let's count · web viewgallwch chi rannu'r deunydd hwn yn eich cylchlythyr, e-gylchlythyr, ar eich...

3
Cylchlythyr enghreifftiol Gwybodaeth am y deunydd: Rydym ni wedi creu deunydd enghreifftiol y gallwch chi ei ddefnyddio i roi gwybod i rieni, llywodraethwyr a'ch rhwydwaith eich bod yn cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif!. Gallwch chi rannu'r deunydd hwn yn eich cylchlythyr, e-gylchlythyr, ar eich cyfryngau cymdeithasol neu mewn diweddariadau eraill. Sut i'w ddefnyddio: Gallwch chi ddefnyddio'r testun enghreifftiol isod neu olygu adrannau i adlewyrchu gweithgareddau penodol yn eich ysgol. Er enghraifft, gweithgareddau fel cymryd rhan yn y gystadleuaeth neu Ddiwrnod Gadewch i ni Gyfrif!. ___________________ Rydym ni'n cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif! Rydym ni wrth ein bodd i fod yn cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif!, y rhaglen gyffrous i ysgolion sy'n helpu plant i ddysgu am y cyfrifiad a pham mae'n bwysig i bawb. Beth yw Cyfrifiad 2021? Caiff y cyfrifiad nesaf ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ein hardal leol. Drwy ledaenu'r neges a chymryd rhan yn y cyfrifiad, byddwch chi'n helpu i wneud yn siŵr bod ein cymuned yn cael ei chyfrif ac yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arni. Dysgwch fwy am Gyfrifiad 2021 a sut i lenwi holiadur y cyfrifiad yn https://cyfrifiad.gov.uk Beth yw Gadewch i ni Gyfrif!? Datblygodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a'r ganolfan adnoddau, iChild, Gadewch i ni Gyfrif! er mwyn addysgu plant am y cyfrifiad a gwneud dysgu yn hwyl. Mae'r rhaglen wedi cael ei hachredu gan Mathematics in Education and Industry (MEI), y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Saesneg (NATE) a'r Gymdeithas Ddaearyddol.

Upload: others

Post on 19-Feb-2021

7 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Cylchlythyr enghreifftiol

Gwybodaeth am y deunydd: Rydym ni wedi creu deunydd enghreifftiol y gallwch chi ei ddefnyddio i roi gwybod i rieni, llywodraethwyr a'ch rhwydwaith eich bod yn cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif!. Gallwch chi rannu'r deunydd hwn yn eich cylchlythyr, e-gylchlythyr, ar eich cyfryngau cymdeithasol neu mewn diweddariadau eraill.

Sut i'w ddefnyddio: Gallwch chi ddefnyddio'r testun enghreifftiol isod neu olygu adrannau i adlewyrchu gweithgareddau penodol yn eich ysgol. Er enghraifft, gweithgareddau fel cymryd rhan yn y gystadleuaeth neu Ddiwrnod Gadewch i ni Gyfrif!.

___________________

Rydym ni'n cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif!

Rydym ni wrth ein bodd i fod yn cymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif!, y rhaglen gyffrous i ysgolion sy'n helpu plant i ddysgu am y cyfrifiad a pham mae'n bwysig i bawb.

Beth yw Cyfrifiad 2021?

Caiff y cyfrifiad nesaf ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ein hardal leol. Drwy ledaenu'r neges a chymryd rhan yn y cyfrifiad, byddwch chi'n helpu i wneud yn siŵr bod ein cymuned yn cael ei chyfrif ac yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arni.

Dysgwch fwy am Gyfrifiad 2021 a sut i lenwi holiadur y cyfrifiad yn https://cyfrifiad.gov.uk

Beth yw Gadewch i ni Gyfrif!?

Datblygodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a'r ganolfan adnoddau, iChild, Gadewch i ni Gyfrif! er mwyn addysgu plant am y cyfrifiad a gwneud dysgu yn hwyl. Mae'r rhaglen wedi cael ei hachredu gan Mathematics in Education and Industry (MEI), y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Saesneg (NATE) a'r Gymdeithas Ddaearyddol.

Mae'r cynlluniau gwersi wedi'u cynllunio i addysgu plant yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Y nod yw cefnogi ein hysgol drwy'r Coronafeirws (COVID-19), er mwyn ailennyn diddordeb plant a theuluoedd mewn dysgu a dathlu ein cymuned leol.

Hefyd, mae gwersi fideo arbennig, gan gynnwys gwers YouTube fyw gan yr Athro David Olusoga ar y pwnc ‘Cydraddoldeb, cynrychiolaeth a'r cyfrifiad’.

Mae'r cynlluniau gwersi yn cynnwys y ‘Cathod Cyfrif’. Cymeriadau cartŵn yw'r rhain i helpu gyda'r broses ddysgu. Mae gan bob cath ei hoff bwnc: mae Splotch yn dwli ar gelf, mae Doc yn dwli ar hanes, mae Digit yn dwli ar fathemateg, mae Scribble yn dwli ar Saesneg ac mae Scout yn dwli ar ddaearyddiaeth.

Cadwch lygad am y taflenni a'r sticeri Gadewch i ni Gyfrif! y bydd eich plant yn dod â nhw adref gyda nhw.

Diwrnod Gadewch i ni Gyfrif!

Mae ein Diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! ar [nodwch y dyddiad]. Bydd y plant yn cyfrif pethau o amgylch ein hysgol neu'r ardal leol ac yn casglu data ar unrhyw bwnc sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd y wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu yn cael ei defnyddio i wneud arddangosfa, y byddwn ni'n ei ddefnyddio i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! Bydd gwobrau yn cael eu rhoi i'r cynigion gorau a bydd cyfarpar gwerth £1,000 yn cael ei roi i'r ysgol fuddugol.

[Os ydych chi eisoes wedi cynnal eich Diwrnod Gadewch i ni Gyfrif!, efallai yr hoffech gynnwys llun o'ch arddangosfa gyda'r cylchlythyr hwn]

Dysgwch fwy am Gadewch i ni Gyfrif! yn: https://gadewchinigyfrif.org.uk/