bangor university - rated gold in the teaching excellence …€¦  · web viewisbn:...

2
Llawlyfr Bach Rhieni ISBN: 978-1-84220-137-4 Mae’r llyfr bach yma yn esbonio rhai sgiliau magu plant pwysig neu offer sy’n cefnogi perthynas rhiant/plentyn positif. Synnwyr cyffredin yw llawer ohonynt a’r hyn y mae’r rhan fwyaf o rieni yn ei wneud y rhan fwyaf o’r amser heb sylweddoli hynny. Ond i rieni gyda phlant sydd â heriau arbennig, mae’r syniadau hyn wedi eu defnyddio mewn llawer o raglenni i gefnogi rhieni a helpu plant. Mae Pennod 1 yn edrych ar sut i adeiladu perthynas bositif gyda phlant. Mae Pennod 2 yn disgrifio sut i annog ymddygiad rydym eisiau gweld mwy ohono yn ein plant drwy ganmoliaeth a mân wobrau. Mae Pennod 3 yn disgrifio ffyrdd o roi cyfarwyddiadau a fydd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd plant yn eu dilyn. Mae Pennod 4 yn esbonio sut y gall anwybyddu rhai ymddygiadau problemus fod yn fuddiol ac mae Pennod 5 yn disgrifio rhai ffyrdd o reoli ymddygiad problemus. Ysgrifennwyd fersiwn gyntaf y llyfr hwn dros 25 mlynedd yn ôl i gynorthwyo rhieni plant gydag ymddygiad heriol, ond daw’r syniadau o lawer o flynyddoedd o ymchwil sy’n ein cynorthwyo i wybod beth y gall rhieni ei wneud i gefnogi perthynas rhiant- plentyn da ac arwain at blant hapus a hyderus. Mae’r syniadau o gymorth i unrhyw riant, yn cynnwys y rhai â phlant gydag anawsterau datblygiadol wedi eu canfod, y gall eu plant hefyd fod ag ymddygiad heriol ac/neu anawsterau eraill nad ydynt yn ganlyniad uniongyrchol i’w cyflwr. Mae’r llyfryn hwn wedi ei gyflwyno i Mary Last. Bu Mary yn Bennaeth Gwasanaeth Seicoleg Clinigol Plant yng Ngogledd

Upload: others

Post on 26-Sep-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Bangor University - Rated Gold in the Teaching Excellence …€¦  · Web viewISBN: 978-1-84220-137-4 Mae’r llyfr bach yma yn esbonio rhai sgiliau magu plant pwysig neu offer

Llawlyfr Bach RhieniISBN: 978-1-84220-137-4

Mae’r llyfr bach yma yn esbonio rhai sgiliau magu plant pwysig neu offer sy’n cefnogi perthynas rhiant/plentyn positif. Synnwyr cyffredin yw llawer ohonynt a’r hyn y mae’r rhan fwyaf o rieni yn ei wneud y rhan fwyaf o’r amser heb sylweddoli hynny. Ond i rieni gyda phlant sydd â heriau arbennig, mae’r syniadau hyn wedi eu defnyddio mewn llawer o raglenni i gefnogi rhieni a helpu plant. Mae Pennod 1 yn edrych ar sut i adeiladu perthynas bositif gyda phlant. Mae Pennod 2 yn disgrifio sut i annog ymddygiad rydym eisiau gweld mwy ohono yn ein plant drwy ganmoliaeth a mân wobrau. Mae Pennod 3 yn disgrifio ffyrdd o roi cyfarwyddiadau a fydd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd plant yn eu dilyn. Mae Pennod

4 yn esbonio sut y gall anwybyddu rhai ymddygiadau problemus fod yn fuddiol ac mae Pennod 5 yn disgrifio rhai ffyrdd o reoli ymddygiad problemus. Ysgrifennwyd fersiwn gyntaf y llyfr hwn dros 25 mlynedd yn ôl i gynorthwyo rhieni plant gydag ymddygiad heriol, ond daw’r syniadau o lawer o

flynyddoedd o ymchwil sy’n ein cynorthwyo i wybod beth y gall rhieni ei wneud i gefnogi perthynas rhiant-plentyn da ac arwain at blant hapus a hyderus.

Mae’r syniadau o gymorth i unrhyw riant, yn cynnwys y rhai â phlant gydag anawsterau datblygiadol wedi eu canfod, y gall eu plant hefyd fod ag ymddygiad heriol ac/neu anawsterau eraill nad ydynt yn ganlyniad uniongyrchol i’w cyflwr.

Mae’r llyfryn hwn wedi ei gyflwyno i Mary Last. Bu Mary yn Bennaeth Gwasanaeth Seicoleg Clinigol Plant yng Ngogledd Orllewin Cymru am lawer o flynyddoedd a chynorthwyodd gyda datblygu rhaglen magu plant yng Nghanolfan Ymchwil Plant a Theulu Gwynedd yn yr 1990au. Cefnogodd Mary lawer o blant a theuluoedd yn ystod ei gyrfa. Bu farw yn 1998 a pharheir i’w cholli.

“The little unremembered acts of kindness and love are the best parts of a person’s life” - William Wordsworth

Mae copïau o'r llyfr hwn ar gael oddi wrth Dilys Williams ar 01248 383 758neu [email protected] am £5 y copï.