bwrdd iechyd cwm taf adroddiad blynyddol cynllun …cwmtafmorgannwg.wales/docs/board_papers/legacy...

44
1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG Rhagair Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Cwm Taf gan y Bwrdd ym mis Ebrill 2010 a gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf 2010. Monitrir y cynllun 3 blynedd yn rheolaidd, cyflwynir adroddiad blynyddol a chynhelir adolygiad ffurfiol ar ddiwedd y cylch yn 2013. Dyma’r pedwerydd Adroddiad Blynyddol ac mae’n rhoi amlinelliad o waith Bwrdd Iechyd Cwm Taf ac yn canolbwyntio ar y gwaith a’r cyflawniadau a wnaed ers ei gychwyn a’i weledigaeth i’r dyfodol. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn cynnwys holl ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a chontractwyr. Mae’r Cynllun yn dangos ymrwymiad Bwrdd Iechyd Cwm Taf i hyrwyddo, cefnogi a phrif- ffrydio’r iaith Gymraeg drwy’r sefydliad drwy barhau â’r gwaith o wella gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod iaith yn gallu bod yn fater o angen clinigol yn aml yn hytrach na dewis ieithyddol yn unig. Dymunwn, felly, gefnogi ac annog y strategaethau, y mentrau a’r targedau Cymraeg, y ceir amlinelliad ohonynt yn ein Cynllun Iaith Gymraeg, er mwyn diwallu anghenion pob claf a defnyddiwr gwasanaeth. Roedd adolygiad ffurfiol o’r Cynllun i’w ddigwydd ar ddiwedd y cylch 3 blynedd yn 2013. Fodd bynnag, yn dilyn apwyntiad Comisiynydd y Gymraeg, cynghorwyd Byrddau Iechyd Cymru i barhau â’u cynlluniau presennol ac aros am ganllawiau pellach ar adolygu a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg o fewn GIG Cymru. Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg yn y dyfodol gyda’r nod o barhau i gryfhau darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Dr CDV Jones Allison Williams

Upload: others

Post on 23-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

1

BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL

CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG Rhagair Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Cwm Taf gan y Bwrdd ym mis Ebrill 2010 a gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf 2010. Monitrir y cynllun 3 blynedd yn rheolaidd, cyflwynir adroddiad blynyddol a chynhelir adolygiad ffurfiol ar ddiwedd y cylch yn 2013. Dyma’r pedwerydd Adroddiad Blynyddol ac mae’n rhoi amlinelliad o waith Bwrdd Iechyd Cwm Taf ac yn canolbwyntio ar y gwaith a’r cyflawniadau a wnaed ers ei gychwyn a’i weledigaeth i’r dyfodol. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn cynnwys holl ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a chontractwyr. Mae’r Cynllun yn dangos ymrwymiad Bwrdd Iechyd Cwm Taf i hyrwyddo, cefnogi a phrif-ffrydio’r iaith Gymraeg drwy’r sefydliad drwy barhau â’r gwaith o wella gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod iaith yn gallu bod yn fater o angen clinigol yn aml yn hytrach na dewis ieithyddol yn unig. Dymunwn, felly, gefnogi ac annog y strategaethau, y mentrau a’r targedau Cymraeg, y ceir amlinelliad ohonynt yn ein Cynllun Iaith Gymraeg, er mwyn diwallu anghenion pob claf a defnyddiwr gwasanaeth. Roedd adolygiad ffurfiol o’r Cynllun i’w ddigwydd ar ddiwedd y cylch 3 blynedd yn 2013. Fodd bynnag, yn dilyn apwyntiad Comisiynydd y Gymraeg, cynghorwyd Byrddau Iechyd Cymru i barhau â’u cynlluniau presennol ac aros am ganllawiau pellach ar adolygu a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg o fewn GIG Cymru. Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg yn y dyfodol gyda’r nod o barhau i gryfhau darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Dr CDV Jones Allison Williams

Page 2: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

2

Cadeirydd Prif Weithredwr CYFLWYNIAD Nod yr adroddiad monitro hwn yw rhoi manylion y cyflwyniadau a’r cynnydd a wnaed parthed targedau iaith Gymraeg am y flwyddyn 2012/13. Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn credu iddo barhau i wneud cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf i gryfhau ei ddarpariaeth a’i wasanaethau Cymraeg i bobl Cwm Taf. Mae e wedi gweithredu ymhellach i sicrhau bod staff wedi gweithio ar y cyd i gyflawni’r targedau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ers lansiad y Cynllun Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf 2010, mae staff wedi dod yn llawer mwy ymwybodol o’n cydgyfrifoldebau o ran cydymffurfio â gofynion y Cynllun ac maent hefyd yn deall yn well yr angen am ddarparu gwasanaethau dwyieithog i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Mae apwyntiad Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn mwyhau ymwybyddiaeth ein staff a’r angen i gynnal a gweithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Grŵp Cymraeg wedi cwrdd yn rheolaidd er mwyn trafod materion iaith Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae cyswllt cyson rhwng aelodau’r grŵp drwy e-byst a chyfarfodydd ar wahân i drafod materion penodol mewn adrannau penodol. Mae hyn yn sicrhau bod materion yn cael eu trin mewn modd effeithiol a bod gwybodaeth yn cael ei lledaenu a’i rhaeadru i staff o fewn pob cyfarwyddiaeth. Mae’r Uned Gymraeg (UG) yn parhau i hwyluso gwaith y Grŵp Cymraeg ac wedi parhau i ddatblygu a chynnal perthynas waith ardderchog â chydweithwyr drwy’r Bwrdd Iechyd. Mae eu cefnogaeth wrth gynghori, hyrwyddo a gweithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg yn hanfodol i sicrhau cydymffurfiaeth staff wrth helpu darparu gwasanaeth Cymraeg o safon uchel i holl ddefnyddwyr y gwasanaethau. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr mewn swyddi cyffelyb ar draws Cymru a gyda chydweithwyr mewn Cynghorau Sirol drwy Rhwydwaith a Grŵp Deddf er mwyn rhannu arfer gorau ac i geisio a chynnig cyngor ar faterion Cymraeg o fewn y sector cyhoeddus. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg yn mynychu seminarau a chyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chyrff eraill er mwyn sicrhau bod Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cael ei hysbysu o newidiadau i ddeddfwriaeth,

Page 3: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

3

mentrau newydd, a gwybodaeth a chyngor cyffredinol a allai gael effaith ar ddarpariaeth iaith Gymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyflawniadau mwyaf nodedig Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cynnwys y canlynol: Prosiect Trawsnewid Gofal Mae’r UG wedi parhau i weithio gyda’r Hwylusydd Trawsnewid Gofal i ymestyn y prosiect ‘Dyma fi’ i gynnwys plant ifanc (0-12) a phobl ifanc (12 i fyny) er mwyn datblygu ymhellach y system o roi dangosydd gweladwy ‘Siaradwr Cymraeg’ uwchben gwely claf a hoffai neu fod angen arno/arni siarad Cymraeg ar y ward. Bydd cleifion/rhieni/gofalwyr yn cwblhau’r llyfrynnau dwyieithog a baratowyd i bwrpas sy’n cyd-fynd â’r fenter yn eu dewis Iaith. Bydd y llyfrynnau hyn yn nodi dewis Iaith y claf i staff priodol ac yn rhoi darlun llawnach o’r claf - hoffterau a chas bethau…. Hefyd rhoddir y Logo Iaith Gwaith wrth ddesg y nyrsys i ddynodi’r siaradwyr Cymraeg hyn, neu ar gofnodion cleifion lle bo hynny’n briodol. Pwrpas y dangosydd gweladwy yw sicrhau bod sgyrsiau Cymraeg â’r cleifion yn cael eu hannog ar bob adeg gan unrhyw siaradwr Cymraeg neu ddysgwr sy’n dod ar y ward neu i gysylltiad â’r claf. Mae posteri’n egluro’r fenter ar bob ward sy’n cymryd rhan. Mae 42 o wardiau yn y rhaglen Trawsnewid Gofal ac yn dilyn peilot o’r fenter ‘Dyma fi’ fe’i treiglir allan i’r dyfodol. Gofal Sylfaenol - Meddygfeydd Yn ogystal â’r cyflawniadau a amlinellwyd yn adroddiad blynyddol y llynedd, mae’r UG wedi cadw mewn cysylltiad â’r Arweinwyr perthnasol o fewn Gofal Sylfaenol i wella gwasanaethau iaith Gymraeg o fewn Meddygfeydd. Datblygwyd Cynllun gweithredu gyda Phennaeth Gofal Sylfaenol er mwyn sicrhau bod Meddygfeydd yn clywed am y materion diweddaraf yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg o fewn y GIG. Mae cyngor, canllawiau ac adnoddau ar gael i Feddygfeydd gan yr UG.. Rydym yn bwriadu cynnwys tudalen wybodaeth Gymraeg ar system Porth Meddygon unwaith y mae mewn grym. At hynny, rydym yn edrych i mewn i’r posibiliad o gynnwys cwestiwn iaith a ddewisir ar y ffurflen porth cyfathrebu clinigol electronig a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Feddygon o fewn Cwm Taf. Bydd hyn yn sicrhau y bydd dewis Iaith cleifion yn cael ei ddal yn yr apwyntiad cyntaf a bydd yn cael ei drosglwyddo i ofal eilradd. Mae’r UG hefyd yn y broses o ddatblygu cyfres o bodlediadau i ddysgwyr er mwyn annog staff o fewn Gofal Sylfaenol i ddysgu ymadroddion a brawddegau Cymraeg sylfaenol y gellir eu defnyddio gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau o fewn y gweithlu, er mwy mwyhau ymhellach profiad y claf. Mae’r gwaith yn parhau â meddygfeydd unigol i gryfhau a hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog. Yn dilyn y gwaith a wnaed gyda Meddygfa Porth Farm a

Page 4: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

4

Chanolfan Feddygol Dowlais, mae’r UG yn bwriadu canolbwyntio ar Feddygfa Troedyrhiw yn y misoedd i ddod. Mae’r UG yn gweithio hefyd ag Uned Hyfforddi Deintyddol yn y Porth a Phractis Deintyddol Bryant yn Nhreorci mewn ymgais i annog meysydd eraill Gofal Sylfaenol i wella darpariaeth gwasanaethau dwyieithog. Mae cyfarfodydd yn mynd ymlaen gyda staff gyda’r pwyslais ar annog staff sy’n siarad Cymraeg i gynnig ymgynghoriadau Cymraeg/dwyieithog a sicrhau bod ffurflenni cleifion, taflenni ac arwyddion yn ddwyieithog. Canolbwynt Cysylltiadau Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r UG wedi bod yn gweithio â’r Canolbwynt Cysylltiadau yng Nghanolfan Gyswllt Tŷ Elai. Mae staff sy’n siarad Cymraeg wedi eu cefnogi i ddefnyddio eu sgiliau Iaith Gymraeg i sicrhau bod y ganolfan yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog rheng flaen hanfodol. Datblygwyd cynllun gweithredu gydag arweinydd y tîm, cafwyd Pencampwyr Cymraeg a chawsant eu cefnogi yn eu swydd. Mae’r Pencampwyr wedi mynychu cyrsiau hyfforddi a ddarparwyd gan gangen Morgannwg o ‘Cymraeg i Oedolion’ er mwyn iddynt fwyhau eu sgiliau ieithyddol presennol. Mae’r Pencampwyr hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yn annog a chefnogi staff eraill o fewn y ganolfan sydd am ddysgu Cymraeg. Cyfieithwyd sgriptiau ffôn i staff y ganolfan alwadau a rhoddwyd adnoddau dysgu electronig a sain i staff ar gyfer eu hystafell hyfforddi. Doctor Doctor Mae’r rhaglen ddogfen boblogaidd S4C ‘Doctor Doctor’ wedi parhau i gael ei ffilmio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae’r rhaglen ddogfen yn cynnwys cyfweliadau â staff blaenllaw Cwm Taf sy’n siarad Cymraeg ac yn darparu gwasanaethau hanfodol bob dydd. Mae’r rhaglen wedi tynnu sylw at ansawdd ardderchog y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaethau o fewn Cwm Taf. Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o’i gyfranogiad yn y rhaglen deledu Gymraeg lwyddiannus hon ac mae’n gobeithio parhau â’i bartneriaeth â’r cwmni teledu yn 2013/14. Dysgu a Datblygu Mae gwaith yn parhau â’r Adran Dysgu a Datblygu. Er i’r rhaglen dreigl ‘Sgiliau Hanfodol Rheolwyr AD’ oedd yn cynnwys sesiwn ymwybyddiaeth a hyfforddi Iaith Gymraeg ddod i ben, mae’r sesiwn hwn yn parhau i ffurfio rhan o raglen dreigl ‘Creu Diwylliant o Ofal’. Enwebir staff ar draws y Bwrdd Iechyd i fynychu’r rhaglen hon mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd o sgiliau cyfathrebu day n y Gwasanaeth Iechyd. Rydym yn defnyddio’r cyfle hwn i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg mewn gofal iechyd ac

Page 5: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

5

rydym wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan staff sydd wedi mynychu’r cwrs cyn belled. Enwebwyd y cwrs ar gyfer Gwobr Gymraeg mewn Gofal Iechyd hefyd. Mae’r UG hefyd wedi ymuno â’r Adran Dysgu a Datblygu ar gyfres o ddyddiau hyrwyddo drwy’r ysbytai. Ar y dyddiau hyn, rhoddir gwybodaeth am ddarpariaeth gwasanaeth Iaith Gymraeg, y Cynllun Iaith Gymraeg, a gwybodaeth i staff a defnyddwyr gwasanaethau ar stondin hyrwyddo ac mae staff yr Uned yn bresennol er mwyn ymrwymo â’r cyhoedd er mwyn ceisio barn ar ddarpariaeth Gwasanaeth Cymraeg o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae ffurflenni adborth ar gael hefyd ar y stondin. Ym mis Mai 2013, mae’r UG wedi gwneud trefniadau gyda’r Adran Dysgu a Datblygu i gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion. Bydd hyn eto’n golygu gwaith hyrwyddo yn y prif ysbytai o fewn Cwm Taf, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi i staff yn enwedig. Rhoddir y cyfle i Staff fynychu gwers flasu ar ddiwedd Wythnos Addysg Oedolion a rhoddir mwy o wybodaeth iddynt pe baent am ddilyn unrhyw anghenion hyfforddi ymhellach. Rydym wedi trefnu hefyd i’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol i fynychu’r digwyddiad Wythnos Addysg Oedolion ym mis Mai 2013. Gofal Stoma Yn ystod 2012/13, mae’r UG wedi gweithio’n agos â’r adran Gofal Stoma yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae taflenni a phosteri wedi eu cyfieithu, mae staff wedi derbyn sesiynau ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sut i ddelio â chleifion sy’n siarad Cymraeg. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg hefyd wedi derbyn gwahoddiad i’r bore coffi blynyddol er mwyn siarad Cymraeg â mynychwyr. Mae 2012/13 wedi gweld gwelliant yn holl ddarpariaeth iaith Gymraeg Cwm Taf ac rydym wedi parhau i gryfhau ein cyfathrebu â staff. Mae mwy o geisiadau am help a chyfarwyddyd o ran darpariaeth gwasanaeth yn cael eu gwneud i UG sydd, yn ei dro, wedi arwain at ddatblygiadau a gwelliant yn adrannau canlynol yr adroddiad hwn. Mae ein hamserlenni targed yn darparu diweddariad ar y cynnydd arnynt, ac yn olaf edrychwn ar feysydd i’w datblygu ac yn rhoi amlinelliad o’n bwriadau ar gyfer cyflawniadau pellach yn 2013/14. RHOI CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG MEWN GRYM Mentrau a Pholisïau Newydd

Page 6: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

6

Mae’n ofyniad statudol i bob polisi a menter fynd drwy Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA) ac mae’r iaith Gymraeg yn faes cydraddoldeb safonol ohono. Os oes gan bolisi newydd effaith bosibl ar yr Iaith Gymraeg yna bydd yr EQIA yn arwain at bolisi’n mynd am Asesiad Effaith Llawn. Gellir ailgyfeirio polisi at eu hawduron gwreiddiol gydag argymhellion i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a statudol. Mae rhestr o’r polisïau a’r gweithdrefnau cyfredol ar gael i staff ar y fewnrwyd. Yn 2012/13, ni anfonwyd unrhyw fenter na pholisi am Asesiad Effaith Llawn yn dilyn EQIA. Mae Cynorthwyydd yr Iaith Gymraeg yn aelod gweithredol o’r Fforwm Cydraddoldeb sy’n trafod amrywiaeth o faterion cydraddoldeb, gan gynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â’r Iaith Gymraeg. (Am ragor o wybodaeth, gweler DIG 1).

Cyflawni Gwasanaethau Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn parhau â’i nod o ddarparu gwasanaeth dwyieithog i holl ddefnyddwyr ei wasanaethau, heb fod angen i unigolion ofyn yn benodol nac yn eithriadol amdano. Mae hwn wedi ei atgyfnerthu gyda chyflwyniad Strategaeth y Dirprwy Weinidog dros Iechyd ‘Mwy na geiriau’ sy’n canolbwyntio ar allu’r Bwrdd Iechyd i wneud ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau Cymraeg. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi croesawu’r strategaeth ac wedi tynnu sylw staff ati drwy’r Bwrdd Iechyd. Bydd y Grŵp Cymraeg yn gweithredu fel y Grŵp Llywio ar gyfer gweithrediad y strategaeth newydd hon a bydd yn adrodd i’r Cynulliad ar gynnydd drwy’r flwyddyn. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae staff wedi bod yn ystyried ac yn cynnwys deddfwriaeth iaith Gymraeg wrth ddatblygu strategaethau newydd a chyfredol o fewn y sefydliad er mwyn sicrhau darpariaeth gwasanaethau iaith Gymraeg i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Mae’r UG yn derbyn ceisiadau yn rheolaidd gan staff am gyngor ar faterion Cymraeg. Mae’r holl brif fentrau yn 2013 megis y prosiect Trawsnewid Gofal, y gwaith a wnaed gyda Dysgu a Datblygu, y Canolbwynt Cysylltiadau, Meddygfeydd a’r adran Gofal Stoma’n dangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ddiwallu gofynion unigolion.. Mae materion yn ymwneud â recriwtio ac adleoli’n parhau’n destun trafod o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae cyfyngu ar recriwtio allanol yn yr hinsawdd economaidd bresennol ac mae llawer o swyddi gweigion i’w hysbysebu’n fewnol yn unig. Fel blynyddoedd cynt mae Cwm Taf wedi parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio staff sydd â sgiliau Cymraeg eisoes. Mae’r gofrestr ar-lein lle mae staff yn gallu hunanasesu eu lefelau o ran sgiliau Cymraeg yn parhau ac mae’n

Page 7: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

7

hygyrch i staff ar y fewnrwyd. Dosbarthir copïau papur o hyd o’r ffurflen electronig ii staff nad oes mynediad i’r fewnrwyd oherwydd natur eu gwaith, a chesglir y wybodaeth hon ac fe’i ychwanegir i’r bas-data canolog o staff sy’n siarad Cymraeg. Mae’r UG ynghyd ag arweinydd y Cofnod Staff Electronig (ESR), a staff eraill bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gasglu gwybodaeth ac annog staff sydd â sgiliau Cymraeg i ddod ymlaen a chofrestru eu sgiliau. Yn arbennig eleni mae’r UG a’r Hwylusydd Trawsnewid Gofal wedi bod yn casglu a diweddaru gwybodaeth ar staff sy’n siarad Cymraeg o fewn timau nyrsio. Ar ben hynny penderfynwyd gwneud ail ymarfer chwilio am wybodaeth gyda staff Iechyd Meddwl, mae’r canlyniadau hynny wedi mwyhau ein gwybodaeth ar siaradwyr Cymraeg yn y maes pwysig hwn o feddygaeth. Gall y wybodaeth hon helpu cyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at staff sy’n siarad Cymraeg a gellid ei defnyddio i leoli staff i’r meysydd hynny lle mae eu hangen fwyaf. Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ar ffyrdd o adnabod bylchau yn ei wasanaethau lle mae ychydig o bobl neu dim siaradwyr Cymraeg yn gallu darparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Yn unol ag argymhellion, mae’r Bwrdd Iechyd wedi drafftio strategaeth sgiliau Iaith ddwyieithog sy’n edrych ar recriwtiad siaradwyr Cymraeg, adnabod bylchau sgiliau mewn gwasanaethau, defnyddio staff sydd â sgiliau, a hyfforddi’r staff hynny sydd ei angen. Yn ogystal â chyfieithu gwybodaeth gyhoeddus a deunyddiau, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ceisio targedu adrannau unigol er mwyn gwella gwasanaethau dwyieithog ac adeiladu ar ben arfer da cyfredol. Yn ystod 2012/13 mae’r UG wedi gweithio â’r meysydd canlynol er mwyn gwella darpariaeth gwasanaethau dwyieithog, Unedau Gofal Stoma, Canolbwynt Cysylltiadau, Wardiau Trawsnewid Gofal, CAMHS, Henoed Bregus Eu Meddwl (EMI), Cynllun Ysgolion Iach Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Technoleg Gwybodaeth, Cyfathrebu, Arlwyo. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Tîm Cynnwys y Claf a’r Cyhoedd, Profiad y Claf, Gwirfoddolwyr, Gofal Sylfaenol. Mae’n fwriad gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf i dargedu meysydd blaenoriaethol lle mae angen gwella gwasanaethau dwyieithog er mwyn sicrhau'r lefelau uchaf o ofal personol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi edrych ar y ffordd orau o gofnodi a throsglwyddo dewis Iaith cleifion er mwyn gwella darpariaeth Gwasanaeth yn Gymraeg. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau â staff Gofal Sylfaenol er mwyn archwilio’r posibiliad o ychwanegu cwestiwn dewis Iaith ar ffurflen y porth cyfathrebu electronig a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Feddygon Teulu wrth iddynt wneud atgyfeiriadau i ofal eilradd. Mae ffurflenni cleifion eraill ar draws adrannau gwahanol yn y Bwrdd Iechyd wedi eu

Page 8: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

8

cyfieithu. Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Cwm Taf wedi ei gynrychioli hefyd ym mhob cyfarfod Cymru gyfan i drafod newidiadau i Ffurflenni Cydsynio Cleifion Cymru Gyfan. Bydd Cwm Taf yn sicrhau bod fersiynau dwyieithog ar gael i’w defnyddwyr gwasanaethau. Gwneir staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau parthed darparu’r cyhoedd â gwasanaeth dwyieithog, ac mae copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg a Chanllawiau Staff wedi eu cynhyrchu a’u rhoi ar y fewnrwyd. Gwahoddir staff hefyd i gysylltu â’r UG am wybodaeth a chyfarwyddyd pellach. Mae sesiwn Ymwybyddiaeth Iaith yn parhau i ffurfio rhan o ddiwrnod cynefino staff newydd. Mae’r UG hefyd yn darparu sesiynau cynefino ychwanegol ar gais i grwpiau o staff nad ydynt efallai wedi derbyn yr hyfforddiant hwn neu’r rhai hynny sy’n teimlo bod angen sesiwn gloywi arnynt. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r UG wedi darparu sesiynau ymwybyddiaeth i staff arlwyo a chynnal a chadw. Yn y blynyddoedd diwethaf hefyd mae’r UG wedi darparu sesiynau ymwybyddiaeth hefyd fel rhan o Raglen Hyfforddi AD ar gyfer Uwch Reolwyr. Daeth y rhaglen dreigl hon i ben eleni. Mae’r UG yn parhau i gyflwyno cwrs ymwybyddiaeth tebyg fel rhan o gwrs hyfforddi ‘Creu Diwylliant o Ofal’. Rhedir y cwrs hwn gan yr Adran Dysgu a Datblygu ac enwebir staff ar draws y Bwrdd Iechyd i fynychu. Mae’r UG yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth 30 munud sy’n ffurfio rhan o’r cwrs hyfforddi achrededig. Mae’r cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus yn ystod 2012/13 a bydd yn parhau’r flwyddyn nesaf. Mae’n gyfle ardderchog i staff ddysgu mwy am bwysigrwydd darpariaeth Iaith Gymraeg a bod adnabod ac ymateb i’r ffaith bod claf yn defnyddio’r Gymraeg yn famiaith yn elfen hanfodol o greu diwylliant o ofal. Cwblhaodd y Cynorthwyydd Iaith Gymraeg gwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr - Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg’ ym mis Rhagfyr 2012. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd ar y cwrs hwn wedi galluogi’r UG i wella cynnwys a darpariaeth ei sesiynau Iaith Gymraeg. Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi parhau â’i arfer o ddefnyddio cwmnïau cyfieithu allanol yn ogystal â’r UG er mwyn sicrhau cyfieithiad cyflym a dibynadwy o’r holl ddeunyddiau cyhoeddus perthnasol. Mae e hefyd wedi bod yn rhan o drafodaethau ynghylch prosiect Rhannu Adnoddau Cyfieithu Cymru Gyfan gyda’r Cynulliad. Bydd y sefydliad yn parhau â’i ymdrech i sicrhau bod holl wybodaeth y GIG yn y parth cyhoeddus yn ddwyieithog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwefan y Bwrdd Iechyd wedi ei chyfieithu. Mae’r Staff o fewn yr UG wedi derbyn hyfforddiant gan y tîm E-busnes fel y gallant fonitro a diweddaru cynnwys ar y wefan Gymraeg pan fo angen. Sefydlwyd grŵp llywio’r wefan yn 2013, ac mae staff yr UG yn mynychu cyfarfodydd i drafod gwelliannau a newidiadau i gynllun presennol y wefan, a thrwy hynny’n sicrhau

Page 9: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

9

bod y wefan Gymraeg yn cael ei hystyried wrth wneud unrhyw newidiadau i’w chyfatebydd Saesneg. Mae cydymffurfiaeth gwasanaethau trydydd parti a darparwyr cytundebau allanol gan gynnwys y sector gwirfoddol a gweithio mewn partneriaeth yn parhau’n fater heriol i’r Bwrdd Iechyd. Cynhyrchodd yr UG restr wirio a ddosbarthwyd i’r trydydd parti a’r contractwyr allanol. Dangosodd y wybodaeth a gasglwyd bod gan fwyafrif y trydydd parti eu Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain yn eu lle a’u bod yn cydymffurfio. Fodd bynnag, y mae angen trafodaethau pellach i fynd i’r afael â’r ffaith nad yw rhai trydydd parti yn cydymffurfio. Mae geirio safonol yn ymwneud â gofynion Iaith Gymraeg yn ymddangos yn y cytundebau a ddosbarthir i drydydd parti a chontractwyr allanol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn aros am ganllawiau pellach ar y mater hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. (Am ragor o wybodaeth gweler DIG2). Safon Gwasanaeth Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ymrwymedig o hyd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd o’r un safon yn y Gymraeg a’r Saesneg i gleifion, eu teuluoedd ac i staff. Wrth wneud hyn bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi sylw dyledus i ddeddfwriaeth berthnasol. Mae Cwm Taf wedi ceisio sicrhau y bydd ansawdd y gwasanaeth yn cael ei gyflawni ym meysydd amrywiol y gwasanaeth iechyd drwy gadw at yr egwyddor bod safon yr ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn dogfennau allweddol yn gydradd o ran safon. Mae e hefyd yn sicrhau bod safonau penodol yn cael eu gosod wrth ddarparu gwasanaeth a bod y gwasanaethau Cymraeg a ddarperir yn gyson mewn ardaloedd gwahanol. Delio â'r Cyhoedd sy'n Siarad Cymraeg Anogir a chroesawir y cyhoedd i ohebu yn Gymraeg. Mae Cwm Taf yn falch o'i record o ymateb i ohebiaeth Gymraeg yn ddi-oed ac o fewn yr un cyfraddau amser ag ar gyfer gohebiaeth yn Saesneg. Fel y dywedwyd eisoes, dros y tair blynedd ddiwethaf rydym wedi arolygu'r dulliau o sefydlu dewis iaith y claf, ac yn archwilio'r ffordd orau o rannu'r wybodaeth hon rhwng adrannau er mwyn sicrhau nad oes rhaid i'r claf ofyn drachefn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, nac ymgeisio am y gwasanaethau hyn. Pan fydd siaradwr Cymraeg yn cysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar y ffôn ac y bydd aelod di-Gymraeg o'r staff yn ateb, rhoddir y dewis bob amser i'r galwr barhau â’r alwad yn Saesneg neu aros i siaradwr Cymraeg eu ffonio yn ôl cyn gynted â phosibl.

Page 10: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

10

Mae’r pecyn hyfforddi dwyieithog ar gyfer staff rheng flaen, sy’n cynnwys cardiau cymorth defnyddiol a sticeri i ffonau i atgoffa staff o sut i ateb y ffôn yn ddwyieithog ac yn gywir ar gael i’r holl staff ar hafan yr Uned Iaith Gymraeg ar fewnrwyd y staff. Mae’r UG hefyd yn rhagweithiol o ran darparu sesiynau hyfforddi a darparu cymorth un i un i staff rheng flaen, er mwyn mwyhau dwyieithrwydd ac arfer gorau yn y cysylltiadau cyntaf â’r cyhoedd. Mae hawl gan y cyhoedd i siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac mae pob hysbysiad cyhoeddus a gwahoddiad yn ddwyieithog. Yn ystod 2012/13 roedd yr UG wedi galw cyfarfod ar y cyd rhwng Swyddog Iaith Gymraeg Rhondda Cynon Taf a Rheolwr Profiad y Claf Cwm Taf yn ystod y broses ymgynghori ar ‘Mwy na geiriau’. Yn y cyfarfod hwnnw anogwyd mynychwyr i leisio barn ar ddarpariaeth y presennol ac argymhellion y Strategaeth. Rhoddwyd gwybodaeth i’r holl fynychwyr ar aelodau’r grŵp a rhoddwyd y cyfle iddynt hefyd i roi adborth ysgrifenedig a gyflwynwyd wedyn fel rhan o’n hymateb. Roedd y Swyddog Iaith Gymraeg wedi mynychu fforymau cyhoeddus yng Nghwm Taf oedd wedi edrych ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Taf. Gellir cael cyfieithydd ar y pryd i gynorthwyo mewn cyfarfodydd cyhoeddus drwy’r flwyddyn ar gais. Mae’r UG hefyd yn parhau i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo megis Dydd Gŵyl Dewi, Wythnos Addysg Oedolion, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cegaid o Fwyd Cymru, dyddiau Hyrwyddo'r UG ayyb er mwyn cynnig i’r cyhoedd hynny sy’n siarad Cymraeg y cyfle o gyflwyno yn eu dewis Iaith. Mae’r UG hefyd yn cynnig cymorth a chyngor i staff er mwyn iddynt wneud eu cyfarfodydd yn rhai dwyieithog, e.e. cyfieithu cyflwyniadau PowerPoint / agendâu, a sut i roi cyfarchion croeso mewn cyfarfodydd, pan fo cais amdanynt. Mae’r gwaith wedi parhau ar DIG 3 i edrych ar recriwtiad ac adleoliad staff sy’n siarad Cymraeg i brif fynedfeydd a chlinigau cleifion allanol. Mae staff mewn swyddi allweddol wedi eu targedu a’u henwebu i fynychu cwrs hyfforddi Cymraeg yn y gweithle a redir gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol. Llwyddodd yr UG i ddod o hyd i gyllid i gynnal tri chwrs ar wahân ar draws y Bwrdd Iechyd yn 2013. Ar ben hynny, mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn cynnal dosbarth i ddechreuwyr yn Ysbyty’r Tywysog Siarl bob wythnos. Hysbysebir pob dosbarth gan ddarparwyr allanol megis y Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn rheolaidd i staff ar y fewnrwyd, dyddiau hyrwyddo’r Gymraeg, posteri, blog y Prif Weithredwr ayyb. Anogir staff i fynychu hyfforddiant Iaith Gymraeg er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg y gellid eu defnyddio yn y gweithle. Bydd cyngor i staff ar gyfer recriwtio siaradwyr Cymraeg pe bai swyddi gwag yn codi yn y Bwrdd Iechyd yn y dyfodol agos. Yn dilyn arweiniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae Cwm Taf wedi drafftio Strategaeth Sgiliau

Page 11: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

11

Iaith sy’n canolbwyntio ar adnabod bylchau sgiliau yn y sefydliad, recriwtio siaradwyr Cymraeg, a hyfforddi'r staff sydd gennym mewn ymgais i sicrhau cysondeb ar draws y Bwrdd Iechyd o ran ei ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Mae’r Is-grŵp Cymraeg, y Gweithlu ac AD yn cwrdd bob tri mis ac maent yn y broses o baratoi adroddiad i’r Bwrdd ar y strategaeth arfaethedig. (Am ragor o

wybodaeth gweler DIG3). Mae cofrestr ar-lein staff sy’n siarad Cymraeg yn sicrhau bod pob aelod o’r staff yn gwybod lle i gysylltu â siaradwyr Cymraeg ac i gyfeirio mwy o gleifion at staff sy’n siarad Cymraeg sy’n gallu cynnig triniaeth ac ymgynghoriadau yn Gymraeg. Anogir staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo’r bathodyn ‘Iaith Gwaith’ fell y gall y cyhoedd a staff eraill adnabod eu sgil mewn ffordd rwydd. Mae’r staff nyrsio hefyd yn gwisgo Gwisg Nyrsio Cymru Gyfan sydd â motiff wedi ei brodio arnynt. Mae protocol i staff nyrsio newydd dderbyn gwisg gyda’r logo Iaith Gwaith wedi ei frodio arni ac mae’r UG mewn trafodaethau ag Uwch Nyrs sy’n edrych i mewn i’r posibiliad o’r logo’n cael ei roi ar wisg gwaith gweithwyr proffesiynol eraill. Mae meddygon, deintyddion a fferyllwyr sy’n gallu ymgynghori yn y Gymraeg ar restr cyfeirlyfr ar-lein Gofal Sylfaenol. (Am ragor o wybodaeth, gweler DIG 4). Yn ogystal â’r cyrsiau hyfforddi allanol sy’n cael eu darparu a’u hysbysebu i staff, mae’r UG wedi cael ac wedi dosbarthu llawer mwy o adnoddau dysgu electronig ar draws y Bwrdd Iechyd yn ystod 2012/13. Mae deunyddiau hyfforddi wedi eu rhoi yn y Canolbwynt Cysylltiadau a llyfrgelloedd ysbytai. Gyda chymorth y tîm E-busnes mae’r UG wedi cynhyrchu cyfres o bodlediadau pum munud er mwyn i staff eu lawrlwytho ar You Tube. Mae’r podlediadau’n cyflwyno amrywiaeth o ymadroddion sylfaenol y gellir eu defnyddio yn y gweithle. Mae’r podlediadau’n cael eu treialu ar hyn o bryd gyda staff clinigol hŷn ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae’r adborth cyn belled wedi bod yn gadarnhaol ac rydym yn disgwyl lansio’r podlediadau’n llawn yn 2013, gyda’r nod o gynhyrchu podlediadau mwy arbenigol ar gyfer adrannau penodol. Wyneb Cyhoeddus y Sefydliad Defnyddir logos, papur â phennawd, a phapur ysgrifennu safonol dwyieithog o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Atgoffir ac anogir staff i ddefnyddio llofnod e-bost, ymatebion allan o’r swyddfa, negeseuon peiriant ateb dwyieithog, ayyb, ac mae cymhorthion dwyieithog ar gael i staff ar fewnrwyd y staff. Mae hyn wedi cael ei fonitro gan Gyfarwyddiaethau a gan y Grŵp Cymraeg yn 2012/13.

Page 12: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

12

Mae Cwm Taf wedi parhau i weithio i sicrhau bod yr arwyddion ar gyfer ysbytai ac unedau newydd yn ddwyieithog. Mae’r UG yn cydlynu cyfieithiad yr holl arwyddion o fewn terfynau amser cytûn. Mae hyn yn cynnwys yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Cwm Cynon, Parc Iechyd Keir Hardie a’r arwyddion newydd wrth i Ysbyty’r Tywysog Siarl gael ei adnewyddu. Mae canllawiau ar arwyddion dwyieithog ar gael i staff ar y fewnrwyd i staff ac ar gais, ac mae’r UG yn parhau i gysylltu â’r Adran Ystadau a Chyfleusterau a chynnig cyngor ar y mater hwn. Mae cronfa ddata o arwyddion dwyieithog ar gael ar fewnrwyd y staff ynghyd ag arwyddion safonol dros dro eraill. Apwyntiwyd Rheolwr Cyfathrebu newydd i’r Bwrdd Iechyd yn 2012 ac mae’r UG wedi gweithio’n agos â’r Tîm Cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pob datganiad i’r wasg a hysbysiadau’n ddwyieithog. Mae nifer y datganiadau i’r Wasg a’r eitemau newyddion wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn darparu’r cyhoedd â gwybodaeth well am Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae Cwm Taf yn falch o’r ffaith y gall y cyhoedd ddewis dysgu a chael gwybodaeth am wasanaethau a’r newyddion diweddaraf am y Bwrdd Iechyd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg ar gael i drafod materion gyda'r cyfryngau Cymraeg pan fydd angen, mae’n ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ac yn cyfieithu gohebiaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Fel y soniwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, cyfieithwyd gwefan y Bwrdd Iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae grŵp llywio’r wefan yn edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd o wella trefn a chynnwys y wefan. Mae’r UG yn mynychu cyfarfodydd y grŵp er mwyn sicrhau y bydd unrhyw newidiadau a wneir i’r wefan Saesneg yn cael eu gwneud i gynnwys y Gymraeg hefyd. O ran wyneb cyhoeddus y sefydliad a recriwtio, mae’n broses safonol i’r holl swyddi gwag gael eu hysbysebu ar wefan swyddi’r GIG. Mae pob hysbyseb yn hybu’n weithredol ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Bydd yr UG yn cynghori’r Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol ar ofynion y Cynllun Iaith Gymraeg wrth gyflwyno hysbysebion am swyddi. Hefyd, unwaith bydd teclyn recriwtio CBAC wedi ei gymeradwyo bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried defnyddio’r teclyn ar gyfer lleoedd gwag yn y dyfodol. (Am ragor o wybodaeth,

gweler DIG5, DIG6 a DIG7). Gweithredu a Monitro'r Cynllun

Page 13: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

13

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn parhau’n ymrwymedig i weithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg ac yn parhau i chwilio am ddulliau o wella’r systemau monitro. Mae Grŵp Cymraeg Cwm Taf yn gyflawn bellach. Mae’r grŵp strategol hwn yn cynnwys y Cadeirydd, Dr Chris Jones, sydd hefyd yn Bencampwr y Gymraeg, Staff yr UG, Ysgrifennydd y Bwrdd / Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a chynrychiolwyr o gyfarwyddiaethau. Mae’r grŵp yn cwrdd bob tri mis ac mae’r aelodau’n trafod materion cyfredol sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac yn rhaeadru gwybodaeth berthnasol yn ôl i’r staff o fewn eu cyfarwyddiaethau. Mae gan staff y cyfle i godi unrhyw bryderon a hefyd tynnu sylw at arfer da drwy’r grŵp. Mae’r holl aelodau’n gweithio â’i gilydd er mwyn parhau i gryfhau a gwella darpariaeth iaith Gymraeg y presennol o fewn Cwm Taf, a sicrhau bod staff ar draws y Bwrdd Iechyd i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau gweithrediad effeithiol y Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Is-grŵp y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Cymraeg yn parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod materion Iaith Gymraeg ym meysydd y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Yn ystod 2012/13, prif bwnc trafodaeth i’r grŵp oedd drafftio Strategaeth Sgiliau Ieithyddol Dwyieithog, a fydd yn canolbwyntio ar adnabod bylchau sgiliau Cymraeg ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae’r grŵp wedi drafftio adroddiad i’r Bwrdd, a gobeithir yn ystod 2013/14, y cwblheir y strategaeth ac y byddwn yn ei gweithredu drwy’r Bwrdd Iechyd. Fel y soniwyd eisoes mewn Adroddiadau Iaith Gymraeg blynyddol blaenorol, mae’r UG wedi dodi teclyn cofrestru ar fewnrwyd y staff i gasglu mwy o wybodaeth am sgiliau staff a chymwysterau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, ac mae’n gweithio gyda’r Adran TG i gasglu a dadansoddi’r data hwn y gellir ei fwydo i mewn i’r system ESR. Mae’r UG yn parhau i dargedu swyddi allweddol lle mae angen brys am sgiliau Cymraeg, ac mae’n cynnig sesiynau hyfforddi a phecynnau adnoddau i Gynorthwywyr Personol/ Derbynyddion a staff rheng flaen, ac mae’n eu hannog i raeadru gwybodaeth ac adnoddau i staff o fewn eu timau, er mwyn helpu gweithredu'r Cynllun Iaith Gymraeg ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae’r UG yn annog staff presennol sy’n siarad Cymraeg i fod yn bencampwyr yr Iaith Gymraeg a chynorthwyo Cwm Taf wrth iddo fonitro a gweithredu ei Gynllun Iaith Gymraeg. Mae hyfforddiant Iaith Gymraeg wedi ei ddarparu i staff o fewn y Bwrdd Iechyd (rhoddir manylion yn yr adroddiad hwn). Bydd yr UG hefyd yn hwyluso hyfforddiant Iaith Gymraeg pellach mewn meysydd blaenoriaethol ac mae e wedi ymgynghori â’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Morgannwg, ar y cyrsiau a fydd ar gael i’n staff yn 2013/14.

Page 14: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

14

Er mwyn codi ymwybyddiaeth staff o ofynion y Cynllun Iaith Gymraeg a’r orfodaeth i gydymffurfio â hwy, mae sesiynau ymwybyddiaeth Cymraeg yn parhau’n rhan o ddyddiau cynefino i bob aelod newydd o’r staff. Mae’r UG yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith Gymraeg fwy manwl i grwpiau penodol o’r staff ar gais, ac mae e hefyd yn cyflwyno’r sesiwn hwn yn ystod rhaglen dreigl Creu Diwylliant o Ofal. (Am ragor o wybodaeth,

gweler DIG 8).

Eir ati i annog staff i wneud y Gymraeg yn rhan o’r gweithle, ac mae cymorth ar gael drwy’r amser gan yr UG i helpu staff ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Anogir uwch aelodau o’r staff i fonitro cydymffurfiaeth y staff o fewn eu timau, a rhaeadrir gwybodaeth berthnasol i reolwyr a staff drwy aelodau’r Grŵp Cymraeg, is-grŵp y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, mewnrwyd y staff, cylchlythyrau staff, sesiynau ymwybyddiaeth ayyb. Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ymadroddion defnyddiol a chymhorthion dwyieithog ar gael hefyd i’r holl staff ar y fewnrwyd drwy Hafan yr UG. Hysbysebir gwersi a digwyddiadau i staff drwy ddolenni’r Hafan. Mae prosiectau a mentrau amrywiol hefyd yn annog dwyieithrwydd o fewn y gweithle, a rhoddwyd cynnig ar lawer ohonynt yng Ngwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd. Yn 2012 enillodd Hwylusydd Trawsnewid Gofal Bwrdd Iechyd Cwm Taf am lyfryn a deunyddiau oedd yn dwyn y teitl ‘Dyma pwy ydw ii’ oedd yn gynhorthwy i bawb oedd yn dod i mewn i gysylltiad â chleifion â’r clefyd Alzheimer neu Ddementia er mwyn iddynt wybod drwy’r llyfryn a’r logo Iaith Gwaith fod y claf yn siarad Cymraeg a byddent yn adnabod y claf yn well. Dyfarnwyd gwobrau arbennig hefyd i Gwm Taf am lyfr dwyieithog ar Awtistiaeth gyda’i nod o gynorthwyo teuluoedd. Rhoddwyd trydedd wobr i Dîm Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf gyda chymorth yr UG am gynhyrchu llyfr ar Fwyta’n Iach i Ysgolion Cynradd. Gwnaed gwaith prosiect arall gyda’r Canolbwynt Cysylltiadau, yr adran Gofal Stoma, gwaith gyda meddygfeydd a phrosiectau Dysgu a Datblygu. Fel y cyfeiriwyd ato yn yr adran flaenorol ‘Cyflawni Gwasanaeth’, rhoddir mesurau mwy effeithiol yn eu lle er mwyn monitro gwasanaethau a ddarperir gan eraill o ran eu cydymffurfiaeth â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg Cwm Taf. Mae’r UG ar gael i gynnig cyngor ar y maes hwn o fonitro a chydymffurfiaeth er mwyn osgoi a lleihau methiannau wrth ddarparu gwasanaeth GIG dwyieithog. Mae’n dda gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf adrodd nad oes un gwyn swyddogol wedi ei derbyn yn 2012/13 yn ymwneud â’i wasanaethau a’i ddarpariaeth iaith Gymraeg. Trwy gydol y flwyddyn mae’r UG wedi cymryd y cyfle o gasglu adborth gan staff a’r cyhoedd ar

Page 15: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

15

wasanaethau Cymraeg Cwm Taf. Roedd ffurflenni adborth ar gael ar stondin y Bwrdd Iechyd yn Eisteddfod Genedlaethol 2012, digwyddiad Cegaid o Fwyd Cymru 2012 ym Mhontypridd, Dydd Gŵyl Dewi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar stondin yr UG, dyddiau hyrwyddo’r UG yn Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty George Thomas. Cynhaliodd yr UG hefyd wedi cynnal trafodaethau anffurfiol â defnyddwyr gwasanaethau oedd yn medru’r Gymraeg yn y digwyddiadau hyn. Bydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn parhau i ddelio â chwynion o ran gwasanaethau Cymraeg, gan ddilyn y gweithdrefnau cywir a swyddogol sydd eisoes yn eu lle i ddelio â materion felly. (Am ragor o wybodaeth, gweler DIG 9). Cyhoeddusrwydd Mae Cwm Taf yn hysbysebu ei Gynllun Iaith Gymraeg i staff, defnyddwyr gwasanaethau, a rhanddeiliaid mewn dulliau gweithredol er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei weithredu’n llawn drwy’r sefydliad a bod pawb yn ymwybodol o ofynion a rhwymedigaethau’r Cynllun. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar y wefan a’r fewnrwyd, Mae canllawiau staff ar y fewnrwyd hefyd a dosbarthir copïau caled i bawb yn ystod yr holl sesiynau hyfforddi sy’n cynnwys yr UG. Yn ystod 2012/13 roedd Cwm Taf wedi parhau gwneud ymdrech fawr i hyrwyddo gwasanaethau iaith Gymraeg, gweithgareddau a digwyddiadau i staff, yn arbennig staff sy’n siarad Cymraeg a dysgwyr. Gwneir hyn yn bennaf drwy Hafan yr UG, ar fewnrwyd y staff lle y gall staff ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol am Gynllun yr Iaith Gymraeg, cymhorthion a chanllawiau dwyieithog, dolenni at wefannau defnyddiol, gwybodaeth am wersi a chyrsiau Cymraeg lleol, gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a digwyddiadau diwylliannol, gwybodaeth ar brosiectau a digwyddiadau’r Menter Iaith leol, storïau newyddion Cymraeg, a gwybodaeth gyffredinol arall a geiriau / ymadroddion y dydd ar y bwrdd bwletin. Gall staff gofrestru a chofnodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar-lein ar y fewnrwyd. Ar ben hynny mae’r UG wedi cynnal dyddiau hyrwyddo mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cwm Taf yn ystod 2012/13 er mwyn mwyhau ymhellach ymwybyddiaeth o faterion iaith Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd. Roedd stondin hyrwyddo gan yr UG yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Cegaid o Fwyd Cymru a dyddiau hyrwyddo mewn ysbytai gwahanol. Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi'r Bwrdd Iechyd roedd gwerthiant llyfrau ac adnoddau Cymraeg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, perfformiadau corau mewn ysbytai gwahanol, cwis ar-lein i staff, lansiad cystadleuaeth ffotograffiaeth i staff a lansiad y strategaeth ‘Mwy na geiriau’. Mae’r UG wedi parhau i weithio gyda’r Gwasanaeth Arlwyo yn 2012/13 er mwyn hyrwyddo

Page 16: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

16

dyddiadau pwysig ar y calendr Cymreig, megis bwydlen thema Gymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ac roeddynt yn bennaf gyfrifol am godi £834.27 i’r Elusen Marie Curie drwy werthu Cennin Pedr.. Mae bwydlenni â thema a’r gydnabyddiaeth o weithgareddau diwylliannol yn cymell Cymraeg yn y parth cyhoeddus ac yn helpu hyrwyddo dwyieithrwydd yng Nghwm Taf. Menter newydd arall yw cylchlythyr ar-lein i staff sy’n cynnwys tudalen wedi’i neilltuo i siaradwyr Cymraeg a fydd yn delio’n bennaf â mentrau sy’n ymwneud a’r Iaith Gymraeg a gofal. Yn ystod 2012/13, mae’r UG wedi parhau â’i gysylltiadau â phapurau newydd lleol Cymraeg ac wedi anfon erthyglau newyddion da o fewn y Bwrdd Iechyd atynt. Ar ben hynny, mae’r UG wedi cysylltu â’r tîm cyfathrebu ac wedi cynhyrchu erthyglau i gylchlythyr mewnol y staff ac erthyglau i bapurau lleol Saesneg eu cyfrwng. Mae’r cysylltiadau hyn â’r wasg leol hefyd yn darparu ffynhonnell gyhoeddusrwydd ardderchog er mwyn i Gwm Taf hysbysebu ei gynnydd a’i waith da o ran darpariaeth yn y Gymraeg. (Am ragor o

wybodaeth gweler DIG 10)

Datganiad ar brif-ffrydio Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn parhau i hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg drwy gynhyrchu a gweithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg a strategaethau sy’n galluogi Cwm Taf i ddarparu ei wasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg, yn rhoi amlinelliad o strategaethau i brif-ffrydio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar waith y Bwrdd Iechyd. Mae Uwch Reolwyr yn cydweithio â’i gilydd, ynghyd â’r staff, i hyrwyddo, cefnogi a monitro gweithrediad y Cynllun Iaith Gymraeg a’r ufuddhad iddo. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg bellach yn aelod o’r Fforwm Cydraddoldeb, Grŵp Llywio’r Pencampwyr, Is-grŵp y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Grŵp Storïau er Gwelliant, Grŵp Llywio’r Wefan ac mae’n mynychu cyfarfodydd Grŵp Profiad y Claf a Ffora Cyhoeddus. Mae’r Prif Weithredwr yn ei blog wythnosol yn defnyddio brawddeg newydd, bob wythnos, gyda’r bwriad o’u dysgu a’u defnyddio ei hun ac annog eraill i wneud felly hefyd. Asesir ac anogir gweithgareddau a mentrau newydd a chyfredol fel y cânt eu gweithredu er mwyn cwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn golygu hefyd bod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn

Page 17: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

17

dymuno gwneud cyfraniad cadarnhaol at weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad o Gymru sy’n wirioneddol ddwyieithog. Yn dilyn cyflwyniad y strategaeth ‘Mwy na geiriau’, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhagweld y bydd prif-ffrydio’r Gymraeg drwy’r Bwrdd Iechyd yn dod yn flaenoriaeth i’r Uwch Dîm Rheoli, a bydd hyn yn ei dro yn arwain at welliannau mewn darpariaeth gwasanaethai iaith Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaethau ar draws Cwm Taf. Datganiad ar Twf Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dal i gefnogi Cynllun Twf ac yn parhau mewn ffordd weithredol i gefnogi’r Cynllun Twf ac i ledu neges Twf drwy Gwm Taf. Gweler y wybodaeth yn y tabl isod am ragor o wybodaeth ar Twf.

Cymal Twf Perthnasol

Adrodd ar weithrediad y Cymal

1. Datganiad ynghylch Twf gan gynnwys enghreifftiau o arfer da

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cefnogi’r gwaith a’r ethos y tu ôl i’r gwaith a wneir gan Twf sef “Cymraeg o’r Crud” - “Languages from day 1”. Gweithiai UG Cwm Taf â Swyddog Twf hyd nes yw swydd ddod i ben ar Fawrth 31 2012. Yn ogystal â dolen Twf ar yr Hafan Gymraeg rhoddwyd negeseuon yn eitemau newyddion ar system Cwm Taf i annog pobl i fynd i wefan Twf. Mae Uned y Gweithlu a Datblygu Corfforaethol yn parhau â’r arfer o ddosbarthu pecynnau gwybodaeth Twf i’r holl rieni sy’n disgwyl babi. Mae deunyddiau Twf megis y waledi lluniau ar gyfer lluniau uwchsain y babi, posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu defnyddio o fewn pob ysbyty a chlinig o fewn Cwm Taf. Mae ymwelwyr iechyd a bydwragedd yn cynnig cyngor i famau sy’n disgwyl a mamau newydd yn y gymuned ar fentrau Twf, gan hyrwyddo buddion dwyieithrwydd o amser geni. Mae ymwelwyr iechyd o’r tîm Dechrau’n Deg wedi sefydlu dosbarth dŵr dwyieithog am ddim yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi bod yn rhedeg am yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae’r ddau ymwelydd iechyd wedi gweithio â’r Swyddog Twf yn y gorffennol er mwyn

Page 18: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

18

helpu ariannu hyfforddiant yr ymwelwyr iechyd ac aelodaeth Cymdeithas Athrawon Nofio. Mae’r dosbarth dwyieithog hwn yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd o fewn y gymuned. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio’n agos yn y gorffennol hefyd â staff meithrinfa’r ysbyty ac wedi creu llyfryn adnoddau defnyddiol iddynt gan gynnwys caneuon a rhigymau Cymraeg, a geirfa sylfaenol sy’n addas ar gyfer meithrinfa gyda babanod o 0-5 oed

2. Dosbarthu ffolder mamolaeth Twf

Mae mamau oedd yn disgwyl babanod wedi derbyn copïau o ffolder mamolaeth Twf. O dan y drefn newydd, o Ebrill 1 2012, bydd y rhain yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol drwy’r unedau mamolaeth.

3. Dosbarthu cerdyn sgan ar ymweliad sgan 12 wythnos

Mae mamau’n derbyn cerdyn sgan Twf o bob ysbyty adeg ymweliadau sgan 12 ac 20 wythnos.

4. Dosbarthu gwybodaeth am fanteision trosglwyddo’r Gymraeg yn y sgyrsiau sgiliau rhianta

Roedd Swyddog Twf arfer mynychu clinigau cynenedigol a Grwpiau Mamau a Babanod er mwyn siarad â rhieni am fanteision 2 iaith. Nawr mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn lledaenu neges Twf o hyd i rieni sy’n disgwyl babi a rhieni newydd.

5. Arddangos posteri a deunyddiau hysbysebu Twf

Mae hysbysfyrddau gyda gwybodaeth Twf wedi eu dosbarthu i’r clinigau cyn-geni yn y tri ysbyty sy’n darparu gwasanaethau cyn-geni. Mae dolen gennym i Twf ar yr Hafan Gymraeg. Mae’r UG yn dangos gwybodaeth am Twf yn ystod dyddiau hybu’r Iaith Gymraeg drwy’r ysbytai yng Nghwm Taf. Hysbysebwyd gwybodaeth am Twf hefyd ar stondin Cwm Taf yn Eisteddfod 2012.

6. Cynnal perthynas agos gyda Swyddog Maes Twf yn lleol

Bu’r UG a’r Swyddog TWF yn cwrdd drwy’r flwyddyn hyd nes i’w swydd ddod i ben ym Mawrth 2012. Mae’n fwriad gan yr Uned Gymraeg gysylltu â Swyddog Twf mewn ardaloedd cyfagos er mwyn trafod y posibiliad o wahodd y Swyddog i mewn i Fwrdd Iechyd Cwm Taf er mwyn siarad am Twf a/neu i ddarparu hyfforddiant i staff mamolaeth.

7. Dosbarthu pecyn Mae Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn

Page 19: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

19

mamolaeth Twf i staff y sefydliad sydd yn mynd ar gyfnod mamolaeth/tadolaeth

gyfrifol am ddosbarthu pecynnau mamolaeth staff o fewn y sefydliad.

Cyngor a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Teitl y ddogfen gynghori

Cyngor ar Gynlluniau Iaith Gymraeg i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau

Recriwtio a'r Iaith Gymraeg

Fel y dywedwyd yn yr adroddiad hwn, mae’r Bwrdd Iechyd yn y broses o ddrafftio Strategaeth Sgiliau Ieithyddol Dwyieithog sy’n edrych ar ddulliau lle gall y Bwrdd Iechyd yn gallu mwyhau’r defnydd o staff sy’n siarad Cymraeg, recriwtio mwy o staff sy’n siarad Cymraeg pe bai swyddi gwag yn codi mewn swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Mae Is-grŵp y Gweithlu a Datblygu Corfforaethol/Cymraeg hefyd yn trafod Recriwtio a’r Gymraeg yn ystod eu cyfarfodydd.

Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog

Mae Cwm Taf yn parhau i feithrin agwedd bositif tuag at yr iaith Gymraeg. Mae’n annog staff i fynychu gwersi blasu’r Gymraeg o fewn y gweithle. Mae e hefyd yn hysbysebu dosbarthiadau a digwyddiadau iaith Gymraeg o fewn y gymuned leol a drefnir gan ganghennau lleol y Ganolfan Cymraeg i Oedolion a Menter Iaith. Rhoddir manylion am y cyrsiau mewnol yn yr adroddiad hwn. Anogir staff sydd â sgiliau Cymraeg i wisgo bathodynnau a llinynnau gyda’r logo ‘Iaith Gwaith’ arnynt. Mae’r staff nyrsio o fewn Cwm Taf yn gwisgo Gwisgoedd Nyrsys Cymru Gyfan gyda’r motiff siaradwr Cymraeg arnynt. Hysbysebir diweddariadau a gwybodaeth Iaith Gymraeg ar ddigwyddiadau lleol i staff ar y fewnrwyd, ynghyd â gair/ymadrodd y dydd, ac mae gweithgareddau Cymraeg megis cwisiau ar gael hefyd ar y fewnrwyd. Mae’r cylchlythyr i staff hefyd yn cynnwys tudalen Gymraeg i staff sy’n siarad Cymraeg. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi enwebu 3 menter ddwyieithog ar gyfer Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd eleni.

Cynllun Cydymffurfiaeth

Ysgrifennwyd Cynllun Iaith Gymraeg â gwybodaeth lawn o gyngor, cyfarwyddyd a gofynion Cynllun Cydymffurfiaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg Cwm Taf ym mis Gorffennaf 2010 ac mae’n cael ei weithredu bellach drwy’r Bwrdd Iechyd.

Page 20: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

20

Contractio Allan Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gymraeg

Mae’r ddogfen hon wedi’i dosbarthu i’r bobl berthnasol cheir manylion pellach ar y cynnydd ar fonitro cydymffurfiaeth 3ydd parti o fewn yr adroddiad hwn.

Cynnydd yn erbyn targedau penodol TARGED DYDDI

AD TARGE

D

CYNNYDD TYSTIOLAETH

BELLACH

Diweddaru'r daflen gryno bresennol sy'n gosod egwyddorion / gofynion craidd Cynllun yr Iaith Gymraeg ar gyfer prif-ffrydio'r defnydd o'r Gymraeg, a dosbarthu copïau i bob aelod o'r staff.

Mai 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Cyhoeddi'r Cynllun yn llawn yn Saesneg ac yn Gymraeg ac mewn fformatau hygyrch eraill.

Mai 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Cyhoeddi'r Cynllun a chodi ymwybyddiaeth ohono ar y Wefan ac ar bosteri i'w harddangos yn gyhoeddus, ar fewnrwyd y staff a SharePoint a thrwy fwletinau i'r staff a'r rhanddeiliaid.

Mai/ Mehefin 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Adolygu Cynllun yr Iaith Gymraeg a gwahodd adborth gan y cyhoedd a'r staff.

Hydref 2013

Cynghorwyd Byrddau Iechyd i barhau â’u Cynlluniau Iaith Gymraeg presennol ac i aros am gyngor a chanllawiau pellach

Page 21: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

21

gan Gomisiynydd y Gymraeg. Grŵp yr Iaith Gymraeg Adolygu aelodaeth a chylch gorchwyl Grŵp yr Iaith Gymraeg ar gyfer y sefydliad newydd.

Ion./ Chw.20

10

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Gweithio at gynnwys rhanddeiliaid cymunedol allweddol megis Menter Iaith, TWF, Bwrdd yr Iaith Gymraeg ayyb a'u cael i weithredu fel ‘cyfeillion beirniadol' gan ddatblygu Cynllun yr Iaith Gymraeg a chynllun gweithredu mewn partneriaeth.

Ion. 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Asesu ymwybyddiaeth ar draws y Bwrdd Iechyd a chynnal sesiynau ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ‘corfforaethol' fel bo'n briodol.

Rhag. 2012

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol. (Gweler DIG8 am ragor o fanylion)

POLISÏAU A MENTRAU NEWYDD Cynhelir asesiad ieithyddol ar 100% o'n polisïau a'n mentrau newydd neu ddiweddaredig ni trwy gyfrwng yr Offeryn Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer holl bolisïau a mentrau newydd a diweddaredig y Bwrdd Iechyd.

O Ion. 2010

ymlaen

Gweler yr adran ‘Mentrau a Pholisïau Newydd’ a gwybodaeth ar DIG 1

Sicrhau bod cofnodion mamolaeth a deunyddiau eraill TWF yn cael eu defnyddio a'u dosbarthu'n ddyledus ar draws y Bwrdd Iechyd i gyd.

Rhag. 2010

Y targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol. Gweler y wybodaeth ar ‘Ddatganiad Twf’

Page 22: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

22

DARPARU GWASANAETHAU Datblygu strategaeth ar sgiliau iaith i'r Bwrdd Iechyd.

Mehefin 2010

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dechrau drafftio Strategaeth Sgiliau Dwyieithog. Mae’r Strategaeth ddrafft o dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Mae Is-grŵp yr Iaith Gymraeg a’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol wedi trafod Strategaeth Sgiliau Dwyieithog Hywel Dda ac mae cadeirydd y grŵp yn y broses o ddrafftio adroddiad i’r Bwrdd yn cynnig argymhellion ar sut i barhau gyda gweithrediad y strategaeth. Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar recriwtiad siaradwyr Cymraeg, adnabod bylchau sgiliau yn ein gwasanaethau, mapio sgiliau iaith staff presennol, a hyfforddiant iaith Gymraeg i staff.

Nodi nifer o feysydd gwasanaeth allweddol a gweithio gyda'r staff at ehangu'r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir.

Rhag. 2012

Yn ogystal â’r meysydd gwasanaethau allweddol y sonnir amdanynt yn yr adroddiad blaenorol, yn 2012/13 mae UG wedi gweithio hefyd gyda’r timau a’r adrannau canlynol i wella darpariaeth gwasanaethau dwyieithog (ceir manylion pellach ar y gwaith a wnaed yn yr adroddiad hwn)

• Gofal Stoma • Y Canolbwynt Cysylltiadau • Dysgu a Datblygu • Trawsnewid Gofal – Plant

a Phobl Ifanc • Gwirfoddolwyr • Grŵp Profiad y Claf • Pwyllgor Llywio Teimlo’n

Iawn Gweithio’n Iawn • Meddygfeydd • Deintyddfeydd

Enghraifft Taflen Gofal Stoma, Cyhoeddiad i’r Wasg, Cynllun Gweithredu’r Canolbwynt Cysylltiadau, Taflen Dyma Fi Kidz, Cynllun Gweithredu Gofal Sylfaenol

Creu cofrestr o'r aelodau staff sydd ar

Rhag. 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr

Page 23: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

23

gael i ddefnyddio sgiliau Cymraeg yn y gwaith, gan nodi eu lefelau cymhwysedd, a dosbarthu'r wybodaeth i staff priodol yn y Bwrdd Iechyd.

adroddiad blynyddol blaenorol

Cynnal asesiad o anghenion gyda'r cyhoedd a'r rhanddeiliaid i nodi'r blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau yn Gymraeg fel rhan o'r broses Ennyn Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Claf a chyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriadau.

Rhag. 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol

Sicrhau bod cymal safonol yn cael ei gynnwys ym mhob cytundeb yn mynnu bod contractwyr yn cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd.

Gorffennaf

2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Llunio canllawiau a chynnig cyngor i Grwpiau Clinigol Gofal Sylfaenol ynghylch gweithredu a chydymffurfio â Chynllun yr Iaith Gymraeg.

Rhag. 2012

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo mewn Gofal Sylfaenol ac mae’r UG yn parhau i weithio gyda phractisau unigol, ac yn adolygu canllawiau ar gyfer staff Gofal Sylfaenol ar hyn o bryd.

Llunio canllawiau newydd i'r staff sy'n gweithio mewn partneriaeth (gan gynnwys partneriaethau â chonsortia) neu wasanaethau trydydd parti y tu allan i'r

Rhag. 2010

Gweler y cynnydd a roir yn yr adroddiad hwn ar y maes hwn.

Page 24: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

24

Bwrdd Iechyd wrth weithredu Cynllun Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd. Sicrhau bod y staff sy'n gweithio mewn partneriaeth neu wasanaethau trydydd parti yn glynu wrth Gynllun Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd.

Mawrth 2013

Gweler y cynnydd a roir yn yr adroddiad hwn ar y maes hwn.

SAFONAU ANSAWDD Monitro a gwerthuso safon y gwasanaethau Cymraeg a dderbynnir ac adrodd ar hyn yn yr adroddiad blynyddol.

Monitrir cynnydd ar wasanaethau iaith Gymraeg yn fanwl drwy’r flwyddyn ac mae’n cael ei drafod gan y Grŵp Cymraeg. Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn ein targedau iaith Gymraeg penodol, ac mae’n nodi ein cyflawniadau ac yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwelliant a sut rydym yn bwriadu gweithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg yn llawn.

DELIO Â'R CYHOEDD SY'N SIARAD CYMRAEG Sicrhau bod pob llythyr safonol a gynhyrchir at sylw'r cyhoedd gan Systemau Gweinyddu Cleifion megis ‘Myrddin’ mewn fformat dwyieithog.

Medi 2010

Mae goblygiadau argraffu a chost yn parhau o hyd o fewn y Bwrdd Iechyd o hyd. Mae llythyrau safonol System Gweinyddu Cleifion wedi eu cyfieithu. Mae’r Bwrdd Iechyd mewn trafodaeth ar hyn o bryd mewn ag adran argraffu’r Awdurdod Lleol gyda’r bwriad o symud cynhyrchiad ein llythyrau cleifion ‘Myrddin’ i’w hadran hwy yn y dyfodol agos. Mae’n fwriad y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hadrodd yn y Grŵp Cymraeg nesaf. Gweler rhagor o wybodaeth ar

DIG4

Gwneud trefniadau i Medi Y Targed wedi ei gwblhau,

Page 25: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

25

sicrhau bod holl lofnodion e-bost ac atebion allan-o'r-swyddfa staff y Bwrdd Iechyd yn ddwyieithog

2010 gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Dosbarthu canllawiau i'r staff i gyd ynghylch sut i ateb y ffôn yn ddwyieithog a sicrhau bod peiriannau ateb ffôn cyhoeddus yn ddwyieithog (gan ddechrau gyda'r rhai a ddefnyddir amlaf), a gweithio at sicrhau bod holl negesau peiriant ateb a phost llais y Bwrdd Iechyd yn ddwyieithog yn y pendraw.

Medi 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler manylion yr adroddiad blaenorol. Ar ben hynny, mae staff rheng fallen wedi eu henwebu am gwrs 1 dydd Cymraeg yn y Gweithle a fydd yn digwydd yn Ebrill, Mai a Mehefin 2013.

Fe weithia Bwrdd Iechyd Cwm Taf at sicrhau bod staff sy'n medru Cymraeg yn cael eu lleoli wrth brif fynedfeydd ac mewn clinigau cleifion allanol.

Mawrth 2013

Yn ogystal â chynnydd y llynedd, mae hyfforddiant allanol wedi ei drefnu i staff, ac rydym wedi targedu staff rheng flaen i fynychu. Yn sgil prinder y siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd a’r anallu i recriwtio staff newydd, mae hyfforddiant wedi ei ddarparu i frwydro yn erbyn y maes targed hwn. Rhoddir rhagor o fanylion o fewn yr adroddiad hwn.

Sicrhau bod gwefan Cwm Taf yn cael ei datblygu'n ddwyieithog a bod pob dogfen ddwyieithog ar gael i'r cyhoedd.

Rhag. 2010

Mae’r wefan yn ddwyieithog, fodd bynnag, mae’r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu grŵp llywio newydd i adolygu’r cynllun a’r cynnwys presennol. Mae’r UG yn cael ei gynrychioli ar y grŵp er mwyn sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei newid hefyd.

Cydweithio'n glòs â phob aelod staff sydd â rhan mewn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus ynghylch sut i hwyluso'r defnydd o'r

Mawrth 2013

Y targed wedi ei gwblhau ond yn gyfredol hefyd. Ar ben y cynnydd a wnaed y llynedd mae’r Swyddog Iaith Gymraeg yn parhau i fynychu digwyddiadau cyhoeddus ar ran

Page 26: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

26

Gymraeg yn unol â'r Cynllun gan gynnwys sicrhau fod aelod staff sy'n medru Cymraeg yn bresennol os oes modd.

y Bwrdd Iechyd er mwyn cynnig y cyfle i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn ôl yr angen.

WYNEB CYHOEDDUS Y SEFYDLIAD Sicrhau bod pob darluniad o'r Ddelwedd Gorfforaethol yn ddwyieithog ar benawdau llythyron, dalennau ffacs, hysbysiadau a dogfennau a'u bod yn cydymffurfio â'r Canllawiau ynghylch yr Hunaniaeth Gorfforaethol.

Mawrth 2010

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler y manylion yn yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Cynhyrchu'r holl arwyddion newydd a rhai cyfnewid a welir gan y cyhoedd, boed yn barhaol neu dros dro, mewn fformat dwyieithog.

Mawrth 2013

Mae rhaglen dreigl i roi arwyddion newydd yn lle’r hen rai. Yn ystod 2012/13 mae’r UG wedi cysylltu â’r Adran Ystadau er mwyn sicrhau bod yr holl arwyddion newydd yn ddwyieithog yn y mannau canlynol:

• Ysbyty Cwm Cynon • Parc Iechyd Keir Hardie • Ysbyty’r Tywysog Siarl • Ysbyty Cwm Rhondda

Mae templedi ar gyfer arwyddion dros dro i’w lawrlwytho ar fewnrwyd y staff a gall staff ffonio’r Uned hefyd am gymorth ychwanegol/arbenigol.

Templed Dogfen Arwyddion

Mewn deunydd a gweithgareddau recriwtio byddwn yn frwd groesawu ceisiadau gan staff sy'n medru Cymraeg.

Mawrth 2013

Cynhwysir datganiad ym mhob hysbysiad Cwm Taf yn cymell ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Mae’r Bwrdd Iechyd yn y broses o ddrafftio Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a fydd yn canolbwyntio ar recriwtiad

Page 27: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

27

siaradwyr Cymraeg. Gweithredu'n gadarnhaol o blaid denu siaradwyr Cymraeg i'r Bwrdd Iechyd ac, wrth i swyddi gwag ymddangos, ystyried yr angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi penodol.

Mawrth 2013

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cefnogi ac yn annog y defnydd o declyn recriwtio CBAC unwaith bydd y peilot ar ben. Gweler y wybodaeth ar y targed blaenorol. Gweler gwybodaeth bellach yn DIG5.

Nodi ym mha leoliadau a swyddi y mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol, a chynnwys hyn mewn hysbysebion recriwtio.

Mawrth 2013

Gweler y targedau uchod.

Sicrhau bod rheolwyr ac eraill sy'n gyfrifol am recriwtio, hyfforddi a monitro staff yn ymwybodol o ymrwymiadau'r cynllun.

Mawrth 2013

Fel rhan o Raglen Hyfforddi Sgiliau Rheolwyr AD, roedd yr UG wedi darparu sesiynau ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg i reolwyr sy’n tynnu sylw at y meysydd hyn o’r Cynllun. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg a’r canllawiau i staff ar gael ar fewnrwyd y staff, ac mae’n cael ei hyrwyddo hefyd yn ystod digwyddiadau hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae grwpiau megis Pwyllgor Llywio’r Safon Iechyd Corfforaethol, Is-grŵp yr Iaith Gymraeg, y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a’r Fforwm Cydraddoldeb ayyb yn trafod materion yn ymwneud â’r Cynllun Iaith Gymraeg ac mae cynrychiolwyr y grwpiau’n rhaeadru gwybodaeth i staff drwy’r sefydliad.

Lleoli aelodau staff sy'n medru Cymraeg, lle bo modd, yn y meysydd/swyddi hynny lle mae eu hangen.

Mawrth 2013

Mae cofrestr y staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i’r staff a’r rheolwyr i gyd sy’n paratoi rotâu ac yn lleoli staff ar draws y Bwrdd Iechyd. Anogir staff i ystyried anghenion ieithyddol cleifion a bydd y Strategaeth

Cofrestr y staff sy’n siarad Cymraeg

Page 28: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

28

Sgiliau Dwyieithog yn helpu pontio bylchau mewn sgiliau ymhlith eu staff.

Cydweithio'n glòs â'r holl aelodau staff sydd â rhan mewn hysbysebu a chyhoeddusrwydd neu mewn comisiynu gwaith gan ddarparwyr allanol yng nghyswllt cydymffurfiad â'r Cynllun.

Mawrth 2013

Y Targed wedi ei gwblhau. Mae’r UG yn parhau i weithio’n agos â’r tîm cyfathrebu a chyflwynodd erthyglau Cymraeg i Bapurau Bro - ‘Y Gloran’ a ‘Clochdar’. Rhoddir eitemau newyddion rheolaidd ar y fewnrwyd. Mae’r UG hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo drwy’r Bwrdd Iechyd i hysbysebu gwaith yr Uned.

Bydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn hybu gweithgareddau penodol a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg fel y gall siaradwyr Cymraeg ddewis eu defnyddio.

Mawrth 2013

Cymerodd Cwm Taf ran yn Eisteddfod Genedlaethol 2012, ac anogwyd staff a dysgwyr sy’n siarad Cymraeg i fynychu. Roedd yr UG yn bresennol hefyd yng Nghegaid o Fwyd Cymru 2012 ym Mhontypridd Mae holl weithgareddau Menter Iaith ac eitemau newyddion, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithaso yn cael eu l a hyrwyddo ar ein mewnrwyd i staff.

Sicrhau bod pob ffurflen a defnyddir gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer y cyhoedd mewn fformat dwyieithog.

Rhag. 2010

Anfonir ffurflenni i’w cyfieithu fel arfer wrth iddynt gael eu cynhyrchu o fewn y Bwrdd Iechyd. Gallwn ddarparu esiamplau. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen i sicrhau bod Ffurflenni Cydsynio Cenedlaethol Cymru Gyfan ar gael i gleifion yn Gymraeg a Saesneg. Mae cynrychiolwyr Cwm Taf wedi mynychu cyfarfodydd am ddiwygiad y ffurflenni cenedlaethol hyn ac wedi codi mater cyfieithu’r ffurflenni hyn.

Sicrhau bod pob ffurflen ar gyfer y staff

Rhag. 2011

Mae trafodaethau wedi eu cynnal eisoes gydag Uned y

Page 29: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

29

e.e. Ffurflenni Ymrestru Staff /Newid Staff mewn fformat dwyieithog.

Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a bydd y mater yn cael ei godi gyda’r Grŵp Cymraeg.

GWEITHREDU A MONITRO'R CYNLLUN Cysylltu â'r Adran Adnoddau Dynol i greu system ar gyfer adnabod a chofnodi anghenion dysgwyr Cymraeg yn y Bwrdd Iechyd trwy gyfrwng cynlluniau datblygiad personol.

Rhag. 2011

Y Targed wedi ei gwblhau. Gellir cofnodi ceisiadau staff am hyfforddiant Iaith Gymraeg ar eu CDP a’r system CSE. Gall yr UG gynnig cyngor ar gyrsiau hyfforddi allanol pan nodir cais am hyfforddiant.

Hysbysebu'r dosbarthiadau Cymraeg a gynhelir gan gyrff allanol.

Ddwy- waith y flwyddy

n Ion./Me

di

Y Targed wedi ei gwblhau, gweler manylion yr adroddiad blynyddol blaenorol.

Datblygu fframwaith cymwyseddau ar gyfer recriwtio staff sydd â sgiliau iaith priodol.

Rhag. 2012

Gweler gwybodaeth ar dargedau blaenorol ac o fewn yr adroddiad hwn. Gweler y wybodaeth ar y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog arfaethedig.

Sefydlu hyfforddiant ar gyfer swyddi allweddol lle mae'r angen am sgiliau Cymraeg ar ei fwyaf.

Mawrth 2013

Y Targed wedi ei gwblhau. Cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle wedi eu darparu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion wedi eu trefnu ar draws 3 lleoliad ar wahân yng Nghwm Taf. Mae’r cwrs wedi ei hysbysebu i’r holl staff ond gofynnwyd i uwch-reolwyr enwebu staff rheng flaen i’w mynychu.

Gosod cywirydd sillafu a phecyn terminoleg CysGair ar bob cyfrifiadur ynghyd â rhyngwyneb Cymraeg Microsoft.

Mawrth 2011

Mae’r Targed wedi ei gwblhau. Mae Porth Termau a Geiriadur yr Academi’n ddolenni ar yr Hafan Gymraeg.

Rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r iaith i bob aelod newydd o'r staff fel rhan o'r rhaglen

Mawrth 2013

Y Targed wedi ei gwblhau. Cyflwynir sesiynau ymwybyddiaeth Y Gymraeg yn ystod diwrnod cynefino staff ar gyfer yr holl staff newydd.

Page 30: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

30

sefydlu gorfforaethol gan ddefnyddio deunydd ymwybyddiaeth ‘Iechyd Da’. Darperir sesiynau ‘Iechyd Da’ hefyd ar gyfer 5% o'r staff presennol.

Darperir y sesiwn hon i staff hefyd fel rhan o’r cwrs Creu Diwylliant o Ofal. Gweler gwybodaeth bellach yn DIG 8

Adolygu'r cytundeb presennol â gwasanaethau cyfieithu i'r Gymraeg a llunio canllawiau i'r staff i gyd ynghylch eu defnyddio.

Mehefin 2010

Y Targed wedi ei gwblhau. Gweler adroddiad blynyddol y llynedd. Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dal i aros am wybodaeth bellach ar y prosiect Rhannu Gwasanaethau Cyfieithu Cymraeg. .

Monitro a chofnodi'r holl gwynion a chanmoliaethau a dderbynnir yng nghyswllt y Gymraeg a chydymffurfiad â'r Cynllun.

Bob blwyddy

n

Monitrir a chofnodir pob cwyn a chanmoliaeth a dderbynnir gan y Tîm Pryderon a dilynir gweithdrefnau corfforaethol safonol. Gweler gwybodaeth bellach yn DIG 9

Monitro ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.

Bob blwyddy

n

Cofnodir a monitrir y ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.

Monitro a chofnodi nifer y ceisiadau am wybodaeth a dderbynnir yn Gymraeg.

Bob blwyddy

n

Yn 2012/13 nid oedd un cais

Rhoi mecanweithiau mewn grym i fonitro nifer y cysylltiadau a wneir yn Gymraeg, yr amser a gymerir i ymateb, a natur yr ohebiaeth.

Bob blwyddy

n

Derbyniodd y Canolbwynt Cysylltiadau 2 gais yn Gymraeg yn 2012/13 Gweler gwybodaeth bellach ar DIG 10

Monitro nifer y ceisiadau a wneir am gael defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac adolygu'r canllawiau

Bob blwyddy

n

Yn ystod 2012/13 ni wnaed unrhyw gais am wasanaeth cyfieithu Cymraeg i gyfarfodydd cyhoeddus. Cynigir y gwasanaeth hwn yn ysgrifenedig at randdeiliaid.

Page 31: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

31

ar gyfer y staff.

Canllawiau staff ar gael ar y fewnrwyd.

Ymgynghori â staff allweddol derbynfeydd y Bwrdd Iechyd ynghylch y nifer o alwyr sy'n manteisio ar y ffaith bod galwadau ffôn yn cael eu hateb yn ddwyieithog, ac affeithioldeb yr arfer hwn.

Bob blwyddy

n

Mae staff allweddol derbynfeydd a theleffonyddion rheng flaen yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd am ateb galwadau’n ddwyieithog. Mae canllawiau ar gael i’r staff i gyd. Mae’r UG hefyd yn darparu hyfforddiant un i un ar gais. Mae cwrs allanol Cymraeg yn y Gweithle hefyd yn canolbwyntio ar ateb galwadau’n ddwyieithog.

Cynnwys cwestiwn am y Gymraeg mewn unrhyw arolygon o foddhad a gynhelir gyda'r staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau.

Bob blwyddy

n

Mae’r UG wedi creu ffurflen adborth am wasanaethau iaith Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaethau ac mae ar gael yng nghyfarfodydd y fforymau ac yn cael ei hanfon at randdeiliaid. Defnyddiwyd y ffurflen adborth yn Cegaid o Fwyd Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Fforymau Cyhoeddus, a digwyddiadau hyrwyddo eraill.

Fe sicrha Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod cwynion ynghylch gweithrediad Cynllun yr Iaith Gymraeg yn cael eu trin yn brydlon ac yn unol â gweithdrefnau corfforaethol y sefydliad.

Bob blwyddy

n

Gweler y wybodaeth yn DIG 9.

Data ar Ddangosyddion Iaith Gymraeg

DIG1 Mentrau a Pholisïau Newydd TARGED Fe edrydd Cwm Taf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar nifer

a chanran y polisïau a'r mentrau newydd sy'n derbyn asesiad o effeithiau o ran y Gymraeg.

CYNNYDD Mae pob polisi newydd a diweddaredig yn destun EQIA cyn cael eu cyflwyno am gymeradwyaeth er mwyn cydymffurfio ag OP1 y Polisi ar Reoli, Nodi ac Awdurdodi Polisïau a Gweithdrefnau. Mae’r Gymraeg yn ffurfio maes cydraddoldeb safonol yn y broses

Page 32: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

32

hon.

DATA AR DIG1 Mae 100% o'r polisïau a gweithdrefnau newydd a diweddaredig yn mynd trwy'r broses EQIA y mae'r iaith Gymraeg yn faes cydraddoldeb safonol ohoni. Yn 2012/13 nid oedd unrhyw bolisi (0%) oedd angen Asesiad Effaith Llawn yn dilyn EQIA o ganlyniad i Asesiad Effaith yr Iaith Gymraeg

SYLWADAU Bydd hon yn parhau fel y broses safonol ar gyfer pob polisi a gweithdrefn newydd a diweddaredig. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg bellach yn aelod o’r Fforwm Cydraddoldeb, sy’n trafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb gan gynnwys yr Iaith Gymraeg, polisïau a mentrau’n ymwneud â hi o fewn y Bwrdd Iechyd.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

Enghraifft o ffurflen EQIA. Am ragor o wybodaeth ar yr ystadegau a ddarperir a wnewch chi gysylltu â Barrie Ledbury, Rheolwr Safonau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, 01443 744800 [email protected]

DIG2 Gwasanaethau a ddarperir gan eraill TARGED Fe sicrha Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod aelodau staff

sy'n gweithio mewn partneriaeth neu wasanaethau trydydd parti yn glynu wrth Gynllun yr Iaith Gymraeg, gan hysbysu unrhyw gontractwr neu wasanaeth trydydd parti a chomisiynwyr am ofynion Cynllun yr Iaith Gymraeg.

Mae Canllawiau Staff ar ofynion Cynllun yr Iaith Gymraeg ar gael ar y fewnrwyd. Mae’r UG wedi cysylltu â’r bobl arwain i drafod y targed hwn. Dyfeisiwyd rhestr wirio i fonitro cydymffurfiaeth staff sy’n gweithio mewn partneriaeth neu wasanaethau trydydd parti. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwybodaeth yn ymwneud â 24 CLG gyda’r Sector Gwirfoddol wedi ei chasglu a’i dadansoddi. Roedd y darganfyddiadau’n dangos bod gan fwyafrif y sefydliadau partner eu Cynllun Iaith Gymraeg ei hun mewn lle. I’r sefydliadau hynny nad oes ganddynt Gynllun Iaith Gymraeg, mae’r Uned Gymraeg yn bwriadu cynnig canllawiau i’r sefydliadau hyn yn 2013/14.

DATA AR DIG2 Fe edrydd Cwm Taf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran y cytundebau a fonitrir sy'n cydymffurfio â gofynion y Cynllun Iaith.

Page 33: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

33

SYLWADAU Mae 22 Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn eu lle

ar gyfer y sector bartneriaeth ar hyn o bryd. Cynhwysir cymal safonol yng ngeiriad y contract o ran cydymffurfedd â Chynllun Iaith Gymraeg Cwm Taf. Mae 22 corff wedi cwblhau a dychwelyd y rhestr wirio hyd yma. Mae gan 17 (77%) eu Cynllun Iaith Gymraeg mewn lle. Am y 5 (23%) sydd ar ôl mae’r UG yn bwriadu cysylltu â phobl arwain briodol Cwm Taf a chynnig cyngor i’r cyrff hyn yn ystod 2013/14. Bydd y Bwrdd Iechyd yn annog pob partner i gydymffurfio a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau dwyieithog o fewn ein gweithio mewn partneriaeth. Yn dilyn trafodaeth ag Arweinydd Gofal Sylfaenol ar gyfer Meddygfeydd, rhagwelir y rhoddir y rhestr wirio hefyd yn cael ei rhoi ii feddygfeydd preifat i’w cwblhau yn 2013/14, gyda’r bwriad o fonitro cydymffurfedd mewn Deintyddfeydd, gydag Optegwyr a Fferyllfeydd hefyd.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

Dadansoddiad o’r Ffurflen Wirio a roddir i 3ydd Parti

DIG3 Gwasanaeth Wyneb-yn-Wyneb TARGED Fe weithia Bwrdd Iechyd Cwm Taf at sicrhau, lle bo

modd, fod aelodau staff Cymraeg eu hiaith yn cael eu recriwtio neu eu lleoli wrth brif fynedfeydd ac mewn clinigau cleifion allanol.

CYNNYDD Mae gwaith wedi dechrau ar DIG3 i edrych ar recriwtio a lleoli staff sy’n siarad Cymraeg i brif fynedfeydd a chlinigau cleifion allanol. Yn 2013, mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Morgannwg yn darparu 3 chwrs dydd i staff rheng flaen yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon a Pharc Iechyd Keir Hardie. Gobeithir y bydd hon yn rhaglen dreigl. Mae’r UG hefyd wedi creu data-bas o staff â sgiliau iaith eisoes a’u lleoliad o fewn Cwm Taf ar y fewnrwyd a diweddarir hwn yn rheolaidd. Mae Recriwtio ac Adleoli staff sy’n siarad Cymraeg wedi bod yn eitem reolaidd ar agenda cyfarfodydd y Grŵp Cymraeg a hefyd mae e wedi ei drafod sawl gwaith yng nghyfarfodydd is-grŵp Iaith Gymraeg, y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ar hyn o bryd at ddrafftio a gweithredu Strategaeth Sgiliau Iaith a fydd yn canolbwyntio ar

Page 34: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

34

ffyrdd y gall y Bwrdd Iechyd ddefnyddio â sgiliau Iaith presennol ac yn asesu’r bylchau yn sgiliau’r gweithlu a gweld lle mae angen staff sy’n siarad Cymraeg fwyaf. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at recriwtio staff newydd sy’n siarad Cymraeg pan fydd swyddi gweigion. Bydd y strategaeth yn edrych hefyd ar hyfforddi staff er mwyn mwyhau sgiliau Cymraeg.

DATA AR DIG3 Fe edrydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran y swyddi mewn clinigau cleifion allanol ac wrth brif fynedfeydd lle'r rhagnodir bod medru'r Gymraeg yn sgìl hanfodol, a'r ganran o'r swyddi hynny a lenwir gan siaradwyr Cymraeg.

SYLWADAU Nid oes gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf unrhyw swyddi (0%) mewn clinigau cleifion allanol ac ardaloedd prif fynedfeydd lle y nodir bod yr iaith Gymraeg yn hanfodol, fodd bynnag mae hyn yn cymryd i ystyriaeth nad oes recriwtio allanol. Yn dilyn trafodaethau yn yr Is-grŵp Iaith Gymraeg y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, rhagwelir y rhestrir Cymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer Swyddi Derbynyddion Cleifion Allanol newydd. O’r 140 o staff o fewn adrannau Cleifion Allanol mae 16 (11%) aelod o’r staff wedi cofrestru’n siaradwyr Cymraeg mewn prif fynedfeydd a chlinigau cleifion allanol. Noder, fodd bynnag, bod yr ystadegyn hwn ond yn cynnwys staff Gweinyddol a Chlerigol o fewn Adrannau Cleifion Allanol. Nid yw’n cynnwys staff Meddygol, Clinigol na Therapïau. Gweler rhagor o wybodaeth ar Recriwtio DIG 5.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

Cofrestr o’r Staff sy’n Siarad Cymraeg

DIG4 Technoleg Gwybodaeth TARGED Fe sicrha’r Bwrdd Iechyd fod ei wefan yn cael ei

datblygu'n ddwyieithog, a bod pob dogfen ddwyieithog ar gael i'r cyhoedd. Fe sicrha hefyd fod cynlluniau gwella yng nghyswllt pecynnau meddalwedd dwyieithog a Safonau Technoleg Gwybodaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael eu rhoi ar waith ledled y sefydliad, e.e. trwy sicrhau bod yr

Page 35: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

35

holl lythyron safonol at y cyhoedd a gynhyrchir gan y Systemau Gweinyddu Cleifion megis ‘Myrddin’ mewn fformat dwyieithog.

CYNNYDD Mae gwefan Cwm Taf Cwm bron yn barod. Cyfieithwyd mwyafrif ei gynnwys yn ystod 2012/13. Mae’r UG yn parhau i gynnal y cynnwys Cymraeg. Mae’r Cynorthwyydd Iaith Gymraeg wedi derbyn hyfforddiant Cascade ychwanegol er mwyn galluogi’r Uned i gynnal y cynnwys Cymraeg. Mae’r UG ar Grŵp Llywio’r Wefan newydd sy’n trafod ac yn gweithredu newidiadau i gynllun a chynnwys gwefan y Bwrdd Iechyd. Mae trafodaethau wedi parhau ynghylch Systemau Gweinyddu Cleifion. Mae’r UG a thîm Myrddin wedi gweithio â’i gilydd i oresgyn goblygiadau argraffu a chost. Mae cyfieithu llythyrau a thaflenni ategol system Myrddin yn mynd rhagddo’n dda, er bod oedi o hyd gyda materion yn ymwneud â’r system argraffu. Anfonwyd y system feddalwedd asesu dwyieithog at Bennaeth TG am y systemau gweinyddu cleifion presennol o fewn Cwm Taf. Mynychodd Pennaeth TG ddiwrnod hyfforddi ar Dechnoleg a Chyfieithu Cymraeg ar 14 Hydref 2011. Fodd bynnag, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi mynegi’r angen am ganllawiau pellach yn y maes hwn yn y gorffennol ond dydym ni ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg na Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r holl ddogfennaeth a gynhyrchwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn y maes hwn wedi ei dosbarthu i’r bobl briodol o fewn y Bwrdd Iechyd.

DATA AR DIG4 Fe edrydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar nifer y cynlluniau gwella sydd wedi cael eu paratoi a'u gweithredu'n llawn ar ôl cael eu hasesu gan ddefnyddio cynllun asesu meddalwedd ddwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

SYLWADAU Nid oes cynlluniau gwella (0%) wedi eu paratoi ac yn y broses o gael eu gweithredu yn dilyn asesiad gan ddefnyddio cynllun meddalwedd dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Nid yw’r ffurflen cynllun asesu ar gael bellach ar-lein i’w lawrlwytho a’i chwblhau.

Page 36: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

36

Byddai Cwm Taf yn groesau cefnogaeth ychwanegol gan Swyddfa’r Comisiynydd ar y targed hwn ar gyfer adroddiad blwyddyn nesaf.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

DIG5 Recriwtio TARGED Fe weithreda Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn gadarnhaol i

ddenu siaradwyr Cymraeg ac, wrth i swyddi gwag ymddangos, fe fydd yn asesu ac yn hysbysebu gofynion ieithyddol fel rhan o'r broses recriwtio.

CYNNYDD Yn ogystal â’r cynnydd a wnaed yn ystod 2011/12 (gweler adroddiad cynnydd ar DIG5) mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi sefydlu Is-grŵp y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol sy’n adrodd i bob cyfarfod y Grŵp Cymraeg ac yn cysylltu â Chydweithwyr Hŷn ar gyfer gwybodaeth a chynnydd. Mae trafodaethau manwl wedi eu cynnal parthed polisïau recriwtio a staffio yn ymwneud â recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg a’u lleoliad o fewn y sefydliad. Mae’r hinsawdd economaidd bresennol wedi gweld cyfyngu ar recriwtio allanol ymhlith Byrddau Iechyd yng Nghymru, gyda’r mwyafrif o’r swyddi gwag yn cael eu hysbysebu’n fewnol. Gobeithir y bydd gweithrediad Strategaeth Sgiliau Ieithyddol yn dylanwadu ar y nifer o swyddi gweigion a hysbysebir gyda’r Gymraeg fel sgil hanfodol. Gweler y wybodaeth ar DIG 3.

DATA AR DIG5 Fe edrydd y Bwrdd Iechyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran y swyddi gwag a hysbysebwyd lle'r rhagnodwyd bod y Gymraeg yn sgìl hanfodol, a'r ganran o'r rhain a lenwyd gan siaradwyr Cymraeg.

SYLWADAU Nid oedd un swydd (0%) wedi cynnwys Cymraeg yn sgil hanfodol. Yn dilyn ymarfer monitro iaith Gymraeg o recriwtio mae pob hysbyseb yn cael eu gwirio er mwyn sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn gofyn am Gymraeg yn Sgil Delfrydol ym Manyleb y Person. Fodd bynnag, roedd 100% o’r swyddi’n cynnwys yr Iaith Gymraeg yn sgil delfrydol. Er gwaethaf cyfyngiadau parhaol ar recriwtio allanol a llawer o apwyntiadau’n rhai mewnol, yn ystod yr un cyfnod roedd 12 o staff oedd yn siarad Cymraeg wedi eu recriwtio.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

Page 37: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

37

DIG6 Sgiliau Iaith TARGED Fe ddatblyga Bwrdd Iechyd Cwm Taf fframwaith

cymwyseddau ar gyfer recriwtio staff â sgiliau iaith priodol.

CYNNYDD Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn parhau i ddiweddaru ei gofrestr ar-lein o staff, sydd yn meddu ar sgiliau iaith Gymraeg, sydd yn drosglwyddadwy hefyd i’r System CSE. Mae eitemau newyddion ar y fewnrwyd yn atgoffa staff i gofrestru eu sgiliau, ac mae’r UG yn parhau i ddosbarthu a derbyn copïau papur o’r ffurflen gofrestru. Gofynnir i bob gweithiwr newydd, sy’n mynd trwy Gynefino Staff i gwblhau'r ffurflen hunanasesu a rhoddir y manylion ar y Gofrestr. Gellir defnyddio’r data hwn er mwyn dod o hyd i staff gyda sgiliau priodol. Ar ben hynny, mae’r Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn drafftio Strategaeth Sgiliau Iaith a fydd yn canolbwyntio hefyd ar ddefnyddio sgiliau presennol staff ac adnabod y bylchau mewn gwasanaethau lle mae angen siaradwyr Cymraeg. .

DATA AR DIG6 Fe edrydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran y staff ym mhob adran wasanaeth a phob gweithle sydd â sgiliau Cymraeg, gan nodi gradd eu swyddi.

SYLWADAU O’r 7975 o staff a gyflogir ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf, mae 120 (2%) o’r staff â sgiliau iaith Gymraeg wedi cofnodi eu manylion ar y gofrestr ar-lein

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

Cofrestr o’r Staff sy’n Siarad Cymraeg

DIG7 Hyfforddiant Iaith TARGED Fe sefydla Bwrdd Iechyd Cwm Taf hyfforddiant ar

gyfer swyddi allweddol lle mae'r angen mwyaf dybryd am sgiliau Cymraeg, er mwyn bodloni'r gofynion o ran darparu gwasanaeth safonol.

CYNNYDD Mae’r UG yn parhau i roi hyfforddiant un i un i staff mewn swyddi rheng flaen ar gais. Mae hi hefyd yn cynnal sesiynau gloywi Iaith i ddysgwyr da a phobl a fu mewn ysgolion eu cyfrwng nad ydynt wedi

Page 38: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

38

defnyddio/wedi cael y cyfle i ymarfer eu sgiliau Cymraeg yn ddigonol ers dyddiau’r ysgol. Yn ystod 2012/13 mae’r UG wedi darparu hyfforddiant i staff mewn Iechyd Meddwl (EMI) - Ysbyty Cwm Cynon, Practis Meddygol Dowlais, Uned Gofal Stoma (Ysbyty Brenhinol Morgannwg). Hysbysebir dosbarthiadau Prifysgol Morgannwg a dosbarthiadau/digwyddiadau lleol Menter Iaith i’r holl staff ar y fewnrwyd, ynghyd â rhestr o wefannau lle gall staff ddysgu Cymraeg ar-lein. Mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ar hyn o bryd yn rhedeg cwrs blwyddyn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Bwriedir cynnal cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle wedi eu targedu at staff rheng flaen ar gyfer Ebrill, Mai a Mehefin 2013 mewn lleoliadau gwahanol yng Nghwm Taf. Mae’r cwrs yn un achrededig gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion lleol. Mae deunyddiau dysgu Cymraeg wedi eu rhoi yn y llyfrgelloedd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg a hefyd yn yr ystafell hyfforddi yn y Canolbwynt Cysylltiadau. Gweler y wybodaeth ar DIG3.

DATA AR DIG7 Fe edrydd y Bwrdd Iechyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran yr aelodau staff sydd wedi derbyn hyfforddiant yn y Gymraeg hyd at lefel cymhwyster penodol.

SYLWADAU Ar hyn o bryd mae Cwm Taf yn ymwybodol o 14 aelod o staff sy’n derbyn hyfforddiant Iaith Gymraeg i fyny at lefel cymhwyster penodol. Sef: Jessica Minty, Y Ganolfan Gysylltiadau Laura Roberts, Y Ganolfan Gysylltiadau Louise Gillam, Deietegydd Julie Hayward, Cyllid 6 x staff yn nosbarth Cymraeg i Oedolion Ysbyty’r Tywysog Siarl Claire Williams, Cynllunio a Phartneriaethau Julie Hodge, Ysgrifennyddes Feddygol Cheryl Evans, Ffisiotherapi Jane Price, Nyrs - Cleifion Allanol Nid yw bob amser yn bosibl i gynnwys staff sy’n dysgu Cymraeg yn y gymuned yn yr ystadegyn hwn oherwydd materion cyfrinachedd. Rydym yn sicr bod aelodau eraill o staff sy’n dysgu Cymraeg yn y

Page 39: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

39

gymuned nad ydynt wedi dod ymlaen na chofrestru eu sgiliau drwy’r system CSE. Yn 2012/13 mae 14 (0.2%) aelod o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Gymraeg i fyny at lefel cymhwyster penodol.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

DIG8 Hyfforddiant mewn Ymwybyddiaeth o'r Iaith TARGED Fe ddarpara Bwrdd Iechyd Cwm Taf hyfforddiant

mewn ymwybyddiaeth o'r iaith ar gyfer pob aelod newydd o'r staff fel rhan o'r rhaglen sefydlu gorfforaethol gan ddefnyddio deunydd ymwybyddiaeth ‘Iechyd Da’, a hynny o fewn 1 mis ar ôl iddynt ddechrau yn eu swydd. Fe drefnir sesiynau ‘Iechyd Da’ hefyd ar gyfer 5% o'r staff presennol.

CYNNYDD Rhoddir sesiynau ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yn ystod y diwrnod cynefino i staff newydd. Mae’r UG hefyd yn rhoi sesiwn ymwybyddiaeth debyg i grwpiau o staff ar gais. Yn 2012/2013 mae’r UG wedi darparu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymraeg i 64 o aelodau o’r staff yn y Gwasanaeth Arlwyo. Mae dau is-grŵp hyfforddi sef, Hyfforddiant Cynefino Staff, a Hyfforddiant Statudol a Gorfodol yn cwrdd hefyd i drafod hyfforddiant staff. Mae’r UG yn mynychu’r ddau grŵp i sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg priodol yn cael ei gynnwys yng nghynlluniau hyfforddiant y dyfodol. Ym mis Rhagfyr 2012, mynychodd y Cynorthwyydd Iaith Gymraeg gwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ oedd wedi canolbwyntio ar gyflwyno sesiwn Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg effeithiol. Mae’r UG bellach wedi diwygio’r sesiwn Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg er mwyn cynnwys technegau newydd a fydd yn anelu at fwyhau ymwybyddiaeth staff. Mae’r Uned Gymraeg yn parhau i gyflwyno’r sesiwn hwn fel rhan o’r cynllun hyfforddi ‘Creu Diwylliant o Ofal’ sydd wedi denu niferoedd mawr o staff ar draws y Bwrdd Iechyd. Bydd y cwrs yn parhau yn 2013/14.

DATA AR DIG8 Fe edrydd y Bwrdd Iechyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Page 40: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

40

am nifer a chanran yr aelodau staff sydd wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.

SYLWADAU Yn ystod 2012/13, derbyniodd 103 o aelodau newydd o’r staff hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith fel rhan o ddiwrnod cynefino staff. Derbyniodd 114 aelod o’r staff presennol sesiwn ymwybyddiaeth iaith ychwanegol gan Uned yr Iaith Gymraeg. Fel cyfanswm mae 217 (3%) o staff newydd sydd wedi derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

E-bost gan Ddysgu a Datblygu a’r Rheolwr Arlwyo

DIG9 Cwynion TARGED Fe sicrha Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod cwynion

ynghylch gweithrediad Cynllun yr Iaith Gymraeg yn cael eu trin yn ddi-oed ac yn unol â gweithdrefnau corfforaethol y sefydliad.

CYNNYDD Mae Tîm Pryderon Cwm Taf yn delio â phob cwyn ac yn dilyn gweithdrefnau corfforaethol safonol. Os bydd cwyn sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn codi, hysbysir yr Uned o’r gwyn, a gofynnir iddi ddarparu gwybodaeth er mwyn cynorthwyo’r tîm cwynion â’i ymchwiliad a bydd Uned yr Iaith Gymraeg yn cynorthwyo er mwyn datrys y mater.

DATA AR DIG9 Fe edrydd y Bwrdd Iechyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer y cwynion a dderbynnir ynghylch gweithrediad Cynllun yr Iaith a'r ganran o gwynion sy'n cael eu trin yn unol â safonau'r sefydliad.

SYLWADAU Yn ystod 2012/13, ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol (0%) yn ymwneud â’r Cynllun Iaith Gymraeg. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion anffurfiol (0%) yn ystod 2012/13.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

E-bost gan Reolwr Pryderon a Rheolwr Profiad y Claf

DIG10 Cyhoeddusrwydd TARGED Fe hyrwydda Bwrdd Iechyd Cwm Taf weithgareddau

penodol a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg fel y

Page 41: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

41

gall siaradwyr Cymraeg ddewis eu defnyddio.

CYNNYDD Ar Hafan yr UG mae dolenni i wefannau Menter Iaith sy’n rhestru eu holl weithgareddau. Ar ben hynny, hysbysebir dosbarthiadau a redir gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion, a sefydliadau allanol eraill ar yr Hafan. Rhestrir dolenni i wefannau sy’n ddefnyddiol i siaradwyr Cymraeg yma hefyd. Mae Cwm Taf wedi parhau â’i gystadleuaeth ddwyieithog i staff. Mae’r Swyddog Iaith Gymraeg yn un o’r bobl gyswllt i’r staff a fydd efallai am geisio am ganllawiau am y gystadleuaeth. Y Themâu ydy 1. Mwy na geiriau 2. Natur – dod â’r tu allan i mewn 3. Bywyd a diwylliant modern. Bydd y gweithiau a fydd yn ennill yn cael eu rhoi yn ardaloedd cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Ym mis Awst 2012, roedd Cwm Taf wedi hyrwyddo ac wedi cymryd rhan yng Nghegaid o Fwyd Cymru ym Mhontypridd. Roedd siaradwyr Cymraeg yn bresennol ac wedi siarad ag ymwelwyr am wasanaethau’r Bwrdd Iechyd. Mae “Little Dippers” grŵp dŵr i famau a phlant bach ar gael i bawb ac mae’r grŵp hwn yn ddwyieithog hefyd, gan gynnig y cyfle i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn Gymraeg. Hyrwyddir digwyddiadau lleol eraill drwy’r Bwrdd Iechyd, lle mae sawl person ar gael i siarad â siaradwyr Cymraeg. Cynrychiolodd y Cynorthwyydd Iaith Gymraeg Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn Eisteddfod Genedlaethol 2012, ac fe’i hysbysebwyd hefyd i staff o fewn Cwm Taf. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi’n rheolaidd storïau o newyddion da’n ddwyieithog drwy'r cyfryngau lleol. Gweler y wybodaeth o dan yr adran ‘Cyhoeddusrwydd’. Mae cylchlythyr y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnwys tudalen Gymraeg. Gweler y wybodaeth ar DIG 4 am ddiweddariad ar y wefan.

DATA AR DIG10 Fe edrydd y Bwrdd Iechyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am nifer a chanran y galwadau a dderbynnir yn Gymraeg gan ei linellau ffôn a'r Canolfannau Galw.

Page 42: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

42

Byddwn hefyd yn cofnodi ac yn adrodd am nifer a chanran y gwasanaethau Cymraeg a ddefnyddir trwy gyfrwng y Gymraeg.

SYLWADAU Yn ystod 2012/13, bu 2 alwad Gymraeg (0.002%) yng Nghanolfan Alwadau Tŷ Elái. Yn ystod 2012/13 roedd 25,759 (3.3%) o drawiadau ar y wefan Gymraeg.

TYSTIOLAETH YCHWANEGOL

E-bost gan Arweinydd Tîm y Ganolfan Alwadau

Y CAMAU NESAF A’R CYNLLUN GWELLA Yn ystod 2013/14 bydd Cwm Taf yn parhau yn ei ymdrechion i wella darpariaeth iaith Gymraeg i drigolion Cwm Taf. Mae’r Grŵp Cymraeg eisoes wedi trafod cynlluniau a meysydd targed y dyfodol er mwyn hyrwyddo a gweithredu mentrau Cymraeg mewn llawer o ardaloedd. Rhagwelir llawer o newidiadau yn ystod 2013/14 yn dilyn apwyntiad Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ymateb i ymarferion ymgynghori ar gynigion newydd ac yn croesawu unrhyw newid i gynlluniau a fydd yn anelu at wella darpariaeth gwasanaethau dwyieithog i’n defnyddwyr gwasanaethau. Hyd nes bo cynlluniau newydd yn cael eu cyflwyno, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i weithredu ei Gynllun Iaith Gymraeg presennol ac yn ymdrechu i sicrhau bod gwelliannau i’n gwasanaethau Cymraeg yn parhau. Bydd y Swyddog Iaith Gymraeg yn cwrdd â chydweithwyr eraill o Fyrddau Iechyd a sefydliadau sector cyhoeddus ac yn mynychu cyfarfodydd a seminarau er mwyn sicrhau bod Cwm Taf yn cael ei hysbysu o faterion iaith Gymraeg cyfredol. Bydd Cwm Taf yn edrych i’w gynllun gweithredu a’i amserlen darged yn ei Gynllun Iaith Gymraeg ac yn parhau i wneud cynnydd ar gyflawni Targedau’r Dangosyddion Iaith Gymraeg. Yn arbennig, mae Cwm Taf yn bwriadu gweithio’n agos â Gofal Sylfaenol er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad i wasanaethau Cymraeg o’r pwynt cyswllt cyntaf un â’r Bwrdd Iechyd, a byddwn yn archwilio’r ffyrdd o drosglwyddo’r dewis Iaith hwn heb i’r defnyddiwr gwasanaethau orfod gofyn na chwilio am wasanaethau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddefnyddio’r strategaeth ‘Mwy na geiriau’, a hyrwyddo ei chynnwys i staff ar draws y Bwrdd Iechyd yn y gobaith y daw’r ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau Cymraeg yn troi’n beth arferol ac y bydd staff yn ymwybodol o bwysigrwydd o ddarparu

Page 43: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

43

pob gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl dewis Iaith defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn canolbwyntio ar weithredu Strategaeth Sgiliau Dwyieithog dros y flwyddyn nesaf, a fydd yn ei dro yn gwella ymwybyddiaeth staff o’r angen i recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg, lleoli staff sy’n siarad Cymraeg yn fwy effeithiol, a bydd hyn yn arwain at fwy o staff yn derbyn hyfforddiant Iaith Gymraeg. Bydd hyn yn mwyhau cyflwyniad gwasanaeth dwyieithog mwy cyson a hyrwyddo cydraddoldeb gwasanaethau Cymraeg a Saesneg ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae’n fwriad gan Gwm Taf barhau i adeiladu ar ei gyflawniadau eleni i godi proffil y Cynllun Iaith Gymraeg a’i ofynion. Bydd pob aelod newydd o’r staff yn parhau i dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, a gwneir gwaith pellach i sicrhau ymwybyddiaeth yr holl staff ar draws y Bwrdd Iechyd er mwyn mwyhau cydymffurfiaeth â’r Cynllun a chryfhau darpariaeth iaith Gymraeg drwy Gwm Taf. Tystiolaeth

Page 44: BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN …cwmtafmorgannwg.wales/Docs/Board_Papers/Legacy 2013-2014... · 2017. 9. 7. · 1 BWRDD IECHYD CWM TAF ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN

44