cyfarwyddwr corfforaethol perthnasol: dr. gwynne jones
TRANSCRIPT
1
CYNGOR SIR YNYS MÔN
Pwyllgor: Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden
Dyddiad y cyfarfod: Ionawr 15 2013
Cyfarwyddwr Corfforaethol Perthnasol: Dr. Gwynne Jones
Aelod Portffolio Perthnasol: Cynghorydd Goronwy Parry MBE
Diweddariad ar berfformiad diwedd cyfnod allweddol 2012
1.0 Pwrpas yr Adroddiad
Diweddaru aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden ar berfformiad diwedd cyfnod allweddol yn 2012.
2.0 Materion ar gyfer Sgriwtini
Gofynnir i aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini ystyried cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r materion a adroddir ar lafar i’r Pwyllgor ac i gymeradwyo’r adroddiad.
3.0 Cefndir
3.1 Mae’r adroddiad yn diweddaru’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn cyfarfod blaenorol ynghylch perfformiad diwedd cyfnod allweddol 2012.
3.2 Dylid nodi bod y wybodaeth a gyflwynir yn cyd-fynd a’r metrics perffromniad yn y cynllun gweithredu ol-arolygiad [CGOA].
4.0 Adroddiad 4.1 Gweler y sylwadau manwl yn yr atodiad. 4.2 Dygir sylw at y ffaith fod perfformiad ymhob cyfnod allweddol yn dangos
gwelliant. Nodir bod angen rhoi blaenoriaeth i adeiladu ar y gwelliant hwn, yn enwedig yn CA4. Cyfeirir hefyd at yr angen i herio ysgolion ac adrannau mewn ysgolion uwchradd sydd yn tanberfformio.
4.3 Prif bwrpas yr adroddiad yw diweddaru’r aelodau etholedig ynghylch
canlyniadau diwedd cyfnod y flwyddyn addysgol ddiwethaf, sef 2011-12.
2
4.4 Caiff y matrics perfformiad sy’n rhan o’r cynllun ôl-arolwg ei ddefnyddio i grynhoi’r prif ddangosyddion sydd angen eu hystyried.
4.5 Atgoffir yr aelodau etholedig fod angen ateb y cwestiynau canlynol.
o Sut mae’r Awdurdod yn perfformio yn erbyn y meincnodau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru?
o Sut mae perfformiad yr Awdurdod yn cymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru?
o Ym mha gyfnod allweddol y mae’r perfformiad gorau? Ymhle mae yna le i wella?
o Ydi perfformiad yn debyg ar draws y pynciau craidd? o Beth yw dosbarthiad yr ysgolion ar draws y chwarteli prydau ysgol am
ddim? Ydi’r dosbarthiad yn well neu’n waeth na’r patrwm cenedlaethol?
Enw, Teitl y Swydd, Adran – Trebor Roberts, Prif Weithredwr CYNNAL Dyddiad Ionawr 4, 2013. Atodiadau Atodiad 1 - Adroddiad manwl ar berfformiad diwedd cyfnod allweddol
Swyddogion Cyswllt: Gwynne Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes
Sylwadau ar berfformiad Mae Tabl 1 yn dangos % y disgyblion oed ysgol statudol sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn Ynys Môn dros y pedair blynedd ddiwethaf mewn cymhariaeth â Chymru ac awdurdodau unigol.
Tabl 1: Prydau ysgol am ddim 2009 2010 2011 2012
% safle % safle % safle % safle
% disgyblion â hawl i brydau ysgol am ddim 17.7 13 18.0 11 18.8 11 18 10
Os derbynnir fod hawl i brydau ysgol am ddim yn fesur amddifadedd priodol, mae’r tabl uchod yn awgrymu y dylai perfformiad Ynys Môn fod yn hanner uchaf yr awdurdodau yng Nghymru, h.y. yna uwch na’r sgôr PYD [h.y. 10fed neu uwch]. Cyfnod Sylfaen [Disgyblion 7 oed] Mae Tabl 2 yn dangos % y disgyblion a gyrhaeddodd y dangosydd Diwedd Cyfnod Sylfaen yn 2012 a’r Dangosydd Pynciau Craidd (DPC) yn y blynyddoedd blaenorol. Dangosir hefyd safle Ynys Môn mewn cymhariaeth â phob un o’r awdurdodau eraill yng Nghymru.
Tabl 2: CYFNOD ALLWEDDOL 1/CYFNOD SYLFAEN
Perfformiad absoliwt/safle PYD 2009 2010 2011 2012
% safle % safle % safle targed perff. safle
% disgyblion yn cyrraedd CA1/Dangosydd Cyfnod Sylfaen
78.8% 18 83.2% 7 80.9% 17 82.5% 84.1% 5
Mae’r perfformiad yn 2012 wedi gwella a dyma’r canlyniad gorau dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill yng Nghymru, mae 2012 yn gosod yr awdurdod yn y 5ed safle.
Tabl 3: Dosbarthiad chwartel PYD 2009 2010 2011 2012
CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1
Dosbarthiad chwartel PDY – CA1/Dangosydd Cyfnod Sylfaen
41% 22% 16% 22% 26% 22% 16% 36% 27% 31% 10% 33% 13% 21% 34% 32%
Mae Tabl 3 yn dangos dosbarthiad ysgolion yn y chwarteli PYD cenedlaethol i CA1/DCS. Yn 2012, mae 65% o ysgolion Ynys Môn yn yr hanner uchaf [34%+32%] ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen. Mae hyn yn welliant ar y blynyddoedd blaenorol.
4
CYFNOD ALLWEDDOL 2 [11 oed]
Tabl 4: CA2 Perfformiad absoliwt/safle PYD
2009 2010 2011 2012
% safle % safle % safle targed perff. safle
% disgyblion yn cyrraedd Dangosydd Pynciau Craidd
76.7% 13 79.9% 7 78.6% 17 79.8% 84.7% 8
% disgyblion yn cyrraedd L4+ mewn Saesneg
82.5% 7 84.7% 6 81.9% 16 81.1% 86.1% 12
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Saesneg 25.6% 16 26.9% 15 31.3% 11 34.3% 7
% disgyblion yn cyrraedd L4+ Cymraeg 76.3% 18 76.3% 20 70.0% 22 70.7% 74.2% 22
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Cymraeg 19.2% 18 15.7% 20 20.6 18 23.2% 18
% disgyblion yn cyrraedd L4+ Mathemateg 80.0% 20 83.9% 8 83.3% 18 84.2% 87.7% 11
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Mathemateg 27.5% 15 26.2% 17 29.3% 15 35.8% 6
% disgyblion yn cyrraedd L4+ Gwyddoniaeth 86.5% 9 89.1% 14 85.4% 6 88.4% 90.5% 8
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Gwyddoniaeth 27.5% 15 25.2% 20 27.9% 15 33.4% 10
Yn CA2 mae perfformiad yn y Dangosydd Pynciau Craidd wedi gwella ac mae’n gosod yr Awdurdod yn yr 8fed safle. Mae perfformiad yn y lefelau uwch (lefel 5+) wedi gwella hefyd ac mae’n gosod yr awdurdod mewn safle sy’n debyg i’w sgôr Prydau Ysgol am Ddim. Mae perfformiad yn Gymraeg yn is na’r disgwyl - un rheswm am hyn yw bod nifer y disgyblion a asesir mewn Cymraeg fel Mamiaith yn amrywio gryn dipyn ar draws Awdurdodau Lleol.
Tabl 5: Dosbarthiad chwarteli PYD CA2 2009 2010 2011 2012
CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1
Dosbarthiad ysgolion PYD – DPC 33% 19% 25% 23% 31% 20% 14% 35% 41% 24% 14% 20% 29% 15% 25% 31%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L4+ Saesneg 23% 25% 12% 40% 24% 20% 22% 35% 41% 16% 10% 33% 27% 15% 33% 25%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Saesneg 46% 10% 10% 34% 39% 18% 22% 20% 33% 12% 18% 37% 25% 25% 21% 29%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L4+ Cymraeg 20% 27% 18% 36% 34% 27% 11% 27% 33% 19% 19% 29% 31% 29% 22% 18%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Cymraeg 0% 56% 19% 26% 14% 45% 21% 19% 12% 31% 31% 26%
29% 22% 24.5%
24.5%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L4+ Mathemateg 38% 19% 17% 25% 29% 22% 18% 31% 39% 22% 12% 27%
23% 31% 15% 31%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Mathemateg 34% 26% 10% 30% 29% 24% 20% 27% 39% 18% 18% 24%
25% 19% 29% 27%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L4+ Gwyddoniaeth 31% 15% 15% 38% 22% 27% 14% 37% 43% 20% 10% 27%
25% 23% 17% 35%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Gwyddoniaeth 40% 16% 22% 22% 41% 24% 12% 22% 37% 22% 20% 20%
29% 27% 21% 23%
5
Mae Tabl 5 yn dangos dosbarthiad ysgolion cynradd yr awdurdod yn y chwarteli PYD i’r Dangosydd Pynciau Craidd. Mae perfformiad yn y DPC yn 2012 wedi cynyddu gyda 56% o ysgolion yn hanner uchaf y dosbarthiad. Mae hwn yn welliant ar y blynyddoedd blaenorol. Gellid dadlau fodd bynnag fod % yr ysgolion sydd yn y chwartel isaf [29% yn 2012] yn rhy uchel ac mae’n fater sydd angen ei drafod gydag ysgolion unigol a Chyrff Llywodraethu. Tynnir sylw’r aelodau at y ffaith fod un ysgol wedi bod yn y pedwerydd chwartel am gyfnod o dair blynedd ar ddiwedd CA1/CS ac un ysgol am ddwy flynedd. Bu pum ysgol yn y pedwerydd chwartel am dair blynedd ar ddiwedd CA2 a dwy arall am ddwy flynedd. Rhoddwyd enwau’r ysgolion hynny i’r Deilydd Portffolio. Disgwylir i’r ysgolion hyn gyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Awdurdod yn amlinellu ar y camau i wella y maent am eu cymryd.
CYFNOD ALLWEDDOL 3 [14 oed]
Tabl 6: CA3 Perfformiad absoliwt/Safle PYD
2009 2010 2011 2012
% safle % safle % safle targed perff. Safle
% disgyblion yn cyrraedd DPC 61.9% 11 65.6% 9 69.4% 10 76.5% 77.9% 3
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Saesneg 70.6% 12 72.9% 11 74.5% 16 82.8% 82.4% 8
% disgyblion yn cyrraedd L6+ Saesneg 20.5% 20 24.2% 20 30.8% 16 35.7% 15
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Cymraeg 74.8% 9 77.4% 8 79.0% 12 82.6% 83.5% 10
% disgyblion yn cyrraedd L6+ Cymraeg 28.0% 12 31.7% 12 35.4% 11 45.0% 8
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Mathemateg 73.7% 10 75.4% 13 80.6% 8 82.9% 83.1% 8
% disgyblion yn cyrraedd L6+ Mathemateg 42.3% 16 40.9% 20 43.4% 18 48.0% 14
% disgyblion yn cyrraedd L5+ Gwyddoniaeth 76.0% 12 81.4% 6 81.8% 10 88.9% 86.6% 7
% disgyblion yn cyrraedd L6+ Gwyddoniaeth 33.7% 16 42.7% 6 34.5% 17 44.0% 13
Yng Nghyfnod Allweddol 3, bu perfformiad Ynys Môn yn y DPC yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru am y pum mlynedd ddiwethaf ac yn well na safle PYD yr Awdurdod. Yn 2012, gwellodd y % a gyrhaeddodd y DPC unwaith yn rhagor, ar gyfradd uwch na’r gyfradd genedlaethol - mae hyn yn gosod yr Awdurdod yn y 3ydd safle o’i gymharu ag ALlau eraill. Mae’n dra thebygol hefyd y bydd y perfformiad o 77.0% yn uwch na meincnod Llywodraeth Cymru, pan gaiff ei gyhoeddi [gweler tabl 7 isod].
6
Tabl 7: Perfformiad CA3 yn erbyn meincnodau LlC
2009 2010 2011 2012
meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th
DPC - gwahaniaeth perfformiad a meincnod LlC
62% 62% 0 65% 66% +1 70% 70% 0 77.9%
Tabl 8: FSM Chuartile distribution 2009 2010 2011 2012
CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1
Dosbarthiad ysgolion PYD – DPC 0% 80% 20% 0% 20% 60% 0% 20% 20% 40% 40% 0% 0% 0% 20% 80%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Saesneg 20% 60% 20% 0% 20% 60% 0% 20% 20% 60% 20% 0% 0% 20% 60% 20%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L6+ Saesneg 80% 0% 20% 0% 60% 20% 0% 20% 0% 100 0% 0% 0% 60% 40% 0%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Cymraeg 20% 40% 40% 0% 20% 40% 20% 20% 20% 60% 20% 0% 0% 80% 20% 0%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L6+ Cymraeg 40% 60% 0% 0% 60% 0% 40% 0% 40% 40% 20% 0% 20% 40% 20% 20%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Mathemateg
40% 20% 20% 20% 20% 40% 40% 0% 0% 40% 20% 40% 0% 20% 60% 20%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L6+ Mathemateg
40% 40% 0% 20% 40% 40% 20% 0% 60% 20% 20% 0% 40% 40% 20% 0%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L5+ Gwyddoniaeth
20% 40% 40% 0% 0% 20% 60% 20% 20% 0% 60% 20% 0% 20% 40% 40%
Dosbarthiad ysgolion PYD – L6+ Gwyddoniaeth
40% 40% 20% 0% 20% 20% 20% 40% 40% 40% 20% 0% 0% 40% 40% 20%
Mae % yr ysgolion yn hanner uchaf y meincnodau PYD cenedlaethol i’r Dangosydd Pynciau Craidd wedi gwella yn 2012. Gwellodd perfformiad ar lefel 5+ mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth hefyd. Er bod perfformiad absoliwt ar y lefelau uchaf wedi gwella, mae hyn angen sylw pellach er mwyn gwella safle’r Awdurdod mewn cymhariaeth ag ALlau eraill.
7
Cyfnod Allweddol 4 [Disgyblion 16 oed]
Tabl 9: CA4 Perfformiad absoliwt/Safle PYD
2009 2010 2011 2012
% safle % safle % safle targed perff. safle
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2+ 46.7% 12 48.0% 13 47.9% 14 61.0% 52.2% 11
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2 57.8% 15 62.0% 15 65.8% 14 77.6% 73.9% 13
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L1 88.6% 11 90.7% 10 91.9% 8 96.8% 92.6% 11
% y rhai 15 oed yn cyrraedd SPC - - 304.4 11 312.7 13 334.9 9
% y rhai 15 oed yn cyrraedd DPC 47.3% 11 46.9% 13 46.6% 14 57.5% 50.7% 11
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2 Saesneg
58.6% ? 59.3% ?
54.4% ?
57.0%
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2 Cymraeg
69.7% ?
60.3% ?
66.3% ?
62.4%
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2 Mathemateg
53.6% ?
55.6% ?
58.2% ?
60.4%
% y rhai 15 oed yn cyrraedd L2 Gwyddoniaeth
65.1% ?
63.9% ?
65.1% ?
75.0%
% y rhai 15 oed yn gadael addysg heb unrhyw gymhwyster
0.40% 6 0.27% 5 0.14% 2* 0 0.3% 12
% y rhai 15 oed sydd yn NEET 5.2% 14 5.3% 13 2.7% 1
Gwellodd perfformiad CA4 yn 2012 - gwellodd y perfformiad absoliwt ym mhob un o’r prif ddangosyddion. O ganlyniad, mae safle’r awdurdod yn L2+, L2, SPC a DPC wedi gwella hefyd; disgynnodd safle L1 o 8fed i 11eg. Er bod hyn yn galonogol, rhaid gwneud pob ymdrech i wella ar y perfformiad hwn yn 2013. Tynnir sylw hefyd at dabl 10 - mae hwn yn awgrymu fod perfformiad yn debyg o fod yn uwch na meincnodau LlC i L2+ a’r sgôr pwyntiau wedi’i gapio.
Tabl 10: Perfformiad yn erbyn meincnodau LlC
2009 2010 2011 2012
meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th meincnod perff. gwah’th
L2+ 47% 47% 0 49% 49% 0 48% 50% -2 52.2%
Sgôr pwyntiau a gapiwyd 319 315 -4 334.9
8
Tabl 11: Dosbarthiad Charteli PYD 2009 2010 2011 2012
CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1 CH4 CH3 CH2 CH1
Dosbarthiad ysgolion PYD – L2+ 20% 40% 20% 20% 60% 20% 0% 20% 40% 20% 40% 0% 20 40 20 20
Dosbarthiad ysgolion PYD – L2 60% 40% 0% 0% 40% 40% 0% 20% 0% 80% 0% 20% 0 60 20 20
Dosbarthiad ysgolion PYD – L1 40% 40% 20% 0% 20% 40% 40% 0% 40% 20% 20% 20% 40 20 0 40
Dosbarthiad ysgolion PYD – SPC 40% 40% 0% 20% 20% 40% 20% 20% 20 20 20 40
Dosbarthiad ysgolion PYD – CSI 20% 40% 20% 20% 60% 20% 0% 20% 40% 20% 20% 20% 20 60 0 20
Dosbarthiad ysgolion PYD – Saesneg 20% 40% 40% 0% 40% 40% 20% 0% 80% 0% 20% 0% 40 60 0 0
Dosbarthiad ysgolion PYD – Cymraeg 20% 0% 60% 20% 20% 60% 0% 20% 0% 60% 20% 20% 40 60 0 0
Dosbarthiad ysgolion PYD – Mathemateg 0% 60% 40% 0% 40% 20% 20% 20% 20% 20% 20% 40%
20 40 0 40
Dosbarthiad ysgolion PYD – Gwyddoniaeth 20% 40% 20% 20% 40% 40% 0% 20% 20% 40% 20% 20%
20 0 80 0
Dengys Tabl 11 fod ychydig o welliant yn y meincnodau PYD yn 2012 – mae cynnydd bychan yn nifer yr ysgolion yn y chwartel uchaf a gostyngiad cyfatebol yn y nifer sy’n y chwartel isaf. Dyma le sydd angen ei wella, yn arbennig felly mewn dwy ysgol. Materion yn codi o’r adroddiad: 1. Yn gyffredinol, mae perfformiad ym mhob cyfnod allweddol yn dangos gwelliant. Rhaid rhoi blaenoriaeth i adeiladu ar y gwelliant
hwn, yn enwedig yn CA4.
2. Mae angen i ysgolion ac adrannau pwnc unigol sy’n perfformio’n is na’r disgwyl gael eu herio a’u cefnogi i wella fel mater o
flaenoriaeth.
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a roddir fel rhan o’r adroddiad blynyddol, mae’r data yn yr atodiad hwn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio gosod perfformiad yr Awdurdod yn ei gyd-destun. Mae’r data a gyflwynir yn taflu rhywfaint o oleuni ar bryderon Estyn ynghylch perfformiad, fel ag y nodwyd yn adroddiad yr arolwg. CA2 – DPC: Dengys y graffiau fod mwy o ysgolion yn y chwartel isaf yn 2011 yn Ynys Môn nag mewn unrhyw awdurdod arall. Gwellodd hyn yn 2012. Yn yr un modd gwellodd perfformiad yn y lefelau uwch yn 2012.
CA2 DPC – Dosbarthiad ysgolion yn ôl chwarteri PYD KS2 CSI - Distribution of schools by FSM quarters
2011 2012
10
CA3 – DPC: Yn 2011, roedd nifer yr ysgolion yn y chwartel isaf yn y DPC yn gosod yr Awdurdod yn y 9fed safle. Gwellodd hyn yn 2012 – mae nifer yr ysgolion yn y chwartel isaf yn gosod yr awdurdod ar frig ALlau yng Nghymru. Dengys y graffiau hefyd fod perfformiad yn y lefelau uchaf wedi gwella.
CA3 DPC – Dosbarthiad ysgolion yn ôl chwarteri PYD KS3 CSI - Distribution of schools by FSM quarters
2011 2012
11
CA4: Drwyddi draw, mae perfformiad yn CA4 mewn perthynas â nifer yr ysgolion yn y chwartel
isaf wedi gwella mewn perthynas â TL2+, L2 a’r DPC, wedi aros yn gyson yn TL1 ac wedi disgyn
ychydig yn y sgôr pwyntiau a gapiwyd.
CA4 L2+ - Dosbarthiad ysgolion yn ôl chwarteri PYD KS4 L2+ - Distribution of schools by FSM quarters
2011 2012
12
CA4 L2 - Dosbarthiad ysgolion yn ôl chwarteri PYD KS4 L2 - Distribution of schools by FSM quarters
2011 2012
13
CA4 L1 - Dosbarthiad ysgolion yn ôl chwarteri PYD KS4 L1 - Distribution of schools by FSM quarters
2011 2012