rhaglen gŵyl lenyddiaeth dinefwr

25
Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk 1 29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2012

Upload: llenyddiaeth-cymru

Post on 30-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

TRANSCRIPT

Page 1: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

1

29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2012

Page 2: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

2

Cywydd Croeso Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr 2012

Os Tywi sy’n llais tawel,a’i lli hi gan bwyll yn heltrwy’r dyffryn heb ddihunoneb o’r rhai sy’n crwydro’i bro,cei wastad dan y castellyma hedd nad oes mo’i well.

Os Tywi sy’n cystwyoyr hen dir hwn yn ei dro,a’r dwndwr yn ei dwr duo reidrwydd yn rhaeadru,cei mai’r afon hon o hydyn chwil sy’n ddiddychwelyd.

Eto, yn holl osgo’i lli,dôl wahanol elenia gei di dan lesni’r wlad,un â’i gwraidd mewn gwareiddiad,a hen hafau Dinefwrfydd eildro’n deffro’n y dwr.

Yma yn llys mwya’n llên,yn daer ar alwad Urien,fry i’w nyth daw’r frân yn ôlyn union fel hen wennol,a ninnau o’r un aniandan y coed yn dod â’n cân.

 sgrepan lawn, troi wnawn niat dir lle mae’n holl storiyn y ddaear yn aros,ond trwy raid, dod tua’r rhosheddiw’n newydd ein hawengyda llais i godi llen.

Lle gwelir trwy’r tir a’r tarthwynebau’r hen Ddeheubarth,i’r cae o wlith tyrd dithau,o’r hewlydd am ddydd neu ddaui letya’n haul Tywiyn swn iau ein hanes ni.

Rhys Iorwerth

Gall y rhaglen hon newid. Yn gywir adeg ei hargraffu.

Page 3: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

3

Croeso i Ddinefwr

Mae’r penwythnos mawreddog wedi cyrraedd o’r diwedd, ac ar ôl misoedd prysur tu hwnt o drefnu a chynllunio rydym wrth ein boddau o fod yma yn yr hyfryd Sir Gaerfyrddin yn eich cwmni. Os ydych chi’n byw i lawr y lôn neu wedi mentro o bell, fe fydd yr wyl yn cynnig llond llyfrgell o brofiadau newydd, a phenwythnos i’w gofio i bawb.

Pan ddaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru a Coracle ynghyd i drafod cydweithio, buan y sylweddolom ein bod yn rhannu’r un freuddwyd - i gynnal gwyl lenyddiaeth ddwyieithog ym Mharc Dinefwr. Galluogodd grant hael iawn gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ni fwrw ymlaen â’r freuddwyd a’i throi’n realiti.

Mae hanes y lleoliad hudolus hwn yn ei wneud yn safle perffaith. Arferai’r Arglwydd Rhys ap Gruffydd drigo yn Ninefwr. Yn ystod ei deyrnasiad gosododd seiliau i draddodiadau diwylliannol sy’n dal i fod mewn bodolaeth hyd heddiw. Arferai noddi beirdd y llys, ac yn 1176 trefnodd wyl o gerddoriaeth a barddoniaeth yng Ngheredigion - yr ymgorfforiad cyntaf o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yr hyn sy’n anhygoel am Barc Dinefwr yw bod hanes yn cuddio ym mhob cilfach a chornel. Mae’n siwr i chi sylwi eisoes ar greaduriaid go arbennig yn pori yma yn y caeau. Dyma Wartheg Gwynion Dinefwr, brîd hynafol sydd wedi troedio’r tir yma ers dyddiau Hywel Dda. Mae’r adar sy’n nythu yn yr hen goed hefyd yma ers cyn cof. Yn yr Oesau Tywyll, dywed i Gigfrain Urien amddiffyn Owain, fab Urien Rheged, rhag gelynion marwol. Mae’r gigfran i’w gweld ar arfbais teulu Dynevor, ac os edrychwch ar logo’r wyl fe welwch ein bod ninnau wedi eu mabwysiadau fel ein masgots arbennig.

Mae Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr yn cynnig melys-gybolfa o brofiadau gwahanol i bawb. Mae gennym weithdai creu pitsas ochr yn ochr â darlleniadau barddoniaeth; sioeau pypedau enfawr ochr yn ochr â gweithdai comedi; bît-bocsio ochr yn ochr â gwylio adar. Fe fydd pob ystafell yn Nhy Newton yn fwrlwm o weithgareddau - perfformiadau yn y seler, ‘stafell sinema, sgyrsiau yn yr ystafell fwyta ac oriel gelf sydd wedi ei hysbrydoli gan fwystfilod rhyfeddol Dinefwr.

Rydym ni hefyd wedi cael y pleser o gydweithio â rhai o grwpiau llenyddol a cherddorol mwyaf profiadol Cymru a thu hwnt - theAbsurd a Dal dy Dafod o Ogledd Cymru, Bragdy’r Beirdd ac In Chapters o Gaerdydd, y Pan-Ewropeaidd Caught by the River a’r hyfryd Brautigan Book Club o Lundain a fydd hefyd yn croesawu Ianthe Brautigan yr holl ffordd o Galiffornia, UDA.

Rydym wedi cydweithio â Swn, yr hyrwyddwyr cerddoriaeth dan ofal John Rostron a Huw Stephens Radio 1 i ddod ag artistiaid a bandiau anhygoel i’ch diddanu, gan gynnwys: Gruff Rhys, Julian Cope, Jodie Marie, Cowbois Rhos Botwnnog, a The Staves. Ac mae The Junket Club wedi bod yn brysur yn corlannu’r comedi cyfoes gorau ynghyd ar gyfer yr wyl yn cynnwys Tom Wrigglesworth, Josie Long a John Hegley.

Bydd hon yn wyl lenyddiaeth heb ei hail. Ein gobaith yw gwthio ffiniau a phlannu hadau bychain o ysbrydoliaeth ym mhen bob un. Fe glywn arogl y dyfodol ar y gwynt yn yr hen dirlun hwn wrth i ni ddathlu cylch diddiwedd ein diwylliant.

Lleucu Siencyn (Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru)Justin Albert (Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru), Medwin Hughes (Is-ganghellor Prifysgol y Drindod, Dewi Sant)

Page 4: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

4

Gwener 29 Mehefin

5.00 pm

Croeso i DdinefwrLleoliad: Neuadd RhysPa well ffordd o groesawu’r wyl na’i serenadu gyda chonffeti o eiriau, cynghanedd, ac odlau gan rai o hoff feirdd Cymru yn cynnwys y Prifardd Rhys Iorwerth, Gillian Clarke Bardd Cenedlaethol Cymru, Paul Henry a Philip Gross. Bydd côr lleol Aelwyd Llyn y Fan hefyd yn perfformio.

Caught by the River yn Cyflwyno Richard KingLleoliad: Neuadd RhodriMae’r cynhyrchydd, golygydd a newyddiadurwr Richard King wedi gweithio yng nghalon y diwydiant cerddoriaeth annibynnol ers ugain mlynedd. Bydd yn sgwrsio â Robin Turner a Jeff Barrett o Caught by the River am ei lyfr, How Soon Is Now, hanes labeli cerddoriaeth annibynnol. Digwyddiad i’r brenin.

Merched Llenyddol Llandeilo Lleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Bydd Jane Aaron a Kirsti Bohata yn cyflwyno gwaith Anne Beale a Bertha Thomas - merched llenyddol Llandeilo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn trafod eu pwysigrwydd yn hanes yr ardal.(mewn cydweithrediad â Gwasg Honno)

Gillian Clarke 5.00pm

Georgia Ruth 7.30pm

Howard Marks 6.15pm

Page 5: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

5

5.30 pm

Y Brautigan Book Club yn cyflwyno: Please Plant This BookLleoliad: Neuadd GruffuddPerfformiad rhyngweithiol i deuluoedd wedi ei ysbrydoli gan gerdd Richard Brautigan, Please Plant This Book; perfformiad sydd wedi ei greu’n arbennig i nodi Gwyl Lenyddiaeth gyntaf Dinefwr. Yng ngeiriau’r bardd ei hun: mae’n amser plannu llyfrau!

6.00 pm

POETicaLleoliad: Neuadd RhodriBydd POETica yn cyflwyno 60 munud o gelfyddyd geiriol na welwyd ei fath erioed o’r blaen. Yn cyflwyno David J a Martin Daws ar y meics, Mr Phormula yn bît-bocsio, a Huw Vaughn Williams ar y bas dwbl. Dychmygwch roi barddoniaeth, hip-hop, byrfyryrio a geiriau gwallgo i gyd mewn peiriant gwneud smwddis ac yna eu gweini mewn gwydr i chi. Wel, ie - hynna.

Antur Syrffio Tom Anderson ac Eurig SalisburyLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Mae’r dysgwr Tom Anderson wedi dod yn awdur poblogaidd o ganlyniad i’w gyfrolau taith a’i hoffter o ysgrifennu am syrffio. Fel her ar gyfer yr wyl, mae am fathu termau Cymraeg newydd sbon ar gyfer y gamp gyda help y bardd Eurig Salisbury, ar yr amod fod Eurig ei hun yn mentro ar y bwrdd syrffio yn nyfroedd oer Porthcawl. Syrffiwch draw!

6.15 pm

Howard Marks: Cwrdd â Mr. NiceLleoliad: Neuadd RhysDewch i gwrdd â Mr Nice, y smyglwr cyffuriau drwg-enwog sydd bellach yn awdur, a’i sioe un-dyn gwefreiddiol. Bydd y daith gignoeth a gonest hon yn galw heibio magwraeth yn ne Cymru, astudio ym Mhrifysgol Rhydychen a chyfnod yng ngharchar caletaf America. Neis.

6.30 pm

Ffuglen Wyddonol Anhygoel Dr WhoLleoliad: Neuadd GruffuddTeithio drwy amser, bodau o’r gofod, Daleks digywilydd – bydd yr awdur ffuglen wyddonol Mark Brake a’r artist rap Jon Chase yn archwilio ffuglen wyddonol Dr Who. Anghofiwch am wersi gwyddoniaeth yr ysgol, a pharatowch am wers wyddoniaeth cwbl arallfydol.

7.00 pm

Pascale Petit : Barddoniaeth a PheintioLleoliad: Yr Ystafell Fwyta: Ty NewtonMae casgliad diweddaraf y bardd a’r tiwtor o’r Tate Modern, Pascale Petit, What The Water Gave Me: Poems After Fridha Kahlo yn archwilio gweledigaeth yr artist eiconig honno. Bydd Pascale yn sgwrsio â’r beirniad celf Jasper Rees ynglyn â’r berthynas rhwng barddoniaeth a chelf weledol.

7.30 pm

Georgia RuthLleoliad: Neuadd RhodriWedi ei magu ger arfordir hudolus gorllewin Cymru, ymgyfarwyddodd y gantores a’r delynores Georgia Ruth â swn tonnau’r môr a chasgliad recordiau gwerin ei rhieni yn eu cartref yn Aberystwyth. Gyda’i cherddoriaeth gwerin a blws, a llais â ddisgrifwyd gan Huw Stephens Radio 1 fel “angerddol” bydd Georgia yn perfformio gyda’i band, Cowbois Rhos Botwnnog, sydd hefyd yn chwarae ar y dydd Sul.

Page 6: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

6

7.30 pm

theAbsurdLleoliad: Neuadd RhysBydd y grwp perfformio theAbsurd o ogledd Cymru yn cyflwyno barddoniaeth-a-swn-avant-garde gan gymysgedd o berfformwyr yn cynnwys The Museum for Disappearing Sounds gan Zoë Skoulding ac Alan Holmes; Annwfn: postrockpoetryopera yn serennu Rhys Trimble, Hywel Edwards, Ben Stammers, Sam Durrant, Hannah Wardle a Steve Collings; a DRKMTR: arbrawf mewn barddoniaeth, celf a swn gyda Sophie McKeand, Andy Garside, Steve Nicholls, Sophie Ballamy a Steff Owen.

7.45 pm

Amser Stori Hogiau DrwgLleoliad: Neuadd GruffuddGwledd cyn gwely i blant a rhieni: bydd yr awduron direidus Horatio Clare a Tom Anderson yn hudo’r gynulleidfa gyda’u hoff straeon.

8.00 pm

Nat Segnit yn Sgwrsio â Mike ParkerLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Mike yw awdur Map Addict, sy’n dathlu ei garwriaeth â mapiau o bob math. Nat yw awdur Pub Walks in Underhill Country, nofel sy’n cymryd ffurf teithlyfr i gerddwyr. Drwy gyd-ddigwyddiad, mae’r ddau hefyd yn ddigrifwyr. Heiciwch draw am drafodaeth ar ysgrifennu taith boed yn ffaith neu’n ffuglen!

8.30 pm

Stori Dewis dy Drywydd gan Dewi PrysorLleoliad: Neuadd GruffuddYn arbennig ar gyfer Dinefwr, mae’r awdur heriol Dewi Prysor wedi paratoi stori newydd sbon – ac nid y naratif yn unig fydd â tro yn ei chynffon. Bydd cyfle i chi lywio’r stori drwy bleidleisio dros wahanol opsiynau ar doriad yn y darlleniad. Does wybod lle bydd yn eich harwain.

Gwener 29 Mehefin

8.45 pm

The StavesLleoliad: Neuadd RhodriAr ôl teithio’r UDA a Chanada yn cefnogi Bon Iver (band sydd wedi ennill gwobr Grammy), mae’r Staves yn brysur ennill cefnogwyr o bob rhan o’r byd. Gyda’u harmonis hudol a’u talent am sgwennu caneuon hyfryd mae’r dair chwaer Emily, Jessica a Camilla yn siwr o blesio.

9.15 pm

Siarad Cerddi a Cherddi’n Siarad gydaCeri Wyn Jones a Mererid HopwoodLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Prin nad oes neb sy’n gwybod cymaint am farddoniaeth yng Nghymru na Meuryn y Talwrn - Ceri Wyn Jones, a Mererid Hopwood, y ferch gyntaf erioed i ennill tair brif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol. Dewch i ymlacio i swn melfedaidd geiriau a chlecian cynghanedd

John HegleyLleoliad: Neuadd GruffuddMae John Hegley wedi cynhyrchu deg llyfr o farddoniaeth a darnau rhyddiaith, dwy CD ac un mwg. Cyfeiriwyd ato unwaith fel “un o’r dynion doniolaf ar y ddaear” (The New Statesman), a recordiodd ddwy sesiwn i John Peel. Mae i’w weld yn gyson yn perfformio yng Ngwyl Caeredin, ac fe berfformiodd unwaith mewn carchar menywod yn Columbia.

9.30 pm

Caca Milis Irish CabaretLleoliad: Neuadd Rhys“Vaudeville ôl-fodernaidd” yn ôl Caca Milis eu hunain. Ac fe ymhelaethwn drwy ddatgelu fod y grwp o gerddorion a dawnswyr o Wexford, Iwerddon wedi addo telynau, dawnsio bogail, meimio, adrodd straeon, canu a llawer mwy. Ymgollwch i fyd bwrlésg a hwyl y Neuadd Ddawns.

Page 7: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

7

10.00 pm

Simon Munnery yn cyflwyno Hats Off to the 101ersLleoliad: Neuadd GruffuddSeren Attention Scum BBC2 a Where Did It All Go Wrong? Radio 4 yn cyflwyno sioe newydd sbon. Yn gawlach gwych o hetiau bybls, y jôcs gorau erioed, riffiau gwael ar y gitâr, monologau hyfryd, campau peirianyddol cartref, a sioe gerdd pync undyn (or-uchelgeisiol) am long awyr yr R101 o’r 1930au. Y cyfan wedi’i berfformio gydag eirin. Neu ryw ffrwyth arall.

Gruff RhysLleoliad: Neuadd RhodriDoes dim angen cyflwyniad arno, ond bydd un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg, a phrif leisydd Super Furry Animals yn hedleinio noson gyntaf yr wyl. Rhyddhawyd albwm ddiweddaraf Gruff, Hotel Shampoo (Turnstile) yn 2011, a chipiodd ganmoliaeth uchel a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn ei sgîl. Yn ddiweddar bu’n teithio America ac Ewrop gyda’r grwp pop-swn-syrffio o ogledd Cymru, Y Niwl.

10.15 pm

A Gymri di GymruLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Dwy actores leol, Rhian Morgan (a welwyd yn ddiweddar yn serennu fel Mrs Lloyd ar Gwaith/Cartref) a Llio Silyn yn eu hetiau hen fenywod Cymreig fydd yn cyflwyno sgetsys, caneuon, atgofion llon a lleddf am Gymru. Ond wrth ddiosg y wisg Gymreig, ysgwn i pa wirioneddau ddaw i’r golwg?

The Staves 8.45pm

John Hegley 9.15pm

Gruff Rhys 10.00pm

Mike Parker 8.00pm

Page 8: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

8

Sadwrn 30 Mehefin

8.30 am

Gweithdy Peintio Adar gyda Matt Sewell (Caught by the River)Lleoliad: Neuadd GruffuddMae eitem ‘Aderyn yr Wythnos’ yr adaregydd brwd a’r arlunydd Matt Sewell ar wefan Caught by the River yn un o’i phrif atyniadau. Ymunwch â Matt mewn gweithdy peintio adar a dysgu sut i arlunio titw tomos las, robin goch neu gigfran ddu Dinefwr. Codwch ar ganiad adar bach y bore am fore hwyliog i’r teulu cyfan!

9.00 am

Perfformiad Ysgolion LleolLleoliad: Neuadd RhysI baratoi ar gyfer Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr, mae plant lleol Llandeilio wedi bod yn derbyn gweithdai barddoniaeth. Dewch i wrando ar y beirdd bach yn adrodd eu gwaith.

10.00 am

Dinefwr: Lle a Phasiant Lleoliad: Neuadd RhysDinefwr - safle dylanwadol, eiconig a phwerus yn hanes Cymru ers dros 2,000 o flynyddoedd. O gigfrain du i’r Dadeni Dysg ac o’r castell gwych i’r gwartheg gwynion, bydd Prys Morgan, Hazel Walford Davies a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Justin Albert yn trafod hanes y Parc, Ty Newton a’i esblygiad dros y blynyddoedd.

Bx3: Eurig Salisbury, Catrin Dafydd ac Aneirin Karadog. Lleoliad: Neuadd RhodriDyma sioe newydd sbon gan Arad Goch a Llenyddiaeth Cymru sy’n serennu tri o feirdd ifainc gorau Cymru a gitarydd gwych o’r enw Llyr Edwards. Bydd y perfformiad yn arwain y gynulleidfa i fyd o ffantasi, antur a breuddwydion. Bydd yna gerddi llon a lleddf, rapio a chyfle i’r gynulledifa ymuno yn yr odli!

Straeon yng nghwmni AtinukeLleoliad: Neuadd GruffuddMae’r storïwraig Atinuke yn casglu hen chwedlau o Yorubaland yn Nigeria, Lloegr a Chymru, a straeon gwerin o Sbaen, Portiwgal a Tsieina. Efallai y bydd yn dewis adrodd straeon am Anna Hibiscus neu o’r gyfres boblogaidd No. 1 Car Spotter, yn ogystal â hen hanesion Affricanaidd. Dewch am stori.

25 Mlynedd o Ysgrifennu gan Fenywod Lleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Bydd yr awduron Elin ap Hywel a Sarah Jackman yn cwrdd â’r golygyddion Penny Thomas a Stephanie Tillotson i drafod ac i ddarllen o’r antholeg newydd o straeon byrion gan fenywod o Gymru, All Shall be Well, 25at25. Bydd yr antholeg ben-blwydd hon yn dathlu 25 mlynedd o gyhoeddi gan Wasg Menywod Cymru, Honno.(mewn cydweithrediad â Honno)

Gweithdy Comedi gyda John HegleyLleoliad: Parlwr (Ty Newton) Cnoc cnoc! Pwy sydd ‘na? John Hegley, un o’r dynion doniolaf ar y ddaear yn barod i roi gweithdy i chi ar sut i wneud comedi!

Joe Dunthorne 12.00pm

Page 9: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

9

11.00 am

Hunaniaeth Jasper Rees a Tony BianchiLleoliad: Neuadd Rhodri Ar ôl diflasu ar ei sialens o ddysgu chwarae’r corn Ffrengig, penderfynodd awdur Bred of Heaven a’r newyddiadurwr Jasper Rees ar her newydd: i ddysgu Cymraeg. Bydd Jasper a Tony Bianchi, sydd yntau’n ddysgwr Cymraeg ac yn awdur ar nifer o nofelau poblogaidd, yn trafod hunaniaeth fel thema yn eu gwaith.

John Harrison yn cyflwyno Forgotten FootprintsLleoliad: Neuadd Rhys Enillodd John Harrison wobr Llyfr y Flwyddyn am ei gyfrol daith am Dde America, Cloud Road yn 2011. Mae’n deithiwr brwd sydd wedi ymweld â 60 o wledydd mewn 6 cyfandir gwahanol, a bydd yn cyflwyno lluniau a straeon am ei antur diweddaraf yn Antarctica. Dewch a’ch cotiau cynnes a photel dwr poeth!

Philip ArdaghLleoliad: Neuadd GruffuddDyma Philip ‘Barfog’ Ardagh, a’i farf hynod drawiadol yn y cnawd. Dyma’r gwr sy’n adnabyddus dros y byd am ei gyfres o lyfrau Eddie Dickens Adventures i blant. Dewch i wrando arno’n dweud hanesion digrif tu hwnt!

Archie Miles a Hen Goed CymruLleoliad: SinemaYn ffotograffydd proffesiynol ers deng mlynedd ar hugain, mae Archie wedi teithio hyd a lled Ynysoedd Prydain yn tynnu lluniau o goed hynaf a phrinaf y wlad. Yn Ninefwr â’i barcdir o’r 18fed ganrif a’r parc ceirw canoloesol bydd Archie yn ei elfen tra’n cyflwyno ei lyfr newydd sbon Heritage Trees Wales.

11.15 am

Sgwrs rhwng Hannah Ellis a Cofiannydd Dylan Thomas, Andrew LycettLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Yn 2014 bydd dathliadau camlwyddiant un o feirdd mwyaf enwog Cymru, Dylan Thomas, ac rydym wrth ein boddau o gael croesawu wyres Dylan Thomas ei hun, Hannah Ellis i’r wyl. Bydd hi’n sgwrsio â chofiannydd Thomas, Andrew Lycett, am fywyd a gwaith ei thaid, ac yn trafod cynlluniau ar gyfer dathliadau 2014. Peidiwch â cholli’r digwyddiad unigryw hwn.

11.30 am

Taith Natur yng Nghwmni Horatio ClareLleoliad: Cwrdd ger Stondin y Partneriaid Gadewch i’r awdur Horatio Clare eich arwain drwy goedlannau hynafol Parc Dinefwr. Bydd yn trafod rôl y Rhamantwyr fel arloeswyr ysgrifennu natur Prydain, gan ddarllen pytiau o waith yr awduron clasurol. Byddwch yn graff rhag cael cip ar aderyn anarferol neu anifail bach blewog.

Gweithdy Comics gyda Huw AaronLleoliad: Parlwr (Llawr Cyntaf, Ty Newton) Dewch i dynnu lluniau doniol a chreu stribedi cartwns yng nghwmni’r cartwnydd proffesiynol a’r gwr sydd wrth ei fodd yn bwyta jeli coch a dweud jôcs.

12.00 pm

Joe Dunthorne: Choose Your Own AdventureLleoliad: Neuadd Rhodri Ydych chi erioed wedi dymuno achub hoff gymeriad o dynged erchyll? Bydd y nofelydd Joe Dunthorne (awdur Submarine a addaswyd yn ddiweddar i ffilm) yn rhoi’r pwer i’r gynulleidfa i lywio’r stori gyda’i Choose Your Own Adventure. Bydd hefyd yn darllen o’i nofel ddoniol ddiweddaraf Wild Abandon. Un o bigion yr wyl.

Page 10: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

10

Sadwrn 30 Mehefin

12.00 pm

Jeremy StrongLleoliad: Neuadd GruffuddArferai Jeremy Strong weithio mewn becws yn rhoi jam mewn toesenni. Un dydd, penderfynodd fod hynny’n rhy ddiflas, felly cychwynodd ysgrifennu llyfrau i blant, a nawr gallwch weld ei lyfrau fel The Hundred-Mile-an-Hour Dog ac eraill, mewn siopau ledled y byd!

Jam Bones Lleoliad: Neuadd RhysFfrwyth dychymyg Mab Jones yw Jam Bones sef menter gair llafar sydd wedi gwreiddio yng Nghaerdydd. Ymysg y perfformwyr y bydd Rhian Edwards, Jack Pascoe, Sue Hamblen, Susie Wild, Liam Johnson, Nick Whitehead ac wrth gwrs brenhines y barddoniaeth doniol, Mab Jones ei hun. Dewch i chwerthin hyd nes bod eich esgyrn yn clecian.

12.15 pm

Hanes Dinefwr gyda John DaviesLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Bydd hanesydd cenedlaethol Cymru, John Davies yn adrodd hanes Dinefwr dros y canrifoedd. Pwy oedd yn byw yn y castell? Pa ddireidi oedd beirdd y llys yn ei gyflawni yng nghwmni Tywysogion Y Deheubarth?

1.00 - 5.00 pm

Gweithdy Sgiliau Syrcas gyda Circus DazeLleoliad: Lawnt CroceEisiau dysgu tric newydd? Bydd ein arbenigwyr syrcas wrth law i ddysgu pob math o sgiliau yn cynnwys jyglo, balansio, diablo a phlatiau’n troi.Cefnogir gan Gyngor Tref Llandeilo

1.00 pm

Jasper Fforde ac Alastair Reynolds yn trafod Ffuglen Wyddonol a FfantasiLleoliad: Neuadd GruffuddDau awdur hoffus sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae Jasper yn cael ei adnabod yn bennaf fel awdur cyfres Thursday Next, am dditectif llenyddol sy’n erlid cymeriadau sydd wedi dianc o nofelau clasurol; ac fe adwaenir Alastair am ei ffuglen wyddonol - llwyddodd ei nofel Terminal World i gyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Syr Andrew Motion yn Cyflwyno: Silver: Return to Treasure IslandLleoliad: Neuadd RhodriBydd y cyn-Fardd Llawryfog yn cyflwyno’r hirddisgwyliedig ddilyniant i Treasure Island, Silver, sy’n cynnwys cast o forwyr dewr, môr ladron milain, a straeon am gariad, dewrder a chreulondeb.

1.15 pm

Huw Aaron a Cartwns DychanLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Mae Huw Aaron yn ennill ei fara menyn wrth dynnu lluniau gwirion. Gwelir ei gartwnau gogleisiol yn rheolaidd ar dudalennau Private Eye, Reader’s Digest a The Oldie, yn ogystal â Dim Lol. Mae hefyd yn creu straeon stribed, ac ar hyn o bryd, mae ynghanol addasiad o’r Gododdin, a hynny ar ffurf nofel graffeg.

Plant cymuned Nantgaredig yn cyflwyno ‘Pryd yn y Byd?’. Lleoliad: SinemaDewch i wrando ar blant Nantgaredig yn cyflwyno eu ffilm sy’n adrodd hanes yr ardal.

1.30 pm

Daniel Glyn yn holi Pat Morgan (Datblygu)Lleoliad: Y Selar (Ty Newton)Bydd un aelod o’r ddeuawd pop arbrofol Datblygu yn Ninefwr yn siarad am y ddeg mlynedd ar hugain ddiwethaf o berfformio. Un o uchafbwyntiau’r wyl heb os.

Page 11: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

11

1.45pm

Jez AlboroughLleoliad: Neuadd RhysMae Jez Alborough yn awdur a darlunydd dros 45 o lyfrau plant. Ef yw awdur cyfres boblogaidd Eddy and the Bear, sydd wedi gwerthu bron i bedair a hanner miliwn o gopïau ac wedi ei throi i gyfres animeiddedig a enilliodd wobr Bafta. Wyddoch chi hefyd ei fod yn chwarae gitâr i fand blws?

2.00 pm

Stwnsh a Bardd Plant CymruLleoliad: Neuadd GruffuddBydd Anni ac Owain o’r sioe deledu Stwnsh yn camu o’r set deledu ac yn dod bob cam i Ddinefwr i roi sioe arbennig i chi. Bydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn ymuno â nhw ar y llwyfan. Bydd yn rhaid iddo fod yn ofalus rhag i griw Stwnsh ei stwnsho...!

2.15 pm

Jon Gower yn holi Claire Keegan Lleoliad: Neuadd RhodriAllwn ni dal ddim credu fod yr anhygoel Claire Keegan yn dod i Ddinefwr. Mewn sgwrs â Jon Gower, bydd yn darllen ac yn trafod ei straeon byrion sydd wedi ennill cymaint o wobrau nes y byddai angen rhaglen arall i’w rhestru. Ceisiwch ddal Foster, stori hynod emosiynol, gynnil, am fywyd teulu tlawd yng nghefn gwlad Iwerddon.

Natur yn Ysbrydoli: Digwyddiad GwobrwyoLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke yn cyflwyno’r gwobrau am gystadleuaeth ysgrifennu Natur yn Ysbrydoli. Trefnir y gystadleuaeth gan Natur Cymru, y cylchgrawn sy’n cynrychioli popeth sy’n ymwneud â natur yng Nghymru. Noddir y prif wobrau gan WWF Cymru a Ty Newydd, gyda gwobrau eraill gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Dolphin Survey Boat Trips.

2.45 pm

Gweithdy Ysgrifennu i Blant: David Orme, Helen Orme a Phil CarradiceLleoliad: Parlwr (Ty Newton)Mae David Orme a Helen Orme wedi ysgrifennu dros 400 o lyfrau, gan gynnwys ffuglen a ffeithlen i blant, nofelau graffig, barddoniaeth a llyfrau i athrawon. Mae Phil Carradice yn nofelydd, bardd a storïwr poblogaidd.

O’r Pedalo Alarch i’r Llong Nwyddau: Horatio Clare yn cyfweld â Iain SinclairLleoliad: Neuadd RhysMae Iain Sinclair yn un hanner o Swandown, prosiect ffilm a chelf sy’n dogfennu taith bell mewn pedalo siap alarch. Bydd yn sgwrsio â Horatio Clare, a oedd yn awdur preswyl ar y llong nwyddau Gerd Maersk yn 2011.

Huw Aaron 11.30am a 1.15pm

Page 12: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

12

3.00 pm

David Greenslade a David Rees DaviesLleoliad: Oriel (Ty Newton) Bydd y bardd yn siarad â’r artist ynglyn â’r broses o gydweithio ar Homuncular Misfit, casgliad o gerddi a ddisgrifwyd gan Richard Gwyn fel “boncyrs a briliant”. Cofiwch fynd i gael golwg ar beintiadau Davies sydd wedi eu harddangos yn oriel yr wyl.

Gweithdy Ysgrifennu Nofelau DitectifLleoliad: Seler (Ty Newton) Rhybudd: i ddod i’r digwyddiad hwn, bydd yn rhaid bod yn ddewr. Mae Sally Spedding yn awdur nofelau ditectif llwyddiannus. Yng nghanol ysbrydion seler Ty Newton, bydd yn arwain gweithdy ar sut i ysgrifennu am drosedd yn effeithiol, gan ddefnyddio Dinefwr fel cefndir i’r dasg arswydus hon.

Catherine Fisher a Jenny SullivanLleoliad: Neuadd GruffuddBydd Catherine Fisher, Awdur Llawryfog cyntaf Pobl Ifainc Cymru, a Jenny Sullivan, enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2012 yn dod i drafod eu llyfrau i blant a phobl ifainc. Yn y darlleniadau gefn-gefn hyn, bydd cyfle i holi’r ddwy am eu gwaith.

3.15 pm

Ymddiriedolaeth Natur De Cymru - Taith Natur Lleoliad: Cwrdd ger Stondin y Partneriaid Bydd y botanegydd Ray Woods yn eich arwain drwy Goedwig y Castell heibio Castell Dinefwr. Archebwch le o flaen llaw yn y Ganolfan Groeso.

Daniel Glyn yn cyflwyno Yellow Snow Lleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Mae’r digrifwr Daniel Glyn yn llawn sypreisys. A dyma un gwerth chweil - bydd yn Ninefwr i gyflwyno drama radio Yellow Snow y mae wedi ei chyd-ysgrifennu, sy’n adrodd hanes gang o hogiau ifainc mewn pentref sy’n trechu ciwed fileinig o ddynion eira drwy bi-pî ar eu pennau. A’r unig beth allai fod yn well na hynny yw mai’r actor Rhys Ifans sy’n actio llais pob cymeriad - gwych!

3.30 pm

What The Future Might Hold: Robert Minhinnick a Peter FinchLleoliad: Neuadd RhodriBydd y beirdd Peter Finch a Robert Minhinnick yn darllen o’u gweithiau diweddar ac yn trafod y dyfodol.

Sadwrn 30 Mehefin

Tom Wriggleswroth 5.00pm

Jodie Marie 5.15pm

Page 13: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

13

3.45 pm

Nocturne: Yn Dynn ar Sodlau Golau’r LloerLleoliad: Neuadd RhysMae cyfrol ddiweddar James Attlee, Nocturne yn trafod natur y cyswllt bregus rhwng dyn a’r lleuad yn yr 21ain ganrif. Bydd Attlee yn siarad gyda Tom Anderson am ei daith i ailddarganfod y berthynas hon, ac yn datgelu’r cast lloerig o artistiaid, beirdd, gwleidyddion, astomegwyr a cherddorion y bu’n cwrdd â nhw dros gyfnod yr ymchwil.

4.00 pm

Tai Mawr a Mieri: Plastai Coll CymruLleoliad: Cinema (Ty Newton) Damian Walford Davies yn sgwrsio â’r ffotograffydd Paul White am eu prosiect diweddar yn y gyfrol ddwyieithog drawiadol Ancestral Houses: The Lost Mansions of Wales / Tai Mawr a Mieri: Plastai Coll Cymru. Dewch i ddarganfod y cyfrinachau tu ôl i’r hen gorneli. Mewn cydweithrediad â Gwasg Gomer

4.15 pm

Amser Stori Hogiau DrwgLleoliad: Neuadd GruffuddGwledd cyn gwely i blant a rhieni: bydd yr awduron direidus Jasper Fforde a Joe Dunthorne yn hudo’r gynulleidfa gyda straeon digrif am anturiaethau a’u hoff cymeriadau o straeon plentyndod.

Datblygu a’r Sîn Gerddoriaeth GymraegLleoliad: Ystafell Fwyta (Ty Newton) Bydd y chynhyrchydd poblogaidd Dyl Mei, y cyn newyddiadurwr cerddorol i’r NME Iestyn George a cynhyrchydd ffilm ddogfen newydd sbon am Datblygu, Owain Llyr, yn trafod dylanwad y band arbrofol Datblygu ar sîn bop a roc Cymraeg yr 80au a’r 90au. Dewch i ymuno yn y drafodaeth ac efallai y gwelwch ambell wyneb cyfarwydd yn y dorf...

5.00 pm

Tom WrigglesworthLleoliad: Neuadd Gruffudd‘Dewisodd Duwiau comedi Tom Wrigglesworth i fod yn wych’ meddai’r Scotsman am y digrifwr o Swydd Efrog. Enillodd ei sioe boblogaidd ‘Tom Wrigglesworth’s Open Return Letter to Richard Branson’, wobr Chortle am Sioe Orau 2010, ac enwebiad ar gyfer prif wobr Gomedi Gwyl Caeredin. Mae’n cyflwyno ei gyfres ei hun ar Radio 4 – Tom Wrigglesworth’s Open Letters.

Arddangosfa Gwehyddu Rhisgl CoedLleoliad: Lawnt Croce Terry ‘The Weaver’ Dunne yw un o artistiaid tapestri a gwehyddwyr matiau gorau Iwerddon. Mae’n creu cynnyrch drwy ddefnyddio rhisgl coed, cotwn, linen, sidan, raffia, nodwyddau pinwydd a phapur.

5.15 pm

Jodie MarieLleoliad: Neuadd RhysCafodd Jodie Marie ei magu yn Arberth, yn bell o bobman a heb ddiddordeb yn y siartiau pop, a chafodd ei bwydo ar ddeiet o’r blws a Bonnie Raitt, sy’n gyfrifol am y sain deimladwy a phersonol iawn mae’n ei chreu. Wedi ei harwyddo i Decca ac wedi gweithio gyda Bernard Butler ar ei halbym gyntaf Mountain Echo, mae’n anodd credu fod y gantores leol 20 oed mor ifanc.

5.30 pm

James AcasterLleoliad: Neuadd Gruffudd Wedi sefydlu’i hun fel un o’r digrifwyr ifanc mwyaf addawol yng ngwledydd Prydain, mae James wedi ymddangos ar Russell Howards Good News (BBC Three), Dave’s One Night Stand a Chris Addison’s Show and Tell (E4).

Page 14: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

14

Sadwrn 30 Mehefin

5.15 pm

Caught by the River yn cyflwyno... Lleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton)

Robert Penn 5.15pmY beiciwr Robert Penn, awdur It’s All About the Bike: the Pursuit of Happiness on Two Wheels, yn siarad am ei sialens o adeiladu ei feic delfrydol ac am effaith y beic ar hanes y ddynol ryw.

Idle Travels & the Perfect Pub 6.30pmSesiwn gyda Robin Turner (un o olygwyr Caught by the River a cyd-awdur The Search for the Perfect Pub) a Dan Kieran (golygydd The Idler ac awdur The Idle Traveller) yn sgwrsio am deithiau hamddenol a chwilio am y pyb perffaith.

Neil Ansell 7.45pmMae’r cyflwynydd Neil Ansell wedi teithio mewn dros hanner cant o wledydd, yn cynnwys pan dreuliodd bum mlynedd yn byw ar lethr mynydd anghysbell yng Nghymru. Bydd yn rhannu hanesion am y profiad, nifer ohonynt sydd i’w canfod yn ei gyfrol gyntaf Deep Country, Five Years in the Welsh Hills.

Mwy am Caught by The River Gwefan natur a diwylliant yw Caught by the River sydd wedi bod yn postio hyfrytwch pur yn ddyddiol ers pum mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r rhai sy’n gyfrifol am y wefan wedi cyhoeddi dau gasgliad o draethodau - Words on Water ac On Nature. Rydym ni wedi cyffroi’n lân eu bod yn dod i Ddinefwr i guradu digwyddiadau a gweithgareddau dros y penwythos.

5.30 pm

Gareth Potter - Gadael yr Ugeinfed GanrifLleoliad: Selar (Ty Newton) Bydd yr actor, DJ a’r ffanatig cerddorol Gareth Potter yn mynd yn danddaearol, ac yn encilio i seler Ty Newton i roi perfformiad o ddarn o’i sioe theatrig Gadael yr Ugeinfed Ganrif fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cyffwrdd â thema y sîn roc Gymraeg drwy gydol dydd Sadwrn yr wyl. Pa ysbrydion o’r gorffennol fydd yno i gwrdd â chi?

5.45 pm

Luke Wright: Your New Favourite PoetLleoliad: Neuadd RhodriSioe newydd sbon sy’n unigryw i bum lleoliad yn unig eleni gan y bardd a’r perfformiwr Luke Wright. Dewch i gwrdd â Jeremy, yr hogyn ysgol fonedd sy’n tynnu llun pidynnau ar bob dim, Jean-Claude Gendarme y plismon Ffrengig sy’n ymladd kung-fu; a dewch i gael cip ar y set B-movie cyntaf erioed yn Brentwood.

6.30 pm

Gangsters Cymraeg Lleoliad: Neuadd RhysDewi Prysor ac Alun Cob fydd yn cael eu holi gan Ifor ap Glyn am ysgrifennu am gangsters a phynciau tabw eraill yn y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar eu nofelau diweddar Lladd Duw a Pwll Ynfyd. Dewch i wrando - os y mentrwch!

Llenyddiaeth Dros Sawl Genre: gyda Lucy Caldwell a Tishani DoshiLleoliad: Neuadd GruffuddMae Tishani Doshi y ddawnswraig, bardd a nofelydd o India a’r dramodydd a’r nofelydd o Iwerddon, Lucy Caldwell ill dwy yn gweithio gydag amrywiaeth o genres llenyddol a chreadigol gwahanol. Edrychwn ymlaen at glywed y ddwy’n darllen darnau o’u llenyddiaeth diweddar, ac yn trafod sut maent yn bwrw hud ar eu syniadau a’u dod yn fyw.

Page 15: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

15

6.45 pm

Josie LongLleoliad: Neuadd RhodriMae Josie Long, a gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin 2011, yn ôl gyda’i phumed sioe unigol. Mae’n debyg y bydd yn cynnwys drama lle y mae Josie yn chwarae holl gymeriadau’r chwiorydd Brontë, os mai dyna sy’n mynd â’ch bryd. Mae dwy nod bendant i’r sioe 1. Ymladd rhyw fath o gang cwl neu rywbeth. 2. Ymladd anghyfiawnder!

7.15 pm

Dal dy DafodLleoliad: Neuadd RhysAr ôl teithio hyd a lled Cymru i fonllefau o adolygiadau ffafriol bydd sioe farddol Dal dy Dafod yn dod i Ddinefwr, cartref ysbrydol beirdd crwydrol Cymru. Mae’r sioe yn dathlu hanner can mlynedd ers darlith chwyldroadol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, a ysgogodd don o ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg.

Josie Long 6.45pm

Deborah Kay Davies 7.45pm

7.30 pm

Desert Island Discs Steil DinefwrLleoliad: Neuadd GruffuddEnillodd Deborah Kay Davies wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009 gyda’i chasgliad Grace, Tamar and Lazlo the Beautiful. Tyler Keevil yw awdur Salinger-aidd Fireball, a enilliodd wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2011. Bydd yr awduron yn trafod y berthynas rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth ac yn dewis tair cân i gadw cwmni iddynt ar ynys bellennig.

7.45 pm

Y Brautigan Book Club yn cyflwyno H. Hawkline, Gruff Rhys a Martin CarrLleoliad: Neuadd RhodriRydym wedi corlannu tri cherddor anhygoel at ei gilydd i berfformio The Brautigan Suite, sef cylch-cerddorol gwreiddiol sydd wedi ei ysbrydoli gan eu hedmygedd o’r nofelydd Americanaidd Richard Brautigan. Disgwyliwch nodau mor beraidd a melys â Watermelon Sugar Brautigan ei hun yn y digwyddiad unigryw hwn.

Page 16: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

16

Sadwrn 30 Mehefin

Byron Vincent 9.15pm

Tim Burgess 11.45am

Julian Cope 10.00pm

9.00 pm

Write4Word: Cerddi a ChwrwLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Dyma gyfle i iro’r gwddf a magu hyder cyn camu ar y llwyfan i gynnig cerdd neu ddwy. Dewch i roi tro arni, neu i wrando yn unig.

9.15 pm

Beirdd Liw NosLleoliad: Neuadd GruffuddDychan, doniolwch, synfyfyriadau syfrdanol - ymunwch â’r beirdd a rhai o ddiddanwyr gorau’r wlad, Molly Naylor, John Osborne, Byron Vincent ac Ifor Thomas, yn hwyr i’r nos i orffen diwrnod llawn o ddigwyddiadau barddol.

Steve EavesLleoliad: Neuadd RhysFel cydnabyddiaeth i’r ffaith fod Steve yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru, dyfarnwyd gwobr arbennig ‘Cyfraniad Oes’ iddo gan Radio Cymru ym mis Ebrill 2011. Yn fardd ac yn gyfansoddwr blws a roc gwerinol heb ei ail, mae gan ei lais melfedaidd a’i steil agos-atoch chi’r ddawn i dawelu torfeydd.

10.00 pm

Julian CopeLleoliad: Neuadd RhodriMae’r ddafad ddu a’r arloeswr roc Julian Cope wedi rhyddhau dros 20 albwm unigol, wedi creu sawl prosiect ar y cyd a chyhoeddi chwe llyfr llwyddiannus (yn cynnwys yr hynod boblogaidd Krautrocksampler). I ddyfynu’r NME, “dylai’r dyn gael ei blac glas ei hun”. Disgwyliwch yr annisgwyl. Rydym ni wedi gwirioni ei fod yn dod i Ddinefwr.

Page 17: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

17

8.30 am

Gweithdy peintio adar gyda Matt Sewell (Caught by the River)Lleoliad: Neuadd GruffuddMae eitem ‘Aderyn yr Wythnos’ yr adaregydd brwd a’r arlunydd Matt Sewell ar wefan Caught by the River yn un o’i phrif atyniadau. Ymunwch â Matt mewn gweithdy peintio adar a dysgu sut i arlunio titw tomos las, robin goch neu gigfran ddu Dinefwr. Codwch ar ganiad adar bach y bore am fore hwyliog i’r teulu cyfan!

9.45 am

Tri Dyn BlinLleoliad: Neuadd RhysYmunwch â’n tri dyn blin am fore o rantio, gweiddi ac ychydig o ddawnsio i Boney M. Bydd y perfformiwr Mark Blayney, yr awdur Rob Lewis a’r bardd o Gaerdydd, Ifor Thomas yn cael slot yr un i bregethu o’u pulpud am yr hyn sy’n eu poenydio.

10.00 - 4.00 pm

Dydd Sul ScrabbleLleoliad: Lawnt CroceDewch â Geiriadur yr Academi gyda chi, mae hi’n ddydd Sul Scrabble. Pwyntiau ychwanegol i bwy bynnag all sillafu Dinefwr, neu â yw hynny’n torri’r rheolau…?

10.00 am

Cynulleidfa gyda Gillian Clarke Lleoliad: Neuadd Rhodri Ymunwch â Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke am berfformiad o’i gwaith, a’i synfyfyriadau ar farddoniaeth Dinefwr.

10.15 am

Cylchgrawn TaliesinLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Bydd golygyddion a chyfranwyr y cylchgrawn llenyddol Taliesin yn dod â gwledd o gynnyrch i gosi eich clustiau.

Jackie Morris Lleoliad: Neuadd GruffuddDewch i gwrdd â’r awdures a’r darlunydd a wnaeth y lluniau ar gyfer How The Whale Became, lle bydd yn trafod ei llyfrau a’u lluniau hyfryd ac yn adrodd straeon.

10.45 am

Jeb Loy Nichols Lleoliad: Neuadd RhysCerddor prysur, awdur ac artist sy’n byw yng nghanolbarth Cymru. Cyfeirwyd ato gan gylchgrawn y Rolling Stone fel “the high priest of country cool”. Fel gwneuthurwr print mae wedi cael arddangosfeydd llwyddiannus yn Efrog Newydd, Berlin, Tokyo, Llundain, a Chaerdydd. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Untogether, yn 2009.

11.00 am

Darlleniad Barddoniaeth gan Wendy Cope Venue: Rhodri Stage Galwch draw am ddarlleniad barddoniaeth gan y bardd byd-enwog sydd wedi ennill gwobrau dirifedi, Wendy Cope. Mae gwaith Wendy wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei chasgliad cyntaf Making Cocoa for Kingsley Amis (gwerthwyd dros 100,000 o gopïau) ac felly hefyd ei chasgliad enwocaf Two Cures for Love.

11.15 am

Lucy Christopher Lleoliad: Neuadd GruffuddMae nofelau dirdynnol Lucy wedi gafael yn nychymyg plant a phobl ifainc dros y byd i gyd. Yn ysgrifennu yn bennaf ar gyfer plant yn eu harddegau, ymysg straeon mwyaf poblogaidd Lucy y mae Stolen, am ferch a gaiff ei herwgipio a’i dwyn i fyw mewn anialwch yn Awstralia.

Sul 1 Gorffennaf

Page 18: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

18

Sul 1 Gorffennaf

11.15 am

T. James Jones a sgwrs am Iolo MorganwgLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ym mro Iolo Morganwg, pa well pwnc i Archdderwydd Cymru ei hun, T. James Jones, ei drafod na’r bardd a’r hynafiaethydd dadleuol hwnnw.

11.45 am

Tim Burgess (Caught by the River) Lleoliad: Neuadd RhysPrif leisydd unigryw The Charlatans, Tim Burgess fydd yn trafod ei hunangofiant newydd Telling Stories. Un o brif bigion yr wyl gan dîm Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr.

12.00 pm

Yng Nghwmni David CrystalLleoliad: Neuadd RhodriBydd yr Athro Anrhydeddus o Brifysgol Bangor yn ymuno â ni yn Ninefwr i siarad am ei lyfr diweddaraf The Story of English in 100 Words sy’n darlunio ffurfiad y Saesneg fodern mewn 100 gair ac i fyfyrio tybed beth fyddai canlyniad ymgymryd â gweithgaredd tebyg am y Gymraeg.

12.15 pm

Baledi Bwystfilaidd a Jingls y JwnglLleoliad: Neuadd GruffuddLlewod llwglyd, swnllyd, parotiaid pigog yn gweiddi - dyma ychydig o’r anifeiliaid i’w canfod yn y gweithdy canu a barddoniaeth deinamig hwn i blant o bob oed dan arweiniad WNO Max.

Jim Perrin yn Sgwrsio â Jon GowerLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Mynyddoedd a dringo, natur a’r natur ddynol, dyma rai o hoff bynciau yr awdur Jim Perrin. Bydd y nofelydd Jon Gower yn ei holi am hyn a mwy.

Gweithdy Lot o Swn Lleoliad: Parlwr (Ty Newton) Mae’r artist rap, Rufus Mufasa, yn dod i Ddinefwr am un rheswm, ac un rheswm yn unig…i wneud swwwwwwn!

1.00 pm

Tom Cheesman yn cyfweld â Gillian Slovo, Llywydd PEN Lloegr Lleoliad: Neuadd Rhodri Gillian Slovo yw Llywydd cyfredol PEN Lloegr, cangen o’r gymdeithas ryngwladol i awduron sy’n ymladd dros ryddid mynegiant; ac i ymddwyn fel llais cryf ar ran awduron a gaiff eu haflonyddu, caracharu ac hyd yn oed lladd am eu safbwyntiau. Bydd Dr Tom Cheesman yn ei holi ynglyn â’r posibilrwydd o sefydlu PEN Cymru

Gweithdy Barddoniaeth gyda Clare PotterLleoliad: Parlwr (Llawr Cyntaf, Ty Newton) Mae Clare Potter yn awdur, bardd ac athrawes. Dysgodd Clare am nifer o flynyddoedd yn New Orleans. Bydd yn arwain gweithdy i blant a theuluoedd ar farddoniaeth weledol.

1.15 pm

In Chapters 13: NaturLleoliad: Neuadd RhysTrowch y dudalen drosiadol i ddarganfod y bennod ddiweddaraf gan y criw cwyrci sy’n herio ffiniau cerddorol-lenyddol, In Chapters. Dan arweiniad y cerddor Richard James, a’r awdur John Williams, bydd criw In Chapters, ynghyd â chwmni gwestai gwadd yn cyflwyno sioe wedi ei chreu yn arbennig ar gyfer Dinefwr ar thema Natur.

Page 19: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Llenyddiaeth Cerddoriaeth Comedi Teulu/Plant Digwyddiad Cymraeg

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

19

David Crystal 12.00 pm

Emmy the Great 2.15pm

Ianthe BrautiganLleoliad: Neuadd Gruffudd Mae’r awdur o Galifornia yn ymuno â’r Brautigan Book Club am sgwrs. Mae ei chofiant You Can’t Catch Death yn manylu ar ei bywyd fel merch i’r awdur enwog Richard Brautigan a’i ddylanwad anferthol arni hi.

1.30 pm

Sêr Comedi’r DyfodolLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Bydd Benjamin Partridge o’r Junket Club yn cyflwyno sawl act comedi newydd.

2.15 pm

Emmy the GreatLleoliad: Neuadd Rhodri Mae prosiect Emmy the Great yn seiliedig ar eiriau a cherddoriaeth y gantores Emma-Lee Moss. Enwyd ei halbym cyntaf yn ‘Albym yr Wythnos’ yn atodiad Culture y Sunday Times, ac un o ‘Albyms y Flwyddyn’ gan y New York Times yn 2009, ac yn ôl cylchgrawn Clash Emma yw’r ‘fersiwn fenywaidd o Bon Iver’. Yn heriol ac yn dyner mewn mannau, bydd ei cherddoriaeth yn bownd o fwrw ei swyn arnoch.

Jackie Morris: Gweithdy DarlunioLleoliad: Yr Oriel (Ty Newton, Llawr Cyntaf) Darlunydd llyfrau plant sydd â theimlad gwyllt a hudol iddynt yw Jackie Morris. Wedi iddi ddarlunio i lyfrau eraill megis How The Whale Became gan Ted Hughes, dechreuodd Jackie ysgrifennu a darlunio llyfrau ei hun. Yn y gweithdy hwn ar gyfer oedolion bydd cyfle i ddysgu am y grefft o greu llyfrau â darluniau ynddynt.

2.30 pm

Y Bragdy Bach: Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth ac Osian Rhys JonesLleoliad: Neuadd Gruffudd Mae chwedl fod tri bardd talentog tu hwnt wedi bod yn diddanu trigolion Caerdydd ers misoedd gyda barddoniaeth, cerddoriaeth a chyri gafr ym Mragdy’r Beirdd. Daeth cigfran â neges yn ei phîg i dîm yr Wyl yn dweud fod y beirdd yn clera, a’u bod yn gobeithio cyrraedd Llandeilo erbyn Gorffennaf...

Small World TheatreLleoliad: Y CwrtPawb ar y dec gyda Capten Fillet a’i griw i hwylio ar y moroedd mawr yn y sioe wirion bost yma. Pypedau hudol, morwr 3.4 medr o daldra, caneuon Huw Puw, pysgod drewllyd, a haid o wylanod yn hedfan gyda phwer beic – paratowch am sioe a hanner!

3.15 pm

Cowbois Rhos BotwnnogLleoliad: Neuadd Rhys Ffurfiwyd Cowbois Rhos Botwnnog ym 2005 gan dri brawd o Ben Llyn, Iwan, Dafydd ac Aled Hughes. Y mae i’w cerddoriaeth elfennau o ganu gwerin, gwlad a roc. Bellach, a’r band wedi dyblu mewn aelodau, mae eu trydedd albym a ryddhawyd ym Mehefin 2012 yn cynnwys caneuon gwerin Cymraeg, harmoneiddio torcalonnus, straeon am gariad, ceffylau a’r mynyddoedd. Dewch i syrthio mewn cariad a thorri eich calonnau oll mewn un set.

Page 20: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

20

3.30 pm

Celia PaqcuolaLleoliad: Yr Ystafell Fwyta (Ty Newton) Feddyliodd y gomediwraig o Awstralia, Celia Pacquola, erioed y byddai’n symud dramor. Ond eto feddyliodd hi erioed chwaith fod gwiwerod yn real. Cafodd ei phrofi yn anghywir am y ddau beth. Mae hi wedi ymddangos ar The Rob Brydon Show, Chris Addison’s Show & Tell a Russell Howard’s Good News.

3.45 pm

Yng nghwmni Elen CaldecottLleoliad: Neuadd Gruffudd Awduron y dyfodol – heidiwch draw! Mae Elen Caldecott yn awdur llyfrau plant sydd wedi ennill llu o wobrau am ei gwaith. Yn ystod y sgwrs ryngweithiol hon ar gyfer plant bydd Elen yn siarad am y broses o ysgrifennu. Ymarfer da ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

4.00 pm

GhostpoetLleoliad: Neuadd Rhodri Wedi ei enwebu am Wobr Cerddoriaeth Mercury yn 2011, mae’r crefftwr geiriau, y canwr a’r cynhyrchydd Ghostpoet (Obaro Ejimiwe) a fagwyd rhywle rhwng Llundain, Coventry, Nigeria a Dominica, yn cymysgu haenau o electronica a synfyfyriadau doeth ar bynciau sy’n ymwneud â bywyd modern.

Celia Paqcuola 3.30pm

Ghostpoet 4.00pm

Sul 1 Gorffennaf

Page 21: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Miri ar y maes

Hunga Munga Craft Collective: Gwnewch Stwff, Gwnewch Ffrindiau, Gwnewch LanastLleoliad: Yr Hen Dy Golchi, Y Cwrt Blant ac oedolion! Dewch i babell grefft Hunga Munga am antur creadigol, neu i gael nap ar fat mewn cornel…Bydd yno gemau, gweithgareddau, a deunyddiau di-rif i wneud llanast a lluniau lliwgar.

Prosiect Theatr CoracleLleoliad: Gardd Gefn Ty Newton Addasiad deinamig o Freuddwyd Rhonabwy. Bydd y criw’n perfformio o amgylch maes Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr drwy gydol y penwythnos.Gwener 7.00 pmSadwrn 4.00 pm a 8.00 pmSul 1.00 pm

SinemaYn amrywio o sioe gerdd sydd wedi ei ffilmio mewn twr blociau yn Newcastle i animeiddiad dychrynllyd am fochyn cwta, bydd arlwy’r sinema’n cynnwys ffilmiau byrion gan artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Bydd detholiad o gyfres The Box Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yn cael eu dangos ochr yn ochr â ffilmiau myfyrwyr lleol. Mae’r sinema wedi ei leoli ar lawr cyntaf Ty Newton.

Uchafbwynt y Sinema: Pop Art gan Amanda Boyle. Wedi ei henwi gan Dazed & Confused fel “gwneuthurwr ffilm Prydeinig aruthrol o dalentog”, rydym wrth ein boddau o gael dangos ffilm gan Amanda Boyle yn yr wyl eleni. Wedi ei selio ar stori fer gan yr awdur Americanaidd, Joe Hill, mae’r ffilm fer yma’n dilyn perthynas sy’n llamu rhwng difrifoldeb bywyd bob dydd a bywyd swreal y dychymyg.

OrielPeidiwch â methu Oriel Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr sy’n dangos amrywiaeth o waith celf ar y thema Bwystfilod Rhyfeddol. Mae’r gofod celf weledol, sydd wedi ei leoli ar lawr cyntaf Ty Newton, yn cynrychioli agweddau o hanes Dinefwr. Mae’r arddangosfa yn cynnwys darluniau, ffotograffiaeth a pheintiadau gan yr artistiaid David Rees Davies, Penny Hallas, Anna Barratt, Katherine Bujalska, Jackie Morris a Lewis Wright.

Uchafbwynt yr oriel: Mae’n fraint ac yn anrhydedd gennym ni fod yr awdur bydenwog a’r darlunydd achlysurol Philip Pullman wedi benthyg ei vignettes gwreiddiol a ddarluniodd ar gyfer y trioleg His Dark Materials i Oriel yr wyl

GweithdaiMae amrywiaeth o weithdai ar gyfer plant ac oedolion wedi eu trefnu ledled y maes dros y penwythnos. Edrychwch ar yr amserlen am y gweithdai amrywiol, a chadwch lygaid ar y byrddau gwybodaeth am leoliadau, amseroedd a mwy o wybodaeth. Rhaid archebu eich lle ar y gweithdai o flaen llaw ar Stondin Partneriaid yr Wyl.

Archwilio’r Awyr AgoredGan fod yn wyl yn digwydd ym Mharc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’i barcdir o’r 18 ganrif a’i barc ceirw canoloesol, a’r tirwedd harddaf dan y nef...byddai’n gam mawr peidio manteisio ar ein teithiau cerdded neu ewch am dro o’ch pen a’ch pastwn eich hun at y Castell, ar y llwybrau prenion neu i’r hen goedwig hudolus. Edrychwch ar y rhaglen am y teithiau amrywiol, a cadwch lygaid ar y byrddau gwybodaeth am leoliadau, amseroedd a mwy o wybodaeth.

Gweithdai gwneud Pitsa Blas o’r TânLleoliad: Y Cwrt(Amseroedd Cychwyn: 10.30 am, 12.30 pn, 2.30 pm, 4.30 pm)Dewch i greu pitsas mewn ffwrn a gynhesir gan goed – gan ddefnyddio cynhwysion Cymraeg ffresh ac efallai ychydig o gynhwysion gwyllt o’r coed! Gweithdai ymarferol i blant a phobl ifainc o bob oed i greu danteithion Dinefwraidd.

Bwyd a DiodRydym wedi trefnu amrywiaeth o stondinau bwyd a diod – dewch i wledda fel Tywysogion y Deheubarth!

Y Siop LyfrauBydd Waterstones, Caerfyrddin mewn cartref dros dro yn Y Cwrt yn gwerthu llyfrau gan rai o’ch hoff berfformwyr dros yr wyl. Cadwch lygaid am sesiwn llofnodi llyfrau.

Y Stondin RecordiauDewch i hela record neu ddwy gan rai o artistiaid cerddorol yr wyl ar Stondin Recordiau y Tangled Parrot a fydd wedi ei lleoli yng nghefn Neuadd Rhodri.

21

Page 22: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Er mwyn i chi gael penwythnos penigamp yng Ngwyl Lenyddiaeth Dinefwr, gofynnwn i chi os gwelwch yn dda i ymgyfarwyddo â’r wybodaeth iechyd a diogelwch isod:

Gwybodaeth Bwysig

1. Pe gofynnir amdano, mae’n rhaid dangos band garddwn. Gall peidio â gwneud hyn olygu gwrthod mynediad, neu cael eich gofyn i adael.

2. Mae’n erbyn y gyfraith ysmygu mewn gofodau cyhoeddus dan do. Dangoswch barch tuag at eraill yn yr wyl ac ysmygu mewn mannau ysmygu penodol yn unig.

3. Ni chaniateir alcohol ar faes yr wyl heblaw ei fod wedi ei brynu yn yr wyl. Bydd staff y bar yn gweithredu ‘Her 25’. Peidiwch â phwdu os y cewch eich gofyn am brawf o oedran.

4. Yfwch yn gyfrifol. Mae Diogelwch yn cadw’r hawl i symud ymaith unrhyw un sy’n ymddwyn yn anaddas o faes yr wyl.

5. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i ddeiliaid tocyn, os, ym marn rhesymol yr hyrwyddwr, byddai mynediad yn peri risg i ddiogelwch y gynulleidfa neu’r staff.

6. Ni chaniateir systemau sain personol, sylweddau anghyfreithlon, gwydr, tanau agored, barbeciws na thân gwyllt ar faes yr wyl na’r maes gwersylla.

7. Mewn achos o dân, pawb i gwrdd yn y man ymgynull agosaf – dilynwch y stiwardiau.

8. Gofynnwn i chi adael maes yr wyl yn dawel a threfnus, parchwch ein preswylwyr a’n cymdogion os gwelwch yn dda.

9. Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid ar y maes, heblaw anifeiliaid tywys

10. Caniateir gwersylla yn y maes gwersylla swyddogol yn unig, gyda thocyn gwersylla penwythnos. Bydd unrhyw un sy’n torri rheolau y maes gwersylla neu yn achosi niwed i’r amgylchedd yn cael eu gofyn i adael yr wyl.

11. Caniateir i garafanau, a cherbydau cysgu barcio mewn mannau dynodedig yn unig.

12. Mewn achos o deimlo’n anhwylus neu o fod angen cymorth meddygol, rhowch wybod i aelod o staff.

13. Mae’n rhaid i bob plentyn fod yng ngofal oedolyn. Pe digwydd i blentyn gael ei wahanu oddi-wrth oedolyn, ewch i’r ardal plant colledig / cymorth cyntaf ar lawr gwaelod Ty Newton.

14. Os gwelwch yn dda cymrwch sylw o ffiniau a mannau dim mynediad, maent yno er eich diogelwch chi.

15. Os gwelwch yn dda defnyddiwch y biniau sbwriel a’r mannau ailgylchu o amgylch y maes.

16. Awgrymir na ddylid gadael arian nac eiddo gwerthfawr mewn pebyll na cheir. Gadewir eitemau ar y safle ar eich cyfrifoldeb eich hun. Ni fydd y trefnwyr yn derbyn unryw gyfrifoldeb am ladrad, colled na niwed i eiddo. Os byddwch yn colli unrhyw beth, gofynnwch i aelod o staff a all edrych yn y man eiddo coll.

17. Efallai defnyddir laser a golau strôb yn yr wyl.

18. Byddwch yn ymwybodol y gall cerddoriaeth gael ei chwarae dros 100 desibel, ac y gall gwrandawiad beri niwed i glyw, yn enwedig plant ifainc.

19. Caniateir camerau at ddefnydd personol. Ni chaniateir recordio digwyddiadau heb ganiatad. Mae’r holl luniau, a recordiadau sain yn berchen i Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Coracle.

20. Mae deiliaid tocynnau yn rhoi’r hawl i’r wyl eu ffilmio, recordio eu sain a chymryd ffotograffau ohonynt fel rhan o’r gynulleidfa.

21. Noder os gwelwch yn dda nad oes peiriant codi arian ar y maes. Mae’r peiriant arian agosaf yng nghanol tref Llandeilo, tua 10-15 munud i ffwrdd ar droed.

22

Page 23: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

Mynediad i’r Anabl yng Ngwyl Lenyddiaeth Dinefwr

Bydd Staff ar gael drwy gydol yr wyl i helpu gydag unrhyw anghenion mynediad. Gallwch adnabod staff yn hawdd gyda’u crysau-t llachar Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr, neu siacedi llachar yn y nos.

Peidiwch â bod ofn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch, rydym yma i helpu. Os hoffech drafod eich anghenion dros benwythnos yr wyl, siaradwch ag aelod o staff yng Nghanolfan Groeso Dinefwr.

Bydd rhaglen yr wyl yn digwydd mewn tair pabell gyda llawr glaswellt, ac i mewn ac o amgylch Ty Newton. Bydd pob ardal perfformio â chadeiriau ar gael, gofynnwch i staff os na fedrwch ddod o hyd i gadair neu os oes angen symud un i fan arbennig. Mae’n rhaid defnyddio’r grisiau i gyrraedd y llawr cyntaf, yr ail lawr, a’r seler yn Nhy Newton, felly yn anffodus efallai na fyddant yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac eraill sydd ag anhawster symud. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio symud gweithdai pan fo modd, a pe bydd galw am hynny gan unrhyw un na all ddefnyddio’r grisiau. O ganlyniad i gyfyngiad ar niferoedd, rhaid i fynychwyr yr wyl archebu lle ar weithdy o flaen llaw, ar stondin Partneriaid yr wyl, sydd wedi ei leoli yn Y Cwrt, lle bydd modd i chi nodi os na fedrwch gyrraedd lefelau isel ac uchel Ty Newton.

Mae fersiynau print mawr o raglen yr wyl (mewn ffont Verdana 20pt) ar gael o Swyddfa Docynnau’r wyl sydd yng Nghanolfan Groeso Dinefwr. Mae cyfleusterau pweru batris sgwteri ar y maes. Gofynnwch i aelod o staff yng Nghanolfan Groeso Dinefwr am fanylion.

Rydym yn hapus i groesawu cwn tywys cofrestredig. Gwnewch yn siwr os gwelwch yn dda fod y cwn yn arddangos y ffaith hon, gan nad ydym fel arall yn caniatáu cwn ar y maes. Mae mannau penodol i gwn gael ymarfer a mynd i’r toiled - gwnewch yn siwr fod eu baw yn cael ei godi a’i daflu i’r biniau sydd ar gael.

Mae’r maes gwersylla oddeutu 450 medr o brif faes yr wyl, a gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr sy’n cadw’n weddol sych hyd yn oed mewn tywydd gwlyb. Mae’r llwybr yn eithaf fflat, ond gall amrywio ychydig. Gofynnwch i aelod o staff yn y maes gwersylla neu yn Swyddfa Docynnau’r wyl am wybodaeth am gymorth mynediad i ac o’r maes gwersylla a maes yr wyl.

Mae croeso i chi hefyd wneud argymhellion ar sut y gallwn wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig, un ai yng Nghanolfa Groeso Dinefwr, neu drwy lenwi ein ffurflen adborth â cheir yma: www.surveymonkey.com/s/XHNMTY9

Amseroedd Agor

Swyddfa Docynnau

23

Bydd y maes gwersylla’n agor i’r gwersyllwyr cynnar am 10.00am ddydd Gwener 29 Mehefin a bydd yn cau am 6.00pm ddydd Sul 1 Gorffennaf.

Bydd prif safle’r wyl ar agor rhwng 1.00pm a 12.00pm hanner nos ddydd Gwener 29 Mehefin, rhwng 8.00am a 12.00 hanner nos ddydd Sadwrn 30 Mehefin, a rhwng 8.00am a 6.00pm ddydd Sul 1 Gorffennaf.

Bydd Swyddfa Docynnau’r wyl ar agor o: 10.00am i 12.00 hanner nos ddydd Gwener 29 Mehefin8.00am i 12.00 hanner nos ddydd Sadwrn 30 Mehefin8.00am i 6.00pm ar ddydd Sul 1 Gorffennaf

Page 24: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

EMPOWERING YOUNG PEOPLE THROUGH LITERACY

STEPHENS & GEORGE CENTENARY CHARITABLE TRUST AT DINEFWR LITERATURE FESTIVAL 2012 YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE YNG NGWYL LENYDDIAETH DINEFWR 2012

Established by Stephens & George Print Group to celebrate one hundred years of British printing, our Trust exists to give something back to the community.Wedi ei sefydlu gan Grŵp Argraffu Stephens & George i ddathlu 100 mlwyddiant argraffu ym Mhrydain, mae ein Ymddiriedolaeth yn bodoli i rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

We work within local communities to improve the confi dence, prospects, lives and futures of young people through the immense power of literacy.Rydym yn gweithio o fewn cymunedau lleol i wella hyder, disgwyliadau, bywydau a dyfodol pobl ifainc trwy bŵer llythrennedd.

For more information, or to get involved visit: Am fwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan ewch iwww.sg100charitabletrust.org.uk

Or contact / Neu gysylltu â Helen Hughes on / ar 01685 352043

CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE

STEPHENS & GEORGE CENTENARY CHARITABLE TRUST AT DINEFWR

For more information, or to get involved visit: Am fwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan ewch i

CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE DINEFWR

CANMLWYDDIANT STEPHENS & GEORGE DINEFWR DINEFWR

STEPHENS & GEORGE CENTENARY CHARITABLE TRUST AT DINEFWR LITERATURE FESTIVAL 2012YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL

CHARITABLE TRUST AT DINEFWR STEPHENS & GEORGE CENTENARY CHARITABLE TRUST AT DINEFWR LITERATURE FESTIVAL 2012YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL

STEPHENS & GEORGE CENTENARY CHARITABLE TRUST AT DINEFWR

Stephens & George Centenary

A5_Trust_Advert.indd 1 19/06/2012 16:04

Page 25: Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr

25

Llenyddiaeth Cymru yw’r Cwmni Cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Ymysg nifer o brosiectau a gweithgareddau Llenyddiaeth Cymru y mae Gwobr flynyddol Llyfr y Flwyddyn, mentora ac ysgoloriaethau i awduron, Bardd Cenedlaethol Cymru, Cynllun nawdd Awduron ar Daith, cyrsiau ysgrifennu yng Nghanolfan Ysgrifennu Ty Newydd a Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifainc. Mae hefyd gweithwyr maes yn gweithio’n benodol i ddatblygu gweithgarwch llenyddol yng nghymoedd de Cymru a gogledd Cymru.www.llenyddiaethcymru.org

Sefydlwyd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 i ofalu am safleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu harddwch naturiol. Yng Nghymru mae’n gofalu am dros 45,000 hectar o dir, 140 milltir o arfordir yn ogystal â rhai o’r cestyll a’r gerddi gorau yn y wlad. Yr Ymddiriedolaeth yw’r sefydliad cadwraeth mwyaf yn Ewrop, a caiff ei gefnogi gan bedair miliwn o aelodau, gyda dros 100,000 ohonynt yn byw yng Nghymru. www.nationaltrust.org.uk/dinefwr/

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sef y partner arweiniol yn rhaglen Coracle a thrwy ei Hysgolion Astudiaethau Diwylliannol a’r Celfyddydau Perfformio wedi buddsoddi mewn gweithgareddau datblygol yng Nghymru ac Iwerddon i gryfhau effaith arfer creadigol ar dwf masnachol y rhanbarthau. Caiff y gweithgareddau hyn eu rhan ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen interreg 4a. www.coracle.eu.com

Mae rhaglen gerddorol Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr wedi ei drefnu gan Swn. Dan ofal John Rostron a Huw Stephens, mae Swn yn hyrwyddo ac yn dathlu cerddoriaeth newydd sy’n cyrraedd Cymru ac yn dod allan ohoni. Bydd Gwyl Swn 2012 yn digwydd yng Nghaerdydd rhwng 18-21 Hydref. www.swnpresents.com

Mae comedi’r wyl wedi cael ei drefnu gan The Junket Club, menter gomedi dan ofal y storïwr digidol Lisa Heledd Jones a’r digrifwr Benjamin Partridge. Mae’r Junket Club wedi bod yn curadu digwyddiadau comedi mewn lleoliadau amrywiol ers 2008.www.thejunketclub.com

Dylunio gan Ctrl Alt Design www.ctrl-alt-design.co.uk