ctbi – more together less apart  · web view2020-02-04 · thou whose almighty word. word that...

71
Agor yr Ysgrythurau Rhagarweiniad ‘Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro’r Ysgrythurau inni?’ (Luc 24.32) Beth yw’r rhannau o’r Beibl sy’n rhoi eich calon ar dân? Pa adnodau, darnau neu storïau yn yr Ysgrythur sy’n gwneud i’ch calon losgi o’ch mewn? Mae hanes y ddau ddisgybl yn cyfarfod yr Iesu atgyfodedig ar y ffordd i Emaus (Luc 24.13-35) ei hun yn un o’u hoff hanesion yn yr Ysgrythurau Cristnogol i lawer. Cafodd yr hanes ei ddisgrifio fel ‘dameg am fywyd yr Eglwys ar ôl y Pasg, yn cerdded gyda Christ ar hyd heol hir hanes gan ei adnabod yn y Gair ac yn nhoriad y bara’. 1 Gallwn edrych arno fel microcosm o fywyd pob Cristion unigol. Mae’r hanes yn llefaru wrthym mewn cymaint o ffyrdd: ynghylch llawenydd a galar, gorfoledd a blinder, methiant a llwyddiant, ynghylch cofio’r gorffennol a gobeithio i’r dyfodol. Mae’n ein denu drwy ei ddieithrwch a’i ymdeimlad o’r dwyfol, ond eto daw’r uchafbwynt o ganlyniad i gynnig lletygarwch a chroeso mewn modd syml ac ymarferol i ddieithryn dirgelaidd. Mae’n codi cwestiynau ynghylch dioddefaint a marwolaeth, y cwestiynau dyrys ac oesol hynny sydd wedi bod yn ganolog i fodolaeth ac i ysbrydolrwydd bodau dynol fyth ers i ni ddechrau meddwl am y materion hynny o gwbl. Mae’n ein hannog i droedio’n feddylgar drwy hanes perthynas Duw â phobl Dduw yn yr Hen Destament fel y gallwn ddechrau agor cil y drws ar rym trawsffurfiol yr Atgyfodiad. Bydd y cwrs astudio hwn ar gyfer y Grawys hefyd yn cynnwys myfyrdod y gellid ei ddefnyddio yn ystod yr Wythnos Fawr ac yna’n parhau gyda myfyrdod ar gyfer yr wythnos ar ôl y Pasg, pryd y byddwn yn ystyried yn fwy manwl y profiad hollbwysig a gafwyd o’r Atgyfodiad ar y Ffordd i Emaus, gan ddefnyddio’r hanes hwnnw i’n cynorthwyo i gydblethu’r holl agweddau y byddwn wedi bod yn eu hystyried dryw bum wythnos y Grawys. Ond y cwestiwn y mae’r ddau ddisgybl yn ei ofyn iddynt eu hunain pan maent yn sylweddoli iddynt fod yng nghwmni’r Arglwydd atgyfodedig, ‘Onid oedd ein calonnau ar dân ynom?’ hefyd yw’r cwestiwn sydd yn ganolog i’r cwrs yn ei gyfanrwydd. Mae’n arwyddocaol mai ymateb llafar uniongyrchol y disgyblion pan agorir 1 Maria Boulding, Gateway to Resurrection, t45

Upload: others

Post on 05-Jul-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Agor yr Ysgrythurau

Rhagarweiniad

‘Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro’r Ysgrythurau inni?’ (Luc 24.32)

Beth yw’r rhannau o’r Beibl sy’n rhoi eich calon ar dân? Pa adnodau, darnau neu storïau yn yr Ysgrythur sy’n gwneud i’ch calon losgi o’ch mewn?

Mae hanes y ddau ddisgybl yn cyfarfod yr Iesu atgyfodedig ar y ffordd i Emaus (Luc 24.13-35) ei hun yn un o’u hoff hanesion yn yr Ysgrythurau Cristnogol i lawer. Cafodd yr hanes ei ddisgrifio fel ‘dameg am fywyd yr Eglwys ar ôl y Pasg, yn cerdded gyda Christ ar hyd heol hir hanes gan ei adnabod yn y Gair ac yn nhoriad y bara’.1 Gallwn edrych arno fel microcosm o fywyd pob Cristion unigol. Mae’r hanes yn llefaru wrthym mewn cymaint o ffyrdd: ynghylch llawenydd a galar, gorfoledd a blinder, methiant a llwyddiant, ynghylch cofio’r gorffennol a gobeithio i’r dyfodol. Mae’n ein denu drwy ei ddieithrwch a’i ymdeimlad o’r dwyfol, ond eto daw’r uchafbwynt o ganlyniad i gynnig lletygarwch a chroeso mewn modd syml ac ymarferol i ddieithryn dirgelaidd. Mae’n codi cwestiynau ynghylch dioddefaint a marwolaeth, y cwestiynau dyrys ac oesol hynny sydd wedi bod yn ganolog i fodolaeth ac i ysbrydolrwydd bodau dynol fyth ers i ni ddechrau meddwl am y materion hynny o gwbl. Mae’n ein hannog i droedio’n feddylgar drwy hanes perthynas Duw â phobl Dduw yn yr Hen Destament fel y gallwn ddechrau agor cil y drws ar rym trawsffurfiol yr Atgyfodiad. Bydd y cwrs astudio hwn ar gyfer y Grawys hefyd yn cynnwys myfyrdod y gellid ei ddefnyddio yn ystod yr Wythnos Fawr ac yna’n parhau gyda myfyrdod ar gyfer yr wythnos ar ôl y Pasg, pryd y byddwn yn ystyried yn fwy manwl y profiad hollbwysig a gafwyd o’r Atgyfodiad ar y Ffordd i Emaus, gan ddefnyddio’r hanes hwnnw i’n cynorthwyo i gydblethu’r holl agweddau y byddwn wedi bod yn eu hystyried dryw bum wythnos y Grawys.

Ond y cwestiwn y mae’r ddau ddisgybl yn ei ofyn iddynt eu hunain pan maent yn sylweddoli iddynt fod yng nghwmni’r Arglwydd atgyfodedig, ‘Onid oedd ein calonnau ar dân ynom?’ hefyd yw’r cwestiwn sydd yn ganolog i’r cwrs yn ei gyfanrwydd. Mae’n arwyddocaol mai ymateb llafar uniongyrchol y disgyblion pan agorir eu llygaid yw myfyrio ynghylch Iesu Grist fel dehonglwr yr Ysgrythur ac fel ei ddehongliad. Mae’r Gair a’r geiriau’n sefyll ynghyd.

Dynodwyd 2020 yn ‘Flwyddyn y Gair’ mewn nifer o eglwysi a chyrff eglwysig ym Mhrydain ac Iwerddon. Bydd pwyslais ar ‘Y Duw sy’n Llefaru’ â ni drwy’r Beibl. Mae’r cwrs o fwriad yn cadw hynny mewn cof wrth geisio annog cyfranogwyr i ddarganfod y Beibl â’u ‘calonnau’ yn ogystal â’u meddyliau, eu heneidiau a’u nerth. Gall yr Ysgrythur, yn enwedig pan fyddwn yn ei ddarllen â’n calonnau ar dân, gynnig cyfres o byrth hollbwysig ar gyfer archwilio’r themâu mawrion a’r agweddau gwahanol ond plethedig ar y berthynas rhwng Duw a bodau dynol, gan dynnu’r cortynnau ynghyd gyda’r posibilrwydd y cawn ninnau ein trawsffurfio a’n gweddnewid. I’r rhai ohonom sy’n ein galw ein hunain yn Gristnogion, daw’r berthynas honno rhwng y dwyfol a’r dynol i’w hanterth yn nigwyddiadau tymor y Dioddefaint a’r Pasg. Felly byddwn o fwriad yn canolbwyntio ar nifer o rannau o’r Ysgrythur sy’n rhoi ‘calonnau ar dân’, gan brofi hefyd gerddoriaeth, celf a barddoniaeth ar ein taith drwy’r Grawys i mewn i galon cariad Duw.2 Bob wythnos drwy’r Grawys byddwn yn cychwyn drwy archwilio darn o’r Hen Destament – oherwydd, wrth gwrs, mai dehongli Ysgrythurau o’r hyn rydym ninnau Gristnogion yn ei alw yr Hen Destament a arweiniodd at roi’r calonnau hynny ar dân ar y Ffordd i Emaus. Daw’r testunau craidd o un ai Genesis neu Exodus – sy’n addas gan mai

1 Maria Boulding, Gateway to Resurrection, t452 Diffiniad o fod yn ddisgybl a welwyd ar wefan ‘Fresh Expressions’ gynt oedd ‘Taith i mewn i galon cariad Duw.’

Page 2: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

dyna’r llyfrau cyntaf a welwn pan fyddwn yn llythrennol yn ‘agor yr Ysgrythurau’. Ond byddwn hefyd yn dilyn hynny drwy dynnu sylw at rannau o’r Testament Newydd sy’n cydweddu â’r thema ar gyfer yr wythnos. Dewiswyd y testunau craidd oherwydd eu bod yn adlewyrchu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, themâu a motiffau sylfaenol y Beibl – sydd hefyd yn cael eu hadleisio yn hanes Emaus.

Fel rhan o’n gwaith paratoadol, gofynasom i nifer o gyfeillion o Gristnogion, o wahanol gefndiroedd o safbwynt eglwysig a bywyd yn gyffredinol, pa adnod neu adran neu stori yn y Beibl oedd yn rhoi eu calon ar dân. Bu’r ymatebion yn hynod ddiddorol. Weithiau roedd pobl am esbonio pam fod y testun mor bwysig iddynt. Weithiau dim ond cyfeirio at y darn o’r Ysgrythur ei hun a wnaethant. Rydym yn cynnwys nifer o’r ymatebion hyn yn y deunydd sy’n dilyn. Awgrymwn y gallech chithau efallai ddymuno ystyried y cwestiwn hwnnw hefyd yn eich grwpiau astudio o wythnos i wythnos. O ail sesiwn y cwrs ymlaen cynhwysir cyfle i wahodd dau o bobl ar bob achlysur i rannu ynghylch pa ddarn o’r Beibl sy’n llefaru wrthynt hwy mewn ffordd arbennig o rymus a phersonol. Gall ymateb i’r cwestiwn wneud i bobl deimlo’n eithaf bregus, gan eu bod yn cael eu hannog i ddatguddio rhywbeth sydd yn eithaf dwfn o’u mewn. Felly mae’n bwysig gwahodd pobl i rannu mewn ffordd sensitif yn hytrach na mewn ffordd a allai eu rhoi dan unrhyw fath o bwysau, ac efallai gadael i bobl sy’n fwy cyffyrddus â chwestiwn o’r fath ymateb gyntaf.

Un peth a ddaeth yn amlwg iawn wrth ysgrifennu’r cwrs hwn oedd ei bod yn amhosibl gwahanu’n daclus oddi wrth ei gilydd y gwahanol themâu a motiffau Beiblaidd y byddwn yn ymdrin â hwy. Er enghraifft, er bod pwyslais arbennig ar ‘gariad’ yn Wythnos Pump, mae’r deunydd hefyd yn cydweddu â syniadau a delweddau sy’n cael eu harchwilio ym mhob un o’r wythnosau eraill. Efallai mai un o’r pethau a ddysgwn o’r cwrs yw’r ffordd na ellir deall y pwysleisiau gwahanol yn yr Ysgrythurau ar wahân i’w gilydd. Yn wir, mae’r myfyrdod a gynigir ar gyfer yr Wythnos Fawr (i’w ddefnyddio gan unigolion neu grwpiau) yn awgrymu bod cyswllt sylfaenol rhwng plethu’r gwahanol elfennau hyn ynghyd ag ystyr dioddefaint Iesu Grist.

Man cychwyn y cwrs hwn yw hanes taith Iesu i Emaus. Dyna hefyd fydd man terfyn y cwrs wrth iddo ddiweddu drwy ddychwelyd at yr hanes hwnnw yn ystod yr wythnos ar ôl y Pasg. Wrth baratoi i ddilyn y cwrs (neu fel rhan o Wythnos Un) gall fod yn fuddiol i bobl ddarllen drwy’r darn hwnnw o’r Beibl (Luc 24.13-35), y testun a fu mewn difrif yn ysbrydoliaeth ar gyfer Cwrs Grawys Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon am eleni.

Defnyddio’r deunyddiau bob wythnos

Gobeithiwn y bydd amrywiaeth eang o grwpiau mewn nifer o gyd-destunau gwahanol yn dilyn y cwrs. Gyda hynny mewn golwg, cynigir ar gyfer pob wythnos fwy o ddeunydd nag y bydd ei angen yn ôl pob tebyg ar unrhyw un grŵp. ‘Craidd’ y deunydd yw’r anogaeth bob wythnos i archwilio un darn allweddol o’r Ysgrythur a ddewiswyd oherwydd ei fod yn destun a all roi ‘calonnau ar dân’ ac oherwydd ei bwysigrwydd fel rhan o hanes ein ffydd yn y Beibl. I gynorthwyo gyda’r myfyrio hwnnw, dewiswyd llun ar gyfer pob wythnos – pob un yn wahanol o safbwynt arddull celfyddydol. Gyda’i gilydd, bydd y lluniau’n cynrychioli ystod o ddiwylliannau a mynegiannau crefyddol. Cynigir trafodaeth gychwynnol ar y deunydd Beiblaidd y gellir, yn dibynnu ar natur y grŵp, un ai gael ei gyflwyno gan arweinydd y grŵp a fydd wedi ei astudio ymlaen llaw ac a fydd yn rhannu ei syniadau yn ei (g)eiriau ei hun, neu ei ystyried gan y grŵp cyfan. ‘Craidd’ y deunydd yw darllen y testun Ysgrythurol, ystyried y myfyrdod Beiblaidd a gynhwysir, trafod y cwestiynau sy’n codi ohono ac annog y cyfranogwyr i rannu’r hoff destunau hynny a roes eu calonnau hwythau ar dân.

Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd llawer o grwpiau am fynd ymhellach. Bu’r Beibl a themâu Beiblaidd yn ysbrydoliaeth i lawer o awduron a cherddorion dros y canrifoedd. Felly bob wythnos, byddwn hefyd yn cynnig ‘geiriau’ a ‘cherddoriaeth’ sy’n gysylltiedig â ffocws yr wythnos honno ac sydd hefyd yn gallu eu hunain ysbrydoli a rhoi calonnau ar dân. Cynigir ystod eang o eiriau a cherddoriaeth

Page 3: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

mewn sawl iaith: ni fwriedir (a hynny’n sicr ddim yn achos y gerddoriaeth) y dylai pob grŵp ddefnyddio popeth bob wythnos: dylai pwy bynnag sy’n arwain y grŵp am yr wythnos ddewis un neu ddau o enghreifftiau a fydd o gymorth yng nghyd-destun y grŵp, er ein bod hefyd yn gobeithio y gallech ddarganfod ambell drysor sy’n newydd i chi. Nodir rhif yr emynau yn y llyfr emynau rhyngenwadol, Caneuon Ffydd, a lle bynnag roedd hynny’n bosibl rydym wedi cynnwys dolen i eiriau’r gân neu’r emyn ar y we. Rydym hefyd wedi cynnwys nifer o ddolenni at berfformiadau arbennig o brydferth o’r gerddoriaeth sydd ar gael ar y we ac sydd yn werth chweil gwrando arnynt. Felly ni fydd o reidrwydd angen cerddor ac offeryn arnoch i wneud y gorau o’r awgrymiadau cerddorol – bydd gliniadur gyda chyswllt rhyngrwyd yn ddigon.

Er y cynigir sawl cwestiwn i’w trafod bob wythnos, mae’n debygol y bydd cwestiynau a phynciau i’w trafod yn codi drwy i bobl rannu eu hoff ddarnau o’r Beibl, neu ar ôl gwrando ar rai o’r geiriau a’r darnau cerddoriaeth a gynigir. Gorau oll! Nid yw’n fwriad o gwbl bod angen i bob grŵp wneud na defnyddio popeth bob wythnos.

Fe ddaw’r dyfyniadau Ysgrythurol o’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) 2004. Fodd bynnag, gall fod o gymorth mawr os bydd aelodau’r grŵp yn dod ag amrywiaeth o gyfieithiadau Cymraeg a Saesneg gan y gall hynny weithiau gynorthwyo pobl i ddarganfod ffyrdd newydd a gwahanol o edrych ar y testun Beiblaidd. Felly anogwch, da chwi, bobl i ddod â pha bynnag fersiwn o’r Beibl maent fwyaf cyffyrddus yn ei defnyddio.

Hoffwn ddiolch i sawl un a fu’n cynorthwyo wrth i mi weithio ar y deunyddiau hyn: uwch-aelodau staff Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, a fu’n ddigon dewr i ofyn i mi ysgrifennu’r cwrs hwn; Jonty Brawn, intern yn yr Esgobaeth yn Ewrop 2018-2019, a ysbrydolodd y syniad o seilio’r cwrs ar yr elfennau yn y Beibl all roi ‘calonnau ar dân’ ac ar hanes y Ffordd i Emaus; fy ffrindiau ar Facebook a ymatebodd i’m cwestiwn ynghylch pa ddarnau o’r Beibl a oedd yn rhoi eu calonnau hwythau ar dân, neu a awgrymodd ddarnau o gerddoriaeth nad oeddwn innau’n ymwybodol ohonynt; y rhai, megis yr Esgob Michael Ipgrave, y Canon Alan Amos ac eraill a fu’n darllen drafftiau blaenorol ac yn cynnig sylwadau arnynt. Bu’n fraint gweithio ar y deunyddiau hyn a darganfod wrth wneud hynny syniadau, cerddoriaeth a geiriau sydd wedi fy ysbrydoli ac wedi agor fy llygaid innau.

Teimlodd Clare Amos, a ysgrifennodd y Cwrs Grawys hwn ar wahoddiad Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, yr Ysgrythur yn rhoi ei chalon hithau ‘ar dân’ am y tro cyntaf flynyddoedd lawer yn ôl. Ar ôl astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt cafodd y fraint o dreulio dwy flynedd yn astudio yn yr École Biblique et Archéologique Francaise yn Jerwsalem. Yn Anglican o safbwynt ei chefndir eglwysig bu Clare yn ddigon ffodus i ennill ysgoloriaeth eciwmenaidd i astudio yn yr École Biblique, sefydliad a gyfrannodd yn sylweddol at ddatblygiad ysgolheictod Beiblaidd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Rhoes ei chyfnod yn yr École Biblique Clare ar gychwyn llwybr bywyd sydd wedi cynnwys addysgu astudiaethau Beiblaidd yn Jerwsalem, Beirut, Caergrawnt, De Llundain a Swydd Caint a bod yn ddarlithydd gwadd yn Affrica, Asia, Awstralia ac America. Yn ogystal, fe ysgogodd ynddi ymrwymiad oes i’r Dwyrain Canol, i’r Eglwys Fyd-eang ac i eciwmeniaeth. Mae ei gyrfa wedi cynnwys cyfnodau’n gweithio i Eglwys Fethodistaidd Prydain ac i Ffederasiwn Diwinyddol Eciwmenaidd Caergrawnt. Ei swydd amser llawn olaf cyn ymddeol yn 2018 oedd bod yn gyfrifol am y ddesg ryng-grefyddol yng Nghyngor Eglwysi’r Byd yng Ngenefa. Yn 2012 anrhydeddwyd Clare â Doethuriaeth Lambeth mewn Diwinyddiaeth gan yr Archesgob Rowan Williams. Roedd y dysteb ar yr achlysur hwnnw’n nodi ymroddiad Clare i rannu ffrwythau ysgolheictod Beiblaidd mor eang ag y gallai ymysg pobl Dduw, sef yr hyn mae’r Cwrs Grawys hwn yn amcanu ei wneud.

Page 4: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Wythnos Un: Y Tân a’r Enw

Darlleniad Craidd: Exodus 3.1-15Mae ein hymchwiliad i thema ‘calonnau ar dân’ yn dechrau mewn modd addas drwy edrych yn y sesiwn hon ar y darn hwn o’r Beibl, sy’n ganolog i hanes ein hiachawdwriaeth, lle datguddir Duw drwy ‘dân’. Byddwn yn myfyrio hefyd ar enw dirgel Duw, a ddatguddir yn yr un bennod o lyfr Exodus. Mae’r tân a’r enw ill dau yn ein hysgogi i ystyried ‘sancteiddrwydd’ Duw a’r modd na ellir rheoli Duw.

SymbolCannwyll neu fflam o fath arall.

Myfyrdod agoriadolOs na fydd y tân yn cynnau’r llygadni welir y Duwdod.

Os na fydd y tân yn cynnau’r glustni chlywir y Duwdod.

Os na fydd y tân yn cynnau’r tafodni enwir y Duwdod.

Os na fydd y tân yn cynnau’r galonni cherir y Duwdod.

Os na fydd y tân yn cynnau’r meddwlni adwaenir y Duwdod.

(Cyfieithiad o waith William Blake)

Man cychwynBeth mae’n ei olygu bod ‘eich calon ar dân ynoch’? Efallai mai ond wrth reddf y teimlwn hynny yn hytrach nag o ystyried yn ymwybodol. A ydych yn barod i rannu o fewn y grŵp ystyr yr ymadrodd hwnnw i chi? A ydych erioed wedi profi teimlad o’r fath? Beth achosodd hynny? Nid oes unrhyw un ateb cywir! Weithiau gall yr agweddau symlaf (ond pwysig, serch hynny) ar y bywyd dynol ennyn ymateb o’r fath. Genedigaeth baban hir-ddisgwyliedig? Ailddarganfod cyfeillion coll? Profiad o addoli arbennig o rymus? Cân a ganwyd ag angerdd?

Dyma ddwy enghraifft fer dra gwahanol o deimladau felly – un enghraifft ddylanwadol o orffennol Cristnogaeth ac un arall sy’n llawer mwy diweddar:

Ar 24 Mai 1738, aeth John Wesley i gyfarfod o Gristnogion Morafaidd yn Aldersgate, Llundain. Darllenodd rhywun o Ragair Luther i’r Epistol at y Rhufeiniad. Tua chwarter i naw yr hwyr ‘wrth iddo ddisgrifio’r newid a weithia Duw yn y galon drwy ffydd yng Nghrist, teimlais gynhesrwydd rhyfedd yn fy nghalon. Teimlais fy mod wir yn ymddiried yng Nghrist, a Christ yn unig, am fy iachawdwriaeth; a rhoddwyd sicrwydd i mi ei fod wedi cymryd ymaith fy mhechodau, hyd yn oed fy mhechodau innau, ac wedi fy achub oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.’ Ystyriai Wesley mai dyna’r trobwynt tyngedfennol yn ei fywyd, a chafodd y profiad ddylanwad dwys ar ei weinidogaeth ddilynol.

Pan fyddwn fel tiwtor mewn coleg diwinyddol yn cyfweld ymgeiswyr ar gyfer dod i astudio yno, arferwn ofyn, ‘Beth sy’n eich cyffwrdd chi?’. Nod y cwestiwn oedd cynorthwyo i ganfod yr unigolyn gwirioneddol o dan y ddelwedd y gallai ymgeisydd fod wedi ei mabwysiadu’n ofalus ar gyfer y cyfweliad. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach,

Page 5: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

rwy’n dal i gofio ymateb un ymgeisydd: ‘Cerddoriaeth hardd, mynyddoedd uchel, wynebau hen wŷr a gwragedd yn disgwyl i farw, a phobl ddigartref ar strydoedd Llundain.’ Gallwn innau yn fy nhro ddweud yn ddiffuant fod yr ateb hwnnw wedi fy nghyffwrdd innau’n ddwfn! Ac rwyf yn ei gofio bob tro y byddaf yn edrych ar brydferthwch syfrdanol yr Alpau’n agos i’r fan lle rwyf bellach yn byw.

Exodus 3.1-15Bob wythnos fe fydd llun i gydfynd â’r testun craidd o’r Beibl. Yn dibynnu ar natur eich grŵp efallai y byddwch am edrych ar y llun gyda’ch gilydd a myfyrio arno cyn neu ar ôl edrych ar y myfyrdod ysgrifenedig.

Darllenwch y darn o’r Beibl ac yna ystyriwch y myfyrdod canlynol:

Ai dyma fan cychwyn hanes Duw fel ein prynwr yn y Beibl? Cyfeirir at brynedigaeth o’r fath yn y sgwrs ar y Ffordd i Emaus (Luc 24.21) ac fe’n hatgoffir o’r ddelwedd o Dduw fel prynwr yn aml wrth i ni ddarllen drwy’r Hen Destament. Os felly, mae’r ieithwedd a’r delweddau sy’n cydfynd â hanes Duw’n cyfarfod ac yn comisiynu Moses – y berth ar dân a datguddio enw Duw – yn gosod man cychwyn heriol ar gyfer archwilio’r berthynas rhwng Duw a phobl Dduw. Gyda’i gilydd, maent fel petaent yn pwysleisio pellter Duw, y Duw nad oes rheoli arno. Maent yn llefaru’n ddwys wrthym am ddieithrwch dwyfol, sydd ar yr un pryd yn ddeniadol ac yn ddychryn, ond hefyd yn rhywbeth y gwyddom o reddf sydd yn rhan annatod o’n ffydd – ac yr ydym weithiau’n ceisio ei ddiffinio wrth i ni ddefnyddio’r term ‘sanctaidd’. Gall ein calonnau yn sicr fod ar dân ynom pan fyddwn yn cyfarfod Duw fel hyn yn nelwedd y tân.

Mae’r llun ar y dudalen hon – ‘Burning Bush’ a grewyd gan yr arlunydd Cristnogol o India Paul Koli – yn cyfleu peth o brydferthwch a dieithrwch yr olygfa o’r Beibl. Mae’r traed noeth yn ein hatgoffa o’r gorchymyn a gafodd Moses i ddiosg ei esgidiau oherwydd ei fod yn sefyll ar ‘dir sanctaidd’. Mae awgrym – dim mwy na hynny – o wyneb ym mysg y fflamau. A yw’n cynrychioli Duw? Neu bobl Dduw? Mae traddodiad Iddewig modern sy’n awgrymu i Foses, pan fu iddo edrych i mewn i’r fflamau, weld ynddynt ddioddefaint ei ddisgynyddion ysbrydol, gan gynnwys y llu o Iddewon y byddai fflamau poptai nwy Auschwitz a Belsen yn eu difa. Mae dehongliad o’r fath yn adleisio’r pwyslais yn y testun Beiblaidd ei hun bod Duw wedi gweld dioddefaint ei bobl yn yr Aifft ac wedi cychwyn gyda Moses ar y gwaith o’u rhyddhau.

Pam felly mae Duw’n datguddio’i hun yn y ffordd hon?

Mae tân yn llefaru wrthym am bresenoldeb Duw, ond mewn ffordd sy’n golygu na allwn gipio na pherchnogi hynny. ‘Dywed tân wrthym na allwn ddofi Duw na chreadigaeth Duw. Mae tân yn ein harwain i’r dyfnderoedd cyn ein harwain i’r uchelder. Mae’n llosgi syniadau diwinyddol ystrydebol am Dduw ac yn ein gwarchod rhag temtasiynau cyffredinedd Cristnogol.’ (Christopher Lewis). Gall tân fod yn fywiol – dim ond oherwydd tân mae gwareiddiad dynol yn bod. Ond mae tân hefyd yn beryglus. Ni fydd yn ein gadael heb ein cyffwrdd. Mae’n mynnu ymateb gennym. Sonia T S Eliot ynghylch y modd mae bodau dynol yn gorfod wynebu’r benbleth o ddewis p’run ai i’w puro ynteu eu difetha gan ‘dân ynteu dân’, o gofio’r gwirionedd deublyg y gall tân gynhesu a distrywio fel ei gilydd.

http://biblicalworship.com/wqotw/ 2016/1/13/eliot-on-the-dove-descending

Ar ôl hynny, mae Exodus 3.1-15 yn ein tywys at y foment pan ddatguddir enw Duw. Mae hynny’n digwydd o ganlyniad i erfyniad gan Foses, er mwyn ei alluogi i gyflawni’r dasg y gofynnir iddo ei chyflawni. Mae enwau’n bwysig. Os gwyddom enw rhywun, gwyddom rywbeth o bwys mawr amdanynt. Gall eu gwneud yn fregus. Yn yr hen fyd, y gred oedd y byddai dod i wybod enw duw yn eich galluogi i reoli’r duw hwnnw. Mae dolen sy’n rhedeg drwy’r Beibl – yn sicr drwy’r Hen Destament – sy’n awgrymu bod Duw, yn rhannol oherwydd hynny, yn amharod iawn i ddatgelu ei enw i fodau dynol, gan y byddai’n golygu y gallai Duw ddod yn rhyw fath o byped. Mae datgelu ei

Page 6: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

enw felly’n risg i Dduw. Eto pe na fyddai Duw wedi gwneud hynny ar yr adeg hon, byddai ei bobl wedi parhau’n gaethweision yn yr Aifft am byth.

Er mwyn y bobl hynny, felly, mae Duw yn fodlon dod yn fregus drwy rannu’r enw â bodau dynol. Yn ddiddorol, fodd bynnag, mae’r enw a ddatguddir – a’r modd yr eglurir yr enw – yn ategu’r ymdeimlad o ddirgelwch. Mae’r pedair cytsain Hebraeg YHWH sy’n ffurfio’r enw dwyfol yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’r ferf ‘bod’ mewn Hebraeg. Mae ‘bod’ yn gysyniad hynod annelwig – ni fedrwn yn hawdd ei ddehongli a bu llawer o ymdrechion gwahanol iawn i wneud hynny. Felly mae’r enw YHWH, yn enwedig o’i ‘esbonio’ fel ‘ydwyf yr hyn ydwyf’ – ymadrodd sydd fel petai’n cuddio cymaint ag y mae’n ei ddatguddio – yn gwarchod rhyddid sofran Duw hyd yn oed wrth i Dduw addo wrth Foses, ‘Byddaf fi gyda thi’.

Er y bydd ‘agosrwydd’ Duw wrth galon y berthynas rhwng y dwyfol a’r dynol drwy’r rhan fwyaf o weddill y Beibl, ac yn ddolen y byddwn yn ei hystyried ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf, mae’n werth oedi’n gyntaf i gofio’r elfen hanfodol arall o natur Duw a nodwyd uchod. Mewn rhai o’i emynau mae’r bardd Brian Wren yn ystyried beth allai ei olygu i sôn am ‘Dduw ag enw anghyflawn’, neu fel ‘Enw nas Enwir’ (y term technegol am y fath honno o iaith a meddwl yw ‘apoffatig’3). Mae cyfeirio at Dduw yn y ffordd honno’n cynnig dolen allweddol tuag at ddeall ysbrydolrwydd yr Hen Destament, lle mae Duw’n gwrthod cael ei gaethiwo o fewn y ‘delweddau’ mae bodau dynol yn eu defnyddio i geisio cyfyngu arno. Gall ‘delweddau’ o’r fath fod yn gorfforol – pethau a elwir weithiau’n ‘ddelwau cerfiedig’. Ond gallant hefyd fod yn foesol neu’n drosiadol: er enghraifft gall bodau dynol geisio caethiwo Duw o fewn hafaliad arwynebol sy’n cysylltu ymddwyn yn foesol yn uniongyrchol â chyfoeth. Llyfr Job yw’r her eithaf mae’r Hen Destament yn ei chynnig i ffordd o feddwl sy’n ceisio troi Duw i fod ond yn un sy’n gwarantu disgwyliadau dynol.

Mae ymdeimlad o ddieithrwch Duw’n parhau yn y Testament Newydd. Mae Iesu’n drysu disgwyliadau ei ddisgyblion drwy gyflawni gweithredoedd trawiadol sydd fel petaent yn codi mwy o gwestiynau yn hytrach na chynnig atebion hawdd. ‘Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo.’ (Marc 4.41) meddant wrth iddo dawelu’r storm. Ddwy bennod yn ddiweddarach mae dryswch y disgyblion yn dwysáu wrth i Iesu ddod atynt dros y dŵr, gan ei gyflwyno ei hun yn enigmatig fel ‘Myfi yw’. Efallai’n arbennig yn Efengyl Marc, mae Iesu’n ymddangos fel rhywun sy’n ennyn rhyfeddod, dryswch ac ofn. ‘Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu’n mynd o’u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn.’ (Marc 10.32) Ond mae’r syndod mwyaf yn Efengyl Marc yn dod yn y geiriau, yr unig eiriau yn ôl yr Efengyl hon mae Iesu ei hun yn eu llefaru ar y Groes, ‘Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’(Marc 15.34) lle mae absenoldeb ymddangosiadol Duw ac amddifadedd eithaf Iesu’n plethu ynghyd er mwyn ein hachub ninnau. Yn ddiweddarach bydd y Groes yn troi’n Atgyfodiad ac yn fuan ar ôl hynny yn arwain at ddyfodiad yr Ysbryd adeg y Pentecost, a ‘chyflawniad’ yr Efengyl, lle eto bydd symbol peryglus tân yn amlwg.

Duw sy’n ddirgelwch, sy’n ddieithr, Duw na ellir ei reoli ac sy’n rhydd a pheryglus – ac eto’n fregus. Dyma rai o’r gwirioneddau mae’r tân a’r enw yn Exodus 3 yn eu cynnig i ni yn agos at ddechrau stori’r Beibl. Bydd canfyddiadau eraill yn eu hategu ac yn cydblethu â hwy yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae hi wrth gwrs yn ddiddorol sylwi y gellir disgrifio’r un a ganfuwyd ar y Ffordd i Emaus hefyd fel rhywun dieithr a dirgel ac efallai hyd yn oed fel rhywun bregus hefyd.

Pa ymateb mae deall Duw felly’n ei ofyn oddi wrthym fel pobl Dduw? Gallai olygu gweld y Grawys fel adeg tocio a glanhau a ‘llosgi’ ymaith y sorod y byddwn yn cuddio dano rhag wynebu perygl cydnabod dirgelwch Duw. Gallem sôn yn drosiadol am ‘gerdded i’r anialwch’. Wrth gwrs, y Grawys yw’r tymor pan fydd Cristnogion yn cofio’r deugain niwrnod a deugain nos a dreuliodd Iesu yn yr

3 Cyfeiria’r gair ‘apoffatig’ at drafod Duw gan ddefnyddio ieithwedd a chysyniadau sy’n awgrymu na ellir caethiwo na deall Duw yn llwyr drwy dermau o’r fath, mewn geiriau eraill, bod Duw yn fwy nag y gall y meddwl dynol a geiriau dynol ei ddychmygu!

Page 7: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

anialwch: ceir rhagarwydd o’r anialwch diweddarach hwnnw yn yr ‘anialwch’ (Exodus 3.1) lle canfu Moses berth yn llosgi.

Rhai adnodau i roi’r galon ar dân o’r Beibl yn gysylltiedig â thema’r wythnos hon(Bu i unigolion grybwyll yn uniongyrchol sawl un ohonynt.)

Oherwydd yn wir, tân yn ysu yw ein Duw ni. (Hebreaid 12.29)

Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau! (Luc 12.49)

Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl ar dy fraich;

oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,a nwyd mor greulon â’r bedd;

y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,fel fflam angerddol. (Caniad Solomon 8.6)

‘Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?’ ‘Gwir, O frenin,’ oedd yr ateb. ‘Ond,’ meddai yntau, ‘rwy’n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a’r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.’ (Daniel 3.24-25)

Cyn geni Abraham, yr wyf fi. (Ioan 8.58)

A gwelodd [Iesu] hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o’r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, ‘Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.’ Dringodd i’r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben. (Marc 6.48-51)

Rhai geiriau i fyfyrio arnynt Rwy’n ystyried dirgelwch nid fel rhywbeth na allwn ei ddeall ond yn hytrach fel rhywbeth y

gallwn ei ddeall yn ddiddiwedd! Nid ddaw unrhyw eiliad pan elli ddweud, ‘Deall i’r dim’. Bob amser a hyd byth, mae dirgelwch yn dy ddal! Yn yr un modd, ni elli ddal gafael ar Dduw fel pe byddai yn dy boced; yn hytrach Duw sydd yn gafael ynot tithau ac yn dy adnabod i’r eithaf. (Richard Rohr)

‘Mae yntau [Aslan] yn mynd a dod drwy’r adeg’, dyna roedd wedi’i ddweud. ‘Un diwrnod, byddwch yn ei weld, ddiwrnod arall bydd dim golwg ohono. Dydy o ddim yn hoffi cael ei ddal yn unman – ac wrth gwrs mae ganddo wledydd eraill i edrych ar eu hôl nhw. Popeth yn iawn. Mae’n aml yn galw mewn. Ond peidiwch trio rhoi pwysau arno fo. Mae’n wyllt, wyddoch chi. Ddim llew dof ydy hwn.’ (C S Lewis, The Lion, the Witch and the Wardrobe)

Nid rhuthro yw bywyd

tuag at ddyfodol sy’n dianc oddi wrthym, na hiraethu

am orffennol ffug. Troi o’r neilltu ydyw

fel y gwnaeth Moses tuag at wyrth

y berth danllyd, at ddisgleirdeb

a edrychai mor frau â’th febyd

unwaith, ond yno mae dy dragwyddoldeb.

(R S Thomas)4

Erioed! Feddylies i erioed ddim arall

4 Cyfieithiad o Bright Field yn Collected Poems 1945-1990 gan R S Thomas. Cyhoeddwyd gan The Orion Publishing Group.

Page 8: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

ond mai Duw oedd yr absen mawr hwnnw

ym mywydau pawb ohonom, y distawrwydd gwag

o’n mewn, y lle i fynd

gan geisio, heb fod gobaith

cyrraedd na chanfod. Ef yw ceidwad y bylchau

yn ein gwybodaeth, y tywyllwch

rhwng y sêr. Ef biau’r adleisiau

a ddilynwn, a’r ôl traed

newydd wneud. Gosodwn ein dwylo yn

ei ystlys gan obeithio teimlo

cynhesrwydd. Edrychwn ar bobl

a lleoedd fel pe bu iddo yntau edrych

Arnynt hefyd: ond ni welwn neges y drych.

(Cyfieithiad o Via Negativa, R S Thomas)5

Rhai caneuon i wrando arnynt ac i’w rhannu

Tydi a ddaethost gynt o’r nef (Caneuon Ffydd 690)

Distewch, cans mae presenoldeb Crist (Caneuon Ffydd 600)

Tyrd, Ysbryd cariad mawr (Caneuon Ffydd 599)

Gair disglair Duw (Caneuon Ffydd 228) https://www.youtube.com/watch?v=drJXPNwa0A8

Rhai cwestiynau i’w hystyried a’u trafod

1. Cyfeirir yn aml at ein testun Ysgrythurol fel enghraifft o brofiad ‘nwmenaidd’, sef y profiad crefyddol ysgytwol o ddirgelwch a pharchedig ofn (Rudolf Otto). A fu adegau pan oeddech chi’n teimlo bod presenoldeb y dwyfol yn ‘ormod’ i chi?

2. Beth yw ystyr ‘sancteiddrwydd’ i chi? Ymhle fyddwch chi’n profi sancteiddrwydd: mewn lleoedd, yn natur, wrth addoli, mewn pobl?

3. Pa mor bwysig yw hi yn eich tyb chi bod gennym Dduw y gellir ei adnabod ac yr un pryd na ellir ei adnabod?

4. Gellir synio am yr Ysbryd Glân fel ‘dwyfol dân’. Beth hoffech chi weld yr Ysbryd yn ei losgi ymaith? Beth sydd angen ei ddistrywio, a beth sydd angen ei buro?

5. Pe na bai Moses wedi troi ei ben i edrych – a fyddai holl hanes gwaith achubol a gwaredol Duw ar gyfer y ddynoliaeth wedi bod yn wahanol?

Rhywbeth i’w weddïoArglwydd Grist, rho fi ar dânllosga ohonof bopeth sy’n pylu dy oleuni.

5 O Collected Poems 1945-1990 gan R S Thomas. Cyhoeddwyd gan The Orion Publishing Group.

Page 9: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Cynna drwof fflamau mewn bywydau o’m cwmpas:fel y caiff y tywyllwch ei wthio’n ôl ac y llifa gogoniant i’r byd hwn,gan ei drawsnewid â’th gariad.(Ann Lewin)6

Rhywbeth i’w gymryd gyda chi‘Rhyw ddiwrnod, ar ôl meistroli’r gwynt, y tonnau, y llanw a disgyrchiant, byddwn yn harneisio er mwyn Duw rymoedd cariad, ac yna, am yr ail dro yn hanes y byd, byddwn wedi darganfod tân.’ (Teilhard de Chardin)

6 Cyfieithiad o ran o Candlemas Prayer gan Ann Lewin ⓗ Ann Lewin 2004. Cyhoeddwyd gan Canterbury Press. Defnyddiwyd gyda chaniatâd. [email protected].’

Page 10: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Wythnos Dau A’r holl ddaear a floeddia gogoniant

Darlleniad craidd: Genesis 1.1-2.4Os mai ynghylch y ffaith na ellir rheoli Duw, efallai hyd yn oed ynghylch absenoldeb Duw, y buom yn myfyrio yr wythnos diwethaf, yr wythnos hon byddwn yn ystyried y pegwn arall i ysbrydolrwydd y Beibl, sef presenoldeb Duw yn ein byd, ymwneud dwfn Duw â phrydferthwch bywyd a’r cread a’r modd mae’n eu ‘cysegru’, a pharodrwydd Duw i fod yn bresennol ‘gyda’ bodau dynol.

SymbolBlodyn mewn cynhwysydd syml.

Myfyrdod agoriadolOnd beth a wnaf pan y’th garaf? Nid harddwch corfforol, na phrydferthwch y tymhorau, na disgleirdeb y goleuni, er mor odidog edrych arnynt; na thonau di bendraw caneuon tyner, nac arogl persawrus blodau, eneiniau a pherlysiau, manna a mêl, na breichiau sy’n croesawu cofleidiau’r cnawd. Nid y rhain a garaf pan garaf fy Nuw: ac eto fe garaf fath o oleuni a chân a phersawr, math o fwyd, math o goflaid, pan garaf fy Nuw; … Dyna a garaf pan garaf fy Nuw…

A beth yw gwrthrych fy nghariad? Gofynnais i’r ddaear ac atebodd ‘Nid myfi’: a dywedodd beth bynnag oedd yn y ddaear yr un peth (Job 28.12,13). Gofynnais i’r môr a’r dyfnderoeddd, ac i bopeth sy’n byw, gan nofio neu ymgripio, ynddynt, ac atebasant ‘Nid y ni yw dy Dduw, edrych yn uwch na ni’… . Holais y wybren, yr haul, y lleuad a’r sêr, ‘Nid y ni ychwaith (meddent hwythau) yw’r Duw rwyt yn chwilio amdano’. A llefarais eto wrth yr holl bethau hyn sydd mor agos at byrth fy synhwyrau, ‘Dywedasoch wrthyf nad y chi yw fy Nuw: dwedwch rywbeth wrthyf amdano’. A chyda llais uchel llefasant ynghyd, ‘Efe a’n gwnaeth’ (Salm 99.3). Eu holi hwy oedd deisyfiad fy meddwl, a’u prydferthwch oedd eu hateb. (Awstin Sant, Cyffesiadau, X.vi, o gyfieithiad Saesneg Robert Bridges, wedi ei foderneiddio a’i addasu ychydig.)

Man cychwyn

A yw prydferthwch y greadigaeth o gymorth i chi deimlo’n agosach at Dduw?

Gwahoddwch ddau aelod o’r grŵp i rannu’r darnau o’r Beibl sy’n peri iddynt deimlo bod eu calonnau ar dân o’u mewn.

Genesis 1.1-2.4Darllenwch y testun o’r Beibl ac yna ystyriwch y myfyrdod canlynol:

Digwyddodd un o eiliadau bythgofiadwy hanes dynoliaeth yn yr ugeinfed ganrif ar 24 Rhagfyr 1968. Fe’i gwnaed yn bosibl oherwydd datblygu technoleg rocedi, darlledu gweledol a dewrder a mentergarwch y bodau dynol a fu’n rhan o’r digwyddiad. Dyna’r diwrnod pan fu i fodau dynol deithio o gwmpas y lleuad am y tro cyntaf a’r adeg y gwelodd y tri dyn yn Apollo 8 ‘Godiad Daear’. Er bod y digwyddiad bellach yng nghysgod y glanio ar y lleuad y flwyddyn ganlynol, roedd yr olygfa gyntaf yna o’r Ddaear yn ailymddangos a ddarlledwyd wrth i’r llong ofod gwblhau ei chylchdro o leiaf yr un mor rymus â ‘cham bach’ Neil Armstrong yn ddiweddarach. Efallai oherwydd y dyddiad pryd y digwyddodd hynny, yn gefndir i’r olygfa fe ddarllenodd y gofodwyr ddarn o’r Beibl, sef deg adnod gyntaf Genesis. (Mae’n bosibl gweld y Ddaear y codi a gwrando arnynt yn darllen yn https://www.nasa.gov/topics/history/features/apollo_8.html.)

Roedd eu dewis o destun yn arbennig o addas, nid yn unig oherwydd bod Genesis 1 yn sôn am ‘y nefoedd a’r ddaear’, ond oherwydd bod penodau cyntaf Genesis yn waddol sy’n perthyn i’r ddynoliaeth gyfan, hyd yn oed y bobl hynny na fyddent yn eu hystyried eu hunain yn arbennig o

Page 11: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

grefyddol. Roedd clywed darllen yr adnodau hynny ar yr adeg honno gerbron golygfa o’r fath yn ‘rhoi’r galon ar dân’..

Un peth oedd yn nodedig – hyd yn oed yn y cymharol ychydig o adnodau o Genesis 1 a ddarllenwyd y diwrnod hwnnw, oedd ailadrodd, ‘A gwelodd Duw fod hyn yn dda’, gyda’r uchafbwynt ar y chweched dydd â’r ‘yn dda iawn’ cryfach. Mae Genesis yn llefaru’n rymus am ‘ddaioni’ y greadigaeth, a daioni gweithredoedd Duw wrth ei chreu. Yn y byd lle cychwynnodd Cristnogaeth, nid dyna’r ffordd y meddyliai pawb am y byd: yn aml, ystyrid y byd a’r greadigaeth faterol a chorfforol fel pethau drygionus ac aflan – a nod ‘iachawdwriaeth’ oedd dianc o’r byd hwn i deyrnas ysbrydol a nefolaidd. Oherwydd hynny, roedd rhai Cristnogion yn y cyfnod hwnnw – Marcion yw’r enghraifft enwocaf – yn dadlau y dylai Cristnogion hepgor yr Hen Destament yn llwyr, a hynny’n rhannol oherwydd ei fod yn datgan bod y greadigaeth yn dda. Roedd yn nodedig, fodd bynnag, i ymdrechion Marcion i gael gwared â’r Hen Destament ei arwain yn y pen draw at hepgor ymhell dros hanner y Testament Newydd hefyd! Cafodd Marcion ei gondemnio’n gadarn fel heretic, ac yn wir mewn adwaith yn ei erbyn yntau y gwnaed yr ymdrechion cyntaf i gasglu ynghyd ‘ganon’ Beiblaidd y Testament Newydd. Mae hynny’n adlewyrchu’n gywir y gwirionedd ei bod yn anodd, yn amhosibl yn wir, deall yr Efengylau a gweddill y Testament Newydd heb gymryd i ystyriaeth yr hyn y cyfeiria Cristnogion heddiw ato fel ‘yr Hen Destament’, ond y cyfeiriai’r Cristnogion cynharaf ato fel ‘yr Ysgrythurau’. Ar adegau, mae Cristnogion wedi tueddu i ganolbwyntio ar yr agweddau ‘arallfydol’ ar eu ffydd: saif yr Hen Destament i wrthbwyso hynny. Yn wir, gyda’r Beibl yn agor â hanes mawr y creu yng Ngenesis, gosodir hanes achubiaeth, a fydd yn dechrau yn Exodus, o fewn ffrâm ehangach, a chawn ein hatgoffa yn y pen draw fod Duw yn gofalu am bawb. Ceir myfyrdod hardd gan yr arbenigwr ar yr Hen Destament Walther Zimmerli sy’n mynegi dyled yr Eglwys Gristnogol i’r Hen Destament oherwydd y portread a geir ynddo o Dduw sy’n gweithio yn y byd hwn a chyda’r byd hwn:

‘Mae’r Eglwys bob amser mewn perygl o lunio iddi ei hun Grist sy’n teyrnasu mewn pellter ysbrydol, gan dderbyn gwir fawl mewn adeiladau eglwysig neu drafodaethau diwinyddol. Ond pan eglurir efengyl Crist yn nhermau’r Hen Destament, yna gwelwn yn eglur anfon yr efengyl i ganol y byd, at y gostyngedig a’r rhai sy’n dioddef, fel hefyd at y rhai sydd mewn grym ac yn gyfrifol am ddeddfau’r wladwriaeth a chymdeithas; ac yna daw’n eglur nad yw Duw, Arglwydd a chreawdwr yr holl fyd, am gael ei addoli fel yr un sydd y tu hwnt ac yn anhraethol bell, ond am i ni ei garu eto fel yr un sydd wedi dod i’r byd mewn cariad.’7

Rydym wedi dewis ar gyfer myfyrio arno heddiw’r llun a welir gyda thestun Genesis 1 ym Meibl Sant Ioan (gweler Beibl Sant Ioan isod). Yn rhan annatod o harddwch y gwaith celf yn y llun mae awgrymiadau deongliadol a all ein cynorthwyo i ddeall yn ddyfnach y testun Ysgrythurol hwn. Mae’r darluniad o’r testun yn arwain o’r chwith i’r dde gan nodi saith niwrnod y creu. Mae’r ffiniau danheddog tywyll ar y chwith yn ein hatgoffa o’r chaos cychwynnol, y ‘gwacter afluniaidd’ y gweithiodd Duw’n greadigol arno. Gellir cyfieithu’r geiriau Hebraeg tohu-wa-bohu sydd yn ymddangos yn yr ardal dywyll hon fel ‘afluniaidd a gwag’ (Genesis 1.2). Yn raddol, wrth symud o’r chwith i’r dde yn y llun, gwelwn bob ‘diwrnod’ o’r creu yn ymddangos. Mae’r ‘lliwio’n defnyddio aur drwy’r holl ddarlun i symboleiddio ymyrraeth Duw yn yr anrhefn a’i waith yn trefnu’r bydysawd a’i elfennau. Gosodir felly’r sgwariau aur mewn patrwm geometrig, gan ddechrau gyda’r diwrnod cyntaf a chan ymledu at allan ac am i fyny yn eu hamlygrwydd nes cyrraedd tawelwch a symlrwydd y Saboth.’ Mae’r aderyn sy’n hedfan uwchlaw’r darlun yn ein hatgoffa o Ysbryd Duw a oedd yn ‘ymsymud’ ar wyneb y dyfroedd wrth i’r broses o greu gychwyn.

Un o nodweddion Genesis 1 yw pa mor bwysig yn y testun Beiblaidd yw rhai rhifau penodol – yn enwedig saith a deg. I lawer o awduron Beiblaidd, roedd rhifau o gymorth i gyfleu Duw’n gosod trefn ar fodolaeth ac yn ennyn hyder yn y greadigaeth.8

7 Walther Zimmerli, The Old Testament and the World, SPCK, 1976, t1508 https://www.churchtimes.co.uk/articles/2019/26-april/faith/faith-features/divine-numerology

Page 12: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Er mai pen draw gwaith Duw yn creu yw sefydlu’r Saboth ar y seithfed dydd, adroddir ynghylch creu bodau dynol fel uchafbwynt y chweched dydd hefyd mewn ffyrdd sydd yn gwneud ei arwyddocâd yn amlwg.

Mae’r adran yn cychwyn gyda Duw’n defnyddio’r lluosog brenhinol ‘Gwnawn’… ac yna fe glywn yn eglur bod bodau dynol, yn wryw a benyw, wedi’u creu ‘ar ddelw Duw’ (Genesis 1.27). Anghofir yn aml pa mor chwyldroadol yw’r syniad hwn, ond bu’r ddealltwriaeth Ysgrythurol ein bod ninnau fel bodau dynol wedi’n breintio â’n creu ‘ar ddelw Duw’ yn sylfaenol i ddiwinyddiaeth a moeseg Feiblaidd, yn enwedig yn yr ystyr Gristnogol. Er enghraifft, mae’r parch at urddas dynol sy’n deillio o’r ieithwedd uchod yn Genesis 1 yn greiddiol i syniadau Cristnogol modern ynghylch hawliau dynol.

Nid yw’r gair ‘gogoniant’ yn ymddangos yn Llyfr Genesis ei hun, ond mae llawer o destunau yn yr Hen Destament yn dathlu’r greadigaeth fel arwydd o ogoniant Duw, ‘Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo’ (Salm 19.1). Mae rhyw naws pefriog rhoi calon ar dân yn y gair ‘gogoniant’ ei hun! Mae’r enw Hebraeg a gyfieithir fel ‘gogoniant’ yn deillio’n wreiddiol o air sy’n golygu ‘pwysau’ neu ‘drwm’. ‘Gogoniant’ unigolyn oedd yr hyn a roddai i’r unigolyn ‘bwysau’ neu ‘bwysigrwydd’. Pan gysylltwyd y gair â Duw daeth yn y pen draw i olygu ‘presenoldeb gweladwy’ Duw. Felly gall harddwch y greadigaeth arwyddo presenoldeb gweladwy Duw yn ein plith, fel yr awgryma Awstin Sant un y myfyrdod agoriadol. Mae ‘gogoniant’ yn cynorthwyo i danlinellu syniad y Beibl am ‘ddaioni’ y greadigaeth ac yn ategu cred ddofn llawer o Gristnogion y gall gwrthrychau corfforol a materol – megis bara, gwin a dŵr – hwythau gyfleu presenoldeb Duw. Gall ymwybyddiaeth o ogoniant Duw ein cynorthwyo i ddatblygu ymdeimlad o ddiolchgarwch: yn wir, nid damwain yw’r ffaith mai ystyr sylfaenol y gair ‘Ewcharist’, a ddefnyddir gan lawer o Gristnogion ar gyfer prif weithred sagrafennol addoliad Cristnogol, yw ‘rhoddi diolch’.

Yn y Testament Newydd cryfheir yr ieithwedd ynghylch presenoldeb creadigol Duw, gan ganolbwyntio ar berson Iesu Grist. Awgryma Efengyl Ioan fod bywyd a gweinidogaeth Iesu Grist yn sefydlu creadigaeth newydd. Mae Efengyl Ioan yn dechrau drwy adleisio pennod gyntaf Genesis, a gair olaf Iesu ar y Groes yw ‘Gorffennwyd’, gan adleisio geiriau Genesis 2.2, a soniai am Dduw’n gorffen y gwaith o greu. Ac mae’n arwyddocaol bod yr Iesu atgyfodedig yn ymddangos i’w ddisgyblion am y tro cyntaf mewn gardd… Mae argyhoeddiad cadarn o ‘ddaioni’ y greadigaeth faterol yn treiddio drwy Ioan 1.14, ‘A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef’… Mae’r ferf ‘preswylio’ a ddefnyddir yma’n adleisio ieithwedd yr Hen Destament am Dduw’n preswylio â phobl Dduw mewn pabell neu dabernacl: ond bellach mae’r Gair dwyfol wedi dod yn ‘gnawd’ i breswylio gyda ni, er gwaethaf holl gysylltiadau’r gair ‘cnawd’ â materoldeb, gwendid a budredd i lawer o’r bobl yr ysgrifennodd Ioan ei Efengyl ar eu cyfer. Paradocs yr ‘ymgnawdoliad’ (sef ‘gwisgo â chnawd’) yw calon Cristnogaeth. Ond mae Ioan am herio ei ddarllenwyr, a ninnau heddiw, ymhellach. Oherwydd fel yr a’r Efengyl rhagddi datguddir yn raddol y gwirionedd mai ennyd eithaf gogoniant Crist – yr ennyd y mae Duw yn fwyaf amlwg bresennol ynddo – yw ennyd ei wendid eithaf yn ymddangosiadol wrth iddo grogi hyd at farw ar y Groes. ‘Y mae’r awr wedi dod i Fab y Dyn gael ei ogoneddu.’ (Ioan 12.23) Gwelir gogoniant Duw mewn gwendid a breuder yn hytrach na grym a chryfder. Neu efallai ein bod yn cael ein gwahodd i ganfod mai mewn gwendid ymddangosiadol y gellir canfod gwir rym.

Ar y daith honno i Emaus, beth mae’n ei ddweud wrthym mai wrth i Iesu dorri a rhannu bara, un o’r sylweddau mwyaf cyffredin faterol, y mae ei gyd-deithwyr yn sylweddoli ar amrantiad pwy fu’n cyd-deithio â hwy?

Mae’r Grawys felly’n amser pan y’n gelwir hefyd i ddathlu Duw fel rhoddwr bywyd drwy anrhydeddu daioni’r greadigaeth.

Page 13: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Beibl Sant Ioan I nodi pwysigrwydd y flwyddyn 2000 yn hanes Cristnogaeth, comisiynodd Abaty a Choleg Sant Ioan ym Minnesota, Unol Daleithiau America, Feibl wedi’i ysgrifennu a’i liwio â llaw. Ynghyd â thestun cyfieithiad yr NRSV o’r Beibl ceir cyfres o luniau hardd sy’n ategu’r testun a hefyd yn cynnig esboniad darluniadol arno. Y llun a ddefnyddir ar gyfer myfyrdod yr wythnos hon yw, wrth gwrs, y darlun cyntaf yn y Beibl. Soniodd Donald Jackson, y caligraffydd o Gymru a fu’n gyfarwyddwr celf ar gyfer y prosiect, am yr effaith a gafodd arno yntau, ‘Y broses barhaus o aros yn agored ac yn barod i dderbyn beth bynnag a allai ddatguddio ei hun drwy’r llaw a’r galon ar dudalen o waith celf yw’r agosaf i mi erioed ddod at Dduw’. Gallwch ganfod mwy am Feibl Sant Ioan yn https://www.saintjohnsbible.org/

Rhai adnodau i roi’r galon ar dân o’r Beibl yn gysylltiedig â thema’r wythnos hon(y bu i unigolion grybwyll yn uniongyrchol nifer ohonynt)

Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd... (Ioan 20.15)

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith a gwelsom ei ogoniant ef. (Ioan 1.14)

Oni wyddost, oni chlywaist?

Duw tragwyddol yw’r Arglwydd

a greodd gyrrau'r ddaear;

ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy…

Y mae'r rhai sy’n disgwyl wrth yr Arglwydd yn adennill eu nerth;

y maent yn magu adenydd fel eryr,

yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio. (Eseia 40.28-31)

Rhoddais y dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd. (Deuteronomium 30.19)

Edrychais tua’r ddaear – afluniaidd a gwag ydoedd;

tua’r nefoedd – ond nid oedd yno oleuni.

Edrychais tua'r mynyddoedd, ac wele hwy’n crynu,

a’r holl fryniau yn gwegian.

Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;

ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.

Edrychais, ac wele’r dolydd yn ddiffeithwch,

a’r holl ddinasoedd yn ddinistr,

o achos yr Arglwydd, o achos angerdd ei lid. (Jeremeia 4.23-26)

Ond y mae’r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw’r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef. (Ioan 20.31)

Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,

y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle,

beth yw meidrolyn, iti ei gofio,

a’r teulu dynol, iti ofalu amdano? (Salm 8.3-4)

Page 14: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref. (Amos 5.24)

Ble’r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a’r holl angylion yn gorfoleddu? (Job 38.7)

Rhai geiriau i fyfyrio arnynt Gogoniant Duw yw dynoliaeth sy’n fyw a bywyd y ddynoliaeth yw’r weledigaeth o Dduw.

(Irenaeus)

A dangosodd i mi rywbeth bach o faint cneuen gollen, yng nghledr fy llaw, ac roedd yn grwn fel pelen. Edrychais arno’n astud, gan feddwl, ‘Beth allai hwn fod?’ Daeth ateb: ‘Dyma bopeth a wnaed.’ Rhyfeddais ei fod yn parhau, gan y meddyliwn y gallai ddymchwel yn ddim, gan ei fod mor fach. A daeth yr ateb i’m meddwl: Fe barha, ac fe barha hyd byth, gan fod Duw yn ei garu. Ac mae popeth yn bod drwy gariad Duw. Yn y peth bach hwn, gwelais dri gwirionedd. Y cyntaf yw mai Duw a’i gwnaeth. Yr ail yw bod Duw yn ei garu. A’r trydydd yw bod Duw yn gofalu amdano. (Iwlian o Norwich)

Y greadigaeth yw cerddoriaeth Duw. (Dihareb Indiaidd)

Mae gwefr mawrhydi Duw yn llenwi’r byd. (Gerald Manley Hopkins)

Credaf o hyd mewn harddwch sy’n werth ei weld, gwirionedd sy’n werth ei lefaru a chariad sy’n werth ei ganfod. (Calen Gayle)

I Gristnogion, sy’n credu eu bod wedi’u creu ar ddelw Duw, natur y Duwdod, amrywiaeth o fewn undod y Duw sy’n dri yn un, yw’r hyn rydym ninnau â’r holl greadigaeth yn ei adlewyrchu. (Desmond Tutu)

Rhai caneuon i wrando arnynt ac i’w rhannu

The spacious firmament on high (a genir yn gain gan gôr Coleg y Drindod, Caergrawnt yn https://www.youtube.com/watch?v=hrEraKffwYQ)

Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi (Caneuon Ffydd 134)

Y Brenin Tlawd (Caneuon Ffydd 276) https://www.youtube.com/watch?v=fNaMh35i3Gw

I’r Arglwydd cenwch lafar glod (Caneuon Ffydd 75)

Thou whose almighty word

Word that formed creation, earth a sea and sky;

https://www.youtube.com/watch?v=nmhobeup0oI

Wind upon the waters, voice upon the deep;

rouse your sons a daughters, wake us from our sleep.

Breathing life into all flesh, breathing love into all hearts,

Living wind upon the waters of my soul.

https://www.youtube.com/watch?v=-0vwR5LqLz0&fbclid=IwAR3Mb8OaWC4Eoo5NrYBTdEs8VHOuW25hurQu6FHMrV492ANbF53STfToiSU

(Rhai llinellau o Wind upon the Waters gan Marty Haugen, ⓗ 1986, GIA Publications, Inc.9)9 Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd gyda chaniatâd.Bydd unrhyw atgynhyrchu pellach yn gofyn sicrhau caniatâd y cyhoeddwr.

Page 15: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

God who gives to life its goodness

https://hymnary.org/text/god_who_gives_to_life_its_goodness

Creation sings the Father’s song

https://www.youtube.com/watch?v=gkvQsz7_Ui8

Rhai cwestiynau i’w hystyried a’u trafod

1. Sut mae celf yn llefaru wrthych chi am Dduw? I rai pobl, celf weledol sy’n gwneud hynny, i eraill cerddoriaeth neu farddoniaeth, ond beth amdanoch chi? (Gallai sylw Donald Jackson uchod fod o ddiddordeb i’ch cynorthwyo i feddwl am hyn.)

2. Disgrifiwyd Ynys Iona fel ‘man tenau’ – lle mae’r ffin rhwng y nef a’r ddaear yn arbennig o dryloyw. A oes yna leoedd lle rydych chithau’n teimlo bod Duw’n arbennig o agos atoch?

3. Beth ydych chi’n feddwl oedd yr awdur o Rwsia Dostoevsky yn ei olygu pan ddywedodd ‘Bydd harddwch yn achub y byd’?

4. Pa oblygiadau a welwch chi yn y syniad Beiblaidd bod pobl wedi’u creu ar ddelw Duw?

5. A all ein myfyrdodau’r wythnos hon gynnig unrhyw arweiniad i ni wrth i ni geisio mynd i’r afael ag argyfwng ecolegol ein hoes?

Rhywbeth i’w weddïo

Ysbryd Glân, yr un sy’n bywiocáu,

anadla arnom, llanwa ni â bywyd newydd.

Yn dy greadigaeth newydd, sydd eisoes yma,

yn torri drwodd, mewn ochenaid ac ymdrech,

ond eisoes yn ymddangos, anadla arnom.

Hyd y dydd hwnnw y bydd y nos a’r hydref yn diflannu

ac na leddir bellach yr ŵyn pan dyfant yn ddefaid

ac y bydd hyd yn oed y mieri’n cilio

a’r holl ddaear yn bloeddio gogoniant yng ngwledd briodas yr oen,

yn dy greadigaeth newydd hon, sydd eisoes yma,

llanwa ni â bywyd newydd.

(Cyfieithiad o waith George Macleod)10

Rhywbeth i’w gymryd gyda chi

Fel yr awgrymwyd uchod, roedd rhifau’n bwysig i’r awduron Beiblaidd gan eu bod o gymorth i gadarnhau trefn a sefydlogrwydd y cread. Dengys ymchwil Beiblaidd diweddar y gallai chwarae ar rifau fod yn elfen yn strwythur rhai o’r Salmau i gynorthwyo i atgyfnerthu eu hystyr. Mae Salm 23 yn

Ar gyfer trwyddedu i ailargraffu ar gyfer cynulleidfaoedd, cysylltwch â ONE LICENSE: http://www.onelicense.netCerddoriaeth dalen ar gael o:https://www.giamusic.com/store/resource/wind-upon-the-waters-print-g358910 (Hawlfraint George F Macleod, o The Whole Earth Shall Cry Glory, Wild Goose Publications, 1985 a 2016. www.ionabooks.com)

Page 16: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

enghraifft dda. Mae 26 gair yn arwain at y tri gair sy’n ganolog i’r Salm, yna mae 26 o eiriau yn dilyn y tri gair yn y canol. (Nid yw hyn ond yn gweithio, wrth gwrs, os ydych yn darllen y Salm yn Hebraeg!) Beth sy’n arbennig am 26? Wel, mae gan bob llythyren yn yr wyddor Hebraeg rif cyfatebol, ac fel mae’n digwydd cyfanswm rhifol y llythrennau YHWH (enw Duw) yw 26. Y tri gair Hebraeg sydd yn y canol yw ki ata imadi – sy’n golygu ‘canys yr wyt ti gyda mi’. Felly mae’r chwarae ar rifau yn y Salm o gymorth i danlinellu’r neges ganolog bod YHWH gyda mi!

Page 17: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Wythnos Tri: Wyneb yn wyneb

Darlleniad craidd: Genesis 32.22 - 33.10Yn dilyn o themâu absenoldeb a phresenoldeb y buom yn eu hystyried yn ystod y ddwy wythnos gyntaf, deuwn â hwy i’w hystyried ynghyd yr wythnos hon drwy fyfyrio ar y ddelwedd o ‘wyneb’ sy’n ymddangos yn aml ac mewn ffyrdd grymus yn y Beibl. Mae’r ddelwedd yn ein cynorthwyo i archwilio’r cydgysylltiad hanfodol sydd rhwng ein perthynas â Duw a’n perthynas â bodau dynol eraill. Canfyddwn y gall delwedd yr ‘wyneb’ ddod yn arwydd gweledol am ofn a maddeuant, derbyniad a chroeso, gan ategu’r modd y mae newid a gweddnewid yn thema ganolog yn y Beibl.

SymbolDrych

Myfyrdod agoriadolDaeth cariad i ’nghroesawu. Ond tristáu

a wnawn, yn euog brudd.

Ond Cariad, chwim ei ddeall, fu’n parhau,

er mor ddi-nerth fy ffydd,

i ofyn, gan brin gyffwrdd yn fy mraich,

pa bryder oedd fy maich.

Gwestai, atebais, yma’n haeddu dod?

Medd Cariad, Tyred, ti.

Minnau’n ddi-ddiolch greulon? Sut all fod

it edrych arnaf i?

Cymryd fy llaw wnaeth Cariad gan nesáu,

Ni roddaf groeso gau.

Gwir, Iôr, ond pŵl fy llygaid: gwaith fy oes

sy’n haeddu dirmyg gwyw.

Medd Cariad, wyddost ti pwy ddug y loes?

Fel gwas rhaid i mi fyw.

Ond Cariad ddwed, mae wrth fy mwrdd it sedd:

eisteddais yn y wledd.

(Cyfieithiad o waith George Herbert)

Man cychwyn Gwahoddwch i ddau aelod o’r grŵp rannu’r darnau o’r Beibl sy’n peri iddynt deimlo bod eu

calonnau ar dân o’u mewn.

Page 18: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Gan ddefnyddio’r myfyrdod agoriadol fel man cychwyn, trafodwch am ychydig brofiadau pobl o achlysuron pan fu’n anodd iddynt edrych ar rywun arall, neu pan fu iddynt deimlo’n anghysurus oherwydd bod rhywun arall yn edrych arnynt hwythau. Beth oedd eu hymateb?

Genesis 32.22 - 33.10Darllenwch y darn o’r Beibl ac yna ystyriwch y myfyrdod canlynol:

Efallai ei bod yn addas i mi weld yr eicon modern ‘Crist yw ein cymod’, y llun yr ydym yn canolbwyntio arno’r wythnos hon, am y tro cyntaf yn Eglwys Sant Ethelburga yng nghanol Llundain. Cafodd yr eglwys ei difrodi’n ddifrifol gan un o fomiau’r IRA ym 1993, ac roedd Esgob Llundain bryd hynny’n benderfynol o adfer yr adeilad a’i ddynodi fel canolfan arbennig ar gyfer gwaith yn ymwneud â heddwch a chymod. Pax Christi International a gomisiynodd yr eicon ei hun ac fe’i lluniwyd ychydig cyn troad y mileniwm mewn mynachdy Catholig Groegaidd yn y Tir Sanctaidd.11

Gan ddefnyddio ystod o gymeriadau a golygfeydd, rhai o’r Beibl a rhai’n ymwneud â thraddodiad a hanes yr Eglwys, mae’r eicon yn amcanu cyfleu’r angen am gymod, a ffrwythau cymod, mewn amrywiaeth o gyd-destunau: rhwng gwahanol bobloedd y Tir Sanctaidd, rhwng crefyddau Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam, rhwng Cristnogaeth Ddwyreiniol a Christnogaeth Orllewinol a hyd yn oed rhwng dynion a merched. Defnyddir Saesneg i enwi’r amrywiol gymeriadau sy’n ymddangos yn yr eicon, ac ar ei ganol ymddengys y geiriau ‘Crist yw ein cymod’ mewn Groeg, Lladin a Hebraeg. (Mae’n debyg y dewiswyd y tair iaith hynny gan mai hwythau oedd y tair iaith a ysgrifennwyd ar Groes Crist.) Ar y canol yng ngwaelod yr eicon, o dan yr olygfa o Iesu Grist yn dysgu ei ddisgyblion, ymddengys Gweddi’r Arglwydd mewn Syrieg. Tafodiaith o’r Aramaeg, yr iaith y credir yr oedd Iesu ei hun yn ei siarad, yw Syrieg, a hi yw iaith hynafol a sanctaidd llawer o’r eglwysi Cristnogol yn y Dwyrain Canol, yn enwedig yn Syria, Libanus ac Irac. Treuliwch amser os gallwch yn astudio’r amrywiol olygfeydd sydd ar yr eicon. Bydd y myfyrdod hwn yn canolbwyntio’n arbennig ar yr olygfa ganolog, sy’n darlunio cyfarfyddiad Jacob ac Esau, a gofnodir yn Genesis 33.10. Un o’r elfennau yn y llun hwn sy’n ymddangos yn amhriodol ar yr olwg gyntaf yw’r ysgol yn y cefndir. Mae hynny’n adleisio’r ysgol sy’n ymddangos lawer yn gynharach yn hanes Jacob – sef ar yr adeg ugain mlynedd ynghynt pan oedd wedi dianc rhag llid ei frawd ac y gwelodd liw nos ym Methel yr ysgol yn ymestyn tua’r nefoedd (Genesis 28.12).

Yr allwedd i ddeall y stori a adroddir yn yr eicon yw’r geiriau a ddywed Jacob pan mae’n cyfarfod ei frawd unwaith eto ar ôl cymaint o flynyddoedd ar wahân. Gan gyfieithu o’r Hebraeg mor llythrennol ag y gellir, mae’n dweud: ‘Mae dy wyneb fel wyneb Duw i mi, gyda’r fath ras y’m derbyniaist.’ Maent yn awgrymu – yn awgrymu’n rymus – bod angen i ni ddarllen am y cyfarfyddiad boreol hwn rhwng y ddau frawd yng ngoleuni’r hanes pwerus a rhyfedd ynghylch y noson gynt a adroddir yn y bennod flaenorol lle, wrth ryd Jaboc, y bu Jacob yn ymgodymu â bod dwyfol dieithr drwy’r nos, gan yn y diwedd dderbyn bendith a hunaniaeth newydd. Dyma un o’r eiliadau mwyaf arwyddocaol yn holl hanes yr Hen Destament. Meddai’r ysgolhaig mawr o’r Almaen Gerhard von Rad, ‘Mae’r stori’n cwmpasu peth o’r holl hanes dwyfol y cynhwyswyd Israel ynddo’. Mae Jacob wedyn yn enwi’r lle y digwyddodd hynny’n Peniel, ‘Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd’. (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg, sef ‘pen’, sy’n golygu ‘wyneb’, ac ‘el’, sy’n golygu ‘Duw’.) Mae’n ddiddorol sylwi bod coflaid y ddau frawd ar yr eicon ei hun yn cyfleu ymdeimlad o ‘ymgodymu’. Yr hyn mae’r stori’n ei awgrymu i ni yw bod cyswllt hanfodol rhwng ein perthynas â Duw a’n perthynas â’n brodyr a’n chwiorydd dynol. Ni ellir eu gwahanu. Os ydym am weld wyneb Duw rhaid i ni fod yn barod i’w ganfod mewn bodau dynol eraill – yn wir, mae’n rhaid i ni fod yn barod i’w cyfarfod ‘wyneb yn wyneb’ a gweld llun a delw Duw ynddynt. Dyna pam mae’r ysgol yn ymddangos yn yr eicon: dim ond pan fydd brodyr yn cymodi fel hyn y gall yr ysgol yn wir ymestyn rhwng y ddaear â’r nefoedd. Dyma un o wirioneddau dyfnaf ysbrydolrwydd y Beibl.

11 Mae copïau maint cerdyn post o’r eicon hwn ar gael oddi wrth Pax Christi am £2.50 am 50 (a chost cludiant):http://paxchristi.org.uk/resources/pax-christi-icon-of-peace/

Page 19: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Yr wythnos diwethaf, wrth edrych ar hanes creu bodau dynol ‘ar ddelw Duw’ yn Genesis 1, roeddem yn myfyrio ar bresenoldeb Duw gyda ni. Yr wythnos hon, rydym yn adeiladu ar y syniad hwnnw wrth i ni ddefnyddio ieithwedd ‘wyneb’ i ddarganfod bod presenoldeb Duw yn ei hanfod yn fater o berthynas. Yn wir, awgrymodd Karl Barth, un o gewri diwinyddol yr ugeinfed ganrif, mai ein gallu i adeiladu perthynas sy’n dangos bod bodau dynol wedi eu creu ‘ar ddelw Duw’. Nid yw’n syndod bod syniadau o’r fath yn canolbwyntio ar iaith yn ymwneud â’r ‘wyneb’ – gan mai ein hwynebau yw’r ffenestri i edrych drwyddynt i weld pwy ydym ni bob un mewn difrif a beth rydym wir yn ei deimlo. Trwy ein hwynebau y byddwn yn ymateb i eraill â llawenydd, galar, edifeirwch a derbyniad. Mae wynebau hefyd yn drawsnewidiol – drwy edrych o ddifrif ar wyneb rhywun arall, neu drwy i rywun arall edrych arnom ni, gall ein hwynebau ninnau newid. Gall hynny weithiau deimlo’n beryglus, felly nid yw’n synod bod y Beibl yn awgrymu y gall fod yn beryglus iawn edrych ar wyneb Duw! Mae’r Hen Destament yn ymgodymu â’r syniad hwnnw dro ar ôl tro, gan weithiau ymron wrthddweud ei hun. Er enghraifft, yn Exodus 33, yn adnod 11 fe ddarllenwn ‘Byddai’r Arglwydd yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â’i gyfaill’, yna ond ychydig o adnodau ymhellach ymlaen yn y bennod, fe ddywed Duw, ‘Ond ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw’. Ac eto, mae gwirionedd dwfn yn y ddau ddatganiad.

Mae’n debyg nad damwain yw’r ffaith bod y gair Hebraeg am ‘gweld’ (r ’ h) a’r gair Hebraeg am ‘ofn’ (i r ’) yn edrych yn debyg iawn. Yn wir, mae achosion yn yr Hen Destament pan nad yw’n gwbl eglur pa un o’r ddau air a olygir. Teimlid yn wir bod edrych ar Dduw yn beth arswydus.

Mae hefyd yn ddiddorol nodi, gan mai iaith goncrid iawn yw’r Hebraeg, fod yr arddodiad ‘o flaen’ mewn Hebraeg (lpnei) yn llythrennol yn cynnwys dau air Hebraeg geiriau sy'n golygu ‘yn wyneb’. Gallwn ganfod ystyr ddyfnach i’n perthynas â Duw ac â bodau dynol eraill os cofiwn ein bod, wrth siarad am sefyll ‘o flaen’ rhywun, mewn difrif yn siarad am sefyll ‘yn ei (h)wyneb’.

Cysyniad dwfn sy’n ganolog i’r Testament Newydd yw ein bod yn gallu gweld wyneb Duw yn Iesu Grist. Weithiau – fel mae’n rhaid bod Pedr wedi ei deimlo ar ôl iddo wadu Iesu deirgwaith ac fel mae Efengyl Luc yn ei awgrymu’n eglur yn Luc 22.61 (‘Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr’) – gall y wyneb hwnnw edrych arnom mewn tristwch, ac fe’i cawn yn anodd edrych yn ôl. Yn amlach, bydd y wyneb hwnnw’n cynnig ein derbyn ac yn cynnig cymod rhyngom â Duw ac â’n gilydd.

Dywedir hynny’n eglur yn 2 Corinthiaid 4.6: ‘Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o’r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni’r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.’ Mae hanes gweddnewidiad Crist yn y Testament Newydd, yr eiliad o oleuo mawr sy’n ganolog i’r Efengylau, yn cyfleu’r un gwirionedd mewn modd naratif. Yn wir, yn Efengylau Matthew a Luc adroddir hanes y gweddnewidiad mewn ffordd sy’n pwysleisio mai ‘wyneb’ Iesu a gafodd ei newid.

Yn gynharach yn 2 Corinthiaid mae Paul fel petai’n gwneud y pwynt pwysig bod gweld wyneb Crist o reidrwydd yn mynd i’n newid ninnau hefyd. Yn wir, oni bai ein bod yn fodlon cael ein newid gan y profiad hwnnw efallai ei bod yn wir yn rhy beryglus i edrych ar wyneb Duw yng Nghrist. ‘Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef.’ (2 Corinthiaid 3.18).

Mae myfyrdod rhyfeddol gan Jane Williams sy’n ystyried goblygiadau hyn: ‘Wyneb Iesu yw’r hyn y dylai ein hwynebau ninnau edrych yn debyg iddo, pe gallem ond fod mor ddynol â Duw. Mae ein hwynebau ninnau megis mygydau y byddwn yn eu gwisgo ac yna’n eu gwrthod, wrth chwilio drwy’r adeg am y “fi” gwirioneddol, yn edrych drwy’r amser am y wyneb a fydd yn peri i bobl eraill ein caru neu ein hofni, gan fynd ymhellach ac ymhellach drwy’r adeg oddi wrth y wyneb y cawsom ein creu i fod yn ddrych ohono, wyneb Iesu… Y fath nifer o wahanol fygydau rydym yn meddwl bod arnom eu hangen – mygydau sy’n ein gwneud yn rymus ac uwchlaw niwed, yn hardd, yn arswydus, yn

Page 20: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

dderbyniol, rhai ohonynt wedi dod yn gymaint rhan ohonom fel nad ydym hyd yn oed yn gwybod mai ond mygydau ydynt. Ond yr eironi yw, heb y mygydau hynny, rydym wedi’n creu ar ddelw Duw.’12

Mae angen i ni ddysgu gwerthfawrogi ein hwyneb ‘go iawn’, yn ogystal â gwerthfawrogi’n wirioneddol wynebau pobl eraill – efallai’n arbennig y rhai rydym yn reddfol yn ymddieithrio oddi wrthynt. Un o faterion mwyaf dadleuol ein hoes yw’r sefyllfa yn Israel a Phalestina (sefyllfa y cyfeirir ati wrth gwrs yn yr eicon ‘Crist yw ein Cymod’). Yn fy mhrofiad innau o fod yn gweithio yn y rhan honno o’r byd ac ym maes deialog ryng-grefyddol dros sawl degawd, rwy’n gweld ei bod yn llawer rhy hawdd i’r rhai sydd yn rhan o’r anghydfod hwn ddechrau colli golwg ar ddynoliaeth y naill y llall. Mae’n demtasiwn hefyd weithiau i’r rhai ohonom sydd ‘ar y tu allan’ sydd â diddordeb yn y sefyllfa ac sydd yn gweithio yn y maes uniaethu i’r fath raddau â chyfiawnder achos a dioddefaint un ochr fel ein bod yn colli golwg ar anghenion dynol y bobl ar yr ochr arall. Mae yna fyfyrdod byr rhyfeddol gan y Cristion Palestinaidd Elias Chacour, a fu’n Archesgob Catholig Groegaidd Galilea. Flynyddoedd lawer yn ôl (cyn iddo ddod yn Archesgob!) aeth Chacour â grŵp cymysg o bobl ifanc, yn Iddewon ac Arabiaid, i gyfarfod ar gyfer trafodaeth ar Fynydd Tabor, sef y fan yn ôl traddodiad y digwyddodd gweddnewidiad Iesu Grist. Daeth y sylw hwn ganddo o’i brofiad bryd hynny:

Y gwir eicon yw dy gymydog, y bod dynol a grewyd ar lun a delw Duw. Mor hardd o beth yw pan weddnewidir ein llygaid ac y gwelwn mae ein cymydog yw eicon Duw, a dy fod tithau, a thithau, a minnau – ein bod oll yn eiconau o Dduw. Peth mor ddifrifol ydyw pan fyddwn yn casáu delw Duw, pwy bynnag y bo, boed Iddew neu Balestiniad. Mater mor ddifrifol ydyw pan na allwn fynd a dweud, ‘Mae’n ofid gennyf am yr eicon o Dduw a anafwyd gan fy ymddygiad.’ Mae angen gweddnewid pawb ohonom fel y gallwn adnabod gogoniant Duw y naill yn y llall.13

Beth am y ‘wyneb’ hwnnw yn ystod y daith i Emaus? Un o agweddau diddorol y stori yw’r ffaith i wyneb Iesu aros ynghudd o olwg, neu o leiaf oddi wrth ddealltwriaeth, ei gyd-deithwyr wrth iddynt gerdded ar hyd y ffordd gyda’i gilydd. Mae darluniau o’r stori’n cynnig gwahanol ffyrdd o awgrymu hynny. Er enghraifft, mae llun enwog gan yr arlunydd Tsieineaidd He Qi yn dangos i ni gefn Iesu’n hytrach na’i wyneb: https://www.heqiart.com/store/p176/44_The-Road-to-Emaus_Limited_Edition.html. Daw’r newid yn amgyffred y disgyblion nid am fod Iesu’n dweud wrthynt yn blaen pwy ydyw ond o ganlyniad i ‘agor eu llygaid’ wrth ei wylio’n bendithio a thorri’r bara. Ai dyma’r ffordd mae Duw’n dewis peri newid ynom ninnau? Nid drwy ymyrryd mewn ffyrdd mawr dramatig a phwerus ond drwy agosáu atom (yn aml gan ddefnyddio ‘wynebau’ pob eraill) a’n gwahodd i edrych ar ein bywydau mewn ffordd newydd?

Tymor ar gyfer newid, ac ar gyfer gweddnewid, yw’r Grawys.

Crist yw ein CymodY llun a ddewiswyd ar gyfer yr wythnos hon yw’r eicon modern, ‘Crist yw ein Cymod’. Er mai ond tuag ugain mlynedd yn ôl y cafodd ei greu, fe’i dyluniwyd mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r traddodiad clasurol o beintio eiconau mewn Cristnogaeth, sydd yn arbennig o bwysig yn yr Eglwysi Uniongred. Fel mae geiriau Elias Chacour (uchod) yn ei awgrymu, mae cyswllt agos rhwng ‘eiconau’ a’r cysyniad ysgrythurol i fodau dynol gael eu creu ar ‘ddelw’ Duw. (Yn wir, y gair a ddefnyddir am hynny yn nhestun Groeg Genesis 1.27 yw, yn llythrennol, ‘eicon’.)

Trwy waith y sawl a greodd yr eicon ac arweiniad yr Ysbryd Glân, bwriedir i eicon gysylltu’r un sy’n edrych arno â’r realiti ysbrydol mae’n ei gynrychioli. Y gred y gallem weld wyneb Duw yn y Gair ymgnawdoledig, Iesu Grist (2 Corinthiaid 4.6), a arweiniodd yr Eglwys fore i weld gwerth mewn eiconau – gan gadarnhau’r gred y gall pethau corfforol a materol gyfleu’r hyn sy’n ysbrydol.

12 Jane Williams, The Human Face of God, ymgom Grawys BBC Radio 4, 2003.13 Elias Chacour, We Belong to the Land, Collegeville: University of Notre Dame Press, 2001, t46-47.

Page 21: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Rhai adnodau i roi’r galon ar dân o’r Beibl yn gysylltiedig â thema’r wythnos hon Ond dywedodd Esau, ‘Y mae gennyf ddigon, fy mrawd; cadw’r hyn sydd gennyt i ti dy hun.'

(Genesis 33.9)

Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, ‘Cyn i’r ceiliog ganu heddiw, fe’m gwedi i deirgwaith.’ (Luc 22.60-61)

Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. (Luc 15.20)

Byddai’r Arglwydd yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â’i gyfaill... ‘Ond [meddai Duw] ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw’. (Exodus 33.11, 20)

Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. (1 Ioan 3.2)

Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn. (2 Corinthiaid 3.18)

Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi. (llawer lle!)

A’m gweddi yw, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roi i chwi, yn eich adnabyddiaeth ohono ef, yr Ysbryd sy’n rhoi doethineb a datguddiad. Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a’ch dwyn i wybod beth yw’r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae’n ei rhoi i chwi ymhlith y saint. (Effesiaid 1.17-18)

Yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch. (Mathew 25.40)

Ac meddai Israel wrth Joseff, ‘Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw.’ (Genesis 46.30)

Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o’r rhai bychain hyn; oherwydd rwy’n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd. (Mathew 18.10)

Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder; tro dy glust ataf, brysia i’m hateb yn y dydd y galwaf. (Salm 102.2)

Rhai geiriau – a gweithiau celf – i fyfyrio arnynt Chwaraea Crist mewn deng mil o fannau,

prydferth o gorff a theg mewn llygaid nad yw’n eiddo ef

i’r Tad drwy edrychiad wynebau dynion. (Cyfieithiad o waith Gerard Manley Hopkins)

Weithiau mae ffydd yn hyderus a rhwydd yn dehongli profiad fel yn dod oddi wrth Dduw; weithiau dim ond yn araf y gwna hynny ar ôl hir ddadlau â’i hunan ac â bywyd. Ac weithiau ni all ond dal gafael, fel yr ymgodymwr lluddedig ger yr afon dywyll, gan ymddiried pan ddêl y wawr y daw’n amlwg mai’r un a ymddangosai’n elyn, Cariad oedd. (J Neville Ward)

Ystyr y genhadaeth Gristnogol yw cynnig y croeso sydd yn wyneb Crist. (David Ford)

Dyn yw’r unig anifail sy’n gwrido. A’r unig un sydd angen gwrido. (Marc Twain)

Page 22: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Mae darlun grymus o waith Rembrandt yn portreadu Jacob yn ymgodymu â’r angel. Gweler https://www.artBeibl.info/art/large/89.html. Yn y llun, mae’r angel yn troi pen Jacob i’w orfodi i edrych ar y bod dwyfol ‘wyneb yn wyneb’. Hyd at y pwynt hwnnw, bu Jacob yn rhywun ‘tu cefn’ – ystyr ei enw, hyd yn oed, yw ‘sawdl’ (sef cefn y troed!). Os yw i newid bydd raid iddo fod yn barod i edrych tuag at wyneb yr angel – ac yn y pen draw ar wyneb ei frawd.

Rhai caneuon i wrando arnynt ac i’w rhannu

Arglwydd pob gobaith (Caneuon Ffydd 394)

Christ is the world in which we move (‘To the lost Crist shows his face’)

https://www.youtube.com/watch?v=aQCqNPZQASM

Come thou traveller unknown

Face to face with Crist my Saviour

https://hymnary.org/text/face_to_face_with_christ_my_savior

Ai gwir y gair fod elw i mi (Caneuon Ffydd 539)

Here O my Lord I see thee face to face

https://hymnary.org/text/here_o_my_lord_i_see_thee_face_to_face

Love bade me welcome (gosodwyd gan Rhian Samuel a chenir gan gôr New College, Rhydychen)

https://www.youtube.com/watch?v=XkZfpEJ8cXA

Turn your eyes upon Jesus, look full in his wonderful face

Father’s eyes (fersiwn Gary Chapman)

https://www.youtube.com/watch?v=3u5-TsAOejg

Rhai cwestiynau i’w hystyried a’u trafod

Beth mae stori Jacob yn ymgodymu â’r angel yn ei ddweud wrthych chi? A yw’n eich ysbrydoli? Yn peri penbleth i chi? Yn eich arswydo? Beth ydych chi’n meddwl y gallwn ei ddysgu oddi wrth yr hanes?

Pa ‘fygydau’ fyddwch chi’n eu gwisgo i guddio eich hun oddi wrth eraill? (Gweler y myfyrdod gan Jane Williams uchod.)

Beth mae ‘gweinidogaeth y cymod’ yn ei olygu i chi? A allwch chi roi enghraifft o’ch bywyd neu eich cyd-destun chi?

Ar sail eich profiad eich hun, pam mae anghytundebau rhwng ‘brodyr’ mor aml yn arbennig o chwerw a dwys. Sut ellir eu hiacháu?

A gawsoch brofiad o’r modd y gall ofn ddistrywio perthynas ar y lefel bersonol a chymdeithasol? Sut wnaeth Iesu geisio adeiladu ymddiriedaeth drwy air ag esiampl yn ystod ei weinidogaeth?

Rhywbeth i’w weddïo

Mae’r gwaeddi’n ormod

Page 23: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

gan fy myddaru’n aml.

Rhyfel, newyn, distryw, marwolaeth –

llithra dioddefaint y byd heibio i’m henaid.

Clywais ormod i hidio bellach.

Ond yna, dyna ti, O Dduw,

yn sefyll yng nghanol ing y byd,

ac nid cysgodion heb wynebau mo’r dioddefwyr bellach,

canys rhoddaist iddynt dy wyneb dy hun,

a’u creithiau hwy yw dy greithiau di.

A chyhoeddaf:

Clywais gynt, ond bellach rwy’n gweld.

Mae’r holl bobloedd yn ormod,

yn ymblethu’n niwl yn fy nychymyg,

hil, lliw, ffydd ac iaith – pob math.

Mae eu henfys chwil yn dallu fy llygaid

a’u hamrywiaeth di-bendraw yn troi fy mhen.

Ond yna, dyna ti, O Dduw,

ti yw canolbwynt llonydd ein chwyrligwgan,

ynot y cyferfydd golau a chysgod ynghyd,

wrth it beintio bywyd ein haml-boblog fyd.

Dy gariad sy’n ein taflunio’n enfys gobaith:

A chyhoeddaf:

Clywais gynt, ond bellach rwy’n gweld.

Rhywbeth i’w gymryd gyda chi

Skopje, Gogledd Macedonia, 7 Mai 2019: Anogodd y Pab Ffransis bobl ifanc Gogledd Macedonia ddydd Mawrth i ddilyn esiampl y Fam Teresa a chreu rhywbeth hardd o’u bywydau.

‘Gelwir pob un ohonoch, fel y Fam Teresa, i weithio â’ch dwylo, i gymryd bywyd o ddifrif ac i greu rhywbeth hardd o fywyd,’ meddai’r Pab Ffransis.

Rhannodd y Pab Ffransis â’r bobl ifanc yr hyn a gredai oedd un o’r gwersi mwyaf a ddysgodd yn ei fywyd.

‘Yn fy oedran i – a dydw i ddim yn ifanc – hoffech chi wybod beth rwy’n feddwl yw’r wers orau i mi erioed ei dysgu? Sut i siarad â phobl “wyneb yn wyneb” oedd honno’ meddai.

‘Rydyn ni wedi cyrraedd yr oes ddigidol, ond y gwir yw mai ond ychydig rydyn ni’n ei wybod am gyfathrebu. Rydyn ni oll wedi’n “cysylltu,” ond ddim wir yn “ymwneud” â’n gilydd. Mae ymwneud

Page 24: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

â’n gilydd yn gofyn bywyd; mae’n gofyn bod yno a rhannu’r adegau da ond hefyd yr adegau llai da,’ meddai Ffransis.

Page 25: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Wythnos Pedwar: Calon wrth galon: galar a llawenydd

Darlleniadau craidd: Sawl darn byr o Lyfr Genesis a Salm 22

Ym myd y Beibl ystyrid mai’r ‘galon’ oedd ffynhonnell emosiynau a theimlad, ein gwir ‘ganol’. Mae’r ffaith bod y disgyblion yn hanes Emaus yn sôn bod eu ‘calonnau’ ar dân o’u mewn yn ein hysgogi i ystyried y cyfoeth o ddeunydd sydd yn y Beibl ynghylch cwestiynau sylfaenol ein bodolaeth fel bodau dynol, cwestiynau sy’n cydblethu â’n teimladau – realiti marwolaeth, y dyhead am fywyd, emosiynau galar a llawenydd a’r mynegiant corfforol ohonynt mewn wylo a chwerthin. Gan y cedwir Pedwerydd Sul y Grawys fel Sul y Fam mewn rhai o’n Heglwysi, byddwn hefyd yn myfyrio ar swyddogaeth merched a’r agwedd fenywaidd ar fynegi doethineb dwfn ein bodolaeth fel bodau dynol.

Myfyrdod agoriadol

[Gofynnwyd caniatâd i ddefnyddio myfyrdod gan Michael Vasey, yn seiliedig ar eiriau Sant Anselm o Gaergaint]

Gallwch ddewis darllen hwn gyda’ch gilydd, gan efallai rannu’r adnodau rhwng unigolion neu grwpiau. Os byddai’n well gennych wrando ar y myfyrdod wedi’i osod yn gerddorol, gellir ei ganfod yma:

https://www.youtube.com/watch?v=KZaNBmZuYYY – cyfansoddwyd y trefniant cerddorol gan fy ngŵr, Alan Amos.

Symbol

Dwy bowlen o ddŵr. Pentwr o halen.

Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd. Defnyddir dŵr croyw yn yr Ysgrythurau fel symbol o fywyd tragwyddol. Mae dŵr heli hefyd yn hanfodol ar gyfer bywyd, er y’i cysylltir yn aml â dagrau. Fe’i defnyddir yn litwrgi’r Pasg Iddewig lle mae’n cynrychioli dagrau a chwys yr hynafiaid yn yr Aifft. Ychwanegwch yr halen at un o’r powlenni a gosodwch y ddwy bowlen ochr yn ochr â’i gilydd.

Man cychwyn

Gwahoddwch rai aelodau o’r grŵp i rannu’r darnau o’r Beibl a roes eu calonnau ar dân.

Gofynnwch i bobl feddwl am y pethau sy’n gwneud iddynt wylo. Mae hi efallai’n anoddach diffinio teimladau o ‘lawenydd’ ond a fu yna achlysuron pan fyddai aelodau’r grŵp am ddefnyddio’r gair hwnnw i fynegi eu teimladau?

Myfyrdod Beiblaidd

Yn ôl y Beibl, yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd fel ei gilydd, un o’r pethau gwaethaf a all digwydd i unigolyn neu i genedl yw bod â ‘chalon wedi’i chaledu’ (gweler, er enghraifft, Exodus 9.12 a Marc 8.17). Gall calonnau fod ‘ar dân’ a ‘llosgi o’n mewn’, ac yn wir felly y dylent fod yn aml, ac weithiau mae angen iddynt fod yn ‘ddrylliedig a churiedig’ – ond ni ddylent fyth fod yn galed. Dros y degawdau a’r blynyddoedd diwethaf bu gofyn i eglwysi a’r rhai sy’n gweinidogaethu ynddynt ddod ‘yn fwy proffesiynol’ mewn nifer o ffyrdd, a da o beth hynny, ond ni ddylent fyth golli golwg ar y ffaith bod ein ffydd – yn sicr fe y’i mynegir yn ein Hysgrythurau – yn cydnabod bod ein hemosiynau a’n teimladau’n rhan o’n gwir ddynoliaeth, ac yn ein gwahodd i’w mynegi yn ein haddoliad a’n bywydau fel disgyblion. Mae elfen rymus o ysbrydolrwydd Cristnogol, un sy’n arbennig o bwysig yn yr eglwysi Uniongred yn y Dwyrain Canol, sydd, er enghraifft, yn ystyried ‘dagrau’ yn arwydd gweladwy a hanfodol o’n hymrwymiad i dyfu yn ein dyhead am Dduw.

Page 26: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Mater sydd yn fwy dadleuol yw’r syniad y gallai’r Duw rydym yn ei addoli hefyd brofi dioddefaint a’r hyn a alwn, mewn termau dynol, yn ‘emosiynau’. Seiliwyd llawer o ddiwinyddiaeth Gristnogol glasurol ar y cysyniad bod Duw yn ddigyfnewid – meddyliwch am yr emyn Saesneg ‘Immortal, invisible, God only wise’ sy’n cynnwys yr ymadrodd ‘nought changeth Thee’!). Mae emosiynau’n ein newid a gallant hefyd ein gwneud yn fregus. Yn y byd deallusol Groegaidd y tyfodd Cristnogaeth ynddo yng nghanrifoedd cynnar hanes yr Eglwys, ystyrid bod ‘dwyfoldeb’ ymhell oddi wrth unrhyw newid neu ddioddefaint, ac fe wnaeth y syniadau hynny ddylanwadu ar ddatblygiad diwinyddiaeth Gristnogol. Ond mae’r darlun a gawn o’r Beibl ei hun braidd yn wahanol. Mae Duw yn rhannu llawenydd a galar bodau dynol. Mae Duw yn llawenhau drosom a chyda ni ac mae’n galaru drosom a chyda ni. ‘Bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy’n edifarhau…’ Mae Duw yn wylo ac mae Duw’n dioddef yn nioddefaint pobl Dduw. Mae un adran arbennig o rymus yn Llyfr y Proffwyd Jeremeia lle disgrifir Duw, y proffwyd a’r bobl yn eu tro’n wylo mewn ffordd sydd yn ymddangos ei bod yn clymu pawb ynghyd yn eu galar (Jeremeia 8.18-9.22). Mae’n her – ond yn her hanfodol – i Gristnogion ganfod rhyw ffordd o goleddu ynghyd, mewn tyndra, y syniad clasurol bod Duw yn bod ohono’i hun ac na ellir ei reoli gan ddim y tu allan iddo ef ei hun a’r dystiolaeth Feiblaidd am dosturi Duw, sydd, fel mae ffurf Ladin y gair (‘compassio’) yn ei awgrymu, yn golygu y gall Duw fod yn ‘cyd-ddioddef’ â’i greadigaeth.14

Un o’r hanesion yn y Beibl y gall ymwybyddiaeth o barodrwydd Duw ei hun i fod yn fregus fod o gymorth i’w ddeall yw hanes y dilyw sydd i’w weld yn Genesis 6-9. Er gwaethaf y ffaith, oherwydd bod sôn am anifeiliaid ac enfys yn y stori, bod pobl ifanc yn hoff iawn ohoni, mae’r stori’n un anodd iawn mewn rhai ffyrdd i ni fyfyrio arni. Mae’n anodd iawn darllen am benderfyniad ymddangosiadol Duw i ddistrywio’r byd oherwydd ei ddicter tuag at ei greadigaeth ddynol, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fydd pobl sy’n gweithredu’n dreisgar ar sail grefyddol weithiau’n dibynnu ar destunau ysgrythurol treisgar i gyfiawnhau eu gweithredoedd. Dywed yr arbenigwr ar yr Hen Destament a’r offeiriad Anglicanaidd Trevor Dennis mai’r unig ffordd y gall yntau bregethu ar y testun hwn yw drwy ddychmygu mai dagrau Duw ei hun a greodd y cefnfor y bydd yr Arch yn nofio arno. Mae hi fodd bynnag yn ddiddorol nodi bod y gair ‘calon’ yn bwysig ar ddechrau a diwedd y stori. Yn Genesis 6.5-6 darllenwn i Dduw weld bod holl ogwydd calonnau pobl bob amser yn ddrwg, gan dorri calon Duw ei hun. Ys dywedodd yr arbenigwr ar yr Hen Destament Walter Brueggemann yn briodol iawn, ‘dyma yn wir sefyllfa “galon wrth galon” rhwng y ddynoliaeth a Duw.’15 Yn yr adnodau hyn rydym yn cyfarfod â Duw sy’n dymuno sefyll gyda’i greadigaeth ddynol yn hytrach na sefyll yn erbyn y ddynoliaeth mewn barn. Nid yw Duw’n ymbellhau oddi wrth ei benderfyniad. Mae Duw ei hun yng nghanol y penderfynu, yn union fel y bydd pawb ohonom ninnau pan fyddwn yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac efallai rhai poenus sy’n effeithio ar y rhai rydym yn eu caru. Waeth pa mor ofnadwy yw’r dilyw – ac nid oes atebion hawdd i’r problemau mae’r stori’n eu codi ar ein cyfer – mae hi rywfaint yn haws ‘ymdopi’ â’r hanes os ydym yn credu nad yw Duw’n ymddieithrio’n oeraidd oddi wrth yr hyn sy’n digwydd.

Ymhellach, mae’n bwysig darganfod y modd y mae’r Duw a gyfarfyddwn yn Genesis ar ôl y dilyw yn wahanol. Oherwydd dyma un o’r mannau lle mae ein Beibl yn dangos i ni Dduw sydd yn gallu newid ac sydd yn newid – gan hyd yn oed efallai ddioddef ei hun yn y broses. Felly mae’r Duw rydym yn ei gyfarfod ar ôl y dilyw, ac sy’n cynnig i fodau dynol ‘gyfamod yr enfys’ ac addewid na fydd dilyw byth eto’n distrywio’r ddaear (Gen. 9.11), yn Dduw sydd wedi dechrau ar y broses hon o newid. Nid felly fodau dynol: mae’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio eu hagwedd ar ôl y dilyw yn fwriadol debyg i’r geiriau a ddefnyddiwyd i’w disgrifio’n flaenorol. Felly yn Genesis 8.21, sy’n ymddangos ei fod yn adleisio’n fwriadol y testun blaenorol, er i ogwydd calonnau bodau dynol aros yr un, mae calon Duw, wrth iddo ystyried ynddo’i hun, wedi symud o fod yn edifar tuag at deimlo trugaredd. Mae’r dilyw 14 Mae Exodus 3 (y testun a fu dan ystyriaeth yn ystod Wythnos Un) yn cofleidio’r ddwy agwedd ar Dduw ynghyd: ei bendantrwydd ynghylch rhyddid dwyfol sofran a’i gyd-ddioddef â’r bobl mewn caethiwed yn yr Aifft.15 Walter Brueggemann, Genesis, Atlanta, John Knox Press, 1982 t77

Page 27: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

‘wedi creu newid parhaol yn Nuw, a fydd bellach yn ymdrin â’i greadigaeth gydag amynedd a goddefgarwch di-bendraw’.16 Bydd Duw’n parhau i alaru ynghylch drygioni dynol, ond mae wedi ymrwymo i ddangos goddefgarwch. Ac mae hynny’n golygu y bydd yr addewid a roes Duw i Noa a’r holl greadigaeth yn un a fydd yn gostus iawn i Dduw ac yn un a fydd yn gofyn dioddefaint dwyfol. Mae llwybr sy’n arwain o’r addewid hwn hyd at wylofain Crist y mae Cân Anselm yn cyfeirio ato.

Un o ganlyniadau parodrwydd y Beibl i grybwyll ymateb Duw i loes ddynol yw bod math o weddïo sy’n ymddangos yn aml yn yr Hen Destament, yn enwedig efallai Llyfr y Salmau, a elwir ‘galarnadu’. Nid yw galarnadu’r un fath â chyffesu neu ymbilio – er y gallai fod ganddo beth cyswllt â’r ddwy ffurf honno o weddïo. Golyga galarnadu ddweud wrth Dduw yn blaen iawn bod rhywbeth yn bod ar y byd fel rwyf i neu fel rydym ni’n ei brofi a mynnu bod Duw yn gwneud rhywbeth am hynny! Mae llawer o Gristnogion heddiw – yn sicr yn y byd Gorllewinol – yn ystyried ‘galarnadu’ yn embaras ac yn broblem. Maent yn meddwl ei bod yn anghwrtais siarad â Duw yn y ffordd honno. Dyma’r eithaf arall i’r ffordd ddesant o ymddwyn. Ac eto, wrth gwrs, fe wnaeth Iesu Grist ei hun, yn ôl Efengylau Marc a Mathew, ‘alarnadu’ ar y Groes yng ngeiriau Salm 22, efallai’r rymusaf oll o’r salmau galarnad (gweler yr adran at Salm 22 isod).

Efallai mai’r unigolyn cyntaf i alarnadu yn yr Hen Destament yw Hagar; caethferch Eifftaidd Abraham a Sara a mam Ismael. Hi yn sicr yw’r un gyntaf yn y Beibl y dywedir iddi ‘wylo’ (Genesis 21.16). Mae’n ddiddorol mae’r wraig ‘ddieithr’ yw’r un gyntaf y cyfeirir ati fel hyn. Wedi ei halltudio i’r anialwch gyda’i mab, mae’n wylo a galarnadu wrth i’r dŵr ddod i ben ac wrth iddi ddisgwyl i’r bachgen farw. Yn y pen draw, mae Duw yn ei chlywed. A oes angen i ninnau hefyd ailddarganfod y gallu a’r parodrwydd i ‘alarnadu’ gerbron Duw?

Nid wylo a galarnadau yw diwedd y stori, yn y Beibl nac ychwaith ar gyfer pobl Dduw heddiw. Mewn ffordd ddofn, maent yn ffurfio patrwm mewn bywyd a fydd yn y pen draw yn arwain at ‘lawenydd’; caiff y rhai sy’n galaru ryw ddydd eu cysuro. Mae hynny’n rhan annatod o rythm bywyd fel y’i gwelwyd drwy gydol hanes y ddynoliaeth, ac a fynegir, er enghraifft, yn Salm 126, salm ryfeddol y cynhaeaf, ‘bydded i'r rhai sy’n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd’.

Mae ‘llawenhau’ a ‘gorfoleddu’ ar y pegwn arall i ‘wylo’. Beth yn union yw ‘llawenydd’? Mae’n air sy’n anodd ei ddiffinio – efallai oherwydd, mewn rhai ffyrdd, bod ‘llawenydd’ y tu hwnt i ddiffiniad! Rydym yn ei adnabod pan fyddwn yn ei brofi, ond nid ydym bob amser yn siŵr sut y bu i ni gyrraedd at hynny. Mae’n sicr yn air sy’n gysylltiedig â ‘chalonnau ar dân’. Nid dim ond hapusrwydd yw llawenydd – er y gall yn sicr gynnwys hynny. Mae’r rhestr isod yn cynnwys sawl myfyrdod ynghylch lawenydd. Mae Nick Baines, Esgob Leeds, yn cynnig y diffiniad canlynol o lawenydd: ’Daw llawenydd pan fo ffydd yn fyw, chwilfrydedd yn effro a’r meddwl yn cael ei ymestyn.’ Yn y 1980au disgrifiodd Robert Runcie, Archesgob Caergaint bryd hynny, lawenydd fel cynnal ynghyd mewn ffydd elfennau o’r bywyd dynol sy’n ymddangos yn wrthgyferbyniol ac yn baradocsaidd – darganfod yn y bôn y gall bywyd ddod drwy farwolaeth – gwir ymestyn y meddwl a’r galon mewn ffydd. Nododd y diwinydd o’r Alban Donald Baillie unwaith fod ‘paradocs yn rhan o bob meddwl crefyddol … oherwydd na ellir deall Duw drwy gyfrwng unrhyw eiriau dynol nac unrhyw un o gategorïau ein meddwl cyfyngedig.’ Rhywsut mae’n wir bod llawenydd a pharadocs yn perthyn i’w gilydd.

Un o’r mannau lle mae’n ymddangos y mynegir ‘llawenydd’ yn fwyaf amlwg yn y Testament Newydd yw yn hanesion geni Iesu a Ioan Fedyddiwr fel y’u hadroddir yn Efengyl Luc. Yno hefyd mae paradocs yn rhan o’r hanes Beiblaidd: hen wraig, a gwyryf ar fin dod yn famau. Mae yna yn wir elfen baradocsaidd mewn bod yn fam. Caiff hynny ei gyfleu’n eglur yn nhestun Ioan 16.20-22 a welir isod. Mae hefyd naws baradocsaidd i Sul y Fam – a gaiff ei ddathlu mewn llawer o’n heglwysi tua’r adeg hon o’r flwyddyn. I rai mai’n ddydd o ddedwyddwch mawr, i eraill mae o reidrwydd yn adeg drist. Eleni, digwydd Sul y Fam yn agos at 25 Mawrth, y dyddiad y bydd llawer o eglwysi yn dathlu

16 Walter Brueggemann, Genesis, t81

Page 28: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Gŵyl Cyfarchiad Mair i gofio’r angel yn hysbysu Mair ynghylch geni Iesu (Luc 1.26-38). Mae’r ‘Magnificat’, cân orfoleddus Mair (Luc 1.46-55), sy’n cynnwys y ferf ‘gorfoleddu’ ei hun, yn dathlu’r newidiadau a’r gwrthgyferbyniadau a fydd yn deillio o eni ei mab. Ond rhaid cyfosod y gorfoledd hwnnw â’r galar sydd ymhlyg yng ngeiriau Simeon wrth Fair, pan gyfarchodd y baban Iesu yn y Deml, ‘trywenir dy enaid di gan gleddyf’(Luc 2.35). Un ffordd addas o ddisgrifio Iesu yw fel ‘paradocs Duw’, y cyfuniad rhyfeddol o boenus a gorfoleddus o’r holl wrthgyferbyniadau: y dwyfol a’r dynol; marwolaeth a bywyd; gwendid a nerth. Mae’n densiwn sydd weithiau’n ormod i rai ohonom ei oddef, ond mae’n densiwn sy’n dod hyd yn oed yn fwy amlwg wrth i ni agosáu at awr croeshoelio Iesu.

Yn addas, efallai, ar gyfer yr wythnos hon, mae dau lun gwrthgyferbyniol i ni fyfyrio arnynt.

Gwelir y llun cyntaf, ‘The Dancing Madonna’, yn Eglwys Sant Luc yn Duston, Swydd Northampton. Mae’n darlunio Mair yn ifanc yn chwyrlïo ei mab bach o gwmpas mewn dawns lawen. Mae afiaith rhyfeddol y darlun yn gorlifo o fywyd ond mae hanes ei greu hefyd yn rhan o’i ystyr. Cafodd ei lunio ym 1976 er cof am Julie Buchanan, gwraig y ficer bryd hynny, mam oedd yn annwyl iawn gan lawer yn y plwyf, ac a fu farw yn 35 mlwydd oed yn dilyn cyfnod hir o salwch.

Nid oes enw ar yr ail lun ac ond ychydig o bobl sy’n gwybod amdano. Mae arwyddocâd personol arbennig iddo i minnau a’m gŵr. Darlun yw o hen wraig yng Ngogledd Cyprus, a beintiwyd gan arlunydd o Brydeiniwr a oedd yn byw yno ym 1974. Mae’r hen wraig yn edrych yn ddoeth a hefyd yn gyfarwydd â dioddef. Prynodd fy ngŵr Alan Amos, a oedd bryd hynny’n byw yn Libanus, y llun gan yr arlunydd yn Bellapais, pentref ger Kyrenia yng Ngogledd Cyprus pan oedd yn ymweld â’r ynys ym 1974. Dim ond ychydig o wythnosau oedd hynny cyn i Dwrci ymosod ar Gyprus ym misoedd Gorffennaf ac Awst y flwyddyn honno, pan laddwyd llawer o bobl yn Bellapais a’r pentrefi o gwmpas. Ni fyddwn byth yn gwybod beth fu tynged yr hen wraig yn y darlun, Daeth y llun ei hun, fodd bynnag, yn ôl i Beirut gydag Alan, ac fe’i cadwyd yn ddiogel yn ein fflat drwy sawl blwyddyn o ryfel cartref yn Libanus. Ym mis Awst 1982, pan oedd Israel yn ymosod ar Libanus, fe adawodd Alan a finnau Beirut, gan straffaglu gyda’r llun (a’n holl eiddo bydol arall!) dros y creigiau yn harbwr Jounieh cyn i ni yn y pen draw lwyddo i gael ar fwrdd llong i Gyprus. Bu’r darlun gyda ni fyth ers hynny, gan ein hatgoffa o ddioddefaint cymaint o bobloedd yn y Dwyrain Canol, gyda merched y rhanbarth yn aml yn dioddef fwyaf.

Ac Emaus? Sut mae Emaus yn adleisio themâu’r wythnos hon, sef galar a llawenydd dynol? Yn eglur. Yn agos at ddechrau’r hanes, cyfeirir yn benodol at dristwch y ddau ddisgybl: ‘Safasant hwy, a’u digalondid yn eu hwynebau’. Mae afiaith gwrthgyferbyniol eu llawenydd yn ddiweddarach yn amlwg o’r cyfeiriad at galonnau ar dân a’r egni y byddent ei angen i gerdded yn ôl i fyny’r allt i Jerwsalem yn hwyr y nos! Agwedd allweddol arall ar y stori yw’r ffordd drugarog, oedd eto’n heriol, y mae’r teithiwr dirgel yn ymateb iddynt.

Wrth i ni deithio drwy’r Grawys ac agosáu at dymor y Dioddefaint a’r Pasg, gall myfyrio ar ystyr wylo a llawenydd gynnig arweiniad hollbwysig i ni ar y llwybr tuag at gariad.

Salm 22

Un o nodweddion Salm 22 yw’r ffordd mae’n ymrannu’n eglur yn ddau hanner (er bod y rhan gyntaf yn hwy na’r ail). Mae’n amlygu’r ymdeimlad o baradocs y buom yn ei drafod yr wythnos hon. Enghraifft ddwys o ‘alarnad’ yw’r rhan gyntaf, tra mae ail ran y Salm yn gan afieithus o fawl a diolch i Dduw. Daw’r newid yn adnod 21. Un o nodweddion y newid yn y Salm sy’n arbennig o ddiddorol yw’r cyferbyniad rhwng yr ymdeimlad o unigedd, unigrwydd ac ynysu sydd yn amlwg yn y rhan gyntaf a’r ffordd yn yr ail ran mae’r Salmydd yn galw ar grŵp cynyddol ehangach o bobl i ymuno ag ef yng nghylch y moli. Erbyn diwedd y salm gwysir hyd yn oed y rhai o’r gorffennol a’r dyfodol i ymuno! Beth allwn ni ddysgu oddi wrth hynny am y berthynas rhwng galar, unigrwydd, llawenydd a chymuned?

Page 29: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Rhai adnodau i roi’r galon ar dân o’r Beibl yn gysylltiedig â thema’r wythnos hon

Gŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur. (Eseia 53.3)

Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. (Rhufeiniad 8.38-9)

Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud, ‘Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd’. (Luc 19.41,42)

Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr. (Luc 1.46,47)

Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. (Mathew 5.4)

Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth. (Eseia 12.3)

O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau! Wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl. (Jeremeia 9.1)

Fel hyn y dywed yr Arglwydd:

‘Clywir llef yn Rama,

galarnad ac wylofain.

Rachel yn wylo am ei phlant,

yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,

oherwydd nad ydynt mwy.’ (Jeremeia 31.15)

Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy. (Datguddiad 21.4)

Torrodd Iesu i wylo. (Ioan 11.35)

Aeth [Pedr] allan ac wylo’n chwerw. (Luc 22.62)

Bydded i’r rhai sy’n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd. (Salm 126.5)

Os erys dagrau gyda’r hwyr, daw llawenydd yn y bore. (Salm 30.5)

Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, y byddwch chwi’n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd. Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio’r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i’r byd. Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe’ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch. (Ioan 16.20-22)

Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. (Ioan 20.20)

Rhai geiriau i fyfyrio arnynt

Nid oes unrhyw agwedd ar fywyd nac emosiynau dynol lle nad yw Duw’n bresennol. Ond mae ffordd Duw o fod yn bresennol yn aml yn gwbl groes i’n disgwyliadau a’n rhagdybiaethau ninnau. Gall adegau o lawenydd ac agosrwydd at arall, ac adegau o ddryswch ac anobaith, oll fod yn gyfle i ddod yn ymwybodol mewn ffordd ddyfnach o bresenoldeb Duw. (Gemma Simmonds)

Mae diolchgarwch yn trawsnewid y loes ddaw o gofio pethau da sydd bellach wedi diflannu yn llawenydd tawel. Byddwn yn cofleidio’r hyn oedd yn hardd yn y gorffennol nid fel

Page 30: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

draenen ond fel rhodd werthfawr yn ddwfn o’n mewn, trysor cudd y gallwn bob amser fod yn sicr ohono. (Dietrich Bonhoeffer)

Nid rhywbeth sy’n ofynnol ar gyfer bod yn ddisgybl Cristnogol yw llawenydd, ond canlyniad bod yn ddisgybl. (Eugene Pedrson)

Llawenydd yw gelyn mawr hunan-serch (Stanley Hauerwas). Gweler hefyd y fideo yn https://www.theworkofthepeople.com/joy

Mae John Piper yn cynnig diffiniad o lawenydd Cristnogol yn y darn fideo hwn: https://www.youtube.com/watch?v=inEsNrLEMEY

‘Fy llawenydd, cododd Crist!’ - cyfarchiad Sant Seraphim o Sarov i bawb a ddeuai i ymweld â’i gell fynachaidd.

Ni fyddi byth yn mwynhau’r byd yn gywir hyd y bydd y Môr ei hun yn llifo drwy dy wythiennau, hyd y byddi’n gwisgo’r wybren, â’r sêr yn goron i ti: gan dy weld dy hun yn unig etifedd yr holl fyd, ac yn fwy fyth felly, gan fod pawb arall sydd ynddo yn unig etifeddion fel tydi. Hyd y byddi’n gallu canu a llawenhau ac ymhyfrydu yn Nuw, fel y gwna cybyddion mewn aur, a Brenhinoedd yn eu teyrnwialennau, ni fyddi byth yn mwynhau’r byd. Hyd y bydd dy ysbryd yn llenwi’r holl fyd, a’r sêr yn berlau i ti; hyd y byddi mor gyfarwydd â ffyrdd Duw yn yr holl Oesoedd ag yr wyt â’th gerddediad ac â’th fwrdd dy hun: hyd y byddi’n glos gyfarwydd â’r gwacter tywyll hwnnw y gwnaed y byd ohono: hyd y byddi’n caru dynion hyd at ddeisyfu eu dedwyddwch, gyda sychder amdano mor ddwys â’th sychder am dy ddedwyddwch dy hun: hyd y byddi’n ymhyfrydu yn Nuw am fod yn ddaionus tuag at bawb: ni fyddi byth yn mwynhau’r byd. (Thomas Traherne, awdur ac ysgrifennwr ysbrydol o’r ail ganrif ar bymtheg)

Thomas Traherne

Bardd Seisnig ac awdur crefyddol o’r ail ganrif ar bymtheg yw Thomas Traherne, nad oedd fawr neb yn gyfarwydd â’i waith hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif pan ailddarganfuwyd llawysgrifau o’u gyfansoddiadau a oedd wedi bod ar goll ers dros ddau gan mlynedd. Daeth rhagor o lawysgrifau gan Traherne i’r golwg ond tuag ugain mlynedd yn ôl, un ohonynt yn llyfrgell Palas Lambeth. Teitl gwaith enwocaf Traherne yw ‘Centuries of Meditations’. Un o syniadau allweddol Traherne yw’r hyn a eilw’n ‘felicity’ y mae’n awgrymu y gall fodoli orau pan fydd bodau dynol yn caniatáu i Dduw eu ‘gweddnewid’. Gellir gweld cyfres hardd o ffenestri’n dathlu bywyd a gwaith Traherne yng Nghadeirlan Henffordd, y ddinas lle’i magwyd.https://www.thomasdenny.co.uk/hereford-cathedral-the-thomas-traherne-windows

Rhai caneuon a darnau o gerddoriaeth i wrando arnynt ac i’w rhannu

Drop drop slow tears

O the life of the world is a joy and a treasure

The kingdom of Duw is justice a peace, and joy in the Holy Spirit (Taizé). Recordiad hardd yn https://www.youtube.com/watch?time_continue=32&v=3bkyllRBX48

Molawd i Lawenydd Beethoven – darn sy’n ffefryn gyda cherddorfeydd ffwrdd â hi ‘flash mob’. Ceir enghraifft sy’n arbennig o orfoleddus yn https://www.youtube.com/watch?v=GBaHPND2QJg

Deck thyself my soul with gladness

There's a wideness in God’s mercy, like the wideness of the sea https://hymnary.org/text/theres_a_wideness_in_gods_mercy

Page 31: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Dyro gân dan fy mron, gad im foli (Caneuon Ffydd 397)

Jesu joy of man’s desiring (Ceir llawer o fersiynau gwych ar YouTube, gan gynnwys https://www.youtube.com/watch?v=4EEV-YEKrdw)

Rhai cwestiynau i’w hystyried a’u trafod Ydy defnydd y Beibl o ieithwedd yn ymwneud â’r ‘galon’ yn eich cyffwrdd? Beth mae’n ei

olygu i chi? A yw’n llefaru wrthych am emosiynau, a chariad a hiraeth? Dywedodd cyfaill wrthyf unwaith, ar sail ei brofiad personol ei hun, ‘Pam ydyn ni’n siarad am y “galon” wrth drafod cariad dynol ac ysbrydolrwydd? Organ i bwmpio, wedi’r cyfan, yw’r galon, nad yw fymryn mwy emosiynol na’r iau. Gan i mi dyfu gyda ’Nhad yn dioddef o afiechyd y galon drwy’r rhan fwyaf o ’mhlentyndod, ac imi glywed ei riddfan wrth iddo farw o’i drawiad olaf dri deg o flynyddoedd yn ôl, mae’r gair “calon” yn golygu rhywbeth anodd i mi yn ogystal â’r ystyr gonfensiynol. Y galon hefyd, felly, yw’r rhan o’r corff sy’n cynrychioli’n hansicrwydd a’n breuder. Ond a ydyn ni’n teimlo cariad yn gorfforol o’r galon?’

A yw o gymorth i chi feddwl am Dduw’n dioddef – ynteu a yw hynny’n broblem i chi?

Beth allwn ni ddysgu oddi wrth y Salmau galarnad? (megis Salm 22)

Sut fyddech chi’n diffinio ‘llawenydd’?

Rhywbeth i’w weddïo

Litani Mamau’r Beibl

Arweinydd: Efa, mam ein dynoliaeth,

Pawb: dysg i ni wir ddoethineb, fod popeth byw yn werthfawr yng ngolwg Duw.

Arweinydd: Sara, Hanna, ac Elisabeth, yn dyheu am blentyn,

Pawb: cysurwch ac atgyfnerthwch bawb sy’n profi loes anffrwythlondeb.

Arweinydd: Hagar, a gondemniwyd i ddioddef chwerwder alltudiaeth,

Pawb: cynnal y rhai y mae bwydo eu meibion a’u merched yn faich.

Arweinydd: Rebeca, y briodferch o wlad bell,

Pawb: croesawa’r gwragedd y mae’n rhaid iddynt fagu eu plant ymysg dieithriaid.

Arweinydd: Rachel, sy’n wylo dros dy blant,

Pawb: wyla gyda’r holl famau y diflannodd eu plant.

Arweinydd: Jochebed, mam Moses a Miriam,

Pawb: rhanna dy ddyfeisgarwch â’r merched sy’n ceisio diogelwch i’w plant.

Arweinydd: Naomi a Ruth, yr oedd cariad uwchlaw perthynas waed yn eich clymu ynghyd,

Pawb: dangoswch i ni sut gall siomedigaeth chwerw droi’n fwynder gobaith.

Arweinydd: Mair, ferch Israel, mam Iesu,

Pawb: rhanna â ni gyfrinachau Duw, y buost yn myfyrio arnynt yn nyfnder dy galon.

Rhywbeth i’w gymryd gyda chi

Mae Cristnogion yn y Dwyrain Canol wedi dioddef llawer yn ystod y digwyddiadau cythryblus ers dechrau’r ganrif hon. Mae llawer o Gristnogion yn y Gorllewin yn ei chael yn anodd deall yr ymdeimlad dwfn o lawenydd maent yn ei gyfleu yng nghanol yr helbul – a’r erledigaeth – a brofodd

Page 32: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

llawer ohonynt. Mae ‘doethineb’ ddofn o fewn Cristnogaeth y Dwyrain sy’n dda ei rhannu. Mae’r sant o’r chweched ganrif o Syria, Jacob o Saroug, yn myfyrio’n huawdl ar bwysigrwydd dagrau:

Nid oes gennyt ddagrau? Pryn ddagrau gan y tlodion. Nid oes gennyt dristwch? Gofyn i’r un sy’n dlawd ochneidio gyda thi. Os yw dy galon yn galed ac nad oes ganddi na thristwch na dagrau, gwahodd yr anghenus ag elusen i wylo gyda thi… mynna ddŵr dagrau, a boed i’r tlodion ddod i’th gynorthwyo i ddiffodd y tân sydd yn dy ddifa. (Sant Jacob o Saroug)

Un o’r addewidion olaf yn y Beibl yw y bydd Duw yn sychu pob deigryn o’n llygaid (Datguddiad 21.4). Ond a ydych wedi sylweddoli bod hynny’n addewid na fydd hyd yn oed Duw’n gallu ei gadw oni fyddwn wedi dysgu sut i wylo?

Page 33: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Wythnos Pump: Ein clymu ynghyd mewn cariad ac aberth

Darlleniad craidd: Genesis 22.1-18

Wrth i’r tymor pan fyddwn yn cofio dioddefaint a marwolaeth Iesu agosáu, edrychwn eto ar y themâu mawr o’r Beibl y buom yn eu hystyried yn ystod yr wythnosau blaenorol – dirgelwch a sancteiddrwydd Duw, absenoldeb a phresenoldeb Duw, y berthynas rhwng bodau dynol â Duw ac â’i gilydd a llawenydd a loes yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Byddwn yn ystyried sut mae cariad ac aberth Duw, y mae Cristnogion yn eu gweld ar eu mwyaf amlwg yng Nghroes Crist, yn cydblethu’r themâu hynny.

Symbol

Dau ddarn o bren (yn ddelfrydol ffyn neu frigau) wedi’u clymu â’i gilydd yn fras ar ffurf croes.

Myfyrdod agoriadol

Sanctaidd Un, clywn dy fiwsig yn rhuo’r môr,

yng nghân cenedl,

yn yr awel dyner yn suo drwy’r coed.

Diolchwn i ti, o Dduw:

am dy fod yn caru ein byd gymaint.

Sanctaidd Un, synhwyrwn dy rym yn nawns y fflamau yn y tân,

yn nyhead ein heneidiau,

yn niflaniad y cysgodion.

Diolchwn i ti, o Dduw:

am dy fod yn caru ein byd gymaint.

Sanctaidd Un, teimlwn dy anwes yn rhodd ein dynoliaeth,

yn ein hawch i fod yn gyflawn,

ym mendith tangnefedd.

Diolchwn i ti, o Dduw:

am dy fod yn caru ein byd gymaint.

Man cychwyn

Gwahoddwch ddau o aelodau o’r grŵp i rannu’r darnau arbennig o’r Beibl sy’n rhoi eu calonnau ar dân o’u mewn.

Myfyrdod Ysgrythurol

Darllenwch Genesis 22.1-18 ac ystyriwch y myfyrdod canlynol:

Page 34: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Y tro cyntaf y mae’r cysyniad o gariad yn ymddangos yn eglur yn y Beibl yw yn Genesis 22, ar ddechrau’r bennod lle’r ymddengys bod Duw’n profi Abraham drwy ddweud wrtho am aberthu ei fab Isaac. ‘Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno …’ Mae cariad ac aberth yn agos gysylltiedig, ac felly y buont erioed. Mae perthynas glos rhyngddynt – ac eto mae’r berthynas honno’n un heriol.

Er nad yw Isaac yn y pen draw yn cael ei aberthu, gyda dafad yn cymryd ei le ar yr allor, mae llawer o gredinwyr yn ystyried y stori hon yn un anodd ac yn benbleth. Credaf eu bod yn iawn i deimlo felly. Mae Iddewon sy’n darllen y stori’n teimlo felly hefyd, yn ogystal â Christnogion. Bûm unwaith yn adolygu llyfr gan rabi o Ganada a ddywedodd yn eofn ac yn blaen, ‘Roedd Abraham yn anghywir’ i fod yn barod i ufuddhau i orchymyn gan Dduw a oedd yn ymddangos mor erchyll. Fe wnaeth fy ymateb cadarnhaol i’r llyfr ennyn sylwadau dig gan ysgolhaig o Gristion a oedd yn fwy ceidwadol, a oedd yn teimlo bod fy sylwadau’n nodweddiadol o syniadau ffeminyddion modern! Er y byddwn heddiw, mae’n debyg, yn mynegi fy marn mewn ffordd ychydig yn fwy gofalus nag y gwneuthum ugain mlynedd yn ôl, rwyf yn parhau i deimlo nad oeddwn yn anghywir i feddwl bod y stori Feiblaidd yn broblematig. Yn sicr, rwyf yn un o lawer o sylwedyddion, yn Iddewon a Christnogion, sydd wedi ‘ymgodymu’ â phenbleth pa fodd i ddeall hanes o’r fath o gofio ein cred mewn Duw cariadlon sy’n ffynhonell bywyd. Un o’r ffyrdd y bu i esbonwyr Iddewig ymateb i anawsterau’r alwad ymddangosiadol i aberthu plentyn ifanc fu awgrymu nad plentyn diarwybod yr oedd ei dad am ei offrymu yn erbyn ei ewyllys oedd Isaac, ond dyn yn ei oed a’i amser (nodwyd sawl tro ei fod yn 37 mlwydd oed) a oedd o’i wirfodd yn cynnig ei hun i’w offrymu. Mae hi hefyd yn wir bod llawer o ysgolheigion Beiblaidd benywaidd yn ystyried y stori’n arbennig o anodd, efallai oherwydd nad yw Sara, mam Isaac, yn ymddangos yn y testun o gwbl.

Un ffordd bosibl o ymdrin â thestun Genesis 22 yw ei weld fel ymdrech fwriadol ar ran yr awdur Beiblaidd i’n gwahodd i fod yn rhan o ddeialog lle gallwn ofyn ein cwestiynau gan wybod y cânt eu clywed. Mae ‘llymder’ y modd yr adroddir yr hanes, fel ag i wneud y cefndir yn hollbwysig, efallai’n annog hynny. Mae hynny’n wir hefyd am y chwarae ar eiriau a’r amwysedd bwriadol. Er enghraifft pan ddywed Abraham wrth ei fab Isaac, ‘Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab’, a yw’r geiriau ‘fy mab’ wedi’u bwriadu i gyfarch Isaac yn uniongyrchol, gan fynegi gobaith Abraham y bydd Duw’n rhwystro aberthu ei fab, ynteu a yw ‘fy mab’ yn cael ei gyfystyru’n eglur ag ‘oen y poethoffrwm? Mae hefyd gyswllt agos (sy’n eglur yn Hebraeg y Beibl er nad yn y cyfieithiadau Cymraeg a Saesneg) rhwng y geiriau a ddefnyddir ar gyfer ‘unig’ fab (adnodau 2 a 12) ac ar gyfer ‘ynghyd / gyda’i gilydd’ (adnodau 6 ac 8). Mae bwriad unol y tad a’r mab a’u teithio ynghyd ar y llwybr anodd hwn rywfodd yn gysylltiedig â chariad Abraham tuag at Isaac, ei annwyl fab. Er mor anodd yw’r stori, mae hi’n ein gwahodd i fyfyrio ynghylch natur cariad, a’r modd y gallai ac y dylai ein cariad ninnau at Dduw a’n cariad at eraill – yn enwedig y rhai agosaf atom – gydberthyn. Wrth gwrs, un agwedd ingol ar y stori, y mae darllenwyr cyfoes yn sylwi mwy arni na darllenwyr y cenedlaethau a fu, yw nad Isaac oedd ‘unig’ fab Abraham mewn difrif. Bu hefyd Ismael, yr adroddwyd ynghylch ei alltudio’n orfodol i’r anialwch yn y bennod flaenorol, Genesis 21, mewn ieithwedd sydd hithau’n awgrymu cyswllt rhwng tynged y ddau frawd. Mae’n debyg, o safbwynt Abraham, ar ddechrau pennod 22, nad oedd y ffaith i Ismael oroesi er ei alltudio i farw’n wybyddus.

Darllenwch Ioan 3.16 ac yna ewch ymlaen i ystyried y myfyrdod hwn:

Y tro cyntaf y digwydd y ferf ‘caru’ yn Efengyl Ioan yw yn natganiad mawr Ioan 3.16, ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ Unwaith eto, clywn am dad a mab, ac mae’n ddiddorol y modd y cysylltir y cyfeiriad at ‘gariad’ yma hefyd ag ‘unig Fab’ – er ar y pwynt hwn yn Efengyl Ioan y ‘byd’ yn hytrach na’r ‘Mab’ ei hun yw gwrthrych cariad y Tad.

Fel y bu i ni awgrymu yn Wythnos Dau, ceir awgrymiadau drwy gydol Efengyl Ioan – nid lleiaf yn yr adran agoriadol – bod ei hawdur yn ceisio adleisio llyfr Genesis a chyflwyno bywyd a gweinidogaeth

Page 35: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Iesu Grist fel ‘creu o’r newydd’. Felly pan mae’r awdur yn disgrifio Iesu fel ‘unig Fab’ mae’n gwneud hynny’n rhannol i adleisio’r hanes a adroddwyd gyntaf yn Genesis 22 am yn agos aberthu unig fab annwyl. Daw Iesu yn ‘ail Isaac’, y golygai ei farwolaeth wirioneddol ar y groes, y buom yn teithio tuag ati drwy gydol y Cwrs Grawys hwn, y bu gofyn iddo fynd ymhellach nag y galwyd Isaac i fynd: ni fydd oen amgen yn ymddangos ar amrantiad o ddrysni ar y funud olaf i achub popeth. Yn hytrach daw’r ‘unig Fab’ hwn ei hun fydd yr ‘oen’, ac yn ‘Iachawdwr y byd’ (gweler, er enghraifft, Ioan 1.29).

Mae tystiolaeth arall yn y Testament Newydd bod Cristnogion cynnar, wrth geisio deall ystyr marwolaeth Iesu, wedi ystyried y gymhariaeth ag agos aberthu Isaac. Er enghraifft, mae’r sylw gan Paul yn Rhufeiniad 8.32, ‘Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll…’ fel petai’n adleisio’r iaith a ddefnyddiwyd yn hanes Abraham ac Isaac. Mae’r ffaith i Grist farw ar ‘bren’ y Groes yn hybu’r gymhariaeth â hanes Abraham ac Isaac lle mae ‘pren’ hefyd yn ddelwedd bwysig. Nid damwain yw’r ffaith y darllenir Genesis 22 yn aml mewn litwrgïau eglwysig ffurfiol yn ystod yr Wythnos Fawr.

Ond mae’n ymddangos mai Efengyl Ioan sydd yn adlewyrchu ddyfnaf y gymhariaeth hon rhwng agos aberthu Isaac a marwolaeth Iesu Grist – ac ag ystyr ei farwolaeth. Yn y gymhariaeth hon mae Duw’r Tad yn mabwysiadu swyddogaeth ddwbl Duw a’r tad o hanes Abraham ac Isaac ac o’r herwydd yn chwyddo’n rhyfeddol bwysigrwydd y ‘cariad’ sy’n ganolog i’r stori. Yn lle’r her a osodwyd yn ôl pob golwg gerbron Abraham i ddangos bod ei gariad tuag at Dduw yn fwy na’i gariad at ei fab, bellach cariad y Tad tuag at y Mab a’r byd fel ei gilydd sy’n golygu y rhoddir y Mab yn rhad. Ac mae hynny’n ein galluogi i ddechrau deall mwy am natur cariad: bod grym cariad yn deillio o’i natur hanfodol fregus, gan wneud cariad yn gryfach na chasineb. Drwy’r canrifoedd bu llawer o ‘esboniadau’ o’r ffordd mae croeshoeliad Crist yn ‘gweithio’ i adfer y berthynas rhwng Duw a’r ddynoliaeth; efallai ar gyfer ein hoes ni fod angen ein hannog i feddwl am y croeshoelio yn nhermau ‘cariad’ sydd ar yr un pryd yn ymwneud â’r galon ac â’r ewyllys. Ym mhrofiad y ddynoliaeth gwyddom fod perthynas gynhenid rhwng cariad ac aberth: rydym yn fodlon rhoi popeth dros y rhai a garwn, ac er ein bod yn ymddangos wedi’n gwanychu, rydym yn canfod nerth o’r newydd a all ein newid ni a hefyd newid y rhai a garwn. Greddf ddilys a arweiniodd at osod y geiriau hyn o Efengyl Ioan ‘Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion’ (Ioan 15.13) ar lawer o gofebau rhyfel, er y byddem fel Cristnogion am ehangu ac amodi’r modd y defnyddiwyd y geiriau yn y cyd-destun hwnnw.

Fel yr awgrymais yn y paragraff cychwynnol ar gyfer yr wythnos hon, gall ‘cariad’ yn wir gydblethu’r themâu Beiblaidd pwysig y buom yn eu hystyried yn gynharach yn ein cwrs: absenoldeb a phresenoldeb Duw, perthynas rhwng bodau dynol a chymod, a galar a llawenydd. Mae’n eu clymu ynghyd a bydd yn eu gwau drwy’r groes, yr arwydd bywiol hwnnw sy’n ganolog i’n ffydd.

Ar ôl pennod 22 nid oes llawer o sôn am ‘gariad’ yng ngweddill Genesis. Cyfeirir at gariad Isaac at Rebeca, ac yna mae pethau’n fel petaent yn dirywio, gan i’r cyfeiriadau at gariad yn hanesion Jacob ac Esau a Joseff a’i frodyr fod yng nghyd-destun ffafriaeth annheg yn ôl pob golwg. Wrth gwrs, fe ymddengys ‘cariad’ yn aml yng ngweddill yr Hen Destament, yn arbennig mewn rhannau o’r Ysgrythur lle cymherir y berthynas rhwng Duw a phobl Israel i briodas, gan esgor ar rai o’r testunau sy’n fwyaf tebygol o osod ‘calonnau ar dân’ yn yr Hen Destament. Mae delwedd aberth hefyd yn ailymddangos, er enghraifft, hunan-aberth Moses er mwyn ei bobl, neu’r un ‘cyfarwydd â dolur’ a gafodd ei glwyfo oherwydd pechodau pobl eraill. Yn y ddwy enghraifft hynny, ymddengys fod aberth yn dod yn agos iawn at ein dirnadaeth ninnau o gariad.

Ond mae’n ddiddorol cymharu pa mor anaml y cyfeirir at gariad yn Genesis mewn cyferbyniad â’r cyfeiriadau helaeth yn Efengyl Ioan. Unwaith y crybwyllir cariad gyntaf yn Ioan 3.16 mae fel pe byddai’r llifddorau wedi agor. Ychydig adnodau ymhellach ymlaen, cyfeirir at gariad y Tad at y Mab yn ddiamwys (adnod 35) ac ailadroddir hynny yn 5.20 a 10.17. Wedyn, yn bwysig, cyfeirir at gariad

Page 36: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

penodol, pendant ac ymarferol Iesu tuag at Fair, Martha a Lasarus, y teulu ym Methania, yn 11.5. Ar ôl hynny, mae’r hyn a ddywed Iesu wrth ffarwelio’n cylchu droeon o gwmpas gwahanol agweddau ar gariad: cariad Iesu tuag at ei ddisgyblion, ei orchymyn i’r disgyblion i ymateb i hynny drwy garu ei gilydd, a’i addewid wrthynt y byddant yn parhau yng nghariad y Tad. Yr hyn sydd hefyd yn bwysig i’w gofio yw mai yn y penodau hyn lle trafodir cariad mor ddwys y pwysleisir hefyd undod y Tad a’r Mab: ‘fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti’ gan ymestyn hynny i’n cynnwys ninnau yn y cylch hwn o gariad, ‘iddynt hwy hefyd fod ynom ni’ (Ioan 17.21). Efallai fod hyn yn ein hatgoffa o bwyslais Genesis 22 ar y ffaith bod Abraham ac Isaac ar daith ‘ynghyd’. Mewn modd tebyg, mae angen i’r tad a’r Mab brofi’r daith i’r Groes gyda’i gilydd. Mae hi rywfodd yn bwysig – yn allweddol bwysig gellid dadlau – os yw cariad i gynnwys aberth, bod y sawl sydd i brofi hynny’n cyfranogi’n llwyr ac o wirfodd yn y weithred.

Y llun a ddewiswyd i gydfynd â’n myfyrdod ar gyfer yr wythnos hon yw dehongliad rhyfeddol Marc Chagall o Aberthu Isaac, a beintiwyd rywbryd rhwng 1960 a 1966. Defnyddir amrywiaeth drawiadol o liwiau yn y llun, sy’n pwysleisio natur ingol y weithred yn ogystal â’r ymyrraeth nefol. Mae ‘ychwanegiadau’ Chagall at yr hanes Ysgrythurol yn cynnwys gosod Sara’n edrych ar yr olygfa gan ymbil o’r tu ôl i’r llwyn lle mae’r oen fydd yn cymryd lle Isaac ynghudd. Yng nghornel dde uchaf y llun dangosir y croeshoelio, sy’n amlwg yn tynnu sylw at y ‘ddolen’ rhwng artaith Isaac a dioddefaint Crist. Iddew oedd Chagall ei hun ac mae hefyd yn arwyddocaol bod yr un sy’n cario’r groes wedi’i wisgo yn nillad Iddew o Ganolbarth Ewrop – gydag awgrymiadau gweledol yn y gofod bach uwchlaw sy’n adleisio’r Holocost. Mae cydblethu Iddewiaeth a Christnogaeth ynghyd yn hanes Abraham ac Isaac a’r modd y cafodd y stori ei defnyddio yn y ddwy grefydd yn parhau. Adroddir hanes tebyg iawn yn Islam, ond yn y grefydd honno Ismael yw’r mab sy’n dod yn agos at gael ei aberthu. Mae eicon ‘Crist yw ein Cymod’, sef ein darlun arbennig ar gyfer Wythnos Tri, hefyd yn tynnu sylw’n gynnil at yr adleisiau rhwng y ddau fab Isaac ac Ismael, gyda darlun o Sara ac Isaac ar un ochr i’r eicon a Hagar ac Ismael ar yr ochr arall.

Fel yn achos wythnosau eraill y Cwrs rydym yn cloi drwy awgrymu cysylltiadau rhwng thema’r wythnos a stori Emaus. Yma maent yn arbennig o amlwg. Mae tristwch y ddau ddisgybl a’u disgrifiadau manwl o fywyd a gweinidogaeth Iesu’n cyfleu’n eglur y cariad a deimlant tuag at eu cyfaill. Mae ymateb eu cyd-deithiwr, ‘Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?’ (Luc 24.26) yn tanlinellu’r modd, drwy gydol yr Ysgrythurau, y mae aberth yn rhan annatod o berthynas gariadus Duw â bodau dynol.

Grawys yw’r alwad i gofleidio’n agosach gariad tragwyddol ac aberthol Duw, ac i ganiatáu i ni ein hunain gael ein trawsnewid gan y cariad hwnnw.

Rhai adnodau i roi’r galon ar dân o’r Beibl yn gysylltiedig â thema’r wythnos hon

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3.16)

Pan oedd Israel yn fachgen fe’i cerais,

ac o’r Aifft y gelwais fy mab...

Myfi a fu’n dysgu Effraim i gerdded,

a’u cymryd erbyn eu breichiau;

ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

Tywysais hwy â rheffynnau caredig,

ac â rhwymau cariad. (Hosea 11.1, 3-4a)

Page 37: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

‘P’run yw'r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?’ Atebodd Iesu, ‘Y cyntaf yw, “Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw’r unig Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.” Yr ail yw hwn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Nid oes gorchymyn arall mwy na’r rhain.’ (Marc 12.28-31)

Yn awr yr oedd Iesu’n caru Martha a’i chwaer a Lasarus. (Ioan 11.5)

Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar… Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf. Nid yw cariad yn darfod byth… Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod. Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.(1 Corinthiaid 13.1, 4-8, 12-13)

Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? (Rhufeiniad 8.32)

Fel y mae’r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i. (Ioan 15.9)

Rhai geiriau i fyfyrio arnynt

Syrthio mewn cariad â Duw yw’r rhamant eithaf; ei geisio yw’r antur eithaf; ei ganfod yw camp mwyaf bod dynol. (Awstin o Hippo)

Mesur cariad yw caru’r tu hwnt i fesur. (Awstin o Hippo)

Er mwyn canfod cymeriad pobl nid oes ond angen sylwi ar yr hyn y maent yn ei garu.(Awstin o Hippo)

I’r hwn sydd ym mhobman, daw pobl ato nid drwy deithio ond drwy garu.(Awstin o Hippo)

Rwyf bob amser yn meddwl mai’r ffordd orau i ddod i adnabod Duw yw caru llawer o bethau. Caru cyfaill, caru gwraig, caru rhywbeth, beth bynnag a fynni, ond mae’n rhaid i ti garu â chydymdeimlad aruchel, dwys a chlos, â nerth, â deallusrwydd, a rhaid i ti bob amser geisio adnabod yn ddyfnach, yn well ac yn fwy. (Vincent Van Gogh)

Mae hi’n amhosibl caru a bod yn ddoeth. (Francis Bacon)

Mae cariad yn diosg oddi arnom y mygydau rydym yn ofni na allwn fyw hebddynt ac yn gwybod na allwn fyw ynddynt. (James Baldwin)

Gweithred o faddau’n ddiddiwedd yw cariad. (Jean Vanier)

Y peth mwyaf a all ddigwydd i unrhyw enaid dynol yw cael ei lenwi’n llwyr â chariad, a hunanaberth yw mynegiant naturiol cariad. (William Temple)

Y dydd y byddwn yn peidio â llosgi â chariad bydd pobl yn marw o’r oerfel. (Anhysbys)

Cariad yw’r egni cosmig sy’n fflamio o’r cytserau ac sydd ynghudd yn nyfnder yr atom; a sibrydir gan yr Ysbryd Glân yn y galon, ac a floeddiwyd gerbron y ddynoliaeth ar y Groes. Mae’n cynnig i ni bopeth sydd ganddo ac yn hawlio gennym y cyfan a allwn ninnau ei roi. (Yr Esgob Lumsden Barkway)

Page 38: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Cariad oedd ystyr ein Harglwydd. (Iwlian o Norwich)

Gwêl ei ddinoethi gan fonllefau’r llu

fynnodd ei hoelio’n ’sglyfaeth ar y groes,

ei rwygo’n giaidd dan y wybren ddu,

a chariad wedi’i glymu wrth ei loes.

Ond dyma awr y newid. Drwy’i sarhad

try colled lwyr yn ennill, angau’n wawr

y bywyd newydd. Clwyfau dry’n iachâd,

anadla’r byd y nef, daw’r nef i’r llawr.

Gwêl yma hyd a lled a gwerth a maint

y caru eithaf a’r casáu, a gras

yn cyffwrdd pechod gan ddiddymu’i haint.

Yma mae cariad yn cyflawni’i dras:

gwahodd mae’n ceidwad ni, ei deulu, nghyd

i brofi’n rhad y cariad brynodd fyd.

(O sonedau Malcolm Guite sy’n myfyrio ar Orsafoedd y Groes. Cyfieithiad a geir yma o’r gerdd sy’n gysylltiedig â Gorsaf XI, lle hoelir Iesu wrth y groes.)17

Gweddi Tad ar Achlysur Llofruddio ei Fab

Cyfansoddwyd y weddi rymus isod gan yr Esgob Hassan Dehqani-Tafti, yr Esgob Anglicanaidd yn Iran adeg y chwyldro yn y wlad ym 1979. Cyn gynted ag y dechreuodd y chwyldro yno, bu ymosodiadau ar yr Eglwys Anglicanaidd. Bu ymgais i lofruddio’r Esgob Hassan yn ddiweddarach y flwyddyn honno a bu raid iddo adael y wlad. Ym mis Mai 1980 cafodd ei unig fab, Bahram, ei lofruddio yn Tehran. Meddai’r Esgob Guli Francis Dehqani, merch yr Esgob Hassan, sydd bellach yn Esgob Cynorthwyol Loughborough, ‘Dyma’r weddi a ysgrifennodd fy nhad ar ôl i’m brawd, Bahram, gael ei ladd. Fe wnaeth arddweud y geiriau dros y ffôn i’m mam a darllenwyd y weddi, yn y Berseg wreiddiol, yn angladd Bahram yn Isfahan.’ Dyma gyfieithiad Cymraeg o’r fersiwn Saesneg o’r hyn a adwaenir bellach fel ‘gweddi’r maddau’.

O Dduw, fe gofiwn nid yn unig Bahram ond hefyd y rhai a’i llofruddiodd;

…oherwydd drwy eu trosedd rydym yn bellach yn cerdded yn ôl dy droed

yn fwy union ar lwybr aberth.

Mae tân ofnadwy’r drychineb yn llosgi

pob hunanoldeb a thrachwant sydd ynom.

Yng ngoleuni ei fflamau gwelir dyfnderoedd llygredd, rhagfarn a drwgdybiaeth,

maint casineb a gafael pechod ar ein natur ddynol.

Mae’n amlygu’n fwy nag erioed ein hangen i ymddiried yng nghariad Duw

fel y’i gwelwn yng nghroes Iesu a’i Atgyfodiad;

17 ⓗ O gyfres o sonedau ‘The Stations of The Cross’ gan Malcolm Guite: Sounding the Seasons, Canterbury Press 2012. Defnyddiwyd gyda chaniatâd y bardd.

Page 39: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

cariad sy’n ein rhyddhau rhag casáu’r rhai sy’n ein herlid;

cariad sy’n meithrin amynedd, dyfalbarhad a dewrder,

teyrngarwch, gwyleidd-dra a haelioni calon;

cariad sydd fwy nag erioed yn dyfnhau’n hymddiriedaeth ym muddugoliaeth derfynol Duw

ac yn ei fwriadau tragwyddol ar gyfer yr Eglwys a’r byd;

cariad sy’n ein dysgu sut i baratoi ein hunain ar gyfer dydd ein hangau ninnau.

O Dduw, amlhaodd gwaed Bahram ffrwyth yr Ysbryd ym mhridd ein heneidiau;

felly pan saif y rhai a’i llofruddiodd ger dy fron ar Ddydd y Farn,

cofia ffrwyth yr Ysbryd drwy’r hwn y bu iddynt gyfoethogi’n bywydau.

A maddau… (Hassan Dehqani-Tafti)

Rhai caneuon i wrando arnynt ac i’w rhannu

Ubi caritas et amor Deus ibi est (Ble bynnag y bo caredigrwydd a chariad, yno y mae Duw, Taizé)

https://www.youtube.com/watch?v=eF8AW6JzWpE

Morning glory starlit sky

Tydi a ddaethost gynt o’r nef (Caneuon Ffydd 690)

Love divine all loves excelling.

Love is his word, love is his way

https://www.youtube.com/watch?v=uQWC1IV-fL8

Wrth edrych, Iesu ar dy groes (Caneuon Ffydd 495)

There’s a wideness in God’s mercy

https://hymnary.org/text/theres_a_wideness_in_gods_mercy

Rhywbeth i’w ystyried a’i drafod

Beth ydych chi’n ei deimlo ynghylch hanes Abraham ac Isaac yn Genesis 22?

Beth yw’r berthynas rhwng angerdd a dioddefaint? Neu o’i roi mewn geiriau eraill, ydych chi’n teimlo bod cariad grymus o reidrwydd yn cydblethu mewn rhyw ffordd â hunanaberth a dioddef?

A yw cryfder cariad yn rhannol gysylltiedig â pha mor fregus yw cariad?

A yw ein hoes ninnau’n gweld gwerth mewn ‘aberth’ yn y modd y gwnâi cenedlaethau’r gorffennol? Ym mha ffordd y gellir ac y dylid ‘aberthu’ heddiw?

Page 40: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Rhywbeth i’w weddïo

Petaem ni ond wedi bod yno

pan anwyd y ddaear,

efallai y byddem wedi gweld yn eglurach

pa mor werthfawr yw’n byd, pa mor fregus ac unigryw,

efallai y byddem wedi ei drysori’n fwy a’i garu’n well

petaem ni ond wedi bod yno

pan gydganodd sêr y bore, ac y bloeddiodd yr angylion mewn gorfoledd.

Petaem ni ond wedi bod yno

pan sefydlwyd cadeirlan enfawr y wybren gyntaf,

efallai byddai miwsig y sêr

wedi mwytho’n heneidiau

ac wedi harddu â’u cynghanedd gerddi’n bywydau,

efallai byddem ninnau hefyd wedi dysgu ar ein cof salm fawr tangnefedd

petaem ni ond wedi bod yno

pan gydganodd sêr y bore, ac y bloeddiodd yr angylion mewn gorfoledd.

Petaem ni ond wedi bod yno

pan allai pobl gyfarfod Duw wyneb yn wyneb, mewn gardd neu mewn corwynt,

efallai y byddai wedi bod yn hawdd byw â chwestiynau,

gan wybod na fynnai Duw i ni roi’r gorau i’w gofyn -

efallai y byddem wedi deall na ellir ateb pob un, o leiaf nid yr ochr hon i dragwyddoldeb

petaem ni ond wedi bod yno

pan gydganodd sêr y bore, ac y bloeddiodd yr angylion mewn gorfoledd.

Petaem ni ond wedi bod yno

pan gyflwynwyd oen Duw cyn seilio’r byd,

efallai y byddem wedi deall gwead deunydd cywrain ein bydysawd,

a’i wehyddu’n parhau o blethiad cariad ac aberth,

efallai y byddem ninnau hefyd wedi dysgu ufudd-dod, gan droedio llwybr y Mab ddaeth atom yn was,

petaem ni ond wedi bod yno

pan gydganodd sêr y bore, ac y bloeddiodd yr angylion mewn gorfoledd.

(Gweddi a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan Job 38)

Page 41: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Rhywbeth i’w gymryd gyda chi

Sut beth yw cariad? Mae ganddo ddwylo i gynorthwyo eraill. Mae ganddo draed i brysuro tuag at y tlawd a’r anghenus. Mae ganddo lygaid i weld trallod ac eisiau. Mae ganddo glustiau i glywed ochneidiau gwŷr, gwragedd a phlant. Dyna sut beth yw cariad. (Awstin o Hippo)

Page 42: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Yr Wythnos Fawr: ‘Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau?’

Mae prysurdeb bywyd eglwysig yn ystod yr Wythnos Fawr yn golygu nad yw’n ymarferol darparu set gyflawn o adnoddau ar gyfer yr wythnos hon, gan mai’r gwir yw y gallai fod yn anodd i lawer o grwpiau sydd wedi bod yn cyfarfod drwy gydol y Grawys barhau i wneud hynny yn ystod yr wythnos arbennig hon. Serch hynny, efallai y bydd rhai unigolion ac eglwysi’n croesawu syniadau i’w cynorthwyo i barhau i fyfyrio ar rai o’r themâu a’r syniadau y buom yn eu hystyried yn ystod pum wythnos gyntaf y Grawys, gan eu plethu ynghyd i’n cynorthwyo i ddehongli dirgelwch y Dioddefaint sydd yn greiddiol i’n ffydd. Bwriedir y deunydd canlynol, felly, i’w ddefnyddio gan un ai unigolion neu grwpiau i’w cynorthwyo gyda’u myfyrdodau yn ystod yr Wythnos Fawr ac ychwanegir un myfyrdod arall a fwriedir i’w defnyddio’n fuan ar ôl y Pasg.

Gweddi agoriadol

O Bren Calfaria,treiddia dy wreiddiau’n ddwfn i’m calon.Casgla ynghyd bridd fy nghalon,dywod fy anwadalwch,laid fy chwant.Cymysga hwy ynghyd,O Bren Calfaria,cydbletha hwy â’th wreiddiau cadarn dy hun,gwea amdanynt rwydwaithdy gariad.

Cyfieithiad o O Tree of Calvary - Chandran Devanesen18 

Myfyrdod

Galwyd y Cwrs hwn yn ‘Agor yr Ysgrythurau’ ac fe’i bwriedir i annog cyfranogwyr a defnyddwyr i fyfyrio ar sawl thema Feiblaidd o bwys, sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn yr Ysgrythurau Cristnogol, gan ymddangos gyntaf yn llyfrau agoriadol yr Hen Destament, Genesis ac Exodus. Yn rhannol drwy ein defnydd o ‘adnodau sy’n rhoi’r galon ar dân’ bob wythnos, rydym wedi gweld sut mae pob un o’r themâu hyn yn cydblethu â rhannau eraill o’r Beibl, yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd fel ei gilydd.

Wrth i ni deithio drwy’r Grawys canfuom fod y stori Feiblaidd hon yn gosod i ni’r her o gynnal ynghyd amrywiaeth o syniadau. Rydym am ddathlu cariad Duw at y greadigaeth ac ymwneud Duw â’r greadigaeth a phresenoldeb Duw gyda ni, eto ar yr un pryd rhaid i ni gydnabod bod elfen bwysig yn y Beibl sydd yn cyfleu dieithrwch Duw, dieithrwch sydd bron yn beryglus. Rydym wedi darganfod bod cyfarfod â Duw ‘wyneb yn wyneb’ yn brofiad bywiol ond hefyd yn un arswydus. Dysgwn fod ein safle o fod wedi ein creu ‘ar ddelw Duw’ nid yn unig yn llefaru wrthym am ein perthynas freintiedig â Duw, ond hefyd yn ein gorfodi i weld rhywbeth o Dduw mewn eraill. Mae’r cysyniad o ‘gymodi’ yn awgrymu’r angen i gofleidio ynghyd wirioneddau gwrthgyferbyniol mewn perthynas greadigol. Nodasom fod wylofain a llawenydd ill dau a galar a moliant fel ei gilydd oll yn fynegiannau dyfnion o’n ffydd Ysgrythurol. Ac yn y deunydd ar gyfer Wythnos Pump gwnaed y sylw canlynol: ‘gall “cariad” yn wir gydblethu’r themâu Beiblaidd pwysig y buom yn eu hystyried yn gynharach yn ein cwrs: absenoldeb a phresenoldeb Duw, perthynas rhwng bodau dynol a chymod, a galar a llawenydd.

18 Gwnaed cais am ganiatâd i’w defnyddio.

Page 43: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Mae’n eu clymu ynghyd a bydd yn eu gwau drwy’r groes, yr arwydd bywiol hwnnw sy’n ganolog i’n ffydd.’

Yr awgrym, felly, yw fod cyswllt dwfn rhwng dioddefaint a chroeshoeliad Iesu â’r paradocs sydd efallai bron yn amhosibl i’w gynnal rhwng y fath begynau Beiblaidd. Yn y Groes a thrwy’r Groes rydym yn canfod ynghyd absenoldeb a phresenoldeb Duw, yr harddwch eithaf a phoen eithafol, wylo a llawenydd, y gwirioneddau deuol mae’r ymadrodd ‘wyneb to wyneb’ yn ei awgrymu. Mae digwyddiadau Dydd Iau Cablyd a Dydd Gwener y Groglith yn gweithredu fel ryw fath o ganolbwynt neu ffwlcrwm lle caiff y gwrthgyferbyniadau hyn eu gwau ynghyd yn gadarn, wedi’u clymu gan rwymau cariad. Dyma’r ‘awr’ y cynhwysir yn wir dragwyddoldeb mewn cyfnod byr o amser, ac y caiff y byd ei greu o’r newydd drwy blannu pren y bywyd ym mhridd gardd y tu allan i ddinas Jerwsalem. Mynegodd Thomas Traherne, y cawsom gip ar ei waith yn Wythnos Pedwar, y syniad hwn mewn trosiad rhyfeddol, ‘Coeden yw’r Groes a roddwyd ar dân â fflam anweladwy sy’n goleuo’r holl fyd. Y fflam yw cariad.’

Mae geiriau’r teitl uchod yn adleisio’n agos y geiriau a ddefnyddiodd Iesu yng Ngethsemane i groesawu’r rhai a ddaeth i’w arestio, ‘Cyflawner yr Ysgrythurau.’ (Marc 14.49) Bu’r cwestiwn ynghylch y modd y mae digwyddiadau bywyd a marwolaeth Iesu’n ‘cyflawni’ yr Ysgrythurau yn un heriol mewn diwinyddiaeth Gristnogol o ddyddiau’r Testament Newydd hyd heddiw. Ond yr hyn yr hoffwn innau ei gynnig yw mai’r ffordd mae’r cyflawni’n digwydd, yn sylfaenol, yw drwy gyd-wau holl elfennau amrywiol a gwahanol y Beibl ynghyd drwy’r person hwn, y mae Efengyl Ioan yn cyhoeddi mai ef yw ‘Gair Duw’ ar yr adeg honno ac yn y lle hwnnw.

O fewn yr undod sy’n dod o’r ffaith y cyfunir popeth pellach yn un canon yr Ysgrythur, mae amrywiaeth yn agwedd allweddol ar y Beibl. Mynegir hynny mewn nifer o ffyrdd, nid yn unig drwy’r motiffau a’r emosiynau rydym eisoes wedi bod yn myfyrio arnynt, ond mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, y ffaith bod ein Hen Destament yn fodlon gosod ger ein bron ddau ddehongliad cyfochrog o fywyd a hanes Israel, un lle ystyrir brenhiniaeth yn rhodd gan Dduw ac un arall lle bernir mai cam gwag yw mabwysiadu’r drefn honno; un lle ystyrir bywyd ac addoliad y Deml yn Jerwsalem yn ysbrydoliaeth a’r un arall lle darlunnir y Deml fel magl beryglus. Pan drown at y Testament Newydd, efallai mai’r ffordd amlycaf y mynegir yr amrywiaeth hon yw drwy’r ffaith bod gennym bedair Efengyl ganonaidd, bob un yn ffenestr tuag at Grist, ond pob un hefyd yn amlygu gwahanol liwiau ei stori.

Ym mywyd – a marwolaeth – Crist cywesgir yr amrywiaeth honno, y paradocs hwn, i ddarn bach o ofod ac amser, gan felly gyflawni’r Ysgrythurau ac yna caniatáu iddynt – drwy’r Atgyfodiad – ymagor eto ag adleisiau cyfoethocach, fel yn wir a welir ar y daith honno ar ôl yr Atgyfodiad i Emaus. Mae’n briodol ac yn angenrheidiol bod hyn yn digwydd drwy’r un sy’n baradocs yn ei berson ei hun, yn Air a Chnawd, yn wir Dduw ac yn wir ddyn. Roedd iddo gynnal ynddo’i hun y fath wrthgyferbyniadau, y fath densiynau, yn brofiad ingol yn wir.

O’r man cychwyn uchod y cyflwynir y myfyrdod isod o gwmpas digwyddiadau Dydd Iau Cablyd, y noswaith cyn marw Crist.

Yn gyntaf, dyma rai adnodau i ‘roi calonnau ar dân’ o’r adroddiadau ynghylch y Swper Olaf, ac yn arbennig Gethsemane, yn yr Efengylau:

Yr oedd Iesu’n gwybod fod ei awr wedi dod. (Ioan 13.1)

Yr oedd wedi caru’r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe’u carodd hyd yr eithaf. (Ioan 13.1)

Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! (Luc 22.15)

Page 44: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Hwn yw fy nghorff, sy’n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf. (Luc 22.19)

Yn wir, rwy’n dweud wrthych nad yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw. (Marc 14.25)

Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. (Ioan 13.34)

Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, ‘Nid myfi?’ (Marc 14.19)

Yn union wedi cymryd y tamaid bara aeth Jwdas allan. Yr oedd hi’n nos. (Ioan 13.30)

Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd. (Marc 14.26)

Aeth Iesu allan gyda’i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a’i ddisgyblion. (Ioan 18.1)

Y mae f’enaid yn drist iawn hyd at farw. (Mathew 26.38)

‘Abba! Dad!’ meddai, ‘y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.’ (Marc 14.36)

Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo’n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear. (Luc 22.44)

Oni allech wylio am un awr gyda mi? (Mathew 26.40)

Gweddïwch na ddewch i gael eich profi. (Luc 22.46)

Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, ‘Rabbi,’ a chusanodd ef. (Marc 14.45)

Pan ddywedodd Iesu wrthynt ‘Myfi yw,’ ciliasant yn ôl a syrthio i’r llawr. (Ioan 18.6)

Ond cyflawner yr Ysgrythurau. (Marc 14.49)

A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. (Marc 14.50)

Ond eich awr chwi yw hon, a’r tywyllwch biau’r awdurdod. (Luc 22.53)

Efallai byddwch am ddarllen pob un o’r brawddegau byrion uchod yn araf ac yn weddigar, gan ganiatáu iddynt yn eu tro lefaru â chi.

Rydym wedi dewis canolbwyntio’n bennaf ar brofiad Gethsemane, ac, yn fyr, swper Iesu gyda’i ddisgyblion a ddigwyddodd cyn hynny, achos dyna’r awr pryd, o safbwynt dynol o leiaf, y gwneir dewisiadau a phenderfyniadau tyngedfennol a fydd yn arwain at ganlyniadau anochel Gwener y Groglith. Mae hi’n ddiddorol, wrth gwrs, ac o bosibl yn rhan o amrywiaeth gyfoethog y Beibl ei hun, bod y modd yr adroddir hanes Gethsemane (a’r Swper cyn hynny) yn amrywio o Efengyl i Efengyl, gydag Efengyl Ioan yn arbennig o wahanol ei naws i’r hyn a ddywedir wrthym yn Efengylau Mathew, Marc a Luc. Nid oes unrhyw ing yn adroddiad Ioan ynghylch digwyddiadau’r noswaith arbennig hon. Iesu sy’n rheoli’r digwyddiadau o’i wirfodd, gan ‘wybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo’ (Ioan 18.4). Serch hynny, mae yna ryw fath o ‘ing’ yn hanes Iesu yn Efengyl Ioan – ond fe ddaw sawl pennod ynghynt pan mae Iesu, wrth ymateb i gais nifer o Roegiaid i’w weld, yn awgrymu bod ‘yr awr wedi dod... i Fab y Dyn gael ei ogoneddu’ (Ioan 12.23), gan gydnabod yn nes ymlaen, ‘Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf’ (Ioan 12.27). Fel y bu i ni awgrymu wrth drafod ‘gogoniant’ yn Wythnos Dau, mae’r gair hwnnw’n cyfleu presenoldeb gweladwy Duw. Mae Efengyl Ioan felly’n awgrymu i ni bod y foment hon pan mae realiti Duw’n disgleirio yng nghnawd dynol Iesu – y paradocs rhyfeddol hwnnw – yn foment gostus iawn i’r un fu raid ei goddef.

Page 45: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Ystyriwn, fel rhagarweiniad i stori Gethsemane, hanes Swper Olaf Iesu. Nid ydym yma’n dweud popeth y gellid ei ddweud am y Swper, a osododd sylfeini prif weithred addoliad Cristnogol drwy’r canrifoedd. Fodd bynnag, mae’r cyswllt eglur â’r Pasg Iddewig, gŵyl a oedd hithau’n rhan sylfaenol o’r traddodiad Beiblaidd, yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y ‘cof’. Rhoir y gorchymyn i ni ‘gofio’ Iesu drwy fwyta bara ac yfed gwin yng nghyd-destun Iesu ei hun a’i ddisgyblion yn ‘cofio’ hanes gorffennol ei bobl, y weithred o ryddhau a oedd yn ganolog i’n myfyrdod Beiblaidd yn Wythnos Un. Yn Llyfr Exodus, digwydd geiriau’n gysylltiedig â’r cof ar adegau dwys megis yn Exodus 12.14, ‘Bydd y dydd hwn yn ddydd i’w gofio i chwi’. Ond nid dim ond dwyn i gof ddigwyddiadau’r gorffennol yw ‘cofio’ yn y cyd-destun hwn. Yn hytrach, mae’n golygu ymestyn i’r gorffennol i’w dynnu i’r dyfodol, fel gyda’i gilydd gall y gorffennol a’r presennol gynorthwyo i lywio ac i newid y dyfodol. Gallwn feddwl, felly, yn gyntaf am Iesu’n cofio’r holl themâu mawrion hynny y buom yn eu hystyried wrth ‘agor yr Ysgrythurau’ ac yn eu tynnu, yn eu holl ehangder a’u hamrywiaeth, i’w bresennol yntau, presennol lle mae’n gwneud ei hun yn rhan o barhad y stori gyda’i gais i’w ddisgyblion ‘gofio’. Felly wrth i ni gofio’r themâu hyn drwyddo ef byddwn ninnau hefyd yn dod yn rhan ein hunain o naratif pobl ffyddlon Duw.

Yn arbennig yn Efengyl Ioan, ‘cariad’ yw’r allwedd ar gyfer deall Swper Olaf Iesu. Allwedd ddeongliadol yw. Dyma’r motiff sy’n amgylchynu’r naratif – sy’n dechrau ym mhennod 13 gyda’r sylw i Iesu garu’r rhai oedd yn eiddo iddo hyd yr eithaf ac yn dod i ben ym mhennod 17 gydag addewid Iesu y bydd y ‘cariad â’r hwn yr wyt wedi fy ngharu i... ynddynt hwy, [a] minnau... ynddynt hwy.’ (Ioan 17.26) Cariad sy’n darparu’r ffordd i ganiatáu i Iesu gynnal o fewn ei gorff ei hun yr holl wrthgyferbyniadau llym hynny a fydd mor fuan yn cael eu pentyrru arno.

Mae Iesu a’i ddisgyblion yn gadael am Gethsemane. Maent yn canu emyn cyn gwneud hynny. Mae’r gair ‘emyn’ yn sicr yn awgrymu cân o fawl. Yn ddiweddarach yn y noswaith bydd gweddi Iesu ar ei Dad mewn rhai ffyrdd yn adleisio galarnadau Beiblaidd, y buom yn eu hystyried yn fyr yn ystod Wythnos Pedwar. Mae galarnadu ac addoli o reidrwydd yn ategu ei gilydd, fel sydd hefyd yn digwydd yn Salm 22, salm fawr Gwener y Groglith, y mae’r gwrthgyferbyniadau ynddi hithau hefyd yn cynnig arweiniad ar gyfer deall y digwyddiadau hyn.

Enwir y fan yn Gethsemane yn Efengylau Mathew a Marc. Ni chrybwyllir yr enw yn y ddwy Efengyl arall. Daw’r enw o air Aramaeg sy’n golygu ‘gwasg olew olewydd’. Mae’n enw sy’n symbolaidd addas ar gyfer yr hyn sydd ar ddigwydd yma, wrth i bwysau cyferbyniol amser a gofod gael eu gwasgu a’u gwasgu ym mherson Iesu a thrwyddo, gan ryddhau trugaredd a iachâd Duw, y mae olew olewydd yn aml yn symbol sagrafennol ohono, i’r byd.

Er nad yw Efengyl Ioan yn defnyddio’r enw Gethsemane, mae yn nodi ‘Yr oedd gardd yno’ (Ioan 18.1). Mae hynny’n cyflwyno sawl adlais arall. Mae’r frawddeg yn adleisio’r geiriau a ddefnyddir yn Ioan 19.41 i ddisgrifio’r fan lle croeshoeliwyd Crist a’r fan lle byddid yn ei gladdu, ac o’r herwydd safle’r Atgyfodiad hefyd. Mae hefyd, wrth gwrs, yn ein hatgoffa o ardd ryfeddol y creu yn Eden, y clywn amdani’n agos iawn at ‘agoriad yr Ysgrythurau’ (Genesis 2.8). Fel rydym wedi ei awgrymu, yn enwedig yn Wythnosau Dau a Phump, mae Efengyl Ioan yn cyflwyno hanes Iesu i ni fel Genesis newydd, creadigaeth newydd.

Byddai’r ardd mae’n debyg wedi cynnwys coed, yn enwedig coed olewydd. Mae Mathew, Marc a Luc yn dweud yn benodol bod y fan ar Fynydd yr Olewydd, mae’n debyg ger gwaelod y mynydd. Cyfeiria Ioan at Iesu a’i gyfeillion yn croesi Afon Cidron i gyrraedd yno, sy’n awgrymu’r un safle. Hyd yn oed heddiw mae’r coed olewydd hynafol ar waelod Mynydd yr Olewydd yn creu delwedd bwerus ar gyfer y pererinion sy’n ymweld â’r safle hwn. Mae coed, wrth gwrs, hefyd yn ein hatgoffa o hanesion y creu – pren y bywyd a phren gwybodaeth da a drwg (Genesis 2.9). Mae’n reddf hynafol a dilys yn hanes Cristnogaeth i nodi’r gyfatebiaeth rhwng dwy goeden Eden â ‘phren’ y Groes y dyrchefir Crist arno (gweler hefyd eiriau Thomas Traherne uchod). Fodd bynnag, efallai fod angen i ni hefyd gofio’r tebygrwydd – a’r gwrthgyferbyniad hefyd – rhwng coed Eden a choed Gethsemane.

Page 46: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Trwy ‘ddarllen’ hanes ing Iesu yng Ngethsemane yng ngoleuni hanes anufudd-dod Adda ac Efa yn Eden y byddwn yn deall cost enfawr ymdrech Iesu a’i ufudd-dod eithaf, ‘Ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di’ (Mathew 26.39; Marc 14.36. Luc 22.42). Mae’r tair Efengyl synoptaidd yn talu sylw arbennig i’r ymdrech a phen draw honno. Sonia Luc am Iesu’n foddfa o chwys, a’r modd y daeth angel i’w gysuro; mae Mathew a Marc yn crybwyll geiriau nerthol Iesu wrth ei ddisgyblion: ‘Y mae f’enaid yn drist iawn hyd at farw’ (Marc 14.34).

Y mae, fodd bynnag, un gair yn yr hanes yn Efengyl Marc – a dim ond yno – sydd fel petai’n nodi hyn fel eiliad unigryw yn hanes Iesu, efallai’r eiliad y crynhoir pob eiliad iddi. Y gair hwnnw yw ‘Abba’ (Marc 14.36). Dyma’r unig dro y digwydd ‘Abba’ yn unrhyw un o’r Efengylau, er ei fod yn digwydd hefyd yn Rhufeiniad 8.15 a Galatiaid 4.6. Gair Aramaeg yw, sy’n golygu ‘Tad’, yn enwedig mewn cyd-destun teuluol a chlos. Dim ond dwy gytsain sydd ynddo, sef dwy lythyren gyntaf yr wyddor Hebraeg (a llawer gwyddor arall), sy’n cynorthwyo i roi’r argraff ei fod yn ymwneud â rhywbeth sy’n sylfaenol i holl fodolaeth y ddynoliaeth. Yn ei gerdd ‘Gethsemane’, cyfeiria Rowan Williams at ‘y gair dwysaf oll, abba’. Derbynnir yn gyffredinol fod yr ymddiriedaeth a’r ymroddiad sydd ymhlyg yn ei ddisgrifiad o Dduw fel tad yn ganolog i fywyd a gweinidogaeth Iesu, ac roedd hynny’n amlwg yn ei fywyd a’i ddysgeidiaeth. Mae’r ffaith i’r gair ‘Abba’ ymddangos yma, ac yn benodol yn yr Aramaeg, yr iaith a ddefnyddiai Iesu hanes ei hun ar gyfer ei eiriau dynol, rywsut yn crynhoi, yn pwyso ac yn gwasgu ei holl weinidogaeth i’r eiliad arbennig hon.

Yn Efengyl Ioan, wrth gwrs, ceir awyrgylch gwahanol iawn. Dim ing – a phan maent yn dod i’w restio, pwysleisir rheolaeth lwyr Iesu ar y sefyllfa drwy ddefnyddio’r ymadrodd ‘Myfi yw’ deirgwaith, yr achlysuron olaf y digwydd yr ymadrodd hwnnw yn yr Efengyl (Ioan 18.5-8). Gyda’r geiriau hynny rydym yn dychwelyd at y motiff oedd ar ddechrau’r Cwrs Grawys hwn – yr ‘Ydwyf’ a lefarodd wrth Foses o’r berth yn llosgi, a’r awgrym mai’r un yw Iesu â’r Duw a ddatguddiodd ei hun er mwyn achub ei bobl. Felly, o ddarllen y pedair Efengyl ynghyd, Gethsemane yw’r eiliad pan gedwir ynghyd mewn ffordd astrus a phwerus y ddau begwn eithaf hynny, sef ufudd-dod Iesu a sefyllfa fregus ei ddynoliaeth ar y naill ben, a’i berthynas agos ef ei hun â’r Duw dieithr hwn ar y llall, wrth iddo fyw’n unol â’i alwad i fod yn baradocs Duw (gweler y drafodaeth yn Wythnos Pedwar).

Dolen gyswllt rhwng digwyddiadau’r noswaith olaf hon o fywyd Iesu yw’r ddelwedd o dywyllwch – a goleuni. Wrth i Jwdas adael cymdeithas y Swper Olaf fe ddywedir wrthym ‘Yr oedd hi’n nos’ (Ioan 13.30). Pan mae’n arwain y milwyr i restio Iesu, mae angen iddynt ddod â ‘llusernau a ffaglau’ – sylw a fwriedid mae’n debyg i fod yn drosiad sy’n cyferbynnu â Iesu ei hun sydd, fel ‘goleuni’r byd’ yn cynhyrchu goleuni ohono’i hun. Yn olaf, yn fersiwn Luc o ddigwyddiadau Gethsemane, ar ôl i Iesu oresgyn ei frwydr fewnol mae’n derbyn ei restio â’r geiriau, ‘Ond eich awr chwi yw hon, a’r tywyllwch biau’r awdurdod’ (Luc 22.53). Cywir fu greddf y rhai a adeiladodd Eglwys yr Holl Genhedloedd yng Ngethsemane i dynnu sylw at y ddelwedd honno drwy ddefnyddio tywyllwch mewn ffordd ddramatig yn yr adeilad, gyda’i ffenestri lliw porffor, llwyd a du.

Fel mae’n digwydd, yr un pensaer – Eidalwr o’r enw Antonio Barluzzi – a ddyluniodd, yn ystod y 1920au, yr eglwys ar Fynydd Tabor sy’n coffáu gweddnewidiad Crist. Adeiladodd Barluzzi’r ddwy eglwys i fod yn bâr cyferbyniol. Felly, er enghraifft, adeiladwyd yr eglwys ar Fynydd Tabor i fod yn llawn goleuni. Yn hynny o beth mae Barluzzi’n cynnig dehongliad dwys – a chadarn – o’r hanesion yn yr Efengylau am y gweddnewidiad ac am Gethsemane. Fe fwriedir y ddwy eglwys i sefyll fel dau begwn cyferbyniol ym mywyd a gweinidogaeth Iesu. Amlygir y cysylltiad yn rhannol drwy’r ffaith mai’r un tri disgybl oedd yn gwmni i Iesu ar y ddau achlysur. Digwydd y gweddnewidiad ar ben mynydd, mewn cyferbyniad ag ing Gethsemane yn y dyffryn ar waelod Mynydd yr Olewydd. Caiff y geiriau a lefarodd y llais nefol ar gopa’r mynydd ‘Hwn yw fy Mab ... gwrandewch arno’, yn gorchymyn ufuddhau i Iesu, eu troi ben i waered gan eiriau Iesu ei hun yng Ngethsemane, ‘Abba! Dad!… Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di’ (Marc 14.36). Beth yw ystyr y cysylltiad hwn rhwng y gweddnewidiad a Gethsemane? Yn sicr mae’r gweddnewidiad yn arwain at

Page 47: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Gethsemane, gan y dywedir wrthym cyn gynted ag y mae Iesu a’r disgyblion yn cyrraedd i lawr o gopa’r mynydd, ‘Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem’ (Luc 9.51). Rhagarwydd yw’r gweddnewidiad o ben draw y daith i Iesu – ac, yn wir, i ddilynwyr Iesu – ond ni chyflawnir hynny hyd y bydd yn gyntaf wedi troedio’r llwybr a fydd yn ei arwain drwy’r dyffryn tywyll hwn. Buom yn myfyrio am ychydig ar thema gweddnewidiad – a ‘wyneb’ – yn ystod Wythnos Tri. Efallai y byddwch am ailddarllen yr hyn a ysgrifennwyd yno. Ond y cwestiwn bellach yw, os yw gweddnewidiad yn arwain at Gethsemane, a all Gethsemane arwain at weddnewidiad? Yr ateb dwfn yw y gall. Drwy’r pwysau, y gwasgu, y mathru, yr ufudd-dod, yr aberth cariad, y bydd Iesu’n eu profi’n gyntaf ar y noson hon ac yna ar ddydd ei farwolaeth, y bydd yn gallu dod yn sianel – boncyff coeden os hoffwch – a fydd yn crynhoi ynddo’i hun yr holl elfennau amrywiol hynny a brofasom ar ein taith o ‘agor yr Ysgrythurau’. Trwyddo ef a’i aberth cânt eu ‘gweddnewid’ i fod yn ‘rhywbeth rhyfedd a gwerthfawr’, fel y gallwn eu cyfarfod drachefn wrth iddynt flodeuo eto’r ochr draw i’w Atgyfodiad.

Dau ddarlun i fyfyrio arnynt

Mae darlun rhyfeddol gan yr arlunydd o Uganda, Gloria Ssali, sydd bellach yn byw ym Mhrydain, o’r enw ‘In Gethsemane’. Mae pen Iesu ‘yn llythrennol wedi’i agor ac ar dân – mae fel pe byddai wedi ffrwydro, gan ryddhau ei holl feddyliau trwblus fel eu bod bellach yn dawnsio o flaen ei lygaid. Mae’r marciau brwsh trwchus yn rhoi ymdeimlad o drymder i’r gwaith ac mae’r lliwiau tanllyd, coch fel gwaed, yn cyfleu gwres deifiol, gan awgrymu’n briodol yr hyn y bydd Iesu’n ei wynebu yn yr oriau sydd i ddod. A beth sydd o gwmpas ei ben: ai eurgylch (i nodi ei dduwdod) ynteu ôl coron ddrain (yn nodi dychanu ei frenhiniaeth)? Ynteu efallai’r ddau’r un pryd?… Mae’r siapiau o gwmpas pen Iesu’r un mor amwys. Ar y gwaelod ar y chwith maent yn ymddangos bron yn ffurfiau dynol, ond mewn lleoedd eraill yn y llun nid ydynt ond yn gymylau o liw … ai eneidiau ydynt y mae eu dyfodol eto i’w benderfynu gan y penderfyniad mae Iesu ar fin ei wneud?’19

Mae’r darlun yn mynegi mewn ffordd weledol pa mor anghysurus a syfrdanol yw’r ffaith mai ar brofiad ac ymateb Iesu Grist yng Ngethsemane y dibynna holl hanes y Beibl am y berthynas rhwng Duw a’r ddynoliaeth.

Mae’r ail lun ar yr un pryd yn ‘haws’ ac eto’n anoddach. Un o ffenestri Traherne yng Nghadeirlan Henffordd ydyw. Fe’i bwriedir i ddarlunio geiriau Traherne: ‘Coeden yw’r Groes a roddwyd ar dân â fflam anweladwy sy’n goleuo’r holl fyd. Y fflam yw cariad.’ Mae gosod y goeden yng nghanol coedwig yn cynorthwyo i awgrymu y dylem ddarllen y geiriau nid yn unig yng nghyd-destun pren y Groes ar Ddydd Gwener y Groglith ond hefyd goed Gethsemane’r noswaith gynt. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae’r ffigwr ar y goeden sy’n cynrychioli’r Groes ymron yn diflannu i’r cefndir yn awgrymu i ni’r modd y mae’r Croeshoelio ymron yn golygu ‘dileu Duw’. Mae fel pe byddai’r cysyniad o Dduw yn cael ei ddileu ac yna’n cael ei greu o’r newydd. Mae fel petai’r Groes ei hun a’r un a hoeliwyd arni yn cael eu dileu er mwyn prydferthwch yr holl greadigaeth, er mwyn ei bywyd disglair. Er mwyn cynnal disgleirdeb y greadigaeth mae’r creawdwr yn derbyn bod ar y ‘groesffordd’ hon fel aberth mewn bywiol wendid.

Cân i wrando arni

There in God’s garden stands the tree of wisdom.

(Geiriau a fideo yn https://www.youtube.com/watch?v=EFGne7VGpMY)

19 Victoria Emily Jones, "Gloria Ssali: In Gethsemane," ArtWay, Awst 2012, https://www.artway.eu/content.php?id=1219&lang=en&action=show.

Page 48: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Gweddi

Iesu, yr un sy’n ysgogi darfod a dechreuadau newydd,

Arglwydd byrddau bwyta a gerddi,

ceraist y rhai oedd eiddot ti hyd dy ben draw dithau.

Wrth i ni ddisgwyl a gwylio gyda thi’r awron,

rhanna â ni – hyd y gallwn ei oddef – bwysau dychrynllyd Gethsemane.

Eneinia ni ag olew ffrwythlon dy iachâd

gan ein galluogi ninnau, gyda thithau, i hybu gweddnewid a thwf;

a dysga ni i barablu ‘Abba’ fel plant,

a thrwy hyn oll ein geni ninnau a’r byd o’r newydd. Amen.

Page 49: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Adeg y Pasg: Agor Llygaid, Goleuo Calonnau

Gellid defnyddio’r deunydd hwn pe byddai pobl am gyfarfod am un sesiwn olaf i fyfyrio ynghylch yr hyn maent wedi’i ddysgu eleni yn ystod y Grawys a’r Pasg. Fel arall, gellid ei gynnig i bobl ar gyfer ei ddefnyddio’n unigol wrth barhau i fyfyrio.

Darlleniad craidd: Luc 24.13-35

Rydym bellach wedi teithio drwy’r Grawys heibio Dydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg, ac felly o’r diwedd rydym yn sefyll yn ysbrydol gyda’r ddau ddisgybl a gyfarfu’r Iesu atgyfodedig ar y Ffordd i Emaus. Mae’n Cwrs Grawys yn gorffen lle dechreuodd – gyda hanes y cyfarfyddiad rhwng Iesu a’r ddau ddisgybl hynny a’u rhyfeddod at y modd yr oedd eu calonnau ar dân o’u mewn pan fu i’w cyd-deithiwr cyfrin agor a dehongli’r Ysgrythurau iddynt.

Yn ystod yr ychydig wythnosau a aeth heibio buom yn ystyried rhai cwestiynau sylfaenol ynghylch bywyd ac ysbrydolrwydd ac am Dduw a’r ddynoliaeth, sydd wedi cyfareddu credinwyr a llosgi o fewn eu calonnau drwy’r canrifoedd. Gwelsom fel yr amlygir y themâu hyn yn ddwfn yn ein Hysgrythurau, yn aml mewn testunau ac adnodau penodol sydd, oherwydd eu bod yn ymwneud â materion sydd mor bwysig i fodau dynol, yn rhoi’n calonnau ar dân. Er mwyn uniaethu â chyd-destun y rhai a oedd yn teithio ar y Ffordd i Emaus, y byddai’r ‘Ysgrythur’ iddynt hwy’n golygu’r hyn a alwn heddiw yr Hen Destament, rydym wedi pwyso’n arbennig ar destunau sy’n dod o’r rhan honno o’n Beibl ninnau. Fodd bynnag, wrth i ni fyfyrio ar y cwestiynau sylfaenol hynny rydym hefyd wedi clywed adleisiau ohonynt ym mywyd, gweinidogaeth a dioddefaint Iesu Grist ac yn y testunau Beiblaidd sy’n dehongli ei fywyd a’i farwolaeth. Fel y gwelsom, yn arbennig yn y myfyrdod ar gyfer yr Wythnos Fawr, mae hanes Iesu Grist yn cynnig i Gristnogion yr her fendithiol o fynd i’r afael â’r cwestiynau mawr hynny â dwyster dihafal. Gallai credinwyr o ffydd wahanol, gan gynnwys ein brodyr a’n chwiorydd Iddewig, fod am gynnig atebion gwahanol i’r cwestiynau: ond mae’r cwestiynau eu hunain gan fwyaf yn debyg ar gyfer pawb.

Drwy gydol y Cwrs hwn rydym wedi dychwelyd wythnos ar ôl wythnos i ymdrin â’r cwestiwn hwnnw sy’n ganolog i hanes y Ffordd i Emaus: beth yw’r rhannau o’r Beibl sy’n rhoi eich calon ar dân ynoch? Rydym wedi ategu’r deunydd Beiblaidd ag enghreifftiau o ryddiaith, barddoniaeth, celf a chân, yn bennaf o’r traddodiad Cristnogol. Fodd bynnag, efallai mai’r eironi yw, i lawer ohonom, mai hanes y daith i Emaus ei hun yw un o’r testunau yn yr Ysgrythur Gristnogol sydd fwyaf tebygol o roi ein ‘calonnau ar dân’. Mae wedi cyfareddu beirdd, arlunwyr a diwinyddion ers dechrau hanes Cristnogaeth. Yn yr un modd ag y mae Iesu Grist i Gristnogion yn brism drwy’r hwn y gallant syllu mewn ffordd arbennig o ddwys ar ddirgelwch ymwneud graslon Duw â’r ddynoliaeth, felly hefyd mae hanes y Ffordd i Emaus yn dod yn brism ar gyfer syllu ar hanes Crist ei hun. Pam felly, a beth allai hynny fod yn ei ddweud wrthym ni, yn arbennig ynghylch rhodd yr Ysgrythurau?

Mae’r Ysgrythur a Iesu Grist yn dehongli ei gilydd. Mae’r geiriau a’r Gair yn sefyll ynghyd. Trwy’r geiriau mae Iesu yn eu llefaru wrth ei gyd-deithwyr yr agorir yr Ysgrythurau iddynt. Yn eu tro, galluogodd yr Ysgrythurau’r cyd-deithwyr hynny (a’r Eglwys Fore) i ddeall mwy am yr un a deithiodd gyda hwy o Galilea i Jerwsalem a thu hwnt.

Mae cofio’n rhan annatod o’n ffydd Feiblaidd. Fe gofiwn yr Exodus, fe gofiwn y Swper Olaf, fe gofiwn yr un a ofynnodd i ni ei gofio yntau. Mae hanes y Ffordd i Emaus yn tystio i bwysigrwydd cofio. Mae’n debyg nad damwain yw’r ffaith y gellir dehongli’r gair Saesneg ‘re-member’ fel ailgyfuno’r darnau rhwygiedig hynny o’n realiti sydd wedi eu chwalu. Drwy gofio deuwn yn gyflawn, yn bobl ag un galon (mae’n ddiddorol yn y testun Groeg gwreiddiol ar gyfer Luc 24.32 mai’r gair unigol ‘calon’ a ddefnyddir gan y disgyblion yn hytrach na’r lluosog). Wrth gofio byddwn yn defnyddio trysorau’r gorffennol i’n galluogi i droedio llwybr i’r dyfodol.

Page 50: CTBI – more together less apart  · Web view2020-02-04 · Thou whose almighty word. Word that formed creation, earth a sea and sky; https: ... (Daw’r enw Peniel o ddau air Hebraeg,

Ar y Ffordd i Emaus rydym bellach yn darllen yr Ysgrythurau yng ngoleuni’r Atgyfodiad wrth i’r themâu y buom yn eu hystyried ynghynt ddechrau ‘ymagor’ eto ar ôl cael eu gwasgu drwy ffwlcrwm dioddefaint Crist. Gallai hynny gynnig patrwm neu lwybr i Gristnogion wrth i ni geisio dehongli’r Hen Destament yng ngoleuni’r Testament Newydd. Gall fod – yn wir y mae yna – ‘trobwyntiau allweddol’ eraill a allai grynhoi ac ailweithio’r motiffau Beiblaidd dwys y buom yn eu hystyried yn ystod pum wythnos y Grawys; y gwir yw nad yw’r ffaith ein bod fel Cristnogion yn darllen yr hanesion allweddol hynny yng ngoleuni’r Crist atgyfodedig yn golygu na all ‘allweddau’ eraill hefyd fod yn ddilys.

Mae cyswllt hefyd rhwng ‘agor’ yr Ysgrythurau ac ‘agor’ llygaid y ddau deithiwr. Mae’n ymddangos bod Luc yn fwriadol yn amlygu’r cyswllt hwnnw wrth adrodd y stori hon. Defnyddir yr un ferf – berf sy’n eithaf prin yn y Testament Newydd – gan Luc ar gyfer y weithred o egluro’r Ysgrythurau ac o agor eu llygaid yn y bennod hon. Beth yw ystyr hynny ar ein cyfer ni? Oni allai awgrymu os byddwn wir yn agor yr Ysgrythurau y byddwn yn canfod bod ein llygaid yn agor yn raddol i weld yr hyn sydd o’n blaenau mewn goleuni newydd?

Mae llefaru a gweithredu, ysbrydolrwydd a materoldeb, yn cydberthyn ac yn ategu ei gilydd. Mae llawer o siarad yn hanes y Ffordd i Emaus, ond dim ond yn y weithred o fendithio a thorri’r bara yr adwaenir Iesu o’r diwedd. Mae’r Ysgrythur yn mynnu ein bod yn cymryd o ddifrif yr agwedd gorfforol a materol ar fodolaeth ddynol a’n ffydd Gristnogol.

Mae deialog yn elfen sylfaenol yn hanes y Ffordd i Emaus. Drwy ymddiddan yn agored mae’r disgyblion yn profi gweledigaeth newydd. ‘Yr un dull boddhaol ar gyfer mynegi bywyd dynol dilys mewn geiriau yw deialog benagored. . . Mae byw’n golygu cyfrannu mewn deialog: gofyn cwestiynau, talu sylw, ymateb, cytuno ac yn y blaen. Yn y ddeialog honno mae unigolyn yn cyfranogi â’i holl fywyd: â’r llygaid, y gwefusau, y dwylo, yr enaid a’r ysbryd a chyda’i holl gorff a’i weithredoedd.’ (Mikhail Bakhtin) A allai hyn fod yn batrwm ar gyfer y modd y dylem ninnau sy’n darllen rhannau o’r Beibl ymgysylltu â’r testun? Beth yw’r weledigaeth newydd mae’n ei gynnig i ni?

Gweddi

Iesu ein Ffordd,

y storïwr dieithr sy’n ymgorffori’r stori i ni,

y Bywiol Air drwy’r hwn mae’r Duw tragwyddol yn disgleirio,

tyrd i gyfarfod â ni wyneb yn wyneb y Pasg hwn.

Aros gyda ni ac agor i ni’r Ysgrythurau,

goleua ein llygaid a rho ein calonnau ar dân,

fel y gallwn, a thithau’n gydymaith ar ein taith,

ddarganfod mewn llawenydd

ma’r allwedd i ddatgloi’r llyfrgell ddirgel hon bob amser yw cariad. Amen.