cynllun cydraddoldeb anabledd crynodeb weithredol council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac...

14
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Cyngor Bro Morgannwg Tîm Cydraddoldeb Adran y Prif Weithredwr

Upload: vantruc

Post on 02-Jul-2019

212 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

Cynllun CydraddoldebAnabledd crynodeb weithredol

Cyngor Bro MorgannwgTîm CydraddoldebAdran y Prif Weithredwr

Page 2: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

2

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Manylion cysylltuEr mwyn cael copi o’r canllawiau hyn yn y fformat o’chdewis neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â:-

Linda Brown/Nicola HintonTîm Cydraddoldeb,Adran y Prif Weithredwr,Swyddfeydd Dinesig,Heol Holton,Y Barri,CF63 4RU

Ffôn: 01446 709362Ffôn destun: 01446 741219Ffacs: 01446 709829

Cewch gopi cyflawn o’r cynllun ar wefan y cyngor neudrwy anfon neges e-bost i:[email protected]

Page 3: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

3

Crynodeb Weithredol

Cyflwyniad

Diben

Strategaeth a luniwyd er mwyn dod â gwasanaethau aswyddi’r cyngor o fewn cyrraedd haws i bobl anabl a phoblsy’n mynd yn anabl yw’r Cynllun Cydraddoldeb Anabledd.Rydym am hybu cyfle cyfartal drwy symud y rhwystrau sy’nrhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gaeldeall lle’n union y mae dulliau cyflogi a gwasanaethau’ngwahaniaethu’n eu herbyn, a newid hynny. Byddwn hefyd ynsicrhau bod mwy o staff anabl. Rydym am i’n gwasanaethaugyrraedd pob rhan o’r gymuned ac yn cydnabod y byddangen gweithredu mewn pob math o wahanol ffyrdd ermwyn cyflawni hyn. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Anableddyn egluro’n gweledigaeth gyffredinol o gydraddoldeb a’nhagwedd tuag at gydraddoldeb anabledd yn benodol ac yncynnwys cynllun gweithredu cwblymarferol.

Dod o hyd i ffyrdd o gael gwared arbob gwahaniaethu ar sail anabledd ahybu cydraddoldeb anabledd ywdiben y Cynllun. Nid addasuadeiladau ac addasu ar gyfer unigolion yw’r unig nod ond hefydddangos bod newid er gwell yn ydiwylliant ei hun.

Rydym wedi mabwysiadu modelcymdeithasol o anabledd, sy’n

Page 4: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

4

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

priodoli’r teimlad sydd gan lawer o bobl anabl o fodwedi’u cau allan o gymdeithas i agweddau pobl eraill arhwystrau amgylcheddol yn hytrach na’u nam neu’u cyflwrmeddygol eu hunain.

Bu pobl anabl yn rhan o’r broses o’r dechrau wrth lunio’rcynllun. Cynhaliodd Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’rFro gyfarfodydd er mwyn trafod pynciau fel trafnidiaeth,cyfathrebu, addasrwydd adeiladau ac ati. Cafodd cyfarfodydd cyhoeddus eu cynnal yn sgîl hynny mewnamryw o leoedd ar hyd a lled y Fro. Bu’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori hwn yn sail i nifer ogamau yn y cynllun gweithredu.

Page 5: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

5

Crynodeb Weithredol

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn rhoidyletswydd ar gyrff cyhoeddus i:-

sicrhau bod gan bobl anabl yr un cyfle â phobl arall.gael gwared ar bob gwahaniaethu ar sail annheg sy’n

anghyfreithlon o dan y Ddeddf.sicrhau na chaiff pobl anabl eu herlid oherwydd eu

hanabledd.feithrin agwedd bositif tuag at bobl anabl.annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd

cyhoeddus.gymryd anabledd pobl i ystyriaeth hyd yn oed pan fydd

hynny’n golygu ffafrio’r person anabl (e.e. darparu manparcio ar gyfer pobl anabl wrth ymyl adeilad, heb gynnig yrun cyfleusterau i ymwelwyr neu weithwyr eraill).

Mae hefyd ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyhoeddi cynllun cydraddoldeb anabledd sy’n dangos sut ybwriadant gyflawni’r dyletswyddau hyn. Mae’n rhaid cynnwys pobl anabl yn y gwaith cynllunio a gweithreducynlluniau gweithredu sy’n dangos yn union sut y bydd ycyrff yn cyflawni eu gwahanol ddyletswyddau.

Grym cyfreithiol

Page 6: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

6

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Diffinio AnableddMae namau’n ymrannu’n fras yn bum gwahanol grwp:

namau symud / corfforolnam ar y llygaidnam ar y clywanawsterau dysguproblemau iechyd meddwl

Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn anfodlon sônamdanynt eu hunain fel pobl anabl ac y gwahaniaethir ynerbyn rhai pobl anabl ar fwy nag un sail.

Dyma sut y mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd1995 yn diffinio anabledd:“Mae person yn anabl pan fo nam corfforol neu feddyliolarno sy’n amharu’n sylweddol ac yn y tymor hir ar ei allu iymgymryd â gweithgareddau dyddiol arferol.”

Roedd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 wediehangu’r diffiniad hwn. Erbyn hyn, mae’n cynnwys poblsy’n dioddef o HIV, canser, sglerosis ymledol neu unrhywgyflwr cynyddol arall sy’n debyg o newid dros gyfnod oamser ac amharu’n sylweddol ar eu gallu i ymgymryd âgweithgareddau dyddiol arferol.

^

Page 7: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

7

Crynodeb Weithredol

Tîm Cydraddoldeb

Asesu Effaith Cydraddoldeb

Cael gwared ar wahaniaethu ar sail annheg a phob problem arall sy’n rhwystro’r cyngor rhag cyflogi pobl achyflwyno gwasanaethau, yw rôl tîm cydraddoldeb. Mae eiwaith ar hyn o bryd yn ymdrin â phob gwahaniaethuannheg ar sail:

rhywanableddhilcrefyddrhywioldeby Gymraegoedran

Mae dyletswydd arnom iystyried effaith bosiblpolisïau a dulliau gweithredu’r cyngor ar eistaff a’r gymuned fel ei gilydd. Gan hynny, byddwnyn asesu pob prif bolisi adull gweithredu cyfredol anewydd drwy gynnal asesiadeffaith cydraddoldeb. Dymabroses sy’n asesu effaith einpolisïau a’n harferion arunigolion a grwpiau perthnasol.

Page 8: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

8

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Rydym yn datblygu manylebau, telerau ac amodau sy’nadlewyrchu ein hymrwymiad i gydraddoldeb er mwyn caeleu cynnwys yn ein contractau â darparwyr gwasanaethauallanol. Byddwn yn adolygu prif gontractau bob blwyddyn.

Prynu

Rydym am gyflogi, datblygu a chadw mwy o staff anabl, acer mwyn meithrin agwedd bositif tuag at anabledd yn ycyngor, byddwn yn hyrwyddo’r model cymdeithasol.

Byddwn yn defnyddio symbol

‘’ y Ganolfan Byd Gwaith arein holl hysbysebion am swyddier mwyn dangos ein bod yn fod-lon cyfweld â phob ymgeisyddanabl sy’n meddu ar y sgiliauangenrheidiol. Byddwn hefyd yncysylltu â Remploy acYmddiriedolaeth Shaw er mwynhelpu pobl anabl sy’n chwilio amwaith i baratoi ar gyfer cyfweliad.

Byddwn yn addasu ar gyfer staffpresennol a newydd yn ôl ygofyn, pan fo hynny’n rhesymol.Byddwn yn ymgynghori â’rGanolfan Byd Gwaith yn

Cyflogi

Page 9: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

9

Crynodeb Weithredol

rheolaidd ac yn dilyn ei chynllun Mynediad i Waith ermwyn cwblhau’r gwaith addasu.

Rydym wedi archwilio’n hadeiladau’n ofalus er mwyngweld a fo’n hawdd i bobl anabl eu defnyddio. Mae arianwedi’i glustnodi ar gyfer gwella adeiladau lle y mae’r galwmwyaf am hynny. Rydym hefyd wedi llunio canllawiau arwella ein hadeiladau ar gyfer ymwelwyr anabl, a chafoddrheolwyr adeiladau eu hyfforddi i gynnwys gwaith addasuwrth gynnal a chadw a gwella adeiladau’n gyffredinol.

Fel sefydliad sy’n darparugwasanaethau ar gyfer ycyhoedd y mae’r Cyngor am:

sicrhau bod gwasanaethau’rCyngor yn decach i bobl anablac yn haws i bobl anabl eudefnyddio;

annog pobl anabl i gymrydmwy o ran mewn bywydcyhoeddus;

sicrhau bod pobl anabl ygymuned yn fwy bodlon arwasanaethau.

Addasrwydd adeiladau

Darparu Gwasanaethau

Page 10: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

10

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Cewch hyd i wybodaeth benodol ar gyfer pobl anabl arwefan wobrwyedig y Cyngor. Mae manylion am bolisïaucydraddoldeb anabledd ac arferion cyflogi (sef yr hyn ygallai ymgeiswyr a staff anabl ei ddisgwyl). Cewch wybodaeth hefyd am addasrwydd a chyfleusterau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ac ychydig o eiriaugan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio i’r Cyngor.Mae gwefan y Cyngor yn cynnig dewis o feintiau ffont a‘thestun yn unig’ i bobl â nam ar eu llygaid. Bydd yndarparu testun mwy o faint mewn lliwiau sy’n creu gwellcyferbyniad rhwng y testun a’r cefndir.

Rydym wedi sefydlu canolfan gyswllt er mwyngweddnewid y math o wasanaeth y bydd y Cyngor yn eiroi i’w gwsmeriaid. Mae gweithwyr y Ganolfan wedi caeleu hyfforddi ynglyn â chydraddoldeb,a bwriadwn ddatblygu rhaglenni hyfforddi arbenigol ar eu cyfer ynystod y tair blynedd nesaf.

Rydym hefyd yn gobeithio sefydlunifer o siopau-un-stop mewn trefifel y bo’n haws defnyddio’ngwasanaethau. Bydd gan bobl anabllais yn y broses gynllunio er mwyn ini gael sicrhau bod yr adeiladau’naddas ar eu cyfer.

Cyfathrebu

Y Ganolfan Gyswllt a siopau-un-stop

^

Page 11: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

11

Crynodeb Weithredol

Llywodraethwyr ysgolion sy’n gyfrifol am lunio polisïaucydraddoldeb anabledd. Cynhelir arolwg yn 2010 o danoruchwyliaeth Pennaeth Gwasanaeth Anghenion DysguYchwanegol.

Addysg

Yn 2010, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau araddasu cerbydau trwyddedig ar gyfer defnyddwyr cadeiri-au olwyn. Byddwn wedyn yn llunio polisi er mwyn sicrhaubody cyfarwyddyd hwn yn cael ei ddilyn.

Bydd y Cyngor yn darparu nifer o fannau parcio ar gyferpobl anabl ar hyn o bryd. Bwriadwn adolygu’r cynllun cynbo hir er mwyn trafod y posibilrwydd o ddarparu hefyd argyfer pobl sy’n dal bathodyn glas ar ran person anabl sy’n

methu â gyrru. Byddwn hefyd ynystyried cyflwyno cosb sifil amgamddefnyddio mannau parcio argyfer pobl anabl.

Parcio a Thrafnidiaeth

Page 12: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

12

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Penodwyd Swyddog Chwaraeon Anabledd amser llawn ynRhagfyr 2009 er mwyn cael symud cynlluniau ym maeschwarae a chwaraeon yn eu blaen. Bwriadwn ddarparurhagor o hyfforddiant cydraddoldeb anabledd ar gyfer staffcanolfannau hamdden a chyrsiau hyfforddi ar gyfer perfformwyr anabl.

Chwaraeon a Hamdden

Mae taliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol nadydynt yn rhai preswyl wedi’u seilio ar hyn o bryd ar allu’rcleient i dalu. Bydd y taliadau’n cael eu pennu drwy ddilyncyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad sydd i’w adolygu cynbo hir. Pan fydd y cyfarwyddyd newydd ar gael, byddwnyn sicrhau bod gan bobl anabl ran yn y broses

ymgynghori. Mae apeliadau’nerbyn taliadau’n dilyn tri cham,a bydd y cam olaf yn gofyn amddadlau’r achos gerbron panelo gynghorwyr. Caiff y broseshon ei hadolygu fel rhan o’rcynllun gweithredu er mwynsicrhau ei bod yn deg.

Gofal Cymdeithasol

Page 13: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

13

Crynodeb Weithredol

Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd

Canmoliaeth a Chwynion

Bydd y Cyngor yn darparu hyfforddiant cydraddoldebanabledd ar gyfer ei staff yn ogystal â chyrsiau ymwybyddi-aeth o’r byddar, Iaith Arwyddion Prydain ac ymwybyddiaethweledol. Mae’n rhaid i reolwyr sy’n dilyn cyrsiau hyfforddi-ant recriwtio hefyd ddilyn hyfforddiant cydraddoldebanabledd, a bydd yr hyfforddiant hwnnw’n cael ei drafod ynystod sesiynau adolygu datblygiad personol. Rydym newyddlansio cwrs ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ar gyfer staff,ar y cyd â MIND yn y Fro.

Byddwn yn ceisio denu mwy o bobl i ddilyn ein cyrsiaucydraddoldeb anabledd ac yn codi ymwybyddiaeth oanabledd a’r problemau sy’n rhwystro pobl anabl rhag man-teisio ar swyddi a gwasanaethau. Byddwn hefyd yn hyrwyd-do’r model cymdeithasol o anabledd ac yn gweithio drossefydlu egwyddor cydraddoldeb ym mhob rhan o’r Cyngor.

Os ydych yn teimlo ein bod wedi methu â chydymffurfioâ’n gofynion cyfreithiol o dan y cynllun hwn, cewch roigwybod i ni drwy gysylltu â:Nicola Hinton/Linda BrownSwyddogion Cydraddoldeb CorfforaetholCyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, y Barri CF63 4RU Ffôn: 01446 709803E-bost: [email protected]

[email protected]

Page 14: Cynllun Cydraddoldeb Anabledd crynodeb weithredol Council... · rhoi pobl anabl o dan anfantais, ac yn benderfynol o gael ... gan aelod anabl o staff am ei brofiad o weithio iIr Cyngor

14

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd 2010-2013

Os yw eich cwyn yn ymwneud â gwasanaethau, y mae tricham i’w dilyn er mwyn ei lleisio. Yn gyntaf oll, dylech gaelgair â’r adran berthnasol (un ai drwy alw heibio neu drwyffonio, ysgrifennu neu anfon neges ffacs neu e-bost).Cewch fanylion llawn am y drefn gwyno ar wefan yCyngor.

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn bob tair blynedd ac yncyhoeddi adroddiad ar y cynnydd bob blwyddyn ar eingwefan.

Arolwg

^