adroddiad blynyddol chwarae cymru

18
Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2008 www.chwaraecymru.org.uk

Upload: play-wales

Post on 31-Mar-2016

221 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Adroddiad blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2008

TRANSCRIPT

Page 1: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2008

www.chwaraecymru.org.uk

Page 2: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru; elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ein nod yw gweithredu fel llysgennad dros chwarae plant; gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol chwarae i iechyd a lles plant.

Croeso

Page 3: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Adroddiad y Cyfarwyddwr 4Adroddiad y Cadeirydd 5Tîm Datblygu 6Y Loteri FAWR 7 Gwybodaeth, Arweiniad a Rhwydweithio 10Datblygu’r Gweithlu 12Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith 13Adolygiad Ariannol 14Adolygiad Ariannol 16Tîm Chwarae Cymru 17 Manylion Cyswllt 18

Cynnwys

Page 4: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

4

Croeso i adolygiad blynyddol cyntaf Chwarae Cymru. Rydym bellach yn nesu at ein degfed blwyddyn fel elusen, ac mae chwarae plant yng Nghymru mewn sefyllfa na fyddem fyth wedi breuddwydio fyddai’n bosibl ddegawd yn ôl.

Dros y flwyddyn diwethaf gwelodd Chwarae Cymru dwf a datblygiad diolch i lawer o waith caled a dycnwch ar ran y staff a phob un sydd wedi ymuno â ni ar y daith. Ond ni fydd y gwaith caled trosodd tan fod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad bob dydd i gyfleoedd chwarae o safon fel rhan o’u hawl cyffredinol. Gallwn symud yn nes at y nod yma os y byddwn yn parhau i sicrhau’r llwyddiannau neilltuol a brofom eleni.

Ar Ddiwrnod Chwarae (1 Awst 2007) cyhoeddodd Jane Hutt AC, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, gyllid er mwyn i Chwarae Cymru ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae yng Nghymru. Dros y tair blynedd nesaf bydd y ganolfan yn cefnogi’r sector gwaith chwarae i drosglwyddo gwasanaethau hygyrch o safon i blant. Dylai gyfrannu hefyd at welliant yn statws gwaith chwarae. Ym mis Ionawr enillom y cyfle i gynnal hanner canfed cynhadledd yr International Play Association yng Nghymru yn 2011. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i greu cysylltiadau rhyngwladol ac i ddysgu oddi wrth waith ymchwil ac arferion gwledydd eraill. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i roi llwyfan i ddarpariaeth chwarae yng Nghymru ac i gyfranogwyr brofi ein sector chwarae sy’n ehangu’n barhaus.

Adroddiad y CyfarwyddwrYn ogystal, o ganlyniad i raglen Chwarae Plant Cronfa Loteri FAWR, mae cymdeithasau chwarae newydd yn cael eu ffurfio ac mae rhai sy’n bodoli eisoes yn cael eu hatgyfnerthu, neu yn ymestyn cwmpawd eu cyfrifoldeb i gynnwys ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Bu hyn yn orchest enfawr i Gymru; yn y gorffennol bu’r isadeiledd ar gyfer datblygiad darpariaeth chwarae yn fylchog ac yn anghyson. Hyd yn hyn roedd rhai ardaloedd wedi bod yn ddigon ffodus i gael cymdeithasau lleol gweithgar a chryf, tra bo eraill yn ei chael yn anodd. Nawr mae gennym gyfle i ddatblygu perthnasau sy’n bodoli eisoes a llunio rhai newydd mewn modd cydlynol, all wneud dim ond bod o fudd i blant a’r sector chwarae plant yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad blynyddol hwn yn sôn yn fanylach am y gwaith a wnaeth Chwarae Cymru yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ni fyddai llawer o’n llwyddiannau wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth barhaus ein cyllidwyr, ein noddwyr a’n cefnogwyr. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonoch am eich cyfeillgarwch a’ch ymroddiad i’r mudiad dros y blynyddoedd, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Heb os, mae’r ymwybyddiaeth ynghylch gwerth chwarae wedi cynyddu’n ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rwy’n credu’n gryf ein bod wedi cymryd camau sylweddol at ein nod o wneud Cymru’n le ble yr ydym yn cydnabod ac yn darparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.

Mike Greenaway

Page 5: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

5

Adroddiad y Cadeirydd Prif weithgarwch Chwarae Cymru yw dylanwadu ar bolisi, cynllunio strategol ac arferion pob asiantaeth a sefydliad sydd ynghlwm â, ac sydd yn gyfrifol am, chwarae plant. Cyflawnwyd hyn eleni trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor technegol, ac arweiniad ynghylch darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu; cynorthwyo i ddynodi anghenion a chyfrannu at y gydnabyddiaeth gynyddol sydd i bwysigrwydd sylweddol chwarae fel elfen allweddol o ddatblygiad plant.

Mae Chwarae Cymru wedi parhau i fod yn gyfaill beirniadol i Lywodraeth Cynulliad Cymru eleni ac roeddem yn hynod o falch pan gyhoeddodd y Cynulliad y byddent yn darparu miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol i Gronfa Cymorth, er mwyn i fwy o blant allu cael mynediad i ddarpariaeth chwarae cynhwysol. Ar ddiwedd 2007 darparodd Chwarae Cymru gyngor ar chwarae cynhwysol a chymryd rhan mewn derbyniad yn y Senedd, ble y cyfarfu Aelodau o’r Cynulliad blant a phobl ifanc anabl a siarad â chynrychiolwyr o’r mudiadau perthnasol. Ein gobaith yw y bydd y cyllid ychwanegol yma’n helpu i ddarparu gwell mynediad i gyfleoedd chwarae a hamdden o safon ar gyfer plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd.

Uchafbwynt arall i Chwarae Cymru eleni oedd ariannu Chwarae Plant y Loteri FAWR – fydd yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth chwarae yng Nghymru. Nawr bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector wirfoddol adolygu darpariaeth sy’n bodoli eisoes, dynodi unrhyw fylchau a phenderfynu ar yr hyn all fod ei angen yn y dyfodol i gefnogi amcanion Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru neu strategaethau chwarae lleol. Bydd Chwarae Cymru’n parhau i helpu i gynyddu cyrhaeddiad partneriaethau chwarae lleol ac yn eu cynorthwyo i gynnal ac adeiladu ar y momentwm ar gyfer newid sydd ar droed bellach.

Mae’n wych ein bod bellach yn gweithio tuag at ddarpariaeth chwarae o safon fel mater o hawl, yn hytrach nag un o ddewis, a gobeithio y bydd hyn yn arwain at newidiadau gwirioneddol mewn chwarae ar gyfer pob plentyn yng Nghymru yn y dyfodol agos. Margaret Jervis O.B.E.

Page 6: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

6

Er mwyn cynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth briodol bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol bwyllgorau gwaith trwy Gymru gyfan, a ariannwyd yn bennaf gan y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod chwarae plant yn ennill ei statws haeddiannol:

Tîm Datblygu

Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol •

Grwp Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant •

Grwp Darparwyr dan 8 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) •

Grwp Isafswm Safonau Cenedlaethol a Rheoliadau dan 8•

Fforwm Magu Plant•

Pwyllgor Datblygu Cymru Cymdeithas Cenedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden •

‘Childcare Task Force’•

Bu’r Cyfarwyddwr yn ymddiriedolwr Plant yng Nghymru Clybiau Plant Cymru•

Grwp Llywio Cynhadledd Cynllunio ar gyfer Iechyd •

Grwp Monitro Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru •

Canllawiau a Safonau ar gyfer Gweithredu o fewn Grwp Ymgynghorol Cynllun Cyflawni’r •

Polisi Chwarae

Consortiwm Cyfranogaeth – Is-grwp Cyfranogaeth plant 0 – 10 oed•

Cyfarfod Cydlynwyr Ysgolion Cymunedol•

Page 7: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

7

Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi datblygiad agwedd strategol tuag at chwarae plant trwy:

Ddylunio a throsglwyddo seminar diwrnod chwarae. •

Datblygu, cynnal a chefnogi’r Rhwydwaith Swyddogion Datblygu • Gwaith Chwarae. Mae gan y rhwydwaith hwn aelodaeth o dros 40 o bobl broffesiynol sydd ynghlwm â datblygu darpariaeth chwarae.

Aelod o 18 pwyllgor gwaith chwarae strategol trwy Gymru. •

Cefnogi datblygiad ffederasiwn o ddarparwyr adnoddau ar gyfer • chwarae.

Cefnogi datblygiad cyngor technegol, canllawiau a materion • diogelwch sy’n ymwneud yn benodol â meysydd chwarae antur.

Bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol grwpiau polisi trwy’r DU gyfan, megis:

Grwp Ymgynghorol Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Cymru •

Fforwm Diogelwch Chwarae Cenedlaethol •

Cofrestr ‘Playground Inspectors International’•

Fforwm Polisi Chwarae Plant •

Cyngor Chwarae Plant •

Grwp Llywio Cenedlaethol Diwrnod Chwarae •

Cynhadledd Polisi Chwarae’r Pum Gwlad•

Ymatebodd Chwarae Cymru i ystod eang o ymgynghoriadau’n cynnwys:

FIT (Fields in Trust) – Cynllunio a Dylunio ar gyfer Chwaraeon a • Chwarae Awyr AgoredY cynnig i rannu asedau heb eu hawlio• Ymgynghoriad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a’r • dangosyddion arfaethedig ar gyfer diweddaru MALlC Y cynnig i warchod mwy ar ofod adloniadol• Safonau Rheoli Tai Cymru ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol • Safonau Tai Cymru ar gyfer Rheoli Ymddygiad Gwrth-• gymdeithasol

Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi chwarae plant a darpariaeth chwarae ar lefel leol trwy:

Sicrhau bod grwpiau cymunedol lleol yn cael eu cyfeirio at, ac yn • cael eu cefnogi’n ddigonol, gan rwydweithiau cefnogaeth lleol. Rydym yn amcangyfrif inni dderbyn ac ymateb i fwy na 1,000 o ymholiadau dros y ffôn a thrwy ebost gan rieni, aelodau etholedig, ysgolion a mudiadau bychain yn ystod y flwyddyn diwethaf.

Darparu cefnogaeth datblygiad proffesiynol an-rheolaethol i • Swyddogion Datblygu Chwarae trwy Gymru.

Trosglwyddo cyflwyniadau ynghylch cynllunio ar gyfer chwarae • mewn awdurdodau lleol / cymunedau.

Darparu cefnogaeth i brosiectau chwarae sector gwirfoddol.•

Page 8: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

8

Gynhyrchu Cyflwr Chwarae 2006 (adolygiad o sut y • gwariwyd cyllid thema chwarae Cymorth yn ystod 2006). Cynhaliodd Chwarae Cymru arolwg cenedlaethol o Bartneriaethau Fframwaith i ddarganfod Cyflwr Chwarae 2006 yng Nghymru.

Cynhyrchu atodiad i Cyflwr Chwarae 2006 oedd yn • darparu gwybodaeth ynghylch sut y defnyddiwyd y cyllid ychwanegol ar gyfer cyfleusterau chwarae ar gyfer plant anabl, i amlygu materion oedd angen mynd i’r afael â hwy.

Trefnu seminar ar gyfer cyfranddalwyr allweddol, ‘Cyflwyno • a Darparu Risg mewn Chwarae’, i raeadru gwybodaeth a rhannu arfer da.

Y Loteri FAWR

Parhau i hwyluso a chefnogi 10 partneriaeth rhanbarthol • (grwpiau gwaith) i gyflwyno ceisiadau i MAWR.

Parhau i gefnogi naw ymgeisydd llwyddiannus ac un • ymgeisydd gohiriedig.

Rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth trwy we-dudalennau • penodedig, cylchgrawn Chwarae dros Gymru a chyhoeddiadau eraill, a chyhoeddi taflen wybodaeth.

Ym mis Awst 2006 derbyniodd Chwarae Cymru gytundeb gan Cronfa Loteri FAWR i helpu i drosglwyddo’r rhaglen Chwarae Plant. Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi ymateb strategol i’r rhaglen Chwarae Plant trwy:

Page 9: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru
Page 10: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

10

Darparu gwefan ddwyieithog gaiff ei diweddaru’n rheolaidd sy’n cynnwys eit-• emau o ddiddordeb i weithwyr chwarae a darparwyr chwarae yng Nghymru ac sydd ag adran i aelodau.

(www.chwaraecymru.org.uk)

Cyhoeddi cylchgrawn Chwarae dros Gymru bob chwarter.•

Cyhoeddi “The Venture: a case study of an adventure playground”.•

Adolygu a chyhoeddi ffeithddalenni a gwe-ddalennau ar ystod o destunau yn • cynnwys bwyd, chwarae a gwaith chwarae.

Cynhyrchu a marchnata crys-t ymgyrchu. •

Recriwtio Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ychwanegol. •

Ehangu llyfrgell Chwarae Cymru sy’n cynnig y casgliad mwyaf cynhwysfawr • o ddeunyddiau chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru; ar hyn o bryd mae gennym tua 1,100 o gyfeirlyfrau.

Golygu, proflennu, rheoli dylunio a chefnogi datblygiad deunyddiau gwaith • chwarae newydd

Hyrwyddo chwarae trwy’r cyfryngau ac mewn digwyddiadau cenedlaethol, • megis Diwrnod Chwarae a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Gwybodaeth, Arweiniad a Rhwydweithio

Mae Tîm Gwybodaeth Chwarae Cymru wedi cynhyrchu a rhaeadru ystod eang o wybodaeth yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn cynnwys:

Page 11: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

11

Cyfrannu at becyn Gwybodaeth Diwrnod Chwarae. •

Cyfrannu at gynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru ac • ar draws y DU.

Datblygu cais llwyddiannus i gynnal cynhadledd 2011 yr • ‘International Play Association’ yng Nghymru.

Rhaeadru cyhoeddiadau: Yr Hawl Cyntaf... fframwaith ar • gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae ac Yr Hawl Cyntaf – Prosesau Dymunol

Cysylltiad rheolaidd gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau’r • Cynulliad.

Mae Chwarae Cymru wedi darparu:

Seminarau a chynadleddau ar bynciau megis: •

Ysbryd Chwarae Antur, cynhadledd gwaith chwarae - genedlaethol (150 o gyfranogwyr).

‘Mwd a Gwreichion’, hyfforddiant chwarae gyda’r - elfennau (50 o gyfranogwyr).

Hyfforddiant Cyfnod Sylfaen ar gyfer ymarferwyr y - blynyddoedd cynnar (300 o gyfranogwyr).

Tri seminar Datblygiad Proffesiynol – Seminar Rhannu - Sgiliau Gweithwyr Chwarae Antur, Cyflwyno a Darparu Risg mewn Chwarae, ‘Recharge’ - (191 o gyfranogwyr)

Cyhoeddiadau

The Venture: a case study of an adventure playground (2007). Mae’r llyfr hwn yn archwilio llwyddiant hirhoedlog The Venture, maes chwarae antur yn ardal drefol Wrecsam. Cafodd ei ysgrifennu gan Fraser Brown, Darllenydd ym Mhrifysgol Leeds Metropolitan, yn seiliedig ar sgyrsiau gyda Malcolm King (un o sylfaenwyr a rheolwr presennol The Venture) a Ben Tawil (un o’r gweithwyr chwarae diweddar). Gellir darllen rhannau ohono ar:

www.playwales.org.uk/downloaddocasp?id=192&page=255&skin=0.

‘Chwarae, Gwaith Chwarae a Bwyd: sut i gyn-nwys bwyd yn y sefyllfa chwarae’ (2008). Mae’r daflen friffio yma’n darparu model ar gyfer gweithwyr chwarae, darparwyr chwarae ac eraill ar sut i gynnwys bwyd yn y sefyllfa chwarae mewn modd sy’n cefnogi’r Egwyddorion Gwaith Chwarae a Pholisi Chwarae Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gellir darllen y papur ar: www.chwaraecymru.org.uk/page.asp?id=67.

Page 12: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

12

Dros y 12 mis diwethaf mae Chwarae Cymru wedi:

Rhoi cefnogaeth sylweddol i SkillsActive, y cyngor sgiliau sector ar • gyfer gwaith chwarae, yn cynnwys trosglwyddo strategaeth y DU – Hyfforddiant o Safon, Chwarae o Safon, a datblygu strategaeth cymhwyster sector ar gyfer gwaith chwarae yng Nghymru

Cyfrannu at ddatblygu Strwythur Cyngor newydd, Cyngor Addysg a • Hyfforddiant Gwaith Chwarae (PETC) a PETC Cymru.

Cynnal perthynas gref gyda Chyngor Ieuenctid Cymru / Pwyllgor • Safonau Hyfforddi Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau system gymeradwyo dan arweiniad cyfoedion.

Cynorthwyo Coleg Prifysgol Abertawe i ddatblygu cwrs ôl-raddedig • mewn gwaith chwarae.

Parhau i gefnogi Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (Prifysgol • Glyndwr) i ddatblygu gradd sylfaenol.

Sefydlu Canolfan Genedlaethol Addysg a Hyfforddiant i Gymru, • Gwaith Chwarae Cymru; recriwtio Rheolwraig a staff cefnogol; sefydlu Pwyllgor y Ganolfan Genedlaethol a datblygu platfform dysgu rhyngweithiol ar y we.

Datblygu a chynnal peilot o gyfres arloesol o gymwysterau gwaith • chwarae Lefel 2 – gan hyfforddi dros 600 o ddysgwyr.

Hyfforddi 25 o aseswyr newydd, a 30 o hyfforddwyr newydd, gan • gynnwys cymhwyster 7302 ‘City and Guilds’. .

Sefydlu Rhwydwaith Cefnogi Hyfforddwyr ac Aseswyr.•

Cefnogi datblygiad a throsglwyddo cynhadledd CWLWM.•

Cynrychioli darparwyr chwarae a gweithwyr chwarae gan gynnig • cyngor arbenigol, arweiniad, cefnogaeth, cyfleoedd rhwydweithio a chynadleddau ymwneud â chwarae, polisi chwarae, darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu

Mae tîm Datblygu’r Gweithlu, Chwarae Cymru, wedi parhau i gefnogi a chyfrannu tuag at hyfforddiant addysg gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru

Datblygu’r Gweithlu

Page 13: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

13

P3

Mae Gwaith Chwarae’n datblygu cyfres newydd o gymwysterau o’r enw ‘Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith’ neu ‘P3’. Mae’r cwrs Lefel 2 (sy’n debyg i lefel TGAU) wedi ei ddatblygu a chynhaliwyd peilot ohono, ac mae bellach ar gael fel cymhwyster ar y Fframwaith Credydau Cymwysterau, wedi ei gymeradwyo gan SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector dros waith chwarae. Mae’r cwrs yn cynnwys Gwobr, Tystysgrif a Diploma, ac mae deunyddiau dysgu a gynlluniwyd yn arbennig ar gael ar gyfer pob cam. Cafodd datblygiad a pheilot Lefel 2 ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop fel rhan o bartneriaeth CWLWM. Daeth y peilot a’r cyllid ar gyfer y cwrs i ben ym mis Rhagfyr 2007, ond mae’r cymhwyster yn dal ar gael i’w drosglwyddo ar draws Cymru gyfan. Er mwyn cefnogi a chyfoethogi’r deunyddiau cwrs, comisiynodd Chwarae Cymru ffilm o bob math o blant yn mwynhau chwarae o’u dewis eu hunain, o’r enw “Gwthio Eddie yn y Danadl Poethion gyda Connor”. Green Bay Media, un o gwmnïau cynhyrchu ffilmiau blaenaf Cymru, fu’n gyfrifol am y gwaith ffilmio yn ystod Haf a Hydref 2006 mewn lleoliadau ar draws Cymru gyfan, a bu ar gael i hyfforddwyr y cwrs newydd ers mis Ionawr 2007. Bydd y model newydd hwn ar gyfer hyfforddiant yn codi safon arfer gwaith chwarae ac yn gweithredu fel meincnod ansawdd ar gyfer darparwyr eraill trwy Gymru gyfan a thu hwnt. Bydd yn herio gweithwyr chwarae, hyfforddwyr gwaith chwarae a datblygwyr darpariaeth chwarae i ystyried y modd gorau o wella ansawdd eu hyfforddiant ac arfer gwaith chwarae.

Page 14: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

14

Adolygiad Ariannol

Prif Ffynonellau Ariannu

Yn ystod y flwyddyn, deilliodd incwm Chwarae Cymru’n bennaf o Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr ESF (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) – prosiect CWLWM (‘Childcare Wales Learning & Working Mutually’ sef partneriaeth o sefydliadau sy’n rhannu’r un ffocws o fewn y sector gofal plant), y Loteri FAWR, cynhadledd flynyddol ‘Ysbryd’, amrywiol seminarau, ymgynghoriaeth a chyngor, ffïoedd arolygu a ffïoedd aelodaeth. Mae’r cyllid craidd ddaw gan LlCC yn ffynhonnell incwm sylweddol, a sicrhaodd gyflawni’r rhaglen waith trwy gyflogi staff a’r costau gweithredol cysylltiedig.

Datganiad Arian Wrth Gefn

Mae Chwarae Cymru’n bwriadu cadw lefel arian wrth gefn o o leiaf 3 mis o’r gwariant blynyddol, sydd ar hyn o bryd oddeutu £268 o filoedd. Caiff yr arian wrth gefn ei roi o’r neilltu er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y staff a’n haelodau ac er mwyn sicrhau y byddai’r gweithgareddau presennol yn cael eu cynnal os digwydd cwtogiad sylweddol mewn ariannu. Mae lefel presennol yr arian wrth gefn digyfyngiad yn £276 o filoedd, sy’n cyfateb â’r targedau a osodwyd.

Page 15: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

15

Lefel bresennol cyfanswm yr arian wrth gefn yw £320 o filoedd, cyllid cyfyngedig o £(4 o filoedd), cyllid digyfyngiad o £276 o filoedd a chronfa arian wrth gefn benodedig o £48 o filoedd: cronfa gyflog a osodwyd o’r neilltu i sicrhau bod cyllid ar gael yn unol â’r cytundeb gyda’n darparwr cyflogres i gadw costau cyflog un mis wrth gefn. Cynyddwyd hyn o £10 mil eleni.

Polisi buddsoddi

Mae’r ymddiriedolwyr yn adolygu’r swm y mae’r mudiad ei angen er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol iddo gyflawni ei ddyletswyddau parhaus yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at fuddsoddi, gan ddefnyddio polisi risg isel, tymor byr, cyfrif cadw 14 diwrnod sy’n dwyn llog sy’n derbyn tua 5.1% o elw.

Page 16: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

16

Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

Cafodd Chwarae Cymru ei dewis i gynnal cynhadledd nesaf yr ‘International Play Association’ yng Nghymru yn 2011

Bydd y mudiad yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr i sicrhau y bydd hwn yn ddigwyddiad cofiadwy, diddorol, bywiog a chyffrous.

Bydd hwn yn gyfle i ddod â darparwyr chwarae, ymarferwyr, dam-caniaethwyr ac ymchwilwyr ynghyd ac i roi llwyfan i’r polisïau a’r gwaith ymarferol sy’n cael ei wneud yng Nghymru.

Y lleoliad fydd Neuadd y Ddinas Caerdydd gan ei fod yng nghanol y brifddinas a ni’n unig fydd â defnydd o’r adeilad am yr wythnos gyfan.

Cynhelir y gynhadledd o Ddydd Llun 4 – Dydd Gwener 8 Gorffen-naf 2011. Ar hyn o bryd mae Chwarae Cymru’n dal yng nghyfnod cynnar y cynllunio, ond mae gennym gronfa eang o syniadau eisoes fydd, gobeithio, yn golygu mai hon fydd un o’r cynadleddau mwyaf cofiadwy i’r IPA ei chynnal erioed.

Bydd Chwarae Cymru wastad yn gweithio i hyrwyddo chwarae plant ar bob lefel, yn gweithredu fel eiriolwr dros blant a’u anghenion chwarae ac yn sicrhau y ceir ffocws cenedlaethol strategol ar chwarae ar draws ffiniau

Mae gweithgareddau a gwasanaethau o bwys fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni’r amcanion penodedig yn cynnwys:

Datblygiad parhaus y wefan a datblygu Gwasanaethau • Gwybodaeth Cylchgrawn chwarterol • Rhaglen o 8 o gynadleddau, gweithdai digwyddiadau a • seminarauCyfrannu at ddatblygu strategaethau lleol pwrpasol ac ystyrlon • ym mhob un o’r 22 ardal awdurdodau lleol a geir yng Nghymru Cynnal aelodaeth a chyfuno grwpiau sy’n bodoli eisoes• Cyfrannu at weithredu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Gwaith • Chwarae’r DU Datblygu Aelodaeth Chwarae Cymru a chynyddu nifer yr aelodau • newydd 20%Cefnogi agwedd strategol tuag at chwarae ar lefel awdurdod lleol, • er mwyn galluogi ymateb priodol a’r ceisiadau ariannu mwyaf effeithlon i raglen Chwarae Plant y Loteri FAWR

IPA 2011

Page 17: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

17

Tîm Chwarae CymruSwyddfa Genedlaethol

Mike Greenaway - CyfarwyddwrMarianne Mannello - Swyddog Polisi Tillie Mobbs - Swyddog Polisi Michelle Jones - Swyddog Datblygu Sarah Southern - Swyddog Datblygu Gill Evans - Swyddog GwybodaethKathy Muse - Rheolwraig SwyddfaJane Hawkshaw -Rheolwraig Canolfan Genedlaethol Gwaith Chwarae Cymru Richard Trew - Rheolwr Prosiect, Prosiect Hyfforddiant Gwaith Chwarae CWLWMJacky Jenkins - Swyddog Cyllid Agii Hennessey - Cynorthwy-ydd Cyllid Angharad Wyn Jones - Cynorthwy-ydd GwybodaethKate Barron - Cynorthwy-ydd Gweinyddol Mel Welch - Cynorthwy-ydd Gweinyddol Aled Morris - Cynorthwy-ydd Gweinyddol

North Wales Office

Martin King-Sheard - Swyddog Datblygu Annette Hennessey - Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Strwythur Trefniadol

Caiff yr elusen ei gweinyddu gan Y Bwrdd Ymddirie-dolwyr. Mae’r Cyfarwyddwr yn atebol i’r Bwrdd Ymd-diriedolwyr am reoli’r mudiad o ddydd i ddydd.

Aelodaeth

Mae Chwarae Cymru’n fudiad aelodaeth. Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau ac unigolion o sectorau gwirfoddol, statudol ac annibynnol.

Y tâl aelodaeth ar gyfer 2008 yw:

Unigol: £10Sefydliadau – un aelod llawn amser o staff neu lai: £25Rhyngwladol: £25Sefydliadau – mwy nag un aelod llawn amser o staff: £50Masnachol / preifat: £75Awdurdod Lleol: £100

I gofrestru i ddod yn aelod, ymwelwch â:

www.chwaraecymru.org.uk/register.asp

Page 18: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Swyddfa Genedlaethol ChwaraCymru

Chwarae Cymru Tŷ BaltigSgwâr Mount Stuart CaerdyddCymruCF10 5FH

Rhif Ffôn: (029) 2048 6050Ffacs: (029) 2048 9359Ebost: [email protected]

Cysylltwch â ni…

Swyddfa Chwarae Cymru yn y Gogledd

Chwarae Cymru Canolfan Busnes Tai Tywyn Sandy LanePrestatynSir Ddinbych LL19 7SF Rhif Ffôn: (01745) 851 816Ffacs: (01745) 851 517Ebost: [email protected]

www.playwales.org.uk