arolygiaeth gofal a gwasanaethau cymdeithasol cymru · 2017. 10. 29. · genedl, yn yr un modd...

78
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Adroddiad Blynyddol 2008-2009

Upload: others

Post on 17-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

    Adroddiad Blynyddol2008-2009

  • ISBN 978 0 07504 5417 9

    © Hawlfraint y Goron Tachwedd 2009

    CMK-22-11-042

    E4040910

  • i

    Cynnw ys

    Rhagair iii

    Pennod Un

    Trosolwg y Prif Arolygydd 1

    Pennod Dau

    Bodloni Anghenion Oedolion 9

    Pennod Tri

    Bodloni Anghenion Plant 31

    Pennod Pedwar

    Perfformiad Awdurdodau Lleol 55

    Pennod Pump

    Ein Perfformiad 63

  • ii

    Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau a reoleiddir yn unigol:

    - Cartrefi Gofal i Oedolion

    - Cynlluniau Lleoli Oedolion

    - Gofal Cartref

    - Asiantaethau Nyrsys

    - Cartrefi Plant

    - Ysgolion a Cholegau

    - Gwasanaethau Maethu a Mabwysiadu

    - Gwasanaethau gofal dydd i blant

    Mae’r rhain ar gael ar ein safle ar y Rhyngrwyd www.aggcc.org.uk

  • iii

    Rhagai r

    Hon yw’r ail flwyddyn ers creu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn 2007, i ni gyflwyno ein holl gasgliadau ynghylch gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol mewn un adroddiad sy’n darparu adolygiad cynhwysfawr o gyflwr y sector.

    Yn rhinwedd fy swydd Prif Arolygydd Dros Dro, hoffwn dalu teyrnged i’r holl bobl yn yr awdurdodau lleol a’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol sy’n gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol i’r 150,000 o bobl sy’n eu defnyddio. Nid yw eu hymroddiad a’u gwaith caled hwy, a hynny weithiau mewn amgylchiadau anodd, bob amser yn cael ei werthfawrogi nac yn cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.

    Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff yr Arolygiaeth am eu gwaith i’n galluogi i gyflawni ein diben o annog gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a’r gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu ac adolygu, a thrwy ddarparu cyngor proffesiynol.

    Jonathan Corbett Prif Arolygydd Dros Dro Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

  • iv

  • 1

    Pennod Un

    Trosolwg y Pri f Aro lygydd

    Mae gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol wedi parhau i ddangos gwelliant yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau nad ydynt yn ddigon da a cheir amrywiaeth eang o ran perfformiad, ansawdd a ffurf y ddarpariaeth. Ceir nifer o enghreifftiau o arfer arloesol a rhagorol ledled Cymru, ac mae pobl yn parhau i fynegi bodlonrwydd sylweddol ar wasanaethau. Mae angen i wasanaethau gofal cymdeithasol adeiladu ar y cyfleoedd hyn a’u datblygu ymhellach er mwyn parhau i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen, a hynny’n gyflymach.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu dyfodol heriol, ac felly mae angen gwaith partneriaeth gwell ar bob lefel ar draws gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaethau cymdeithasol effeithiol sy’n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae gan wasanaethau gofal cymdeithasol swyddogaeth bwysig i’w chyflawni o ran llunio a dylanwadu ar yr agenda i gyflawni’r strategaeth Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol.

    Y Daith tuag at Welliant - Y deng mlynedd diwethaf

    Mae’r adroddiad “Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru 1998-2008 - Dysgu Gwersi o’r Siwrnai” yn cyfuno’r hyn a ddysgwyd o gydadolygiadau yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf. Mae’n nodi bod arwyddion calonogol o welliant o ran arweinyddiaeth gofal cymdeithasol mewn awdurdodau ers i gydadolygiadau ddechrau deng mlynedd yn ôl. Rhoddwyd proffil uwch o lawer i ofal cymdeithasol mewn awdurdodau a bu buddsoddiad newydd sylweddol. Mae pwyslais cryf ar ddatblygu’r gweithlu wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau wedi dangos gwelliant cyson yn y maes hwn.

    Bu gwelliant cyffredinol yn yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael a chaiff adnoddau eu cyfateb i anghenion a blaenoriaethau yn fwy systematig. Mae gwell partneriaethau â’r sector gwirfoddol hefyd yn helpu i ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithiol. Gwnaed cynnydd o ran datblygu dulliau mwy penodol o hybu annibyniaeth ac adsefydlu, ac mae rhai gwasanaethau da yn seiliedig ar brosiectau ar gael erbyn hyn. Fodd bynnag, mae ehangu’r ddarpariaeth y tu hwnt i gynlluniau arbrofol tuag at ethos galluogol ar draws pob gwasanaeth prif ffrwd wedi parhau i fod yn her.

    Mae’r adroddiad yn nodi bod y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fod yn fodlon arnynt ar y cyfan, a bod lefelau bodlonrwydd ar wasanaethau cymdeithasol wedi eu cynnal neu eu gwella rhwng y gyfres gyntaf a’r ail gyfres o gydadolygiadau. Fodd bynnag, mae’n nodi bod y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau yn parhau i weld gwahaniaethau amlwg yn ansawdd a lefel y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir ar draws awdurdodau, a bod y bwlch yn parhau i fod yn rhy fawr rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai sy’n perfformio waethaf yng Nghymru.

  • 2

    Y Daith tuag at Welliant - Y flwyddyn ddiwethaf

    Mae ein gwaith yn ystod y flwyddyn yn dangos yn glir y bu gwelliant cyson gan awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau o ran bodloni dyletswyddau statudol a rheoliadol tuag at blant ac oedolion.

    Mae gweithwyr cymdeithasol yn rhoi mwy o gyfle i blant gyfrannu at gynllunio ac asesu, ac yn ystyried ethnigrwydd, iaith a chrefydd y plentyn. Mae safbwyntiau plant a theuluoedd ynglŷn ag ansawdd y gwasanaethau a dderbynnir ganddynt yn fwy cadarnhaol. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaethau rhwng y gwasanaethau sy’n perfformio orau a’r rhai sy’n perfformio waethaf yn parhau i fod yn amlwg. Er bod prydlondeb asesiadau a chynlluniau gofal ar gyfer plant yn dangos gwelliant, mae’r ansawdd yn parhau i fod yn anghyson.

    O ran gwasanaethau i oedolion, mae’n amlwg bod llawer o awdurdodau lleol yn gallu datblygu cynlluniau gofal yn brydlon pan fo anghenion yn llai cymhleth. Fodd bynnag, mae nifer o awdurdodau nad ydynt yn perfformio’n ddigon da pan geir materion mwy cymhleth sy’n cynnwys yr angen am asesiadau arbenigol. Pan gytunir ar gynllun gofal mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn llwyddo i sefydlu gwasanaethau ar gyfer oedolion o fewn amserlen dderbyniol, ond mae rhai’n adrodd am gyfnodau annerbyniol o hir cyn bod gwasanaethau yn dechrau.

    Er bod gwasanaethau ar gyfer gofalwyr yn dechrau dangos arwyddion cynnar o welliant mewn rhai awdurdodau, nid yw hyn yn deillio o linell sylfaen gref. Roedd ein hadroddiad Rheoli Gwybodaeth am Ofalwyr cychwynnol, a gyhoeddwyd yn 2008, yn nodi gwendidau posib o ran asesu a darparu gwasanaethau ar gyfer gofalwyr defnyddwyr gwasanaethau i oedolion. O ran plant, mae’r defnydd o deulu a ffrindiau fel gofalwyr yn cynyddu. Gall lleoliadau o’r fath gynnig profiad cadarnhaol i blant yn ogystal â chynnal eu hunaniaeth deuluol a diwylliannol. Fodd bynnag, yn aml mae angen mwy o gymorth a gwasanaethau ar ofalwyr sy’n aelodau o deulu neu’n ffrindiau i’w galluogi i ofalu am blant yn eu teulu.

    Ychydig o newid a gafwyd eleni yn gyffredinol o ran y ddarpariaeth o dechnoleg gynorthwyol i oedolion. Gall y trefniadau hyn fod yn hollbwysig er mwyn penderfynu pa un a all unigolyn aros yn ddiogel yn y gymuned. Bu rhywfaint o dwf mewn taliadau uniongyrchol. Er bod perfformiad wedi amrywio rhwng awdurdodau, mae’n dal yn amlwg bod angen i’r ymdrech i ddarparu gwasanaethau wedi’u moderneiddio a chyflymder y newid barhau i gynyddu.

    Rhaid i awdurdodau hefyd ystyried swyddogaeth allweddol gwasanaethau ataliol ac ystyried y ffordd y cânt eu darparu. Fel rhan o’u swyddogaeth gomisiynu, mae angen i awdurdodau lleol sefydlu dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd a chymryd camau priodol i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw yn y gymuned. Mae’r cydbwysedd gofal rhwng gwasanaethau a ddarperir yng nghartrefi pobl eu hunain ac mewn cartrefi gofal eleni yn gymharol debyg i’r llynedd.

    Mae ein gwaith eleni yn dangos ein bod hefyd yn gweld tystiolaeth gynyddol o ofal wedi’i deilwra’n well ar gyfer yr unigolyn mewn gwasanaethau rheoledig i oedolion. Yn y rhan fwyaf o wasanaethau, perchir anghenion a dymuniadau unigol ac mae pobl yn cael eu trin mewn ffordd urddasol. Cynhelir gwaith cynllunio gofal ac adolygiadau yn brydlon, sydd yn hanfodol er mwyn darparu gofal priodol i ddefnyddwyr gwasanaeth, sydd yn aml ag anghenion cymhleth.

  • 3

    Rydym hefyd yn gweld cynnydd eleni mewn meysydd sydd wedi peri problemau yn y gorffennol. Mae materion megis archwilio addasrwydd staff ar adeg eu penodi, cymhwysedd/hyfforddiant staff a goruchwyliaeth staff i gyd yn dangos arwyddion o welliant, ond mae’n rhaid iddynt barhau i fod yn flaenoriaethau i ddarparwyr. Mae rheolwyr yn bodloni’r gofynion o ran cymwysterau yn y mwyafrif llethol o achosion, ac mae hyn yn hanfodol o ystyried y cynlluniau ar gyfer sicrhau bod gan y gweithlu gofrestriad proffesiynol.

    Er bod meysydd sydd wedi achosi pryder hirdymor megis rheoli meddyginiaeth ac asesu/rheoli risg hefyd wedi dangos peth gwelliant, mae angen parhau i wneud pob ymdrech i barhau â’r gwelliant hwn.

    Mae angen i ddarparwyr yn y sector lleoliadau preswyl a maeth i blant sicrhau newid sylweddol o ran darparu cymorth digonol i staff a gofalwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu swyddogaeth bwysig o ofalu am blant.

    Mae’n galonogol iawn bod darparwyr yn ystyried eu prosesau sicrwydd ansawdd eu hunain o ddifrif ac yn bodloni’r rheoliadau diweddaraf a gyflwynwyd.

    Diogelu pobl sy’n agored i niwed

    Plant

    Mae diogelu ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed unwaith eto wedi cael sylw proffil uchel gan y cyfryngau yn ystod y flwyddyn. Roedd y dioddefaint arswydus a’r amgylchiadau yn ymwneud â marwolaeth y baban Peter Connelly yn Haringey wedi cyffwrdd â chalonnau’r genedl, yn yr un modd â’r amgylchiadau yn ymwneud â marwolaeth Brandon Muir yn Dundee. Cododd y ddau achos hyn gwestiynau sylfaenol am sut yr oedd asiantaethau a gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd wrth amddiffyn y plant hyn.

    Rhaid sicrhau bod cadw pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel a’u hamddiffyn rhag niwed yn flaenoriaeth i bob gweithiwr proffesiynol a sefydliad bob amser. O ganlyniad uniongyrchol i’r materion a godwyd gan achos Haringey, cynhaliodd AGGCC adolygiad o drefniadau diogelu mewn awdurdodau lleol a byrddau lleol diogelu plant, a chomisiynodd adolygiad o’r broses adolygu achosion difrifol. Cyhoeddwyd y ddau adroddiad ym mis Hydref 2009. Maent yn amlygu heriau a chymhlethdod gwaith amddiffyn plant ac yn nodi’r angen am newid yn y diwylliant o sut y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn hybu arfer gorau a chynnal yr wyliadwriaeth gyson sydd ei hangen i amddiffyn plant orau. Mae’r adroddiadau’n nodi’r angen i bob gweithiwr proffesiynol a sefydliad rannu’r un ymrwymiad ar gyfer amddiffyn plant. Mae angen cael gwell cysondeb, cydgysylltiad a chyfeiriad ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i sicrhau bod diogelu ac amddiffyn plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth a bod pawb yn rhannu’r cyfrifoldeb am hyn.

    Er bod gwasanaethau cymdeithasol wedi cryfhau’r trefniadau i amddiffyn plant pan geir amheuaeth o niwed, mae’r adroddiadau yn dangos bod ansawdd a lefel y gwasanaeth yn amrywio’n sylweddol ar ôl i’r plant ddod yn rhan o’r system, ac mae hynny’n wir hefyd am ymgysylltiad â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill. Mae’r adroddiadau’n amlygu amrywiad sylweddol yn y gwasanaethau a dderbynnir gan blant mewn angen nad ydynt ar

  • 4

    y gofrestr amddiffyn plant ac nad ydynt yn derbyn gofal. Bydd y data o’r cyfrifiad plant mewn angen, sy’n cael ei gasglu am y tro cyntaf eleni, yn darparu gwybodaeth bwysig am ganlyniadau i’r grŵp hwn o blant, a fydd yn helpu i wella cynllunio a chomisiynu gwasanaethau i blant.

    Mae’r adroddiadau hefyd yn codi cwestiynau pwysig am effeithiolrwydd Byrddau Lleol Diogelu Plant o ran cyflawni eu swyddogaethau a’u perthynas â’r partneriaethau eraill. Mae’r materion a godwyd yn amlwg yn ymestyn i’r trefniadau ehangach ar gyfer partneriaethau. Mae angen i’r holl randdeiliaid drafod canfyddiadau’r adroddiadau hyn ymhellach er mwyn symud ymlaen yn gyflym a mynd i’r afael â’r materion a godwyd.

    Mae’r adolygiad o’r broses adolygu achosion difrifol yn nodi’n glir y ceir cytundeb cyffredinol ar draws Cymru ynglŷn â’r ffaith nad yw’r trefniadau cyfredol yn gweithio’n effeithiol, a’r rhesymau pam. Defnyddir llawer iawn o amser ac adnoddau wrth gynnal yr adolygiadau hyn, sydd yn cynyddu o ran nifer, heb fawr o dystiolaeth i ddangos sut y maent yn arwain at welliannau mewn systemau ac ymarfer i ddiogelu ac amddiffyn plant. Dro ar ôl tro, mae adolygiadau achosion difrifol yn nodi’r un materion sy’n cyfrannu at fethiant i amddiffyn plant, ac eto mae’r problemau’n parhau i godi drachefn. Yn ogystal â hyn, o ystyried y niferoedd cynyddol, nid yw’r trefniadau presennol yn gynaliadwy ac mae angen eu diwygio ar frys. Mae adroddiad yr adolygiad yn nodi ffordd ymlaen ar gyfer gwella’r dulliau a ddefnyddir i amddiffyn plant a sut y gellir ymsefydlu dysgu yn well a gwella ymarfer pan fo pethau’n mynd o chwith.

    Wrth ddatblygu Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), mae angen sicrhau ei fod yn ystyried anghenion y grŵp cyfan o blant mewn angen yn llawn. Os ydym am weld plant yn aros yn ddiogel gyda’u teuluoedd a chael ansawdd bywyd sy’n diwallu eu dyheadau ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial, mae angen nodi pa wasanaethau sydd eu hangen a sut y gallant weithio orau gyda’i gilydd i gyflawni canlyniad cadarnhaol.

    Oedolion

    Mae Amddiffyn Oedolion hefyd yn flaenoriaeth ac yn faes gwaith craidd i awdurdodau lleol, gyda nifer o faterion yn parhau i dderbyn sylw. Mae’r Grŵp Prosiect Gweinidogol wedi parhau â’i waith i sicrhau bod y trefniadau sydd wedi’u sefydlu yng Nghymru yn effeithiol ac yn addas i fodloni gofynion yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o’r fframwaith polisi ‘Mewn Dwylo Diogel’ ac ystyriaeth ehangach o’r defnydd o bwerau cyfreithiol. Mae AGGCC wedi ceisio gwella’r ddealltwriaeth o’i swyddogaeth yn y maes amddiffyn oedolion, drwy gynnal ymgynghoriad ar ddiweddariad i ganllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ sy’n amlinellu swyddogaeth AGGCC fel arolygiaeth integredig.

    Mae’n gadarnhaol nodi yr adroddir am gynnydd sylweddol o ran adrodd am achosion lle y mae risg wedi ei dileu neu ei lleihau o ganlyniad i waith amddiffyn oedolion. Bu cynnydd yn nifer yr ymchwiliadau i achosion o esgeulustod eleni gyda materion yn cael eu codi mewn cartrefi gofal ac yn enwedig mewn cartrefi gofal gyda nyrsio.

    O ystyried pwysigrwydd amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed, bydd AGGCC yn cynnal arolygiad cenedlaethol o drefniadau amddiffyn oedolion yn 2009/2010. Mae’r arolygiad hwn

  • 5

    wedi ei gynllunio i helpu awdurdodau i ddeall perfformiad unigol yn well ac i ddarparu trosolwg clir o’r trefniadau ar draws Cymru. Cyhoeddir adroddiad trosolwg pan fydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau yn 2010, a fydd yn rhoi sail i waith y Grŵp Prosiect Gweinidogol.

    Symud Ymlaen - yr heriau

    Wrth edrych yn ôl ar adroddiadau blynyddol yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fe’m trawyd gan gysondeb y negeseuon. Ceir gwelliant cyffredinol, ond mae cyflymder a graddau’r gwelliant mewn rhai meysydd yn gymharol araf a bychan o flwyddyn i flwyddyn. Rhaid gofyn beth sydd angen ei wneud er mwyn newid y neges yn y blynyddoedd i ddod?

    Cyflawnwyd y gwelliannau a wnaed hyd yn hyn o fewn amgylchedd o fuddsoddiad a chynnydd tra sylweddol mewn adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r sefyllfa’n wahanol iawn erbyn hyn, gyda hinsawdd ariannol heriol iawn yn ein hwynebu. O ystyried hyn, os yw gwasanaethau yn mynd i barhau i wella, nid yw cynnal y sefyllfa bresennol yn dderbyniol. Ynghyd â newidiadau mewn demograffeg, a galw parhaus a chynyddol am wasanaethau gan ddinasyddion, mae’n ymddangos yn amlwg bod gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol wedi cyrraedd croesffordd.

    Os bydd gwasanaethau’n parhau i ddefnyddio’r un ymagwedd, gan arwain at welliant araf, cyson, mae’r amgylchedd newydd yn debygol o olygu y bydd gwasanaethau’n aros yn eu hunfan ar y gorau neu hyd yn oed yn dechrau dirywio. Ni fydd parhau i ddefnyddio’r un datrysiadau yn ddigonol i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.

    Wynebu’r heriau

    Beth fydd yn rhaid i wasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol ei wneud i wella gwasanaethau a chanlyniadau er mwyn bodloni galw a disgwyliadau cynyddol gyda llai o adnoddau ac o fewn cyd-destun o ddarpariaeth gwasanaeth amrywiol, gyda’r sector annibynnol yn brif ddarparwr gwasanaethau?

    Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i wasanaethau gofal cymdeithasol. Wynebir heriau tebyg ar draws pob gwasanaeth yn y sector cyhoeddus. Nid cyfrifoldeb y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn unig, sy’n gweithredu o fewn amgylchedd cynyddol gymhleth a heriol, yw gwella bywydau a lles pobl. Mae’n amlwg bod y ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn rhyngweithio â gwasanaethau eraill, megis iechyd, addysg a thai, yn effeithio ar ba mor dda y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gweithredu.

    Mae ein dinasyddion yn disgwyl gwasanaethau dibynadwy, o ansawdd da a ddarperir pan fydd eu hangen arnynt ac sy’n bodloni eu hanghenion. Mae’r holl wasanaethau cyhoeddus a darparwyr annibynnol yn wynebu’r her o sut i ddarparu gwell gwasanaethau.

    Mae’r angen i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus am gost is ynghyd â disgwyliadau uwch dinasyddion yn creu sbardunau grymus ar gyfer newid.

    Mae’n rhaid cael gweledigaeth glir a rennir rhwng dinasyddion, llunwyr polisïau, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau ar draws asiantaethau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol

  • 6

    er mwyn ysgogi’r newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau a mynd i’r afael â’r heriau hyn.

    Mae cyflawni’r newid sylweddol sydd ei angen yn golygu nid yn unig deall anghenion defnyddwyr gwasanaeth, ond hefyd deall yr hyn sy’n gweithio a bod yn barod i herio ac arloesi. Ni ellir newid gwasanaethau a ddarperir ar y raddfa hon dros nos ac ni ellir ychwaith gwneud popeth ar unwaith. Dyma rai o’r materion pwysig y bydd angen i’r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol eu hystyried. Yn y cyfamser, rhaid parhau i gymryd y camau sydd eu hangen i sbarduno gwelliant.

    Dylid ystyried yr heriau hyn yng nghyd-destun y sylfeini cryf sydd wedi eu sefydlu yng Nghymru erbyn hyn.

    Mae Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol yn nodi’r weledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gwasanaethau craidd o fewn llywodraeth leol sydd wedi eu bwriadu i hybu cynhwysiant cymdeithasol ac annibyniaeth, i ddarparu cymorth ac amddiffyniad, ac i weithredu fel hyrwyddwyr corfforaethol ar gyfer y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed ac mewn mwyaf o berygl yn ein cymunedau.

    Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid cael gweledigaeth sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau traddodiadol. Mae angen newidiadau mewn arweiniad corfforaethol a gwleidyddol lleol er mwyn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau modern sy’n rhoi’r dinesydd yn gyntaf ac a ategir gan strategaethau comisiynu a chyllidebol eglur yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â gwaith partneriaeth cryf a threfniadau rheoli prosiect a pherfformiad cadarn. Mae dull system gyfan yn hanfodol os yw’r gwelliannau gofynnol am gael eu gwireddu gydag awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda chomisiynwyr a darparwyr gwasanaeth eraill, partneriaid gofal, ac yn sicrhau cydweithio effeithiol rhyngddynt â’i gilydd.

    Roedd “Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru 1998-2008 - Dysgu gwersi o’r siwrnai” hefyd yn nodi’r elfennau sy’n sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol - arweinyddiaeth, gweledigaeth a gweithredu wedi’u cyfuno â dysgu gwersi gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff.

    Mae’r canllaw statudol ar swyddogaeth a chyfrifoldebau Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r dull newydd o werthuso perfformiad - fframwaith adrodd blynyddol y Cyfarwyddwr - yn ganolog i hyn.

    Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn pwysleisio’r angen am hybu ymdeimlad o gyfrifoldeb am berfformiad a sicrhau ei fod yn cael ei ddeall a’i reoli o fewn yr awdurdod lleol. Bydd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynhyrchu a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar berfformiad yn ogystal â chynllun gwella. Bydd y broses hon yn helpu aelodau etholedig ac awdurdodau lleol i wella eu dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau ac i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ar ddatblygu a gwella gwasanaethau.

    Bydd y broses hon hefyd yn helpu dinasyddion, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr, i ddeall sut y mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar eu cyfer ac yn caniatáu iddynt gael mwy o lais ynglŷn â hynny. Mae angen i awdurdodau lleol barhau i chwilio am

  • 7

    ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a ffurfio cysylltiadau newydd. Mae’r diddordeb a ddangosir erbyn hyn mewn dulliau gwahanol, er enghraifft atebolrwydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau, yn galonogol ac yn arwydd bod awdurdodau eisoes yn mynd i’r afael â’r agenda hon.

    Yr Agenda Newid

    Mae gan AGGCC swyddogaeth bwysig i’w chyflawni yn yr agenda newid hon. Mae’r fframwaith newydd ar gyfer arolygu ac adolygu awdurdodau lleol yn rhan bwysig o’r rhaglen hon ar gyfer newid. Mae’r fframwaith presennol ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau yn ddiau wedi cyfrannu at wella safonau ac ansawdd gwasanaethau. Ond mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers llunio’r rheoliadau a’r safonau ac mae angen gwneud newidiadau iddynt i’w moderneiddio a’u gwella. Wrth i fodelau gwasanaeth newid a datblygu i fod yn fwy arloesol, mae’n rhaid i reoleiddio ac arolygu ymateb i hyn er mwyn sicrhau bod anghenion a dyheadau pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn yn cael eu hadlewyrchu’n briodol yn y fframwaith rheoleiddio a’r fethodoleg arolygu. Bydd AGGCC yn cyflawni swyddogaeth weithredol yn yr adolygiad strategol o reoleiddio a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin.

    Wrth gydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol y caiff comisiwn annibynnol ei sefydlu a fydd yn edrych ar sut y gellir gwireddu’r bwriad strategol yn ‘Bywydau Bodlon Cymunedau Cefnogol’ yn llawn, ac yn ystyried sut i roi cefnogaeth bellach i arfer proffesiynol. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn cyfrannu at y gwaith hwn ac yn gweithredu ar unrhyw negeseuon er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni’r newidiadau sy’n ofynnol. Ceir sylfeini cryf a hinsawdd wella sy’n tyfu yng Nghymru y gellir adeiladu arnynt i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

    Yn y cyfamser, mae rhai heriau sydd angen sylw di-oed. Bydd y newidiadau i’r GIG yng Nghymru yn cael effaith sylweddol ar bob partner o ran darparu gofal - bydd angen sefydlu cysylltiadau a pholisïau ac arferion newydd yn gyflym. Nid oes amheuaeth ynglŷn â’r gwelliannau posib y gellid eu cyflawni, ond bydd y broses newid yn gofyn am arweiniad cryf gan wasanaethau cymdeithasol i lwyddo yn yr amgylchedd newydd hwn.

    Mae angen i awdurdodau weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth ansawdd sylweddol rhwng gwasanaethau. Amlygwyd hyn yn adroddiadau blynyddol y pedair blynedd diwethaf. Yn erbyn cefndir o welliant parhaus mewn gwasanaethau, nid yw graddau’r gwahaniaeth rhwng gwasanaethau ac awdurdodau wedi newid llawer. Mae angen i awdurdodau lleol ac asiantaethau gwella gydweithio i fynd i’r afael â gwahaniaethau. Mae angen i awdurdodau gytuno i dargedu rhai meysydd allweddol lle y ceir gwahaniaethau, a gweithredu ar y cyd i’w gwella. Bydd rhoi cynnig ar wahanol ddulliau a gwerthuso’r effaith yn helpu i nodi’r hyn sy’n gweithio orau ac yn galluogi awdurdodau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd mewn meysydd eraill sydd angen sylw.

  • 8

    Gall y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol gefnogi’r newidiadau sy’n ofynnol

    Mae llawer o waith wedi ei wneud i fynd i’r afael â rhai o’r problemau sylfaenol yn y maes gwaith cymdeithasol. Mae partneriaethau’r gweithlu wedi cael llwyddiant tra sylweddol o ran bodloni’r galw i ddarparu gweithlu mwy cymwysedig mewn niferoedd digonol, er bod nifer o heriau yn parhau. Mae gweithredu’r canllaw ‘Gwneud y gorau o’r flwyddyn gyntaf o ymarfer’ yn gam pellach pwysig. Dangosodd yr adolygiad diogelu plant fod awdurdodau heb weithredu’r canllaw hwn yn llawn hyd yma.

    Mae sicrhau bod y gweithlu’n cynnwys y cymysgedd priodol o wybodaeth a sgiliau yn hanfodol er mwyn bodloni anghenion pobl. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried eu gofynion o fewn cyd-destun ehangach yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Mae’r adolygiad diogelu plant yn codi rhai cwestiynau pwysig i’w trafod am gyfansoddiad y gweithlu gwaith cymdeithasol ar gyfer plant mewn angen.

    Yn sgil achos Haringey, bu llawer o drafod am y fframwaith gwasanaeth a’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol i wneud eu gwaith. Mae’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn awr yn bwysig. Beth yw’r cydbwysedd priodol rhwng rhyddid i weithredu yn unol â barn broffesiynol a’r angen i sicrhau y defnyddir dull cyson yn seiliedig ar dystiolaeth gronnol o arfer gorau? A yw’r pendil wedi symud yn rhy bell tuag at ragnodi a phroses, gan lesteirio barn broffesiynol? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig sydd â goblygiadau ar gyfer hyfforddiant gwaith cymdeithasol a datblygiad proffesiynol gweithwyr cymdeithasol ar ôl cymhwyso. Nid yw’r atebion yn syml nac yn amlwg, ond mae angen trafodaeth bellach i lunio’r agenda ar gyfer symud ymlaen.

    Yn yr un modd, mae’r achosion anodd hyn yn codi cwestiynau pwysig o fewn y proffesiwn, ynglŷn â phwy sydd â chyfrifoldeb ac atebolrwydd. Mae’r codau ymddygiad ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol yn darparu fframwaith pwysig ar gyfer deall swyddogaethau a chyfrifoldebau priodol, ac atebolrwydd personol a chorfforaethol. Mewn gwasanaethau lle y ceir llawer o bwysau, mae’n bwysig bod pawb sy’n gysylltiedig yn cadw’r rhain mewn cof. Mae cynnal y safonau uchaf bob amser yn her gyson, ond mae’n hanfodol os ydym am greu gweithlu hyderus a phroffesiynol ar gyfer y dyfodol, sy’n gallu bodloni anghenion a dyheadau dinasyddion a chymunedau.

    Wrth edrych i’r dyfodol, gwelir ei fod yn heriol ond yn gyffrous ar yr un pryd, gan ei bod yn amlwg bod awydd i ddefnyddio’r cyfleoedd a gyflwynir gan yr heriau hyn i newid a chanfod gwell ffyrdd o ddarparu gwasanaethau i fodloni anghenion dinasyddion. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd yn effeithiol y byddwn yn gallu wynebu’r her hon. Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o gytundeb ymysg pawb sy’n gysylltiedig i gyflawni hyn. Rhaid i ni felly sicrhau ein bod yn cyflawni hyn gyda’n gilydd.

    Casgliad

    Mae’n galonogol gallu adrodd am welliant parhaus yn y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn darparu adolygiad cynhwysfawr o’r gwasanaethau hyn, gan nodi lle y gwnaed gwelliannau a lle y mae angen gwaith pellach ar gyfer gwella. Mae’n nodi’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau wrth barhau â’r daith tuag at welliant mewn darparu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy’n bodloni dyheadau ac anghenion ein dinasyddion.

  • 9

    Pennod Dau

    Bodloni Anghenion Oedol ion

    Trosolwg

    Mae’r dystiolaeth ynglŷn â pherfformiad awdurdodau lleol yn dangos bod gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion wedi gwella fesul tipyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaed cynnydd mewn cyd-destun economaidd anodd. Fodd bynnag, mae newidiadau’n digwydd yn gymharol araf ac mae perfformiad yn parhau i amrywio ledled Cymru. Mae’r sector a reoleiddir yn unigol yn parhau i wella.

    Ar 31 Mawrth 2009, roedd 81,500 o oedolion yn derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac roedd bron i dri chwarter (73 y cant) o’r bobl a oedd yn derbyn gwasanaethau yn 65 oed neu’n hŷn.

    Mae cyfran y boblogaeth sy’n 65 oed a’n hŷn yn cynyddu, ac mae pob sector o’r boblogaeth yn disgwyl mwy a mwy gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rydym yn disgwyl y bydd angen gwasanaeth ar fwy o bobl yn y dyfodol a bydd llawer o bobl yn dymuno derbyn gwasanaethau i’w cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy. Yn ogystal, mae’n haws i bobl gymharu eu profiadau â phrofiadau pobl eraill oherwydd bod awdurdodau lleol yn fwy agored ynglŷn â’u perfformiad, sy’n rhywbeth i’w groesawu. Mae’r datblygiadau hyn yn cyflwyno cyfle rhagorol i ailystyried y dull o fodloni anghenion oedolion, yn ogystal â her sylweddol wrth roi’r syniadau newydd hyn ar waith.

    Mae’n anodd mesur lefel y gwelliant mewn gwasanaethau i ofalwyr, gan nad oes data cymharol ar gael o’r blynyddoedd blaenorol.

    Mewn lleoliadau a reoleiddir, mae darparwyr gwasanaeth unigol yn y sectorau cartrefi gofal a gofal cartref wedi dangos tystiolaeth o welliant parhaus mewn nifer o feysydd craidd, gan gynnwys ansawdd cynllunio gofal a pharchu urddas defnyddwyr gwasanaeth. Er bod rhai pryderon yn parhau o ran agweddau pwysig ar sicrhau ansawdd, megis goruchwylio staff a rheoli meddyginiaeth, mae’r dystiolaeth gyffredinol yn awgrymu bod perfformiad yn gwella.

    Ymdrinnir â chwynion fwyfwy ar lefel leol. Mae’r materion a godwyd yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol i raddau helaeth, gan gynnwys lefelau staffio a sgiliau a chymhwysedd y staff.

    Cynhaliodd awdurdodau lleol tua’r un faint o ymchwiliadau amddiffyn oedolion eleni â’r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd mwy o ymchwiliadau i achosion o esgeulustod yn y sector a reoleiddir, a phrofwyd nifer sylweddol ohonynt. Codwyd pryderon yn arbennig mewn cartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio.

  • 10

    Mae patrwm cyffredinol y gwasanaethau yn parhau i fod yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol wedi cynyddu. Mae’r ddarpariaeth o dechnoleg gynorthwyol yn parhau i fod yr un fath i raddau helaeth. O safbwynt cydbwysedd gofal, mae canran y bobl hŷn a’r oedolion iau sy’n derbyn cymorth yn y gymuned tua’r un fath â’r llynedd.

    Nid yw sicrhau newidiadau sylfaenol yn dasg hawdd y gellir ei chyflawni yn y tymor byr. Er hynny, gwelwn arwyddion bod cynnydd yn cael ei wneud mewn gwasanaethau i oedolion ond bod angen i bethau newid yn gyflymach. Cymerwyd camau ymlaen pan fo awdurdodau lleol yn awyddus i gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau daearyddol a chyda sefydliadau eraill. Rhaid i newidiadau arwyddocaol a pharhaol gael eu hadeiladu ar strategaethau comisiynu cadarn, gan gynnwys gwerthfawrogi a dadansoddi anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mater canolog i hyn yw ymdrin ag ansawdd amrywiol y broses o ddarparu asesiadau, cynlluniau gofal ac adolygiadau.

    Mynediad

    Ar y cyfan, mae awdurdodau yn parhau i wella mynediad. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi sefydlu timau cyswllt cyntaf er mwyn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau gofal cwsmeriaid corfforaethol yn gweithio’n effeithiol gyda’r tîm derbyn. Mae gan nifer o awdurdodau systemau asesu risg, ac mae rheolwyr yn eu harchwilio’n aml i sicrhau bod materion brys yn cael eu blaenoriaethu’n briodol.

    Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn gallu darparu gwybodaeth o ansawdd da sydd ar gael i’r cyhoedd mewn fformatau priodol. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn llwyddo yn hyn o beth. Mae mwy a mwy o awdurdodau yn gwella eu gwefannau i sicrhau bod gwybodaeth gynhwysfawr a chyfredol ar gael yn rhwydd ar-lein. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn annog cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth. Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio dulliau arloesol er mwyn gwella mynediad at wasanaethau, megis galluogi pobl i wneud cais am wasanaeth ar-lein.

    Yn ogystal, mae angen systemau cadarn ar awdurdodau lleol i gasglu a monitro data er mwyn iddynt allu creu darlun cywir o ba mor dda y mae trefniadau mynediad yn gweithio’n ymarferol. Mae amrywiaeth o asiantaethau ac unigolion yn atgyfeirio achosion, ac felly mae’n hanfodol bod y meini prawf ar gyfer pennu pwy sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau yn cael eu deall yn yr un ffordd gan bawb. Mae angen i awdurdodau fonitro eu hymatebion yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn deall effaith meini prawf cymhwysedd.

    Nid yw ethnigrwydd yn cael ei gofnodi’n gyson ledled Cymru, ac felly rhaid i awdurdodau lleol fynd i’r afael â’r mater hwn er mwyn sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu bodloni’n briodol.

    Mae AGGCC yn cynnal Adolygiad Cenedlaethol o Fynediad a Chymhwysedd. Bydd yn ystyried gwaith ledled Cymru ac yn canolbwyntio ar y canlynol:

    • y trothwyon ar gyfer cael mynediad at wasanaethau cymdeithasol;

    • y defnydd o feini prawf cymhwysedd a pha un a ydynt yn deg a chyson;

    • sut y mae cymhwysedd yn cyd-fynd â materion ehangach yn ymwneud â chael mynediad at wasanaethau;

  • 11

    • monitro sut y defnyddir meini prawf cymhwysedd;

    • yr effaith ar ddarpariaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

    Cyhoeddir adroddiad trosolwg yn 2010.

    Yn achos gwasanaethau a reoleiddir yn unigol, disgwylir i’r unigolyn cofrestredig baratoi gwybodaeth briodol a chywir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ar ffurf datganiad o ddiben a chanllaw defnyddiwr gwasanaeth. Mae’r dogfennau pwysig hyn yn rhoi gwybod i ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth a chomisiynwyr gofal sut y mae gwasanaeth yn diwallu anghenion penodol. Rhaid adolygu a diweddaru’r dogfennau hyn yn rheolaidd.

    Gwelwyd peth gwelliant yn y maes hwn eleni, gyda dim ond naw y cant o’r gofynion rheoleiddio ar gyfer cartrefi gofal yn ymwneud â’r wybodaeth allweddol yn y datganiad o ddiben. Gwelwyd llai o ofynion mewn meysydd gwasanaeth eraill.

    Barn/profiadau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr

    Yn 2008, diwygiwyd dangosyddion perfformiad awdurdodau lleol ynglŷn â’u gwaith gyda gofalwyr ar gyfer 2008-09 ac felly nid oes gennym ddata y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. Mae’r data’n awgrymu bod mwy o ofalwyr yn cael cynnig asesiad penodol ar eu cyfer hwy eu hunain, er bod y sefyllfa’n amrywio’n fawr ledled Cymru. Mae angen gwneud mwy o waith i wella perfformiad mewn nifer o awdurdodau. Mae’r data ar draws Cymru yn dangos bod 61 y cant o’r gofalwyr a nodwyd ac y cynigiwyd asesiad iddynt, wedi derbyn asesiad. O ganlyniad i’w hasesiad, derbyniodd 46 y cant ohonynt wasanaeth. Dylai gwelliannau yn y dyfodol ganolbwyntio ar sicrhau bod mwy o ofalwyr yn cael cynnig asesiad, ac ar gwtogi’r amseroedd aros ar gyfer asesiad.

    Mae AGGCC wedi cyhoeddi adroddiad rheoli gwybodaeth eleni, gan wella ein hasesiad o wasanaethau awdurdodau lleol i ofalwyr1. Mae’r adroddiad yn defnyddio ymchwil academaidd ac ymchwil i arferion gwaith, canfyddiadau Cydadolygiadau a Gwerthusiadau Perfformiad, a barn gofalwyr. Mae’n archwilio’r problemau a’r heriau a wynebir wrth roi cymorth a chefnogaeth i ofalwyr. Yr adroddiad hwn yw’r cam cyntaf mewn proses dau gam ac mae’n tynnu sylw at feysydd y gallai fod angen eu gwerthuso’n fwy manwl yn ail gam y broses.

    Yn y flwyddyn i ddod, bydd AGGCC yn gweithio gydag asiantaethau partner i hwyluso gweithdai penodol i ymchwilio i faterion o bwys ar gyfer ymarferwyr a gofalwyr a nodwyd yn yr adroddiad cyntaf. O ganlyniad i’r gwaith hwn, cyhoeddir ail Adroddiad Rheoli Gwybodaeth ynglŷn â Gofalwyr, wedi’i ddiweddaru. Disgwyliwn i’n gwaith gyfrannu at Fesur Gofalwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a’r Canllawiau a gyhoeddir yn ei sgil.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd camau sylweddol tuag at sicrhau cymeradwyaeth y Cynulliad a’r Senedd ar gyfer ei Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Gofalwyr. Dylai’r Gorchymyn gwblhau camau olaf y broses o gael cymeradwyaeth y Senedd ac yna’r Cyfrin Gyngor yn nechrau 2010. Yn amodol ar gael cymeradwyaeth ffurfiol

    1 Adroddiad Rheoli Gwybodaeth ynglŷn â Gofalwyr, AGGCC 2008

  • 12

    ar gyfer y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, y bwriad yw i Fesur Gofalwyr drafft fod yn rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2009-10. Bydd y Mesur Gofalwyr drafft yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i’r GIG ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i ddatblygu a gweithredu strategaeth wybodaeth ac ymgysylltu ar gyfer gofalwyr. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol yn ogystal ag awdurdodau lleol a’r GIG) i helpu i ddatblygu’r Mesur Gofalwyr drafft.

    Mae AGGCC yn parhau i fod yn ymroddedig i sicrhau bod barn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth wraidd ei gwaith. Cafwyd sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r cymorth a dderbyniwyd gan y rhan fwyaf o’r gofalwyr a ymatebodd i’n harolygon. Er enghraifft, dywedodd y rhan fwyaf iddynt dderbyn ymateb da yn ystod y dydd.

    Mewn rhai awdurdodau lleol, canfuom dystiolaeth fod adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael ei ddefnyddio i lunio polisi a chynllunio a datblygu gwasanaethau.

    Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn eu hasesiadau unigol, eu cynlluniau gofal unigol a’u hadolygiadau. Yn ogystal, mae nifer fechan o awdurdodau yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn eu prosesau recriwtio, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl.

    O ran gwasanaethau a reoleiddir yn unigol, cesglir barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth ac fe’u hadlewyrchir ym mhob adroddiad arolygu. Yn ogystal, mae arolygiadau ac adolygiadau cenedlaethol a gynhelir gan AGGCC yn cynnwys barn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, a’r goblygiadau iddynt. Yn ystod y flwyddyn, roedd y rhain yn cynnwys y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn a chomisiynu sy’n mynd i’r afael yn benodol â thaliadau trydydd parti mewn lleoliadau cartrefi gofal.

    Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn gweithio’n galed i fwrw ymlaen â’r maes gwaith pwysig hwn, ac mae angen iddynt barhau i hyrwyddo barn a gobeithion defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr ynglŷn ag aildrefnu a gwella gwasanaethau. Er hynny, rhaid mynd i’r afael ag amrywiadau mewn perfformiad ledled Cymru.

    Asesu a rheoli gofal

    Mae prosesau da ar gyfer asesu a rheoli gofal, gan gynnwys cynllunio ac adolygu, yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr. Yn ôl y canllawiau statudol Creu System Deg ac Unedig i Asesu a Rheoli Gofal, mae’n rhaid i awdurdodau fabwysiadu ymagwedd systemau cyfan, gan gynnwys casglu’r gyfres ddata sylfaenol ar asesu unedig. Mae rhai awdurdodau yn adrodd iddynt ddefnyddio’r broses mewn ffordd gyson, tra bod eraill yn parhau i gael trafferth ei rhoi ar waith.

    Mae’r adolygiad rheoli gwybodaeth cychwynnol o’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn2 a gynhyrchwyd ar y cyd gan AGGCC ac AGIC, yn cefnogi’r farn hon. Canfu’r adolygiad hwn amrywiadau yn null awdurdodau lleol o reoli asesiadau ledled Cymru.

    2 Adolygiad o Effaith y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (NSF) ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, Cam 1, (2008-2009). Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2009

  • 13

    Mae peth tystiolaeth yn awgrymu y ceir mwy o gynnydd pan fo cydgysylltydd asesu unedig wedi’i benodi. Er hynny, mae rhwystrau o ran rhannu gwybodaeth a phroblemau gyda threfniadau ariannu ar y cyd yn creu anawsterau. Mae’r rhanddeiliaid i gyd yn cydnabod yn gyffredinol bod angen i’r holl bartneriaid barhau i ymdrechu ac ymrwymo i’r maes gwaith hwn.

    Erbyn hyn, mae awdurdodau lleol yn adrodd ar nifer y diwrnodau gwaith sy’n mynd heibio, ar gyfartaledd, rhwng yr ymholiad cychwynnol a chwblhau cynllun gofal. Mae’r broses adrodd hon yn cynnwys nodi pa un a gynhaliwyd asesiad arbenigol ai peidio. Mae’r amser a gymerir i gwblhau cynlluniau gofal yn amrywio’n fawr o un awdurdod i’r llall. Mae oedi hir cyn cynnal y broses cynllunio gofal yn annerbyniol ac yn golygu y gallai defnyddwyr gwasanaeth fod mewn perygl.

    Mae nifer y diwrnodau gwaith sy’n mynd heibio, ar gyfartaledd, rhwng yr ymholiad cychwynnol a chwblhau cynlluniau gofal, ac eithrio asesiadau arbenigol, yn amrywio o bum diwrnod gwaith ar gyfer yr awdurdodau gorau i hyd at 57 diwrnod gwaith ar gyfer y rhai gwaethaf. Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yw 20 diwrnod.

    Mae nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng yr ymholiad cychwynnol a chwblhau cynllun gofal, gan gynnwys asesiadau arbenigol, yn amrywio o 16 i 56 diwrnod, gyda ffigur o 34 diwrnod ar gyfer Cymru gyfan.

    Un elfen allweddol o’r broses asesu yw nodi risg. Mae angen i awdurdodau lleol barhau i weithio ar ddatblygu a gweithredu strategaethau rheoli risg ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion. Gallai pobl sy’n agored i niwed ddioddef niwed os nad yw’r prosesau asesu a rheoli risg yn briodol.

    Ar ôl cynnal asesiad a llunio cynllun gofal, dylai defnyddwyr gwasanaeth ddisgwyl i wasanaethau gael eu darparu’n brydlon. Eleni, dechreuodd awdurdodau lleol adrodd ar ganran y defnyddwyr gwasanaeth 65 oed a’n hŷn sy’n derbyn gofal cartref neu wasanaeth gofal dydd o fewn 29 diwrnod o gwblhau adolygiad neu gynllun gofal. Mae’r ganran a dderbyniodd wasanaeth o fewn yr amserlen hon yn amrywio o 70 y cant i 99 y cant. 91 y cant yw’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan. Er hynny, mae’n achos pryder y gall gymryd unrhyw beth hyd at 117 diwrnod ar gyfartaledd ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn derbyn gwasanaeth o fewn yr amserlen hon. Ffigur Cymru gyfan ar gyfer pobl nad ydynt yn derbyn gwasanaeth o fewn 29 diwrnod, yw 67 diwrnod.

    Pan fydd gwasanaeth wedi ei sefydlu, rhaid i staff awdurdodau lleol gynnal adolygiadau prydlon a rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn yn ogystal â phan fo anghenion neu amgylchiadau unigolyn yn newid. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth wedi’i deilwra. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi parhau i wella yn y maes hwn, er bod nifer ohonynt heb wneud hynny. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2009, mae ffigur Cymru gyfan yn dangos bod 68 y cant o ddefnyddwyr gwasanaeth a chanddynt gynllun gofal y dylid bod wedi’i adolygu, wedi derbyn adolygiad. Mae’r graff trosodd yn dangos y gwahaniaeth sylweddol, sef dros 50 y cant, rhwng yr awdurdodau gorau a gwaethaf.

  • 14

    O ran gwasanaethau a reoleiddir yn unigol, mae’r darparwyr yn ymateb yn gadarnhaol. Roedd darparwyr wedi adolygu cynlluniau darparu gwasanaeth ym mhob un ond chwech y cant o’r adroddiadau arolygu asiantaethau gofal cartref. Mae hyn 13 y cant yn well na’r flwyddyn flaenorol. Gwnaed gofynion mewn wyth y cant o adroddiadau arolygu cartrefi gofal.

    Ar lefel Cymru gyfan, gwelwyd tystiolaeth dros y tair blynedd diwethaf fod awdurdodau lleol a gwasanaethau a reoleiddir yn unigol yn adolygu cynlluniau gofal yn fwy prydlon.

    Cefnogi annibyniaeth a gofal wedi’i deilwra

    Mae 94 y cant o ddefnyddwyr gwasanaeth rhwng 18 a 64 oed yn cael eu cynorthwyo yn y gymuned, sydd yr un fath â chanran y llynedd. Mae canran y defnyddwyr gwasanaeth 65 oed a’n hŷn a gynorthwyir yn y gymuned wedi cynyddu ychydig o 82 y cant i 83 y cant.

    Yn 2008-09, parhaodd awdurdodau lleol i annog defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio taliadau uniongyrchol. O ganlyniad, gwelwyd nifer yr oedolion a gynorthwyir yn y gymuned ac sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn cynyddu o 23 ym mhob 1,000 o bobl yn 2008 i 30 ym mhob 1,000 o bobl yn 2009. Er nad yw defnyddiwr gwasanaeth sy’n derbyn taliad uniongyrchol yn sicr o fod yn fwy annibynnol, gall fod yn beth cadarnhaol i’r unigolyn.

    Nid yw nifer y bobl sy’n derbyn technoleg gynorthwyol electronig fel rhan o becyn gofal wedi cynyddu ers y llynedd, sef 111 ym mhob 1,000 o oedolion a aseswyd. Mae nifer y bobl sy’n derbyn y gwasanaeth hwn yn amrywio’n fawr ledled Cymru, rhwng 47 a 215 ym mhob 1,000.

    Cymerir saith diwrnod gwaith ar gyfartaledd ledled Cymru rhwng cwblhau cynllun gofal a darparu a/neu osod cymhorthion/cyfarpar mwy traddodiadol. Fodd bynnag, mae’r ffigur yn amrywio o rhwng tri a 15 diwrnod, yn dibynnu ar yr awdurdod lleol. Nid yw’r data hwn yn cynnwys addasiadau i dai.

    Canran y cleientiaid a chanddynt gynllun gofal ar 31 Mawrth y dylid bod wedi adolygu eu cynllun gofal, a dderbyniodd adolygiad yn ystod y flwyddyn

    0

    10

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    90

    100

    Cymru Uchaf

    2006-07 2007-08 2008-09

    Isaf

    90.9096.63

    83.59

    68.05

    63.2357.45

    2.45

    28.05

    32.84

    %

  • 15

    Mae cyfarpar cymunedol yn allweddol er mwyn galluogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyn hired ag y bo modd. Mae AGGCC wedi cefnogi’r gwaith ar integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol. Erbyn hyn mae 11 partneriaeth ffurfiol ar waith ledled Cymru. Dyma’r unig faes gwasanaeth lle y ceir cytundebau partneriaeth ffurfiol a chyllidebau cyfun ledled Cymru. Datblygwyd gwaith partneriaeth hefyd ar sail Cymru gyfan trwy waith Gwerth Cymru. Datblygwyd fframwaith comisiynu ar gyfer Cymru gyfan er mwyn caffael cyfarpar arferol o ansawdd gwell am gost fwy rhesymol. Mae mwy o waith ar y gweill i ddatblygu dull Cymru gyfan o wella’r trefniadau ar gyfer darparu cyfarpar cymhleth. Mae’r datblygiadau hyn wedi profi manteision gweithio mewn partneriaeth ar bob lefel.

    Gwelwyd gwelliant cyffredinol ymhlith gwasanaethau a reoleiddir yn unigol, o ran cydymffurfio â’r gofynion hynny sydd fwyaf tebygol o gefnogi annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cynllunio gofal mewn modd cyson a chynnal adolygiadau yn brydlon, yn enwedig pan fo anghenion yn newid. Mae mwy o gartrefi gofal wedi cydymffurfio â’r gofynion hyn dros y tair blynedd diwethaf ac mae’n amlwg bod y rhan fwyaf o gartrefi yn darparu gofal sydd wedi’i deilwra’n well. Yn y sector lleoli oedolion, mae defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn y broses cynllunio gofal fel y byddem yn ei ddisgwyl mewn deg o’r un ar ddeg o asiantaethau a arolygwyd.

    Mae gan ddefnyddwyr gwasanaeth hawl sylfaenol i breifatrwydd ac urddas. Gellir gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni’r nod hwn trwy ddarparu ystafelloedd gwely unigol mewn cartrefi gofal. Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol yn nodi proses gam wrth gam ar gyfer sicrhau bod gan bob defnyddiwr gwasanaeth ei ystafell ei hun. Mae nifer o ddarparwyr wedi cyflawni’r targed hwn neu’n cymryd camau priodol i’w gyflawni erbyn 2010.

    Ar y cyfan, ceir darlun o welliannau cadarnhaol, gam wrth gam, i gefnogi annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, mae angen i awdurdodau lleol barhau i gymryd camau gweithredol i gefnogi gwasanaethau megis taliadau uniongyrchol a darparu technoleg gynorthwyol er mwyn cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth.

    Comisiynu

    Mae comisiynu da yn dibynnu ar gael gwybodaeth sy’n cysylltu anghenion defnyddwyr gwasanaeth â chynllunio a datblygu gwasanaethau. Mae penderfyniadau comisiynu awdurdodau lleol hefyd yn dylanwadu ar ystod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy’n ariannu eu gofal cymdeithasol eu hunain. Nid yw’n ddigon i awdurdodau lleol ystyried y gwasanaethau y maent hwy yn eu hariannu yn unig. Mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir gan sefydliadau eraill yn eu hardal yn cael eu cynllunio, eu trefnu a’u darparu’n dda.

    Gwelwyd bod fframweithiau o’r fath wedi’u hymsefydlu i raddau amrywiol iawn, yn ymarferol, ledled Cymru. Yn gyffredinol, gwelwyd tystiolaeth fod gallu timau comisiynu a chontractio wedi ei ehangu i ryw raddau, sy’n golygu y gallant aildrefnu gwasanaethau a datblygu fframweithiau gwell ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â chontractau. Mae nifer o awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi pa gymorth sydd ar gael iddynt

  • 16

    i allu gweithio’n effeithiol i gomisiynu gwasanaethau o ansawdd da am bris rhesymol sy’n diwallu anghenion lleol.

    Pan fo strategaethau comisiynu wedi’u gweithredu’n llawnach, mae’r rhain wedi bod ym maes gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn bennaf. Rydym hefyd yn gweld tystiolaeth o fwy o waith partneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o fewn y grwpiau defnyddwyr gwasanaeth hyn.

    Mae tueddiadau demograffig yn awgrymu bod mwy o bobl yn debygol o fod angen gwasanaethau yn y dyfodol, gyda nifer o bobl yn dewis aros yn eu cartrefi eu hunain gyda chymorth ychwanegol. Felly mae’n bwysig sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau lleol ar gael i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a’u perthnasau.

    Yn 2008-09, roedd tua’r un faint â’r flwyddyn flaenorol o bobl hŷn (65 oed neu’n hŷn), sef 89 ym mhob 1,000 o bobl, yn derbyn cymorth yn y gymuned. Ar yr un pryd, roedd awdurdodau yn cynorthwyo cyfradd ychydig yn llai o bobl hŷn mewn cartrefi gofal, yn ôl pob 1,000 o bobl 65 oed a’n hŷn.

    Nid oes modd nodi swyddogaeth y trydydd sector a phartneriaid eraill o ran datblygu gwasanaethau ataliol. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried hyn yn yr adolygiad cenedlaethol o fynediad a chymhwysedd sydd ar ddod.

    Wrth ystyried cydbwysedd y gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol mewn gwirionedd, mae awdurdodau lleol yn cynorthwyo un y cant yn fwy o ddefnyddwyr gwasanaeth 65 oed neu’n hŷn yn y gymuned. Ni welwyd fawr o newid yng nghanran y defnyddwyr gwasanaeth rhwng 18 a 64 oed a gynorthwyir yn y gymuned.

    O ran y galw am wasanaethau, mae anghenion pobl â demensia yn parhau i godi materion o bwys. Mae ymchwil ar ddemensia3 yn awgrymu y bydd gan filiwn o bobl yn y DU ddemensia erbyn 2025. Yng Nghymru, mae gan un o bob pump o bobl dros 80 oed ddemensia. Y cyfanswm ar gyfer y boblogaeth gyfan yw 36,704. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i bron i 48,000 erbyn 2021. O ganlyniad, comisiynodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Medi 2008 i ddatblygu cynllun demensia cenedlaethol. Yn ogystal, mae AGGCC wedi comisiynu ymarfer mapio cychwynnol ar gyfer gwasanaethau demensia i edrych ar y gwasanaethau cyfredol gyda’r bwriad o gynnal adolygiad mwy trylwyr yn ddiweddarach.

    Mae newidiadau demograffig yn codi cwestiynau allweddol ynglŷn â sut y dylid talu am anghenion gofal. Mae’r adroddiad Talu am Ofal yng Nghymru gan y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio’r system. Diben y cynigion hyn yw sefydlu trefniadau tecach a mwy cynaliadwy ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol. Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad yn yr hydref 2009 ar bapur gwyrdd sy’n cynnwys dewisiadau ar gyfer diwygio’r drefn.

    Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi Mesur newydd arfaethedig yn galw am drefniadau tecach a mwy cyson gan awdurdodau lleol ar gyfer codi tâl am wasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn rhai preswyl, ledled Cymru. Dan y Mesur

    3 Kings College Llundain, Ysgol Economeg Llundain a’r Gymdeithas Clefyd Alzheimer (2007)

  • 17

    arfaethedig, bydd yn ofynnol i awdurdodau roi gwybodaeth rad ac am ddim ynglŷn â chodi tâl a bydd yn gwneud yr elfennau statudol presennol yn y cyfarwyddyd Codi Tâl Tecach yn orfodol. Mae’r rhain yn amddiffyn pobl ar incwm isel, o safbwynt ariannol. 2010 yw’r amserlen a gynigiwyd i awdurdodau lleol roi hyn ar waith.

    Ar wahân i hyn, mae AGGCC wedi cychwyn adolygiad cenedlaethol o gomisiynu, gan edrych yn arbennig ar y defnydd o daliadau trydydd parti mewn lleoliadau cartrefi gofal. Y cwestiynau allweddol i’w hateb gan yr adolygiad hwn yw:

    • i ba raddau y defnyddir taliadau atodol/trydydd parti ledled Cymru a beth yw’r amrywiadau?

    • pam y cânt eu defnyddio a beth yw’r effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr?

    Adroddir ar ganfyddiadau’r adolygiad hwn yn 2010.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu ymgynghori ar ganllawiau statudol sy’n canolbwyntio ar gomisiynu. Bydd y rhain ar ffurf safonau y disgwylir i awdurdodau lleol eu cyflawni. Bydd y canllawiau yn ychwanegu at ac yn disodli’r hyn a ddarperir yn Hyrwyddo Partneriaeth ym Maes Gofal - Comisiynu ar draws Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Llywodraeth Cynulliad Cymru, Mawrth 2003).

    Bydd safonau comisiynu’r Fframwaith yn pennu’r meincnod ar gyfer mesur pa mor effeithiol yw prosesau comisiynu awdurdodau lleol. Mae’r safonau’n canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau comisiynu yn seiliedig ar dystiolaeth, a’u darparu trwy drefniadau caffael effeithiol. Bydd ail ran y Fframwaith yn nodi arfer da o ran comisiynu a chaffael.

    Mae AGGCC hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr polisi a’r Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anableddau Dysgu i ddatblygu canllawiau ar gomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Roedd y canllawiau’n cael eu hystyried ar gyfer ymgynghoriad ar adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn.

    Gwaith partneriaeth

    Mae angen cynyddol am fwy o waith partneriaeth i gefnogi gwelliannau a datblygiadau mewn gwasanaethau ac arferion gwaith. Y llynedd, gweithiodd AGGCC mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi’r broses o ddatblygu canllawiau statudol ar Ddwysáu Pryderon a Chau Cartrefi. Mae’r canllawiau hyn yn cynghori awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ynglŷn â sut i reoli sefyllfaoedd lle y ceir pryderon sy’n ymwneud yn benodol ag ansawdd y gofal. Maent hefyd yn ymdrin â sefyllfaoedd lle y mae cartrefi gofal yn cau yn wirfoddol neu’n cael eu gorfodi i gau.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i ddatblygu darlun cywir o’r defnydd o bartneriaethau ffurfiol sydd â chyllidebau cyfun. Nid yw’r rhain wedi eu datblygu’n ddigonol ar hyn o bryd, ond mae’n bwysig i awdurdodau lleol weithio gyda’r Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) newydd i annog gwaith partneriaeth.

    Y llynedd, bu AGGCC yn gweithio gyda’r tîm Creu’r Cysylltiadau i gynnal seminarau codi ymwybyddiaeth er mwyn egluro manteision cyllidebau cyfun. Comisiynodd AGGCC dempledi hefyd ar gyfer cytundebau partneriaeth ffurfiol adran 33 i gynorthwyo partneriaethau lleol. Rydym wedi rhannu’r templedi hyn gydag awdurdodau lleol.

  • 18

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu modelau gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn. Y Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau i Bobl Hŷn yw’r cyntaf mewn cyfres o fframweithiau gwasanaeth mwy eglur ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y Fframwaith yn cael ei gwblhau erbyn 2010 a bydd yn cyfrannu at sicrhau gwasanaethau modern, hygyrch ac ymatebol. Bydd yn:

    • hybu annibyniaeth pobl hŷn ac yn gwella’r canlyniadau ar eu cyfer;

    • cryfhau a datblygu gwasanaethau cymunedol;

    • sicrhau bod gwasanaethau yn ymateb wrth i anghenion newid;

    • osgoi derbyn pobl i’r ysbyty yn ddiangen;

    • sicrhau bod gofal preswyl yn parhau i fod yn ddewis cadarnhaol a phriodol;

    • annog gwaith partneriaeth gyda barn gyffredin ynglŷn â ffurf gwasanaethau a chymorth yn y gymuned gan sicrhau darpariaeth ddi-fwlch.

    Oedi wrth Drosglwyddo Gofal

    Mae perfformiad wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf o ran oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, er ei fod yn parhau i amrywio ar draws Cymru.

    Mae mwyafrif yr awdurdodau wedi gwella, ond gwelwyd mwy o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal mewn deg awdurdod. Mae sawl mater yn debygol o effeithio ar berfformiad awdurdodau lleol:

    • problemau wrth asesu anghenion, gan gynnwys asesu pwy sy’n gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus;

    • anawsterau wrth drefnu lle mewn cartref gofal a gwasanaethau gofal cartref;

    • yr her o wireddu gweledigaeth strategol ar gyfer hybu annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth, trwy ddatblygu gwasanaethau a chyflawni newidiadau mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd.

    0

    1

    2

    3

    4

    5

    6

    7

    8

    Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol ym mhob 1,000 o bobl 75 oed neu’n hŷn

  • 19

    Edrychodd yr awdurdodau a oedd yn perfformio’n well ar yr holl wasanaethau a oedd ar gael a sut yr oeddynt yn gweithio gyda’i gilydd, ac yna gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno newidiadau gweladwy i’w modelau gwasanaeth.

    Ar y cyfan, fe welwn dystiolaeth o fwy o waith partneriaeth ar lefel strategol. Gwelwyd arwyddion hefyd bod awdurdodau lleol yn rhoi mwy o flaenoriaeth i gomisiynu ac yn cynyddu eu gallu o ran niferoedd staff o ganlyniad. Yn y tymor hwy bydd hyn yn golygu y gellir ymateb yn fwy effeithiol i anghenion a nodir yn lleol.

    Gellir edrych ar arferion comisiynu awdurdodau lleol trwy ystyried ffurf a phatrwm y gwasanaethau unigol sydd ar gael mewn unrhyw ardal benodol. Dyma’r patrwm a ddaw i’r amlwg o ran gwasanaethau a reoleiddir:

    Cartrefi Gofal

    Nid yw maint cyffredinol y sector hwn wedi newid llawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar 31 Mawrth 2009, roedd 1,187 o gartrefi gofal yng Nghymru, gyda 26,824 o welyau wedi’u cofrestru. Roedd cyfanswm o 890 o gartrefi gofal wedi’u cofrestru i ddarparu gofal personol, gyda 14,454 o welyau, ac roedd 297 o gartrefi a chanddynt 12,370 o welyau wedi’u cofrestru i ddarparu gofal nyrsio.

    Yn yr un modd ag yn y flwyddyn flaenorol, mae 25 y cant o gartrefi gofal wedi’u cofrestru i ddarparu gofal nyrsio. Mae’r cydbwysedd rhwng y sector annibynnol a’r sector awdurdodau lleol wedi newid ychydig, yn dilyn cynnydd bychan yng nghyfran y darparwyr sector annibynnol. Roedd 87 y cant o’r cartrefi yn y sector annibynnol a 13 y cant yn eiddo i awdurdodau lleol (gostyngiad o un y cant). Y llynedd, rhoddodd 27 o gartrefi y gorau i weithredu yn wirfoddol. Mae hyn yn is na ffigur 2007-08, sef 41, ond tua’r un faint â ffigur 2006-07.

    Derbyniodd AGGCC 164 cais i gofrestru yn 2008-09, sef tri y cant yn llai na 2007-08. Dadgofrestrwyd 41 y cant yn llai o gartrefi oherwydd newid perchennog. Ym mis Mawrth 2009, roedd gan Gymru 184 o gartrefi gofal bychain (cartrefi sydd â thri lle neu lai), sef dau y cant yn is na 2007-08.

    Gofal cartref

    Ar 31 Mawrth 2009, roedd 354 o asiantaethau gofal cartref wedi’u cofrestru yng Nghymru o’i gymharu â 340 yn y flwyddyn flaenorol - pedwar y cant yn uwch. Roedd 87 y cant o’r rhain yn ddarparwyr annibynnol, sef canran ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Awdurdodau lleol oedd yn rhedeg y 13 y cant a oedd yn weddill. Fodd bynnag, nid yw’r canrannau hyn yn adlewyrchu union lefel y gwasanaeth a ddarperir gan y sector cyhoeddus, gan mai dim ond maint yr asiantaeth a gofnodir gan AGGCC, ac nid graddau’r ddarpariaeth yn gyffredinol.

    Mae dosbarthiad yr asiantaethau yr un fath ar y cyfan, gyda’r niferoedd mwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe. Gwelwyd cynnydd unwaith eto yn nifer yr asiantaethau sy’n darparu dros 200 awr yr wythnos, ac mae’r rhain erbyn hyn yn cynrychioli 76 y cant o’r holl ddarpariaeth.

  • 20

    Cynlluniau lleoli oedolion

    Mae deuddeg Cynllun Lleoli Oedolion wedi’u cofrestru gydag AGGCC, sef un yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Mae’r cynllun newydd wedi’i leoli yn Wrecsam. Cynyddodd cyfanswm nifer y lleoliadau sydd ar gael yn 2008/9 o 234 i 303. Nid oes yr un cynllun lleoli oedolion wedi’i gofrestru yn Ynys Môn, Sir y Fflint, Powys, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Ceredigion, Blaenau Gwent, Torfaen na Chasnewydd, er bod rhai cynlluniau yn gweithredu ar draws nifer o awdurdodau lleol.

    Asiantaethau nyrsys

    Rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2009, cofrestrwyd pedair asiantaeth nyrsys ychwanegol, gan ddod â’r cyfanswm i 36. Mae nifer o’r asiantaethau hyn wedi’u cofrestru hefyd i ddarparu gofal cartref, ac felly mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â dau fframwaith rheoleiddio ychydig yn wahanol.

    Ansawdd y Gwasanaethau

    Mae defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn disgwyl, a hynny’n ddigon teg, i wasanaethau fod o ansawdd priodol. Yn ogystal ag adolygiadau ac arolygiadau unigol o awdurdodau lleol a gwasanaethau, mae gan adolygiadau cenedlaethol swyddogaeth allweddol o ran nodi sut y llwyddir i gyflawni gofynion ansawdd. Cychwynnwyd ar adolygiad dwy flynedd o’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn ym mis Ebrill 2008. Lansiwyd y strategaeth yn wreiddiol yn 2006, ac mae’n nodi safonau cenedlaethol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru.

    Mae AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal yr adolygiad hwn ar y cyd dros gyfnod o ddwy flynedd. Y nod yw canfod pa effaith y mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn ei chael ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Cwblhawyd y cam cyntaf, sef adolygiad rheoli gwybodaeth. Mae’r gwaith ar yr ail gam wedi cychwyn, a bydd yr ail gam hwn yn edrych ar safonau’r Fframwaith o safbwynt grŵp penodol o bobl hŷn. Mae hyn yn debygol o gynnwys gwasanaethau demensia. Bydd yr adolygiad yn edrych ar y canlynol:

    • Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth;

    • Comisiynu a chynllunio;

    • Buddiannau darparwyr;

    • Llwybrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn.

    Bydd AGGCC ac AGIC yn cyhoeddi Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol ar ôl cwblhau’r adolygiad yn yr haf, 2010. Bydd canlyniad yr adolygiad sylfaenol hwn yn cyfrannu at bennu’r targedau a’r camau gweithredu ar gyfer ail gam strategol gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

    Mae rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru ar urddas a pharch yn gysylltiedig â hyn. Sefydlwyd grŵp Cydgysylltu Urddas mewn Gofal cenedlaethol yn yr haf 2008 i gynnig cyngor ar weithredu rhaglen tair blynedd. Gwnaed cynnydd tuag at sefydlu is-grŵp gofal cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r is-grŵp wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi

  • 21

    ymwybyddiaeth o’r agenda urddas mewn gofal. Bydd hyfforddiant ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â chomisiynwyr gwasanaethau, yn y gwanwyn 2010. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’r Strategaeth Pobl Hŷn ehangach i wella ansawdd gwasanaethau i bobl hŷn. Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd nifer y bobl hŷn yn cynyddu un ar ddeg y cant dros yr ugain mlynedd nesaf. Felly mae’n bwysig cydnabod eu swyddogaeth a’u cyfraniad mewn cymunedau, a sicrhau eu bod yn cael iechyd da ac ansawdd bywyd gwell.

    Er mwyn annog gwelliannau i wasanaethau, cefnogodd AGGCC gynllun arbrofol mewn un awdurdod lleol i ddatblygu trefniadau comisiynu a chynllunio gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Ein bwriad yw rhannu’r gwaith hwn yn fwy eang.

    Mae AGGCC hefyd yn arolygu ansawdd gwasanaethau a reoleiddir yn uniongyrchol. Mae’r arolygiadau hyn yn darparu gwybodaeth helaeth am gyflwr gwasanaethau unigol. Maent hefyd yn golygu y gall yr arolygiaeth ystyried perfformiad awdurdodau lleol, gan gynnwys eu swyddogaeth o ran comisiynu a chontractio, asesu a rheoli gofal, a’u trefniadau amddiffyn oedolion.

    Cartrefi Gofal

    Dadansoddodd AGGCC ganfyddiadau dros 90 y cant (1,059) o adroddiadau arolygu y llynedd, a rhoddodd hyn ddarlun cynhwysfawr i ni o’r sector cartrefi gofal. Canolbwyntiodd arolygwyr ar y rheoliadau sy’n cael yr effaith fwyaf ar ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth, ac ar y meysydd craidd sy’n debygol o wella gwasanaethau. O ganlyniad, nid arolygwyd pob rheoliad ym mhob cartref. Ar y cyfan, gwelwyd tystiolaeth o welliant parhaus mewn sawl maes craidd, gan gynnwys:

    • ansawdd cynllunio gofal;

    • cynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau;

    • parchu urddas a phreifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth;

    • safon cynnal a chadw a glanweithdra safleoedd;

    • gwelwyd rhywfaint o welliant mewn lefelau staffio.

    Yn ogystal:

    • mae 93 y cant o reolwyr cofrestredig naill ai wedi cyflawni NVQ priodol mewn rheoli, neu’n gweithio tuag at hynny;

    • bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn bodloni’r targed o ran ystafelloedd sengl erbyn 2010;

    • mae arferion recriwtio, gan gynnwys archwiliadau cyn cyflogi, wedi gwella. Fodd bynnag, gwelwyd achosion o beidio â chynnal archwiliadau cyn cyflogi mewn 14 y cant o’r adroddiadau. Mae hyn yn well na’r flwyddyn flaenorol, ond mae angen parhau i fynd i’r afael â’r mater hwn;

    • gwelwyd gwelliant parhaus o ran hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaeth.

    Er i ni weld gwelliannau mewn rhai agweddau ar staffio cartrefi gofal, mae pryderon yn parhau ynglŷn â rhai materion, er enghraifft:

  • 22

    • gwelwyd mewn 25 y cant o’r adroddiadau nad oedd gan aelodau staff y cymwyseddau priodol;

    • nodwyd gofynion mewn 25 y cant o’r adroddiadau ynglŷn â chael digon o staff ar ddyletswydd i wneud y gwaith;

    • nodwyd gofynion mewn 16 y cant o’r adroddiadau ynglŷn â threfniadau priodol ar gyfer hyfforddi staff ym maes amddiffyn oedolion agored i niwed, sy’n uwch na’r llynedd;

    • codwyd pryderon mewn 29 y cant o’r adroddiadau ynglŷn â goruchwylio staff yn rheolaidd;

    • nodwyd gofynion mewn 27 y cant o’r adroddiadau ynglŷn â rheoli meddyginiaeth, sy’n awgrymu bod y maes hwn yn parhau i beri problemau er bod y sefyllfa’n gwella.

    Gofal cartref

    Dengys ein tystiolaeth fod y rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol wedi’u hymsefydlu mewn arferion gwaith, a bod gwasanaethau gofal cartref yn gwella yn arbennig yn y meysydd canlynol:

    • cysondeb o ran cynllunio gofal ac eglurdeb ynglŷn â’r modd y darperir gwasanaeth;

    • gweithdrefnau ar gyfer rhoi, cofnodi, trafod a gwaredu meddyginiaeth. Gwnaed gofynion mewn pedwar y cant o’r adroddiadau yn unig, sy’n well na’r flwyddyn flaenorol;

    • gwnaed gofynion mewn chwech y cant o’r adroddiadau ynglŷn ag asesiadau risg symud a chario, sydd 13 y cant yn well na’r ffigur a nodwyd yn ein hadroddiad blaenorol;

    • gwelwyd gwelliant o ran adolygu cynlluniau darparu gwasanaeth;

    • mae systemau wedi’u sefydlu i fonitro ac adolygu gwasanaethau: roedd yr holl adroddiadau ar wahân i ddeg y cant yn nodi y gofynnir am farn defnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

    Mae’r sefyllfa o ran materion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn fwy cadarnhaol eleni, a gwelwyd cyfran uwch o reolwyr yn ennill y cymwysterau priodol. Mae o leiaf 89 y cant wedi cofrestru ar gyfer cymwysterau priodol, wedi’u hennill neu yn gweithio tuag atynt. Yn ogystal, gwelwyd y canlynol:

    • methiant staff i gyflawni’r lefelau cymhwysedd sy’n angenrheidiol ar gyfer eu gwaith. Nodwyd hyn fel gofyniad mewn saith y cant o’r adroddiadau, sydd 15 y cant yn well na’r flwyddyn flaenorol;

    • mae’r rhan fwyaf o asiantaethau yn goruchwylio staff erbyn hyn. Dim ond naw y cant o’r adroddiadau a nododd ofynion yn y maes hwn, sydd 25 y cant yn well na’r flwyddyn flaenorol.

    Yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant mewn arferion recriwtio asiantaethau hefyd, ond mae angen i ddarparwyr barhau i ddilyn y gweithdrefnau yn drylwyr. Tynnwyd sylw at ddiffygion yn hyn o beth mewn deg y cant o’r adroddiadau.

    Cynlluniau Lleoli Oedolion

    Mae ansawdd y gofal mewn Cynlluniau Lleoli Oedolion wedi gwella ar y cyfan, ac mae darparwyr wedi ymateb i’r rhan fwyaf o’r gofynion a wnaed y llynedd. Dengys ein dadansoddiad fod:

    • dogfennau polisi allweddol ar gael ym mhob cynllun namyn un;

  • 23

    • barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth yn cynorthwyo i wella a datblygu’r gwasanaethau.

    Mae angen rhoi mwy o sylw i ddau faes. Yn gyntaf, rhaid i gynlluniau ddarparu hyfforddiant priodol ar gyfer gofalwyr lleoliadau oedolion. Yn ail, dylid nodi pa hyfforddiant penodol sydd ei angen ym maes iechyd a gofal personol defnyddwyr gwasanaeth unigol. Rydym yn pryderu ynghylch y ffaith na welwyd unrhyw welliant o ran addasrwydd gweithwyr na pha mor ddigonol yw eu hyfforddiant.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i adolygu’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer cynlluniau lleoli oedolion. O ganlyniad, mae ymgynghoriad cychwynnol eisoes wedi’i gynnal ynglŷn â newidiadau i nifer o reoliadau allweddol.

    Asiantaethau nyrsys

    Dadansoddodd AGGCC adroddiadau ar 27 o asiantaethau nyrsys eleni. Yn gyffredinol, gwelwyd peth gwelliant o’i gymharu â’r llynedd. Nodwyd cryfderau o ran:

    • ansawdd llawlyfrau staff ac i ba raddau y maent ar gael;

    • gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.

    Fodd bynnag, ni welwyd fawr o welliant o ran goruchwylio staff, nac o ran sgiliau a chymwyseddau staff. Mae angen i asiantaethau fynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth sy’n agored i niwed yn derbyn gofal priodol. Mae’r pryderon yn ymwneud yn bennaf â pha mor ddigonol yw cymwysterau, sgiliau a phrofiad aelodau staff ar gyfer y tasgau y maent yn eu cyflawni.

    Rydym yn falch o weld bod y gwelliant a nodwyd y llynedd o ran rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth wedi parhau. Er hynny, roedd dau adroddiad yn nodi bod angen gwneud gwelliannau trwy sicrhau bod dogfennau polisi ar gael i ddisgrifio’r hyn y dylid ei wneud ar ôl derbyn honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu fath arall o niwed.

    Cwynion

    Rhaid i’r holl wasanaethau a reoleiddir fod wedi sefydlu gweithdrefn gwyno gadarn yn unol ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r rheoliadau a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2007 yn mynnu bod gan ddarparwyr weithdrefn gwyno gynhwysfawr gydag amserlenni eglur ar gyfer ymchwilio i’r gŵyn a rhoi ymateb i’r achwynydd.

    Mae’n rhaid i awdurdodau lleol fod â gweithdrefn gwyno ar gyfer eu gwasanaethau eu hunain a’r rhai y maent yn eu comisiynu. O dan drefniadau awdurdodau lleol, mae gan achwynwyr hefyd yr hawl i droi at banel annibynnol a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus os nad ydynt yn fodlon ar ganlyniad eu cwyn. Dylid datrys cwynion yn y man lle y darperir y gwasanaeth ble bynnag y bo modd.

  • 24

    Cartrefi gofal

    Yn 2008-09, derbyniodd AGGCC 200 o gwynion am gartrefi gofal, ychydig yn llai na’r 211 o gwynion a dderbyniwyd y flwyddyn flaenorol. Roedd nifer o achwynwyr yn fodlon i’r darparwyr ymdrin â’u cwyn. O ganlyniad, atgyfeiriwyd 90 o’r cwynion hyn i’w datrys yn lleol.

    Fel y gwelwyd y llynedd, roedd nifer y cwynion a dderbyniwyd gan AGGCC yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y cwynion a dderbyniwyd gan bob awdurdod lleol.

    Awdurdod Lleol Nifer y cwynion a dderbyniwyd

    Nifer y cwynion a dderbyniwyd fel canran o’r lleoedd

    Abertawe 15 0.69

    Blaenau Gwent 3 0.46

    Bro Morgannwg 7 0.68

    Caerdydd 7 0.32

    Caerffili 3 0.28

    Casnewydd 7 0.76

    Castell-nedd Port Talbot 6 0.52

    Ceredigion 0

    Conwy 38 2.02

    Gwynedd 23 1.77

    Merthyr Tudful 0

    Pen-y-bont ar Ogwr 0

    Powys 1 0.08

    Rhondda Cynon Taf 3 0.17

    Sir Benfro 5 0.38

    Sir Ddinbych 21 1.25

    Sir y Fflint 14 1.4

    Sir Fynwy 6 0.86

    Sir Gaerfyrddin 3 0.14

    Torfaen 4 0.59

    Wrecsam 19 1.43

    Ynys Môn 15 2.01

    Cyfanswm 200

  • 25

    Mae llawer o gwynion yn gymhleth ac yn aml maent yn cynnwys nifer o faterion. Ymchwilir i bob mater ar wahân a’i rannu i’r categorïau cyffredinol a welir yn y tabl canlynol:

    Categorïau cyffredinolNifer y materion a godwyd

    yn y cwynion a dderbyniwyd

    Arfer gofal - gofal personol a mynd i’r afael ag anghenion iechyd

    94

    Staffio a rheoli 88

    Y safle 59

    Gofal nyrsio 17

    Meddyginiaeth 14

    Y broses dderbyn - cadw cofnodion 8

    Bwyd 7

    Cynllunio gofal 6

    Gweithgareddau 5

    Mae nifer y pryderon a restrir dan y categorïau yn uwch na nifer y cwynion a dderbyniwyd oherwydd bod rhai cwynion yn cynnwys nifer o faterion a gofnodir gennym ar wahân.

    Roedd y cwynion mwyaf cyffredin o ran staffio a rheoli gwasanaethau yn ymwneud â lefelau staffio, aelodau staff nad oeddynt yn dilyn cynllun gofal y defnyddiwr gwasanaeth, agwedd aelodau staff, a sgiliau a chymwyseddau aelodau staff. Unwaith eto, mae hyn yn gyson â chanfyddiadau gwaith arolygu lle’r oedd arolygwyr yn ystyried bod angen gwneud gofynion ym mob un o’r meysydd hyn.

    Yn gyffredinol, roedd y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt mewn cartrefi gofal gyda nyrsio yn canolbwyntio ar safon a darpariaeth gofal nyrsio, gan gynnwys gofal o ran briwiau pwyso, asesu a rheoli anghenion ymataliaeth a bodloni anghenion maeth. Roedd natur y cwynion yn debyg i’r rhai a dderbyniwyd yn y flwyddyn flaenorol.

    Gofal cartref

    Yn ystod 2008-09, derbyniodd ac ymdriniodd AGGCC â 45 cwyn ffurfiol gan achwynwyr unigol ynghylch gofal cartref. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd ers y flwyddyn flaenorol. Roedd y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt yn ymwneud yn bennaf ag:

    • ymatebolrwydd y gwasanaeth a chysondeb o ran gofalwyr;

    • arferion gofal yn ymwneud â darparu gofal personol;

    • digonolrwydd trefniadau cadw cofnodion.

  • 26

    Mae’r tabl canlynol yn dangos dosbarthiad y cwynion yn ôl awdurdod lleol:

    Awdurdod Lleol Nifer y Cwynion

    Abertawe 5

    Blaenau Gwent 3

    Bro Morgannwg 0

    Caerdydd 3

    Caerffili 5

    Casnewydd 2

    Castell-nedd Port Talbot 1

    Ceredigion 2

    Conwy 4

    Gwynedd 4

    Merthyr Tudful 0

    Pen-y-bont ar Ogwr 1

    Powys 0

    Rhondda Cynon Taf 0

    Sir Benfro 1

    Sir Ddinbych 0

    Sir y Fflint 2

    Sir Fynwy 2

    Sir Gaerfyrddin 2

    Torfaen 3

    Wrecsam 5

    Ynys Môn 0

    Cyfanswm 45

    Dim ond un gŵyn a gofnodwyd mewn cynlluniau lleoli oedolion ac ni chafwyd unrhyw gwynion mewn asiantaethau nyrsys.

  • 27

    Diogelu ac Amddiffyn Oedolion

    Mae amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn rhan sylfaenol o waith yr arolygiaeth. Mae AGGCC yn cyflawni ei dyletswyddau yn unol â’r fframwaith ar gyfer ymateb ac ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth a amlinellir yn y ddogfen Mewn Dwylo Diogel. Mae AGGCC yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid statudol eraill, gan gynnwys yr heddlu a’r awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaeth arweiniol ym maes amddiffyn oedolion.

    Yn ystod y flwyddyn, daeth deddfwriaeth newydd bwysig i rym gyda’r nod o ddiogelu pobl agored i niwed ymhellach. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a ddaeth i rym ym mis Hydref 2007 yn darparu fframwaith statudol ar gyfer ymrymuso ac amddiffyn pobl agored i niwed nad ydynt yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’n nodi’n glir pwy gaiff wneud penderfyniadau.

    Cymeradwywyd y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn 2007 ac fe ddaethant i rym ar 1 Ebrill 2009. Mae’r trefniadau hyn yn seiliedig ar egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol ac yn ceisio sicrhau na ddylai unrhyw un sydd heb y gallu meddyliol gael ei amddifadu o’i ryddid heb fod angen neu heb ystyriaeth briodol un ai mewn ysbyty neu leoliad gofal cymdeithasol preswyl.

    Bu’n rhaid cynnal asesiadau allanol a gwneud gwaith paratoi sylweddol i sicrhau bod y trefniadau diogelu uchod yn cael eu sefydlu. Mae awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar sut i gyflawni eu cyfrifoldebau ac i ddarparu hyfforddiant i’r staff ar bob lefel. Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi sicrhau bod hyfforddiant ar gael trwy eu partneriaethau datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol.

    Canfyddiadau o waith yr arolygiaeth ynglŷn ag awdurdodau lleol

    Mae AGGCC yn cynhyrchu adroddiad monitro blynyddol sy’n archwilio’r canfyddiadau allweddol ynglŷn â pherfformiad awdurdodau lleol ers y flwyddyn flaenorol. Mae’r adroddiad yn nodi tueddiadau, cyflawniadau a phryderon ar draws Cymru.

    Eleni, mae’r data a gasglwyd gan awdurdodau lleol wedi gwella’n sylweddol o ran ei gywirdeb gyda 18 o’r 22 awdurdod yn defnyddio cronfa ddata gyffredin i gasglu a chrynhoi’r wybodaeth. Mae rhai anghysondebau ac amrywiadau yn parhau o ran y ffordd y mae pob awdurdod yn cofnodi’r data, megis dehongli categorïau hysbysu mewn modd anghyson. Hefyd, efallai nad yw pryderon yr hysbysir amdanynt yn adlewyrchu nifer yr achosion o gamdriniaeth, sydd oherwydd ei natur yn cael ei chadw o’r golwg neu, er enghraifft, yn cael ei chuddio gan symptomau salwch. Bydd gwaith pellach yn ystod 2009-10 gyda phartneriaid yn yr uned ddata llywodraeth leol ac yn yr awdurdodau lleol, yn helpu i gyflawni mwy o gywirdeb fyth o ran data.

    Mae Grŵp Cynghori ar Amddiffyn Oedolion Cymru wedi parhau i hybu gwelliant mewn arferion. Ynghyd â’r pedwar Fforwm Amddiffyn Oedolion rhanbarthol, mae wedi canolbwyntio ar hybu partneriaethau effeithiol, gwella dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol

  • 28

    a datblygu’r gweithlu er mwyn cyflawni gwelliant. Mae pob awdurdod lleol yn cyflogi staff amddiffyn oedolion arbenigol erbyn hyn ac mae rhai wedi creu timau arbenigol o weithwyr.

    Mae gan y Grŵp Prosiect Cynghori’r Gweinidog ar Amddiffyn Oedolion, a sefydlwyd yn 2008, swyddogaeth allweddol o ran adolygu polisïau a gweithdrefnau amddiffyn oedolion ar draws Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddigon cadarn i fodloni anghenion yn y dyfodol. Mae’r Grŵp wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o Mewn Dwylo Diogel, y canllawiau statudol ar drefniadau amddiffyn oedolion yng Nghymru. Caiff y gwerthusiad hwn, a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, ei gyflwyno i’r Grŵp ym mis Hydref 2009, a bydd y camau ar gyfer gwella yn cael eu nodi’n gynnar yn 2010.

    Yn ystod 2008-9, cwblhawyd y cynllun ar gyfer arolygiad cenedlaethol o drefniadau amddiffyn oedolion gan AGGCC. Cynhelir yr arolygiad hwn yn ystod 2009-10 a bydd yn cynnwys tair prif elfen:

    • cam rheoli gwybodaeth a fydd yn cael ei seilio ar yr arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r gwerthusiad annibynnol o Mewn Dwylo Diogel;

    • ymchwiliad thematig mewn cartrefi gofal a gyflawnir fel rhan o’r arolygiadau a drefnwyd ar gyfer pob cartref gofal;

    • gwaith maes manwl ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol.

    Monitro data

    Mae nifer yr atgyfeiriadau ynghylch camdriniaeth a gwblhawyd wedi cynyddu o 4,251 yn 2007-08 i 4,451 yn 2008-09. Mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r data gan fod cyfraddau atgyfeirio yn gallu nodi nifer uwch o achosion o gamdriniaeth, ond fe allant hefyd awgrymu gwell cydnabyddiaeth o faterion amddiffyn oedolion ac ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau. I’r gwrthwyneb, gall cyfraddau atgyfeirio is awgrymu cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth lai effeithiol yn hytrach na llai o achosion o gamdriniaeth.

    0

    500

    1000

    1500

    2000

    2500

    3000

    3500

    4000

    4500

    5000

    Cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau a gwblhawyd

    2004-05 2005-06 2006-07 2007-08 2008-09

    Blwyddyn ariannol

    Nife

    r

  • 29

    Mae tueddiadau a nodwyd yn yr adroddiad monitro Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed a gyhoeddwyd yn 2009, yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer 2007-08, yn dangos:

    • mai’r rhai yr honnir yn fwyaf cyffredin eu bod yn dioddef camdriniaeth yw menywod hŷn;

    • mai’r math o gamdriniaeth yr adroddwyd amdani amlaf oedd camdriniaeth gorfforol, a hynny mewn 32 y cant o achosion;

    • bod y gyfran uchaf o ddioddefwyr honedig yn byw yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned, ond mae cyfran nodedig o’r boblogaeth sy’n byw mewn cartrefi gofal y nodwyd eu bod yn ddioddefwyr honedig (6 y cant); a’r

    • math mwyaf cyffredin o gymorth ar gyfer dioddefwyr honedig oedd mwy o fonitro gan y gwasanaethau cymdeithasol.

    Mae’r arwyddion cynnar o ddata monitro awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn 2008-09 yn awgrymu bod camdriniaeth gorfforol yn parhau i fod y math o gamdriniaeth yr adroddir amdani amlaf. Fodd bynnag, bu twf mewn adrodd am esgeulustod hefyd.

    Mewn awdurdodau lleol, mae data o’r dangosyddion perfformiad craidd ar gyfer amddiffyn oedolion yn dangos:

    • o’r atgyfeiriadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd yn ystod 2008-09, arweiniodd 83 y cant ar draws Cymru at ymchwiliad amddiffyn oedolion. Mae hon yn lefel debyg i ffigur y llynedd; ac

    • o’r atgyfeiriadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd, bu gostyngiad bach iawn yn y nifer a gyfaddefwyd neu a brofwyd, ond cynnydd sylweddol yn y ganran ar draws Cymru lle’r oedd risg wedi ei dileu neu ei lleihau: o 45 y cant yn 2007-08 i 56 yn 2008-09.

    Mae’r adroddiad monitro ar wahân ar gyfer awdurdodau lleol sy’n canolbwyntio’n benodol ar amddiffyn oedolion yn cynnwys y canfyddiadau manwl ar gyfer 2008-09.

    Mae’r darlun cyffredinol yn un o waith parhaus ym maes amddiffyn oedolion, ond gyda’r gyfradd twf yn arafu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe all fod nifer o resymau dros yr amrywiadau rhanbarthol parhaus mewn perfformiad awdurdodau lleol unigol. Fe allai ddangos dealltwriaeth wahanol o drothwyon a diffiniadau; fe allai hefyd fod oherwydd gwahaniaeth mewn arfer ac ymatebion proffesiynol amrywiol i faterion a phryderon cyffelyb. Dechreuir adrodd ar ganfyddiadau’r arolygiad cenedlaethol ynglŷn â’r materion hyn a materion eraill yn ystod rhan olaf 2009-10.

    Canfyddiadau o reoleiddio gwasanaethau unigol

    Eleni, mae AGGCC yn adrodd am ostyngiad yn nifer yr ymchwiliadau amddiffyn oedolion mewn gwasanaethau a reoleiddir sydd wedi cynnwys AGGCC yn uniongyrchol. Mae ymchwiliadau gan yr arolygiaeth wedi gostwng o 210 yn 2007-08 i 109 yn 2008-09. Mae’n debygol bod y datblygiad hwn yn adlewyrchu’r ffaith fod yr arolygiaeth wedi egluro a chyfnerthu ei swyddogaeth o ran amddiffyn oedolion. Mae’r arolygiaeth yn canolbwyntio

  • 30

    ar reoleiddio ac mae ein cyfraniad at ymchwiliadau ynghylch pryderon amddiffyn oedolion yn ymwneud â’r enghreifftiau hynny lle y nodwyd achosion o dorri rheoliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymchwiliadau y bu AGGCC yn rhan ohonynt (104) yn ymwneud â’r sector cartrefi gofal. At ei gilydd, roedd AGGCC wedi cymryd rhan mewn 768 o drafodaethau/cyfarfodydd strategaeth am gartrefi gofal.

    Yn 2008-09, fel ag yn 2007-08, o’r 104 o ymchwiliadau a gynhaliwyd, roedd dros hanner yr ymchwiliadau amddiffyn oedolion mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn ymwneud â chartrefi gofal gyda nyrsio, sy’n cynrychioli chwarter y sector. Mewn cartrefi gofal, gwelwyd gostyngiad mewn ymchwiliadau ynghylch camdriniaeth gorfforol ac ariannol, a chynnydd amlwg yn y rhai hynny a oedd yn canolbwyntio ar esgeulustod. Nid yw’r datblygiad hwn yn annisgwyl o ystyried y cynnydd mewn atgyfeiriadau a gwblhawyd ynghylch esgeulustod a nodwyd yn y data awdurdodau lleol uchod.

    Bu cynnydd amlwg mewn canlyniadau clir o ymchwiliadau, gyda dim ond naw y cant yn parhau i fod yn amhendant yn 2008-09 o’i gymharu â’r ffigur o 15 y cant yn 2007-08. O ran yr ymchwiliadau a gwblhawyd, roedd y nifer a brofwyd yn ymwneud yn bennaf ag esgeulustod. Yn ogystal â hyn, pan ystyriwyd y math o lety, roedd yn amlwg o’r achosion a brofwyd bod y nifer fwyaf ohonynt wedi eu profi mewn cartrefi gofal gyda nyrsio. Er bod nifer o ymchwiliadau heb eu cwblhau ar adeg llunio’r adroddiad hwn, mae’r duedd yn parhau i godi pryderon tebyg i rai’r llynedd.

    Roedd AGGCC hefyd wedi cymryd rhan mewn 230 o gyfarfodydd strategaeth i drafod pryderon amddiffyn oedolion yn ymwneud ag unigolion sy’n derbyn gwasanaeth gan asiantaeth gofal cartref. O’r rhain, dim ond pedwar a oedd yn golygu bod angen i’r arolygiaeth gymryd rhan mewn ymchwiliad.

    Roedd categorïau’r pryderon yr ymdriniwyd â hwy yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol neu ariannol, ac esgeulustod.

    Wrth eu hystyried gyda’i gilydd, mae’r ffigurau o’r awdurdodau lleol a gwaith rheoleiddio AGGCC yn awgrymu nifer o themâu:

    • pwyslais gan yr arolygiaeth ar achosion posib o dorri rheoliadau;

    • cynnydd mewn ymchwiliadau ynghylch esgeulustod a allai adlewyrchu mwy o gydnabyddiaeth gan bawb o ddifrifoldeb esgeulustod;

    • yr angen i ystyried ymhellach y nifer cymharol isel o ymchwiliadau yn y sector gofal cartref;

    • perthnasedd parhaus fforymau rhanbarthol neu gyrff cyffelyb o ran ysgogi mwy o gysondeb mewn adrodd am bryderon ynghylch camdriniaeth ac ymateb iddynt.

  • 31

    Pennod Tr i

    Bodloni Anghenion P lant

    Trosolwg

    Mae awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau wedi gwneud gwelliant cyson o ran cyflawni dyletswyddau statudol a rheoliadol yn ymwneud â phlant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2008/9). Mae’r gwelliant hwn yn dystiolaeth o ymdrech ac ymroddiad unigolion yn ogystal â threfniadau mwy cadarn ar gyfer monitro ac adrodd am berfformiad.

    Gwnaeth marwolaeth y baban Peter Connelly yn Haringey ym mis Awst 2007 ein hatgoffa o’r niwed y gall plant ei ddioddef. Rhaid i ni ddysgu gwersi o’r drasiedi hon a pharhau i annog y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i fod yn effro i brofiadau plant. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal ein pwyslais ar blant hyd yn oed pan fydd y banllefau o brotest gan y cyhoedd wedi tawelu.

    Fodd bynnag, mae’r gwahaniaethau yng Nghymru rhwng y gwasanaethau sy’n perfformio orau a’r rhai sy’n perfformio waethaf yn parhau i fod yn amlwg. Mae’r gwahaniaethau hyn yn fwyaf amlwg yn y ffordd y mae awdurdodau lleol a’u partneriaid yn gweithio gyda phlant a theuluoedd y tu allan i’r systemau ar gyfer amddiffyn plant a gorchmynion llys.

    Ar y llaw arall, rydym wedi gweld gwelliannau mewn:

    • trefniadau ‘blaen tŷ’ ar gyfer derbyn a neilltuo atgyfeiriadau;

    • blaenoriaethu plant sydd angen gofal ac amddiffyniad ar unwaith;

    • bodloni’r gofynion ar gyfer asesiadau cychwynnol ac adolygiadau prydlon;

    • rheoli gwybodaeth.

    Y prif feysydd sydd angen eu gwella ymhellach yw:

    • trothwyon uchel ar gyfer darparu gwasanaethau i blant mewn angen;

    • ansawdd asesiadau a chynlluniau gofal ar gyfer plant;

    • y bwlch rhwng y gwasanaethau gorau a’r gwaethaf, yn lleol ac yn genedlaethol;

    • cyfrifoldeb ar y cyd a pherfformiad cyson gan bob disgyblaeth ac asiantaeth;

    • y bwlch rhwng dyheadau uwch reolwyr a phartneriaethau strategol a’r gwasanaethau a ddarperir mewn gwirionedd i blant a theuluoedd.

    Mae’n hanfodol bod y sector gofal cymdeithasol i blant yn mynd ati i ddeall a goresgyn yr achosion a’r ffactorau niferus sydd wrth wraidd yr amrywiad mawr mewn safonau gwasanaethau.

  • 32

    Un ffactor yw’r gwahaniaeth o ran lefel y galw, gyda rhai awdurdodau yn adrodd am gynnydd yn y gwaith a’i gymhlethdod. Mae pob awdurdod wedi gweld cynnydd yn y boblogaeth plant 0-4 oed, gyda chynnydd o 2.8 y cant y llynedd yn gwrthdroi’r duedd tuag at boblogaeth sy’n heneiddio. Cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau i’r gwasanaethau cymdeithasol i blant 9.4 y cant y llynedd, er nad yw nifer yr atgyfeiriadau yn uwch nag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl.

    Ffactor arall yw amrywiaeth ac effeithiolrwydd y gwasanaethau sydd ar gael i atal neu ymyrryd yn gynnar mewn problemau sy’n effeithio ar blant. Mae ein hadolygiadau yn dangos rhai enghreifftiau nodedig o arfer gan unigolion. Er hynny, mae ansawdd asesiadau a rheoli gofal yn anghyson. Mae rhywfaint o’r amrywioldeb o ganlyniad i’r ffaith nad oes gan ymarferwyr ddigon o allu o ran niferoedd staff, cymorth trefniadaethol nac adnoddau personol i gyflawni gwaith da yn gyson gyda phlant a theuluoedd.

    Mae’r problemau hyn yn bodoli er gwaethaf strategaethau newydd gan awdurdodau lleol ar gyfer datblygu’r gweithlu sydd wedi arwain at gynnydd mewn recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o weithwyr cymdeithasol yn gymharol ddibrofiad mewn gwaith amddiffyn plant. Mae gwerth a phwysigrwydd rheolwyr tîm ac uwch ymarferwyr profiadol yn amlwg pan eu bod ar gael. Mae’n amlwg hefyd bod angen pwyslais cyson ac ymroddedig ar wella’r gweithlu plant.

    Mae’n rhy gynnar eto i werthuso effeithiolrwydd y canllawiau a gyflwynwyd yn 2008 gan Gyngor Gofal Cymru ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso4 a chyflogwyr5. Fodd bynnag, roedd y staff a gyfwelwyd gan arolygwyr yn cadarnhau bod angen mawr am y canllawiau a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

    Ffactor arall sy’n cyfrannu at anghysondeb mewn lefelau gwasanaeth yw’r gwahaniaeth mewn ymroddiad cynghorau a’r cynnydd a wnaed ganddynt o ran rhianta corffo