grym dysgu gydol oes
Post on 16-Apr-2017
699 Views
Preview:
TRANSCRIPT
Rydym yn cefnogi ac
yn codi safonau
>>
Cymdeithas fwy
cynhwysol a ffyniannus
>>
Gweithluoedd mwy cymwys
a medrus
>>
Gweithlu dysgu
gydol oes o’r radd flaenaf
>>
Ystyr dysgu gydol oes
yw...>>
Y gweithlu dysgu gydol oes
>>
Y ni yw Dysgu Gydol Oes yn y DU
>>
Yr hyn a wnawn
>>
Sut y gwnawn hynny>>
Rydym yn cefnogi ac yn codi safonau
Bydd safonau a chymwysterau cydnabyddedig, wedi’u seilio ar ymchwil, ar y cyd â’n gwaith prosiect, yn cynnig manteision i gyflogwyr a budd-ddeiliaid, megis:
Rhoi i’r gweithlu hygrededd a pharch fydd wedi’u cydnabod yn allanol
Helpu i ddiffinio a meithrin:
> Rolau, cyfrifoldebau a galluoedd mewn swyddi> Dulliau gweithredu trefniadol
Rhoi canllawiau strategol ar gyfer:
> Arweinyddiaeth a rheolaeth> Adnoddau Dynol a datblygu staff> Recriwtio a chadw
Rydym yn cefnogi ac yn codi safonau
Bydd safonau a chymwysterau cydnabyddedig, wedi’u seilio ar ymchwil, ar y cyd â’n gwaith prosiect, yn cynnig manteision i gyflogwyr a budd-ddeiliaid, megis:
Darparu’r ymchwil ddiweddaraf yn ateg i gynllunwaith gweithlu
Sicrhau dysgwyr ynglŷn ag ansawdd eu cymwysterau
Byddwn hefyd yn helpu gwahanol rannau o’r gweithlu i weithio ynghyd yn effeithiol. Er enghraifft, drwy gynnal ymgyrchoedd recriwtio a chadw, a chynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim.
Rydym yn cefnogi ac yn codi safonau
Mae disgwyliad cynyddol y bydd y gweithlu dysgu gydol oes yn ymaddasu i ofynion y gweithlu ehangach o ran sgiliau. Mae’ch ymrwymiad chi, fel cyflogwyr a budd-ddeiliaid, yn hanfodol inni allu parhau i gyfrannu at eich amcanion.
Rydym yn cefnogi ac yn codi safonau
Gweithlu dysgu gydol oes o’r radd flaenaf
Mae cymwysterau cydnabyddedig, wedi’u seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, yn cynnig manteision i’r rhai sy’n gwireddu ac yn cefnogi dysgu gydol oes:
Gweithlu dysgu gydol oes o’r radd flaenaf
Bod gennych y galluoedd cyfoes a’r hygrededd sydd eisiau i wella’ch rhagolygon gyrfa
Bod gennych brawf o ba lefel yr ydych wedi’i chyrraedd yn eich gyrfa, a bod eich sgiliau’n berthnasol. Er enghraifft, eich bod wedi cadw cam a
cham â thechnolegau dysgu newydd
Bod modd trosglwyddo’ch sgiliau i rannau eraill o’r gweithlu dysgu gydol oes a hefyd ar draws
y DU
Mae safonau a chymwysterau’n cefnogi siwrnai yrfa a datblygiad proffesiynol yr unigolyn. Wrth i’r dirwedd sgiliau esblygu’n gyflym, bydd rolau swyddi’n newid hefyd ac mae angen i bawb ddiweddaru’u medrau. Mae’n hollbwysig i’r gweithlu dysgu gydol oes fod â’r sgiliau cywir, gan eu bod yn gyfrifol am ddiweddaru sgiliau pob diwydiant arall.
Gweithlu dysgu gydol oes o’r radd flaenaf
Gweithluoedd mwy cymwys a
medrus
Gweithlu dysgu gydol oes o’r radd flaenaf
Gweithluoedd mwy cymwys a medrus
Mae’r manteision i weithlu ehangach y DU yn cynnwys:
Bod gwella sgiliau gweithluoedd eraill yn cynyddu’u cynhyrchedd
Cyfle cyfartal i ddysgwyr ble bynnag y maen nhw’n byw yn y DU
Bod gan ddysgwyr y sicrhad a’r hyder eu bod rhwng dwylo da pan fydd cymwysterau
cydnabyddedig gan eu darparwyr dysgu
Denu a chadw’r bobl orau, ni waeth pa grŵp y deilliant ohono
Gweithluoedd mwy cymwys a medrus
Mae pob gweithlu arall yn dibynnu ar y gweithlu dysgu gydol oes i ddiweddaru sgiliau o fewn eu diwydiannau eu hunain. Mae bod â gweithlu dysgu gydol oes o’r radd flaenaf yn galluogi gweithlu ehangach y DU i esgyn yntau i’r radd flaenaf.
Gweithluoedd mwy cymwys a
medrus
Cymdeithas fwy cynhwysol a ffyniannus
Cymdeithas fwy cynhwysol a ffyniannus
Mae amgylchedd dysgu sydd wedi’i seilio ar safonau yn cefnogi gwell dewisiadau bywyd i’r unigolyn, a all arwain at:
Ddatblygiad a hunan-barch unigol
Gwell cyfleoedd cyflogi a mwy o botensial ennill arian
Gwell cydlyniad cymdeithasol a chymunedau cryfach
Diweithdra is
Gwell ansawdd bywyd
Cymdeithas fwy cynhwysol a ffyniannus
Mae pob rhan o’n gweithlu yn cael effaith gadarnhaol ar ein bywydau, ac yn sgil hynny ar farchnadfa’r DU. Mae hyn yn golygu bod buddsoddiad y trethdalwr mewn dysgu gydol oes yn denu elw da.
‘Mae gan bob person ifanc ei stori, a cheisiwn ei datgloi.’ Adam Purvis (pennaeth elusen Fairbridge), The Guardian, 2008
Cymdeithas fwy cynhwysol a ffyniannus
Mae’r gweithlu dysgu gydol oes yn dyngedfennol mewn termau economaidd am ei fod yn islais i lwyddiant pob gweithlu arall. Mae yna gyswllt uniongyrchol rhwng sgiliau, cynhyrchedd a thwf — sy’n golygu bod dysgu gydol oes yn gatalydd ar gyfer cymdeithas well. Mae arnom angen gweithlu medrus iawn yn y DU i aros yn gystadleuol o fewn economi’r byd.
Rydym yn cefnogi ac
yn codi safonau
>>
Cymdeithas fwy
cynhwysol a ffyniannus
>>
Gweithluoedd mwy cymwys
a medrus
>>
Gweithlu dysgu
gydol oes o’r radd flaenaf
>>
Ystyr dysgu gydol oes
yw...>>
Y gweithlu dysgu gydol oes
>>
Y ni yw Dysgu Gydol Oes yn y DU
>>
Yr hyn a wnawn
>>
Sut y gwnawn hynny>>
Ystyr dysgu gydol oes yw...
I ni, ei ystyr yw yr hyn sy’n digwydd y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Gallai hyn olygu meistroli sgiliau gwaith newydd neu ddiweddaru sgiliau presennol wrth i ofynion y swydd newid. Neu fe allai olygu’r ysbrydoliaeth a wêl pobl mewn grŵp ieuenctid, neu gyfle i ddysgu yn y llyfrgell leol.
Y gweithlu dysgu gydol oes
Mae’n gweithlu’n cynnwys 1.2 miliwn o bobl sy’n cyfrannu at wireddu dysgu gydol oes, yn ogystal â rhai sy’n cefnogi’r gwireddu hwnnw.
Mae buddsoddi yn ein gweithlu ni yn hanfodol i lwyddiant pob gweithlu arall a’n cymdeithas. Mae dysgu gydol oes yn sector blaenoriaeth — ac mae gyrfa yn y sector dysgu gydol oes yn un gyffrous sy’n rhoi boddhad.
Mae’r gweithlu dysgu gydol oes wedi’i ledu ar draws pum maes cydberthynol:
1. Dysgu a datblygiad cymunedol2. Addysg Bellach3. Addysg Uwch4. Llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth5. Dysgu yn y gwaith
Y gweithlu dysgu gydol oes
Rydym yn cefnogi ac
yn codi safonau
>>
Cymdeithas fwy
cynhwysol a ffyniannus
>>
Gweithluoedd mwy cymwys
a medrus
>>
Gweithlu dysgu
gydol oes o’r radd flaenaf
>>
Ystyr dysgu gydol oes
yw...>>
Y gweithlu dysgu gydol oes
>>
Y ni yw Dysgu Gydol Oes yn y DU
>>
Yr hyn a wnawn
>>
Sut y gwnawn hynny>>
Y ni yw Dysgu Gydol Oes yn y DU
Rydym yn gorff sydd wedi’i arwain gan gyflogwyr, a chennym un agenda — sicrhau bod y gweithlu dysgu gydol oes yn cyrraedd y lefel orau a all. Deallwn fod bod â gweithlu dysgu gydol oes sydd o’r radd flaenaf yn hollbwysig i sicrhau gweithlu o’r radd flaenaf yn y DU. Galluogwn gydweithredu ar draws y sector dysgu gydol oes i gyflawni hyn.
Rydym yn un o 25 o Gynghorau Sector Sgiliau, ac rydym yn gyfrifol am gynnal breichiau’r gweithlu dysgu gydol oes drwy: ddatblygu a chodi safonau; darparu gwybodaeth am y farchnad lafur; denu cyfraniad cyflogwyr; a gwireddu prosiectau blaengar.
Yr hyn a wnawn
Gwybodaeth am y Farchnad Lafur: Mae’r ymchwil hon yn golygu bod modd inni gymharu sgiliau cyfredol ag anghenion dyfodol y gweithlu, a phennu bylchau a gofynion sgiliau.
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: Byddwn yn datblygu’r safonau hyn drwy ymchwilio i’r sector ac ymgynghori â nhw. Y ni yw’r awdurdod cydnabyddedig ar gyfer datblygu’r safonau hyn o fewn y sector.
Cefnogi cymwysterau proffesiynol: Yn eu tro, mae’r safonau hyn yn porthi datblygiad cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig.
Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor: Dyma wasanaeth cyngor di-dâl i bawb sy’n cymryd rhan mewn dysgu gydol oes neu sydd â diddordeb ynddo. Caiff ei redeg gan ymarferwyr profiadol, a gellir ei gyrchu dros y ffôn (020 7936 5798), drwy e-bost (advice@lluk.org), ar ein gwefannau a thrwy ddigwyddiadau.
Yr hyn a wnawn
Mae’r deunydd darllen ategol a gynhyrchwn yn rhychwantu: Ymchwil, safonau, cymwysterau, fframwaith, astudiaethau achos yn portreadu unigolion a mapiau gyrfa’n dangos sut mae trosglwyddo sgiliau.
Gwaith prosiect: Byddwn yn rheoli, yn gwireddu, yn cloriannu ac yn tendro am gylch eang o brosiectau, mentrau a chynhyrchion sy’n cefnogi datblygu gweithluoedd.
Yr hyn a wnawn
Dilysu Safonau yn y DU: Mae’n his-gwmni masnachu, Dilysu Safonau yn y DU, yn gyfrifol am ddilysu hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ogystal â mathau eraill o hyfforddiant a datblygiad gweithlu.
www.standardsverificationuk.org
Yr hyn a wnawn
Sut y gwnawn hynny
Byddwn yn gwrando ar anghenion cyflogwyr ac yn eu cyfleu i gyrff llywodraeth a chyrff cyllido. Byddwn yn monitro ac yn cydweithredu â phob rhan o’r gweithlu er mwyn cynrychioli ac ymateb i’w gofynion a datblygu strategaethau effeithiol.
Cydnabyddwn wahanol anghenion, deddfwriaethau a pholisïau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Drwy rannu’r arferion gorau, ymdrechwn i sicrhau cymwysterau a gaiff eu cydnabod ledled y pedair gwlad. Hybwn gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac amlygwn hyn yn ein ffordd o weithio.
Rydym yn cefnogi ac
yn codi safonau
>>
Cymdeithas fwy
cynhwysol a ffyniannus
>>
Gweithluoedd mwy cymwys
a medrus
>>
Gweithlu dysgu
gydol oes o’r radd flaenaf
>>
Ystyr dysgu gydol oes
yw...>>
Y gweithlu dysgu gydol oes
>>
Y ni yw Dysgu Gydol Oes yn y DU
>>
Yr hyn a wnawn
>>
Sut y gwnawn hynny>>
top related