amddiffyn y genedl

11
AMDDIFFYN Y GENEDL Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain YR AIL RYFEL BYD 1939 -1945 Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Upload: dixon

Post on 27-Jan-2016

48 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Sectorau a Grwpiau. YR AIL RYFEL BYD 1939 -1945. AMDDIFFYN Y GENEDL. Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain. Grwpiau a Sectorau. Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: AMDDIFFYN Y GENEDL

AMDDIFFYN Y GENEDLDelweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr

Prydain

YR AIL RYFEL BYD

1939 -1945

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Page 2: AMDDIFFYN Y GENEDL

Grwpiau a Sectorau

Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Page 3: AMDDIFFYN Y GENEDL

Darparwyd y map gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

Roedd Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd wedi rhannu Prydain yn grwpiau

gwahanol. Roedd gan bob grŵp ei sectorau ei hun

i’w hamddiffyn, yn ogystal â phencadlys oedd yn gyfrifol am y

meysydd awyr yn yr ardal honno.

Byddai Pencadlys y Grŵp yn cyfeirio sgwadronau o awyrennau

ymladd tuag at awyrennau’r gelyn wrth iddyn nhw agosáu at

ffiniau’r ardal roedden nhw’n gyfrifol am ei hamddiffyn.

Caerdydd

Cliciwch ar y seinydd i glywed

sgwrs ddychmygol rhwng peilot a rheolwr grŵp.

Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

Llundain

Page 4: AMDDIFFYN Y GENEDL

Y map gyda chaniatâd caredig Promethean

WJEC
Angen golygu y PSD/JPEG gwreiddiol.
Page 5: AMDDIFFYN Y GENEDL

Delweddau gyda chaniatâd caredig Promethean a Chymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain.

WJEC
Angen golygu'r PSD/JPEG gwreiddiol.
Page 6: AMDDIFFYN Y GENEDL

Yng Nghymru dim ond un maes awyr oedd wedi’i benodi i gyfrannu at

y system amddiffyn awyrennau ymladd yn ystod Brwydr Prydain.

Roedd y maes awyr hwn ym Mhenbre yn ne-orllewin Cymru. Yno, fel

rhan o grŵp 10 roedd sgwadron o awyrennau Spitfire yn cael eu

cadw.

Maes awyr Penbre

Map gyda chaniatâd caredig Promethum

Grŵp 10

Grŵp 12

Grŵp 11

Page 7: AMDDIFFYN Y GENEDL

Yn ystod Brwydr Prydain, cafodd Prydain ei rhannu’n bedwar grŵp. Sgwadronau awyrennau ymladd y Llu Awyr Prydeinig (RAF) oedd

amddiffyn y grwpiau hyn.

Delwedd gyda chaniatâd caredig yr Amgueddfa Ryfel Ymerodorol, Llundain (Cyf. HU3093)

Page 8: AMDDIFFYN Y GENEDL

Grŵp Rhif 12 – 1 Gorffennaf 1940

Duxford 19

264

Spitfire

Defiant

8

11

Coltishall 66

242

Spitfire

Hurricane

12

10

Wittering 23

229

266

Blenheim

Hurricane

Spitfire

10

14

8

Digby 29

46

611

Blenheim

Hurricane

Spitfire

10

15

3

Kirton-in-Lindsey

222 Spitfire 12

Maes awyr Rhif

sgwadron AwyrennauYn barod ar

gyfer ymladd

Enghraifft o sut cafodd y grwpiau eu trefnu cyn Brwydr Prydain.

Page 9: AMDDIFFYN Y GENEDL

Syr Hugh Dowding oedd Cadbennaeth Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Roedd yn 58 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr, ac roedd ei beilotiaid yn cyfeirio’n annwyl ato fel ‘Stuffy’. Fe gefnogodd Dowding ddatblygiad radar a hefyd datblygiad yr awyrennau ymladd newydd a fyddai’n gallu herio awyrennau’r Luftwaffe.

Keith Park oedd y Swyddog Awyr oedd yn rheoli Grŵp 11 yn ystod Brwydr Prydain. Un o Seland Newydd ydoedd, ac roedd yn 48 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr. Bu Park yn beilot yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod Brwydr Prydain. Yn aml byddai’n hedfan i’r meysydd awyr oedd dan ei awdurdod yn ei awyren ymladd Hurricane bersonol. Roedd yn arweinydd poblogaidd ar Grŵp 11 – sef yr ardal oedd yn cael ei hystyried fel yr un bwysicaf ei hamddiffyn.

Page 10: AMDDIFFYN Y GENEDL

Roedd Leigh-Mallory, Is-farsial yr Awyrlu, wedi bod yn gyfrifol am Grŵp 12 ers sefydlu Awdurdod Rheoli

Awyrennau Ymladd yn 1936. Doedd e ddim bob amser yn cytuno â Syr Hugh Dowding yn ystod brwydr Prydain ac roedd o’r farn y dylai mwy o sgwadronau awyrennau

ymladd ymuno â’i gilydd i ffurfio ‘Esgyll Mawr’.

Syr Christopher Quintin Brand oedd yn gyfrifol am Grŵp 10.

Richard Saul, Is-farsial yr Awyrlu oedd yn gyfrifol am Grŵp 13.

Roedd Leigh Mallory o’r farn y byddai hyn yn rhoi gwell cyfle i’r peilotiaid dreiddio drwy’r awyrennau ymladd hebrwng Almaenig, er

mwyn ymosod ar yr awyrennau bomio. Ar y llaw arall, mynnai Dowding a Park na ellid peryglu awyrennau ymladd mewn niferoedd

o’r fath. Roedden nhw hefyd yn dadlau y byddai defnyddio polisi ‘Esgyll Mawr’ yn ystod Brwydr Prydain yn golygu na fyddai’n bosib

ymosod ar gynifer o rengoedd awyrennau bomio yr Almaen yn gyffredinol.

Page 11: AMDDIFFYN Y GENEDL

Grŵp10

Grŵp11

Grŵp12

Grŵp13

Yn y blychau isod rhowch enw’r Swyddog oedd yn gyfrifol am y Grŵp tua diwedd 1940.

Syr Christopher Quintin Brand

Richard SaulTrafford

Leigh-MalloryKeith Park

Syr Hugh Dowding, Cadbennaeth Awdurdod Rheoli’r Awyrennau Ymladd.