bangor university estate strategy 2020-2025€¦ · web view2019/06/04 · mae'r brifysgol...
TRANSCRIPT
1
Prifysgol BangorDatblygu Strategaeth Ystadau i Brifysgol Bangor2020 - 2030
Ar gyfer Ymgynghori4/06/2019
2
Y Strategaeth Gyffredinol
Mae'r Strategaeth hon yn argymell crynhoi Ystâd y Brifysgol mewn modd radical i leihau'r ôl-
troed a gwella ansawdd yr ystâd adeiledig, gan leihau costau a gwella profiad myfyrwyr,
staff ac ymwelwyr. Mae dadansoddiad o faint, cyflwr a lefelau defnydd yr ystâd, ynghyd ag
asesiad realistig o lefelau posibl buddsoddiad yn y dyfodol gan y Brifysgol, i gyd yn dangos
mai crynhoi'r ystâd mewn ffordd reoledig yw'r unig opsiwn ymarferol i gyflawni'r arbedion
sydd eu hangen arnom o fewn y gyllideb fuddsoddi gymharol fychan sydd ar gael. Mae'r
ddogfen hon yn amlinellu natur y sefyllfa ac yn cyflwyno dadansoddiadau i gefnogi'r casgliad
hwn. Nod y ddogfen yw bod yn sail ar gyfer ymgynghori â'r holl randdeiliaid. Yn dilyn yr
ymgynghoriad, bydd cynllun cyflawni manwl, wedi'i gostio'n llawn, yn cael ei ddatblygu i'w
weithredu dros gyfnod 2020 -2030 y cynllun hwn.
Cefndir
Mae ystâd y brifysgol yn cynnwys 126 o adeiladau sy'n darparu hyd at 226,000m 2 o
arwynebedd llawr mewnol gros (GIA). Mae 76,000m2 o'r arwynebedd hwnnw'n lletyau
preswyl a 150,000m2 yn lletyau dibreswyl. Mae'r brifysgol wedi rhoi gwerth o £323 miliwn ar
ei hystâd. Mae'r ystâd yn wasgaredig ac ar draws nifer o leoliadau, ond cnewyllyn y brifysgol
yw'r clwstwr o safleoedd yn agos at ganol y ddinas, sy'n cynnwys Ffordd y Coleg, Pontio a
safle Ffordd Deiniol. Yn ogystal, mae'r brifysgol yn gweithredu o ddeg safle arall ar
bellteroedd amrywiol o'r canolbwynt hwn.
Nodweddion Allweddol yr Ystâd Ddibreswyl
Mae gan yr ystâd nifer fawr o adeiladau hanesyddol a rhestredig ac mae bron i 25% o ystâd
ddibreswyl y brifysgol wedi'i chynnwys mewn adeiladau sydd wedi'u rhestru yn eu rhinwedd
eu hunain neu adeiladau a restrir drwy eu cysylltiad â Phrif Adeilad y Celfyddydau. Mae'r
adeiladau hyn yn cyfrannu'n sylweddol at atyniad cyffredinol yr ystâd, ond gallant fod yn llai
ymarferol ac yn ddrutach i'w rhedeg nag adeiladau modern.
3
Mae'r lleoliadau lluosog, gwasgaredig ar gyfer addysgu, ymchwil a gwasanaethau myfyrwyr
yn faich ar gostau gweithredu'r ystâd. At hynny, mae nifer yr adeiladau sydd mewn cyflwr
gwael yn uchel o'i gymharu ag ystadau prifysgolion eraill (gweler tudalen 20). Mae gan
Brifysgol Bangor ddwbl cyfartaledd y sector o adeiladau sydd mewn Cyflwr C a D (bron 50%),
sef rhai sydd angen eu gwella'n sylweddol. Mae'r adeiladau sydd yn y cyflwr gwaethaf
wedi'u clystyru ar Safle Ffordd Deiniol a Stryd y Deon.
Mae yna hefyd fil cynnal a chadw enfawr sydd wedi crynhoi i wella cyflwr yr ystâd. Yn ôl
cronfa ddata'r brifysgol mae hyn oddeutu £11m. Ond mae hwn yn amcangyfrif rhy isel o
lawer gan fod y wybodaeth sylfaenol hon yn hen, ac nid yw'n cynnwys yr ôl-groniad o waith
cynnal a chadw sy'n gysylltiedig â Phrif Adeilad y Celfyddydau a'r Ganolfan Rheolaeth. Mae
cyfran sylweddol o'r ôl-groniad o £11m a nodwyd yn gysylltiedig â dau adeilad yn unig - Tŵr
Alun Roberts a Stryd y Deon. Yn fwy cyffredinol, mae clwstwr o adeiladau ar Safle'r
Gwyddorau ar Ffordd Deiniol sydd mewn cyflwr gwael ac sy'n cyfrif am lawer o gostau
cynnal a chadw sydd wedi crynhoi yn y brifysgol. Amcangyfrifir bod costau cynnal a chadw
ôl-groniad ar gyfer Prif Adeilad y Celfyddydau, sy'n adeilad rhestredig Gradd 1, oddeutu £
6m.
O ystyried oedran a phwysigrwydd hanesyddol llawer o adeiladau, mae addasrwydd
gweithredol yr ystâd ar gyfer addysgu ac ymchwil yn gymharol wael ac yn sylweddol is na'r
meincnod cenedlaethol. Ac eithrio'r buddsoddiad yn Adeilad Pontio a Chanolfan Fôr Cymru
ym Mhorthaethwy, ychydig o adnewyddu diweddar a fu ar yr ystad ddibreswyl. O'i gymharu,
bu buddsoddi mawr yn yr ystâd breswyl, sydd mewn cyflwr da yn gyffredinol. Felly, ac
eithrio sicrhau ei bod yn cael ei chynnal a'i chadw i safon uchel, nid yw'r ystâd breswyl yn
flaenoriaeth o bwys at ddibenion y strategaeth hon.
Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio, o bell ffordd, yw'r adeilad newydd pwysicaf a
ychwanegwyd at yr ystâd ddibreswyl dros y ddau ddegawd diwethaf. Roedd yn broject
datblygu eithriadol fawr ac mae'n adeilad eiconig ac yn ased pwysig i'r brifysgol, ond mae
angen iddo gael ei integreiddio a'i alinio'n glos â busnes craidd y brifysgol yn ogystal â
chyflawni ei swyddogaeth fel cyswllt â'r gymuned leol.
4
Mae gan yr ystâd ôl-troed carbon uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y sector Addysg Uwch.
Mae'r ynni a ddefnyddir gan y brifysgol, allbwn CO2, a defnydd o ddŵr fesul myfyriwr CALl, i
gyd yn uwch na chanolrif y sector.
Effeithlonrwydd defnyddio lle Mae dadansoddiad o ddefnydd lle yn dangos diffygion o ran effeithlonrwydd defnydd. Mae
hyn i'w weld amlycaf mewn mannau addysgu, a danddefnyddir yn sylweddol, gyda'r
defnydd brig o fannau addysgu ymhell islaw 50%. Er bod yr achos yn gymysgedd o
gyfyngiadau amserlen, dewisiadau unigol a mathau ac ansawdd yr ystafelloedd, mae'r
dystiolaeth yn dangos yn glir na ddefnyddir y lleoedd hyn yn ddigonol, gyda lefelau uchel
cysylltiedig o gost ddiangen. Felly, mae angen brys i wella'r defnydd o fannau addysgu.
Mae dadansoddiad manwl o'r defnydd o le yn y gwyddorau hefyd yn tynnu sylw at
anghydbwysedd yn y lle a ddarperir rhwng addysgu ac ymchwil. Cefnogir y data hyn gan
gyflwyniadau Dull Tryloyw o Gostio (TRAC) y brifysgol , sy'n dangos bod gan y brifysgol
gyfran uwch o le ymchwil na'r grŵp cymharol. Y canlyniad net yw bod gan Brifysgol Bangor
20% yn fwy o le fesul CALl na chyfartaledd Grŵp Meincnod y Brifysgol, a 50% yn fwy o le
fesul CALl na'r sefydliadau Addysg Uwch mwyaf effeithlon o ran defnyddio lle. Mae ein
costau eiddo ystâd fesul CALl 17% yn uwch na Chyfartaledd Grŵp Meincnod y Brifysgol.
Casgliadau
1. Mae'r lleoliadau lluosog, gwasgaredig ar gyfer addysgu, ymchwil a gwasanaethau myfyrwyr yn cyfyngu ar ddefnyddio lle a chyfleusterau'n effeithlon.
2. Er bod nodweddion gwerthfawr a deniadol i'r ystâd, mae llawer o'r adeiladau dibreswyl yn anaddas i'w pwrpas a disgwyliadau cyfredol.
3. Mae cyflwr gwael ac ymarferoldeb llawer o adeiladau yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ddarparu lle addysgu a dysgu deniadol a modern.
4. Mae cyflwr yr ystâd bron yn sicr yn cael effaith niweidiol ar recriwtio myfyrwyr a staff, ac ar y profiad a gaiff myfyrwyr a'r staff.
5. Mae gofynion cynnal a chadw sydd wedi crynhoi ar yr ystâd yn sylweddol. Mewn rhai achosion, yn hytrach na thalu costau cynnal a chadw i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, byddai'n well edrych yn fwy radical ar resymoli'r ystâd, ei haildrefnu a chael adeiladau yn lle rhai diffygiol.
5
6. Mae cyflwr rhai adeiladau wedi cynyddu risgiau gweithredol ac yn peryglu meysydd addysgu ac ymchwil allweddol.
7. Yn ei ffurf bresennol mae'r ystâd yn ddrud i'w chynnal a'i gweithredu - gan sugno arian oddi wrth addysgu ac ymchwil. Mae angen buddsoddi yn yr ystâd mewn ffordd sy'n ddeniadol yn nhermau academaidd, masnachol, ariannol ac economaidd - a chreu cyfleoedd i sicrhau cefnogaeth cyllid allanol.
8. Mae datblygiadau newydd yn hanfodol os yw'r brifysgol am barhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad myfyrwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Rhaid i fuddsoddiadau yn yr ystad gael eu blaenoriaethu a'u cyflawni o fewn amlen fforddiadwy.
9. Bu tanfuddsoddi o ran cynnal a chadw'r ystâd.
10. Mae angen sicrhau gostyngiadau mewn costau ynni.
11. Mae angen lleihau maint yr ystâd a'i chrynhoi.
12. Mae angen cynyddu effeithlonrwydd gweithredol yr ystâd.
6
Strategaeth Ystadau - Y Prif NewidiadauO ystyried maint yr ystâd a'n sefyllfa ariannol bresennol, y flaenoriaeth yw cael gwared ar dir
ac adeiladau i godi cyfalaf a lleihau costau gweithredu ystadau. Er mwyn sicrhau arbedion
digonol mae angen i'r gwarediadau fod yn sylweddol ond, gyda chynllun wedi'i weithredu'n
dda, bydd yn bosibl lleihau ystâd y brifysgol gymaint â 25% a pharhau i gynnwys yr holl
weithgareddau a gynlluniwyd. Gallai toriad ar y raddfa hon, yn dibynnu ar opsiynau, leihau
costau gweithredu blynyddol o fan leiaf £2m y flwyddyn, sicrhau derbyniadau cyfalaf o fan
leiaf £7m a chael gwared ar o leiaf werth £9m o waith cynnal a chadw sydd wedi cronni.
Bydd hyn yn arwain at sefyllfa ariannol well i'r brifysgol a fydd, yn ei dro, yn golygu bod mwy
o arian ar gael i'w fuddsoddi mewn cynnal profiad staff a myfyrwyr. Dylid ail-fuddsoddi'r
arian a gynhyrchir i ddod ag ansawdd yr ystâd sy'n weddill hyd at safonau sy'n gyffredin
mewn rhannau eraill o'r sector ac i wella gwasanaethau. Mae cyflawni'r arbedion hyn nid yn
unig yn ymwneud â'r ystâd ffisegol. Mae gwireddu'r arbedion hefyd yn ymwneud â sut
rydym yn defnyddio adeiladau, ac ymaddasu i ddefnyddio ein hisadeiledd adeiledig yn fwy
effeithiol ac effeithlon. Felly, bydd gwneud arbedion yn yr ystâd yn gofyn am ein
hymrwymiad i'r gyfres o newidiadau ffisegol a gweithredol a grynhoir yn y ddogfen hon:
1. Cynyddu defnyddio lle yn fwy effeithlon 2. Lleihau'r ystâd3. Gwella cyflwr yr ystâd sy'n weddill4. Prynu adeiladau eraill fforddiadwy a strategol i hwyluso newid5. Gwella perfformiad amgylcheddol
1) Cynyddu defnyddio lle yn fwy effeithlon Y cam cyntaf yn natblygiad yr ystâd yw cynyddu defnyddio lle yn fwy effeithlon a rhyddhau
lle er mwyn hwyluso'r gostyngiad ym maint cyffredinol yr ystâd. Mae'r cynllun hwn yn
cynnig pum cam i wella effeithlonrwydd y lle sydd gennym.
1.1) Mannau addysgu Dylai'r brifysgol gyflawni adolygiad o fannau addysgu ar draws y sefydliad, i asesu eu
defnydd, eu hansawdd, eu dosbarthiad a'u maint a chreu cynllun i ddarparu'r cyfuniad gorau
o fannau addysgu sydd eu hangen i gefnogi maint dosbarthiadau a dulliau cyflwyno a
7
gynllunnir. Dylid anelu at greu canolfannau addysgu a chreu mwy o fannau dysgu
cymdeithasol. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn creu dau “ganolbwynt” addysgu, un ar Ffordd y
Coleg ac un ar safle Ffordd Deiniol.
Yn y tymor canol i'r tymor hir, mae'n hanfodol bod rheoli lle, yn enwedig o ran ei
'berchnogaeth' a'i ddyraniad, yn rhan allweddol o gynllunio adnoddau'r sefydliad ac felly
bod adnoddau priodol ar gyfer hynny. Dylai adfer swydd rheoli lle, efallai y tu allan i'r
Gwasanaeth Eiddo a Champws (PACS) - ond yn gysylltiedig ag ef - fod yn flaenoriaeth.
I'w gychwyn yn syth.
1.2) AmserlenYn gyfochrog â'r mannau addysgu, rhaid i'r brifysgol adolygu'r broses amserlennu. Dylid
anelu at ddefnyddio mannau addysgu'n fwy effeithlon trwy wneud gwell defnydd o'r
diwrnod addysgu a'r wythnos addysgu. Mae data'n ymwneud â'r amserlen yn dangos bod y
defnydd o le dysgu yn anwastad, gyda'r rhan fwyaf o bwysau yn ystod y boreau a dyddiau
canol wythnos. Gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd mawr heb unrhyw newidiadau i'r
diwrnod gwaith arferol.
I’w gychwyn yn syth.
1.3) SwyddfeyddDylai'r brifysgol adolygu trefniadaeth a darpariaeth swyddfa gyda'r bwriad o grynhoi a
chyfnerthu cefnogaeth swyddfeydd, er mwyn creu isadeiledd swyddfa mwy effeithlon a
modern. Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau y defnyddir lle yn fwy effeithlon, dylai hefyd wella
effeithlonrwydd gweithredol. Dylai'r adolygiad hefyd geisio nodi'r mannau a'r adeiladau lle
gellid cyd-leoli gwasanaethau cysylltiedig.
Cynllun i'w ddatblygu i'w weithredu erbyn 2025
1.4) Adolygiad o adeiladau Ffordd y ColegMae hwn yn safle amrywiol a deniadol ond, yn wahanol i adeiladau'r gwyddorau, nid oes
gennym wybodaeth fanwl am eu capasiti, eu defnydd na'u potensial. Mae yna lawer o
bosibiliadau ar gyfer y safle hwn ac argymhellir ein bod yn cynnal adolygiad manwl o ystâd
Ffordd y Coleg, tebyg i'r un a wneir yn achos safle'r gwyddorau. Dylid cyfuno'r adolygiad
gyda'r adolygiadau o fannau addysgu a swyddfeydd a argymhellir uchod. Dylai ystyried y
defnydd o bob adeilad i nodi'r defnydd gorau posibl, gan gynnwys darparu canolfannau
8
gweinyddu canolog, canolfannau addysgu neu gartrefi newydd i Ysgolion sydd eisoes ar y
safle neu sy'n cael eu hadleoli. Dylai opsiynau hefyd gynnwys gwagio a chadw adeiladau'n
wag, eu hadnewyddu at ddefnydd newydd neu eu dymchwel i greu safleoedd datblygu yn y
dyfodol. Mae pob un yn amodol ar gyfyngiadau statws yr ardal gadwraeth.
Amserlen: erbyn 2025
1.5) Cydbwysedd rhwng mannau addysgu ac ymchwilMae gan y brifysgol ddarpariaeth uchel o le ymchwil o'i chymharu â lle addysgu / myfyrwyr.
Wrth i'r strategaeth hon gael ei gweithredu dylid ystyried cydbwysedd y mannau ymchwil ac
addysgu. Mae mannau ymchwil yn ddrutach i'w gweithredu ac, er mwyn sicrhau mwy o
effeithlonrwydd cost, mae'n hanfodol nad ydym yn cynnal mannau ymchwil mawr nad ydynt
yn cael eu defnyddio'n ddigonol. Yn bwysicach, rhaid i ni wella maint ac ansawdd y mannau
a'r cyfleusterau sy'n benodol i fyfyrwyr er mwyn sicrhau bod ystâd y brifysgol yn rhoi lle
mwy canolog i fyfyrwyr. Mae'r argymhellion hyn yn cyd-fynd yn dda â Strategaeth Ymchwil,
Arloesi ac Effaith ddrafft y brifysgol, sy'n nodi defnydd a dyraniad lle ymchwil fel galluogwr
strategol pwysig ac yn argymell cyswllt mwy gwybodus, deallus a strategol rhwng lle
ymchwil a llwyddiant ymchwil.
Amserlen: Parhaus
2)Lleihau'r ystâdEr mwyn lleihau costau ystadau yn sylweddol mae'n rhaid i'r brifysgol leihau maint yr ystâd
ac ymrwymo i gynllun i leihau'r ystâd o fan leiaf 25%.
Gweithredu a argymhellir Dylai'r brifysgol gynllunio i ganolbwyntio ei hystâd ddibreswyl ar un campws ym Mangor
(safleoedd Ffordd Deiniol a Ffordd y Coleg) a chael gwared ar rai safleoedd mawr. Y cynnig
yw tynnu'n ôl o safleoedd Stryd y Deon a'r Normal a rhoi'r safleoedd hynny ar werth. Dylai
hyn roi arbedion gweithredol cyson o £2m y flwyddyn fan leiaf, derbyniadau cyfalaf o tua
£7m a dileu o leiaf £9m o'r ôl-groniad cynnal a chadw. Bydd cau Stryd y Deon a safle'r
Normal yn gymhleth a bydd yn rhaid ei gynllunio'n ofalus a'i weithredu fesul cam. Mae
gadael Stryd y Deon yn dasg symlach na gadael safle'r Normal ac argymhellir y dylid gadael
Stryd y Deon yn gyntaf ac yna safle'r Normal, a fydd yn cymryd ychydig mwy o amser.
9
2.1) Stryd y DeonRhaid ystyried gadael Stryd y Deon yn broject flaenoriaeth. Mae'r brifysgol wedi derbyn
cynigion ar gyfer caffael a datblygu'r safle ond, i dderbyn y cyllid hwn, mae'n rhaid i'r
datblygwyr fod ar y safle erbyn mis Medi 2021. Er mwyn cyflawni hynny bydd yn rhaid i'r
brifysgol weithio i amserlen dynn. Mae gwaith rhagarweiniol yn dangos bod modd cyflawni
hyn, ond argymhellir bod y brifysgol yn ymrwymo, yn ddi-oed, i adael Stryd y Deon erbyn
mis Medi 2021.
Dylai'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig symud i safle Ffordd Deiniol lle mae 2
opsiwn:
1. Adeilad newydd yng nghefn yr Adeilad Coffa2. Adnewyddu Tŵr Alun Roberts (TAR)
Argymhellir y dylid derbyn opsiwn 2, sef adnewyddu TAR. Mae dau reswm dros hyn: Mae TAR mewn cyflwr gwael gyda risg gynyddol i'r adeilad fethu gweithredu Byddai adeilad newydd yn gwneud gwaith dilynol ar TAR yn fwy anodd ac yn
ddrutach.
Yr opsiwn i ailwampio TAR yw'r opsiwn mwyaf cost effeithiol o bell ffordd. Byddai dymchwel
adeiladau ac adeiladu adeilad newydd yn rhy ddrud ac yn peri risgiau ac oedi mawr o ran
unrhyw ganiatâd cynllunio. Mae'r adeilad yn rhy ddrwg i wneud unrhyw atgyweirio
tameidiog iddo.
Bydd angen adleoli deiliaid yr adeiladau yr effeithir arnynt hefyd, o bosibl i leoliadau a
nodwyd fel rhan o'r adolygiadau arfaethedig o adeiladau Ffordd y Coleg.
Mae sialensiau ariannol a logistaidd yn gysylltiedig â'r cynllun hwn, ac er y gall gadael Stryd y
Deon fod yn anochel, mae'n rhaid ystyried yr opsiynau a'r amserlen dynn ar fyrder cyn
ymrwymo i ateb penodol. O ystyried yr ansicrwydd hwn, nid yw'n bosibl eto amcangyfrif
costau yn gywir ond, yn seiliedig ar amcangyfrifon 2016, bydd y costau rhwng £15-25m yn
dibynnu ar gynlluniau a manylebau.
Gweithredu brys: Datblygu cynllun i adael Stryd y Deon erbyn mis Medi 2021
10
2.2) Safle'r NormalY symud o Safle'r Normal yw elfen unigol bwysicaf y strategaeth arfaethedig ond bydd yn
broject cymhleth a heriol. Dylai'r brifysgol ymrwymo ar unwaith i ddatblygu cynllun tymor
hwy ar gyfer adleoli gweithgareddau a staff fesul cam o safle'r Normal ac ar gyfer ei
ddatblygiad yn y dyfodol. Bydd angen dwy elfen i'r cynllun adleoli.
a. Cynllun i adleoli gweithgareddaub. Cynllun datblygu ar gyfer dyfodol y safle
Gweithredu: Cynllun i ddechrau adleoli o Safle'r Normal ar ôl 2022, yn dibynnu ar asesiadau ariannol.
Cynllun DatblyguBydd rheoli a datblygu'r projectau hyn yn heriol iawn, ac nid oes gan y brifysgol y sgiliau na'r
gallu i wneud hyn. Argymhellir y symudir ymlaen â'r project drwy gael Partner Datblygu.
Fodd bynnag, cyn sicrhau partner datblygu, mae'n rhaid i'r brifysgol gymryd perchnogaeth
o'r broses a dechrau adolygu'r cyfleoedd sydd ar gael i adleoli i'r safleoedd craidd y campws.
Gweithredu: Datblygu briff caffael yn syth i dendro ar gyfer partner datblygu.
3. Gwella cyflwr yr ystâd sy'n weddill3.1) Gwella cyflwr cyffredinol a nodweddion adeiladau presennolOchr yn ochr ag unrhyw ddatblygiadau, mae'n rhaid i'r brifysgol ymrwymo i raglen gynnal a
chadw wedi'i chyllido. Dylai Pwyllgor Gweithredu'r brifysgol roi'r dasg i'r Gwasanaeth Eiddo
a Champws o ddatblygu cynllun 10 mlynedd i wneud y newidiadau strategol i'r ystâd ac
uwchraddio'r holl adeiladau sy'n weddill yng nghyflwr C a D fel y byddant yn cyrraedd safon
B fan leiaf. Dylai cyflawni hyn fod yn Ddangosydd Perfformiad Allweddol i'r Gwasanaeth
Eiddo a Champws a'r Cyfarwyddwr Ystadau newydd. Rhaid i Bwyllgor Gweithredu'r
brifysgol, yn ei dro, gytuno ar gyllideb flynyddol reolaidd sefydlog ar gyfer y gwaith hwn a
chynnydd yn erbyn y cynllun a reolir yn dynn.
Dylai'r strategaeth gynnal a chadw gynnwys tirlunio, effaith weledol a hunaniaeth y campws.
Gall tirlunio cynaliadwy a gofalus roi manteision enfawr ac atgyfnerthu hunaniaeth Prifysgol
Bangor mewn lleoliadau strategol.
11
Amserlen: Parhaus
3.2) Ymrwymiadau i brojectau cynnal a chadw penodolMae yna brojectau sydd naill ai'n weithredol neu'n cael eu datblygu a dylid eu cynnwys
mewn cynlluniau.
Y Ganolfan Datblygu Rheolaeth
Mae'r trefniadau ar gyfer defnyddio'r Ganolfan Rheolaeth wedi newid dros amser ac mae'r
adeiladau'n darparu opsiwn ar gyfer datblygiad / defnydd newydd. Mae sawl opsiwn yn cael
eu hystyried i benderfynu sut y gallai'r brifysgol wneud defnydd mwy effeithiol o'r
adeiladau, gan gynnwys codi ar adrannau'r brifysgol am rentu lle ynddynt a gweithgareddau
eraill. Byddai blociau Alun ac Eryri yn wych i ddatblygu canolbwynt addysgu a / neu ganolfan
newydd ar gyfer Ysgol neu wasanaeth canolog. Mae'r gwasanaeth preswyl yn darparu
gwesty ardderchog ar gyfer ymwelwyr â'r brifysgol ac argymhellir parhau â hynny gan
ystyried datblygiad o natur fwy masnachol.
Porthaethwy
Er i werthu Ynys Faelog gynhyrchu cyfalaf i'r brifysgol, collwyd cyfleusterau i lansio a chadw
cychod ym Mhorthaethwy. Dylid defnyddio peth o'r elw i ail-ddarparu'r storfa gychod ar
safle Westbury Mount ac ariannu trefniadau lansio newydd. Hefyd mae angen ystyried cael
gwared ar (h.y. dymchwel mae'n debyg) ddau hen eiddo preswyl yn union gerllaw safle'r
Ysgol Gwyddorau'r Eigion - sef adeilad adfeiliedig Glyndŵr sydd y tu ôl i Ganolfan Fôr Cymru,
a'r tŷ (Trewylan) ger mynedfa Canolfan Fôr Cymru. Mae'r ddau mewn cyflwr gwael, yn
dirywio ac yn annhebygol o fod o unrhyw werth o bwys o'u hailwerthu.
Prif Adeilad y CelfyddydauDylid parhau â'r gwaith adfer sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ar Brif Adeilad y Celfyddydau.
3.3) Datblygu cynlluniau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodolMae yna nifer o brojectau a fyddai’n elwa yn sylweddol o gael eu cyd-leoli gyda’r Brifysgol,
gan gynnwys cynigion a gyflwynwyd fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, ac ehangu
addysg feddygol yng ngohledd Cymru. Yn ychwanegol, dylai'r brifysgol greu portffolio o
opsiynau datblygu “ar y silff” at y dyfodol i fanteisio ar gyfleoedd cyllid cyfalaf arfaethedig a
12
manteisgar. Ar hyn o bryd mae nifer o gyfleoedd datblygu cyfalaf a allai ddarparu cymorth
ariannol ar gyfer datblygu campws y brifysgol. Isod ceir rhestr o gyfleoedd datblygu hysbys.
Dylid adolygu'r rhestr o bryd i'w gilydd i sicrhau ei bod yn addas yn strategol. Mae'r drefn y
cyflwynir hwy yn awgrymu blaenoriaeth bosib, ond bydd yr holl brojectau'n rhoi manteision,
a phe bai un yn denu cyllid allanol, yna dylai fynd rhagddo waeth beth fo'r drefn yn y rhestr
hon.
Adeilad CoffaDylai adnewyddu'r Adeilad Coffa, ac adeilad newydd cysylltiedig, fod yn uchel ar restr
projectau'r dyfodol. Mae egwyddorion y cynllun wedi eu trafod gyda’r awdurdod cynllunio.
Adeilad DeiniolAr hyn o bryd mae'n gartref i'r Lyfrgell y Gwyddorau a'r gwasanaethau TG ond mae'n gyfle
datblygu. Gallai ei ailddatblygu/adnewyddu fod yn broject ar ei ben ei hun, neu'n rhan o
waith ailwampio Tŵr Alun Roberts i greu lle i symud pobl iddo i ddechrau, ac yna ail-
gomisiynu dilynol fel lle dysgu cymdeithasol a/neu labordai dysgu cyfrifiadureg. Mae'r
defnydd posibl fel cyfleuster dysgu / llyfrgell i fyfyrwyr yn golygu bod yr adeilad yn gyfle i
godi arian gan gyfranwyr elusennol.
ReichelMae posibiliadau ar gyfer adeilad Reichel, a allai gynnwys adleoli'r Gwasanaeth Eiddo a
Champws i'r safle hwn neu, fel arall, gallai ddarparu cartref newydd ger ein cyfleusterau
chwaraeon i SHEES a fydd, o reidrwydd, yn gorfod symud o safle'r Normal.
Fron HeulogFel rhan o'r buddsoddiad posibl mewn addysg feddygol ac iechyd yng Ngogledd Cymru,
gallem adleoli'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a Meddygol i'r prif gampws i ddod â'r Ysgol
Gwyddorau Iechyd a Meddygol, SHEES a Seicoleg yn agosach at ei gilydd, ac o bosibl
datblygu cyfleusterau addysgu / hyfforddi ar y cyd. Gellid rhoi Fron Heulog ar werth wedyn
neu ei ddefnyddio at ddiben newydd.
Adeilad WheldonMae Wheldon yn ddelfrydol i'w adnewyddu/ymestyn fel rhan o ddatblygu addysg iechyd a
meddygol yng ngogledd Cymru. Gellid adnewyddu neu ehangu'r adeilad trwy ychwanegu
llawr arall.
13
Adeiladau Brambell a ThodayMae'r ddau adeilad hyn wedi bod yn destun gwaith adnewyddu mewnol tameidiog. Mae
potensial i wella/ehangu labordai dysgu ymhellach a dylid ystyried hyn fel rhan o'r adolygiad
o le addysgu. Y prif broblem gydag adeilad Brambell yw mynediad a lle cymdeithasol. Mae
cyfle i ddatblygu'r mannau mynediad a allai ddatrys y ddau fater uchod. Gellid gwneud
Thoday'n fwy effeithlon o ran defnyddio ynni drwy gael ffenestri newydd.
Gardd Fotaneg TreborthDylai'r gwelliannau a'r datblygiadau parhaus ac arfaethedig gael eu cefnogi fel rhan o
ddatblygu'r ystâd, yn rhannol drwy ddefnyddio cyllid o'r Loteri Treftadaeth.
Parc Gwyddoniaeth Menai Dylai datblygiad MSParc yn y dyfodol barhau i fod yn opsiwn ar gyfer datblygiadau yn y
dyfodol i fanteisio ar y buddsoddiadau a ragwelir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a
Bargen Twf Gogledd Cymru. Mae'r ddau ohonynt yn nodi MSParc fel safle strategol ar gyfer
buddsoddi fel rhan o'r isadeiledd ymchwil cenedlaethol.
4.) Prynu adeiladau eraill fforddiadwy a strategol i hwyluso newidEr mai'r nod strategol yw lleihau maint yr ystâd mae nifer fechan o opsiynau ar gyfer caffael
adeiladau a safleoedd a allai hwyluso'r strategaeth.
MENTECMae adeilad MENTEC, ar safle Deiniol, yn adeilad sy'n eiddo i Gyngor Sir Gwynedd ar dir y
brifysgol. Mae gan y safle botensial ar gyfer datblygu yn y dyfodol neu symud staff iddo tra
bydd gwaith arall yn mynd ymlaen, a gallai chwarae rhan hanfodol wrth symud staff, offer a
chyfleusterau allan o Stryd y Deon a Thŵr Alun Roberts.
Yr Hen Swyddfa BostFe wnaethom ystyried prynu'r adeilad hwn o'r blaen ond gwrthodwyd hynny oherwydd ei
fod yn rhy ddrud. Mae'r adeilad ar gael o hyd ac mae angen ystyried ail-drafod â'r
perchennog ar sail pris is a mwy realistig. Mae'r hen swyddfa bost yn lleoliad delfrydol ar
gyfer canolfan gymdeithasol i fyfyrwyr. Byddai'n lleoli holl weithgareddau Undeb y Myfyrwyr
14
o fewn un adeilad a rhyddhau lle yn Pontio ac Academi, yn ogystal â chael gwared ar yr
angen am rentu lle storio yn Llandygai. Bydd angen adnewyddu adeilad presennol Academi
maes o law; nid yw ei leoliad yn ddelfrydol ac mae'n blocio safle ar gyfer datblygu mynedfa
ffurfiol i safle Ffordd Deiniol yn y dyfodol.
5. Cynaliadwyedd - dylai'r ystâd adlewyrchu ein cryfderau amgylcheddolMae Prifysgol Bangor yn anelu at fod, ym mhob agwedd, yn Brifysgol Gynaliadwy - felly
mae'n hanfodol bod cynaliadwyedd yn elfen allweddol o'r Strategaeth Ystadau hon. Ar hyn o
bryd, nid yw perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd ystâd y brifysgol yn cyd-fynd â'r
uchelgais hon i fod yn arweinydd yn y maes. Yn ogystal â manteision o ran enw da, bydd
campws gwirioneddol gynaliadwy hefyd yn sicrhau arbedion ariannol hirdymor sylweddol.
Dyla’r Brifysgol fanteisio ar yr arbenigeddau sylweddol sy’n bodoli o fwen y sefydliad er
mwyn datblygu ystâd gynaliadwy.
Ynni a Dŵr
Ochr yn ochr â'r Strategaeth Ystadau, rhaid i'r brifysgol adolygu a gweithredu Strategaeth,
Polisi a Chynllun Gweithredu Rheoli Carbon newydd a sicrhau bod pob gwaith yn y dyfodol
yn galluogi gostyngiadau gwirioneddol mewn defnydd ynni a dŵr, a'r allyriadau carbon
cysylltiedig.
Elfen allweddol o hyn yw i'r brifysgol ddiffinio ei safonau ei hun ar gyfer perfformiad
amgylcheddol hirdymor ei hadeiladau ac nid dibynnu ar feini prawf allanol yn unig, fel y
gwnaed yn y gorffennol. Nid yw projectau blaenorol yn seiliedig ar ddulliau asesu allanol o'r
fath wedi cyflawni gwelliannau gwirioneddol mewn perfformiad amgylcheddol ac yn aml
maent wedi bod yn rhy gostus i'w gweithredu a'u cynnal.
Rhaid ystyried effeithlonrwydd ynni fel elfen hanfodol a rhaid i gostau gweithredu adeiladau
drwy gydol eu hoes gael eu hystyried fel mater hollbwysig wrth bennu safonau.
15
Mae'n hanfodol bod datblygiadau newydd yn cynnwys mesuryddion defnydd ynni a dŵr i
alluogi monitro, rheoli ac adrodd ar berfformiad. Yn ogystal â hyn, mae'n hanfodol hefyd
bod y mesuryddion presennol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau fod popeth yn
gweithredu'n briodol ac nad yw buddsoddiadau cychwynnol yn yr isadeiledd yn cael eu
gwastraffu.
Teithio a Chludiant
Bydd y lleihad arfaethedig yn yr ystâd yn cynyddu'r pwysau ar y cyfleusterau parcio sydd ar
ôl a bydd yr awdurdodau cynllunio eisiau gweld parcio yn cael sylw fel rhan o unrhyw
ganiatâd cynllunio. Yn hytrach na delio â pharcio fel mater annibynnol, dylai'r brifysgol
ddatblygu a gweithredu Cynllun Teithio newydd sy'n rhoi sylw i agweddau ehangach teithio
gan staff a myfyrwyr.
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae gan y brifysgol Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a dylai pob datblygiad ystâd
gynnwys ei ddyhead i hyrwyddo cynnal a gwella bioamrywiaeth ar y campws. Elfen
allweddol o hyn yw cydnabod y mannau gwledig a pharcdir ar y campws fel asedau a
chynheiliaid bioamrywiaeth. Dylai hyn gynnwys derbyn a datblygu Parc y Coleg fel ased
bioamrywiaeth a hamdden.
Rheoli Gwastraff
Gyda'r angen cynyddol am atal gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau, rhaid i
reoli gwastraff fod yn elfen graidd o ddylunio a chynllunio datblygiadau yn y dyfodol i
hwyluso cydymffurfio a gwella perfformiad. Dylai ystyried rheoli gwastraff gynnwys mwy na
dim ond deunyddiau a ddefnyddir ac/neu y ceir gwared arnynt yn ystod projectau
adnewyddu ac adeiladu. Mae'n allweddol bod rheoli gwastraff mewn adeiladau yn cael ei
gynnwys yn y cam dylunio; er enghraifft, maint a lleoliad mannau ar gyfer cyfleusterau
ailgylchu i ddefnyddwyr o fewn yr adeilad.
Dogfennau Polisi Perthnasol
- Polisi Cynaliadwyedd
- Polisi Amgylcheddol
16
- Strategaeth Rheoli Carbon
- Polisi Gwastraff
- Polisi Bioamrywiaeth
- Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
- Polisi Rheoli Ynni a Dŵr
- Polisi Teithio a Chludiant Cynaliadwy
17
Cwestiynau ymgynghori A oes gennych unrhyw sylwadau sy'n gysylltiedig â'r casgliadau cyffredinol a nodir yn
y ddogfen Fframwaith Strategaeth Ystadau hon?
A oes pwyntiau ychwanegol yr hoffech i'r brifysgol eu hystyried?
Oes gennych chi awgrymiadau eraill ar gyfer lleihau maint yr ystâd?
Oes gennych chi awgrymiadau eraill o ran defnyddio lle yn fwy effeithlon?
Pa adeiladau/safleoedd sy'n cynnig yr opsiynau gorau ar gyfer ad-drefnu mannau addysgu a swyddfeydd?
Sut ydych chi'n credu bod cyflwr ac ymarferoldeb presennol yr ystâd yn effeithio ar recriwtio, addysgu ac ymchwil myfyrwyr a beth ddylem ni ei wneud i roi sylw i hyn?
Pa swyddogaethau Gwasanaeth Proffesiynol fyddai'n elwa fwyaf o gael eu canoli a'u cydleoli? Ble fyddai'r lle gorau i roi'r cyfleusterau hyn?
Pa flaenoriaethau eraill ar gyfer gwella ystadau y dylid eu hystyried?
Beth ddylai fod yn flaenoriaethau i'r rhaglen gynnal a chadw arfaethedig?
A ddylai'r brifysgol ystyried caffael unrhyw adeiladau/safleoedd newydd fel rhan o'r cynllun hwn?
o Os felly, pa safleoedd/adeiladau y dylid eu blaenoriaethu?
Cynaliadwyedd
Beth ddylai'r blaenoriaethau amgylcheddol fod?
Sut all y brifysgol wella'r sefyllfa barcio?
Pa ffactorau ddylai'r cynllun teithio eu hystyried?
18
Trosolwg o Ystâd y Brifysgol
Cyflwr ac Ymarferoldeb yr Ystâd Ddibreswyl
Bangor Y Sector
CyflwrABCD
15%45%40%<1%
20%59%20%1%
Ymarferoldeb 1 27% 39%
Trosolwg o Ystâd Prifysgol Bangor
Safleoedd Adeiladau
m2 GIA Perchnogaeth
Nodiadau
Dibreswyl
Ffordd y Coleg (yn cynnwys Brigantia) 31 46670
Rhydd-ddaliad
Yn cynnwys Prif Adeilad y Celfyddydau, Y Ganolfan Reolaeth a Brigantia
Pontio (yn cynnwys Y Porth) 2 10302 Rhydd-
ddaliad Yn cynnwys y theatr, sinema a'r Porth Coffa
Safle’r Gwyddorau 9 33678 Rhydd-ddaliad
Yn cynnwys Llyfrgell Deiniol
Stryd y Deon 1 9780 Rhydd-ddaliad
Safle’r Normal18 15285
Rhydd-ddaliad
Nid yw'n cynnwys y neuaddau myfyrwyr, sydd wedi eu dadgomisiynu
Safle Ffriddoedd (yn cynnwys Fron Heulog) 9 12763
Rhydd-ddaliad
Nid yw'n cynnwys neuaddau myfyrwyr. Yn cynnwys Canolfan Brailsford a Fron Heulog)
Porthaethwy 13 10040 Rhydd-ddaliad
Fferm a Chanolfan Ymchwil Henfaes 6 1392 Rhydd-
ddaliad Gardd Fotaneg Treborth 4 1555 Rhydd-
ddaliad Wrecsam 2 3070 PrydlesParc Gwyddoniaeth Menai 1 5000 Rhydd-
ddaliad Arall2Cyfanswm Dibreswyl 96 149,535
Preswyl
Safle Ffriddoedd 19 49434 Rhydd-ddaliad
Y Santes Fair 9 19573 Rhydd-ddaliad
Ffordd y Coleg (Garth) 1 6424 Rhydd-ddaliad
Wrecsam 1 711 Prydles Cyfanswm Preswyl 30 76,142
Cyfanswm 126 225,677
19
234
52%20%1%
48%10%1%
Adeiladwyd ers 2000 3-4% 21%
Diffiniadau Graddau Cyflwr ac Ymarferoldeb
CyflwrCyflwr A - Cyflwr fel newydd- Fel rheol mae'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:
adeiladwyd fel rheol o fewn y pum mlynedd diwethaf neu wedi cael ei adnewyddu'n sylweddol o fewn y cyfnod hwn,
wedi'i gynnal a'i gadw i sicrhau bod yr adeiladwaith a gwasanaethau'r adeilad o'r un safon ag yr oeddent pan gafodd ei adeiladu'n wreiddiol,
dim materion adeileddol, amlen adeiladu, gwasanaethau adeiladu na chydymffurfio statudol yn amlwg,
dim effeithiau ar weithrediad yr adeilad.
Cyflwr B - Yn gadarn, yn gweithredu'n ddiogel a dim ond mân ddirywiad i'w weld - Fel rheol mae'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:
bydd gwaith cynnal a chadw wedi'i wneud, dirywiad bychan i orffeniadau mewnol / allanol, ychydig o faterion adeileddol, amlen adeiladu materion gwasanaethau adeiladu neu gydymffurfio statudol yn amlwg, yn debygol o gael mân effeithiau ar weithrediad yr adeilad.
Cyflwr C - Yn weithredol, ond angen gwaith atgyweirio neu adnewyddu sylweddol yn y tymor byr i ganolig (3 blynedd yn gyffredinol)- Fel rheol mae'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:
angen adnewyddu elfennau o'r adeilad neu wasanaethau yn y tymor byr i ganolig, nifer o faterion adeileddol, amlen adeiladu, gwasanaethau adeiladu neu
gydymffurfio statudol yn amlwg, neu un mater arbennig o bwys yn amlwg, yn aml yn cynnwys problemau a nodwyd gydag amlen adeilad (ffenestri/to ac ati),
gwasanaethau adeiladu (boeleri/oeryddion ac ati), yn debygol o gael effaith fawr ar weithrediad yr adeilad, ond er hynny gellir dal i'w
ddefnyddio.
Cyflwr D - Ni ellir ei ddefnyddio neu risg difrifol o fethiant mawr neu dorri - Fel rheol mae'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:
ni ellir defnyddio'r adeilad neu mae'n debygol o fynd i gyflwr na ellir ei ddefnyddio, oherwydd materion yn ymwneud â chydymffurfio statudol neu gyflwr sy'n peri risg i iechyd a diogelwch neu dorri gofynion iechyd a diogelwch,
gall fod yn broblemau adeileddol, amlen adeiladu, neu broblemau gwasanaethau adeiladu, ynghyd â materion cydymffurfio,
disgwylir i'r amodau gwtogi ar weithrediadau yn yr adeilad (ac eithrio mân eitemau y gellir eu cywiro'n hawdd).
Ymarferoldeb
20
Gradd 1 Rhagorol- mae'r ystafell(oedd)/adeilad(au) yn cefnogi swyddogaethau presennol yn llawn. Nid oes unrhyw effeithiau negyddol ar y swyddogaethau sy'n digwydd yn y lle. Gradd 2 Da- mae'r ystafell(oedd)/adeilad(au) yn darparu amgylchedd da ar gyfer yr holl swyddogaethau presennol neu'r rhan fwyaf ohonynt. Efallai y gall fod diffygion mewn rhai meysydd, ond dim ond effaith fechan a gaiff y rhain ar swyddogaethau presennol. Gradd 3 Gweddol - mae'r ystafell(oedd)/adeilad (au) yn darparu amgylchedd rhesymol ar gyfer swyddogaethau presennol mewn sawl ffordd, ond gwelir nifer o ddiffygion. Gall y diffygion hyn fod yn achosi diffyg cydweddu rhwng lle a swyddogaeth sy'n cael effaith fwy sylweddol ar swyddogaethau presennol nag a welir mewn ystafelloedd/adeiladau Gradd 2.Gradd 4 Gwael- mae'r ystafell(oedd)/adeilad(au) yn methu â chynnal swyddogaethau presennol a / neu yn anaddas ar gyfer defnydd presennol. Mae'r problemau gweithredol sy'n gysylltiedig â lle o'r fath yn fawr, ac maent yn cyfyngu ar swyddogaethau presennol yn y lle. Efallai y bydd angen atebion amgen yn achos lle sydd yn y cyflwr hwn, yn hytrach na dim ond gwelliannau syml i nodweddion neilltuol o'r lle.
Yr Ystâd BreswylCynllun Llety Perchnogaeth / Cytundeb Ystafello
eddDeiliadaeth 2016/17
Ffriddoedd Eiddo'r brifysgol a chael ei rheoli ganddi
962 95%
Ffriddoedd - Gwalia Adeiladodd Gwalia (Cymdeithas Dai Gymreig) yr ystafelloedd hyn ac mae'n gyfrifol am reoli cyfleusterau caled ynddynt. Y brifysgol sy'n gyfrifol am y cyfleusterau meddal. Dan delerau'r cytundeb, bydd y llety yn dychwelyd i'r brifysgol (sy'n berchen ar y tir).
1,146 97%
Y Santes Fair - Bryn Eithin
Eiddo'r brifysgol a chael ei rheoli ganddi
96 97%
Y Santes Fair - Cityheart
Adeiladodd Cityheart Ltd yr ystafelloedd hyn ac mae trydydd parti (Santes Fair Management) yn gyfrifol am reoli'r holl gyfleusterau. Dan delerau'r cytundeb, bydd y llety yn dychwelyd i'r brifysgol (sy'n berchen ar y tir) 40 mlynedd ar ôl iddo gael ei gwblhau yn 2015.
601 95%
Garth - Ffordd y Coleg
Eiddo'r brifysgol a chael ei rheoli ganddi
151 83%
Wrecsam Rhan o'r Gynllun Derwent's Snow Hill
12 70%
Cyfanswm 2,968