adroddiad effaith umaber 2014
DESCRIPTION
Mae'r flwyddyn academaidd 2013/14 wedi bod yn un hynod o lwyddiannus i Undeb y Myfyrwyr: rydym wedi cyflawni cymaint o bethau anhygoel, a hoffem fanteisio ar y cyfle i ddweud wrthych amdanynt.TRANSCRIPT
Adroddiad Effaith
Cynnwys
23
Croeso
Am Undeb y Myfyrwyr
Neges oddi wrth ein Prif Weithredwr
Pwy ‘di pwy
Y pethau ariannol
Cysylltu â Chi
Gwrando arnoch Chi
Rhoi grym i chi
Buddsoddi yn ...
Creu Cyfleoedd
Eich Llais
Cefnogi ac Ymgyrchu
Digwyddiadau
Cysylltu â ni
3
4
5
6
9
10
11
13
14
18
21
23
26
27
Hadroddiad Effaith 2013-14Croeso i’n
Croeso!Mae’r adroddiad hwn yn ffordd o ddathlu ein cyrraeddiadau,
sôn am yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud, ac esbonio mwy am sut yr ydym wedi cyfrannu’n bositif at fywydau ein myfyrwyr.
Roedd 2013-14 yn flwyddyn galonogol i UMAber, y cyntaf o dan y cynllun strategol newydd wedi cyfnod o newid sylweddol
o fewn y mudiad.
Fel tîm Swyddogion, hoffwn ddiolch i’n myfyrwyr am eu cefnogaeth a’u mewnbwn parhaol. Ni allem fod wedi cyflawni
cymaint hebddynt.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am ein cyrraeddiadau eleni.
Am Undeb y y yr yrMae pob myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn aelodau awtomatig o Undeb
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (UMAber).
Rydym yma i sicrhau mai profiad myfyrwyr yn y Brifysgol yw’r gorau posib.
Myfyrwyr etholedig sy’n ein harwain a 20 aelod staff parhaol a thîm o staff-myfyrwyr sy’n ein cynorthwyo drwy gynnal gweithgareddau a gwasanaethau dyddiol yr Undeb.
Rydym yn elusen sydd â bwriad o gynrychioli, cynorthwyo a datblygu ein myfyrwyr i wella eu
cyfnod yn y brifysgol a’u galluogi i gyrraedd eu potensial llawn fel graddedigion. Rydym yn fudiad
annibynnol, ond yn gweithio mewn partneriaeth ar y cyd â’r Brifysgol.
Rydym yn llais annibynnol sy’n cynrychioli 10,000 o fyfyrwyr, ac mae ein Swyddogion Myfyrwyr yn gwrando ar y problemau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu ac yn ymgyrchu am newid o fewn y Brifysgol, yn lleol ac yn genedlaethol. Rydym yn hwyluso dulliau helaeth fel bod lleisiau myfyrwyr
yn cael eu clywed, boed ar agweddau o’u cwrs neu ar faterion y brifysgol, trwy ein rhwydwaith o Gynrychiolwyr Academaidd neu Gyfarfodydd Cyffredinol.
Mae UMAber yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth gydol y Ganolfan Cymorth, ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol tra eu bod yn y Brifysgol; boed yn fater academaidd, cyllidol neu ynglŷn â lles. Hefyd, rydym yn annog cyfranogiad gydol y flwyddyn - mae gennym
100 a mwy o glybiau chwaraeon a chymdeithasau.
Mae’r adeilad, sydd ar agor gydol y flwyddyn, yn cynnig man astudio ymlaciol a chymdeithasol, a rhywle i ddadflino ac i gymryd rhan
mewn digwyddiadau.
Mae gennym fariau, gan gynnwys coffi Starbucks a bwyd Stone Willy’s, yn ogystal â siop y myfyrwyr. Gyda’r nos, mae’r tîm adloniant yn trefnu rhaglen gyflawn o adloniant, o
gomedi i nosweithiau ffilm.
dim er
elw
rheolir gan fyfyrwyr i fyfyrwyr
ein bwriad: i greu profiad anhygoel i fyfyrwyr
M f w
Neges oddi wrth ein Prif Weithredwr
Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn un o gydgyfnerthu wrth i ni gyflwyno ein strwythur staffio newydd a rhoi ein cynllun strategol 3 blynedd ar waith. Cafodd ei sbarduno gan fewnbwn myfyrwyr ar ddechrau 2013. Pleser yw gweld
nifer o ganlyniadau positif yn dod o’r gwaith hwn yn barod.
Rydym wedi dyblu ein nifer o Gynghorwyr Myfyrwyr i alluogi ymateb cyflymach dros ystod ehangach o bryderon i’n haelodau. Hefyd, rydym wedi buddsoddi mewn adnoddau staffio ychwanegol i’n galluogi i adolygu ac i atgyweirio ein strwythurau democrataidd presennol yn gyflawn. Mae rhai o’r rheiny wedi darfod ac nid ydynt yn addas bellach. Yn y
cyfamser, rydym wedi cynnal etholiadau swyddogion llawn amser llwyddiannus gyda chynydd yn nifer y pleidleiswyr a llawer llai o gwynion o gymharu â 2012/3.
Mae ein hystod ac ansawdd o weithgareddau, yn enwedig clybiau chwaraeon a chymdeithasau, wedi cyrraedd yr uchelfannau eleni gyda chyfranogiad uchel, a sawl digwyddiad o ansawdd da gan gynnwys Superteams, Farsity a
phenwythnos Rygbi 7 bob ochr, y mae sefydliadau â mwy o gyllid yn genfigennus ohonynt.
Rydym wedi cydnabod pryderon cynyddol y myfyrwyr am eu cyflogadwyedd unwaith eu bod nhw’n gadael Aber, drwy weithio ar sawl menter yn annibynnol ac ynghyd â’r
Brifysgol ynghylch gwirfoddoli a chofnodi lefelau cyfranogi’r myfyrwyr. Mae ein nifer o staff myfyrwyr a gyflogir gennym ni wedi cynyddu’n sylweddol gyda datblygiad cynigion
arlwyo’r UM, ac rydym wedi datblygu ein rhaglen sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer staff mewnol gyda hyfforddiant a phrofiad grymus.
Mae buddsoddi yn ein gweithredoedd marchnata a chyfathrebu wedi arwain at ddeialog sylweddol well rhwng yr Undeb a’i aelodau. Bellach rydym yn cynnal arolygon cyffredinol
a phenodol iawn i fyfyrwyr yn gyson, a rhoir ymdrech mawr i mewn i sicrhau bod sianeli marchnata yn berthnasol a chânt eu diweddaru â gwybodaeth gyfredol yn
gyson.
Yn fasnachol, rydym wedi bod yn brysur iawn yn gwella ein cynigion arlwyo yn ystod y dydd ac wedi agor becws a bwyty iachus newydd i fynd ynghyd â’n cyfleusterau Starbucks a Stone Willy’s. Hefyd, rydym wedi lansio gwasanaeth danfon bwyd i fynd ar gyfer pizzas a bwyd poeth eraill, y cyntaf o’r fath mewn prifysgol yn y DU.
Mae’r gwasanaethau yma wedi trawsffurfio adeilad yr undeb o fod yn un anghyfannedd, i leoliad sy’n prifio lle mae aelodau’n bwyta, cwrdd ac yn ymlacio yn eu niferoedd bob
dydd. O ganlyniad, gallwn ymgysylltu ag aelodau yn yr adeilad a chyflogi hyd yn oed mwy o staff myfyrwyr.
Negodir cynydd pellach o £50k mewn grant bloc o’r brifysgol ar gyfer 2014/5 yn ogystal â’r cynydd o £50k eleni, sy’n ein helpu i roi’r undeb yn ôl at sail ariannol ddiogelach wedi blynyddoedd o ddirywio.
Wrth gwrs, ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb gymorth ein haelodau a’r gwaith rhagorol a wnaed y tu ôl i’r llenni gan dîm o staff ymrwymedig, a mae gen i ffydd yn ein gallu i gyflawni mwy o bethau positif ar gyfer ein
haelodau yn y dyfodol.
gweithio gyda chi ar eich cyfer chi
John Glasby
“Mae gen i ffy-dd yn ein gallu i gyflawni mwy o bethau positif i’n haelodau yn y dyfodol”
Pwy ‘di pwy yn yr UndebBob blwyddyn, mae corff y myfyrwyr yn ethol tîm o bum swyddog llawn amser
i arwain yr Undeb.
Mae ganddynt rôl hanfodol wrth osod polisi’r Undeb a strwythurau penderfynu’r Brifysgol fel y gallant wneud eu gorau i gynrychioli’r 10,000 o
fyfyrwyr sy’n eu hethol.
Ioan Rhys Evans
Llywydd
GraceBurton
Swyddog Addysg
LauraDickens
Swyddog Lles
LivPrewett
Swyddog
Gweithgareddau
[email protected] UMCA aSwyddog Materion Cymreig
Hefyd mae myfyrwyr yn ethol tîm o Swyddogion rhan-amser, Swyddogion rhyddhad a Swyddogion Adrannol.
Cewch weld mwy am y Swyddogion yma ar www.umaber.co.uk/eich-undeb/swyddogionmyfyrwyr
Ni oedd Tîm Swyddogion y
Flwyddyn yng Ngwobrau
UCM Cymru 2014!
w w
Pwy ‘di pwy yn yr UndebMae gan y Tîm Rheoli gyfrifoldeb gweithredol am gynnal y mudiad yn ddyddiol
Cânt eu cynorthwyo gan lu o staff llawn amser arall, yn ogystal â llawer o aelodau staff myfyrwyr. Hefyd, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn edrych ar ôl y pethau difrifol ac yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar yr hyn y mae’r Undeb yn ei
wneud.
John GlasbyPrif Weithredwr
Catrin Hopkins
Swyddog Cyllid
Andrew Morwood
Rheolwr Gwasanaethau’r Aelodaeth
JamieBarkerRheolwr Marchnata &
Chyfathrebu
Phil Hughes
Rheolwr Bwyd & Diod
Alison SalterRheolwr Manwerthu
yllid: y pethau ariannol
£2.1 millionam y flw
yddyn
Wedi archwiliad, cawsom ddiffyg ariannol o £33k dros y flwyddyn o £2.1m o drosiant ar y cyd. Mae hynny’n ffafriol iawn o gymharu â diffyg ariannol y gyllideb o £66k a’r diffyg o £142k a gafwyd yn 2011/2.Bu’r canlyniad hwn yn cadarn-
hau mai ein strategaethau o greu ffrydiau di-alcohol yn ystod y dydd (Starbucks, Stone Willys, Briwsion a’r Underground) ynghyd â mesurau torri costau poenus, oedd y rhai cywir ac rydym yn hyderus y bydd yn arwain at Undeb Myfyrwyr sy’n ariannol gynaliadwy yn y dyfodol wedi blynyddoedd o ddirywio.
incwm
gwariant
58%incwm o fasnachu
31%incwm o grant 11%
arall
29%wedi’i dalu i
gyflenwyrwyr
35%wedi’i dalu i staff
36%costau gwasanaeth a
chynnal
CTrosiant o
Cysylltu â ChiEin bwriad yw sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn ymwybodol o, ac yn ymgysylltu â’r Undeb
o bobl yn ein hoff ar Facebook
o ddilynwyr Twitter
o gyrchiadau ar ein gwefan
65643770
771,109 Rydym wedi cynyddu a gwella ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeith-asol ac ar ein gwefan, fel bod gwybo-daeth am ein gwasanaethau ar gael i’n hystod eang o fyfyrwyr@
Gwrando arnoch Chi
Mae’r Swyddogion wedi bod o gwmpas y campws i wrando ar farn
y myfyrwyr
Gwrando arnoch ChiYn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ffocysu ar ymgysylltu â’n myfyrwyr,
rhoi hwb i’r wybodaeth sydd ar gael ac i ymwybyddiaeth ein gwasanaethau a’r gweithgareddau yr ydym yn eu cynnig.
Rydym wedi cynnal arolygon a grwpiau ffocysu ar ystod eang o destunau, ac rydym wedi ystyried hynny: rydym yn gwneud newidiadau ar sut i weithredu’n barod.
Ioan (Llywydd) a Laura
(Swyddog Lles) ar daith
eleni!
Rydym wedi derbyn 700 a mwy o ymatebion i’r arolwg Rwy’n Caru Aber!
Rhoddodd myfyrwyr fanylion ar y pethau yr ydynt yn hoffi a’r pethau nad ydynt
yn hoffi am yr hyn yr ydym yn eu cynnig.
Aber Agenda
Rhoi g ym i chiCaiff pob myfyriwr sy’n astudio yn Aberystwyth ei gynrychioli gan Gynrychiolydd Academaidd
Eleni, recriwtiwyd 319 o Gynrychiolwyr Academaidd, gan gynnwys 12 Cynrychiolydd Athrofa, 2 am bob athrofa (un israddedig ac un ôlraddedig), oll wedi eu cefnogi a’u
hyfforddi gan yr Undeb.
Gan weithio gyda’u hadrannau, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, mae Cynrychiolwyr Academaidd yn gweithio’n
galed i gynrychioli ac i roi llais i fyfyrwyr, er mwyn sicrhau bod eu haddysg yw’r gorau y gall fod.
319gynrychiolwyr academaidd i gynrychioli myfyrwyr
Gydol y flwyddyn, buom wrthi’n...
Cyn
nal s
esiy
nau
hyfforddiant ym mis Hydref
Cynnal cynhadledd myfyrwyr
darparu hyf-forddiant parhaus ar siarad cyhoed-dus, sgiliau ar-wain, cadeirio a chyfarfod
Rwyf wedi mwynhau bod yn gynrychiolydd cwrs. Roedd gweld
myfyrwyr yn mynd i drafferthion yn frawychus, ond roedd gallu
mynegi hynny i’r adran yn wych. Unwaith i’r newidiadau gael
eu gwneud, doedd dim yn fy ngwneud yn falchach na bod yn
gallu trosglwyddo hynny’n ôl i’r myfyriwr, roedd yn gwneud yr
holl waith caled gwerth yr ymdrech!
- Cynrychiolydd Academaidd, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol“ ”
r
Buddsoddi yn Eich CyfleusterauEleni, rydym wedi adnewyddu adeilad yr Undeb yn gyfangwbl
Mae’r hyn a oedd yn adeilad diflas a digroeso llynedd bellach yn fan aml-bwrpas gwirioneddol, sy’n darparu myfyrwyr â safle perffaith i gymdeithasu, astudio,
cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau, bwyta a llawer mwy.
Y P
ictu
reho
use Rydym wedi trawsnewid y Picture House: mae yna sgrin fawr, system sain, a phob dydd Llun rydym
wedi llenwi’r lle â bagiau ffa ar gyfer noson ffilm.
Cafodd yr Underground ei ailwampio: unwaith yr oeddem wedi dechrau ei
reoli eto, creon ni salad bar, bageti ffres a stondin cwn poeth. Llenwom ni’r ardal
gyda sofas a byrddau, fel bod gennych rywle i ei-stedd ac i fwyta eich cinio.
Lansiwyd gwasanaeth danfon ar-lein ar gyfer Stone Willy’s, yn ogystal chadw’r gwasanaetha tu-ôl-i’r bar, fel y gall my-fyrwyr gael bwyd poeth wedi ei ddanfon i’w drws bron bob awr o’r dydd.
Rydym hefyd wedi lansio becws (Briwsion) ar y llawr uchaf, sy’n cynnig teisennau, cwcis a tho-
esenni; dyma leoliad ein stondin pasta.
Mae Starbucks wedi hen sefydlu yn y Cwtch, ac ers i ni osod seddi a byrddau mwy cyf-forddus, mae myfyrwyr y dweud mai dyma’r lle perffaith i fynd rhwng
seminarau.
Yr UndergroundSt
one W
illy’s
BriwsionSt
arbucks
Buddsoddi yn ein StaffStaffSwyddogion MyfyrwyrStaff Myfyrwyr
Eleni cyflogwyd
160
37,230awr
o aelodau staff myfyrwyr, mewn…
gan greu incwm o
i fyfyrwyr!
• Hefyd cyflogwyd 20 o staff llawn-amser, a buddsoddwyd ynddynt gyda hyfforddiant
allanol trylwyr a systemau gwerthuso newydd
• Mae’r tîm rheoli wedi hyfforddi staff mewn arwain timoedd a datblygu pobl
• Cynhaliwyd diwrnod i ffwrdd ar gyfer pob aelod staff parhaol a Swyddogion ym mis Gorffennaf i’r
diben o adeiladu perthynas weithio
• Derbyniodd Swyddogion Myfyrwyr llawn-amser hyfforddiant helaeth gyda ni a hefyd
gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM)
£ 201,350
Buddsoddi ynddoch Chi Gwerthwyd
34,701 cwpanaid o Starbucks Helpodd hynny i gyllido tri Swyddogion Myfyriwr llawn-amser i gynrychioli myfyrwyr am y fl-wyddyn
Gwerthwyd
9,575 potel o Coke yn y siop, a helpodd i gyllido datblygiad Y Picturehouse
o gardiau NUS Extra, a helpodd i gynnal ein fflyd o fysiau mini 1,929
7,212
o frechdanau Ginsters, a helpodd i ariannu
Cynghorydd Myfyrwyr llawn-amser i ddar-paru cymorth
a chyngor
£600600 Arwerthiant Mawr yr Wythnos Groeso, arian a ddefnyddiwyd ar gyfer Llinell Gymorth y Nos, y gwasanaeth gwrando i
fyfyrwyr
Argraffwyd a gwerthwyd
Prynwyd
Codwyd
Ffair y Glas
Creu Cyfleoedd
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn helpu i ddod â myfyrwyr sydd â’r un diddordebau at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd tu allan i’r adran academaidd, gwneud
ffrindiau, gwneud gwahaniaeth a gwella cyflogadwyedd.
Eleni, rydym wedi helpu i drefnu ystod o gyfleoedd a fydd yn galluogi i’n myfyrwyr dyfu ac i ddatblygu.
3601o fyfyrwyr yn rhan o
glwb chwaraeon
4950a daeth
i’n ffair chwaraeon
2720yn rhan o gymdeithas
4600i’r ffaith gymdeithasau
ac mae
Cynhaliwyd y ffeiriau hynny, yn
ogystal â’r ffeiriau Croeso eraill ar gyfer
Ail Wythnos y Glas, i roi cyfle arall i fyfyrwyrymuno
mae daeth
Creu Cyfleoedd Creu Cyfleoedd
Cynhaliwyd ein ffair wir-foddoli gyntaf erioed yn
Chwefror er mwyn arddangos ys-tod o fentrau cynyddu cyflogadwyedd
lleol a chenedlaethol sydd ar gael.
Dysgodd myfyr-wyr sgiliau arwain a
gweithio mewn tîm yn ein cynllun Arwyr y Glas dros
200
o w
irfod
dolw
yr el
eni
Roe
dd F
fair y
Glas yn orlawn!
Rhoddwyd blas ar chwaraeon i fyfyr-
wyr yn ein digwyddiad Wythnos Chwaraeon
enfawr
mynychwyd dros 100
o fyfyrwyr!
Cyhoeddir pob un o’r cyfleoedd hyn ar ACAU (Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch) myfyrwyr, sef cofnod
a gyflwynir ynghyd â thystysgrif gradd sy’n rhestru’r gweithgareddau
allgyrsiol!
GDdAM
Eich Llais Mae llais myfyrwyr yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud yma yn UMAber.
Eleni rydym wedi helpu llais myfyrwyr i fod yn gryfach fyth, yn yr Undeb ac yn y Brifysgol.
Pleidleisiodd
24%o’n myfyrwyr (mae
hynny bron i ddwbl y cyfartaledd cenedla-
ethol)
Nhw bleidleisiodd ar bwy roed- dynt am ei (g)weld yn arwain eu Hundeb!
Nhw benderfynodd beth oedd angen i’w wneud neu i’w newid o fewn yr Undeb, ym mhob CC
a Chynulliad a gynhaliwyd!
Dywedodd myfyrwyr w
rthym beth fy-
ddent yn ei wneud pe baent yn
Is-Gang-
hellor am ddiwrnod
100cyfranogodd
o fyfyrwyr
Eich Llais Dwedodd myfyrwyr wrthym
ba faterion academaidd sy’n ef-feithio fwyaf arnynt, a arweini-odd at adroddiad Agenda Aber
- ymatebodd
o fyfyrwyr!500
Cyflwynwyd enwau myfyrwyr a staff sydd wedi cyfrannu a dangos rhagoriaeth
derbyniwyd
439o enwebiadau, ddwywaith
gymaint â’r llynedd!
Estynnwyd gwahoddiad i rai ohonynt i’r digwyddiad,
hyd yn oed!
Cefnogi ac Ymgyrchu
Enillwyd Ymgyrch y Fl-
wyddyn yng Ngwobrau
UCM Cymru 2014!
Gydol y flwyddyn, rydym yn lobïo, cefnogi ac ymgyrchu dros fyfyrwyr, ar faterion Prifysgol, lleol a chenedlaethol
Mae’r canlyniadau’n mynd gryn lawer o’r ffordd tuag at wella bywydau a phrofiadau myfyrwyr.
Beth am fwrw golwg dros rai o’r ymgyrchoedd yr ydym wedi gweithio arnynt eleni...
Buddugoliaeth Lles! Gwasanaeth Trên Bob Awr ar Amser Brig Roedd y Swyddog Lles yn rhan o bwyllgor a
gyflwynodd adroddiad ar anfodlonrwydd â threnau sy’n rhedeg o Aberystwyth bob 2 awr - pwyllgor
a fynnodd fod eu lleisiau i’w clywed gan fynegi safbwynt myfyrwyr i’r Gweinidog Trafnidiaeth.
Mae hynny wedi arwain at ymrwymiad i wasanaeth trên bob awr ar oriau brig o Aberystwyth, gan greu mwy o opsiynau i fyfyrwyr gyda’u teithio.
Ffair Lety’r Sector BreifatYn Nhachwedd, daeth 1,000 o fyfyrwyr i’r Ffair Dai a
oedd yn dangos i fyfyrwyr yr amrediad o lety yn y sector breifat sydd ar gael yn Aberystwyth.
Hefyd darparwyd gwasanaeth gwirio cytundebau, ac roedd gennym gynghorwyr wrth law i atal myfyrwyr
rhag bod yn rhy frysiog wrth arwyddo cytundeb.
Cefnogi ac Ymgyrchu
Gwasanaethau Clinig Iechyd Rhywiol
Caewyd y clinig iechyd rhywiol ar y campws heb ymgynghori â myfyrwyr.
Ymgyrchodd UMAber yn erbyn hyn a threfnwyd gwrthdystiad, sydd wedi arwain at gynnig o wasanaethau ychwanegol yn y
Ganolfan Wellness gan y Brifysgol.
Y Ffair LesCroesawyd myfyrwyr newydd i Aberystwyth gyda’r ‘Ffair Les’ a oedd yn gyfle iddynt fwrw golwg dros yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth a
chyngor sydd ar gael o fewn Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a’r gymuned
leol.
Diddymu Stigma a Chamwahaniaethu Iechyd Meddwl
Ni oedd yr UM cyntaf yng Nghymru i arwyddo addewid Amser am Newid, sy’n creu cynllun gweithredu i ddiddymu’r stigma a
chamwahaniaethu sy’n perthyn i iechyd meddwl.
Mae hynny wedi cynnwys cynyddu’r nifer o ddigwyddiadau nad ydynt wedi eu ffocysu ar alcohol, rhedeg ymgyrchoedd llacio tyndra a gwahodd siaradwyr i drafod materion
iechyd meddwl.
Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr
Mewn cyfnod pan mae ffioedd a chostau byw myfyrwyr yn uchel, cynhaliwyd Ffair Arian yn Chwefror gyda chynrychiolwyr o fudiadau lleol a chenedlaethol.
Roeddynt ar gael i roi cyngor ar arbed, gwario a phopeth sy’n ymwneud ag arian.
Cefnogi ac Ymgyrchu
#MERCHERRHYDDRydym wedi ymgyrchu eleni i ddileu
darlithoedd o’r amserlen ar brynhawn Mercher, sy’n cyfyngu ar amser datblygiad
personol myfyrwyr.
Er y cafodd y problemau gwreiddiol ynglyn ag amserlenni eu datrys, rydym
wedi parhau i lobïo’r Brifysgol i gael dydd Mercher cyfan yn rhydd.
… fel y gallwch weld, mae hi wedi bod yn fl-wyddyn brysur!
DigwyddiadauDiolch am wneud i’n digwyddiadau fod mor anhygoel!
Eich Undeb Myfyrwyr
facebook.com/UMaberSU
facebook.com/abersuevents
twitter.com/UMaberSU
instagram.com/umabersu
youtube.com/UMaberSU
abersu.co.uk
f
f
@