cyfrol cxlviii rhif 39 dydd gwener, medi 25, 2020 pris 50c ... · gwers 12 iesu gweddi: arglwydd...

8
Ers peth amser mae Is-bwyllgor y Chwiorydd wedi bod yn cefnogi’r elusen Cornerstone Uganda. Sefydlwyd yr elusen gan Sara a Nancy o Gelligroes ger Caerffili i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael cartrefi plant heb ddim cefnogaeth. Eu nod yw helpu pobl ifanc i allu eu cynnal eu hunain a bod yn aelodau cyfrifol o’u cymunedau. Maen nhw wedi prynu cartref ag ystafelloedd i chwe pherson ifanc ynddo ac yn cyflogi ‘Anti Doreen’ i’w goruchwylio a’u cefnogi o ddydd i ddydd. Am fod y sefyllfa adre mor wael mae llawer o bobl ifanc yn gadael ac yn mynd i fyw ar y strydoedd er mwyn peidio â bod yn faich ar eu teuluoedd. Yn aml teuluoedd tlawd, un rhiant ydynt, a’r merched sy’n ymdrechu i gadw’r teulu gyda’i gilydd. Maent yn ferched dewr ac annibynnol ac nid ydynt yn barod i dderbyn cardod ond ambell dro mae angen hwb bach ymlaen arnynt. Mae’r teuluoedd yn poeni fod y plant yn byw ar y strydoedd ac yn ddiolchgar iawn i Cornerstone am gynnig ail gyfle i’r bechgyn a’r merched er mwyn iddynt fedru cynnal eu hunain maes o law. Dyma hanes rhai ohonynt: Mae Anthony yn byw gyda’i fodryb a thrwy gymorth Cornerstone mae wedi dychwelyd i’r ysgol wedi cyfnod ar y stryd. Mae newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf o Lefel A. Mae Cornerstone wedi talu ei ffioedd ysgol ond mae ei fodryb wedi llwyddo i ddarparu ei wisg ysgol, er bod ganddi dri o’i phlant ei hun i’w cael drwy’r ysgol. Mae Anthony yn fyfyriwr da ac yn llwyddo yn ei astudiaethau. Roedd Brian yn byw gyda’i nain ond oherwydd newid yn amgylchiadau’r cartref gadawodd yr aelwyd ac aeth yn ôl i fyw ar y strydoedd. Roedd wedi cychwyn ar gwrs pobi wedi iddo ymuno â Cornerstone ac fe ddechreuodd wneud a gwerthu byrbrydau bach fel ffordd o godi arian ar gyfer prynu bwyd iddo ef ei hun. Wedi cwblhau ei brentisiaeth cafodd swydd gyda’r elusen. Cynorthwyodd Cornerstone ef i ddod o hyd i gartref ond mae’n dod yn ôl yn rheolaidd i roi diweddariad ar sut mae pethau’n mynd i Anti (y gweithiwr cymdeithasol). Mae’r adroddiadau amdano yn dweud fod Brian yn gweithio’n galed ac yn ddyn ifanc gonest iawn. Bu Cornerstone yn cynnig cymorth i Grace a’i tri mab – Bernard, Alex a Robert ac mae pethau’n edrych yn addawol. Mae Alex, y bachgen canol, wedi cwblhau ei flwyddyn gyntaf o Lefel A gyda chanlyniadau ardderchog. Roedd Grace yn mynd allan a phrynu dillad ail-law i’w gwerthu er mwyn ceisio darparu ar gyfer ei theulu. Yna sylweddolodd y byddai’n gwneud mwy o elw pe bai hi’n gwneud y dillad ei hun ac yna’n eu gwerthu. Yn y cyfamser mae Cornerstone wedi talu ffioedd i Grace i fynd ar gwrs teilwra. Mae’n gweithio drwy’r dydd ac yna’n mynd i’r dosbarth nos heb fod ymhell o’i chartref. Pan fydd wedi cwblhau’r cwrs mae’n gobeithio gweithio o adre. Ar hyn o bryd mae’n treulio llawer o’i hamser yn ceisio dod o hyd i stoc i’w werthu ac weithiau bydd yn teithio pellteroedd mawr. Mam ifanc yw Sylvia. Mae hi’n HIV positif ac mae ganddi ddau set o dripledi. Roedd hi’n byw gyda’r plant ar dir yr eglwys pan ofynnodd i Cornerstone am gymorth. Yn naturiol roedd hi’n awyddus i gadw ei theulu gyda’i gilydd ond nid oedd modd iddi wneud hynny. Drwy gefnogaeth Is-bwyllgor y Chwiorydd sicrhaodd Cornerstone lle diogel iddynt fyw ynddo, helpu Sylvia i ddod o hyd i waith a chael y plant yn ôl yn yr ysgol. Ar ymweliad â’r teulu aeth Sara a Nancy â rhoddion o ddillad iddi hi a’r plant ac roeddent wrth eu bodd. Mae rhodd yr Is-bwyllgor o £2000 yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl Uganda trwy waith Cornerstone ac maent yn ddiolchgar iawn am y cymorth. Diolch i holl ferched capeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru am eu cyfraniadau hael a chyson a da yw cael adroddiadau positif fod ein cenhadaeth yn Uganda yn llwyddo. Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd) CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Diolch a chofio … t. 2 • Cymorth Plis … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 EIN CENHADAETH YN UGANDA Sylvia a’i theulu Grace a’i tri mab

Upload: others

Post on 23-Jan-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

Ers peth amser mae Is-bwyllgor yChwiorydd wedi bod yn cefnogi’r elusenCornerstone Uganda. Sefydlwyd yrelusen gan Sara a Nancy o Gelligroesger Caerffili i gefnogi pobl ifanc sy’ngadael cartrefi plant heb ddimcefnogaeth. Eu nod yw helpu pobl ifanci allu eu cynnal eu hunain a bod ynaelodau cyfrifol o’u cymunedau. Maennhw wedi prynu cartref ag ystafelloedd ichwe pherson ifanc ynddo ac yn cyflogi‘Anti Doreen’ i’w goruchwylio a’ucefnogi o ddydd i ddydd.

Am fod y sefyllfa adre mor wael maellawer o bobl ifanc yn gadael ac ynmynd i fyw ar y strydoedd er mwynpeidio â bod yn faich ar eu teuluoedd.Yn aml teuluoedd tlawd, un rhiantydynt, a’r merched sy’n ymdrechu igadw’r teulu gyda’i gilydd. Maent ynferched dewr ac annibynnol ac nidydynt yn barod i dderbyn cardod ondambell dro mae angen hwb bachymlaen arnynt. Mae’r teuluoedd ynpoeni fod y plant yn byw ar y strydoeddac yn ddiolchgar iawn i Cornerstone amgynnig ail gyfle i’r bechgyn a’r mercheder mwyn iddynt fedru cynnal eu hunainmaes o law. Dyma hanes rhai ohonynt:

Mae Anthony yn byw gyda’i fodryb athrwy gymorth Cornerstone mae wedi

dychwelyd i’r ysgol wedi cyfnod ar ystryd. Mae newydd gwblhau ei flwyddyngyntaf o Lefel A. Mae Cornerstone weditalu ei ffioedd ysgol ond mae ei fodrybwedi llwyddo i ddarparu ei wisg ysgol,er bod ganddi dri o’i phlant ei hun i’wcael drwy’r ysgol. Mae Anthony ynfyfyriwr da ac yn llwyddo yn eiastudiaethau.

Roedd Brian yn byw gyda’i nain ondoherwydd newid yn amgylchiadau’rcartref gadawodd yr aelwyd ac aeth ynôl i fyw ar y strydoedd. Roedd wedicychwyn ar gwrs pobi wedi iddo ymunoâ Cornerstone ac fe ddechreuoddwneud a gwerthu byrbrydau bach felffordd o godi arian ar gyfer prynu bwydiddo ef ei hun. Wedi cwblhau eibrentisiaeth cafodd swydd gyda’relusen. Cynorthwyodd Cornerstone ef iddod o hyd i gartref ond mae’n dod ynôl yn rheolaidd i roi diweddariad ar sutmae pethau’n mynd i Anti (y gweithiwrcymdeithasol). Mae’r adroddiadauamdano yn dweud fod Brian yngweithio’n galed ac yn ddyn ifancgonest iawn.

Bu Cornerstone yn cynnig cymorth iGrace a’i tri mab – Bernard, Alex aRobert ac mae pethau’n edrych ynaddawol. Mae Alex, y bachgen canol,wedi cwblhau ei flwyddyn gyntaf o LefelA gyda chanlyniadau ardderchog.Roedd Grace yn mynd allan a phrynudillad ail-law i’w gwerthu er mwyn ceisiodarparu ar gyfer ei theulu. Ynasylweddolodd y byddai’n gwneud mwy

o elw pe bai hi’n gwneud y dillad ei hunac yna’n eu gwerthu. Yn y cyfamsermae Cornerstone wedi talu ffioedd iGrace i fynd ar gwrs teilwra. Mae’ngweithio drwy’r dydd ac yna’n mynd i’rdosbarth nos heb fod ymhell o’ichartref. Pan fydd wedi cwblhau’r cwrsmae’n gobeithio gweithio o adre. Ar hyno bryd mae’n treulio llawer o’i hamseryn ceisio dod o hyd i stoc i’w werthu acweithiau bydd yn teithio pellteroeddmawr.

Mam ifanc yw Sylvia. Mae hi’n HIVpositif ac mae ganddi ddau set odripledi. Roedd hi’n byw gyda’r plant ardir yr eglwys pan ofynnodd iCornerstone am gymorth. Yn naturiolroedd hi’n awyddus i gadw ei theulugyda’i gilydd ond nid oedd modd iddiwneud hynny. Drwy gefnogaethIs-bwyllgor y Chwiorydd sicrhaoddCornerstone lle diogel iddynt fyw ynddo,helpu Sylvia i ddod o hyd i waith a chaely plant yn ôl yn yr ysgol. Ar ymweliad â’rteulu aeth Sara a Nancy â rhoddion oddillad iddi hi a’r plant ac roeddent wrtheu bodd. Mae rhodd yr Is-bwyllgor o£2000 yn gwneud gwahaniaeth mawrym mywydau pobl Uganda trwy waithCornerstone ac maent yn ddiolchgariawn am y cymorth. Diolch i holl ferchedcapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru ameu cyfraniadau hael a chyson a da ywcael adroddiadau positif fod eincenhadaeth yn Uganda yn llwyddo.

Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd)

CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Diolch a chofio… t. 2 • Cymorth Plis … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

EIN CENHADAETH YN UGANDA

Sylvia a’i theulu

Grace a’i tri mab

Page 2: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

Ganwyd D.H. yn 1930 ac fe gafodd eifagu yn Chelmsford, Essex. Yn dilynmarwolaeth ei dad yn ddeugain mlwyddoed, symudodd D.H., a’i ddwy chwaerPamela a Shirley gyda’u mam Katie ynôl i fyw yn agosach at y teulu ynLlanddewi Brefi. Roedd hyn adeg yRhyfel, a chan nad oedd yn siaradCymraeg, roedd yn cael ei ystyried yradeg honno fel un o’r ‘evacuees’. Foddbynnag, dysgodd Gymraeg yn fuan, acfe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol SirTregaron cyn symud ymlaen i GolegTechnegol, Caerdydd.

Bu’n gweithio mewn nifer o wahanolswyddi; gweithiodd fel Peiriannydd Sifilyn ninas Lerpwl, a bu’n ddirprwyarolygwr Cyngor Sir Ceredigion tan1974. Yna cafodd y swydd ogyfarwyddwr personél a gwasanaethaurheolaethu Cyngor Sir Dyfed cyn eiddyrchafu’n brif swyddog gweithredolyn 1981, gan barhau yn y swydd honnotan ei ymddeoliad yn 1991.

Yn ogystal â’i waith proffesiynol, bu’nymgymryd â phob math oddyletswyddau eraill. I enwi ond rhai, yn1991, ymgymerodd D.H. â’r dasg olansio apêl i adeiladu canolfan ymchwil iafiechydon y galon. Saith mlynedd ynddiweddarach, ar ôl sefydlu cronfa o£3.5 miliwn, agorwyd Sefydliad SyrGeraint Evans dros Ymchwil y Galonyng Nghymru. Dyletswydd arall addaeth i’w ran oedd bod yn gadeiryddar Fenter Iaith Cwm Gwendraeth. Yndilyn ymweliad Eisteddfod yr Urddgyda’r ardal yn 1989 gyda D.H. yngadeirydd ar y Pwyllgor Gwaith, cafwydy weledigaeth i sefydlu Menter IaithCwm Gwendraeth, ac yn ogystal â bodyn un o sylfaenwyr y Fenter Iaith gyntafhonno, ef hefyd oedd ei Chadeiryddgyntaf hi.

Ar hyd y daith fe dderbyniodd D.H. nifer

o anrhydeddau gan gynnwys yr O.B.E.yn 1998 am ei wasanaeth i’r gymunedyng Nghymru. Yn ogystal â llu oddyletswyddau eraill, bu hefyd yn Glerci Raglawiaid Dyfed a hefyd yn DdirprwyRaglaw Dyfed. Ym mis Hydref 1987,daeth Tywysog Cymru a’r DywysogesDiana i ymweld â’r ardal adeg yllifogydd yng Nghaerfyrddin a D.H. fu’neu tywys o gwmpas i weld y difrod. Yndilyn yr ymweliad, derbyniodd lythyr o’rPalas yn diolch iddo am y moddardderchog y cyflawnodd eiddyletswyddau’r diwrnod hwnnw.

Daeth D.H., Menna ei wraig, a Shân eumerch i fyw i Landdarog yn 1978.Prynodd ddarn o dir ar Heol Penllwynioac adeiladu Morawel. D.H. gynlluniodd ybyngalo ar gefn amlen cyntrosglwyddo’r amlen i’r adeiladwyr. Bu’rteulu yn hapus iawn yno ac roeddcroeso cynnes bob amser ar yr aelwyd.Roedd D.H. yn aelod ffyddlon yngNghapel Newydd ac roedd yn flaenoryno ers 1986. Bu’n ffyddlon eibresenoldeb yn y Capel, ac yn weithgara pharod ei gymwynas bob amser.Roedd yn uchel ei barch ac ynadnabyddus trwy’r ardal gyfan, yn firbonheddig gyda phersonoliaeth gadarn

a serchog. Yn sicr, roedd D.H. a Mennayn mwynhau cymdeithasu ac yngefnogol i holl weithgareddau’r Pentref.Yn 2009, bu marwolaeth Menna, ar ôlpum deg a thair blynedd o fywydpriodasol dedwydd, yn ergyd i’r teulucyfan.

Roedd gweld dirywiad yn iechyd D.H.yn ystod y blynyddoedd diwethaf yndestun pryder yn y gymuned ac, erbrwydro yn galed, bu’n rhaid iddo adaelei gartref yn Llanddarog a symud i DªLlandaf, Caerdydd, lle derbyniodd ofalarbennig. Gyda thristwch mawr daeth ynewyddion i Landdarog am eifarwolaeth ddiwedd Gorffennaf. Yn sicr,fe gadwodd ei urddas a’ifoneddigeiddrwydd tan y diwedd. Diolcham bob gofal gafodd gan Shân aRobert, a hefyd gan Gartref Tª Llandaf,Caerdydd.

Do, cyfrannodd D.H. yn helaeth i fywydyr ardal, a Chymru gyfan, a bydd bwlchmawr ar ei ôl. Bydd y golled yn sicr i’wtheimlo yng Nghapel Newydd, ac rydymfel Eglwys ac ardal yn cydymdeimlo ynfawr â Shân a Robert a’u teuluoedd yneu colled a’u hiraeth.

Meinir Richards

2 Y Goleuad Medi 25, 2020

Cofio, gwerthfawrogi a diolch Mr. D. H. DAVIES, O.B.E. – Capel Newydd, Llanddarog

Hyfryd oedd darllen gwerthfawrogiadDr John TudnoWilliams o gyfrolThomas Parry, Amryw Bethau, yn YGoleuad, 11 Medi. Cefais innau hefydflas arbennig arni pan gyhoeddwyd hi,ac roedd cael fy atgoffa ohoni yn myndâ mi’n ôl i’r blynyddoedd y bûm i’nweinidog ar eglwys Tfirgwyn ymMangor.

Roedd Thomas ac Enid Parry’naelodau ffyddlon dros ben yn yreglwys, ac er bod ambell bregethwr ynteimlo’n ddigon nerfus wrth weld SyrThomas yn rhythu arno o’r sedd flaen,doedd dim angen hynny o gwbl,oherwydd fe’i cefais yn aelod hynodgyfeillgar a gwerthfawrogol bob amser.Daw dwy esiampl o hynny i’m cof.

Fel gweinidog ifanc (bryd hynny!)roeddwn i’n awyddus i amrywio abywiogi rhywfaint ar yr addoliad ar ySul. Anfonais gylchlythyr o amgylch yrholl aelodau yn eu gwahodd i anfonunrhyw syniadau ataf fi, gan addo ybyddwn yn cynnull rhyw fath o ‘gyngoreglwys’ i roi ystyriaeth iddynt, a

hwnnw’n cynnwys aelodau o boboedran. Y bore Sul canlynol, a phawbwedi derbyn y llythyr, y cyntaf i ymateboedd Syr Thomas. ‘Wel fachgen!’,meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, ‘Dynasyniad ardderchog. Galwch heibio amgoffi bore fory; mae gennyf ambellawgrym.’ Ac felly y bu, ac yn wir roeddganddo awgrymiadau gwerthfawr i’wcynnig.

Mae a wnelo’r ail enghraifft â’i briod,Enid. Ar y pryd roeddem yn brin oorganyddion yn Nhfirgwyn, a dymawneud apêl, gan feddwl efallai bod ynaambell olau dan lestr yn rhywle.Unwaith eto, y cyntaf i ymateb oedd yFonesig Parry ( er, rwy’n rhyw gredumai ei phriod oedd y tu ôl iddi!).Wrth gwrs, roedd hi’n gerddor galluogac yn bianydd medrus. ‘Ond offerynpur wahanol yw’r organ’, meddai –cyn mynd ati i gael hyfforddiant arni.Byddai’n cyfansoddi darnau byr i’wcanu yn ystod y casgliad ac ati, acroedd yn bleser pur gwrando arni.Cyfeiria Derec Llwyd Morgan at hynyn ei gofiant i Thomas Parry,Y Brenhinbren.

Diolch am gyfle i gofio cyfraniad achefnogaeth dau aelod gwerthfawr acannwyl.

Glyn Tudwal Jones

Taro’rPostAnnwyl Olygydd,

Twyllwyr?‘Y mae’r Beiblyn rhwyddiawn i’wddeall. Ond yrydym niGristnogion yngynllwynwyrtwyllodrus.Yr ydym ynesgus ein bodyn methu â’iddeall am einbod yngwybod yn iawn y funud yr ydym ynei ddeall fod gofyniad arnom iweithredu’ – Kierkegaard

Page 3: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

Gwers 12

Iesu

Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yrEfengylau yn defnyddio llawer o eiriaui’th gyflwyno i ni. Heddiw, rydym yngofyn am gael dy adnabod yn well abod yn fwy diffuant wrth ddweudamdanat wrth eraill. Amen.

Darllen: Ioan 1: 1-18; Ioan 3:16

CyflwyniadBle mewn cyfres fel hon y dylid troi atenw Iesu ei hun? Ffurf Roegaidd ar yrenw Joshua yw Iesu, a’i ystyr wreiddiolyw ‘achub’, sef ei briod waith.Cyflwynir Iesu fel un o deulu cyffredina ddatblygodd ddoniau saer coed, a fubyw yn Nasareth am dri degawd, cyniddo gael ei fedyddio gan Ioan yn yrIorddonen. Bu’r tair blynedd dilynol yngyfnod o deithio ar draws gwlad, arhoddir blas o’r digwyddiadau hynny iddarllenwyr yr Efengylau.

Clywn am Iesu yn denu tyrfaoedd acyn eu haddysgu am Dduw, am yDeyrnas Nefol, am agweddau o fywydmoesol ac am hanfodion bod yn un o’iddilynwyr. Wrth i’r daith symud o

Gesarea Philipi i gyfeiriad Jerwsalem,byddwn yn ymwybodol fod gelyniaethy Phariseaid a’r Sadwceaid yn cynyddu,a rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion ybyddai’n cael ei ladd.

Ceir llawer mwy o fanylder am yrwythnos olaf, ac roedd y pedwarEfengylydd yn awyddus i rannu’rhanesion amdano yn rym ac awdurdoddros bob elfen o fywyd. Iachawyd ycleifion, cofleidiwyd y gwrthodedig, acroedd ffordd Iesu o drin pobl yn amlwgwahanol i ffordd arweinwyr Iddewiaeth.Iddynt hwy, roedd Iesu yn fygythiad i’wdehongliad hwy o addoli Duw Abram,Isaac a Jacob, Duw’r brenhinoedd a’rproffwydi. Gwrthodwyd Iesu ganddynta bu cynllwyn i’w osod ar brawf, agadawyd y gwaith o ladd Iesu iddwylo’r Rhufeiniaid.

Gwelodd Luc yn dda i nodi i’rcanwriad wrth y groes ddweud bod Iesuyn ‘berson cyfiawn’. O bob rhyfeddodyn hanes Iesu, yr Atgyfodiad oedd yrhanes mwyaf un. Ni all rheswm ddeallyr Atgyfodiad, ond mewn ffydd a chydaphrofiad o’r Iesu byw, bydd Cristnogionyn derbyn mai Iesu yn unig a allgymodi’r byd â Duw.

MyfyrdodCeir sawl disgrifiad o Iesu, yr athro a’rarweinydd, yr Arglwydd a’r Gwaredwr,y Duw mewn cnawd, ac un sy’n bontrhwng nef a daear, y sanctaidd a’r bydolpechadurus. Gelwir ef yn Feseia ac ynfrenin, yn frawd ac yn Fab Duw, a theghynny. Yr hyn sy’n her i bob iaith adiwylliant yw cyflwyno Iesu mewngeirfa sy’n ddealladwy ac yn berthnasoli angen pobl ein cyfnod a’n cymuned.Prin y byddai unrhyw un am gerddedoddi wrth y dweud Beiblaidd, ond aethgeirfa grefyddol un genhedlaeth ynddieithr i’r cenedlaethau iau, ynarbennig os nad yw’r profiad a’rargyhoeddiad yn fyw iddynt. Prinfod synnwyr mewn cyflwyno ffyddfyw mewn iaith sy’n ddieithri’r gynulleidfa. Paul ddadleuodd ynerbyn pwyso ar y Groegiaid idroi’n Iddewon er mwyn derbynCristnogaeth. Gwelodd ef fod ycaethweision yn deall pwysigrwydddangos bod Iesu ar gael iddynt hebunrhyw anhawster, i wragedd a

phlant, i’r tlodion a’r anghenus, i’rdieithr a’r gwan. Mae gan Iesu rywbeth perthnasol i’w

ddweud wrth bawb, a bod gan bawbanghenion, sut bynnag maent yn deallneu ddim yn deall hynny. Camp fawrein tystiolaeth ni yw cael y modd odrosglwyddo’r gwahoddiad i wledd ybywyd a bod Iesu yn rhannu gwirlawenydd i bawb, ac nad oes angenalcohol na chyffuriau i greu’r llawenyddhwnnw. Bydd Iesu yn creu cymdeithasgyda phawb, heb ragfarn na rhwystr, ary ddealltwriaeth fod pobl yn onest adidwyll yn eu dyhead am fywyd mewngwirionedd. Iesu oedd, yw ac a fyddmodd Duw i ddod i berthynas ag ef eihun. Dyna beth yw cymod neu heddwchgyda Duw. Iesu yw’r llwyfan a’r ddolengyswllt, ef yw’r ffrind sy’n cysylltu acyn ffordd i’w cherdded. Nid traddodiadna diwylliant yw llwybr crefydd, ondperthynas a phrofiad real.

Gweddi: Iesu, helpa ni i’th ddeall ynwell, i’th ddilyn yn fwy ffyddlon a’thgaru yn llwyrach. Helpa ni i geisio bywyn debyg i ti ac arwain eraill i’thadnabod yn dy ras ac yn dy drugaredd.Amen.

Trafod ac ymateb:

• O ystyried mai ystyr enw Iesu yw ‘yrun sy’n achub’, pam yr aethom ynbrin o sôn am ‘achub’?

• Pa emynau am yr Arglwydd Iesu addaw i’ch meddwl wrth ichi ddarlleny darnau gosod uchod o’r Ysgrythur?Myfyriwch arnynt.

• A oes perygl inni ddisgwyl i bobl fodyr un fath â ni, yn siarad yr un math oiaith, yn byw yr un math o fywyd, cyny gallant ddod yn Gristnogion? Ydynni wir yn credu bod Iesu ar gael ac yndymuno perthynas efo pawb, pwybynnag y bônt? Beth yw goblygiadaucredu hynny i’n tystio amdano?

Medi 25, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae fideo o’r deunydd i'w weld yn yr adran ‘Gwersi Ysgol Sul i Oedolion’ar sianel deledu www.cristnogaeth.cymru

Sul, 27 Medi

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

Yr wythnos yma, y gantores a’rberfformwraig Non Parry fydd ynrhannu ei phrofiad o ddelio gydagiselder a gorbryder. Daw’r canu mawlo eglwys Sain Dunwyd.–––––––––––––––––––––––––––––

Oedfa Radio Cymru27 Medi am 12:00yp

yng ngofalDelyth Richards, Caerfyrddin

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 4: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

Ar alwad Zoom ddiweddar gyda’n grfipbach, fe gafodd fy ngwraig a minnau eintarfu gan un o’n meibion yn rhedeg i’rystafell gan chwerthin, ac yna ein mabarall yn ei ddilyn yn fuan wedyn danweiddi. Yn ffodus, roedd fy microffonwedi ei dawelu ond daliodd y fideo ycystadlu fu rhwng y ddau frawd. Allan ogwrteisi, ddywedodd neb ddim byd.Ond dwi’n dychmygu nad fi yw’r unigun sydd wedi fy narostwng ganolygfeydd domestig o fywyd go iawnyn ffurfio cefndir newydd ar gyfergwneud disgyblion.Mae’r Clo Mawr wedi cywasgu

chwyldro digidol a fyddai fel arall wedicymryd degawdau i gyfnod o ychydigfisoedd. Pe bawn wedi dweud wrthychym mis Ionawr fy mod yn cynnalastudiaeth Feiblaidd dros ycyfrwng Zoom, byddech weditybio fy mod yn rhan o sefydliadbyd-eang neu eglwys arbennig ogyfoes. Nawr mae pawb ynffrydio gwasanaethau’r Sul ac yncymdeithasu mewn ystafelloeddsgwrsio ar-lein – pwy fyddaiwedi meddwl y gallai hynnyswnio’n barchus? Rydyn ni i gydyn perthyn i’r byd digidol nawr.Fodd bynnag, ni fu’r

trawsnewidiad heb ei rwystrau.Gwnaed ymdrechion arwrol iymateb mewn ffyrdd arloesol, aceto gall y cyfan deimlo’nrhwystredig ac annigonol o hyd.Felly, gan gydnabod yr heriau sy’nbodoli, gadewch inni hefyd ystyried suty gallwn fachu ar y cyfleoedd sy’n dodi’r amlwg ac ailystyried dyfodol eingwaith fel eglwysi o ymestyn allan agwneud disgyblion.

• Meithrin yr agwedd gywir

Ynghanol trasiedi Covid-19, maeatgyfodiad Crist yn ein sicrhau y byddpopeth yn iawn yn y diwedd. Gan osgoibod yn orchestol, rydym ynymagweddu i fyw ac arwain gyda hydera diolchgarwch. Fel yr ysgrifennoddPaul: ‘Llawenhewch bob amser.Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhobdim rhowch ddiolch’ (1 Thesaloniaid5:16–18). Ddeng mlynedd yn ôl, doeddy llwyfannau ar-lein sydd ar gael inniheddiw ddim ar gael. Wrth i ffyrddRhufeinig gario’r Efengyl yn y ganrifgyntaf, felly mae seilwaith digidol yn

gyfle cenhadol nawr. Gadewch i niddiolch am yr hyn sydd gennymac ystyried y ffordd orau o’iddefnyddio.Pan gafodd Paul ei gloi yn y carchar,

mabwysiadodd agwedd ddisgwylgar, ynseiliedig ar ei argyhoeddiad y byddaiDuw yn gweithio er daioni, ganddatgan: ‘Yr wyf am i chwi wybod,gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddoddi mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion ihyrwyddo’r Efengyl’ (Philipiaid 1:12).Fel Paul, mae’n rhaid i ni symudymlaen gyda dewrder a gweledigaeth,er mor anodd yw hynny. Fel yr anogoddPaul yn un o’i lythyrau eraill, lle cafoddei hun dan glo: ‘Daliwch ar eich cyfle’(Effesiaid 5:16).

• Croesawu wynebau newydd

Mae llawer o eglwysi yn adrodd amgynnydd yn y niferoedd digidol.Materion ymarferol sy’n gyfrifol amrywfaint o hyn: fel rhieni, gall fyngwraig a minnau fynychu grwpiaubach ar-lein heb fod angengwarchodwyr plant. I lawer, mae troi imewn ar-lein yn llai bygythiol na throi imewn yn y cnawd. Mae rhaiadroddiadau wedi awgrymu bod un obob pedwar oedolyn wedi rhoi cynnigar wasanaeth ar-lein yn ystod y clomawr. Mae’n ymddangos bodcynulleidfaoedd sy’n gynnes i ffydd ondheb fod yn rheolaidd yn yr eglwys ynchwilio ar-lein am hyder ysbrydol ynystod cyfnod o ansicrwydd. Maeymchwil Cymdeithas y Beibl(lumino.bible) yn rhoi cip gwerthfawrinni ynghylch pwy all y bobl hyn fod asut y gallwn uniaethu â nhw.

Sut allwn ni wneud hyn?

Mae nifer helaeth o eglwysi ar draws yDeyrnas Unedig wedi addasu i gynnalgwasanaethau’r Sul a chyfarfodyddcanol wythnos ar-lein, ond maeymestyn allan ac efengylu mewn byddigidol yn dod â’i heriau ei hun. Nid oesgan lawer o eglwysi y sgiliau, yr hyderna’r offer i gynhyrchu deunydd o’ransawdd y mae cenhedlaeth sydd wediarfer efo pob math o gyfryngau digidolyn ei fynnu. Gyda hyn mewn golwg, unenghraifft Saesneg oedd yr fiylGristnogol Creation Fest, a aeth ati igreu chwe sioe ar ffurf darllediadauteledu sydd wedi’u cynllunio’n benodoli annog Cristnogion ac sy’n hawdd i’wrhannu. Darlledwyd nhw’n fyw bob

wythnos o 20 Gorffennafymlaen, ac maen nhw’ncynnwys cerddoriaeth, sgyrsiaupryfoclyd, straeon bywyd agwesteion enwog. Cafodd OnAir ei gynllunio’n benodol ihelpu eglwysi i fynd i’r afael agefengylu digidol yn dda.Ond beth ydyn ni’n ei wneud

wedyn pan fydd pobl sy’nchwilio am Iesu ar-lein yn dod ohyd iddo? Mae cyrsiau fel Cwrsy Beibl gan Gymdeithas y Beiblneu Alffa yn berthnasol ifynychwyr rheolaidd a’r rhaisy’n taro i mewn, heb ragdybiodim gwybodaeth flaenorol adarparu cyflwyniad hawdd ei

ddilyn. Mae’r ddau wedi’u haddasu i’wdefnyddio ar-lein ac yn cael eudefnyddio’n llwyddiannus ledled y byd(gyda llawlyfrau Cymraeg ar gael).Wrth i eglwysi daflu’r drws ffrynt

digidol ar agor, maen nhw’n manteisioar awydd am ystyr dyfnach a gobaithsy’n taro nodyn gyda chynulleidfaoeddy tu hwnt i’r ffyddloniaid. Nododd rhaisiopau Cristnogol fod gwerthiantBeiblau wedi cynyddu yn ystod y cloimawr – efallai mai dim ond am dybiaupoeth i’w chwythu i fyny a chfin bachyr oedd yna fwy o alw! Yn union fel ydarganfu Philip yr eunuch o Ethiopia yndarllen yr ysgrythurau Iddewig, efallai ybyddwn ninnau hefyd yn synnu pwysy’n darllen ein llyfr ar hyn o bryd.Mae’n amserol inni gael ein atgoffa body Beibl yn wirionedd cyhoeddus i’r byd

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 25, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Mae Zoom ym mrig y morwydd: sut mae’rcloi mawr wedi newid cenhadaeth er gwellDr Andrew Ollerton sy’n dweud ei bod yn bryd ailystyried dyfodol ein cenhadaeth a’n hymestyn allan

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 5: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

i gyd. Fel Philip, bydded i ninnau hefydgael yr hyder i arwain llawer at Gristdrwy’r Ysgrythurau.

• Annog diwylliant o hunanfwydo

Yn ystod y clo mawr ac wedi hynny,bu’n rhaid i ni i gyd wneud pethau am ytro cyntaf: torri gwallt, addysgu gartref,sfimio … Faint ohonom sydd wedicymuno yn ein cartrefi, wedi arwaindefosiynau teuluol ac wedi darganfodffyrdd newydd o addoli yn ystod yramser hwn? Os ydym yn credu ynoffeiriadaeth y credinwyr, mae’n henbryd gwneud hyn. Dychmygwch os maiun o ganlyniadau’r clo mawr fyddaicorff wedi ei gyfnerthu i’w fwydo’ihun, rhieni’n hyderus i feithrin ffydd.Fe benderfynodd fy ngwraig a minnaufynd ar daith drwy’r Beibl gyda’n plantyn ystod y clo mawr. Mewn 40 o

sesiynau bychain fe lwyddon ni yn ydiwedd i greu adnodd y mae teuluoedderaill bellach yn ei ddefnyddio(thegreateststoryever.org). Roedd hynyn rhywbeth yr oedden ni wedi bodeisiau rhoi cynnig arno, ond heb gael yrhyder na’r amser i wneud hynny.Gadewch inni weddïo y bydd ychwyldro digidol yma’n cynhyrchucredinwyr sydd yn hyderus i’w bwydoeu hunain ac wedi eu harfogi i rannu euffydd ag eraill.Yn Lord of the Rings gan Tolkien,

ceir sgwrs ingol lle dywed Frodo,‘Rwy’n dymuno na fyddai’r fodrwyerioed wedi dod yn eiddo i mi. Rwy’ndymuno na fyddai dim o hyn wedidigwydd.’ A Gandalf yn ateb, ‘Fellyhefyd bawb sy’n byw i weld y fathamseroedd, ond nid eiddo hwy yw’rdewis. Y cyfan sydd angen i ti ei ddewis

yw beth i’w wneud efo’r amser syddwedi ei roi i ti.’ Efallai na fyddem wedi dewis yr

amseroedd hyn, a fedrwn ni ddim eunewid. Felly, yn hytrach, gadewch inniddal ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynniginni.

* * *

Mae’r Dr Andrew Ollerton, syddbellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’iwraig, Charlotte, a’u tri plentyn, ynweinidog ac yn ddiwinydd. Bu’nysgogydd cyson dros yr ugain mlynedddiwethaf i genhedlaeth o Gristnogionifanc yng Nghymru drwy’r rhaglenSouled Out Cymru. Mae’n awdur llyfrnewydd: The Bible: a Story that MakesSense of Life (Hodder & Stoughton).

(Ymddangosodd yr erthygl gyntaf yngnghylchgrawn Christianity, Awst ’20.Diolch am ganiatâd yr awdur i’wchyhoeddi yma.)

Medi 25, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

9. EFENGYLU

Pwy sy’n efengylu? Beth yw efengylu?Pam mae angen efengylu? Sut maeefengylu?Dyma rai cwestiynau pwysig ynglªn

â gwedd hanfodol ar waith yr eglwys.Yn draddodiadol cysylltir efengylu âswyddogaeth efengylwr. Disgwylididdo ef, neu iddi hi, wneud y gwaithhwn, ac fe uniaethid y gwaith âphregethu yn yr awyr agored i lawer obobl neu siarad ag unigolion ardrothwy’r drws: dau gyfrwng nad oesllawer o fri arnynt heddiw ac y byddai’nanodd eu cyfiawnhau o dan ycyfyngiadau presennol.Mae’r Beibl yn cyhoeddi gofal a

chariad Duw tuag at bobl. Galwodd Iesubobl ato’i hun yn ystod ei fywyd ar yddaear ac mae’n parhau â’rweinidogaeth hon yn ei eglwys drwy’rYsbryd Glân.Bwriad Iesu Grist yw adeiladu’i

eglwys drwy alw pobl o’r byd ato’i hun(Mathew 16:18). Ystyr y gair eglwys yw‘galw mas’ (Groeg: ekklesia), ac maehyn yn cynnwys pobl o bob cenedl. Maeangen dysgeidiaeth, cymdeithas,cymundeb a gweddi (Actau 2:42) ynrhan o fywyd yr eglwys.Mae yna gyfrifoldeb ar yr eglwys

gyfan i efengylu. Mae pob aelod

eglwysig â dawn i’w chyfrannu yngngwaith yr eglwys (1 Corinthiaid 12:7).Cafodd rhai eu donio â’r gallu i dystio’nrhydd a rhwydd i’w cyd-ddynion (Ioan4:29) a chânt gyfle i ddatblygu’r ddawnhon wrth iddynt gyfranogi yn y weddhon ar weinidogaeth yr eglwys. Tra’ibod hi’n dda i weddill yr eglwys gynnalbreichiau’r gweithwyr yma a chofio amyr anghredinwyr mewn gweddi, maegan bob un ohonom y gallu a’rcyfrifoldeb i ddweud yn dda mewnrhyw ffordd am ein Harglwydd IesuGrist.Mae efengylu’n golygu dweud wrth

bobl mewn rhyw ffordd a thrwy rywgyfrwng am Iesu Grist. Y Beibl yw einprif ffynhonnell yn y gwaith hwn.Gweddi yw ein prif arf yn y gwaith.Mae’r Arglwydd Iesu Grist, pen yreglwys, wedi galw rhai pobl yn neilltuola’u galluogi i wneud y gwaith hwn(Mathew 4:19; Effesiaid 4:11). Trwyefengylu, mae’r Arglwydd ei hun yngallu ymestyn at ei ddefaid colledig(Ioan 10:16).Mae angen efengylu am fod pobl ar

goll heb Dduw, ac mae’r Beibl yn rhoipwyslais ar efengylu (Mathew 4:17). Ynod yw fod pobl yn dod yn ddisgyblioni Iesu Grist (Mathew 28:18–20).Mae angen efengylu yng ngrym yr

Ysbryd Glân (1 Thesaloniaid 1:5).

Erbyn heddiw ceir amrywiaeth oadnoddau amlgyfryngol y gellir eudefnyddio i’r gwaith, yn ogystal â’r henarfer o bregethu yn yr awyr agored ygwelwyd cymaint ohono mewn dyddiaua fu yng Nghymru. Mewn cyfnod panfo’n heriol i fynd o ddrws i ddrws ac igynnal unrhyw fath o ddigwyddiadcymdeithasol, fe geir nifer o gyfryngaudigidol y gellir eu defnyddio i rannutystiolaeth a rhannu am yr Iesu drostynta chynnal rhaglen neu gwrs igyflwyno’r ffydd i rai sy’n chwilio. Oran canllaw mewn cyfnod anodd, felerioed, gellid dweud, byddwch:weddigar, gariadlawn, Feiblaidd, syml,glir, ddiddorol, weladwy, glywadwy,ddealladwy.

Hyfryd lais Efengyl heddsydd yn galw pawb i’r wledd;mae gwahoddiad llawn at Grist,oes, i’r tlawd, newynog, trist;pob cyflawnder ynddo cewch;dewch â chroeso, dlodion, dewch.

(Pedr Fardd)

MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn.

gan y Parch. PETER H. DAVIES

Mae Zoom ym mrig y morwydd (parhad o dudalen 4)

Page 6: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

MicroffonOs ydy eich pregethwr yn gyfforddus yngwisgo microffon di-wifr ‘dros yglust’ (‘Madonna Microffon’, feldwi’n ei alw), dyna’r ffordd o gael ysain orau. Opsiwn arall yw microffon di-wifr yn

y llaw, gan gofio bod yn rhaid i’rpregethwr ddal y microffon yn agos atei geg (gan gofio peidio â rhannu’rmicroffon efo neb arall oherwyddCOVID!). Y trydydd opsiwn, os yw’r pregethwr

yn aros yn ei bulpud neu’r tu ôl iddarllenfa, ydy defnyddio microffoncynhwysydd (gooseneck condenser). Mae pris microffonau’n amrywio’n

fawr ac mae’r safon yn amrywio gydahynny. Ond mae’n bwysig cofio bodangen i fficroffon deinamig fod yn agosiawn i’r geg; mae’r rhain yn rhatach i’wprynu ac yn gweithio gyda’r rhan fwyaf

o systemau sain. Gall microffoncynhwysydd weithio droedfedd neuddwy oddi wrth y geg, ond mae’nddrutach ac mae angen pfier phantom,ac felly ddim yn gweithio gyda phobsystem sain. Byddwch yn barod i warioo leiaf £150 ar ficroffon da, ond hyd at£600 am y gorau.

Y rhyngrwydYn amlwg, bydd angen cysylltiad â’r wecyn medru darlledu. Bydd angen

rhyngrwyd all ddarparu cyflymderuwchlwytho (upload speed) o 4Mbps oleiaf. Mae hynny’n gyflymach nag ymae’r rhan fwyaf o ddarparwyr bandllydan arferol yn ei ddarparu, felly naillai bydd angen cysylltiad opteg ffibrarnoch neu gysylltu dros rwydwaith 4Gsymudol. Gan nad oedd llinell ffôn ynein capel ni, rydym wedi prynullwybrydd (router) y mae modd rhoicerdyn SIM ynddo, ac felly darlledudros rwydwaith 4G y byddwn ni. Hydyma, mae’r cyflymder (gydarhwydwaith EE) i’w weld yn llawncystal â chysylltiad opteg ffibr.

Gair am y cynnwysReit ar ddechrau’r pandemig, dwi’ncofio rhywun yn ymateb a thafod yn yboch wrth weld llawer o eglwysi’nmynd ar lein am y tro cyntaf, a dweudfel hyn: ‘An irrelevant church servicedoesn’t suddenly become relevant justbecause it’s online.’ Gair i gall i ni i gydyn y fan yna. Rhown y pwyslais argyfathrebu’r Gair tragwyddol yneffeithiol, yn hytrach na gwneud ynsifir fod gennym yr offer a’r dechnolegddiweddaraf.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 25, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Cyngor ar ddarlledu oedfaon ar lein

Cynghrair amrywiol o grwpiau lleol ywTCC (Trefnu Cymunedol Cymru /Together Creating Communities).Rydym yn gweithio gyda’n gilydd igynnal ymgyrchoedd effeithiol, gandrafod y materion sy’n effeithio arein cymunedau yn uniongyrchol gyda’rbobl sy’n gwneud penderfyniadau.

Ar 1 Hydref byddwn yn dathlu haneshir TCC yn 2020 fel elusen trefnucymunedol hynaf y Deyrnas Unedig.Rydym yn hynod falch o’r hyn

rydym wedi ei gyflawni, o drefnusefydlu lloches nos a sicrhau bodcyflogwyr yn talu Cyflog Byw hyd atgael Llywodraeth Cymru i ymrwymo idalu am frecwast mewn ysgolionuwchradd ar gyfer disgyblion tlotafCymru.

Bydd ein harweinwyr cymunedol ynrhannu straeon am sut y mae poblgyffredin wedi llwyddo i wneudnewidiadau mawr i’w bywydau euhunain a’u cymunedau. Byddwn hefydyn sôn am yr hyn rydym yn ei gynllunioar gyfer y dyfodol.Mae’n bleser gennym gadarnhau y

bydd Prif Weinidog Cymru, MarkDrakeford, hefyd yn ymuno â ni ar ynoson.P’run a ydych wedi bod yn ymwneud

â TCC drwy’r blynyddoedd ynteu am

wybod mwy am adeiladu grym athrefnu cymunedol, sicrhewch eich lle iymuno â ni ar-lein ar gyfer ydigwyddiad arbennig hwn.

Cofion cynnes

Kay a SamKay Polley a Sam Rex-EdwardsPrif drefnyddion / Lead organisers

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewchi wefan TCC:https://www.tcc-wales.org.uk/

TCC yn dathlu 25 mlynedd o drefnucymunedol – 1 Hydref, 7yh (ar-lein)

Mae nifer o eglwysi a gweinidogion wedi cysylltu â mi’n ddiweddar yn gofyn yr uncwestiwn, sef: ‘Sut ydym ni’n darlledu ar y we o’r capel?’ Yn hytrach na mod i’ngorfod cael yr un sgwrs drosodd a throsodd, dyma erthygl fer yn esbonio’r prifegwyddorion a’r camau sydd angen eu cymryd.

gan y Parch Rhys Llwyd, Caersalem Caernarfon (AIL RAN)

Page 7: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

Cloffi rhwng dau feddwl?Yn ddiweddar gwelais ddyfyniad arFacebook gan anthropolegydd enwogo’r UDA o’r enw Margaret Mead.Fe wna’i aralleirio’r dyfyniad.

Treuliodd Mead ei gyrfa yn astudiodiwylliannau ‘cyntefig’. Holodd mewndarlith unwaith beth oedd yr arwyddcynharaf o wareiddiad? Llestr clai?Dur? Arfau? Amaeth? Na, meddai hi.Yr arwydd cyntaf welodd hi owareiddiad oedd asgwrn coes dynoloedd yn dangos arwydd o fod wedi torria gwella. Mynnodd nad oedd tystiolaetho’r fath iacháu i’w weld mewndiwylliannau cystadleuol, anwaraidd.Roedd digon o dystiolaeth o drais:penglogau a thyllau saethau ynddynnhw neu wedi eu chwalu gan bastynau.Byddai unigolyn oedd wedi dioddef yfath anaf wedi cael ei adael i sychedu allwgu. Ond roedd asgwrn y forddwyd aoedd wedi torri ac wedi gwella ynarwydd bod rhywun wedi gofalu am yclaf, wedi hela ar ei ran, wedi dod âbwyd a diod iddo fo neu hi ac wediaberthu ei hun i wneud hynny. Gallaicymdeithas anwar ddim fforddio’r fathdosturi.

Pa well ffordd o grisialu naturgwareiddiad, sef ein bod ni’n aros iofalu am ein cyd-ddyn hyd yn oed panfo hynny’n costio i ni a hyd yn oed ynein gosod ni ein hunain mewn peryg?Ac roeddwn i’n bwriadu i’r golofn hondroi o gwmpas hynny.

Ond o fynd ati i chwilota rhagor amhanes Margaret Mead a’r dyfyniad hwn,mae’n dod i’r amlwg bod y ffynonellaubraidd yn simsan. Dyw hi ei hun ddimyn gosod yr achos hwn mewn papuracademaidd. Fe’i dyfynnir yn ail law.Mae yna sôn iddi ddweud mewn rhywddarlith yn rhywle rhywbryd mai’rarwydd cyntaf o wareiddiad yn ei barnhi oedd hyn.

Mewn geiriau eraill mae’r drafodaeth yntroi o gwmpas a yw hi’n ddilys priodoli’rdyfyniad iddi hi ai peidio. O fy ymchwilsydyn allwn i ddim dod o hyd i unrhywdrafodaeth ar ddilysrwydd y

gosodiad ei hun. Bron nad oedd ydrafodaeth yn osgoi’r gosodiad yngyfan gwbl.

Bron nad yw hon yn ddameg amddamhegion. Be sy’n bwysig; pwyddywedodd y geiriau, yn lle a phrydneu bwysigrwydd yr hyn sy’n cael eiddweud? Be sy’n bwysig; dilysrwydd ycyfrwng ta dilysrwydd y cynnwys?

Rhan o waith mawr Mead oedd ceisiodirnad o dystiolaeth y gwareiddiadaucynnar hyn, pa rinweddau dynol sy’ngynhenid a pha rai yr ydyn ni wedi eudysgu.

Tybed beth yw tystiolaeth yr asgwrn i’nhoes ni? Pa rinweddau dynol sy’ngynhenid a pha rai sy’n rhaid eumeithrin? Chwalu penglog â phastwnneu aros i ofalu am y methedig?Mae’n anodd peidio â dod i’r casgliadmai pastynu’n gilydd yn eiriol ac ynllythrennol fydden ni, ydyn ni, o gael ymymryn lleiaf o ryddid ac mai’rddisgyblaeth y mae’n rhaid i ni eimeithrin a’i dysgu yw’r un i aros agofalu am ein cyd-ddyn.

Yn yr oes hon mae mwy o angen storiSamariad Trugarog Mead ar Facebooknac erioed o’r blaen a pha ots mewngwirionedd pwy, pryd a lle y llefarwydnhw gyntaf.

Arwel Rocet Jones

Medi 25, 2020 Y Goleuad 7

Ffydd… a diwylliant

Cymorth plîsTybed fedr darllenwyr y Goleuadgynorthwyo ni gyda’r cwestiwn yma?

Ychydig amser yn ôl cyn y firws feddaeth y Parchedig Gareth Edwards,Deganwy atom i Hyfrydle, Caergybi acfe gawsom bregeth rymus wedi ei selioar adnod o Llyfr Job. Ar ddiwedd yroedfa fe ddaeth un o’r aelodau atom athynnodd ein sylw at y ffaith bod y triffenestr liw yng nghefn y capel yncynnwys un ffenestr yn portreadu Job.Cyflwynwyd y ffenestr gan aelodauHyfrydle a Millbank i goffáu’r rhai agollwyd yn y Rhyfel Mawr. Mae IesuGrist a St Ioan yn ymddangos yn yddau bortread arall.

Oes gan ddarllenwyr y Goleuad rhywawgrym paham y dewiswyd Job?Cawsom un awgrym, sef i ddangosdioddefaint.

Ond buasem yn falch o unrhyw syniadarall.

Robin Williams

E-bost a’r GoleuadGall pwy bynnag sydd am anfon erthyglaua lluniau i’r Goleuad wneud hynny ar:

[email protected]

Margaret MeadHawlfraint: Smithsonian Institution @ Flickr Commons

Page 8: CYFROL CXLVIII RHIF 39 DYDD GWENER, MEDI 25, 2020 Pris 50c ... · Gwers 12 Iesu Gweddi: Arglwydd Iesu, bydd yr Efengylau yn defnyddio llawer o eiriau i’th gyflwyno i ni. Heddiw,

8 Y Goleuad Medi 25, 2020

• Wythnos nesaf – Yr Eryr a’r Eglwys Farmor •

Os caiff maddeuant ei gynnig i ni a ydyw’n bosib i ni beidio â’i dderbyn, naill ai gan berson arall, neu gan Dduw ei hun? Oesmaddeuant heb edifeirwch? Neu heb ffydd bod awydd y maddeuwr i faddau yn fwy na’r drosedd a’n gwahanodd?

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

Pa awdurdod sydd gennyt?

EMYN 255:Saif brenhiniaeth fawr yr Iesu

DARLLENIADAU:Eseciel 18:1-4, 25-32 – Dincod arddannedd y plant?; Eseia 5:1-12 –Gwinllan a roddwyd; Mathew21:23-32 – Ymateb i ‘ras einHarglwydd Iesu Grist…’

CYFLWYNIAD

Ym Mathew 21:1-12 gwelwn Iesu’ncael ei groesawu i Jerwsalem ar Sul yBlodau (21:1-12) fel ‘brenin’ oedd yncyflawni proffwydoliaethau (ad 5); fel‘Mab Dafydd’ y Meseia (ad 9) fel ‘yproffwyd Iesu.’ (ad 11) Wedi dymchwelbyrddau’r cyfnewidwyr arian a iachau’rcleifion a’r anafus yn y Deml mynnoddIesu fod mawl y plant (ad 16) yngyflawniad o Salm 8. Canlyniad hyn olloedd bod yr arweinwyr a’r awdurdodauwedi digio’n lân ac mewn penbleth llwyram beth i’w wneud ag ef.

Ef a ni ... Darllen Mathew 21:23-27

Blynyddoedd cythryblus oedd y rhainym Mhalestina. Gwrthwynebai’r rhanhelaethaf o’r boblogaeth lywodraethRhufain. Fel ffafr i’r Iddewoncaniatawyd iddynt lynu wrth eutraddodiadau a’u crefydd. Ond cododdsawl ‘Meseia’ i fygwth y drefn. Ac roeddawydd amddiffynwyr y status quo, sef ySadwceaid, y prif offeiriaid a’rhenuriaid, i amddiffyn y Deml a diogelueu statws eu hunain yn cael ei beryglugan y proffwyd hwn oedd yn creuterfysg ble bynnag yr âi.

Ef a ni ... a nhw

Doedd gan y Sadwceaid fawr ogydymdeimlad gyda’r Phariseaid na’rwerin gyffredin. Ac roedd y cyfarfyddiadhwn rhwng Iesu a’r awdurdodau ynamlwg yn fynegiant o bryder ac oansicrwydd ar eu rhan. Roeddgwrthdaro amlwg a chyson rhyngddyntag Iesu. Roedd wedi eu cystwyo, er eubod yn ddiogelwyr urddas y Deml a’ichrefydd. Ar y llaw arall roedd Iesu’ncroesawu’r casglwyr trethi a’r puteiniaida ddirmygwyd ganddynt ac yn cael ei

groesawu ganddynt yn frwdfrydig. Felly,roedd y cwestiwn y buont yn osgoi eiateb ar hyd y misoedd yn awr ynmynnu ateb. Isio gwybod oeddynt, pwyoedd Iesu’n meddwl oedd o, go iawn?‘Pa awdurdod’ oedd ganddo?

Awdurdod ei eiriau a’i weithredoedd

Croesawodd y werin ef am ei fod ‘yn eudysgu fel un ag awdurdod ganddo acnid fel eu hysgrifenyddion.’ (7:29)Canmolodd y dyrfa Dduw wrth weld unoedd wedi ei barlysu’n cael ei iacháuam iddo roi ‘y fath awdurdod i ddynion.’(9:8) Gam wrth gam drwy’r efengyl arei hyd mae Mathew’n ein tywys iadnabod Iesu fel Mab Duw, fel yr un ymae ‘pob awdurdod yn y nef a’r ddaear’yn perthyn iddo. (28:20)

Brath y fagl

Ymateb Iesu i’w ymholiad yw i droi’rcwestiwn a’u gorfod i’w ateb. Oni allentateb y cwestiwn drostynt eu hunain?Onid oeddynt wedi gofyn cwestiynautebyg am Ioan Fedyddiwr ac onid tebygoedd eu hymateb i’w weinidogaethyntau? Gwyddent fod Ioan wedirhybuddio bod ‘un mwy’ nag ef ar fincyrraedd. Mae’n bur debyg eu bod yngwybod bod Iesu wedi ei fedyddio ganIoan a bod y ‘golomen’ ddwyfol, yrYsbryd Glân, wedi gorffwyso arno. Osgallent ateb y cwestiwn yn ad 25gallent ateb y cwestiwn am eiawdurdod Ef drostynt eu hunain! Nidoeddynt yn fodlon wynebu’r ateb. (ad25-26) Gwrthododd Iesu ddatgan yrhyn na fynnent ei wybod! (ad 27)

DARLLEN: Mathew 21:28-332

Dameg y ddau Fab

Gwelwn o ddarllen Eseia 5 (ymhlithcyfeiriadau eraill) er bod Israel wedicael ei ddisgrifio fel ‘gwinllan’ ei bodwedi dwyn ffrwyth chwerw. Yn Esecieltrafodwyd bwysigrwydd wynebu eincyfrifoldeb a chanlyniadau’npenderfyniad ein hunain.

Dameg a her

Gan gyfuno dau syniad aiff Iesu’n eiflaen i adrodd dameg syml am ddewisa phenderfyniad dau frawd. (ad 28b-30)Cafodd ei wrandawyr eu herio gan

ddau gwestiwn. ‘Beth yw eich barn?’(ad 28) a ‘Prun o’r ddau?’ (ad 31)Ac wrth gwrs doedd gan y swyddogionddim dewis ond ateb mai’r ail fab, sef yrun a wrthododd weithio i ddechrau, onda newidiodd ei feddwl, oedd yr ungyflawnodd ewyllys y Tad yn y pendraw. Tebyg yw asesiad ysgubol Iesuyn 31b-32 i Mathew 8:10-12.

Ond pan glywodd y casglwyr trethioeddech chi’n eu dirmygu a’r puteiniaidyr oeddech yn edrych lawr eichtrwynau soffistigedig arnynt...Wel, fewnaetho’ nhw newid eu meddyliau(ad 31) a chredu ei neges a chael eutroi ganddo. Ac os oedd bedydd Ioan oDduw, sef yr un a’m bedyddiodd i, oDduw ac os seliwyd yr alwad ganddyfodiad yr Ysbryd Glân oddi wrthDduw i orffwys arnaf. ...Dywedwch ynawr ‘ai o’r nef ai o’r byd daearol’ oeddbedydd Ioan? (ad 25) Y gwir yw hyn.‘Ni chredasoch chwi ef’. (ad 32)Ac yn waeth na hynny, er i chi weld ycasglwyr trethi a’r puteiniaid ynedifarhau ac yn credu’r newyddion da,‘ni newidiasoch eich meddwl a dod i’wgredu.’ (ad 32)

Ac yn ein perthynas ni, bob unohonom, daw’r cwestiwn hwn a llaisIesu dros donfeddi’r oesau. A ydymwedi cydnabod ein hangen, wediedifarhau, wedi credu mai Iesu ywateb Duw i ddolur y byd?

Rhodd yw maddeuant. Bob amser. Maegwrthod maddeuant yn golygu ein bodyn caledu’n calonnau ac yn gwrthodedifarhau. Mae cydnabod angen,cydnabod bai, edifeirwch, drwy ffydd,yn adfer a bywhau.

GWEDDI

Arglwydd bob tosturi cadwa ni rhagbod yn arddel rhith o grefydd heb eigrym ond llwyr adnabod Iesu Grist, yngeidwad annwyl i’m. Arglwydd caniatâ ini fod yn weithgar yn dy winllan, ac ynffrwythlon ac yn effeithiol. Bywha dyeglwys. Yn dy farn, cofia drugaredd.

GWEDDI DAWEL

GWEDDI’R ARGLWYDD

EMYN 781: Yn y dwys ddistawrwydd

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.