byddwn yn diffinio dolydd byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar...

16

Upload: others

Post on 16-Jan-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad
Page 2: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

â

Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math olaswelltiroedd yn llawn blodau gwyllt, gydadigonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenolar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Felcynefinoedd bywyd gwyllt maent o danfygythiad mawr ym Mhrydain.

Cyhoeddwyd y maniffesto gan Flora locale a The Grasslands Trust, Ebrill 2008. Gellir atgynhyrchu testun yddogfen hon yn ddi-dâl a heb ganiatâd ymlaen llaw. Cedwir hawlfraint y lluniau gan y ffotograffwyr unigol.Lluniau’r clawr: Rob Evans, Sue Everett, David Harries, Plantlife, James Robertson.

Dolydd Byw yn fenter o dan arweiniad Flora locale, yr elusen adfer planhigion gwyllt, yncydweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chyrff cadwraeth er mwyn hyrwyddo adfer,rheoli a gwerthfawrogi dolydd blodau gwyllt.

Gwybodaeth bellach am ein Dolydd Byw yn www.dolyddbyw.org.uk

BB

C C

ymru

MAE GEN I LAWER O ATGOFION MELYS o’m plentyndod yn Llanwddyn,gogledd sir Drefaldwyn. Dringo coed, rasio beiciau drwy’r coetiroedd, nofioyn afon Efyrnwy, cerdded ar y rhostiroedd, gwylio llygod dwr wrth bysgotagyda’r nos; mae’r rhestr yn faith. Ond, mae un cof yn dal yn fwy byw yn fymeddwl na’r gweddill. Rwy’n cerdded trwy ddôl gyda fy mrawd Rhys, ar ein ffordd i weld ffrind arfferm leol. Wrth i ni ymlwybro drwy’r glaswellt uchel, mae dwsinau ogeiliogod rhedyn yn neidio i osgoi ein traed trwsgl. Dyma gylfinir yn codi arben pella’r cae, ble mae wedi nythu bob blwyddyn. Yn y mannau gwlyb, maepennau pinc carpiog y gors yn chwifio yn yr awel a llygaid llo mawr yngarped o’n cwmpas. Wrth i ni ddynesu at glwyd bren, rwy’n tynnu sylw atglwstwr tegeirian y wenynen, wedi’u cuddio’n dda er eu blodau lliwgar. O’n cwmpas mae pili-palaod, gwyfynod, gwenyn a chwilod yn hedfan oflodyn i flodyn, a dwsinau o wenoliaid a gwenoliaid y bondo yn plymio ifwydo ar y pryfed diniwed. Nid oedd y ddôl hon yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig nac ynwarchodfa natur, dim ond cae cyffredin. Ac roedd llawer mwy ar hyd y cwmac, mae’n debyg, ar draws y sir. Dychwelais i’r union gae yn ystod haf y llynedd. Roedd y tegeirianau, pili-palaod, gwenoliaid, gylfinir, carpiog y gors a’r llygaid llo mawr wedidiflannu. Rhygwellt o un ochr o’r cae i’r llall, gyda dim ond dant y llew allygaid y dydd yn tarfu ar y gwyrddni undonog. Roeddwn bron â chrio.

Yn anffodus, mae’r olygfa hon yn gyffredin iawn erbynhyn. Mae dros 98% o’n dolydd blodau gwyllt wedidiflannu dros y 60 blynedd diwethaf a phob math ofywyd gwyllt wedi cilio gyda nhw. O’r rhai prin sy’nweddill, diogelwyd rhai gan y gyfraith, eraill am eu bodyn cael eu rheoli gan dirfeddianwyr uchel ael. Ond, byddnifer yn diflannu am byth hyd yn oed wrth i miysgrifennu hwn. Mae dolydd blodau gwyllt – Dolydd Byw – yn icon o

ardaloedd gwledig Prydain, rhan integrol o blentyndod llawer ohonom.Mae’n gas gen i feddwl na fydd cyfle gan fy mhlant ac wyrion i gerdded trwygaeau’n llawn ehedydd yn canu a gwenyn yn suo. Mae’n rhaid i ni gymrydcamau rwan i achub yr holl gynefinoedd bywyd gwyllt gwych yma.

Iolo WilliamsCyflwynydd teledu a noddwr, Menter Dolydd Byw Cymru

Page 3: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Crynodeb

Nod y Maniffesto hwn, gan Flora locale a’r Grasslands Trust, ywdatblygu agenda ar gyfer pawb sy’n cefnogi’r egwyddor o gynnal acadfer Dolydd Byw. Yn ogystal mae llawer o fannau eraill, fel y rhai anodwyd gan ein Noddwr yn y rhagair, sydd wir angen ein cymorth.Gallant gynnig cymaint, o bleserau esthetig i fuddion amgylcheddol aceconomaidd ehangach. Gadewch i bawb ohonom gydweithio i adfer achynnal Dolydd Byw er lles tirweddau byw a gwaith Cymru.

❀ Nid yw llawer o ffermwyr a thirfeddianwyr yn llwyr ddeall neuwerthfawrogi dolydd byw a’u gofynion rheoli. Mae’r dolydd hyn, a’r boblsy’n eu cynnal yn asedau gwerthfawr yng nghyd-destun ffermiocynaladwy a bioamrywiaeth y wlad.

❀ Gallai’r glaswelltiroedd hyn chwarae rôl amgenach wrth ychwanegugwerth at gynnyrch amaethyddol ac fel adnoddau twristiaeth gwledig.Byddai ymgyrchoedd i farchnata cig eidion ac oen Cymru wedi’u magu arlaswelltiroedd blodau gwyllt yn ychwanegu gwerth atgynnyrch Cymreig ac yn cynyddu gwerth dolydd byw i’rdiwydiant ffermio.

❀ Diogelwyd llawer o’r enghreifftiau gorau yn gyfreithiol ganrwydwaith statudol o safleoedd o ddiddordeb gwyddonolarbennig (SSSI), ond mae hyd at un allan o bump ohonyntmewn cyflwr gwael. Mae angen rhagor o adnoddau ar fryser mwyn rheoli’r dolydd hyn yn addas a’u diogelu’ngyfreithiol, yn ogystal â rheoli glaswelltiroedd eraill oansawdd tebyg.

❀ Gellid rhoi statws Safle Bywyd Gwyllt Lleol i ddolydd byw heb eu dynodifel SSSI. Gallai system Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol gymryd lle’rtrefniadau ad hoc cyfredol a chwarae rôl bwysig mewn diogelu dolyddbyw a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill.

❀ Mae angen darparu mwy o adnoddau i helpu ffermwyr a thirfeddianwyrreoli dolydd byw yn effeithiol. Er enghraifft, mae’r adolygiad o gynlluniauamaeth-amgylchedd yn cynnig cyfle pwysig i wella ac ad-drefnu’rcymorth ar gael i gynnal ac adfer dolydd byw.

❀ Rhaid gwneud mwy i ddiogelu dolydd byw rhag effeithiau datblygiadauadeiladu a ffermio dwys.

❀ Mae projectau lleol sy’n darparu cyngor a chymorth i reoli ac adferdolydd byw yn gweithio’n dda ac mae angen eu datblygu ar draws ywlad. Bydd angen mwy o gymorth hir dymor o gronfeydd Ewropeaidd aceraill ar frys er mwyn datblygu a chynnal mentrau lleol.

Byddai buddsoddi mewn diogelu ac adfer dolydd byw yn llesol i’reconomi, twristiaeth a’r amgylchedd. Ar ben hynny, wrth gyflwyno’rmesurau uchod a ddatblygwyd yn y ddogfen hon a phapurau cefndir ynllawn, dylai fod yn bosibl i wireddu amcanion Strategaeth AmgylcheddolCymru ar gyfer dolydd byw, a sefydlu cynefinoedd bywyd gwyllt yngNghymru yn gyffredinol.

Flora

loca

leStu

art Sm

ith, C

yngor Cefn G

wlad C

ymru

❝ Mae tirwedd Cymru yn cynrychioliadnoddau gwerthfawr a bregus sy’n

adlewyrchu ei bioamrywiaeth adaearyddiaeth, datblygiad hanesyddol a

hunaniaeth ddiwylliannol. ❞(Cynllun Datblygu Cefn Gwlad Cymru 2007–2013)

Glaswelltiroedd a ffermydd da bywsy’n nodweddu tirwedd isel Cymru. O

fewn y dirwedd honno mae caeaullawn blodau a phlanhigion gwyllt

eraill sy’n cynrychioli gweddillion bethoedd gynt yn rhwydwaith o ddolyddbyw, a gynhaliwyd gan anifeiliaid yn

pori neu wrth greu gwair, neugyfuniad o’r ddau.

Mae dolydd byw yn elfen hanfodol odreftadaeth natur, tirwedd a ffermiotraddodiadol Cymru, boed yn gaeau

corsiog, meysydd gwair llawn blodau,caeau calchfaen, ffriddoedd

ucheldiroedd neu laswelltiroedd arben creigiau.

Page 4: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

GWERTHFAWROGI DOLYDD BYWCydnabod gwerth cynhenid ac economaidd glaswelltiroedd blodau gwyllt, yrangen i’w diogelu a chefnogi perchnogion a’r bobl sy’n edrych ar eu hôl. Ynbenodol, cydnabod rôl y glaswelltiroedd hyn mewn ffermio cynaladwy, ydiwydiant da byw a’r bwyd maethlon gallant gynhyrchu.

SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG (SSSI)Cryfhau a gwella ffocws rôl ac adnoddau Cyngor Cefn Gwlad Cymru (cyllid astaff gyda’r cymwysterau addas) er mwyn diogelu ac adfer safleoedd oddiddordeb gwyddonol arbennig.

Dylid ymweld â pherchnogion/deiliaid Safleoedd o Ddiddordeb GwyddonolArbennig yn rheolaidd, gan roi cyngor a chymorth drwy gyfrwng cytundebaurheoli cynefinoedd, cytundebau amaeth-amgylchedd a threfniadau eraill, ermwyn helpu i ddiogelu’r safleoedd hyn.

Cwblhau dynodi’r holl ddarpar ddolydd SSSI a’u rheoli’n addas.

CEFNOGI PERCHNOGION A RHEOLWYR DOLYDD BYWCynlluniau amaeth-amgylcheddCyflwyno cyfres o gynlluniau amaeth-amgylchedd diwygiedig er mwyn helpuffermwyr a thirfeddianwyr i gynnal, adfer ac ailsefydlu dolydd byw dros yr hirdymor. Gellid gwneud hynny drwy gyfrwng yr isod:• Ailgyflwyno cynllun yn seiliedig ar gynnal cynefinoedd ar gyfer dolydd byw

a chynefinoedd eraill o dan fygythiad; ar sail rhannau o ffermydd, ynagored i berchnogion glaswelltiroedd blodau gwyllt a allai fod ynanghymwys i ymgeisio ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylchedd;

• Gwella ffocws y cynllun cychwynnol, er mwyn cynnal bioamrywiaeth adiogelu’r amgylchedd;

• Cynyddu taliadau ar gyfer cynnal ac adfer cynefinoedd glaswellt i lefel yncyfateb i renti pori masnachol;

• Gwella dulliau monitro glaswelltiroedd llawn rhywogaethau aglaswelltiroedd lled well o dan gytundebau amaeth-amgylchedd.

Cynlluniau lleol a chymorth cyffredinol ar gyfer perchnogion a rheolwyrGwella’r cyngor a chymorth ar gyfer perchnogion a rheolwyr er mwyn euhelpu i reoli dolydd byw, yn arbennig tyddynnod hyd at 3 hectar nad ydyntyn gymwys ar gyfer cytundebau amaeth-amgylchedd.

Cynyddu’r cyllid ar gyfer projectau arbennig, gan eu cefnogi am gyfnodauhirach, gydag amodau hyblyg yn ystyried gofynion asiantaethau gwahanol, aallai fod yn gyrff gwirfoddol.

Y cyhoedd, ffermwyr, tirfeddianwyr,datblygwyr, awdurdodau cynlluniolleol, ymgynghorwyr cynllunio,asiantau tir, cyrff cyhoeddus,cynghorwyr lleol, Aelodau’rCynulliad, Rhwydwaith MaethCymru

Llywodraeth y Cynulliad

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru,ffermwyr, tirfeddianwyr

Llywodraeth y Cynulliad

Cyngor Cefn Gwlad Cymru,Llywodraeth y Cynulliad,Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru,Flora locale

Llywodraeth y Cynulliad, cyllidwyrprojectau arbennig

Maniffesto ar gyferDolydd Byw Cymru

Page 5: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Symbylu projectau arbennig yn gysylltiedig â dolydd byw, sef eu harchwilio,cynnal a rheoli drwy Raglen Ddatblygu Cefn Gwlad Cymru. Ble’n bosibl, eucysylltu â chyfleoedd hyfforddi ar gyfer rheolwyr tir a datblygu rhwydweithiaubwyd lleol i farchnata cig oen ac eidion wedi’i fagu ar laswelltiroedd wedi’urheoli’n dda. Yn y pen draw byddai’r projectau yn darparu buddion ar gyferffermwyr, bioamrywiaeth a chymunedau drwy’r wlad.

Cynnal systemau da byw dichonadwyCyflwyno mesurau i atal clefydau da byw er mwyn diogelu dichonolrwyddhir dymor ffermio da byw yng Nghymru.

RHWYDWAITH SAFLEOEDD BYWYD GWYLLT LLEOLDarparu adnoddau a datblygu rhwydwaith safleoedd bywyd gwyllt er mwynclustnodi a diogelu’r holl ddolydd byw a chynefinoedd bywyd gwyllt heb eudynodi’n safleoedd SSSI.

RHEOLI DATBLYGIADDiogelu dolydd byw drwy gyfrwng prosesau cynllunio a rheoliadau asesuamgylcheddol.

Darparu adnoddau digonol i gynnal canolfannau cofnodi amgylcheddol lleoler mwyn cadw data cywir ar leoliad a chyflwr dolydd byw ar gyferrheoleiddwyr ac awdurdodau cynllunio lleol at ddibenion rheoli datblygiad.

TWRISTIAETH A HAMDDENGwella cyfleoedd i ymweld â dolydd byw.

Cefnogi a datblygu twristiaeth bwyd gwyllt, yn cynnwys hyrwyddoymweliadau â llety ffermydd, yn arbennig rhwng Mai a chanol Gorffennaf.

Mae bywyd gwyllt Cymru yn ased gwerthfawr i dwristiaeth, ond heb eiddatblygu’n ddigonol. Gyda chymorth y diwydiant twristiaeth a Llywodraethy Cynulliad, dylai cyrff bywyd gwyllt a threftadaeth gydweithio â busnesau athirfeddianwyr lleol er mwyn datblygu’r elfen hon yng Nghymru.

PRYNU TIRCefnogi caffaelio glaswelltiroedd o dan fygythiad fel y cam olaf.

Cyrff treftadaeth, busnesauffermio, rhwydweithiaumanwerthu, cyrff twristiaeth,awdurdodau lleol, RhwydwaithMaeth Cymru

Llywodraeth y Cynulliad,Defra, diwydiant da byw

Llywodraeth y Cynulliad,awdurdodau cynllunio lleol,Cyngor Cefn Gwlad Cymru,Partneriaeth BioamrywiaethCymru, Canolfannau CofnodionAmgylcheddol Lleol

Llywodraeth y Cynulliad,awdurdodau cynllunio lleol,Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Cynghrair Twristiaeth Cymru,Ymweld â Chymru,Ymddiriedolaeth Genedlaethol &tirfeddianwyr eraill,Partneriaeth BioamrywiaethCymru

Llywodraeth y Cynulliad,Cyngor Cefn Gwlad Cymru,cyllidwyr, cyrff treftadol abywyd gwyllt

Page 6: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Dolydd byw ...

BIOAMRYWIAETH

Dengys ymchwil fod cig o dir heb ei drin sy’n cynnal blodau a phorfeyddgwyllt nid yn unig yn blasu’n dda, mae’n cynnwys lefelau uchel o fitamin E acasidau braster ‘da’ na chig wedi’i fagu ar laswelltiroedd amaethyddol yncynnwys llawer o rygwellt. Canfu project Bwyta Bioamrywiaeth* fod cig oenwedi’i bori ar rosydd grug a morfeydd heli’n cynnwys tipyn mwy o fitamin Enag anifeiliaid wedi’u magu ar laswelltiroedd rhygwellt. Roedd hefyd yncynnwys mwy o asidau braster Omega-3 ac Omega-6 a llai o asidauniweidiol. Yn ogystal roedd y cig oen yn para’n hirach ar silffoedd siopau –ffactor gwerthfawr i gigyddion ac archfarchnadoedd.

*Prifysgolion Bryste, Caerwysg, Caerloyw a Sefydliad Ymchwil Glaswelltiroedd acAmgylcheddol

Wrth fwyta cymysgedd oberlysiau a glaswelltgwyllt bydd blascyfoethog a chymhlethar gig gwarthegFfermydd Organig May

Ch

arles M

org

an

, PON

T

Dolydd byw yn gynefinoedd amaethyddol –wedi’u siapio gan wartheg, ceffylau a defaid ynpori dros ganrifoedd. Mae pori, neu bori a chreugwair, yn hanfodol os am gynnal fflora amrywiolDolydd Byw ac atal tyfiant twmpathau glaswellt,prysg a choed.

Stua

rt Smith

, Cyngor C

efn Gw

lad Cym

ru

â

â

... glaswelltiroedd gydag amrywiaeth eang o flodau gwyllt,porfeydd, brwyn a hesg. Bydd y planhigion yn addasumewn ymateb i hinsawdd, pridd ac amgylchiadau lleol – gydarhwng 15 a 40 rhywogaeth o fewn metr sgwâr ac, yn yrenghreifftiau gorau, 60 neu fwy o blanhigion glaswelltiroeddmewn un cae. Bydd yr amrywiaeth hon yn darparu bwyd alloches ar gyfer sawl rhywogaeth arall, yn cynnwys ffyngau,chwilod, pili-palaod, adar, brogaod a llyffantod, nadroedd,draenogod a mamaliaid bach arall.

... yn gallu helpu i ddiogelu trefi a phentrefi rhag llifogyddMae dolydd byw a glaswelltiroedd mewn dyffrynnoedd afonyddyn diogelu trefi a phentrefi cyfagos wrth amsugno dwr. Ar drawsPrydain mae’r rhan fwyaf o’r gorlifdiroedd naturiol wedi’udraenio a datblygu, ac er bod llawer yn destun pori sylweddol

gan anifeiliaid, mae llawer o ffactorau wedicynyddu llif dwr glaw a llifogydd i’r afonydd.

... diogelu cyflenwadau dwrNi ddefnyddir plaladdwyr, biswail a gwrtaithartiffisial ar ddolydd byw. Os rhoir gwrtaith ogwbl, bydd ar ffurf gwrtaith fferm a ailgylchirgan y planhigion. Mae glaswelltiroeddamaethyddol yn dibynnu ar gwrtaith artiffisial

neu fiswail, sy’n gallu llygru afonydd a nentydd, a difrodi dolyddblodau gwyllt a chynefinoedd eraill, megis cloddiau.

... yn cynnal blodau gwyllt a ffynonellau bwydMae dolydd byw yn adnoddau amaethyddol gwerthfawr sy’ngallu cynhyrchu bwyd ‘araf’ blasus a maethlon, fel cig oen aceidion, caws a llaeth – asedau heb eu datblygu’n helaeth ganffermwyr Cymreig.

Page 7: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Perforate St John’s Wort

Llyriad yr Ais

Effros

Effros a Llyriad yr Ais, dau o’r blodau gwyllt gyda nodweddionmeddygol a ddefnyddir i greu moddion traddodiadol i drin

anifeiliaid gyda heintiau llygaid, clwyfau neu lyngyr.

Pa

ula

Gra

ha

m

Ym

dd

iriedo

laeth

Byw

yd G

wyllt G

wen

tB

ob

Gib

bo

ns

Bo

b G

ibb

on

s

â

... llefydd i’w sawru a mwynhauBydd pobl yn mwynhau ymweld â dolydd byw. Bob blwyddynyng nghwm Gwy, bydd grwp Dolydd Sir Fynwy yn cynnaldiwrnod dolydd agored yn debyg i’r cynllun gerddi agored.Denwyd dros 150 o bobl i’r dolydd byw a agorwyd yn 2007.

... cynnal defaid, gwartheg a cheffylau cynhenidMae dolydd byw yn llawn llysiau gwyllt, gyda digon o ffeibr a dimllawer o siwgr – sef y diet delfrydol ar gyfer ceffylau a merlod, ynarbennig rhai cynhenid. Gyda digonedd o lysiau, llawer ohonyntgyda gwreiddiau dwfn ac yn dwyn elfennau hybrin o’r pridd, yndraddodiadol galwyd dolydd gwyllt yn gaeau ‘ysbyty’ neu‘meddygol’ gyda rhai’n pori anifeiliaid sâl arnynt er mwyn euhelpu i adfer.

... ysgyfaint gwyrdd trefiMae dolydd ar ymylon trefi o dan fygythiad gan ddatblygiadautai ac ati. Ond, maent yn gweithredu fel ‘ysgyfaint gwyrdd’pwysig, gan ddarparu mannau gwyrdd i bobl fwynhau, a tharfuar undonedd y stadau tai a pharciau busnes. Yn aml mae dolyddtrefol yn llaith ac ar dir isel; a bydd eu datblygu’n cynyddu’r risg olifogydd yn lleol.

Page 8: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

BYDD DOLYDD BYW (gwyddonwyr fel arfer yn cyfeirio atynt felglaswelltiroedd heb eu datblygu, sy’n llawn rhywogaethaullysiau gwahanol) yn amrywio yn dibynnu ar eu lleoliad, gangynnal gwahanol blanhigion sy’n adlewyrchu’r lleoliad anodweddion y tir.

Mewndir❀ Porfeydd corsydd ar orlifdiroedd afonydd❀ Caeau gwair mewn dyffrynnoedd afonydd ac ar dir lled

wastad❀ Porfeydd ar bridd ‘niwtral’ (dim gormod o galch neu asid) sy’n

sych yn yr haf❀ Glaswellt porffor ar rosydd a phorfeydd rhygwellt ar dir gwlyb❀ Glaswelltiroedd yn llawn rhywogaethau ar bridd asid yn yr

iseldiroedd❀ Porfeydd ar bridd yn llawn calch; yng Nghymru fel arfer ar

galchfaen

Arfordir❀ Porfeydd ar gorsydd ger aberoedd❀ Glaswelltiroedd ar dwyni tywod❀ Glaswelltiroedd ar glogwyni ac ati.

Dolydd Byw Cymru – mathau

Arolwg yn 2003 wedi datgelu fod ygylfinir, sy’n nythu ar dir dolydd gwair,yn brin iawn yn iseldiroedd Cymru. Ers1989, mae eu nifer wedi gostwng 80%yng Nghymru, ynghyd â’u cynefingwlyb. Nifer y cornchwiglen, gïach a’rgoesgoch hefyd wedi gostwng ynsylweddol.

Da

vid Tip

ling

, RSPB

Meysydd gwairiseldiroeddDyma’r dolydd o dan fygythiadmawr ym Mhrydain, a fyddai wedigorchuddio llawer o iseldiroeddCymru cyn yr ail ryfel byd, ynarbennig ar bridd ffrwythlondyffrynnoedd afonydd a thir lledwastad. Ers hynny mae’r rhan fwyafohonynt wedi’u draenio ac arediger mwyn tyfu cnydau neu laswellt,gan ledu gwrtaith artiffisial i wellacynhyrchiad wrth roi mwy o ddabyw arnynt. Mae llad gwair hefydwedi gostwng, gyda llawer o gaeauyn cael eu torri i greu silwair. Maecreu silwair yn golygu torri a byrnuglaswellt, ddwywaith y flwyddyn ynaml, gan ddechrau mor gynnar agEbrill neu Fai, ar adeg pan fyddadar y glaswelltiroedd yn nythu.

Gylfinir

Ym

dd

iriedo

laeth

Byw

yd G

wyllt G

wen

t

Cynhaeaf gwair traddodiadol ynhanfodol i gynnal bywyd gwyllt ycynefinoedd hynny

Ym

dd

iriedo

laeth

Byw

yd G

wyllt G

wen

t

Page 9: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Dolydd Byw Cymru

Cornchwiglen

Defnydd tir amaeth Cymru

PORIR 96% o dir ffermydd Cymru gan wartheg a defaid, ceffylau a merlod. Mae hynny’n cynnwysrhostiroedd a phorfeydd garw ar yr ucheldiroedd, ynghyd â phorfeydd yn yr iseldiroedd achynefinoedd eraill. Amcangyfrifir fod porfeydd yn llawn rhywogaethau gwahanol ar yriseldiroedd ac ar gyrion yr ucheldiroedd yn cynrychioli llai na 3.3% o’n tir amaeth, a dim ond tua3.5% o holl borfeydd Cymru.

Mae dolydd byw o dan fygythiad ac yn dal i ddiflannu. Yn bennaf mae’r dolydd blodau gwylltsy’n weddill yn ddarnau bach o dir yng nghanol tir âr, ac yn aml yn gysylltiedig â thyddynnodnad ydynt yn rhan o fentrau amaeth masnachol. Yn aml maent yn destun gor-bori sy’n ataltyfiant blodau gwyllt. Ar yr arfordir, mae rhai glaswelltiroedd blodau gwyllt yn parhau mewnstribedi cul ger llwybrau. Ym mhob man mae dolydd byw yn diflannu, yn arbennig oherwydddatblygiadau amaethyddol, newidiadau i drefniadau pori ac adeiladu. Mae dileu pori yn broblemgynyddol, fel yn llawer o Ewrop, oherwydd y ffaith fod ffermwyr yn heneiddio a ffermio da bywtraddodiadol yn dirywio mewn ardaloedd ymylol.

Dolydd Byw yn cynrychioli llai na 3.3% o gefn gwlad Cymru, neu lai na 3% o dir Cymru osyn cynnwys tir wedi’i ddatblygu mewn pentrefi, trefi a dinasoedd. Mae’r maniffesto hwnyn galw am weithredu ar frys er mwyn cynnal ac ymestyn yr adnoddau hyn. Mae’rtargedau cyfredol yn dila iawn. Awgrymwn y dylai dolydd byw gynrychioli 5% o gefngwlad erbyn 2015.

Aredig ar gyfer cnydau

Glaswelltir parhaol

Pori bras

Coetiroedd

Arall

Glaswelltir llawn rhywogaethau

Holl dir amaeth

Glaswelltir llawn rhywogaethau

Holl laswelltir a thir pori bras

An

dy H

ay, R

SPB

Glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn ôl math1

Math hectarGlaswelltiroedd asid heb eu datblygu ar ymylon ucheldiroedd 17,560Glaswelltiroedd calchfaen ucheldiroedd 700Porfeydd rhosydd 32,161Dolydd a phorfeydd gwair iseldiroedd (pridd niwtral) 1,322Glaswelltiroedd calchfaen iseldiroedd 1,146Glaswelltiroedd asid iseldiroedd 610CYFANSWM 53,499

Glaswelltir llawn rhywogaethau o gymharu â’r holl dir amaeth

Glaswelltir llawn rhywogaethau o gymharu â’r holl laswelltir athir pori bras

Ffynhonnell: Tir amaeth Cymru 2005 (Ystadegau Amaeth Cymru) & Cyngor Cefn Gwlad Cymru,2008, data wedi’i addasu o arolygon cynefinoedd Cymal 1.

1 Ffynhonnell: Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Nid yw’n cynnwys data glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yngysylltiedig â thwyni tywod.

Page 10: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Ble mae’r Dolydd Byw?

Mewn rhai ardaloedd,ymylon ffyrdd yw llochesolaf blodau gwyllt

MAE’R RHAN FWYAF YN GYNEFINOEDD ‘MOSAIG’ o borfeyddheb eu datblygu, dolydd gwair a chaeau brwyn ar gyrionucheldiroedd – ar dir anodd ei ffermio. Mae enghreifftiau prin oddolydd byw, meysydd gwair iseldiroedd a phorfeydd priddniwtral ar wasgar drwy’r wlad. Sir Benfro (30%) hen sirForgannwg (14%) a sir Gaerfyrddin (10%) yw’r cadarnleoedd.Mae’r rhai sy’n weddill un ai’n feysydd neu grwpiau caeau bach,yn aml yn llai na hectar mewn maint. Nid oes llawer o safleoeddglaswellt heb eu datblygu sy’n fwy nag ychydig o hectaraumewn maint.

Yn ogystal, mae porfeydd rhos wedi’u gwasgaru ar hyd y wlad,gyda’r rhai sy’n weddill yn sir Gaerfyrddin (19%), hen sirForgannwg (16%), Ceredigion (12%) ac Eryri (11%). Mae mwyafrifo’r glaswelltiroedd ar iseldiroedd Cymru ar glogwyni arfordir y deorllewin a sir Conwy, gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynberchen nifer sylweddol ohonynt. Ar ben hynny, mae bron trichwarter (72%) o’r glaswelltiroedd calchfaen yn ardal parccenedlaethol y Bannau, a dros hanner y glaswelltiroedd blodaugwyllt asid yn Eryri, Gwynedd a Phowys.

Yn yr iseldiroedd, maellawer o’r dolydd bywyn gaeau bach, yn amlyng nghanol porfeydddatblygedig neu dir âr

Yr Y

md

diried

ola

eth G

ened

laeth

ol

Sue Everett

Page 11: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Bygythiadau i Ddolydd Byw Cymru

Gor-bori yn aml yn arwain atgynyddu maethiad, tyfiantchwyn, gorddefnydd ochwynladdwyr a cholliblodau gwyllt

Blodau gwyllt wedi diflannuo laswelltiroedd datblygedig,ynghyd â llawer o fywydgwyllt arall

Terfynu pori yn fygythiadmawr i ddolydd byw

Dulliau amaeth dwysRheoli glaswelltiroedd – defnyddio gwrtaith artiffisial achwynladdwyr, aredig, ail-hadu, gwasgaru biswail, draenio;newid o gynhyrchu gwair i silwair; a gwaredu bridiaugwartheg traddodiadol er mwyn cael rhai sy’n cynhyrchu mwy ogig a llaeth.

Gor-boriPori gormod o anifeiliaid yn rhy hir ac ar amseroedd anaddas,bwydo ar borfeydd dros y gaeaf, yn arwain at newid i lystyfiantglaswelltiroedd, colli blodau gwyllt, a chynyddu nifer y paillgwyn a chwyn annymunol fel blodau menyn ymledol, dail tafolneu ysgall.

Rhoi’r gorau i ffermioMae tan-bori’n arwain at ddatblygu glaswellt twmpath, rhedynneu brysg. Mae gorffen ffermio’n digwydd yn aml pan werthircaeau ac os bydd y perchnogion newydd heb brofiad o ffermio,dim anifeiliaid neu offer, neu ddiffyg dealltwriaeth o ddolyddbyw a’u rheolaeth.

Clefydau da bywCyfyngiadau ar yr hawl i symud gwartheg, oherwydd TB Ychol a‘Bluetongue’, yn tanseilio busnesau da byw a gallu ffermwyr ireoli glaswelltiroedd mewn ffyrdd cynaladwy.

Newid defnydd tirPlannu coed, adeiladu tai a pharciau busnes, chwareli, tomennisbwriel, heolydd. Trosi i greu padogau merlod neu geffylau, gydagormod o anifeiliaid arnynt a dim dulliau rheoli da yn broblemgynyddol ar gyrion trefi a dinasoedd.

Glaswelltiroedd datblygedig o dan reolaethMae’n debyg mai glaswelltiroedd yw adnoddau amaeth pwysicaf y wlad. Rheolirrhan helaeth o’r glaswelltiroedd yn yr iseldiroedd (‘datblygedig’) er mwyncynhyrchu cig a llaeth, y mae Cymru yn enwog amdanynt ar draws y byd. Fel arfermaent yn cynnwys nifer cyfyng o rywogaethau glaswellt sy’n tyfu’n gyflym, ynarbennig rhyg lluosflwydd a meillion masnachol. Ni fyddant yn cynnwys llawer oflodau gwyllt cynhenid, oherwydd bydd cynnal cynhyrchiad yn galw am ychwanegugwrtaith artiffisial yn rheolaidd ar ffurf biswail, gwrtaith anorganig neu lawer o dailfferm, ac weithiau chwynladdwyr i waredu blodau gwyllt fel blodau menyn. Torrirllawer ohonynt o leiaf ddwywaith y flwyddyn i greu silwair, gyda’r cyntaf yn Ebrillneu Fai. Ar dir anodd ei aredig, bydd glaswellt gwyllt fel rhonwellt ci cribog,maeswellt a pheiswellt yn cymryd drosodd. Cynhelir cynhyrchiad ar yglaswelltiroedd datblygedig wrth ddefnyddio gwrtaith ac weithiau chwynladdwyrplanhigion llydan-ddeiliog.

Sue Everett

Ymddiriedolaeth Byw

yd Gw

yllt Gw

entStuart Sm

ith, Cyn

go

r Cefn

Gw

lad

Cym

ruSu

e Everett

Page 12: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

FframwaithStrategaeth Amgylcheddol Cymru sy’ngosod fframwaith cyffredinol acymrwymiadau i gynnal ac adferbioamrywiaeth ac amgylchedd gwledigy wlad. O fewn hynny mae PartneriaethBioamrywiaeth Cymru yn arwain cynlluncenedlaethol o Gynlluniau GweithreduBioamrywiaeth Lleol, gyda thargedau igynnal ac adfer cynefinoedd dolyddbyw. Mae’r mentrau hyn yn cynnwyscynrychiolwyr o lywodraeth leol achanolog, elusennau cadwraethol achyrff ffermio a thirfeddianwyr.Clustnodwyd glaswelltiroedd yn llawnrhywogaethau amrywiol fel blaenoriaethgan Lywodraeth y Cynulliad o danAdran 42, Deddf Amgylchedd Naturiol aChymunedau Gwledig 2006.

Safleoedd o ddiddordebgwyddonol arbennig (SSSI)Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw’rasiantaeth yn gyfrifol am ddynodi’rdolydd byw gorau fel SSSIs. Maedynodiad SSSI yn darparu rhywfaint oddiogelwch cyfreithiol ar gyfer safle,gyda’r nod o gynnal ei nodweddion achynefinoedd pwysig. Gall y Cyngorhefyd helpu perchnogion a rheolwyrSSSI drwy gyfrwng cytundebau rheoli,ond bod tueddiad cynyddol iddefnyddio Tir Gofal at y diben (er nadyw’n agored i lawer o berchnogiondolydd byw).

Hyd yma, mae system SSSI i ddiogelu’rdolydd byw pwysicaf wedi methu i

raddau helaeth – datgelodd arolwg oSSSIs Cymru rhwng 2005 a 2006 gany Cyngor Cefn Gwlad fod pedwar o bobpump SSSI wedi’i ddynodi am eilaswellt mewn cyflwr gwael oherwydddiffyg rheolaeth ac, mewn rhaiachosion, dulliau amaeth dwys. Yn dilynarolygon glaswelltiroedd rhwng 10 ac20 blynedd yn ôl, fe ddylid fod wedidynodi llawer mwy o safleoeddglaswellt pwysig yn SSSIs. TargedStrategaeth Amgylcheddol Cymru ywcael 95% o SSSIs mewn cyflwr daerbyn 2015, targed heriol iawn.

ddarparu ffordd o helpu perchnogion igael cyngor rheoli neu gymorth arall, yncynnwys help gyda dulliau pori a chreugwair, a chyngor am y cymorth ariannolar gael i reoli’r cynefinoedd pwysig hyn.Ar hyn o bryd mae rhwydwaithsafleoedd lleol Cymru yn anghyflawn,gyda rhai awdurdodau lleol yn cynnalsystemau gwael ac eraill o dan reolaethymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn lleol.

Cynlluniau amaeth-amgylcheddMae rheoli dolydd byw yn dibynnu argynnal ffermio da byw traddodiadol, yncynnwys pori ar adegau addas yn yflwyddyn a chynnal lefelau stociorhesymol, neu ladd gwair a phori ar eiôl. Fodd bynnag, mae pwysau ar incwmffermydd Cymreig ac yn aml byddantangen cymorth ariannol i gynnal dolyddbyw a dilyn mesurau na fyddai’n addasar gyfer gweddill eu ffermydd. Ar hyn obryd mae Llywodraeth y Cynulliad yndibynnu ar gynlluniau amaeth-amgylchedd, Tir Gofal yn benodol, ermwyn darparu’r cymorth hwnnw.

Mae cynlluniau amaeth-amgylchedd yndarparu incwm hanfodol ar gyfer rhaiffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru.Fodd bynnag, mae eu potensial i gynnalneu adfer dolydd byw dros yr hir dymoryn gyfyng am amryw resymau. Manylir ycyfyngiadau hynny, ynghyd â chynigion iwella’r cynlluniau yn y partner ddogfen –Cynlluniau Amaeth-amgylchedd a DolyddByw Cymru.

Dulliau cyfredol o ddiogelu ac adfer Dolydd Byw

%Glaswelltir Cyflwr ffafriolAsid 22%Calchaidd 20%Niwtral 19%

Ffynhonnell: Safleoedd o ddiddordeb gwyddonolarbennig yng Nghymru. Cyflwr a gwybodaethgyfredol. Adroddiad Ebrill 2005–Ebrill 2006.Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dim ond un allan o bump oddolydd byw SSSI Cymru

mewn cyflwr da

Safleoedd lleol dynodedigAm bob glaswelltir a ddynodwyd ynSSSI mae llawer mwy o faint acansawdd tebyg heb unrhyw ddiogelwchcyfreithiol. Dylid rhoi statws safleBywyd Gwyllt Lleol i ddolydd byw obwysigrwydd lleol, ac mewn rhaiachosion hyd yn oed o ansawdd SSSI,cyn belled bod system yn bodoli yn yrardal awdurdod cynllunio honno. Byddaihynny o leiaf yn nodi fod y safle oddiddordeb bywyd gwyllt drwy’r brosesrheoli datblygiad. Gallai clustnodisafleoedd bywyd gwyllt lleol hefyd

Cyflwr glaswelltiroedd SSSI.

Sue Everett

Page 13: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

❝ Byddwn yn ceisiogwerthfawrogi a gwella

bioamrywiaeth ac ansawdd yramgylchedd nid yn unig er lles ei

hun ond fel rhan bwysig oddarparu dyfodol cynaladwy ar

gyfer economïau achymunedau lleol. ❞

(Cymru: Gwlad Well – AgendaStrategol Llywodraeth Cynulliad

Cymru, 2003)

Bydd yr arolwg o gynlluniau amaeth-amgylchedd gan Lywodraeth yCynulliad yn gyfle pwysig i wella dulliauo ddiogelu, cynnal ac adfer dolydd byw.

Projectau lleolMae projectau arbennig gan fwyaf ynfentrau lleol, wedi’u datblygu gan unneu fwy o gyrff gyda chyllid o wahanolffynonellau. Maent yn ddull pwysig ogefnogi perchnogion tyddynnod llai na3ha. Gallant arwain at gynnyddsylweddol mewn gwerth safleoedd,megis buddion i gymuned, addysg,masnach a thwristiaeth. Fel arfer rhoircyllid projectau arbennig am gyfnodpenodol (yn aml tair blynedd) gangymryd amser ac ymdrech i’w trefnu,a’r grant yn daladwy ar ôl gwneud ygwaith. Oherwydd natur byr dymor yrhan helaeth o brojectau a phroblemaucael arian cyfatebol, bydd llawer oelusennau’n wynebu anawsterau llif

❝ Rhaid darparu llefydd oansawdd da i bobl fyw ynddynt.

Bydd hynny’n golygu creuamgylchedd adeiledig o ansawdd

uchel a chyfleoedd i fwynhaumannau gwyrdd abioamrywiaeth. ❞

Strategaeth Amgylcheddol Cymru

Pori yn hanfodol i gynnal dolydd byw.Trefnir digwyddiadau di-dâl ar gyferperchnogion a rheolwyr bob gwanwyn ahaf gan Flora locale a chyrff eraill.Manylion yn www.dolyddbyw.org.uk

Da

vid H

arries

Mae nifer sylweddol o dyddynnod yn anghymwys ar gyfer y cynlluniau amaeth-amgylchedd am eu bod yn llai na 3 hectar, neu eu daliad heb ei gofnodi. Mae’r SharedEarth Trust wedi amcangyfrif fod rhwng 10 a 17% o gefn gwlad Cymru yn eiddotyddynnod heb eu cofrestru. Dengys tystiolaeth hefyd fod mwyafrif o’r glaswelltiroeddblodau gwyllt ar ôl yng Nghymru yn gysylltiedig â daliadau fel hyn.

arian, a phroblemau recriwtio a chadwpobl gyda’r sgiliau a phrofiadangenrheidiol.

Rheoli datblygiadMae chwarela, adeiladu tai, parciaubusnes a heolydd yn fygythiadausylweddol i ddolydd byw, yn arbennig arymylon trefi ac yn ne Cymru. Er bod yrhan fwyaf o awdurdodau lleol wedimabwysiadu polisïau i ddiogelucynefinoedd bywyd gwyllt pwysig a chefngwlad, yn aml diystyrir nhw er mwyncaniatáu datblygiad. Weithiau byddant yncymryd bod modd trosglwyddoglaswelltiroedd i rywle arall – ond nid ywhynny wedi profi’n llwyddiannus. Maediffyg data cynhwysfawr ar leoliad ydolydd byw sy’n weddill hefyd yn golygu ygellir clustnodi safleoedd pwysig i’wdatblygu a’u colli am byth. Mae hynny’npwysleisio’r angen i sefydlu systemsafleoedd bywyd gwyllt lleol cynhwysfawrar gyfer pob awdurdod lleol, ynghyd ârhwydwaith o ganolfannau cofnodionamgylcheddol lleol. Byddai hynny’ndarparu gwybodaeth ddibynadwy ar gyferdatblygwyr a chynllunwyr am werthbywyd gwyllt safleoedd cyn ystyried eudatblygu.

Rheoliadau asesu amgylcheddolYmddengys y gallai Rheoliadau AsesuEffaith Amgylcheddol (Amaeth) (Cymru)2007 atal rhag distrywio glaswelltiroeddtraddodiadol trwy ddatblygiadamaethyddol. Mewn rhai achosion maent

wedi profi’n effeithiol, cyn belled ydynodwyd y safleoedd gan arolygon yn y1990au. Mewn achosion eraillanwybyddwyd y rheoliadau ac nichymrwyd camau’n erbyn y tirfeddianwyr.Ers 2006 mae amodau’r rheoliadau wedibod yn rhan o groesgydymffurfiad (isod).

CroesgydymffurfiadAmaethyddolMae’n rhaid i bobl sy’n derbyn taliadauffermydd unigol ac eraill o dan y PolisiAmaeth Cyffredin gynnal eu tir mewncyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da.Mae’r gofynion yn cynnwys rhai mesuraua allai helpu i ddiogelu glaswelltiroeddheb eu datblygu. Mae hynny’n golygu osbydd fferm yn destun monitro ac ynmethu dilyn un o’r amodau, gellid atal ytaliadau. Mewn gwirionedd, ni fyddhynny’n digwydd yn aml, tra bod rhai o’rmesuriadau i fonitro cyflwrglaswelltiroedd yn anaddas. Ar benhynny, fe drefnir rhai arolygon gan boblheb y sgiliau addas a heb unrhyw ddataecolegol yn sail i’w gwaith.

Page 14: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Project meysydd gwair yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholProject yn rheoli’r holl feysydd gwair ar y tir mae’rYmddiriedolaeth yn rheoli. Mae’n gweithio i gynyddu eiadnoddau meysydd gwair a, ble’n addas, cyflwyno hadau ogaeau sy’n llawn rhywogaethau gwahanol.

Glaswelltiroedd CarmelWrth reoli Gwarchodfa Natur Carmel mae’r YmddiriedolaethGlaswelltiroedd yn adfer y glaswelltiroedd nodedig o fewnmosaig o laswelltiroedd a hen goetiroedd. Mae’n prynu tir iddiogelu a chysylltu gwahanol rannau o’r warchodfa, fel rhan ogynllun tirwedd ehangach.

Parc Cenedlaethol Arfordir Sir BenfroCynnal llethrau’r arfodirCynllun rheoli sy’n helpu perchnogion sy’n methu neu’nanfodlon cynnal cynlluniau amaeth-amgylchedd wrth drefnugrantiau, cytundebau rheoli, trefnu stociau a chymorth ymarferolarall i’w helpu i ailddechrau pori ar laswelltiroedd arfodirol.

PONT: Pori Natur a ThreftadaethMae PONT yn cydweithio â thirfeddianwyr a rheolwyr stoc i reolipori er lles bywyd gwyllt a thirwedd Cymru.

Project Brithion Cors Mynydd Mawr, Sir GaerfyrddinProject yn ceisio diogelu pili-palaod brithion cors wrthgydweithio â thirfeddianwyr i bori’r meysydd corsiog sy’n gartrefiddynt.

Menter Glaswelltiroedd Gwent (Sir Fynwy, Blaenau Gwent)Mae’r project wedi clusnodi glaswelltiroedd pwysig achydweithio â dros 300 tirfeddianwr, gan roi cyngor rheoli agwybodaeth am ddynodi meysydd fel safleoedd bywyd gwylltlleol. Mae rhai perchnogion wedi agor eu meysydd ar gyferymweliadau gan bobl leol, gyda chymorth grwpiau cymunedol,capeli ac eglwysi.

Rhai projectau sy’n cefnogi adferDolydd Byw yng Nghymru

Sue Everett

Ca

rol C

rafer

Parc Cen

edlaethol A

rfordir Sir Benfro

Ch

arles M

org

an

, PON

T

Page 15: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Twristiaeth

Mae cefn gwlad Cymru yncynnal diwydiant twristiaethpwysig sy’n gwneudcyfraniad ariannol sylweddolat gymunedau wrthddarparu gwaith. Maetwristiaeth wledig yn werthtua £350 miliwn igymunedau gwledig bobblwyddyn. Fodd bynnag,hyd yma ni ddatblygwydtwristiaeth gwylio bywydgwyllt yn helaeth yngNghymru. Mae cyfleoedd iwneud hynny, yn arbennigyn y cyfnod Mai i ganolGorffennaf, pan fydd dolyddbyw yn llywiog iawn agwestai a llefydd gwely abrecwast ddim mor brysur.Mae dolydd byw ynadnoddau gwych, sy’ncynnig cyfle i welladealltwriaeth y cyhoedd ogefn gwlad a bywyd gwylltyn gyffredinol.

Yn awr cesglir hadau o ddolydd byw a’u defnyddio i adferblodau gwyllt ar laswelltiroedd ar draws y wlad. Manylionpellach gan swyddog project Dolydd Byw neu ynwww.dolyddbyw.org.uk

Torri a byrnu gwairllawn hadau

Casglu hadau gydachynaeafwr brwsh

Lledu gwair llawn hadau

R. Pyw

ell, Cen

tre for Eco

log

y & H

ydro

log

y

Sue Everett

Ymddiriedolaeth Byw

ydG

wyllt G

went

Adfer Dolydd Byw Cymru

Sue Everett

Page 16: Byddwn yn diffinio Dolydd Byw fel pob math o · digonedd o bryfed yn darparu bwyd sylfaenol ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt eraill. Fel cynefinoedd bywyd gwyllt maent o dan fygythiad

Menter Dolydd Byw Flora localeNod:❀ Gwella ymwybyddiaeth a symbylu’r cyhoedd i gefnogi’r cynefin prin yma❀ Hybu cydweithio rhwng ffermwyr a grwpiau cadwraeth er lles dolydd blodau gwyllt❀ Cymell a helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i adfer a rheoli dolydd blodau gwyllt wrth wneud yr isod:

1. Lobio’r llywodraeth am gymorth i ddiogelu ac adfer dolydd, trwy gyfrwng cynlluniauamaeth-amgylchedd ac eraill

2. Trefnu hyfforddiant ac arddangosfeydd ar gyfer tirfeddianwyr, ymgynghorwyr a rheolwyr3. Hwyluso rhwydweithio rhwng perchnogion a rheolwyr dolydd blodau gwyllt4. Cynnal gwefan gyda gwybodaeth am ddolydd blodau gwyllt a’u rheolaeth5. Cefnogi mentrau arallgyfeirio ffermydd er lles dolydd byw.

Ysgrifennwyd Maniffesto Dolydd Byw Cymru gan James Robertson (ffermwr ar Ynys Môn a golygydd, Natur Cymru),Sue Everett a Ivy Berkshire (Flora locale), ar sail ymchwil gan Miles King (The Grasslands Trust). Mae’r awduron hefyd yncydnabod cyfraniadau gan lawer o unigolion a chyrff eraill.

Gwybodaeth bellach: Ivy Berkshire, Y Llys, Llansawel, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin SA19 7JG. Ffôn 07912 789003.Ebost: [email protected]

Cyllidwyd Menter Dolydd Byw Cymru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Esmée Fairbairn Foundation.

www.dolyddbyw.org.uk

Flora locale

Mae Flora locale yn ceisio adfer planhigion gwyllt ar dir a thirweddau ar draws y Deyrnas Unedig, ac wrth wneud hynnywella bioamrywiaeth, amgylchedd a gwerthfawrogiad o drefi a chefn gwlad.

Flora locale, elusen gofrestredig (Cymru a Lloegr rhif 1071212, Alban rhif SC039001) a chwmni cofrestredig yn y DeyrnasUnedig, cyfyngedig trwy warant rhif 3539595.

Prif swyddfa: Denford Manor, Lower Denford, Hungerford RG17 OUN.

www.floralocale.org

The Grasslands Trust

The Grasslands Trust yw’r unig elusen genedlaethol yn gweithio’n benodol i ddiogelu glaswelltiroedd sy’n llawn blodaugwyllt (elusen gofrestredig, Cymru a Lloegr rhif 1097893). Cwmni cyfyngedig trwy warant rhif 4443047. Prif swyddfa:Wessex House, Upper Market Street, Eastleigh, Hampshire SO50 9FD. Ffôn 02380 650093.

www.grasslands-trust.org

Flora locale a’r Grasslands Trust Ebrill 2008. Gellir atgynhyrchu testun y ddogfen hon yn ddi-dâl a heb ganiatâd ymlaen llaw.Cedwir hawlfraint y lluniau gan y ffotograffwyr unigol.