recriwtio aelodau bwrdd dyffryn maes glas pecyn gwybodaeth · 2019. 5. 23. · mae recriwtio pum...

10
2019 DYFFRYN MAES GLAS DYFFRYN MAES GLAS PECYN GWYBODAETH RECRIWTIO AELODAU BWRDD DYFFRYN MAES GLAS

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    2019

    DYF

    FRYN

    M

    AE

    S G

    LAS

    D Y F F R Y N M A E S G L A S

    P E C Y N G W Y B O D A E T H

    R E C R I W T I O A E L O D A U B W R D D D Y F F R Y N M A E S G L A S

  • CYNNWYS

    Rhagair ...............................................................................Tudalen 3

    Dyffryn Maes Glas ...............................................................Tudalen 4

    Hanes byr

    Buddsoddi yn y Dyffryn

    Rôl yr Ymddiriedolaeth a Chyngor Sir y Fflint

    Rôl a sgiliau Aelod Bwrdd....................................... .............Tudalen 6

    Rôl Aelod Bwrdd

    Y sgiliau rydyn ni’n chwilio amdanynt

    Cyfnod yn y swydd

    Ymrwymiad amser

    Tâl

    Buddiannau o ddod yn Aelod Bwrdd

    Dyletswyddau ac ymddygiadau elusennol

    Ein Proses Ymgeisio a Dethol ................................ ...........Tudalen 7

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    3

    Rhagair

    Croeso a diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen y pecyn gwybodaeth hwn a fydd yn egluro cefndir, rôl a chyfrifoldebau ar gyfer Aelodau Bwrdd sy’n bwriadu gweithio gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

    Yma yn yr Ymddiriedolaeth, rydym yn cydnabod gwerth partneriaethau ac, wrth weithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym yn ymrwymedig i godi proffil y Dyffryn a’i helpu i drawsnewid i sefyllfa o annibyniaeth ariannol gryf. Gan sicrhau ei gynaliadwyedd, fel cyfleuster lleol ac fel safle o ddiddordeb hanesyddol rhanbarthol a chenedlaethol, rydym yn hyderus o’i botensial i gael ei gydnabod yn yr un modd â Cheunant Ironbridge yn Swydd Amwythig.

    Dyma amser cyffrous iawn i ni. Ar ôl sicrhau bron i £1m o arian Loteri Treftadaeth yn ddiweddar, ni fu erioed amser gwell i ni ddatblygu a chryfhau ein trefniadau llywodraethol, ac rydym yn chwilio am bum aelod Bwrdd newydd i ddod ag ystod o werthoedd a sgiliau a fydd yn addas ar gyfer y weledigaeth ar gyfer Dyffryn Maes Glas.

    Rydym yn chwilio am unigolion sy’n frwdfrydig, uchelgeisiol ac, yn ddelfrydol, sy’n deall y farchnad y mae’r Dyffryn yn gweithredu oddi mewn iddi. Dros amser, rydym am greu atyniad sy’n canolbwyntio ar gadw a datblygu ei sylfaen gwsmeriaid, sy’n agored i gyfleoedd newydd a chreadigol ac sy’n hyblyg ac yn ymatebol i newid.

    Gwladys HarrisonCadeiryddYmddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas

    Mae Sir y Fflint yn falch o gael Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn ei dreftadaeth, man agored a chynnig twristiaeth. Mae ardaloedd Maes Glas, Treffynnon a thu hwnt yn llawn hanes, a’r Parc yw’r atyniad canolog ar gyfer teuluoedd a gweithgareddau awyr agored.

    Mae proffil y Parc Treftadaeth yn tyfu drwy gyfuniad buddsoddiad sylweddol Cronfa Dreftadaeth Y Loteri, a chyd ymdrechion yr Ymddiriedolwyr a’r Cyngor i hyrwyddo mynediad i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd.

    Mae’r heriau yn cynnwys sicrhau cynaliadwyedd y Parc, cynyddu nawdd a ffrydiau incwm mewn marchnad atyniadau gystadleuol, a rheoli o fewn ein modd yn ystod cyfnod o gyfyngder ariannol sector cyhoeddus.

    Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn wynebu’r dyfodol gyda sicrwydd ac argyhoeddiad. Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd yn y cam pwysig nesaf o hanes balch y Parc. Mae recriwtio pum aelod Bwrdd newydd, i wasanaethu ochr yn ochr â’r pedwar Aelod Bwrdd presennol, yn gam pwysig ymlaen o ran rhoi egni newydd i’r Bwrdd ar gyfer y cam nesaf hwn.

    Colin Everett Prif WeithredwrCyngor Sir y Fflint

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    4

    Dyffryn Maes GlasMae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn safle 70 erw, sy’n ymestyn o ffordd arfordirol yr A548 ym Maes Glas hyd at dref Treffynnon. Mae’r safle’n adlewyrchu hanes amrywiol a hir yr ardal. Mae’n cynnwys peth o’r dreftadaeth ddiwydiannol fwyaf sylweddol a chydgysylltiedig yng Ngogledd Cymru ac mae ganddo nifer nodedig o safleoedd hanesyddol, gan gynnwys saith heneb restredig, yn ogystal ag amgueddfa o fewn ei ffiniau.

    Mae’r dirwedd a fu gynt yn un ddiwydiannol drom bellach yn cynnig teithiau cerdded braf drwy goetir. Mae gan y Dyffryn amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd a rhywogaethau o ffawna a fflora. Mae’r hen gronfeydd a chyrsiau dŵr bellach yn gartref i fywyd gwyllt. Mae’r Dyffryn wedi ennill statws Baner Werdd yn ddiweddar.

    Mae mynediad i’r Dyffryn ehangach am ddim. Mae hyn hefyd yn cynnwys adfeilion Abaty Basingwerk, sy’n eiddo a dan reolaeth Cadw. Codir ffi am ymweld â’r brif amgueddfa.

    Wedi’i sefydlu yn y 1980au, mae’r amgueddfa’n canolbwyntio ar orffennol ffermio a diwydiannol Maes Glas. Mae’r Ganolfan yng nghanol Fferm yr Abaty hanesyddol, ynghyd â nifer o adeiladau arwyddocaol o’r ardal sydd wedi cael eu symud a’u hail-adeiladu.

    Cafodd yr amgueddfa ei hadnewyddu yn 2016 gydag

    arddangosfeydd lliwgar a rhyngweithiol modern. Mae nifer helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y calendr, rhaglen addysgiadol i ysgolion sy’n ymweld ac amrywiol gyfleoedd gwirfoddoli. Mae’r amgueddfa wedi’i hachredu’n llawn o dan gynllun safonol proffesiynol Cyngor y Celfyddydau.

    Nid yw ymwelwyr ifanc yn cael eu hanghofio chwaith. Mae arddangosfeydd yr amgueddfa yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol i blant. Mae gan yr ardal Gweithgareddau Sied Gart raglen newidiol o weithgareddau celf hunan-arweiniol. Mae bagiau chwilotwr ar gael. Mae ardal chwarae meddal a thractorau bach ar gyfer plant ifanc iawn, a drysfa dwnnel a thŷ pen coeden ar gyfer y rhai mwy anturiaethus.

    Mae tocynnau blynyddol sy’n cynnig mynediad am ddeuddeg mis yn dechrau o’r gwyliau Pasg yn boblogaidd iawn ac yn cynnig gwerth gwych am arian. Ar hyn o bryd mae tua 12,500 o ymwelwyr yn dod i’r amgueddfa bob blwyddyn.

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    5

    Mae’r safle yn enghraifft unigryw o ddatblygiad diwydiannol ar raddfa fawr, wedi’i gynnal gan arloesi technegol, arallgyfeirio ac adfywio, gan ddefnyddio’r ffynhonnell ddŵ r helaeth (am ddim), cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a pherthnasau masnachol cryf â Lerpwl. Galluogodd y cyswllt â Lerpwl i farchnadoedd a masnachau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gael eu datblygu.

    Digwyddodd y prif ddatblygiad diwydiannol yn Nyffryn Maes Glas rhwng dechrau’r 18fed ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gyda’r ffyniant ar ei uchafbwynt tua 1800. Roedd yr ystod o ddeunyddiau a gynhyrchwyd yn cynnwys: plwm, copr, pres, haearn, tunplat, sinc, cotwm, gwlân, calch, sment, nwy, papur, bragu, sebon, malu rwber, a melino grawn a blawd.

    Mae’r safle’n arwyddocaol am arloesi nifer o ddatblygiadau technolegol arloesol sy’n cyn:• Cafodd y felin gotwm gyntaf wedi’i phweru (Yellow Mill) y tu allan i Swydd Derby, a ddatblygwyd

    ar egwyddorion Arkwright, ei hadeiladu a’i gweithredu yn Nyffryn Maes Glas yn 1777. Adeiladwyd tair melin arall (Upper Mill 1783, Lower Mill 1785 a Crescent Mill 1790) ac roeddent yn weithredol cyn 1790, sef datblygiad anghyfochrog yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

    • Cafodd y gwŷdd peiriannol cyntaf yng Nghymru ei osod yn Nyffryn Maes Glas.• Cyflwynwyd bwcedi haearn ar olwynion dŵ r pren yn Nyffryn Maes Glas am y tro cyntaf, a oedd yn gwella perfformiad

    ac allbwn.• Datblygu bolltau copr a hoelion caled ar gyfer trwsio gorchuddion llongau llyngesol a masnachol, a roddodd stop ar

    rwd elecrolytig.

    Roedd cludiant ffordd, tramffordd, rheilffordd a’r môr yn elfennau pwysig a hanfodol ar y cyd â chyflenwad dŵ r yn natblygiad y diwydiant yn Nyffryn Maes Glas. Roedd cludiant yn darparu cysylltiadau allweddol at ddibenion dosbarthu deunyddiau crai a chynnyrch gorffenedig yn haws yn y dyffryn ac i allfeydd masnachol ehangach, porth Lerpwl yn benodol. Roedd gan y rheilffordd sy’n arwain o Orsaf Treffynnon ddringfa 1 o 27, sef y llinell i deithwyr o led safonol fwyaf serth.

    Cyfrannodd nifer o ddiwydianwyr yn sylweddol at iechyd a lles gweithwyr. Roedd darpariaeth tai, amodau gwaith a chyfundrefnau iechyd yn gosod safonau a nodwyd gan haneswyr ac ymwelwyr â Dyffryn Maes Glas fel rhai a oedd yn uwch na’r cyfartaledd. Adeiladwyd tai teras pwrpasol (Battery Row a bythynnod Bryn Celyn) i ddarparu llety i ddiwydiannau preswyl a chartref, yn bennaf copr a chotwm. Arweiniodd cyflymder datblygiad diwydiannol at dwf poblogaeth cyflym Treffynnon, a drechodd unrhyw dref arall yng Nghymru ar uchafbwynt ffyniant tua diwedd y 18fed ganrif.

    Mae’r pum mlynedd olaf wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn Nyffryn Maes Glas.

    Cafodd yr Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, grant o £941,000 gan gronfa Treftadaeth y Loteri i ailddatblygu safle’r amgueddfa’n gyfan gwbl. Mae hyn wedi arwain at ganolfan ymwelwyr estynedig gyda thoiledau newydd, arwyddion a gogwydd newydd i’r safle, arddangosfa newydd o gasgliadau’r amgueddfa gan gynnwys themâu ac eitemau newydd, a thirwedd a llwybrau newydd o’r meysydd parcio at y brif fynedfa.

    Mae Gwirfoddolwyr wedi bod yn cydweithio gyda ni am sawl blwyddyn ac yn rhan hanfodol o Ddyffryn Maes Glas. Dros y blynyddoedd, mae gwirfoddolwyr wedi ein helpu i gynnal gweithgareddau, digwyddiadau sy’n cael eu mwynhau gan deuluoedd, ymchwilio i hanes Abaty Basingwerk a llunio adnoddau addysgol. Mae’r grwˆ p arbenigol wedi trawsnewid hen erddi ac wedi creu rhai newydd. Maent wedi ymroi sawl awr yn helpu i gynnal ein safle 70 erw ac wedi defnyddio eu harbenigedd yn ein safle gofannu a stemio poteli.

    Hanes byr

    Buddsoddi yn y Dyffryn

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    6

    Rôl yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor

    Y Strwythur Rheoli

    Ein Gweledigaeth

    Ein Busnes:

    Ein pum nod:

    Mae Ymddiriedolaeth y Dyffryn yn gwmni cofrestredig ac yn sefydliad elusennol, a sefydlwyd i reoli Dyffryn Maes Glas ar ran Cyngor Sir y Fflint. Cafodd hyn ei drefnu drwy gytundeb rheoli, er y disgwyliad yw y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio i godi’r refeniw drwy fwy o ymwelwyr a grantiau ac yn dod yn hunangynhaliol dros amser.

    “Dathlu a diogelu’r gorffennol heddiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yfory”

    Yn 2025, bydd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn enghraifft ranbarthol o fan rheoli treftadaeth ddiwydiannol a naturiol, gan ddarparu mynediad agored o ansawdd ar gyfer profiadau hamdden a dysgu llewyrchus i bawb. Mae’n groesawgar, yn werthfawr ac yn rhoi mwynhad, a’i dreftadaeth yn cael ei diogelu a’i fywyd gwyllt yn blodeuo.

    Darparu gwasanaeth rheoli effeithiol, effeithlon, o ansawdd, sy’n cyflawni ein gweledigaeth i ddarparu buddiannau hirdymor i’r safle, y gymuned leol ac ymwelwyr cenedlaethau’r dyfodol.

    Y Sefydliad: Bydd ein busnes yn effeithlon, effeithiol ac yn wydn i bwysau’r dyfodol. Yr Amgylchedd Naturiol: Caiff y nodweddion bywyd gwyllt arbennig eu diogelu, eu gwella a’u cynnalTreftadaeth: Caiff treftadaeth ddiwydiannol y safle ei diogelu, ei chadw a’i dathlu gydag amgueddfa ffyniannus Cymuned: Safle aml-swyddogaethol sy’n ddiogel, glân, y gellir ei mwynhau gan bawb a lle caiff cyfranogiad y cyhoedd ei gyfoethogi drwy wirfoddoliDysgu: Caiff nodweddion arbennig y safle eu dathlu drwy ddigwyddiadau, addysg a dehongliadau.

    Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol

    Gweithwyr gweithredol

    Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas

    Cyngor Sir y Fflint

    Gwirfoddolwyr

    Ysgrifennydd Cwmni Mentor Amgueddfa

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    7

    Rôl A Sgiliau Aelod Bwrdd

    Mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu recriwtio 5 Ymddiriedolwr i’w Bwrdd a fydd yn arwain y gwaith o lywodraethu a rheoli Dyffryn Maes Glas yn strategol..

    Rôl Aelod Bwrdd1. Sicrhau bod nodau Elusennol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu cyflawni fel y nodir yn y dogfennau llywodraethu2. Cytuno a gosod cyfarwyddyd strategol ar gyfer y sefydliad3. Ehangu ymwybyddiaeth o werthoedd a blaenoriaethau’r elusen; a chynyddu ei gwelededd ar draws cynulleidfa

    ehangach 4. Helpu a chynghori ar bolisïau a datblygiadau ar gyfer meysydd o fewn gwybodaeth arbenigol5. Sicrhau bod y sefydliad yn ariannol gadarn a’i fod yn cyflawni ei wasanaethau yn unol â rheolau Comisiwn Elusennau,

    Cyfraith Cwmnïau a Chytundeb Rheoli Sir y Fflint. 6. Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn ymgymryd mewn perthnasoedd rhagweithiol a chadarnhaol gyda’r gymuned

    leol, sefydliadau gwirfoddol lleol a chyrff statudol lleol

    Y sgiliau rydyn ni’n chwilio amdanyntMae angen ystod eang o unigolion ar y Bwrdd y bydd eu hamrywiol wybodaeth a sgiliau yn ffurfio tîm cyflawn a chytbwys. Rhaid iddynt feddu ar y profiadau, cymwyseddau a gwerthoedd proffesiynol angenrheidiol i fynd â’r Cwmni yn ei flaen.

    Yn benodol, mae’r Bwrdd yn dymuno recriwtio Ymddiriedolwyr a all gefnogi’r Ymddiriedolaeth drwy gynnig sgiliau, cefndir neu brofiad yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

    • Marchnata, cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthiannau, twristiaeth

    • Strategaeth, llywodraethu, cyllid, adnoddau dynol, cyfreithiol, rheoli perfformiad

    • Codi arian, arian statudol, corfforaethol a dyngarol

    • Treftadaeth, amgueddfeydd, atyniadau i ymwelwyr/teuluoedd

    • Ymgysylltu â’r Gymuned

    Yn ogystal â’r sgiliau penodol a restrir uchod, mae’r Bwrdd yn rhagweld y byddai ymgeiswyr yn cynnig:

    • Gallu deallusol a dadansoddol cryf; Meddwl arloesol a gallu i ganolbwyntio ar faterion y mae angen gweithredu arnynt

    • Profiad yn y sector elusennol, cymdeithasol neu wirfoddol

    • Barn gadarn, annibynnol a’r gallu i feddwl yn greadigol

    • Gweithio’n effeithiol fel rhan o aelod o dîm a dangos y parodrwydd i ddysgu a datblygu

    • Dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu elusennau a mentrau cymdeithasol bach i ganolig eu maint yn y DU wrth wneud y gorau o ffrydiau incwm a rhoddion.

    • Byddai profiad o arferion codi arian amrywiol, gan gynnwys arian statudol, rhoi corfforaethol a dyngarol yn werthfawr.

    • Sgiliau rhwydweithio ardderchog, sgiliau dylanwadu a chyfathrebu, y gallu i weithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bartneriaid

    Cyfnod yn y swydd Pedair blynedd fel arfer.

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    8

    Ymrwymiad amserPenodir aelodau’r bwrdd i eistedd am dymor o bedair blynedd. Bydd Aelodau Bwrdd yn ymgymryd â phroses ymsefydlu fel rhan o’u penodiad i’r Bwrdd.

    Mae disgwyl i Aelodau’r Bwrdd fynychu wyth cyfarfod Bwrdd y flwyddyn, y caiff llawer ohonynt eu trefnu fel digwyddiadau hwyr y prynhawn a gyda’r nos ac a fydd yn gofyn am ddarllen papurau ymlaen llaw.

    Efallai y gofynnir i aelodau o’r bwrdd ymuno ag is-grŵp neu grŵp tasg a gorffen, ac arwain y gwaith ar faterion unigol.

    TâlSwydd wirfoddol yw hon ac ad-delir treuliau priodol.

    Buddiannau o fod yn Aelod BwrddMae llawer o resymau pam y byddai unigolion am ymuno â Byrddau a mwynhau gweithio gydag Aelodau Bwrdd eraill. Efallai bod gennych eich rhesymau eich hun i’w hychwanegu at y buddiannau hyn y dywed eraill wrthym amdanynt:

    • Mae’n rhoi her deallusol ac emosiynol i mi - mae’n fy ymestyn, gan dynnu ar fy “nghyhyrau” deallusol ac emosiynol a rhoi ymdeimlad o hunan-hyder a boddhad i mi

    • Mae’n rhoi’r cyfle i mi “roi yn ôl” – rwy’n teimlo’n dda pan fyddaf wedi gweld fy hun yn cyfrannu at dwf a llwyddiant Cwmni sy’n rhoi budd i’r gymuned ac eraill, yn ogystal â mi fy hun

    • Mae wedi helpu i gefnogi fy natblygiad gyrfa - rwy’n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau, profiadau a chymwyseddau newydd sydd wedi fy nghyfoethogi yn barod ar gyfer y cam nesaf yn fy ngyrfa

    • Rwyf wedi dysgu sgiliau newydd drwy weithio gyda phobl na fyddwn i’n gweithio gyda nhw fel arall. Mae hyn yn ehangu fy ngorwelion a’m syniadau am ffyrdd o wneud pethau

    • Rwy’n cael mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio ac mae wedi ehangu fy sfferau dylanwad, rwy’n mwynhau bod yng nghwmni aelodau eraill y Bwrdd

    • Mae wedi rhoi’r sgiliau a’r profiadau angenrheidiol i mi sefyll ar Fwrdd ar lefel genedlaethol.

    Dyletswyddau ac Ymddygiadau Elusennol

    1. Beth yw dyletswyddau Ymddiriedolwyr?Mae Ymddiriedolwyr wedi, ac angen derbyn, llwyr gyfrifoldeb am gyfarwyddo materion eu helusen, gan sicrhau ei bod yn ddiddyled ac yn cael ei rhedeg yn dda, yn ogystal â chyflawni canlyniadau elusennol er budd y cyhoedd. Mae angen i chi gadw’r meysydd cyfrifoldeb canlynol mewn cof.

    2. Pwy all fod yn Ymddiriedolwr?Mae rhai pobl wedi’u hanghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag gweithredu fel Ymddiriedolwyr, sef:

    • Unrhyw un sydd ag euogfarn heb ei dreulio am drosedd sy’n cynnwys twyll neu anonestrwydd.• Unrhyw un sy’n fethdalwr nas rhyddhawyd.• Unrhyw un sydd wedi’i dynnu o ymddiriedolaeth elusen gan y Llys neu’r Comisiwn Elusennau am gamymddwyn

    neu gamreoli.• Unrhyw un sydd wedi’i anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni o dan Ddeddf Anghymhwyso

    Cyfarwyddwyr Cwmni 1986.

    3. Sicrhau cydymffurfeddRhaid i Ymddiriedolwyr sicrhau bod eu helusen yn cydymffurfio â’r canlynol:

    • Cyfraith Elusennau, a gofynion y Comisiwn Elusennau fel rheoleiddiwr; yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod yr elusen yn paratoi adroddiadau ar ei gwaith, ac yn cyflwyno Ffurflenni Blynyddol a chyfrifon fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

    • Y gofynion neu’r rheolau, a’r dibenion a’r gwrthrychau elusennol, a nodir yn nogfen lywodraethu’r elusen ei hun. Rhoddir copi o’r ddogfen hon i’r holl Ymddiriedolwyr a bydd angen iddynt ymgyfarwyddo â hi.

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    9

    • Gofynion deddfwriaeth a rheoleiddwyr eraill (os oes rhai) sy’n llywodraethu gweithgareddau’r elusen; bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o waith y mae’r elusen yn ei wneud, a p’un a yw’n cyflogi staff neu wirfoddolwyr, er enghraifft Cyfraith Cyflogaeth.

    • Y gofyniad i Ymddiriedolwyr weithredu gydag uniondeb, ac osgoi unrhyw wrthdrawiadau buddiannau personol neu gamddefnyddio arian neu asedau elusennol.

    4. Dyletswydd gochelgarwch Rhaid i Ymddiriedolwyr:

    • Sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled ac yn parhau felly; mae hyn yn golygu bod angen i chi gadw eich hun yn hysbys o weithgareddau a sefyllfa ariannol yr elusen.

    • Defnyddio arian ac asedau elusennol yn ddoeth, ac at ddibenion a buddiannau’r elusen yn unig.• Osgoi ymgymryd â gweithgareddau a allai beri risg i eiddo, arian, asedau neu enw da’r elusen.• Cymryd gofal arbennig wrth fuddsoddi arian yr elusen, neu fenthyca arian i’r elusen ei ddefnyddio.

    5. Dyletswydd gofalRhaid i Ymddiriedolwyr:

    • Gymryd gofal rhesymol a defnyddio sgiliau fel ymddiriedolwyr, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad personol i sicrhau bod yr elusen yn cael ei rhedeg yn dda ac yn effeithlon.

    • Ystyried cael cyngor proffesiynol allanol ar bob mater lle gallai fod risg sylweddol i’r elusen, neu lle gall yr ymddiriedolwyr fod yn torri eu dyletswydda.

    Gellir gweld rhagor o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr ar wefan y Comisiwn Elusennol o dan “Yr Ymddiriedolwr Hanfodol”, www.gov.uk/government/publications/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3.

  • “ D a t h l u a d i o g e l u ’ r g o r f f e n n o l h e d d i w a r g y f e r c e n e d l a e t h a u ’ r d y f o d o l y f o r y ”

    10

    Ein Proses Ymgeisio a Dethol

    Os ydych chi’n teimlo y gallwch gynnig unrhyw rai o’r sgiliau a’r gwerthoedd rydyn ni’n chwilio amdanynt, byddwn ni’n croesawu eich cais.

    Cwblhewch y ffurflen ar-lein neu anfonwch eich CV a neges e-bost cysylltiedig at [email protected] erbyn y dyddiad cau, 18 Mehefin 2019.

    If you would like to discuss the position in more detail please email your contact details to [email protected] and request a call back.

    Mae crynodeb o’n hamserlenni recriwtio isod

    Dyddiad Cau hanner nos 18 Mehefin 2019

    Cynhelir cyfarfodydd

    gyda darpar aelodau’r

    Bwrdd

    week ending 5 Gorffennaf 2019