caerdydd, cf23 9bs abertawe sa7 0aj ffôn: 01766 513138 e ... · yn mynd, nod ein bywyd. ac ar hyd...
TRANSCRIPT
-
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 19, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
y
y
Nadolig yn yr Hendy-gwyn
Cynhaliwyd dwy oedfa arbennig i ddathlu’r Nadolig yn y Tabernacl, Hendy-gwyn. Ar y
Sul cyn y Nadolig adroddwyd stori’r geni gan y plant a’r bobl ifanc. Cafwyd parti mawr i
ddilyn ac ymweliad gan Siôn Corn.
Yna ar noswyl Nadolig cafwyd Gwylnos yng ngofal yr oedolion ifanc. Y thema oedd
geiriau Martin Luther mai crud yw’r Beibl a’r gyfrinach yw darganfod yr Iesu yn y crud.
Roedd naws arbennig i’w deimlo wrth i 14 o oedolion ifanc yr eglwys gynnal y
gwasanaeth yng ngholau cannwyll.
Capel y Tabernacl, Hendy-gwyn
Dydd Sul, Ionawr 29ain am 11.00“...wrth fy ngwendid, trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da.”
Carol Hardy yn son am waith y Stafell Fyw
ac am ei phrofiad personol.
Casgliad at y ‘Stafell Fyw. Paned i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.
-
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 3 Ionawr 19, 2017 50c.
Y TYsT
Mae’r Parchg Ken Williams, gweinidogPeniel a Bwlch-y-corn ger Caerfyrddiners 2003, wedi ymddeol. Dyma grynodebo’r deyrnged iddo gan Arthur Morgan,Ysgrifennydd Peniel a hanes y cydnabodym Mwlch-y-corn.
Daeth y Parchg Ken Williams atom ym mis
Hydref 2003 yn llawn brwdfrydedd ac
egni. Yn berson ffit a heini, byddai’n
codi’n gynnar i fynd ar ei feic o amgylch
Cwm Gwendraeth, ac yn ei eiriau ef, yn
cael amser i feddwl. Cafodd aml i bregeth
ei llunio ar y beic, rwy’n siŵr! Nid
cenadwri o dân a brwmstan oedd ganddo,
ond esboniadau bendithiol a chyfoes o’r
efengyl. Pwysleisiau’r bygythiadau i
ddynoliaeth oherwydd rhyfeloedd, casineb,
trais a thlodi’r newynog, ond yn bennaf
bod cariad Iesu Grist i bawb, a bod angen i
ni arddel, ar goedd, y cariad nad yw byth
yn pylu.
Pan ddathlwyd Dauganmlwyddiant yr
achos yn 2009 aeth ati i grynhoi’r holl
wybodaeth ar gyfer cyfrol am fywyd yr
eglwys. Mae “Peniel Ddoe, Heddiw ac
Yfory” yn gyfrol sy’n haeddu pob
canmoliaeth ac yn deilwng o gyfrol 1938 y
Parchg S. B. Jones. Rwy’n siŵr mae un o’r
breintiau mwyaf gafodd Mr Williams yn
ystod ei weinidogaeth, oedd estyn
deheulaw gymdeithas i gyflawn aelodau
–11 o ieuenctid yn 2011, ac 13 eto eleni.
Cyfeiriodd atynt fel ffrwyth yr Ysgol Sul, y
feithrinfa sy’n gosod sylfeini newydd i’r
eglwys.
Mae’n amhosib bod yn bopeth i bawb
ond heb amheuaeth, buom ni, yn
ddiwahân, yn bopeth i’r Parchg Ken
Williams. Os cofiwn dim ond un peth
amdano, ei “Weinidogaeth Fugeiliol” fydd
hynny. Ymhob sefyllfa, adfyd neu wynfyd,
iach neu’n glaf, buodd yn ein cynnal ni fel
ymwelydd cyson. Mae cyfnodau anodd
wedi wynebu llawer ohonom, ambell
deulu’n fwy na’i gilydd. Roedd ei gonsyrn
didwyll amdanom fel ymgeleddwr tyner a
chysurlon, wedi ein hatgyfnerthu i symud
ymlaen i wynebu’r dyfodol gyda gobaith.
Diolch i Gwyneth hefyd am ei dycnwch
a’i dyfalbarhad fel ‘PA’ i Ken. Hi oedd yn
cadw trefn ar ei ddyddiadur. Mae adnod yn
y Diarhebion yn addas iawn; “Gwraig
rymus sydd goron i’w gŵr.” Dymunwn
ymddeoliad hir a hapus i’r ddau ohonoch –
nid na fyddwch yn segur! Byddwn yn
gweld Mr Williams ar Suliau achlysurol yn
2017, ac fe fydd drws a chalon yr eglwys
ar agor ichi eich dau bob amser. Dyma
englyn sy’n addas i ddisgrifio’r Parchg
Ken Williams.
Mewn eisiau’n gymwynaswr – mewn heulwen
mae’n hael gynorthwywr,
Mewn gwaeledd, ymgeleddwr;
A chadarn diragfarn dŵr.
Cofio’r Cyfnod ym Mwlch-y-corn
Nid araith ffarwel a gafwyd ym Mwlch-y-
corn ar ddiwedd Oedfa Nadolig y Teulu,
ond cipolwg yn ôl dros gyfnod y Parchg
Ken Williams fel gweinidog trwy gyfrwng
lluniau ar y sgrin fawr a sylwebaeth gan
Alun Lenny, Arweinydd yr eglwys.
Agorwyd gyda llun o’r Oedfa Ordeinio a
Sefydlu yn 2003, gyda’r Parchg Ddr Edwin
C. Lewis yn trosglwyddo’r awenau i Mr
Williams. Ymlaen wedyn trwy’r
blynyddoedd, gyda lluniau’n dwyn i gof
priodasau, bedyddio a derbyn aelodau. Saif
Bwlch-y-corn fry yn y bryniau, ac
edmygwyd llun o’n gweinidog yn ei lycra
coch ar gefn ei feic ar ôl pedlo’r bymtheg
milltir o’i gartref yng Ngorslas! Gwelwyd
sawl pererindod, oedfaon Nadolig a llun
nodedig o Mr Williams yn paratoi i weini’r
Cymun - am un o’r troeon olaf.
Wrth gyflwyno rhodd i’r Parchg Ken
Williams ar ran yr eglwys, dywedodd Alun
na allai unrhyw gydnabyddiaeth fod yn
deilwng o’r cyfan wnaethom dderbyn
ganddo dros y blynyddoedd. Prin fod yr un
eglwys wedi cael gwell bugail erioed.
Bydd y bwlch ar ei ôl yn fawr.
Cafodd cyfraniad amhrisiadwy Mrs
Gwyneth Williams ei gydnabod hefyd,
trwy rodd a gyflwynwyd gan un o’r
diaconiaid, Delyth John (yn y llun). Ac fe
aeth Megan Lenny “babi’r eglwys” ymlaen
i gyflwyno blodau iddi.
Gyda chyfnod yn hanes yr ofalaeth yn
prysur dynnu at ei derfyn, fe aeth pawb i’r
festri i gymdeithasu a mwynhau te
bendigedig.
Bu’r Parchg Ken Williams hefyd yn
aelod ffyddlon a gweithgar o Gyfundeb
Gorllewin Caerfyrddin- yn Gadeirydd ac
Ysgrifennydd yn ei dro. Bydd y Cyfundeb
yn gweld eisiau ei ddoethineb a’i gyfraniad
yn fawr iawn.
CYDNABOD YMDDEOLIAD BUGAIL HEB EI AIL
Cyflwynwyd baddon adar i’r Parchg Ken Williams gan Mr D. J. Evans, aelod hynaf yr
eglwys, a rhodd i Mrs Gwyneth Williams gan Mrs Mary Evans.
PaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
-
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 19, 2017Y TYsT
Y Forwyn FairDyma’r rhan olaf o’r ail
Astudiaeth Feiblaidd a
draddodwyd gan y Parchg
Kenneth Lintern yng
Nghyfarfodydd Blynyddol
Undeb yr Annibynwyr yn
Llanuwchllyn.
Yr unig wyrth gyffredin i’r pedair efengyl
yw Porthi’r Pum Mil, eto yn ymyl y Pasg.Yn y sgwrs hir sy’n dilyn yn Ioan, eto mae
Iesu’n rhoi bara’r bywyd yn wir fanna, yn
fanna newydd yn disgyn o’r nef, gyda’r
pwyslais ar y Tad fel y gwir roddwr, nid
Moses (atgof o 1.17: “trwy Moses y
rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a
gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant”,
h.y. wedi eu hymgorffori ynddo ef). A’r
manna newydd yw ei gnawd (a’i waed) a
roddir dros fywyd y byd (digon ar gael i
bawb). Dyna’r porthi “ysbrydol”! Ymateb
yr Iddewon yw “Onid hwn yw Iesu fab
Joseff? Sut y gall ddweud yn awr, ‘Yr wyf
wedi disgyn o’r nef’?” Maent yn ddall i’r
gwirionedd mai dyma’r nefol yn torri
trwodd yn y person dihafal hwn. Dyma’r
trobwynt yn Ioan lle mae llawer o’r
dilynwyr yn troi cefn a Simon Pedr yn
dweud “Y mae geiriau bywyd tragwyddol
gennyt ti.” Ac yn y sgwrs hon cawn yn
Ioan yr hyn sy’n cymryd lle manylu ar y
bara a’r gwin yn y Swper Olaf.
Ochr yn ochr ag ymateb anghrediniaeth,
ceir yr ymateb yn 6.15, sydd yr un mor
beryglus: y bobl am ei wneud yn frenin.
Camddeall: “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd
hwn.” Ai’r un camddeall oedd y tu ôl i frad
Jwdas? Talu gwrogaeth i Satan?
Arwydd Olaf
Ac yna deuwn at yr arwydd olaf oll, yr
arwydd sydd hefyd yn realiti eithaf, a’r
eneinio ym Methania ar gyfer ei
gladdedigaeth, fel ar y dechrau, 6 diwrnod
cyn y Pasg. Wrth y groes deuwn oll wynebyn wyneb â dechrau a diwedd, tarddiad a
nod, ein bodolaeth. Yn yr ymwacâu
terfynol, llythrennol hwn y gwelwn “yn
llawn gras a gwirionedd” ar ei eithaf trwy
lygaid ffydd. Ac medd Ioan: “Yn ymyl
croes Iesu (nid “o bellter”, fel yn yr
efengylau eraill), yr oedd ei fam ef yn
sefyll” – Dim sôn amdani wrth y groes yn
y lleill! – gyda thair gwraig arall. “Wraig,
dyma dy fab di” – “dyma dy fam di” wrth
“y disgybl yr oedd yn ei garu” (ni
ddywedir pwy oedd, er bod llawer yn
meddwl mai Ioan ei hun ydoedd). Nid yw
hyn yn golygu nad oedd yn caru’r lleill,
ond bod agosrwydd neilltuol o ran
sensitifrwydd a chrebwyll yn perthyn i
hwn.
Isop a Surwin
Dyma’r “Wraig” eto, fel yn y dechrau, a
chwlwm yr agosrwydd corfforol a
daearyddol yn cael ei dorri. Nid Iesu fydd
ei mab hi yn y byd hwn bellach, ond mae
ganddo ofal arbennig drosti, y wraig hollol
arbennig hon. Ac nid oes sôn am loes na
dagrau ar ei rhan hi. Ac wedyn rhoddwr y
dŵr bywiol yn sychedig, “er mwyn i’r
Ysgrythur gael ei chyflawni” (yn ôl gyda
Mathew!). Noder yr “isop” yn dal yr
ysbwng (coesyn y planhigyn), hussopo =
“isop”; ond dywed un fersiwn husso –
“gwaywffon”, sydd i bob golwg yn
gwneud mwy o synnwyr. Ond pwysig yw
gofyn pwy yw’r “hwy” a roddodd y gwin,
gan gofio defnyddid isop i daenellu
(gwaed)! Ac yfed nid y gwin gorau ond y
gwin sur, ond er hynny yn gweiddi’n
fuddugoliaethus Tetelestai: “Gorffennwyd”.
Yn Actau 1.14 fe’i gwelwn – a’r brodyr, yn
rhinwedd yr atgyfodiad – gyda’r lleill “yn
dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi”.
Dywed y Catholigion mai Mair yw’r wraig
wedi ei gwisgo â’r haul yn Datguddiad
12.1, ond dengys Caird eto mai Israel yw
hi.
Gwaredwr Pechodau
Disgynnodd Iesu “o’r nef” (y deimensiwn
arall), a rhaid iddo ddychwelyd. Ac fe
ddringodd yn ôl trwy ysgol y Groes. Ac
amlygwyd ei ogoniant – a’n hachubiaeth
ni. Dywed Luc fod yr ymddiddan ar
Fynydd y Gweddnewidiad am ymadawiad
(exodus) Iesu, ar y Groes. Gwelodd Mair,
yn ôl Ioan, ei genesis a’i exodus. Ac fe
welodd. Cafodd fenthyg ei mab am lai na
40 mlynedd. Ac ar y trydydd dydd
gwelodd y realiti terfynol, y dechrau
newydd yn cyrraedd ei uchafbwynt, wedi
ei ddyrchafu oddi ar y ddaear. Ac os cawn
broblem gyda dehongli’r genesis, beth a
wnawn o’r exodus hwn? – y
dirgelwch/”dirgelion na all eu datrys, Ond
Duwdod mawr ei hun”. Dywedodd rhywun
fod Iesu ei hun yn ymddiddori’n fwy yn
exodus pobl nag yn eu genesis – nid o ble
y daethom, ein llinach, ond i ble yr ydym
yn mynd, nod ein bywyd. Ac ar hyd y daith
o’i genesis daeth yn gynyddol ymwybodol
o bris ei exodus i fod yn Josua’r Ganaan
newydd, ein Gwaredwr “oddi wrth ein
pechodau”, yn ein harwain i’r Ganaan
newydd.
Kenneth Lintern
Cyflwyno CenhadaethYn ystod 2016 yr oedd gan
C.W.M (Cyngor y Genhadaeth
Fyd-eang) brosiect fideo.
Bwriad y prosiect hwn oedd
gwneud 10 fideo byr yn rhoi
darlun o weithgareddau
cenhadol eglwysi o fewn i
deulu C.W.M. Y mae gan 3 o’r
ffilmiau gysylltiad cryf gydag
Undeb yr Annibynwyr.
Y cyntaf yw’r gwaith rhagorol a wneir dan nawdd Eglwys
Bresbyteraidd Cymru yng Nghanolfan Noddfa,
Caernarfon, o dan arweiniad y Parchg Mererid Mair,
Salem, Caernarfon. Yr ail yw prosiect gyda’r henoed o
dan arweiniad Y Parchg Carwyn Siddal yn Eglwys yr
Annibynwyr, Llanuwchllyn. Y trydydd yw
gweithgareddau a gynhelir gan eglwys Ebeneser,
Caerdydd.
Os am wylio’r fideos, rhuthrwch draw i wefan C.W.M. a
dilynwch y dolennau cwmeurope.org/resources/growing-
missional-churches/
Pedwerydd Dathliad 2017Ar glawr y Tyst yr wythnos diwethaf fe nodwyd tri
dathliad arbennig sydd i ddigwydd yn 2017. Ond
tynnwyd sylw’r prif olygydd, gan Gareth Richards,
Gwasg Morgannwg, at y ffaith bod o leiaf un dathliad arall y dylid ei
nodi yn y cyhoeddiad hwn.
Y dathliad hwnnw yw pen-blwydd y Tyst yn 150 oed. Os craffwch
ar y clawr fe welwch yr ymddangosodd y Tyst am y tro cyntaf ym
1867. Edrychwn ymlaen felly i ddathlu’r pen-blwydd ac i gynnwys
peth erthyglau difyr o ôl-rifynnau a ymddangosodd tros y
blynyddoedd. Gol.
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
DALIER SYLW!Cywiriad
Yr ydym yn falch o fedru dweud nad yw y Parchg Rosan Saunders,
gweinidog y Tabernacl, Porthcawl, wedi ymddeol yn ystod 2016 fel yr
awgrymir ar dudalennau 88 ac 111 Blwyddiadur 2017.
Mae Rosan yn parhau yn weinidog yn y Tabernacl, ac ymddiheurwn
yn ddiffuant iddi hi ac i aelodau’r eglwys am unrhyw anghyfleustra a
gyfyd o ganlyniad i’r gamddealltwriaeth a fu.
-
Ionawr 19, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn AnnibynnolGeiriau o’r Gair
Wel, dyma ni - diwrnod defod urddoArlywydd etholedig Unol DaleithiauAmerica. O hynymlaen dros ypedair blyneddnesaf DonaldTrump fydd ynarwain UDA ar eithir ei hun ac ynei chynrychiolimewn byd sydd wedi ei rwygo. Er iwahanol draddodiadau gael euhychwanegu at restr y digwyddiadau ar ydiwrnod mawr, yr unig ddefod orfodol ersdyddiau George Washington, yr arlywyddcyntaf yw cymryd y llw arlywyddol.
Dewisodd y mwyafrif o’r 44 arlywyddgymryd eu Llw Arlywyddol ar y Beibl – aBeibl y teulu wedi ei ddefnyddio’n aml;defnyddiodd Barack Obama FeiblAbraham Lincoln y tro cyntaf a BeiblMartin Luther King yr eildro. Dewisoddgymryd y llw dros Feibl wedi ei gau.
Adnod Arbennig
Ond mae’r mwyafrif a ddewisodd dyngullw ar y Beibl, wedi ei agor ar adnod
arbennig. Dewisodd Abraham LincolnMathew 7.1 – “Na fernwch fel na’chbarner” ac mae llawer wedi dewis o lyfr yDiarhebion. Dewisodd Ulysses S Grant,Eseia 11 – “Ac ysbryd yr Arglwydd aorffwys arno ef, ysbryd doethineb adeall…”. Bu Franklin D Roosevelt ynArlywydd deirgwaith yn olynol a’i ddewisbob tro oedd 1 Corinthiaid 13, 13 – “Ac ynawr erys ffydd, gobaith a chariad a’rmwyaf o’r tri hyn yw cariad”. Ganrif unionyn ôl dewisodd Woodrow Wilson –“Duwsydd noddfa nerth i ni, cymorth hawdd eigael mewn cyfyngder”. Roedd dewisTheodore Roosevelt ar ddechrau’r ganrifddiwethaf yn feddylgar: Iago 1.22 – “Abyddwch wneuthurwyr y gair ac nidgwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eichhunain.”
Eironig
Mae rhai o’r dewisiadauyn eironig o edrych ynôl drwy delesgophanes; Mathew 5 – YBregeth ar y Mynydd -oedd dewis GeorgeBush (y tad) a dewis eifab, George W. arddechrau ei ail dymor(pan oedd rhyfel yn Iracar ei hanterth) oeddEseia 40. 31 - Eithr y rhai a obeithiant ynyr Arglwydd a adnewyddant eu nerth;ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant;rhodiant ac ni ddiffygiant.”
Eseia oedd ysbrydoliaeth Bill Clintonhefyd ar ddechrau ei ail dymor; pennod58.12 - “ A’r rhai a fyddant ohonot ti aadeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti agyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth; a thi aelwir yn gaewr yr adwy, yn gyweirwyrllwybrau i gyfanheddu ynddynt.”
Y Llw Arlywyddol
Dim ond ychydig o eiriau, yng nghanol yr
holl sbloets, sy’n troi darpar arlywydd yn
Arlywydd llawn ers Ebrill 30ain 1789:
“Rwyf yn ddifrifol yn tyngu llw (neu yncadarnhau) y byddaf yn cyflawniSwyddogaeth Arlywydd yr Unol Daleithiauyn ffyddlon, ac y byddaf hyd eithaf fyngallu, yn cadw, yn diogelu ac ynamddiffyn Cyfansoddiad yr UnolDaleithiau.”
Yn aml gall geiriau roi awdurdod a
chyfrifoldeb rhyfeddol ar ysgwyddau
unigolion digon diffygiol. Gobaith y bobl
yw y bydd yr unigolyn yn dehongli ei
awdurdod er lles y gymdeithas ac y bydd
ei gyfnod yn y swydd yn ychwanegu at
werth bywyd y mwyafrif ac nid yr unigolyn
sydd yn y swydd. Nid yw’n gweithio bob
tro, wrth gwrs. Dewis adnod Richard
Nixon ar gyfer ei ddwy seremoni oedd
Eseia 2.4 – “Ac efe a farna rhwng ycenhedloedd, ac a gerydda bobloeddlawer: a hwy a gurant eu cleddyfau ynsychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: Nichyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, acni ddysgant ryfel mwyach.” Gwnes addunedau fil…
Euryn Ogwen(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o
reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr
Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)
Euryn Ogwen
Williams
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
SWYDDOG
CYHOEDDIADAU
A CHYNORTHWY-YDD
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac
egnïol i weithio yn
Nhŷ John Penri, Abertawe.
Gwahoddir ceisiadau gan rai sydd o
argyhoeddiad Cristnogol, ac sy’n
drwyadl ddwyieithog
mewn Cymraeg a Saesneg.
Ceir disgrifiad llawnach o’r swydd,
amodau gwaith a chyflog,
a ffurflen gais gan:
Yr Ysgrifennydd Gweinyddol,
Tŷ John Penri, 5 Axis Court,
Parc Busnes Glanyrafon,
Bro Abertawe, ABERTAWE. SA7 0AJ
Ffôn: 01792-795888
e-bost: [email protected]
Dyddiad cau:
17 Chwefror 2017
Cynhelir y cyfweliadau ar
2 Mawrth 2017
Rhyng FfyddWrth deithio o gwmpas fe sylweddolwn y
dyddiau hyn fel mae ardaloedd a
chymdogaethau yn newid. Mae hynny yn
wir am ein dinasoedd a’n trefi yn ogystal
â chefn gwlad. Sylwaf ar hynny yn
arbennig yma yn Harrow. Rwyf yma
bellach ers deunaw mlynedd ar hugain, a
sylwaf ar y newid enbyd wrth gerdded y
strydoedd.
Yn y llyfrgell leol yr wythnos diweddaf
roedd yna arddangosfa ddiddorol iawn am
Rhyng Ffydd/Inter Faith. Nodwyd
amlinelliad o bob ffydd ond yr hyn a’m
trawodd oedd y canran o bob ffydd
ynglŷn â thrigolion Harrow. Dyma’r
ffeithiau:
Cristnogaeth 37%
Hindwaeth 25%
Islam 12.5%
Iddewiaeth 4%
Siciaeth 1.2%
Bwdaeth 1.1%
Cynnydd Mawr
Yn gymdogion i mi yn ein stryd o fewn
deg tŷ y mae yna un ar ddeg o
genhedloedd yn byw. Mynychaf o bryd
i’w gilydd yr Harrow International
Christian Centre i addoli. Yno y mae yna
ddeugain o genhedloedd yn addoli’r
Arglwydd Iesu. Mae’r gynulleidfa yn
enfawr, y llawr a’r galeri yn orlawn. Y Sul
diwethaf yma wrth groesawu pymtheg o
oedolion yn aelodau am y tro cyntaf
mewn Eglwys dywedwyd fod aelodaeth yr
Evangelical Alliance yn cynyddu 12% bob
blwyddyn.
Er yr holl newid yn y dyddiau hyn yn ein
hardaloedd mae rhaid cofio:
“Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn,
Aros mae Efengyl Iesu byth yr un”
Oes, mae yna newid mewn llawer ardal.
Y mae’r Iesu yr un o hyd.
D. Gwylfa Evans