caerdydd, cf23 9bs ffôn: y tyst e-bost: hwyl mawr wrth ... · mae’n debyg bod dinas caerlŷr yn...
Post on 07-Jul-2018
214 Views
Preview:
TRANSCRIPT
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: aluntudur@btinternet.com
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: undeb@annibynwyr.org
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 4, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: IwanLlew@aol.com
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: alunlenny@hotmail.co.uk
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Hwyl Mawr wrth Forio CanuCafwyd llond capel o ganu, cyd-foli a hwyl
ar Sul y Blodau eleni, wrth i blant,
ieuenctid a phobl o bob oed ddod ynghyd i
ddathlu’r Pasg. Cynhaliwyd Cymanfa
Ganu flynyddol Eglwysi Annibynnol Cylch
y Cei yng Nghapel Maen-y-groes eleni,
gyda thair oedfa arbennig.
Brenin y Jyngl
Am y tro cyntaf ers 18 mlynedd, dan
arweiniad medrus Mrs Catrin Evans,
Talgarreg, aed yn ôl i gynnal Cymanfa
Ganu draddodiadol yn oedfa’r plant yn y
bore, yn hytrach na pharatoi cyflwyniad fel
sydd wedi bod yn digwydd yn y
blynyddoedd diweddar. Gweithiodd yr
arbrawf yn llwyddiannus iawn, oherwydd
roedd yn amlwg bod y plant wedi cael
hwyl arni’n dysgu’r caneuon, yn ogystal â
rhai symudiadau! Profodd y clapio
cymhleth yn ‘Pwy yw Brenin y Jyngl?’ fod
y plant yn well na’r oedolion yn y
gynulleidfa am wneud mwy nag un peth ar
yr un pryd!
Syniad i’r Undeb
Yn ogystal â pharatoi wrth ddysgu’remynau, roedd y plant hefyd wedi bod yngreadigol wrth greu cloriau newydd sbonar gyfer rhaglen y Gymanfa Ganu – cloriaua oedd yn cyfateb i’r emynau oedd wedigwneud argraff ar y plant. Ac mae’n werthgweld ymgais y buddugwyr – tybed a ywhi’n bryd i’r Undeb ail-feddwl cynllun yclawr ar gyfer y flwyddyn nesa’? Byddaiaelodau Ysgolion Sul y cylch yn falchgweld eu hymgais nhw ar y clawr yn ydyfodol!
Gwerthfawrogiad
Cafwyd dwy oedfa arall ar y dydd, ac EinirRyder o Gwmsychpant oedd yr arweinyddyn y prynhawn a’r nos. Cafwyd cyflwyniaddiddorol ar ‘ddilyn llais Iesu’ gan yrieuenctid yn y prynhawn, a diolch iGwendoline Evans am baratoi’r sgript.Roedd hi’n braf gweld cymaint o ieuenctidyn barod i gymryd rhan eleni eto. Diolchhefyd i un arall a fu’n brysur drwy’r dyddtu ôl yr organ, sef Carys Williams, CapelMaen-y-groes, a fu’n cyfeilio’n ddiffwdandrwy’r tair oedfa. Hoffai’r Pwyllgorddiolch i’r tri llywydd – Mr Neville Evans,Capel Towyn, Miss Manon Lewis,Pennaeth Ysgol Llanarth a Miss BronwenMorgan am fod mor barod i lywyddu ynystod yr oedfaon.
Lowri Jones
Cynhaliwyd cymanfa fodern yng Nghaersalem, Pontyberem, ar ddydd Sul
yr ail o Ebrill ac fe gafwyd bendith fawr wrth gyd-addoli. Cymerwyd
rhan gan nifer o bobl gan gynnwys yr unawdydd profiadol Ffion
Griffiths. Cyfeilydd Ffion yn y gwasanaeth oedd Ioan Price. Cafwyd
datganiad gwych gan y ddau sy’n ddisgyblion yn Ysgol Maes y
Gwendraeth. Cyfeiliwyd i’r emynau gan fand Caersalem a chafwyd
eitemau gan ysgol Sul yr eglwys.
CAERSALEM, PONTYBEREM
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 18 Mai 4, 2017 50c.
Y TYsT
parhad ar dudalen 2
PaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
Herio’r Mythau a Dweud y GwirYch chi’n cofio gwneud ‘den’ pan oeddech
chi’n ifanc? Tu ôl i’r soffa, gwaelod yr
ardd gefn neu yn y goedwig leol? Cuddfan
a lloches - man lle’r oeddem yn teimlo’n
saff. Bues i’n meddwl am y ‘den’ yn
ddiweddar wrth fynychu Fforwm Cenhadol
CWM a gynhaliwyd yn Market
Harborough, Sir Caerlŷr. Un o’r
uchafbwyntiau i lawer ohonom oedd
ymweliad i fath o ‘den’ gyfoes - Ddinas
Noddfa Caerlŷr (Leicester City of
Sanctuary neu LCOS).
Dinas Noddfa
Beth yw ‘Dinas Noddfa?’ Elusen neu
fudiad, sy’n gweithio i adeiladu diwylliant
o groeso a lletygarwch yn y gymuned leol,
gan ganolbwyntio’n bennaf ar geiswyr
lloches a ffoaduriaid. Y nod yw dathlu’r
sgiliau sydd ganddynt i’w cynnig a sicrhau
ffyrdd iddynt allu cyfrannu a bod yn rhan
o’r bywyd cymunedol, gan roi’r cyfle i’w
lleisiau gael eu clywed. Mae’n fudiad
gwerin gwlad, yn codi o’r gymuned gan
geisio newid pethau yn y fan a’r lle, yn
hytrach na bod yn broses sy’n dechrau ar y
top a gweithio’i ffordd lawr i’r gwaelod.
Efallai bod y term yn gyfarwydd i rai o
ddarllenwyr y Tyst gan fod sawl ‘Dinas
Noddfa’ yng Nghymru, gan gynnwys
Abertawe a Chaerdydd. Sefydlwyd yr un
cyntaf yn Sheffield yn 2007, ond mae’r
mudiad wedi tyfu bellach i fod yn
rhwydwaith o dros 90 o fentrau mewn
dinasoedd a threfi ar draws y DU.
Cynsail
Wrth gwrs mae’r hawl i noddfa neu loches
mewn gwlad arall yn hen syniad.
Gwyddom fod yr Eifftiaid, y Groegiaid a’r
Hebreaid yn ei weithredu. Onid yw stori
Ruth yn enghraifft gynnar? Teulu
Elimelech yn ymsefydlu yn Moab, gyda’r
meibion yn priodi merched Moab, ac yna
Ruth, y Foabes, yn dychwelyd gyda Naomi
i Fethlehem yn Jwda, lle mae hi’n priodi
Boas. Cyfeirir hefyd yn yr Hen Destament
at yr arfer o neilltuo rhai dinasoedd i fod
yn ddinasoedd noddfa. Mannau lle gallai
gwŷr oedd wedi eu cyhuddo ar gam o
drosedd ddifrifol fynd i geisio lloches rhag
y rhai oedd am eu gwaed. Gwelwn y
syniad yn gynnar iawn o fewn y traddodiad
Gorllewinol hefyd. Pasiwyd yng Nghyngor
Cyntaf Orléans yn 511, bod unrhyw un
oedd yn ffoi ac yn ceisio noddfa a’r hawl i
gael lloches mewn eglwys neu adeiladau o
eiddo’r eglwys. Yn yr oesoedd canol roedd
pobl oedd yn cael eu herlid gan eu
gwledydd ei hunain, am resymau crefyddol
neu wleidyddol, yn ffoi i geisio lloches o
dan awdurdod sofran arall. Daeth Voltaire i
Loegr ac aeth Thomas Hobbes i Baris. O
ddiddordeb arbennig i ni fel Cymry, bu’n
rhaid i Gruffudd Robert a Morys Clynnog
ffoi i Milan. Oes, mae yna draddodiad
anrhydeddus i’r Ddinas Noddfa gyfoes.
Canolfan Groesawus
Man cychwyn ein hymweliad ni â LCOS
oedd Eglwys Gatholig Holy Cross yng
nghanol y ddinas. Yno cynhelir canolfan
galw heibio wythnosol, ac roedd y
gwirfoddolwyr yn brysur yn paratoi ar
gyfer hyd at 150 o geiswyr lloches
fyddai’n ymweld â’r ganolfan o ganol dydd
ymlaen. Darperir pryd o fwyd, gweithdai,
sgyrsiau gan arbenigwyr, cymorth
ymarferol gyda phethau fel tocynnau bws a
chyfle i gwrdd â chymdeithasu gydag
eraill. Ond falle’n bwysicach na dim mae’n
fan o groeso, lle gall pobl deimlo’n saff tra
bod nhw yno. Wrth adael cawsom gyfle i
gwrdd ag ambell un oedd wedi dod. Roedd
rhai newydd gyrraedd Caerlŷr a heb fawr
ddim Saesneg, ond mae rhywbeth mor
syml a gwen, ysgwyd llaw a chyfarchiad
cynnes yn ddigon i wneud i bobl ddechrau
teimlo’n gartrefol.
Ymgeiswyr Lloches
Symud ymlaen wedyn i Swyddfa LCOS a
chlywed ychydig am waith bob dydd yr
elusen. Mae tua 1,000 o geiswyr lloches
yng Nghaerlŷr. Y mwyafrif o Zimbabwe,
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cyfarfodydd Blynyddol
Rhydaman, 2017
Tybed a fyddai’r sawl sy’n bwriadu
dod i’r Cyfarfodydd Blynyddol yn
Rhydaman ac yn gobeithio cael bwyd
yno, yn dychwelyd eu Ffurflenni
Bwyd ar unwaith at:
Mrs Bethan E. Thomas,
Lleifior, 15 Heol yr Hendre,
Tycroes, Rhydaman.
Sir Gaerfyrddin, SA18 3LA
Diolch yn fawr iawn
ond ceir dros 60 o genhedloedd i gyd.
Rhan bwysig o waith LCOS yw helpu
ceiswyr lloches i chwilio am y dystiolaeth
mae’r llywodraeth yn ei hawlio er mwyn
caniatáu eu cais. Mae’n broses hir,
cymhleth ac araf, gyda rhai wedi bod yn
disgwyl i fyny at 15 mlynedd am
benderfyniad ar eu statws. Yn ystod y
cyfnod hwnnw, does ganddynt ddim hawl i
weithio, er bod llawer ohonynt yn meddu
ar arbenigedd a sgiliau mae’r gwledydd
yma’n crefu amdanynt.
Datblygu Sgiliau
Mae LCOS hefyd yn cynnal dosbarthiadau
dysgu Saesneg, coginio, crefftau a garddio,
yn rhedeg cynllun beiciau a adnewyddwyd
ac yn trefnu teithiau a chwaraeon. Diddorol
oedd clywed hefyd am y partneriaethau
sy’n cael eu hadeiladu gydag eraill o fewn
y ddinas. Mae Clwb Pêl-droed Caerlŷr e.e.,
yn noddi’r timoedd pêl-droed ac mae
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 4, 2017Y TYsT
Prifysgol Caerlŷr yn darparu ystafelloedd
ag offer technegol i’r dosbarthiadau
Saesneg. Y cyfan yn rhan o greu’r
diwylliant croeso.
Mae’n debyg bod dinas Caerlŷr yn
ddinas llawn amrywiaeth, gyda hen hanes
o groesawu pobl o wledydd a diwylliannau
gwahanol sydd wedi cyfoethogi bywyd y
ddinas, ond heddiw clywir lleisiau
maleisus cyfryngau a gwleidyddion asgell
dde yn mynnu cyflwyno naratif gwahanol
am luoedd di-wyneb sy’n aros eu cyfle i
gael manteisio ar ein sustem buddiannau
neu heidiau o deroristiaid sy’n bygwth
diogelwch ein ‘den’ bach ni!
Tasg anodd a diddiolch yw ceisio
gwrthweithio’r math yma o beth, ond dyna
a wna mudiad fel ‘Dinas Noddfa,’ sy’n
gwrthod bod yn dawel, wyneb yn wyneb
a’r fath hyn o negyddiaeth, gan fynnu bod
gennym ddyletswydd foesol i wneud mwy
i helpu’r bobl sy’n ceisio croeso a
derbyniad, man diogel a bywyd newydd.
Mwy na Gêm
Gêm bleserus oedd creu ‘den’ i ni yn blant.
Go brin fod angen lloches arnom, wedi’r
cyfan ni oedd cenhedlaeth, ‘You never had
it so good,’ chwedl Harold Macmillan.
Oedd, roedd bywyd Cwmafan a Bangor yn
gyffredinol dda a chymharol saff. Ond nid
gêm yw ceisio lloches a lle saff i gymaint o
bobl ein byd heddiw. Gofalwn ni ein bod
ni’n codi llais i herio’r mythau a dweud y
gwir.
Robin Samuel
Herio’r Mythau aDweud y Gwir -
parhad
DEWI OGWEN 1817-1897Mab i David ac Elizabeth Roberts oedd y
Parch. Dr. David Roberts (‘Dewi
Ogwen’). Un o Gerrig y Drudion, Sir
Ddinbych, ac arolygwr un o
ysgolion Thomas Charles
oedd ei dad; a’i fam yn
ferch i Gwen Jones,
Bertheos, Dolwyddelan.
D’oes ryfedd o gwbl
fod ei mab yn ŵr o
athrylith bregethwrol
mor nodedig, pan
gofir ei fod yn hanu
o’r un llinach a
chewri enwog
Tanycastell,
Dolwyddelan. Ar ôl
priodi symudodd ei rieni
i Fangor. Ganwyd iddynt
ddeg o blant gyda David yn
bedwerydd plentyn.
Cofiant
Mae yn fy meddiant gopi o ‘Cofiant y
Parch. D. Roberts, Wrecsam’ a
gyhoeddwyd yn 1899 yn Swyddfa
Hughes, Dolgellau a ysgrifennwyd gan y
Parch. David Griffith, Bethel. Cynnwys y
gyfrol 16 o benodau, ynghyd ag atodiad,
ac mae’r cofiannydd wedi olrhain hanes a
bywyd y gwrthrych yn amseryddol. Yn
dilyn ychydig o nodiadau arweiniol, ceir
yn ym mhennod 1 hanes ei enedigaeth, ei
fedydd, ei rieni, a.y.b. Pennod 2, dyddiau
mebyd ac ieuenctid, 1817-35. Pennod 3,
o’r cyfnod yr ymunodd â’r Annibynwyr,
hyd ei urddiad i’r weinidogaeth, 1835-39.
Pennod 4, cyfnod cynnar ei weinidogaeth,
Môn a Manceinion, 1839-45. Pennod 5, ei
ddychweliad i Fôn, hyd nes iddo symud i
Gaernarfon, Seion a Chemaes, 1845-50.
Pennod 6, o’i ymsefydliad yng
Nghaernarfon, hyd agoriad Capel Salem
yno, 1850-62. Pennod 7, o agoriad Salem
hyd ei daith i’r America, 1862-69. Pennod
8, o gychwyniad y daith i America, hyd ei
ymadawiad o Gaernarfon i Wrecsam,
1869-72. Pennod 9, o adeg ei ymsefydliad
yn Wrecsam, hyd ei benodiad i Gadair
Undeb yr Annibynwyr, 1872-79. Pennod
10, o Gadair yr Undeb, hyd adeg
cyflwyniad Tysteb Jiwbili ei
weinidogaeth, 1879-1888 a.y.y.b.
Cefndir
Ganwyd David Roberts ym Mangor, Ebrill
19, 1817. Addysgwyd ef mewn ysgol
breifat yn y ddinas, ac yna yn Ysgol y
Parch. Dr.Arthur Jones. Yn Nhachwedd,
1833, cafodd waith fel argraffydd gyda’r
papur lleol. Derbyniwyd ef yn aelod yn
hen gapel Lôn Bopty (M.C.), Bangor
(Tabernacl oedd enw’r Capel yn
ddiweddarach). Ond ymhen dwy neu dair
blynedd gadawodd yr enwad hwnnw i
ymuno â’r Annibynwyr, yn bennaf
oherwydd dylanwad a’i edmygedd o’i
gyn-athro, Dr.Arthur Jones.
Tyner iawn yw’r hanes a geir yn y
‘Cofiant’ amdano yn Newcastle,
Lloegr, yn mynd dan
lawdriniaeth feddygol oedd yn
ei osod yn y perygl mwyaf i
golli ei fywyd, ond aeth
drwy’r oruchwyliaeth
chwerw honno - nid yn
unig yn deilwng o ddyn yn
meddu nerf gref, ond ffydd
ac ymddiriedaeth yn Nuw.
Yn ei gyfnod o adferiad
aeth ar daith gyda’i gyfaill,
Ieuan o Lŷn (1814-93), ac ar
y daith honno dechreuodd
bregethu. Traddododd ei bregeth
gyntaf yn Nolwyddelan,
prynhawn Sul, Mai ll, 1836, a
dewisodd yn destun: “Gwyn fyd y rhai
perffaith eu ffordd...” o lyfr y Salmau.
Gweinidog
Wrth draed Dr.Arthur Jones, ei weinidog,
daeth yn dipyn o ysgolhaig. Yn 1839
urddwyd yn weinidog ar gapeli Seilo a
Seion, Gogledd Môn, lle yr oedd
Gweirydd ap Rhys ac Edeyrn Môn ymysg
yr aelodau. Llafuriodd yno’n
llwyddiannus hyd 1842 pan symudodd i
ofalu am y Tabernacl, Stryd Gartside,
Manceinion. Yn 1845 dychwelodd yn ôl i
Fôn yn weinidog ar gapeli Cemaes a
Seion. Tua diwedd 1849 ymsefydlodd ym
Mhendref, Caernarfon, yn olynydd i’r
Parchg William Wi11iams, (Ca1edfryn,
1801-69). Diddorol dros ben yw hanes ei
daith i’r America, a geir yn ei eiriau ei
hun, lle cafodd groeso cynnes gan
Gymry’r wlad honno. Yn fuan ar ôl ei
ddychweliad cafodd alwad oddi wrth
Eglwys, Ebeneser, Queen St, Wrecsam, ac
yno y bu hyd ei farw Medi 5, 1897.
Llenor
Traddododd bregeth yng Nghyfarfodydd
Undeb Annibynwyr yn ym Mhorthmadog
yn 1877. Bu’n gadeirydd yr Undeb yn
1879, yn Llywydd Undeb Annibynwyr
Saesneg Gogledd Cymru, ac yn
ysgrifennydd Coleg y Bala cyn i’r coleg
symud i Fangor. Yr oedd hefyd yn gryn
lenor a bardd a chafodd ei ffugenw
barddonol ‘Dewi Ogwen’ yn Eisteddfod
Genedlaethol Caernarfon 1862.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o bregethau
Cymraeg, ac un yn Saesneg. Bu’n olygydd
‘Yr Ardd’, misolyn Cymraeg, 1865 hyd
1869 a chyfieithodd ‘Uncle Tom’s Cabin’
i’r Gymraeg yn 1862. Cyfansoddodd
emynau ac ymddangosodd nifer ohonynt
yn y ‘Caniedydd Cynulleidfaol’.
W. ARVON ROBERTS
Mai 4, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn AnnibynnolPererindota
Pan fydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yrAlban yn cyfarfod y mis yma, mi fyddpapurau newyddion y wlad, fel pobblwyddyn, yn cymryd sylw. Fel gyda llawer
o sefydliadau’r Alban,mae’n anodd iAnnibynnwr o Gymroddirnad pwysigrwydd yKirk i fywyd cyhoeddus ywlad. Ers ei sefydlu yn1560, mae’r eglwysBresbyteraidd yma wedibod yn gosod safonaumoesol, arferion addoli ahyd oed safbwyntgwleidyddol y genedl.
Cysgod John Knox
Ar yr agenda eleni, mae trafodaeth arwyrdroi canrifoedd o wrthwynebiad ibererindota. Mi fydd trafod brwd, dwi’nsiŵr ac - yn ôl fy nghyfeillion yn yr Alban -gan nad y Kirk yw’r sefydliad mwyafradical yn y wlad mi fydd llawer ynymwrthod agunrhyw newidagwedd. Maerhywun yn cael yrargraff fod llaisJohn Knox yn dal idaranu yn erbynarferion Pabyddolofergoelus ypererinion bron ibum canrif yn ôl. Ond mae’r cynnig eleniyn rhoi pererindod ynghanol bywyd yr
i Gristnogion cyfoes. Mi ddywedodd hynmewn cyfweliad diweddar:
“Daw addoliad mewn llawer ffurf acmae pererindod yn un ohonyn nhw. Nidyw arferiad oedfa bore Sul, er mor firain agwerthfawr ydyw, yn cyrraedd pobl sy’ndioddef o newyn ysbrydol mawr, ond syddheb ddatblygu’r arfer hwnnw. Efallai nadyw’r rhai sy’n cerdded llwybr pererinion yngonfensiynol grefyddol, ond ychydigfyddai’n dweud ar ôl cyrraedd pen y daith,na chawson nhw brofiad ysbrydol. Ar adegpan yw’r eglwys yn chwilio am ffyrddnewydd o gyffwrdd calonnau pobl, maepererindod yn offeryn pwerus.”
Y daith sydd bwysicafEfallai, ar ddechrau’r haf fel hyn, y dylaipob eglwys feddwl am ei bererindodflynyddol. Nid yn unig dros yr hen lwybrauhynafol, ond mwy o bererindota i fannausy’n gysegredig i’n traddodiadanghydffurfiol ni. Wedi’r cyfan, fe wnaethJohn Bunyan daith y pererin yn drosiad ifywyd y Cristion ac fe allai llawer sydd hebgael maeth ysbrydol o’r oedfa mewn capelei dderbyn ar bererindod. Mi fydd yndrafodaeth frwd yng NghymanfaGyffredinol y Kirk ond mae’r Parchg.Frazer yn dadlau “Mae’r rhai sy’n gwgu arbererindota wedi colli golwg ar y ffaithmai’r peth pwysicaf yw’r daith ac nid ycyrraedd. Dyna pryd y cawn gyfle igyfarfod ag eraill a gweld Iesu Grist mewndieithryn. Wrth ddiwygio hen arferionofergoelus, efallai inni golli gwirioneddmawr.”
Mae’n siŵr fod gwirionedd i ninnau ynhynny hefyd.
Euryn Ogwen(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o
reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr
Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)
eglwys. Ym mis Mawrth fe gafodd ysyniad dipyn o hwb gan y LoteriGenedlaethol gyda thaliad o £399,000 argyfer ail-sefydlu llwybr pererinion o dros y70 milltir o Culross i St Andrews, ac ar Suly Pasg eleni fe agorwyd llwybr pererin- ionnewydd yn Orkney, gyda nawdd preifat achyhoeddus, i ddathlu naw canmlwyddiantmarwolaeth Sant Magnus - nawddsant yrynys.
Pererinion
Ond beth yn enw rheswm, medde chi,sydd gan hyn i’w wneud gyda ni? Ynwahanol i’r Alban, parhaodd pererindotayn elfen yn ein crefydda ni dros ycanrifoedd. Dim byd tebyg i’r Camino deSantiago - llwybr sy’n arwain drwy ogleddSbaen lle mae nifer y pererinion wedicynyddu o ychydig filoedd hanner canrifyn ôl i chwarter miliwn y llynedd. Bu’rcynnydd mewn pererinion yma yngNghymru, yn enwedig ar draws Pen Llŷn aPhenrhyn Dewi ac i Ystrad Fflur, ynsylweddol hefyd dros y blynyddoedddiwethaf ac mae’n un o’r elfennau sy’ndenu ymwelwyr i’n gwlad.
Llwybr Ysbrydol
Mae’r Parchg. Richard Frazer, un oarweinwyr y Kirk, yn credu fod pererindodyn cynnig llwybr ysbrydol cywir ac ystyrlon
Euryn Ogwen
Williams
Cymanfa Ganu
Annibynwyr
Pen Llŷn
Capel Hebron Llangwnnadl
Dydd Sul Mai 14eg
Arweinydd:
Mr Tudur Eames Jones,
Tremeirchion
Organyddes:
Mrs Gwenda Roberts Hebron
Cyfarfod y Plant 2.30 ac
Oedolion am 6.00.
Eitemau gan Meibion Carnguwch
yn ystod oedfa nos.
Dewch yn llu
Diwrnod i’rGweinidogion
Cyfundebau ac Eglwysi’r De
Bethania, Tymbl Uchaf, ar ddyddMawrth, 23 Mai 2017. Byddwn
yn cychwyn am 10.30am gyda
choffi.
Daw y Parchg Ddr JohnMorgans a’r Parchg Peter Nobleatom i sôn am eu llyfr, Our Holy
Ground, a bydd y Parchg WayneHawkins, Ysgrifennydd Cenhadaol
CWM Ewrop, gyda ni i’n
hysbrydoli yn ein cenhadaeth
unwaith eto.
Os am ginio, cysylltwch â Nerys
Humphries yn Nhŷ John Penri cyn
dydd hanner dydd, dydd Gwener,
19 Mai.
CYWIRIADYn y rhifyn diwethaf o’r Tyst feddywedwyd fod Dion Wyn, mab
Catrin Medi a Mesach wedi ei fedyddio
gan y Parchg Andrew Lenny yn Seion
Aberystwyth. Newyddion ffug oedd
hyn gan fod Dion wedi ei fedyddio ar
26ain Mawrth 2017 yng nghapel
Bethlehem, Llanddewibrefi.
Ymddiheuriadau mawr am y
camgymeriad hwn. (Gol.)
Gibea, Brynaman
Dathlu 175 Mlwyddiant
Bydd Capel Annibynnol Gibea,
Brynaman, yn dathlu pen blwydd
arbennig ar 21ain Mai eleni. Estynnir
croeso i chwi ymuno â ni yn y dathliad.
Bydd te am dri o’r gloch yna, i ddilyn,
bydd gwasanaeth dan arweiniad Y
Parchg John Gwilym Jones.
top related