cynnwys - cadr.cymru
TRANSCRIPT
Cynnwys Rhagair ........................................................................................................................................................ 1
Cyflwyniad .................................................................................................................................................. 2
Crynodeb Adroddiad Blynyddol .............................................................................................................. 3
Cwrdd â’r Tim 2018-2019 ........................................................................................................................... 5
Pecynnau Gwaith ...................................................................................................................................... 7
Amgylcheddau o Heneiddio: Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Bywiadwy ........................................ 7
Unigrwydd, Unigedd a Gwydnwch ...................................................................................................... 8
Agweddau Gofal Cymdeithasol o Heneiddio: Gweddnewid Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref
yng Nghymru........................................................................................................................................... 9
Dulliau Creadigol ar gyfer Pobl Hŷn a Gofal Dementia.................................................................... 10
Dealltwriaeth Pellach o Geneteg o Ddementia gyda Chyrff Lewy ................................................. 12
Cymunedau Cefnogi Dementia ......................................................................................................... 13
Gwaith, Ymddeoliad a Gwahaniaethu ............................................................................................. 14
Cyflawniadau Allweddol: Ymrwymiad Cyhoeddus ac Ymglymiad .................................................... 15
Cyflawniadau Allweddol: Ymrwymiad gyda Gweithwyr Proffesiynol Gofal Cymdeithasol 17
Cyflawniadau Allweddol: Ymgysylltu Masnachol ................................................................................. 18
Cyflawniadau Allweddol: Gwella Cydweithio: GIG a Gwneuthurwyr Polisi ....................................... 19
2018-19 mewn Ffigyrau ............................................................................................................................ 20
Sicrhau Effaith Hir-dymor .......................................................................................................................... 21
Partneriaid CADR ..................................................................................................................................... 23
Adnoddau ................................................................................................................................................ 24
Cysylltu â Ni............................................................................................................................................... 24
RHAGAIR Mae'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn darparu'r seilwaith ar gyfer
ymchwil rhyngddisgyblaethol i ddatblygu dealltwriaeth newydd o heneiddio a dementia.
Yn yr adroddiad hwn, disgrifir ein hymchwil a'n gweithgareddau dan amrywiol themâu. Er
hynny, mae CADR yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob thema yn cysylltu â'i gilydd. Mae
gwneud hynny'n siapio llwybrau gwyddonol newydd ac yn rhoi llwyfan i ni gynhyrchu
cyllid ymchwil newydd, ac i gefnogi a datblygu ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol gyda
gweledigaethau newydd ar gyfer heriau gwyddonol heneiddio a dementia yn y dyfodol.
Rydym wedi parhau i gynyddu nifer y grantiau a gesglir trwy ddarparu llwyfan ar gyfer
ymchwil amlddisgyblaethol sy'n gystadleuol yn rhyngwladol, adeiladu màs critigol a
chefnogi myfyrwyr PhD, ac ymchwilwyr gyrfa gynnar. Er mwyn sicrhau ein bod yn
dylanwadu'n gadarnhaol ar iechyd a lles pobl Cymru, yn 2018-2019 rydym wedi cryfhau
cyfranogiad deiliaid diddordeb a'r cyhoedd. Rydym wedi diffinio ymglymiad cyhoeddus
fel y datblygiad o bartneriaethau sy’n dylanwadu pa ymchwil sydd wedi ei wneud, sut
caiff ei wneud a beth sy’n digwydd i’r canlyniadau. Rydym wedi diffinio ymrwymiad
cyhoeddus fel gweithgareddau sy’n galluogi’r cyhoedd i ryngweithio gydag ymchwil, yn
enwedig gweithgareddau sy’n darparu cyfnewid dwy ffordd o syniadau a barnau. Mae
cyd-gynhyrchu wedi bod wrth wraidd popeth a wnawn, gan lunio cynigion newydd, ein
cyfeiriad strategol yn y dyfodol a hwyluso trosiad o ymchwil i arfer a pholisi.
Mae CADR wedi blaenoriaethu ymchwil sy'n mynd i'r afael â materion a godwyd gan
ddeiliaid diddordeb, yn enwedig pobl hŷn, pobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr.
Er bod sefyllfa'r DU yn yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn fater trafod, rydym wedi bod
yn ymwybodol bod argaeledd cyllid yn debygol o newid yn y blynyddoedd i ddod. Er
mwyn cynyddu ein siawns o gystadlu'n llwyddiannus am gyllid, rydym wedi cynyddu ein
graddfa uchelgais. Credwn fod y mentrau mawr newydd y mae CADR wedi cyfrannu
atynt neu wedi'u harwain (Dementias Prin a Chefnogaeth, y Ganolfan Adeiladu Ynni
Gweithredol, y Sefydliad Heneiddio'n Greadigol, Gofal Cynaliadwy), yn gwella ein gallu i
gystadlu am ymchwil ymhellach. Credwn edrycha’r dyfodol yn ddisglair: bydd ein rôl
ganolog yn Sefydliad y Diwydiannau Creadigol mewn Heneiddio (i'w gadarnhau) yn
cynyddu cyfleoedd ariannu trwy gynyddu hyder yn ein gallu i brofi arloesedd mewn
Labordy Byw, gan luosi effaith economaidd, iechyd a llesiant. Bydd CADR yn bodloni
disgwyliadau cyllidwyr ar gyfer cynigion mawr, uchelgeisiol a heriol,
sydd angen cydweithrediad aml-sefydliad ac amlddisgyblaethol,
ac mae ein hygrededd yn cael ei danategu gan ein seilwaith a'n
gallu ymchwil rhagorol.
Wrth i CADR adeiladu a datblygu dros amser, rhown Gymru ar flaen
y gad yn y maes. Gyda phrofiad amlwg ac arbenigedd blaenllaw
ar draws y disgyblaethau cysylltiedig, bydd gwybodaeth newydd
sy'n deillio o'r Ganolfan yn cael yr effaith drawsnewidiol fwyaf ar
raddfa ranbarthol a byd-eang.
Yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwr
CYFLWYNIAD
Bwriad Ariennir y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) gan Lywodraeth
Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ein bwriad yw datblygu canolfan ymchwil integredig o'r radd flaenaf sy'n pontio
gweithgarwch amlddisgyblaethol a datblygu meysydd o arbenigedd o bolisi biolegol,
seicolegol-gymdeithasol ac amgylcheddol i bolisi heneiddio a dementia.
Nod Ein nod yw gwella bywydau pobl hŷn trwy integreiddio ymchwil, polisi ac ymarfer.
Amcanion Strategol Trwy gyfres o becynnau gwaith a themâu trawsbynciol rydym yn…..
Darparu'r seilwaith i alluogi ymchwilwyr blaenllaw mewn ymchwil heneiddio a
dementia i gystadlu'n fyd-eang trwy ddatblygu ymhellach gryfderau ymchwil
beirniadol a chydweithrediadau.
Datblygu ac adeiladu gallu ymchwil i ddanategu fwy o gasglu grantiau yn y
dyfodol, sefydlu adnoddau ymchwil hanfodol, sgiliau a thechnolegau newydd,
ac adeiladu màs critigol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar, myfyrwyr PhD a
Chymrodorion Ymchwil
Darparu llwyfan ar gyfer ymchwil amlddisgyblaethol a throsiadol sy'n gystadleuol
yn rhyngwladol a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles pobl Cymru
Hwyluso trosiad o ganfyddiadau biolegol a seicogymdeithasol i ymarfer clinigol
a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, lledaenu canfyddiadau
ymchwil a sefydlu blaenoriaethau ymchwil a chydweithio, a gweithio gyda hwy
i wella gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru
Cynnwys y cyhoedd i sicrhau bod ymchwil y Ganolfan yn mynd i'r afael ag
anghenion pobl hŷn, pobl â dementia a gofalwyr yn ogystal â'r cyhoedd yn
gyffredinol
Datblygu a hwyluso cysylltiadau busnes a chlinigol, gan gyfrannu at iechyd a
chyfoeth Cymru yn ogystal â gwella'r sector Gwyddorau Bywyd
Tudalen 2
CRYNODEB ADRODDIAD BLYNYDDOL
Mae CADR yn cynnwys wyth pecyn gwaith. Mae ein cyflawniadau dros y flwyddyn
ddiwethaf (2018-2019), wedi'u disgrifio'n llawn yn yr Adroddiad Blynyddol hwn, ac fe'u
crynhoir isod.
Amgylcheddau o heneiddio: Cyfeillgar i oed a chymunedau bywiadwy
Mae'r thema waith hon yn mynd i'r afael ag amgylcheddau sy'n ystyriol o oedran a
dementia. Eleni rydym wedi:
Gweithio gyda pheirianwyr i sicrhau cyllid ar gyfer yr Active Building Centre (£36m)
Cyd-gynhyrchu atebion ar gyfer systemau trafnidiaeth sy'n gyfeillgar i oedran ym
Manceinion a’r ardaloedd cyfagos
Dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaeth tai newydd yng Nghymru
Unigrwydd, unigedd a gwydnwch
Gafaela’r thema hon ag unigrwydd, unigedd, gwydnwch ac allgáu cymdeithasol. Eleni
rydym wedi:
Sicrhau cyllid (£4.5m) ar gyfer rhaglen ymchwil 5 mlynedd ar ddementias prin a
chymorth
Cyhoeddi adolygiad beirniadol yn sefydlu model cysyniadol newydd o waharddiad o
gysylltiadau cymdeithasol
Aelodau o brosiect Ewropeaidd ROSEnet, wedi cyfieithu Gwneud Gwahaniaeth:
Canllaw Poced i'ch helpu i ddelio ag unigrwydd i wahanol ieithoedd, ac ychwanegu
rhestrau lleol penodol o gysylltiadau defnyddiol
Gweddnewid cartrefi gofal a gofal yn y cartref yng Nghymru
Ffocysa’r thema yma ar ymchwil ar ofal cymdeithasol wrth ymwneud â phobl hŷn, pobl â
dementia a gofalwyr. Eleni rydym wedi:
Darpari arbenigedd i Fwrdd Ymgynghorol Gweinidogaethol Llywodraeth Cymru ar
Yrfaoedd
Sicrhau cyllid am Feistr drwy Ymchwil KESS i werthuso ‘Dementia Go’
Lansio ENRICH Cymru yng Ngogledd Cymru a chynyddu rhwydwaith cenedlaethol
cartrefi gofal (20+) yn barod ar gyfer ymchwil yng Nghymru
Sicrhau cyllid am ysgoloriaeth PhD oddi wrth Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru
ac wedi apwyntio Maria Caulfield ar: ‘Cyd-greu, Comisiynu a Chyflwyno Egwyliau Byr
Ystyrlon: Integreiddio Ymchwil, Polisi ac Ymarfer’
Dulliau creadigol ar gyfer pobl hŷn & gofal dementia
Bwriad y thema yma yw gwneud gwahaniaeth drwy’r celfyddydau i ansawdd bywyd a
llesiant pobl hŷn, y rheiny’n byw â dementia a’u gofalwyr. Eleni rydym wedi:
Cyflwyno cynllun busnes i Swyddfa Cronfeydd yr UE yng Nghymru dros Gronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer Sefydliad o Ddiwydiannau Heneiddio Creadigol
(£3.9 m)
Darparu arbenigedd i Grwpiau Dementia Llywodraeth Cymru (datblygiad a
gweithrediad)
Cyfwyno hyfforddiant i dros 100 o ymarferwyr mewn partneriaeth ag Engage Cymru
Tudalen 3
Datblygu ac arbrofi rhaglen datblygu staff sydd wedi eu hysbrydoli gan y celfyddau
mewn parterniaeth â Chyngor Sir y Fflint.
Deall geneteg clefyd Alzheimer mewn cyd-destunau cymdeithasol
Adnabydda’r thema yma ffactorau tueddiad genetig ac amgylcheddol prin i glefyd
Alzheimer. Eleni rydym wedi:
Cwblhau dadansoddiad genetig o 1500 o samplau o garfan Cymru CFAS
Recriwtio myfyriwr PhD i ddatblygu sgorau risg gan integreiddio mesurau genetig ac
epidemiolegol
Dealltwriaeth pellach o geneteg o ddementia gyda chyrff Lewy
Gan ddefnyddio arbenigedd a enillwyd mewn adnabod ffactorau risg genetig ar gyfer
clefyd Alzheimer, bellach rydym n ymchwilio’r ffactorau genetig sy’n cyfrannu i’r risg o
ddatblygu dementia gyda chyrff Lewy (DLB), math o ddementia sy’n aml yn cael ei
esgeuluso a’i dan-ymchwilio. Eleni rydym wedi:
Dechrau recriwtio ymgeiswyr o 65 Sefydliad GIG ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban
Defnyddio carfan CADR DLB fel trosoledd i geisio am £3 miliwn o incwm ymchwil
Cymunedau cefnogi Dementia
Datblyga’r thema yma ymchwil sy’n rhoi pobl sy’n byw â dementia a’u cefnogwyr ‘Ar y
blaen’. Eleni rydym wedi:
Cyflwyno digwyddiad cenedlaethol – ‘Cysylltu Cenedlaethau: Dathlu a Dysgu’
Ymestyn Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru mewn i Ganolbarth Cymru – 384
aelod
Wedi sicrhau cyllid ar gyfer Meistr drwy Ymchwil: ‘Gweithredu Ymchwil Rhyng-
genedlaethol’
Darparu arbenigedd mewn i’r ddarpariaeth o’r iaith Gymraeg mewn gofal dementia
Gwaith, ymddeoliad a gwahaniaethu
Nod y thema waith hon yw nid yn unig gwella canlyniadau'r farchnad lafur i weithwyr
hŷn, ond hefyd i frwydro’n erbyn gwahaniaethu ar sail hunaniaeth ac oedran. Adeilada
ar yr ymgyrch fyd-eang, a arweiniwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i fynd i'r afael ag
oedraniaeth, gwahaniaethu a rhagfarn. Eleni rydym wedi:
Cynnal sioeau teithiol gyda phobl hŷn ledled Cymru sydd wedi darparu
mewnwelediadau gwerthfawr i’r heriau a chyfleoedd gweithlu heneiddio yng
Nghymru.
Lansio adroddiad terfynol ar TrAC yn y Senedd a gwneud argymhellion am
wasanaethau iechyd a gofal ar gyfer oedolion hŷn traws.
Amlinella’r adroddiad yr ymgysylltiad â'r cyhoedd, masnach a diwydiant, y GIG,
gwneuthurwyr polisi a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol. Yn gyffredinol, mae
CADR wedi cael blwyddyn gynhyrchiol iawn: rydym wedi sicrhau incwm grant o tua £41.7
miliwn, ac wedi cynhyrchu 25 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid, rhai ohonynt
wedi'u cyhoeddi mewn cylchgronau gwyddonol sydd â'r effaith fwyaf yn ein gwahanol
ddisgyblaethau. Rydym wedi trefnu 2,880 o gyfleoedd i gynnwys y cyhoedd yn ein
hymchwil ac ymgysylltu gyda’n hymchwiilwyr. Cawsom 3,538 o ddefnyddwyr gwefannau
newydd gyda 21,238 o edrychiadau ar dudalennau, a gwnaethom 155,205 o
argraffiadau Twitter yn ystod y flwyddyn gyda chynnydd net o 384 o ddilynwyr.
Tudalen 4
Dr Deborah Morgan Dr Ewen Sommerville
Ms Maria Cheshire-Allen Dr Jennifer Roberts
Dr Bethan Winter Ms Johanna Davies
Ms Carol Maddock
Mr Alun Meggy
Ms Rachel Marshall
Cyfarwyddwr
Yr Athror Vanessa Burholt
CWRDD Â'R TÎM 2018-2019
Mae tîm CADR yn cynnwys academyddion,
ymchwilwyr a staff cymorth o dair o brifysgolion
fwyaf blaenllaw Cymru: Abertawe, Bangor a
Chaerdydd.
Bwrdd Gweithredol CADR
Tîm Cefnogi Ymchwil CADR
Tîm Gweithredol CADR
Cyfarwyddwr Cyswllt
Yr Athro Gill Windle
Cyfarwyddwr Cyswllt
Dr Rebecca Sims
Rheolwr Prosiect
Ms Rhian Williams
Cefnogaeth Ymchwil
Ms Catherine Gale
Cefnogaeth Ymchwil
Ms Iona Strom
Tudalen 5
Arweinwyr Thema CADR
Amgylcheddau o Heneiddio
Yr Athro
Charles Musselwhite
Yr Athro Norah Keating
Unigrwydd, unigedd a
gwydnwch
Yr Athro Vanessa Burholt
Yr Athro Gill Windle
Gweddnewid cartrefi gofal
a gofal yn y cartref
Dr Diane Seddon
Ms Stephanie Watts
Dulliau creadigol ar gyfer
oedran hŷn a dementia
Yr Athro Gill Windle
Dr Kat Algar-Skaiffe
Gwaith, ymddeoliad a
gwahaniaethu
Athro Cyswllt
Martin Hyde
Dr Christine Dobbs
Gwella Cydweithio:
GIG
Yr Athro Andrea Tales
Dr Amy Jenkins
Gwella Cydweithio:
Isadeiledd & Gwneuthurwyr Polisi
Athro Cyswllt
Sarah Hillcoat-Nallétamby
Deall Geneteg Clefyd Dealltwriaeth genetig o
Alzheimer mewn cyd-destunau ddementia & chyrff Lewy
Cymdeithasol Dr Rebecca Sim Yr Athro Antony Bayer
Dr Adele Pryce Roberts Yr Athro Valentina Escott-Price
Yr Athro Julie Williams
Cymunedau cefnogi Dementia
Dr Catrin Hedd Jones
Mr Ian Davies-Abbott
Page 6
PECYNNAU GWAITH Amgylcheddau o Heneiddio:
Cymunedau Cyfeillgar i Oed
a Bywiadwy
Mae'r pecyn gwaith hwn yn ymwneud ag ymchwil
ar yr amgylchedd awyr agored, trafnidiaeth,
ardaloedd gwledig a difreintiedig, a thai. Mae'n
effeithio ar agendâu cymunedol sy'n ystyriol o oed ac
yn fywiog trwy drosi’r gwaith yn arfer.
Gweithio tuag at gludiant sy’n gyfeillgar i oed
Rydym eisoes wedi gweithio gyda phobl hŷn ym Manceinion
a’r ardaloedd cyfagos i gyd-gynhyrchu atebion i rwystrau i
gludiant. Ar hyn o bryd mae cludiant i Fanceinion yn ymateb i
bump argymhelliad, sy’n: Hyfforddi staff sy’n gweithio mewn cludiant am faterion
pobl hŷn
Creu cyfleoedd ar gyfer pobl hŷn i gymryd rhan mewn
cynllunio a dylunio cludiant
Gweithio gyda sectorau arall i helpu rheoli cludiant a
mynnu gwell
Gwneud y defnydd gorau o adnoddau cymunedol
Creu cymunedau arddangoswr technoleg
Cost-effethiolrwydd o addasiadau tai
Mae’r Dunhill Medical Trust wedi dyfarnu grant o £137K ar gyfer ymchwil sy’n asesu cost-
effeithiolrwydd addasiadau’r cartref ar gyfer pobl hŷn. Gan adeiladu ar brosiect cyfredol
a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sef Safe in my Own Home a arweinir gan
CADR, mae prosiect Dunhill yn gydweithrediad rhwng Prifysgolion Leeds, Lerpwl ac
Abertawe. Defnyddia’r astudiaeth ddata dienw am addasiadau cartref a ddarperir gan
asiantaethau Gofal & Thrwsio Cymru ac yn cysylltu hyn â data iechyd a gofal o'r Data
Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddiogel (SAIL). Bydd yr ymchwil yn helpu gwneuthurwyr polisi
a chomisiynwyr i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar dargedu
addasiadau i'r cartref er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian.
Trefnir ein gwaith yn
wyth prif thema o'r
enw pecynnau
gwaith. Yma rydym
yn disgrifio rhai o'n
cyflawniadau
allweddol ym mhob
thema ymchwil
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Gweithio gyda pheirianwyr y Ganolfan Adeiladu Ynni Gweithredol, gan edrych ar
effaith adeiladau actif wedi eu pweru gan solar ar dlodi tanwydd, iechyd a llesiant ar
gyfer pobl hŷn (t.18)
Datrysiadau pobl hŷn ar y cyd ar gyfer cludiant cyfeillgar i oed ym Manceinion
Prosiect newydd ar y cyd yn archwilio effeithiolrwydd cost o addasiadau cartref ar
gyfer pobl hŷn
Tudalen 7
Unigrwydd, Unigedd a Gwydnwch Adeilada’r pecyn gwaith hwn ar draddodiad hanesyddol gerontoleg gymdeithasol yng
Nghymru, a'r wybodaeth ac arbenigedd helaeth ar allgáu cymdeithasol, cymorth
cymdeithasol, unigrwydd a gwydnwch yn y boblogaeth hŷn. Mae ymchwil o dan y thema
hon yn defnyddio data o ffynonellau presennol fel Swyddogaeth Wybyddol ac
Astudiaethau Heneiddio Cymru. Eleni, rydym wedi sicrhau cyllid mawr ac wedi gwneud
cynnydd sylweddol yn ein dealltwriaeth o allgáu cymdeithasol yn ddiweddarach mewn
bywyd.
Dementias Prin a Grwpiau Cefnogi
Roedd CADR yn allweddol i sicrhau £4.5m o gyllid y DU i
Gymru gynnal ymchwil dementia newydd fel rhan o Fenter
Ymchwil Dementia ESRC-NIHR 2018. Fe wnaeth y rhaglen
waith 5 mlynedd - The impact of multicomponent support
groups for those living with rare dementias – a arweiniwyd
gan University College London, ganolbwyntio o amgylch
pobl sy’n byw gyda dementias prin, a bydd yn cynnwys yr
astudiaeh fwyaf gyntaf o werth grwpiau cefnogi ar gyfer pobl
yn byw gyda neu’n gofalu am rywun â ffurf o ddementia prin.
Mae hyn yn bwysig oherwydd bod gan oddeutu cwarter o bobl sydd â dementia un o’r
ffurfiau llai cyffredin. Mae’r dementias prin yma yn fwy cyffredin mewn pobl ifanc (o dan
65 mlwydd oed), sy’n aml yn gorfod rheoli gwaith, gofal plant a morgais. Gall cael
diagnosis fod yn anodd ac yn araf, ac yn aml nid yw’r gwasanaeth ar gael yn dilyn
diagnosis yn cwrdd ag anghenion pobl. Nid yw grwpiau cefnogi a chaffis dementia bob
amser yn berthnasol gan y gall nifer o bobl eraill sy’n mynychu fod llawer yn hŷn, neu
mewn sefyllfa wahanol ac mae ganddynt symptomau gwahanol.
Allgáu cymdeithasol pobl hŷn
Ymunodd CADR â 30 o wledydd partner arall yn y Weithred Gost Reducing
Old-Age Social Exclusion: Collaborations in Research and Policy (ROSEnet).
Eleni cyhoeddodd grŵp gwaith cydberthynas cymdeithasol ROSEnet (a
arweinir ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Burholt), adolygiad beirniadol gan
sefydlu model cysyniadol newydd o allgáu gan gysylltiadau
cymdeithasol. Mae’r grŵp gwaith hefyd wedi cyfieithu cyhoeddiad
CADR/Heneiddio’n Dda yng Nghymru ‘Gwneud gwahaniaeth: Canllaw
poced i’ch helpu i ddelio ag unigrwydd’ mewn i sawl iaith arall ac adolygodd y rhestr o
gysylltiadau defnyddiol i fod yn benodol i wlad. Rydym yn y camau cynllunio olaf ar gyfer
ysgol hyfforddi ROSEnet i’w chynnal yn Abertawe ym mis Mehefin 2019.
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Sicrhau cyllid mawr (£4.5m) ar gyfer rhaglen 5-mlynedd o ymchwil ar gefnogaeth dementia prin
Grŵp gweithio cysylltiadau cymdeithasol ROSEnet (Gweithred Cost UE):
Cyhoeddi adolygiad beirniadol a model cysyniadol o waharddiad o gysylltiadau
Cyfieithu ‘Gwneud Gwahaniaeth: Canllaw poced i’ch helpu i ddelio gydag unigrwydd’
Tudalen 8
Agweddau Gofal Cymdeithasol o Heneiddio:
Gweddnewid Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref yng
Nghymru Mae'r pecyn gwaith hwn yn datblygu ffrwd o ymchwil ar ofal cymdeithasol fel y mae'n
berthnasol i bobl hŷn, pobl â dementia a gofalwyr. Mae ymchwil trosiadol yn dod â gofal
cymdeithasol awdurdodau lleol ynghyd â busnes a diwydiant i adeiladu gallu ymchwil,
cynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac effaith ar ymarfer yn y dyfodol.
Mewn cydweithrediad ag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru (WSSCR) mae hyn yn
cynnwys datblygu Labordy Ymchwil Arloesedd Gofal Cymdeithasol a'r fenter Galluogi
Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) yng Nghymru (gweler t 17).
Labordy Arloesol Gofal Cymdeithasol (#SCIL)
Mae CADR, ar y cyd â'r Alternative Futures Group a WSSCR, wedi sefydlu #SCIL i gefnogi
unigolion i ddatblygu eu syniadau ymchwil. Ym mis Mawrth 2019 cynhaliwyd #SCIL ar
Ddarpariaeth Seibiannau Byr yng Ngogledd Cymru ac fe'i mynychwyd gan gynrychiolwyr
o bob cwr o Gymru. Rhodd y digwyddiad gyfleoedd i:
Gyfnewid a blaenoriaethu syniadau ymchwil ar gyfnodau o seibiannau byr
Lunio gweledigaeth ymchwil o’r UK Short Breaks Research and Practice
Development Group
Adeiladu ymarfer/cydweithrediadau academaidd
Rannu ymarfer da
Gofal Cynaliadwy: Cysylltu Pobl â Systemau
Mae hon yn rhaglen ymchwil amlddisgyblaethol a
ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a
Chymdeithasol. Archwilia sut y gellir gwneud
trefniadau gofal, sydd mewn argyfwng ar hyn o
bryd mewn rhannau o'r DU, yn gynaliadwy ac yn
cyflawni canlyniadau lles. Yn ei flwyddyn gyntaf,
mae aelodau o dîm CADR, yr Athro Norah Keating
a Maria Cheshire-Allen wedi bod yn gweithio tuag
at ddeall a dylanwadu ar les gofalwyr teuluol,
gweithwyr gofal, derbynwyr gofal a systemau
gofal. Eu bwriad yw cyfrannu at les cynyddol holl
aelodau'r rhwydwaith gofal gan ganolbwyntio'n
benodol ar Gymru.
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Rhwydwaith gofal cynaliadwy gwerth £2.5 miliwn yn cychwyn gyda rhaglen PhD o
ymchwil a’r cyhoeddiad o bapur damcaniaethu gofal teulu ar draws cwrs bywyd
Labordy Arloesol Gofal Cymdeithasol (#SCIL) gydag ymarferwyr gofal cymdeithasol
Apwyntiwyd Maria Caulfield ar ysgoloriaeth PhD a ariannwyd (WSSCR) Cyd-greu,
Comisiynu a Chyflwyno Egwyliau Byr Ystyrlon
Lansio rhwydwaith ENRICH Cymru yng Ngogledd Cymru (t.17)
Wedi cael nawdd ar gyfer Meistr drwy Ymchwil KESS i werthuso ‘Dementia Go’
Tudalen 9
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Sicrhaodd Cyngor Sir y Fflint nawdd i weithredu ‘Trafodaethau Creadigol’ (t. 21)
Cyflwyno hyfforddiant i fwy na 100 o ymarferwyr mewn partneriaethau ag Engage Cymru
Cydnabuwyd ymchwil celfyddydau a dementia fel astudiaeth achos mewn adroddiad
HEFCW
Cyflwynwyd cynllun busnes i WEFO ar gyfer Sefydliad y Diwydiannau Heneiddio Creadigol
(t. 22)
Darparu arbenigedd i Grŵp Cynllun Llywodraeth Cymru
Dulliau Creadigol ar gyfer Pobl Hŷn & Gofal Dementia
Cyfuna’r pecyn gwaith hwn gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau, y dyniaethau a'r
fethodoleg a arweinir gan ymarfer i fynd i'r afael â bylchau ymchwil ac i ymgysylltu'n
greadigol â'r cyhoedd a deiliaid diddordeb. Yn ogystal, gweithiwn gyda darparwyr
iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu ein hymyriadau creadigol, gan gefnogi datblygu
arloesedd ymarfer.
Y celfyddydau mewn iechyd a gofal
cymdeithasol
Eleni rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil yn
archwilio effeithiolrwydd creadigrwydd
mewn gofal dementia. Fe wnaethom
ddangos ystod o fanteision nid yn unig ar
gyfer y person yn byw gyda dementia ond
hefyd y staff, artistiaid a gofalwyr teulu ac
rydym wedi rhannu’r canlyniadau yma gyda’r
cyhoedd, academyddion, y celfyddydau, a chynulleidfaoedd ymarferwyr gofal iechyd.
Fe wnaeth datblygiad staff gofal dementia ‘Trafodaethau Creadigol / Creative
Conversations’ wella dealltwriaeth staff gofal o breswylwyr a chyfoethogi eu empathi
gyda’r rhai roeddent yn gofalu amdanynt. Arweiniodd ein partneriaeth ymchwil gyda
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn y prosiect hwn at weithredu ‘Sgyrsiau
Creadigol’ yn Sir y Fflint y tu hwnt i’r prosiect ymchwil ac mae bellach hefyd
yn cael ei gynnig i ofalwyr teulu (gweler tudalen 21).
Dewiswyd ein hymchwil celfyddydau a dementia fel astudiaeth achos ar
gyfer adroddiad HEFCW Innovation Nation: On Common Ground i
amlygu ein partneriaethau gydag awdurdodau lleol a chartrefi gofal
mewn erthygl a elwir yn ‘Art, Imagination, Age and Dementia’ (Mehefin
2018, t.12). Mae hyn yn cydnabod y genhadaeth ddinesig’/
partneriaethau cymunedol sydd wedi'u hymgorffori yn ein hymchwil.
Tudalen 10
Deall Geneteg Clefyd Alzheimer mewn Cyd-destunau
Cymdeithasol Bwriad y pecyn gwaith hwn yw datblygu ein dealltwriaeth o geneteg clefyd Alzheimer
mewn cyd-destunau cymdeithasol drwy archwilio rhyngweithio rhwng genynnau ac
unigrwydd neu unigedd cymdeithasol.
Rhagfynediad Clefyd
Dengys ymchwil flaenorol gan dîm Caerdydd y gallai modelau Sgôr Risg Polygenig nodi'n
gywir unigolion sydd â'r risg uchaf o ddatblygu clefyd Alzheimer. Mae gan argaeledd
model rhagfynegi cywir botensial mawr fel cyfleustodau diagnostig, ac mae eisoes wedi
sbarduno diddordeb gan ein partner masnachol Cytox Ltd, sy'n bwriadu mabwysiadu'r
model datblygedig i'w ddefnyddio gan y cyhoedd.
Dengys y graff isod baich genetig clefyd Alzheimer a esboniwyd gan APOE
(Apolipoprotein E), y ffactor risg genetig cryfaf
ar gyfer clefyd Alzheimer, gan sgôr risg
polygenig lawn (PRS) gan ystyried yr holl
samplau o fewn y boblogaeth, a chan PRS
eithafol llawn gan ystyried yr unigolion hynny
sydd â'r risg enynnol uchaf ac isaf o glefyd yn
unig. Dengys y graff, wrth i’n hyder mewn
diagnosis o glefyd Alzheimer gynyddu, felly
hefyd yw ein perfformiad o’n model
mathemategol o risg enetig Alzheimer sydd
fwyaf cywir o fewn y rhai sydd â'r risg enetig
isaf ac uchaf o’r clefyd.
Adnoddau Newydd
Rydym nawr yn generadu data ar gyfer CFAS CYMRU
Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio (CFAS), gan
edrych ar filiynau o amrywiolion genetig. Rydym wedi
recriwtio myfyriwr PhD a fydd yn defnyddio’r cyfaint
eang o ddata ffenoteip sydd ar gael i CFAS i brofi
modelau Sgôr Risg Polygenic i weld a ydy
rhyngweithiadau â ffactorau amgylcheddol a
chymdeithasol (fel unigrwydd ac unigedd) yn
dylanwadu ar y risg o ddementia.
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Wedi genoteipio carfan CFAS Cymru
Recriwtio myfyriwr PhD i ddatblygu sgorau risg i integreiddio genetig a mesurau
epidemiolegol
Tudalen 11
Dealltwriaeth Pellach o Geneteg o Ddementia gyda
Chyrff Lewy Mae'r pecyn gwaith hwn wedi ymestyn y garfan CADR i
gynnwys unigolion â dementia â chyrff Lewy (DLB). DLB yw
un o'r mathau mwyaf cyffredin o ddementia, math o
ddementia sy'n aml yn cael ei esgeuluso a'i dan-ymchwilio.
Mae diffyg ymchwil yn y maes hwn wedi rhwystro cynnydd
o ran diagnosis a thriniaeth. Yn CADR mae gennym gyfle
digynsail i ddatblygu carfan ymchwil CADR DLB newydd a
gwella'n dealltwriaeth o'r clefyd hwn yn sylweddol.
Casgliad Carfan
Cydweithiwn yn agos â dros 60 o ymddiriedolaethau /
byrddau iechyd y GIG ledled y DU sy'n ffurfio Rhwydwaith
Ymchwil Glinigol y GIG, i ffenoteip yn ddofn a chasglu
samplau biolegol ar 750 o gleifion DLB.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Unwaith y cânt eu casglu, bydd yr adnodd hwn yn rhoi
cyfle digynsail i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect geneteg
DLB mwyaf hyd yn hyn, gan roi cipolwg newydd ar
achosion genetig DLB a'r bioleg sylfaenol sy'n
gamweithredol mewn clefyd.
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Dechrau recriwtio rhai i gymryd rhan ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban
Y ceisiadau trosoledd carfan CADR DLB ar gyfer £3 miliwn o incwm ymchwil
Tudalen 12
Cymunedau Cefnogi Dementia Canolbwyntia’r pecyn gwaith hwn ar bartneriaethau rhwng cenedlaethau a gweithio
gyda phobl sy'n byw â dementia i adeiladu cymunedau sy'n cefnogi dementia. Mae
gweithgareddau CADR yn rhoi grym ac yn cydnabod cyfraniad pobl sy'n byw â
dementia, gan herio ymwybyddiaeth stigma ac adeiladu.
Rhoi grym i bobl sy’n byw â dementia
Mae CADR wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i roi grym i bobl sy’n byw â
dementia mewn nifer o ffyrdd. Rydym wedi:
Gweithio mewn partneriaeth â Innovations in Dementia i helpu ehangu Wynebau
Cyfeillgar – menter cefnogaeth cyfoedion – ar draws gogledd Cymru
Ymestyn Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru mewn i Ganolbarth Cymru
Hwyluso ‘Caban’ – grŵp o bobl sy’n byw â dementia – i gwrdd â myfyrwyr nyrsio cyn-
cofrestru i drafod cynnwys y cwricwlwm nyrsio newydd
Defnyddio grant ‘gweithio gyda’n gilydd’ gan Dementia Innovations i greu ffilm sy’n
casglu profiadau a barnau pobl sy’n byw â dementia. Dengys y ffilm fanteision
cefnogaeth gan gymheiriaid.
Herio Stigma ac Adeiladu
Ymwybyddiaeth o Ddementia
Mae pobl sy'n byw â dementia a'r rhai sy'n
cefnogi ac yn gofalu amdanynt wedi
cyd-gyflwyno yng nghynhadledd CADR
ac wedi cymryd rhan mewn cyfres o
ddiwrnodau hyfforddi yn Sir Ddinbych ar
gyfer rheolwyr cartrefi gofal, gweithwyr
cymdeithasol a gofal iechyd yn Sir
Ddinbych.
Gweithiodd CADR yn agos gyda
Heneiddio’n Dda yng Nghymru i gynllunio
a chyflwyno digwyddiad, Gwneud Cymru
yn Genedl o Gymunedau Cyfeillgar i Oed.
Roedd y digwyddiad yma wedi cynnwys cyflwyniad ar
fyw gyda dementia gan Karen a Robert Beattie (yn y
llun).
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL:
Cyflwyno digwyddiad cenedlaethol – ‘Gwneud Cymru yn Genedl o Gymunedau
Cyfeillgar i Oed’
Estynwyd Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru i ganolbarth Cymru – 384 o
aelodau
Darparwyd arbenigedd i’r ddarpariaeth Gymraeg mewn gofal dementia (t.19)
Cael cyllid ar gyfer gradd Meistr trwy Ymchwil: ‘Gweithredu Ymchwil Rhwng
Cenedlaethau’
Tudalen 13
Gwaith, Ymddeoliad a Gwahaniaethu Y materion allweddol y mae'r pecyn gwaith hwn yn cyfeirio atynt yw gwahaniaethu a
phrofiad gweithwyr hŷn.
Sioe Deithiol gyda gweithwyr hŷn
Mae Cymru yn wynebu gweithlu sy'n heneiddio. Mae
hyn wedi arwain at ymgyrch i godi ymwybyddiaeth
ymhlith cyflogwyr o'r angen i hyfforddi, cadw a
recriwtio gweithwyr hŷn. Er mwyn sicrhau bod y
materion sy'n wynebu pobl hŷn yn cael eu hystyried yn
briodol, trefnodd CADR bum sioe deithiol ledled
Cymru. Gwahoddwyd pobl hŷn i ddod i ddweud eu straeon
wrthym am weithio yn hwyrach mewn bywyd. Clywsom fod
pethau'n anodd i weithwyr hŷn, yn enwedig i'r rhai sydd allan o
waith ac sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag,
clywsom straeon cadarnhaol hefyd, o bobl hŷn yn defnyddio eu sgiliau i sefydlu busnesau
newydd. Mae'n amlwg bod cronfa ddoniau a phrofiad sydd heb eu defnyddio ymhlith
gweithwyr hŷn yng Nghymru. Gweithiwn bellach gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Lerpwl,
Prifysgol Aalto yn y Ffindir a grwpiau cymunedol yng Nghwm Rhondda i ddatblygu
menter gymdeithasol dan arweiniad y gymuned i helpu gweithwyr hŷn i ddychwelyd i'r
gwaith.
Sicrhau bod pobl traws yng Nghymru yn derbyn
iechyd urddasol a chynhwysol a gofal
cymdeithasol yn hwyrach mewn bywyd
Ceisiodd prosiect dwy flynedd Heneiddio a Gofal Traws
(TrAC) ddeall yn well beth yw anghenion iechyd a gofal
cymdeithasol oedolion traws (50+ mlwydd oed) ac i
archwilio pa un a’i ydy darparwyr gwasanaethau iechyd
a gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol yn cwrdd
â’r angehnion hynny yng Nghymru. Lansiwyd adroddiad TrAC yn y Senedd ar 4ydd o Ebrill.
Gwnaethpwyd pump argymhelliad, gan gynnwys gwell hyfforddiant ac addysg ar gyfer
gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn ogystal â chytuno ar feincnod ar y
lefel o gefnogaeth y gall unigolion ddisgwyl ei dderbyn.
Cynhyrchodd prosiect TrAC a My Genderation gyfres o storïau digidol i weithredu fel
canllawiau ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn cefnogi pobl traws
hŷn yn hwyrach mewn bywyd. Mae cyfres #GrowingOlderAsMe yn dilyn cyfranogwyr o
Brosiect Heneiddio a Gofal Traws yng Nghymru. Medrwch hefyd weld trosolwg o’r ffilm
prosiect yn https://youtu.be/2dzDThl3Lw4.
.
CYFLWNIADAU ALLWEDDOL:
Cynhaliwyd sioeau teithiol gyda gweithwyr hŷn y cânt eu defnyddio i ddatblygu menter
cymdeithasol
Gwnaethpwyd argymhellion ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
proffesiynol mewn perthynas â diwallu anghenion oedolion hŷn
Tudalen 14
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL Ymrwymiad ac Ymglymiad y Cyhoedd
Mae ymgysylltiad a chyfranogiad y cyhoedd yn rhan ganolog o waith CADR. Mae
gweithio ar y cyd â phartneriaeth â’r cyhoedd yn golygu y gall unigolion a grwpiau
gyfrannu eu gwybodaeth a'u profiad i ddylanwadu ar ein gweithgareddau ymchwil.
Rydym yn falch o groesawu Join Dementia Research yng Nghymru sydd bellach yn
cynnwys mwy na mil o wirfoddolwyr yng Nghymru.
Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ymglymiad y Cyhoedd
Eleni, roeddem wrth ein bodd i fod yn rhan o brofi Safonau
Cenedlaethol newydd ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Mewn
cydweithrediad ag Ysgol Gofal Cymdeithasol Cymru (WSSCR), ni oedd yr unig ganolfan
‘brawf gwely' yng Nghymru a'r unig safle yn y DU â ffocws gofal cymdeithasol. Mae'r
safonau'n darparu fframwaith ar gyfer ystyried a gwella diben, ansawdd a chysondeb
cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil. Maent yn disgrifio'r blociau adeiladu ar gyfer
cynnwys y cyhoedd yn dda ac yn darparu gwaelodlin o ddisgwyliadau. Mae hyn yn
helpu'r cyhoedd i wybod beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn cymryd rhan mewn ymchwil,
ac yn helpu ymchwilwyr i ddeall yr hyn sydd angen ei wneud i gefnogi cyfranogiad y
cyhoedd.
Mae'r safonau wedi darparu fframwaith ar gyfer myfyrio a gwella ansawdd. Gwnaethom
gynnal archwiliadau o'n gwaith cynnwys y cyhoedd ar ddechrau'r cyfnod prawf ac yna
ar ddiwedd y cyfnod. Mae hyn wedi ein galluogi i nodi meysydd yr oedd angen eu newid
neu eu mireinio er mwyn datblygu a darparu gwell ymglymiad cyhoeddus yn ymarferol.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Jim Fitzgibbon, Lesley Griffiths a Mari James am fod yn
aelodau gweithgar o'n grŵp gwelyau prawf.
Cyfres seminar fisol
Mae CADR yn darparu rhaglen seminar fisol am ddim. Cynhaliwyd digwyddiadau a
seminarau yn Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Lle bo modd, rydym yn cynnig y cyfle i
fewngofnodi a gwylio ein digwyddiadau trwy gysylltiadau fideo byw. Mae copïau o
gyflwyniadau seminar ar gael ar wefan CADR.
Roedd un o'n digwyddiadau mwyaf poblogaidd eleni gan yr
Athro Cyswllt Lena Dahlberg o Brifysgol Karolinska Institutet /
Stockholm. Mae Lena yn arbenigwr rhyngwladol mewn
unigrwydd ac allgáu cymdeithasol yn hwyrach mewn
bywyd. Siaradodd am ba mor gyffredin mae unigrwydd ymysg oedolion hŷn, gan nodi
ffactorau risg a chamau gweithredu i fynd i'r afael ag unigrwydd. Daeth y seminar â thros
30 o fynychwyr ynghyd o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys y cyhoedd,
academyddion, staff y GIG a sefydliadau'r trydydd sector.
Tudalen 15
Gŵyl Pint of Science / Peint o Wyddoniaeth
Nod yr Ŵyl Wyddoniaeth yw cyfathrebu ymchwil i'r
cyhoedd mewn ffordd ddiddorol, ddeniadol a hawdd
mynd ato drwy ddod â gwyddonwyr i'r dafarn. Mae'n
digwydd mewn dros 400 o ddinasoedd mewn 24 o
wledydd. Eleni, cyflwynodd Allyson Rogers, myfyriwr PhD
CADR a'i goruchwyliwr Dr Charles Musselwhite ddarlith
gyhoeddus ar “Drafnidiaeth i'r Dyfodol!” yn nhafarn y Three
Lamps, Abertawe. Trafodwyd materion pobl hŷn gan
gynnwys amseriad croesfan cerddwyr, profion ymateb,
diogelwch gyrwyr, a rhwystrau canfyddedig i ddyfodol heb
yrru.
Cysylltu ‘dros’ Ymchwil Heneiddio a Dementia: Gwneud a Chynnal
Cysylltiadau
Ym mis Hydref 2018 dangosodd Cynhadledd Flynyddol CADR sut mae pob un o'n
cydrannau gwaith ‘yn cysylltu’ ag ymchwil, polisi, ymarfer, llywodraeth a'r cyhoedd. Fe
wnaethom gynnal nifer o weithdai rhyngweithiol yn cwmpasu geneteg a'r dylanwadau
amgylcheddol, ymddeoliad y gweithlu hŷn, trafnidiaeth, celfyddydau creadigol ac
unigrwydd.
Agorodd Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
ein cynhadledd gyda neges fideo lle cydnabu bwysigrwydd y digwyddiad. Cafodd ei
adleisio gan Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Uchelgais y Comisiynydd yw
gwneud Cymru yn lle gwell ar gyfer tyfu'n hŷn. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â nod CADR i
wella bywydau pobl hŷn trwy integreiddio polisi ac
ymarfer ymchwil. Cynhyrchwyd llawer iawn o
ddiddordeb yn ein gwaith yn ystod ac ar ôl
y gynhadledd, gan ennill dros bedwar cant
o dwîts gan ddefnyddio tag stwnsh y
gynhadledd #cadrconf18 a chan mil o
argraffiadau.
.
Wir yn fuddiol, pawb yn fodlon
ateb cwestiynau. Grwpiau trafod
gwych. Diolch i chi y trefnwyr.
Tudalen 16
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL Ymrwymiad gyda Gweithwyr Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
Mae gwaith CADR gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol wedi cael ei
ddatblygu i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac effaith ar
ymarfer yn y dyfodol. Mae gwaith gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn ein
Labordai Arloesi Gofal Cymdeithasol wedi'u cynnwys yn gynharach yn yr adroddiad hwn
(gweler tudalen 9). Isod ceir rhai enghreifftiau pellach o'n gwaith cydweithredol gyda
gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, a gwaith a fydd yn cael effaith yn y dyfodol.
Caffi Dychymyg
Teithiodd y ‘Caffi Dychymyg’ o amgylch y DU yn 2018. Roedd y
gosodiad hwn yn cynnwys arddangosfa o waith celf gan y
prosiect ymchwil Dementia a Dychymyg, ac roedd yn arddangos
amrywiaeth o ymagweddau aml-synhwyraidd y gellir eu
defnyddio mewn gofal dementia. Roedd y rhain yn cynnwys bwyd trwy garedigrwydd
Nourish gan Jane Clarke (yn y llun), gweithgareddau celfyddydau gweledol ar gyfer
iechyd a gofal cymdeithasol a ddyfeisiwyd fel rhan o'r prosiect Dementia a Dychymyg, a
gwybodaeth arbenigol trwy garedigrwydd Dementia UK a Chymdeithas Alzheimer.
Mae'r Caffi Dychymyg hefyd yn cynnwys ‘Byd Winston '-
golygfa go iawn o ddementia gan y
cartwnydd enwog Tony Husband.
Ymddangosodd y ‘Caffi Dychymyg’ yn
Oriel Mostyn, Llandudno (Ebrill), Oriel
Menier, Llundain (Mai) ac yn y Coleg Celf
Brenhinol yng Nghaeredin (Medi).
Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal
Bwriad ENRICH Cymru yw gwella bywydau pobl hŷn sy'n byw
mewn cartrefi gofal ledled Cymru drwy sefydlu rhwydwaith o
gartrefi gofal sy'n barod am ymchwil 'a chefnogi cyd-greu
ymchwil sy'n berthnasol i faterion cyfredol yn y sector cartrefi
gofal. Lansiwyd ENRICH Cymru yng Ngogledd Cymru yn
gynharach eleni (wedi ei lansio yn Ne Cymru y llynedd). Roedd
y digwyddiad yn darparu cyfleoedd i rwydweithio, rhannu arfer
da ac adeiladu cydweithrediadau ymarfer / academaidd.
Mae’r rhwydwaith yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd ymchwil ar
gyfer cartrefi gofal ar draws Cymru. Ym mis Ebrill fe wnaethom
ymestyn groeso cynnes i’r Old Vicarage Nursing Home, Abertawe –
yr 20fed cartref i ymuno â’r rhwydwaith (wele’r llun). Derbyniodd ENRICH Cymru £60K gan
y Ganolfan Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i hybu'r twf a'r
datblygiad dros y 9 mis nesaf. Bydd staff rhanbarthol yn cael eu recriwtio i ymuno â'r tîm.
Syniad arbennig- i rannu’r gair am
ddementia. Hyfryd gweld y
canlyniadau a chlywed y straeon.
Tudalen 17
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL Ymgysylltu Masnachol
Sefydlodd CADR gysylltiadau a chydweithrediadau da gydag ystod o bartneriaid
masnachol, sy'n darparu buddion i ymarferwyr a deiliaid diddordeb eraill, gan ein helpu i
ddod â chynhyrchion i'r farchnad a dylanwadu ar iechyd ac ansawdd bywyd pobl hŷn.
Canolfan Adeiladu Ynni Gweithredol (ABC)
Yn fyd-eang, mae adeiladau'n gyfrifol am tua 40% o allyriadau carbon. Yn y DU maent yn
defnyddio tua 40% o'r holl ynni a gynhyrchir. Bydd yn rhaid i unrhyw ateb i'r argyfwng ynni
fynd i'r afael â mater ynni mewn adeiladau. Ariennir Y Ganolfan Adeiladu Ynni
Gweithredol (ABC) gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol (£36 miliwn). Mae ABC yn
rhan o'r Trawsnewid Sialens Adeiladu, sy'n ceisio gwneud adeiladau'n fwy fforddiadwy,
effeithlon, mwy diogel ac iachach.
Gan weithio gyda phartneriaid academaidd mewn partneriaid peirianneg a diwydiannol
fel Akzo, Nobel, NSG, Pilkington, Wernick a Tata Steel, bydd ABC yn creu Adeiladu Ynni
Gweithredol, sy’nn medru cynhyrchu a storio digon o ynni adnewyddadwy – wedi’u
pweru a'u gwresogi gan yr haul - i ddiwallu eu hunain anghenion neu fwy. Gallai Adeiladu
Ynni Gweithredol gyfrannu'n sylweddol at ddatgarboneiddio'r DU. Cyfraniad CADR i ABC
yw archwilio dylanwad adeiladau preswyl â phŵer solar ar iechyd pobl hŷn, tlodi
tanwydd a lles. Byddwn yn gweithio gyda Coastal Housing, Sero Homes, Bere Architects a
Passivhaus, gyda mwy o bartneriaid masnachol ar y gweill.
Tudalen 18
CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL Gwella Cydweithio: GIG a Gwneuthurwyr Polisi
Mae CADR wedi ymrwymo i wella cysylltiadau cydweithredol gyda'r GIG a llunwyr polisi. Cyflawnir
hyn yn aml trwy hwyluso trosi ymchwil i ymarfer trwy ddigwyddiadau sydd wedi'u hanelu'n
benodol at ymarferwyr neu wneuthurwyr polisi, a gyflwynir yn eu gweithle. Mae gennym
berthynas dda gyda'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, y mae gan lawer
ohonynt ddiddordeb mewn mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn hwyrach
mewn bywyd fel mater iechyd cyhoeddus. Helpwn Awdurdodau Lleol i gynllunio cymunedau sy'n
ystyriol o oedran a dementia.
Cynnwys clinigwyr mewn ymchwil dementia
Mae'r Grŵp Ymchwil Dementia (a sefydlwyd yn 2015) yn trefnu sgyrsiau misol ac yn darparu
cefnogaeth academaidd, ymchwil ac ymarferol amlddisgyblaethol i fyfyrwyr PhD a hyfforddiant
clinigwyr, mewn unrhyw agwedd ar heneiddio, newid gwybyddol a dementia. Mae'r grŵp gyda'i
gilydd yn helpu pobl i ennill sgiliau cyflogadwyedd ac yn gwneud defnydd o'u sgiliau
trosglwyddadwy mewn dilyniant gyrfa. Mae ein grŵp gwirfoddoli ymchwil oedolion hŷn yn parhau
i ffynnu, ac rydym yn galw arnynt yn rheolaidd am gyfranogiad ymchwil, cefnogaeth a syniadau.
Rydym wedi cael ein hariannu ar gyfer astudiaeth o'r radd flaenaf sy'n archwilio prosesu cwsg a
gwybodaeth, yn enwedig yr hyn sy'n ymwneud â chof a sylw, a chysylltedd yr ymennydd mewn
dementia fasgwlaidd a nam gwybyddol fasgwlaidd. Rydym hefyd wedi dechrau astudiaeth sy'n
edrych ar ba ffactorau yn ein hamgylchedd (fel newidiadau sydyn yn yr hyn yr ydym yn ei weld
a'i glywed) a all effeithio ar gydbwysedd sylw a'r gallu i gerdded. Bydd yr astudiaeth hon yn
amlygu ffactorau risg newydd ar gyfer cwympiadau ac ansymudedd mewn oedolion hŷn, yn
enwedig unigolion sy'n byw gyda nam gwybyddol a dementia. Bydd y dystiolaeth a gawn o'r
astudiaeth hon yn llywio'r gwaith o ddatblygu ymyriadau a strategaethau atal cwympiadau, yn
enwedig y rheini sy'n gysylltiedig ag amgylcheddau cartref a chartref gofal.
Anghenion Gwybodaeth Iaith Gymraeg Pobl Hŷn
Eleni cyfrannodd CADR at adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y
Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer (Tachwedd, 2018) a ddaeth i'r
casgliad:
“… Mae angen hybu dealltwriaeth o angen
clinigol pobl â dementia i dderbyn
gwasanaethau yn y Gymraeg”
Mae CADR wedi ymateb i'r angen i gynyddu
ymwybyddiaeth o ddementia gyda
dinasyddion sydd â'r Gymraeg yn iaith gyntaf
iddynt. Mae arian a roddwyd gan ddinasyddion
wedi hwyluso ymgyrch ymwybyddiaeth. Mae
inffograffeg ‘10 Signs of Dementia’ gan
Alzheimer's Disease International wedi cael ei
gyfieithu i'r Gymraeg a'i ddosbarthu i 280 o
glybiau a thrwy 6,000 o gylchgronau chwarterol
Merched y Wawr (Y Wawr).
Tudalen 19
Wawr ar Wawr). A
2018-19 mewn Ffigyrau
Mae’r graff-gwybodaeth yma’n amlygu
peth o’r buddiannau allweddol ac allbynnau
2,880
CYNNWYS Y CYHOEDD &
CHYFLEOEDD YMGYSYLLTU
768
SAMPLAU GAN
BOBL GYDA
DEMENTIA
155,215 ARGRAFFIADAU TRYDAR
3,538 DEFNYDDWYR
GWEFAN
NEWYDD
25 CYHOEDDIADAU
GWYDDONOL
65 SWYDDI A GREWYD
Tudalen 20
£41.7m INCWM
GRANT YMCHWIL
SICRHAU EFFAITH HIR-DYMOR
Er mwyn sicrhau effaith hirdymor ein gwaith, mae ymchwilwyr CADR yn ymgysylltu â
deiliaid diddordeb dros gylch oes eu hymchwil. Yn 2019-2020, rydym yn rhagweld y bydd
ymchwil CADR yn effeithio ar: safonau gofal gwell mewn ymarfer gofal cymdeithasol;
darpariaeth celfyddydau, darpariaeth gofal cymdeithasol a gwasanaeth iechyd mwy
effeithiol ac effeithlon; datblygu cymunedau sy'n ystyriol o oedran a dementia;
masnacheiddio therapïau cyffuriau neu seicogymdeithasol posibl ar gyfer pobl â
dementia; a gwella ymwybyddiaeth y cleifion a'r cyhoedd o'n hymchwil, eu cynnwys a'u
hymgysylltiad. Amlinellir dwy enghraifft o'n heffaith isod.
Dyfodiad trafodaethau creadigol
Sicrhaodd Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y FFlint gyllid gan Lywodraeth
Cymru i gyflwyno raglen datblygiad staff a
elwir yn ‘Trafodaethau Creadigol /Creative
Conversations’ o Ionawr 2019 -2020. Mae
‘Trafodaethau Creadigol’ yn defnyddio
ystod o weithgareddau creadigol
(barddoniaeth, ffilm, cerddoriaeth, creu
celf) i helpu staff wireddu posibiliadau o
fewn gofal dementia.
Mae'n rhoi sgiliau cyfathrebu ymarferol i staff i wella
perthnasoedd gofal rhwng staff a phreswylwyr yn eu harferion beunyddiol. Fe wnaeth 44
o staff gofal gymryd rhan yn y prosiect ymchwil a mynychodd 34 o staff gofal eraill ac 8 o
ofalwyr teulu y rownd gyntaf o sesiynau a ddarparwyd gan Gyngor Sir y Fflint (Ionawr-Ebrill
2019). Disgwylir i'r rownd nesaf ddechrau ym mis Mehefin 2019.
Teclyn Asesiad Amgylcheddol Pobl Hŷn a
addaswyd yn Seland Newydd Y llynedd, arweiniodd gwaith ymchwil o'r astudiaeth Older
People’s External Residential Assessment Tool (OPERAT) a
ariannwyd gan NISCHR at becyn cymorth y gellid ei
ddefnyddio i asesu'r amgylchedd lleol ar gyfer cyfeillgarwch
oedran a dementia. Eleni mae'r offeryn wedi cael ei
ddefnyddio yn Seland Newydd (Napier) i ddatblygu
Strategaeth Gyfeillgar i Oed yn lleol. Hyrwyddodd gwirfoddolwyr OPERAT ymgyrch ‘cadw
lygad ar eich cymydog’ ac roeddent yn allweddol ym mhrosiect Gweithredu Dinas
Bomio Blodau ar Ddiwrnod Sant Ffolant. Mae ein gwefan ryngweithiol yn y DU - lle gall
unrhyw un raddio eu hardal cod post lleol ar gyfer bod yn gyfeillgar i oed a lanlwytho'r
wybodaeth i'r map - wedi'i hadlewyrchu yn Seland
Newydd. Gellir defnyddio asesiadau OPERAT gan
gynllunwyr ac Awdurdodau Lleol i nodi 'mannau poeth' ar
gyfer gwella mewn perthynas a chymunedau oed-
gyfeillgar.
Diolch am arwain hyfforddiant
Trafodaethau Creadigol.
Dysgais lawer ac mae wedi
rhoi gwell dealltwriaeth i mi
o sut i addasu syniadau a
deunyddiau sy’n gweddu i
grwpiau ac unigolion.
Tudalen 21
EDRYCH YMLAEN Mae CADR wedi cael blwyddyn gynhyrchiol iawn: rydym wedi sicrhau incwm grant gwerth £41.7
miliwn ac wedi cynhyrchu 25 erthygl mewn cyfnodolion gwyddonol a adolygwyd gan
gymheiriaid. Gwnaethom 1,205 o gyfleoedd i gynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil a gwnaethom
ymgysylltu â 1,675 o bobl ag agweddau ar ymchwil CADR. Cawsom 3,538 o ddefnyddwyr
gwefannau newydd, gyda 21,238 o edrychiadau ar ein tudalennau gwe, a gwnaethom 155,215
o argraffiadau Twitter yn ystod y flwyddyn gyda chynnydd net o 384 o ddilynwyr. Yn 2019-2020
mae yna rai datblygiadau newydd cyffrous a fydd yn effeithio ar ein hymchwil yn y dyfodol, gan
sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad mewn ymchwil heneiddio a dementia.
Casgliad Raissa Page
Mae Casgliad Raissa Page (1932-2011), yn gasgliad ffotograffig
archifol o bwys rhyngwladol gan ffotograffydd dogfennol o
Ganada. Caiff yr archif ei chatalogio a'i hail-becynnu yn Archifau
Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Ariennir y gwaith archifol
trwy grant o £35,000 gan Ymddiriedolaeth Wellcome a ddyfarnwyd
i Ms Sian Williams, Archifydd. Bydd Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, fel
aelod o'r Bwrdd Cynghori, yn archwilio perthnasedd y casgliad i
ofal cymdeithasol ac ymchwil heneiddio yng Nghymru. Mae'r
casgliad yn cwmpasu'r cyfnod 1977 i 1993. Mae gwaith Page yn
cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ffeministiaeth a
gweithrediaeth wleidyddol, gofal cymdeithasol (plant, pobl hŷn, a'r
rhai mewn iechyd meddwl gwael), ynghyd â mwy o waith
masnachol. Mae nifer o'r pynciau hyn yn cynnwys deunydd
gwerthfawr i lywio ymchwil.
Sefydliad y Diwydiannau Heneiddio Creadigol
Mae CADR, ynghyd â Sefydliad y Diwydiannau Heneiddio Creadigol (Prifysgol De Cymru) a’r
Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), yn
aros am gymeradwyaeth gan Swyddfa Cronfeydd yr UE yng Nghymru (WEFO) ar gyfer Institute of
Creative Ageing Industries (ICAI). Bydd yr ICAI yn ysgogi potensial y diwydiannau creadigol drwy
ddatgloi un o’r segmentau marchnad sy'n tyfu gyflymaf ond sydd â llai o ddealltwriaeth ohonynt
(h.y. yr ‘economi arian’ yr amcangyfrifir eu bod yn werth £11 triliwn yn fyd-eang erbyn 2020).
CADR fydd yn arwain ar gyd- greu ymchwil gyda phobl hŷn gyda’r ICAI.
Mae rhaglen waith yr ICAI yn seiliedig ar dri chlwstwr ymchwil pwerus, sy'n adlewyrchu meysydd
arbenigedd yn CADR. Mae'r clystyrau hyn yn canolbwyntio ar: IECHYD A LLESIANT: Profiadau,
Cynhyrchion a Gwasanaethau Effeithiol yn y Diwydiannau Creadigol; LLE: Dylunio ar gyfer
lleoedd sy'n ystyriol o oedran a dementia; a GWAITH: Gweithleoedd sy'n Gyfeillgar i Oed yn y
Diwydiannau Creadigol. Bydd tair thema drawsbynciol yn dylanwadu ar y rhaglen waith: yr
economi ddigidol; dylunio a datblygu; a'r cyfryngau, diwylliant a pherfformiad. Bydd yr ICAI yn
datblygu Labordy Byw pwrpasol lle bydd yn cymhwyso meddwl systemau sy'n canolbwyntio ar y
defnyddiwr (cyd-greu dinasyddion) i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd o hirhoedledd a ffyrdd o fyw
cenedlaethau sy'n dod i'r amlwg er mwyn sbarduno ymchwil ac arloesi ar draws y diwydiannau
creadigol. Bydd y seilwaith ymchwil newydd hwn sy'n wynebu'r diwydiant yn gwella gallu CADR
yn sylweddol i sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer ymchwil gydweithredol.
Llun gan Raissa Page
(hawlfraint Adrianne Jones
– trwy garedigrwydd
Archifdy Richard Burton,
Prifysgol Abertawe)
Tudalen 22
PARTNERIAID CADR
Tudalen 23
ADNODDAU
Gwefan CADR http://www.cadr.cymru/en/
ENRICH Cymru http://www.swansea.ac.uk/enrich-cymru/
Twitter @CADRprogramme
Facebook https://www.facebook.com/CadrProgramme
Join Dementia Research https://www.joindementiaresearch.nihr.ac.uk/beginsignup
Gwefan OPERAT http://www.OPERAT.co.uk
Gwefan Dementia & Imagination http://dementiaandimagination.org.uk/
Gwefan TrAC http://trans-ageing.swan.ac.uk/
CYSYLLTWCH GYDA NI
E-bost [email protected]
Teleffon (01792) 295099
Cyfeiriad y Tîm Gweinyddol Canolig Ystafell 10, Adeilad Haldane
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Tudalen 24
Newid demograffig
Amrywiaeth o boblogaeth hŷn
Cyfleoedd heneiddio
Blaenoriaethau polisi ac ymarfer