clwstwr gofal sylfaenol 2019… · bwrdd iechyd prifysgol caerdydd a’r fro 63 rhagair. bwrdd...

14
Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019

Upload: others

Post on 19-Aug-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019

Page 2: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

Rhagair 1

RHAGAIR

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Blwyddlyfr hwn, a baratowyd ar gyfer y 4edd Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol, ‘Clystyrau: y Gorffennol y Presennol a’r Dyfodol’. Mae’r crynodeb hwn yn dangos yr ystod eang o waith da sy’n cael ei wneud yn lleol gan glystyrau, sy’n arwain at effaith gadarnhaol ar gleifion ledled Cymru.

Mae darparu ystod eang o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol, a chysylltu pobl â hynny, yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion iechyd a lles pobl Cymru. Mae cydweithredu ar lefel gymunedol drwy’r clystyrau i gynllunio a darparu’r gofal a’r cymorth yn hanfodol i drawsnewid ein system iechyd a gofal a chyflawni’r weledigaeth a amlinellir yn Cymru Iachach.

Gyda’i gilydd, mae’r cyflwyniadau gan bob clwstwr yn dangos sut mae clystyrau wedi datblygu ers cyhoeddi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol i Gymru yn 2014 a’r cyd-ymrwymiad parhaus i Fodel Gofal Sylfaenol Cymru. Mae’r enghreifftiau nodedig o waith mewn clystyrau penodol ledled Cymru, ynghyd â brwdfrydedd ac ymrwymiad y staff sy’n gweithio gyda chlystyrau ac o’u mewn, yn glir wrth ddarllen y crynodeb hwn.

Rhaid i ni yn awr fyfyrio ar y cynnydd hyd yma a pharhau i wneud rhagor o welliannau. O’m rhan i, byddaf yn parhau i annog clystyrau i esblygu ac aeddfedu er mwyn ymateb i heriau lleol i wella iechyd a lles y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.

Vaughan Gething AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Page 3: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63

Rhagair

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Len Richards, Prif Weithredwr Dr Anna Kuczynska, Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol ar gyfer Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd

Mae naw clwstwr (o fewn tair ardal leol) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Dangosir y rhain ar y map isod.

Ardal y Gogledd-orllewin Ardal y De-ddwyrain Ardal y Fro

Gogledd Caerdydd Dwyrain Caerdydd Gorllewin y Fro

Gorllewin Caerdydd De-ddwyrain Caerdyddt Canol y Fro

De-orllewin Caerdydd Dinas a De Caerdydd Dwyrain y Fro

Mae clystyrau yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i dros 500,000 o gleifion cofrestredig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae clystyrau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi “Llunio Ein Strategaeth Llesiant ar gyfer y Dyfodol” sydd â ffocws cryf ar yr egwyddor ‘cartref yn gyntaf’. Mae ein clystyrau wedi bod ar flaen y gad o ran rhywfaint o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac maent yn ymwneud â llawer o raglenni a phrosiectau allweddol, sy’n cynnwys:

• Datblygu a chyflwyno Gwasanaethau Cyhyrysgerbydol cyswllt cyntaf a Gwasanaethau Cyswllt Iechyd Meddwl o fewn gofal sylfaenol.

• Hyrwyddo cynlluniau trawsnewid Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynnwys yn “Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned” i gyflawni Cymru Iachach.

Bu mwy o ffocws ar weithio’n agos gydag arweinwyr clystyrau i ddatblygu matrics aeddfedrwydd ar gyfer clystyrau lleol ac yn fwy diweddar cynlluniau tymor canolig integredig y clystyrau ar gyfer 2020-2023. Mae’r rhain yn gynlluniau pwysig ynddynt eu hunain ond byddant hefyd yn llywio cynllun tymor canolig integredig y Bwrdd Iechyd.

Mae Clystyrau Gofal Sylfaenol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o gyflwyno rhai o brif lwyddiannau ein clystyrau. 8. Gorllewin Caerdydd

7. Gogledd Caerdydd

6. Dwyrain Caerdydd

5. De-ddwyrain Caerdydd

4. Dinas a De Caerdydd

3. Dwyrain y Fro

2. Canol y Fro

1. Gorllewin y Fro

9. De-orllewin Caerdydd

Page 4: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

64 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 65

Arweinydd y Clwstwr Dr Mohammed Naseem [email protected] a De Caerdydd

PWY YDYM NI?

Mae Clwstwr Dinas a De Caerdydd yn cynnwys saith practis, yn amrywio o ran maint o bractis un meddyg i bractis â phump o bartneriaid.

Mae’r boblogaeth yn cynnwys pobl o bob haen o gymdeithas, o’r dosbarth gweithiol i weithwyr coler wen sydd wedi symud i fyw i ardal ffasiynol Bae Caerdydd yn ddiweddar. At hynny, mae’r ardal yn llawn egni diwylliannol ac ethnig, sy’n golygu ei bod yn ardal heriol ac anodd i weithio ynddi ond yn un sy’n rhoi boddhad. Rydym yn wynebu heriau unigryw a gwahanol i rannau eraill o Gaerdydd. Rydym wedi defnyddio gwaith Clwstwr i nodi patrymau afiachedd yn ein hardal ac yn defnyddio offer i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion penodol ac yn targedu’r adnoddau sydd ar gael yn unol â hynny.

Mae saith practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Dinas a De Caerdydd:

• Cardiff Bay Surgery

• Butetown Health Centre

• Grangetown Health Centre

• Saltmead Practice

• Grange Medical Practice

• Clare Road Medical Centre

• Dr Anwar’s Surgery

Produced by Public Health Wales Observatory, using revised WIMD August 2015 (WG)

© Crown copyright and databast right 2015, Ordnance Survey 100044810

A diverse cluster population of 63,414 (April 2019) with over 25 languages spoken

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Deilliodd Ffair y Clwstwr o Ffair Iechyd Flynyddol Cymunedau Ethnig Lleiafrifol. Penderfynwyd cyflwyno’r cysyniad hwn yn lleol a sefydlu’r digwyddiad ar lefel Clwstwr, gan ystyried y rhwystrau o ran cael mynediad at ofal iechyd a hybu iechyd a oedd yn amlwg ymysg ein grŵp cleifion. Y syniad y tu ôl i’r digwyddiad oedd pontio’r gagendor rhwng darparwyr gofal iechyd a’r gymuned leol drwy hybu byw’n iach a’i gyflwyno mewn modd hwyliog a hygyrch y gellir ei gyflawni ac sy’n addas i deuluoedd.

Rydym wedi gallu cyflogi fferyllydd clwstwr, nyrs eiddilwch a’r tîm Wellbeing 4U i weithio ar draws y clwstwr. Mae fferyllydd y clwstwr wedi rhoi lefel ychwanegol o ofal i’n cleifion ac mae hyn wedi cynyddu nifer yr adolygiadau amlgyffuriaeth a gynhelir ar lefel practis; mae hyn wedi arwain at arbed costau a gwell diogelwch a chyflwyno dull cadarn o gysoni meddyginiaeth. Mae’r nyrs eiddilwch wedi bod gwella parhad gofal, argaeledd asesiadau proffesiynol yn y cartref i’n grŵp cleifion sy’n gaeth i’w cartref ac wedi cyflwyno dull cyfannol o ddarparu gofal i gleifion sy’n agored i niwed drwy eu cyfeirio’n briodol. Ceir canlyniad anecdotaidd yn sgil hyn o lai o dderbyniadau i’r ysbyty.

Er mwyn targedu anghenion iechyd penodol yn ein clwstwr rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynyddu nifer y plant sy’n cael eu himiwneiddio drwy ddarparu llenyddiaeth i gleifion mewn amryw o ieithoedd a siaredir ar draws y clwstwr. Mae hyn wedi cael croeso mawr gan gleifion ac rydym wedi ceisio cynnwys ffyrdd arloesol o hybu iechyd ymysg grwpiau cleifion penodol gan ystyried natur ethnig a chymdeithasol poblogaeth ein clwstwr, sydd weithiau’n boblogaeth dros dro.

Mae darparu cyfleuster sgrinio cymunedol feirysau a gludir yn y gwaed yn y clwstwr wedi bod yn ganolog o ran mynd i’r afael ag anghenion iechyd ein poblogaeth. Yn sgil hyn, aethpwyd â gwasanaethau yn uniongyrchol i ganol y

gymuned drwy ddarparu addysg a chyngor penodol mewn mosgiau a chanolfannau cymunedol lle mae cleifion yn profi dull gwahanol o gyflwyno gwasanaeth hybu iechyd sy’n lleihau unrhyw stigma posibl a allai fodoli o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau iechyd confensiynol. Mae mwy o gleifion wedi cael eu sgrinio am feirysau a gludir yn y gwaed yn ein cymuned, ac o ganlyniad mae baich clefyd yr afu/iau yn y clwstwr wedi lleihau sy’n golygu bod grwpiau sy’n agored i niwed yn y gymuned wedi’u diogelu.

Rydym wedi gweithio’n agos â thîm rheoli prosiect y BIP i gyflwyno clinigau ffisiotherapi cyswllt cyntaf i’r clwstwr. Mae hwn wedi gosod meincnod o ran darparu gwasanaethau perthynol arall o bosibl ar garreg drws practisau ein clwstwr. Mae nifer sylweddol wedi manteisio ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd ac mae hyn wedi cyfrannu at ryddhau capasiti meddygon teulu sy’n galluogi’r elfennau traddodiadol o ofal sylfaenol i ganolbwyntio ar faterion meddygol cymhleth eraill. Mae gwasanaethau Wellbeing 4U wedi gweithio ar draws y clwstwr. Mae hyn wedi arwain at wasanaethau cyfeirio penodol i’n grŵp cleifion, wedi annog mesurau ffordd o fyw a byw’n iach ac wedi atgyfnerthu manteision presgripsiynu cymdeithasol; gellir gweld hwn fel buddsoddiad hirdymor mewn iechyd meddwl a chorfforol poblogaeth ein clwstwr.

Mae cyflogi swyddog cymorth prosiect y clwstwr wedi helpu i gydlynu gwaith clwstwr, wedi rhoi hwb i brosiectau ac wedi bod yn sianel gyfathrebu rhwng clystyrau eraill fel bod modd dysgu gwersi a chyflwyno mesurau priodol yn gynnar i sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth.

BETH NESAF?

Yn 2019/20 rydym wedi rhannu cyllid ein clwstwr rhwng cyflogi staff ac anghenion iechyd y boblogaeth drwy brosiectau megis:

• Buddsoddi yn y clwstwr i ychwanegu at gyflwyno’r gwasanaeth ffisiotherapi

• Rhannu arfer da o fewn y clwstwr – e.e. pecyn profedigaeth

• Ystyried prosiectau clwstwr bach sy’n targedu grwpiau cleifion penodol – rheoli cleifion â chlefyd brasterog yr afu nad yw’n gysylltiedig ag alcohol a chleifion cyn-ddiabetig mewn gofal sylfaenol i leihau baich clefyd cyffredinol yn yr hirdymor

• Gwella cytundebau rhwng clystyrau– e.e. mewnblaniadau atal cenhedlu, gwell gwasanaeth ar gyfer warfarin, mân lawdriniaethau, etc.

• Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella cyfraddau sgrinio ac imiwneiddio

• Gweithio ar y cyd â thîm fferylliaeth y BIP i barhau â’r gwaith o leihau rhagnodi bensodiasepin/opioidau a gwrthfiotigau yn y clwstwr. Mae ystadegau trawiadol y clwstwr sy’n dangos gwelliannau sylweddol wedi grymuso practisau i gyflawni canlyniadau gwell, drwy ystyried gwersi y gellir eu dysgu oddi wrth ein gilydd sydd wedi cael eu lledaenu o fewn amgylchedd y clwstwr.

Rydym hefyd yn adolygu sut rydym yn cynnal ein busnes. Rydym eisiau cynyddu pa mor aml y mae’r clwstwr yn cyfarfod mewn blwyddyn ac annog penderfyniadau ffurfiol gan ddefnyddio’r matrics penderfynu a ddatblygwyd yn lleol. Yn ogystal â chyfarfodydd clwstwr ffurfiol, rydym yn bwriadu sefydlu cyfarfodydd busnes i gefnogi gwaith y clwstwr.

Graffiau yn dangos

gwelliant o ran

rhagnodi cyffuriau

hypnotig a chyffuriau

lleihau gorbryder yn y

clwstwr dros gyfnod o

2 flynedd.

Page 5: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

66 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 67

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Mae prif lwyddiannau’r clwstwr yn cynnwys cyflogi staff a buddsoddi mewn prosiectau iechyd y boblogaeth. O ganlyniad i fuddsoddi mewn staff, mae gennym:

• Ymarferwyr Iechyd Meddwl sy’n cynnal clinigau ym mhob practis

• Sy’n gweld cleifion â phroblemau iechyd meddwl yn y practis

• Yn seiliedig ar lwyddiant model Dwyrain Caerdydd cyflwynwyd y gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl i bob clwstwr yng Nghaerdydd a’r Fro.

• Dechreuodd Ffisiotherapi Cyswllt Cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, sy’n cael ei ddarparu drwy fodel hyb.

• Mae Fferyllydd Clwstwr ar gael i bob practis, sy’n cynnal adolygiadau amlgyffuriaeth a gorbwysedd. Mae data’n dangos bod presgripsiynu cyffuriau hypnotig a chyffuriau i leihau gorbryder wedi gostwng yn sylweddol dros gyfnod o 2 flynedd, o swm dyddiol cyfartalog (ADQ) o 2622 i 2147 fesul 1000 uned bresgripsiynu grŵp therapiwtig penodol sy’n ymwneud ag oedran a rhyw (star-PU).

• Hyrwyddwyr gofalwyr ym mhob practis.

• Cynaliadwyedd – help ymarferol i bractisau sy’n cael trafferth ag absenoldeb oherwydd salwch, pwysau gaeaf etc.

Cyfarwyddwr Cymunedol y Clwstwr Dr Roger Morris [email protected] Caerdydd

PWY YDYM NI?

Mae Clwstwr Dwyrain Caerdydd yn gwasanaethu cleifion Llaneirwg, Llanrhymni, Tredelerch, Trowbridge, Llanedeyrn a Phentwyn (a’r cyffiniau). Mae’r boblogaeth oddeutu 57,000 ac mae’n weddol sefydlog. Dyma un o’r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru). Mae cyfartaledd oedran y boblogaeth yn is na chyfartaledd Caerdydd ond mae carfannau o gleifion oedrannus yn Llanrhymni a Thredelerch. Mae pedwar Practis Meddyg Teulu yn y Clwstwr: Brynderwen, Gofal Iechyd Llan, a Meddygfeydd Tredelerch a Willowbrook; ynghyd â 10 fferyllfa gymunedol, 4 optometrydd, 7 deintydd a 2 dîm nyrsio ardal.

Mae pum practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Dwyrain Caerdydd:

• Brynderwen (and Minster Road) Surgery

• Llanedeyrn Health Centre

• Llanrumney Health Centre

• Rumney Primary Care Centre

• Willowbrook Surgery

O ganlyniad i fuddsoddi mewn prosiectau/gwasanaethau, mae gennym:

• Gwrs adsefydlu ysgyfeiniol cymunedol ar gyfer clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a gynhelir 4 gwaith y flwyddyn o’r ganolfan hamdden yn y clwstwr.

• Rydym wedi ymdrechu ar y cyd i sicrhau ein bod fel Clwstwr drwy ymgysylltu â chleifion ac archwilio clinigol yn dilyn nifer o lwybrau clinigol yn yr un ffordd, gan gynnwys:

• Llwybr Methiant y Galon

• Llwybr gofal dementia

• Ffibriliad atrïaidd.

• Rydym wedi treulio amser yn rhwydweithio â’r eglwys leol a sefydliadau cymunedol eraill a thrwy gydweithio rydym wedi datblygu cyfleoedd rhagnodi cymdeithasol i’n cleifion e.e. cerdded, garddio.

• Rydym wedi canolbwyntio ar Gynllunio Gofal Ymlaen Llaw a bellach mae pob practis yn annog cleifion i ystyried Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw ac i gofnodi penderfyniadau’n briodol.

• Cyflwynwyd codau QR ym mhob practis. Mae hyn yn arwain at 600-800 o drawiadau bob mis ac yn cyfeirio cleifion at amryw o ffynonellau gwybodaeth e.e. Gwefan y practis, Iechyd y Cyhoedd, Fferyllfeydd a sefydliadau partner allweddol arall.

• Rydym wedi cyflwyno hyfforddiant Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch (IRIS+) i nodi cleifion sy’n dioddef o Gam-drin Domestig – wedi cyflwyno agenda Prawf Ymarfer Cardio-anadol (CPET) sy’n canolbwyntio ar IRIS i bractisau ledled y clwstwr.

• Hepatitis C – nodi cleifion â hepatitis C sydd heb eu trin; a’u hatgyfeirio.

• Camddefnyddio Cyffuriau – atgyfeirio rhwng practisau, gofal a rennir.

• Sgrinio – mwy o bobl yn cael prawf sgrinio’r coluddyn a sgrinio ar gyfer Ymlediadau Aortig Abdomenol, fel y gwelir yn y siartiau uchod.

BETH NESAF?

• Rydym yn bwriadu treialu nyrs imiwneiddio yn y clwstwr i wella cyfraddau imiwneiddio ar draws pob grŵp o gleifion. Ein nod yw treialu swydd ar draws y clwstwr gyda’r bwriad o’i chyflwyno os bydd yn llwyddiannus.

• Iechyd Meddwl i’r Glasoed – gan ddysgu o lwyddiant ein cynllun iechyd meddwl i oedolion, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu peilot tebyg i’r glasoed.

• Rydym eisoes yn cydweithio’n dda ond wrth symud ymlaen rydym yn canolbwyntio ar hyrwyddo rhannu protocolau rheoli a gweinyddu da ar draws y practisau.

• Rydym wedi buddsoddi mewn peiriannau CRP a byddwn yn cynnal cynllun peilot ar y pwynt gofal ar draws y Clwstwr i wneud diagnosis o haint bacterol ar y frest a lleihau presgripsiynu gwrthfiotigau

Produced by Public Health Wales Observatory, using revised WIMD August 2015 (WG)

© Crown copyright and databast right 2015, Ordnance Survey 100044810 Source: Primary Care Information Portal

Page 6: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

68 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 69

Arweinydd y Clwstwr Dr Haydn Mayo [email protected] Caerdydd

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

POBLOGAETH 102,687 y clwstwr mwyaf yng Nghymru!

Mae’r clwstwr yn cynnwys 14 o Bractisau Deintyddol, 14 o Optometryddion, 19 o Fferyllfeydd, 3 Thîm Nyrsio Ardal a Chanolfannau Iechyd yn Rhiwbeina, Pentwyn a Llanisien.

Mae un ar ddeg practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Gogledd Caerdydd:

• Meddygfa Llwynbedw

• Meddygfa Penylan

• Canolfan Feddygol Crwys

• Meddygfa Roath House

• Canolfan Feddygol Cyncoed

• Canolfan Feddygol Pontprennau

• Meddygfa Llanishen Court

• Meddygfa St Isan Road

• Canolfan Feddygol Gogledd Caerdydd

• Meddygfa Whitchurch Road

• St. Davids Medical Centre

WHAT WE HAVE DONE

Fferyllwyr Mewn Practisau • Fferyllwyr sy’n ymdrin â chleifion, wedi’u hariannu’n gyfan gwbl gan y clwstwr,

ar gael i gynnal adolygiadau o feddyginiaeth, adolygiadau gwrthgeulyddion, dadbresgripsiynu, brechiadau, monitro gorbwysedd, chwiliadau a dyfeisio protocolau, adolygiadau amlgyffuriaeth mewn cartrefi gofal

• Datblygu a lledaenu protocolau ailbresgripsiynu.

Ffisiotherapyddion Cyswllt Cyntaf• Gall pob practis bellach gynnig apwyntiadau ffisiotherapi ar gyfer materion

cyhyrysgerbydol acíwt

• Wedi’u lleoli mewn tri “hyb” wedi’u lledaenu’n ddaearyddol o amgylch y clwstwr.

Clinigau Sadiwch i Gadw’n Saff• Wedi’u hariannu gan raglen Pennu Cyfeiriad

• Wedi’i sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Llanisien

• Atal cwympiadau i gleifion sy’n wynebu mwy o risg.

Cynllunio Cynllun Datblygu Lleol • Mae’r clwstwr wedi bod wrthi’n cynllunio ar gyfer twf a ragwelir yn y

boblogaeth o 13,000.

Unigolyn Enghreifftiol Bevan • Dewiswyd un o’n fferyllwyr clwstwr yn unigolyn Enghreifftiol Bevan i brofi

technoleg AliveCor i helpu i ganfod ffibriliad atrïaidd yn gynnar, sydd bellach ar gael ym mhob practis y clwstwr.

Nyrsys Gofal Sylfaenol i Bobl Hŷn• Gofal cyfannol i bobl hŷn sy’n gaeth i’r cartref a chanddynt anghenion

cymhleth.

• Osgoi derbyniadau, cynllunio gofal ymlaen llaw, cysylltiad amlasiantaeth, adnabod yn gynnar a datrys argyfyngau.

Cefnogaeth iechyd meddwl Haen 0 • Hunangymorth dan arweiniad 1 i 1 ar gael bellach ym mhob practis.

Rhannu Gwybodaeth• Wedi sefydlu “gyriant a rennir” ar gyfer polisïau, gweithdrefnau, llythyrau a chofnodion i bob practis yn y clwstwr.

BETH NESAF?

Mae’r clwstwr wedi creu cynllun datblygu yn ofalus gan bwysleisio blaenoriaethau lleol ac wedi pennu “hyrwyddwr clwstwr” i sicrhau bod pob cynllun yn cael ei roi ar waith, yn unol â chontract diweddaraf y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Presgripsiynu cymdeithasol• Datblygu perthnasoedd ag asiantaethau’r trydydd sector ac awdurdodau lleol

• Nodi partneriaid cymunedol

• Digwyddiad yn y Clwstwr, gan gynnwys darparu brechiadau rhag y ffliw i grwpiau mewn perygl

Dementia• Pob practis yn “deall dementia”

• Cyflwyno gweithwyr cyswllt dementia

• Cyflogi Meddyg Teulu â Diddordeb Arbennig mewn Dementia yn y clwstwr i hwyluso diagnosis cynnar

• Cefnogi Digwyddiadau Ymwybyddiaeth o Ddementia

Dewis Doeth• Gwella perthynas rhwng gweithwyr proffesiynol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

a gwasanaethau eraill (e.e. optometreg, deintyddiaeth) i sicrhau bod cleifion yn gweld y person cywir yn y man cywir ar yr adeg gywir

Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw• Gwella darpariaeth ac ansawdd drwy hyfforddi staff cartrefi gofal a thrwy ddefnyddio

arbenigedd Nyrsys Gofal Sylfaenol i Bobl Hŷn

Tîm Amlddisgyblaethol Cartrefi Gofal• Bydd prosiect peilot yn cael ei gynnal mewn cartref nyrsio i gafod effeithiolrwydd tîm

amlddisgyblaethol gan gynnwys ymgynghorwyr Gofal yr Henoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, yn ogystal â Meddygon Teulu a therapyddion o’r Tîm Adnoddau Cymunedol. Bydd dulliau mesur canlyniadau yn cael eu defnyddio i ddod i gasgliad ynghylch a yw gwaith tîm amlddisgyblaethol yn lleihau’r galw ar ofal sylfaenol ac eilaidd.

Gwerthuso Rolau Fferyllydd Clwstwr a Nyrs Gofal Sylfaenol i Bobl Hŷn• Ar y cyd â CEDAR a CYFLYMU

• Beth sy’n gweithio’n dda?

• Sut y gallem wella’r gwasanaeth hwn i gefnogi cleifion a phractisau?

Asthma• Gwella cywirdeb diagnosis asthma drwy gyflwyno mesuriadau ocsid nitrig allanadledig

mewn hyb diagnostig yn y clwstwr

• Wedi cyflwyno cais Pennu Cyfeiriad.

Cynllun Datblygu Lleol/Hyb Gofal Acíwt?• Un ateb arfaethedig i reoli twf poblogaeth yng Ngogledd Caerdydd yw drwy hyb gofal

acíwt amlddisgyblaethol. Ymchwilir ymhellach i hyn gyda’r clwstwr a’r adran gynllunio.

Page 7: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

70 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 71

Cyfarwyddwr Cymunedol y Clwstwr Dr David Meades [email protected] Caerdydd

Produced by Public Health Wales Observatory, using revised WIMD August 2015 (WG)

© Crown copyright and databast right 2015, Ordnance Survey 100044810

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

• Dechreuodd y clwstwr fel wyth practis unigol nad oeddent erioed wedi cydweithio’n ffurfiol, a daethant ynghyd am y tro cyntaf drwy waith clwstwr.

• Mae eu hanner yn bractisau myfyrwyr yn bennaf.

• Mae eu hanner yn cynnwys poblogaethau hynod amrywiol o ran ethnigrwydd ac ieithoedd, yn ogystal â’r digartref, ceiswyr lloches a charcharorion.

Mae wyth practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr De-ddwyrain Caerdydd:

• Cathays Surgery

• Clifton Surgery

• Cloughmore Surgery

• Four Elms Medical Centre

• Meddygfa Albany Surgery

• North Road Medical Practice

• Roathwell Surgery

• The City Surgery

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

• Adolygiadau Amlgyffuriaeth a Meddyginiaeth – yn canolbwyntio ar bresgripsiynu darbodus. Mae pedwar dangosydd yn y 5 uchaf allan o 64 o glystyrau:

• 2il isaf o glystyrau Cymru o ran presgripsiynu gwrthfiotigau yn Ch4 2019.

• 12fed isaf ar hyn o bryd o ran presgripsiynu cyffuriau hypnotig, gostyngiad o 25% dros ddwy flynedd (roedd gostyngiad o 20% yng Nghaerdydd a’r Fro).

• Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) -12fed isaf o ran clystyrau presgripsiynu yng Nghymru â gostyngiad o 33% dros ddwy flynedd.

• Cyfrannodd gwersi buddiol a ddysgwyd drwy gydweithio â Cardiff Mind at gais llwyddiannus i ddarparu ymyriadau iechyd meddwl Haen 0 i’r clwstwr.

• Nododd prosiect Hepatitis C bod arfer da eisoes ar waith ymysg Practisau’r clwstwr. Dangosodd archwiliad dros y ffôn fod pob claf â diagnosis blaenorol wedi cael cynnig apwyntiad ac ni chanfuwyd unrhyw achosion newydd gan yr archwiliad.

• Mae gwasanaeth eiddilwch y Clwstwr wedi helpu i wella gofal cleifion.

• Gwell gwybodaeth a chyfathrebu â chleifion drwy ddefnyddio sgriniau digidol ac iPads.

• Mae cytundebau rhwng practisau wedi gwella mynediad cleifion ar draws y clwstwr, e.e. ar gyfer cymhareb ryngwladol wedi’i normaleiddio (INR) ac atal cenhedlu.

• Rhoddwyd ymgyrchoedd y Ffliw a Rhoi’r Gorau i Smygu ar waith gan hyrwyddwyr ymyriadau byr a thrwy weithio ar y cyd â fferyllfeydd lleol

• Cynnwys fferyllwyr cymunedol mewn gwaith clwstwr, gan gynnwys cyfarfodydd clwstwr.

• Llwyddiant cynllun rhagnodi cymdeithasol Wellbeing 4U.

BETH NESAF?

• Newid cyfeiriad – cadw momentwm – gwella strwythur cyfarfodydd, cyfathrebu a phenderfyniadau yn y Clwstwr.

• Aelodau yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd mewn cyfarfod misol anffurfiol

• Y Clwstwr yn mynd ati i ‘arloesi’n aflonyddgar’.

• Cysylltiadau â’r 3ydd Sector - datblygu prosiectau ar y cyd er budd poblogaeth y clwstwr - presgripsiynu cymdeithasol.

• Canolbwyntio ar wella cyfraddau sgrinio drwy weithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella canlyniadau iechyd poblogaeth y clwstwr.

• Adeiladu ar gytundebau rhwng practisau ar draws y clwstwr i barhau i wella mynediad yn lleol i gleifion

• Ysgogi gwelliannau a manteisio ar bob cyfle i ddatblygu yn y clwstwr er budd cleifion.

• Canolbwyntio ar bresgripsiynu tramadol – 18fed isaf o ran clystyrau presgripsiynu yng Nghymru ar hyn o bryd, gwnaed cryn dipyn o waith i gyflawni gostyngiad o 19.4% dros ddwy flynedd ond mae’r clwstwr eisiau ymchwilio i ffyrdd o wella’r sefyllfa. Poblogaeth clwstwr amrywiol

o 63,414 (Ebrill 2019) gyda thros 25 o ieithoedd

Graff yn dangos y sefyllfa bresennol o ran rhagnodi tramadol, a fydd yn destun gwaith gwella. Mae’r bar melyn yn dynodi Clwstwr y De-ddwyrain

Mae’r bar melyn yn cynrychioli Clwstwr y De-ddwyrain, a’r bariau gwyrdd yn cynrychioli clystyrau eraill Caerdydd a’r Fro

Page 8: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

72 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 73

De-orllewin Caerdydd

EIN GWERTHOEDD CRAIDD

GofaluRydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi pawb am eu cyfraniad a’n nod yw dangos tosturi at ein cleifion bob amser

PositifrwyddRydym yn ymdrechu i fod yn gadarnhaol ynglŷn â gofal sylfaenol a’i ddyfodol ac i ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu

Tegwch Rydym yn gyson a theg yn y modd rydym yn delio â phobl

ArloesiRydym yn cyflwyno dulliau arloesol i’n gwasanaethau a’n ffyrdd o weithio er budd ein cleifion

CydweithreduRydym yn gweithio gyda’n gilydd er budd holl aelodau’r clwstwr

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

Mae gan Glwstwr De-orllewin Caerdydd boblogaeth o oddeutu 66,410 sy’n cynnwys ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd ac ardaloedd ag amrywiaeth ethnig hefyd. Mae’r cysylltiadau cymunedol cadarn a chyfoethog yn y clwstwr yn sylfaen i’n Clwstwr bywiog ac arloesol.

Ar hyn o bryd mae aelodaeth graidd Grŵp Clwstwr Gofal Sylfaenol De-orllewin Caerdydd yn cynnwys 11 Practis Meddyg Teulu, Rheolwr Ardal, fferyllwyr clwstwr, cynrychiolwyr o sefydliadau’r trydydd sector lleol, fferyllfeydd cymunedol, cynrychiolaeth o wasanaethau iechyd cymunedol lleol (Nyrsys Ardal, Tîm Adnoddau Cymunedol, Gofal Lliniarol), gofal cymdeithasol (gwasanaethau byw’n annibynnol) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cadeirir y grŵp gan Gyfarwyddwr Cymunedol y Clwstwr gyda chymorth y Rheolwr Ardal.

Mae gan y Clwstwr ethos cryf o gydweithio ac mae wedi datblygu prosiectau amrywiol sy’n cwmpasu sefydliadau cymunedol y trydydd sector a gofal eilaidd.

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Gweithio gyda’n cymunedRydym wedi gwrando ar flaenoriaethau aelodau ein cymuned drwy grŵp cleifion a Rhwydwaith Lles ein Clwstwr

Hybu iechyd i bawbMae gwaith ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canolbwyntio ar:

Ddigwyddiadau hybu iechyd mewn Mosgiau lleol i gynyddu’r nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn

Hybu ymarfer corff gan gynnwys Nextbike ar bresgripsiwn

.

EIN PRIF LWYDDIANNAU

Presgripsiynu Cymdeithasol Sefydlwyd rhwydwaith lles a chyfeirio drwy gyslyltwyr lles.

Cysylltiad â gofal eilaidd Clinigau Iechyd Plant Integredig

Diabetes Tystiolaeth Ymarferol

Cydweithio â fferylliaeth gymunedol lleihau gwastraff a gwella diogelwch cleifion

Lleihau amrywiad Fferyllwyr clwstwr Tystiolaeth Ymarferol prosiect diabetes

Partneriaeth â chleifion Grŵp lles cleifion y clwstwr

Recriwtio a chadw staff Ffair recriwtio’r clwstwr

Cydweithio rhwng practisau Gwasanaethau iechyd rhywiol y clwstwr

TG cyflwyno systemau i wella effeithiolrwydd

Ymchwil ac ArloesiMae aelodau ein clwstwr wedi bod yn rhagweithiol o ran cymryd rhan mewn ymchwil a datblygiadau wedi’u hanelu at wella gofal cleifion:

Cymrodorion hyfforddi arweinyddiaeth glinigol Cymru: mae’r clwstwr wedi cefnogi dau gymrawd sydd wedi datblygu modelau gofal arloesol wrth weithio ag Iechyd Plant a Rhagnodi Cymdeithasol

Unigolyn Enghreifftiol Bevan: Aeth ein Hunigolyn Enghreifftiol Bevan ati i ymchwilio i offer cyfathrebu newydd i gefnogi recriwtio a chadw staff Gofal Sylfaenol

Arloesi i arbed: Cyflwynwyd astudiaethau peilot yn ymchwilio i effaith dau fodel presgripsiynu cymdeithasol yng Nghynhadledd Ryngwladol gyntaf Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol

Cronfa ymchwil gofal cymdeithasol: Bydd astudiaeth ymchwil RESPECT yn ymchwilio ymhellach i effaith presgripsiynu cymdeithasol sy’n defnyddio credydau amser

BETH NESAF?

Trawsnewid y Clwstwr: Fi, fy nghartref a fy nghymunedMae Clwstwr De-orllewin Caerdydd yn falch o fod ar flaen y gad o ran Datblygu Clystyrau yng Nghaerdydd a’r Fro. Byddwn yn datblygu’r Clwstwr perffaith, gan ddefnyddio dulliau cymunedol yn seiliedig ar asesdau i ddeall a hwyluso cysylltiadau rhwng y cryfderau niferus ymhlith pobl, grwpiau a chymunedau yn Ardal ein Clwstwr. Mae’r prosiect hwn yn ddull blaengar o wella iechyd y boblogaeth drwy system gydgysylltiedig o gymunedau, partneriaid o’r trydydd sector a’r sector annibynnol, a gwasanaethau sylfaenol a chymunedol. Bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio i gefnogi cydnerthedd unigol, teuluol a chymunedol a thrwy wneud hynny, gwella iechyd a lles, a lleihau’r angen am wasanaethau statudol i gyflawni canlyniadau lles a mynd i’r afael â chanlyniadau iechyd unigrwydd, ynysu a datgysylltu.

Ein nod yw darparu gofal di-dor i bobl yn ein cymuned drwy berthynas waith gadarn o fewn tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys gofal iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector a chymunedol hefyd.

Cyfarwyddwr Cymunedol Karen Pardy [email protected] Swyddog Cymorth y Prosiect Andrea Pace [email protected]

Page 9: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

74 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 75

Arweinydd y Clwstwr Rebeccah Tomlinson [email protected] Gorllewin Caerdydd

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

POBLOGAETH: 55,488

Mae wyth practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Gorllewin Caerdydd:

• Practis Pentref yr Eglwys Newydd

• Practis Llwyncelyn

• Canolfan Feddygol Bishops Road

• Canolfan Feddygol Ystum Taf

• Meddygfa Danescourt

• Canolfan Feddygol Radur

• Meddygfa Llandaf a Phentyrch

• Canolfan Feddygol y Tyllgoed

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Gweithio mewn Partneriaeth yn y Clwstwr • Safoni protocolau a dysgu ar draws yr 8 practis

• Y nod yw gwneud rhywbeth unwaith a’i rannu â phob tîm

• Ymgysylltiad llawn mewn cyfarfodydd Rheolwyr Practis a Chlwstwr

Digwyddiad Ffliw Cymunedol • Digwyddiad sydd wedi ennill gwobr

• 2000 o gleifion yn cael brechiadau rhag y ffliw yn ystod 2 ddigwyddiad yn 2018

Nextbike • Cyllid Pennu Cyfeiriad

• Ar y cyd â De Caerdydd a Chydlynwyr Llesiant

• Beiciau ar bresgripsiwn i hybu ffordd o fyw iachach

Hyfforddi Staff • Hyfforddiant safonedig a mynediad teg i holl staff y practis

• Hyrwyddo sesiynau diweddaru Meddygon Teulu

MATERION

• Cynllun Datblygu Lleol – mae’r nifer fwyaf o dai newydd arfaethedig yn ardal Clwstwr Gorllewin Caerdydd

• Digwyddiadau Tîm Amlddisgyblaethol rheolaidd i dynnu sylw at faterion a chynllunio ar gyfer twf a galw yn y dyfodol

• Practisau cyfagos yn cau – rhagor o bwysau o ganlyniad i gleifion yn mudo i bractisau Gorllewin Caerdydd

• Adeiladau practisau– gweithio’n agos â Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol, a Thimau Cyfalaf a Chynllunio i wella mynediad i bob claf

BETH NESAF?

Gwerthuso Fferyllwyr Clwstwr a Phractis • Cwblhau prosiect y BILl i werthuso gwaith Fferyllwyr Gofal Sylfaenol – cymorth

CEDAR a CYFLYMU

• Beth sy’n gweithio’n dda?

• Sut y gallem wella ar y gwasanaeth hwn i gefnogi cleifion a phractisau?

Hyb Presgripsiynu’r Clwstwr • Safoni gwasanaethau presgripsiwn ar draws yr 8 practis

• Tîm Amlddisgyblaethol yn gweithio â Fferyllwyr Cymunedol a’r Tîm Rheoli Meddyginiaethau

• Cysylltiadau â model tebyg a arddangoswyd gan Dimau GS Dudley

• Dyhead i dreialu Presgripsiynu Electronig yng Nghymru

Cysgu – Help Me Sleep• Prosiect Enghreifftiol Bevan

• Gweithio â Dreem, cwmni sy’n cynhyrchu technoleg cysgu y gellir ei wisgo

• Cynllunio a threialu gwasanaeth cysgu therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Digwyddiad Presgripsiynu Cymdeithasol • Cyllid Pennu Cyfeiriad

• Hysbysebu blaenoriaethau’r Clwstwr i gleifion nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd

• Hyrwyddo Timau Cymunedol/Trydydd Sector fel pwynt mynediad cyntaf

Page 10: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

76 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 77

Arweinydd y Clwstwr Dr James Martin [email protected] Canol y Fro

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

POBLOGAETH: 64,175

Demograffeg trefol a gwledig cymysg gyda rhai ardaloedd difreintiedig

7 Practis Meddyg Teulu, 6 yn y Barri ac 1 yn Sili:

• Court Road Surgery

• Vale Group Practice

• The Practice of Health

• The Waterfront Medical Centre

• Highlight Park Medical Practice

• Sully Surgery

• West Quay Medical Centre

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Iechyd Meddwl• Arloesi gwasanaeth Haen 0 gyda Mind yn y Fro i gefnogi cleifion â

phroblemau iechyd meddwl ysgafn

• Wedi gweld 205 o gleifion rhwng Ebrill a Mehefin 2019

• Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Sylfaenol ers Ebrill 2019

• Ôl-lenwi wedi’i ariannu gan y Clwstwr i gefnogi meddygon teulu i ymgorffori staff a galluogi adolygiadau clinigol cadarn

Lles• Gwelwyd 111 o gleifion gan Wellbeing 4 U, Ebrill - Mehefin 2019 (cefnogaeth

sgrinio/imiwneiddio, rhoi’r gorau i smygu)

Ffisiotherapyddion Cyhyrysgerbydol Cyswllt Cyntaf• Arloesi’r gwasanaeth MSK i gyfeirio cleifion acíwt at ffisiotherpi

• Rhwng Medi 2016 – Ebrill 2019 gwelwyd 4,113 o gleifion

Rheoli Meddyginiaethau• Ariannu fferyllwyr clwstwr i wella diogelwch meddyginiaethau

• Symud yn gynt tuag at bresgripsiynau swp mewn practis

• Cyfarfod â fferyllwyr lleol i wella gweithio ar y cyd

Prosiectau eraill a gwblhawyd • Gwell TG – rhoi meddalwedd llif gwaith HERE ar waith mewn practisau i

symleiddio prosesu llythyrau

• Arweinydd y Clwstwr wedi cwblhau cwrs arweinyddiaeth Academi Wales

CLOD AC ARLOESI

• Mae’r gwasanaeth Haen 0 a ddatblygwyd ar y cyd gan y clwstwr gyda Mind yn y Fro bellach wedi’i gomisiynu’n ganolog gan y BIP a’i gyflwyno i bob clwstwr gan ddefnyddio contractwyr lleol

• Mae gwasanaeth Cyhyrysgerbydol hefyd wedi’i gomisiynu’n ganolog gan y BIP a’i gyflwyno i bob clwstwr

• Llwyddodd pob practis i ennill statws Efydd fel Hyrwyddwyr Gofalwyr

DATGANIAD CENHADAETH

‘Ein nod yw cydweithio i ddatblygu modelau gofal arloesol sy’n gwella llesiant cleifion a hybu cynaliadwyedd sylfaenol’

BETH NESAF?

Parafeddyg Cyflogi parafeddyg i gefnogi ymweliadau cartref

Clinig PoenSefydlu Clinig Poen yn y clwstwr i helpu cleifion i fyw yn fwy llwyddiannus gyda phoen cronig a lleihau opiadau

Ymgysylltu â fferyllfeydd lleol Gwaith yn parhau i fynd i’r afael â gwastraff meddyginiaethau, diffyg stoc, hybu ‘Dewis Fferyllfa’ a’r cynllun mân anhwylderau

GwrthfiotigauClwstwr yn canolbwyntio ar leihau rhagnodi gwrthfiotigau

Ysbyty’r Barri Gwaith i wella gwasanaethau ar y safle i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol

LlesAildrefnu gwasanaeth Wellbeing 4 U yn unol â blaenoriaethau’r clwstwr - Grŵp Cefnogi Ffibromyalgia , Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Poen

Page 11: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

78 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 79

Arweinydd y Clwstwr Dr Julie Yapp [email protected] Dwyrain y Fro

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

POBLOGAETH 36,783

Prif ardaloedd trefol - Penarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili

• Ail uchaf o ran canran cleifion oedrannus (65+) ymhlith clystyrau Caerdydd a’r Fro

• Mae poblogaeth sy’n tyfu yn ganolog i gynllunio clystyrau

5 practis Meddyg Teulu yn wreiddiol, 4 bellach oherwydd uno diweddar:

• Partneriaeth Gofal Iechyd Penarth 13,341

• Canolfan Feddygol Dinas Powys 9,692

• Meddygfa Redlands 7,550

• Meddygfa Albert Road 6,783

Wedi cryfhau cysylltiadau rhwng practisau, wedi cefnogi Arweinydd y Clwstwr i gwblhau rhaglen Arweinyddion Clwstwr Academi Wales 2018.

BETH YDYM WEDI’I WNEUD?

Cynaliadwyedd• Arweiniodd colli partneriaid phroblemau gydag adeiladau at uno 2 bractis

• Ymddeoliad diweddar 2 Feddyg Teulu o un practis yn tanlinellu pa mor fregus yw’r sefyllfa

• Rhannu adnoddau staff

• Partneru ag eraill, WhatsApp dysgu ar y cyd i’r clwstwr

• Rheolwyr practis yn gweithio ar y cyd, gyriant G a rennir

Canolbwyntio ar Ddemograffeg Oedrannus Gwaith Mewn Cartrefi Gofal: 9 CARTREF GOFAL (3 nyrsio, 6 preswyl)

Fferyllydd y Clwstwr: adolygiadau cynhwysfawr o feddyginiaeth, stopio/dechrau meddyginiaeth, paratoadau addas, cefnogi ac addysgu staff cartrefi gofal, cysoni meddyginiaethau ar ôl rhyddhau

Nyrs y Clwstwr: adolygiadau cynhwysfawr, asesu cwympiadau, cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol, osgoi derbyniadau i’r ysbyty

Deall Dementia: ymwybyddiaeth a hyfforddiant i’r holl staff, mwy yn manteisio ar wasanaethau a hyrwyddwyr gofalwyr, gwasanaeth darllen sy’n addas i ddementia drwy’r llyfrgell

Pwysau’r Gaeaf: gwella mynediad yn ystod misoedd prysurach, gwell cynllunio i leihau derbyniadau i’r ysbyty

Ffliw• Clwstwr wedi cyflogi Nyrs Ffliw

• Helpu o ran nifer y bobl eiddil ac oedrannus sy’n cael eu himiwneiddio yn y cartref

Rheoli Meddyginiaethau • Gweithio ar y cyd â Fferyllwyr Cymunedol

• Gwella cyfathrebu

• Helpu o ran diogelwch cleifion a chydymffurfiaeth

• Lleihau gwastraff

• Archwiliadau diogelwch

• Gwella Ansawdd

• Rhagnodi gwrthfiotigau

• Yn cael eu cefnogi gan Ymgynghorwyr Fferylliaeth

BETH NESAF?

Cynaliadwyedd• Parhau â’r gwaith yn ymwneud ag

eiddilwch, gwasanaeth gwell yn y clwstwr (gofal yn y cartref )

• Cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol

• Canolbwyntio ar les

• Cynllunio ar gyfer twf yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol

• Gwella’r gwasanaeth dwyieithog, cydweithio ag ysgolion

• Stiwardiaeth gwrthfiotigau

Llywio Gofal Sylafenol • ‘Ffair clwstwr’ addysgol yn y prynhawn i’r holl staff

• Cyfranwyr yn cynnwys y trydydd sector, lluoedd arfog, Teuluoedd yn Gyntaf, Teuluoedd yn Cyflawni Newid â’i Gilydd, fferyllwyr cymunedol, optegwyr

• Yn canolbwyntio ar waith rhyngasiantaeth a chryfhau partneriaethau

• Podiau QR ym mhob practis i helpu llywio, ymwybyddiaeth o sgrinio a gwasanaethau lleol

TG• Buddsoddi yn Vision 360 i gynorthwyo gwaith clwstwr

• Gwella casglu data

• Wedi prynu 2 liniadur ar gyfer Fferyllydd a Nyrs

• Cyflogi arbenigwr TG bellach wedi’i gyflwyno ledled Caerdydd a’r Fro

Iechyd Meddwl• Gwasanaethau mewn practis

• Ymarferydd Iechyd Meddwl, Gorffennaf 2019

• MIND, Haen 0, Mai 2019

• Llywio tuag at Bresgripsiynu Cymdeithasol

• TG a Rheolwr Cefnogi yn allweddol i lwyddiant

Cyhyrysgerbydol• Hyb wedi’i leoli mewn 2 bractis

• Un o’r clystyrau cyntaf i ‘fynd yn fyw’, Chwefror 2019

• Rheolwr Prosiect a TG newydd yn allweddol i lwyddiant

• 94% yn defnyddio apwyntiadau

# weareprimarycare

Page 12: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

80 CLWSTWR GOFAL SYLFAENOL 2019 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 81

Arweinydd y Clwstwr Dr Rebeccah Tomlinson [email protected] Gorllewin y Fro

PWY YDYM NI AC O BLE Y DAETHOM?

POBLOGAETH: 28,289

Meddygaeth Teulu Gorllewin y Fro – 3 lleoliad practis: Y Bont-faen Llanilltud Fawr, Sain Tathan

Practis Meddygol y Bont-faen a’r Fro 1 lleoliad practis: Y Bont-faen

Practis Meddygol Llanilltud Fawr ac Arfordir y Fro Llanilltud Fawr, Y Rhws, Sain Tathan

Mae tri phractis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Gogledd Pen-y-bont:

• Cowbridge & Vale Medical Practice

• Western Vale Family Practice

• Eryl Group Practice

YR HYN RYDYM WEDI’I WNEUD?

Prosiect Madeline • £147,000 o gyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect hwn

• Gorllewin y Fro yn gweithio tuag at Statws Deall Dementia

• Digwyddiadau tîm amlddisgyblaethol cyfredol a llwyddiannus yn cynnwys Timau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn cefnogi gofal Dementia

• Mwy o ddiagnosis o ddementia – Gwiriadau Iechyd Llesiant Dementia, Cydlynwyr Dementia , Clinigau Cof

• Profion Pwynt Gofal CRP ar gyfer grwpiau penodol o gleifion

Gwell Gwaith Partneriaeth yn y Clwstwr • Pob practis yn cyfrannu at waith cynllunio’r clwstwr

• Gwell cyfathrebu rhwng timau uwch reolwyr

• Prosiectau clwstwr yn cael eu cynnal a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu rhwng practisau i gael gwasanaeth wedi’i safoni yn fwy mewn cyfarfodydd clwstwr a Phrofion Ymarfer Cardio-anadlol (CPET)

Iechyd Meddwl a MSK• Haen 0 (Mind yn y Fro) – ers mis Ebrill 2019

• Cynllun Cyswllt Iechyd Meddwl – ers Gorffennaf 2019

• MSK – o fis Hydref 2019

Y ffliwY nifer uchaf o blant ac oedolion i gael brechiad ffliw yn BIPCF

PROBLEMAU

• Yr ardal ddaearyddol fwyaf yng Nghaerdydd a’r Fro – 13 milltir o hyd ac 8 milltir o led

• Problemau o ran amseroedd galw YGAC ac amser i glinigwyr wneud Ymweliadau Cartref

• Nifer uwch o gleifion yn aros gartref ag anghenion gofal cymhleth

• Amser ymweld hiraf o ran gofal lliniarol a Nyrs Ardal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

• Cynnydd cyflymaf o ran nifer cleifion dros 65 oed – 33.5% mewn 10 mlynedd

• Trawsffiniol – angen gweithio mewn partneriaeth â BIP Bae Abertawe a BIP Cwm Taf Morgannwg

BETH NESAF?

Prosiect Gofal Gartref yn Gyntaf• Nod: gwella gwaith tîm amlddisgyblaethol i gleifion ag anghenion gofal

cymhleth sydd ddim yn byw mewn cartrefi preswyl neu ofal

• Casglu Data – Demograffeg Practisau, Data Iechyd y Cyhoedd, cyswllt y tu allan i oriau, galwadau YGAC, ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, Derbyniadau – arferol a brys

• Gwaith tîm aml-ddisgyblaethol – Nyrsys Ardal a Lliniarol, Gwasanaethau Cymdeithasol, YGAC, Practisau Gofal Sylfaenol

Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw • Diweddaru hyfforddiant i’r holl staff yn CPET mis Tachwedd

Cydweithio ag ysgolion • Bagloriaeth Cymru

• Cynllun Dug Caeredin

• Gwella gwasanaeth dwyieithog: posteri a sgriniau ystafelloedd aros

Twf Cynllun Datblygu Lleol• Gweithio â Thimau Cynllunio, Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol a

Gwasanaethau Cynghorau Lleol i sicrhau Gwasanaethau Gofal Sylfaenol parhaus er gwaethaf pwysau twf Cynllun Datblygu Lleol yn yr ardal

# weareprimarycare

Page 13: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

144 CLYSTYRAU GOFAL SYLFAENOL 2019

Diolch i’r Byrddau Iechyd ac Arweinwyr y Clystyrau am eu help wrth ddatblygu’r blwyddlyfr hwn.

Page 14: Clwstwr Gofal Sylfaenol 2019… · Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 63 Rhagair. Bwrdd Iechyd Prifysgol . Caerdydd a’r Fro Len Richards, Prif Weithredwr . Dr Anna Kuczynska,

Public Health Wales2 Capital Quarter, Tyndall Street,Cardiff, CF10 4BZTelephone: 029 2022 7744Email: [email protected]