy Ysgol Y Castell)
Pennaeth: Mrs H. Nuttall
Clerc i’r Llywodraethwyr: Mrs Irene Jones
(Cysylltwch â Mrs Jones trwy swyddfeydd EAS, Tredomen)
Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell
Heol Cilgant
Caerffili
CF83 1WH
Ffon (029 20864790)
Facs (029 20867220)
E-Bost: [email protected]
http://www.caerphilly.gov.uk/mailto:[email protected]