y gegin fwd - meithrin · 2017. 5. 22. · mwd y mwd ydy’r cynhwysyn mwyaf pwysig yn y gegin yma....

13
Y Gegin Fwd

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y Gegin Fwd

  • Pam datblygu ardal Cegin Fwd?

    Mae Cegin Fwd yn cynnig llawer mwy o gyfleoedd na chwarae gyda mwd yn unig. Mae’n

    cynnig cyfleoedd i’r plant fod yn greadigol, chwarae rôl, cydweithio a chyfathrebu. Mae

    chwarae tu allan yn gallu datblygu hyder plant.

    Mae plant sy'n chwarae tu allan yn tueddu i fod yn fwy bodlon a hapus. Dylai pob plentyn

    cael y cyfle i greu ac adeiladu Cegin Fwd - pa blentyn sydd ddim yn mwynhau gwneud pei

    mwd?

    Mae bod tu allan yn rhoi cyfle i blant i ddysgu a gwneud cysylltiad gyda natur a bod yn

    greadigol wrth ddyfeisio ei chwarae dychmygol. Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio a

    datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd a gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd yn y tu allan.

    I’r plant lleiaf mae’r Gegin Fwd yn gallu cynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau aml-

    synhwyraidd, creadigol, dychmygol a chyfleoedd i arbrofi wrth chwarae. Tasgau a heriau

    sy’n eu hannog i ddatrys problemau a thrafod.

    Does dim angen i’r Gegin Fwd fod yn fawr ac fe all fod yn syml iawn. Nid oes angen creu

    Ysgol Goedwig. Gallwch leoli eich cegin unrhyw le sydd yn addas. Cadwch eich cegin

    yn syml ac arhoswch i’r plant ddatblygu’r ardal, penderfynu sut i’w ddefnyddio a ble i

    storio’r offer. Dylai’r Gegin Fwd fod yn rhan o’ch darpariaeth barhaus yn cynnig profiadau

    tebyg i’r cornel cartref ond wedi ei gyfoethogi oherwydd y profiad o fod allan yng nghanol

    byd natur.

    Ystyriwch leoli’r gegin gyda ffens, wal neu wrych o’i chwmpas er mwyn creu ardal

    benodedig. Mae hyn hefyd yn eich galluogi i hongian offer addas o gwmpas y gegin.

    Mae’r plant yn fwy tebygol o chwarae’n ddychmygus mewn ardal debyg i ystafell (cegin)

    sydd yn teimlo’n ddiogel ac yn ‘cwtchlyd’.

    Cofiwch fydd y ceginau gorau wedi ei greu gyda’r plant. Bydd y plant wrth eu bodd yn

    gweld hen offer ac adnoddau wedi dod o’u cartrefi.

    Lleoliad y Gegin Fwd

  • Datblygu’r Gegin Fwd

    Mae Cegin Fwd yn hawdd iawn i greu, does dim ots beth neu ble mae’ch ardal tu allan.

    Does dim angen iddynt fod yn gymhleth nac yn gostus. Gallwch ddefnyddio hen sinc neu

    flwch plastig i greu sinc. Rhowch y sinc ar ben hen gwpwrdd neu gallwch adeiladu silff er

    mwyn codi’r sinc oddi ar y llawr. Mae angen digon o le ar ochr y sinc ar gyfer y sosbenni

    ayyb.

    Bydd angen ffwrn ddychmygol yn y gegin. Os oes gennych chi hen ficrodon, mae plant

    wrth eu boddau yn agor a chau’r drws a gwasgu’r botymau. Bydd angen cwpwrdd er

    mwyn storio’r offer. Does dim angen to ar y gegin, mae’n bwysig fod y plant yn deall eu

    bod tu allan yn yr awyr iach.

    Defnyddiwch hen offer cegin - sosbenni mawr, llwyau pren, plastig a metel ac offer bach

    sy’n wahanol e.e. sgŵp hufen ia, brwsys crwst (pastry brushes) neu fowld jeli. Sicrhewch

    fod popeth wedi eu lleoli o fewn cyrraedd y plant. Sicrhewch fod digon o ddŵr ar gael

    mewn bwcedi, jygiau a phowlenni. Gallwch ddefnyddio mwd neu dywod neu gymysgedd

    o’r ddau.

  • Bydd angen cael dŵr yn agos i’r gegin - efallai gallwch lenwi fwced neu ‘water butt’.

    Gallwch roi cynhwysydd gyda thap yn yr ardal. Dim angen poeni os oes angen i’r plant

    gario’r dŵr o’r tap - maent wrth eu boddau yn cario dŵr mewn bwcedi, jygiau, sosbenni,

    caniau dŵr ayyb. Sicrhewch fod y daith o’r tap i’r gegin ddim yn rhy bell ac yn ddiogel.

    Fe allwch leoli’r gegin yn agos i’r ardal tywod tu allan er mwyn rhannu’r offer a defnyddio’r

    tywod. Mae’r gegin yn cynnig profiadau gwahanol i’r ardal gloddio. Cofiwch gynnig digon

    o gyfleoedd i’r plant cofnodi, gwneud marciau a thynnu lluniau.

    Mae bwrdd du yn syniad da er mwyn creu caffi. Gall y plant ysgrifennu bwydlen neu

    gynhwysion ar gyfer gwneud pryd o fwyd. Mae’n syniad da i gadw llyfrau coginio a

    ryseitiau, straeon am fwyta a pharatoi bwyd, bwydlen a phapur i ysgrifennu rhestrau

    siopa.

    Mae dodrefn fel bwrdd a chadeiriau yn bwysig yn yr ardal hon. Gallwch ddefnyddio

    craterau llaeth neu focsys pren ac os nad oes bwrdd gallwch ddefnyddio blanced picnic

    ar y llawr.

    Mae cynnwys offer TGCh yn bwysig hefyd. Gallwch roi cloc yn y gegin, clorian, camera,

    ffôn, cyfrifiannell, til, amserydd wyau ayyb.

  • Ymestyn Ystod Profiadau’r Plant

    Mae unrhyw ddefnyddiau naturiol yn berffaith i gymysgu i mewn gyda’r mwd neu dywod

    e.e. creigiau, cerrig, blodau, brigau, sialc, reis, rhinflasau, (essences) sbeisiau, perlysiau

    (herbs), hadau, planhigion, hylif lliwio bwyd a dail. Bydd y plant yn mwynhau gwneud

    persawr gyda’r blodau a’r dail. Bydd y perlysiau yn gwneud cawl i arogli’n hyfryd.

    Mae Cegin Mwd yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau positif iawn i blant bach wrth iddynt

    chwarae gyda mwd, palu yn y mwd a gwneud cacennau allan o fwd. Mae plant yn gallu

    defnyddio eu dychymyg a’u hiaith wrth gymysgu, arllwys a theimlo’r mwd. Yn y byd

    technolegol mae ein plant yn byw ynddi, mae’n bwysig cynnig cyfleodd iddynt

    ddarganfod natur a bod yn rhan ohono. Mae bod yn y gegin fwd yn cyffwrdd a chymysgu

    defnyddiau naturiol yn cysylltu’r plant gyda natur.

    Pan mae plant yn cyffwrdd â mwd gwlyb neu’n gadael i fwd sych llifo trwy eu bysedd,

    maent yn datblygu eu synhwyrau. Mae chwarae synhwyraidd yn hanfodol bwysig er

    mwyn i’r ymennydd ddatblygu, fydd yn galluogi plant i allu cyflawni tasgau mwy cymhleth.

    Y Gegin Fwd yn Ardal Barhaus

    Mae Cegin Fwd yn addas ar gyfer pob tymor a phob tywydd. Dillad addas sydd angen ar

    y plant a’r staff. Mae cadw ffedogau neu hen ddillad yn agos i’r gegin yn syniad da. Os

    oes yna blant sydd yn poeni am fynd yn frwnt, gallant ddechrau chwarae yn y gegin trwy

    wisgo menig garddio nes eu bod yn dod i’r arfer â chael dwylo brwnt.

    Cofiwch fod rhaid i’r plant olchi eu dwylo

    bob tro ar ôl bod tu allan. Mae’n syniad

    da i gyflwyno’r drefn o olchi’r potiau ar

    ddiwedd bob sesiwn mewn bowlen llawn

    dŵr sebon. Er mwyn osgoi’r sosbenni

    rhag rhydu, gallwch rwbio olew coginio ar

    ddarn o bapur cegin i mewn i’r sosbenni

    a photiau. Gadewch i’r aer sychu’r potiau.

    Storiwch nhw ar silffoedd weiar neu ar y

    rhesel sychu (draining rack).

  • Mwd

    Y mwd ydy’r cynhwysyn mwyaf pwysig yn y gegin yma. Gall y plant chwarae gyda phob

    math o fwd: pridd mewn bagiau neu ‘loam topsoil’ mewn bagiau, tywod, cerrig man a dŵr.

    Cymerwch ofal os ydych am ddefnyddio pridd wedi ei phalu o’r ardd gan sicrhau ei fod yn

    lân. Gwnewch asesiad risg fod dim baw cathod, llwynogod neu gwn, dylech balu i lawr yn

    ddwfn i ddod o hyd i’r mwd yma. Mae pridd y wadd (molehill) newydd gael ei gloddio yn

    dda i’w ddefnyddio. Mae cadw potiau mawr o bridd/mwd yn agos i’r gegin yn syniad da.

    Gwnewch yn siŵr fod y cathod ddim yn gallu mynd yn agos i’r gegin na’r mwd dros nos

    trwy eu gorchuddio gyda tharpolin. Mae’n bosib bydd y dodrefn pren yn pydru yn y glaw

    ac felly mae’n syniad i beintio’r pren gyda phaent iot (yacht paint).

  • Dyma sut gall y Gegin Fwd ddatblygu sgiliau’r plant:

    Iaith a Llythrennedd

    Mae yna gyfleoedd i’r plant i ddysgu iaith newydd wrth siarad am yr hyn maent yn greu,

    arbrofi gyda gwead, (texture) ansawdd, (consistency) aroglau a blas. Gallant wrando ar yr

    hyn mae’r plant eraill yn dweud ac ehangu eu geirfa wrth i ymarferwyr gofyn cwestiynau

    pen agored. Rhaid rhoi digon o amser i’r plant feddwl am yr ateb ac am beth maent yn

    gwneud. Mae hyn yn gyfle gwych i arsylwi ar y plant. Yn aml mae plant yn gweithio

    pethau allan a datrys problem tra’n chwarae ochr yn ochr â’u ffrindiau. Maent yn gallu

    ‘gwneud’ wrth siarad a gwrando. Dyma gyfleoedd gwych i ganu caneuon am goginio,

    bwyta a pharatoi bwyd ac i ddefnyddio’r offer fel offer cerddorol neu ‘wind chimes’.

    Gallwch ychwanegu bwydlenni a labeli ar gyfer y perlysiau a’r planhigion ayyb. Gallwch

    gyflwyno bocsys bwyd a diodydd - wyau, llaeth, sudd ayyb i mewn i’r gegin i’r plant

    adnabod bwydydd o adref. Mae’r plant yn gallu gwneud marciau trwy dipio ffyn a darnau

    o bren neu lwyau i mewn i’r mwd gwlyb. Darllenwch lyfrau sydd yn sôn am y tu allan,

    natur a pharatoi bwyd. Gallwch roi byrddau sialc bach, byrddau gwyn bach, pennau a

    sialc i’r plant gael cofnodi a gwneud rhestrau.

    Mae’r plant yn gallu:

    Siarad am eu profiadau personol.

    Disgrifio’r hyn maent yn gwneud a defnyddio’u dychymyg.

    Trafod a gwrando.

    Dysgu geirfa newydd.

    Gofyn ac ateb cwestiynau agored. Beth maent yn creu, coginio a gwneud yn y gegin.

    Cyfathrebu gyda phlant eraill am beth maent yn gwneud trwy chwarae rôl.

    Helpu eraill a gofyn am gymorth.

    Ysgrifennu rhestrau o gynhwysion, bwydlenni a ryseitiau.

    Gwneud marciau ac ysgrifennu gyda brigau yn y mwd, tywod neu gyda dŵr.

    Mynegi syniadau.

  • Rhifedd

    Gall y plant ddefnyddio offer i fesur dŵr, llwyau a chwpanau. Gallent bwyso, cyfri, mesur a

    rhannu cynhwysion megis cerigos (pebbles), castawydd, (horse chestnuts/conkers) mês,

    (acorns) a moch coed (pine cones) e.e. mae yna 6 castanwydden (horse chestnut/

    conker) a 3 o blant - faint sydd i bawb? Mae digon o gyfleoedd i amcangyfrif, cymharu,

    grwpio ac ail grwpio a defnyddio TGCh yn yr ardal hon.

    Mae’r plant yn gallu:

    Pwyso’r mwd, adnabod pethau trwm ac ysgafn.

    Mesur y dŵr.

    Bach a mawr.....

    Arian i brynu o’r caffi mwd.

    Cyfri.

    Datrys problemau.

    Rhannu’r bwyd gydag eraill.

    Dethol a defnyddio offer i bwrpas.

    Gofyn ac ateb cwestiynau syml.

    Cyfateb a didoli.

    Adnabod maint, lliwiau a siapiau.

    Cysylltu eitemau a’i gilydd.

    Cymysgu, siapio a threfnu deunyddiau er mwyn creu delweddau a gwrthrychau.

    Cydweithio gydag oedolion a phlant eraill i ddatrys problemau.

  • Datblygiad Corfforol

    Mae yna ddigon o gyfleoedd i gludo dŵr a defnyddiau ac offer mewn potiau, sosbenni,

    jygiau a chynhwysyddion eraill. Mae’r plant yn gallu defnyddio llwyau i droi, cyllyll i dorri a

    chafellau (tongs) i godi pethau. Gall y plant mwynhau profiadau synhwyrol trwy chwarae

    gyda mwd neu dywod gwlyb, perlysiau ffres, dŵr, reis ayyb.

    Mae’r plant yn gallu: Rhedeg, neidio a symud o gwmpas tu allan. Llenwi, arllwys ac ail lenwi. Defnyddio offer at bwrpas yn y gegin. Golchi dwylo a chadw’n lân ac yn gynnes neu allan o’r haul tu allan. Datblygu sgiliau motor mân. Rheoli symudiadau’r corff. Cydweithio llaw â llygaid. Trin teclynnau. Datblygu sgiliau llawdrin

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth

    Ddiwylliannol

    Mae gan y plant y rhyddid i ddewis a dethol yr offer maent angen i’w defnyddio. Maent yn

    gallu chwarae yn ddychmygol (chwarae rôl) ac ail greu golygfeydd dyddiol o adref sydd yn

    galluogi nhw i gysylltu gyda phlant ac oedolion eraill. Gallant drafod yr hyn maent yn

    gwneud gartref, mewn bwyty neu gaffi. Gallant gymryd tro a rhannu wrth drafod

    syniadau, ystyried teimladau eraill a datrys problemau. Mae’n gyfle da iddynt ddysgu i

    ddilyn rheolau iechyd diogelwch ac adnabod ffiniau wrth ddod o hyd i atebion.

    Mae’r plant yn gallu: Datblygu hunan hyder trwy greu a chwarae rôl. Datblygu perthnasau gydag eraill wrth gyd chwarae a chymryd tro. Chwarae dychmygol e.e. dychmygu bod yn gymeriad arall neu aelod teulu. Adnabod eu henwau ac enwau plant eraill. Dod i adnabod ffrindiau a thrafod eu teuluoedd. Cysylltu offer gyda gwaith person. Clirio a thacluso gydag eraill. Adnabod deunydd naturiol. Canolbwyntio. Defnyddio offer amrywiol. Cymryd cyfrifoldeb am olchi dwylo. Mwynhau gyda ffrindiau. Defnyddio’r synhwyrau.

  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r byd

    Mae'r gegin fwd yn rhoi cyfleoedd i'r plant ail greu sefyllfaoedd maent yn gweld yn eu

    bywydau o ddydd i ddydd ac i ddechrau gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Mae’r

    gegin yn gallu cyflwyno’r plant i adnoddau a bwydydd aml -ethnig megis wok, sosban

    stemio reis (rice steamer), chop sticks, reis a phasta a chodlysiau (pulses). Gallant

    ddysgu am gartrefi plant eraill. Mae’r gegin yn gyfle gwych i arsylwi ar y tymhorau a sut

    mae natur yn newid, tyfu a datblygu trwy’r flwyddyn.

    Mae chwarae gyda mwd yn gallu galluogi plant i feddwl yn fwy gwyddonol. Mae plant yn

    gallu arbrofi wrth greu mwd eu hunain trwy gymysgu dŵr a baw a gweld newid yng

    nghysondeb (consistency) y mwd trwy ychwanegu dŵr. Gallant greu swigod trwy

    ddefnyddio chwisgo yn y mwd. Trwy arsylwi ar y pethau yma, mae plant yn gallu ffurfio

    syniadau eu hunain ar sut mae pethau yn gweithio. Mae hyn yn atgyfnerthu eu sgiliau

    datrys problemau.

    Mae’r plant yn gallu: Archwilio ac arbrofi gyda lliwiau, gweadedd a nodweddion y pridd/ mwd. Cael profiadau o fyd natur a’r amgylchedd tu allan. Gofyn y cwestiwn “Beth os....” Cydweithio gydag eraill. Archwilio gyda deunyddiau naturiol. Rhannu profiadau personol. Mynegi syniadau. Cysylltu eitemau a’i gilydd. Defnyddio offer amrywiol ac anarferol. Dod yn ymwybodol o deuluoedd a chefndiroedd plant eraill a beth sydd yn

    eu ceginau nhw adref. Efelychu tasgau yn y cartref - cartref nhw ac eraill. Cysylltu offer gyda gwaith person.

  • Creadigol

    Mae yna gyfleoedd i chwarae rôl ac ymateb i’r hyn maent yn gweld o’u cwmpas yn y

    gegin. Mae’r plant yn gallu dynwared eu rhieni yn coginio, creu ac addurno cacennau.

    Maent yn gallu defnyddio adnoddau naturiol y mwd a thywod er mwyn creu darnau o

    waith creadigol ac adeiladu cerflunwaith 3D. Gall y plant greu offerynnau cerddorol neu

    ‘wind chimes’ Gallant wrando ar y dŵr yn cwympo i mewn i sosbenni neu botiau. Bydd

    amryw o adnoddau bach naturiol i’w defnyddio mewn gwaith celf a chrefft - hadau, cnau,

    dail, llysiau, ffrwythau ayyb.

    Mae’r plant yn gallu: Defnyddio offer amrywiol ac anarferol Mynegi syniadau creadigol Defnyddio sgiliau mân Arsylwi ar wrthrychau naturiol a thynnu lluniau ohonynt Dysgu am liwiau, siapiau a gwead Creu delweddau a gwrthrychau allan o

    adnoddau naturiol Gweithio tu allan yng nghanol natur Archwilio gyda deunyddiau naturiol Cymysgu lliwiau Celf a chrefft 2D a 3D

  • Gweithgareddau Posib o’r Gegin Fwd:

    Caffi mwd gyda chwsmeriaid a bwydlen.

    Gwneud prydiau bwyd a diodydd fel ysgytlaeth (milk shake).

    Gwneud cacennau pen-blwydd.

    Gwneud cawliau a stiwiau.

    Gwneud hufen iâ.

    Gwneud persawr.

    Gweithgareddau Celf a chrefft.

    Gwneud a chwarae gyda thoes tu allan - ychwanegu petalau, gwair, cerrig ayyb i’r gymysgedd.

    Siop.

    Caffi.

    Picnic.

    Am fwy o wybodaeth:

    Gallwch lawrlwytho’r llyfryn hwn

    oddi ar fewnrwyd Mudiad Meithrin,

    o dan adran academi.

    Ar y wefan hefyd, ceir hyfforddiant

    gan academi ar sut i greu cegin

    fwd.

    Hawlfraint Mudiad Meithrin.

    ‘Ni ddylid rhannu unrhyw rhan o’r adnodd hwn heb ganiatâd gan Mudiad Meithrin. Cyfeiriad ebost [email protected]

    mailto:[email protected]