gwneud pob ysgol yn destun gweddi · gwneud pob ysgol yn destun gweddi. un o awduron cymraeg mwyaf...

8
Beth sydd ar eich rhestrau gweddi fel unigolion, fel eglwysi wrth i chi addoli neu fel grwpiau gweddi? Gweddïau dros gleifion, y profedigaethus, y newynog, cenhadaeth yn lleol a byd-eang…? Ydych chi’n cynnwys ysgolion? Mae Pray for Schools yn fudiad sy’n gweithredu yn y pedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig, a’r bwriad yw gweld pob ysgol yn destun gweddi, ac mae gwahoddiad i ni, fel aelodau EBC, i ymuno yn y don enfawr hon o weddi. Rydyn ni’n gwybod am yr heriau sy’n wynebu ysgolion, y pwysau gwaith ar athrawon, yr anawsterau sy’n wynebu disgyblion oherwydd anghenion addysgol neu bywyd ar yr aelwyd, y trafferthion sy’n codi wrth geisio trefnu ysgolion yn wyneb toriadau ariannol a chostau sy’n cynyddu’n gyson. Dros y misoedd diwethaf gwelwyd pwysigrwydd ysgolion a’r staff oherwydd effeithiau’r pandemig coronafeirws. Gwelsom fel mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol wrth gadw plant yn ddiogel, darparu bwyd a gofal a sicrwydd, heb anghofio’r gwaith addysgu ardderchog. Mae’n plant wedi colli’r profiad o fynd i’r ysgol er iddynt ymateb yn bositif. ‘Grêt, dim ysgol!’ wrth i’r cyfnod clo ddechrau. Mae angen gweddi dros yr holl weithwyr sy’n rhan o fywyd ysgol, a dros y disgyblion, ac mae’r mudiad Pray for Schools (y mae Undeb y Gair, Saint y Gymuned ac Agor y Llyfr yn bartneriaid iddo) yn ein gwahodd i weddïo dros ein hysgolion lleol. Wrth i’r ysgolion ailagor ym mis Medi gan wynebu heriau newydd, mae’r gweddïau hyn yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy allweddol. Mae Pray for Schools wedi paratoi nodwr llyfr i’n hannog i ymuno yn y genhadaeth hon, a’r bwriad oedd i anfon un i bobl eglwys gyda phostiad canolog Swyddfa EBC. Ond yna daeth Coronafeirws! Fe fydd y cardiau yn cael eu hanfon allan pan fydd hynny’n bosib, ond yn y cyfamser rwy’n cymryd y cyfle hwn trwy’r Goleuad a’r Treasury i’ch gwahodd YN AWR i ddechrau gweddïo. Mae angen i ni gymryd hyn o ddifri – mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.(Iago 5.16) ac mae angen gweddi ar eich ysgolion lleol. Diolch. Catrin Roberts Am gael hwn … t. 2 • O Gefn Gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 30 DYDD GWENER, GORFFENNAF 24, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Cadw cyswllt Efallai yr hoffai darllenwyr y Goleuad glywed am y gwaith gwirfoddol a wnaed gan ein blaenor David Johns ers cyn y cyfnod clo. Bu’n anfon rhaglenni bach allan i blant y capeli drwy dudalen facebook y capel er mwyn iddynt wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac nad ydynt yn angof ar yr adegau hyn. Mae’r hyn mae’n ei baratoi yn cynnwys storiau beiblaidd, caneuon, a hwyl gyda chymeriadau mae wedi eu creu. Mae plant ac oedolion fel ei gilydd yn mwynhau’r negeseuon ac maent wedi cyrraedd cyn belled ag America, Seland Newydd, Canada a Nigeria. Ein plant yw dyfodol ein heglwys a gobeithio y gallwn ysbrydoli eraill i ymdrechu dros y plant. Yn y llun gwelwn David Johns, Arth y Beibl a ‘Dippy’ y ci. Bydded i Dduw fendithio’i waith. Gwneud pob ysgol yn destun gweddi

Upload: others

Post on 26-Aug-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

Beth sydd ar eich rhestrau gweddi felunigolion, fel eglwysi wrth i chi addoli neufel grwpiau gweddi? Gweddïau drosgleifion, y profedigaethus, y newynog,cenhadaeth yn lleol a byd-eang…?

Ydych chi’n cynnwys ysgolion?

Mae Pray for Schools yn fudiad sy’ngweithredu yn y pedair gwlad sy’n rhan o’rDeyrnas Unedig, a’r bwriad yw gweld pobysgol yn destun gweddi, ac maegwahoddiad i ni, fel aelodau EBC, i ymunoyn y don enfawr hon o weddi.

Rydyn ni’n gwybod am yr heriau sy’nwynebu ysgolion, y pwysau gwaith arathrawon, yr anawsterau sy’n wynebudisgyblion oherwydd anghenion addysgolneu bywyd ar yr aelwyd, y trafferthion sy’ncodi wrth geisio trefnu ysgolion yn wynebtoriadau ariannol a chostau sy’n cynyddu’ngyson. Dros y misoedd diwethaf gwelwydpwysigrwydd ysgolion a’r staff oherwyddeffeithiau’r pandemig coronafeirws.Gwelsom fel mae ysgolion yn chwarae rhanallweddol wrth gadw plant yn ddiogel,darparu bwyd a gofal a sicrwydd, hebanghofio’r gwaith addysgu ardderchog.Mae’n plant wedi colli’r profiad o fynd i’rysgol er iddynt ymateb yn bositif. ‘Grêt, dimysgol!’ wrth i’r cyfnod clo ddechrau.

Mae angen gweddi dros yr holl weithwyrsy’n rhan o fywyd ysgol, a dros ydisgyblion, ac mae’r mudiad Pray forSchools (y mae Undeb y Gair, Saint yGymuned ac Agor y Llyfr yn bartneriaid

iddo) yn ein gwahodd i weddïo dros einhysgolion lleol. Wrth i’r ysgolion ailagor ymmis Medi gan wynebu heriau newydd,mae’r gweddïau hyn yn mynd i fod hyd ynoed yn fwy allweddol.

Mae Pray for Schools wedi paratoi nodwrllyfr i’n hannog i ymuno yn y genhadaethhon, a’r bwriad oedd i anfon un i bobleglwys gyda phostiad canolog SwyddfaEBC. Ond yna daeth Coronafeirws! Fe fyddy cardiau yn cael eu hanfon allan pan fyddhynny’n bosib, ond yn y cyfamser rwy’ncymryd y cyfle hwn trwy’r Goleuad a’rTreasury i’ch gwahodd YN AWR i ddechraugweddïo. Mae angen i ni gymryd hyn oddifri – mae gweddi daer rhywun sydd âpherthynas iawn gyda Duw yn beth grymusac effeithiol.(Iago 5.16) ac mae angengweddi ar eich ysgolion lleol.

Diolch.Catrin Roberts

Am gael hwn … t. 2 • O Gefn Gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod … t. 8

CYFROL CXLVIII RHIF 30 DYDD GWENER, GORFFENNAF 24, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Cadw cyswlltEfallai yr hoffai darllenwyr y Goleuad glywedam y gwaith gwirfoddol a wnaed gan einblaenor David Johns ers cyn y cyfnod clo.Bu’n anfon rhaglenni bach allan i blant ycapeli drwy dudalen facebook y capel ermwyn iddynt wybod eu bod yn cael eugwerthfawrogi ac nad ydynt yn angof ar yradegau hyn. Mae’r hyn mae’n ei baratoi yncynnwys storiau beiblaidd, caneuon, a hwylgyda chymeriadau mae wedi eu creu. Maeplant ac oedolion fel ei gilydd yn mwynhau’rnegeseuon ac maent wedi cyrraedd cynbelled ag America, Seland Newydd, Canadaa Nigeria. Ein plant yw dyfodol ein heglwys agobeithio y gallwn ysbrydoli eraill i ymdrechudros y plant. Yn y llun gwelwn David Johns, Arth y Beibl a‘Dippy’ y ci.Bydded i Dduw fendithio’i waith.

Gwneud pob ysgol yn destun gweddi

Page 2: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

Un o awduron Cymraeg mwyaf diddoroly cyfnod modern cynnar, a chyda’rmwyaf anghofiedig, yw’r Piwritanhelbulus Charles Edwards, awdur YFfydd Ddi-ffuant. Mewn pennod ar‘Helynt Cymru er pan gyfieithwyd yrYsgrythurau yn Gymraeg’, dywedCharles Edwards yn glir mai ‘drwygynhorthwy y Doctor [John] Dafies oFallwyd’ y dug yr Esgob Richard Parry ygwaith o ddiwygio’r Beibl i ben. Dynahefyd dystiolaeth llu o feirdd a fu’n haeleu moliant i John Davies. Un oddirgelion hanes y Beibl Cymraeg ywtawedogrwydd Richard Parry ynglªn âchyfraniad hanfodol yr ysgolhaig mawr aoedd nid yn unig yn glerigwr yn eiesgobaeth ond hefyd yn frawd-yng-nghyfraith iddo. Bydd pawb addarllenodd Sgythia (2018), nofel ydiweddar Gwynn ap Gwilym ambrofiadau John Davies yn ystod ydeugain mlynedd y bu’n rheithorMallwyd, yn gwybod mai un o themâu’rllyfr campus hwnnw yw dibristodyr Esgob o lafur Davies. Efallai fodSgythia wedi gwneud am enwda Richard Parry am byth, felShakespeare a’r Brenin Rhisiart yTrydydd!

Nid yw, mewn gwirionedd, yn destunsyndod mai at John Davies y troesRichard Parry ar gyfer y gwaith manwl obaratoi’r Beibl diwygiedig. Roedd profiadDavies fel cyfieithydd a’i wybodaeth amhanes y Beibl Cymraeg yn unigryw.Gwyddys, bron i sicrwydd, iddo dreuliocyfnod – cyn mynd i Rydychen ynfyfyriwr – yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant,yn cynorthwyo William Morgan gyda’rdasg o gopïo llawysgrif Beibl 1588 ynbarod i’w dwyn i Lundain ar gyferprintio’r gwaith. Yn 1594, ar ôl graddio,

dychwelodd i Lanrhaeadr at WilliamMorgan, ac yna’i ddilyn yn 1595 i’r De,pan benodwyd Morgan yn esgobLlandaf. Ei swydd oedd gweithredu felcaplan ordeiniedig, neu ysgrifennyddpersonol, yr Esgob, ac ymhlith ypwysicaf o’i orchwylion oedd ategudiddordebau llenyddol William Morgan,yn arbennig paratoi rhagor o lyfrau printar gyfer anghenion ysbrydol ei gyd-Gymry. Yn 1599 cafwyd ganddynt olygiadnewydd o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, a’rbwriad wedyn oedd gweld cyhoeddifersiwn cywiredig o’r Testament Newydd(adran ym Meibl 1588 y siomwydMorgan gan nifer y gwallau argraffuynddi). Gorffennwyd y gwaith ar hwnnwwedi i Morgan symud, a John Daviesgydag ef, i esgobaeth Llanelwy yn 1601,a throsglwyddwyd y llawysgrif i’rargraffydd Thomas Salisbury a weithiaiyn Llundain. Ysywaeth, ni chyflawnwyd ybwriad o ddwyn y gwaith hwnnw drwy’rwasg. Daeth pla ar Lundain yn 1603, achollwyd y llawysgrif pan ffodd ThomasSalisbury o’r ddinas. Y dyddiau hyngallwn gydymdeimlo, ond – un odrasiedïau hanes ein llên – ni chafoddWilliam Morgan ei ddymuniad a gweld yTestament Newydd wedi’i argraffu fel yrhoffai.

Yn hyn i gyd roedd John Davies wrthochr William Morgan, yn ei eiriau ei hunyn ‘gynorthwywr annheilwng’ i’r Esgob.Er ei ddiymhongarwch, roedd eigymwysterau’n ddihafal. Roedd yn feistrar yr ieithoedd beiblaidd, Groeg a

Hebraeg (yn ogystal â Lladin, yrysgrifennodd lawer ynddi). Yng nghwmniWilliam Morgan cafodd hefyd gyfle igryfhau seiliau’r ysgolheictod aarweiniodd at gyhoeddi, yn nes ymlaenyn ei yrfa, ddau o’r llyfrau pwysicaferioed yn hanes dysg Gymraeg, sef eiRamadeg Cymraeg (1621) a’r GeiriadurCymraeg a Lladin (1632), gweithiau lle ytynnai ar wybodaeth ryfeddol amgynnyrch y traddodiad barddol yngNghymru.

Ni ellid, felly, ddychmygu nebcymhwysach na John Davies i weithioar y Beibl diwygiedig a arfaethid ganRichard Parry. O ran y gwahaniaethaurhwng Beiblau 1588 a 1620, mae’namlwg (ar wahân i gywiro gwallauargraffu) fod yn y fersiwn diweddarachymgais bendant i safoni a rheoleiddio’rGymraeg ac i ffurfioli’r orgraff. Anelir atfanylder a chysondeb, yn enw cyfieithumanwl gywir (e.e., hepgor adferfaumegis ‘yna’ neu ‘hefyd’, lle nad oesadferf cyfatebol yn y gwreiddiol).Gwelsom eisoes (wrth drafod un adnod,Salm 55: 22) fod dylanwad BeiblSaesneg 1611 ar rai o’r dewisiadau awnaed o ran geirfa. Mae ôl y Beiblhwnnw’n fawr iawn yn y penawdau (oair neu ddau) a osodwyd uwchben pobcolofn o brint a hefyd yn y cynwysiadausydd o flaen pob pennod unigol: mae’rrhain i gyd yn gyfieithiadau o’r hyn ageir yn y Beibl Saesneg.

Dylanwad y Beibl hwnnw a roes innihefyd, yn Gymraeg, un o’r mwyafcysegredig o enwau priod, sef ‘Calfaria’– yn Luc 23: 33, yr unig adnod lle’rymddengys. Er nad yw Luc, yn wahanoli’r tri efengylydd arall, yn rhoi (ac yncyfieithu) yr enw Aramaeg ‘Golgotha’(‘Lle’r Benglog’), gwyddai WilliamSalesbury a William Morgan mai athynny y cyfeiriai wrth ddefnyddio’r enwGroeg kranion (‘penglog’), ar ei ben eihun, ar gyfer y fan: ‘y Penglocva’ syddgan Salesbury (1567), ‘y Benglogfa’ ganMorgan (1588). (Buasai Salesbury ynfwy manwl-gywir fyth yn 1551, ynKynniver llith a ban, gyda ‘y Pengloc’ ynsyml.) Ond ‘Calvary’, yn seiliedig arCalvaria (gair Lladin y Fwlgat, yn ypedair efengyl, am ‘Golgotha’: daw o’rLladin calva, ‘scalp’) oedd dewiscyfieithwyr Beibl Saesneg 1611 – fel eurhagflaenwyr, o Tyndale ymlaen – argyfer yr adnod yn Luc, ac fe’u dilynwydym Meibl Cymraeg 1620. ‘Y Benglog’,yn gwbl gywir, sydd gan Y BeiblCymraeg Newydd a chan Beibl.net.

(I’w barhau)

Ceri Davies

2 Y Goleuad Gorffennaf 24, 2020

‘Am gael hwn yn iaith ein mamau’:Cofio Beibl 1620 (III)

Llun John DaviesLlewelyn 2000. Creative Commons Attribution-Share

Alike 4.0 International.

E-bost a’r GoleuadGall pwy bynnag sydd am anfon erthyglaua lluniau i’r Goleuad wneud hynny ar:

[email protected]

Page 3: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

Gwers 3

Y Phariseaid a’r Sadwceaid

GweddiNefol dad, plygwn ger dy fron gan geisiody fendith feunyddiol yn ein bywyd. Wrthi ni ddarllen dy air heddiw, cymorth ni iwerthfawrogi’r heriau a wynebai’rPhariseaid a’r Sadwceaid yn eu dydd.Boed i ni gadw ein golwg ar Iesu o hyd,gan ddeall mai credu yn ei berson arhannu yn ei bwrpas ef yw diben einbywyd. Amen.

Darllen: Mathew 16:1–12; Luc 18:9–14

CyflwyniadYmddangosodd sect y Phariseaid tuachanrif a hanner cyn geni Iesu. Roedd yrHelenistiaid wedi cyflwyno credoauanghonfensiynol ac anghydffurfiol osafbwynt y traddodiad Iddewig, achododd y sect dduwiol a bucheddol honfel amddiffynwyr y ffydd. Ar sawl gwedd,roeddent yn awyddus i adfer y grefyddIddewig a’i diwygio, a gellir canmol agwerthfawrogi hynny. Tybir bod yPhariseaid yn bobl ddosbarth canol agamcanion da a chrefyddol. Yn anffodus,roeddent yn canolbwyntio ar y gyfundrefna’r credoau o safbwynt dynol, ond hebfeddwl beth oedd gwir anian a bwriadDuw. Hwy a gasglodd y dogfennauynghyd a’u galw’n Talmud. Hon oedd yddogfen awdurdodedig a ddehonglai’rddeddf Iddewig, ac aeth y pwyslais arbwysigrwydd manylion yr is-gymalau yn

hytrach na’r neges sylfaenol, sef bodDuw yn gariad cyfiawn a chyflawn.Camgymeriad y Phariseaid oedd codi muro gwmpas y ddeddf er mwyn ei diogelurhag ymyrraeth ddynol, heb weld eu bodhwythau’n ddynol ac yn barod i’wcyfiawnhau eu hunain. Sect wahanol oedd y Sadwceaid, yn

blaid y deml, ac roeddent yn debycach ofod yn uchelwyr, uchel-ael y drefnIddewig. Prin yw’r cyfeiriadau Beiblaiddatynt, ac nid oes cyfeiriad iddynt ynEfengyl Ioan o gwbl. Aethant allan at IoanFedyddiwr yn yr anialwch (Mathew 3:7)ac mae Iesu yn galw’r Sadwceaid a’rPhariseaid yn ‘bobl ddrygionus acannuwiol’. Ni allai’r Sadwceaid dderbynfod Iesu wedi atgyfodi, gan iddynt fynnuaros gyda’r ddysgeidiaeth fod Sheol, sef‘trigfan y meirw’ yn aros am y meirw, acyn fan tywyll, ar wahân i Dduw.Derbyniai’r Phariseaid fod atgyfodiad ynbosibl, ac er bod cefndir a daliadau’rsectau hyn mor wahanol, roeddent amweld gwahardd Iesu o lwyfan byd.

MyfyrdodDywedir weithiau am bobl unllygeidiognad oes neb sy’n fwy dall na’r sawl sy’ndewis peidio gweld, a rhyfeddod y ddwysect grefyddol yma yw iddynt weld MabDuw fel bygythiad i’w gwaith a’ugwerthoedd. Mae’n sifir eu bod yn gwblddidwyll yn eu daliadau a’u bod ynawyddus i fod yn deyrngar i’w ffydd.Mae’n debyg fod eraill wedi ymddangosar lwyfan hanes yn tybio mai hwy oedd y

Meseia, ond i’r Phariseaid a’r Sadwceaid,sef gwarchodwyr y grefydd Iddewig,brofi’n wahanol. Serch hynny, pan ddaeth Iesu i’w

byd, nid oeddent yn ei adnabod. Nidcyfundrefn yw Cristnogaeth ondperthynas ag Iesu, y Duwdod mewncnawd. Mae’n berygl i bob crefydddybio’i bod, wrth warchod y gyfundrefn,yn gwarchod y ffydd. Nid dyn a greodd yffydd; rhodd Duw yw hi, er cynnal pobla’u cymodi â Duw. Mae’n berygl parhausi Gristnogion o bob traddodiad enwadolddyrchafu eu dehongliad o’r ffydd, ganwneud eu daliadau fel pe baent o Dduw,ac nid yn ymateb i Dduw. Mae angen i nifod yn agored i dderbyn ein bodweithiau’n camddeall Gair Duw, am einbod yn gwisgo sbectol o waith dyn ac nidyn gweld drwy ddatguddiad dwyfol.

GweddiTrugarha wrthym, o Dduw, pan fyddwnyn hawlio ein bod yn gwybod yn well nagunrhyw un arall. Dyro i ni wyleidd-dra agostyngeiddrwydd ger dy fron di ac yngngfiydd pobl eraill. Maddau inni, panfyddwn yn ymddangos fel y crefyddwyrhunangyfiawn a geisiai reoli gwaith ydeml, heb wasanaethu dy deyrnas di.Amen.

Trafod ac ymateb:

• A oes unrhyw rinwedd mewn canmolein hunain gerbron Duw? Meddyliwcham enghreifftiau lle byddwn yn gwneudhynny (Luc 18:11–12).

• A oes modd bod yn ddidwyll yn einffydd ac eto’n anghywir yn einhymarfer ohoni a’n dysgu arni (Mathew16:12)?

• Aeth llawer o’r hyn sy’n ‘gyfundrefnol’am ein crefydd ar goll yn ystod ypandemig – adeiladau a rheolau aphwyllgorau etc. Faint o frys syddarnom i’w cael yn ôl?

• Ydych chi’n credu bod poblhunangyfiawn, ‘Phariseaidd’, yn gallucael eu newid? Pwy sy’n gallu eu newidnhw? (Philipiaid 3:6,7 ac Actau 9:1–9)

Gorffennaf 24, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae fideo o’r deunydd i'w weld yn yr adran ‘Gwersi Ysgol Sul i Oedolion’ar sianel deledu www.cristnogaeth.cymru

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Sul, 26ain Gorffennaf

OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

am 11:00ybgyda’r Parchedig Huw George

yn arwain.

Daw’r gyfres o wasanaethau ar foreSul ar S4C i ben gyda’r un hwn. Osydych wedi gwerthfawrogi eu cael acyn awyddus iddynt barhau ym misMedi, beth am anfon gair at S4C ynnodi hynny. (Manylion cyswllt ar eugwefan, neu drwy ffonio’r WifrenGwylwyr: 0370 600 4141).

Caniadaeth y CysegrSul, 26ain Gorffennaf7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R. Alun Evans sy’n cyflwynoSaith ar y Sul, is-gyfres Caniadaeth yCysegr. Heddiw, cantorion eglwysi undebolPontarddulais a’r Hendy sy’n dewis eu hoffemynau o gymanfa a gynhaliwyd yngnghapel Hope-Siloh yn y Bont.

Oedfa Radio CymruOedfa Radio Cymru am 12:00yp,

26 Gorffennaf yng ngofalMaggie Ogunbanwo, Pen-y-groes.

Page 4: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 24, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

O droi at Efengyl Ioan, gellid dadlau igenhadaeth yr Eglwys ddechrau â thripheth sydd wedi dod yn gyfarwydd iawni ni dros y tri mis diwethaf: dagrau,drysau wedi’u cloi, ac amheuaeth. Arddiwrnod cyntaf y Pasg, roedd MairMagdalen yn wylo yn yr ardd gerbeddrod gwag Iesu (Ioan 20:11–18).Daeth Iesu ati a rhoi comisiwn iddi:“Dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt.”Cawn hanes y disgyblion wedi’u cloi tuôl i ddrysau caeedig a’r Iesu ynymddangos (Ioan 20:19–23). Nid oeddThomas yno, a bu iddo amau: “Os nawelaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo.” DaethIesu eto, a gwahodd Thomas i weld achyffwrdd y clwyfau yn ei ddwylo a’iochr: y creithiau a brofodd eihunaniaeth, y clwyfau a ddatgelodd eigariad.Dagrau, drysau wedi’u cloi, ac

amheuaeth. Gyda’i gilydd maentyn crynhoi lle rydym yn fyd-eang yn y cyfnod digynsail hwn.Dagrau mewn digonedd:cymaint o fywydau wedi’utorri’n fyr. Drysau dan glo: ofn ygallwn, neu y gallai rhywun, hebyn wybod inni, roi salwch a allailadd. Ac, fel chwyn yn tyfurhwng yr wylo a’r cloi, maeamheuaeth: a oes unrhyw le ar ôli ffydd, am obaith? O gloi iffwrdd, beth yw lle cariad?Daeth Mair Magdalen a’rdisgyblion o hyd i Iesu yn eudagrau, tu ôl i ddrysau caeedig,yng nghanol eu hamheuaeth.Dros y ‘Meudwyo Mawr’

(chwedl Aneirin Karadog), amheuthunfu cael ‘dal lan’ â’m darllen. Daeth cyflei ddarllen dau lyfr, neu lyfrynnau, aysgrifennwyd yn ystod y cyfnod: Godand the Pandemic: A ChristianReflection on the Coronavirus and itsAftermath gan Tom Wright (SPCK), aWhere is God in a Coronavirus World?gan John Lennox (Good BookCompany). Mae’r ddwy gyfrol, gydallaw, yn cyfeirio at Efengyl Ioan, pennod20! Yn ogystal â rhyfeddu at allu’r ddauawdur i ysgrifennu cyfrolau mor grynoond sylweddol mewn cyn lleied o amser,mae’r ddwy gyfrol wedi ateb a chodicynifer o gwestiynau sydd wedi bod yncyhwfan o’m hamgylch dros yrwythnosau diwethaf.Nid prin fu gormodiaith

‘sylwebyddion crefyddol’ yn ystod ycyfnod hwn! Yn aml, bu’n anodd dirnadllais rheswm. Cynigia Tom Wright ynGod and the Pandemic yr hyn sydd eiangen i bob Cristion ei glywed. Nid ywhyn, meddai, “yn fater o atebion neuatebion syml, nid yw datganiadauystrydebol o ‘bydd y cyfan yn iawn yn y

diwedd’ yn dderbyniol: patrwmcroesffurf sydd i’w weld lle maecyfiawnder a thrugaredd Duw, eiffyddlondeb i’r cyfamod a’r greadigaeth,yn cael eu harddangos i fyd sydd mewndagrau, galarnad a dolur.” Mewn88 tudalen, yr hyn a wna’r awdur ywrhoi anogaeth inni drwy rannu’r gobaitha geir yn yr Ysgrythur i ystyried einsefyllfa fel credinwyr yn yr argyfwnghwn ac awgrymu sut mae delio â hyn ynfeddyliol ac yn ysbrydol nawr, a phanfydd y cyfan wedi mynd heibio. Mae’nein hannog i osgoi brathiadau disylweddac yn lle hynny i edrych yn ofalus ar

ddibenion Duw drwy gydol hanes. Drwyedrych ar yr hyn y dylem fod yn eiwneud, yn hytrach na pham mae hyn yndigwydd, gallwn, yn ôl yr awdur,wasanaethu Duw yn llawnach. Â’rawdur ymlaen gan gynnig awgrymiadaudefnyddiol ynghylch sut y dylaiCristnogion ymateb, wrth gydnabod nadoes datrysiad syml i rai materionpenodol.Ar adeg fel hon, mae llawer ohonom

yn chwilio am atebion i gwestiynaudwfn. Mae llawer o Gristnogion yngofyn: Beth mae Duw yn ceisio’iddweud wrthym drwy’r pandemig hwn?Mae gan lawer o Gristnogion eudamcaniaethau cynllwynio hefyd: rhai’ndweud mai dyma arwydd o’r ‘diwedd’,tra mae eraill yn gweld cyfle i annogpobl i edifarhau. Mae God and thePandemic yn ceisio mynd i’r afael â rhaio’r materion hyn mewn ffordd feddylgar.Ond, er bod y llyfryn yn ymgais dda i‘ddod o hyd i Dduw yn y pandemig’, nidyw ymateb Wright i’r cwestiwn pam ybyddai Duw yn caniatáu i’r fathbandemig ddigwydd (ei ateb yw fod

hynny i Dduw ei wybod ac nid ni) yntaro deuddeg. Mae hynny’n wendid. Mae Where is God in a Coronavirus

World? yn agor drwy ein hatgoffa feldarllenwyr fod y Coronafirws wedi’ideilwra’n arbennig ar gyfer ‘BrigâdDiwedd y Byd’. Mae awdur y llyfryn64 tudalen hwn yn llawer mwy agored apharod na Wright i drafod wrthgydnabod nad yw’n gwybod yr atebion ilawer o’r cwestiynau a ddaw yn sgil ypandemig. Yn hytrach, mae’n dadlaudros agor dadl ddeallus i’r rhai a fyddaiam ganolbwyntio ar fod yn gariadusa thosturiol. Cynigia Lennox, AthroEmeritws mewn Mathemateg oBrifysgol Rhydychen, un o’r ymdrech -ion mwyaf gonest rwyf wedi’u darllen ardrafodaeth o’r fath. Mae’n ddogfenFeiblaidd, wedi’i hymchwilio’n dda acyn ffeithiol gywir, ac yn sicr byddwn yn

dweud ei bod wedi fy helpui ymlwybro drwy’r labyrinthdryslyd o gwestiynau acamheuon y mae’r mwyafrifohonom wedi’u gofyn erMawrth 2020.Gan gyfaddef bod ‘ofn yn

stelcio’r byd’ o ganlyniad iCOVID-19, mae Lennox ynarchwilio safbwyntiau Crist -nogion, a’r rheini sydd ddim yncredu, ynghylch drygau naturiolo’r fath. Wrth ddatgeluannigonolrwydd barn angheuol ydi-ffydd, mae hefyd yn gwrthody cysyniad mai barn union -gyrchol Duw arnom yw’rpandemig. Tanlinella y dylem

osgoi atebion gor-syml i gwestiynaupoen a dioddefaint. Gyda chymorthdyfyniadau gan C. S. Lewis, mae’r AthroLennox yn nodi ein bod ni i gyd, oganlyniad i’r Cwymp, yn byw mewn‘natur doredig’ yn ddarostyngedig iddaeargrynfeydd, tswnami, a phlâu.Cawn ein hatgoffa i Dduw ddangos Eigariad tuag atom drwy anfon Ei Fab i’rbyd toredig hwn i ddioddef a marw drosein pechodau. Fel Cristnogion, dylemedrych ar drychinebau fel y pandemigpresennol yng ngoleuni tragwyddoldebym mhresenoldeb Iesu, trwy ddangos Eigariad at ein cymdogion, trwy euhamddiffyn cymaint ag y medrwn a’ucynorthwyo ym mha ffordd bynnag ymedrwn.Heb amheuaeth, dau lyfryn gwerth eu

darllen. Da fyddai i’n heglwysi euhystyried a’u trafod; mae ynagwestiynau sydd yn rhaid i ni fel rhaisy’n arddel Crist eu gofyn am ein ffydd,ein cred a’n bod, os ydym amymgryfhau ein cenhadaeth a’ntystiolaeth wedi COVID-19.

Hefin Jones

CwestiynauCOVID-19

Page 5: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

Gorffennaf 24, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Datblygiadau DiweddarEr gwaethaf pawb a phopeth, maeMAGC yn dal i weithredu o fewncyfyngiadau ariannol llym ac ynllwyddo i gyfrannu at waith AddysgGrefyddol yng Nghymru.

Yn ddiweddar daeth cais gan ArfonJones am ganiatâd i gynnwys y fersiwno Duw ar Waith, a gyhoeddwyd ganMAGC yn 1990, fel rhan o Ap Beibl agyhoeddir gan Gymdeithas y Beibl.Mae’r ap yn cynnwys nifer o fersiynauo’r Beibl yn Gymraeg, gan gynnwysBeibl William Morgan (fersiwn 1955);Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig(2004) a beibl.net (2015, 2019). Gellirlawrlwytho’r ap am ddim drwyhttps://www.bible.com/cy. Gydag ApBeibl YouVersion gellir darllen, gwylio,gwrando a rhannu ar y ffôn symudol,tabled, cyfrifiadur ayyb.Ar yr ap, disgrifir Duw ar Waith fel a

ganlyn:Duw ar Waith (Marc; 1990)Yn 1988 cafodd y Beibl CymraegNewydd ei gyhoeddi gan Gymdeithas yBeibl mewn cydweithrediad ag eglwysiCymru, i nodi 400 mlwyddiant BeiblWilliam Morgan. Daeth yn hynodboblogaidd yn fuan iawn. Fodd bynnag,i bobl ifanc a phobl nad oeddent wediarfer ag iaith eglwysig, roedd yr iaith ynrhy aruchel a llenyddol. Addasodd DrEdwin Lewis Efengyl Marc o’r BeiblCymraeg Newydd ar gyfer MudiadAddysg Gristnogol Cymru. Roedd i’wddefnyddio mewn ysgolion cynradd ac

uwchradd ac yn defnyddio iaith fwyllafar. Fe’i cyhoeddwyd dan y teitl Duwar Waith ym 1990.

Fersiwn digidolCafodd Duw ar Waith ei ddigido gydachymorth MissionAssist ym mis Mai2020, i’w ychwanegu at Ap Beibl.Mae’n rhan o brosiect i ddarparucasgliad cyflawn o gyfieithiadauhanesyddol a modern o’r Ysgrythurau isiaradwyr Cymraeg.

——————

Mae MAGC yn dal i gyhoeddi SyniadauAG ar gyfer pob tymor. Anelir yn fwyafarbennig at Gyfnod Allweddol 2 ac maearlwy 2020–21 yn cael ei ddosbarthu iysgolion ledled Cymru drwy eu CyngorYmgynghorol Sefydlog ar AddysgGrefyddol (CYSAG) yn lleol; mae argael yn Gymraeg a Saesneg yn gysoners y flwyddyn 2000. Gosodwyd ycyfan o Syniadau AG y gorffennol arwefan Hwb, sydd eto’n sicrhau eu bodar gael yn barhaol i holl ysgolionCymru. Maent wedi eu dosbarthu yn4 grfip: Pynciau Cyfarwyddyd (14);Dathliadau a Gwyliau (14); DefodauBywyd, Pynciau a Mannau Arbennig(17); Pynciau Cyffredinol (15). Felly,dyna 60 o ganllawiau hwylus igyflwyno Crefydd, Gwerthoedd aMoeseg wrth i athrawon ddatblygu eucwricwlwm newydd.

Teitlau sydd newydd eu paratoi ar gyfer2020–12 yw: Dechrau a’r Diwedd;Bwyd ac Ymprydio; Anrhegion aRhoddi.

Os hoffech gael copi PDF o unrhyw uno’r rhain neu rai o’r adnoddau eraill,anfonwch neges at: YsgrifennyddMAGC: [email protected]’r Trysorydd: [email protected]

——————

Mae MAGC yn parhau i gefnogi a bodyn rhan o weithgareddau cenedlaetholsy’n ymwneud ag addysg grefyddol.Yng Nghymru rydym yn parhau i fod ynaelod o Gymdeithas CYSAGau Cymruac yn mynychu’r cyfarfodydd. Mae’r unpeth yn wir am ein perthynas â’r PanelYmgynghorol Cenedlaethol drosAddysg Grefyddol. Ar lefel Brydeinigmae ein cynrychiolydd, Paul Morgan,yn mynychu cyfarfodydd y ReligiousEducation Council for England andWales.

Os hoffech wybod mwy am MAGC neuam gynhorthwy gydag unrhyw agweddo addysg grefyddol, mae croeso i chigysylltu â mi.

Sali RobertsYsgrifennydd

Newyddion Mudiad AddysgGrefyddol Cymru

Tudalen fewnol

Capeli’n caelailddechrau cynnalgwasanaethau

Ymysg y newidiadau a gyhoeddodd yPrif Weinidog Mark Drakeford ddyddGwener (10 Gorffennaf) roedd un ynymwneud â mannau addoli: “Gallarweinwyr ffydd ddechrau ailgynnalgwasanaethau eto yn raddol panfyddant yn teimlo’n ddiogel i wneudhynny.” (Datganiad ysgrifenedig:Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd)Does dim amheuaeth na fydd

canllawiau manwl yn cael eucyhoeddi yn fuan iawn ac fe fydd yrheini’n cyfyngu mwy na’rcanllawiau ar gyfer rheoli ailagormannau addoli a gweddïo’n ddiogel agyhoeddwyd yn wreiddiol ar23 Mehefin ac a ddiweddarwyd ar6 Gorffennaf (“Canllawiau ar ailagormannau addoli: coronafeirws”). Ynsicr, fe fydd y rhai ar gyfergwasanaethau cyhoeddus yn cyfyngumwy fyth.

Mae’n HYNOD BWYSIG fod POBCAPEL / EGLWYS yn dilynCYFARWYDDYD eu henwad cyngweithredu o gwbl.

Rheinallt ThomasCyngor Eglwysi Rhyddion Cymru

(Nid oedd y canllawiau pellach wedieu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymruadeg mynd i’r wasg, 15.7.20. Gol.)

Page 6: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

Cyhoeddodd prif elusennau Cymru apêlcodi arian ar y cyd heddiw [DyddMawrth, 14 Gorffennaf 2020] i helpucymunedau mwyaf bregus y byd a gaiffeu bygwth gan ymlediad byd-eangCovid-19. Wrth i’r cloi mawr lacio’n raddol

yma yng Nghymru, mae ffoaduriaid atheuluoedd sydd wedi dianc rhag trais anewyn mewn mannau eraill angen einhelp. Mewn rhai o’r gwledydd sydd

wedi eu heffeithio waethaf, felYemen, Syria a Somalia, maenifer o bobl yn byw mewngwersylloedd torfol ar gyferffoaduriaid a phobl wedi eudadleoli, gydag ychydig yn unigo ofal iechyd, dfir glân neuddigon o fwyd ar gael, sy’n eugwneud yn hynod o fregus i’rcoronafeirws. Mewn mannau eraill, mae’n debygol

y bydd y feirws hyd yn oed yn fwymarwol nag y bu yma. Mewn neges fideo, mae Mark

Drakeford, Prifweinidog Cymru, wediannog pobl Cymru i ymuno â’r apêl.Meddai: ‘Yng Nghymru rydym wedi dod at

ein gilydd ac wedi aberthu er mwyn

arafu ymlediad y feirws a gwarchod einGwasanaeth Iechyd Gwladol. ‘O amgylch y byd, mae cymunedau –

yn union fel ein rhai ni – yn wynebuymosodiad y coronafeirws, ond mewnsefyllfaoedd llawer gwaeth. Mae rhaiwedi eu rheibio gan ryfeloedd, maellawer mewn gwersylloedd ffoaduriaidlle nad yw pellhau cymdeithasol ynbosibl. Does gan yr un ohonyn nhwddiogelwch y GIG.

‘Gadewch inni ddefnyddio ein hanescyfoethog o undod yng Nghymru igefnogi ein cymdogion dramor a rhoiiddyn nhw’r cyfle gorau posibl i ddelioâ’r feirws.’ Ar hyn o bryd mae dros 12.5 miliwn

o achosion o’r coronafeirws ledled ybyd. Ond, fel yr ydym wedi gweld yngNghymru, mae camau syml yn gallugwneud gwahaniaeth mawr.

Mae Cadeirydd DEC yng Nghymru,Rachel Cable o Oxfam Cymru, wediannog pobl Cymru i gefnogi’r apêl, ergwaethaf y pryder cymdeithasol a’rpryderon ynghylch iechyd sy’n parhauyn y wlad. Meddai: ‘Rydym i gyd wedi treulio’r

pedwar mis diwethaf yn pryderu am einhiechyd a’n dyfodol. Allwch chiddychmygu gorfod gwneud hynny achithau eisoes wedi bod yn byw heb

ddiogelwch a chysur eich cartrefeich hun am fisoedd neuflynyddoedd, heb ddigon o fwydna hyd yn oed ddfir glân i olchieich dwylo? ‘Dyna’r sefyllfa sy’n wynebu

miliynau o amgylch y byd ar hyno bryd. Os gwelwch yn dda,cefnogwch yr apêl drwy roicyfraniad, waeth pa mor fach neu

fawr, mor fuan ag y gallwch chi. Cenedlfach yw Cymru ond mae ganddi galonfawr.’ Mae’r apêl yn cael ei chefnogi gan

Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol drwygynllun Nawdd Cyfatebol yr AdranDatblygu Rhyngwladol.

Rhowch i Apêl Brys DEC ar wefan:www.dec.org.uk; drwy neges destun:tectsio HELPU i 70150 i roi £10, neu ary rhif ffôn 0370 60 60 900. Os gwelwchyn dda, anfonwch sieciau i DECCoronavirus Appeal, PO Box 999,Llundain EC3A 3AA.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 24, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

DEC Cymru’n lansio Apêl Coronafeirws i helpugwledydd mwyaf bregus y byd i ymladd y pandemig

Cyd-brifathrawon: Y Parchedig Ddr Rosa HuntY Parchedig Ddr Ed Kaneen

Coleg Bedyddwyr De Cymru54-58 Ffordd Richmond, Caerdydd CF24 3UR

Ffôn: +44 (0) 29 2925 6066Ebost: [email protected]

Teitl y Swydd: Rheolwr y ColegMae Coleg y Bedyddwyr Caerdydd yn paratoi ymgeiswyr (yn bennaf o UndebBedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru, ond hefyd gydag enwadaueraill) ar gyfer y Weinidogaeth Gristnogol. Mae’n ymgysylltu ag eglwysi yn Ne Cymrua thu hwnt i geisio hwyluso cenhadaeth Crist.

Mae’r Coleg yn ceisio penodi Rheolwr Coleg a fydd yn chwarae rhan allweddol ymmhrosesau rheoli gweithredol a gweinyddol y Coleg.

Cyflwynwch eich CV ynghyd â llythyr yn mynegi eich diddordeb a’ch addasrwyddar gyfer y rôl trwy e-bost i Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr: Parch. Mark Thomas:[email protected]

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl hon mae croeso i chi gysylltu â’rnaill neu’r llall o’r Cyd-Brifathrawon ([email protected]) neu Gadeirydd yrYmddiriedolwyr ([email protected])

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Gorffennaf.Bydd cyfweliadau trwy Zoom ddechrau mis Awst.

Lleoliad: Coleg Bedyddwyr De Cymru.Amrediad cyflog: £31,000 - 35,000Parhaol, Llawn amserByddai Cyfran Swydd / Rhan Amser yn cael ei hystyried

LlythyrAnnwyl chwiorydd a brodyr,

Gair byr o ddiolch gwresog i bawbsydd wedi cyfrannu i DeleduCristnogol Cymru a phob cyfrwngarall tebyg. Ar adeg pryd maedrysau’r addoldai wedi gorfod cau,mae drysau eraill wedi agor ar y we ifod yn gymorth i ni addoli ein Duwmawr. Diolch i’r gweledig a’ranweledig weithwyr sydd wediparatoi’r deunydd sydd wedi bod ynfendith i mi ac i lawer eraill.Hefyd, diolch i’r rhai sydd wedi

parhau i baratoi’r papurau enwadola’r Pedair Tudalen cydenwadol ar eincyfer.

Diolch o galon,

Nigel Hughes

Page 7: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

CenhadaethMi ddois i wybod yn ifanc iawn bethoedd Cenhadaeth, neu Y Genhadaethfel y galwem ef. Rhywbeth yr oedden niblant yn hel (nid casglu) ato ydoedd, ahynny gan gario bocs bychan pren efohollt ynddo a begeran o dª i dª. Pawb yncael ei ardal neu ei ‘batch’, ac yna’rbocsys yn cael eu hagor gan bersonaucyfrifol, dau flaenor fel arfer mewnachlysur pwysig yn y festri, a ninnau’rplant â’n tafodau allan bron yn gwylio’rddefod, a phawb yn gobeithio mai eifocs o oedd yn cynnwys y mwyaf oarian.

Roedd hynny’n bwysig, ond pwysicachna hynny i mi oedd y ffaith fod hel at ygenhadaeth yn ffordd dda o wneud pres.Na, nid trwy dorri i mewn i’r bocs adwyn, allech chi ddim gwneud hynnytasech chi’n dymuno, ond am y cawnmewn llawer lle, geiniog neu ddwy i mi fyhun am fod yn hogyn da a mynd ogwmpas efo’r hel. Yn wir mewn ambell lebyddai tair ceiniog yn mynd i’r bocs achwe cheiniog i’m poced i. Wnes i ’rioedaros i ystyried mor od oedd rhoi llai i’rgenhadaeth nag i mi!

Deuai cenhadon i’n capel ni i bregethu odro i dro, felly gwyddem hefyd beth oeddcenhadwr a beth oedd y maes cenhadol.Yn yr India yr oedd, a deuai’r cenhadongartref gyda straeon rhyfeddol am y llehwnnw ac am y bobl oedd yn byw yno,a’r gwaith yr oedden nhw yn ei wneudyn cyflwyno’r Efengyl i’r brodorion, hefyd

yn sefydlu ysgolion a cholegau acysbytai.

Wel, dros y blynyddoedd a’r degawdaumae pethau wedi newid yn syfrdanol.Darfu am Y Cenhadwr, y cylchgrawnmisol oedd yn adrodd hanes yrymgyrchu yn yr India a mannau eraill,darfu am y bocsys mynd rownd i’r plant,ac er bod y genhadaeth yn air pwysig ohyd a chasglu ato’n dal i ddigwydd ynenwedig ymhlith y merched, mae’r esgidar y droed arall ers blynyddoedd.

Lle byddai cenhadon yn mynd i’r India iledaenu’r Efengyl o Gymru Gristnogol,bellach cenhadon o’r India ddaw iadrodd am y llwyddiant yno wrthym nigenedl ddi grefydd, ddi Dduw.

Cymru yw maes cenhadol ein henwadaubellach, neu dylai fod. Oni bai fod angen

cyfyngu’r maes fwy fyth a’i wneud yngyfrifoldeb personol.Rydw i’n cofio flynyddoedd yn ôl bodmewn oedfa wnaeth argraff fawr arnaf.Eglwys Fethodistaidd Moor Lane ynCrosby oedd y capel, ac roedd ynooedfa fedydd dan ofal y Gweinidog –y Parch Len Sutch – y diweddar erbynhyn. Roedd y capel yn rhwydd lawn acar ôl bedyddio’r baban bach daeth ygweinidog a fo o gwmpas gan eidrosglwyddo i freichiau sawl un wrth eigyflwyno i’r gynulleidfa fel aelod newyddo’r gymdeithas Gristnogol yno.

Yna ar y diwedd fe’i cyflwynodd yn ôl i’wrieni, ei fam a’i dad. Ac anghofia i byth eieiriau – yn Saesneg – ‘Cymerwch ef i’wfagu yn Gristion.’ Ac yn arbennig –‘Dyma eich maes cenhadol.’

Ie, y plentyn bach, y newyddian ar yraelwyd yn faes cenhadol ei rieni, oeddwrth fynd drwy’r bedydd wedi addo eiddwyn i fyny yn y ffydd Gristnogol.

Mae dau gwestiwn i’w gofyn heddiw.Faint o rieni bellach sy’n trafferthu ifedyddio eu plant a faint o’r rheinifedyddiwyd sy’n cael eu magu yn y ffydda’u dwyn i wasanaethau’r capel? Lleiafrifyn sicr a hwnnw’n lleiafrif bychan iawnmewn llawer lle.

Rwy’n ofni ein bod yn aml yn llawenhauoherwydd y llewyrch sy ar Gristnogaethmewn sawl rhan o’r byd, tra ar yr unpryd yn anwybyddu’r methiannautruenus sy wrth ein traed. A rhag ichifeddwl mod i’n beio pawb arall, rwy’ncyfadde’ mod i fy hun mor euog o wneudhynny â neb.

Elfyn Pritchard

Gorffennaf 24, 2020 Y Goleuad 7

O Gefn Gwlad

‘Mae’n dda cael bod yma’.

Mae’r ffordd i’w gyrraedd yn anodd, a’rtyllau yn y ffordd mynd yn fwy bobblwyddyn, ond mae cyrraedd yno’ndeimlad ein bod wedi mynd yn ôl mewnamser.

Harbwr naturiol yw Porthysgaden ynLlªn, lle prysur iawn erstalwm. Llongauyn cario glo, a’i storio yn yr iard ar y top,a chalch hefyd yn dod i mewn i’r odyn

galch, ar y clogwyn. Deuai ceffylau yntynnu troliau yno o’r ardal i gario glo, acyn nes ymlaen wrth gwrs tractorau alorïau bach.

Erbyn heddiw yn yr haf ymwelwyr ddawyno a’i chychod rwber i’w canlyn, a’rbobol rheiny mewn siwtiau rwber abyrddau syrffio, ond yn y gaeaf maetawelwch a lle i enaid gael llonydd.

Mae yno benrhyn bychan lle saif

ysgerbwd hen dª, ac yno yr euthum unpnawn braf o aeaf ac eistedd yngnghysgod y murddun, yn edrych ar yrolygfa o’m blaen.

Tonnau gwyllt y môr yn taro yn erbyn ycreigiau gyferbyn, ambell wylan a’isgrech yn torri ar y tawelwch, a siâp ybryniau yn y pellter fel petaent yngwarchod y cwbwl. Edrychais ar ffurf ycreigiau, symudiad y tonnau, a siapiau’rcymylau yn yr awyr uwchben, asylweddoli, er mor glyfar yw dyn, maillaw Duw fu’n creu’r cwbwl oedd o’mblaen. All neb ymffrostio fod dyn wedirhoi sylfaen i’r ddaear, na rhannu’rflwyddyn yn dymhorau.

Yn yr eiliad honno, ac awel yn troelli o’mcwmpas, teimlais yn agos iawn at Dduw,a phob gofal, pryder, a bygythiad wediei anghofio. Teimlais fel Pedr gynt, fodarnaf eisiau codi pabell yno, a dweud‘Mae’n dda ni fod yma’, ond nid fellyoedd hi i fod.

’Roedd yn rhaid i minnau adael awynebu bywyd fel y mae, ond diolch amyr eiliadau prin yna lle cafodd fy enaidlonydd.

Parch Olwen Williams

LLE I ENAID GAEL LLONYDD

Rhaeadrau gerllaw Cherrapunji, BryniauCasia, maes cenhadol Eglwys

Bresbyteraidd Cymru

Page 8: Gwneud pob ysgol yn destun gweddi · Gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Un o awduron Cymraeg mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, a chyda’r mwyaf anghofiedig, yw’r Piwritan

• Wythnos nesaf – Meddwl am ail agor? •

8 Y Goleuad Gorffennaf 24, 2020

Yn dawel, yn guddiedig, o'r golwg, bydd Teyrnas Nefoedd yn cynyddu nes dod yn goeden fawr, neu lefain sy'n lefeinio'r cwbl.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

Gwelsom wrth ddilyn y darlleniadau ynefengyl Mathew bod pob awdurdod wediei roddi i Iesu Grist. Cawsom ein galw ifod yn ei gwmni ac i fod yn ddisgyblionfyddai’n dysgu ganddo a dysgu gwneuddisgyblion a chyhoeddi bod TeyrnasNefoedd wedi dod yn agos. Byddgwrthwynebiad a chroeso i’r Deyrnas a’rnegeseuwyr. Bydd croes nid clustog.Ond bydd croeso a gwobr. Ni fydd pawbyn derbyn Teyrnasiad dynamig, cyfiawnyr Arglwydd. Ond fe fydd ffrwyth, fel hadyn syrthio ar dir da.

EMYN 539: Ai gwir y gair?

DARLLEN: Mathew 13:31-33 –Y cynnydd anweledig a dirwystrMae’r Iesu am i’w ddisgyblion wybod,bod dyfodiad y Deyrnas yn sicr o‘lwyddo’. Er ei fod yn ymddangos ynfach, yn ddinod ac yn bitw bydd yrhedyn lleiaf yn ffrwythlon – ‘daw yngoeden’, meddai. Fel ‘lefain’ yn y blawda fydd yn lefeinio’r cwbl.’ Er colli’n hyderfel cynulleidfaoedd codwn ein pennau’nhyderus drachefn. Mae gallu TeyrnasNefoedd wedi ei ryddhau i’r byd. Ac erstormydd ac ergydion fe fydd yn tyfu acyn treiddio’r cwbl oll.

DARLLEN: Mathew 13:44-52 –Trysorau a rhwydiUnwaith eto sôn y mae’r damhegionyma (fel Dameg yr Heuwr) am gynnyddy Deyrnas. Y tro hwn fodd bynnagpwysleisir rhyfeddod ac amrywiaeth yrhai sy’n dod yn rhan o’r Deyrnas.

Yn y ddameg gyntaf sôn y mae’rddameg am rywun sy’n darganfod trysorar hap a damwain. Yng nghanolprysurdeb ei fywyd mae’n darganfodtrysor nad oedd yn gwybod ei fod ynchwilio amdano. Er mwyn meddiannu’rtrysor mae’n fodlon gwerthu popeth ynei feddiant er mwyn cael hawl ar ytrysor.

Dywed yr ail ddameg wrthym am bersonsy’n ‘chwilio’ am y da a’r perffaith. Ondpan ddaw o hyd i’r perl, unwaith etogwelwn ei bod yn fodlon gwerthu’r cyfani’w gael.

Byddai’n rhwydd pwysleisio’r ‘gwerthu’rcyfan’ fel pe bai’r pwyslais ar y golledneu’r aberth. Mae’n amlwg o’rdamhegion bod darganfod y trysor a’rperl yn gosod pob ‘colled’ neu ‘aberth’ felpris sydd werth ei dalu.

I rai, hyd heddiw, mae darganfodhaelioni Duw mewn byd mor greulon, adarganfod ei ras – y rhodd na allwn eihaeddu byth – maddeuant, bywydtragwyddol yn awr ac am byth, ystyr,gwerth i fywyd, gwerthoedd ar gyferbywyd, oll yn drysorau sy’n cael eudarganfod ar hap. I eraill efallai sy’nchwilio ac yn arbrofi gyda phob math ogrefydda cyfarfod â Iesu Grist yw’r dyddmwyaf llawen – daethant o hyd i’r perl yroeddynt wedi treulio’i hoes yn chwilioamdano.

Wrth graffu ar y drydedd ddameg fe ellidunwaith eto sylwi ar yr elfen o ‘gasglu’rrhai da’ a ‘thaflu’r rhai gwael i ffwrdd’.Oddi fewn i eglwysi ProtestannaiddDiwygiedig – sef y traddodiad y mae’ngwreiddiau ynddi – gallai’r adnodau ymaddarlunio, fel dameg yr efrau yn yr ªd,mai corff cymysg yw eglwys weledigIesu Grist. Mae’r ‘rhwyd’ yn tynnu‘pysgod o bob math.’ Dim ond yrArglwydd ei hun sy’n adnabod y wireglwys guddiedig. Ef yn unig yn ôl yddameg sy’n adnabod y ‘rhai da’ adidoli’r ‘rhai gwael’ ar ‘ddiwedd amser.’

Gallwn yng ngoleuni hyn graffu arfanylyn o bwys. Mae rhywbeth ynrhyfeddol am Eglwys Iesu Grist gan eifod yn dal rhai ‘o bob math’. Rhywddydd fe fydd y rhwyd ‘yn llawn’.Pwyslais ar ehangder yr ymdrech asicrwydd y ddalfa yw hyn. A fyddymdrech? Yn sicr! A fydd dalfa? Ynbendant!

Ac os edrychwn ar eglwys Iesu heddiwgwelwn ei fod yn gorff rhyfeddol o bobl obob cyfandir, o bob cefndir, o bob haeno gymdeithas. Rhai o bob diddordeb danhaul. Rhai yn bobl ‘barchus’ a ganfutrysor. Rhai yn bobl sy’n ffoi rhag eucywilydd. Grym democrataidd y Deyrnashon yw ei fod yn trin pawb fel‘pechaduriaid’ gwrthryfelgar fel bodgobaith i bob un yn Iesu Grist. Caiff ybalch eu darostwng a’r isel eu dyrchafuyng Nghrist. Caiff yr afradlon gartref a’rrhai a frwydrodd i’w erbyn dderbyniadtrwy Iesu Grist. Mae’n gorff amrywiol, yngorff eang, yn gorff cynhwysfawr, sy’ncrynhoi pobl sydd wedi cael eu dal gan‘wªs oddi uchod’ (chwedl Pantycelyn) ynrhwydau’r efengyl. Maent yn bobl syddwedi canfod perl gwerthfawr, sy’n cyfrifeu gorau fel sbwriel er mwyn ennill IesuGrist a chael eu hennill trwy drugareddIesu Grist ei hun. (Philipiaid 3:2-11)

A pharadocs rhyfedd ein ffydd yw ygallwn dreulio oes yn dysgu ac ynchwilio a chael ein synnu’n barhaus ganras Duw. Ac wedi profi gras am y trocyntaf byddwn yn rhyfeddu at ryfeddolras ‘achubodd walch fel fi.’ Ac wedi oeso fyfyrio byddwn yn dwyn allan o’rdrysorfa o adnodau a ddysgwyd, oemynau a ganwyd, o seiadau arannwyd, o ddealltwriaeth a feithrinwyd‘drysorau newydd a hen.’ Daw rhywnewydd wyrth o’i angau drud o hyd i’rgolau.

Diolch iddo am drysor annisgwyl a pherlgwerthfawr i’w ddarganfod. Diolch ycawsom ein dal o fewn seiniau a chlywefengyl gras. Diolch y cawn dreulio oesa thragwyddoldeb yn wir yn synnu atgariad a theyrnas ac at Arglwydd yDeyrnas. Deled dy deyrnas Arglwyddtirion.

GWEDDI

Arglwydd Dduw, Hollalluog, addolwn di.Addolwn di am bwy ydwyt ynot dy hun.Yn fywyd oll i gyd; yn harddwch oll i gyd;yn obaith oll i gyd; yn llawenydd oll igyd; yn sanctaidd oll i gyd; yn gariad olli gyd. Gad i ni ddarganfod y trysor syddynot, y perl y bu’n heneidiau’n chwilioamdano drwy’r blynyddoedd, arhyfeddu at y ‘rhwyd’ grasol a’n dalioddo’i mewn. Oherwydd dy ‘rwyd’ di yw’refengyl sy’n fywyd oll i gyd; ynharddwch oll i gyd; yn obaith oll i gyd; ynllawenydd oll i gyd; yn sanctaidd oll igyd; yn gariad oll i gyd. Diolch am gaelbod yn rhan o dy Eglwys fawr weledig.Caniatâ i ninnau’r fraint o berthyn i’rEglwys Fawr sy’n hysbys i ti. Maddau i ini ein gwrthryfel. Dangos i ni ‘olud Cristyn fodd i fyw.’

Cofleidia’n bröydd, ein gwlad.Cofleidia’n byd yn ei ffolineb creulon.Cofleidia’n hysgolion a’n prifysgolion,ein gwasanaethau cyhoeddus.Cyflwynwn i ti waith dy efengyl yneglwysi’r henaduriaeth hon.Cyflwynwn i ti gynulleidfaoedd eraillo enwadau eraill yn ein tir.Boed dy enw di arnom bob un fel ymedrwn gyd-weddïo a chyd-ganu achyd-dystio i’th ddaioni.

Er mwyn Iesu Grist,

Amen.

EMYN 245: Yr Iesu a deyrnasa’n grwn

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.