credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi...

12
Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i wireddu eu breuddwydion. a r d r a w s y b y d D w y l o

Upload: others

Post on 23-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i wireddu eu breuddwydion.

ar draws y bydDwylo

Page 2: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Croeso i

Mae 260 miliwn o blant yn parhau i golli allan ar addysg yn ein

byd!Mae’r adnodd ymarferol a

chyffrous hwn yn rhoi cyfle i fyfyrio ar yr hyn a olyga i fod yn

gymydog byd-eang.Trwy storïau a gweithgareddau,

archwiliwch rhai o’r heriau sy’n ei gwneud yn anodd i nifer o blant

gwblhau eu haddysg.

Dw

ylo ar draws y Byd!

Page 3: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Sefydlwch weithgaredd Cymuned Ymchwilio yn defnyddio’r lluniau ddaw gyda’r adnodd hwn neu fel cyflwyniad PwyntPwer. Lawr lwythwch y lluniau yn caid.org.uk/schools/

Gosod i fynyRhowch bob llun yng nghanol taflen fawr o bapur, y gall y disgyblion ysgrifennu arno. Rhannwch y dosbarth i grwpiau a rhowch lun i bob grŵp i’w ystyried.

• Be ydach chi’n sylwi arno?

• Be sy o ddiddordeb ichi?

• Be sy’n anodd ei ddeall?

• Be ydach chi’n ei hoffi?

• Pa gwestiynau ydach chi am eu gofyn?

Gall y plant ysgrifennu syniadau a chwestiynau o amgylch y llun. Fesul grŵp, gwahoddwch y plant i gerdded o amgylch y stafell yn ddistaw i edrych ar waith ei gilydd a’r sylwadau a wnaed.

TrafodwchBe sy’n gyffredin i bob llun?

Efallai y bydd y plant yn cynnig sawl ateb cywir. Rydym am iddynt ganolbwyntio ar un: maent oll yn cynnwys llun o ddwylo pobl.

Dywedwch wrth y plant fod y lluniau hyn am eu helpu i ddysgu am blant a phobl ifanc o amgylch y byd, ac i ystyried sut allent fod yn gymdogion byd-eang da.

Penderfynwch fel dosbarth ar y cwestiynau mwyaf diddorol i’w gofyn am bob llun.

Rhowch y lluniau ar fwrdd arddangos gyda rhai o’r cwestiynau ddewiswyd gan y plant.

Wrth ichi weithio trwy’r pecyn dros yr wythnos, ychwanegwch wybodaeth, myfyrdodau neu gwestiynau i’r arddangosfa.

Rhywbeth i feddwl amdanoUnai dangoswch lun agos o law ar fwrdd gwyn rhyngweithiol neu gofynnwch i bob plentyn greu eu llaw eu hunain neu fysbrint.

Edrychwch yn ofalus ar lun y llaw - oeddech chi’n gwybod fod gan bob person dynol fysbrint unigryw? Mae pob person dynol yn gwbl unigryw! Mae gan bob un ohonom, ble bynnag y cawsom ein geni, set wahanol o sgiliau, doniau a thalentau i’w rhannu gyda’n teulu, ffrindiau a chymuned. Onid ydi hynny’n rhyfeddol?

Rhowch gyfle i’r plant siarad am eu doniau a’u talentau eu hunain. Gadewch iddynt annog ei gilydd i enwi’r pethau hynny maent yn dda am eu gwneud. Os yw’r disgyblion wedi gwneud print llaw neu fys, gallent ychwanegu geiriau o amgylch y print ar y thema o ‘Dwi’n Rhyfeddol!’

Croeso i

Gweithgaredd i gychwyn

Dw

ylo ar draws y Byd!

Page 4: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar waith Cymorth Cristnogol a’i bartneriaid yn Sierra Leone. Gellid ei ddefnyddio fel canolbwynt Wythnos Cymorth Cristnogol. Mae adnodd Addoli ar y Cyd hefyd ar gael; gellid defnyddio hwn ar wahân neu gyda’r adnodd isod, os yw’n berthnasol i’ch ysgol.

Dangoswch sleid 1Tybed pwy sydd pia’r dwylo hyn? Tybed pam eu bod yn dal y babi? Tybed be mae’r bobl yn ei feddwl amdano? Efallai eu bod yn meddwl pa mor brydferth yw’r babi a pha mor arbennig ac unigryw yw pob babi newydd ei eni. Mae’n siŵr bod ganddynt obeithion ar gyfer dyfodol y babi. Pa bethau y tybiwch chi y maent yn ei obeithio amdano?

Rhowch gyfle iddynt rannu syniadau mewn parau ac yna rhannwch y syniadau. Gallai’r gobeithion fod yn iechyd da, cael ffrindiau, mynd i’r ysgol, datblygu doniau a diddordebau personol.

Fel chi a fi, mae’r babi hwn yn unigryw ac arbennig ac mae ganddo’r holl botensial y tu fewn iddo i ddatblygu sgiliau, doniau a thalentau. Mae gan bob babi a enir yn y byd y potensial arbennig ac unigryw hwn ynddynt - ond nid pob babi sy’n gwireddu’r posibiliadau unigryw hyn yn eu bywyd. Mewn rhai mannau yn y byd, mae rhwystrau sy’n ei wneud yn fwy anodd i blant wireddu eu breuddwydion.

Tybed allwch chi feddwl am rai o’r pethau sydd yn helpu person i ddatblygu eu sgiliau a’u talentau unigol? Rhannwch eich syniadau.

Un o’r ffyrdd pwysicaf i wneud hyn yw addysg a’r cyfle i fynd i’r ysgol yn ddiogel. Weithiau fyddwn ni ddim yn teimlo fel mynd i’r ysgol neu efallai nad ydym yn mwynhau’r pwnc yr ydym yn ei astudio. Ond yr ysgol yw un o’r prif ffyrdd y byddwn yn datblygu ein talentau a’n doniau unigryw – y pethau hynny sy’n ein gwneud yn bobl unigryw! Weithiau mae addysg yn trawsnewid ein bywyd pan fyddwn yn darganfod rhywbeth newydd y gallwn ei wneud neu ei

fwynhau; mae’n gwneud inni feddwl y gallwn fyw ein bywyd yn fwy llawn.

Mae arweinwyr y byd yn credu fod addysg yn bwysig hefyd - i’r graddau ag y bont wedi addo y bydd pob plentyn yn gallu mynd i ysgol gynradd ac uwchradd erbyn 2030 [Nod Datblygu Cynaliadwy Rhif 4]. Maent yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i addysg dda fel bod ganddynt gyfleoedd gwell mewn bywyd. Mae hynny’n cynnwys cyfleoedd gwaith fel oedolion, iechyd gwell a’r cyfle i gyfrannu i system wleidyddol eu cymuned.

Fodd bynnag, mae yna lawer o waith angen ei wneud i sicrhau’r nod hwn - ar draws y byd mae yna 260 miliwn o blant sy dal ddim yn cael addysg. Mae hynny’n llawer iawn o blant!

Dangoswch sleid 2Mae’n Wythnos Cymorth Cristnogol yr wythnos hon. Mae’n amser i ddysgu am bwysigrwydd addysg; i godi llais dros y miliynau o blant sy ddim yn cael addysg; ac i godi arian i gefnogi cymunedau er mwyn darparu addysg i bawb.

I ddeall mwy, rydym am gyfarfod Rejoice a Kadiatu o Sierra Leone, gwlad yng Ngorllewin Affrica.

Dangoswch sleid 3 Mae Rejoice yn 16 oed a Kadiatu yn 11. Mae Rejoice am fod yn gyfreithiwr pan mae wedi tyfu i fyny, ac mae Kadiatu am fod yn feddyg. Yn Sierra Leone mae’n beth cyffredin i enethod adael yr ysgol pan yn ifanc, sy’n golygu na allent gwblhau eu haddysg ac na allent wireddu eu breuddwydion. Mae hefyd yn gyffredin i fwy o fechgyn fynd i’r ysgol na genethod. Mae sawl rheswm dros hyn: ni all rhai teuluoedd fforddio i ddanfon eu genethod i’r ysgol, neu brynu gwisg ysgol na llyfrau; rhaid i rai genethod fynd allan i weithio er mwyn ennill arian i’r teulu; ac mae rhai genethod yn gorfod priodi yn ifanc iawn, sy’n golygu na allent fynd i’r ysgol na choleg.

Gwasanaeth

Page 5: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Dangoswch sleid 4Dyma Rejoice.

Pan oedd Rejoice yn fengach, anfonwyd hi i fyw ymhell o’i chartref. Yn hytrach na mynd i’r ysgol, roedd rhaid iddi weithio i ennill arian i’r teulu. Nid oedd yn cael ei thrin yn iawn ac ni allai fynd i’r ysgol:

‘Doeddwn i ddim yn hapus am y peth,’ meddai. ‘Roeddwn am fynd i’r ysgol.’

‘Gwelais blant fy oed i’n cael mynd i’r ysgol, ac roeddwn yn eu hedmygu.’

Gwnaeth Rejoice benderfyniad dewr a mynd i fynd i fyw gyda’i hewythr caredig, a’i hanogodd i fynd i’r ysgol.

Nawr, mae mewn dosbarth gyda phlant fengach na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu.

‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os caf addysg, bydd y dyfodol yn ddisgleiriach imi.’

Dangoswch sleid 5Dyma Kadiatu.

Mae Kadiatu yn 11 oed ac mae ganddi bedwar brawd a dwy chwaer. Ei hoff bwnc yn yr ysgol ydi gwyddoniaeth ac mae’n mwynhau chwarae peldroed, pêl fasged a sgipio gyda’i ffrindiau.

Mae’n credu ei bod yn bwysig i enethod fynd i’r ysgol fel eu bod yn cael gwireddu eu breuddwydion a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

‘Mae addysg yn bwysig iawn i enethod. Dylai pob rhiant anfon eu genethod i’r ysgol.’

Mae Kadiatu yn deffro am 5 o’r gloch y bore er mwyn bod yn barod mewn da bryd ar gyfer yr ysgol. Cyn iddi fynd yno, mae’n helpu gyda’r gwaith tŷ. Mae’r ysgol yn cychwyn am 7 o’r gloch ac yn gorffen am 2 y pnawn. Ar ôl ysgol, mae Kadiatu yn newid o’i gwisg ysgol, yn ei golchi yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf ac yna’n helpu paratoi pryd bwyd y teulu.

Fel Rejoice, mae Kadiatu’n credu bod addysg yn bwysig iawn. Dyma neges Kadiatu inni:

‘Fy neges yw ein bod ni am gael addysg hefyd. Gadewch iddyn nhw wybod ein bod ninnau yma hefyd. Cyfarchion fil.’

Dangoswch sleid 6Elusen yw Cymorth Cristnogol sy’n gweithio gyda chymunedau tlotaf y byd. Mae’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i sicrhau bod genethod fel Rejoice a Kadiatu yn cael mynd i’r ysgol a gwireddu eu breuddwydion. Er enghraifft, yn Sierra Leone, mae clybiau iechyd wedi eu sefydlu sy’n helpu genethod i siarad gyda’i gilydd ac annog ei gilydd i fynd i’r ysgol.

MyfyrdodDangoswch sleid 7Yn dawel, edrychwch ar y llun eto. Mae pob person dynol wedi ei eni gyda doniau a thalentau cudd sy’n dod i’r amlwg wrth iddynt dyfu a dysgu.

Pa bethau newydd ydych chi wedi ei ddysgu’r wythnos hon? Beth yw eich doniau a’ch talentau arbennig chi? Sut ydach chi’n ymateb wrth wybod bod llawer o blant yn cael eu hatal rhag mynd i’r ysgol a datblygu eu doniau a’u talentau unigryw? Allwch chi feddwl sut y gallem ni newid hyn? Oes yna ffyrdd y gallech chi sefyll ochr yn ochr, law yn llaw, gyda’ch cymdogion byd eang, a chodi llais dros bobl ifanc fel Rejoice a Kadiatu?

Gorffennwch trwy wylio ffilm Wythnos Cymorth Cristnogol, ‘Stori Kadiatu’.

Os yn ymarferol, pawb i afael llaw fel bod pawb yn gysylltiedig.

Gallwn afael dwylo gyda’n gilydd fel arwydd o gyfeillgarwch a bod yn gymuned. Ni allwn yn gorfforol afael dwylo gyda phlant o amgylch y byd, ond fe allwn ni ddangos ein cyfeillgarwch a’n cefnogaeth trwy ein geiriau a’n gweithredoedd.

Tybed sut allwn ni wneud gwahaniaeth i fywyd ein cymdogion byd-eang yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon?

Page 6: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Gall y syniadau hyn gael eu defnyddio ar y cyd gyda deunydd y Gwasanaeth neu fel Addoliad ar y Cyd ar wahân - unai yn y Cyfnod Allweddol neu grwpiau dosbarth, neu ar gyfer yr holl ysgol.

Dangoswch sleid 10Edrychwch ar y llun ar sgrin – neu ar eich dwylo eich hun.

Wyddoch chi?

• Mae gan bob person fysbrint unigryw.

• Gall ein dwylo addasu i wahanol dymheredd yn sydyn; maent wedi eu gorchuddio gyda gorchudd sy’n diogelu rhag dŵr - ein croen.

• Mae 27 asgwrn yn ein llaw fel arfer.

• Gall eich bawd weithio gyda phob bys i wneud tasgau anodd yn haws.

• Gallwn ddefnyddio ein dwylo i gyfathrebu

Dim ond un peth sy’n ein gwneud yn unigryw yw ein bysbrint. Edrychwch o amgylch yr ystafell ar bawb sydd yma. Rydym i gyd yn edrych yn wahanol - mae gan hyd yn oed efeilliaid wahaniaethau - ac mae gennym i gyd ddoniau a thalentau unigryw. Onid ydi hynny’n beth gwych!

I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r gred fod pob person yn unigryw a gwerthfawr yn bwysig iawn, a chaiff ei adlewyrchu yn y ffordd maent yn dewis byw eu bywyd.

Yr wythnos hon rydym yn meddwl am waith Cymorth Cristnogol. Elusen Gristnogol ydyw

sy’n codi llais dros a chefnogi rhai o gymunedau tlotaf y byd. I Gristnogion, mae’r gred bod pob person yn unigolyn a gwerthfawr yn bwysig iawn. Maent yn credu mai Duw sy wedi creu’r byd anhygoel hwn a bod gan bob person, sy’n werthfawr i Dduw, ei le ynddo. Mae sawl stori a geiriau yn y Beibl sy’n helpu Cristnogion i feddwl am hyn. Gwrandewch ar adnodau barddonol o’r Beibl sy’n ysbrydoli Cristnogion - mae un o’r adnodau hyn yn dod o gerdd gan y Brenin Dafydd ac mae’r llall yn cael ei lefaru gan un o bregethwyr amlwg y Beibl.

Dangoswch sleid 11Dw i’n dy foli di,

am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!

Mae’r cwbl rwyt ti’n wneud yn anhygoel!

Ti’n fy nabod i i’r dim!

Salm 139

Dangoswch sleid 12Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di,

yn rhoi cryfder i dy law dde di,

ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn.

Bydda i’n dy helpu di’

Eseia 41:13

Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo!

Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.

Eseia 49:16

Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda chymunedau ar draws y byd er mwyn i’r byd ddod yn le tecach ar gyfer pawb. Maent yn cynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth i lawer o bobl - nid jest Cristnogion, ond pobl o bob ffydd, hil a diwylliant.

Gall gwaith Cymorth Cristnogol ein helpu i feddwl am ffyrdd lle gallwn fod yn gymdogion byd-eang da, a chofio bod pob person yn unigryw ac yn werthfawr

Addoli ar y cyd

Mae’r adnodd hwn yn cael ei anfon at ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, ond bydd gan Gymru ei chyfarwyddid ei hun ar gyfer Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Os gwelwch yn dda, cyfeiriwch at y cyfarwyddid hwnnw ac addaswch yr adnodd hwn fel bo angen.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

caid.org.uk/schools/worshipguidance

Page 7: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

MyfyrdodEdrychwch o amgylch y stafell a sylwch ar y gwahanol bobl yn eich ysgol/dosbarth. Meddyliwch am un neu ddau a diolchwch am eu doniau a’u talentau arbennig. Rydan ni i gyd yn cael ein calonogi pan fo ffrind neu ofalwr yn dweud wrthym pam ein bod yn bwysig iddyn nhw, neu’n dweud wrthym be sy’n dda amdanom. Tybed, oes yna rywun y gallech chi eu calonogi heddiw? Ceisiwch gyfle’r wythnos hon i ddweud wrth un o’ch ffrindiau neu deulu pam eich bod yn credu eu bod yn arbennig.

Os yn addas: gwrandewch ar/canwch y gân: • ‘‘Written on the palm of God’s hand’.

Os yn bosibl, dysgwch y gân yn iaith arwyddo ac wedyn canwch ac arwyddwch hi: • fischy.com/songs/written-on-the-palm-of-gods-

hand/

Caneuon eraill sy’n bosibl:

• ‘He’s got the whole world in His hands’

• ‘The family of man’

• ‘If I had a hammer’

Gweler ‘The Complete Come and Praise’, BBC Active.

MyfyrdodGweddi Theresa Avila - dyma weddi hynafol iawn y gellid ei defnyddio fel myfyrdod. Ystyriwch y geiriau a pham eu bod yn gallu ysbrydoli Cristnogion i ddangos cariad a gofal am eu cymdogion byd-eang:

‘Nid oes gan Grist gorff ar y ddaear ond eich corff chi; ddim dwylo ond eich dwylo chi; ddim traed ond eich traed chi. Trwy eich llygaid chi y mae rhaid i drugaredd Crist edrych ar y byd. Gyda’ch traed chi y bydd yn teithio i wneud daioni. Gyda’ch dwylo chi y bydd yn bendithio ei bobl’

Gweddi opsiynol i gloiDduw Dad, helpa ni i gynnig llaw cyfeillgarwch a chefnogaeth i’n cymdogion byd-eang o amgylch y byd.

Amen.

Addoli ar y Cyd yn y dosbarth – MyfyrdodOs ydych yn defnyddio’r adnodd hwn ar gyfer addoli ar y cyd yn y dosbarth, gallech ddefnyddio gweithgaredd myfyriol.

Trwy ddefnyddio papur lliw, dylai’r plant dynnu llun eu dwy law ar y daflen (at yr arddwrn) a thorri o amgylch y siâp. Wrth iddynt wneud hynny, gofynnwch iddynt sut allent weithredu neu fynegi’n eiriol eu cyfeillgarwch a chefnogaeth i Kadiatu, Rejoice a’u cymdogion byd-eang. Efallai y gallent ysgrifennu gair neu neges ar y siâp. Gellid gludo, stwfflo neu dapio’r siâp llawia ar ddarn o linyn i wneud bynting, neu ei osod o amgylch glôb, neu fel poster.

Addysg grefyddol/moesol: ehangu’r themauWedi myfyrio ar unigrywedd pob person, treuliwch amser yn meddwl am bwysigrwydd cymuned a sut y gallwn i gyd gyd-weithio i adeiladu byd o heddwch a chyfiawnder i bawb:

• Trwy barhau gyda delwedd dwylo, trafodwch sut ydym yn defnyddio’n dwylo i gyfathrebu. Siaradwch am y ffordd y mae gwanahol gymunedau yn defnyddio dwylo i gyfarch ei gilydd a sut y gallwn ni ddefnyddio dwylo i gyfathrebu.

• Dysgwch sut mae breil ac iaith arwyddo’n gweithio.

• Gall pobl ddefnyddio eu dwylo er daioni (i helpu neu ddangos caredigrwydd) neu er drwg; i adeiladu neu i ddinistrio. Efallai y gellid astudio’r thema hwn trwy ddrama neu ddawns greadigol. Gallech ddefnyddio’r lluniau yn y pecyn fel man cychwyn trafodaeth.

• Gallwn ddefnyddio ein dwylo i greu gwaith celf hyfryd. Astudiwch waith un artist. Crewch waith celf trwy ddefnyddio pensil, paent, pastel, clai neu nwyddau wedi eu hailgylchu.

• Edrychwch ar waith celf Esref Armagan, artist o Twrci, sydd, er wedi ei eni’n ddall, yn defnyddio’i ddwylo i baentio lluniau hyfryd esrefarmagan.com/

• Os oes gennych fynediad at arteffact ‘Cylch ffrindiau’ terra cota, trafodwch ei symbolaeth a sut mae’n dathlu rhannu cyfeillgarwch. Defnyddiwch gannwyll batri i ddangos sut mae’n gweithio. Defnyddiwch ef yn ystod amser cylch i rannu agweddau o ddydd yr ysgol yr ydych am ei ddathlu gyda’ch gilydd

Page 8: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Rhwystrau i addysgRas rwystrauRhannwch y plant i dimau a threfnwch sawl ras i bob tîm gystadlu ynddynt.

Gwnewch y ras gyntaf yn ras redeg syml ond yna dilynwch hyn gyda dwy ras sy’n cynnwys gorfod delio gyda rhwystrau neu stopio er mwyn cyflawni tasg.

Trafodaeth Eisteddwch mewn cylch a thrafodwch pa ras oedd yr hawsaf i’w hennill neu i gystadlu ynddi. Eglurwch fod y cyfle i fynd i’r ysgol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd yn llawn rhwystrau a heriau i nifer o bobl ifanc yn y byd. Mae’r rhwystrau hyn yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i ddysgu.

Nawr rhannwch syniadau a gwnewch fap-meddwl o’r hyn sydd ei angen i sicrhau fod pob plentyn yn cael addysg ddiogel - meddyliwch am gyfleusterau’r ysgol, iechyd personol, cefnogaeth teulu, a heddwch. Trafodwch sut y gallech godi llais neu weithredu dros bobl ifanc ym mhob man er mwyn iddynt gael addysg.

Tasg dylunio Trefnwch y disgyblion i grwpiau a rhowch rhwng un a thair astudiaeth achos i bob grŵp i ddarllen am blant yn byw yn Sierra Leone – gallent hefyd edrych ar y cyflwyniad PwyntPwer neu’r ffilm eto.

Y disgyblion i ddarllen yr adnodd ac i nodi rhwystrau i addysg – tanlinellwch y rhain ar y taflenni astudiaeth achos neu ysgrifennwch/darluniwch esiamplau ar ddarnau o gerdyn.

Gofynnwch i bob grŵp unai i ddylunio gêm i helpu pobl i ddeall mwy am beth yw’r rhwystrau, neu canfyddwch ffordd arall o gyflwyno’r wybodaeth. Rhannwch eich dysg gyda dosbarth arall neu fel cyflwyniad i rieni/gofalwyr.

• Ceisiwch greu ras gyfnewid ble mae’r plant yn cario sawl potel lefrith wedi eu selio (gallent fod yn wag neu’n llawn dŵr hefyd), peli troed neu hula hoops o amgylch y cwrs.

• Hanner ffordd trwy’r ras mae angen iddynt stopio er mwyn codi eitem ysgol angenrheidiol, fel bag, neu nifer o lyfrau, neu eitem o wisg ysgol.

• Rhaid i’r enillydd gario’r poteli llefrith dros y llinell derfyn

• Pwrpas y gweithgaredd agoriadol hwn yw meddwl am y rhwystrau sydd i lwyddiant.

• Dilynir y ras gyda thrafodaeth sy’n tanlinellu’r heriau y mae sawl disgybl yn ei wynebu er mwyn mynd i’r ysgol a chwblhau eu haddysg.

Byddai’r adnoddau a’r weithred ymgyrchu sydd wedi eu cynhyrchu gan ‘Send my Friend to School’ yn ychwanegiad da ar gyfer y dasg hon. Mae gan y wefan sendmyfriend.org sawl stori go iawn am blant mewn gwahanol rannu o’r byd, y gellid eu defnyddio yn y dasg hon.

Page 9: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Ysgol yn Sierra LeoneYn Sierra Leone, mae’n gyffredin i enethod adael yr ysgol pan yn ifanc.

Golyga hyn nad ydynt yn gallu cwblhau eu haddysg a gwireddu eu breuddwydion na’u potensial.

Mae’n fwy cyffredin i fechgyn i fynd i’r ysgol na genethod.

Mae sawl rheswm am hyn:

• ni all rai teuluoedd fforddio i anfon eu genethod i’r ysgol, i brynu gwisg ysgol a llyfrau

• mae rhai genethod yn gorfod gweithio er mwyn ennill arian i’w teulu

• mae rhai genethod yn cael eu priodi yn ifanc iawn, sy’n golygu na allent fynd i’r ysgol na choleg.

Dyma KadiatuMae Kadiatu yn 11 oed ac mae ganddi bedwar brawd a dwy chwaer. Ei hoff bwnc yn yr ysgol ydi gwyddoniaeth ac mae’n mwynhau chwarae peldroed, pêl fasged a sgipio gyda’i ffrindiau. Mae am fod yn feddyg pan fydd wedi tyfu i fyny.

Mae’n credu ei fod yn bwysig i enethod fynd i’r ysgol, fel eu bod yn gallu gwireddu eu breuddwydion a gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Mae Kadiatu yn deffro am 5 o’r gloch y bore er mwyn bod yn barod mewn da bryd ar gyfer yr ysgol. Cyn iddi fynd yno, mae’n helpu gyda’r gwaith tŷ. Mae’r ysgol yn cychwyn am 7 o’r gloch ac yn gorffen am 2 y pnawn. Ar ôl ysgol, mae Kadiatu yn newid o’i gwisg ysgol, yn ei golchi yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf ac yna’n helpu paratoi pryd bwyd y teulu. Mae’n mynd i’r gwely am 7 yr hwyr.

‘Mae addysg yn bwysig iawn i enethod. Dylai pob rhiant anfon eu genethod i’r ysgol.’

• Gellid lawr lwytho storïau Kadiatu, Rejoice a Patricia a’u hargraffu neu ddefnyddio’r PDFs ar eich bwrdd gwyn rhyngweithiol. caid.org.uk/schools/

Page 10: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Dyma RejoiceMae Rejoice yn 16 oed. Mae am fod yn gyfreithiwr pan mae wedi tyfu i fyny.

‘Mae’r ysgol yn dda,’ meddai. ‘Os wyf wedi cael addysg, bydd y dyfodol yn ddisglair imi.’

Pan oedd Rejoice yn fengach, cafodd ei hanfon i fyw ymhell o’i chartref. Yn lle mynd i’r ysgol, roedd raid iddi weithio er mwyn cael arian i’w theulu. Cafodd ei thrin yn annheg ac ni chai fynd i’r ysgol.

‘Doeddwn i ddim yn hapus am y peth,’ meddai. ‘Roeddwn am gael mynd i’r ysgol.’

‘Gwelwn blant fy oedran i mynd i’r ysgol, ac roeddwn yn eu hedmygu.’

Gwnaeth Rejoice benderfyniad dewr a mynd i fyw gydag ewyrth caredig a’i hanogodd i fynd i’r ysgol.

Dyma PatriciaMae Patricia yn 12 oed a hi yw’r ieuengaf o wyth o frodyr a chwiorydd.

Mae’r tir o amgylch ei thref yn ddelfrydol i’w ffermio - ond ni all llawer o bobl yno dyfu digon i’w fwyta. Yn rhannol, y rheswm dros hyn yw bod Sierra Leone yn dod dros ryfel cartref.

Cafodd llawer o bobl eu lladd; a bu raid i lawer mwy redeg i ffwrdd. Gorffennodd y rhyfel yn 2002, ond mae wedi cymryd amser hir i adfer y tai a’r tir ffermio - ac i adfer yr ymddiriedaeth rhwng pobl oedd yn rhan o’r ymladd.

Yn nhref Patricia, mae pwyllgor datblygu yn gofalu fod pobl yn gweithio gyda’i gilydd. Mae rhaid i’r pwyllgor wrando ar bawb, yn cynnwys pobl ifanc.

Mae Patricia’n gwybod yn union beth mae hi eisiau. Mae’n astudio fel y caiff hi un diwrnod fod yn arlywydd benywaidd cyntaf ei gwlad.

Meddai, ‘Byddwn yn teimlo mor falch. Rydw i isio darllen digon fel y bydd gen i’r gallu i fod yn arlywydd.’

Mae pobl gyda chynlluniau mawr angen llawer o egni a rhywle i astudio. Felly mae tyfu digon o fwyd i bawb yn bwysig. Mae’r dref angen ysgol newydd hefyd. Nid yw’r un bresennol yn ddiogel: mae craciau yn y muriau, mae’r nenfwd yn syrthio i lawr, ac mae pryfed bach yn nythu yn y dosbarth!

Gweithgarwch Cymuned Ymchwilio

Caiff y pwyllgor gefnogaeth gan un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, sy’n rhoi offer i ailadeiladu’r ysgol. Mae Patricia’n gyffrous

‘Rydym i gyd yn hapus fod y to yn newydd, fel na fydd y glaw yn disgyn ar ein llyfrau.’ Mae ganddi fwy o gynlluniau: ‘Rydan ni angen band ysgol nesaf!’

Mae mwy o wybodaeth am Patricia a’i ffrindiau ar gael yn:

christianaid.org.uk/schools/global-explorers

Page 11: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

Cefnogi addysg dinasyddiaeth fyd-eang:

Gellid cael copïau ychwanegol o’r lluniau hyn trwy eu lawr lwytho o: caid.org.uk/caw19/schools

Gweithgarwch Cymuned Ymchwilio

Dilynwch ni ar Facebook:CAIDSchools

Ar gyfer mwy o adnoddau ysgol ewch i:

christianaid.org.uk/schools

Page 12: Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i ddysgu, ac i ......na hi, ond does dim ots ganddi oherwydd ei bod am ddysgu. ‘Mae ysgol yn dda,’ meddai, gyda gwen fawr. ‘Os

ar draws y bydDwylo

Syniadau codi arian

Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Argraffwyd yn llwyr ar ddeunydd wedi tarddu o fforestydd a reolir yn gyfrifol. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. © Cymorth Cristnogol Chwefror 2019. Lluniau: Cymorth Cristnogol/ Tom Pilston ac Adam Finch

Yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon, gallai eich rhodd chi helpu anfon genethod fel Kadiatu a Rejoice i’r ysgol

Gallai eich rhodd wella hylendid, fel y gall plant ymladd salwch a chadw’n iach.

Mae Wythnos Cymorth Cristnogol o 12-18 Mai 2019, ond gallwch gynnal digwyddiad y tu allan i’r dyddiadau hyn hefyd.

Allwch chi gynnal Brecwast Mawr neu godi arian i helpu eich cymdogion byd-eang? Mae’n hawdd i’w wneud - cynhaliwch ddigwyddiad ar thema Cymorth Cristnogol a chyfrannwch yr hyn gasglwyd

Ewch i caweek.org a caweek.org/brekkie i ddarganfod mwy ac i lawr lwytho adnoddau codi arian am ddim.

£2gallai brynu

llyfr ysgol

£8 gallai brynugwisg ysgol

£7gallaibrynu bag ysgol

£80gallai brynu 10 gwisg ysgol i 10 geneth

£3gallai brynubwced golchi dwylo

20p gallai brynusebon golchi dwylo

F10036E