astudiaethau’r cyfryngau
DESCRIPTION
Astudiaethau’r Cyfryngau. Genre a Chynrychiolaeth. Ail-ddal. Beth yw ‘Testun Cyfryngol’? Pa sgiliau sydd angen wrth ddadadeiladu/ddadansoddi ‘Testunau Cyfryngol’? Pa 3 ‘Testun Cyfryngol’ y byddem yn canolbwyntio arnynt y tymor yma? Pa ddiwydiant mae’r 3 testun yn perthyn iddo? - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Astudiaethau’r CyfryngauGenre a Chynrychiolaeth
Ail-ddal
• Beth yw ‘Testun Cyfryngol’?• Pa sgiliau sydd angen wrth
ddadadeiladu/ddadansoddi ‘Testunau Cyfryngol’?
• Pa 3 ‘Testun Cyfryngol’ y byddem yn canolbwyntio arnynt y tymor yma?
• Pa ddiwydiant mae’r 3 testun yn perthyn iddo?• Beth yw ystyr y term naratif?
Naratif
Naratif
Naratif
Naratif
Nod Tymor Y Nadolig
• MS1 (50%) Papur Ysgrifenedig 2½ awr
• Cynrychioliadau’r Cyfryngau a’r Ymatebion iddynt
• Cynrychiolaeth – Miss Boyle
• Ymatebion Cynulleidfaoedd – Miss Rees Jones
Nod y wers...
• Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion yn deall y term ‘genre’
• Erbyn diwedd y wers bydd y disgyblion yn deall y term ‘cynrychiolaeth’
• Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion yn deall sut i ddadadeilau/dadansoddi fideo gerddoriaeth gan ganolbwyntio ar gynrychioliad rhyw
• Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion wedi dadansoddi codau a chonfensiynau technegol a gweledol dwy fideo o ddwy genre gwahanol
Terminoleg: Genre“Math o destun sydd a rhai nodweddion y
gellir eu rhagweld. Mae nodweddion neu gonfensiynau genre yn dangos i’r
gynulleidfa pa genre ydyw.”
Tasg DosbarthGenre Artistiaid neu Fandiau
Roc
Hip-Hop
Dawns – Techno/House
Pop
RnB
Indie
Reggae
Clasurol
Terminoleg: Cynrychiolaeth
“Defnyddir y term i ddisgrifio proses lle y gellir dweud bod y cyfryngau’n dehongli’r
‘byd go iawn’ neu realiti allanol i’w gynulleidfa.”
Meddyliwch, sut mae’r cyfryngau yn eich cynrychioli chi…pobl ifanc?
Skins, Channel 4
The Inbetweeners, E4
Pwy sy’n cael eu cynrychioli o fewn y cyfryngau?
• Rhyw (merched/dynion)
• Ethnigrwydd
• Oedran
• Hunaniaeth rhanbarthol a
• chenedlaethol
Cynrychiolaeth Rhyw
Tasg: Gyda phartner trafodwch a llenwch y daflen ar rolau a nodweddion merched a
dynion
Cynrychiolaeth Merched yn y Genre Hip Hop• Merched yn wrthrychau rhyw
sydd cael eu darostwng yn gyson
• Cyfeiriadau at ferched yn aml fel ‘bitches’ a ‘hoe’s’
• Merched yn cael eu cyflwyno fel eiddo a’u trin fel nwyddau sydd yn cyfateb i geir moethus, Rolex, deiamwntiau a gemwaith neu ‘Bling’
• Nid yw’r merched yn edrych ar y camera ac felly maent yn gwahodd y gynulleidfa i syllu arnynt a’u llygadu (voyeurism)
• Merched yn cael eu llunio i fod yn benwag ac anneallus heb hiwmor na emosiwn
Gwrywdod a Llunio’r Cynnyrch a eliwr yn 50 Cent
• Curtis Jackson a fodolodd cyn gwneuthuriad persona ‘50 Cent’
• Delwedd wedi ei lunio yn ofalus er mwyn gwerthu cerddoriaeth
• Mae ei lwyddiant yn dibynnu yn helaeth ar syniadau ystrydebol am ddynion americanaidd du
• Rhywiaethol, haerllyg, atgasedd at ferched (misogynistic), ac yn defnyddio trais fel datrysiad problemau
• Mae’n elwa o hiliaeth mewn ffordd i werthu recordiau, mae’n hybu syniadau negyddol am wrywdod dynion du
• Mae’n cyfrannu at y ddadl ‘effeithiau’r cyfryngau’ gan ei fod yn gwneud yn fawr o droseddi gwn a thrais
Persona 50 cent yn y CyfryngauHerwr (outlaw); Wedi goroesi’r ‘ghetto’; bron wedi ei saethu 9 o weithiau; arfer delio crack
Symbolau statws yn amlwg yn ei fyd ef: Bentleys, ‘Bling’
Ymhob fideo gwelwn ferched di-enw, di-bersonoliaeth yn barod i daflu eu hunain ato
Lefel ffrwydrol o destosteron
Eithriadol o rywiol; torso cyhyrog yn cael ei arddangos
Astudiaeth Achos Fideo:
P.I.M.P
(50 Cent)
Cynrychiolaeth Merched:
•Gwrthrychau/addurniadau
•Nwyddau
•Goddefol
•Caethwaesion
•Wedi eu gwisgo yn eu dillad isaf
•Gwahodd ‘arsylliad gwrywaidd’ (male gaze)
Cynrychiolaeth Merched:•Ongl camera isel er mwyn arddangos a llygadu rhannau o’r corff
•Saethiadau Agos (SA) o rannau o’r
corff mwen ystumiau rhywiol
Cynrychiolaeth Dynion:
• Onglau camera isel er mwyn creu yr argraff o bŵer a brawychiad (intimidation)
• Y lliw gwyn yn cynodi fod ‘50’ yn ‘dduw’
• Gafael ar y mannau cenhedlu (Crotch)/Pŵer Dynol (dde)
• Hunan Addoliad (Narcissism) – Golygu araf (slow motion) er mwyn pwysleisio corffoledd cyhyrog ‘50’
Cynrychiolaeth Dynion:
• Saethiadau agos o symbolau statws yn cael eu defnyddio i gyd-fynd a’r lleoliad sef plasty (mansion) moethus sy’n arwyddocâd o bŵer, cyfoeth a pherchnogaeth: symbolau o’r ‘Freuddwyd Americanaidd’
Astudiaeth Achos:
Windowlicker(Aphex Twin)
Cyfarwyddwr Chris Cunningham
Parodiau Gwrywdod: Windowlicker - Aphex Twin
• Mae parodi o ystradebau rhyw negyddol yn amlwg mewn mannau o’r Ddiwydiant Gerddoriaeth Hip Hop
• Gwawdio confensiynau’r genre Hip Hop drwy ddefnyddio: ‘bling’, iaith anweddus, dawnsio dros ben llestri, symbolau statws
•Yn chwarae â’r ffin rhwng dynion a merched drwy ddefnyddio delweddau o’i wyneb dynol ef ar gyrff merched dymunol – hyn yn drysu ac yn gwrthyrru (repulse) yr ‘arsylliad gwrywaidd’ (male gaze)
• Mae’r ddelwedd yn cael ei ddwysau gan nad yw’r mynegiant wynebol yn newid ac hefyd mae i’w weld ymhobman
Parodiau Gwrywdod: Aphex Twin• Mae gan y ‘limo’ gynodiadau ffalig ac mae’n gwneud hwyl am ben symbolau statws Hip Hop
• Onglau isel lle mae’r ymgyrchwr (protaganist) yn cael ei gyflwyno i’r gynulleidfa gyda gwen/ystum rhyfedd ac osgo merchetaidd/ ‘camp’ (tanseilio gwrywdod cyhyd a saethiadau isel yn cadarnhau pŵer)
• Defnyddio gwrthrychau ffalig mewn modd chwerthinllyd ac yn ymddwyn mewn ffordd gwrywaidd sydd amlwg yn gwneud hwyl
Parodiau o Wrthrycholiad Merched: Aphex Twin
• Cynnig cyfle i’r gynulleidfa lygadu’r merched sydd wedi eu gwisgo mewn ‘bikinis’. Gallwn arsyllu (gaze) ar y merched yn dawnsio mewn modd rhywiol a chwantus
• Mae’r llygadu yma yn troi yn hunllef wrth i fwgwd arswydus ‘Aphex’ syllu yn ôl arnom ni. Mae’r cyrff yn crychu a chrebachu wrth iddynt gael ei ffilmio yn araf (slow motion). Mae’r prif ‘wrthrych chwant’ (object of desire) yn cael ei ddadlennu ac yn rhoi eithaf braw/sioc i ni
UWCH: P.I.M.P (50 Cent)
ISOD: Windowlicker (Aphex Twin)
Gwaith Ymchwil:Yn wrthwyneb i’r syniadau yma mewn
parau/grwpiau o 3 ymchwiliwch i ddelwedd ‘Missy Elliott’. Sut mae rôl merched yn cael ei lunio yn ei fideoau cerddoriaeth hi? Sut mae
merched du yn cael eu cynrychioli yn wahanol?