august 2013 welsh newsletter

4
Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Awst 2013 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Awst Gwobr Cyflawniad Personol Eithriadol i Gerraint Person ifanc o Gaerffili yn cael ei gydnabod am ei waith caled Dewch i Ni Drafod.... Tîm Both Sir Benfro yn cydnabod gwerth cefnogaeth i rieni ar bynciau anodd ynghyd â chefnogaeth cymheiriaid i rieni Hawliau Gofalwyr Beth Evans o Ofalwyr Cymru yn cynnig cipolwg ar y mudiad a’r effaith y mae wedi’i gael ar ddeddfwriaeth gyfredol Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill Helo Ddarllenwyr Gobeithio eich bod chi wedi cael haf mor brysur a llawn hwyl â ninnau yma yn y swyddfa hyfforddiant a gwybodaeth. Mae wedi bod yn wych cael dod i ymweld â rhai ohonoch. Wrth i ni agosáu at ddychwelyd i’r ysgol, cofiwch anfon eich straeon a’ch lluniau atom ni o’ch gwibdeithiau dros yr haf. Roedd yn wych cael clywed gan bobl ifanc oedd yn dathlu eu can- lyniadau arholiadau a chyrsiau dros yr haf ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi barhau â’ch siwrnai. I ninnau yn y swyddfa, rydym yn trefnu’r cyrsiau hyfforddiant nesaf ac yn ceisio cadw i fyny â’n tudalennau Twitter a Facebook tan i ni gyflogi rhywun i lenwi swydd Laura. Ganed Callie Nicole Griffiths i Laura ar 29 Gorffennaf. Mae pawb yn gwneud yn dda ac mae Callie yn hyfryd. Zoe a Hannah Tîm gwybodaeth a hyfforddiant

Upload: real-opportunities

Post on 10-Mar-2016

226 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: August 2013 welsh newsletter

Yn darparu Cyfleoedd

Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod

yn Oedolion

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Awst 2013Yn y rhifyn hwnCyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Awst

Gwobr Cyflawniad Personol Eithriadol i GerraintPerson ifanc o Gaerffili yn cael ei gydnabod am ei waith caledDewch i Ni Drafod.... Tîm Both Sir Benfro yn cydnabod gwerth cefnogaeth i rieni ar bynciau anodd ynghyd â chefnogaeth cymheiriaid i rieniHawliau GofalwyrBeth Evans o Ofalwyr Cymru yn cynnig cipolwg ar y mudiad a’r effaith y mae wedi’i gael ar ddeddfwriaeth gyfredolHyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill

Helo Ddarllenwyr

Gobeithio eich bod chi wedi cael haf mor brysur a llawn hwyl â ninnau yma yn y swyddfa hyfforddiant a gwybodaeth. Mae wedi bod yn wych cael dod i ymweld â rhai ohonoch. Wrth i ni agosáu at ddychwelyd i’r ysgol, cofiwch anfon eich straeon a’ch lluniau atom ni o’ch gwibdeithiau dros yr haf.Roedd yn wych cael clywed gan bobl ifanc oedd yn dathlu eu can-lyniadau arholiadau a chyrsiau dros yr haf ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi barhau â’ch siwrnai.

I ninnau yn y swyddfa, rydym yn trefnu’r cyrsiau hyfforddiant nesaf ac yn ceisio cadw i fyny â’n tudalennau Twitter a Facebook tan i ni gyflogi rhywun i lenwi swydd Laura.Ganed Callie Nicole Griffiths i Laura ar 29 Gorffennaf. Mae pawb yn gwneud yn dda ac mae Callie yn hyfryd.

Zoe a HannahTîm gwybodaeth a hyfforddiant

Page 2: August 2013 welsh newsletter

Sefydlwyd Dawns Holly gan Holly Salmon a’i mam Jo, i godi ymwybyddiaeth ac arian i elusennau Awtistiaeth allweddol. Lansiwyd y ddawns yn 2010 gan yr Aelod Cynulliad Jeff Cuthbert, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan dyfu bob blwyddyn. Dyfeisiwyd Gwobrau Arwyr Awtistiaeth yn rhan o’r ddawns eleni, gyda’r bwriad o ddangos peth o’r rhagoriaeth sy’n digwydd ym myd Awtistiaeth yng Nghymru.

2

Fel gweithiwr cefnogi seicoleg both Caerffili, rwy’ wedi bod yn gweithio gyda Gerriant Jones-Griffiths ar ei ddealltwriaeth o Awtistiaeth. Roeddwn yn ymwybodol o holl gyflawniadau Gerraint dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd y Wobr Cyflawniad Personol Eithriadol yn ffordd berffaith i gydnabod ei lwyddiannau. Disgrifiodd fy enwebiad sut roedd Gerraint wedi dod yn aelod gweithgar o Fforwm Ieuenctid Caerffili, gan sefyll mewn etholiad ar gyfer y cynrychiolydd amgylcheddol, a phan gafodd ei ethol yn llwyddiannus, daeth yn arweinydd ar y Mater Blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn - parciau’r cyngor. Trwy ymgyrchu diflino Gerraint, mae Cyngor Caerffili wedi cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu yn holl ardaloedd chwarae plant y sir. Mae Gerraint hefyd wedi’i hyfforddi fel Arolygydd Ifanc; gan arolygu darpariaethau ieuenctid i sicrhau bod safonau i bobl ifanc yn cael eu cwrdd. Cafodd ei lwyddiannau eu cydnabod wrth iddo gadeirio Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd 2012. Mae Gerraint wedi’i hyfforddi hefyd i fentora cyfranogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol newydd, ac mae’n parhau i chwarae rôl bositif mewn llawer o’n gweithgareddau.

Cyhoeddwyd enwau’r rheiny a gyrhaeddodd restr fer y gwobrau ar 2 Ebrill – Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, ac roeddem wrth ein bodd i glywed bod Gerraint wedi cyrraedd y rhestr fer o dri yn ei gategori! Ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin, aeth Gerraint a’i deulu i Ddawns

Holly yng ngwesty Holland House yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gydag a d l o n i a n t , areithiau, cinio pedwar cwrs a’r seremoni wobrwyo. Roedd Gerraint wrth ei fodd i glywed ei fod wedi dod yn ail, ac aeth i’r llwyfan i dderbyn ei wobr gan Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Dywedodd Betsan fod Gerraint yn seren wleidyddol y dyfodol! Roedd yn noson arbennig a gadawodd Gerraint a’i rieni yn teimlo’n falch iawn o’i gyflawniad gwych. Fe wnaeth Gerraint gymaint o argraff ar drefnwyr y ddawns maent yn awyddus iddo fod yn siaradwr yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf. Da iawn Gerraint!

Gwobr Cyflawniad Personol eithriadol i Gerraint

Mae tîm both Sir Benfro wedi cynnal dau gwrs yn ystod y misoedd diwethaf, ac roeddent yn sesiynau anffurfiol gyda’r nod o gael rhieni i ddechrau trafod pryderon ynghylch ymdrin â’r pwnc anodd hwn.

Cafodd y cwrs wyth wythnos ei drefnu mewn ymateb i gais gan rieni, ac roedd cyfle i rieni ennill cymhwyster NOCN lefel 2, yn ogystal â chael cyngor a gwybodaeth. Roedd y cymhwyster yn fonws ond nid yn angenrheidiol – roedd rhai rhieni yn hapus i fynychu a rhannu eu profiadau â phobl eraill

mewn amgylchiadau tebyg. Roedd y gefnogaeth dderbyniodd y grŵp gan ei gilydd yr un mor werthfawr â’r cyfle i gael cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth. Roedd gallu dod ynghyd i rannu profiadau yn un o’r pethau yr oedd y rhieni wedi gwerthfawrogi fwyaf am y cwrs (gweler y dyfyniadau isod).

“Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn ac rwy’n credu y bydd yn help wrth i fy mab aeddfedu. Bydd hefyd yn helpu yn fy ngyrfa broffesiynol gan fy mod yn gweithio mewn ysgol uwchradd. Bydd yn sicr yn rhoi hyder

dewCh i ni ....Mae rhieni yn Sir Benfro wedi bod yn cymryd rhan mewn cyrsiau rhieni a gynhelir gan y prosiect i gael gwybodaeth a chyngor am sut i gefnogi eu plant wrth ddeall a siarad am ryw, rhywioldeb a pherthnasoedd.

Page 3: August 2013 welsh newsletter

3

i mi i drafod gyda’m mab pan ddaw’r amser”

“Roedd yn braf cwrdd â rhieni eraill sydd yn yr un sefyllfa ac roedd yr arweinwyr yn wych. Roedd yn anffurfiol ac yn llawn cymorth”

“Roedd y cwrs yn anffurfiol ac roedd yn hawdd siarad ag arweinwyr y cwrs a rhieni a gofalwyr eraill. Mae wedi rhoi’r hyder i mi siarad â’m mab am dyfu i fyny a mynd i’r afael ag unrhyw faterion wrth iddynt godi”

Mrs Teresa Goddard a Mrs Dawn Russell – dwy o’r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs ar ddeall rhyw a pherthnasoedd yn Sir Benfro

Rydym yma i helpu gwell bywydau ein gofalwyr trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Rydym hefyd yn ymgyrchu ar eich rhan ar faterion sy’n effeithio arnoch gyda gwneuthurwyr polisi a phenderfyniadau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol.

Dros y 21 mlynedd diwethaf mae Gofalwyr Cymru wedi:

•Cefnogi gofalwyr trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor am ofalu

•Dylanwadu ar bolisi trwy ymchwil rheolaidd yn seiliedig ar brofiadau gwirioneddol gofalwyr ac

•Ymgyrchu i wneud bywyd yn well i ofalwyr

Trwy ein lobïo a’n hymchwil rydym hefyd wedi cael effaith fawr ar ddeddfwriaeth.n Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 Yn rhoi’r hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion. Mae hyn yn ddibynnol ar asesu’r defnyddiwr gwasanaeth.

Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Yn rhoi hawl annibynnol i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion waeth a yw’r person anabl yn cael ei asesu ai peidio.

Deddf Cyfle Cyfartal i Ofalwyr 2005

Daeth y Ddeddf hon i rym pan gyflwynodd Dr Hywel Francis, AS Aberafan fesur aelodau preifat. Mae’n gosod dyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol ac yn ei wneud yn ofynnol iddynt hysbysu gofalwyr am eu hawliau i gael eu hasesu o dan y ddwy Ddeddf uchod. Mae hefyd

yn gosod dyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol i ystyried a yw gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gweithio, neu’n ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu weithgarwch hamdden, neu’n dymuno gwneud hynny. Roedd y Deddfau cynharach yn canolbwyntio ar ofalwr yn gallu cynnal y rôl ofalu lle mae’r Ddeddf hon yn sicrhau nad yw gofalwyr yn cael eu hamddifadu rhag cyfleoedd bywyd. Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010

Ymgyrchodd Gofalwyr Cymru i ofalwyr dderbyn gwybodaeth ac yn dilyn ein gwaith gyda Chynghrair Gofalwyr Cymru, cyflwynwyd cyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 sydd am y tro cyntaf erioed yn gosod dyletswydd ar y GIG i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hadnabod ac y rhoddir gwybodaeth iddynt.

Rydym am wneud bywyd yn well i chi ac i gymdeithas gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniad enfawr yr ydych yn ei wneud i gymdeithas. Yng Nghymru yn unig mae gofalwyr teuluol di-dâl yn darparu 96.8% o’r holl ofal cymunedol yng Nghymru sy’n cyfateb i arbediad o £7.7 biliwn o bunnoedd y flwyddyn pe bai angen i’r gofal hwn gael ei gyflawni gan y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol. Rydym yn fudiad aelodaeth ac mae lleisiau gofalwyr wrth wraidd pob peth yr ydym yn ei wneud.

Gallwch ymuno â ni er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein hymgyrchoedd trwy ymweld â www.carereswales.org. Mae gennym dudalen ar Facebook hefyd www.facebook.com/carerswales. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Beth yn [email protected]

hawliau GofalwyrDarparwyD gan Beth evans, gofalwyr Cymru

Mae Gofalwyr Cymru yn rhan o Carers UK. Rydym yn elusen genedlaethol a sefydlwyd i gefnogi’r 370,000 o ofalwyr sy’n gofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl.

Page 4: August 2013 welsh newsletter

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hannah Cox neu Zoe Richards ar 01639 635650 neu [email protected]. Gellir golygu cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital

Hyfforddiant a Digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDydd Iau 12 Medi10:00-1:00Forge Fach, ClydachI Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol

Cyflwyniad i PCPDydd Mawrth 17 Medi10:00 – 4:00 Forge Fach, Clydach

Rhwydwaith CynhwysiadDydd Mercher 25 Medi10:00-1:00Forge Fach, ClydachGweithwyr Cynhwysiad Ieuenctid, Hyfforddwyr Mentoriaid Cymheiriaid, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg

Cyflwyniad i PCPDydd Iau 3 Hydref10:00 – 4:00Consortiwm Canolbarth De, NantgarwCwrs yn LLAWN!

Dosbarth Meistr Anhwylderau BwytaDydd Mercher 9 Hydref10:00 – 12:30Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr2 x Le ar gyfer pob tîm both

Cyflwyniad i PCPDydd Iau 22 Hydref10:00 – 4:00Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDydd Mercher 30 Hydref10:00-1:00Forge Fach, ClydachI Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDydd Llun 18 Tachwedd10:00-1:00I Weithwyr Allweddol Trawsnewid, Cydlynwyr Mentrau Cymdeithasol, Cynrychiolwyr Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth