cymeias e eee oes - cymdeithas ted breeze jones barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r...

20
YM MHLAS TAN Y BWLCH GWASG CARREG GWALCH LLYFR Al)AR IOLO WILLIAMS — Cymru ac Ewrop addasiad Cymreig arbennig o lyfr Peter Hayman a Rob Flinne CYLCH LYTHYR CYMDEITHAS TED BREEZE JONES RHIF 4 - PASG 2005 LAWNSIO LLYFR ADAR NEWYDD IOLO WILLIAMS HEFYD YN Y RHIFYN HWN — ADAR Y COB, PORTHMADOG CYNHADLEDD Y BTO/WOS YN ABERYSTWYTH TEITHIAU A DIGWYDDIADAU A LLAWER, LLAWER 11 WY! ER BUDD ADAR A BYD NATUR

Upload: others

Post on 15-Jan-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

YM MHLAS TAN Y BWLCH

GWASG CARREG GWALCH

LLYFR Al)ARIOLO WILLIAMS

— Cymru ac Ewrop

addasiad Cymreig arbennig o lyfrPeter Hayman a Rob Flinne

CYLCH LYTHYR

CYMDEITHAS TED BREEZE JONES

RHIF 4 - PASG 2005

LAWNSIO LLYFR ADAR NEWYDD

IOLO WILLIAMS

HEFYD YN Y RHIFYN HWN —

• ADAR Y COB, PORTHMADOG

• CYNHADLEDD Y BTO/WOS YN ABERYSTWYTH

• TEITHIAU A DIGWYDDIADAU

A LLAWER, LLAWER 11✓ WY!

ER BUDD ADAR A BYD NATUR

Page 2: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Golygyddol

Wedi i'r flwyddyn dechrau'n gymharol fwyn, cawsom gyfnodau oer dros ben ym mis Chwefror, agwynt y dwyrain fel cyllell finiog drwy bob dilledyn. Yn ffodus, cynhesodd drachefn yn ystod misMawrth, ac, wel, dyma hi'n ddechrau mis Ebrill yn barod! Mae'r gwanwyn ar droed, a'r adarymfudol cyntaf eisoes wedi cyrraedd — mae'r siff-saff, gwenoliaid y glennydd a thinwen y garnwedi eu gweld a'u clywed gan nifer ohonoch erbyn hyn dwi'n siwr, a'u trydar yn cystadlu a'n adarbach a ddioddefodd y gaeaf oer a gwlyb yma yng Nghymru! Mae hyd yn oed yr hen weilch ypysgod wedi cyrraedd yn eu 1161 o'r Affrica bell. I ble mae amser yn hedfan deudwch?!

Ond wedi cael Mawrth mor braf, gobeithiwn yn fawr na chawn Ebrill gwlyb ac oer i ddilyn — gallaihyn brofi'n drychinebus i lawer o'r adar ddechreuodd fagu'n gynnar yn ystod y cyfnod mwynannisgwyl. Mae gwyddonwyr ledled y wlad yn dechrau poeni bellach — pa effaith gaiff ygwanwynau cynnar yr ydym yn eu cael yn ddiweddar ar ein bywyd gwyllt tybed?

Yn anffodus, does na ddim byd y gallwn ei wneud am y tywydd wrth gwrs, dim ond darparu`chydig o fwyd i helpu'n cyfeillion bach pluog yn ystod cyfnod caled. Ac, os yw'n rhy wlyb i fyndallan, wel, fe gewch dywydd braf oddi mewn drwy ddarllen y rhifyn newydd yma o LlygadBarcud!

Yn y rhifyn hwn ceir adroddiadau ar rai o ddigwyddiadau'r Gymdeithas dros y gaeaf (teithiau iMartinmere, PwIlheli, Cricieth), ac adroddiad arbennig o gynhadledd flynyddol CymdeithasAdaryddol Cymru a'r BTO yn Aberystwyth. Ceir y rhan gyntaf o gyfres a fydd yn ein tywys i ardalPorthmadog i wylio adar, a cheir esboniad difyr o pam fod gan y wennol gynffon fforchiog! Ceirhefyd adroddiad am noson gyffrous a gynhaliwyd ddechrau'r flwyddyn — sef noson lawnsio Ilyfrnewydd lolo Williams. Os nad ydych wedi cael copi o'r Ilyfr hwn eto, rhedwch i'ch siop lyfrauGymraeg agosaf yr eiliad yma — ni chafwyd arweinlyfr cystal â hwn erioed yn iaith y nef, ac mae'nychwanegiad angenrheidiol i unrhyw silff lyfrau (neu i boced eich côt wrth gwrs!) Mae adolygiadTwm Elias o'r Ilyfr ar dudalen 19, rhag ofn fod angen mwy o berswal arnoch!

Gobeithio y gwnewch fwynhau'r arlwy y tro hwn — bydd y rhifyn nesaf yn barod erbyn EisteddfodGenedlaethol Eryri a'r Cyffiniau. Yr ydym ar hyn o bryd yn prysur drefnu pabell i Gymdeithas TedBreeze Jones am y tro cyntaf erioed — pam na alwch heibio am baned?! Edrychwn ymlaen atgael eich cyfarfod bryd hynny — hei Iwc y cawn dywydd ffeind ac y bydd y tymor magu wedi bodyn un Ilwyddiannus i'n hadar yn y cyfamser.

LLYGAD BARCUD - Cylchlythyr Cymdeithas Ted Breeze Jones

Rhif 4 — Pasg 2005

Golygyddion —Rhodri Dafydd (CCGC) a Twm Elias (PTyB)

Cyfranwyr —Twm Elias (Plas Tan y Bwlch), Huw Dafydd Jones, Tom Jones, Elfyn Lewis, Iolo Williams, Rhodri Dafydd (CCGC)

Pob llun — hawlfraint yr awdur oni nodir yn wahanol.

CYMDEITHAS TED BREEZE JONESLlywydd Anrhydeddus —

Iolo WilliamsCadeirydd y Gymdeithas a Golygydd Ymgynghorol Llygad Barcud—

Twm Elias, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Gwynedd LL41 3YU, (01766) 590 324Trysorydd —

Brian Paul, Tý Fry, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6RT, (01766) 770 500Ysgrifennydd a Golygydd Llygad Barcud—

Rhodri Dafydd, Erw Deg, Dyffryn Ardudwy, Gwynedd LL44 2DW, (01341) 247 446Ysgrifennydd Aelodaeth —

Anwen Breeze Jones, Tan y Deri, Bryn Eithin, Llandecwyn, Gwynedd LL47 6YF, (01766) 770 833

Arn fwy o wybodaeth a ffurflen ymaelodi A'r Gymdeithas cysylltwch fig Anwen Breeze Jones.

Croesawir Ilythyrau, cwestiynau, newyddion ac ati ar gyfer y rhifyn nesaf.Anfoner unrhyw ddeunydd at yr Ysgrifennydd cyn diwedd mis Mehetin os gwelwch yn dda

2

Page 3: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Adar y GlaslynRhan un: Elyrch a Gwyddau

Elfyn Lewis

Mi glywais Ted Breeze Jones yn dweud sawl gwaith mai y Cob ymMhorthmadog oedd ei hoff safle i adarydda, ac yn enwedig felly yn y gaeaf. Felun o `hogia Port' cymrais falchder mawr yn y clod hwn gan un o ghogia Blaena'— un a oedd wedi bod o amgylch y byd yn adarydda ac yn tynnu Iluniau adargwyllt.

Ted yn gwylio adar o'r Cob

Fel Ted gynt, `rwyf innau hefyd wedicael fy ngwefreiddio gan y nifer a'ramrywiaeth o adar a welir yn yr ardal ogwmpas y Cob. `Rwyf yn ffodus fy modwedi byw yma ar lan yr Afon Glaslynerioed. Mae bywyd gwyllt ac ynenwedig adar gwyllt yr ardal wedi bodyn ddiddordeb mawr gennyf ersdyddiau fy mhlentyndod. Ers drosugain mlynedd bellach rwyf wedi bodyn cadw cofnod o'r adar a welais yn yrardal.

Gofynnodd Dewi fy mrawd yn eiddarlith i'r Gymdeithas y Ilynedd"Tybed faint o rywogaethau o adargwyllt a welwyd yn ardalPorthmadog?". Nid oeddwn yn gallurhoi ateb iddo ar y pryd ond ar 61tyrchu drwy'r cofnodion gallaf bellachddatgan bod dros 250 o wahanol

fathau o adar wedi eu gweld o fewnpum milltir i'r dre' — nifer anhygoel midybiaf mewn ardal mor fechan. Nidoes Ile yma i drafod yr holl adar awelwyd yn yr ardal, ond mewn cyfres oerthyglau ceisiaf roi braslun o'r hyn awelwyd. Yn yr erthygl hon, rvvy' amganolbwyntio ar yr elyrch a'r gwyddaua welir ar y corsydd o gwmpasPorthmadog.

Er bod amrywiaeth o adar i'w gweldtrwy gydol y flwyddyn, credaf, fel Ted,mai yn ystod y gaeaf mae'r aber ar eigorau. Un o nodweddion adaryddolenwoca'r ardal yn ystod y cyfnod hwnyw elyrch y Gogledd sy'n treulio'rgaeaf bob blwyddyn ger Llanfrothen.Mae'r rhain tua'r un maint a'r elyrchdof cyfarwydd, ond bod melyn ar eupigau yn hytrach nag oren. Eleni,

3

Page 4: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

cafwyd heidiau da o dros 80 o adar ardir Ffridd Fawr a Thý Newydd Morfa.Maent yn nythu yng Ngwlad yr IA ondyn gorfod symud i'r de yn y gaeaf panfydd eu hardaloedd nythu dan rew.Rydym yn gwybod mai o Wlad yr 15meant yn hannu oherwydd bod sawladeryn ymysg yr haid wedi eumodrwyo yno yn ystod yr haf. Rydymyn gwybod hefyd bod sawl unigolyn ynymweld A'r safle flwyddyn ar 61blwyddyn. Mae'r unigolyn gyda bandmelyn o amgylch ei wddf â'r c6d 2J34arno er enghraifft wedi treulio pobgaeaf yma ers unarddeg mlyneddbellach.

Mae ein hardal ni ymysg dyrnaid ynunig o safleoedd a ddefnyddir ganelyrch y Gogledd yng Nghymru bobgaeaf. Rydym yn ffodus bod y safleyma yn gyfleus ger y briffordd rhwngPrenteg a Llanfrothen a bod yr adargosgeiddig yma i'w gweid mor agos.Ambell waith gwelir elyrch Bewickymysg yr haid. Mae'r rhain fymryn ynIlai nag elyrch y gogledd, ac mae mwyo ddu i'w weld ar eu pigau melyn. Ynne Siberia y bydd y rhain yn nythu.Ychydig o gofnodion o'r elyrch ymasydd gennyf a hynny o lai na deg oadar gyda'u gilydd fel arfer, tua diweddy gaeaf pan fyddant ar eu ffordd yn 61i'w hardaloedd nythu.

Bydd elyrch y Gogledd hefyd ynymweld yn gyson â'r Glaslyn ger yCob Ile mae'r alarch ddof hefyd ynteyrnasu. Mae'r aderyn hwn yngyfarwydd i ni gyd yma ymMhorthmadog. Bydd sawl pâr yn nythurhwng y Cob a phont Aberglaslyn gangynnwys y pár sydd yn nythu wrthdroed y Cob, ger y Ilifddorau. Byddpobl leol ac ymwelwyr yn cadw Ilygadarnynt drwy'r cyfnod pan maent yneistedd ar yr wyau. Ambell flwyddynbydd yr afon yn codi ar 61 cyfnod o lawtrwm yn ystod mis Mai gan foddi'rnyth. Golygfa dorcalonnus yw gweld yradar yn gorfod gadael y nyth ar 61eistedd yn amyneddgar ar yr wyau amrai wythnosau.

Yr elyrch dof yn nythu ger y CobLlun — TBJ

Yn ogystal a'r parau sydd yn nythu,bydd hyd at 50 o elyrch dof yn treulio'rhaf yn harbwr Porthmadog. Bydd rhaio'r rhain yn adar ifanc a fagwyd ynIleol, ond o ganlyniad iir modrwyogwyddom fod eraill yn teithio o cynbelled a Sir Gaer i gyrraedd y safle.Mae'r elyrch dof yn ymgasglu gyda'igilydd yn yr haf er mwyn bwrw plu'rflwyddyn flaenorol. Am rai wythnosauni fyddant yn gallu hedfan tra meant yntyfu plu newydd. Cyfnod peryglus yw'radeg yma i'r adar oherwydd buasaillwynog er enghraifft yn gallu eu dala'u Iladd yn hawdd. Mae Ilecynnaumegis harbwr Porthmadog yn rhoilloches saff i'r adar.

Y Ilynedd ymunodd alarch du â'r adaryn yr harbwr. Dyma'r cofnod cyntaf imi o'r aderyn hwn ym Mhorthmadog,er fod rhai o drigolion y dre yn cofio iun ymweld â'r ardal sawl blwyddyn yn61. Wedi dianc o gasgliad oedd yraderyn hwn — o Awstralia y d6nt ynwreiddiol, ond oherwydd eu bod ynadar prydferth iawn fe'u cludwyd i'rwlad yma er mwyn eu cadw arlynnoedd a phyllau ar stadau aphlasau'r boneddigion slawer dydd.

O'r oddeutu dau ddwsin o wyddau geirdrwy'r byd, gallwn ddisgwyl gweldrhyw ddwsin ohonynt yn unig ymMhrydain. Ar y Glaslyn, gwelwyd nawmath o Vvydd dros y blynyddoedd.Ymwelwyr y gaeaf ydynt fel rheol, acfel elyrch y Gogledd maent yn ymweld5'n gwlad ni er mvvyn osgoi tywydd oery gaeaf yn eu mannau nythu yngngwledydd y Gogledd pell (megisGwlad yr lá` a'r Ynys Las). Ond mae'rsefyllfa wedi ei chymhlethu oherwyddfod gwyddau wedi cael eu cadw mewn

Page 5: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Yr Hebog d'i fodrwy aur

Roedd Henri IV, brenin Ffrainc ynarfer rhoi modrwyau aur, hefo'ienw arnyn nhw, am goesau yrhebogiaid tramor a ddefnyddiai ihela. Yr rhyfedd iawn feddiflannodd un o hebogiaid Henria chael ei ddarganfod y diwrnodwedyn ym Malta, 2,160 km(1,300 milltir) i ffwrdd! Does dimcofnod bod Henri wedi derbyn eihebog, na'i fodrwy aur yn 61chwaith!

T.E.

caethiwed gan ddyn ers canrifoedd.Mae rhai gwyddau wedi dianc dros yblynyddoedd ac wedi nythu a magu yny gwyllt yn y wlad yma. Dyma'r sefyllfagyda gwyddau Canada a'r gwyddaugwyllt ar y Glaslyn er enghraifft. Gwelirdros dri chant o wyddau Canada acoddeutu saithdeg o wyddau gwyllt ymabob gaeaf bellach. Credir fod ypoblogaethau wedi deillio o ychydig oadar a ryddhawyd ger Maentwrog ynystod y 1970au. Ymysg y gwyddaueraill sydd wedi dianc ym Mhrydain acsydd wedi eu gweld ar y Glaslyn maegWydd yr eira a givydd ben rhesog(bar-headed goose). Yn ystod 2002hefyd gwelwyd tair gWydd yr Aifft ymaam rai wythnosau yn ystod yr haf.

Dim ond pedair math o Wydd syddwedi ymddangos ar y Glaslyn y gallwnystyried eu bod yn rhai gwyllt 'naturiol'sef yr Wydd dalcen-wyn, yr Wyddwyran, yr Wydd droetbinc a'r Wyddddu. Anaml iawn y gwelir yr un o'rrhywogaethau hyn yn ardalPorthmadog. Ambell i aeaf gwelir niferfechan o wyddau troetbinc ymysg yrhaid o elyrch y Gogledd cer CarregLlanfrothen. Dim ond hanner dwsin oweithiau 'rwyf wedi gweld gwyddautalcen-wyn yn Ileol, er eu bod ynymwelwyr mwy cyffredin â'r ardal arddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae unneu ddwy Wydd wyran hefyd ymysg ygwyddau Canada bob blwyddyn, ondwedi dianc y mae'r rhan fwyafohonynt. Unwaith yn unig y credaf i miweld rhai gwyllt 'go iawn' — a hynnypan ymwelodd teulu o bump ohonyntâ'r Glaslyn ger y Cob sawl gaeaf yn 61.Ymwelydd prin hefyd yw'r Wydd ddu.Arfordir Borth-y-Gest yw'r man goraui'w gweld ond peidiwch a disgwylgweld mwy nag un neu ddwy ohonyntyma. Nid yw'r rhywogaeth ynymwelydd blynyddol â'r ardal hyd ynoed. Er chwilio, ni allaf ddarganfod yrun cofnod o irydd y Ilafur ar y Glaslyn.

Fel y gallwch ddychmygu mae'r greffto adnabod y gwanahol fathau owyddau ac elyrch yn gallu bod yngymhleth iawn ar adegau gan fodIlawer ohonynt yn debyg iawn i'w

gilydd. Y cyngor gorau y gallwn ei roiyw i gael gafael ar faeslyfr modern.Yna, ewch allan i'r aberoedd a'rcorsydd a cheisio adnabod y gwyddaucyffredin fel gwyddau Canada,gwyddau gwyllt a'r alarch dof iddechrau. Fel arfer bydd y gwyddaua'r elyrch anghyffredin i'w gweldymysg yr heidiau yma. Cymharwchhwy â'r gwyddau a'r elyrch cyffredingan nodi'r maint, Iliw'r plu, y pig, a'rcoesau — ac yna ceisiwch euhadnabod drwy edrych ar y Iluniau adarllen y disgrifiad yn y Ilawlyfr. Ondcofiwch hefyd gyda'r gwyddau eu bodyn gallu croesfridio gan greu hybrid(neu fwngral) sydd yn rhannunodweddion y ddau riant! Gweliroddeutu deg o'r rhain ar y Glaslyn ynflynyddol — a gorchwyl anodd iawn ywceisio penderfynnu pa rywogaethau owyddau yw rhieni'r adar yma!

Yn sicr mae'r Glaslyn ymysg yrardaloedd gorau yng Nghymru i weldsawl math o Wydd ac alarch. Y tronesaf, byddaf yn trafod teulu'r hwyaidac yn ceisio rhoi syniad i chi o'ramrywiaeth a'r niferoedd a welir ogwmpas y Cob gydol y flwyddyn.

5

Page 6: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Taith Twm ym MhwIlheliDydd Sadwrn, Mawrth 12

Huw Dafydd Jones

Teithiodd aelodau'r gymdeithas o Fôn , Arfon a Meirionnydd, i gyfarfod â Thwmyn y maes parcio rhwng rheilffordd y Cambrian â phorthladd PwIlheli, amhanner awr wedi deg, ar fore oer ond sych. Trefnwyd i rannu ceir, a theithioymlaen i ben draw maes carafannau Carreg yr Imbill i weld beth oedd gan gegyr harbwr i'w gynnig.

Y criw yn ymgynnull ger yr harbwr ymMhwllheli.

"Hei, Twm, awn ni i gyd byth i fewn i'rcar bach ma!"

'Roedd hi'n ddigon oer i rewi... byseddpawb yn sownd i'w binociwlars, ond ynwir fe gafwyd cyfri gwerth chweil orydyddion ar drwyn yr Imbill. Anoddoedd eu gweld ar y cychwyn, gan morberffaith eu cuddliw ymysg y cerrig,ond ymhlith tua dau gant o adar awelwyd yno yr oedd tua 20 o gwtiaid ytraeth; rhyw 30 cwtiaid torchog, dros120 o bibyddion y mawn, rhyw 25 saer(pioden y môr) a 10 gylfinir.

Mantais yr heidio yw fod cannoedd olygaid a chlustiau yn well i synhwyrounrhyw fygythiad neu berygl na dimond dwy.

Sylwyd fod y cwtiaid yn ymestyn euhadenydd yn achlysurol. Arnom nioedd y bai am hyn, oherwyddroeddem yn rhy agos - a'r adar ynymestyn a chynhesu eu cyhyrau rhagofn bod angen dianc ar amrantiad!

Dychwelyd yn y ceir a pharcio ar y cobrhwng d■iv' r hallt yr harbwr mewnol ar yrun ochr, a d■kr croyw afon Rhyd-hir aryr ochr arall.

Ceiliog hwyaden lygad aur oedd yrunig beth a dynnodd ein sylw ar ochrd "\Air hallt yr harbwr, y Iliw gwyn yndisgleirio yn yr heulwen. 'Roedd si body creyr bach yn nythu rywle yn y gors ynaill ochr i afon Rhyd-hir. A dyna wefroedd gweld tri ohonynt yn hedfan drosein pennau a glanio rhyw hannercanllath i ffwrdd oddiwrthym yn y gors.

Golwg agosach ar y ceiliog Llygad Aur

Bu cryn ddyfalu ai dau geiliog ac uni5r, dwy iár ac un ceiliog, neu hyd ynoed tri cheiliog neu dair iâr a welwyd.Cawn wybod yn fuan, gobeithio.

Gadael y ceir ac ymIwybro i'r gorlIewindrwy'r gors, gan obeithio gweld giachneu regen y diivr - dim golwg o'r unohonynt. 'Roedd y cyrs wedi'u torrimewn mannau, a gwely'r afon wedi'iglanhau, ac felly, y gobaith yw y daw'radar yma'n 61 i grwydro ar lan y d\ivrpan fydd natur yn ail afael wedi'r drin.Gwelwyd pedair sguthan a bwncath,ond yn anffodus, wrth ymIwybro felhyn mewn grikp, mae'r adar prin yndiflannu ac adar cyffredin y perthimegis titw tomos las, y titw mawr, ji-binc, Ilinos werdd, a'r deryn du a welir!

6

Page 7: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

7

binc, Ilinos werdd, a'r 'deryn du a welir!Er hyn, treuliwyd ysbaid tra'r egluraiTwm am aeddfedu aeron yr eiddew, ahoffter yr adar ohonynt. Yma, hefyd,'roedd Ilygad Ebrill yn ei ogoniant, acfe ddangosodd Twm y nodiwlau ar ygwreiddiau a arferid gael eu torri a'umalu gan `ein cyn-dadau i'w defnyddio idrin y peils. Enw arall am y planhigynyng Ngheredigion yw `Dail Peils'.

Cyrraedd y twyni tywod i'r gorllewin obrom Pwllheli. Chwilio am gysgod rhagy gwynt main a chael tamaid o ginio.Twm yn ddifyr ei draethu, a'r cyfan addywedodd yn wir (medda fo!).

Twm yn chwilio am stori yn ei fag?"D'ewadd, dwi ddim di clywad honna o 'r blaen"

Gwelwyd un hugan dros y môr glas,a'r dair math o wylan mwyaf cyffredin -y benwaig, y benddu a'r gefnddu leiaf.

Codi pac ar ôl ciniawa a sgwrsio, acherdded ar hyd y twyni, Ile'r rhedailein y tram ar un adeg, heibio i'r clwbgolff, i gyfeiriad Llanbedrog. Disgynwedyn i'r traeth a threulio ychydigamser yn synnu at amrywiaeth ycregyn yn ogystal ag olion bywyd ymôr a olchwyd i'r lan yno, gangynnwys nifer dda o'r draenog-môrgwyrdd. Wrth edrych allan i gyfeiriadYnysoedd Tudwal gwelwyd ambellhugan arall yn hedfan a phlymio i'rmôr, gyda Charreg y Trai yn gefndiriddynt. Yn agosach, atom, gwelwydpibyddion coesgoch, piod y môr ahefyd hwyaid brongoch.

Efallai na welwyd amrywiaeth mawr oadar ar y daith hon, ond 'roedd caelcerdded yn ôl i Bwllheli ar hyd y traethar brynhawn mor braf yn gorffen ydydd yn fendigedig. Wrth gyrraedd at yceir, daeth cawod o law — amseruperffaith! Diolch i Twm am eiarweiniad, ei wybodaeth a'ihynawsedd; fe gafodd y sawl afethodd ddod y tro yma golled yn wir.

Y PÂR `ARALL' O WEILCH YPYSGOD!

lolo Wllliams

Ar ôl yr erthyglau di-rif am walch ypysgod Morfa Glaslyn, mae'n bwysigcofio bod pâr arall o'r adar ysglyfaethusyma wedi nythu yng Nghymru yIlynedd, a hynny'n Ilwyddiannus hefyd.Darganfuwyd y pâr gan ddau bysgotwro Birmingham ac wedi iddynt basio'rwybodaeth ymlaen i YmddiriedolaethauBywyd Gwyllt Cymru, penderfynnwyd ydylid cadw'r safle'n gyfrinach er mwyndiogelu'r nyth. Mae'r safle ar dir preifata gyda chydweithrediad ytirfeddiannwr, trefnwyd gr4 o hannerdwsin o wirfoddolwyr i gadw Ilygad ar ysafle tua pedair gwaith yr wythnos.Gan fod union safle'r nyth yn gyfrinach,doedd dim angen y fyddin 9wirfoddolwyr a gafwyd yn y g6gledd.

Wrth wylio'r nyth, cymerwyd nodiadaupendant am ymddygiad yr adar amae'n debyg eu bod wedi bwydo aramrywiaeth o bysgod, yn cynnwyspenhwyad, brithyll a rhufell. Magwydun cyw yn Ilwyddiannus a fe'i gwelwydyn hedfan am y tro cyntaf ar Awst 8fed-ond gallai fod wedi gadael y nyth am ytro cyntaf ddiwrnod neu ddau ynghynt.Wrth weithio yn ôl o'r 8fed o Awst,mae'n bosib amcanu bod yr Nivy cyntafwedi cael ei ddodwy o gwmpas yr 8fedo Fai, tua wythnos cyn pârPorthmadog, a bod yr wyau wedi deoro gwmpas y 12fed o Fehefin. Roedd yddau oedolyn wedi eu modrwyo, athrwy hynny gwyddwn fod yr iar wedi eimagu mewn nyth yn yr Alban, tra fod yceiliog wedi ei drosglwyddo o nyth ynyr Alban i Lyn Rutland ym 1997.

Y gobaith rwan yw y bydd y ddau bâryn dychwelyd i Gymru ac y cânt lonyddi nythu'n Ilwyddiannus am flynyddoeddi ddod. Ond cofiwch mae pâr ycanolbarth oedd y pâr cyntaf i ddodwya'r par cyntaf i fagu'n Ilwyddiannus!

Page 8: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Sut cafodd y Wennol gynffon fforchogStori o Tsieina.

Rhodri Dafydd

A hithau'n ddechrau Ebrill, rwy'n siwr fod pawb erbyn hyn yn edrych ymlaenyn eiddgar i weld y wennol gyntaf yn cyrraedd Cymru. Bydd gweld yr aderynbychan a'i gynffon fforchog yn arwydd pendant fod y gwanwyn ar ei ffordd (er,`un wennol ni wna wanwyn wrth gwrs!). Ond tybed a wnaethoch erioed, wrthweld yr adar yn hedfan yn isel dros y cae gwair, neu'n sefyll fel rhes osowldiwrs ar wifrau'r teleffon, feddwl sut y cafodd y wennol ei chynffonfforchog?

Gwennol yn bwydo'i chywion - Llun o wefan y BTO

Wel, yn (51 un hen stori o Tsieina,cynffon sgwar fel yr adar eraill oeddgan y wennol ar un adeg. Un tro roeddbrenin y goedwig yn cynnal Ilys.Gyrrodd sgrech y coed i alw pawbynghyd, a chan fod gan sgrech y coedlais mor uchel (os sylwch chi, byddpob creadur arall yn distewi pan forsgrech yn galw, a hynny er mwynclywed beth sydd ganddi i'w ddweud!),nid oedd gan yr un creadur ddewisond cymryd sylw, a mynd ribidires iganol y goedwig i fynychu'r Ilyspwysig.Yr oedd ar y brenin eisiau clywed bethoedd yn poeni'r holl greaduraid ydiwrnod hwnnw, ac felly, un wrth un,cafodd pawb gyfle i roi ei gwyn — a buIlawer o gwyno y diwrnod hwnnw!

Roedd y bioden yn cwyno fod eichynffon yn rhy hir, a'i bod yn niwsansmewn tywydd gwyntog. Roedd ymochyn yn cwyno fod dynion yn eigadw mewn twIc budr. Roedd yr arthyn cwyno ei bod yn hoffi mel, ond fod ygwenyn yn ei phigo pan geisiai fwytapeth ohono. Dywedai'r robin ei fod ynhoff o gwmni dynion, ond fod y rheiniyn dwyn ei wyau. Cwynodd dyn fod ysarff am ei waed gydol yr amser — pamna allai fynd ar 61 rh beth arall amnewid?!Roedd y brenin yn cydymdeimlo'n arwâ'r dyn a phenderfynnodd wneudrhywbeth i'w helpu. Gofynnodd i'rgwybedyn deithio'r byd am flwyddyn ichwilio am greadur addas i gymerydIle y dyn — roedd yn rhaid i'r sarff gael

8

Page 9: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

bwyd wedi'r cwbl!. Ac felly i ffwrdd agef, gan bigo hwn a'r Ilall — POBcreadur nid Ilai! - a samplo eu gwaed iweld pwy oedd a'r gwaed mwyafblasus.

Aeth blwyddyn ond diwrnod heibio, adyma'r gwybedyn yn cyfarfod â'rwennol, oedd yn ffrind i'r dynion ac ynrhannu'r un cartref yn aml, gan fod dynyn caniatau i'r aderyn bach nythu dany bondo. Yr oedd gwenoliaid fel rheolyn bwyta pob gwybedyn, ond roedd ygwybedyn bach hwn yn cael llonydd,gan mai ef oedd ymchwilyddswyddogol y brenin!`Sut mae'r chwilio?' ebe'r wennollawn' atebodd y gwybedyn`Wel da iawn — a pha waed sydd oraui'r sarff felly?'`Gwaed dyn, wnaiff dim arall y tro.'

Pan glywodd y wennol hyn, dyma hi'nbrathu tafod y gwybedyn i ffwrdd, acyn ei lyncu, fel na allai ddweud hynwrth y brenin — yr unig swn a ddeuaio'i enau bellach oedd `ZZZZZZZ!'

Y diwrnod canlynol, roedd y flwyddynar ben, a dyma'r sgrech yn galw pawbynghyd unwaith eto.`Wel, wybedyn, beth fydd bwyd y sarffo hyn ymlaen''ZZZZZZ!''Ond mi glywais o'n dweud ddoe maigwaed Ilyffant sydd orau!' ebe'r wennolyn sydyn.`Felly. Wel diolch.' atebodd y brenin '0hyn allan, gwaed y Ilyffant fydd y sarffyn ei chwenychu.'

Ond ar ôl blasu'r Ilyffant a'i gael ynchwerw, roedd y sarff yn flin, asylweddolodd fod y wennol wedidweud clwyddau i arbed dyn. Ceisioddfrathu'r aderyn, ond roedd y wennol ynrhy chwim — Ilwyddodd i esgyn i'rawyr, a chafodd y sarff ddim byd ondcegaid o blu o'i chynffon. A dyma pam,welwch chi, y mae gan bob gwennolgynffon fforchog hyd heddiw. Ac yn wiri chi, ers y diwrnod hwnnw, dyma pammae pob gwybedyn yn pigo dynion - oran sbeit, gan eu bod yn gwybod i nigael dihangfa Iwcus...ac i'r wennolmae'r diolch am hynny!

Barcud yn Llundain, 1639Mae'n debyg eich bod chithau, fel finnau, wedi clywed neu ddarllen yn rhy\wle fodbarcutiaid yn gyffredin yn nhrefi a dinasoedd Lloegr yn y canoloesoedd. Efallai hyd yn oedyng Nghymru, er na welais hyd yn hyn gyferiad atynt yn enill tamaid oddiar domenyddsbwriel Caernarfon, Aberystwyth, Aberteifi neu Abertawe chwaith. Neb wedi trafferthucofnodi mae'n debyg — h.y. os oedd yr adar o gwmpas ynde? Ys gw'n i?

Difyr felly oedd gweld y cofnod canlynnol, mewn Ilythur oddiwrth James Howel, Cymro oSir Benfro oedd yn Glerc i'r Privy Council yn Llundain yn y 17g, at Sir S. C. (pwy bynnagoedd hwnnw?). Rwy'n ei roi yn y saesneg gwreiddiol am fod ieithwedd y darn mor hyfryd,ac rwyf wedi cadw'r Ilythyren "f' fel y'i defnyddid ganddo am "s", fel oedd yn ffasiwn brydhynny.

"As i directed my pace homewards, l fpied a Kite foaring high in the Air, and gentlygliding up and down the clear Region fo far above my head, that I fell to envy theBird extremely, and repine at his happinefs, that he should have a privelage to makea nearer approach to Heaven than I."

Holborn 1639

Ni ellir dweud o'r uchod os y barcud coch ynteu'r barcud du gyfeirir ato. Roedd y barcuddu, neu "shite hawk" (!) fel y'i gelwid, hefyd yn gyffredin ar y tomeni sbwriel 'slawer dydd —fel y meant hyd heddiw mewn rhai gwledydd.

[Diolch i Aled Jones, Penrhyndeudraeth am gael golwg ar "Familiar Letters", J. Howel, Iledeuthum ar draws y dyfyniad uchod (tud. 356). Roedd yr wynebddalen yn gollediggwaetha'r modd, felly ni allaf roi'r dyddiad pryd y cyhoeddwyd y gyfrol — rywdro yn y 18g?]

Twm Elias.

9

Page 10: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Cymru 38 — Yr Eidal 8Adroddiad ar daith gan Rhys Jones i wylio adar Cricieth, Borth y Gest

a Phorthmadog. Dydd Sadwrn Chwefror 12ed 2005

Tom Jones, Golan

Daeth dwsin o aelodau'r Gymdeithas ynghyd, gan gyfarfod ym mhen draw'r promyng Nghricieth am 10 y bore — diwrnod Ilwyd, ond yn sych uwch ben beth bynnag,gyda'r gwynt yn gymharol gryf o'r gogledd orllewin. Roedd hyn o fantais i weldadar ar y m6r gan ei fod yn weddol Ilyfn ar yr arfordir deheuol gyda phenrhyn Llýnyn darparu rhywfaint o gysgod. Petai'r gwynt o gyfeiriad arall cyn gryfed buasai'namhosib gweld unrhywbeth o achos y tonnau. Drwy ryw ras, cawsom amodauffafriol ac ni chafwyd siomiant ar y diwrnod hwn, er i'r Ilanw fod yn uchel iawn.

Un o'r pethau cyntaf i fynd a'n sylw oeddrhyvv gwmwl tywyll yn symud tuag atom.Fel y neseuai, gallem weld mai haid oadar ydoedd, ac wrth i haid o ddeutu 30o fôr hwyaid duon hedfan o aber afonGlaslyn allan i'r bae, yr oedd ynargoeli'n ddiwrnod da! Bu'n bosib i ni eugwylio am gyfnod drwy delesgop, a'rsmotiau duon yn diflannu o'r golwg acyna'n ailymddangos y tu 61 i donnauMorfa Harlech.

Yn sydyn denwyd ein sylw gansymudiad yn agosach i'r lan - allan oflaen caffi Moranedd gwelwyd yr wyachfawr gopog — y cyntaf o lawer a welwydyn ystod y diwrnod.

Wedi hyn, anogodd Rhys i ni i edrych aradar y byddwn gan amlaf yn eu cymrydyn ganiataol ac yn eu hanwybyddu fwyna heb — gwylanod. Ond wrth sylwiarnynt, ac adnabod y rhywogaethaumwyaf cyffredin (heddiw gwelsomvvylanod penwaig, penddu a gweunydd)yna bydd mwy o siawns i sylwi ar y rhaiIlai cyffredin — a rhai prin hyd yn oed. Ynddiweddar gwelvvyd gwylan ifori yn ycyffiniau — a phwy fyddai wedi sylwi arniheb dreulio peth amser yn astudio'rgwylanod eraill? Ond tra'n edrych ar ygwylanod yng Nghricieth heddiwtynnwyd ein sylw gan symudiadIlechwraidd a Ilyfn allan yn y bae -cododd Ilamhidydd rhyw dair gwaith, a'r

gwylanod yn heidio o'i gwmpas i arostamaid hawdd. Roedd ei weld yn ycyffiniau yr adeg yma o'r flwyddyn acmor agos i'r lan yn syndod o'r mwyaf,ond yn ychwanegiad bendigedig i'rdiwrnod.

Hedfanodd haid oddeutu 200 i 300 obibyddion y mawn o'r m6r i mewn atgyfeiriad aber yr afon Dwyryd. Roedd ybilidowcar yntau yn hel ei damaid nepelloddi wrthym.Hedfanodd y cwtiad aur ymhlith Cwtiady traeth heibio. Ac fe roedd un Pibyddcoesgoch ar y cerrig o dan y caffi.

O'r fan hon, symudodd y criw drawwedyn i ben arall Criccieth, gan edrychdraw i gyfeiriad aber afon Dwyforunwaith eto, yng nghysgod y castell.Daeth rhyw lygedyn o haul i wenuarnom rhwn y cymylau arian, er fod ygwynt erbyn hyn wedi codi a'i fin i'wdeimlo ar ein gwarau. Yn y safle hwn,gan swatio yng nghysgod y gysgOdfanbwrpasol ger y maes parcio, gellidgweld hwyaid brongoch, piod y môr a'rfulfran werdd yn nofio'r tonnau, tra'r tu 61i ni, ar un o'r caeau gwlyb daeth haid oylfinirod swnllyd i lanio a thrwytho'r pridda'u pigau hir gan chwilio am bryfedgenwair yn y ddaear laith. Mae'n burdebyg fod yr adar hyn wedi dod i Gymruo wledydd ymhell i'r gogledd, gan weldein gaeafau ni yn dynerach na'r hyn a

10

Page 11: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Pam fod pengliniau adaryn plygu at yn ôl?

Dydyn nhw ddim! Efallai bod ycymal sy' tua 1/2 ffordd rliwng ydroed a'r plu yn edrych felpenglin, ond ff6r (ankle) yraderyn ydi o mewn gwirioneddac mae asgwrn troed estynedigyn ei gysylltu â'r bodiau. Mae'rpenglin go iawn wedi ei guddioyn y plu yn agos at y corff.

Creyr a'i fferau'n dangos!Llun - TBJ

welir yn eu gwledydd magu. Ond o blebynnag y daethant, roedd yn werth eugweld yma yng Nghricieth!

Naid i'r car wedyn, a chynhesu rhywfymryn ar y daith fer i Borth y Gest. Ynanffodus, parhau braidd yn uchel yroedd y Ilanw, ac ychydig iawn o adar awelwyd mewn gwirionedd. Ond wrthgychwyn am yr aber o'r maes parciohedfanodd cudyll bach tros ein pennau,a dyma olygfa werth chweil oedd hon!(Marciau Ilawn i Ann Jones, mam Rhys,am ei Ilygaid craff yn sylwi ar yr aderynbychan a phrin hwn!) Yn ystod yr haf, yny mynyddoedd y bydd yn treulio'i amser,ond gydol y gaeaf, pan fydd y bwyd ynbrin yn yr ucheldiroedd, bydd yn disgyni'r arfordiroedd ble mae hela'n haws a'rprae yn fwy niferus.

Allan yn y pellter gwelwyd elyrch dof gery Cob ac fe hedfanodd y creyr bach igyfeiriad Harlech, cyn troi yn ei ôl igyfeiriad Portmeirion. Er fod yr aderynhwn ar un tro yn anghyffredin, maebellach wedi ennill ei blwy yma yngNghymru — er nad yw wedi magu yn yrardal hon...eto. Hadfannodd haid fechano chwiwell o'r aber tuag at y Cob.

Wedi ymdroi yma am ychydig a chaelcinio yn edrych dros y porthladd ymMhorth y gest, dyma ei chychwyn hi amy Port. Cerddwyd oddi amgylch LlynBach ac yn y fan yma y gwelwydGwyach bach a hwyaid yr eithin.Ar ochor yr afon Glaslyn roedd nifer ddao chwiwell ac ambell i gorhwyaden ymaac acw, gyda'r man gwyrddlas oamgylch Ilygaid y gwrywod yn sgleinio'nIlachar yn yr heulwen.Yn eu mysg roedddeg rhostog cynffonddu, a dwsin neufwy o sigldigwt ar y cae. Ni welais igymaint gyda'i gilydd erioed, ond 'dwn iddim am weddill y criw?!

Yn sydyn dyma haid o adar yn codi ynun dyrfa swnllyd — beth oedd wedi eudychryn tybed? Wel, yn uchel uwch yraber roedd hebog tramor yn patrolio, yn

chwilio am damaid hawdd mae'n debyg.Yr aderyn olaf i ni ei weld oedd yrhwyaden lygad aur. Cododd y gwynt yngryf iawn pan oeddem ar y Cob crwn, ynfiniog oer a daeth cawod aeafol drosben heibio — arwydd ei bod yn hen brydtroi am glydwch adre! Daeth y gwylio iben tua 1.30 y pnawn, ac roedd rhai ynfalch rvvy'n siwr o gael mynd adref i weldy gem yn erbyn Cymru ar Eidal...(38-8ew, da `te!)

Diolch yn fawr i Rhys am ein harwain acam ddangos yr holl adar hyn i ni.

Bydd Rhys yn arwain taith adaryddaarall ym Mhen Llýn (i GymdeithasEdward Llwyd y tro hwn) ar ddyddSadwrn, Ebrill y 30ain eleni. Ewchdraw os y gallwch — mae'n adaryddwrheb ei ail a bydd yn sicr o fod ynddiwrnod bendigedig. (Gol.)

1 1

Page 12: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Noson loloLawnsio 'Llyfr Adar lolo ym Mhlas Tan y BwIch, Maentwrog.

Rhodri Dafydd

Roedd nos Lun y 26ain o lonawr yn noson oer a thywyll y tu allan, ond ygwrthwyneb oedd yn wir am Stablau Plas Tan y BwIch — oblegid y tu mewn yroedd hi'n olau a chynnes (os nad yn chwilboeth!), gyda lampau Ilachar yngoleuo a gwresogi'r ystafell. Ac os oedd sdr i'w gweld yn y ffurfafen, yr oedd`na hefyd sdr y tu mewn! Criw ffilmio Wedi 7' oedd wedi cyrraedd, a'u lori fawrwedi ei pharcio y tu allan gyda'r soser anferth ar ei tho wedi ei hanelu at rywloeren bellennig. Y tu mewn, roedd Heledd Cynwal wrthi'n holi seren y nosonhon — sef lolo Williams, yr adaryddwr adnabyddus - a Ilywydd anrhydeddusCymdeithas Ted Breeze Jones.

Roedd hwn yn achlysur arbennig i nifel adaryddwyr Cymraeg, oherwyddroeddem yn lawnsio Ilyfr newydd syddyn sicr o fod yn glasur, Ilyfr a ddaw yngydymaith naturiol i unrhywun sydd ahyd yn oed y diddordeb Ileiaf yn adarCymru — Llyfr Adar lolo. Nid ersdyddiau Ted Breeze Jones (bum ynddigon ffodus i dyfu i fyny yn darllen`Cyfres cynefin' a'r Ilyfrau C/icio',`Canlyn' ac Adennydd i'r Camera') ybu yna lyfrau o'r safon yma yn iaith ynefoedd, a braint i ni oedd cael bod ynbresennol i'r lawnsiad swyddogol.

Cyflwynwyd y gViir gwadd gan Myrddinap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch, achawsom ychydig o'r hanes diddorol ytu 61 i'r Ilyfr — sut y bu i lolo weithio argyfieithiad o lyfr enwog MitchellBeazley' am fisoedd lawer, ar awyrenyn aml, yn ystod ei deithiau o amgylchy byd yn ffilmio'r gyfres Teithiau lolo',a pha mor Iwcus yn wir oeddem ni i'rIlyfrau fod yn barod o gwb1 — yngngeiriau Myrddin ei hun — `Mi gymronnhw fwy o amser i gyrraedd o ddeLloegr i Lanrwst nag a gymeron nhw oTsieina i Loegr!'

Ond yn ffodus iawn, cyrraedd awnaethant - ychydig wedi amser cinioar ddydd y lawnsiad yn y Plas!Roeddem yn Iwcus ar y naw felly fod ygyfrol ar gael o gwb1 ar gyfer y noson!

Ond rhaid oedd aros cyn cael einbachau ar y Ilyfrau, oherwydd roedd

Owain Elias a llond bocs o'r cyfrolau newydd sbondanlli!

rhan arall ddifyr i'r noson yn y Plas —sef sgwrs a sleidiau gan lolo ei hun.Mae pawb yn gyfarwydd a dawnadaryddol lolo, ond roedd y sgwrsheno yn gyfle iddo gyflwyno rhai o'iffefrynnau ymysg yr adar, a hynnydrwy ddull taith o'r m6r i'r mynydd.Aeth a ni o ynysoedd y gorllewin(hanes yr adar drycin Manaw ar YnysEnlli a hugannod ynys Gwales) hydlannau tywodlyd ein traethau, cirwygoedydd collddail gwyrddion, bledysgom pam fod rhesen dyvvyll ar fresty titw mawr, a gweld y gwybedog brithyn hedfan o gangen i gangen. Wedicamu allan o'r coedydd tywyll, dyma'ntywys dros y corsydd gwlybion syddbellach yn prinhau — cartref i'rgornchwiglen a'r gylfinir — hyd nescyrraedd y rhostir a'r mynydd, gyda'rboda tinwen yn hofran uwchben, yndawnsio yn y gwynt. Cynrychiolwydymron pob cynefin, a chyda sleidiauIliwgar o hoff adar lolo, fe oedd yn

12

Page 13: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

addasiad Cymrsig arbenniis o IsfrPeter ilayman a Rob Humc

AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI

Plas Tan y BwlchCanolfan Astudio Parc Cenedlaelhol Ervri

Pob Ilwyddiant i

Gymdeithas Ted Breeze Jonesac i

LLYGAD BARCUD

Holwch am raglan o'r cyrsiau byd natur yr ydym yneu cynnig , neu am ein darpariaeth i grwpiau /

cymdeithasau ymweld gyda'r nos am bryd bwyda thro rownd y gerddi

Am ragor o wybodaeth a rhaglen lawn ffoniwch:01766 772600

brofiad i'w gofio. Mwyniant pur oeddcael rhannu'r awyrgylch braf, a bronnad oeddem yn sylweddoli ein bod yndysgu wrth fwynhau!

Wedi'r sgwrs, cafodd pawb gyfle i gaelpaned a chipio sgwrs fer gyda lolo —a'i gael arwyddo blaendalen y Ilyfrwrth gwrs! (clywaf fod lolo bellach yndioddef o 'Repetetive Strain Injury' ynei arddyrnau wedi'r holl arwyddoIlyfrau!

Rhes hir o 'ffans' yn awchu am lofnod...

..a lolo wrth ei waith!

Roedd y Ilyfrau'n diflannu fel slecs, achlywais ddweud eu bod yn hedfanallan o'r siopau hefyd — canlyniad

haeddiannol i ffrwyth Ilafur cariad.Tynnwyd raffl, ac enillwyd y darlungwych o adar gogledd yr Alban (rhoddcaredig gan Kelvin Jones) gan BetJones. Yn sicr, bu'n noson wrth foddpawb.

GWASG CARREG GWALCH

LINFR ADARIOLO WILLIAMS

—cyrnru ac Ewrop

Darllennwch adolygiad o'r Ilyfrnewydd ar dudalen 19 o LlygadBarcud! Mynnwch gopi - mae argael o'ch siop lyfrau Cymraeg leol,ac fe fydd ar gael hefyd ar stondin yGymdeithas yn Eisteddfod Eryri.(Gol.)

13

Page 14: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Cynhadledd Cymdeithas Adaryddol Cymru a'r BTOAberystwyth, Mawrth 19eg 2005

Rhodri Dafydd

Wel, am y tro cyntaf ers 1978 (cyn fy ngeni choeliwch chi byth!) bu i dimrygbi Cymru ennill pencampwriaeth y chwe gwlad y Grand Slam', acnid Ilai. Diwrnod hanesyddol i ni fel cenedl fechan. Ond roedd gen i rywdeimlad y bore hwnnw mai fi fyddai'r unig un na fyddai'n gwylio'r gem!A hithau'n ddiwrnod chwilboeth, braf, di-gwmwl, rwy'n siwr y buasechwedi gallu maddau i mi taswn i tu allan - wedi mynd am dro i chwilio amrai o'r adar ymfudol cyntaf i gyrraedd Cymru fach efallai. Ond na, y tumewn oeddwn i, efo dros gant o adaryddwyr eraill — sefyllfa go ryfedd aceironig a dweud y Ileiaf (ac ni gollwyd hyn arnom ninnau chwaith!) Y tumewn, mewn darlithfa ar gampws Llanbadarn, Prifysgol Cymru,Aberystwyth.

Yr achlysur oedd cynhadledd flynyddolCymdeithas Adaryddol Cymru (WelshOrnithological Society) a'r British Trustfor Ornithology (BTO), ac roedd ynddiwrnod difyr dros ben.

Campws Llanbadarn,Prifysgol Cymru Aberystwyth

Cychwynwyd y diwrnod drwy gaeladroddiad cyffredinol am y flwyddynadaryddol a fu yng Nghymru gan TonyPrater. Yr adroddiad ar yr adar prin awelwyd oedd y rhan ddifyrraf heb os, achafwyd cipolwg o'r hyn fu'n digwyddymhob cwr o'r wlad. Cafwyd adar ybwn yn ibwmian ar ynys Môn ac arwastadeddau Gwent, cafwyd gVvyddwyran ddu ar benrhyn GWyr, telor`Paddyfield' yn Llangors a Yellowbrow'ger Safeways yng Nghaernarfon. 2004oedd y flwyddyn orau ar record argyfer niferoedd yr adain sidan awelwyd yng Nghymru — cyn eleni dimond 157 o adar a gofnodwyd mewn

gaeaf, ond mae'n debyg i dros 1,500gael eu cofnodi yn 2004!

Er y bu yn flwyddyn dda ar gyfer adarprin neu anghyffredin, roedd pethau'nfwy digalon ymysg rhywogaethaucynhenid — adroddwyd fod niferoddadar fel y grugiar ddu, y gornchwiglena'r gylfinir oll yn parhau i ostwng —gyda nifer y cornchwiglod i lawr 71 `)/0,a gylfinirod i lawr 79°/0 o'r niferoedd agofnodwyd ym1982.

Roedd y sgwrs nesaf yn un o nifer ynystod y diwrnod a oedd yn edrych arbe ellir ei wneud i adfer sefyllfa einhadar — yn enwedig felly ar ffermdir,gan mai yma y gwelwyd y dirywiadmwyaf. Cafwyd stori ryfeddol ffermDenmarc ym Metws Bledrws ganAngela Polkey, ble trawnsewidwyd y tiro fod yn dir diffaith wedi'i wella ar gyferamaeth, i fod yn hafan i fywyd gwyllt.Drwy atal ychwanegiadau o wrtaithadferwyd y porfeydd Ilawn blodaugwyllt. Plannwyd coed a gwrychoeddgan ailgreu tirlun y fferm i'r hyn a oeddyn y 1860au, ac ailgreuwyd nifer obyllau.

0 ganlyniad, ffynnodd bywyd gwyllt ary fferm. Yn ogystal a'r Ilu o flodaugwyllt a ddychwelodd i'r porfeydd a'rcloddiau, a'r holl bryfed a gloynnodbyw sy'n gysylltiedig a hwy (mae

14

Page 15: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

bellach 28 gwaith yn fwy o loynnod, a14 gwaith yn fwy o bryfed megissboncod y gwair nag a oedd yn y1980au), dychwelodd mamoliaid fel yrysgyfarnog a Ilygod y maes. Bu'rnewid o fudd i adar hefyd — tra yn yr80au dim ond 15 rhywogaeth o adar awelwyd a'r y fferm, mae bellach 47rhywogaeth wedi'u cofnodi — ynamrywio o adar mân fel y gwybedogbrith a'r Ilinos, i adar mwy fel y dylluanwen a'r gylfinir.

Roedd y sgwrs nesaf yn delio â'r unmath o bwnc — sef pwysigrwyddcynlluniau amaeth-amgylcheddol(megis Tir Gofal yma yng Nghymru) iadar tir amaethyddol. Drwy yn gyntafedrych ar rai o'r problemau y maedulliau modern o amaethu yn eu creu iadar (o ran cynefinoedd, bwydo anythu), aeth lan Johnstone ymlaen iesbonio pa waith oedd yn cael eiwneud dan gynlluniau o'r fath i droi'rcloc yn ôl ac i wella'r sefyllfa.

Wedi mymryn o ginio (a chyfle ifwynhau ychydig o heulwen hyfrydAberystwyth!) yn ôl i mewn a ni,ribidires, ar gyfer prynhawn o sgyrsiauamrywiol. Ac eithrio darlith hynodddiddorol Jon Green ar adar penrhyn(Strumble head) yn Sir Benfro, pangafwyd blas o'r Ilecyn hynod hwn a'radar môr anghyffredin a geir yno obryd i'w gilydd (a sleidiau hynod o'radar drycin amrywiol a welir yno'nachlysurol wedi gwyntoedd cryf o'r de-orllewin), roedd naws go ddigalon i'rprynhawn — cafwyd un ddarlith a oeddyn edrych ar rai o'r rhesymau drosddirywiad adar y coedydd gan RobFuller (mae'r rhain, fel adar tiramaethyddol, yn Ileihau yn ôl pobtebyg), a dwy sgwrs ddiwedd yprynhawn ar 'Y dyfodol i ddyn ac adar'gan Jeremy Greenwood a `Gwneud Ilei adar' gan Derek Moore. Pwnc y ddwyddarlith yma oedd edrych ar sefyllfabresennol y ddaear a'r sialensau synein hwynebu os ydym am ddyfodolIlewyrchus i ni, y blaned, ac, wrthgwrs, i fywyd gwyllt. Er fod hwn wrthreswm yn bwnc dwys, ac ar brydiau ynun sy'n ymddangos yn anobeithiol

dros ben, bu i'r siaradwyr gyflwyno'rtestun mewn ffordd fedrus, nad oeddyn ddiflas o gwbl.

Heb os, roedd yn ddiwrnodgwerthchweil, yn amrywiol, ac, er arbrydiau yn codi arswyd (roedd rhai o'rystadegau a gyflwynwyd yn ystoddarlith Jeremy Greenwood ynddychrynllyd - wyddoch chi, erenghraifft, fod oddeutu 70% o holl stocpysgod gwyllt y byd yn cael euhecsploitio ar gyfer dyn, a fod hyd at80% o holl dd■ivr ffo y ddaear hefyd yncael ei ddefnyddio, neu o leiaf eieffeithio mewn rhyw ffordd, ganddyn?), yn peri i rywun feddwl amnewid ffordd o fyw er mwyn sj'crhaudyfodol gwell i ddynoliaeth a byd naturfel eu gilydd. Rhaid sylweddoli fod yrhyn yr ydym ni'n ei wneud yn caeleffaith andwyol ar y blaned, ac yn ypen draw, ni all hyn ond fod ynandwyol i ninnau hefyd. Yn sicr — yneges gyffredinol ar ddiwedd y dyddoedd — gall pawb wneud ei ran — acmae'n rhaid i ni ddechrau gwneudhynny HEDDIW. Mae pob un ohonomyn bwysig, ac mae'n rhaid i ni ollweithredu. Rwy'n siwr i bawb adaelgan feddwl am ffyrdd i deihau'ndefnydd o egni, gan mai hyn, .yn y bôn,yw un o'r problemau mwyaf sy'n einhwynebu.

Edrychaf ymlaen yn eiddgar atgynhadledd y flwyddyn nesaf — dimond gobeithio na chynhelir hi eto arddiwrnod mor dyngedfennol i rygbiCymru!

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol yBTONVOS fel arfer ar drydyddpenwythnos mis Mawrth, ymMhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Amfwy o wybodaeth am gynhadledd yflwyddyn nesaf, cysylltwch â'r BTO(www.bto.orq.uk/) neuChymdeithas Adaryddol Cymru(www.wos.orq.ukl).

15

Page 16: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

MartinmereTaith i wylio adar ar y cyd gyda Chymdeithas Edward LIwyd.

Huw Dafydd Jones

Cannoedd o elyrch y Gogledd ym Martin Mere. Llun HD

Codi'n gynnar fu hanes nifer ohonom ar fore Sadwrn, lonawr 8, i ddal y bws ymMhorthmadog am 7 o'r gloch y bore. Trefnwyd yr ymweliad â safle gwlyptirgwyllt Martin Mere yn Burcsough, ger Skelmersdale swydd Gaerhirfryn, ganTom Jones, Golan, fel gweithgaredd ar y cyd gyda Chymdeithas Edward LIwyd.'Roedd yn braf gweld cynifer wedi ymgynnull yn nhywyllwch y bore bach ymMhorthmadog i aros am y Seren Arian, ac eraill yn ymuno d'r daith ym MhantGlas, Dinas, Llandygai ac Abergele. Aeth 28 ohonom drwy'r twnel o dan afonMerswy gan gyrraedd Canolfan Martinmere mewn tywydd gwyntog ofnadwyganol y bore.

Ychydig o'r criw oedd yn aelodau o'rWWT (Wildfowl and Wetlands Trust),ac felly ar 61 talu'r ffi mynediad, i mewna ni i'r ganolfan ymwelwyr hynoddrawiadol. Gweddai caban pren yganolfan, gyda'i do tyweirch, i'r dim i'wamgylchfyd ar y tirwedd fflat.Cynlluniwyd yr adeiladau yn Norwy, achyda boncyffion o bren spriws oeddwedi eu rhifo yn ofalus yn Norwy cyneu hallforio, yr adeiladwyd y ganolfanym Martinmere. Mae yno ystafelloeddaddysg, caffi, sinema a siop yn rhano'r ganolfan, i gyd â golygfa dros un o'rIlynnoedd bychain a grewyd yno.Mae'r Ilynnoedd hyn, sydd â Ilwybraucaled yn eu hamgylchynu, yn le da iweld amrywiaeth eang o adar, ynwyddau a hwyaid arbennig/egsotig ynogystal â'r rhai gwylltion. Ymysg ygwyddau gwelwyd yr *ydd wyllt,gvirydd Canada, yr ■A/ydd droetbinc, yr

viiydd wyran, yr ýirydd frongoch, a'r■kydd Eifftaidd. Yno, hefyd, 'roedd adarfel y garan (crane) a'r fflamingo.

Mae Martinmere yn un o naw canolfansydd dan ofal y Wildfowl & WetlandsTrust. Un yn unig sydd yng Nghymru,

Cerflun o Syr Peter Scott 1909 — 1989, á thrio'r adarwyr. Llun HD.

16

Page 17: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

sef Penclacwydd, ger Llanelli.Sefydlwyd y cyntaf o'r naw ynSlimbridge ym 1946 gan Syr PeterScott, ac mae'r paentiadau a wnaethyn y blynyddoedd cynnar hynny o'rhwyaid a gwyddau a ymwelaiSlimbridge yn fyd enwog. Yn ôl yrystadegau, ymwelir â'r naw canolfanyma gan ymron i filiwn o bobl, o bobrhan o'r byd, yn flynyddol. Canranfechan iawn o'r miliwn yna oedd einllond bws ni, ond fe gawsom ninnau,fel pawb arall, ddiwrnod i'w gofio gangrwydro fel y mynnom ar einhymweliad.

Cadwraeth a hybu Bioamrywiaeth ywnod yr Ymddiriedolaeth, a gwelwyd ôleu hymdrechion i'r perwyl hwn mewnrhan newydd o'r warchodfa. Ym misTachwedd y Ilynedd agorwyd cuddfannewydd — yr `Harrier Hide' - i edrychdros gorsdir a luniwyd ac a ail-blanwydâ hesg. Bellach, â dim ond 3% o'rgwlyptiroedd (caeau gwlyb etc) afodolai yng Nghymru a Lloegr yn ôl ynnhridegau'r ganrif ddiwethaf yn aros,bydd y tirluniad yn hanfodol i ddenuadar fel elyrch y Gogledd, elyrchBewick, cornchwiglod, chwiwellod,gwyddau troetbinc, cwtiad aur aphibydd torchog. Disgwylir hefyd ilygoden a Ilyg y dVivr ymsefydlu ynghydag ystlumod amrywiol. Un o'r prifobeithion yw y daw'r gwelyau cyrs,pan dyfant, yn safle pwysig i dderyn ybwn. Wrth ddatblygu a darparu'rcynefin prin yma, y gobaith yw y byddcywion deryn y bwn a fegir yn LeightonMoss, sydd heb fod yn rhy bell oMartinmere, yn sefydlu yma.

Yr 'Harrier Hide' ar ffurf boda. Llun RhD

Mae'r guddfan, sy'n drawiadol eichynllun, wedi ei chodi fel rhan o walgron o bridd a thyweirch. Mae grisiau'ndringo o ganol y cylch mewnol i fyny ilawr uchaf y guddfan. Ar hyd ochrau'rIlwybr sy'n mynd tuag at y guddfan,ceir gwybodaeth archaeolegol ahanesyddol am y safle, gyda modelauo'r gwahanol greiriau a ddarganfuwyd,wedi eu piclo, wrth gloddio yn y gors.Heb amheuaeth, 'roedd niferoeddelyrch y Gogledd yn syfrdanol. Yramcangyfri oedd fod tua 1,800ohonynt yma ddechrau lonawr. (Maeffigyrau diweddarach - lon 26, 2005 -yn rhoi rhif o 2,100, sydd yn record argyfer y safle). Ymysg y rhain 'roeddtua 10 — 12 o elyrch Bewick. AlarchBewick yw'r Ileiaf o'n helyrch, ac er fodmelyn ar ei big yntau, fel ar big alarchy Gogledd, gellir gwahaniaethurhyngddynt gan fod Ilai o felyn ar big yBewick, ac mae ei siâp yn debycach isiâp gVirydd. Wrth Iwybro o un cuddfani'r nesaf fe gynyddai rhestrau adarpawb. Gwelodd rai ddryw eurben athitw penddu wrth gerdded y Ilwybrnatur. Gwelodd eraill haid o bibyddiontorchog ac eraill hebog tramor. Unaderyn bychan a wnaeth gryn argraffar y cwmni oedd golfan y mynydd.'Roedd i'w weld ymhobman o amgylchy ganolfan a hefyd ar ochrau'r Ilwybraurhwng y cuddfanau.

Mae'r rhestr ar y dudalen nesaf yndangos pa mor Ilwyddiannus fu'r daith,ac yn cynnwys niferoedd rhai o'r adarfel y'u cyhoeddwyd gan y ganolfan arlonawr 16, 2005.

Diolch i Tom am ei threfnu, acedrychwn ymlaen am y nesaf.

Bydd taith adarydda nesafCymdeithas Edward LIwyd ar ddyddSadwrn, Ebrill y 30ain, ym MhenLlýn. Rhys Jones fydd yn arwain.Mae mwy o wybodaeth am y daithar dudalen ôl y rhifyn hwn o LlygadBarcud. (Gol.)

17

Page 18: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Oes rhywun yn adnabod y ddau dderyn yma?!

Kelvin a Tom Jones yn edrych ar yr elyrch a'rgwyddau o un o'r cuddfanau.

Alarch Bewick —ychydig o felyn Ilawer o ddu. Alarch y Gogledd — mwy o felyn. Mae'r melyn yn ymestynMae'r ffroenau yn y rhan ddu o'r pig. Llun HD

ymlaen at y ffroenau. Llun HD

Ar y dde gwelir rhestr o'r adar agofnodwyd yn ystod mis lonawr2005.

Aderyn duAderyn y toAlarch BewickAlarch dofAlarch duAlarch y Gogledd 1,900BilidowcarBoncathBras y cyrsBronfraithChwiwell 1,150CorhwyadenCornchwiglenCreyr glasCwtiarDryw eurbenGoIfan y mynyddGwydd CanadaGwydd frongochGwydd droetbinc 11,000Gwydd wylltGwydd wyranGwylan bendduGwylan y penwaigHebog tramorHwyaden bendduHwyaden bengochHwyaden gochHwyaden goch yr eithin 1400Hwyaden gopogHwyaden lostfainHwyaden Iwyd 42Hwyaden lydanbigHwyaden lygad aurHwyaden wylltHwyaden yr eithin 1400lâr ddWrPibydd torchog 80Titw pendduTitw tomosTurtur dorchogYsguthan

18

Page 19: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

111 6vialch y Pylgori MMWR "43 ,a1

Tudaien Gwalch y pysgod ynei gyfanrwydd ar y chwith,gyda Ilun ychydig manylachyma.

Q�k.

Llyfr Adar lolo Williams — Cymru ac Ewrop Gwasg Carreg Gwalch (2005), tud. 272, £9.99

Addasiad lolo Williams o gyfrol Peter Hayman & Rob Hume

Adolygiad gan Twm Etias

O'r diwedd! Gwireddwyd y freuddwyd - mae gennym lyfr adarydda safonol yn y Gymraeg.Addasiad yw hwn o gyfrol glasurol Peter Hayman a Rob Hume, a gyhoeddwyd yn wreiddiolgan Mitchell Beazley yn 2002. Fe ystyriwyd y gyfrol honno yn un o'r goreuon o'i math arpryd, ac mae'n dal felly — dyna pam y'i ceir bron ymhob iaith Ewropeaidd, gan gynnwysGymraeg, erbyn hyn.

Mae'n Ilyfr-poced lliw Ilawn sy'n disgrifio pobaderyn sy'n magu yn Ewrop neu yn ymweld yngyson - cyfanswm o 430 rhywogaeth. Yn sicr maecynnwys cynifer o wahanol adar yn ddefnyddioldros ben, am ei fod yn ein galluogi i 'nabod y rhanfwyaf o'n hymwelwyr prin ac am ei bod yn gyfrolddigon bychan gallwch ei tharo yn eich bag y tronesa y byddwch yn mynd ar wyliau cyfandirol — ynpwyso fawr ddim ac yn ffitio'n daclus i boced -bron i boced y bicini (chi ferched hynny yw!)

Ceir rhwng 4 a 15 o luniau Iliw Ilawn ar gyfer pobrhywogaeth, yn dibynnu ar pa mor amrywiol yw'radar a bortreadir, e.e. Ilwydda 4 Ilun i ddisgrifiotelor yr ardd, am nad oes fawr o wahaniaethrhwng y ceiliog, yr iar ac aderyn ifanc. Ond maeangen 12-15 Ilun i wneud cyfiawnder â rhai eraill,e.e. y gwylanod — sy'n amrywio'n arw yn 61 euhoed; y rhydyddion — sydd â gwahaniaethaurhwng haf a gaeaf; y siglennod — sydd â Ilawer ois-rywogaethau a'r adar ysglyfaethus — sydd ynjyst amrywiol!

Mae nodi'r gwahaniaethau hyn yn ogystal adarlunio rhyw osgo arbennig sydd gan yr aderynwrth iddo hedfan, arddangos, sefyll neu glwydoadenydd ar gau yn help mawr i'w nabod a hynnynid yn unig o'i olwg aii ymddygiad ond drwy eigymharu ag adar eraill y gellid ei gamgymerydamdanynt. Da o beth yw bod adar sy'n eitha tebygi'w gilydd, ac y gellid eu cymysgu'n hawdd, yncael eu gosod ar y ddwy dudalen gyferbyn a'igilydd sy'n gwneud y gwaith o gymharu'r un wrthy Ilall yn Ilawer iawn haws. Mae hefyd yn Ileihau'rtrafferth o orfod troi'r tudalennau drosodd!

Cadarnheir ac ychwanegir at y wybodaeth yn yIluniau drwy nodiadau i gyd-fynd â nhw, symbolaui gyfleu tymor yr aderyn; pa mor brin neu gyffredinydyw a'i gynefin. Yna ysgrifau cryno i'w ddisgrifioa rhoi rhai o'i enwau Cymraeg eraill — sydd ynddifyr iawn.

Ar ymylon y tudalennau ceir sgwariau Iliw, arheiny yn amlwg hydynoed pan for Ilyfr ar gau.Mae pob Iliw yn cyfateb i gr\rv' p arbennig o adar,e.e. porffor i'r teloriaid a gwybedogion; oren i'rtylluanod; glaswyrdd i'r rhydwyr a browngoch i'radar ysglyfaethus, ayyb. Mae hon yn fforddgyfleus iawn i'ch helpu i leoli'r gniVp yn hawdd,sydd yn fuddiol iawn pan ydych eisiau chwilio'nsydyn i gymharu'r adar o fewn y gnivp hwnnw.Mae'n gweithio hefyd, ac, fel y gwelodd rhaiohonom ar y cwrs adar ym Mhlas Tan y BwIch fisMawrth, yn arbed amser yn y maes. Mae hynnyynddo'i hyn yn werth y byd weithiau.

Unrhyw wendidau? 'Heb ei fai heb ei eni meddanhw. Clywais un neu ddau yn son fod y printbraidd yn fán; y dylsid fod wedi cynnwys yr enwaugwyddonol yn ogystal • a'r enwau Cymraeg aSaesneg a chynnwys mwy o wylx,daeth am fainta dosbarthiad yr adar. Efallai wir, ond cdifiwch maiIlyfr poced ydi hwn! Ewch i chwilio am ywybodaeth ychwanegol adre — mewn Ilyfr mwy. Eiddiben yw eich helpu i nabod aderyn yn sydyn achywir yn y maes, ac i'r perwyl hwnnw mae heb eiail. Diolch lolo!

19

Page 20: CYMEIAS E EEE OES - Cymdeithas Ted Breeze Jones Barcud... · n lndd bllh rf d bd n d fnd r dr l n r rdl. Gfnndd f rd n ddrlth r Gdth Ilndd "bd fnt rth dr llt ld n rdl rthd?". d ddn

Cymdeithas Ted Breeze Jones - Gweithgareddau, Ebrill — Awst, 2005

Ebrill 28ain — Cân yr adar mân. Dewi Lewis, Y Ganolfan, Porthmadog, 7.30pm

Mai 12fed — Cyflwyniad gan fyfyrwyr Cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad, Prifysgol Cymru, Bangor ar ddichonoldebsefydlu canolfan adaryddol: "Canolfan Ted Breeze Jones"ym Mhorthmadog. Drwy wahoddiad — cysylltwchGeraint George (01286 872306). Yn: Y Ganolfan, Porthmadog, 1.00pm

Mai 26ain — Yr Ehediaid Di-blu. Sgwrs am 'Slymod a chyfle i fynd allan i weld sawl rhywogaeth yng nghwmni'r "slymwr Dafydd Roberts a'ioffer sain-adnabod. Cyf.: Y Stablau, Plas Tan y Bwlch, 8.00pm

Mehefin 2i1— Y Troellwr Mawr . Taith maes hwyrol i weld yr aderyn rhyfedd hwn. Cyf.: ger mynedfa Gwarchodfa Gwaith Powdr,Penrhyndeudraeth [SH618 385] am 9.00pm Arweinydd: Rhodri Dafydd Bydd y daith hon yn ddibynnol ar y tywydd - ffoniwch ymlaenllaw osgwelwch yn dda! (01341 247 446)

Gorffennaf 30ain i Awst 6ed — Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau. Cofiwch alw heibio pabell y Gymdeithas!

[Bydd rhestr o weithgareddau / cyfarfodydd y gaeaf yn y rhifyn Awst o Llygad Barcud]

Calendr y Cymdeithasau — Teithiau a digwyddiadau

RSPB

Dydd Sul, Ebrill 17 - Parc Arfordirol Penrhos ger Caergybi. Cyfle i wylio adar gyda RSPB Cymru ar safle gwych Ile gellir gweld amrywiaetheang o adar gwyllt. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Becky Clews ar 01492 562163.

Dydd Sul 8fed o Fai - Y gfach yn tabyrddu gyda'r gwyll ar y Mawddach8.30 pm—hwyr. Dewch i glywed swn anhygoel y giach wrth i'r aderyn dirgel hwn arddangos ei hun uwchben ei diriogaeth. Cysylltwchchanolfan ymwelwyr Ynys-hir ar 01654 700222.

Dydd lau, 12 Mai - Sgwrs ar adar ein gerddi yn Neuadd Bentref Mynytho am 2.30y.h. wedi'i seilio ar ganlyniadau arolwg Gwylio adar yr arddyr RSPB. Bydd y sgwrs yn para am rhyw dri chwarter awr. Mae gwahoddiad i bawb ac mae'r sgwrs am ddim.

Dydd Sul 15fed Mai - Tro gyda'r wawr yn Ynys-hir a'r Mawddach4.15-7 am Drwy godi yn y bore bach cewch brofi synau bythgofiadwy c6r y wig, gyda brecwast i ddilyn (cost brecwast yn ychwanegol).Cysylltwch â chanolfan ymwelwyr Ynys-hir ar 01654 700222.

Dydd Sadwrn 21ain Mai - Y bras melyn a golygfeydd o ddyffryn y Mawddach10 am-12 pm Ymunwch ã'n swyddog project cymunedol Ileol i chwilio am yr adar ffermdir hyn fu'n gyffredin ar un adeg. Cysylltwchchanolfan ymwelwyr Ynys-hir ar 01654 700222.

Nos Fercher, 25 Mai - Sgwrs ar adar tir fferm a'n cefn gwlad yn Neuadd Bentref Mynytho am 7.30y.h.Bydd y sgwrs yn para rhyw dri chwarter awr, mae am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb.

Ddydd Gwener, 3 Mehefin - Tro o gwmpas Moel Gron, Mynytho yn edrych ar adar ein cefn gwlad. Byddwn ni'n cyfarfod am 4y.h. ar ddyddGwener ac hefyd,Dydd Sadwrn, 4 Mehefin am 9y.b.Bydd y troeon tua 2 awr o hyd. Cyfarfod ger y safle picnic i'r de o Foel Gron (SH 303312). Dewch a dillad ac esgidiau addas, acysbeinddrychau os oes ganddoch chi rai.Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Gwen Thomas ar 01248 363800 neu 07776 453240

Dydd Sul 5ed a Dydd Sul 12fed Mehefin - Tro'r troellwr mawr ar y Mawddach9 pm—hwyr. Ymunwch warden am dro i Goed Garth Gell. Cewch weld y machlud dros aber Mawddach, aros iddi dywyllu, a gwrando aralwad rhyfeddol y troellwr mawr. Cofiwcheich fflachlamp, esgidiau cryfion a hylif atal pryfed. Cysylltwch á chanolfan ymwelwyr Ynys-hir ar 01654 700222.

TEITHIAU CWCHTeithiau cwch o gwmpas Ynys Seiriol. Sul 29 Mai, Gwener 15 Gorffennaf, a Sul 7 Awst.Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Becky Clews ar 01492 562163.

PRPSIECT GWALCH Y PYSGODBydd y safle cyhoeddus yn agor yn swyddogol ym Mhont Croesor (Morfa Glaslyn) arddydd Gwener, Ebrill 29. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a RSPB Cymru ar 01248 363800.Mae'r prosiect hefyd yn dal i chwilio am unrhyw rhai sydd a diddordeb mewn gwirfoddoli ar unai'r ochr gwarchod nyth, neu cyfarch y cyhoeddwrth y safle gwylio. Os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch a swyddfa Bangor ar 01248 363800 neu Gili Armson ar 07834 257784.

Cymdeithas Edward Llwyd

Ebrill 30ain - Gwylio adar yn ardal Pwllheli gyda Rhys JonesCyfarfod am 9.00y.b. ar L'On Cob Bach (SH373349) Am fwy o wybodaeth cysylltwch á Rhys ar 01286 650035

Am fwy o wybodaeth am deithiau Cymdeithas Edward Llwyd ewch i http://www.cymdeithasedwardlIwyd.ord.uk/

20