agored i fusnes
DESCRIPTION
Ymgynghoriad Plaid Cymru Mai 2014TRANSCRIPT
2
Rhagair Bu sylwebyddion, y rhan fwyaf o wleidyddion ac eraill yn ystod y Dirwasgiad Mawr ac wedyn, yn canolbwyntio ar ddangosyddion economaidd oedd fwyaf amlwg ar hyd y DG.
Mae Plaid Cymru yn croesawu pob arwydd fod pethau ar i fyny, a bod mwy o bobl mewn gwaith, am fod hyn yn dangos fod yr economi’n fwy hyderus unwaith eto.
Ond mae cael ein dwyn i mewn i ddadleuon ynghylch y prif ffigyrau’n unig yn golygu fod perygl i ni esgeuluso mater o bwys mawr i Gymru: y beiau strwythurol hanesyddol dwfn yn ein heconomi ni ein hunain sydd wedi golygu, hyd yn oed ar adegau o dwf cymharol yn y DG, fod cyfleoedd am i fusnesau dyfu ac i bobl yng Nghymru gael swyddi diogel gyda sgiliau a chyflogau da yn cael eu rhwystro.
Yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, gwnaed ymrwymiad i’r sector busnes i gynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda busnesau a mudiadau eraill sy’n eu cynrychioli fyddai yn ein helpu i wneud Cymru y lle gorau yn Ynysoedd Prydain i gynnal busnes ac i roi i arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid ran na bu ei thebyg o’r blaen i bennu gwariant cyfalaf y llywodraeth fel bod modd gwneud y gorau oll o fuddsoddiad er lles economaidd y tymor hir.
Dyma wireddu’r addewid hwnnw. Rydym eisiau clywed barn arweinwyr busnes ar amrywiaeth o bynciau – o seilwaith i sgiliau ac o bolisi caffael i allforion. Rydym eisiau sector busnes ffyniannus oherwydd bod hynny yn ganolog i adeiladu cenedl gyfiawn, ffyniannus a hyderus. Rydym yn gwrthod y syniad fod hyblygrwydd busnes a safonau uchel mewn amodau gwaith yn gwrth-ddweud ei gilydd. Yn aml, y gwledydd gyda’r lefelau uchaf o weithgaredd busnes yw’r rhai gydag amodau gorau i’r farchnad lafur. I gael swyddi gyda chyflogau uchel a llawer o sgiliau, mae angen amgylchedd busnes llwyddiannus. Mae’r naill yn ategu’r llall. Ni ddylid caniatáu i’r gwelliant economaidd fod unwaith eto yn adferiad gwag i Gymru. I osgoi hyn, bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda phob partner i ofalu y byddwn yn goresgyn gwendidau strwythurol ein heconomi, ac yn ail-godi ein cenedl. Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Leanne Wood AC Rhun ap Iorwerth AC Arweinydd Plaid Cymru Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi
3
Tabl Cynnwys
Y sefyllfa bresennol 4
Amdanoch chi 7
Busnes a llywodraeth 9
Busnes a chyllid 12
Busnes a chyllid Ewropeaidd 11
Busnes a seilwaith 17
Busnes ac allforion 21
Busnes ac ardrethi 23
Busnes a sgiliau 25
Busnes a chaffael 27
Busnes a threthi 29
Busnes a mewnfuddsoddiant 30
Sut i ymateb
Anfonwch bob ymateb i’r ymgynghoriad at [email protected]
17:00 ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf yw dyddiad cau’r ymgynghori.
Plaid Cymru – the Party of Wales
www.plaidcymru.org
4
Y sefyllfa bresennol
A rhagdybio y bydd twf blynyddol y DG yn dychwelyd i’r gyfradd tymor-hir o 2% yn y ddegawd sydd i ddod, a bod Cymru yn parhau i fod y tu ôl i’r DG o 0.5% ar gyfartaledd, yna ar y rhagamcanion presennol, erbyn 2016 bydd y GVA y pen yn 70.3% o ffigwr y DG, ac erbyn 2036 prin y bydd dros 60%. Tabl 1: Comisiwn y DG ar Gyflogaeth a Sgiliau, Cyfradd Twf Blynyddol, Gros Ychwanegu Gwerth a Chyflogaeth (%)1
Mae’r data yn Nhabl 1, a gymerwyd o adroddiad Comisiwn y DG ar Gyflogaeth a
Sgiliau, yn darlunio pwynt y bu Plaid Cymru yn wneud ers tro byd - fod Cymru wedi
gwneud yn weddol dda o ran creu swyddi, ond yn wael o ran GVA, sy’n golygu bod y
swyddi yr ydym yn eu creu yn swyddi o werth isel gyda chyflogau gwael. Rhaid i drin
y broblem hon a dwyn gwell swyddi, yn hytrach na dim ond mwy o swyddi, i Gymru
fod yn ganolog i’n hymdrechion i gau’r bwlch rhyngom a gweddill y DG.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi amlygu pwysigrwydd ein sylfaen allforio fel catalydd i
dwf economaidd. Bu canol i ddiwedd y nawdegau yn gychwyn cyfnod gweddol faith o
ddirywiad ym mherfformiad economaidd Cymru a dirywiad cyfatebol yn allforion net
Cymru.
Rhwng 1996 a 1999 cwympodd allforion net Cymru (y tu allan i’r DG) o £1.6 biliwn,
oedd yn cyfateb i 6% o GDP Cymru - yr un swm a chwymp GDP Cymru mewn
perthynas â gweddill y DG yn ystod hanner olaf y nawdegau.
Mae’r difrod i’r sector busnes yn ystod y cyfnod hwn yn dal yn berthnasol heddiw. Yn ystod yr un cyfnod o ganol i ddiwedd y nawdegau, cafwyd gostyngiad llym yn elw busnesau Cymru. Yr oedd gan y Gwarged Gweithredu Crynswth - sydd yn cynnwys incwm nad yw’n deillio o gyflogau - gyfran uwch yn GVA Cymru na’r DG gyfan ar gychwyn y nawdegau, ond dymchwelodd yng nghanol y ddegawd, ac y mae yn awr 5% yn is nac ar gyfer y DG.
1 UKCES, 2012. Working Futures: Report for Wales. Ar gael yma:
http://www.ukces.org.uk/assets/ukces/docs/publications/working-futures-wales-final-report.pdf. P.5
GVA Cyflogaeth 2000-2010 2010-2020 2000-2010 2010-2020 Lloegr 1.5 2.7 0.4 0.5 Cymru 0.9 2.2 0.7 0.5 Yr Alban 1.5 2.2 0.4 0.2 Gogledd Iwerddon 1.4 2.5 1.0 0.5 Y Deyrnas Gyfunol 1.5 2.7 0.4 0.5
5
32%
34%
36%
38%
40%
42%
44%1
98
9
19
90
19
91
19
92
19
93
19
94
19
95
19
96
19
97
19
98
19
99
20
00
20
01
20
02
20
03
20
04
20
05
20
06
20
07
20
08
20
09
20
10
20
11
20
12
Gwarged Gweithredol Gros
Cymru
DG
0
500
1000
1500
2000
2500
3000
3500
4000
4500
Ch
war
ter
1, 1
99
6
Ch
war
ter
4, 1
99
6
Ch
war
ter
3, 1
99
7
Ch
war
ter
2, 1
99
8
Ch
war
ter
1, 1
99
9
Ch
war
ter
4, 1
99
9
Ch
war
ter
3, 2
00
0
Ch
war
ter
2, 2
00
1
Ch
war
ter
1, 2
00
2
Ch
war
ter
4, 2
00
2
Ch
war
ter
3, 2
00
3
Ch
war
ter
2, 2
00
4
Ch
war
ter
1, 2
00
5
Ch
war
ter
4, 2
00
5
Ch
war
ter
3, 2
00
6
Ch
war
ter
2, 2
00
7
Ch
war
ter
1, 2
00
8
Ch
war
ter
4, 2
00
8
Ch
war
ter
3, 2
00
9
Ch
war
ter
2, 2
01
0
Ch
war
ter
1, 2
01
1
Ch
war
ter
4, 2
01
1
Ch
war
ter
3, 2
01
2
Ch
war
ter
2, 2
01
3
Gw
ert
h (
£ m
iliw
n)
Cyfanswm Allforion Cymru mewn Nwyddau
Siart 1: Gwarged Gweithredu Crynswth busnesau Cymru a’r DG fel % o GVA
Tra bod datblygu economaidd wedi ei ddatganoli mewn enw, mae llawer o sbardunau polisi economaidd ystyrlon fyddai ar gael i lywodraeth genedlaethol annibynnol- polisi cyfradd gyfnewid, hybu ariannol neu arianyddol ac ati, allan o gyrraedd Llywodraeth Cymru. Mae angen peth creadigrwydd felly i ddatblygu polisi ar lefel Llywodraeth Cymru.
Ers y dirywiad mewn allforion Cymreig yng nghanol y nawdegau, mae’r ffigyrau wedi gwella’n sylweddol:
Siart 2: Cyfanswm Allforion Cymru mewn Nwyddau.
6
Fodd bynnag, mae’r cwymp sydyn mewn allforion ddiwedd 2012 yn datgelu gwendid yn adferiad Cymru. Ers 1996, mae allforion Cymru wedi bod yn llai amrywiol o lawer. Yn 1996 cofrestrodd saith sector gyfran o 5% neu fwy o gyfanswm yr allforion. Erbyn 2012 roedd hyn wedi cwympo i ddim ond pedwar, gyda dau sector, cynhyrchion petroliwm a pheirianwaith cynhyrchu pŵer, yn gyfrifol am dros hanner (51%) o gyfanswm allforion Cymru.
Mae’n amlwg fod yn rhaid i ni ehangu ac amrywio sylfaen allforion Cymru, ond rhaid i ni edrych hefyd ar fuddsoddiad o’r tu allan fel dull o gynyddu cynnyrch economaidd Cymru.
Mae denu buddsoddiad o’r tu allan nid yn unig yn rhoi hwb uniongyrchol i’r economi trwy greu swyddi a denu mwy o refeniw treth, ond hefyd, fel y dywed Partneriaeth Busnes Caerdydd ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn eu hadroddiad ‘Gwerthu Cymru’, yn cynhyrchu sgil-gynhyrchion i’r economi lleol ac “…yn creu cynnwrf economaidd; mae hyn yn adfywio syniadau ac yn dod â chyfalaf sydd ei fawr angen i gwmnïau lleol”.2 Cafwyd cryn newid mewn buddsoddiad o’r tu allan ers datganoli. Yn 2006, cymerwyd y brand oedd yn cael ei adnabod ledled y byd, ‘ADC’ (Awdurdod Datblygu Cymru) i mewn i Lywodraeth Cymru a’i ail-frandio fel Busnes Rhyngwladol Cymru (BRhC). Comisiynodd llywodraeth Cymru’n Un a ddaeth ar ei ôl adroddiad (Adolygiad Massey)3 i asesu ei berfformiad yn denu buddsoddiad o’r tu allan, oedd yn feirniadol iawn o BRhC ac a arweiniodd at ei gau yn 2010.
Bu denu buddsoddiad o’r tu allan ers dileu ADC yn anodd i Lywodraeth Cymru. Fel gyda’r rhan fwyaf o ddangosyddion economaidd, niwlog yw’r ffigyrau am fuddsoddiad tramor uniongyrchol ar lefel is-DG, ond os ystyrir y ffigyrau o ran prosiectau buddsoddiad o’r tu allan yn eu cyfanrwydd a enillwyd, tawel eithriadol fu’r ddegawd ddiwethaf i Gymru. Ar y llaw arall, y mae’r Alban, yr oedd eu gweithgaredd ddiwedd y ‘90au yn is o lawer na gweithgaredd Cymru, bellach wedi goddiweddyd yr holl genhedloedd a rhanbarthau safonol ac mae’n arwain y DG.
Mae her yn wynebu Cymru. Mae pwysigrwydd elw busnes i’r economi ehangach yn glir. Mae’r cyswllt rhwng elw a chynnyrch economaidd ehangach wedi ei brofi, a dim ond trwy ddwyn pob sector at ei gilydd mewn partneriaeth a chydweithredu ystyrlon y daw ein gwlad i’r amlwg eto fel stori o lwyddiant mewn busnes rhyngwladol. Mae Plaid Cymru yn galw am eich barn ac am eich cyfraniad wrth i ni weithio i adeiladu rhaglen am lywodraeth fydd yn golygu y bydd Cymru yn rhyddhau ei photensial.
2 Crawley, A., Munday, M. a Delbridge, R. (2012). Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting
Inward Investment. Caerdydd: Prifysgol Caerdydd. 3 Ar gael yma: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/reviewofibw/?lang=en.
7
Amdanoch chi Mae’r ymgynghoriad hwn yn ddienw, ond i roi’r sail orau o wybodaeth i’n proses o lunio polisi ac i ddeall yn llawnach yr hyn mae arweinwyr busnes yn feddwl, fe fyddai Plaid Cymru yn ddiolchgar petaech yn llenwi pob adran o’r ymgynghoriad hwn sy’n berthnasol i chi. Pa un o’r isod sy’n eich disgrifio orau?
Perchennog busnes Cyfarwyddwr Arall (nodwch)
Rheolwr Cyfranddaliwr
……………………….. Ym mha rannau o’r wlad yr ydych yn gweithredu yn broffesiynol?
Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg Caerdydd Caerfyrddin Caerffili Casnewydd Castell Nedd Porth Talbot Ceredigion Conwy Gwynedd
Merthyr Tudful Pen-y-bont Powys Rhondda Cynon Taf Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Fynwy Sir y Fflint Torfaen Wrecsam Ynys Môn
Ers faint o flynyddoedd y buoch yn ymwneud â’r sector busnes?
Llai na blwyddyn Llai na deng mlynedd Llai na 30 mlynedd
Llai na 5 mlynedd Llai na 20 mlynedd 30 mlynedd neu fwy
Pa sector o’r economi y mae eich busnes yn rhan ohono?
Cynhyrchu Moduron Adwerthu Llety a gwasanaethau bwyd Cyllid ac yswiriant Proffesiynol; gwyddonol a
thechnegol Addysg Celfyddydau; adloniant, hamdden
a gwasanaethau eraill
Adeiladu Cyfanwerthu Trafnidiaeth a Storio (g.g. post) Gwybodaeth a chyfathrebu Eiddo Gweinyddu busnes a
gwasanaethau cefnogi Iechyd
A ydych yn:
Ddyn Menyw
8
Faint o weithwyr sydd gan eich cwmni?
1-9 10-99 100-199 200+
Ai chi yw unig gyfarwyddwr y cwmni?
Ie Na
9
Busnes a Llywodraeth
Daeth tystiolaeth i’r amlwg fod diffyg gwybodaeth yn aml am raglenni’r llywodraeth sydd i fod i gynnal busnesau ac nad yw’r llywodraeth yn mynd ati i ymwneud â busnes. Ydych chi wedi ceisio cyngor neu gefnogaeth busnes gan Lywodraeth Cymru?
Do Naddo Oeddech chi’n fodlon efo’r gefnogaeth gawsoch chi?
Oeddwn Na D/G Beth fuasech chi’n wneud yn well am eich profiad? Ydych chi wedi ceisio cyngor neu gefnogaeth busnes gan lywodraeth y DG?
Do Naddo Oeddech chi’n fodlon efo’r gefnogaeth gawsoch chi?
Oeddwn Na D/G Beth fuasech chi’n wneud yn well am eich profiad?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
10
A yw Llywodraeth y DG wedi mynd ati i gysylltu â chi gyda chynigion am gefnogaeth busnes?
Ydyw Na A yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i gysylltu â chi gyda chynigion am gefnogaeth busnes?
Ydyw Na Fyddai cyswllt o’r fath o werth i chi?
Byddai Na Fuoch chi’n ymwneud â llywodraeth leol o ran eich busnes a’i ragolygon?
Do Na Oes gennych chi sylwadau am eich profiadau o ddelio â llywodraeth leol?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
11
Busnes a chyllid Dengys arolwg Voice of Business Ffederasiwn y Busnesau Bach fod 42% o aelodau’r FSB yn dweud fod llif arian yn rhwystr i dwf – yr ail rwystr mwyaf wedi ‘yr economi’ yn gyffredinol.4 Dangosodd yr un arolwg fod hanner y sawl a fenthycodd arian dros y 12 mis diwethaf wedi gwneud hynny er mwyn sicrhau llif arian. Mae llawer yn dweud, fodd bynnag, fod bwlch cyllido o £500 miliwn yng Nghymru rhwng y galw am BBaCh a’r hyn a gyflenwir gan y sector bancio.5 Ydych chi wedi ceisio cyllid gan fanc yn ddiweddar?
Do Na Oedd eich cais yn llwyddiannus?
Oedd Na D/G Oes gennych chi sylwadau am eich profiad o ddelio â banciau? Ydych chi wedi clywed am Cyllid Cymru?
Do Na Aethoch chi at Cyllid Cymru am gyngor neu gefnogaeth?
Do Na
4 FSB, (2014). Voice of Small Business. T.33
5 Jones-Evans, D. (2013). Access to finance review: Stage 2 report. Caerdydd: Llywodraeth Cymru
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
12
Beth oedd eich profiadau o ddelio â Cyllid Cymru? A oes unrhyw fecanweithiau ariannol fel grantiau cyhoeddus a gawsoch neu y gwnaethoch gais amdanynt? Rhannwch unrhyw brofiadau gawsoch yn hyn o beth:
Mae Plaid Cymru wedi cynnig sefydlu banc datblygu busnes mewn dwylo cyhoeddus,
nid-am-ddifidend, hyd-braich i Gymru.
Byddai Banc Cymru yn cynnig cyllid i fusnesau ar gyfraddau cystadleuol ac ar yr un
pryd yn bod yn siop un stop i gefnogi busnesau trwy ddwyn ynghyd wahanol ffrydiau
cymorth Llywodraeth Cymru i un corff hawdd ei gyrraedd.
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
13
A ydych yn cytuno fod Banc Cymru fel sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru yn syniad
da?
Ydw Na
Ydych chi’n meddwl y gallai eich busnes elw o gynnig Plaid Cymru am Fanc Cymru?
Ydw Na
Pa wasanaethau hoffech chi eu gweld fel rhan o‘r cynnig am Fanc Cymru?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
14
Busnes a chyllid Ewropeaidd Ers 2000, mae Cymru wedi bod yn gymwys am arian cydgyfeiriant a strwythurol
Ewropeaidd oherwydd perfformiad economaidd gwael rhai o’n rhanbarthau. Bwriad
yr arian yw rhoi cymorth i’r rhanbarthau hyn gau’r bwlch economaidd â chyfartaledd
yr UE.
O ganlyniad, derbyniodd Cymru dros £3.4 biliwn mewn cyllid Ewropeaidd, sydd,
ynghyd â chyllid cyfatebol o amrywiaeth o ffynonellau, wedi cynhyrchu dros £11
biliwn o gyfanswm buddsoddiad mewn prosiectau yng Nghymru.
Fodd bynnag, dengys y data GDP ar gyfer Cymru fod y rhanbarth o Gymru sydd yn
perfformio waethaf, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, mewn gwirionedd wedi colli tir,
o 65% i 64% o gyfartaledd yr UE, tra bo Cymru gyfan wedi cwympo hefyd o 75% i
74%.
Yn 2014 mae rownd gyllido newydd yn ymddangos, lle bydd Cymru yn derbyn dros
£2 biliwn o arian ychwanegol hyd at 2020.
A yw eich busnes yn elwa o fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd?
Ydyw Nac ydyw
A yw eich busnes wedi elwa yn uniongyrchol o neilltuo arian cydgyfeiriant a
strwythurol Ewropeaidd?
Ydyw Nac ydyw
A yw eich busnes wedi elwa yn anuniongyrchol o neilltuo arian cydgyfeiriant a
strwythurol Ewropeaidd? (Er enghraifft, trwy welliannau ffyrdd yn eich ardal).
Ydyw Nac ydyw
Ydych chi’n meddwl fod Llywodraeth Cymru yn gwario arian Ewropeaidd yn ddoeth?
Ydwyf Na
Beth ellir ei wneud i wella’r ffordd mae arian Ewropeaidd yn cael ei rannu?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
15
Mae Plaid Cymru wedi cynnig sefydlu corff dan arweiniad y sector preifat i weithio ar
hyd braich o’r llywodraeth ond ochr yn ochr â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i
roi canllawiau am sut y dylid gwario cyllid Ewropeaidd.
Ar hyn o bryd, adweithio y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i geisiadau am
gyllid; gallai’r corff dan arweiniad y sector preifat fynd ati yn rhagweithiol, gan
chwilio am gyfleoedd buddsoddi posib a bod yn gatalydd i ymwneud rhwng y
swyddfa gyllid a darpar-bartneriaid.
Ydych chi’n meddwl y gallai’r sector preifat gynnig cyfraniad gwerthfawr i’r broses o
neilltuo arian Ewropeaidd?
Ydwyf Na
A ydych yn cytuno fod rhoi llais i’r sector preifat yn y penderfyniadau ynghylch
dyrannu cyllid Ewropeaidd yn syniad da?
Ydwyf Na
Ydych chi’n meddwl fod mabwysiadu agwedd ragweithiol at ddyrannu cyllid yn beth
da?
Ydwyf Na
Sut, yn eich barn chi, y gallai busnes ymwneud yn fwy uniongyrchol â gwaith y
llywodraeth o dyfu’r economi yn fwy cyffredinol?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
16
Pa fath o brosiectau ddylai dderbyn arian strwythurol Ewropeaidd?
Ydych chi’n meddwl y dylai’r corff newydd dan arweiniad y sector preifat gynnwys
cynrychiolwyr o’r prifysgolion?
Ydw Na
Pa sectorau eraill ddylai gael eu cynrychioli ar y corff newydd?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
17
Busnes a seilwaith
Mae seilwaith mewnol Cymru yn ffurfio system nerfol ganolog ein cenedl. Mae
rhwydweithiau o ffyrdd, rheilffyrdd a cheblau digidol yn cysylltu pobl â gweithgaredd
economaidd ac yn gwneud llif cyfalaf a masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau yn
bosib. Mae cyrraedd seilwaith da yn annog entrepreneuriaeth, buddsoddi a
gweithgaredd economaidd yn gyffredinol.
Astudiodd adroddiad gan Martin Boddy i’r Panel Ymgynghorol Ymchwil
Economaidd yn Llywodraeth Cymru yn 2006 achosion sylfaenol y bwlch o 40% yn
2003 rhwng GVA fesul gweithiwr yn Llundain ac and yng Nghymru. Un o’r ffactorau
mwyaf a nodwyd gan Boddy oedd natur ymylol.6
A yw eich busnes yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru?
Ydyw Na
A yw eich busnes yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth â rhannau eraill y DG?
Ydyw Na
A yw seilwaith trafnidiaeth gwael yn effeithio ar eich busnes?
Ydyw Na
Beth yw eich profiad o seilwaith trafnidiaeth yn eich ardal?
Os caiff Llywodraeth Cymru bwerau i fenthyca, mae Plaid Cymru wedi galw am
ddefnyddio benthyca i dalu am rwydwaith metro cludiant cyhoeddus integredig yn
Ne-Ddwyrain Cymru a’r Cymoedd.
6 Boddy, M. (2006). ‘Understanding productivity variations between Wales and the rest of the UK.’ Report to
the Economic Research Advisory Panel, Welsh Assembly Government. Bryste: Prifysgol Gorllewin Lloegr
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
18
Amcangyfrifir y bydd y cynigion am metro tua £1 biliwn – yn fras yr un swm â’r
cynigion i adeiladu M4 newydd i’r de o Gasnewydd.
A ydych yn cytuno y byddai buddsoddi mewn system metro yn gwella cynhyrchedd
Cymru yn y tymor hir?
Ydwyf Na
O ystyried mai traffig cymydu lleol sy’n cyfrannu at lawer o’r tagfeydd ar yr M4, a
ydych yn cytuno y byddai buddsoddi mewn system metro, gan fynd â chymudwyr
oddi ar y draffordd, yn ffordd well o wario adnoddau gwerthfawr nac M4 newydd?
Ydwyf Na
Yn eich barn chi, pa welliannau i seilwaith y ffyrdd sydd eu hangen yn eich ardal?
A yw eich busnes yn defnyddio meysydd awyr?
Ydyw Na
Os felly, a ydych yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd?
Ydwyf Na D/G
Os nad ydych, pam?
Rhy bell i ffwrdd Anodd ei
gyrraedd
Rhy ddrud Arall
Dim digon deithiau …………………………
Mae Plaid Cymru wedi galw am y pŵer i osod Treth Teithwyr Awyr i gael ei
ddatganoli i Gymru, fel sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Byddai
datganoli TTA yn galluogi Llywodraeth Cymru i amrywio’r dreth a delir gan deithwyr
sy’n defnyddio Maes Awyr Caerdydd a meysydd awyr eraill, fyddai’n dylanwadu ar
gost teithiau awyr a gwneud y cyfleusterau yn ddeniadol i gwmnïau hedfan.
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
19
A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i amrywio’r Dreth
Teithwyr Awyr?
Ydwyf Na
Mae Plaid Cymru wedi galw am i bob rhan o Gymru elwa o drydaneiddio’r
rheilffyrdd, gan gynnwys Prif Reilffordd Gogledd Cymru a fydd yn lleihau amseroedd
teithiau o ben draw gogledd-orllewin Cymru i ogledd-orllewin Lloegr, a lein y
Gororau fyddai’n lleihau amseroedd siwrneiau rhwng de a gogledd Cymru.
Fyddai eich busnes yn elwa o drydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru?
Byddai Na
A ydych yn cytuno y dylid trydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru?
Ydwyf Na
Fyddai eich busnes yn elwa o drydaneiddio lein y Gororau?
Byddai Na
A ydych yn cytuno y dylid trydaneiddio lein y Gororau?
Ydwyf Na
Pa welliannau eraill i seilwaith y rheilffordd sydd eu hangen yn eich ardal?
Is your busnes dependent on having a connection to the internet?
A yw eich busnes yn dibynnu ar gael cysylltiad i’r rhyngrwyd?
Ydyw Na
Oes gennych chi gysylltiad band llydan?
Oes Na
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
20
Oes gennych gysylltiad ‘uwch-gyflym’? (h.y., ffibr optig)
Oes Na Ddim yn gwybod
Os nad oes, pam?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
21
Busnes ac allforion
Mae Cymru yn dal i fod yn gryf mewn allforio nwyddau. Mae gwerth y nwyddau a
allforir gennym yn fwy o lawer na gwerth ein mewnforion, tra bod y DG gyfan yn
rhedeg diffyg masnach nwyddau sydd dros £100 biliwn.
Fodd bynnag, bydd amrywio ein sylfaen allforio yn rhoi gwytnwch i’n heconomi ac yn
sicrhau y byddwn yn gryfach i wrthsefyll anffawd yn y dyfodol.
A yw eich cwmni yn allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i Gymru?
Ydyw Na A yw eich cwmni yn allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i’r DG?
Ydyw Na A yw eich cwmni yn allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i’r UE?
Ydyw Na
Hoffech chi allforio mwy?
Hoffwn Na
Ydych chi wedi ceisio cymorth ariannol neu heb fod yn ariannol i ehangu eich busnes
dramor?
Ydwyf Na
Os felly, gan bwy a beth oedd eich profiad?
Tra bod Cymru yn cael ei chynrychioli dramor mewn enw gan Fasnach a Buddsoddi’r
DG (UKTI), o’r 600 staff yn y DG, mae 498 yn Llundain, 48 yn Glasgow a 54 yn naw
o ranbarthau Lloegr. Does dim cynrychiolaeth yng Nghymru.
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
22
Mae Plaid Cymru wedi cynnig sefydlu corff newydd i fod yn rhan o’n cynnig Banc
Cymru, i fynd ati i weithio dramor er mwyn annog cysylltiadau masnach cryfach
rhwng Cymru a’r gymuned ryngwladol.
Byddai’r Fenter Fasnach Dramor yn gweithio ar hyd braich o’r llywodraeth, ond
buasent yn atebol i Weinidogion Cymru. Gallai helpu’r busnesau hynny sydd eisoes
am ehangu, a hefyd yn mynd ati i geisio cyfleoedd dramor a’u cysylltu ag arbenigedd
Cymreig, gan annog busnesau nad ydynt ar hyn o bryd yn ystyried allforio i wneud
hynny. Gallai’r corff ddefnyddio llysgenadaethau’r DG ar hyd a lled y byd a chael staff
unswydd yn gweithio mewn gwahanol wledydd, gyda’r dasg o ffurfio cysylltiadau
masnach gyda Chymru.
Yn ychwanegol at ddarparu gwasanaethau busnes rhyngwladol fel cyllid allforio ac
ymchwil farchnad, gallai’r FFD adeiladu cysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi
ryngwladol i fusnesau Cymru. Gallai ddarparu cyllid i wledydd eraill sydd am
fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf er enghraifft, yn gyfnewid am gytundeb i
ddefnyddio arbenigedd Cymreig neu adnoddau Cymreig i gwblhau’r gwaith.
Ar sail llwyddiant y Banc Buddsoddi Nordig, byddai’r gwasanaeth nid yn unig yn
cynhyrchu incwm i’r pwrs cyhoeddus Cymreig trwy daliadau llog, ond byddai’n
gatalydd hefyd i fasnachu rhyngwladol rhwng cwmnïau Cymreig a’r gymuned
ryngwladol, gan adeiladu cadwyni cyflenwi rhyngwladol a datblygu enw da Cymru
ledled y byd.
A ydych yn cytuno y byddai sefydlu corff Masnachu Tramor yn syniad da?
Ydwyf Na
A fyddai cael adran allforio unswydd wedi ei noddi gan o Lywodraeth Cymru yn eich
annog i ymchwilio i farchnadoedd newydd?
Byddai Na
Pa gefnogaeth sydd arnoch ei angen i gyrraedd marchnadoedd dramor?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
23
Busnes ac ardrethi
Mae ardrethi annomestig, a adwaenir yn fwy cyffredin fel trethi busnes, yn cael eu
talu gan fusnesau fel treth am feddiannu eiddo annomestig.
Ar hyn o bryd, mae pob busnes sydd mewn eiddo annomestig yn cael Gwerth
Ardrethol, sy’n cael ei osod gan y swyddfa brisio. Yn 2008 y cafwyd yr ail-brisio
diwethaf, a daeth i rym yn 2010.
Mae gwerthoedd ardrethol wedyn yn cael eu lluosi â lluosydd, a osodir gan
lywodraeth y DG. Mae’r lluosyddion yn cael eu gosod fel a ganlyn:
Lluosydd 2014/15
Cymru Oll: 47.3%
Yr Alban Bach: 47.1% Mawr (GA >£35k): 48.9% Enfawr*: 60.1%
Lloegr Bach: 47.1% Safonol (GA >£18k): 48.2%
*Busnesau gyda gwerth ardrethol o £300,000 neu fwy ac sy’n gwerthu tybaco ac alcohol
Mae busnesau bach yng Nghymru felly dan anfantais trwy gael lluosydd sydd 0.2%
yn uwch na’r hyn sy’n cyfateb yn yr Alban a Lloegr.
Disgwylir i ardrethi busnes gael eu datganoli’n llawn i’r Cynulliad cenedlaethol, ac y
mae Plaid Cymru wedi cynnig defnyddio’r pwerau newydd i ddiwygio system y
lluosydd i helpu busnesau bach.
Mae Plaid Cymru wedi cynnig cyflwyno ail luosydd yng Nghymru i bob busnes gyda
gwerth ardrethol o fwy na £35,000, wedi’i osod ar 48.0%, fyddai 0.9 pwynt canran
yn is na’r hyn sy’n cyfateb yn yr Alban a 0.2 bwynt canran yn is na’r hyn yw yn
Lloegr.
Gan ddefnyddio’r refeniw ychwanegol a gynhyrchwyd gan yr ail luosydd, mae Plaid
Cymru wedi cynnig torri’r lluosydd is i 46.6% - 0.5 pwynt canran yn is na’r
lluosyddion cyfatebol yn yr Alban a Lloegr, a byddai’n gymwys i bob busnes gyda
gwerth ardrethol o £35,000 neu lai.
Byddai cyflwyno ail luosydd yn mwy na thalu am gost torri’r lluosydd is a byddai
mewn gwirionedd yn cynhyrchu’r hyn a amcangyfrifir fel £9.1 miliwn.
A ydych yn cytuno fod cyflwyno ail luosydd i fusnesau mawr yn syniad da?
Ydwyf Na
Cynnig Plaid Cymru yw gosod y trothwy rhwng y lluosydd mawr a bach ar y lefel
Albanaidd o £35,000, yn hytrach na’r lefel Seisnig o £18,000 er mwyn sicrhau na
fydd yr un busnes ar ei golled yng Nghymru. Byddai defnyddio’r lefel Seisnig yn codi
24
mwy o arian i’r pwrs cyhoeddus, ond byddai’n golygu y gallai busnesau mawr yn
gwneud yn waeth yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
A ydych yn cytuno y dylai trothwy’r gwerth ardrethol rhwng busnes bach a mawr
gyfateb i’r trothwy Albanaidd o £35,000?
Ydwyf Na
Fyddai eich busnes yn elwa o’r polisi hwn?
Byddai Na Ddim yn gwybod
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am estyniad i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi
Busnesau Bychan fel y gall helpu pob busnes gyda gwerth ardrethol o £15,000 neu lai
ac yn rhoi i’r busnesau hynny y mae eu gwerth ardrethol yn £10,000 neu lai ryddhad
llawn o ardrethi.
Byddai’r polisi hwn yn helpu dros 83,000 o fusnesau ledled Cymru ac yn golygu na
fyddai dros 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.
Byddai cost cyflwyno’r estyniad i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan a
diwygio’r lluosydd rhwng £29 miliwn a £37 miliwn.
A ydych yn cytuno y byddai ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan
yn syniad da?
Ydwyf Na
Fyddai eich busnes yn elwa o’r estyniad arfaethedig?
Byddai Na
Pa ddiwygiadau pellach hoffech chi weld i’r system ardrethi busnes yng Nghymru?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
25
Busnes a sgiliau
Am ba sgiliau yr ydych chi’n chwilio mewn darpar-weithwyr?
Ydych chi’n cael anhawster dod o hyd i’r gweithwyr iawn?
Ydwyf Na
Ydych chi erioed wedi cymryd prentis?
Do Na
Os do, oeddech chi’n teimlo bod hyn o werth i’ch busnes?
Oedd Na N/A
Ydych chi wedi clywed am y ‘Rhaglen Newydd-ddyfodiaid Ifanc’?
Do Na
Ydych chi erioed wedi cymryd prentis dan y Rhaglen Newydd-ddyfodiaid Ifanc?
Do Na
Os do, beth oedd eich profiad o’r rhaglen?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
26
Beth fyddai’n gwneud i chi fod yn fwy tebygol o gymryd prentis yn y dyfodol?
Ydych chi’n meddwl fod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo unwaith
iddynt adael yr ysgol?
Ydwyf Na
Os na, pa sgiliau yn eich barn chi sy’n ddiffygiol mewn pobl ifanc?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
27
Busnes a chaffael
Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua £4.3 biliwn bob blwyddyn yn prynu
nwyddau a gwasanaethau gan y sector preifat. Mae hyn yn amrywio o gontractau am
ginio ysgol i dalu am gontractwr i wneud ffordd newydd.
Ar hyn o bryd, dim ond rhyw 52% o’r arian hwnnw sy’n cael ei wario yng Nghymru ac
y mae hynny yn cynnal rhyw 98,000 o swyddi ar draws y sector preifat yng Nghymru.
Mae Gwerth Cymru – adran gaffael y llywodraeth ei hun – yn amcangyfrif, am bob
cynnydd o 1% yn y gyfran o arian caffael cyhoeddus a werir yng Nghymru, y crëir
2,000 o swyddi newydd yn y sector preifat.
Mae pŵer pwrcasu’r sector cyhoeddus Cymreig felly yn erfyn arwyddocaol i dyfu
economi Cymru. Mae sector cyhoeddus yr Almaen yn llwyddo i gadw rhyw 99% o’i
wariant caffael yn yr Almaen, tra bod Ffrainc yn llwyddo tua 98%. Mae’r DG gyfan yn
llwyddo i gadw 97% o’u gwariant o fewn ei ffiniau ei hun, ond yng Nghymru rydym
yn caniatáu i 48% o’n harian ollwng dros ein ffiniau.
O ystyried yr effaith gadarnhaol y gall caffael y sector cyhoeddus gael ar fusnesau
Cymru ac ar yr economi yn gyfan, a bod yr arian hwn yn cael ei wario beth bynnag,
cred Plaid Cymru ei bod yn hanfodol i ni wneud pob ymdrech i wario cymaint ohono
ag sydd modd yng Nghymru.
Cafwyd nifer o astudiaethau annibynnol i edrych ar arferion caffael yng Nghymru a
daeth y rhan fwyaf i’r casgliad nad polisi Llywodraeth Cymru sydd ar fai am y ganran
isel o wariant sy’n aros yng Nghymru, ond yn hytrach weithredu’r polisi’n wael gan y
sector cyhoeddus yn gyffredinol.
A ydych chi erioed wedi bidio yn llwyddiannus am dendr sector cyhoeddus yng
Nghymru?
Ydwyf Na
A ydych chi erioed wedi bidio yn aflwyddiannus am dendr sector cyhoeddus yng
Nghymru?
Ydwyf Na
Os do, pa adborth gawsoch chi am eich cais aflwyddiannus?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
28
Ydych chi’n teimlo’n hyderus y gallech fidio am dendr sector cyhoeddus?
Ydwyf Na
Mae Plaid Cymru wedi cynnig cyflwyno deddfwriaeth i ofalu bod pob corff sector
cyhoeddus yn cadw at bolisi caffael Llywodraeth Cymru. A ydych yn cytuno y bydd
rhoi ymrwymiad fel hyn ar y sector cyhoeddus yn codi safonau?
Ydwyf Na
Mae Plaid Cymru wedi cynnig gosod targed i gadw 75% o holl wariant caffael yng
Nghymru. Yn ôl Gwerth Cymru – adran gaffael y Llywodraeth Cymru – byddai
gwneud hynny yn creu 46,000 o swyddi newydd yn y sector cyhoeddus.
Ydych chi’n meddwl fod 75% yn darged realistig?
Ydwyf Na
29
Busnes a threthi
Mae’r holl drethi busnes, (heb gynnwys ardrethi annomestig) yn gyfrifoldeb
Llywodraeth y DG.
Mae Llywodraeth y DG yn ystyried datganoli treth gorfforaeth i Ogledd Iwerddon er
mwyn helpu i greu amgylchedd fwy cystadleuol i fusnesau, hybu ymdrechion i ddenu
buddsoddiad gan fusnesau.
Cred Plaid Cymru y dylai fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i lunio economi Cymru
yn yr un ffordd ac y dylid datganoli treth gorfforaeth i Gymru.
Byddai gwneud hynny yn galluogi Llywodraeth Cymru i amrywio treth gorfforaeth
yng Nghymru, a all wneud Cymru yn lle mwy deniadol i gynnal busnes, denu
busnesau o fannau eraill, cynhyrchu twf economaidd a chreu gwaith.
Ydych chi’n talu treth gorfforaeth?
Ydwyf Na
Pwy yn eich barn chi ddylai osod cyfraddau treth gorfforaeth yng Nghymru?
Llywodraeth Cymru Llywodraeth y DG
Pwy yn eich barn chi ddylai fod yn gyfrifol am osod lwfansau cyfalaf yng Nghymru?
Llywodraeth Cymru Llywodraeth y DG
Pwy yn eich barn chi ddylai fod yn gyfrifol am osod cyfraddau Yswiriant Gwladol yng
Nghymru (cyflogwr a gweithiwr)?
Llywodraeth Cymru Llywodraeth y DG
Pa bwerau cyllidol eraill yn eich barn chi ddylai gael eu datganoli i’r Cynulliad
Cenedlaethol?
Ewch ymlaen i dudalen arall os mynnwch
30
Busnes a mewnfuddsodiant
Mae Buddsoddiad Tramor Uniongyrchol (BTU) wedi chwarae rhan hanfodol yn
adeiladu economi Cymru. Mae denu buddsoddiad o’r tu allan nid yn unig yn hybu’r
economi trwy greu swyddi ac yn denu mwy o refeniw treth, ond mae hefyd yn
cynhyrchu sgil-effeithiau llesol i’r economi lleol.
Mae pwysigrwydd trwsio ein strategaeth am fewnfuddsoddiant yn glir. Seilir cyfran
sylweddol o’n cyflogaeth bresennol ar lwyddiannau blaenorol yn denu buddsoddiad
o’r tu allan.
Er enghraifft, symudodd Admiral i Gymru wedi grant o £1 miliwn gan Awdurdod
Datblygu Cymru (ADC). Gan gychwyn yn 1993 gyda dim ond 57 o staff, mae erbyn
hyn yn gwmni mwyaf Cymru yn cyflogi dros 5,000 o bobl yng Nghymru gyda
throsiant blynyddol o fwy na £2 biliwn. Mewn gwirionedd, mae cyfran go helaeth o
gyflogwyr mwyaf Cymru yma yn sgil hybu llwyddiannus gan ADC. Mae TATA Steel
sydd yn cyflogi dros 5,000 o bobl yng Nghymru ac Airbus sydd yn cyflogi dros 6,000
yn ddau lwyddiant arall ym maes buddsoddi o’r tu allan.
Ar hyn o bryd, fodd bynnag, heb ADC na BRhC, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu
ar amrywiaeth o gyrff bychain i wneud y gwaith o hybu Cymru dramor – sefyllfa a
feirniadwyd oherwydd y diffyg cyd-gysylltu.7 Mae staff wedi bod yn cwyno am
negeseuon gwahanol, dryswch dros gyfrifoldebau a gwahanol negeseuon yn cael eu
rhoi i ddarpar-fuddsoddwyr.8 Ond er i frand ADC gael ei ddileu yn 2006, yn ôl yr
Oxford Intelligence Report (2011) sydd yn uchel ei barch, ADC o hyd oedd yr ail
frand asiantaeth gorau o ran ei adnabod yn Ewrop yn 2011, bum mlynedd wedi iddo
ddiflannu.9
Mae brand ADC o fudd i Lywodraeth Cymru o hyd, ond nid yw’n cael ei ddefnyddio.
Ydych chi’n meddwl y byddai sefydlu awdurdod datblygu newydd hyd-braich i
Gymru, fyddai’n dwyn ynghyd waith yr holl gyrff sydd ar hyn o bryd yn hybu Cymru,
i gyd-gordio a gweithredu ymgyrch newydd i ddenu buddsoddiad yn syniad da?
Ydwyf Na
Ydych chi’n meddwl fod budd o ddefnyddio brand ADC eto?
Ydwyf Na
Beth mwy ddylai Llywodraeth Cymru fod yn wneud i wella mewnfuddsoddiant?
7 Crawley, A., Munday, M. and Delbridge, R. (2012) Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward
Investment. Cardiff: Cardiff University 8 Ibid.
9 Oxford Intellgience, (2011). The Medtech Report 2011: International Investment Strategies and Location
Benchmarking Study.