bil treth gwarediadau tirlenwi (cymru) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 mae'r ddeddfwriaeth...

157
BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) [FEL Y’I DIWYGIWYD YNG NGHAM 2] Memorandwm Esboniadol Yn ymgorffori'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a'r Nodiadau Esboniadol Mehefin 2017

Upload: others

Post on 07-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU)

[FEL Y’I DIWYGIWYD YNG NGHAM 2]

Memorandwm Esboniadol Yn ymgorffori'r

Asesiad Effaith Rheoleiddiol a'r Nodiadau Esboniadol

Mehefin 2017

Page 2: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

2

BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) [FEL Y’I DIWYGIWYD YNG NGHAM 2] Memorandwm Esboniadol Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Swyddfa'r Prif Weinidog a Swyddfa'r Cabinet, Llywodraeth Cymru, ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei baratoi yn wreiddiol a’i osod yn unol â Rheol Sefydlog 26.6 ym mis Tachwedd 2016, ac mae Memorandwm diwygiedig bellach wedi’i osod yn unol â Rheol Sefydlog 26.28. Datganiad yr Aelod

Yn fy marn i byddai darpariaethau Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), a gyflwynwyd gennyf i ar 28 Tachwedd 2016 o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Cabinet Secretary for Finance and Local Government Yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am y Bil 13 Mehefin 2017

Page 3: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

3

CYNNWYS

BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) 2

RHAN 1 – MEMORANDWM ESBONIADOL 6

PENNOD 1: DISGRIFIAD 6

Symud Cymru Ymlaen 7

PENNOD 2: CYMHWYSEDD DEDDFWRIAETHOL 8

PENNOD 3: DIBEN Y DDEDDFWRIAETH A’R EFFAITH Y BWRIEDIR IDDI EI CHAEL

10

Y rheswm dros y Bil ac esboniad o’r amseriad 10

Y BIL 15

Rhan 2 – Pennod 1 – Treth Gwarediadau Tirlenwi 15

Rhan 2 – Pennod 2 – Gwarediadau Trethadwy 15

Rhan 2 - Pennod 3 – Gwarediadau Esempt 17

Rhan 3 - Pennod 3 – Rhyddhad rhag Treth 18

Rhan 5 - Pennod 1 – Credydau Treth 19

Rhan 3 - Gwarediadau Trethadwy a wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

20

Rhan 3 - Pennod 1 - Personau y mae Treth i’w Chodi Arnynt 21

Rhan 3 - Pennod 2 - Treth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy 21

Rhan 3 - Pennod 4 - Casglu a Rheoli Trethi 28

Rhan 4 - Gwarediadau trethadwy a wneir mewn lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig

30

Rhan 5 - Pennod 2 - Mannau nad ydynt at Ddibenion Gwaredu 32

Rhan 5 - Pennod 3 - Ymchwilio a Gwybodaeth 33

Rhan 5 - Pennod 4 - Cosbau o dan y Ddeddf 35

Rhan 5 - Pennod 5 - Cosbau ychwanegol o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi

37

Rhan 5 - Pennod 6 - Achosion Arbennig 37

Page 4: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

4

Rhan 5 - Pennod 7 – Amrywiol Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

40

40

Rhan 6 - Darpariaethau Terfynol 41

Atodlen 1 – Deunydd cymwys: deunyddiau ac amodau penodol Atodlen 2 – Yr hyn sydd i’w gynnwys yn y gofrestr

41 41

Atodlen 3 – Yr hyn sydd i’w gynnwys ar anfoneb dirlenwi 41

Atodlen 4 – Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

42

Diben ac Effaith Fwriadedig – Crynodeb

42

PENNOD 4: YMGYNGHORI 44

PENNOD 5: Y PŴER I WNEUD IS-DDEDDFWRIAETH 50

PENNOD 6: ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL 74

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL 75

PENNOD 7: YR OPSIYNAU 79

Effaith sefydlu Treth Gwarediadau Tirlenwi 79

Opsiwn 1 – Gwneud dim 79

Opsiwn 2 - Dyblygu’r Dreth Dirlenwi bresennol 80

Opsiwn 3 – Datblygu treth benodol i Gymru Effaith Sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

80

81

PENNOD 8: COSTAU A MANTEISION 85

Opsiwn 1 – Gwneud dim

85

Opsiwn 2 - Gwneud y lleiafswm (dyblygu’r Dreth Dirlenwi bresennol) 93

Opsiwn 3 - Datblygu treth benodol i Gymru 94

Crynodeb o’r opsiwn a ffefrir Effaith Sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi – Costau a Manteision

99

100

PENNOD 9: ASESIADAU EFFAITH PENODOL

111

Page 5: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

5

PENNOD 10: ASESU CYSTADLEUAETH PENNOD 11: ADOLYGU AR ÔL GWEITHREDU

120

122

ATODIAD 1: NODIADAU ESBONIADOL 123

ATODIAD 2: MYNEGAI O OFYNION Y RHEOLAU SEFYDLOG 153

Page 6: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

6

RHAN 1 – MEMORANDWM ESBONIADOL

Pennod 1: Disgrifiad

1.1 Bwriedir i Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) ('y Bil') wneud

darpariaeth ar gyfer treth ar warediadau i safleoedd tirlenwi yng Nghymru, i ddisodli’r Dreth Dirlenwi ('LfT') o 1 Ebrill 2018. Y Bil hwn yw'r trydydd bil i sefydlu trefniadau trethi datganoledig yng Nghymru.

1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) 2. Mae'r Bil hefyd yn gysylltiedig â Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20173, sy’n cyflwyno treth newydd yn lle Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru a mesurau i fynd i'r afael ag osgoi trethi datganoledig.

1.3 Mae'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ceisio adeiladu ar y fframwaith gweinyddol a sefydlwyd drwy'r Ddeddf, drwy bennu'r trefniadau gweithredol ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”) yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau y gellir parhau i reoli a chasglu treth ar warediadau i safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi i LfT ddirwyn i ben yng Nghymru yn 2018. Bydd cyflwyno LDT yn diogelu refeniw o drethi er mwyn gallu parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

1.4 Yn benodol, mae'r Bil yn ymdrin â'r meysydd canlynol:

- Y diffiniad o "warediad trethadwy" y codir LDT arno;

- Yr hyn sydd dan sylw pan sonnir am safle tirlenwi awdurdodedig a'r hyn a ddisgwylir gan weithredwyr safleoedd tirlenwi o ran eu hatebolrwydd i dalu LDT, y ddyletswydd i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, sut i gadw cyfrifon ar gyfer LDT etc.;

- Sut mae LDT yn gymwys i warediadau a wneir mewn mannau eraill heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig a phwy sy'n atebol am dalu LDT ar warediadau o'r fath.

- Sut y bydd LDT yn cael ei gyfrifo, pa gyfradd dreth a fydd yn gymwys a pha esemptiadau, rhyddhadau a chredydau a allai fod yn gymwys;

- Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi;

- Manylion y grwpiau am ddeunydd cymwys, deunydd ac amodau

penodol (os o gwbl) sy’n gysylltiedig â’r deunydd a allai fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is o dreth;

1 http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989

2 http://gov.wales/funding/fiscal-reform/welsh-revenue-authority/?skip=1&lang=cy

3 http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15873

Page 7: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

7

- Dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau a thalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau; ac

- Archwilio safleoedd er mwyn penderfynu a yw person yn atebol am dalu LDT, a rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau cyhoeddus penodol at ddibenion LDT.

Symud Cymru Ymlaen

1.5 Mae Symud Cymru Ymlaen4 yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o swyddi o ansawdd gwell drwy economi gryfach a thecach, yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

1.6 Bydd y Bil yn cyfrannu at nifer o flaenoriaethau'r llywodraeth hon, drwy ddatblygu Cymru Ffyniannus a Diogel:

- Cefnogi busnesau drwy barhau â'r dreth ar wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Bydd hynny'n rhoi sicrwydd i'r sector gwastraff ac yn ysgogi datblygiad technolegau amgen;

- Cefnogi busnesau drwy godi treth ar warediadau heb eu hawdurdodi, sy'n sicrhau chware teg ar gyfer busnesau gwastraff cyfreithlon.

- Cefnogi'r amgylchedd drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei

ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi, gan leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr;

- Cefnogi'r amgylchedd drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu

mewn modd cyfrifol. Bydd hynny'n gwarchod bioamrywiaeth, ecosystemau lleol ac iechyd y cyhoedd; a

- Chefnogi'r amgylchedd drwy ailgylchu mwy ac anfon cyn lleied o

wastraff â phosibl i safleoedd tirlenwi.

4 http://gov.wales/about/programme-for-government/?skip=1&lang=cy

Page 8: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

8

Pennod 2: Cymhwysedd Deddfwriaethol

2.1 Mae Adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (‘y Cynulliad’) wneud deddfau ar gyfer Cymru a elwir yn Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2.2 Mae Adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod darpariaeth yn un o Ddeddfau’r Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad os yw’n ymwneud ag un neu fwy o’r pynciau a restrir o dan unrhyw un o’r penawdau yn Rhan 1 o Atodlen 7 o’r Ddeddf honno ac nad yw’n rhan o unrhyw un o’r eithriadau a restrir yn y Rhan honno o’r Atodlen (o dan y pennawd hwnnw neu o dan unrhyw un o’r penawdau hynny), ac nad yw’n gymwys heblaw mewn perthynas â Chymru nac yn rhoi, gosod, addasu neu ddileu (nac yn rhoi pŵer i roi, gosod, addasu neu ddileu) swyddogaethau y gellir eu harfer heblaw mewn perthynas â Chymru.

2.3 Mae paragraff 16A o Atodlen 7 yn nodi'r pwnc canlynol y caiff y Cynulliad ddeddfu arno:

“Trethu

16A

Trethi datganoledig (fel y'i diffinnir yn adran 116A(4).”

2.4 Mae Adran 116A(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod treth a bennir yn Rhan 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei diffinio fel treth ddatganoledig. Mae Rhan 4A yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad wneud darpariaeth mewn perthynas â threth ar warediadau i safleoedd tirlenwi (adran 116N), a threth ar drafodiadau sy'n cynnwys buddiant mewn tir (adran 116L).

2.5 Mae adran 116N yn diffinio treth ar warediadau i safleoedd tirlenwi fel a ganlyn: (Nid yw’r testun hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi’i gwneud yn Gymraeg ydyw.) “116N Tax on disposals to landfill

(1) A tax charged on disposals to landfill made in Wales is a devolved tax. (2) A disposal is a disposal to landfill if—

(a) it is a disposal of material as waste, and

Page 9: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

9

(b) it is made by way of landfill.”

2.6 Cafodd y darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ymdrin â threthi datganoledig eu mewnosod gan Ddeddf Cymru 20145. Mae adran 18(2) o Ddeddf Cymru 2014 yn gwneud y ddarpariaeth ganlynol: (Nid yw’r testun hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi’i gwneud yn Gymraeg ydyw.)

“A devolved tax specified in section 116N of GOWA 2006 (as inserted by this section) may not be charged under an Act of the Assembly on a disposal if the disposal is made before the date appointed under section 19(3) (disapplication of UK landfill tax).”

2.7 Yn unol â hynny, mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol i

wneud y darpariaethau yn y Bil.

5Mae Deddf Cymru 2014 ar gael yn:

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/29/contents/enacted

Page 10: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

10

Pennod 3: Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

Y rheswm dros y Bil ac esboniad o’r amseriad

3.1 Diben Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (“y Bil”) yw sefydlu’r

Dreth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”) yng Nghymru i ddisodli’r Dreth Dirlenwi (“LfT”) o fis Ebrill 2018.

3.2 Fel y nodir ym mharagraff 2.5, mae adran 19 o Ddeddf Cymru 20146 yn gwneud darpariaeth i LfT gael ei datgymhwyso yng Nghymru. Bydd hyn yn dod i rym o ran gwarediadau o wastraff trwy dirlenwi ar ddyddiad i’w bennu gan y Trysorlys o dan Adran 19(3) o’r Ddeddf honno. Mae Papur Gorchymyn Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol7 yn nodi bwriad Llywodraeth y DU na fydd LfT yn gymwys yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

3.3 Os bydd Gweinidogion Cymru yn dewis peidio â chyflwyno treth ar warediadau o wastraff trwy dirlenwi yng Nghymru, yna ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y refeniw o’r dreth hon. Byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Tabl 1: Refeniw a amcangyfrifir o’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru 2010-11 i 2015-16 (£m)

2010-11 2011-12 2012-13 2013-14 2014-15 2015-16

Treth Dirlenwi 45 44 47 49 47 44

Ffynhonnell:

Derbyniadau Treth wedi’u Dadgyfuno CThEM Hydref 2016

3.4 Yn ei Ragolwg Economaidd a Chyllidol8 o fis Mawrth 2017, cyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ragolygon ar gyfer refeniw blynyddol Cymru ar gyfer treth ar warediadau i safleoedd tirlenwi tan 2021-22. Amlinellir y rhagolygon hyn yn Nhabl 2 ac maent yn awgrymu y byddai £25 miliwn yn cael ei godi yn 2018-19, sef blwyddyn gyntaf datganoli’r Dreth Dirlenwi.

6 Mae Deddf Cymru 2014 ar gael yn:

http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2014/29/contents/enacted 7https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/294422/Wales

_Bill_Command_Paper_-_Welsh.pdf 8 http://cdn.budgetresponsibility.org.uk/DevolvedtaxesforecastMarch2017.pdf

Page 11: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

11

Tabl 2: Rhagolygon y Dreth Dirlenwi

£ miliwn

2015-16 2016-17 2017-18 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22 Rhagolwg Cymru 34 33 28 25 23 22 22

Ffynhonnell: Rhagolwg Trethi Datganoledig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Tachwedd 2017

3.5 Cadarnhaodd Papur Gorchymyn Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso

Ariannol fwriad Llywodraeth y DU y bydd y broses o ddatganoli LfT yn arwain at leihau grant bloc Cymru9. Ceir gwybod beth fydd addasiad y grant bloc ar gyfer 2018-19 pan gaiff Cyllideb yr Hydref 2017 ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU.

3.6 Disgwylir i lwyddiant LfT o ran ailgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi

arwain at leihau refeniw LfT yn ystod blynyddoedd y dyfodol, ac mae’n bosibl y bydd yn cyrraedd pwynt lle mae’r fantol yn troi, pan fydd y gost o weinyddu’r dreth yn uwch na’r refeniw sy’n cael ei adennill. Yn yr un modd, mae nifer y safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn lleihau a disgwylir y bydd llai na 10 erbyn 2020 (i lawr o 25 ym mis Mai 2016). Fodd bynnag, pe cyrhaeddir y pwynt hwn (ond nid oes disgwyl i hyn ddigwydd yn y 6 blynedd nesaf o leiaf), byddai angen rhoi mwy o ystyriaeth i amcanion amgylcheddol y dreth yn ogystal â ffactorau eraill fel rhai cyllidebol, masnachol ac iechyd a lles cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am ddyfodol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Byddai angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu Deddf er mwyn dirymu’r dreth.

3.7 Effaith fwriadedig y ddeddfwriaeth yw cyflwyno treth i ddisodli LfT fel y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru barhau i elwa o’r refeniw a godir gan y dreth. Hefyd, yn yr un modd â’r LfT bresennol, effaith fwriadedig deddfwriaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff. Bydd y dreth newydd yn cynnig ysgogiad ychwanegol defnyddiol i Lywodraeth Cymru i gefnogi polisïau gwastraff.

3.8 Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio un Bil cydlynol a bydd yn darllen yn wahanol i’r ddeddfwriaeth LfT bresennol. Dyna’r hyn yr oedd rhanddeiliaid ei eisiau – Bil cydlynol, rhesymegol, cyfredol sy’n adlewyrchu'r arferion presennol. Rydym wedi manteisio ar y cyfle i wneud newidiadau i adlewyrchu amgylchiadau ac anghenion Cymru yn well. Bydd y Bil hefyd yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i godi treth ar waredu gwastraff heb awdurdod. Bydd hyn yn mynd i’r afael a’r math hysbys hwn o efadu treth ac yn diogelu’r refeniw.

9 http://law.gov.wales/constitution-government/government-in-

wales/finance/?skip=1&lang=cy#/constitution-government/government-in-wales/finance/?tab=overview&lang=cy

Page 12: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

12

3.9 Un flaenoriaeth eglur i’r gymuned fusnes yw trosglwyddiad didrafferth i’r dreth newydd yn 2018. Mae hyn yn arbennig o wir o ran pennu cyfraddau treth, lle gallai newid i gyfraddau treth naill ai danseilio derbyniadau treth yn sylweddol, neu arwain at dwristiaeth gwastraff: ni chroesewir yr un ohonynt yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cyfraddau treth arfaethedig erbyn 1 Hydref 2017.

3.10 Sefydlodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi Cymru 2016 fframwaith llywodraethu eglur a chryf yng Nghymru a fydd yn cynorthwyo proses effeithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig ac yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r swyddogaethau a’r pwerau perthnasol i’r Awdurdod i’w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau. Y bwriad yw y dylai’r trefniadau newydd hyn ddod i rym ym mis Ebrill 2018.

3.11 Bydd angen i Awdurdod Cyllid Cymru sefydlu’r prosesau a’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer casglu a rheoli refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi cyn mis Ebrill 2018.

Cefndir Polisi

3.12 Mae LfT wedi esblygu wrth i dechnolegau newydd a datblygiadau polisi ddod i’r amlwg. Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, cyfarwyddydau, hysbysiadau a chanllawiau, a chyfraith achos berthnasol wedi dylanwadu ar LfT. Mae hyn yn creu amgylchedd dryslyd iawn y mae safleoedd tirlenwi yn gweithredu ynddo.

Y Dreth Dirlenwi 3.13 Cyflwynwyd LfT ym 1996 fel ffordd o ddylanwadu ar newid ymddygiad

amgylcheddol cadarnhaol.

3.14 Ers ei chyflwyno ym 1996, mae cyfradd safonol LfT wedi cynyddu o

£7/tunnell i £86.10/tunnell yn 201710. Yn ystod y cyfnod hwn, mae

cyfanswm y gwastraff a waredir mewn safleoedd tirlenwi wedi gostwng yn sylweddol a bu cynnydd cyfatebol mewn ailgylchu. Yng Nghymru, gostyngodd cyfanswm y tunelledd o wastraff 52% rhwng 2001 a

201311. Mae hyn yn dangos llwyddiant LfT fel offeryn polisi.

3.15 Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai cyfraddau treth yn

cael eu cynnal mewn termau real (gan y gyfradd chwyddiant fel y’i mesurwyd gan y Mynegai Prisiau Manwerthu). Mae swyddogion CThEM a rhanddeiliaid wedi dweud bod cyfradd safonol LfT wedi

10

£2/tunnell oedd y gyfradd dreth is pan gyflwynwyd y dreth ym 1996 ac mae’n £2.70/tunnell yn 2017. 11

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru

Page 13: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

13

cyrraedd ei lefel uchaf, sy’n golygu mai rhoi’r deunyddiau hyn mewn safleoedd tirlenwi yw’r ffordd ddrutaf, a lleiaf deniadol felly, o waredu gwastraff.

Y Dreth Dirlenwi: Datblygiadau Diweddar

3.16 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae CThEM wedi ceisio rhoi mwy o eglurder ynghylch y ffordd y caiff y dreth ei chymhwyso. Mae hyn wedi cynnwys diweddaru canllawiau a chyflwyno deddfwriaeth ddiwygiedig: Gorchymyn Treth Dirlenwi (Gweithgarwch Rhagnodedig ar Safleoedd Tirlenwi) 2009; Gorchymyn Treth Dirlenwi (Deunydd Cymwys) 2011 a Gorchymyn Treth Dirlenwi (Gronynnau Mân Cymwys) (Rhif 2) 2015.

3.17 Bu nifer fawr o heriau cyfreithiol yn gysylltiedig ag LfT. Yn bennaf, ynglŷn â pha un a yw rhywfaint o ddeunydd a anfonir i safleoedd tirlenwi yn cael ei ddefnyddio (yn hytrach na chael ei fwrw o’r neilltu12) ac felly na ddylid ei drin fel gwarediad trethadwy. Mae gwerth yr hawliadau sydd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd yn golygu bod cyfran sylweddol o’r dreth a godwyd mewn perygl.

3.18 Roedd Deddf yr Alban 201213 yn datganoli LfT i’r Alban. Disodlwyd LfT gan Dreth Dirlenwi yr Alban (“SLfT”) ar 1 Ebrill 2015. Mae system yr Alban yn gyson â’r Dreth Dirlenwi yn gyffredinol, ond mae’n gwneud rhai newidiadau i sut y caiff y dreth ei gweinyddu, gan gynnwys ymestyn cwmpas y dreth i warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi. Mabwysiadodd Llywodraeth yr Alban y dull cyfradd dreth safonol ac is a chyhoeddodd y cyfraddau treth ym mis Ionawr 2015. Pennir y cyfraddau treth safonol ac is ar yr un lefel ag ar gyfer LfT. Mae profiad yr Alban o ddatganoli yn cynnig cymharydd defnyddiol i Gymru.

Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi

3.19 Cyhoeddwyd ymgynghoriad Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi 14 yn ystod gwanwyn 2015 yn gofyn am safbwyntiau ar gyd-destun polisi’r Bil hwn. Wrth ddatblygu’r polisi a sefydlu Treth Gwarediadau Tirlenwi i ddiwallu anghenion Cymru ac i gyd-fynd â’i hamgylchiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, y cyhoeddwyd crynodeb ohonynt ym mis Medi 201515.

12

Mae’n rhaid cael gwarediad o ddeunydd fel gwastraff er mwyn cael gwarediad trethadwy, y mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n digwydd pan fo’r sawl sy’n cyflawni’r gwarediad yn gwneud hynny gyda’r bwriad o fwrw’r deunydd o’r neilltu. 13

Deddf yr Alban 2012 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/11/contents/enacted 14

Ymgynghoriad Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi (24 Chwefror – 19 Mai 2015) ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/datblygu-treth-gwarediadau-tirlenwi 15

Ymgynghoriad Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi – Crynodeb o Ymatebion (Medi 2015) ar gael yn: http://gov.wales/consultations/finance/landfill-disposals-tax/?lang=cy

Page 14: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

14

3.20 Wrth ddatblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymhwyso ei hegwyddorion ar gyfer datblygu polisi a deddfwriaeth dreth ddatganoledig i wneud y canlynol:

- bod yn deg i fusnesau ac unigolion sy’n eu talu;

- bod yn syml, â rheolau eglur sy’n ceisio sicrhau bod costau cydymffurfio a gweinyddu cyn lleied â phosibl;

- cefnogi twf a swyddi a all gynorthwyo wedyn i fynd i’r afael â thlodi; a

- darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.

3.21 Un flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yw trosglwyddiad

didrafferth i LDT yn 2018. Er na fydd cyfraddau LDT yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru tan hydref 2017, yn barod ar gyfer gweithrediad y dreth ym mis Ebrill 2018, cydnabyddir bod cysondeb yn bwysig yn y maes hwn. Un maes penodol o bryder ymhlith rhanddeiliaid oedd yr effaith ar fusnesau pe bai gwahaniaethau pendant rhwng y cyfraddau treth a godir yng Nghymru ac yn Lloegr, wrth i sawl un amlygu’r potensial ar gyfer twristiaeth gwastraff lle mae’n rhatach i gludwyr gwastraff deithio ymhellach ar draws ffiniau gwledydd i waredu gwastraff.

3.22 Mae mwyafrif y safleoedd tirlenwi yng Nghymru (a phoblogaeth Cymru) o fewn 50 milltir o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ceir mwy o safleoedd tirlenwi o fewn 50 milltir i’r ffin ar ochr Lloegr. Mae llawer o safleoedd tirlenwi yng Ngogledd-ddwyrain a De-ddwyrain Cymru yn agosach na hyn i safleoedd yn Lloegr. Mae dadansoddiad o gyfraddau cludo nwyddau yn awgrymu y gallai gwahaniaeth cymharol fach o lai na £10 rhwng cyfraddau Cymru a Lloegr gyflwyno cymhelliad ariannol sylweddol ar gyfer twristiaeth gwastraff.

3.23 Ceir effeithiau i gymunedau o ran llesiant a’r amgylchedd hefyd, er enghraifft, oherwydd traffig cynyddol ger safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff. Byddai cynnydd yn yr ôl troed carbon gwaredu gwastraff gan y byddai gwastraff, gan gynnwys gwastraff a allai fod yn beryglus, yn teithio mwy o bellter ar briffyrdd a thrwy ardaloedd preswyl. Hefyd, pe bai’r cyfraddau yng Nghymru yn is, gallai hynny roi pwysau ar gapasiti safleoedd tirlenwi yng Nghymru a gallai arwain at alwadau i safleoedd tirlenwi newydd gael eu datblygu.

3.24 Ceir trosolwg o’r Bil ym mharagraff 1.4 ym Mhennod 1 y Memorandwm Esboniadol hwn.

Page 15: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

15

Y Bil

Rhan 1 – Trosolwg 3.25 Mae’r Rhan hon yn hunanesboniadol ac nid oes angen esboniad neu

sylw pellach yn ei chylch.

Rhan 2 – Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy

Rhan 2 - Pennod 1 - Treth Gwarediadau Tirlenwi

3.26 Diben ac effaith fwriadedig y Rhan hon yw y bydd treth yng Nghymru o’r enw’r dreth gwarediadau tirlenwi ac y bydd y dreth yn gymwys i warediadau o ddeunydd fel gwastraff trwy dirlenwi yng Nghymru ac yn cael ei chasglu a’i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Rhan 2 - Pennod 2 - Gwarediadau Trethadwy

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.27 Mae’r LfT bresennol yn daladwy ar warediadau trethadwy. Hynny yw, yr holl ddeunydd a waredir mewn safle tirlenwi awdurdodedig (mae’r diffiniad o hynny’n cynnwys safle sydd wedi’i drwyddedu neu ei ganiatáu o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 199016, sy’n awdurdodi gwarediadau yn y tir neu arno):

- fel gwastraff – unrhyw warediad y mae unigolyn yn ei wneud gyda’r bwriadu o fwrw’r deunydd o’r neilltu yw hwn;

- trwy dirlenwi – lle dodir deunydd ar arwyneb tir, ar strwythur sydd wedi’i osod ar yr arwyneb, neu o dan yr arwyneb.

oni bai fod eithriad yn berthnasol. Diben ac effaith fwriadedig 3.28 Sefydlir yr atebolrwydd i dalu'r dreth drwy gyfeirio at adran 3, sy'n

rhestru'r pedwar amod y mae angen eu bodloni er mwyn i warediad fod yn drethadwy, sef:

bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi. Diffinnir y cysyniad hwn eto yn adran 4;

bod y gwarediad yn cael ei wneud mewn safle tirlenwi awdurdodedig (a ddiffinnir yn adran 5) neu mewn man heblaw

16

Rhan II o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990; rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999; Rhan II o Orchymyn Rheoli Llygredd a Llywodraeth Leol (Gogledd Iwerddon) 1978 (OS 1978 Rhif 1049 (N.I. 9)); rheoliadau a wnaed o dan Erthygl 4 o Orchymyn yr Amgylchedd (Gogledd Iwerddon) 2002 (OS 2002 Rhif 3153 (N.I. 7))

Page 16: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

16

safle tirlenwi awdurdodedig ond ei fod yn warediad y mae gofyn cael trwydded amgylcheddol ar ei gyfer;

bod y gwarediad yn warediad o'r deunydd fel gwastraff. Diffinnir y cysyniad hwn eto yn adran 6(1) ac mae darpariaethau cysylltiedig i’w gweld yn adrannau 6 a 7;

bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.

3.29 Datblygir amod 3 yn adran 6(1), sy'n dweud y bydd deunydd yn cael ei

waredu fel gwastraff os "yw'r person sy'n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw'r deunydd o'r neilltu”. Dyma'r prawf a ddefnyddir i benderfynu a yw deunydd yn cael ei waredu neu beidio, a bydd angen bodloni'r prawf hwn (ochr yn ochr â'r 3 amod arall yn adran 3) er mwyn i warediad fod yn drethadwy. Gellir dal dweud bod bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu os bydd y deunydd yn cael ei 'ddefnyddio' mewn rhyw fodd.

3.30 Gellir casglu y bwriedir bwrw o'r neilltu drwy ystyried amgylchiadau'r gwarediad ac yn benodol y ffaith bod deunydd yn cael ei ddyddodi mewn ardal gwarediadau tirlenwi; sef, yn nhermau'r lleygwr, yn y gwacter tirlenwi lle bydd gwastraff fel rheol yn cael ei ddyddodi. Bwriad hyn yw dangos yn glir y gellir ystyried amgylchiadau gwrthrychol gwarediad wrth benderfynu a oedd rhywun yn bwriadu gwaredu'r deunydd er mwyn ei dangos yn glir bod mwy i'r prawf yn adran 6(1) nag a yw person yn derbyn ynteu’n gwrthod ei fod yn bwriadu bwrw'r deunydd o'r neilltu.

3.31 Serch hynny, nid yw awgrymu bod yr atebolrwydd i dalu treth yn cael ei sefydlu ar sail llunio casgliad yn gwbl gywir: bydd angen ystyried unrhyw gasgliad a lunnir o dan adran 6(2) ochr yn ochr ag unrhyw dystiolaeth arall sydd ar gael wrth benderfynu a oedd y sawl a oedd yn gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw'r deunydd o'r neilltu. Rhaid cofio hefyd mai dim ond un o'r profion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn sefydlu atebolrwydd i dalu treth yw bwriadu bwrw deunydd o'r neilltu (boed hynny'n digwydd drwy lunio casgliad neu beidio). Ni fydd llunio casgliad ynghylch bwriad ynddo'i hun yn sefydlu atebolrwydd i dalu treth oni fodlonir y profion eraill.

3.32 Mae Adran 6(3) yn ddarpariaeth newydd hefyd, ac unwaith eto, ei bwriad yw rhoi rhywfaint o arweiniad i Awdurdod Cyllid Cymru, i weithredwyr ac i'r tribiwnlysoedd wrth iddynt benderfynu a fwriedir bwrw deunydd o'r neilltu neu beidio. Mae'n dweud nad yw'r ffaith bod rhywun wedi defnyddio'r deunydd dros dro neu'n ddamweiniol neu wedi cael budd ohono'n golygu nad oedd yn fwriad ganddo fwrw'r deunydd o'r neilltu.

3.33 O dan rai amgylchiadau, mae'r Bil yn dweud y caiff gwarediad ei drin yn warediad trethadwy, ni waeth a fydd pedwar amod adran 3 yn cael eu bodloni ai peidio. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod adran 8 yn rhestru gweithgareddau penodedig ar safleoedd tirlenwi, a fydd, pan

Page 17: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

17

fyddant yn digwydd ar safle tirlenwi awdurdodedig, yn cael eu trin yn awtomatig yn warediadau trethadwy.

3.34 Bydd y Bil yn darparu eglurder a sicrwydd ynghylch y cwestiwn o fwriad

pwy sy’n berthnasol i’r prawf “bwriad i fwrw o’r neilltu”, o’r safbwynt ei fod yn nodi’n eglur mai’r sawl sy’n gyfrifol am y gwarediad sydd â’r bwriad. Mae’n eglur yng nghyd-destun safleoedd tirlenwi awdurdodedig mai gweithredwr y safle tirlenwi fydd hwn fel rheol.

3.35 Mae’r Bil yn cynnwys rhestr o weithgareddau yn adran 8(3), y dylid eu

trin fel gwarediadau trethadwy. Mae’r rhestr yn deillio o’r gweithgareddau a restrir yng Ngorchymyn Treth Dirlenwi (Gweithgarwch Rhagnodedig) 200917, a ailadroddwyd i raddau helaeth gan Orchymyn Treth Dirlenwi yr Alban (Gweithgarwch Safleoedd Tirlenwi Rhagnodedig) 201418.

3.36 Gall Gweinidogion Cymru, trwy reoliad, ychwanegu, addasu neu ddileu

gweithgarwch safle tirlenwi penodedig. Er bod y rhestr yn adran 8(3) wedi’i chyfyngu i safleoedd awdurdodedig, gallai’r grym i wneud rheoliadau ganiatáu i weithgarwch penodedig gael ei ychwanegu sy’n berthnasol i safleoedd heb awdurdod. Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd ychwanegol i fynd i’r afael ag unrhyw ymdrechion i osgoi talu treth gan y rhai sy’n gyfrifol am warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi.

Rhan 2 - Pennod 3 – Gwarediadau Esempt

Diben ac effaith fwriadedig

3.37 Ni fydd gwarediadau esempt yn warediadau trethadwy ac ni fydd angen i weithredwr y safle tirlenwi roi cyfrif am y gwarediad o’r deunydd. Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gwarediadau esempt canlynol:

- Mynwentydd anifeiliaid anwes – mae’r eithriad hwn yn cyd-fynd yn

fras â deddfwriaeth y DU. Mae’n sicrhau bod gwarediadau anifeiliaid anwes wedi marw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd sy’n cario’r gweddillion), a wneir mewn safle tirlenwi awdurdodedig wedi’u heithrio rhag treth, os nad yw’r safle yn derbyn unrhyw fathau eraill o warediadau.

- Gwarediadau lluosog gwastraff – bydd hyn yn sicrhau mai unwaith

yn unig y bydd rhaid talu LDT os caiff deunydd ei waredu fwy nag unwaith ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig. Er enghraifft, gallai’r esemptiad hwn fod yn gymwys pan ddefnyddir deunydd mewn gweithgarwch tirlenwi penodedig (megis creu ffordd dros dro neu

17

OS 2009/1929 18

OSA 2014/367

Page 18: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

18

arwyneb solet) ac felly mae’n rhaid talu LDT arno, yna caiff ei ddefnyddio’n ddiweddarach mewn gweithgarwch safle tirlenwi arall ac/neu ei waredu drwy dirlenwi ar yr un safle. Nid oes darpariaeth gyfatebol yn neddfwriaeth y DU ond credwn fod hyn yn adlewyrchu canllawiau CThEM ar LfT a’r arferion gweithredol.

3.38 Mae’r gwarediadau esempt a nodir uchod yn gymwys i safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn unig. Mae’r Bil yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau i ychwanegu, addasu neu ddileu esemptiad; ac yn gwneud darpariaeth i’r esemptiad fod yn destun amodau.

Rhan 3 - Pennod 3 – Rhyddhad rhag Treth Disgrifir yr adran hon yma i gynorthwyo’r darllenydd gan fod yr eithriadau LfT presennol yn cael eu dyblygu’n fras fel rhyddhadau ar gyfer LDT.

Diben ac effaith fwriadedig

3.39 Mae’r Bil yn ailadrodd yr esemptiadau presennol sy’n gyson â gweddill

y DU i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae’r LDT wedi diffinio nifer o’r eithriadau hyn fel “rhyddhadau”. Pan fo rhyddhad yn gymwys, ni chodir treth; ac ni fydd rhyddhad yn gymwys oni bai ei fod yn cael ei hawlio mewn datganiad treth. Disgrifir rhyddhadau yn y Nodiadau Esboniadol.

3.40 Deunydd a dynnir o wely afon, o’r môr neu o ddyfroedd eraill:

Mae’r rhyddhad hwn yn berthnasol i waredu deunydd penodol a garthwyd (a adnabyddir yn gyffredin fel “deunydd carthu”).

3.41 Deunydd sy’n deillio o weithrediadau mwyngloddio a chwarela:

Ceir rhyddhad o ran gwaredu deunydd o’r fath os nad yw’r deunydd wedi bod yn destun unrhyw broses ar wahân neu wedi cael ei altro’n gemegol, rhwng ei echdynnu a’i waredu.

3.42 Ail-lenwi cyn-chwareli a mwyngloddiau brig: Mae’r adran hon yn darparu rhyddhad ar gyfer gwaredu deunydd cymwys mewn safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran o safle) a ddefnyddiwyd ar gyfer gwaith mwyngloddio brig neu chwarela. Dim ond os oes gofyniad cynllunio bod yn rhaid i’r safle gael ei ail-lenwi y mae’r rhyddhad ar gael, ac nad oes unrhyw warediadau trethadwy eraill wedi cael eu gwneud ar y safle (neu ran o’r safle) ers i’r gwaith mwyngloddio neu chwarela ddod i ben.

3.43 Adfer safle: Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi wneud cais am y rhyddhad hwn cyn hawlio’r rhyddhad ar y datganiad treth. Rhagwelir y bydd y darpariaethau hyn yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i asesu’n llawn y deunydd a ddefnyddiwyd i adfer safle. Gall Awdurdod Cyllid Cymru gymeradwyo rhyddhad o dreth ar gyfer y defnydd o ddeunydd ar gyfer adfer safle; fodd bynnag, cyn gwneud hynny, bydd angen i’r

Page 19: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

19

Awdurdod fod yn fodlon bod trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n gysylltiedig â’r safle yn gwneud adfer y safle yn ofynnol. Efallai y bydd achlysuron pan fydd ar Awdurdod Cyllid Cymru angen rhagor o wybodaeth i wneud penderfyniad a ddylid cymeradwyo rhyddhad ar gyfer adfer y safle ai peidio, ac mae’r Bil yn nodi paramedrau sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol. Gall Awdurdod Cyllid Cymru a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn cyfnod o amser a nodir gan yr adran hon.

3.44 Dim ond yr isafswm deunydd sy’n ofynnol i gydymffurfio â’r drwydded

neu’r caniatâd fydd yn elwa o’r rhyddhad. Ni fydd defnyddio deunydd ar gyfer adfer safle nad yw’n derbyn cymeradwyaeth Awdurdod Cyllid Cymru yn elwa o ryddhad a bydd y deunydd a ddefnyddir yn drethadwy.

Rhan 5 - Pennod 1 – Credydau Treth

Disgrifir yr adran hon yma i gynorthwyo’r darllenydd.

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.45 Mae tri chredyd ar gael o fewn yr LfT bresennol:

- Credyd Cymunedau Tirlenwi (Cyrff Amgylcheddol) – Mae’r Gronfa

Cymunedau Tirlenwi yn annog gweithredwyr safleoedd tirlenwi i ariannu prosiectau amgylcheddol cymunedol lleol trwy alluogi gweithredwyr safleoedd tirlenwi i hawlio credyd treth sydd werth 90% am y cyfraniadau y maent yn eu gwneud.

- Rhyddhad Dyled Ddrwg - Os bydd cwsmer gweithredwr y safle

tirlenwi’n mynd yn fethdalwr neu nad yw’n gallu talu’r ffioedd am roi gwastraff trethadwy mewn safle tirlenwi am ryw reswm arall, gall gweithredwr safle tirlenwi hawlio rhyddhad dyled ddrwg cyn belled ag y bo meini prawf penodol yn cael eu bodloni, er enghraifft, bu achos o waredu gwastraff ar gyfer yr ystyriaeth o arian; cymerwyd LfT ar y gwarediad i ystyriaeth eisoes ac fe’i talwyd i CThEM; mae’r ddyled wedi cael ei dileu a’i throsglwyddo i gyfrif dyled ddrwg; ac mae blwyddyn wedi mynd heibio ers dyddiad cyflwyno’r anfoneb dirlenwi.

- Credyd Symud Ymaith - O dan y system LfT, gall gweithredwyr

safleoedd tirlenwi hawlio credyd ar gyfer deunydd sydd wedi cael ei ddodi ac LfT wedi’i chymryd i ystyriaeth ac wedi’i thalu, ond y caiff ei symud ymaith yn ddiweddarach ar gyfer ailgylchu, llosgi neu ailddefnydd (cyn belled ag y bo amodau penodol yn cael eu bodloni).

Page 20: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

20

3.46 Mae’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer cymhwyso’r credydau hyn wedi esblygu dros amser ac maent wedi eu cynnwys mewn gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth ac yng nghanllawiau CThEM.

3.47 Mae Deddf Treth Dirlenwi (Yr Alban) 2014 a Rheoliadau Treth Dirlenwi yr Alban (Gweinyddu) 2015 yn adlewyrchu darpariaethau’r DU at ddibenion SLfT, er bod y credyd dyled ddrwg wedi cael ei ailddiffinio i fod yn gymwys dim ond pan fydd dyled yn gysylltiedig ag ansolfedd.

Diben ac effaith fwriadedig

3.48 Yn unol â’r dull presennol o ran LfT, mae’r Bil yn cynnig cymryd pŵer

gwneud rheoliadau i roi trefniadau credyd treth ar waith. Mae hyn yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau lle mae ffactorau ehangach ar waith sy’n golygu y bydd yn briodol caniatáu i gredyd treth gael ei hawlio (cyn belled ag y bo amodau penodol yn cael eu bodloni), fel bod y refeniw’n cael ei ad-dalu i bob pwrpas, a hynny er bod rhwymedigaeth i dalu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi codi, a bod y taliad wedi cael ei wneud i Awdurdod Cyllid Cymru mewn rhai achosion i fodloni’r rhwymedigaeth honno.

3.49 Fel yn yr Alban, y bwriad yw gwneud rheoliadau sy’n nodi’r trefniadau credyd ar gyfer dyled ddrwg i weithredwyr safleoedd tirlenwi o ganlyniad i ansolfedd cwsmeriaid. Y bwriad yw y bydd yr hawl i gredyd o’r fath ddim ond yn codi pan fydd gweithredwr safle tirlenwi wedi gwneud cyfrif am y LDT ac wedi’i dalu mewn perthynas gwarediad, ond heb dderbyn tâl gan y cwsmer am y gwarediad hwnnw yn sgil digwyddiad ansolfedd.

Rhan 3 – Gwarediadau Trethadwy a wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.50 Adnabyddir LfT fel treth anuniongyrchol, gan ei bod yn cael ei chodi ar un person ond bod y gost yn cael ei throsglwyddo i drydydd parti fel rheol. Grŵp cymharol grynodedig o bobl sy’n gyfrifol am dalu’r Dreth Dirlenwi. Y rhai sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi yw’r rhain, ac felly’n derbyn deunydd i’w waredu fel gwastraff, yn hytrach na’r rhai sy’n cynhyrchu, casglu neu’n rheoli’r deunydd hwnnw fel arall ar bwyntiau eraill yn y cylch oes gwastraff. Mae gweithredwr y safle tirlenwi’n trosglwyddo cost y rhwymedigaeth dreth i gwsmeriaid yn rhan o ‘ffi glwyd’ y safle tirlenwi. Gall y cwsmer gynnwys y gost hon wedyn yn y prisiau y mae’n eu codi ar ei gwsmeriaid ei hun.

3.51 Ceir dwy gyfradd dreth; cyfradd is a chyfradd safonol. £86.10 y dunnell yw’r gyfradd safonol ar hyn o bryd, a £2.70 y dunnell yw’r gyfradd is.

Page 21: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

21

3.52 Mae Deddf Treth Dirlenwi (Yr Alban) 201419 hefyd yn rhoi grym i

Lywodraeth yr Alban (trwy is-ddeddfwriaeth) bennu gwahanol gyfraddau is o dreth ar gyfer gwahanol gategorïau o ddeunydd cymwys. Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu y dylid cyflwyno’r cyfle hwn yng Nghymru er mwyn cynnig hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol os oes ei angen er mwyn gallu ymateb i newidiadau economaidd, amgylchiadau cymdeithasol a/neu ddatblygiadau amgylcheddol.

3.53 Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi’r cyfraddau treth arfaethedig ar

gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ystod erbyn 1 Hydref 2017, yn barod ar gyfer gweithredu’r dreth hon (ym mis Ebrill 2018).

Rhan 3 - Pennod 1 – Personau y mae Treth i’w Chodi Arnynt

Diben ac effaith fwriadedig 3.54 Yr effaith fwriadedig yw gorfodi’r rhwymedigaeth am dalu’r LDT ar

weithredwr neu weithredwyr safle tirlenwi awdurdodedig.

Rhan 3 - Pennod 2 – Treth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi – Diben ac effaith fwriadedig

3.55 Mae’r Bil yn ei gwneud yn gyfrifoldeb ar weithredwr y safle tirlenwi i sicrhau y defnyddir y gyfradd dreth gywir ac y telir y swm cywir o dreth i Awdurdod Cyllid Cymru am bob gwarediad ar ei safle. Mae’r darpariaethau’n egluro sut y bydd y dreth yn cael ei chyfrifo er mwyn cynorthwyo gweithredwr y safle tirlenwi i fodloni ei rwymedigaeth dreth.

3.56 Bydd cyfradd safonol ac is o dreth er mwyn sicrhau cysondeb â’r DU a’r Alban. [Yn ogystal, mae’r Bil yn cyflwyno trydedd chyfradd dreth mewn perthynas gwarediadau mewn mannau eraill ar wahân i safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Caiff hyn ei egluro mewn mwy o fanylder ym mharagraffau 3.108-3.114 y memorandwm esboniadol hwn.]

3.57 Yn absenoldeb Deddf Cyllid flynyddol, er mwyn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru hyblygrwydd i ddiwygio’r cyfraddau treth fel y bo’n briodol, bydd ganddynt bŵer i bennu a diwygio’r cyfraddau treth safonol ac is trwy is-ddeddfwriaeth. Bydd y weithdrefn gadarnhaol yn cael ei mabwysiadu ar gyfer pennu’r cyfraddau treth yn wreiddiol. Mae Rhan 6 o’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Darpariaethau Terfynol) yn adran 92, yn gwneud darpariaeth i’r weithdrefn gadarnhaol dros dro gael ei mabwysiadu ar gyfer yr ail reoliad cyfraddau a’r rheoliadau wedi hynny.

19

A. 13(6) Deddf Treth Dirlenwi (Yr Alban) 2014

Page 22: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

22

Mae’r weithdrefn hon yn galluogi i reoliadau sy’n pennu cyfraddau newydd ddod i rym o’r dyddiad y mae’r rheoliadau’n cael eu gwneud. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r rheoliadau gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o fewn 28 diwrnod o gael eu gwneud os ydynt yn mynd i gael effaith gyfreithiol barhaol. Y bwriad yw cynnig hyblygrwydd a galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym i ffactorau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol, i atal unrhyw effeithiau negyddol.

3.58 Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod yr angen am Ddeddf Cyllid (Cymru) flynyddol yn y dyfodol.

3.59 Wrth arfer eu pwerau i bennu cyfraddau LDT, bydd Gweinidogion

Cymru yn gallu pennu gwahanol gyfraddau safonol neu is ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o ddeunyddiau. Bydd yr hyblygrwydd pellach hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddygymod ag amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol. Mae hyn yn gyson â’r dull gweithredu yn yr Alban.

Deunyddiau cymwys – Diben ac effaith fwriadedig

3.60 Mae’r darpariaethau yn cyflwyno’r amodau gofynnol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i warediad deunydd fod yn warediad o ddeunydd cymwys ac yn daladwy ar y lefel is o dreth.

3.61 Yn gyntaf, mae’n rhaid rhestru’r deunydd fel “deunydd cymwys” yn

Nhabl 1, sydd i’w weld yn Atodlen 1 y Bil. 3.62 Yn ail, mae’n rhaid i’r deunydd fodloni pob amod a nodir yn Atodlen 1

sy’n gymwys i’r deunydd. 3.63 Yn drydydd, mae’n ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi feddu ar

ddisgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd, y cyfeirir ato’n aml fel nodyn trosglwyddo gwastraff, os yw’r ddogfen hon yn ofynnol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Os nad oes angen disgrifiad ysgrifenedig, mae’n rhaid bod tystiolaeth arall y gellir canfod ohoni fod y deunydd yn ddeunydd cymwys fel y rhagnodir yn y rheoliadau.

3.64 Bydd rhaid i weithredwr y safle tirlenwi gadw a chynnal y disgrifiad

ysgrifenedig neu dystiolaeth arall yn rhan o’r cofnodion treth am gyfnod o chwe blynedd yn unol ag adran 37 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. Yn gyffredinol, mae’r gofynion hyn yn cael yr effaith o sicrhau atebolrwydd yn y diwydiant gwastraff gan fod rhaid i weithredwr y safle tirlenwi roi ystyriaeth i gynnwys y disgrifiad ysgrifenedig perthnasol a gwirio fod hwn yn cyfateb i’r gwastraff sy’n cael ei gyflwyno.

3.65 Effaith y ddeddfwriaeth yw canolbwyntio’r cyfrifoldeb ar weithredwr y safle tirlenwi er mwyn sicrhau y defnyddir y gyfradd dreth gywir ac y

Page 23: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

23

telir y swm cywir o dreth i Awdurdod Cyllid Cymru am bob gwarediad ar ei safle. Bydd yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi wneud dyfarniad yn seiliedig ar y disgrifiad ysgrifenedig sy’n ategu’r gwarediad ac ar archwiliad gweledol o’r gwastraff. Gellir defnyddio tystiolaeth arall, gan gynnwys dogfennau, a gyflenwir i weithredwr y safle tirlenwi i gefnogi’r penderfyniad, ond nid yw’n drech na’r gofyniad am ddisgrifiad ysgrifenedig.

Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau – Diben ac effaith fwriadedig

3.66 Diben y darpariaethau yw cyflwyno’r prawf y mae’n rhaid i gymysgedd o ddeunyddiau ei basio er mwyn cael ei gategoreiddio fel cymysgedd cymwys o ddeunydd a bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is o LDT.

3.67 Nod y Bil yw cynnig mwy o eglurder ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn faint derbyniol o ddeunydd nad yw’n gymwys (deunydd cyfradd dreth safonol) mewn llwyth cymysg os yw’r llwyth hwnnw i gael ei drethu ar y gyfradd is. Mae’r Bil yn gwneud hynny i raddau helaeth trwy geisio dod ag effaith y system LfT fel y’i deallir trwy ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, canllawiau ac arfer cyfredol, ynghyd mewn deddfwriaeth sylfaenol.

3.68 Mae’r Bil yn cyflwyno prawf ‘bychan ac atodol’ i ddeddfwriaeth sylfaenol wrth ystyried y gyfradd dreth ar gyfer llwyth cymysg. Y syniad sy’n sail i gynnwys y geiriau ‘bychan’ a ‘atodol’ ar wyneb y Bil yw adlewyrchu na ddylai maint a phwysau’r deunydd cyfradd safonol sydd wedi’i gynnwys mewn llwyth cymysg fod yn sylweddol; ni ddylai ei effaith ar natur/cyfansoddiad y llwyth fod yn sylweddol chwaith ac mae ei bresenoldeb yn ddamweiniol ac ni ellir ei osgoi yn hytrach na’n fwriadol. Gallai fod o gymorth ystyried dehongliadau cyffredin, er enghraifft mae’r Oxford English Dictionary yn disgrifio’r gair Saesneg incidental (a gyfieithir yma fel ‘atodol’) fel “happening as a minor accompaniment to something else; occurring by chance in connection with something else and happening as a result of an activity”.

3.69 Er mwyn ei gwneud yn eglur y bydd llwyth cymysg yn gymwys ar gyfer

y gyfradd dreth is dim ond os bydd y deunydd cyfradd safonol yn atodol, mae adran 16, gofyniad 3 yn dweud bod yn rhaid nad yw deunydd wedi cael ei gymysgu’n fwriadol at ddibenion gwaredu, neu i baratoi ar gyfer gwaredu. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan y ffaith na allai’r deunydd fod wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a gynlluniwyd i osgoi trethi, mewn telerau a nodir yn adran 16, gofyniad 6. Bwriad y gofyniad hwn yw rhoi sylw i ymddygiad, er enghraifft, lle caiff cymysgedd ei drefnu neu ei gymysgu mewn ffordd sy’n caniatáu i’w gyfansoddiad gael ei guddio, fel gwasgu neu guddio’n fwriadol ddeunydd nad yw’n gymwys (cyfradd safonol) mewn llwyth o ddeunydd cymwys (cyfradd is) er mwyn lleihau’r tebygolrwydd iddi ymddangos

Page 24: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

24

bod mwy na chyfanswm bychan ac atodol o ddeunydd o’r fath yn bresennol yn y llwyth.

3.70 Mae’n bwysig bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu gan weithredwr y safle tirlenwi a bod refeniw’r LDT yn cael ei ddiogelu wedyn. Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru'r grym i gyflwyno asesiad a/neu gosbau o ran unrhyw gamddefnydd o gymhwyso’r gyfradd is ar gyfer deunydd cyfradd safonol.

3.71 Mae’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer pŵer gwneud rheoliadau i ddiffinio swm ‘bychan ac atodol’ trwy gyfeirio at ganran ragnodedig o ddeunyddiau nad ydynt yn gymwys. Mae’r pŵer hwn yn cynnig hyblygrwydd i ymateb i broblemau newydd a datblygiadau technolegol yn y dyfodol a’r gallu i ymateb pe bai camddefnydd o’r egwyddor sy’n gysylltiedig â llwythi cymysg.

Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân – Diben ac effaith fwriadedig

3.72 Mae Gweinidogion Cymru wedi’u grymuso i wneud rheoliadau o ran llwythi cymysg o ddeunyddiau a adnabyddir fel gronynnau mân. Diffinnir gronynnau mân yn y Bil yn adran 17(3).

3.73 Efallai y bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr

safleoedd tirlenwi gynnal profion penodol, megis profion colled wrth danio, yn rhan o asesu cymysgedd o ronynnau mân er mwyn penderfynu a yw’n gymysgedd cymwys neu’n gymysgedd nad yw’n gymwys, gan fod y cyntaf yn ddarostyngedig i’r gyfradd is o dreth.

3.74 Byddai unrhyw ofynion a orfodir yn rhan o’r rheoliadau hyn yn ychwanegol at y gofynion a nodir ar gyfer llwythi o gymysgeddau cymwys o ddeunyddiau yn adran 16, y byddai angen eu bodloni o hyd yn achos llwyth o ronynnau mân.

3.75 Bydd union fanylion y drefn brofi ar gyfer gronynnau mân yn cael eu cyflwyno mewn is-ddeddfwriaeth.

Page 25: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

25

Pwysau trethadwy deunydd Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.76 Mae systemau treth y DU a’r Alban yn nodi y cyfrifir pwysau’r deunydd sy’n cael ei waredu trwy bwyso’r gwastraff ar yr adeg y bydd y gwarediad yn cael ei wneud.

3.77 Mae gan y DU a’r Alban ddarpariaethau tebyg yn ymwneud â disgownt dŵr sydd wedi’u cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth.

Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd – Diben ac effaith fwriadedig

3.78 Diben y darpariaethau hyn yw sicrhau y codir swm priodol o dreth, sy’n adlewyrchu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy. Mae’r darpariaethau yn galluogi pwysau trethadwy i gael ei ganfod trwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso. At y diben hwn, rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud. Mae’r darpariaethau yn dawel pan fydd yn rhaid i weithredwr y safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd. Diben hyn yw caniatáu ymarferion i gael eu cynnal ar safleoedd tirlenwi, gan gynnwys pwyso ar loriau ac oddi ar loriau cyn ac

ar ôl gwaredu’r deunydd. Ar ôl pennu’r pwysau, caiff y gweithredwr

wedyn gymhwyso unrhyw ddisgownt dŵr cytunedig. 3.79 Fodd bynnag, gall gweithredwr safle tirlenwi wneud cais i Awdurdod

Cyllid Cymru am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull pwyso arall (h.y. yn hytrach na phont bwyso) a gall yr Awdurdod gymeradwyo’r defnydd o ddull arall, naill ai’n ddiamod neu o dan amodau. Gall Awdurdod Cyllid Cymru hefyd amrywio neu ddiddymu cytundeb o’r fath os, er enghraifft, bydd yn credu fod risg i’r refeniw treth.

3.80 Pan fydd angen i Awdurdod Cyllid Cymru gyfrifo pwysau trethadwy

deunydd, mae’n rhaid iddo wneud hynny drwy bennu pwysau’r deunydd drwy ddefnyddio dull pwyso y mae’n credu sy’n briodol ac yna gymhwyso unrhyw ddisgownt dŵr y cytunwyd arno. Fodd bynnag, ceir amgylchiadau pan all Awdurdod Cyllid Cymru anwybyddu neu leihau disgownt dŵr cytundedig, er enghraifft, pan na wnaed unrhyw ddatganiad yng nghyswllt y gwarediad neu pan fo’r gweithredwr yn torri amod y disgownt dŵr cytundedig.

3.81 Effaith fwriadedig y darpariaethau hyn yw darparu eglurder a sicrwydd

o ran y dull o ganfod pwysau deunydd sy’n rhan o warediad trethadwy a phennu bod yn rhaid i’r deunydd gael ei bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud. Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth mai’r prif ddull o ganfod

Page 26: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

26

pwysau deunydd yw drwy ddefnyddio pont bwyso, er ei fod yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau pan nad yw hyn yn bosibl ac felly mae’n gwneud darpariaeth i ddull arall gael ei gytuno gydag Awdurdod Cyllid Cymru.

3.82 Efallai y bydd amgylchiadau pan nad yw’n bosibl i weithredwr safle tirlenwi ddefnyddio pont bwyso. Pan nad oes gan y safle tirlenwi bont bwyso, er enghraifft, neu os yw ei bont bwyso wedi torri ac nad oes pont bwyso arall ar gael. O dan amgylchiadau o’r fath, byddai angen i weithredwr safle tirlenwi ofyn am ganiatâd Awdurdod Cyllid Cymru i ddefnyddio dull pwyso arall a byddai’n gwneud y cais yn unol â chyfarwyddyd yr Awdurdod.

3.83 Gellir defnyddio dull arall gyda chaniatâd Awdurdod Cyllid Cymru yn unig. Trwy alluogi’r posibilrwydd o gytuno ar ddulliau eraill o bwyso, mae’r Bil yn caniatáu hyblygrwydd yn y dyfodol ac yn cydnabod y bydd technoleg yn datblygu.

3.84 Enghraifft arall o pan allai dull arall gael ei gytuno yw lle mae

gweithrediad ymarferol y safle tirlenwi yn golygu ei bod yn well i weithredwr y safle tirlenwi anfon y deunydd sy’n cael ei waredu o fan nad yw at ddibenion gwaredu yn syth i fan gwaredu tirlenwi heb anfon y deunydd hwnnw trwy bont bwyso, sy’n aml wedi’i lleoli wrth y fynedfa i safle tirlenwi.

3.85 Enghreifftiau yw’r canlynol o ddulliau pwyso eraill y gellid eu hystyried:

- cyfrifiad yn seiliedig ar uchafswm y pwysau y caniateir i’r cynhwysydd ei ddal; neu

- gyfrifiad o’r trosiad o gyfaint i bwysau 3.86 Gellir cyflwyno cosb os bydd gweithredwr y safle tirlenwi yn methu â

chydymffurfio â’r gofyniad i ddefnyddio pont bwyso neu os nad yw’r bont bwyso a ddefnyddir yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth pwysau a mesurau berthnasol. Mae’r gofyniad hwn, ymhlith pethau eraill, yn helpu i sicrhau bod y bont bwyso’n cael ei chalibro’n rheolaidd fel ei bod yn rhoi mesuriad cywir a hefyd yn cael ei chynnal yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn torri mor anaml â phosibl. Hefyd, gellir cyflwyno cosb os cytunwyd ar ddull pwyso arall gydag Awdurdod Cyllid Cymru ond nad yw’r pwyso’n digwydd yn unol â’r dull y cytunwyd arno.

3.87 Bwriedir y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn annog cydymffurfiaeth â

gofynion LDT ac yn sicrhau bod y potensial o anghysondebau ac anghywirdeb wrth bwyso gwarediadau trethadwy a chyfrifiadau o rwymedigaeth LDT cyn lleied â phosibl. Rhagwelir y bydd hyn yn helpu i greu sefyllfa deg rhwng gweithredwyr ac y bydd yn rhwystr ariannol a fydd yn gwrthbwyso’r elw sydd i’w wneud o dan-ddatgan gwastraff.

Page 27: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

27

Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd – Diben ac effaith fwriadedig

3.88 Mae’r darpariaethau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso disgownt dŵr wrth gyfrifo pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy. Y pwysau a geir ar ôl cymhwyso disgownt o’r fath fydd y pwysau trethadwy wedyn. Mae disgownt o’r fath ar gael dim ond lle mae gweithredwr y safle tirlenwi wedi gwneud cais i Awdurdod Cyllid Cymru am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt.

3.89 Pan fo cymeradwyaeth ar waith ar gyfer cynhwyso disgownt dŵr, caiff

gweithredwr y safle tirlenwi gymhwyso’r disgownt dŵr yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth. Bydd methu â gwneud hynny’n golygu yr ystyrir bod gweithredwr y safle tirlenwi wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau pwyso’r LDT ac y bydd yn derbyn ‘cosb bwyso’. Hefyd, bydd unrhyw fethiant i gadw cofnod disgownt dŵr yn arwain at gosb o dan y darpariaethau cadw cofnodion.

3.90 Gall Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth

yn y Ddeddf hon yn ymwneud â disgownt dŵr. 3.91 Bydd modd apelio yn erbyn penderfyniad am bwyso neu ddisgownt dŵr

o dan Ran 8 y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, sy’n golygu y bydd yn bosibl gwneud cais am adolygiad o benderfyniad Awdurdod Cyllid Cymru neu apêl yn ei erbyn.

3.92 Effaith fwriadedig y darpariaethau hyn yw parhau i fod yn gyson i

raddau helaeth â dull y DU a’r Alban o gymhwyso disgownt o ran cynnwys dŵr deunydd mewn gwarediad trethadwy. Fodd bynnag, mae darpariaethau’r LDT yn ceisio egluro’r trefniadau a’r prosesau ar gyfer gwneud cais am ddisgownt dŵr a hawlio’r disgownt, nid leiaf trwy gynnwys yn eglur ddarpariaeth ar gyfer y disgownt mewn deddfwriaeth sylfaenol.

3.93 Yng Nghymru, ein bwriad yw y dylai gweithredwr y safle tirlenwi, sef y trethdalwr, fod yn gwbl ymwybodol o’r defnydd cywir o’r disgownt dŵr o ran gwastraff a waredir yn y safle tirlenwi, ac yn atebol amdano. Dylai’r cwsmer (cynhyrchwyr gwastraff) ddarparu unrhyw ddogfennau a thystiolaeth angenrheidiol i weithredwr y safle tirlenwi i hysbysu’r cais, er enghraifft canran y cynnwys dŵr yn y gwastraff, fel y gall gweithredwr y safle tirlenwi, os yw’n fodlon gweithredu’r disgownt, wneud cais am gymeradwyaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru cyn cymhwyso’r disgownt dŵr.

3.94 Bwriedir i’r darpariaethau wneud gweithredwr y safle tirlenwi’n fwy atebol am ddisgownt dŵr gan mai ef yw’r trethdalwr mewn gwirionedd, ac felly cyfrifoldeb gweithredwr y safle tirlenwi yw bod â’r contractau a’r

Page 28: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

28

prosesau priodol ar waith gyda’i gwsmeriaid o ran gweithrediad y disgownt dŵr cyn gwneud cais fel trethdalwr i Awdurdod Cyllid Cymru.

3.95 Mae’r amodau cymhwyso ar gyfer y disgownt dŵr wedi’u cyfyngu i amgylchiadau penodol a dilys ac mae cymhwysiad darpariaeth y disgownt dŵr wedi’i gyfyngu i’r achosion hynny lle mae angen ychwanegu neu ddefnyddio dŵr. Bydd y prawf angenrheidrwydd yn cynorthwyo i sicrhau nad yw darpariaethau’r disgownt dŵr yn cael eu camddefnyddio er mwyn osgoi talu’r dreth.

3.96 Mae’r cofnod disgownt dŵr yn gorfodi atebolrwydd pellach ar weithredwr safle tirlenwi ac yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i olrhain yr holl warediadau perthnasol.

Rhan 3 - Pennod 4 – Casglu a Rheoli Trethi

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.97 Mae trefnau’r SLfT a’r LfT yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestr gael ei chadw gan CThEM a Cyllid yr Alban. Yn y ddau achos, mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r grym i CThEM a Cyllid yr Alban gynnwys ym mhob cofrestr y wybodaeth y maent yn credu ei bod yn ofynnol. Nodir y gofynion cofrestru mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

Cofrestru – Diben ac effaith fwriadedig

3.98 Er mwyn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn effeithiol, mae’n bwysig ei fod yn gwybod pwy yw’r trethdalwyr. Mae’r Bil felly’n rhoi dyletswydd ar Awdurdod Cyllid Cymru i gadw cofrestr o’r unigolion hynny sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi awdurdodedig lle caiff gwarediadau trethadwy eu gwneud (ystyrir bod unigolion o’r fath, at ddibenion y Bil yn cynnal “gweithrediadau trethadwy”). Bydd hyn hefyd yn rhoi modd i Awdurdod Cyllid Cymru allu rhagweld derbyniadau o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi at ddibenion cefnogi cyllido cyhoeddus yng Nghymru.

3.99 Rhagnodir yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chadw ar y gofrestr yn

Atodlen 2 i’r Bil. Gallai’r gofrestr hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn meddwl ei bod yn briodol at ddibenion casglu a rheoli’r LDT.

3.100 Mae’r darpariaethau’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru.

Page 29: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

29

Mae’r Bil yn cyflwyno gofynion pellach o ran y cais i gofrestru ac o ran newidiadau a chywiriadau i wybodaeth a gyflwynir i Awdurdod Cyllid Cymru at ddibenion cofrestru.

3.101 Rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu cofrestru gweithredwyr safleoedd tirlenwi cyn datganoli LDT ym mis Ebrill 2018 i alluogi trosglwyddiad didrafferth.

3.102 Ceir cosbau sy’n gysylltiedig â’r gofynion cofrestru; nodir y rhain yn adrannau 63 a 65 o’r Bil.

Cyfrifo Treth – Diben ac effaith fwriadedig

3.103 Diben y darpariaethau hyn yw ei gwneud yn ofynnol i unigolyn sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy i gyfrifyddu ar gyfer y dreth trwy wneud datganiad treth sy’n cynnwys cyfnod cyfrifyddu penodedig. Mae’r darpariaethau’n nodi’r cyfnodau cyfrifyddu sy’n berthnasol yn achos unigolion cofrestredig ac anghofrestredig. Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru'r grym i amrywio hyd cyfnod cyfrifyddu ar gais unigolyn neu ar ei liwt ei hun. Gallai grym o’r fath gael ei ddefnyddio, er enghraifft, pan fydd gweithredwr presennol safle tirlenwi yn gwneud cais i ddefnyddio cyfnodau cyfrifyddu ansafonol.

Talu treth – Diben ac effaith fwriadedig

3.104 Mae Adran 41 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar yr unigolyn sy’n gwneud

datganiad treth i dalu’r swm o dreth yn y datganiad hwnnw. Mae’r adran hon hefyd yn nodi’r dyddiad terfynol ar gyfer talu swm o’r fath. Mae’r ddarpariaeth hefyd yn nodi’r dyddiad talu ar gyfer swm o dreth a asesir o ganlyniad i ddiwygiad trethdalwr (o dan adran 41 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi). Mae Rhan 3 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn nodi’r rheolau ynghylch talu treth lle bu ymholiad, penderfyniad neu asesiad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

3.105 Ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ailadroddwyd dull y DU o dalu treth i raddau helaeth, gan fod hwn yn sicrhau ei bod yn ofynnol talu swm o dreth a nodir mewn datganiad treth ar neu cyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn yr un pan fydd y cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben.

Gohirio adennill – Diben ac effaith fwriadedig

3.106 Diben adran 43 yw gwneud diwygiadau penodol i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i’r darpariaethau gohirio adennill a fewnosodwyd yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi gan baragraff 60 Atodlen 22 Bil Treth

Page 30: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

30

Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (fel y’i cyflwynwyd)20 ac sy’n berthnasol i bob treth ddatganoledig. Esbonnir effaith y darpariaethau hynny fel y’u cyflwynwyd gan y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig yn y Nodiadau Esboniadol sy’n ategu’r Bil hwnnw21.

3.107 Dyma effaith y diwygiadau hyn:

- Bydd angen i Awdurdod Cyllid Cymru, wrth ystyried a ddylid caniatáu cais am ohiriad ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, wrth ddisgwyl adolygiad neu apêl gyntaf, ystyried y rhesymau pam mae’r sawl sy’n gwneud y cais yn meddwl y byddai adfer y swm yn achosi caledi ariannol. Bydd hyn yn ogystal â’r gofyniad i Awdurdod Cyllid Cymru ystyried a oes gan y sawl sy’n gwneud y cais am ohiriad sail resymol dros feddwl bod y swm o dreth y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol; sef y prawf ar gyfer pob treth ddatganoledig;

- Bydd angen, felly, i gais person am ohiriad esbonio pam y byddai adennill yn achosi caledi ariannol, yn ogystal ag elfennau’r cais sy’n gyffredin i bob treth ddatganoledig; ac

- Os bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn meddwl bod y sail resymol

neu’r prawf caledi ariannol wedi cael eu bodloni dim ond yng nghyswllt rhan o swm, gall ganiatáu cais am ohiriad o ran unrhyw ran o’r swm fel y mae’n meddwl sy’n briodol.

Rhan 4 – Gwarediadau trethadwy a wneir mewn lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.108 Mae deddfwriaeth LfT yn berthnasol i warediadau a wneir mewn safle tirlenwi awdurdodedig yn unig. Yn 2015, cyflwynodd yr Alban drethi ar warediadau heb awdurdod. Yn y cyfamser, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi bod yn codi Ardoll Dirlenwi ar warediadau heb awdurdod ers 200622.

Diben ac effaith fwriadedig 3.109 Mae rhanddeiliaid wedi bod yn awyddus i warediadau heb eu

hawdurdodi gael eu cynnwys yng nghwmpas y dreth ac mae’r darpariaethau hyn yn gwneud hynny, trwy alluogi Awdurdod Cyllid Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r LDT gael ei thalu ar warediadau mewn lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

20

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15873 21

http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld10748/pri-ld10748-w.pdf 22

OS 402/2006 Waste Management (Landfill Levy)(Amendment) Regulations 2006

Page 31: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

31

3.110 Bwriedir y darpariaethau fel mesur i atal achosion o efadu treth yn bennaf. Fe’u bwriedir i sicrhau bod gwarediadau heb awdurdod yn peri mwy o risg ariannol ac felly’n opsiwn llai deniadol i’r rhai sy’n cael eu temtio i anwybyddu eu hymrwymiadau amgylcheddol ac efadu treth. Mae’r darpariaethau, felly, yn ceisio ail-alinio’r cydbwysedd o risg fel bod goblygiadau gwneud gwarediadau heb eu hawdurdodi yn fwy na’r fantais dybiedig o efadu treth.

3.111 Er bod y darpariaethau hyn yn ategu’r gyfraith amgylcheddol a’r drefn orfodi bresennol, nid ydynt yn eu disodli. Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dal i fod yn gyfrifol am hynny. Ni fydd Awdurdod Cyllid Cymru, er enghraifft, yn gallu ei gwneud yn ofynnol adfer safleoedd gwastraff anawdurdodedig. Pan gaiff safleoedd gwastraff anawdurdodedig eu hadfer, gall cyfrifoldeb am y dreth godi ar gyfer y gwarediad heb ei awdurdodi ac ar gyfer unrhyw warediad dilynol mewn safle tirlenwi awdurdodedig.

3.112 Bydd y gyfradd dreth (y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi) yn cael ei phennu gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Y bwriad yw y bydd y gyfradd yn uwch na’r gyfradd safonol, er mwyn adlewyrchu effaith negyddol gynyddol gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi ar yr amgylchedd.

3.113 Sefydlir y ddyletswydd i dalu treth ar warediadau heb eu hawdurdodi trwy Awdurdod Cyllid Cymru yn cyflwyno hysbysiad codi treth i berson (neu fwy nag un person) sy’n bodloni’r amod ar gyfer codi treth, sef person a wnaeth y gwarediad neu a achosodd neu a ganiataodd i’r gwarediad gael ei wneud yn ymwybodol. Fel rheol, bydd hysbysiad rhagarweiniol yn cael ei gyflwyno cyn yr hysbysiad codi treth hwnnw, er na fydd angen i hynny ddigwydd pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn credu bod risg o golli treth.

3.114 Mewn cyd-destun lle gall fod yn anodd nodi unigolyn penodol sy’n gyfrifol am unrhyw warediad penodol heb ei awdurdodi, mae’n bwysig sicrhau y gellir gorfodi’r gyfradd gwarediadau heb awdurdod mewn ffordd effeithlon ac ymarferol. Mae’r darpariaethau’n hwyluso hyn mewn nifer o ffyrdd:

- gall fod yn ofynnol i unrhyw “feddyliau rheoli” sydd â chyfrifoldeb terfynol am warediadau heb awdurdod (gan eu bod yn cyfeirio neu’n rheoli eraill) dalu’r dreth, os canfyddir eu bod wedi achosi neu ganiatáu gwarediad yn ymwybodol;

- bydd personau penodol yn cael eu trin fel pe baent wedi achosi’n ymwybodol neu ganiatáu’n ymwybodol warediadau heb eu hawdurdodi, oni bai eu bod yn argyhoeddi Awdurdod Cyllid Cymru neu’r tribiwnlys fel arall. Dyma fydd yr achos o ran: person a oedd

Page 32: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

32

yn rheoli (neu a oedd mewn sefyllfa i reoli) cerbyd neu ôl-gerbyd y gwaredir gwastraff ohono; a thirfeddiannydd, lesddeiliad neu feddiannydd tir lle caiff gwarediad ei wneud; a

- phan fo mwy nag un person yn gyfrifol, bydd y ddau yn gyfrifol ar y cyd ac yn unigol am y dreth (felly gall Awdurdod Cyllid Cymru fynd ar drywydd un ohonynt neu bob un ohonynt am y rhwymedigaeth dreth lawn neu rannol).

Rhan 5 - Pennod 2 – Mannau nad ydynt at Ddibenion Gwaredu

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.115 Ar hyn o bryd, gall swyddogion CThEM ei gwneud yn ofynnol i ran o safle tirlenwi gael ei neilltuo fel “man gwybodaeth” at ddibenion LfT, mewn achosion lle nad yw deunydd mewn safle tirlenwi yn mynd i gael ei waredu fel gwastraff ac mae CThEM o’r farn bod risg i’r refeniw. Rhan o safle tirlenwi lle mae’n rhaid dodi deunydd nad yw’n cael ei waredu fel gwastraff yw man gwybodaeth, ac mae gofynion gwybodaeth a chadw cofnodion ynghlwm wrth y fan honno (er enghraifft, gofyn am bwysau a disgrifiad o’r deunydd sy’n cyrraedd a gadael y man, ei ddefnydd bwriadedig ar ôl cael gwared arno ac ati). Effaith peidio â chydymffurfio â gofyniad i fod â man gwybodaeth neu fethu â bodloni’r gofynion sy’n gysylltiedig â man gwybodaeth yw y bydd y defnydd neu’r gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni yn cael ei drin fel gwarediad trethadwy ac y bydd treth yn ddyledus ar y deunydd sy’n gysylltiedig â’r gweithgarwch hwnnw.23

3.116 Ailadroddwyd y ddeddfwriaeth i raddau helaeth yn yr Alban, ond newidiwyd y term a ddefnyddir i ddisgrifio man gwybodaeth i “man nad yw at ddibenion gwaredu”.

Diben ac effaith fwriadedig

3.117 Mae’r Bil yn ailadrodd y dull yn yr Alban trwy newid enw man gwybodaeth i fan nad yw at ddibenion gwaredu. Mae’r Bil yn nodi y gall Awdurdod Cyllid Cymru neilltuo rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru fel man nad yw at ddibenion gwaredu, y broses ar gyfer neilltuo man o’r fath, y gofynion sy’n gysylltiedig â man o’r fath, a goblygiadau methu â bodloni’r gofynion hynny. Nod y newidiadau yw g wneud y system yn fwy tryloyw ac ymarferol.

3.118 Y diben sy’n sail i’r darpariaethau yw cydnabod bod amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd ar safle tirlenwi. Er enghraifft, storio deunyddiau ar gyfer adfer safle, ailbrosesu a didoli deunyddiau cyn eu

23

Gorchymyn Treth Dirlenwi (Gweithgarwch Rhagnodedig) 2009, Erthygl 3(1)(h)

Page 33: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

33

symud ymlaen i’w hailddefnyddio, ailgylchu neu waredu (llosgi, er enghraifft), na fyddai’n briodol eu trin fel gwarediadau trethadwy, cyn belled ag y bo gan yr awdurdod treth ddealltwriaeth dda o ba ddeunyddiau sy’n cael eu lleoli ymhle, am ba hyd ac at ba ddiben. Bwriedir i’r darpariaethau roi gwybodaeth a sicrwydd i Awdurdod Cyllid Cymru ynghylch pa weithgareddau sy’n cael eu cyflawni ar safle tirlenwi sy’n warediadau trethadwy a pha weithgareddau anhrethadwy sy’n cael eu cyflawni. Mae hyn yn bwysig er mwyn caniatáu i’r dreth gael ei chasglu a’i rheoli’n effeithlon.

3.119 Wrth ystyried neilltuo man nad yw at ddibenion gwaredu, rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn trafod cynnwys hysbysiad neilltuo gyda gweithredwr safle tirlenwi a bydd disgwyl i weithredwr y safle tirlenwi ddangos y byddai’r man nad yw at ddibenion gwaredu yn cael ei weithredu’n unol â’i drwydded amgylcheddol ac unrhyw amodau cynllunio.

3.120 Pan fo deunydd wedi cael ei adael mewn man nad yw at ddibenion gwaredu yn hwy na’r terfyn amser, mae’r Bil yn cynnig y bydd hwn yn cael ei ystyried yn warediad trethadwy. Mae rhanddeiliaid yn croesawu’r dull hwn fel ffordd arall o annog gweithredwyr i beidio â storio deunyddiau am gyfnod penagored.

3.121 Mae’r Bil yn cynnig cymhwyso cosb am dorri unrhyw ofynion mewn perthynas man nad yw at ddibenion gwaredu.

Rhan 5 - Pennod 3 - Ymchwilio a Gwybodaeth Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.122 Diben y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yw cyflwyno’r fframwaith cyfreithiol sy’n angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Yn benodol, mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer ymchwiliad sifil cynhwysfawr a phwerau gorfodi, gan gynnwys pwerau sy’n caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru ofyn am wybodaeth a dogfennau a chael mynediad i safleoedd a mannau eraill ac archwilio’r safleoedd a’r mannau hynny.

3.123 Mae’r pwerau ymchwilio a ddarperir yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru ymchwilio i rwymedigaeth i dreth lle bo’n amau cywirdeb hunanasesiad treth. Gall Awdurdod Cyllid Cymru fynd i safleoedd busnes i asesu’r rhwymedigaeth i dreth trwy archwilio dogfennau ac ati.

3.124 Mae trefn drethi Cymru yn cael ei chynllunio i gefnogi cydymffurfiaeth trethdalwyr. Bydd adegau pan fydd angen mesurau ychwanegol i ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio tybiedig.

Page 34: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

34

3.125 Heb bwerau ymchwilio sifil, bydd unrhyw gosbau sy’n gysylltiedig ag osgoi treth yn aneffeithiol, gan na fydd y cosbau’r a’r rhwymedigaethau treth yn atal pobl rhag ei hosgoi oni bai y bydd unigolyn yn credu y bydd yn cael ei ‘ddal’ a’i wneud yn gyfrifol am ei rwymedigaeth treth lawn.

Pwerau archwilio - Diben ac effaith fwriadedig

3.126 Efallai y bydd angen i Awdurdod Cyllid Cymru archwilio safle busnes trydydd parti er mwyn canfod rhwymedigaeth treth gweithredwr safle tirlenwi. Er enghraifft, efallai y bydd Awdurdod Cyllid Cymru mewn anghydfod gyda gweithredwr y safle tirlenwi ynghylch pa warediadau sydd wedi eu gwneud. Efallai y bydd gan y cludydd gwastraff gofnodion yn ymwneud â faint o wastraff sydd wedi cael ei ddodi yn y safle tirlenwi, a disgrifiad o’r gwastraff hwnnw, a fydd yn cynorthwyo Awdurdod Cyllid Cymru i ddatrys yr anghydfod. Pan fydd y trydydd parti yn penderfynu peidio â chydweithredu ag Awdurdod Cyllid Cymru ac yn gwrthod caniatáu iddo archwilio, mae’r darpariaethau hyn yn ymestyn y pwerau yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi a byddent yn caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru asesu a chyflwyno cosbau ar y trydydd parti am wrthod cydweithredu.

3.127 Mae’r pwerau ymchwilio yn ymwneud â gwarediadau heb eu hawdurdodi yn angenrheidiol gan y rhagwelir y bydd y rhai sy’n gwaredu heb awdurdod yn amharod i gydweithredu ag ymchwiliad i ganfod eu rhwymedigaeth o ran treth. Fodd bynnag, lle bu gwarediad heb ei awdurdodi ar safle preifat ac nad yw’r perchennog (ac ati) wedi ‘troi llygad ddall’, byddem yn disgwyl iddo gydweithredu â'r ymchwiliad; i gynorthwyo i ddod o hyd i’r troseddwyr a chynorthwyo i symud y gwastraff o’i dir. Fodd bynnag, pan fo perchennog wedi ‘troi llygad ddall’, gallai fod angen i Awdurdod Cyllid Cymru ddefnyddio pwerau ymchwilio i fynd ar y safle (nad yw’n safle busnes o bosibl) er mwyn ymchwilio i’r rhwymedigaeth o ran treth.

Datgelu gwybodaeth - Diben ac effaith fwriadedig

3.128 Er mwyn i Awdurdod Cyllid Cymru allu arfer ei swyddogaethau casglu a rheoli trethi yn effeithiol, mae’n bosibl y bydd yn gweld gwybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddefnyddiol; y cyrff hyn sy’n debygol o nodi pryd y bu gwarediad heb awdurdod, trwy arfer eu swyddogaethau amgylcheddol. Yn gyffredinol, ni fyddem yn disgwyl i Awdurdod Cyllid Cymru ofyn am wybodaeth gan y cyrff hyn o ran gwarediadau awdurdodedig, gan y dylai dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno gan y trethdalwr yn uniongyrchol, drwy hunanasesiad er enghraifft. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau, wrth asesu rhwymedigaeth i dreth, pan fydd ar Awdurdod Cyllid Cymru angen gwybodaeth a gedwir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r drwydded amgylcheddol neu’r awdurdod lleol o ran caniatâd cynllunio, er enghraifft.

Page 35: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

35

3.129 Pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdurdod lleol yn ystyried rhannu

gwybodaeth gydag Awdurdod Cyllid Cymru, rhaid i’r wybodaeth a rennir beidio mynd yn groes i Ddeddf Diogelu Data 1998 neu Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2016.

3.130 Mae darpariaethau sy’n llywodraethu pryd y gall Awdurdod Cyllid Cymru rannu gwybodaeth trethdalwyr wedi’u cynnwys yn Rhan 2 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. Mae’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn caniatáu Awdurdod Cyllid Cymru i ddefnyddio a rhannu’r wybodaeth, cyhyd ’i fod yn gwneud hynny mewn cysylltiad swyddogaeth yr Awdurdod (hy casglu a rheoli trethi) oni bai bod yr wybodaeth honno yn wybodaeth am drethdalwr a ddiogelir (a ddiffinnir yn adran 17 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi). Yn yr achos hwnnw, mae rheolau llymach ynghylch yr amgylchiadau pan allai Awdurdod Cyllid Cymru ei datgelu, a chaiff y rhain eu nodi yn adran 18 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.

Rhan 5 - Pennod 4 - Cosbau o dan y Ddeddf Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.131 Mae darpariaeth briodol ar gyfer cosbau yn ofynnol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth. Mae’n bwysig fod y cosbau’n ddigonol i atal diffyg cydymffurfiaeth ond hefyd yn deg a chymesur o dan yr amgylchiadau. Bydd y defnydd o gosbau yn helpu i ddiogelu’r refeniw treth ac, yn sgil hynny, y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

3.132 Mae’r ddeddfwriaeth LfT bresennol yn gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer cosbau o ran diffyg cydymffurfiaeth gweithredwr safle tirlenwi â'r dyletswyddau a orfodir gan ddeddfwriaeth LfT.

Diben ac effaith fwriadedig

3.133 Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer nifer fach o gosbau newydd. O ran y rhan fwyaf o’r cosbau o dan y Bil, mae’n rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru wneud asesiad o’r gosb o fewn y cyfnod o flwyddyn yn cychwyn ar y diwrnod pan oedd yn credu gyntaf fod yr unigolyn wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol. O ran y gosb cofrestriad diofyn beunyddiol, caiff y gosb ei hasesu o fewn y cyfnod o flwyddyn sy’n cychwyn ar y diwrnod y mae’r gost yn ymwneud ag ef.

3.134 Caiff y cosbau canlynol eu creu sy’n berthnasol i safleoedd tirlenwi awdurdodedig, a gweithredwr y safle tirlenwi sy’n gyfrifol:

- Methiant i bennu pwysau yn gywir. Gallai cosb o’r fath ddeillio o

fethiant i weithredu dull pwyso a gytunwyd.

Page 36: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

36

- Cymhwyso disgownt dŵr yn anghywir. Gallai cosb o’r fath godi

pan fydd gweithredwr yn cymhwyso disgownt heb gael cymeradwyaeth i wneud hynny, neu pan fo’r gweithredwr yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt cymeradwy.

- Methiant i gofrestru ag Awdurdod Cyllid Cymru fel person sy’n

cyflawni gweithrediadau trethadwy, gyda’r posibilrwydd o gosbau pellach os bydd y methiant hwnnw’n parhau; a

- Methiant i gydymffurfio â gofynion hysbysiad sy’n neilltuo

man nad yw at ddibenion gwaredu ar safle tirlenwi neu’r gofynion cadw cofnodion sy’n gysylltiedig â’r man nad yw at ddibenion gwaredu.

3.135 Mae’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn adrannau 69 i 72 oll yn berthnasol i gosbau o dan Bennod 4 Rhan 5 o’r Bil.

3.136 Mae’n rhaid talu cosbau o dan y Bil o fewn 30 diwrnod fan bellaf, yn cychwyn ar y diwrnod pan gyflwynir yr hysbysiad cosb.

3.137 Nid yw rhwymedigaeth i gosb yn codi os bydd unigolyn wedi derbyn euogfarn yng nghyswllt trosedd yn ymwneud â’r gosb.

3.138 Os bydd gweithredwr safle tirlenwi wedi marw, gellir asesu unrhyw gosb a allai fod wedi ei hasesu ar y gweithredwr ar gynrychiolwyr personol y gweithredwr.

3.139 Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau a maint cosbau o dan Bennod 4 y Rhan hon o’r Bil.

3.140 Cydnabyddir fod y rhan fwyaf o drethdalwyr yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau treth. Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau pan nad yw hyn yn wir, ac y bydd diffyg cydymffurfiaeth â’r drefn dreth. Diben y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw codi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac i annog arferion rheoli gwastraff gwell. Mae’n bwysig felly bod cosbau ar waith i atal diffyg cydymffurfiaeth yn y lle cyntaf ac i sicrhau ei fod yn cael sylw (os yw’n digwydd) mewn ffordd sy’n deg a chymesur. Mae’r Bil yn ceisio darparu deddfwriaeth eglur a chydlynol yn hyn o beth. Mae deddfwriaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn nodi’n eglur y dyletswyddau y dylid cydymffurfio â hwy a goblygiadau unrhyw fethiant i gydymffurfio.

Page 37: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

37

Rhan 5 - Pennod 5 - Cosbau ychwanegol o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.141 Ceir cosbau sy’n bodoli eisoes yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 22 i’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig) ac mae’r darpariaethau yn adrannau 73 i 75 yn diwygio’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi fel bod y cosbau presennol hyn yn ymarferol yng nghyd-destun y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Diben ac effaith fwriadedig

3.142 Mae’r Bil yn diwygio’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi ac yn darparu ar

gyfer cosbau mwy o faint:

- os bydd unigolyn yn methu â gwneud datganiadau LDT ychwanegol yn brydlon yn unol â chyfnod cosb penodedig. Yn yr achos hwn, mae cyfnod cosb yn cychwyn y diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r datganiad treth; ac

- os bydd unigolyn un methu â thalu symiau pellach o LDT yn

brydlon yn unol â chyfnod cosb penodedig. Yn yr achos hwn, mae cyfnod cosb yn un sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl dyddiad y gosb.

3.143 Yn y ddau achos, bydd cyfnod y gosb yn dod i ben flwyddyn yn

ddiweddarach oni bai fod y cyfnod yn cael ei ymestyn.

3.144 Mae adran 74 yn diwygio adran 122 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 22 i’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig) i wneud darpariaeth mai 1% o gyfanswm y dreth sydd heb ei thalu yw maint y gosb o ran methiant i dalu LDT yn brydlon.

Rhan 5 - Pennod 6 - Achosion Arbennig

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.145 Mae deddfwriaeth bresennol LfT ac SLfT yn gwneud darpariaeth debyg o ran triniaeth grwpiau o gwmnïau, partneriaethau a chyrff anghorfforedig a pherson sy’n gweithredu busnes tirlenwi gweithredwr o dan amgylchiadau penodedig.

Page 38: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

38

Grwpiau Corfforaethol - Diben ac effaith fwriadedig

3.146 Gall Awdurdod Cyllid Cymru neilltuo dau neu ragor o gyrff corfforaethol

fel grŵp at ddibenion LDT. Effeithiau neilltuo grŵp yw y bydd aelod cynrychiadol y grŵp yn cael ei drin at ddibenion LDT fel gweithredwr safle tirlenwi pob safle tirlenwi awdurdodedig a weithredir gan aelodau’r grŵp. Yn unol â hynny, mae’n rhaid i swm o dreth, cosb neu log (“swm perthnasol”) y byddai’n ofynnol i aelod o’r grŵp ei dalu fel arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu na wneir tra’n aelod o’r grŵp gael ei dalu yn hytrach gan yr aelod cynrychiadol. Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth bellach o ran atebolrwydd cyd ac unigol aelodau grŵp pan fo swm perthnasol heb ei dalu ar ôl y dyddiad gofynnol ar gyfer derbyn y taliad gan yr aelod cynrychiadol.

3.147 Mae darpariaeth o’r fath yn cynnig cyfleustod gweinyddol i gwmnïau a reolir gan yr un person. Mae hyn gan fod yr aelod cynrychiadol yn cyfrifyddu ar gyfer y dreth sy’n daladwy o ran yr holl safleoedd tirlenwi a weithredir gan aelodau’r grŵp mewn un datganiad treth.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig - Diben ac effaith fwriadedig

3.148 Cyfrifoldeb corff corfforaethol fydd y gwahanol ofynion gweinyddol a fydd yn cael eu gorfodi ar weithredwr safle tirlenwi gan y Bil fel rheol. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion pan fydd partneriaeth (o ddau neu fwy o bersonau anghorfforedig) neu gorff anghorfforedig yn penderfynu gweithredu busnes tirlenwi ac felly’n gwneud cais i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru cyn ymgymryd â gweithrediadau trethadwy. Gallai corff anghorfforedig gynnwys clwb neu gymdeithas, ac nid oes ganddynt hunaniaeth gyfreithiol.

3.149 Mae’r Bil yn nodi’r person(au) mewn partneriaeth neu gorff anghorfforedig sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth â darpariaethau perthnasol LDT. Hefyd, mae’r Bil yn darparu y bydd partneriaid mewn partneriaeth neu aelodau mewn corff anghorfforedig yn atebol ar y cyd ac yn unigol am swm perthnasol (ceir esboniad o “swm perthnasol” ym mharagraff 3.140 uchod) dim ond o ganlyniad i unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud neu na wnaed, os oeddent yn aelod neu’n bartner ar yr adeg yr oedd yn ofynnol gwneud y peth neu na chafodd ei wneud. Er enghraifft, bydd person a oedd yn bartner ar yr adeg y gwnaed gwarediad trethadwy yn atebol ar y cyd ac yn unigol am gyfanswm y dreth sy’n daladwy ar y gwarediad hwnnw.

Page 39: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

39

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid

Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd - Diben ac effaith fwriadedig

3.150 Mae’n bwysig fod mecanweithiau ar waith o fewn y ddeddfwriaeth LDT i sicrhau, os bydd gweithredwr safle tirlenwi cofrestredig yn dod yn analluog, yn destun achos ansolfedd neu’n marw, y gellir trin y sawl sy’n rhedeg y busnes hwnnw fel gweithredwr cofrestredig y safle tirlenwi.

3.151 Trwy wneud hynny, bydd yn ofynnol i’r sawl sy’n rhedeg y busnes gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth LDT a bydd yn cael ei drin fel mai ef yw gweithredwr y safle tirlenwi.

3.152 Ni fydd yn ofynnol i’r sawl sy’n rhedeg y busnes gofrestru ag Awdurdod Cyllid Cymru.

3.153 Os na fydd gweithredwr y safle tirlenwi yn analluog neu’n destun achos ansolfedd mwyach; neu os na fydd y sawl a oedd wedi bod yn rhedeg y busnes tirlenwi yn parhau i wneud hynny, mae’n rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru roi’r gorau i drin yr unigolyn hwnnw fel gweithredwr y safle tirlenwi at ddibenion LDT.

Pŵer i wneud darpariaethau ynghylch trosglwyddo busnes fel busnes gweithredol - Diben ac effaith fwriadedig

3.154 Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau i sicrhau cymhwysiad parhaus y Bil hwn a’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi pan fydd busnes yn cael ei drosglwyddo o un person i un arall fel busnes gweithredol. Pan drosglwyddir busnes fel busnes gweithredol, mae’n arferol i gofnodion, rhwymedigaethau ac asedau gael eu trosglwyddo i’r perchennog newydd. Felly, bydd unrhyw ddarpariaethau o’r fath a fyddai’n cael eu gwneud mewn rheoliadau yn ceisio darparu hwylustod gweinyddol i’r busnes dan sylw ac i Awdurdod Cyllid Cymru. Er enghraifft, caiff Awdurdod Cyllid Cymru wneud darpariaethau fel y gall, o dan amgylchiadau penodol, gofrestru perchennog newydd y busnes â’r rhif cofrestru a neilltuwyd i’r perchennog blaenorol.

Page 40: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

40

Rhan 5 - Pennod 7 – Amrywiol

Addasu Contractau

Cefndir a’r sefyllfa bresennol

3.155 Mae LfT ac SLfT yn gwneud darpariaeth ar gyfer addasu contractau

mewn deddfwriaeth. Mae adran 27 o Ddeddf Treth Dirlenwi (Yr Alban) 2014 (sydd wedi ailadrodd paragraff 45 o Atodlen 5 i Ddeddf Cyllid 1996) yn darparu, pan fo contract ar waith ar gyfer gwaredu deunydd trwy dirlenwi a bod y sefyllfa dreth yn newid o ran y deunydd hwnnw (er enghraifft, fel bod swm y dreth sy’n daladwy yn newid), yna bydd unrhyw daliad yn ymwneud â gwaredu’r deunydd hwnnw yn cael ei addasu (oni bai fod y contract yn darparu fel arall) i adlewyrchu’r newid.

3.156 Mae hyn yn sicrhau nad yw contractwyr a gweithredwyr safleoedd tirlenwi o dan anfantais o ganlyniad i gynnydd mewn treth nad yw’n cael ei adlewyrchu mewn contractau hanesyddol.

Diben ac effaith fwriadedig

3.157 Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth debyg i honno yn y DU a’r Alban i sicrhau effaith debyg.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

3.158 Mae adran 90 o’r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn darparu cyllid grant er budd cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan warediadau tirlenwi a gweithgarwch paratoadol wrth wneud gwarediadau tirlenwi (er enghraifft cymunedau a effeithir gan orsafoedd trosglwyddo gwastraff). Mae’r adran yn pennu bod yn rhaid i’r cynllun gael ei adolygu o leiaf unwaith mewn cyfnod o 4 blynedd, ac yna pob 4 blynedd yn dilyn yr adolygiad ac yn dilyn ymgynghoriad ag unigolion priodol. Gellir adolygu neu ddiddymu’r cynllun yn dilyn adolygiad, ond ni ellir diddymu’r cynllun yn y 4 blynedd gyntaf. Os caiff cynllun ei adolygu, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynllun diwygiedig a gosod y cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Page 41: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

41

Rhan 6 – Darpariaethau Terfynol

3.159 Mae’r Darpariaethau Terfynol yn cynnwys ystyr termau allweddol y

cyfeirir atynt trwy gydol y Bil, y weithdrefn is-ddeddfwriaeth i’w defnyddio o ran y pwerau amrywiol a neilltuir drwy’r Bil ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, ategol, drosiannol, ddarfodol neu arbed i roi effaith i ddarpariaethau a wneir gan y Bil neu o dan y Bil.

Atodlen 1 - Deunydd Cymwys

3.160 Caiff yr atodlen hon ei chyflwyno gan adran 15 ac mae’n nodi’r

deunyddiau a’r amodau (os o gwbl) y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth isaf.

Atodlen 2 - Yr hyn sydd i’w gynnwys yn y gofrestr

3.161 Cyflwynir yr atodlen hon gan adran 33(3) ac mae’n cyflwyno’r

wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yng nghofnod person yn y gofrestr (i’w chadw gan Awdurdod Cyllid Cymru). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth benodol am enw person, cyfeiriad busnes a’r rhif cofrestru a neilltuwyd i’r person gan Awdurdod Cyllid Cymru. Os bydd y person cofrestredig yn aelod cynrychiadol partneriaeth neu grŵp o gyrff corfforaethol, yna, ymhlith pethau eraill, mae’n rhaid i’r cofnod yn y gofrestr gynnwys datganiad o’r ffaith honno.

Atodlen 3 - Yr hyn sydd i’w gynnwys ar anfoneb dirlenwi

3.162 Mae adran 40 o’r Bil yn cyflwyno’r syniad o anfoneb dirlenwi. Mae’r

atodlen hon a gyflwynir gan yr adran honno yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn anfoneb dirlenwi at ddibenion yr adran honno. Mae’n rhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys (ymhlith pethau eraill) y dyddiad y cyflwynir yr anfoneb; enw a chyfeiriad y sawl sy’n cyflwyno’r anfoneb ac enw a chyfeiriad y sawl y cyflwynir yr anfoneb iddo.

3.163 Diben y darpariaethau hyn yw rheoleiddio’r anfoneb y gellir ei chyflwyno er mwyn i’r gweithredwr fanteisio ar y rheol 14 diwrnod. Bydd hyn yn sicrhau bod yr anfoneb yn cofnodi’r holl fanylion sydd eu hangen gan Awdurdod Cyllid Cymru a bod yr wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi at ddibenion gwneud yr asesiad cywir o dreth.

Page 42: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

42

Atodlen 4 - Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

3.164 Mae Atodlen 4 i’r Bil yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, at ddibenion gweithredu’r LDT.

Diben ac Effaith Fwriadedig - Crynodeb

Ar bwy y mae’r Bil yn effeithio?

3.165 Fel yr LfT bresennol a’r SLfT, mae gan yr LDT ddau brif amcan

amgylcheddol: sicrhau bod gwarediad mewn safleoedd tirlenwi yn cael ei brisio’n briodol i adlewyrchu ei gost amgylcheddol; a hyrwyddo dull mwy cynaliadwy o reoli gwastraff lle cynhyrchir llai o wastraff ac y mae mwy o wastraff naill ai’n cael ei ailddefnyddio neu y caiff gwerth ei adfer ohono. Hynny yw, ei nod yw lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi ac annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff. Telir y dreth gan weithredwyr safle tirlenwi sy’n adennill costau gan weithredwyr gwastraff trwy eu ffioedd clwyd. Gallai’r Bil hwn effeithio felly ar y bobl hynny sy’n gwaredu gwastraff neu sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gwastraff, neu â rhyw gysylltiad ag ef.

3.166 Mae’r Bil hefyd yn cynnig codi treth ar warediadau gwastraff heb eu

hawdurdodi lle bydd unrhyw unigolyn sy’n achosi neu’n caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud yn ymwybodol, yn gyfrifol am dalu’r dreth.

3.167 Bydd y Bil hefyd yn effeithio ar Awdurdod Cyllid Cymru fel yr awdurdod casglu a rheoli trethi ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Mae’r Bil yn nodi pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r paramedrau y gall ef ac unrhyw bartneriaid dirprwyedig weithredu’n unol â hwy. Er enghraifft, Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gwneud gwaith cydymffurfio a gorfodi ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi o dan ddirprwyaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.

3.168 Caiff effaith bosibl cynigion y Bil ei harchwilio’n fanwl yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cynllun gweithredu a chyflenwi

3.169 Nodir y strwythur treth a’r trefniadau ar gyfer sut y bydd yn cael ei gweinyddu yn y Bil. Mae’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth a chaiff y pwerau hyn eu crynhoi yn Nhabl 4 y Memorandwm Esboniadol hwn.

Page 43: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

43

3.170 Rhagwelir y bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar ddiwrnod neu ddiwrnodau y mae Gweinidogion Cymru yn ei benodi trwy orchymyn a wneir gan offeryn statudol.

Risgiau os na chaiff y ddeddfwriaeth ei gwneud

3.171 Os na chaiff y Bil ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu nad yw’n derbyn Cydsyniad Brenhinol, ni fydd modd i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ddod i rym. Byddai anallu neu oedi o ran gwneud y ddeddfwriaeth LDT yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU i adolygu’r dyddiad arfaethedig ar gyfer datganoli LfT i Gymru, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Ebrill 2018. Byddai anallu neu oedi o’r fath yn effeithio ar arbedion maint y ddarpariaeth o waith casglu a rheoli trethi gan Awdurdod Cyllid Cymru, gan ei fod yn cael ei sefydlu ar y sail o ddarparu dwy dreth ddatganoledig (y Dreth Trafodiadau Tir yw’r llall).

3.172 Gallai unrhyw oedi rhwng ‘diffodd’ LfT a chyflwyno treth newydd arwain at ganlyniadau arwyddocaol i’r diwydiant gwastraff; faint o gyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; a pholisïau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Nodir canlyniadau peidio â chael treth i ddisodli’r LfT yn fanylach yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Rhychwant tiriogaethol

3.173 Mae’r Bil yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Amserlen y cyfnod pontio

3.174 Ystyrir y bydd cyfnod gweithredu o chwe mis o leiaf cyn cyflwyno’r LDT

ym mis Ebrill 2018 yn briodol i greu’r prosesau angenrheidiol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer pontio’n ddidrafferth i’r LDT. Mae’r amserlen hon wedi’i seilio ar brofiad Llywodraeth yr Alban wrth sefydlu Cyllid yr Alban a gweithredu’r SLfT.

3.175 Disgwylir cyhoeddiad ynghylch cyfraddau treth yn ystod hydref 2017 a bydd yr LDT yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Ebrill 2018.

Page 44: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

44

Pennod 4: Ymgynghori

Ymgynghori ar gynigion ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi

4.1 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad24 Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi ar 24 Chwefror 2015. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion i helpu i lywio'r polisi a'r strwythur ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”). Bydd LDT yn disodl'r Dreth Dirlenwi (“LfT”) ym mis Ebrill 2018 pan fydd LfT yn cael ei ddatganoli i Gymru.

4.2 Yr ymgynghoriad ar Dreth Gwarediadau Tirlenwi oedd y trydydd ymgynghoriad mewn cyfres o ymgyngoriadau gan Lywodraeth Cymru a oedd yn edrych ar ddatblygu trefniadau trethu datganoledig yng Nghymru. I baratoi ar gyfer datganoli trethi, yn y lle cyntaf fe ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y trefniadau casglu a rheoli trethi. Roedd hynny ym mis Medi 201425. Mae'r materion a drafodwyd yn yr ymgynghoriad hwnnw a darpariaethau dilynol Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn cysylltu'n uniongyrchol â datblygu LDT a'r Dreth Trafodiadau Tir (“LTT”) arfaethedig26. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch datblygu LTT, a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru, hefyd yn ystod gwanwyn 201527.

Ymatebion i'r ymgynghoriad

4.3 Cafwyd bron 300 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar LDT a ddaeth i ben ar 19 Mai 2015. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Medi 201528. Daeth yr ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Cafwyd cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau a oedd yn cynrychioli sectorau yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys y

24

Mae'r ddogfen Ymgynghoriad Treth Gwarediadau Tirlenwi - crynodeb o'r ymatebion (Medi 2015) ar gael yn: http://gov.wales/betaconsultations/finance/landfill-disposals-tax/?lang=cy 25

Mae Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru - Crynodeb o'r ymatebion (Chwefror

2015) ar gael yn: Error! Hyperlink reference not

valid.https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/casglu-rheoli-trethi-datganoledig-

yng-nghymru 26

Cyflwynwyd Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Medi 2016. Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyflwyno LTT. Mae gwybodaeth ynghylch y Bil ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15873 27

Mae'r ddogfen ymgynghori Datganoli Trethi i Gymru - Treth Trafodiadau Tir (Chwefror 2015) a'r crynodeb o'r ymatebion (Medi 2015) ar gael yn: http://gov.wales/docs/caecd/consultation/150210-land-transaction-tax-cy.pdf 28

Mae'r ddogfen Ymgynghoriad Treth Gwarediadau Tirlenwi - crynodeb o'r ymatebion (Medi 2015) ar gael yn: http://gov.wales/betaconsultations/finance/landfill-disposals-tax/?skip=1&lang=cy

Page 45: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

45

diwydiant gwastraff, cyrff amgylcheddol a'r trydydd sector, yn ogystal ag arbenigwyr ym maes trethi.

4.4 Fel rhan o'r ymgynghoriad, cafodd Llywodraeth Cymru 138 o lythyrau gan aelodau o Ymddiriedolaethau Natur Cymru a oedd o blaid dyrannu cyfran o refeniw LDT i gefnogi prosiectau bioamrywiaeth.

4.5 Mae Tabl 3 yn dangos nifer yr ymatebion yn ôl categori ymatebwyr.

Tabl 3: Dadansoddiad o'r ymatebion yn ôl Categori Ymatebwyr

Categori ymatebwyr

Nifer %*

Busnesau

17 6

Sefydliadau Amgylcheddol

4 1

Unigolion

68 24

Gweithwyr proffesiynol ym meysydd y Gyfraith, Trethi a Chyfrifyddiaeth

4 1

Awdurdodau Lleol a Chynghorau Tref

8 3

Pleidiau Gwleidyddol

1 1

Cymdeithasau a Chyrff Proffesiynol

9 3

Cyrff Cyhoeddus

1 1

Y Trydydd Sector

29 10

Llythyrau oddi wrth Ymddiriedolaethau Natur Cymru

138 49

Cyfanswm

279 100%

*Mae'r canrannau wedi'u talgrynnu i fyny i'r rhif cyfan agosaf.

4.6 Roedd yn bosibl i'r ymatebwyr gyflwyno'u barn a'u sylwadau ar bapur neu ar-lein, naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg. Rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad ar y cyfryngau digidol, mewn cylchlythyrau ac mewn cyhoeddiadau eraill.

Page 46: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

46

4.7 Cynhaliodd Llywodraeth Cymru nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 23 Ebrill 2015 ac yn Llandudno ar 29 Ebrill 2015. Yn ogystal, aeth swyddogion i arsylwi rhai o brosiectau'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi a chyfarfod panel corff amgylcheddol dosbarthu.

4.8 Yn ystod y broses ymgynghori ac wrth ddatblygu'r polisi, cynhaliwyd trafodaethau gyda sawl rhanddeiliad yn ystod cyfarfodydd grwpiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Grŵp Cynghorol Trethi Cymru29, y Fforwm Trethi30 a Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT. Cynhaliwyd trafodaethau gyda'r grŵp rhanddeiliaid gweithredwyr safleoedd tirlenwi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd. Ar hyn o bryd, ceir 25 o safleoedd tirlenwi a 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Mae'r grŵp rhanddeiliaid gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o'r busnesau hyn. Mae Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a gweithwyr proffesiynol ym maes trethi, ymysg eraill. Sefydlwyd y grŵp i gyfoethogi dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o 'r ffordd y caiff LfT ei gymhwyso yn ymarferol, drwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd aelodau'r grŵp.

4.9 Bu'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r digwyddiadau ymgysylltu o gymorth mawr i dynnu sylw at feysydd lle bydd yn bwysig sicrhau cysondeb â'r trefniadau yng ngweddill y DU; a meysydd lle ceir cyfleoedd i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth gyfredol a'i gwneud yn fwy eglur, ac i wneud newidiadau sy'n adlewyrchu amgylchiadau ac anghenion Cymru'n well.

4.10 Daeth nifer o themâu allweddol i'r amlwg yn sgil yr ymgynghori:

- symud yn esmwyth o un drefn i'r llall, gan sicrhau nad yw'r newid yn amharu dim mwy na sydd rhaid ar drethdalwyr;

- eglurder, a rhoi sylw i feysydd sy'n peri dryswch ar hyn o bryd;

- sefydlogrwydd a sicrwydd a fydd yn sail i gynlluniau busnes a buddsoddiadau, yn enwedig o ran sicrhau nad oes gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfraddau trethi Cymru a chyfraddau trethi Lloegr;

- fframwaith cydymffurfio a gorfodi cadarn, gyda chefnogaeth gref i gynnwys gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth;

29 Mae gwybodaeth ynghylch Grŵp Cynghorol Trethi Llywodraeth Cymru ar gael yn: http://gov.wales/funding/fiscal-reform/tax-policy-development/tax-advisory-group/?skip=1&lang=cy 30 Mae gwybodaeth ynghylch Fforwm Trethi Llywodraeth Cymru ar gael yn: http://gov.wales/funding/fiscal-reform/tax-policy-development/tax-forum/?skip=1&lang=cy

Page 47: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

47

- cefnogaeth i fentrau llesiant cymunedol sy'n hybu gwelliannau amgylcheddol, gan gynnwys bioamrywiaeth a lleihau gwastraff; a

- system weinyddol syml, fodern a chosteffeithiol.

4.11 Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd â manylion yr holl ymatebion a gafwyd, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru31.

Ymgynghori ac ymgysylltu ychwanegol gyda rhanddeiliaid

4.12 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru, drwy gyfarfodydd rheolaidd y grŵp rhanddeiliaid gweithredwyr safleoedd tirlenwi a sefydlwyd yn 2015. Mae’r cyfarfodydd wedi galluogi swyddogion Llywodraeth Cymru i ddod i ddeall sut mae LfT yn gweithio o safbwynt ymarferol, fel sail i'r gwaith o ddatblygu polisi LDT. Maent hefyd wedi darparu cyfle i brofi'r dull deddfwriaethol arfaethedig ac i dynnu sylw at unrhyw wahaniaethau rhwng LDT ac LfT.

4.13 I helpu i lywio’r polisi a'r cynigion deddfwriaethol ar gyfer LDT, aeth swyddogion o Lywodraeth Cymru i ymweld â safleoedd tirlenwi cynrychiadol, gan gynnwys:

- safle tirlenwi masnachol (sy'n cymryd gwastraff masnachol a gwastraff trefol);

- safle tirlenwi preifat (sy'n delio â'i wastraff ei hun); a

- safle tirlenwi sy'n cael ei redeg gan awdurdod lleol (sy'n delio'n bennaf â gwastraff a gesglir gan yr awdurdod lleol).

4.14 Roedd y gwaith ymgysylltu hwn hefyd yn cynnwys cwrdd â thimau cyllid gweithredwyr safleoedd tirlenwi mewn pencadlys i weld sut mae LfT yn cael ei gweinyddu. Yn ogystal, mae swyddogion wedi ymweld â gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a safleoedd gwastraff anghyfreithlon.

4.15 Mae gwaith wedi cael ei gynnal gyda rhanddeiliaid i helpu i lywio datblygiad cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi. Cynhaliwyd gweithdy ym mis Rhagfyr 2015 gyda’r nod o bennu’r egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r cynllun. Cynhaliwyd gweithdy pellach ym mis Mawrth 2016, a edrychodd yn fanylach ar egwyddorion

a gweithdrefnau’r cynllun yn ogystal â’r mathau o brosiectau y dylid eu cefnogi a ffocws daearyddol y cynllun. Mae nifer o gyfarfodydd hefyd wedi cael eu cynnal gyda’r rheini sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi, ym mis Mawrth a mis Medi 2016, a Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT ym mis Mawrth a mis Tachwedd 2016.

31 Mae'r ddogfen Ymgynghoriad Treth Gwarediadau Tirlenwi - crynodeb o'r ymatebion (Medi 2015) ar gael yn: http://gov.wales/betaconsultations/finance/landfill-disposals-tax/?skip=1&lang=cy

Page 48: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

48

4.16 Bydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Tîm Gweithredu Awdurdod

Cyllid Cymru yn parhau i ymgysylltu â’r rheini sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi, yn arbennig ar ôl cyflwyno’r Bil, ac os caiff ei basio, yn ystod datblygiad y trefniadau pontio rhwng LfT a LDT ac wrth baratoi canllawiau LDT a’r is-ddeddfwriaeth.

4.17 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT drwy gydol y broses o ddatblygu’r Bil i helpu i lunio a llywio’r polisi a’r cynigion deddfwriaethol.

4.18 Mae elfennau o’r ddeddfwriaeth arfaethedig wedi cael ei phrofi gydag aelodau o Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymrucynghorydd allanol annibynnol, gweithwyr proffesiynol ym maes trethi a gweithredwyr safleoedd tirlenwi i archwilio’r goblygiadau ymarferol ac effaith y darpariaethau.

4.19 Cynhelir cyfarfodydd telebresenoldeb bob chwarter rhwng Llywodraeth yr Alban, Revenue Scotland, CThEM a Llywodraeth Cymru, fel modd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prif ddatblygiadau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon.

Casgliad

4.20 Fel y nodir uchod ym mharagraffau 4.1 a 4.2, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ar drefniadau casglu a rheoli'r dreth32 a manylion y Bil hwn, drwy ymgynghoriadau cyhoeddus ffurfiol33 ac ymgysylltu’n helaeth gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu polisi a deddfwriaeth LDT. Mae’r cyfan wedi helpu i lywio’r cynigion deddfwriaethol. Er nad oes ymgynghoriad wedi’i gynnal ar y Bil Drafft, mae’r Bil, fel y’i cyflwynir yn cyd-fynd yn gryf ag ymatebion ac adborth rhanddeiliaid. Pan fo agweddau penodol ar y Bil yn wahanol i ddeddfwriaeth y dreth dirlenwi, er enghraifft, codi tâl ar warediadau heb awdurdod o wastraff i’w dirlenwi, mae’r Memorandwm Esboniadol yn amlinellu hyn yn glir.

4.21 Mae LfT yn dechnegol iawn, gan fod llawer o'r darpariaethau deddfwriaethol yn gysylltiedig â pholisïau a deddfwriaeth ehangach ar wastraff a'r amgylchedd. Mae agweddau ar wahanol feysydd o'r Bil yn dibynnu ar ei gilydd hefyd, sy'n golygu bod posibilrwydd y bydd newid un agwedd ar y dreth yn cael effaith anfwriadol ar agweddau eraill. Mae'r cynigion yn y Bil wedi cael eu datblygu'n ofalus gan gadw hyn mewn cof; maent wedi cael eu llywio a’u profi drwy ymgysylltu â

32

Mae Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru - crynodeb o'r ymatebion (Chwefror 2015) ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/casglu-rheoli-trethi-datganoledig-yng-nghymru 33

Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi – crynodeb o ymatebion (mis Medi 2015). I’w weld yn: http://gov.wales/betaconsultations/finance/landfill-disposals-tax/?skip=1&lang=cy

Page 49: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

49

rhanddeiliaid ac maent wedi cael eu llunio i fodloni eu hamcanion amgylcheddol, fel y disgrifir yn y ddogfen hon.

Page 50: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

50

Pennod 5: Y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth 5.1 Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau i wneud is-ddeddfwriaeth. Mae

Tabl 4 yn nodi'r canlynol mewn perthynas â phob darpariaeth yn y Bil:

i. y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo; ii. ar ba ffurf y mae'r pŵer i gael ei arfer; iii. priodoldeb y pŵer dirprwyedig; iv. y weithdrefn a gymhwysir; hynny yw, "cadarnhaol", “cadarnhaol

dros dro", "negyddol", neu "dim gweithdrefn", ynghyd â rhesymau pam y bernir ei bod yn briodol.

5.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnwys yr is-

ddeddfwriaeth os bernir ei bod yn briodol gwneud hynny. Penderfynir beth fydd union natur yr ymgynghori ar ôl i’r cynigion gael eu ffurfioli.

Page 51: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

51

Tabl 4: Crynodeb o'r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn narpariaethau Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Adran 4(3)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Gwaredu deunydd drwy dirlenwi -

Mae gofyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i addasu ystyr 'gwaredu deunydd drwy dirlenwi' yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i newid ystyr cysyniad sy'n sail i un o'r amodau y mae'n rhaid eu diwallu er mwyn i warediad trethadwy fodoli. Gallai unrhyw addasiad, felly, effeithio ar gwmpas Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) a swm y dreth sydd i'w chodi.

Adran 6(4)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Gwaredu deunydd fel gwastraff -

Mae gofyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i addasu ystyr 'gwaredu deunydd fel gwastraff' yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i newid ystyr cysyniad sy'n sail i un o'r amodau y mae'n

Page 52: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

52

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

rhaid eu diwallu er mwyn i warediad trethadwy fodoli. Gallai unrhyw addasiad, felly, effeithio ar gwmpas LDT a swm y dreth sydd i'w chodi.

Adran 8(5)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Gweithgarwch safle tirlenwi sydd i'w drin fel gwarediad trethadwy - Mae gofyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i bennu gweithgarwch safle tirlenwi newydd (mewn safle awdurdodedig neu mewn man arall) neu i addasu neu ddileu gweithgarwch penodedig safle tirlenwi; (bydd gweithgarwch safle tirlenwi penodedig yn cael ei drin fel gwarediad trethadwy). Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol, er enghraifft newidiadau i'r ffordd y mae safleoedd tirlenwi'n gweithredu a datblygiadau technolegol, neu i

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol oherwydd bod y pŵer i wneud rheoliadau'n ymwneud â'r cwestiwn a fydd gweithgarwch a gynhelir mewn safle tirlenwi awdurdodedig neu mewn man arall yn cael ei drin fel gwarediad trethadwy ai peidio, felly mae'n bosibl y bydd yn effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi.

Page 53: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

53

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

ddelio â gweithgarwch osgoi trethi posibl.

Adran 12

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i amrywio esemptiadau -

Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i greu esemptiadau newydd rhag LDT neu i addasu neu ddileu esemptiad sy'n bodoli eisoes. Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu y bydd esemptiad yn gymwys dim ond pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i benderfynu a yw gwarediad deunydd wedi'i eithrio rhag y dreth ac, felly, gallai effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi.

Adran 14(2) Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cyfrifo'r dreth sydd i'w chodi ar warediad trethadwy (cyfradd safonol) - Mae'r gallu i osod ac amrywio cyfraddau treth yn

Cadarnhaol yn y lle cyntaf a

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y rheoliadau cyntaf a

Page 54: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

54

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

nodwedd hanfodol o'r gyfundrefn drethi. Mae'r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod y gyfradd dreth safonol a gosod gwahanol gyfraddau treth safonol ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o ddeunyddiau. Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT. Bydd hyn y caniatáu i Weinidogion Cymru bennu swm y refeniw i'w godi i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan ystyried ar yr un pryd ei hamcanion polisi ehangach, megis Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio cyfraddau treth yn y dyfodol i adlewyrchu newidiadau polisi a'r amgylchiadau ar y pryd.

Chadarnhaol Dros Dro34 wedi hynny.

wneir o dan y pŵer hwn gan y bydd y rheoliad yn cael ei ddefnyddio i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT a gallai osod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr. Caiff y set gyntaf o gyfraddau ei gosod cyn i'r dreth ddod yn weithredol, felly ni fydd angen i'r cyfraddau ddod i rym ar unwaith.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer yr ail reoliadau a rheoliadau dilynol gan y bydd hyn y caniatáu i Weinidogion Cymru

34

Mae adran 92 yn esbonio bod y weithdrefn hon yn galluogi i reoliadau sy'n pennu'r gyfradd safonol ddod i rym ar y dyddiad y maent yn cael eu gosod. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau cyn pen 28 diwrnod ar ôl eu gosod os ydynt i gael effaith gyfreithiol barhaol.

Page 55: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

55

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Bydd hyn hefyd o gymorth i ddiogelu arian cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.

ymateb yn gyflym i newidiadau sydyn mewn amgylchiadau (er enghraifft, newid yng nghyfraddau'r Dreth Dirlenwi yn Lloegr) i leihau unrhyw effeithiau negyddol (megis twristiaeth gwastraff) cymaint â phosibl.

Adran 14(5)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cyfrifo'r dreth sydd i'w chodi ar warediad trethadwy (cyfradd is) -

Mae'r gallu i osod ac amrywio cyfraddau treth yn nodwedd hanfodol o'r gyfundrefn drethi. Mae'r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod y gyfradd dreth is a gosod gwahanol gyfraddau treth is ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o ddeunyddiau.

Cadarnhaol yn y lle cyntaf a Chadarnhaol Dros Dro35 wedi hynny.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y rheoliadau cyntaf a wneir o dan y pŵer hwn gan y bydd y rheoliad yn cael ei ddefnyddio i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT a gallai osod baich gweinyddol ychwanegol

35

Mae adran 92 yn esbonio bod y weithdrefn hon yn galluogi i reoliadau sy'n pennu'r gyfradd is ddod i rym ar y dyddiad y maent yn cael eu gosod. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau cyn pen 28 diwrnod ar ôl eu gosod os ydynt i gael effaith gyfreithiol barhaol.

Page 56: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

56

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT. Bydd hyn y caniatáu i Weinidogion Cymru bennu swm y refeniw i'w godi i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan ystyried ar yr un pryd ei hamcanion polisi ehangach, megis Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio cyfraddau treth yn y dyfodol i adlewyrchu newidiadau polisi a'r amgylchiadau ar y pryd. Bydd hyn hefyd o gymorth i ddiogelu arian cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.

ar drethdalwyr. Caiff y set gyntaf o gyfraddau ei gosod cyn i'r dreth ddod yn weithredol, felly ni fydd angen i'r cyfraddau ddod i rym ar unwaith.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer yr ail reoliadau a rheoliadau dilynol gan y bydd hyn y caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb yn gyflym i newidiadau sydyn mewn amgylchiadau (er enghraifft, newid yng nghyfraddau'r Dreth Dirlenwi yn Lloegr) i leihau unrhyw effeithiau negyddol (megis twristiaeth gwastraff) cymaint â phosibl.

Page 57: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

57

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Adran 15

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Deunydd Cymwys: gofyniad 1 -

Mae gofyn i Weinidogion Cymru

gael pŵer i allu diwygio’r rhestr o ddeunyddiau cymwys a'r amodau (os o gwbl), fel y’u nodir yn Atodlen 1, y mae'n rhaid eu bodloni yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai arfer y pŵer hwn i wenud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi.

Adran 16(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gofyniad 4 - Mae

gofyn i Weinidogion Cymru gael pwerau i ragnodi mewn rheoliadau unrhyw ddeunyddiau na ddylid eu cynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi.

Adran 16(3)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gofyniad 1(b) -

Mae gofyn i Weinidogion Cymru gael pwerau i wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau a newidiadau

Negyddol Rhagnodir y weithdrefn negyddol gan y byddai’r rheoliadau’n gallu darparu manylion technegol ynghylch

Page 58: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

58

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

polisi yn y dyfodol drwy bennu canran (yn ôl pwysau, cyfaint neu'r ddau) i roi diffiniad manylach i'r gofyniad sy'n bodoli yn adran 16(1), gofyniad 1, sef fod rhaid i gymysgedd gynnwys swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy'n atodol i'r deunyddiau cymwys.

cymhwyso'r Bil i gymysgeddau cymwys o ddeunyddiau, yn benodol i roi diffiniad manylach i'r gofyniad sy'n bodoli yn adran 16 (1) gofyniad 1.

Adran 16(4)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gofynion - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu, addasu neu ddileu gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gymysgedd fod yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau y gellir cymhwyso'r gyfradd dreth is iddo. Yn ogystal, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae'n rhaid neu y caniateir eu hystyried wrth benderfynu a yw gofyniad wedi'i fodloni ai peidio, neu addasu neu

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Page 59: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

59

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny. Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Adran 17(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau : gronynnau mân - Mae gofyn i Weinidogion Cymru gael pwerau i osod gofynion pellach y mae'n rhaid eu bodloni os yw cymysgedd o ddeunyddiau'n cynnwys gronynnau mân yn unig, er mwyn i'r cymysgedd hwnnw gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau y gellir cymhwyso'r gyfradd dreth is iddo. Byddai'r pŵer hwn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ac ariannol ychwanegol ar drethdalwyr.

Page 60: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

60

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

ragnodi prawf y byddai'n rhaid ei fodloni er mwyn i ronynnau mân36 fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is. Cyflwynwyd cyfundrefn brofi 'colled wrth danio' ar gyfer Treth Dirlenwi y DU ym mis Ebrill 2015 (ac ar gyfer Treth Dirlenwi yr Alban yn 2016). Mae'r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddysgu o'r profiadau o weithredu'r rhain a chyflwyno eu trefniadau eu hunain. Bydd hyn yn caniatáu cysondeb â gweddill y DU ac yn lleihau'r risg o dwristiaeth gwastraff cymaint â phosibl. Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Adran 21(9)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd - Mae'r pŵer hwn

yn ofynnol gan ei fod yn galluogi

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud

36

gronynnau a gynhyrchir drwy broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol

Page 61: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

61

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Gweinidogion Cymru i ddiwygio neu ddiddymu'r darpariaethau sy'n ymwneud â rhoi disgownt mewn cysylltiad â'r dŵr sydd mewn deunydd i adlewyrchu amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Adran 32(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i addasu rhyddhadau -

Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i greu rhyddhad ychwanegol rhag treth, neu addasu neu ddileu rhyddhad rhag treth sy'n bodoli eisoes yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Adran 40(9)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Y dreth sydd i'w chodi mewn perthynas â chyfnod cyfrifyddu - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r rhestr yn Atodlen 3 sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ar anfoneb dirlenwi yn ôl

Negyddol Rhagnodir y weithdrefn negyddol gan y byddai’r rheoliadau’n gallu rhagnodi manylion technegol ynghylch cymhwyso'r Bil i gynnwys anfoneb ac ni

Page 62: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

62

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

amgylchiadau yn y dyfodol, gan gynnwys newidiadau mewn arferion gweithredol a newidiadau polisi.

fydd yn gosod atebolrwydd treth ychwanegol ar drethdalwyr.

Adran 45(4)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Cyfrifo'r dreth sydd i'w chodi ar warediad trethadwy - Mae'r gallu i

osod ac amrywio cyfraddau treth yn nodwedd hanfodol o'r gyfundrefn drethi. Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i osod y gyfradd dreth ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi y gellir ei chymhwyso i warediad trethadwy a wneir mewn man nad yw'n safle tirlenwi awdurdodedig, ac nad yw'n ffurfio rhan o safle tirlenwi awdurdodedig, a gosod gwahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o ddeunyddiau.

Cadarnhaol yn y lle cyntaf a Chadarnhaol Dros Dro37 wedi hynny.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y rheoliadau cyntaf a wneir o dan y pŵer hwn gan y bydd y rheoliad yn cael ei ddefnyddio i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT. Caiff y set gyntaf o gyfraddau ei gosod cyn i'r dreth ddod yn weithredol, felly ni fydd angen i'r cyfraddau ddod i rym ar unwaith.

37

Mae adran 92 yn esbonio bod y weithdrefn hon yn galluogi i reoliadau sy'n pennu'r gyfradd dreth ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi ddod i rym ar y dyddiad y gwneir y rheoliadau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau cyn pen 28 diwrnod ar ôl eu gosod os ydynt i gael effaith gyfreithiol barhaol.

Page 63: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

63

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas ag LDT. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu'r gyfradd dreth gan roi ystyriaeth i'w dymuniad i atal ffynhonnell bosibl ar gyfer osgoi trethi, eu dymuniad i ddiogelu arian cyhoeddus yng Nghymru a'r ffaith nad yw'r bobl hyn wedi bod yn destun yr un rhwymedigaethau gweinyddol â gweithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig, gan bwyso a mesur yr ystyriaethau hyn yn erbyn ystyriaethau hawliau dynol.

Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio cyfraddau treth yn y dyfodol i adlewyrchu newidiadau polisi a'r amgylchiadau ar y pryd.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer yr ail reoliadau a rheoliadau dilynol gan y bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i newid y gyfradd dreth ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi ochr yn ochr â'r cyfraddau treth safonol ac is. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym i newidiadau sydyn mewn amgylchiadau (er enghraifft, cynnydd mewn gwarediadau heb eu hawdurdodi) i ddiogelu refeniw o drethi ac atal yr ymddygiad hwn. Bydd hynny'n lleihau'r effaith negyddol ar fusnesau a chymunedau yng

Page 64: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

64

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Nghymru.

Adran 46(3)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Yr amod ar gyfer codi trethi -

Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r amgylchiadau pan fo person i'w drin fel pe bai'n bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod ar gyfer codi treth, a materion i'w hystyried wrth benderfynu a yw person yn bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod hwnnw.

Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiweddaru'r sefyllfaoedd pan fo'r amod ar gyfer codi treth wedi'i fodloni a'r ffactorau i'w hystyried yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd osod baich gweinyddol nad oedd yn bodoli cyn hynny ar berson.

Adran 51(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth bellach - Mae hyn yn galluogi

Gweinidogion Cymru i wneud

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud

Page 65: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

65

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynglŷn â'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth; talu swm o dreth a godir gan hysbysiad codi treth; unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chodi swm o dreth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon.

Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd osod baich gweinyddol nad oedd yn bodoli cyn hynny ar berson.

Adran 53(1) Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth - Mae'r pŵer

hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fydd gan berson yr hawl i gredyd treth mewn cysylltiad ag LDT, gan gynnwys y gofynion y

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Page 66: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

66

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

mae'n rhaid eu bodloni.

Er enghraifft, bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru sefydlu credyd dyled ddrwg, yn ogystal â gwneud addasiadau yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Adran 54(10)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu - Mae'r pŵer hwn yn

ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r adran hon i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynglŷn â chynnwys hysbysiad sy'n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Adran 55(7)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y

Page 67: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

67

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

at ddibenion gwaredu - Mae

gofyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i ddiwygio'r adran hon i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynglŷn â'r amgylchiadau pan na fo dyletswydd gweithredwr o dan adran 55(1) i sicrhau bod deunydd yn cael ei drin yn unol â'r hysbysiad dynodi yn gymwys (neu pan fo’n peidio â bod yn gymwys). Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

gallai'r pŵer i wneud rheoliadau effeithio ar swm y dreth sydd i'w godi a gosod baich gweinyddol ychwanegol ar drethdalwyr.

Adran 59(5)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Datgelu gwybodaeth i ACC - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu, addasu neu ddileu personau neu ddisgrifiad o bersonau o'r rhestr o'r rhai sy'n cael datgelu gwybodaeth i Awdurdod Cyllid Cymru i'w gynorthwyo i gasglu a rheoli LDT.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y byddai’r rheoliadau’n gallu effeithio ar hawliau personau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth.

Page 68: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

68

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau yn y dyfodol, er enghraifft i ddiweddaru'r rhestr wrth i gyrff cyhoeddus newid dros amser.

Adran 72(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau a symiau cosbau o dan y bennod hon. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gynyddu'r baich ariannol ar y trethdalwr.

Adran 80(1) Gweinidogion Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â dynodi grwpiau

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn

Page 69: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

69

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

Cymru o gwmnïau - Mae'r pŵer hwn yn

ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu at ddarpariaethau sy'n ymwneud ag LDT ynghylch dynodi grwpiau o gyrff corfforaethol, eu diddymu neu eu diwygio fel arall. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill) ynglŷn â'r cyrff corfforaethol y caniateir eu dynodi'n aelodau o grŵp ac ynglŷn ag effeithiau dynodi. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd gynyddu'r baich gweinyddol ar gyrff corfforaethol sy'n rhan o grŵp.

Adran 83

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn a phartneriaethau a chyrff anghorfforedig - Mae'r

pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu at ddarpariaethau sy'n ymwneud ag LDT ynghylch achosion pan fo

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd gynyddu'r

Page 70: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

70

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

personau'n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, eu diddymu neu eu diwygio fel arall. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

baich gweinyddol ar y trethdalwr.

Adran 85(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â marwolaeth, analluedd ac ansolfedd - Mae'r

pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu at ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r dreth ynglŷn ag achosion pan fo person sydd wedi rhedeg busnes tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu'n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd, eu diddymu neu eu diwygio fel arall.

Bydd y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd gynyddu'r baich gweinyddol ar y trethdalwr.

Page 71: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

71

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

addasiadau yn ôl amgylchiadau a newidiadau polisi yn y dyfodol.

Adran 86(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud ag LDT pan drosglwyddir busnes tirlenwi o un person i un arall fel busnes gweithredol. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i drosglwyddo'r atebolrwydd am dalu LDT o un person i berson arall. Gallai hefyd gynyddu'r baich gweinyddol a'r baich ariannol ar drethdalwr.

Adran 88(1)

Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig - Mae'r pŵer hwn yn ofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i reolwr safle

Cadarnhaol Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol gan y gallai'r pŵer i wneud rheoliadau gael ei ddefnyddio i osod

Page 72: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

72

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

tirlenwi awdurdodedig dalu LDT, ac mewn cysylltiad â hynny. Caiff y rheoliadau (ymysg pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau gweithdrefnol a nodir yn adran 88(3). Bydd y pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud addasiadau yn ôl amgylchiadau neu newidiadau polisi yn y dyfodol.

atebolrwydd i dalu LDT. Gallai hefyd gynyddu'r baich gweinyddol ar y trethdalwr.

Adran 90(1) Gweinidogion Cymru

Rheoliadau Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc. -

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed y maent o'r farn ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Bil hwn neu oddi tano, mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi. Caiff rheoliadau o dan yr adran hon

Negyddol (oni bai fod Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai effaith y rheoliadau arwain at osod neu gynyddu atebolrwydd unigolyn i dalu treth.

Rhagnodir y weithdrefn negyddol, ar yr amod fod Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw'r rheoliadau'n gwneud darpariaeth a allai achosi i dreth fod yn daladwy lle na fyddai fel arall neu a allai gynyddu swm y dreth sydd i'w godi. Mewn achosion lle nad yw Gweinidogion Cymru yn

Page 73: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

73

Tabl 4 – Rheoliadau

Adran neu Baragraff

I bwy y rhoddir y pŵer

Ffurf Priodoldeb y pŵer dirprwyedig Gweithdrefn Rheswm dros y weithdrefn

ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Bil hwn neu a wneir oddi tano).

fodlon ar hyn, rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol.

Adran 94(2) Gweinidogion Cymru

Gorchymyn Dod i rym - Ac eithrio Rhan 1

(trosolwg) a Rhan 6 (darpariaethau terfynol) a ddaw i rym ar y diwrnod y mae'r Bil hwn yn cael Cydsyniad Brenhinol, caiff Gweinidogion Cymru bennu'r dyddiad y daw darpariaethau yn y Bil hwn i rym drwy orchymyn a wneir o dan offeryn statudol.

Dim gweithdrefn

Page 74: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

74

Pennod 6: Asesiad Effaith Rheoleiddiol 6.1 Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i gwblhau ar gyfer y Bil ac mae'n dilyn

isod.

6.2 Nid oes darpariaethau penodol yn y Bil sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Page 75: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

75

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

Tabl 5

CRYNODEB – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Yr opsiwn a ffefrir: Sefydlu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i ddisodli’r Dreth Dirlenwi (8.49-8.82)

Cam: Cyflwyno Cyfnod gwerthuso: 2016/17 – 2020/21

Blwyddyn sylfaenol pris: 2016/17

Cyfanswm cost Cyfanswm: £13.7m - £18.8m Gwerth presennol: £12.7m - £17.4 m

Cyfanswm manteision Cyfanswm: £- Gwerth presennol: £-

Gwerth Presennol Net: £12.7m - £17.4m

Cost gweinyddu

Costau: Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyflwyno amcangyfrif o gost casglu

a rheoli trethi datganoledig yn ehangach yng Nghymru. Ni fu modd gwahanu’r costau

gweinyddol sy’n ymwneud yn benodol â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Amcangyfrifir mai £4.8m i £6.3m fydd y costau sefydlu dros y cyfnod 2016/17 i 2018/19. Amcangyfrifir mai £2.8m i £4m y flwyddyn fydd y costau gweithredu o 2018/19..

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn dirprwyo’r swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae gan CNC berthynas eisoes â gweithredwyr safleoedd tirlenwi a gwybodaeth helaeth am y diwydiant gwastraff. Cynhwysir y cyllid a ddyrennir i CNC i gyflawni’r swyddogaethau hyn yn y costau gweithredol a nodir uchod.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddarparu manylion pellach ynghylch costau tebygol casglu a rheoli pan fyddant ar gael a phan fydd penderfyniadau ynghylch graddfa a chwmpas ACC yn cael eu hegluro.

Bydd cost ychwanegol i Lywodraeth Cymru, a amcangyfrifir yn £1m, yn gysylltiedig â’r ffaith bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn rhoi’r gorau i gasglu’r Dreth Dirlenwi (“LfT”) a Threth Dir y Dreth Stamp (“SDLT”) yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn dirprwyo cyfrifoldeb ar gyfer gweinyddu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i gorff dosbarthu. Mae’r amcangyfrif presennol gorau yn awgrymu y bydd y costau gweinyddol tua £100,000 y flwyddyn. Mae hyn yn dibynnu ar addasiad terfynol y grant bloc ynghylch y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, na fydd yn dod yn derfynol tan ar ôl i Gyllideb yr Hydref gael ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Mae rhai wedi gwneud rhagdybiaethau am ganlyniad y broses honno a arweiniodd at y cynigion, ond nid oes modd gwybod beth fydd y sefyllfa derfynol tan i’r broses o greu cyllideb yr hydref gael ei chwblhau.

Page 76: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

76

Pontio:

£5.8m – £7.3m Rheolaidd: £8.7m - £12.3m

Cyfanswm:

£14.5 - £19.6m

Gwerth Presennol: £13.4m - £18.2m

Arbedion costau: Ni fydd CThEM bellach yn ysgwyddo’r costau a gysylltir â chasglu SDLT a’r LfT yng Nghymru a disgwylir iddo ad-dalu’r arian hwn i Lywodraeth Cymru. Ar sail data o’r Alban, amcangyfrifir mai £275,000 y flwyddyn yw’r ad-daliad. Bydd yr ad-daliad hwn yn gymwys o 2018/19 (bydd tri thaliad yn ystod y cyfnod gwerthuso).

Pontio: £ Rheolaidd: £0.8m Cyfanswm: £0.8m

Gwerth Presennol: £0.7m

Cost gweinyddu net: £13.7 – 18.8m (heb ddisgownt)

Costau cydymffurfio Bydd cost untro i weithredwyr safleoedd tirlenwi ac arbenigwyr trethi am yr amser y mae ei angen i ymgynefino â’r ddeddfwriaeth, sef £6,600 ac £13,000 yn ôl yr amcangyfrif. Ysgwyddir y gost hon yn 2017/18.

Bydd angen i’r gweithredwyr hynny sydd â safleoedd tirlenwi yng Nghymru a Lloegr gyflwyno ffurflenni trethi ar wahân ym mhob gwlad. Amcangyfrifir mai £150 y flwyddyn yw cyfanswm cost hyn (o 2018/19). Caiff cyfraddau trethi ar gyfer LDT eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn destun Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar wahân. Pontio: £0.02m

Rheolaidd: £0.00m

Cyfanswm: £0.02m

Gwerth presennol: £0.02m

Costau eraill Nid oes costau i’w hadrodd yma

Pontio: £ Rheolaidd: £ Cyfanswm: £ Gwerth Presennol: £

Page 77: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

77

Costau heb eu meintoli neu anfanteision Bydd LDT yn ymgorffori gwarediadau heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth. Gellir codi LDT ar unrhyw un a gaiff ei ddal yn gwneud gwarediadau heb eu hawdurdodi neu unrhyw un sydd yn fwriadol yn caniatáu i warediad heb ei awdurdodi gael ei wneud. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cyflwyno nifer o gosbau newydd i ymdrin ag achosion o ddiffyg cydymffurfio. Ni fydd y darpariaethau hyn ond yn gorfodi costau ar yr unigolion neu’r busnesau hynny sy’n dewis gweithredu y tu allan i’r gyfraith. Ar hyn o bryd, nid yw lefelau diffyg cydymffurfio yn hysbys ac felly ni ellir meintioli’r costau hyn. O ganlyniad, nid yw’r amcangyfrifon o’r costau yn hysbys ar hyn o bryd. Mae unrhyw gosb neu daliadau treth yn drosglwyddiad oddi wrth yr unigolyn neu’r busnes i’r awdurdod trethi. Bydd cost ar gyfer y rheini sy’n dymuno gwneud cais am grant o dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Fodd bynnag, ar sail wirfoddol y gwneir cais am grant ac rydym yn disgwyl y bydd y gost ymgeisio hon yn is na swm y grant a ddyfernir. Caiff y broses gwneud cais am

grant ei datblygu ar ôl i’r corff dosbarthu gael ei benodi yn ddiweddarach eleni.

Page 78: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

78

Manteision Prif fantais sefydlu treth newydd yw cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd i’r diwydiant gwastraff. Trwy hwyluso cysondeb yn fras o ran sut y caiff gwastraff wedi’i dirlenwi ei drin yng Nghymru ac yn Lloegr, mae’r risg o dwristiaeth gwastraff yn cael ei leihau. Mae’n sicrhau y gellir parhau i elwa ar y refeniw trethi i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn galluogi i’r amcanion polisi amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r dreth gael eu dilyn. Mae manteision ehangach yn cynnwys cefnogi cyflwyno rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, sef Symud Cymru Ymlaen, a’i pholisïau ehangach o ran gwastraff a’r amgylchedd, yn enwedig parhau i alluogi’r Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff a helpu i gyflawni’r nodau a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r prif newidiadau a wnaed mewn ymateb i’r adborth a gafwyd gan randdeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad ar LDT yn ymwneud â chynnig eglurder a mynd i’r afael â’r meysydd sy’n peri dryswch a phryder; diwygio hen ddeddfwriaeth nad yw bellach yn gyfredol ac adlewyrchu arferion sefydledig yn well. Y prif newid yw cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth. Bydd hyn o fudd i’r cymunedau y mae gwarediadau heb eu hawdurdodi’n effeithio arnynt, trwy geisio atal y gweithgarwch hwn yn y dyfodol. Diben arall hyn yw ceisio lleihau cyfleoedd i efadu trethi a thrwy hynny ddiogelu’r refeniw i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Prif fantais sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i ddisodli’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru yw gallu parhau i gefnogi cymunedau a effeithir gan waredu gwastraff i’w dirlenwi. Mae disgwyl i’r corff dosbarthu ddosbarthu gwerth tua £1.4m o grantiau y flwyddyn i brosiectau cymunedol lleol a phrosiectau amgylcheddol. Mae hyn yn dibynnu ar yr addasiadau grant bloc terfynol ynghylch y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ac ni fydd

hynny’n derfynol tan ar ôl Cyllideb y DU yn yr Hydref. Mae rhai wedi gwneud rhagdybiaethau ynghylch beth fydd canlyniad y broses o greu’r cynigion, ond nid oes modd gwybod beth fydd y sefyllfa derfynol tan y bydd y broses o greu cyllideb yr hydref wedi’i chwblhau.

Cyfanswm: £- Gwerth Presennol: £-

Tystiolaeth allweddol, rhagdybiaethau a meysydd ansicr

Fel y nodir uchod, mae’r costau gweinyddol a nodir ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru yn ymwneud â chasglu a rheoli trethi datganoledig yn ehangach ac nid yn benodol ag LDT.

Page 79: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

79

Pennod 7: Yr opsiynau

Effaith sefydlu Treth Gwarediadau Tirlenwi

7.1 Ystyriwyd tri opsiwn mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”):

- Opsiwn 1 - Gwneud dim - Opsiwn 2 - Dyblygu’r Dreth Dirlenwi (“LfT”) bresennol - Opsiwn 3 - Datblygu treth benodol i Gymru

7.2 Ceir disgrifiad byr o bob opsiwn isod, a cheir dadansoddiad o'r costau a'r

manteision ym Mhennod 7.

Opsiwn 1 – Gwneud dim

7.3 Mae Deddf Cymru 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer datganoli LfT yng

Nghymru. Y bwriad yw y bydd hynny'n digwydd yn 2018. Felly, byddai'r opsiwn gwneud dim yn golygu peidio â chyflwyno treth yn lle LfT.

7.4 Byddai'r opsiwn hwn yn gwbl groes i flaenoriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru o weithio tuag at Gymru ddiwastraff. O ddilyn yr opsiwn hwn, anfon gwastraff i safle tirlenwi fyddai'r opsiwn rhataf ar gyfer rheoli gwastraff. Byddai hynny'n tanseilio'r ymdrechion yng Nghymru i hybu'r hierarchiaeth wastraff drwy atal, ailddefnyddio, adfer ac ailgylchu gwastraff yn amlach.

7.5 Yn ogystal, roedd y Papur Gorchymyn, Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol38 yn cadarnhau y bydd y broses o ddatganoli LfT (a Threth Dir y Dreth Stamp (“SDLT”)) yn arwain at leihad cyfatebol i grant bloc Llywodraeth Cymru wrth i Gymru godi ei refeniw trethi ei hun.39 O beidio â chyflwyno treth yn lle LfT, byddai Llywodraeth Cymru'n gweithredu gyda chyllideb lai, a byddai hynny'n cael effaith gyfatebol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

38

Mae’r Papur Gorchymyn, Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol ar gael yn: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/294422/Wales_Bill_Command_Paper_-_Welsh.pdf 39http://law.gov.wales/constitution-government/government-in-wales/finance/?lang=en -

/constitution-government/government-in-

wales/finance/?tab=overview&lang=enhttp://law.gov.wales/constitution-government/government-

in-wales/finance/?skip=1&lang=cy#/constitution-government/government-in-

wales/finance/?tab=overview&lang=cy

Page 80: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

80

Opsiwn 2 - Dyblygu’r Dreth Dirlenwi bresennol

7.6 Byddai'r opsiwn i wneud y lleiafswm yn golygu cyflwyno LDT ym mis Ebrill

2018 drwy ddyblygu’r LfT bresennol.

7.7 Mae’r angen i weithredu treth yn lle LfT a fyddai'n darparu cysondeb, sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau wedi bod yn neges glir gan randdeiliaid. Gellid cyflawni hyn drwy ddyblygu’r LfT bresennol.

7.8 Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod rhannau o'r ddeddfwriaeth LfT bresennol yn peri dryswch ac y byddai rhagor o eglurder yn rhywbeth i'w groesawu.

7.9 Mae deddfwriaeth LfT wedi bod yn destun sawl her gyfreithiol ac mae cyfran sylweddol o'r refeniw o'r dreth mewn perygl o ganlyniad i hynny. Byddai dyblygu’r ddeddfwriaeth LfT yn golygu y gallai'r heriau cyfreithiol hyn godi yng Nghymru a byddai'r perygl i'r refeniw o'r dreth yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Gyfunol Cymru

7.10 Ceir tystiolaeth fod LfT yn agored i gael ei osgoi. Er bod y cynnydd yn y gyfradd dreth safonol yn hybu arferion da o ran rheoli gwastraff drwy annog yn erbyn tirlenwi, mae’n bosibl ei fod wedi cael effeithiau negyddol hefyd. Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu bod y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau treth (cyfradd safonol £86.10 - cyfradd is £2.70) yn rhoi cymhelliant i bobl osgoi'r dreth, gan gynnwys drwy warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi. Yn aml, mae'r elw sy'n deillio o wneud hyn yn gorbwyso canlyniadau cael eich dal. Mae strwythur yr LfT bresennol yn golygu na ellir ei chodi ar warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi.

Opsiwn 3 - Datblygu treth benodol i Gymru

7.11 Y trydydd opsiwn yw dilyn yr un patrwm ag LfT yn fras, ond gan gyflwyno ychydig o newidiadau penodol i Gymru er mwyn cael darn o ddeddfwriaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion a nodwyd uchod.

7.12 Mae LfT yn esblygu drwy'r amser wrth i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi

(CThEM) a Llywodraeth yr Alban, yn dilyn datganoli yn yr Alban, ddatblygu eu polisïau. Mae LfT wedi datblygu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf ac mae angen ystyried deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth, cyfarwyddydau, hysbysiadau a chanllawiau a gyhoeddwyd, yn ogystal â chyfraith achosion, er mwyn cael darlun cyflawn. Wrth drafod gyda rhanddeiliaid, mae wedi dod i'r amlwg fod anghysondeb rhwng y ddeddfwriaeth gyfredol a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol. O dan opsiwn 3, byddai treth benodol i Gymru yn:

a) symleiddio rhannau sy'n peri dryswch ar hyn o bryd a'u gwneud yn fwy

eglur, adolygu deddfwriaeth sydd wedi dyddio a chael gwared ar ddarpariaethau nad ydynt yn berthnasol i Gymru

Page 81: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

81

7.13 Mae'r diffiniad o warediad trethadwy ac, yn benodol, y cwestiwn a oes deunydd wedi cael ei waredu fel gwastraff, wedi bod yn destun sawl her gyfreithiol. Mae gwerth yr hawliadau sydd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd yn golygu bod cyfran sylweddol o LfT mewn perygl.

7.14 Er mwyn sicrhau eglurder i'r trethdalwr ac Awdurdod Cyllid Cymru, ac i

sicrhau na fydd rhagor o rannau sy'n peri dryswch yn codi, byddai'n ddefnyddiol rhoi ystyriaeth ofalus i'r polisi a chyflwyno ychydig o newidiadau i'r ffordd y caiff y ddeddfwriaeth ei drafftio.

b) sicrhau rhagor o eglurder o ran y ffordd y caiff LDT ei chyfrifo ac adlewyrchu arferion sydd wedi'u sefydlu o ran y canlynol yn well: (i) Pwyso deunydd (ii) Esemptiadau a Rhyddhadau (iii) Rhoi disgownt mewn cysylltiad â dŵr (iv) Mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu (Mannau Gwybodaeth)

7.15 Diben y newidiadau hyn fyddai gwneud y system yn fwy tryloyw ac ymarferol a byddent yn cynnwys y canlynol: - rhoi dyletswydd ar weithredwr y safle tirlenwi i ddefnyddio pont bwyso neu

ddull pwyso arall a gytunwyd gydag Awdurdod Cyllid Cymru i bennu pwysau'r deunydd ym mhob gwarediad trethadwy

- sicrhau rhagor o eglurder o ran y prosesau ar gyfer gwneud cais am ryddhadau a disgownt mewn cysylltiad â dŵr - a hawlio'r rhain, a chanlyniadau methu â chydymffurfio

- sicrhau rhagor o eglurder o ran y broses ar gyfer dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu a chanlyniadau methu â chydymffurfio.

c) mynd i'r afael â materion polisi allweddol y mae rhanddeiliaid wedi tynnu

sylw atynt drwy: (i) Ehangu ar gwmpas LfT, fel bod gwarediadau heb eu hawdurdodi o

fewn cwmpas y dreth

7.16 O dan y ddeddfwriaeth LfT gyfredol, ni ellir codi treth ar warediadau heb eu hawdurdodi gan nad ydynt yn cael eu cydnabod yn y ddeddfwriaeth. Mae hyn yn creu posibilrwydd i bobl osgoi'r dreth.

7.17 Drwy ehangu cwmpas LfT i gynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi ac i alluogi Awdurdod Cyllid Cymru i godi treth arnynt, y gobaith yw y bydd y weithred hon yn cael ei hystyried yn risg ariannol ac yn opsiwn llai dymunol i'r sawl sy'n cael eu temtio i osgoi'r dreth drwy wneud gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi.

Effaith Sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 7.18 Darperir ar gyfer cronfa i gefnogi prosiectau cymunedol lleol a phrosiectau

amgylcheddol drwy dreth dirlenwi bresennol Llywodraeth y DU. Nod y Gronfa Cymunedau Tirlenwi yw ceisio lleddfu rhai o’r effeithiau a ddaw yn sgil byw ger safle tirlenwi.

Page 82: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

82

7.19 Cynllun credyd treth gwirfoddol ydyw sy’n ysgogi gweithredwyr safleoedd tirlenwi i gyfrannu cyfran o’u rhwymedigaeth treth i brosiectau. Y Trysorlys sy’n pennu canran fwyaf y credyd y gellid ei gyfrannu gan weithredwyr safle tirlenwi a gall hyn newid o un flwyddyn i’r llall.

7.20 Mae’r cyfraniadau a wneir i’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yn arwain at leihad

cyfatebol mewn derbynebau treth dirlenwi. Felly, ni chaiff treth ei chodi ar y cyfraniadau hyn a allai fod wedi’i defnyddio fel arall i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

7.21 Mae tri opsiwn wedi cael ei ystyried mewn perthynas â sut y dylai’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei defnyddio i wella lles cymunedol.

Opsiwn 1 – Gwneud Dim

Opsiwn 2 – Dyblygu’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol

Opsiwn 3 – Datblygu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n benodol i Gymru

7.22 Rhoddir crynodeb byr o bob opsiwn isod, gyda dadansoddiad o’r costau a’r

manteision i ddilyn ym Mhennod 8. Opsiwn 1 – Gwneud Dim

7.23 Mae’r opsiwn gwneud dim yn golygu peidio â disodli’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi. Yn hytrach, byddai’r holl refeniw a godir o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

7.24 Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad y Dreth

Gwarediadau Tirlenwi yn ystod gwanwyn 2015 yn cynnwys pennod ar ba un a allai refeniw y Dreth honno gael ei ddefnyddio i wella lles cymunedol, yn yr un modd â’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, a sut gellid gwneud hyn.

7.25 Y bennod hon gafodd y nifer uchaf o ymatebion – rhoddodd mwy na hanner y

279 o ymatebwyr eu barn ar y mater hwn. Dangosodd yr ymatebion gefnogaeth eang tuag at Lywodraeth Cymru i barhau i ddyrannu rhywfaint o refeniw trethi i wella lles cymunedau.

7.26 Dywedodd nifer o’r ymatebwyr bod y Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol

yn digolledu cymunedau am yr effaith sy’n gysylltiedig â byw ger safleoedd tirlenwi, a bod hyn yn ffynhonnell hanfodol o gyllid yr oedd mawr ei angen ar gyfer prosiectau cymunedol, ac y dylid ei gadw ar ryw ffurf yng Nghymru.

7.27 Byddai penderfynu peidio â newid y cynllun yn cael gwared ar ffynhonnell o gyllid o’r prosiectau hyn.

Page 83: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

83

Opsiwn 2 – Dyblygu’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol

7.28 Mae’r opsiwn gwneud y lleiafswm yn golygu dyblygu’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Y Gronfa Cymunedau Tirlenwi 7.29 Nodir y fframwaith ar gyfer sut y mae cynllun y Gronfa Cymunedau Tirlenwi yn

gweithredu fel credyd treth mewn is-ddeddfwriaeth40. Yn gryno, mae CThEM yn penodi corff rheoleiddio (Entrust) sydd yn ei dro yn cymeradwyo penodiad cyrff a gymeradwywyd (Cyrff Dosbarthu Amgylcheddol (DEB)) i ddosbarthu cyfraniadau a wnaed i’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi (mae’n bosibl y bydd prosiectau hefyd yn cael eu hariannu’n uniongyrchol gan weithredwr safle tirlenwi – drwy wneud hyn mae’n i’r gofrestru fel Corff Amgylcheddol gydag Entrust).

7.30 Mae’n rhaid i brosiectau sy’n cael cymorth fod o fewn 10 milltir i safle tirlenwi, ac mae’n rhaid iddynt ymwneud ag un neu fwy o’r amcanion gan gynnwys darparu, cynnal a chadw neu wella parc cyhoeddus neu amwynder cyhoeddus arall a chadwraeth neu hyrwyddo bioamrywiaeth. O ganlyniad i’r galw uchel am ariannu, mae rhai DEBs ond yn cynorthwyo detholiad o’r gwrthrychau (neu un yn unig) ac mae’n bosibl y byddant yn gosod amodau ychwanegol.

7.31 Yn dilyn ymgynghoriad gan GThEM yn 2015, gosodwyd cap o 7.5% ar gostau

gweinyddol DEBs/Cyrff Amgylcheddol. Yn ogystal â hyn, caiff Entrust ei ariannu gan ardoll o 2.96% o gyfraniad y Gronfa Cymunedau Tirlenwi (2016-17), gan ddod â chostau gweinyddol i ychydig dros 10%.

7.32 Mae’n bosibl y bydd parhau â threfniadau presennol y Gronfa Cymunedau

Tirlenwi yn arwain at fanteision cymharol fawr i brosiectau a allai fel arall ei gweld yn anodd cael y lefel angenrheidiol o gyllid drwy wahanol ffynonellau.

Y Cyd-destun Cymreig

7.33 Mae’r Dreth gwarediadau tirlenwi yn ceisio lleihau maint y gwastraff a anfonir i

safleoedd tirlenwi, yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gael Cymru ddiwastraff. Bydd lefel y refeniw a gynhyrchir o’r dreth yn lleihau yn gyfatebol a bydd y swm a fydd ar gael ar gyfer cynllun hefyd yn lleihau. Rhagwelir y bydd refeniw y dreth dirlenwi yn disgyn 35% rhwng 2015-16 a 2021-22, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. O ganlyniad, mae’n bwysig ystyried sut y gellir sicrhau bod prosiectau yn cael y swm mwyaf posibl o gyllid ac yn cael y manteision cymunedol gorau posibl.

7.34 Un neges glir sydd wedi ei amlygu yn sgil ymatebion yr ymgynghoriad a thrwy

ymgysylltu â rhanddeiliaid yw’r angen i sefydlu model gweinyddol syml a chost effeithiol.

40 Rhan VII o Reoliadau Treth Dirlenwi 1996 (OS1996/1527)

Page 84: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

84

7.35 Galwodd mwyafrif yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar i lai o DEBs fod yn rhan o weinyddu cynllun, gyda’r rhan fwyaf yn awgrymu y dylid cael un corff dosbarthu.

Opsiwn 3 – Datblygu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n benodol i Gymru

7.36 Y trydydd opsiwn yw cyflwyno cynllun penodol i Gymru. Mae cyfres o gyfarfodydd a gweithdai wedi cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol y Trydydd Sector a gweithdredwyr safleoedd tirlenwi i feithrin gwell dealltwriaeth o sut y gallai cynllun penodol i Gymru weithio.

7.37 O dan opsiwn 3, byddai cynllun penodol i Gymru yn cael ei ddarparu fel a

ganlyn:

a) Cynllun grant a fyddai’n cynhyrchu cyllid drwy ddyrannu rhywfaint o refeniw y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gesglir i un corff dosbarthu

b) Caiff cyllid ei ddyfarnu i brosiectau sy’n cefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwelliannau amgylcheddol eraill.

c) Bydd ffocws daearyddol y cynllun yn gostwng i bum milltir o gwmpas safle tirlenwi (tan y bydd gwarediadau trethadwy wedi’u cwblhau) ac yn cynyddu i bum milltir o gwmpas gorsaf trosglwyddo gwastraff sy’n anfon o leiaf 2,000 o dunelli o wastraff i’w dirlenwi bob blwyddyn

7.38 Mae’n bosibl y bydd parhad y cynllun yn arwain at fanteision cymharol fawr i

brosiectau a allai, fel arall, ei chael yn anodd sicrhau’r lefel angenrheidiol o gyllid drwy wahanol ffynonellau.

Page 85: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

85

Pennod 8: Costau a Manteision 8.1 Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn rhoi manylion costau a manteision

y tri opsiwn a amlinellir ym Mhennod 7, ac yn nodi’r opsiwn a ffefrir sef i Lywodraeth Cymru gyflwyno treth Gymreig benodol i ddisodli’r Dreth Dirlenwi (“LfT”).

8.2 Mae’r costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â phob opsiwn wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio’r wybodaeth orau a oedd ar gael ar y pryd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i pharatoi trwy drafod â rhanddeiliaid gan gynnwys trethdalwyr (gweithredwyr safleoedd tirlenwi), y diwydiant gwastraff ehangach, arbenigwyr trethi a chyrff proffesiynol yn y diwydiant.

Opsiwn 1 – Gwneud dim

8.3 Byddai’r opsiwn gwneud dim yn golygu peidio â disodli LfT yng Nghymru.

Yr effaith ar gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru 8.4 Heb ddisodli LfT, anfon gwastraff i’w dirlenwi fyddai’r opsiwn rhataf o reoli

gwastraff. O ganlyniad i hyn, byddai llawer o fusnesau ac unigolion yn debygol o elwa ar ostyngiad yng nghostau gwaredu gwastraff. Byddai hyn yn arbennig o wir yn achos diwydiannau y mae eu gweithgareddau’n cynhyrchu symiau cymharol fawr o ddeunydd gwastraff y codir tâl amdano yn ôl y gyfradd safonol o LfT adeg ei waredu i dirlenwi.

8.5 Er hynny, byddai peidio â disodli LfT yn arwain at gryn effeithiau amgylcheddol ac yn atal manteision sylweddol o bolisïau eraill Llywodraeth Cymru.

8.6 Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mwy o swyddi o ansawdd gwell trwy economi gryfach a thecach, gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Bydd cyflwyno treth i ddisodli LfT yn cyfrannu at nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru; sef trwy ddatblygu Cymru ffyniannus a diogel:

- Cefnogi busnes trwy barhau â’r dreth ar wastraff sy’n cael ei dirlenwi, sy’n rhoi sicrwydd i’r sector gwastraff a chymhelliant parhaus i ddatblygu technolegau amgen;

- Cefnogi busnes trwy dreth ar warediadau heb eu hawdurdodi, sy’n creu sefyllfa gyfartal i fusnesau gwastraff cyfreithlon;

- Cefnogi’r amgylchedd trwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei ddargyfeirio o dirlenwi gan leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr;

- Cefnogi’r amgylchedd trwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n gyfrifol gan warchod bioamrywiaeth, ecosystemau lleol ac iechyd y cyhoedd; a

- Chefnogi’r amgylchedd trwy gynyddu ailgylchu ac anfon cyn lleied o wastraff â phosibl i safleoedd tirlenwi.

Page 86: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

86

8.7 Byddai peidio â disodli LfT hefyd yn effeithio ar y system rheoli gwastraff yng

Nghymru ac yn tanseilio ymdrechion yng Nghymru i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi trwy ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer mwy o wastraff.

8.8 Mae strategaeth Llywodraeth Cymru sef Tuag at Ddyfodol Diwastraff41 yn nodi sut y byddwn yn ymdrin â gwastraff yng Nghymru i greu manteision i’r amgylchedd, yr economi a llesiant cymdeithasol. Mae’n ceisio mynd ati i ddefnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy trwy leihau gwastraff a rheoli unrhyw wastraff a gynhyrchir mewn ffordd sy’n sicrhau bod deunyddiau gwerthfawr yn cael eu cadw yn economi Cymru ac yn cael eu diogelu er budd cenedlaethau’r dyfodol.

8.9 Mae’n pennu nodau o leihau gwastraff yn sylweddol o 27% o leiaf (o linell sylfaen 2007) a chyfradd ailgylchu o 70% o leiaf gyda tharged mor agos at sero â phosibl (<5%) yn achos tirlenwi erbyn 2025, gydag uchelgais o ddim gwastraff (ailgylchu 100%) erbyn 2050. Mesurau yw’r targedau hyn i sicrhau y gwireddir y manteision a nodir yng Nghyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, sy’n nodi y dylai polisi gwastraff Aelod-wladwriaethau “minimise the negative effect of the generation and management of waste on human health and the environment”. I helpu i gyflawni’r nodau hyn mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi camau gweithredu i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau a bod gwastraff yn cael ei ailgylchu.

8.10 Mae’r nodau hyn yn cefnogi cyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru, sef Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd sy’n nodi ei hymrwymiad i leihau’r allyriadau tŷ gwydr y mae Cymru’n eu cynhyrchu. Roedd Adolygiad Stern 2006 ar y newid yn yr hinsawdd yn tynnu sylw at safleoedd tirlenwi fel un o brif achosion newid yn yr hinsawdd yn sgil allyriadau o wastraff. Mae bwyd a mathau eraill o wastraff biodiraddiadwy yn cynhyrchu methan pan gânt eu tirlenwi - nwy cryf sy’n achosi newid yn yr hinsawdd.

8.11 Ymhellach mae’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn boblog ac mae ganddi ystod o fusnesau rheoli gwastraff gan gynnwys safleoedd tirlenwi ar hyd y ddwy ochr. Mae’r rhain i’w gweld yn Ffigur 1.

41

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/zerowaste/?lang=cy

Page 87: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

87

Ffigur 1 - Safleoedd Tirlenwi a Phoblogaethau - Ffin Cymru/Lloegr42

42

Lleoliad safleodd tirlenwi yn seiliedig ar ddata CThEM 2012 http://customs.hmrc.gov.uk/channelsPortalWebApp/channelsPortalWebApp.portal?_nfpb=true&_pageLabel=pageExcise_ShowContent&id=HMCE_PROD_009941&propertyType=document

Page 88: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

88

8.12 Byddai peidio â chyflwyno treth newydd yn lle’r hen dreth yng Nghymru’n debygol o ysgogi twristiaeth gwastraff, gyda chludwyr gwastraff yn Lloegr ac ymhellach i ffwrdd yn teithio i Gymru waredu eu gwastraff. Yn ôl amcangyfrifon cychwynnol gallai gwahaniaeth cymharol fach mewn cyfraddau trethi hybu twristiaeth gwastraff. Nid yw’r amcangyfrifon hyn yn fanwl-gywir ac maent yn destun ansicrwydd ynghylch cymhellion anariannol ar gyfer gwaredu gwastraff mewn safle tirlenwi penodol (er enghraifft integreiddio fertigol mewn cwmni - caiff un cwmni gyflawni gwasanaethau i gludo gwastraff a chael gwared arno). Hyd yn oed o ganiatáu am yr ansicrwydd hwn, mae gwahaniaeth o lai na £10 yn y dreth yn debygol o ddarparu cymhelliant am dwristiaeth gwastraff.

8.13 Byddai effeithiau hefyd ar gymunedau o safbwynt llesiant a’r amgylchedd, er enghraifft, yn sgil mwy o draffig yn ymyl safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a phwysau cynyddol ar gapasiti’r safleoedd tirlenwi sydd ar ôl yng Nghymru, gyda galwadau posibl i safleoedd tirlenwi newydd gael eu datblygu.

Yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus 8.14 Bydd datganoli LfT yn arwain at ostyngiad yn grant bloc Cymru, felly byddai

peidio â disodli LfT yng Nghymru yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru’n gweithredu gyda chyllideb is.

8.15 Ceir gwybod beth fydd addasiad y grant bloc ar gyfer 2018-19 pan gaiff Cyllideb yr Hydref 2017 ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU.

8.16 Byddai peidio â chyflwyno treth newydd yn golygu na fyddai gan Lywodraeth Cymru ond costau cysylltiedig sefydlu corff casglu a rheoli trethi i weinyddu un deth ddatganoledig (y Dreth Trafodiadau Tir43 (“LTT”)), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp (“SDLT”) ym mis Ebrill 2018. Caiff y costau sy’n gysylltiedig â sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) a’i gostau gweithredol parhaus eu trafod ymhellach yn opsiynau 2 a 3.

8.17 Byddai’r gostyngiad mewn refeniw i Lywodraeth Cymru yn sgil peidio â chyflwyno LDT yn arwain at lai o wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oes modd nodi pa feysydd gwario fyddai’n cael eu gostwng. Er hynny, os tybir bod y gostyngiad hwn yn cael ei ledaenu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, mae’n debygol mai’r rhai ar incwm is fyddai’n dioddef yr effaith waethaf.

8.18 Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (“ONS”), yn 2015 cafodd y pumed tlotaf o aelwydydd fwy o fuddion mewn da na’r pumed uchaf o aelwydydd44. Mae

43

Mae Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Medi 2016 yn sefydlu Treth Trafodiadau Tir newydd i ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru. Mae gwybodaeth am y Bill a’r Dreth Trafodiadau Tir ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15873; a http://gov.wales/funding/fiscal-reform/welsh-taxes/land-transaction-tax/?skip=1&lang=cy 44

ONS (2016) The Effects of Taxes and Benefits on UK Household Income, Financial Year Ending 2014 ar gael yn

Page 89: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

89

buddion mewn da’n cynnwys addysg, iechyd, trafnidiaeth a thai, ac mae’r mwyafrif o’r rhain wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn cyfrif am ryw 70% o wariant datganoledig yng Nghymru. Iechyd sy’n hawlio’r gyfran uchaf o wariant datganoledig yng Nghymru; dengys y dystiolaeth mai grwpiau incwm is sy’n gweld y buddion mwyaf (y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (“IFS”) 2010 The distributional effect of public spending in the UK). Gan mai’r rhai sydd ar incwm cyfartalog is sy’n elwa fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, mae gostyngiad yng ngwariant y llywodraeth, trwy beidio â chyflwyno LDT, yn debygol o gael effaith anghymesur o fawr ar aelwydydd incwm is yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

8.19 Am y 15 mlynedd ddiwethaf, cydnabuwyd bod Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â datblygu cynaliadwy, sydd wedi bod wrth wraidd polisi ers dechrau datganoli. Datblygu cynaliadwy yw’r ffordd orau o’n helpu i gynllunio’n well am y dyfodol, er mwyn inni fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu pobl a chymunedau ledled Cymru megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, swyddi a thwf, a gwneud pobl yn fwy diogel. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu egwyddor datblygu cynaliadwy, sy’n llywio’r broses datblygu polisi ac yn sefydlu ffyrdd o weithio i gyrff sy’n dod o dan y Ddeddf.

8.20 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn sefydlu set o nodau llesiant clir ac integredig i Gymru. Maent yn cynnig gweledigaeth gyffredin o’r Gymru yr hoffem ei gweld yn awr ac yn y dyfodol, ac yn sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Byddai peidio â disodli LfT yng Nghymru yn groes i egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn cyfyngu ar ein gallu i gyflwyno manteision i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Crynodeb

8.21 Byddai’r opsiwn gwneud dim yn golygu na fyddai Llywodraeth Cymru’n bodloni nifer o dargedau ac uchelgeisiau polisi y bwriedir iddynt wella’r amgylchedd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

8.22 Ymhellach, byddai’n arwain at gyllideb is i Lywodraeth Cymru a lefel is o wariant cyhoeddus yng Nghymru. Aelwydydd incwm is sy’n tueddu i elwa fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus, felly mae’n debygol y byddai aelwydydd o’r fath yn dioddef effaith anghymesur oherwydd effaith peidio â chodi LDT yng Nghymru ar refeniw.

https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/personalandhouseholdfinances/incomeandwealth/bulletins/theeffectsoftaxesandbenefitsonhouseholdincome/financialyearending2016

Page 90: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

90

8.23 Er y byddai rhai busnesau ac unigolion yn debygol o weld gostyngiad yng nghost gwaredu gwastraff o dan yr opsiwn hwn, mae’r manteision yn cael eu gwrthbwyso’n sylweddol gan y manteision a welir trwy gynnal egwyddorion datblygu cynaliadwy a gwasanaethau cyhoeddus. Ymhellach, byddai absenoldeb treth ar wastraff a anfonir i’w dirlenwi yn torri egwyddor “y llygrwr sy’n talu”. Mae hon yn egwyddor arweiniol ar lefel Ewropeaidd a rhyngwladol, ac yn ymgorffori’r arfer cydnabyddedig mai’r llygrwr, o ran egwyddor, ddylai ysgwyddo cost llygredd. Mae treth dirlenwi’n helpu i gynnal yr egwyddor hon, o gofio ei bod yn ceisio mewnoli’r costau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â thirlenwi, gan sicrhau bod ei chostau preifat yn adlewyrchu’n agosach ei gwir gost gymdeithasol.

Cost Newid

8.24 Mae opsiynau 2 a 3 yn gwneud yr achos o blaid newid - cyflwyno treth i ddisodli LfT. Er bod gwahaniaethau rhwng yr opsiynau hyn a esbonnir ymhellach isod, yr un yw’r costau gweithredol a gweinyddol i sefydlu corff casglu a rheoli i weinyddu LDT. Mae cost y newid a nodir isod felly yn gost mewn perthynas ag opsiynau 2 a 3.

8.25 Mae’n bwysig nodi er hynny, fod y costau hyn yn gysylltiedig â gweithredu trethi datganoledig yn ehangach yng Nghymru ac maent wedi cael eu cyfrifo ar y sail honno. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, ystyried darpariaeth gwasanaethau ar-lein, ymdrech cydymffurfio a gorfodi, lefel gwasanaethau cwsmeriaid a’r angen am alluedd o ran y Gymraeg. Nid yw llawer o’r rhain yn deillio yn uniongyrchol o’r darpariaethau yn y Bil, ond o’r penderfyniadau polisi a seilir ar y rhain.

8.26 Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu’r pwerau i sefydlu ACC, a fydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a baratowyd ar gyfer y Ddeddf45 yn nodi’r costau yn Nhabl 3 i gorff cymharu ddarparu amcangyfrif gorau o raddfa bosibl costau.

8.27 Yn dilyn yr asesiad hwn, cyhoeddodd cyn Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth lythyr ym mis Tachwedd 201546 yn nodi manylion pellach am rolau a swyddogaethau arfaethedig Awdurdod Cyllid Cymru, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gasglu a rheoli trethi datganoledig. Mae hwn yn nodi amcangyfrif cychwynnol o gostau ar gyfer sefydlu ACC a gweithredu trefniadau casglu a rheoli ar gyfer trethi datganoledig.

8.28 Mewn perthynas ag LDT, mae’r llythyr yn nodi mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r partner a ffefrir ar gyfer cydymffurfio a gorfodi LDT. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar ganiatáu safleoedd tirlenwi yng Nghymru, felly mae ganddo wybodaeth helaeth o’r sylfaen drethi a chysylltiadau sefydledig â’r gweithredwyr safleoedd tirlenwi a fydd yn talu LDT. Mae’r Atodiad 47 i’r llythyr

45

Ar gael yn: http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld10293-em/pri-ld10293-em-w.pdf 46

Ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989 47

Ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989

Page 91: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

91

yn darparu manylion y costau gweithredol sydd wedi’i dyrannu i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y rôl.

8.29 Amcangyfrifir mai’r gost o sefydlu ACC fydd rhwng £4.8 miliwn a £6.3 miliwn dros y cyfnod tair blynedd 2016-17 i 2018-19. Mae’r costau hyn yn cynnwys llunio a chyhoeddi canllawiau, datblygu a darparu hyfforddiant a gweithredu trefniadau trosiannol i alluogi trethi datganoledig i gael eu casglu a’u rheoli’n effeithiol. Bydd cost ychwanegol i Lywodraeth Cymru a amcangyfrifir yn £1m yn gysylltiedig â’r ffaith y bydd CThEM yn rhoi’r gorau i gasglu SDLT ac LfT yng Nghymru. Ysgwyddir y gost untro hon yn 2018-19.

8.30 Amcangyfrifwyd bod y costau gweithredu rhwng £2.8 miliwn a £4 miliwn y flwyddyn yn dechrau yn 2018-19, sy’n cynnwys costau gweithredol dirprwyedig Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi.

8.31 Dechreuodd Cyfarwyddwr Cyflawni ACC ar ei swydd ym mis Awst 2016 a phenodwyd Cadeirydd ACC ym mis Mawrth 2017.

8.32 Mae’n bwysig nodi bod costau gweinyddol LDT yn dibynnu ar gyflwyno LTT. Ar 1 Gorffennaf 2016 cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mai Awdurdod Cyllid Cymru fyddai’n ymgymryd â holl swyddogaethau casglu a rheoli LDT ac LTT; gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni rôl cydymffurfio a gorfodi ar gyfer LDT, a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn darparu arbenigedd a gwybodaeth trwy secondiadau i ddatblygu a gwella arbenigedd ACC o ran cydymffurfio ag LTT.

8.33 Bydd gwasanaethau LDT yn elwa ar yr arbedion maint sy’n deillio o gyflwyno’r ddwy dreth ac yn cynnig y cyfle i ddatblygu gwasanaethau digidol LDT.

8.34 Caiff manylion pellach y costau hyn eu cyhoeddi ar yr adeg briodol wrth i benderfyniadau gweithredol ar raddfa a chwmpas ACC ddod i’r goleuni. Un elfen yn unig ar y gwaith hwn yw LDT, ac nid yw’n briodol nac yn ymarferol felly ceisio gwahanu a darparu costau gweinyddol uniongyrchol ar gyfer LDT yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn. Costau gweithredol yw’r rhain ac nid ydynt wedi’u seilio’n benodol ar y Bil hwn ac felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr asesiad hwn.

8.35 Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi 48 hefyd yn nodi y disgwylir i CThEM ad-dalu costau peidio â chasglu SDLT ac LfT yng Nghymru i Lywodraeth Cymru o Ebrill 2018. Y swm cyfatebol sy’n cael ei ad-dalu i Lywodraeth yr Alban yw £275,000 y flwyddyn (yn ôl ffigurau Cyllid yr Alban).

Effeithiau Cyflwyno Trethi i Ddisodli LfT 8.36 Mae trethi datganoledig hefyd yn cynnig cyfle i ddatblygu trethi i ddiwallu

anghenion Cymru, y gellir eu haddasu i amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru ac i greu system drethi sy’n fwy effeithlon, effeithiol ac yn symlach.

48

Mae Memorandwm Esboniadol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), yn ymgorffori’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ar gael yn: http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/pri-ld10293-em/pri-ld10293-em-w.pdf

Page 92: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

92

Rhagwelir y bydd unrhyw newidiadau gweithredol yn y dyfodol yn creu manteision ychwanegol dros y tymor hwy.

8.37 Nodir manteision cyffredinol newid isod. Trafodir manteision penodol pob opsiwn o dan y penawdau perthnasol.

8.38 Prif fantais cyflwyno treth i ddisodli LfT yng Nghymru yw galluogi polisïau Llywodraeth Cymru ar wastraff a’r amgylchedd i gael eu cyflawni, yn enwedig hyrwyddo’r hierarchaeth wastraff.

8.39 Mae paragraffau 8.4 - 8.11 yn trafod yr effeithiau ar bolisïau Llywodraeth Cymru os na chaiff treth i ddisodli LfT ei chyflwyno. Mae manteision cyflwyno treth newydd felly yn ymwneud â pharhau i alluogi Tuag at Ddyfodol Diwastraff 49, gan helpu i gyflawni’r nodau a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 201650 a Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.51

8.40 Yn ychwanegol, trwy gyflwyno treth newydd, mae cysondeb â sut yr ymdrinnir â gwastraff wedi’i dirlenwi yng Nghymru a Lloegr, sy’n lleihau’r risg o dwristiaeth gwastraff.

8.41 At ei gilydd, mae tair mantais allweddol wedi’u nodi fel rhai a allai ddeillio o bwerau trethi datganoledig, sy’n cynnwys cyflwyno LDT yng Nghymru. Mae’r manteision hirdymor hyn yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 201552 a ddaeth i rym yn Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru a bydd yn ein helpu i greu gwlad gynaliadwy yr ydym i gyd yn dymuno byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Bydd trethi datganoledig yn helpu i sicrhau hyn trwy:

(i) Gwella effeithlonrwydd ac effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus;

(ii) Hybu’r adnodau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fuddsoddi mewn gwella llesiant;

(iii) Sicrhau gwell ysgogwyr cyllidol.

49 Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff ar gael yn: http://gov.wales/docs/desh/publications/100621wastetowardszerocy.pdf 50

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2016/3/contents/enacted 51

Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gael yn: http://gov.wales/docs/desh/publications/101006ccstratfinalcy.pdf 52

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/2/contents/enacted

Page 93: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

93

Opsiwn 2 - Gwneud y lleiafswm (dyblygu’r Dreth Dirlenwi bresennol)

8.42 Yr opsiwn gwneud y lleiafswm yw cyflwyno LDT yn Ebrill 2018 trwy ddyblygu’r LfT bresennol.

Costau

8.43 Treth sy’n bodoli ers 1996 ac sydd wedi hen ennill ei phlwyf yw LfT. Mae’r opsiwn hwn yn cynnwys dyblygu’r drefn bresennol sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Felly, ni fydd ond nifer bach o newidiadau sy’n denu cost ychwanegol i randdeiliaid. Nodir y rhain ym mharagraff 7.46.

8.44 Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni rôl cydymffurfio a gorfodi ar gyfer LDT. Bydd y gost i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni’r swyddogaeth hon yn isel iawn a bydd yn cynnwys adnoddau ychwanegol a hyfforddiant i ymgymryd â’r swyddogaethau sy’n ymwneud â threthi, ochr yn ochr â’r rhai amgylcheddol. Fel y nodir yn y llythyr53 gan gyn Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, mae’r costau hyn wedi cael eu hystyried a chaiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei ariannu’n briodol am ei rôl. Mae’r costau hyn yn dod o fewn y drefn a gyhoeddwyd gan gyn Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2015.

Effeithiau Uniongyrchol

8.45 Bach iawn yw effaith uniongyrchol yr opsiwn hwn ar randdeiliaid.

8.46 Fel yr esboniwyd, treth sydd wedi ennill ei phlwyf a chanddi brosesau a gweithdrefnau sefydledig yw LfT. Neges glir yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar LfT oedd yr angen i aros yn gyson i roi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau. Trwy ddyblygu’r ddeddfwriaeth bresennol, yr unig newid fydd y bydd angen i safleoedd tirlenwi sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr gyflwyno ffurflen LDT wedi’i hunanasesu i ACC. Rydym wedi rhagweld mai bach iawn o ymdrech yn unig fydd ynghlwm wrth hyn (tua 10 munud yn ychwanegol bob chwarter) i’r gweithredwyr hynny sydd â safleoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae cofrestr CThEM o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn rhestru 10 o weithredwyr safleoedd tirlenwi â safleoedd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 201654. Gan ddefnyddio Arolwg yr ONS o oriau ac enillion ar gyfer rheolwyr gwaredu gwastraff a gwasanaethau amgylcheddol, amcangyfrifir bod hyn yn costio £150 y flwyddyn (neu £15 ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi yr effeithir arno). Ysgwyddir y gost hon o 2018-19.

53

Ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989 54

https://www.gov.uk/government/publications/landfill-tax-site-operators

Page 94: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

94

Effeithiau Anuniongyrchol

8.47 Mae gan yr opsiwn hwn y potensial i effeithio’n anuniongyrchol ar Cyfoeth

Naturiol Cymru a Chronfa Gyfunol Cymru. Fel y dywedwyd gynt, mae LfT yn agored i gryn her gyfreithiol, yn arbennig o ran y cwestiwn a oes gwarediad trethadwy wedi digwydd.

8.48 Trwy ddyblygu’r ddeddfwriaeth LfT bresennol yng Nghymru, caiff yr ansicrwydd hwn a’r risg o her gyfreithiol eu trosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddai gan hyn effaith ar lefel adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd ynghlwm wrth ymateb i her gyfreithiol. Galai hyn dynnu oddi ar weithrediadau beunyddiol eraill a byddai’n peri risg i refeniw LDT. Nid oes modd meintioli’r gost hon ar hyn o bryd.

Opsiwn 3 - Datblygu treth benodol i Gymru

8.49 Yr opsiwn dan sylw yma yw cyflwyno LDT yn Ebrill 2018 trwy ddisodli LfT yn

fras ond mynd i’r afael â rhai materion polisi allweddol a danlinellwyd gan randdeiliaid.

Costau

8.50 Fel gydag opsiwn 2 (paragraff 7.46), trwy ddyblygu’r ddeddfwriaeth bresennol,

bydd mân newid gan y bydd angen i safleoedd tirlenwi sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr gyflwyno ffurflen LDT hunanasesu i ACC. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio cyfanswm o £150 y flwyddyn o 2018-19.

8.51 Yn ogystal, gyda’r opsiwn hwn, efallai y bydd cost i weithredwyr safleoedd tirlenwi ac arbenigwyr trethi a chyrff proffesiynol am hyfforddiant i ddeall y mân wahaniaethau rhwng LDT ac LfT.

8.52 Y prif nod wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth yw cynnig eglurder ynghylch arferon sy’n bodoli eisoes; mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi, arbenigwyr trethi a chyrff proffesiynol yn y diwydiant gwastraff wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r Bil ac mae nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal i esbonio ble mae gwahaniaethau o gymharu ag LfT.

8.53 Rhagwelir y byddai hyn yn cymryd cyfanswm o ddau ddiwrnod o amser gweithredwr safle tirlenwi. Yn ôl cofrestr CthEM o weithredwyr safleoedd tirlenwi55 mae 20 o weithredwyr yng Nghymru hyd at fis Mai 2016 (dylid nodi ei bod yn debygol y bydd llai o safleoedd tirlenwi ar waith erbyn i LDT gael ei gyflwyno yn Ebrill 2018). Gan ddefnyddio Arolwg ONS o oriau ac enillion ar gyfer rheolwyr gwaredu gwastraff a gwasanaethau amgylcheddol, disgwylir i’r gost untro i weithredwyr safleoedd tirlenwi ymgynefino ag LDT yn 2017-2018 fod ddim mwy na £6600 (neu £330 i bob gweithredwr safle tirlenwi).

55

https://www.gov.uk/government/publications/landfill-tax-site-operators

Page 95: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

95

8.54 Ar gyfer arbenigwyr treth a chyrff proffesiynol rydym wedi ceisio barn ar faint o amser y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i ymgynefino â deddfwriaeth. Gallai hyn gymryd ychydig mwy o amser oherwydd yr adran newydd o'r Bil sy'n ymwneud â gwarediadau heb eu hawdurdodi. Rhagwelir y byddai angen cyfanswm o 5 niwrnod o amser arbenigwyr treth a chyrff proffesiynol i ymgynefino â newidiadau yn y Bil, yn arbennig er mwyn iddynt gefnogi eu cwsmeriaid a’u haelodau. Gan ddefnyddio Grŵp Arbenigwyr Technegol LDT sy'n cynnwys 11 o aelodau sy'n cynrychioli amrywiaeth o arbenigwyr trethi a chyrff proffesiynol yn y diwydiant gwastraff ac arolwg blynyddol ONS o oriau ac enillion ar gyfer 'arbenigwyr trethi', amcangyfrifir y bydd cyfanswm y costau untro i’r rhain ymgyfarwyddo ag LDT yn 2017-2018 tua £13,000 (neu £1200 i bob arbenigwr trethi/corff proffesiynol).

8.55 Bydd y Bil yn cyflwyno nifer bach o gosbau newydd sy'n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio. Mae'r rhain ym maes penderfynu ar bwysau trethadwy’r deunydd; meysydd peidio â gwaredu a chofrestru. Ni fydd hyn yn effeithio ar y gweithredwr safle tirlenwi oni bai y gwelir nad yw wedi cydymffurfio. Ni wyddir beth fydd nifer yr achosion o beidio â chydymffurfio yn y dyfodol ac felly nid yw’n bosibl amcangyfrif y gost ar hyn o bryd. Nid yw cost diffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn hysbys. Mae unrhyw gosbau a delir yn golygu taliad a drosglwyddir o weithredwr y safle i’r awdurdod trethi.

Effeithiau newidiadau

a) egluro a symleiddio meysydd sy’n peri dryswch, diwygio

deddfwriaeth sydd wedi dyddio a dileu darpariaethau nad ydynt yn berthnasol yng Nghymru

8.56 Er mwyn cael gwarediad trethadwy rhaid gwaredu deunydd fel gwastraff;

mae’r ddeddfwriaeth ar y dreth dirlenwi yn diffinio hyn fel rhywbeth sy'n digwydd pan fo'r person sy'n gwneud y gwarediad yn gwneud hynny gyda'r bwriad o gael gwared ar y deunydd. Bu cyfres o heriau cyfreithiol yn ymwneud â’r cwestiwn a oes rhywfaint o’r deunydd a anfonir i safleoedd tirlenwi yn cael ei 'ddefnyddio', yn hytrach na’i waredu ac na ddylai gael ei drin felly fel gwarediad trethadwy. Mae gwerth y ceisiadau sydd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd yn golygu bod cyfran sylweddol o'r refeniw treth dirlenwi mewn perygl.

8.57 Byddai arddel dull gwahanol ar gyfer penderfynu a oes gwarediad trethadwy wedi’i wneud yn cyflwyno risgiau a chymhlethdodau newydd. Mae'r opsiwn hwn felly’n ceisio cadw strwythur sylfaenol y ddeddfwriaeth bresennol, ond gan ei hegluro a’i thynhau lle bo modd. Gwneir hyn trwy gryfhau a diweddaru’r diffiniad o warediad trethadwy a cheisio dwyn ynghyd mewn deddfwriaeth sylfaenol fanylion sydd ar hyn o bryd o fewn is-ddeddfwriaeth (er enghraifft, gweithgareddau a fydd yn cael eu trin fel gwarediadau trethadwy) a chyfraith achos (er enghraifft, pan fo’i bwriad yn berthnasol wrth ystyried a oes bwriad i waredu). Mae'r dull hwn yn gyson ag adborth a gafwyd gan randdeiliaid i'r ymgynghoriad ynghylch datblygu LDT yn ystod gwanwyn 2015.

Page 96: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

96

8.58 Mae’r dull hwn yn ceisio rhoi eglurder i drethdalwyr i sicrhau bod cydymffurfio yn syml fel y gallant fodloni eu rhwymedigaethau trethi. Disgwylir hefyd y bydd ACC yn cyhoeddi canllawiau ac yn ceisio sefydlu perthynas gadarnhaol â gweithredwyr safleoedd tirlenwi.

8.59 Er nad yw’r dull hwn yn dileu’r risg o heriau cyfreithiol yng Nghymru, mae'n ceisio ei gadw mor fach â phosibl. Pan gaiff LDT ei chyflwyno ACC fydd yn ymdrin ag unrhyw heriau cyfreithiol newydd yng Nghymru ac, felly, cânt eu tynnu o'i gyllideb weithredol. Byddai’r costau hyn yn ychwanegol at y ffigurau a ddarparwyd gan lythyr y cyn Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2015. Fel y nodwyd uchod, ni wyddir faint o heriau cyfreithiol posibl fydd yn y dyfodol, ac felly nid oes modd meintioli’r gost hon ar hyn o byd. Nid yw cost ymgyfreitha yn y dyfodol yn hysbys.

b) Egluro sut y mae LDT yn cael ei chyfrifo ac adlewyrchu arferion sefydledig mewn perthynas â:

(i) Pwyso deunydd gan gynnwys disgownt dŵr (ii) Esemptiadau a Rhyddhadau (iii) Mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

8.60 Y diben yw gwneud y trefniadau ym mhob un o’r mannau hyn yn fwy tryloyw,

pragmataidd, ymarferol a chymesur. Wrth wneud hynny mae’r dull hwn yn ceisio tynhau’r trefniadau i’w diogelu rhag cael eu camddefnyddio; sicrhau bod cydymffurfio’n syml ac y gall gweithredwyr safleoedd fodloni eu rhwymedigaethau o ran trethi; a galluogi ACC i nodi’r rhai sydd wedi methu â chadw at y rheolau hyn a chymryd camau gorfodi priodol.

(i) Pwyso deunydd gan gynnwys disgownt dŵr 8.61 Bydd darpariaethau’r Bil ar gyfer pwyso deunydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r

gweithredwr safle tirlenwi benderfynu ar bwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy drwy ddefnyddio pont bwyso. At y diben hwn, rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud, a bod y bont bwyso yn bodloni’r gofynion o ran y ddeddfwriaeth pwysau a mesurau berthnasol. Mae'r Bil yn cydnabod y gall fod amgylchiadau lle nad oes modd defnyddio pont bwyso. Yng ngoleuni hyn gall gweithredwr y safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull amgen i benderfynu beth yw pwysau’r deunydd. Bwriedir i hyn symleiddio’r trefniadau presennol trwy gyfuno’r cysyniad o ddull cytunedig a dull penodol.

8.62 Caiff gweithredwr y safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt dŵr wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy. Bwriedir i hyn ei gwneud yn glir mai gweithredwr y safle tirlenwi sy’n atebol am ddisgownt dŵr gan mai hwy yw’r trethdalwr a’u cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod y contractau a’r prosesau priodol ar waith â'i gwsmeriaid (cynhyrchwyr gwastraff) ynghylch gweithredu’r disgownt dŵr.

8.63 Bydd angen i’r cynhyrchydd gwastraff ddarparu unrhyw ddogfennau a thystiolaeth i lywio’r cais fel y gall gweithredwr y safle tirlenwi, os yw’n fodlon gweithredu’r disgownt, ofyn am gymeradwyaeth ACC cyn rhoi’r disgownt dŵr

Page 97: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

97

ar waith. Mae'r Bil yn egluro na fydd modd i ACC gytuno i gymeradwyo disgownt dŵr oni chaiff 'amodau cymwys' eu bodloni. Bydd yr amodau hyn yn awr yn cynnwys prawf angenrheidrwydd lle mae ychwanegu neu ddefnyddio dŵr yn angenrheidiol at y dibenion fel y'u disgrifir yn y ddarpariaeth, er enghraifft.

(ii) Esemptiadau a Rhyddhadau

8.64 Mae'r Bil yn nodi'r cynnig caniatáu rhyddhad rhag treth ar gyfer gwarediadau trethadwy penodol yn gyson â gweddill y DU, heblaw ei fod yn awgrymu dull ychydig yn wahanol o ran terminoleg (gan y darperir ar eu cyfer fel rhyddhadau) a bydd yn egluro'r broses (bydd angen i’r trethdalwr hawlio’r rhyddhad ar y ffurflen dreth a chadw tystiolaeth briodol i ategu’r hawliad).

8.65 Mae'r Bil hefyd yn ceisio ffurfioli’r trefniadau ar wahân ar gyfer adfer safle, sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi geisio cymeradwyaeth ar gyfer rhyddhad rhag treth cyn hawlio ar y ffurflen dreth.

8.66 Rhagwelwn y bydd hyn yn newid cadarnhaol i weithredwyr safleoedd tirlenwi at ei gilydd. Bydd yn galluogi gweithredwr y safle tirlenwi ac ACC i ddeall pa ryddhadau sy’n cael eu hawlio; ac i’r olaf helpu i lywio gwaith cydymffurfio. Wrth wneud cais neu hawlio rhyddhad caiff yr amodau a’r prosesau eu nodi’n glir. Dylai hyn leihau’r amser a’r ymdrech sydd ynghlwm wrth benderfynu a yw gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn gymwys i hawlio’r rhyddhadau hynny a rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gorfod talu trethi.

(iii) Mannau nad ydynt at Ddibenion Gwaredu

8.67 Mae’r Bil yn nodi y caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig fel

Man nad yw at Ddibenion Gwaredu (NDA). Mae’r cysyniad o NDA hefyd yn bodoli o fewn y trefniadau presennol lle y’u gelwir yn fannau gwybodaeth. Mae’r Bil yn cynnig rhai newidiadau i’r broses ar gyfer dynodi NDA, y gofynion sy’n gysylltiedig ag NDA a chanlyniadau torri’r gofynion hynny.

8.68 Yn arbennig, yng ngweddill y DU, bydd canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n gysylltiedig ag NDA (er enghraifft, anghywirdeb mewn cofnod) yn peri y bydd yr holl ddeunydd yn drethadwy yn awtomatig. Mae'r Bil yn cynnig cymhwyso cosb yn yr amgylchiadau hyn; mae hyn yn rhoi’r gallu i ACC arddel ymagwedd fwy cymesur a phragmataidd o gofio nad oedd bwriad erioed o bosibl i’r deunydd gael ei dirlenwi ac er mwyn ystyried difrifoldeb y toriad o dan sylw. Yn achos deunydd sydd wedi'i adael yn yr NDA yn hwy na’r terfyn amser uchaf mae'r Bil yn cynnig y bernir mai gwarediad trethadwy yw hwn.

c) Mynd i’r afael â materion polisi allweddol a amlygwyd gan randdeiliaid trwy ymestyn cwmpas LfT i gynnwys gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth

Page 98: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

98

Codi LDT ar warediadau heb eu hawdurdodi

8.69 Y rheswm dros orfodi treth ar warediadau heb eu hawdurdodi yw cau'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd lle y mae modd efadu’r dreth yn hawdd drwy gael gwared ar wastraff y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig.

8.70 Hyd at Fedi 2016, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n dweud bod 60 o safleoedd gwastraff anghyfreithlon56 yng Nghymru, gyda rhyw 55,000 o dunelli o wastraff ar draws y safleoedd hyn. Pe bai hyn yn cael ei gyfrifo ar y gyfradd drethi safonol byddai’n dod i ryw £4.7m o drethi wedi’u hefadu.

8.71 Effaith hyn yw lleihau faint o refeniw trethi a godir sy’n cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth orfodi trethi ar warediadau heb eu hawdurdodi bwriedir mynd i'r afael â’r bwlch drwy:

annog pobl i ddewis gwaredu eu gwastraff yn gyfreithlon (a thalu treth arno) yn hytrach nag yn anghyfreithlon; a

lle ceir gwarediad anghyfreithlon, trwy alluogi ACC i gasglu’r swm perthnasol o dreth ar y gwastraff hwnnw.

8.72 Gall fod i hyn fanteision ehangach hefyd ar gyfer busnesau gwastraff, cymunedau, rheoleiddwyr a’r llywodraeth. Mae gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi yn achosi amrywiaeth o bryderon amgylcheddol a chymdeithasol i gymunedau, yn ogystal â phryderon o ran iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn rhoi busnesau gwastraff cyfreithlon o dan anfantais gan fod gweithredwyr anghyfreithlon yn osgoi costau gwaredu gwastraff ac yn codi prisiau is na’r rhai sy'n cadw at y gyfraith. Mae'n tanseilio hyder ariannol yn y diwydiant gwastraff, sy'n effeithio ar fuddsoddi mewn technoleg werdd ac mae’n colli adnoddau eilaidd amhrisiadwy.

8.73 Bydd codi treth ar warediadau heb eu hawdurdodi yn cydategu polisïau ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys ei strategaeth tipio anghyfreithlon, a’i nod o atal a mynd i’r afael â throseddau gwastraff. Yn ogystal, os byddai LDT yn daladwy ar warediadau heb eu hawdurdodi gallai’r effaith bosibl ar broffidioldeb gweithredwr tirlenwi awdurdodedig fod yn sylweddol. Yn ôl y modelu a gyflwynwyd mewn adroddiad am y diwydiant57, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar orfodi ym maes trosedd gwastraff disgwylir i’r Llywodraeth gael rhwng £3.60 a £5.60.

8.74 Nid yw deddfwriaeth y DU ond yn galluogi treth dirlenwi i gael ei chodi ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Yn 2015, cyflwynodd yr Alban drefn o drethu gwarediadau heb eu hawdurdodi trwy dreth dirlenwi’r Alban, tra bu Gweriniaeth Iwerddon yn codi ardoll dirlenwi ar warediadau heb eu hawdurdodi am y 10 mlynedd diwethaf. Cafwyd cefnogaeth gref ymhlith rhanddeiliaid ar gyfer codi tâl treth ar warediadau heb eu hawdurdodi yng Nghymru.

56 Lle mae angen trwydded amgylcheddol ond nad yw yn ei le 57

Waste Crime: Tackling Britain’s Dirty Secret (2014) – Eunomia Research and Consulting – comisiynwyd ar ran Ymddiriedolaeth Addysg y Gymdeithas Gwasanaethau Amgycheddol

Page 99: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

99

8.75 Mae’r Bil yn cynnig y bydd y person sy'n gwneud y gwarediad heb ei awdurdodi ac unrhyw berson sydd yn fwriadol yn peri neu’n caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud yn atebol i dalu’r dreth. Lle mae dau neu ragor o bersonau, byddant yn atebol ar y cyd ac yn unigol. Mae'r Bil yn cynnig cyflwyno cyfradd dreth 'gwarediadau heb eu hawdurdodi' y disgwylir iddi fod yn uwch na'r gyfradd dreth safonol. Yn ogystal, ni fydd y troseddwyr hyn yn gymwys i gael unrhyw ryddhad neu gredydau. Wrth ddatblygu'r cynigion, mae swyddogion wedi ceisio sicrhau bod y drefn hon yn cyd-fynd â’r drefn bresennol ar y gyfraith amgylcheddol ac yn ei hategu.

8.76 Byddai hyn yn cynnig ateb syml i'w weinyddu a byddai cyfradd dreth uwch yn cydnabod na fyddai troseddwyr yn destun yr un rhwymedigaethau gweinyddol (a chosbau) mewn perthynas â chofrestru, llenwi a chadw cofnodion a gyflawnir gan weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Gallai hyn ddarparu rhwystr ariannol i warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi ac ailbwysoli’r risg fel bod canlyniadau cael eu dal yn gorbwyso’r elw sydd i’w wneud. O ganlyniad, gallau hyn ddiogelu refeniw trethi i helpu i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

8.77 Yn weithredol, disgwylir i ACC i fynd ati i orfodi'r darpariaethau hyn mewn ffordd gost-effeithiol. Bydd gan ACC ddisgresiwn gweinyddol ynghylch sut y mae'n cyflawni ei swyddogaethau casglu a rheoli. Caiff penderfyniadau ynghylch a ddylid mynd ar drywydd treth ar warediadau heb awdurdod neu beidio eu gwneud o fewn cyd-destun ehangach adnoddau, blaenoriaethau a gwerth y refeniw a gesglir. Bydd ACC yn dirprwyo’r swyddogaeth cydymffurfio a gorfodi i Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae'r costau hyn wedi'u cynnwys yn yr amlen fras a nodir yn adran 8.29.

Crynodeb a’r opsiwn a ffefrir

8.78 Yr opsiwn a ffefrir yw opsiwn 3, sef gweithredu treth i ddisodli LfT trwy sefydlu

LDT. Bydd hyn yn darparu ateb 'penodol i Gymru' gan gymryd i ystyriaeth ddulliau gweithredu yn yr Alban a gwledydd eraill (lle bônt yn wahanol i'r ddeddfwriaeth bresennol). Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfrwng y Bil ac yn amodol ar ewyllys y Cynulliad a disgwylir iddo ddod i rym ym mis Ebrill 2018 pan gaiff LfT ei hanghymhwyso yng Nghymru.

8.79 Prif fantais sefydlu treth newydd yw darparu sicrwydd a sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant gwastraff. Trwy hwyluso cysondeb â sut y caiff gwastraff wedi’i dirlenwi ei drin yng Nghymru a Lloegr caiff y risg o dwristiaeth gwastraff ei leihau. Mae’n sicrhau hefyd y gall mantais y refeniw treth barhau i gael ei sicrhau ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

8.80 Mae’r manteision ehangach yn cynnwys cefnogi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sef Symud Cymru Ymlaen a’i pholisïau ehangach ar wastraff a’r amgylchedd, yn enwedig parhau i alluogi Tuag at Ddyfodol Ddiwastraff a helpu i gyflawni’r nodau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Page 100: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

100

8.81 Y prif newidiadau a wnaed mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid trwy'r ymgynghoriad ar LDT yng ngwanwyn 2015 yw newidiadau mewn perthynas â darparu eglurder a mynd i'r afael â meysydd sy’n destun dryswch a phryder; diwygio deddfwriaeth sydd wedi dyddio a dileu'r darpariaethau nad ydynt yn berthnasol yng Nghymru ac adlewyrchu arferion cydnabyddedig yn well.

8.82 Bydd y prif faes newid, sef cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth nid yn unig yn dod â budd i gymunedau y mae gwarediadau heb eu hawdurdodi’n effeithio arnynt drwy geisio atal y gweithgarwch hwn yn y dyfodol ond mae hefyd yn anelu at gadw cyfleoedd i efadu trethu i’r lleiaf a thrwy hynny ddiogelu refeniw ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Effaith Sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi – Costau a Menteision

8.83 Mae’r adran hon yn rhoi manylion costau a manteision y tri opsiwn a amlinellir ym Mhennod 7, ac yn nodi’r opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef cyflwyno Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n benodol i Gymru.

8.84 Mae costau a manteision pob opsiwn wedi cael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r wybodaeth orau oedd ar gael ar yr adeg honno. Mae’r wybodaeth wedi cael ei pharatoi drwy gynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid gan gynnwys y Trydydd Sector, grwpiau cymunedol a gweithredwyr safleoedd tirlenwi.

Opsiwn 1 – Gwneud Dim

Costau

8.85 Heb ddisodli’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, byddai’r pwrs cyhoeddus yn arbed tua £1.4 miliwn y flwyddyn, a byddai hyn yn galluogi’r holl refeniw a godir o’r LDT i gael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dywedodd nifer fach o’r rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad y byddai’r gostyngiad mewn refeniw sy’n ddisgwyliedig o’r LDT yn y blynyddoedd nesaf, yn golygu nad oedd y gronfa hon bellach yn ddull cost-effeithiol, gan ddadlau y byddai’n fwy synhwyrol pe bai’r refeniw yn cyfrannu at gyllido strategol o fewn Llywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus.

Effeithiau peidio â chyflwyno cronfa newydd yn lle’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi

8.86 Fodd bynnag, pe na bai’r gronfa yng Nghymru yn cael ei disodli, byddai ffynhonnell o gyllid yn cael ei symud oddi wrth brosiectau cymunedol ac amgylcheddol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr i ymgynghoriad 2015 yn ystyried bod hyn yn hanfodol a bod mawr ei angen. Nododd ymatebwyr y gallai’r

Page 101: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

101

prosiectau hyn ei chael yn anodd sicrhau’r lefel o gyllid sydd ei angen drwy wahanol ffynonellau. Gallai hefyd gael effaith ar sefydliadau (sy’n gyfrifol am

ddosbarthu arian) sy’n defnyddio eu rôl ddosbarthu i gefnogi eu costau gweinyddol eu hunain. Dywedodd nifer o’r ymatebwyr bod prosiectau yn cynnig manteision uniongyrchol i gymunedau ac i’r amgylchedd, er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau lleol a diogelu cynefinoedd naturiol. Ac o ganlyniad, roeddent hefyd yn cynnig manteision anuniongyrchol fel cefnogi cydlyniant cymunedol, hyrwyddo iechyd a lles, a datblygu sgiliau drwy gyfleoedd i wirfoddoli.

8.87 Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod y gronfa bresennol yn digolledu

cymunedau am yr effeithiau sy’n gysylltiedig â byw ger safle tirlenwi; gall hyn gynnwys mwy o draffig a sŵn. Roedd hefyd yn galluogi gweithredwyr safleoedd tirlenwi i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy gefnogi eu cymunedau lleol.

Effeithiau cyflwyno opsiwn yn lle’r Gronfa Gwarediadau Tirlenwi

8.88 Mae opsiynau 2 a 3 yn cyflwyno achos ar gyfer newid – gan gyflwyno opsiwn newydd yn lle’r LCF yng Nghymru. Un o brif fanteision cyflwyno cynllun yn lle’r LCF yng Nghymru yw gallu parhau i gefnogi cymunedau a effeithir gan warediadau gwastraff i dirlenwi. Bydd yn galluogi prosiectau a fyddai fel arall

yn peidio â chael eu hariannu o bosibl, i barhau i gynnig manteision i gymunedau ac i’r amgylchedd.

8.89 Wrth wneud hynny, bydd yn cyfrannu at gyflawni rhaglen lywodraeth Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, a’i amcanion58, sy’n ceisio rhoi’r saith amcan llesiant cenedlaethol ar waith, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Y bwriad yw creu gwlad gynaliadwy y mae pawb eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol, drwy greu Cymru sy’n llewyrchus ac yn ddiogel; yn iach ac yn actif; yn uchelgeisiol ac yn dysgu; ac yn unedig ac yn gysylltiedig.

Opsiwn 2 – Dyblygu’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol

8.90 Mae’r opsiwn gwneud y lleiafswm yn golygu dyblygu’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Costau

8.91 Gan ddefnyddio rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer trethi tirlenwi, byddai’r gost o ddyblygu’r LCF presennol (yn seiliedig ar y cyfraniad credyd LCF presennol uchaf posibl o 5.3%) a chost weinyddol o 10% (sy’n adlewyrchu’r cap gweinyddol presennol o 7.5% ar DEBs a chost gweinyddol o 2.5% ar gyfer y rheoleiddiwr) yn £1.3m yn 2018-19, ac yn gostwng i £1.2m yn 2021-22. Mae hyn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn gallu parhau i wneud cyfraniadau gwirfoddol i’r gronfa ar y lefelau presennol. Noder: Dyma gyfanswm cost y cynllun, a byddai tynnu’r costau

58

http://gov.wales/about/programme-for-government/?skip=1&lang=cy

Page 102: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

102

gweinyddol yn gadael £1.2m o gyllid ar gyfer prosiectau yn 2018-19, a byddai hyn yn gostwng i £1m yn 2021-22.

8.92 Yn yr un modd â’r cynllun presennol, bydd cost i’r rheini sy’n dymuno gwneud cais am gyllid. Fodd bynnag, ar sail wirfoddol y gwneir cais i’r LCF, a disgwylir y bydd y gost o ymgeisio yn is na swm y cyllid a ddyfernir.

Effeithiau dyblygu’r LCF presennol yng Nghymru

8.93 Un o’r manteision o ddyblygu’r LCF presennol yng Nghymru, yw bod rhanddeiliaid, gan gynnwys y Trydydd Sector, grwpiau cymunedol a gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn gyfarwydd â’r gronfa a sut y mae’n gweithio. Gall hefyd fod yn fanteisiol i sefydliadau (sy’n gyfrifol am ddosbarthu arian) sy’n defnyddio eu rôl ddosbarthu tuag at eu costau gweinyddol eu hunain.

8.94 Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon bod lefel y refeniw sy’n deillio o drethi yn gostwng, ac y bydd y swm sydd ar gael ar gyfer cynllun hefyd yn gostwng. Mae sylwadau gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn adlewyrchu hyn, sy’n dweud eu bod yn ei chael yn gynyddol anodd gwneud cyfraniadau gwirfoddol i’r gronfa. Mae pryderon hefyd nad yw arian wedi cyrraedd cymunedau mor gyflym ag y dylai; yn 2015, cafodd yr LCF ei adolygu gan GThEM yng ngoleuni ffigurau a oedd yn dangos bod DEBs/Cyrff Amgylcheddol wedi cronni symiau mawr o arian na wariwyd (£140 miliwn).

8.95 Mae ystyriaeth wedi’i roi i sut i sicrhau bod y swm mwyaf posibl o gyllid yn cyrraedd prosiectau er budd cymunedau. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gwaith ymgysylltu rhanddeiliaid yn dangos yn glir bod angen am fodel gweinyddol syml a chost-effeithiol. Yn 2015, roedd 191 o DEBs/Cyrff Amgylcheddol wedi’u cofrestru yng Nghymru, gyda thua 50 yn weithredwr. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn galw am ostyngiad yn nifer y DEBs sydd ynghlwm gweinyddu cynllun, gyda’r rhan fwyaf yn awgrymu y dylid cael un corff dosbarthu.

Opsiwn 3 –Datblygu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n benodol i Gymru

8.96 Y trydydd opsiwn yw cyflwyno cynllun sy’n benodol i Gymru. O dan yr opsiwn hwn, ni fydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gweithredu fel cynllun credyd treth gwirfoddol. Yn hytrach, caiff ei gyflwyno fel cynllun grant, a bydd cyllid yn cael ei greu drwy ddyrannu rhywfaint o refeniw LDT a gesglir i drydydd parti i’w ddosbarthu’n uniongyrchol i brosiectau; gan felly ddarparu ffrwd o gyllid mwy sefydlog. Mae’r opsiwn hwn yn cynnig ateb syml, fforddiadwy i faterion gweinyddol, ac yn sicrhau bod costau’n aros yn isel er mwyn galluogi’r swm mwyaf posibl o gyllid i fod ar gael, er budd cymunedau.

Costau

8.97 O dan yr opsiwn hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn dirprwyo cyfrifoldeb am weinyddu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i gorff dosbarthu. Mae disgwyl i’r corff dosbarthu ddosbarthu gwerth tua £1.4m o

Page 103: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

103

grantiau i brosiectau bob blwyddyn. Mae hyn yn ceisio sicrhau bod y cyllid sydd ar gael i brosiectau yng Nghymru ar yr un lefel o leiaf, os nad yn uwch na’r LCF presennol sydd i’w ddyblygu. Mae’r amcangyfrif presennol gorau yn awgrymu y bydd y costau gweinyddol tua £100,000 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm cost y cynllun tua £1.5m. Mae’r ffigur hwn yn dibynnu ar addasiad terfynol y grant bloc ynghylch LDT, ac nid fydd hwn yn

derfynol tan ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi Cyllideb yr Hydref. Mae rhai wedi rhagdybio beth fydd canlyniad y broses honno a’r cynigion, ond ni fyddwn yn gwybod beth fydd y sefyllfa derfynol hyd nes bod y broses o greu cyllideb yr hydref wedi’i chwblhau.

8.98 Bydd cost i’r rheini sy’n dymuno gwneud cais am grant o dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Nid yw’r broses ymgeisio wedi’i phennu’n iawn eto, ond disgwylir y bydd yn un syml, ac felly bydd y gofyniad amser yn llai na’r broses ymgeisio LCF bresennol. Ar sail wirfoddol y gwneir cais am grant, ac rydym yn disgwyl y bydd y gost weinyddol yn is na swm y grant a ddyfernir. Caiff y broses ymgeisio am grantiau ei datblygu ar ôl i’r corff dosbarthu gael ei benodi yn ddiweddarach eleni.

Effeithiau’r newidiadau

a) Cynllun grant sy’n cynhyrchu cyllid trwy ddyrannu rhywfaint o’r refeniw a gasglwyd o’r LDT i gorff dosbarthu

8.99 O dan yr opsiwn hwn, caiff y drefn weinyddol ei symleiddio o gymharu ’r broses ddosbarthu bresennol (ffigur 1) fel bod y corff dosbarthu yn gweinyddu grantiau yng Nghymru (ffigur 2). Bydd corff dosbarthu yn helpu i roi sicrwydd clir a fframwaith llywodraethu, yn ogystal lleihau costau gweinyddu. Bydd hefyd yn sicrhau bod proses ymgeisio haws ar gawl, sy’n rhoi un pwynt cyswllt i ymgeiswyr.

Page 104: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

104

Ffigur 1: Proses Ddosbarthu Bresennol yr LCF

Prosiect Gweithredwr

Safle Tirlenwi

Corff Dosbarthu

Amgylcheddol

Corff

Amgylcheddol

Entrust

(Rheoleiddiwr)

CThEM

Page 105: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

105

Ffigur 2: Proses Ddosbarthu a gynigir ar gyfer Cynllun Cymunedol yr LDT

8.100 At hynny, o dan yr LCF presennol, mae pob DEB yn gallu pennu ei feini prawf ei hun. Golyga hyn y gallai prosiectau sydd wedi’u lleoli ger safle tirlenwi fod wedi cael eu gwrthod gan nad oeddent yn bodloni’r meini prawf. I’r gwrthwyneb, bydd gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi feini prawf cyffredinol ar gyfer yr holl brosiectau, a chaiff y ceisiadau eu gwneud i un corff dosbarthu. Dylai hon fod yn system fwy tryloyw a dealladwy.

8.101 Mae’r dull hwn yn rhoi cyfle i weithio gyda chorff dosbarthu i sicrhau bod y cyllid mwyaf posibl o’r cynllun yn mynd i gymunedau yng Nghymru. Bydd corff dosbarthu yn gallu cynnig profiad a dulliau arloesol i ddylanwadu ar y ffordd orau o weithredu’r cynllun. Er enghraifft, efallai y bydd gan y corff syniadau am sut i gynhyrchu canllawiau hygyrch a phroses ymgeisio syml, fel bod y cynllun yn gallu cyrraedd cymunedau newydd a lleol, a mentrau nad oedd o bosibl yn ymwybodol o’r ffrwd gyllido hon cyn hyn. Efallai y byddai ganddynt hefyd farn am y ford orau o fonitro a gwerthuso prosiectau unigol sydd wedi derbyn cyllid.

8.102 Drwy ddyrannu rhywfaint o’r refeniw LDT i’r cynllun, bydd yn caniatáu i bob gweithredwr safle tirlenwi yng Nghymru gael rhan yn y Cynllun Cymunedau; gan felly eu helpu i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Corff Dosbarthu

Prosiectau

Llywodraeth Cymru yn dyrannu

peth o refeniw’r LDT

Page 106: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

106

b) Bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau sy’n cefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwelliannau amgylcheddol eraill

8.103 Y meysydd cyllido hyn oedd y rheini a gefnogwyd gan y bobl a ymatebodd i ymgynghoriad 2015. Bydd prosiectau bioamrywiaeth yn cefnogi cadwraeth a hyrwyddo rhywogaethau penodol neu gynefin penodol lle y mae’n digwydd yn naturiol. Bydd prosiectau Lleihau Gwastraff yn ceisio codi ymwybyddiaeth ac arfer gorau er mwyn lleihau nifer y gwastraff a gynhyrchir. Bydd prosiectau sy’n cefnogi gwelliannau amgylcheddol ehangach yn ceisio sicrhau manteision cymunedol ehangach drwy wella ansawdd lle - creu mannau gwyrdd, rhoi bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso a chynnal neu wella cyfleusterau cymunedol.

c) Bydd canolbwynt daearyddol y cynllun yn lleihau i bum milltir o gwmpas safle tirlenwi (hyd nes bydd gwarediadau trethadwy wedi’u cwblhau) ac yn ymestyn i bum milltir o gwmpas gorsaf trosglwyddo gwastraff, sy’n anfon o leiaf 2,000 tunnell o wastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

8.104 Mae’r dull hwn yn ceisio cydnabod y gallai nifer y safleoedd tirlenwi yng Nghymru fod yn is na 10 erbyn 2020; cefnogi’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan warediad gwastraff i safleoedd tirlenwi, ac yn ceisio cael cydbwysedd a sicrhau bod cymaint o fentrau â phosibl yn gymwys heb daenu’r cyllid yn rhy denau.

8.105 At hynny, bydd ymestyn cymhwysedd i gynnwys cymunedau sydd wedi’u lleoli o gwmpas gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn golygu bod modd ehangu cymhwysedd i ardaloedd nad ydynt wedi bod yn gymwys am gyllid yn y gorffennol, a chefnogi prosiectau sy’n ymestyn ar draws gwahanol rannau o Gymru - gan barhau i sicrhau y bydd y rheini yr effeithir arnynt fwyaf gan warediadau gwastraff yn gweld manteision.

Page 107: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

107

Ardaloedd sy’n gymwys am gyllid LCF (o fewn 10 milltir i safle tirlenwi) fel ag yr oedd ym mis Mai 2016 (noder: mae 25 o safleoedd tirlenwi yng Nghymru ar hyn o bryd).

Page 108: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

108

Ardaloedd sy’n gymwys i gael cyllid dan Gynllun Cymunedol yr LDT o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Page 109: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

109

Manteision ehangach a gwerthuso’r cynllun

8.106 Llywodraeth Cymru fydd yn darparu’r llywodraethu cyffredinol dros y cynllun; gan sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu yn unol ag amcanion ac egwyddorion y cynllun. Gan ystyried amcanion amgylcheddol ehangach y cynllun, bydd hyn yn dod o fewn portffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac yn cael ei dalu o gyllidebau presennol.

8.107 Fel y nodir yn y papur sy’n rhoi’r diweddaraf am y Cynllun Cymunedau LDT59 a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, bydd y cynllun newydd yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion cyffredinol, a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer llunio darpariaeth weithredol y cynllun – bydd yn ceisio gwella ansawdd lle; sicrhau manteision cymunedol ehangach a sicrhau bod y swm mwyaf posibl o arian yn cyrraedd mentrau.

8.108 Mae’r egwyddorion cyffredinol wedi cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid. Bydd gwella ansawdd lle yn canolbwyntio ar hyrwyddo ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol, lleihau’r effeithiau negyddol ar gymunedau yr effeithir arnynt gan warediad deunyddiau fel gwastraff i safleoedd tirlenwi, a gwella mannau sy’n bodoli eisoes. Bydd darparu buddion cymunedol ehangach yn canolbwyntio ar gefnogi cyfranogiad cymunedol, yn arbennig gwirfoddoli a datblygu sgiliau; hyrwyddo a chynnal perthnasoedd da rhwng gweithredwyr safleoedd tirlenwi, cymunedau a’r corff dosbarthu a chefnogi prosiectau cynaliadwy nad ydynt yn dibynnu ar gyllid parhaus. Bydd sicrhau bod cymaint â phosibl o gyllid yn cyrraedd y mentrau yn canolbwyntio ar gynnal model gweinyddol cost effeithiol, gwneud cyllid yn hygyrch trwy ddarparu amcanion clir a dealladwy a phroses ymgeisio syml.

8.109 Bydd gofyn i’r corff dosbarthu gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynllun gan gynnwys monitro data sy’n amlinellu sut y mae’r arian yn cael ei ddyrannu a’r canlyniadau a gyflawnwyd, fel ei fod yn glir sut y mae’r arian yn cael ei wario, a’i fod yn cael ei ddosbarthu’n deg. Mae’r gost ar gyfer hyn wedi’i gynnwys yn y costau gweinyddol o £100,000. Fel rhan o hyn, bydd disgwyl i’r corff gweinyddol sicrhau bod fframwaith gwerthuso yn rhan o’r cynllun o’r dechrau.

8.110 Bydd angen i brosiectau ddangos sut maen nhw’n alinio â rhaglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a mentrau eraill gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys trechu tlodi a chefnogi twf a swyddi. Y rhain sydd wrth wraidd egwyddorion polisi treth Llywodraeth Cymru.

8.111 Cynhelir adolygiad o’r cynllun o fewn 4 blynedd i gyhoeddi’r Cynllun.

Crynodeb a’r Opsiwn a Ffefrir

8.112 Un o brif fanteision sefydlu Cynllun Cymunedau LDT i ddisodli’r LCF yng Nghymru yw er mwyn parhau i gefnogi cymunedau a effeithir gan warediadau gwastraff i’w dirlenwi. Mae’n darparu ffrwd sefydlog o gyllid a model

59

http://gov.wales/funding/fiscal-reform/welsh-taxes/landfill-disposals-tax/communities-scheme/?skip=1&lang=cy

Page 110: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

110

gweinyddol syml a chost effeithiol sy’n ceisio sicrhau bod y swm mwyaf posibl i gyllid yn cyrraedd prosiectau er bydd cymunedau. Mae’n galluogi’r cynllun i gael ei deilwra i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn canolbwyntio ar y meysydd cyllido a gefnogir gan randdeiliaid - bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwelliannau amgylcheddol ehangach. Cynhelir mwy o waith ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn mireinio a datblygu manylion yr opsiwn a ffefrir. Yn arbennig, bydd yn ceisio sicrhau bod canllawiau hygyrch a phroses ymgeisio syml ar gael a fydd yn arwain at geisiadau llwyddiannus gan fentrau cymunedol lleol, a bydd yn edrych ar ffocws daearyddol y cynllun, gan sicrhau bod synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio. Dechreuodd y broses gaffael i benodi corff dosbarthu ar 29 Mai, wrth i’r hysbysiad o wybodaeth flaenorol gael ei gyhoeddi60 , ac mae disgwyl i hyn fod yn derfynol yn hydref 2017.

60

https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=MAY200752

Page 111: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

111

Pennod 9: Asesiadau Effaith Penodol

9.1 Cafodd cyfres o asesiadau effaith eu cynnal ar y Bil drafft fel rhan o’r Asesiad

Effaith Rheoleiddiol hwn. Cwblhawyd asesiadau effaith cychwynnol cyn yr ymgynghoriad Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi yn 201561 ac adolygwyd y rhain ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ac ar ôl i’r Bil gael ei ddrafftio.

9.2 Yn gyffredinol, ni ddisgwylir i sefydlu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) fel treth i ddisodli’r Dreth Dirlenwi (LfT) gael effaith sylweddol ar y mwyafrif o fusnesau neu bobl. Er bod rhai mân amrywiadau yn strwythur LDT o’i gymharu ag LfT, mae’r gofyniad i dalu treth ar gyfer tirlenwi yn bodoli’n barod a bydd yn dal i fodoli pan fydd y dreth wedi'i datganoli i Gymru.

9.3 Bydd y Bil yn sefydlu’r fframwaith trefniadol i Lywodraeth Cymru bennu ei chyfraddau treth ei hun ar gyfer LDT yng Nghymru. Ni fydd effaith lawn y dreth gwarediadau tirlenwi yn hysbys hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfraddau treth yn yr hydref 2017. Caiff cyfraddau trethi ar gyfer LDT eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth a bydd angen cwblhau asesiad effaith ar wahân ar gyfer hynny.

9.4 Mae’n debygol y bydd effeithiau ar gyfer grwpiau penodol mewn perthynas â chasglu a rheoli LDT ac fel y cyfryw mae asesiadau cychwynnol o’r effaith eisoes wedi’u gwneud ac maent ar gael yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 201662. Mae penderfyniadau gweithredol i’w gwneud hefyd ar gasglu a rheoli’r dreth hon gan ACC yn ystod ei sefydlu a gallai fod angen cwblhau asesiadau effaith ar wahân.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

9.5 Cynhaliwyd asesiad effaith i werthuso a oes gan y ddeddfwriaeth hon unrhyw

effeithiau sylweddol ar grwpiau gwarchodedig ac i sicrhau nad yw'n torri Deddf Hawliau Dynol 1998. Ceir asesiad o'r effaith ar Hawliau Dynol ym mharagraff 4.10 o’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

9.6 ACC fydd yn mynd ati i gasglu a rheoli LDT. Fel corff cyhoeddus, bydd angen i ACC gydymffurfio â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

9.7 At ei gilydd, byddai peidio â rhoi LDT ar waith yn arwain at gyllideb is i Lywodraeth Cymru, a fyddai’n golygu llai o adnoddau i’w buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n debygol felly y byddai peidio â chyflwyno LDT yn cael effaith anghymesur o fawr ar aelwydydd incwm is yng Nghymru ac yn peri anfantais iddynt, gan mai’r rhai ar incwm is ar gyfartaledd sy’n tueddu i elwa fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus. Mae rhai grwpiau gwarchodedig yn debycach o berthyn i’r categori hwn. Felly mae

61

Mae Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gwanwyn 2015) a’r crynodeb o’r ymatebion (Medi 2015) ar gael i’w gweld yn: http://gov.wales/betaconsultations/finance/landfill-disposals-tax/?lang=cy 62

Memorandwm Esboniadol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), yn ymgorffori'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Gorffennaf 2015. Ar gael i'w weld yn: http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/pri-ld10293-em/pri-ld10293-em-w.pdf

Page 112: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

112

cyflwyno treth newydd a diogelu gwasanaethau cyhoeddus yn gam cadarnhaol i’r grwpiau hyn.

9.8 Bu ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid allanol drwy gydol y broses o ddatblygu polisi, gan gynnwys gweithdai ledled Cymru yn ystod ymgynghoriad 2015 ar gynigion deddfwriaethol LDT. Er na ddaeth unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn i law oddi wrth gyrff cydraddoldeb penodol, roedd ymatebion perthnasol yn cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Sefydliad Bevan a chyrff eraill y trydydd sector. Roedd y cyrff hyn yn cefnogi'r cynigion ar gyfer treth newydd yn fras, ond bu iddynt bwysleisio’r angen i ddyrannu cyfran o refeniw LDT i gefnogi mentrau llesiant cymunedol (gan y gall gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi gael effaith anghymesur ar gymunedau a leolir gerllaw). Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau y caiff hyn ei gyflawni drwy Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy'n cael ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys gweithredwyr safleoedd tirlenwi a'r trydydd sector.

Grwpiau Gwarchodedig

Oedran

9.9 Pobl iau: mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plentyn wedi’i gynnal i lywio darpariaethau’r Bil ac fe ganfu na fydd unrhyw effaith uniongyrchol ar blant o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth.

9.10 Pobl 18 oed a throsodd: mae’n bosibl y bydd y ddeddfwriaeth LDT yn effeithio ar y bobl hyn, ond ni fernir bod gan y dreth ei hun effaith wahaniaethol o ran oedran.

Anabledd

9.11 Bil gweithdrefol yw hwn ac mae’n nodi’r fframwaith a’r strwythur ar gyfer trethu gwarediadau gwastraff trwy gyfrwng tirlenwi. Nid oes gan y Bil unrhyw effaith uniongyrchol ar gyfer y grŵp gwarchodedig hwn. Er hynny, ACC fydd yn casglu ac yn rheoli LDT, ac o safbwynt cyflawniad gweithredol ACC efallai y bydd effeithiau bach iawn; fel y cyfryw mae asesiadau cychwynnol o’r effaith wedi’u gwneud ac maent ar gael yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi63.

Rhywedd

9.12 Ni fernir bod darpariaethau’r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â rhywedd.

63

Memorandwm Esboniadol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), yn ymgorffori'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Gorffennaf 2015. Ar gael i'w gweld yn: http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld10293-em-r/pri-ld10293-em-r-w.pdf

Page 113: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

113

Trawsrywedd

9.13 Ni fernir bod darpariaethau’r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol ar y rhai sy’n drawsryweddol.

Priodas a phartneriaeth sifil

9.14 Ni fernir bod darpariaethau’r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â phriodas neu bartneriaeth sifil.

Beichiogrwydd a Mamolaeth

9.15 Ni fernir bod darpariaethau’r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â’r rhai sy’n feichiog neu yn ystod absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth.

Hil

9.16 Mae’r grŵp gwarchodedig hwn yn cynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig, tarddiad cenedlaethol, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Sipsiwn a Theithwyr, ymfudwyr ac eraill. Ni fernir bod darpariaethau'r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol ar y rhai sydd o fewn y grŵp gwarchodedig o ran hil.

Crefydd a chred neu ddiffyg cred

9.17 Ni fernir bod darpariaethau'r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol ar y rhai yng ngrŵp gwarchodedig crefydd a chred, neu ddiffyg cred.

Cyfeiriadedd rhywiol

9.18 Mae’r grŵp gwarchodedig hwn yn cynnwys dynion hoyw, lesbiaid a phobl ddeurywiol. Ni fernir bod darpariaethau'r Bil a sefydlu LDT yn cael effaith wahaniaethol ar y rhai o fewn y grŵp gwarchodedig hwn.

Hawliau Dynol

9.19 Mae Deddf Hawliau Dynol 1998, sy’n ymgorffori’n rhannol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR), wedi’i hystyried yn yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb.

9.20 Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgan na fydd Bil o fewn cynhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru os yw’n anghydnaws ag ECHR ac na allai ddod yn gyfraith (adran 108(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).

9.21 Prif Erthyglau ECHR sy’n berthnasol at ddibenion y Bil yw:

Page 114: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

114

- Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf sy’n gwarantu’r hawl i fwynhau’ch eiddo yn heddychlon;

- Erthygl 6 sy’n gwarantu’r hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus wrth benderfynu ar hawliau sifil a rhwymedigaethau a chyhuddiadau troseddol ac sy’n rhoi hawliau pellach lle cyhuddir person o drosedd;

- Erthygl 8 sy’n gofyn am barch at eich bywyd preifat a theuluol; ac

- Erthygl 14 sy’n darparu rhyddid i berson fwynhau ei hawliau o dan y Confensiwn heb fod yn destun gwahaniaethu.

9.22 Mae Erthygl 1 o’r Protocol cyntaf yn berthnasol am fod y Bil yn darparu ar gyfer rheoli defnydd o eiddo. Er enghraifft, mae’r pwerau arolygu o dan adran 58 yn darparu i ACC gael mynediad i safleoedd a deunydd sy'n ymwneud ag asesu treth megis dogfennau, gan gynnwys y rhai a gedwir ar ddyfeisiau electronig. Efallai y bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r dreth a’i thalu a chosbau o dan amgylchiadau penodol. Er hynny mae darpariaethau'r Bil wedi’u llunio â’r egwyddor o gymesuredd mewn cof a sicrhau bod camau diogelu digonol yn rhan o'r system.

9.23 Cydymffurfir ag Erthygl 6 gan y bydd gan y trethdalwr hawliau i apelio yn erbyn penderfyniadau ACC mewn perthynas ag LDT.

9.24 Mae Erthygl 8 yn berthnasol gan fod y Bil yn cydategu pwerau arolygu a gynhwysir yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi; gallai defnyddio’r rhain ymyrryd â hawliau preifatrwydd person. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod ymyrraeth o’r fath yn gymesur a bod modd ei gyfiawnhau, yn arbennig mae’n destun nifer o fesurau diogelwch, gan gynnwys y gofyniad i gael caniatâd ymlaen llaw gan y person perthnasol neu awdurdodiad gan y Tribiwnlys Trethi.

9.25 Er bod y Bil yn cynnwys darpariaethau arbennig sy’n trin rhai personau mewn ffordd wahanol i’w gilydd (er enghraifft grwpiau corfforaethol, partneriaethau), nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod triniaeth o'r fath yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon yn groes i Erthygl 14. I'r graddau y mae Erthygl 14 (ynghyd ag, er enghraifft, Erthygl 1 Protocol 1) yn cael ei hysgogi mae unrhyw wahaniaeth mewn triniaeth yn mynd ar drywydd nod dilys (er enghraifft mae’n cymryd i ystyriaeth nodweddion penodol partneriaethau), ac nid yw’n anghymesur. Mae cydnawsedd y Bil â Chonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop (gan gynnwys yr erthyglau uchod) wedi'i ystyried cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Mae’r dadansoddiad hwnnw wedi canfod nad yw'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n anghydnaws ag ECHR.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

9.26 Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Hawliau’r Plentyn i lywio darpariaethau’r Bil a chanfod na fydd unrhyw effaith uniongyrchol ar blant o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth.

Page 115: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

115

Yr effaith ar y Gymraeg

9.27 Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg sydd wedi canfod nad oes unrhyw gysylltiad clir â’r Safonau’r Gymraeg o gofio ffocws cul y dreth. Ceir cysylltiadau agos iawn rhwng y Bil hwn a’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, sy'n nodi’r drefn lywodraethu o ran sut y caiff trethi datganoledig eu casglu a'u rheoli yng Nghymru ac yn rhoi pwerau i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru i gyflawni'r swyddogaeth hon.

9.28 Fel corff cyhoeddus newydd yng Nghymru, bydd ACC yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a bydd yn cymryd cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae manteision datganoli LfT yn ymwneud â’r gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael i gwsmeriaid a bydd y dull yn sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth iaith yn y gwasanaethau a ddarperir.

Datblygu Cynaliadwy

9.29 Ystyr datblygu cynaliadwy yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac

amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau bywyd o ansawdd gwell yn y tymor hir i ni’n hunain a chenedlaethau'r dyfodol mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Dros y 15 mlynedd diwethaf, cydnabuwyd bod Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â datblygu cynaliadwy, sydd wedi bod wrth wraidd polisi Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli. Gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i Gymru erbyn 2050 yw mai Cymru fydd y lle gorau i fyw, dysgu, gweithio a gwneud busnes, a hynny mewn amgylchedd a gaiff ei barchu a’i fwynhau. Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno cryfhau'r amodau a fydd yn galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy. Mae'r Bil yn ceisio hyrwyddo’r egwyddor hon drwy gyflwyno LDT i ddisodli’r LfT bresennol yn sgil anghymhwyso’r dreth dirlenwi yng Nghymru.

9.30 Bydd LDT yn dreth ar warediadau gwastraff trwy dirlenwi a bydd yn sicrhau

bod costau tirlenwi gwastraff yn adlewyrchu’r effaith amgylcheddol sy’n gallu digwydd, megis y difrod a achosir trwy gynhyrchu methan (sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang) a llygredd dŵr daear. Er hynny, mae gweithrediad tirlenwi cyfrifol yn ofyniad ar y gyfundrefn trwydded amgylcheddol, y mae rhaid i safle tirlenwi awdurdodedig ei chael cyn y gall weithredu, a bydd LDT yn gweithio ochr yn ochr â’r drefn hon.

9.31 Fel LfT, mae LDT yn ceisio newid y cydbwysedd o gymhellion i annog

arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a mwy o atal, ailgylchu, ailddefnyddio ac adfer gwastraff. Bydd cyflwyno LDT yn cefnogi polisïau gwastraff Llywodraeth Cymru gan gynnwys ei tharged uchelgeisiol o ddim gwastraff i safleoedd tirlenwi erbyn 2050. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Page 116: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

116

9.32 Pe na bai LDT yn cael ei chyflwyno, byddai un o gymhellion allweddol lleihau gwastraff yn cael ei leihau a byddai effeithiau negyddol o safbwynt llesiant a’r amgylchedd yn sgil mwy o darfu ar drigolion ger safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff; cynyddu ôl troed carbon gwaredu gwastraff a phwysau cynyddol ar weddill safleoedd tirlenwi Cymru gyda galwadau posibl i safleoedd tirlenwi newydd gael eu datblygu.

9.33 Bydd LDT yn cynnig cymhelliant ariannol i’r diwydiant gwastraff barhau i

fabwysiadu arferion rheoli gwastraff gwell, gan sicrhau mai tirlenwi yw'r dull lleiaf cost-effeithiol o gael gwared ar wastraff. Rhagwelir y bydd LDT yn hybu buddsoddiad mewn technolegau ecogyfeillgar amgen ar gyfer gwaredu gwastraff. Mae LDT yn anelu at fod yn gyson â’r gyfundrefn drethi gyfredol lle bo'n briodol i ddarparu sicrwydd ar gyfer busnes ac i gynorthwyo gyda’u strategaethau cynllunio a buddsoddi ariannol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar dwf yn yr economi yng Nghymru ac ni fydd yn mygu twf yn genedlaethol.

9.34 Yn olaf, bydd cyflwyno LDT yn sicrhau y gall darparu gwasanaethau

cyhoeddus yng Nghymru barhau i dderbyn mantais refeniw a godir ar hyn o bryd gan LfT, gan effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru. Ymchwilir i hyn ym mharagraff 9.7.

9.35 Yn gyffredinol, mae'r Bil yn cefnogi egwyddor Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy ac amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol 2015 drwy gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant cymunedau, ar yr amgylchedd ac ar dwf economaidd.

Iechyd a Llesiant

9.36 Mae ymestyn cwmpas y LfT i gynnwys codi treth gwarediadau tirlenwi ar warediadau heb eu hawdurdodi yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar gymunedau sy'n byw ger safleoedd gwastraff anghyfreithlon. Mae’r safleoedd anghyfreithlon hyn yn aml yn gweithredu heb y seilwaith a’r mesurau diogelwch perthnasol; fe allai hyn effeithio ar iechyd cymunedau cyfagos. Ar hyn o bryd, ystyrir bod budd ariannol gweithredu safleoedd hyn yn fwy na'r risg o gael eu dal. Gan y bydd gan ACC y pŵer i gasglu'r dreth o’r safleoedd anghyfreithlon hyn, ceir risg ariannol llawer uwch i'r safleoedd hyn. Efallai y bydd hyn yn helpu i atal safleoedd gwastraff anghyfreithlon pellach rhag cael eu sefydlu ac yn atal safleoedd presennol rhag parhau i fasnachu heb y trwyddedau amgylcheddol perthnasol ar waith.

Prawfesur gwledig

9.37 Hyd at Fai 2016, mae 25 o safleoedd tirlenwi a 20 o weithredwyr yng Nghymru64 ac mae nifer o’r rhain wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig.

64

https://www.gov.uk/government/publications/landfill-tax-site-operators

Page 117: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

117

9.38 Mae ymestyn cwmpas y dreth fel y gellir codi LDT ar warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar gymunedau gwledig yng Nghymru. Gall gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi beri pryderon o safbwynt yr amgylchedd ac iechyd i’n cymunedau gwledig yn ogystal â bod yn ddolur llygad. Bydd y cynnig hwn yn ddull ariannol ychwanegol o atal y gweithgarwch hwn, gan effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau gwledig lle mae rhywfaint o’r gweithgarwch hwn yn digwydd.

9.39 Pe na bai treth newydd ar warediadau drwy dirlenwi’n cael ei chyflwyno yng Nghymru, yna anfon gwastraff i’w dirlenwi fyddai’r dewis rhataf o ran rheoli gwastraff. Byddai hyn yn cael effeithiau amgylcheddol sylweddol a byddai hefyd yn effeithio ar y system rheoli gwastraff yng Nghymru. Gallai hyn gael effaith andwyol hefyd ar gymunedau gwledig a leolir gerllaw safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, o ganlyniad i fwy o aflonyddu a chynnydd mewn gwastraff sy’n teithio ymhellach ar ffyrdd drwy ardaloedd gwledig. Yn ogystal, gallai’r pwysau cynyddol ar yr ychydig safleoedd tirlenwi sy'n weddill arwain at alwadau i safleoedd tirlenwi newydd gael eu datblygu, a hynny o bosibl mewn ardaloedd gwledig.

9.40 Ni ddisgwylir i’r dreth ei hun gael effaith andwyol ar y gymuned wledig. Er hynny, cyfrifoldeb ACC fydd casglu a rheoli treth a gallai’r dull 'digidol diofyn' – os caiff ei fabwysiadu gan ACC – gael effaith mewn ardaloedd gwledig sydd â chysylltiad band eang gwael. I liniaru hyn, fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ei lwyfan digidol, bydd ACC yn ceisio barn gweithredwyr safleoedd tirlenwi mewn lleoliadau gwledig i ddeall unrhyw heriau rhyngrwyd/band eang cyn pennu manylion terfynol ei ddull gweithredu.

9.41 Nid oes unrhyw effaith bellach ar y Gymraeg yn deillio o’r Bil hwn ond gweler paragraffau 9.27 a 9.28 am ddadansoddiad pellach.

9.42 Fel LfT, treth ymddygiad amgylcheddol yw LDT sy’n anelu at atal gwastraff a’i ddargyfeirio o dirlenwi tuag at fwy o ailgylchu, adfer ac ailddefnyddio. Fel y cyfryw, bydd llwyddiant yn golygu y bydd gwastraff sy’n cael ei anfon i’w dirlenwi yn parhau i leihau ac y bydd nifer y safleoedd tirlenwi yng Nghymru’n gostwng. Yn yr un modd, disgwylir twf ar yr un pryd mewn meysydd eraill o’r diwydiant rheoli gwastraff yn gysylltiedig ag ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer.

Yr Effaith ar Breifatrwydd

9.43 Nodir y pwerau i sefydlu ACC yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, ynghyd â phwerau ar ymdrin â gwybodaeth a’i rhannu. Cwblhawyd proses sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd wrth baratoi’r Ddeddf.

9.44 Cwblhawyd proses sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd ar gyfer LDT. Gan fod LfT yn cael ei chasglu’n barod (er bod hynny ar sail y DU) a bod cynnig i ddatganoli’r swyddogaeth honno i Gymru, argymhellir nad oes newid o reidrwydd yn y disgwyliadau o ran preifatrwydd unigolion. Ar hyn o bryd, ceir proses i drethi gael eu talu sy'n cynnwys prosesu data.

9.45 Ychydig iawn o ddata personol sy’n cael ei brosesu mewn perthynas ag LDT, sef i bob pwrpas manylion cyswllt yr unigolyn sy’n prosesu’r taliad LDT ar ran

Page 118: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

118

gweithredwr y safle tirlenwi. Felly, nid oes angen Asesiad llawn o'r Effaith ar Breifatrwydd.

Yr effaith ar y sector gwirfoddol

9.46 Ni ddisgwylir i’r Bil effeithio ar y sefydliadau yn y sector gwirfoddol gan na fydd llawer o newidiadau i’r ffordd y mae’r dreth dirlenwi yn gweithredu ar hyn o bryd. Ni ddisgwylir i’r newidiadau i’r dull gwirioneddol o gasglu LDT greu unrhyw faich ychwanegol ar y sector gwirfoddol.

Yr effaith ar fusnesau bach

9.47 Er y bydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn gorfod talu LDT lle gwneir gwarediad trethadwy o wastraff ar safle tirlenwi awdurdodedig, bydd gweithredwr y safle tirlenwi, fel yn achos y drefn bresennol yn trosglwyddo’r costau hyn i gludwyr gwastraff sy’n gwaredu gwastraff ar eu safle, a’r cludwyr hyn yn eu tro’n trosglwyddo’r gost i gynhyrchwyr gwastraff, gan gynnwys busnesau ac awdurdodau lleol. Yn y bôn, mae gofyniad i dalu treth ar gyfer tirlenwi bellach yn bodoli ac fe fydd yn dal i fodoli pan fydd y dreth wedi'i datganoli i Gymru. O ganlyniad, ni fydd unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ar y busnes perthnasol yng Nghymru.

9.48 Fel yr LfT bresennol, bydd LDT yn dylanwadu’n gadarnhaol ar fusnesau i adolygu eu harferion rheoli gwastraff a mynd ati i fuddsoddi mewn mwy o waith i atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff. Felly, er y bydd llwyddiant LDT yn golygu y bydd gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn parhau i ostwng ac y bydd nifer y safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn gostwng, disgwylir y bydd twf ar yr un pryd mewn technoleg werdd.

9.49 Gall efadu trethi roi mantais annheg i bobl dros y rhai sy'n talu treth. Croesawyd y cynnig i godi treth ar warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi gan fusnesau dilys sydd yn aml ar eu colled oherwydd rhai sy'n ceisio osgoi costau gwaredu gwastraff.

9.50 Ar hyn o bryd mae 25 o safleoedd tirlenwi a 20 o weithredwyr yng Nghymru65, ac er mai grŵp crynodedig o fusnesau yw’r gweithredwyr tirlenwi, fel yr amlinellir uchod gallai cyflwyno LDT effeithio ar ystod o fusnesau. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod pontio llyfn i’r trethi newydd yn 2018 yn flaenoriaeth allweddol i’r gymuned fusnes gan darfu cyn lleied â phosibl ar drethdalwyr. Testun pryder arbennig ymhlith yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yng ngwanwyn 2015 sef Datblygu treth gwarediadau tirlenwi oedd yr effaith ar fusnes os byddai gwahaniaethau sylweddol rhwng y cyfraddau trethi a godir yng Nghymru a Lloegr, gyda sawl un yn tynnu sylw at y potensial am ‘dwristiaeth gwastraff’.

9.51 Lle bynnag y bo modd wrth ddatblygu LDT, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio lleihau beichiau ar fusnesau a chadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf. Nodir archwiliad manwl o effeithiau’r Bil ym Mhennod 8 o'r Asesiad

65

https://www.gov.uk/government/publications/landfill-tax-site-operators

Page 119: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

119

Effaith Rheoleiddiol hwn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sylweddoli bod angen sefydlogrwydd hirdymor a sicrwydd ar y diwydiant gwastraff yn sail ar gyfer cynllunio busnes a buddsoddiadau gyda hyder. Pennir cyfraddau LDT yn hydref 2017 yn barod ar gyfer rhoi’r dreth newydd arfaethedig ar waith ym mis Ebrill 2018. Cydnabyddir bod cysondeb â’r cyfraddau yn Lloegr yn arbennig o bwysig yn y maes hwn.

Page 120: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

120

Pennod 10: Asesu Cystadleuaeth 10.1 Mae dau gam i'r Asesiad Cystadleuaeth ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Mae'r

cam cyntaf yn hidlydd syml sy'n asesu a oes risg o effaith andwyol sylweddol ar gystadleuaeth.

10.2 Mae'r tabl isod yn crynhoi canlyniadau'r hidlydd cystadleuaeth:

Prawf hidlydd cystadleuaeth Cwestiwn Ateb

C1: Yn y farchnad/marchnadoedd y mae'r

rheoliadau newydd yn effeithio arnynt, a oes gan unrhyw gwmni gyfran o dros 10% o'r farchnad?

Oes

C2: Yn y farchnad/marchnadoedd y mae'r rheoliadau newydd yn effeithio arnynt, a oes gan unrhyw gwmni gyfran o dros 20% o'r farchnad?

Nac oes

C3: Yn y farchnad/marchnadoedd y mae'r

rheoliadau newydd yn effeithio arnynt, a oes gan y tri chwmni mwyaf gyda'i gilydd gyfran sydd o leiaf 50% o'r farchnad?

Nac oes

C4: A fyddai costau'r rheoliadau'n effeithio'n llawer

mwy ar rai cwmnïau nag eraill? Na fyddai

C5: A yw'r rheoliadau'n debygol o effeithio ar

strwythur y farchnad, a newid nifer neu faint y busnesau/sefydliadau?

Nac ydyn

C6: A fyddai'r rheoliadau'n arwain at gostau sefydlu

uwch ar gyfer cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr nad oes yn rhaid i gyflenwyr presennol eu talu?

Na fyddai

C7: A fyddai'r rheoliadau'n arwain at gostau

parhaus uwch ar gyfer cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr nad oes yn rhaid i gyflenwyr presennol eu talu?

Na fyddai

C8: A oes newidiadau technolegol ar raddfa fawr yn

digwydd o fewn y sector? Nac oes

C9: A fyddai'r rheoliadau'n cyfyngu ar allu cyflenwyr

i ddewis pris, ansawdd, amrywiaeth neu leoliad eu cynnyrch?

Na fyddai

10.3 Mae'r ail gam yn ystyriaeth fanwl o effaith gyfyngedig darpariaethau'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) ar gystadleuaeth ac mae'r ystyriaeth wedi'i hamlinellu isod.

10.4 C1. Wrth ystyried y gyfran o'r farchnad: mae'r ateb hwn wedi'i seilio ar gymharu sawl tunnell o wastraff sydd wedi'i waredu ym mhob safle tirlenwi yng Nghymru. Daw'r data mwyaf diweddar sydd ar gael i Lywodraeth Cymru oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012/2013. O'r data hwn mae'n ymddangos bod un safle tirlenwi wedi cymryd ychydig yn fwy

Page 121: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

121

na 10% o gyfanswm y tunelli o wastraff a waredwyd y flwyddyn honno. O ganlyniad, atebwyd C1 yn gadarnhaol.

10.5 Wedi dweud hynny, nid yw'r ddeddfwriaeth yn ffafrio unrhyw safle tirlenwi yn

fwy na'r llall, na'n gosod unrhyw un dan anfantais. Ar hyn o bryd, mae cyfraddau trethi'n cael eu gosod fesul tunnell, gydag chyfradd is ar gyfer deunydd cymwys a chyfradd safonol ar gyfer pob deunydd arall. Rhaid i'r holl weithredwyr safleoedd tirlenwi dalu'r swm perthnasol o dreth ar gyfer gwastraff sy'n cael ei waredu yn eu safleoedd. I ddangos pam fod pob cyfradd dreth wedi'i defnyddio ar gyfer gwastraff penodol, mae gofyn i weithredwyr safleoedd tirlenwi gadw nifer o ddogfennau fel tystiolaeth. Felly, nid yw'r gyfran o'r farchnad yn dylanwadu ar y gyfradd dreth gan y byddai safle tirlenwi sy'n derbyn 20,000 tunnell yn talu'r un cyfraddau treth â safle tirlenwi sy'n derbyn 200,000 tunnell.

10.6 Fel treth ddatganoledig mae'r sector eisoes wedi'i sefydlu. Mae'r gwelliannau

sy'n cael eu gwneud i ddeddfwriaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”) yn rhai bach, ac felly nid oes disgwyl iddynt gael unrhyw effaith negyddol ar y sector.

10.7 Nid yw'r gwelliannau hyn yn newid bwriad y polisi amgylcheddol o osod treth

ar wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi gan fod angen lliniaru'r perygl o symud gwastraff ar draws ffiniau o un awdurdodaeth i'r llall. Fel oedd yn digwydd cyn datganoli, bydd gofyn i weithredwyr safleoedd tirlenwi Cymru a Lloegr gadw at yr reolau ac amodau tebyg, felly nid yw'r naill na'r llall yn cael mantais/dan anfantais.

10.8 Wedi dweud hynny, yn y maes lle mae newid sylweddol ar waith, drwy

ymestyn cwmpas y dreth i gynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi, mae potensial i weld effaith gadarnhaol iawn ar y sector yng Nghymru. Bydd yn caniatáu tegwch i'r gweithredwyr safleoedd tirlenwi sy'n cadw at y gyfraith gan na fydd rhaid iddynt gystadlu bellach gyda'r ffioedd is sy'n cael eu codi gan safleoedd anawdurdodedig.

Page 122: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

122

Pennod 11: Adolygu ar ôl gweithredu

11.1 Bydd effaith Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (“y Bil”) yn cael ei hasesu

mewn nifer o ffyrdd.

11.2 Bydd rhaglen o weithgarwch monitro'n cael ei datblygu i gyd-fynd ag elfennau allweddol, gan gynnwys: y trethi a gasglwyd, pwysau'r deunyddiau a waredwyd mewn safleoedd tirlenwi, a'r defnydd o ryddhadau rhag treth. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n chwarterol, yn flynyddol neu yn ôl amserlen briodol arall.

11.3 Bydd angen gadael cyfnod o amser i basio cyn medru asesu canlyniadau'r darpariaethau ar gyfer elfennau eraill. Er enghraifft, gweithgarwch gorfodi ar warediadau heb awdurdod. Bydd y rhaglen fonitro yn adlewyrchu'r amserlenni gwahanol hyn.

11.4 Bydd data'n cael ei gasglu fel rhan o ffurflenni treth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (“LDT”) a bydd hwn yn rhoi sylfaen o dystiolaeth ar gyfer gwerthuso nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru. Bydd y data'n cynnwys gwybodaeth ynghylch refeniw'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a'r sylfaen dreth yn uniongyrchol, er enghraifft sawl tunnell o ddeunyddiau cyfradd safonol a chyfradd is sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi yng Nghymru, neu swm y dreth a godwyd ar y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi. Gallai'r data, o'i ddefnyddio wrth ochr ffynonellau eraill, hefyd helpu i ddangos y cynnydd tuag at y targedau a osodwyd yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff, fel anfon llai na 5% o wastraff i safleoedd tirlenwi erbyn 2024-25.

11.5 Bydd angen casglu rhagor o ddata ar gyfer unrhyw asesiad o agweddau mwy ansoddol cyflwyno'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Er enghraifft, byddai angen trafod yn uniongyrchol gyda'r trethdalwyr (cyfarfodydd/arolygon ac ati) er mwyn cadarnhau a oedd y baich gweinyddol o lenwi ffurflenni treth wedi'i gadw mor ysgafn â phosib, yn unol â'r bwriad, ac a oedd y ffurflenni electronig yn hawdd eu defnyddio ac ati. Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) fyddai'n gyfrifol am asesu effaith materion gweithredol, er bod potensial ar gyfer gwerthuso ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.

11.6 Mae gan Drysorlys Cymru dîm cyfathrebu ac ymgysylltu penodol sy'n arwain gwaith i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ynghylch datganoli trethi a diwygio cyllidol ehangach yng Nghymru. Mae Trysorlys Cymru wedi trefnu cynnwys cyfres o gwestiynau yn yr Arolwg Cenedlaethol i fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch datganoli trethi.

Page 123: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

123

Atodiad 1: Nodiadau Esboniadol

BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) 2016

________________

NODIADAU ESBONIADOL

CYFLWYNIAD 1. Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

2016 (“y Bil”) fel y’i cyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Tachwedd 2016 ac fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodion cam 2 ar 11 Mai.

2. Fe’u lluniwyd gan Swyddfa Prif Weinidog a Swyddfa Cabinet Llywodraeth Cymru er

mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Bil ac i helpu i lywio’r drafodaeth arno. Nid ydynt yn rhan o’r Bil ac nid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Bil. Ni fwriedir iddynt fod yn

ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Bil. Pan fo adran neu ran o adran yn hunanesboniadol ac nad ymddengys bod angen rhoi esboniad neu wneud sylw pellach arni, nis rhoddir.

4. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud y Bil hwn yn rhinwedd y

darpariaethau yn Rhannau 4 a 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraffau 14 ac 16A o Atodlen 7 iddi, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Mae’r darpariaethau hyn yn rhoi’r cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â threthi datganoledig (gan gynnwys treth a godir ar warediadau i safleoedd tirlenwi yng Nghymru), statws staff a gyflogir gan gorff sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig, ac mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

5. Mae Deddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datgymhwyso’r Dreth Dirlenwi (TD) yng

Nghymru. Mae’r Papur Gorchymyn sy’n mynd gyda Deddf Cymru 2014 yn pennu’r dyddiad targed ar gyfer “diffodd” TD yng Nghymru fel mis Ebrill 2018, felly bwriedir i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ddisodli TD o’r dyddiad hwnnw.

CRYNODEB A’R CEFNDIR 6. Hon yw’r drydedd o blith tair eitem o ddeddfwriaeth gysylltiedig. Deddf Casglu a

Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“DCRhT”) oedd y gyntaf o’r darnau hynny o ddeddfwriaeth ac mae’n gosod y fframwaith cyfreithiol sy’n angenrheidiol ar gyfer y

Page 124: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

124

gyfundrefn o drethi datganoledig yng Nghymru, sy’n cwmpasu’r trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”). Prif swyddogaeth ACC fydd casglu a rheoli trethi datganoledig Cymru. Mae DCRhT hefyd yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag:

a. y camau y gellir eu cymryd mewn perthynas â ffurflenni treth, gan gynnwys diwygiadau, ymholiadau ac asesiadau;

b. dyletswyddau pobl sy’n dychwelyd ffurflen dreth o ran cadw cofnodion; c. pwerau ymchwilio ACC; d. cosbau a llog; e. talu a gorfodi; f. adolygiadau ac apelau; ac g. pwerau sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

7. Yr ail eitem o ddeddfwriaeth drethi yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio

Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (DTTT). Mae DTTT yn darparu ar gyfer Treth Trafodiadau Tir (TTT) i ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp (TDDS) yng Nghymru. TTT yw’r cyntaf o’r trethi datganoledig i ddod yn rhan o gylch gwaith ACC. Mae DTTT yn gwneud diwygiadau i DCRhT. Mae’r diwygiadau hynny sy’n berthnasol i TGT ym meysydd gohirio adennill trethi datganoledig; cosbau taliadau hwyr a llog taliadau hwyr; a chyflwyno Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi (RhGEOT) i’r trethi datganoledig.

8. Mae’r Bil hwn yn darparu ar gyfer sefydlu TGT, y rhagwelir y bydd yn disodli TD

yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Nodwyd y cyd-destun a’r cefndir i’r Bil hwn ym Mhennod 1 o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi, a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2015 66.

9. Yn gryno, mae’r Bil yn gwneud darpariaeth i godi treth Gymreig ar warediadau

tirlenwi yng Nghymru. Mae’n sefydlu TGT, yn nodi pryd y gwneir gwarediad trethadwy, ac yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer cyfrifoldebau trethdalwyr i ddychwelyd ffurflenni treth a chyfrifo eu rhwymedigaeth dreth, yn ogystal â nodi’r rhyddhadau a’r esemptiadau sydd ar gael rhag y dreth sydd i’w chodi, a grymuso Gweinidogion Cymru i greu credydau treth drwy reoliadau. Mae hefyd yn nodi’r cosbau am beidio â chydymffurfio. Mae’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer codi treth ar warediad deunydd fel gwastraff a wneir mewn man heblaw safle tirlenwi awdurdodedig pe bai wedi bod yn ofynnol cael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gwarediad o dan sylw (“gwarediad heb ei awdurdodi”). Mae hefyd yn gwneud newidiadau i’r prosesau ar gyfer cael gwybodaeth a rhannu gwybodaeth, a phwerau archwilio ACC fel y’u nodir yn DCRhT at ddibenion sut y byddant yn gweithio yng nghyd-destun TGT.

CYMHWYSO’R BIL

Mae’r Bil yn sefydlu treth ar warediadau tirlenwi yng Nghymru. ACC sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth. Bydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn gyfrifol am gofrestru gydag ACC, rhoi hysbysiadau a thalu trethi ar yr holl warediadau perthnasol a wneir ar eu safle(oedd) tirlenwi. Bydd hynny’n cynnwys dychwelyd ffurflen dreth chwarterol a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus o fewn 30 o ddiwrnodau. Cyfrifir y

66 https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/datblygu-treth-gwarediadau-tirlenwi

Page 125: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

125

rhwymedigaeth dreth drwy gyfeirio at bwysau trethadwy y deunydd a waredir. Cymhwysir cyfradd dreth is i ddeunyddiau cymwys neu gymysgeddau cymwys o ddeunyddiau, a chymhwysir cyfradd safonol i bob deunydd arall. Ceir rhai esemptiadau a allai effeithio ar y rhwymedigaeth i dreth a rhai rhyddhadau a allai effeithio ar swm y dreth a godir. Mae’r Bil hefyd yn estyn cwmpas TGT i warediadau a wneir mewn mannau ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig (“gwarediadau heb eu hawdurdodi”) ac yn darparu ar gyfer cyfradd dreth ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi. Caiff holl gyfraddau treth TGT eu pennu drwy reoliadau. 10. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, bydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn

gyfrifol am gofrestru ar gyfer pob gwarediad i safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru, rhoi cyfrif amdano a thalu treth arno. Pan fo gwarediad heb ei awdurdodi yn digwydd, bydd ACC yn ceisio canfod pwy sy’n agored i dalu’r dreth, a sicrhau y telir y dreth honno.

TROSOLWG CYFFREDINOL O’R BIL 11. Ceir 95 o adrannau a thair Atodlen i’r Bil, ac mae wedi ei rannu’n chwe Rhan fel a

ganlyn:

Rhan 1 - Trosolwg Mae’r Rhan hon yn nodi sut y mae’r Bil wedi ei strwythuro. Rhan 2 – Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy

Mae’r Rhan hon yn sefydlu TGT ac yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n sail i weithrediad y dreth.

Rhan 3 - Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

Mae’r Rhan hon yn nodi sut y caiff swm y dreth ar gyfer gwarediad trethadwy ar safle tirlenwi awdurdodedig ei gyfrifo, pwy sy’n agored i dalu treth, y rhyddhadau y caniateir eu hawlio, y gweithdrefnau cofrestru a chyfrifyddu, talu ac adennill treth, ac yn nodi y bydd cyfradd safonol a chyfradd is. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n nodi’r deunydd cymwys a’r amodau (os oes rhai) y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfradd is y dreth, Atodlen 2 sy’n nodi cynnwys y gofrestr o weithredwyr safleoedd tirlenwi, ac Atodlen 3 sy’n nodi cynnwys anfoneb dirlenwi.

Rhan 4 - Gwarediadau Trethadwy a Wneir mewn Lleoedd heblaw Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig Mae’r Rhan hon yn darparu y caniateir gwneud gwarediad trethadwy mewn mannau heblaw safle tirlenwi awdurdodedig pe bai wedi bod yn ofynnol cael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gwarediad o dan sylw (“gwarediad heb ei awdurdodi”). Mae’n nodi pwy fydd yn agored i dreth ar warediadau sydd heb eu hawdurdodi, sut y rhoddir hysbysiad am rwymedigaeth i dreth, y trefniadau ar gyfer talu a manylion llog taliadau hwyr ar dreth nas talwyd. Mae’r Rhan hon yn nodi hefyd y pennir cyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi mewn rheoliadau. Pennod 5 – Darpariaeth Atodol

Page 126: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

126

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaethau atodol sy’n gysylltiedig â’r dreth. Mae hyn yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth, darpariaeth ar gyfer creu a rheoleiddio mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu o fewn safle tirlenwi awdurdodedig, pwerau archwilio a rhannu gwybodaeth a chosbau. Mae’r Rhan hon yn nodi sut yr ymdrinnir ag achosion arbennig, megis grwpiau corfforaethol, partneriaethau a chyrff eraill mewn cysylltiad â’r dreth, ac yn nodi’r gofyniad i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 3, sy’n nodi’r diwygiadau a wneir i DCRhT gan y Bil hwn. Rhan 6 – Darpariaethau Terfynol Mae’r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau ynghylch gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth, pwerau trosiannol, canlyniadol etc., cychwyn, dehongli a darpariaethau terfynol ac ategol eraill.

SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU Rhan 1 - Trosolwg

12. Mae’r Rhan hon yn nodi sut y mae’r Bil wedi ei drefnu ac yn rhoi crynodeb byr o bob Rhan.

Rhan 2 – Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy Pennod 1 – Treth Gwarediadau Tirlenwi 13. Mae adran 2 yn nodi y bydd treth o’r enw treth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chodi

ar warediadau trethadwy ac y bydd ACC yn casglu ac yn rheoli’r dreth. Pennod 2 – Gwarediadau Trethadwy Adrannau 3 i 5 – Gwarediadau trethadwy; gwaredu deunydd drwy dirlenwi; a safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddol

14. Mae’r adrannau hyn yn diffinio’r cysyniad o warediad trethadwy drwy nodi bod

gwarediad trethadwy yn digwydd pan fydd yr holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni:

a. Bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (sy’n digwydd pan fo’n cael ei ddodi ar wyneb y tir neu o dan wyneb y tir, fel y’i diffinnir yn adran 4);

b. Bod y tir lle gwneir y gwarediad:

yn safle tirlenwi awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn adran 5(1)), neu

nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, ond bod trwydded amgylcheddol (fel y’i diffinnir yn adran 5(2)) yn ofynnol ar gyfer y gwarediad;

c. Bod y deunydd yn cael ei waredu fel gwastraff (fel y diffinnir hynny yn adrannau 6 a 7); a

d. Bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru. 15. Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd drwy dirlenwi fel y’i nodir yn adran

4.

Page 127: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

127

16. Gellir dod o hyd i ddarpariaethau pellach sy’n ymwneud â gwarediadau mewn

lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn Rhan 4 o’r Bil.

Adran 6 – Gwaredu deunydd fel gwastraff 17. Mae’r adran hon yn egluro bod gwarediad deunydd yn warediad o wastraff os yw’r

person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Gellir dod i’r casgliad y bwriedir bwrw’r deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi, megis gwagle, a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer gwarediadau tirlenwi ar safle. Mae bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu (boed hwnnw’n fwriad casgliadol ai peidio) yn un yn unig o blith y profion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i rwymedigaeth i dreth godi. Ni fydd bwriad casgliadol yn dynodi rhwymedigaeth i dreth ohono’i hun os nad yw’r profion eraill yn cael eu bodloni.

18. Nid yw’r ffaith bod person yn gwneud defnydd dros dro neu ddefnydd atodol o

ddeunydd a ddodir mewn man gwarediadau tirlenwi, neu’n cael budd ohono (neu o unrhyw beth, megis nwy, a allyrrir ohono), yn rhwystro’r person hwnnw, o anghenraid, rhag bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Mae is-adran (3) yn egluro y gall person fwriadu bwrw deunydd o’r neilltu hyd yn oed os yw’n cael ei ddefnyddio. Mewn achos o’r fath (a phan fodlonir yr amodau eraill yn y Rhan hon), mae’r dreth i’w chodi pan waredir y deunydd hwnnw.

19. Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff fel y’i nodir yn adran

6. Adran 7 – Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediad 20. Mae’r adran hon yn egluro pwy yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad at

ddibenion deall adran [6]. Mae’n darparu mai gweithredwr y safle tirlenwi yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig. Os caiff gwarediad ei wneud heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, y person sy’n gwaredu’r deunydd yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad. Mae adran 13 (personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt) yn ei gwneud yn glir y bydd gweithredwr safle tirlenwi yn agored i dalu treth, hyd yn oed os mai person arall oedd yn gyfrifol am y gwarediad. Er enghraifft, os gwneir gwarediad oddi allan i oriau arferol heb yn wybod i weithredwr y safle tirlenwi, gweithredwr y safle tirlenwi fydd yn agored i dalu’r dreth, hyd yn oed os nad oedd yn fwriad gan drydydd parti anhysbys, o bosibl, i fwrw’r deunydd o’r neilltu.

21. Os gwneir gwarediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir

mewn lle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig – gweler adran 3) y person sy’n gyfrifol yw’r person sy’n gwaredu’r deunydd. Mae Rhan 4 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer codi treth mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi.

Page 128: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

128

Adran 8 – Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy

22. Mae’r adran hon yn rhestru’r gweithgarwch safle tirlenwi (fel y’i diffinnir yn adran 93) sydd i’w ystyried fel gweithgarwch safle tirlenwi penodedig, ac sydd felly’n cael ei drin fel gwarediad trethadwy. Os yw gweithgarwch yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig fel y’i rhestrir yn 8(3)(a) i (i), ac y caiff ei gyflawni yng Nghymru, caiff ei drin fel gwarediad trethadwy ni waeth a fyddai’r gwarediad, fel arall, wedi bodloni’r amodau a nodir yn adran 3 ai peidio. Mae’r adran hon hefyd yn darparu y bydd y gwarediad yn cael ei drin fel ei fod yn cael ei gyflawni pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf mewn perthynas â gweithgarwch penodedig. Felly, er enghraifft, byddai’r adeg pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf i greu ffordd dros dro yn achosi gwarediad trethadwy, a phe bai deunydd pellach yn cael ei ddefnyddio wedi hynny i gynnal a chadw neu atgyweirio ffordd, byddai’r deunydd hwnnw yn destun gwarediad trethadwy ar y dyddiad y’i defnyddiwyd.

23. Mae adran 8(3)(e) yn cyfeirio at ddefnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau

tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn dod i ben dros dro. Adwaenir hyn yn aml fel gorchudd dyddiol, a chaiff ei ddefnyddio i atal sbwriel a phlâu.

24. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu, addasu neu dynnu ymaith

weithgarwch safle tirlenwi penodedig. Er bod y rhestr yn adran 8(3) wedi ei chyfyngu i safleoedd awdurdodedig, gellid darparu ar gyfer gweithgarwch penodedig mewn perthynas â safleoedd heb eu hawdurdodi. Mae hyn yn darparu hyblygrwydd ychwanegol i fynd i’r afael ag unrhyw ymgais i osgoi talu treth gan y rheini sy’n gyfrifol am wastraff sy’n cael ei waredu heb ei awdurdodi.

Pennod 3 – Gwarediadau Esempt Adrannau 9 i 12 – Esemptiadau: cyffredinol; gwarediadau lluosog; mynwentydd anifeiliaid anwes; a phŵer i addasu esemptiadau 25. Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso esemptiadau a, phan

fônt yn gymwys, mae’n golygu nad oes gwarediad trethadwy, ac nad oes angen felly i weithredwr y safle tirlenwi roi cyfrif am waredu’r deunydd.

26. Mae adran 10 yn darparu esemptiad ar gyfer gwaredu deunydd pan fo TGT eisoes

wedi ei chodi mewn perthynas â’r deunydd a phan wneir y gwarediad dilynol ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig. Effaith y ddarpariaeth hon yw sicrhau, pan wneir gwarediadau trethadwy lluosog o’r un deunydd ar yr un safle awdurdodedig, mai dim ond unwaith y codir TGT.

27. Rhagwelir y gallai’r esemptiad hwn godi mewn perthynas â gweithgarwch safle

tirlenwi penodedig pan ellir symud ymaith ddeunydd a ddefnyddiwyd mewn un gweithgarwch safle tirlenwi penodedig a’i ddefnyddio mewn gweithgarwch safle tirlenwi penodedig arall a/neu ei waredu mewn gwagle tirlenwi ar yr un safle. Yn y sefyllfa hon dim ond unwaith y byddai treth yn cael ei chodi ar y deunydd.

Page 129: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

129

28. Mae adran 11 yn darparu esempiad rhag gwaredu deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes marw, ynghyd ag unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo, a hynny’n unig, ar yr amod y gwneir y gwarediad ar safle tirlenwi lle na wneir unrhyw fathau eraill o wareiddiadau (a elwir yn gyffredinol yn fynwentydd anifeiliaid anwes). Nod yr esemptiad hwn yw sicrhau na fydd mynwentydd anifeiliaid anwes sy’n derbyn gwarediadau o garcasau neu lwch anifeiliaid anwes marw (ac unrhyw flwch neu wrn y cynhwysir hwy ynddo), a hynny’n unig, yn agored i dalu TGT.

29. Nid yw’r esemptiadau a nodir yn adrannau 10 ac 11 ond yn gymwys i safleoedd

tirlenwi awdurdodedig. Caiff Gweinidogion Cymru, fodd bynnag, ddefnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 12 i ychwanegu, i addasu neu i ddileu’r esemptiadau, ac wrth wneud hynny cânt gymhwyso amodau penodol i’r esemptiadau.

Rhan 3 – Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

Pennod 1 – Personau y mae’r Dreth i’w Chodi Arnynt 30. Mae adran 13 yn egluro, ar gyfer gwarediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi

awdurdodedig, mai’r person sy’n agored i dalu’r dreth yw gweithredwr y safle tirlenwi ar yr adeg y gwneir y gwarediad perthnasol.

31. Os oes dau neu ragor o bersonau yn agored i dalu’r dreth, bydd ACC yn gallu

cymryd camau i adennill unrhyw TGT sy’n ddyledus gan bob un ohonynt, neu gan unrhyw un neu ragor ohonynt. Er enghraifft, os yw safle tirlenwi yn cael ei weithredu gan bersonau sy’n rhedeg busnes fel partneriaeth, mae pob partner ar adeg y gwarediad perthnasol yn agored ar y cyd ac yn unigol i dalu TGT (hynny yw, os nad oes gan unrhyw un neu ragor o’r partneriaid ddigon o arian neu asedau i dalu cyfran gyfartal, rhaid i’r partneriaid eraill dalu’r gweddill).

Pennod 2 – Y Dreth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi Adran 14 – Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy 32. Mae’r adran hon yn nodi sut y bydd swm y dreth sydd i’w godi ar warediad

trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig yn cael ei gyfrifo; y bydd cyfradd safonol o TGT a chyfradd is o TGT ar gyfer deunydd cymwys (fel y’i diffinnir yn adran 15) a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau (fel y’u diffinnir yn adran 16); ac y bydd cyfraddau’r dreth yn cael eu rhagnodi mewn rheoliadau.

33. Cyfrifoldeb gweithredwr y safle tirlenwi yw sicrhau y caiff y gyfradd dreth gywir ei

chodi ac y telir y swm cywir o dreth i ACC ar gyfer pob gwarediad ar ei safle.

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

Page 130: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

130

Adran 15 – Deunydd cymwys 34. Mae’r adran hon yn nodi’r amgylchiadau pan fydd deunydd yn gymwys ar gyfer y

gyfradd dreth is. Yn gyntaf, rhaid bod y deunydd wedi ei restru yn Nhabl 1 yn Atodlen 1. Yn ail, mae angen i’r holl amodau perthnasol (os oes rhai) a nodir yn Atodlen 1 gael eu bodloni. Yn drydydd, rhaid i weithredwyr safle tirlenwi gadw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd, y cyfeirir ato’n aml fel nodyn trosglwyddo gwastraff, os yw dogfen o’r fath yn ofynnol gan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, neu os nad yw’n ofynnol, dystiolaeth arall sy’n dangos bod y deunydd mewn gwirionedd yn ddeunydd cymwys. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 1 drwy reoliadau.

Adran 16 – Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

35. Mae’r adran hon yn nodi’r profion y mae’n rhaid i gymysgedd o ddeunyddiau eu

bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd TGT is. Mae gofynion 1-6 yn berthnasol i bob cymysgedd cymwys ac mae gofyniad 7 yn darparu ar gyfer y posibilrwydd y bydd gofynion ychwanegol i’w bodloni pan fo’r gymysgedd yn cynnwys gronynnau mân.

36. Dylid nodi bod gofyniad 1 yn darparu bod rhaid i’r llwyth fod ar ffurf un deunydd

cymwys neu ragor a swm bychan yn unig o ddeunydd anghymwys sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys. Rhoddir diffiniad o bychan ac atodol yn adran 16(2).

37. Mae gofyniad 3 yn nodi na ddylai’r deunydd anghymwys fod wedi ei gymysgu’n

fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion gwaredu na materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu, er enghraifft ar gyfer eu cludo. Bydd y prawf hwn yn gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng achos pan fo darnau o ddeunydd anghymwys ynghlwm wrth ddeunydd cymwys gan nad oedd yn bosibl eu tynnu oddi yno’n gyfan gwbl, ac achos pan fo deunydd anghymwys wedi ei ychwanegu at y llwyth ar wahân ac yn fwriadol. Ni fyddai’r olaf yn bodloni gofyniad 3.

38. Mae gofyniad 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau unrhyw

ddeunyddiau na chaniateir eu cynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. Bydd hyn yn golygu y byddai’r gyfradd dreth safonol yn berthnasol i’r llwyth cyfan pan fyddai cymysgedd o ddeunyddiau yn cynnwys unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau penodol hyn, ni waeth pa un a yw’n fach ac yn atodol ai peidio.

39. Mae gofyniad 6 yn nodi na chaniateir i unrhyw drefniadau (mae hyn yn cynnwys

unrhyw gamau neu weithrediadau) gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion. Bwriad hyn, er enghraifft, yw mynd i’r afael ag ymddygiad pan fo cymysgedd wedi ei osod neu ei gymysgu mewn ffordd sy’n galluogi i’w gyfansoddiad gael ei guddio. Gall hyn gynnwys gwasgu neu guddio’n fwriadol deunydd cyfradd safonol o fewn llwyth o ddeunydd cymwys er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn ymddangos bod mwy na swm bach ac atodol o ddeunydd o’r fath yn bresennol yn y llwyth.

Page 131: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

131

Adran 17 – Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân 40. Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn

cysylltiad â gronynnau mân (fel y’u diffinnir yn adran 17(3)). Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safle tirlenwi gymryd camau penodedig mewn cysylltiad ag asesu natur y gronynnau mân er mwyn pennu a yw’r cymysgedd o ddeunydd yn gymysgedd cymwys neu anghymwys. Caiff y rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safle tirlenwi gynnal prawf a ragnodir ar y gronynnau mân i bennu a yw’r gymysgedd yn gymwys neu’n anghymwys. Mae’r gofynion hyn yn ychwanegol at y gofynion a nodir ar gyfer cymysgeddau cymwys o lwythi yn adran 16.

Pwysau trethadwy deunydd Adrannau 18 i 20 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd

41. Codir TGT ar warediad trethadwy drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd â’r

gyfradd dreth berthnasol, fel a nodir yn adran 14. Mae’n bwysig, felly, cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd sy’n cael ei waredu yn fanwl gywir.

42. Mae adran 18 yn darparu bod rhaid i bwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad

trethadwy gael ei gyfrifo gan weithredwr y safle tirlenwi, ac y caiff ACC ei gyfrifo pan fo’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

43. Mae adran 19 yn nodi sut y mae’n rhaid i weithredwr gyfrifo pwysau trethadwy’r

deunydd mewn gwarediad trethadwy. Rhaid i’r gweithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20. Pan fo gweithredwr safle tirlenwi wedi cael cymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn perthynas â dŵr sydd mewn deunydd, caiff y gweithredwr safle tirlenwi gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir, yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

44. Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r

deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso. At y diben hwn, rhaid i weithredwr safle tirlenwi sicrhau bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud, a bod y bont bwyso yn bodloni’r gofynion a nodir mewn deddfwriaethau pwysau a mesurau perthnasol.

45. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle nad yw’n bosibl i weithredwr safle tirlenwi

ddefnyddio pont bwyso. Er enghraifft, mae’n bosibl nad oes pont bwyso ar safle tirlenwi, neu fod pont bwyso wedi torri. Felly, mae adran 20 yn gwneud darpariaeth i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy. Er enghraifft, gallai dull arall gynnwys cyfrifo yn seiliedig ar uchafswm pwysau a ganiateir ar gyfer cynhwysydd.

46. Mae adran 20 hefyd yn gwneud darpariaeth i ACC bennu’r modd y bydd cais am

ddull arall yn cael ei wneud a’r wybodaeth y mae’n rhaid iddo ei chynnwys. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn perthynas â

Page 132: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

132

chymeradwyo dull arall. Er enghraifft, caiff ACC gymeradwyo mewn perthynas â phob gwarediad trethadwy neu â gwarediadau trethadwy o ddisgrifiadau penodol. Caiff ACC gymeradwyo naill ai yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Yn ogystal â hyn, caiff ACC amrywio neu ddirymu cytundeb. Gall hyn ddigwydd os yw ACC yn ystyried nad yw’r dull arall yn dangos y pwysau’n fanwl gywir neu nad yw’n cael ei arsylwi’n llawn a bod risg i’r refeniw dreth.

Adran 21 – Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd 47. Mae adran 21(1) a (2) yn darparu y caiff gweithredwr safle tirlenwi wneud cais

ysgrifenedig i ACC am gymeradwyaeth i roi disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd. Mae adran 21(4) yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i ACC gymeradwyo disgownt dŵr.

48. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn

perthynas â chymeradwyo rhoi disgownt dŵr. Er enghraifft, gall cymeradwyaeth fod yn ddarostyngedig i amodau neu gellir ei rhoi am gyfnod penodol.

49. Mae’r darpariaethau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi

gadw cofnod disgownt dŵr ar gyfer pob gwarediad trethadwy pan roddir disgownt. Mae’r cofnod i’w drin fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 o DCRhT, sy’n nodi’r cyfnod perthnasol ar gyfer cadw cofnodion.

50. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddiddymu unrhyw

ddarpariaethau mewn perthynas â disgownt dŵr.

Adrannau 22 a 23 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC gan gynnwys mewn achosion o beidio â chydymffurfio 51. Mae adran 22 yn nodi sut y bydd ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd pan

fo’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

52. Mae adran 23 yn darparu, mewn achosion o beidio â chydymffurfio a nodir yn yr adran hon, y caiff ACC anwybyddu neu ostwng y disgownt dŵr wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd.

Adran 24 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd 53. Mae adran 24 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu

ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau o dan adran 20 o’r Bil.

Pennod 3 – Rhyddhad rhag Treth Adran 25 – Rhyddhadau: cyffredinol 54. Mae’r adran hon yn cyflwyno’r bennod ar ryddhadau ac yn nodi’r egwyddorion a

ganlyn: nid yw rhyddhadau yn gymwys ond mewn perthynas â gwarediadau a wneir

Page 133: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

133

ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig (felly nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi); pan fo rhyddhad yn gymwys, nid oes treth i’w chodi; ac ni fydd rhyddhad yn gymwys ond pan gaiff ei hawlio ar ffurflen dreth. Bydd ACC yn pennu ffurf y ffurflen dreth a’r wybodaeth y bydd rhaid ei chynnwys arni (o dan adran 191 o DCRhT). Bydd yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi gadw a storio’n ddiogel unrhyw gofnodion sy’n berthnasol i’r hawliad hwnnw, yn unol ag adran 38 o DCRhT (6 blynedd i ddyddiad dychwelyd y ffurflen dreth neu i ddyddiad cwblhau ymholiad).

Adran 26 – Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o wely dyfroedd eraill 55. Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i warediad:

a. deunydd a dynnir o wely dyfroedd penodol; a b. deunydd sy’n bodoli’n naturiol a dynnir o wely’r môr fel rhan o’r broses o gael

deunyddiau megis tywod a graean. 56. Gallai’r rhyddhad fod yn gymwys i ddeunydd a dynnir at unrhyw ddibenion, gan

gynnwys er budd mordwyaeth neu er mwyn atal llifogydd.

57. Mae’r rhyddhad hefyd yn ymwneud â’r swm o ddeunydd cymwys sydd wedi ei ychwanegu at y deunydd sydd wedi ei garthu sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r deunydd ar ffurf hylif (gan ganiatáu iddo, felly, gael ei waredu ar safle tirlenwi). Rhagwelir y byddai gan y deunydd cymwys sydd wedi ei ychwanegu nodweddion sychu neu y byddai’n rhwymo cynnwys y lleithder gormodol o fewn y gwastraff.

Adran 27 – Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela 58. Mae’r rhyddhad hwn yn ymwneud â gwarediad deunydd sy’n bodoli’n naturiol a

echdynnwyd o’r ddaear o ganlyniad i fwyngloddio neu weithrediadau chwarela. Mae gwarediad deunydd o’r fath wedi ei rhyddhau rhag treth os nad yw’r deunydd wedi bod yn destun unrhyw broses ar wahân, neu wedi ei addasu’n gemegol, rhwng ei echdynnu a’i waredu.

Adrannau 28 i 30 – Gwaith adfer safle 59. Gweithgarwch penodedig ar safle tirlenwi yw gwaith adfer safle, a chaiff ei drin fel

gwarediad trethadwy (gweler adran 8(3)(i)). Mae’r darpariaethau hyn yn darparu ar gyfer rhyddhau gwarediad deunydd at ddibenion adfer safle tirlenwi (neu ran ohono) at ddefnydd arall. Mae’r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi geisio cymeradwyaeth am ryddhad rhag treth ar gyfer gwaith adfer safle cyn hawlio’r rhyddhad ar y ffurflen dreth. Ni fydd defnyddio deunydd i adfer safle a hynny heb gymeradwyaeth gan ACC yn elwa ar y rhyddhad. Rhagwelir y bydd y darpariaethau hyn yn galluogi ACC i asesu’r deunydd a ddefnyddir i adfer safle yn drylwyr ac i sicrhau nad oes modd cam-fanteisio ar y rhyddhad.

60. Mae adran 28 yn darparu y caiff ACC gymeradwyo rhyddhad rhag treth am

ddefnyddio deunydd i adfer safle; fodd bynnag, cyn gwneud hynny, bydd angen i

Page 134: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

134

ACC fod wedi ei fodloni bod y gwaith adfer yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle. Dim ond y swm angenrheidiol o ddeunydd i gydymffurfio â’r drwydded neu ganiatâd a fydd yn elwa ar y rhyddhad.

61. Er bod rhaid i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am ryddhad rhag treth cyn

i’r gwaith adfer ddechrau, nid oes angen iddo aros am gymeradwyaeth ganddo cyn dechrau’r gwaith. Gallai sefyllfa o’r fath godi pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn dymuno manteisio ar dywydd braf neu ddeunydd addas pan fo ar gael. Fodd bynnag, mae hyn yn risg i’r gweithredwr gan nad oes sicrwydd y bydd ACC yn cymeradwyo’r rhyddhad ar gyfer y gwaith adfer safle.

62. Mae adran 29 yn darparu ar gyfer adegau pan fo rhagor o wybodaeth yn ofynnol gan

ACC er mwyn penderfynu a ddylid cymeradwyo rhyddhad ar gyfer y gwaith adfer safle ai peidio, ac yn nodi’r paramedrau o ran sut y bydd hynny yn gweithio yn ymarferol. Caiff ACC a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn cyfnod o amser a bennir gan yr adran hon.

63. Mae adran 30 yn cydnabod y gall gofynion y gwaith adfer a nodir yn y drwydded

amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio newid, ac mae’n caniatáu i ACC amrywio’r gymeradwyaeth am ryddhad rhag treth. Gall amrywiad godi yn dilyn cais gan weithredwr safle tirlenwi, neu gall ACC ei weithredu. Os yw ACC yn amrywio’r gymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad sy’n nodi manylion yr amrywiad i weithredwr y safle tirlenwi. Nid yw amrywio cymeradwyaeth yn effeithio ar y gwaith adfer a gyflawnwyd yn unol â’r gymeradwyaeth cyn iddi gael ei hamrywio.

64. Bydd penderfyniad ynghylch a ddylid cymeradwyo gwaith adfer yn benderfyniad

apeliadwy yn rhinwedd adran 172(2) o DCRhT.

Adran 31 - Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli 65. Mae’r adran hon yn darparu rhyddhad ar gyfer gwarediad deunydd cymwys ar safle

tirlenwi (neu ar ran ohono): a. pan oedd y safle tirlenwi (neu ran ohono) yn fwynglawdd brig neu’n chwarel

yn flaenorol; b. pan fo’n un o amodau’r caniatâd cynllunio bod rhaid i’r safle gael ei ail-lenwi

yn llwyr neu’n rhannol ar ôl y gweithrediadau mwyngloddio brig neu chwarela; ac

c. pan nad oes unrhyw warediadau trethadwy eraill wedi eu gwneud ar y safle (neu’r rhan ohono), ac eithrio gwarediadau sy’n gymwys i gael rhyddhad o dan adran 27 neu 31.

Adran 32 - Pŵer i addasu rhyddhadau

66. Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio

deddfwriaeth sylfaenol er mwyn creu, addasu neu ddileu rhyddhad; a darparu bod rhyddhad yn ddarostyngedig i amodau.

Page 135: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

135

Pennod 4 – Casglu a Rheoli’r Trethi Cofrestru Adrannau 33 i 36 – Cofrestru

67. Er mwyn caniatáu i ACC gasglu a rheoli TGT yn effeithiol, mae’n bwysig ei fod yn ymwybodol o bwy yw’r trethdalwyr. Mae adran 33 yn gosod dyletswydd ar ACC i gadw cofrestr o’r personau hynny sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi awdurdodedig lle gwneir gwarediadau trethadwy. Ystyrir bod personau o’r fath yn cyflawni “gweithrediadau trethadwy” at ddibenion y Ddeddf hon. Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1. Caiff ACC gyhoeddi unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr er mwyn i fusnesau, ymysg pethau eraill, sicrhau eu bod yn anfon eu gwastraff i safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

68. Mae adran 34 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cyflawni gweithrediadau

trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC. Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i gael ei gofrestru ac mae’n rhaid iddo wneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’n dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

69. Mae’n bwysig bod y gofrestr yn parhau’n gywir a’i bod yn adlewyrchu’r wybodaeth

ddiweddaraf sydd ar gael am weithredwyr safle tirlenwi. Felly, mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig neu berson sydd wedi gwneud cais i gofrestru roi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau neu anghywirdebau yn yr wybodaeth y maent wedi ei darparu, ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gofynion yr adran honno.

70. Mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig sy’n rhoi’r gorau i

gyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i ddileu ei gofrestriad ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau wedi i’r gweithrediadau trethadwy ddod i ben.

71. Mae cosbau yn gysylltiedig â’r gofynion cofrestru yn adrannau 34 a 35. Gellir gweld y

rhain yn adrannau 63 i 66 o’r Bil. 72. Mae adran 37 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu

ac apelio yn Adran 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau sy’n ymwneud â chofrestru person gydag ACC at ddibenion TGT.

Cyfrifo treth Adrannau 38 i 40 – Cyfrifo Treth 73. Dylid darllen yr adran hon o’r Bil a’r nodiadau hyn ar y cyd â Phennod 3 o Ran 3 o

DCRhT a’r nodiadau esboniadol perthnasol (paragraffau 46 a 47), sy’n mynd gyda DCRhT.

74. Mae adran 38 yn gosod dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n

cyflawni gwarediadau trethadwy i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys asesiad o swm y dreth sydd

Page 136: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

136

i’w godi ar y gweithredwr a gwneud datganiad bod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth.

75. Rhaid dychwelyd ffurflenni treth, ynghyd ag unrhyw daliad treth, yn ddim hwyrach

na diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo (y “dyddiad ffeilio”). Er enghraifft, os daw cyfnod cyfrifyddu i ben ar 30 Mehefin, rhaid dychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Gorffennaf.

76. ran gweithredwyr safleoedd tirlenwi cofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn

dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, ac yn dod i ben â’r diwrnod y rhoddir gwybod iddynt amdano gan ACC. O hynny ymlaen, eu cyfnod cyfrifyddu fydd pob cyfnod dilynol o 3 mis.

77. ran gweithredwyr safle tirlenwi nad ydynt yn gofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu

cyntaf yn dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy hyd at ddiwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo. Er enghraifft, os yw gweithrediadau trethadwy yn dechrau ar 3 Ebrill, bydd y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dod i ben ar 30 Mehefin. O hynny ymlaen, pob chwarter calendr (hynny yw, cyfnod o dri mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr) fydd y cyfnod cyfrifyddu.

78. Mae adran 39 yn darparu’r pŵer i ACC amrywio hyd cyfnod cyfrifyddu a dyddiad

ffeilio ffurflen dreth. Bydd unrhyw amrywiad o’r fath yn cael ei wneud drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr safle tirlenwi.

79. Mae adran 40 yn darparu bod y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wnaed

ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo. Yr eithriad i hyn yw os yw gweithredwr safle tirlenwi yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â gwarediad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, yna codir y dreth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo. Er enghraifft, os yw gweithredwr safle tirlenwi yn defnyddio chwarteri calendr fel ei gyfnod cyfrifyddu, ac os gwneir gwarediad trethadwy ar 28 Mehefin ac y caiff yr anfoneb dirlenwi ei dyroddi ar 1 Gorffennaf, y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y gwarediad trethadwy hwnnw fydd y chwarter calendr sy’n dod i ben ar 30 Medi yn hytrach na 30 Mehefin. Mae’r adran hon yn diffinio anfoneb dirlenwi, ac yn Atodlen 2 amlinellir yr wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn yr anfoneb dirlenwi. Mae hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a diwygiadau pellach i’r Atodlen hon.

Talu, adennill ac ad-dalu treth Adran 41 – Talu treth 80. Mae is-adran (1) yn nodi bod angen i’r swm o dreth yr asesir ei fod i’w godi gael ei

dalu erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. Mae is-adran (2) yn nodi’r sefyllfa pan fo ffurflen dreth yn cael ei diwygio o dan adran 41 o DCRhT gan arwain at yr angen i dalu swm ychwanegol o dreth. Mae’n datgan bod rhaid talu’r dreth yn ddim hwyrach na’r dyddiad ffeilio, os caiff y diwygiad ei wneud cyn y dyddiad ffeilio, neu

Page 137: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

137

os gwneir y diwygiad ar ôl y dyddiad hwnnw, bod rhaid talu’r dreth ar yr un pryd ag y gwneir y diwygiad.

Adran 42 – Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi

81. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cyflawni gwarediadau

trethadwy gadw crynodeb TGT mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r cofnod hwn gofnodi swm y dreth sydd i’w godi ar y person a’r dreth a dalwyd gan y person hwnnw mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Mae gan ACC y pŵer i bennu ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb TGT, a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo. Mae’r crynodeb hwn i’n drin fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38 o DCRhT, sy’n ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am chwe mlynedd ar ôl dychwelyd ffurflen dreth neu roi hysbysiad diwygio, oni bai bod ACC yn pennu cyfnod byrrach.

Adran 43 – Gohirio adennill 82. Mae paragraff 60 o Atodlen 22 i’r Bil TTT yn mewnosod adrannau 181A-181I i

DCRhT. Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu ar gyfer amgylchiadau lle caiff person wneud cais i ohirio adennill treth ddatganoledig tra bo’n aros am adolygiad neu apêl ynghylch penderfyniad ACC, y broses ar gyfer gwneud y cyfryw gais ac effaith caniatáu cais i ohirio. Bydd darpariaethau’r Bil TTT yn gymwys i TGT ac felly dylid eu darllen, ynghyd â’u nodiadau esboniadol (paragraffau 383 i 392), ar y cyd â’r adran hon o’r Bil.

83. Mae adran 43 yn diwygio adran 181B o DCRhT at ddibenion TGT. Effaith y

diwygiadau yw, wrth ystyried cais i ohirio TGT tra bo’n aros am adolygiad neu apêl gyntaf, yn ogystal ag ystyried pa un a oes gan berson sail resymol dros ddatgan bod swm y dreth yn ormodol (fel y byddai’n digwydd gyda threthi datganoledig eraill), y bydd angen i ACC ystyried hefyd pa un a fyddai adennill y swm yn achosi caledi ariannol er mwyn penderfynu pa un ai i ganiatáu cais i ohirio ai peidio. Felly, rhaid i gais person i ohirio nodi’r rhesymau pam fod y person hwnnw yn meddwl y byddai adennill y dreth yn achosi caledi ariannol, yn ogystal â nodi’r swm y maent yn gofyn i’w ohirio, a pham eu bod yn meddwl bod swm y dreth y mae ACC yn ceisio ei adennill yn ormodol, fel y byddai’n digwydd gyda threthi datganoledig eraill.

84. Gellir caniatáu cais i ohirio yn llawn pan fydd y profion yn adran 181B(4) o DCRhT,

fel y’i diwygiwyd gan adran 43, wedi eu bodloni, neu gellir caniatáu cais i ohirio mewn perthynas â rhan o swm y mae dadl yn ei gylch, yn unol â 181B(5) fel y’i diwygiwyd gan adran 43(4).

85. Mae’r adrannau hyn hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau

canlyniadol i DCRhT at ddibenion TGT.

Page 138: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

138

Rhan 4 - Gwarediadau Trethadwy mewn Lleoedd heblaw Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig Pennod 1 – Y Dreth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy Adran 45 – Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

86. Mae’r adran hon yn darparu y bydd swm y dreth sydd i’w godi ar warediad a wneir

yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig (gweler adran 3 am y diffiniad o warediad trethadwy) yn cael ei gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd gyda’r gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi. Bydd ACC yn pennu’r pwysau trethadwy gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae’n ei ystyried yn briodol. Caiff y gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ei rhagnodi gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Dim ond yn dilyn dyroddi hysbysiad codi treth o dan Bennod 2 o’r Rhan hon y bydd yn ofynnol i berson dalu’r dreth.

Pennod 2 – Y Weithdrefn ar gyfer Codi’r Dreth

Adran 46 – Yr amod ar gyfer codi treth 87. Mae is-adran (1) yn nodi pryd y bydd person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth,

sy’n berthnasol i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol a hysbysiad codi treth. Mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth os gwnaeth y gwarediad neu os achosodd neu y caniataodd y gwarediad trethadwy, a hynny o fwriad.

88. Mae is-adran (2) yn datblygu ar is-adran (1)(b) ac yn darparu, oni bai bod person yn

gallu bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys fel arall, y caiff ei drin fel pe bai wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, a hynny o fwriad, os oedd y person, pan wnaed y gwarediad:

a. yn rheoli cerbyd modur neu drelar y gwnaed y gwarediad ohono, neu mewn sefyllfa i’w reoli; ac

b. yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle gwnaed y gwarediad.

89. Wrth ystyried a yw person o’r fath wedi gwrthdroi’r rhagdybiaeth ei fod yn bodloni’r

amod ar gyfer codi treth, rhagwelir y gall ACC neu’r tribiwnlys ystyried:

a wnaeth y person ymdrech resymol i rwystro dympio’r gwastraff ar ei dir (er enghraifft, ffensys cadarn);

a wnaeth y person ymdrech resymol i symud y gwastraff (ee, cysylltu â chludwr gwastraff cofrestredig i’w symud);

a fu’r person yn cynorthwyo gydag unrhyw gamau amgylcheddol (posibl) yn erbyn y troseddwyr (er enghraifft, cysylltu â’r heddlu, yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r gwastraff, a/neu wedi eu helpu gyda’u hymholiadau);

nad oedd y person yn gwybod am y gwastraff, ac na fyddai’n rhesymol iddo wybod amdano (er enghraifft, o ystyried ymhle y cafodd y gwastraff ei waredu, maint yr ystâd ac ati);

os oedd y person yn wael, neu fel arall yn analluog.

Page 139: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

139

90. Mae paragraff (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel pe bai’n bodloni’r amod ar gyfer codi’r dreth, a materion sydd i’w hystyried wrth bennu a yw person yn bodloni’r amod hwnnw ai peidio.

Adran 47 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol 91. Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os yw’n ymddangos bod

gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig a bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad hwnnw (hynny yw, bod y person wedi achosi neu ganiatáu gwneud y gwarediad, a hynny o fwriad). Caiff yr hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy. Rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a restrir yn is-adran (2) a rhoi gwybod i’r person am y materion a restrir yn is-adran (3). Ni chaniateir dyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na phedair blynedd ar ôl i ACC ddod i wybod am y gwarediad trethadwy, a dim mwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg y mae ACC yn credu i’r gwarediad trethadwy gael ei wneud beth bynnag.

Adrannau 48 a 49 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth 92. Ar ôl i gyfnod o 45 o ddiwrnodau o leiaf fynd heibio ers dyroddi hysbysiad

rhagarweiniol, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig gan y sawl a gafodd yr hysbysiad rhagarweiniol, rhaid i ACC naill ai ddyroddi:

a. hysbysiad codi treth i’r person; neu b. hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi

treth. 93. Dim ond os yw’n fodlon bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle

tirlenwi awdurdodedig y caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth. Rhaid iddo hefyd fod yn fodlon bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw. Rhaid i hysbysiad codi treth gynnwys y materion a restrir yn 48(5).

94. Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad

rhagarweiniol os yw’n meddwl (yn ogystal â bod wedi ei fodloni ynghylch y materion uchod) ei bod yn debygol y caiff treth ei cholli os yw ACC yn dyroddi hysbysiad rhagarweiniol. Gallai hyn fod am fod posibilrwydd bod y person yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, er enghraifft. Yn yr amgylchiadau hynny, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys rhesymau ACC dros ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

Adran 50 – Talu treth

95. Mae’r adran hon yn gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy’n cael hysbysiad codi treth i

dalu’r dreth y mae’r hysbysiad hwnnw’n ei godi o fewn 30 o ddiwrnodau. Pan gaiff hysbysiadau codi treth eu dyroddi i fwy nag un person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol

Page 140: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

140

(hynny yw, bydd ACC yn gallu adennill treth gan bob un ohonynt neu gan unrhyw un neu ragor ohonynt).

Adran 51 – Pŵer i wneud darpariaeth bellach 96. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol (gan gynnwys

drwy ddiwygio deddfiad) ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth; talu swm o dreth y mae hysbysiad codi treth yn ei godi; ac unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi treth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon, neu’n deillio o hynny.

Adran 52 – Llog taliadau hwyr 97. Mae’r adran hon yn diweddaru adran 157 o DCRhT i ganiatáu cymhwyso llog

taliadau hwyr i swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae hysbysiad codi treth yn ei godi, ac nad yw wedi ei dalu.

Pennod 5 – Darpariaeth Atodol Pennod 1 – Credydau Treth Adran 53 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth 98. Mae adran 53 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r

amgylchiadau lle bydd gan berson hawlogaeth i gredyd treth mewn perthynas â TGT, yn ddarostyngedig i fodloni a dilyn unrhyw amodau a gweithdrefnau a bennir.

99. Rhagwelir y caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio, er enghraifft, i ganfod hawlogaeth i

gredyd mewn sefyllfaoedd pan fo gweithredwr safle tirlenwi:

wedi anfonebu cwsmer yn briodol mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wnaed;

wedi rhoi cyfrif am y gwarediad hwnnw, ac wedi talu TGT arno, i ACC yn y cyfamser; ac

yna wedi darganfod bod y cwsmer wedi mynd yn fethdalwr ac na ellir adennill y ddyled.

100. Yn yr enghraifft a amlinellir uchod, gallai’r rheoliadau nodi’r amodau y byddai’n

ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am gredyd, gan gynnwys manylion y cofnodion neu’r dystiolaeth ategol sydd eu hangen. At hynny, gallai’r rheoliadau esbonio sut y byddai gweithredwr safle tirlenwi yn mynd ati i hawlio’r credyd hwnnw: gallai hynny fod drwy ddidynnu’r swm o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar ffurflen dreth gyfredol neu ar ffurflen o’r fath yn y dyfodol.

101. Caiff rheoliadau hefyd nodi’r amgylchiadau lle caiff ACC wrthod hawliad am gredyd

treth, a’r ffordd y gall person herio penderfyniad a wneir gan ACC ynghylch credyd treth. Caiff rheoliadau bennu cosbau a allai fod yn gymwys pe bai credyd yn cael ei hawlio mewn modd sy’n groes i’r gofynion a nodir yn y rheoliadau.

Page 141: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

141

Pennod 2 – Mannau nad ydynt at Ddibenion Gwaredu Adran 54 – Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu 102. Caiff mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu eu creu ar safle tirlenwi naill ai

oherwydd bod gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud cais i greu man nad yw at ddibenion gwaredu neu oherwydd bod ACC yn ei gwneud yn ofynnol i fan o’r fath gael ei greu.

103. Mae’r adran hon yn caniatáu i ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn

fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle. Fe’i bwriedir i alluogi ACC i wahaniaethu rhwng y gweithgarwch hwnnw ar safle tirlenwi a ystyrir yn warediad trethadwy a’r dulliau hynny o ddefnyddio gwastraff nad ydynt yn drethadwy. Mae hyn yn bwysig i ganfod atebolrwydd cywir o ran treth.

104. Mae is-adran (3) yn nodi’r wybodaeth y caiff ACC ei phennu neu y mae’n rhaid iddo

ei phennu yn yr hysbysiad dynodi i alluogi gweithredwr y safle tirlenwi i reoli’r man nad yw at ddibenion gwaredu. Ymhlith pethau eraill, rhaid i ACC nodi pa ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi mewn man a chaiff hefyd nodi pa ddeunydd na chaniateir ei ddodi mewn man; er enghraifft gallai ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi na chaniateir dodi deunydd cyfradd safonol mewn man nad yw at ddibenion gwaredu lle y mae deunydd cymwys yn cael ei storio.

105. Mae is-adran (3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad dynodi bennu disgrifiadau

o’r deunydd y mae’n rhaid ei ddodi mewn man nad yw at ddibenion gwaredu. Mae adran 93(4) o’r Bil yn darparu y gellir llunio disgrifiad drwy gyfeirio at unrhyw amgylchiadau neu faterion o gwbl. Yng nghyd-destun hysbysiad dynodi, gallai disgrifiad o ddeunydd gyfeirio, er enghraifft, at natur neu darddiad y deunydd neu at y gwarediad neu’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono.

106. Mae is-adran (4) yn darparu y caiff yr hysbysiad gynnwys amodau neu eithriadau ac

y caiff wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol. Er enghraifft, gallai amod ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi weithredu mewn ffordd sy’n dderbyniol o dan delerau ei drwydded amgylcheddol. Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu hyblygrwydd i alluogi ACC i addasu dynodiad man nad yw at ddibenion gwaredu fesul achos, gan gydnabod bod pob safle tirlenwi yn wahanol.

107. Mae is-adrannau (5) i (7) yn rhoi pŵer i ACC amrywio neu ddileu hysbysiad dynodi

ac yn nodi’r broses ar gyfer gwneud hynny. Yn yr un modd â dynodiad gwreiddiol man nad yw at ddibenion gwaredu, gall amrywio neu ddileu dynodiad ddeillio o gais a wneir gan weithredwr y safle tirlenwi, neu gall ACC ei ysgogi.

108. Rhaid i geisiadau i wneud, i amrywio neu i ddileu hysbysiad dynodi man nad yw at

ddibenion gwaredu gael eu cyflwyno mewn ysgrifen a chaiff ACC bennu ffurf, cynnwys a dull danfon hysbysiad o’r fath (o dan adran 191 o DCRhT). Os yw ACC yn gwrthod cais i wneud, i amrywio neu i ddileu dynodiad man nad yw at ddibenion gwaredu, mae is-adran (9) yn esbonio bod rhaid iddo ddyroddi hysbysiad yn rhoi gwybod i weithredwr y safle tirlenwi am ei benderfyniad.

Page 142: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

142

109. Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.

Adran 55 – Dyletswydd gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu

110. Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i

gydymffurfio â thelerau hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu. Mae is-adrannau (2)-(4) yn nodi’r amgylchiadau pan na fydd y ddyletswydd hon yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fo deunydd yn cael ei waredu yn rhywle arall ar y safle, fel y’u nodir yn is-adran (2), a phan fo deunydd a gludir i’r safle yn cael ei waredu neu ei symud o’r safle tirlenwi ar unwaith (er enghraifft, am ei fod yn llwyth wedi ei rannu), fel y’u nodir yn is-adran (3). Mae is-adran (4) yn darparu’r hyblygrwydd i ACC gytuno i ddeunydd gael ei drin mewn modd nad yw’n unol â thelerau’r dynodiad mewn achosion penodol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys sefyllfa pan fo llwyth llosg yn cyrraedd y safle tirlenwi a bod angen ei drin ar unwaith.

111. Mae is-adran (5) yn esbonio y caiff cytundeb gan ACC o dan is-adran (4) fod yn

ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Mae is-adran (5)(b) yn ystyried yn benodol y caiff cytundeb o’r fath ymwneud â storio symiau mawr o ddeunydd tebyg (y cyfeirir ato yn aml fel gwastraff swmpus), gan ei fod yn golygu y gallai ACC gytuno i drin symudiadau o’r man fel symudiadau gwastraff a storiwyd ynghynt.

Adran 56 - Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

112. Mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi gadw

cofnodion priodol o ddeunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu i dystio bod y man nad yw at ddibenion gwaredu yn cael ei weithredu yn unol â’r hysbysiad dynodi a wnaed o dan adran 54(3). Caiff ACC bennu ffurf a chynnwys cofnodion o’r fath.

113. Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau

â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf. Caiff cytundeb o dan adran 55(4)(a) bennu dyddiad gwahanol y bydd y cyfnod o 6 mlynedd yn dechrau, a allai er enghraifft gael ei ddefnyddio mewn achosion sy’n cynnwys storio gwastraff swmpus.

Adran 57 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

114. Mae’r adran hon yn mewnosod penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu (gan gynnwys mewn perthynas â’i amrywio neu ei ddileu) yn y rhestr o benderfyniadau y gellir eu hadolygu a/neu apelio yn eu herbyn yn unol â’r darpariaethau yn Rhan 8 o DCRhT.

Page 143: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

143

Pennod 3 – Ymchwilio a Gwybodaeth Adran 58 – Pwerau archwilio 115. Mae adran 58 yn gwneud diwygiadau i Bennod 4 o Ran 4 (Pwerau Ymchwilio ACC:

Archwilio Mangreoedd ac Eiddo Arall) o DCRhT at ddibenion TGT. Dylid darllen yr adran hon o’r Bil a’r nodiadau esboniadol hyn ar y cyd â Phennod 4 o Ran 4 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol (paragraffau 117 i 142), sy’n mynd gyda DCRhT.

116. Mae adran 103A o DCRhT (a fewnosodir gan y Bil hwn) yn darparu y gall ACC fynd i

fangreoedd busnes trydydd partïon ac archwilio’r mangreoedd hynny (gan gynnwys yr asedau a’r dogfennau busnes perthnasol sydd yn y mangreoedd) i gadarnhau rhwymedigaeth gweithredwr safle tirlenwi i dalu TGT. Diffinnir mangreoedd busnes yn adran 111 o DCRhT. Ni chaiff ACC ond archwilio asedau a dogfennau sy’n ymwneud â rhwymedigaeth gweithredwr y safle tirlenwi i dalu TGT. Mae’r pwerau hyn yn gyfyngedig i amgylchiadau pan fo gan ACC reswm i gredu:

a. Bod person wedi ymwneud â gwarediad trethadwy yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth (gall hyn gynnwys safle trosglwyddo gwastraff neu gludydd gwastraff); a

b. Bod yr archwiliad yn ofynnol er mwyn helpu ACC i gadarnhau rhwymedigaeth person arall i dalu TGT.

117. Gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan

adran 146 o DCRhT. 118. Rhagwelir y bydd y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio gan ACC pan fo ganddo reswm

i gredu bod gweithredwr safle tirlenwi wedi darparu hunanasesiad nad yw’n gofnod cywir o’i rwymedigaeth i dreth, ac y byddai archwilio mangre busnes y trydydd parti o gymorth i unrhyw ymchwiliad cysylltiedig. Rhagwelir y byddai’r rhan fwyaf o drydydd partïon yn cydweithredu’n wirfoddol heb fod angen i ACC ddefnyddio’r pŵer hwn.

119. Mae adran 103B o DCRhT (a fewnosodir gan y Bil hwn) yn darparu, pan fo ACC yn

ymchwilio i warediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir mewn lle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig, gweler adran 3), y gall ACC fynd i eiddo, gan gynnwys eiddo nad yw’n fangre busnes, a chynnal archwiliad (gan gynnwys archwilio asedau a dogfennau sydd yn y fangre) pan fo gan ACC reswm i gredu:

a. Bod gwarediad wedi digwydd yn y fangre; neu b. Bod y meddiannydd yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod codi tâl mewn

perthynas â TGT ar y gwarediad sy’n destun yr ymchwiliad. 120. Bydd y pŵer hwn yn galluogi ACC i ymchwilio i warediadau heb eu hawdurdodi er

mwyn penderfynu a ddylid dyroddi hysbysiad rhagarweiniol neu hysbysiad codi treth o dan Bennod 2 o Ran 4 o’r Bil. Eto, gall methu â chaniatáu i ACC archwilio o dan y pŵer hwn arwain at gosb o dan adran 146 o DCRhT.

121. Ceir nifer o fesurau diogelwch ym Mhennod 4 o DCRhT a fydd yr un mor gymwys i

bwerau archwilio ACC mewn perthynas â TGT. Er enghraifft, mae adran 103(2) o

Page 144: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

144

DCRhT yn nodi na all ACC ond arfer ei bwerau gyda chytundeb meddiannwr y fangre neu gymeradwyaeth y Tribiwnlys. Bwriedir i Atodlen 3 o’r Bil hwn ddiwygio adran 108 o DCRhT i sicrhau na chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwilio mangreoedd:

a. Ym mhob achos, onid yw ACC yn gallu bodloni’r tribiwnlys y bodlonir yr amodau angenrheidiol, neu bod amgylchiadau’n bodoli, fel sy’n ofynnol gan adrannau 103(1), 103A(2)-(3) neu 103B(1), fel y bo’n gymwys; a

b. Mewn achos pan fo ACC yn bwriadu archwilio mangre heb roi rhybudd i’r trethdalwr, onid yw ACC yn gallu bodloni’r tribiwnlys bod archwiliad heb rybudd yn angenrheidiol gan y gallai rhoi unrhyw rybudd i’r trethdalwr atal asesu a chasglu treth.

122. Mae’r adran hon hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau

canlyniadol i DCRhT at ddibenion TGT. Adran 59 – Datgelu gwybodaeth i ACC

123. Mae adran 59 yn caniatáu i wybodaeth a geir gan awdurdodau lleol yng Nghymru

neu Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gael ei datgelu i ACC i helpu ACC i gasglu a rheoli TGT, ac ymchwilio i rwymedigaeth dreth pan fo hynny’n angenrheidiol.

124. Mae adran 59 yn datgan na chaiff awdurdodau rannu gwybodaeth ag ACC pe bai’r datgeliad yn torri Deddf Diogelu Data 1998 neu os yw’r datgeliad yn cael ei wahardd gan yr adrannau perthnasol o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016.

125. Rhagwelir y caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio pan fo awdurdod lleol neu CNC, fel

rhan o’u swyddogaethau o ddydd i ddydd, yn nodi unrhyw weithgarwch, megis gwarediad heb ei awdurdodi, a allai arwain at rwymedigaeth i TGT. Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i’r cyrff hynny drosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithgarwch ac unrhyw rwymedigaeth bosibl gysylltiedig i ACC er mwyn gallu defnyddio’r wybodaeth mewn ymchwiliad trethi neu mewn camau gorfodi trethi.

126. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu unigolion eraill neu sefydliadau eraill sydd â chaniatâd i rannu gwybodaeth gydag ACC o dan yr adran hon. Gallai’r rhain gynnwys cyrff cyhoeddus megis Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, er enghraifft.

127. Ni ragwelir y bydd awdurdodau lleol ac CNC yn rhannu gwybodaeth fel mater o drefn gydag ACC ynghylch safleoedd tirlenwi awdurdodedig a’u gweithredwyr. Dylai’r gweithredwyr hynny eisoes fod yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i ACC drwy’r system gofrestru trethi ac ar eu ffurflenni trethi rheolaidd. Fodd bynnag, pan fo awdurdodau lleol neu CNC yn amau y gallai gwybodaeth fod o ddiddordeb i ACC mewn perthynas â chasglu neu reoli’r dreth ar safle tirlenwi awdurdodedig, mae’n bosibl y caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gydag ACC, ac y gallai hynny arwain at ymchwiliad trethi.

128. Mae Rhan 2 o DCRhT yn ymdrin â defnyddio a datgelu gwybodaeth a ddelir gan

ACC. Mae rhai o’r darpariaethau hyn yn cynnwys mesurau diogelwch arbennig mewn perthynas â datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr. Mae’r rheolau

Page 145: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

145

hynny yn caniatáu i wybodaeth sensitif am drethdalwr a gedwir gan ACC gael ei datgelu i bersonau eraill neu i sefydliadau eraill o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae’r amgylchiadau hynny’n cynnwys pan fo’r datgeliad yn cael ei wneud at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achosion troseddol, neu er mwyn atal troseddu neu ganfod troseddu, neu i gynorthwyo mewn achosion sifil.

Pennod 4 – Cosbau o dan y Ddeddf hon 129. Y terfyn amser ar gyfer asesu’r rhan fwyaf o’r cosbau o dan y Ddeddf hon yw 12 mis,

gan ddechrau ar y diwrnod y mae ACC o’r farn y gwnaeth y person dorri’r gofyniad perthnasol, neu y methodd â chydymffurfio ag ef. Yn achos cosbau dyddiol am fynd yn groes i’r gofynion cofrestru, rhaid asesu’r gosb o fewn y cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r gosb yn berthnasol iddi.

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy Adrannau 60 i 62 – Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd (fel y’i diffinnir ym Mhennod 2 o Ran 3, adrannau 18 i 24) 130. Mae adran 60 yn darparu bod gweithredwr safle tirlenwi sy’n methu â phennu

pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n uwch na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn berthnasol iddo.

131. Mae adran 61 yn darparu, pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn cymhwyso disgownt

heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny neu’n cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21, bod y gweithredwr safle tirlenwi yn agored i gosb nad yw’n uwch na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

132. Mae’r cosbau hyn yn gymwys i safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn unig.

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru Adrannau 63 i 65 – Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru (fel y’i diffinnir ym Mhennod 4 o Ran 3, adrannau 33 i 37) ac esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio 133. Mae adran 63 yn darparu bod person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy heb

fod yn gofrestredig yn agored i gosb o £300 (y “gosb gofrestru”). Pan fo person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig ar ôl diwedd y 10 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am y gosb gofrestru, bydd y person hwnnw yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad yw neu nad ydynt yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’n parhau i wneud hynny.

134. Mae adran 64 yn egluro, pan fo person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy heb

fod yn gofrestredig, gan dorri adran 34, na fydd y person hwnnw yn agored i gosb o dan adran 63 os yw’n gallu bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y toriad.

Page 146: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

146

135. Mae adran 65 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosb nad yw’n fwy na £300 mewn perthynas â methiant gweithredwr i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion cofrestru a bennir yn is-adran (1), yn ddarostyngedig i is-adran (2).

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu Adran 67 – Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu (fel y’u diffinnir ym Mhennod 2 o Ran 5, adrannau 54 i 57) 136. Mae’r adran hon yn darparu, pe bai gweithredwr safle tirlenwi yn methu â

chydymffurfio â thelerau dynodiad man nad yw at ddibenion gwaredu fel sy’n ofynnol gan adran 55 neu â chadw cofnodion cyfatebol fel sy’n ofynnol gan adran 56, y byddai’n agored i gosb nad yw’n fwy na £3000.

137. Ni roddir cosb mewn cysylltiad â methu â chadw cofnodion os yw gweithredwr safle

tirlenwi yn darparu tystiolaeth arall sy’n profi er boddhad ACC unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi.

138. Gwneir darpariaeth ar wahân yn adran 8(2)(g) ar gyfer achosion pan gedwir deunydd

mewn man nad yw at ddibenion gwaredu am gyfnod hirach nag sy’n cael ei ganiatáu. Mewn achos o’r fath, tybir y bydd gwarediad trethadwy wedi ei wneud heb yr angen am unrhyw ystyriaeth bellach o’r amgylchiadau gan ACC.

Adran 68 – Asesu cosbau 139. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn glir y caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran

67 ag asesiad treth. Er enghraifft, os yw gweithredwr y safle tirlenwi yn methu â chywiro’r diffyg cydymffurfedd, yn benodol pan fo’n ymwneud â lleoliad y deunydd, caiff ACC bennu bod gwarediad trethadwy wedi ei gyflawni, a dyroddi asesiad treth o dan DCRhT.

Cyffredinol Adran 71 – Atebolrwydd cynrychiolwyr personol

140. Mae adran 71 yn pennu, os yw gweithredwr safle tirlenwi wedi marw, y caniateir i unrhyw gosb a all fod wedi ei asesu ar y gweithredwr gael ei asesu ar gynrychiolwyr personol y gweithredwr.

Adran 72 – Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau

141. Mae adran 72 yn darparu pŵer i lunio rheoliadau i Weinidogion Cymru er mwyn

gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau a symiau cosbau o dan y Bennod hon o Ran 5 o’r Bil.

Page 147: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

147

Pennod 5 – Cosbau Ychwanegol o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Adrannau 73 i 75 – Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth; methu â thalu treth mewn pryd; a methiannau lluosog i dalu treth mewn pryd 142. Dylid darllen yr adrannau hyn o’r Bil a’r nodiadau hyn ar y cyd â Rhan 5 o DCRhT

a’r nodiadau esboniadol (paragraffau 147 i 151), sy’n cyd-fynd â DCRhT. 143. Mae adran 73 yn diwygio DCRhT ac yn darparu ar gyfer symiau cosb uwch

ychwanegol os yw person sydd wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth TGT yn methu, wedi hynny, â dychwelyd ffurflenni TGT eraill ar amser o fewn cyfnod cosb penodedig. Cyfnod cosb yw un sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen dreth ac sydd, oni bai y caiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b), yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.

144. Mae adran 74 yn diwygio adran 122 o DCRhT (fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 22 i’r

Bil TTT) i ddarparu mai swm y gosb mewn cysylltiad â methu â thalu TGT mewn pryd yw 1% o swm y dreth sydd heb ei thalu.

145. Mae adran 75 yn diwygio DCRhT ac yn darparu ar gyfer symiau cosb uwch

ychwanegol os yw person sydd wedi methu â thalu TGT yn methu, wedi hynny, â thalu symiau pellach o TGT ar amser o fewn cyfnod cosb penodedig. Cyfnod cosb yw un sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosb ac sydd, ac oni bai y caiff ei ymestyn o dan adran (2)(b), yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.

Pennod 6 – Achosion Arbennig Grwpiau corfforaethol Adrannau 76 a 77 – Dynodi grŵp o gwmnïau ac amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp 146. Mae adran 76 yn caniatáu i ACC ddynodi dau neu ragor o gyrff corfforaethol yn

grŵp at ddibenion y dreth. Effaith dynodi grŵp yw y caiff aelod cynrychioliadol y grŵp ei drin, at ddibenion y dreth, fel gweithredwr safle tirlenwi y safleoedd sy’n cael eu gweithredu gan aelodau’r grŵp. Yn unol â hynny, bydd rhaid i swm o dreth, cosb neu log y byddai’n ofynnol fel arall i aelod o’r grŵp ei dalu o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, yn hytrach, gan yr aelod cynrychioliadol. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â rhwymedigaeth aelodau o grŵp ar y cyd ac yn unigol.

147. Er mwyn cael dynodiad grŵp, mae angen gwneud cais i ACC. Rhaid i ACC fod wedi

ei fodloni bod y cais yn cael ei wneud gyda chytundeb pob aelod arfaethedig o’r grŵp. Ni chaniateir gwneud dynodiad grŵp oni fo holl aelodau’r grŵp yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu fod ganddynt fwriad i wneud hynny. Rhaid i bob aelod o’r grŵp fod o dan reolaeth yr un corff corfforaethol, unigolyn neu unigolion. Os yw ACC yn gwrthod cais grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.

Page 148: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

148

Adran 78 – Amrywio neu ganslo dynodiad 148. Pan fo grŵp wedi ei ddynodi, caiff ACC amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu neu

dynnu ymaith aelod o’r grŵp neu drwy newid yr aelod cynrychioliadol. Mae gan ACC hefyd y pŵer i ganslo dynodiad grŵp. Gall ACC amrywio neu ganslo dynodiad grŵp ar ei gymhelliad ei hun neu yn dilyn cais gan yr aelod cynrychioliadol. Caniateir hefyd i unrhyw aelod o’r grŵp wneud cais i amrywio dynodiad grŵp pan fo’r cais hwnnw yn ymwneud â’r ffaith bod yr aelod hwnnw yn dymuno cael ei dynnu ymaith o’r dynodiad grŵp.

149. Fodd bynnag, rhaid i ACC amrywio neu ganslo’r dynodiad grŵp os yw’n fodlon nad

yw amodau’r dynodiad yn cael eu bodloni bellach. 150. Mae ACC yn amrywio neu’n canslo drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp,

gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hychwanegu at y grŵp neu eu tynnu ymaith ohono. Os yw ACC yn gwrthod amrywio neu ganslo’r dynodiad grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.

Adran 79 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi grwpiau o gwmnïau 151. Mae adran 79 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT fel bod y gweithdrefnau adolygu ac

apelio yn y Ddeddf honno yn gymwys i benderfyniadau sy’n ymwneud â dynodi grŵp at ddibenion TGT.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig Adrannau 81 i 83 – Cofrestru, dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig a phŵer i wneud darpariaeth bellach 152. Mae adran 81 yn darparu, pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi

mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, y caiff ACC gofrestru’r personau yn eu henwau eu hunain neu yn enw’r bartneriaeth neu’r corff. Os cofrestrir yn enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei aelodaeth yn newid, rhaid bod o leiaf un o’r aelodau wedi bod yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff cyn y newid er mwyn i’r cofrestriad barhau’n ddilys.

153. Yn unol ag adran 35 o’r Bil, rhaid rhoi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau i

aelodaeth partneriaeth neu gorff anghorfforedig, ac effaith adran 81(4) yw bod person yn cael ei drin fel petai’n parhau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gorff hyd nes y rhoddir gwybod i ACC fel arall.

154. Mae adran 82 yn darparu, pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu y caniateir ei wneud

gan bersonau, neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhan o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig o dan y Ddeddf hon neu DCRhT, bod rhaid iddo gael ei wneud gan bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y caiff ei wneud, neu y mae’n ofynnol ei wneud, neu mewn perthynas â hwy. Fodd bynnag, caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner neu aelod rheoli gael ei wneud yn hytrach gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

Page 149: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

149

155. Mae rhwymedigaeth i dalu swm o dreth, cosb neu log o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth ar y cyd ac yn unigol i bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod o’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu nas gwneir.

156. Mae adran 83 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all

ychwanegu at ddarpariaethau ynglŷn ag achosion, eu diddymu neu eu diwygio, pan fo personau yn rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid Adrannau 84 a 85 – Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd 157. Mae adrannau 84 a 85 yn berthnasol pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn marw, yn

mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd a bod person arall yn rhedeg busnes tirlenwi’r gweithredwr hwnnw. Mae’r darpariaethau yn adran 84 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n rhedeg y busnes tirlenwi roi gwybod i ACC o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod y dechreuodd y person redeg y busnes tirlenwi. Ar ôl cael hysbysiad, neu ar ei gymhelliad ei hun, caiff ACC drin y person sy’n rhedeg y busnes tirlenwi fel petai’n weithredwr y safle tirlenwi at ddibenion y dreth. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â phan fo’n rhaid i driniaeth o’r fath ddod i ben.

158. Mae adran 85 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all

ychwanegu at ddarpariaethau, eu diddymu neu eu diwygio pan fo person sydd wedi rhedeg busnes tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd.

Adran 86 – Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol 159. Mae adran 86 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn

rheoliadau ynghylch cymhwysiad y Bil TGT a DCRhT pan fo busnes tirlenwi yn cael ei drosglwyddo o un person i un arall fel busnes gweithredol.

Pennod 7 – Amrywiol Adran 87 – Addasu contractau 160. Mae adran 87 yn darparu, pan geir contract ar gyfer gwaredu gwastraff ar safle

tirlenwi awdurdodedig, a bod y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad hwnnw yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â TGT, y bydd y taliad o dan y contract ar gyfer y gwarediad hwnnw i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall.

Adran 88 – Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig 161. Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn

cysylltiad â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig, iddo fod yn agored i dalu treth gan

Page 150: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

150

gynnwys, er enghraifft, mewn perthynas â chosbau sy’n ymwneud â methu â chydymffurfio â’r rheoliadau ac o ran adolygiadau ac apelau. Rheolwr yw’r person sy’n rheoli penderfyniadau am yr hyn y mae modd ei waredu ar y safle, ond nad yw’n gwneud y penderfyniadau hynny yn unig fel gweithiwr neu asiant.

Adran 89 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

162. Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n nodi’r diwygiadau y mae’r Bil hwn yn

eu gwneud i DCRhT.

Adran 90 – Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

163. Mae adran 90 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio ac i gyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn rhoi cyllid grant er budd y cymunedau y mae gwarediadau tirlenwi, neu weithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi, megis gweithgareddau mewn safleoedd trosglwyddo gwastraff, yn effeithio arnynt. Caiff y Cynllun ddarparu bod grantiau i’w darparu mewn perthynas â meini prawf ac amodau penodedig a nodir yn y Cynllun, neu gan Weinidogion Cymru. Caiff y meini prawf gynnwys cyfeiriadau at fioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwelliannau cymunedol cymdeithasol neu amgylcheddol, ymysg pethau eraill. Bydd manylion am y modd y bydd y Cynllun yn cael ei weithredu yn cael eu cyhoeddi ar wahân pan fydd y TGT yn dod yn weithredol ym mis Ebrill 2018, neu cyn hynny.

164. Mae adran 90(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r Cynllun o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o bedair blynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gyntaf, a bod adolygiadau pellach yn cael eu cynnal ar ôl cyfnodau o ddim mwy na phedair blynedd ar ôl yr adolygiad cyntaf. Mae hefyd yn sicrhau bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau priodol wrth adolygu’r Cynllun.

165. Mae adran 90(5) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun, ond dim ond ar ôl adolygiad ac nid o fewn y pedair blynedd gyntaf ar ôl i’r Cynllun gael ei gyhoeddi gyntaf. Mae adran 90(6) yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gynllun diwygiedig.

166. Mae adran 90(5) yn pennu bod rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan gaiff ei gyhoeddi gyntaf a phan gaiff unrhyw ddiwygiadau eu gwneud iddo wedi hynny.

Rhan 6 – Darpariaethau Terfynol Adran 91 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc. 167. Mae adran 91 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud y

ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed honno y maent yn meddwl ei bod yn briodol at dibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Bil hwn neu oddi tano, mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i ddarpariaeth o’r fath. Ni ddylai rheoliadau a wneir o dan y pŵer yn adran 91 sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ond ddilyn y weithdrefn

Page 151: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

151

negyddol os nad ydynt yn effeithio ar rwymedigaeth dreth person. Os oes ganddynt y potensial i roi effaith i rwymedigaeth dreth, ei chreu neu ei chynyddu, dylent ddilyn y weithdrefn gadarnhaol ym mhob achos.

168. Er enghraifft, byddai darpariaethau a wneir o dan y weithdrefn negyddol o dan adran 91 sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn gwneud newidiadau cyfyng a thechnegol yn unig, na fyddent yn effeithio ar rwymedigaeth dreth person, megis newid i’r wybodaeth y mae’n rhaid i drethdalwr ei darparu i ACC mewn ffurflen dreth. Ar y llaw arall, byddai gan ddarpariaeth a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol o dan adran 91 sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol y potensial i roi effaith i rwymedigaeth dreth person, ei chreu neu ei chynyddu, megis newid rhyddhadau neu esemptiadau.

169. Ni chaniateir defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaethau newydd, sylweddol, nac i wneud newidiadau sylfaenol i ddeddfwriaeth arall nac i ymestyn cwmpas y Bil hwn. Yr un beth y gall ei wneud yw gwneud y newidiadau angenrheidiol i sicrhau bod darpariaethau’r Bil hwn yn gweithio’n iawn. Ni fyddai’r pŵer hwn ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer materion megis gwneud newidiadau i deddfwriaeth arall sy’n angenrheidiol o ganlyniad i ddarpariaethau’r Bil hwn, neu i ymdrin â manylion nas rhagwelwyd sy’n codi o weithredu’r system newydd.

Adrannau 92 i 96 – Rheoliadau o dan y Ddeddf hon: cyffredinol; Rheoliadau sy’n newid cyfraddau treth; Dehongli; Dod i rym; ac Enw Byr

170. Mae adrannau 92 a 93 yn nodi’r weithdrefn is-ddeddfwriaeth sydd i’w defnyddio mewn perthynas â’r gwahanol bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir drwy’r Bil. Mae adran 94 yn rhoi ystyron termau a ddefnyddir yn y Bil. Nodir y sefyllfa mewn perthynas â chychwyn darpariaethau’r Bil yn adran 95 ac mae adran 96 yn nodi mai enw byr y Bil yw ‘Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017’.

Page 152: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

Mae’r nodiadau hyn yn cyfeirio at Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a ddiwygiwyd yn

dilyn trafodion Cam 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Mai 2017.

152

COFNOD Y TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

171. Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://www.assembly.wales/cy/bus-home/bus-legislation/Pages/bus-legislation.aspx

Cyfnod Dyddiad

Cyflwynwyd 28 Tachwedd 2016

Cyfnod 1 Dadl 21 Mawrth 2017

Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau

11 Mai 2017

Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn - ystyried y gwelliannau

20 Mehefin 2017

Cyfnod 4 Cymeradwyaeth gan y Cynulliad

Y Cydsyniad Brenhinol

Page 153: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

153

Atodiad 2: Mynegai o ofynion y Rheolau Sefydlog Tabl 6

Rheol Sefydlog Adran tudalennau/paragraffau

26.6(i)

Datgan y byddai darpariaethau’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

Datganiad yr Aelod Tudalen 2

26.6(ii)

Nodi amcanion polisi y Bil

Pennod 3 - Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

Nodir yr amcanion polisi ar dudalennau 10-43, paragraffau 3.1-3.175

26.6(iii)

Nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu

Rhan 2 – Asesiad effaith Nodir opsiynau eraill ar dudalennau 79-84, paragraffau 7.1-7.38

26.6(iv)

Nodi’r ymgynghori a gafwyd, os cafwyd unrhyw ymgynghori o gwbl, ar y canlynol:

(a) amcanion polisi y Bil a’r ffyrdd o’u gwireddu;

(b) manylion y Bil, a

(c) Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n

rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau)

Pennod 4 - Ymgynghori Ceir crynodeb o’r ymgynghoriad ar LDT ar dudalennau 44-48, paragraffau 4.1-4.21

Page 154: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

154

Rheol Sefydlog Adran tudalennau/paragraffau

26.6(v)

Nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio

Pennod 4 - Ymgynghori Ceir crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad ar LDT ar dudalennau 44-47, paragraffau 4.3-4.11

26.6(vi)

Os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw

Pennod 4 - Ymgynghori

Mae tudalen 48, paragraff 4.20 yn nodi pam na chyhoeddwyd Bil drafft

26.6(vii)

Crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil

Atodiad 1 – Nodiadau Esboniadol Ceir crynodeb o’r darpariaethau yn y Nodiadau Esboniadol Tudalennau 123-152

Page 155: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

155

Rheol Sefydlog Adran tudalennau/paragraffau

26.6(viii)

Nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol:

(a) y costau gweinyddol gros, y costau

cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt;

(b) yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt;

(c) costau gweinyddol net

darpariaethau'r Bil;

(d) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac

(e) ar bwy y byddai’r costau’n syrthio

Rhan 2 – Asesiad effaith

Ceir tabl sy’n crynhoi’r costau ar dudalennau 75-78 a manylion ynghylch sut y cyfrifwyd y costau hyn ar dudalennau 85-110, paragraffau 8.1-8.112 ym Mhennod 8.

26.6(ix)

Unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol

Rhan 2 – Asesiad effaith

Ceir crynodeb o’r manteision ar dudalennau 85-110, paragraffau 8.1-8.112 ym Mhennod 8.

Page 156: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

156

Rheol Sefydlog Adran tudalennau/paragraffau

26.6(x)

Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:

(a) y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;

(b) pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac

(c) y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y

mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);

Pennod 5 - Y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth

Ceir tabl sy’n crynhoi’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ar dudalennau 51-73 - Tabl 4

26.6(xi)

Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio

Pennod 6 – Asesiad o’r Effaith Rheoleiddiol

Mae tudalen 74, paragraff 6.2 yn nodi nad yw’r Bil yn codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru

Page 157: BIL TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) documents/pri-ld10839-em-r/pri...1.2 Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gysylltiedig â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161, sy'n pennu'r trefniadau

157

Rheol Sefydlog Adran tudalennau/paragraffau

26.6B

Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol.

Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6B ynghylch Tabl Tarddiadau yn gymwys i’r Bil hwn oherwydd mai darn o ddeddfwriaeth annibynnol yw’r Bil ac nad yw’n tarddu o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi.

26.6C

Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad deddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil.

Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6C ynghylch Atodlen o Ddiwygiadau yn gymwys i’r Bil hwn oherwydd nad yw’r Bil yn cynnig gwneud diwygiadau sylweddol i ddeddfwriaeth bresennol.