diolch i ann griffith o washington dc am adael i ni gael cip ar ei … · 2020. 11. 11. · geiriau...

8
BORE SUL, Tachwedd 1af yn Washington DC Paratoi gweddïau ar gyfer gwasanaeth Zoom am 11:00 ar y Sul ola’ cyn bydd yr Etholiad yn gorffen a’r cyfri yn dechrau. Mae’r etholiad wedi cychwyn ers wythnosau – pleidleisio drwy’r post, pleidleisio cynnar. Mwy o bobl wedi pleidleisio yn gynnar cyn dydd yr etholiad nag erioed o’r blaen. Mae’n gyfnod anodd i bawb yma yn yr UDA. Pawb yn cael eu heffeithio gan yr etholiad, a Cofid, hiliaeth, diweithdra a thlodi yn cynyddu. Mae’n amser anodd i lawer … Fel arfer mae’r etholiad yn amser emosiynol, ond beth sydd yn fy nghorddi’r flwyddyn yma ydi fod penderfyniadau a’r polisïau gwleidyddol wedi ychwanegu at y problemau, nid eu lleddfu. Fe ellid fod wedi newid cyflwr yr UDA ar hyn o bryd pe bai gennym arweinydd! NOS LUN, Tachwedd 2 Mae etholiad 2020 yn wahanol eleni. Erbyn heddiw, mae dros 94 miliwn wedi pleidleisio yn barod, mae dweud celwydd yn rhemp, yn enwedig o enau’r Arlywydd rhif 45 – ac mae gormod o lawer o bobl yn ei gredu. Ac mae Cofid. Pnawn yma aethom am dro heibio i’r Tª Gwyn – mae’r wasg yno, mae mwy a mwy o barricades o gwmpas y Tª Gwyn a’r parc cyfagos, ac mae cannoedd o bosteri yn dweud Black Lives Matter a geiriau tebyg. Mae digon o waith yng nghanol DC i bobl sydd yn rhoi fframwaith dros dro ar ffenestri a drysau er mwyn eu diogelu. Mae miliynau ohonom wedi ysgrifennu cardiau post yn annog pobl i bleidleisio, anfon negesau ‘testun’, gwneud galwadau ffôn, rhai hyd yn oed yn mentro curo ar ddrysau yn amser Cofid. A channoedd wedi eu hyfforddi i ddelio â galwadau ffôn i ateb cwestiynau am y broses o bleidleisio, mae’r rheolau yn gymhleth ac yn wahanol o dalaith i dalaith. Mae’n drefn yn anhygoel o gymhleth… Ddoe yn ein grfip Beiblaidd fe ofynnwyd i bawb, ‘Sut ydych chi yn teimlo?’ Ofnus, ansicr, nerfus, teimladau cymysg, emosiynol, gobeithiol meddai un braidd yn ansicr. Tachwedd 3 Diwrnod rhyfedd – aros adre rhag ofn…Bu gymaint o drafod am beth allai ddigwydd ar y dydd, ond er bod llinellau hir mewn mannau, anawsterau digidol i rai, newid oriau pleidleisio mewn mannau, llawer yn poeni na gyrhaeddodd y ‘ballot’ eto, ar y cyfan bu’n ddiwrnod tawelach na’r disgwyl. Treuliais saith awr fel rhan o dîm mawr yn barod i ateb cwestiynau am y broses. Roedd y ddwy awr ola’ yn dawel iawn, ond yn ystod y dydd fe atebwyd dros 9,000 o gwestiynau ar lein. Dyna oedd y dydd prysuraf, ond buom, fel tîm yn ateb cwestiynau am wythnosau, ac roedd y lein ar agor am 12 awr y dydd. Mae pob pleidlais yn cyfri. Dechrau clywed y canlyniadau… Tachwedd 4 Anghrediniaeth fod cymaint wedi pleidleisio o blaid Trump a’r Gweriniaethwyr yn gyffredinol – ond ddim yn synnu chwaith. Mae’r pedair blynedd diwethaf yma wedi dangos gwendidau dwfn cymdeithas. Un o’r problemau ydi fod nifer enfawr yn byw mewn cylch cyfyng iawn – ddim yn nabod pobl sydd yn edrych yn wahanol, sydd â chredoau gwahanol, sydd â lefel gwahanol o addysg, o incwm, o etifeddiaeth. Does dim pasbort gan y rhan fwyaf o Americanwyr. Efallai y dylid newid enw’r wlad? Tydi hi ddim yn wlad unedig. Tachwedd 5 Anodd credu nad ydi’r canlyniadau ar gael eto. Ac efallai y bydd hi felly am ddyddiau, os nad yn hirach. Tydi hi ddim yn anodd credu fod 45 (rhif yr arlywydd presennol) yn gofyn i’r Uchel Lys ymyrryd yn y broses. Roeddem yn gwybod mai dyna oedd y rheswm dros ethol y barnwr diweddaraf ar frys ychydig ddyddiau yn ôl. CYFROL CXLVIII RHIF 46 DYDD GWENER, TACHWEDD 13, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Sylw o’r Seidin … t. 2 • O’r Silff Lyfrau … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 Dyddiadur etholiad Diolch i Ann Griffith o Washington DC am adael i ni gael cip ar ei dyddiadur personol etholiadol! Cydymdeimlo Gyda gofid y daeth y newydd am farwolaeth y Parch Adrian Williams, Aberystwyth. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf â Nan a’r plant, gan weddïo nodded a nerth Duw drostynt. Wedi ei fagu yn eglwys Mynydd Seion Abergele, treuliodd gyfnod helaeth yn Blaenau Ffestiniog cyn derbyn galwad i Aberystwyth. O fewn yr Enwad yr oedd yn flaengar yn ei waith gyda’r Adran Eciwmenaidd gan wasanaethu am flynyddoedd fel ein Swyddog Eciwmenaidd. Yr un modd yr oedd yn flaengar gyda gwaith Cymorth Cristnogol o fewn y Cyfundeb a thu hwnt. (Gol. Bwriadwn gynnwys ysgrif goffa yn fuan). (commons SA 2.0, wikimedia) Hawlfraint Gage Skidmore (commons, wikimedia) (parhad ar dudalen 2)

Upload: others

Post on 15-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • BORE SUL, Tachwedd 1afyn Washington DC

    Paratoi gweddïau ar gyfer gwasanaethZoom am 11:00 ar y Sul ola’ cyn bydd yrEtholiad yn gorffen a’r cyfri yn dechrau.Mae’r etholiad wedi cychwyn erswythnosau – pleidleisio drwy’r post,pleidleisio cynnar. Mwy o bobl wedipleidleisio yn gynnar cyn dydd yr etholiadnag erioed o’r blaen. Mae’n gyfnod anodd ibawb yma yn yr UDA. Pawb yn cael euheffeithio gan yr etholiad, a Cofid, hiliaeth,diweithdra a thlodi yn cynyddu. Mae’namser anodd i lawer …

    Fel arfer mae’r etholiad yn amseremosiynol, ond beth sydd yn fy nghorddi’rflwyddyn yma ydi fod penderfyniadau a’rpolisïau gwleidyddol wedi ychwanegu at yproblemau, nid eu lleddfu. Fe ellid fod wedinewid cyflwr yr UDA ar hyn o bryd pe baigennym arweinydd!

    NOS LUN, Tachwedd 2

    Mae etholiad 2020 yn wahanol eleni. Erbynheddiw, mae dros 94 miliwn wedipleidleisio yn barod, mae dweud celwyddyn rhemp, yn enwedig o enau’r Arlywyddrhif 45 – ac mae gormod o lawer o bobl ynei gredu. Ac mae Cofid.

    Pnawn yma aethom am dro heibio i’r TªGwyn – mae’r wasg yno, mae mwy amwy o barricades o gwmpas y Tª Gwyna’r parc cyfagos, ac mae cannoedd obosteri yn dweud Black Lives Matter ageiriau tebyg. Mae digon o waith yng

    nghanol DC i bobl sydd yn rhoi fframwaithdros dro ar ffenestri a drysau er mwyn eudiogelu.

    Mae miliynau ohonom wedi ysgrifennucardiau post yn annog pobl i bleidleisio,anfon negesau ‘testun’, gwneud galwadauffôn, rhai hyd yn oed yn mentro curo arddrysau yn amser Cofid. A channoeddwedi eu hyfforddi i ddelio â galwadau ffôn iateb cwestiynau am y broses o bleidleisio,mae’r rheolau yn gymhleth ac yn wahanolo dalaith i dalaith. Mae’n drefn yn anhygoelo gymhleth…

    Ddoe yn ein grfip Beiblaidd fe ofynnwyd ibawb, ‘Sut ydych chi yn teimlo?’ Ofnus,ansicr, nerfus, teimladau cymysg,emosiynol, gobeithiol meddai un braidd ynansicr.

    Tachwedd 3

    Diwrnod rhyfedd – aros adre rhag ofn…Bugymaint o drafod am beth allai ddigwydd ary dydd, ond er bod llinellau hir mewnmannau, anawsterau digidol i rai, newidoriau pleidleisio mewn mannau, llawer ynpoeni na gyrhaeddodd y ‘ballot’ eto, ar ycyfan bu’n ddiwrnod tawelach na’r disgwyl.Treuliais saith awr fel rhan o dîm mawr ynbarod i ateb cwestiynau am y broses.Roedd y ddwy awr ola’ yn dawel iawn, ondyn ystod y dydd fe atebwyd dros 9,000 ogwestiynau ar lein. Dyna oedd y dyddprysuraf, ond buom, fel tîm yn atebcwestiynau am wythnosau, ac roedd y leinar agor am 12 awr y dydd. Mae pobpleidlais yn cyfri.

    Dechrau clywed y canlyniadau…

    Tachwedd 4

    Anghrediniaeth fod cymaint wedi pleidleisioo blaid Trump a’r Gweriniaethwyr yngyffredinol – ond ddim yn synnu chwaith.Mae’r pedair blynedd diwethaf yma wedidangos gwendidau dwfn cymdeithas. Uno’r problemau ydi fod nifer enfawr yn bywmewn cylch cyfyng iawn – ddim yn nabodpobl sydd yn edrych yn wahanol, sydd âchredoau gwahanol, sydd â lefel gwahanolo addysg, o incwm, o etifeddiaeth. Doesdim pasbort gan y rhan fwyaf oAmericanwyr.

    Efallai y dylid newid enw’r wlad? Tydi hiddim yn wlad unedig.

    Tachwedd 5

    Anodd credu nad ydi’r canlyniadau ar gaeleto. Ac efallai y bydd hi felly am ddyddiau,os nad yn hirach. Tydi hi ddim yn anoddcredu fod 45 (rhif yr arlywydd presennol)yn gofyn i’r Uchel Lys ymyrryd yn y broses.Roeddem yn gwybod mai dyna oedd yrheswm dros ethol y barnwr diweddaraf arfrys ychydig ddyddiau yn ôl.

    CYFROL CXLVIII RHIF 46 DYDD GWENER, TACHWEDD 13, 2020 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Sylw o’r Seidin… t. 2 • O’r Silff Lyfrau … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    Dyddiadur etholiadDiolch i Ann Griffith o Washington DC am adael i ni gael cip ar ei dyddiadur personol etholiadol!

    CydymdeimloGyda gofid y daeth y newydd amfarwolaeth y Parch Adrian Williams,Aberystwyth. Estynnwn eincydymdeimlad cywiraf â Nan a’r plant,gan weddïo nodded a nerth Duwdrostynt.

    Wedi ei fagu yn eglwys Mynydd SeionAbergele, treuliodd gyfnod helaeth ynBlaenau Ffestiniog cyn derbyn galwad iAberystwyth. O fewn yr Enwad yr oeddyn flaengar yn ei waith gyda’r AdranEciwmenaidd gan wasanaethu amflynyddoedd fel ein SwyddogEciwmenaidd. Yr un modd yr oedd ynflaengar gyda gwaith CymorthCristnogol o fewn y Cyfundeb a thuhwnt.

    (Gol. Bwriadwn gynnwys ysgrif goffayn fuan).

    (commons SA 2.0, wikimedia)

    Hawlfraint Gage Skidmore (commons, wikimedia)

    (parhad ar dudalen 2)

  • Zooooooom! (parhad)

    I’r gîc a’r tecnoffôb

    Wrth bostio rhywbeth tebyg ar Facebookfe ymatebodd rhai pobl dda yngadarnhaol ac yn bositif i’m hanogaethinni feddwl am drefnu recordiooedfaon/cyfarfodydd gweddi ar gyfer yrhai nas gallent fanteisio ar y bwriad i ailagor ein haddoldai. Does dim rhaid bodyn gîc neu tecnoffôb i wneud hyn, ac mifyddai’n ffordd dda o gael cymorth rhai

    sy’n deall ac yngwybod mwy nafi am drefngwneud peth felhyn. Gallwch,os mynnwchosod camera neuddau o boptu’rsêt fawr a’ucysylltu igyfrifiadur/peiriant recordio iddal y cyfan yndaclus, ac os oesrhaid golygu ymae rhaglennicyfrifiadurol i’wcael i’ch helpu i wneud hynny. Y maecamerâu heddiw mor fychan ac mor dda,prin y buasech yn cofio eu bod nhw ynoo gwbl!

    Capel a chegin

    Dros y misoedd diwethaf yma rwyffinnau ac amryw un arall yn y fro wedibod yn recordio myfyrdodau i’r Ofalaethac y mae’r rheiny i gyd wedi cael eugwneud ar gyfrifiadur gartre’, ganddefnyddio rhaglen Photobooth. Dwi’neistedd yn y gegin, y cyfrifiadur yn sefyllar ben tomen o lyfrau swmpus fel fy modyn gallu edrych i fyw llygad y camera.Yna y mae’r cyfan yn cael ei wau at eigilydd wedyn ar raglen IMovie. Dwi ddimyn arbenigwr yn y maes, ’mond wedimentro a magu hyder yn y peth. A dwi’ndal i ddysgu wrth fynd ymlaen. Wrthgwrs gellir gwneud hynny mewn sêt fawrneu festri yn ddigon hawdd heb darfu arneb.

    Sain neu dvd

    Dywedodd rhai nad yw pawb ymhlith y

    rhai hªn gydagoffer chwaraedvd, neugyfrifiadur iwylio postiadar Facebookac ati. Ond,peidiwch â bodyn negyddol achodi rhwystrauar lwybr yrEfengyl,oherwyddmae’n bosibdrwy raglennifel You TubeDownloader

    trawsnewid y recordiad fideo yn ffeilrecordiad sain, a dwi’n sifir fod ganamryw erbyn hyn beiriannau chwaraecryno ddisgiau adre. A chafwyd unymateb yn dweud fod un ardal yn barod igynnig hyfforddiant i rai fyddai am fentroi’r maes.

    Creadigol

    Cofiwch os yw offer yn brin ar ambellaelwyd ymhlith y ffyddloniaid na allentddod i addoli, paham na fedrwch chibrynu peirannau dvd syml neu liniadur ygall blaenor, diacon, neuwirfoddolwr/wraig ei ddefnyddio fel cyfle iymweld â’r saint a chyd-wylio’r oedfagyda nhw? ‘Lle bynnag y byddo dau neudri, bydda i i yno yn eu canol’ yw’r adnodsy’n dod i’r cof yn fan hyn. Byddai’n gyfleda i fugeilio yn eich cylchoedd gofal a’ucynnwys yn rhan o’r gynulleidfa.

    Cnoi Cil

    Dyna ni – rhywbeth i chi gnoi cil arno, acymateb yn gadarnhaol a chreadigol. Tydio fawr o drafferth i neb wneud hyn, ondfe all ddwyn bendith a boddhad i laweryn eu tro.

    Zoomiwch i mewn i’r darlun –adnabyddwch y posibiliadau. Peidiwch âgwrthod yr hyn rwy’n ei awgrymu heb eiystyried o ddifri. Oherwydd welai i, allawer un tebyg imi, ddim golwg o dufewn i addoldy am beth amser etooherwydd y Covid 19 a’r Cyfnod Clo, gany byddai hynny o bosib yn ormod o risgyn y dyfodol tymor byr.

    Felly fe fyddwn i yn bersonol yngwerthfawrogi pe byddai rhywrai amwneud hyn, ac a fyddai’n foddion igynnal fy ffydd ac i’m helpu parhau iaddoli Duw gyda’m cyd-aelodau.

    Ewch ati, da chi. Ac fel y byddai un oflaenoriaid mwyaf blaengar a gweithgarHenaduriaeth Arfon yn ei ddweud wrthyfbob tro wrth ffarwelio, ‘Bydd Wych!’ yneich ymdrechion i gyrraedd mwy a mwyo bobl gyda neges yr Efengyl.

    Dan eich bendith am y tro.

    Parch Jim

    2 Y Goleuad Tachwedd 13, 2020

    Sylw o’rSEIDIN

    Y Sasiwn gyntaf ar zoom!

    Ar derfyn ei ysgrif yr wythnosdiwethaf ceisiodd y Parch JimClarke ein hannog i gymryd eindefnydd o dechnoleg a chyfryngaunewydd o ddifri, ‘fel her a sialensnewydd.’ Dylid cofio, meddai,‘Rydan ni’n fwy nag adeilad, ynfwy na’r brics a’r mortar: byddwngreadigol gan mai ysbrydcreadigol fu’r ~Ysbryd Glânerioed, yn chwythu lle y myn, ynagor llygaid rhai, yn agorcalonnau llawer mwy!’

    Mae yn gyfnod anodd yn yr UD,emosiynol, trist, poenus, a phawb ydw iyn ’i nabod wedi blino yn arw. Ac maepawb yn siarad am yr etholiad. Hyd ynoed plant bach a barn glir, onest. Clywaisam oedolyn yn chwarae gêm dychymyghefo plentyn 7 oed: y ddwy yn esgus bodar y ffôn. ‘Pwy sydd yna?’

    ‘Trump,’ meddai’r oedolyn, a’r plentyn ynateb ‘Pam wyt ti yn gwastraffu dy amser,dos i wneud dy waith i gael gwared â’rCofid.’

    Ond rhywsut – drwy’r cyfan, bob amser,mae yna fymryn o leia’ o obaith,weithiau rhaid chwilio yn ddwfnamdano, ond heddiw fe gadarnhawydfod mwy o bobl wedi pleidleisiodros Biden nag i unrhyw arlywydderioed. “Ffydd, gobaith, cariad…” ac imi mae’r tri wedi bod yn un yr wythnosyma.

    Tachwedd 6ed

    Newyddion da o Georgia aPennsylvania. Mae’r wawr yn torri…

    Dyddiadur Etholiad(parhad)

    Ann Griffith ger y Tª Gwyn

  • Gwers 19

    AndreasGweddi:

    Drugarog Dduw, plygwn ger dy fron ynwylaidd ac yn ostyngedig, gan ofyn amdy fendith yn ein myfyrdod heddiw.Siarad gyda ni o’r newydd a rhanna dyair â ni. Wrth gofio heddiw am un oddisgyblion Iesu yn oes y TestamentNewydd, helpa ni i feddwl am ein rhanni yn dy eglwys di. Amen.

    Darllen: Ioan 12:20–28

    Cyflwyniad

    Enwir y disgyblion gan y pedwarefengylydd, a hynny yn gynnar yn eucyflwyniadau am gyfnod Iesu yncerdded ar hyd llwybrau Palesteina. Nidoes modd gwybod pa ganran o’r tairblynedd a gawn. Mwy na thebyg buontmewn mannau nad oes cofnod ohonynt,a bod digwyddiadau, cyfnodau oaddysgu ac iacháu nad ydynt yn caelsylw penodol. Yn yr un modd, bydd ypedwar efengylydd yn defnyddio’radnoddau a ddaeth i’w llaw i ddibenionpenodol, gan gofio’u bod yn ysgrifennumewn cyfnodau amrywiol ac igynulleidfaoedd gwahanol. Mae’n wirdweud bod Marc a Luc yn ddibynnol arffynonellau eraill, ac er bod Mathew acIoan yn rhan o’r deuddeg disgybl, nidoes disgwyl eu bod yn cofio pob unmanylyn. Wrth nodi galw’r disgyblion, sylwn

    fod Mathew, Marc, Luc ac Ioan yn nodienwau’r disgyblion mewn trefnwahanol ac nid ydynt yn cofnodi’r

    broses honno o alw yn yr un ffordd ynunion. Nodwn fod enwau Pedr acAndreas, Ioan ac Iago, yn agos i’r brig,ac yn amlwg yn creu cylch mewnol oblith gweddill y disgyblion. Daw enwAndreas yn gynnar yn adroddiad Ioan,gan gyfleu fod hwnnw wedi cael eigyfareddu gan Iesu, ac ar ei gyfle cyntafwedi mynd ar ôl ei frawd, Seimon Pedr,a’i gymell yntau i ddilyn Iesu. Andreasa dywysodd eraill at Iesu, ac er nad oescofnod o’i bregethu, bydd ei esiampl felcenhadwr a chyflwynydd yn ddigon.

    Myfyrdod:

    Beth yw disgwyliadau’r cyhoedd oaelodau ffyddlon yr eglwysi, a beth ywsyniad aelodau o waith gweinidogion adiaconiaid eglwysi?* Mae ganweinidogion ystod amrywiol o ddoniau:rhai yn siaradwyr da, eraill yn ei chaelyn haws i gymdeithasu nag eraill, rhaiyn drefnwyr effeithiol, a galwyd eraill igyfrannu fel awduron academaidd neuaddysgwyr bywiog. Mae’r unamrywiaeth ymysg diaconiaid eglwysi;ni ellir disgwyl i bawb ragori ar bobagwedd o gyfrifoldebau diaconiaid.Wedi’r cyfan, gwaith tîm ywgweinidogaeth eglwys ac nidcyfrifoldeb unrhyw unigolyn penodol. Oni ddylai pob aelod, felly,

    ddefnyddio pa ddoniau bynnag syddganddo neu ganddi i gyfrannu atfwrlwm bywyd eglwys? Mewn sefyllfaddelfrydol, byddai gweld trefnu seddauar ffurf cylch yn lle rhesi unffurf yngolygu nad oes blaen a chefn; roeddagwedd y Brenin Arthur a’i FwrddCrwn yn flaengar iawn. Nid oes cofnod i Andreas bregethu’n

    gyhoeddus nac anfon llythyr at eglwys.Nid oes sôn iddo sefydlu eglwys namynd ar daith genhadol benodol. Maecynifer o ffeithiau na ddaethant i sylwLuc, awdur Llyfr yr Actau. Ondgwyddom fod Andreas yn un aymatebodd i gyhoeddiad IoanFedyddiwr drwy gyfeirio at Iesu fel‘Oen Duw’ (Ioan 1:40) ac a arweiniodderaill at Iesu, fel yn hanes bwydo’r pummil (Ioan 6:8,9), ac ymweliad yGroegiaid (Ioan 12:20–22). Roedd ynun a oedd oddi mewn i gylch o ffrindiauagos Iesu, yn berson dibynadwy adefnyddiol, yn un a welai waith a bwrwati i’w wneud. Nid oedd yn berson iloetran yn y cysgodion pan oedd tasgaui’w cyflawni, a diolch am bob aelodeglwysig felly.

    Gweddi:

    Diolch, nefol Dad, am Andreas ac ambawb tebyg iddo sy’n sylweddoli bodcyfle i wasanaethu Iesu mewn ffordddawel ac effeithiol. Os gweli ddefnyddAndreas ynom ni, Arglwydd, agor einclustiau i glywed a’n llygaid i weld ycyfle i fod yn ddefnyddiol iti. Amen.

    Trafod ac ymateb:

    • Trafodwch ddisgwyliadau’r gym -deithas o aelodau eglwysig adisgwyliadau’r eglwys ei hunohonynt ac o’r rhai sy’n cael eu galwi waith penodol yn eu plith. (Gw. ycwestiwn cyntaf ar ddechrau’r adran‘Myfyrdod’*).

    • Beth oedd doniau arbennigAndreas? Sylwch ar y darlleniadau aroddir ym mharagraff olaf y‘Myfyrdod’.

    • ‘Lle bynnag yr wyf i, yno hefyd ybydd fy ngwasanaethwr’ (Ioan12:26). Ydyn ni’n gosod ein hunainyn y man y mae Iesu ac yn barod igolli ein hunain wrth ei ganlyn a’iwasanaethu?

    Tachwedd 13, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    Darlith Flynyddol Morlan–Pantyfedwen 2020

    ‘Understanding Young Millennials: Values, Identities and Belonging’gyda’r

    Athro Linda Woodhead, Prifysgol Caerhirfryn

    Cadeirydd: Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth

    Cynhelir y Ddarlith Flynyddol hon am 7.30 nos Lun, 16 Tachwedd 2020.Oherwydd y cyfyngiadau, bydd y ddarlith eleni yn cael ei chynnal ar Zoom.

    Ymddiriedolaeth

    Foundation

    Er mwyn cofrestru a derbyn y ddolen Zoom,cysylltwch ag

    Ymddiriedolaeth James Pantyfedwengyda’ch enw a’ch cyfeiriad e-bost

    Ffôn: 01970 612806E-bost: [email protected]

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • Mae’n Dechrau Draw ymMethlehem – Rhigwm Stori’r Geniar gyfer Nadolig eleni

    Mae ein llyfryn newydd i blant ar gyfery Nadolig ar ffurf mydr ac odl! Ynogystal â’i ddyluniad lliwgar a bywiog,mae ynddo nifer o dudalennau sydd hebliw, gan gynnig gweithgaredd hyfryd i’rplant i’w wneud yn rhywbeth personoliddyn nhw. Mae modd i chi archebu’rllyfrynnau ar ein gwefan ac maegostyngiad i’w gael os ydych yn prynunifer arbennig ohonynt. I gyd-fynd â’rllyfryn mae fideo animeiddiedig i’wlawrlwytho am ddim, sy’n ddelfrydoli’w ddangos yn eich gwasanaeth eglwysneu ysgol. Hefyd, mae fersiwn hwylioga rhyngweithiol o stori’r Geni ar gael –Drama Nadolig Sydyn. Addasiad ydywo’r llyfryn Nadolig sydd wedi ei greu felbod modd ei ddefnyddio ar-lein os naallwch fod gyda’ch gilydd yn yr eglwys.Gallwch lawrlwytho’r sgript yn ogystalâ lluniau cefndirol i gyd-fynd â’rddrama am ddim.

    I’r timau Agor y Llyfr allan yna, maeyna hefyd wasanaeth Agor y Llyfrnewydd wedi ei greu sy’n seiliedig ar yllyfryn. Os nad ydych yn medru cynnalgwasanaeth yn fyw yn yr ysgol, beth amgeisio’i gyflwyno dros Zoom?Mae nifer o dimau erbyn hyn wedibwrw ati i gyflwyno hanesion Agory Llyfr dros y we. Os ydychwedi gwneud hyn eisoes, mi fyddem ynfalch o glywed am eich profiad a’irannu gydag eraill. Gallwch gysylltu â[email protected].

    Felly, beth am brynu copïau o’rllyfryn i’w rhoi fel anrheg Nadolig i’rplant yn eich ysgolion lleol, eichysgolion Sul neu fel anrheg i aelodauo’ch teulu?

    Cofiwch ymweld â’n gwefan:www.cymdeithasybeibl.cymru.

    Agor y Llyfr

    Mae wedi bod yn chwe mis hir arhyfedd i ni i gyd, ac er bod ysgolionwedi ailagor rydymymhell o fod yn ôli’r normal ac ynrhydd i ymweld agysgolion fel timauAgor y Llyfr.

    Er gwaethaf y sefyllfa bresennol,mae’r timau wedi bod yn ceisio cadwmewn cysylltiad â’r ysgolion mewnffyrdd ymarferol: anfon cardiau gydanegeseuon calonogol, mynd â bisgedii’r staff, helpu gyda’r garddio – a hefyddrwy gynhyrchu ffilmiau o straeonBeiblaidd!

    Erbyn hyn mae gennym lyfrgell offilmiau ar ein gwefan yn barod i’wrhannu ag ysgolion, ond rydym angenmwy o ffilmiau Cymraeg; does dimangen Cerdyn Equity nac offerarbenigol, dim ond ffôn clyfar,cyfrifiadur a lot o frwdfrydedd!

    Mae hi’n dal yn bosibl derbynhyfforddiant craidd naill ai drwyddilyn y gyfres ar-lein neu drwyfynychu sesiwn Zoom; mae’n addas ar

    gyfer Storïwyr unigol newydd, timaunewydd neu fel cyfle i ailhyfforddi.

    Adnoddau’r Cynhaeaf – Rydym ynfalch iawn o’n partneriaeth agYmddiriedolaeth Trussell i gynhyrchuAdnoddau’r Cynhaeaf ar gyfer timau aceglwysi; mae’n cynnwys stori newyddsbon gyda sgript a syniadau i’wchyflwyno.

    Adnoddau Nadolig – Mae adnoddaugwych Cymdeithas y Beibl yn barodi’w harchebu ar lein. Fel y soniwydeisoes, mae gennym stori newydd sbon,Mae’n Dechrau Draw ym Methlehem,ac i gyd-fynd â hi mae ffilm wedi’ihanimeiddio, gwasanaeth ar ffurf Agory Llyfr a gwasanaeth ‘pop-up’ ar gyfercapeli/eglwysi.

    Os hoffech godi ymwybyddiaeth amAgor y Llyfr yn eich capel, maegennym gyfres newydd o ffilmiau byrwedi’u creu yn benodol i’r diben yma:sgwrs recriwtio gan Meleri, a Storïwyryn darllen Salm 78 ac yn sôn pam maennhw wrth eu bodd gydag Agor y Llyfr.Hwyliwch draw i wefan Open the Booki ddod o hyd iddynt a’r holl adnoddaueraill. Plis, ymunwch â ni i weddïo drosein Timau a thros ysgolion ein gwlad fely bydd cyfleoedd i ddod â’r Beibl ynfyw yn parhau drwy’r cyfnod gwahanolyma.

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 13, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Cymdeithas y Beibl yn rhannu adnoddauChwilio am adnoddau ar gyfer eich eglwys neu ysgol ar gyfer y Nadolig?Neu efallai eich bod yn chwilio am anrheg i’w gyflwyno i’r plant, i’r ieuenctidneu aelod o’r teulu? Am rai syniadau, ewch i gael cipolwg ar dudalennau eingwefan: www.cymdeithasybeibl.cymru.

    Ac wele, ar fore llwyd o Hydref, daethangylion ataf drwy gyfrwng Zoom.Troesant eu hwynebau ataf ac roeddentyn hardd, mor hardd â phren eboni.Roedd urddas yn eu gwedd a gwawr ogariad yn eu llygaid.

    Ac meddai un o’r angylion wrthyf,“Mae’n fis hanes pobl dduon. Mae’rPenllywydd eisiau i ti ymddiheuro amgamweddau’r gorffennol yn eu herbyn”.

    Dychrynais o glywed neges yrangylion. Cuddiais fy llygaid rhagddyntac meddwn wrthynt, “Ymddiheuro?!Beth sydd gan hynny i’w wneud â mi?Rydw i’n byw yma yng Nghymru wen,Cymru lonydd, yn ddyn gwyn o’rdosbarth canol ac yn freintiedig fy myd.Beth sydd gan hanes pobl dduon i’wwneud â mi?”

    “Llawer,” meddai’r angel, “llaweriawn.”

    “Ond,” meddwn innau ar ei thraws,“yma yng ngorllewin ein gwlad, ymhellbell o’r ddinas aml ei hil ac aml eidiwylliant, does fawr neb ohonom yn

    ddu ein crwyn – heblaw am Abdul a’ideulu yn y bwyty lawr yr hewl. Ni, ysiaradwyr Cymraeg, yw’r lleiafrifethnig sydd dan orthrwm yma. Bethsydd gan hyn oll i’w wneud â mi?”

    “Taw! Ac agor dy lygaid,” meddai’r

    Agor Llygaid

    Llun gan Elesban Landero Berriozábalar Unsplash

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Wrth i ymosodiadau milwrol arGristnogion yn Nagorno-Karabakhgodi’r bygythiad o hil-laddiadArmenaidd arall, daeth galwad arnomoll i weithredu’n weddigar.Mae maint a ffyrnigrwydd yr

    anghydfod presennol rhwngAzerbaijan a Thwrci, sy’n cynnwysgollwng bomiau clwstwr a wnaed ynIsrael ar drigolion diniwed, hyd ynoed wrth iddynt gysgodi mewnadeiladau eglwysig, wedi dwysáu’rpryder dealladwy ymhlithCristnogion Armenaidd ynghylch ybygythiad cynyddol o lanhau ethnigyn eu tiriogaeth Gristnogolhanesyddol. Ar 1 Tachwedd, rhybuddiodd

    Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynoly Cenhedloedd Unedig y gallai’rymosodiadau diwahân ar ardaloeddpoblog iawn yn y rhanbarth fod yngroes i gyfraith ddyngarolryngwladol ac y gallent fod yndroseddau rhyfel. Gwelwyddinasyddion cyffredin yn colli eubywydau a’r seilwaith yn cael eiddinistrio.Mae adroddiadau diweddar a

    rannwyd â’r mudiad Barnabas yn nodibod cyflenwadau mawr o arfau a

    adeiladwyd yn Israel, gan gynnwysdronau kamikaze dinistriol a CherbydauAwyr Di-griw Hermes (UAVs), wedicael eu cyflenwi i Azerbaijan a’udefnyddio yn erbyn trigolion Cristnogolcyffredin.

    Adroddir bod tua 90,000 oArmeniaid, mwy na hanner poblogaethy rhanbarth o tua 144,000, wedi ffoirhag y gwrthdaro yn Nagorno-Karabakhi loches yn Armenia ers i’r ymladddiweddaraf ddechrau ym mis Medi.Wrth dynnu sylw at sefyllfa

    enbydus y Cristnogion hyn yn nhalaithNagorno-Karabakh yn Armenia, mae’rmudiad Barnabas yn gofyn i gefnogwyrgymryd camau gweddigar nawr i godiymwybyddiaeth ar draws eu hollrwydweithiau, a hefyd i ysgrifennu atlywodraeth Israel a llysgenhadonIsrael ledled y byd, gan ofyn am ycanlynol:

    1. bod gwerthu arfau milwrol iAzerbaijan, arfau a ddefnyddiryn erbyn Cristnogion ynNagorno-Karabakh, yn dod i benar unwaith;

    2. gwarant na ddefnyddir technolegIsraelaidd yn y gwrthdaro, gangynnwys ymosodiadau drônangheuol;

    3. ymdrechion i ddod â’r ymladd iben a gweithredu cadoediad, a

    4. chydnabyddiaeth gan lywodraethIsrael o hil-laddiad Armenia ganrifyn ôl.

    Gan gysylltiadau Cronfa Barnabas affynonellau eraill

    (Rhagor o wybodaeth, dolenni a dulliaucyfrannu: www.barnabasfund.org)

    Tachwedd 13, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    angel. Ac yn sydyn fe atgoffodd yrangylion fi o fyrdd o bethau:

    • fy mod i’n hoff o de a choffi a’m bodyn cymryd siwgr i’w melysu;

    • bod cotwm yn gyfforddus i’wwisgo;

    • bod yna gangen o’n teulu yn Sir Fônsy’n cefnogi Everton oherwydd bodein cyndadau wedi cael gwaith ynnociau Lerpwl;

    • bod teulu’r wraig wedi ymfudo oSwydd Gaerhirfryn i gwm glofaolyn y de ar ôl i’r ffatrïoedd cotwmyno gau;

    • bod fy hen fodryb gapelgar,heddwch i’w llwch, yn casglu elusencenhadaeth yn flynyddol ‘at yblacs’;

    • fy mod i wedi canu mewn capel am‘gannu Ethiop du yn wyn’;

    • bod yna gasgliad o fathodynnau ynyr atig – amryfal gymeriadaucroenddu Robertson’s Jam;

    • fy mod i wedi gwneud jôc rywdroam Gymru du-Gymraeg;

    • fy mod i wedi bod yn araf iawn ynherio hiliaeth ffwrdd-â-hi ambell‘gymeriad’ o gymydog;

    • fy mod i’n dueddol o wfftio rapwyr;• bod gen i berthynas yn America sy’nllawer rhy barod i ladd ar dlodion duei neighbourhoods lleol;

    • nad ydw i erioed wedi cydweithio âpherson croenddu;

    • nad ydw i’n adnabod unrhyw bersondu sy’n ymwneud â chapel,cyfundeb nac enwad;

    • bod y syniad wedi croesi fy meddwlpa ddiwrnod, am eiliad, fodbywydau pawb yn bwysig;

    • fy mod yn ddyn gwyn o’r dosbarthcanol ac yn freintiedig fy myd.

    Ac meddai’r angylion drachefn, yn uncôr, “Ar ôl i ti agor dy lygaid, mae’rPenllywydd eisiau i ti agor dy galonhefyd.”

    Diflannodd yr angylion a chafwydgoleuni mawr.

    Gareth Ioan

    (Ymddangosodd gyntaf yn e-fwletinwythnosol y mudiad Cristnogaeth21. Erbod mis hanes pobl dduon wedi myndheibio, mae hi’n flwyddyn cofio hynnyyn ôl Llywodraeth Cymru a diolchwnam ganiatâd i atgynhyrchu’r ysgrif acam gyfle i gael tynnu sylw at hanes pobldduon yng Nghymru. (Gol.))

    Galwad frys i weithredu’n weddigar

    Sul, 15 Tachwedd

    OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

    am 11:00yb

    Yr wythnos yma, bydd yr Oedfao dan ofal Parchedig Aled Edwards.

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr wythnos yma, fe gawn ni wybod mwyam waith arbennig rhai o’n sefydliadauaml-ffydd. Nia fydd yn dysgu mwy amgefndir a phwysigrwydd wythnos rhyng-ffydd yma yng Nghymru a Ryland fyddyn torchi llewys ac yn helpu’r projectFood For Life. Daw’r canu mawl o bobrhan o Gymru.––––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru15 Tachwedd am 12:00yp

    yng ngofalCarys Ann, Rhydlewis

    Cristnogion Armenaidd yn cysgodi rhag y bomiomewn seler

    Agor Llygaid (parhad)

  • Mae’n beth prin inni fyw trwy sefyllfasydd wedi effeithio arnon ni yngNghymru yr un pryd ag y mae’neffeithio ar bobl o amgylch y byd.Ddim yn aml yr ydym wedi profibygythiad a rannwn â’n cymdogionbyd-eang mewn gwledydd morwahanol ag Ethiopia, Libanus aNicaragua.Mae Covid-19 a’r ymgais i atal ei

    ymlediad wedi taro’r byd trwy gydol2020, gan ddinistrio bywydau, codiofn, difetha bywoliaethau a gorfodipobl fregus i dlodi gwaeth.Ond wrth inni agosáu at y Nadolig,

    cawn ein hatgoffa am berson sydd weditroi’r byd wyneb i waered er daioni, unoedd â’i fywyd mewn cyfnod oorthrwm ac ofn wedi dod â gobaith adrawsnewidiodd y byd wrth i’w negesymledu.Wrth inni edrych tuag at Emaniwel,

    Duw gyda ni, y Nadolig hwn, cawn einhatgoffa fod Duw yn cerdded gyda nitrwy gyfnodau anodd ac yn gweithiotrwom ni ym mhob sefyllfa i ddangoscariad i’r byd: cariad nad yw byth ynmethu; cariad sy’n uno; cariad sy’nadeiladu gobaith.

    Ethiopia

    Wedi eu hysbrydoli gan Iesu, maecefnogwyr Cymorth Cristnogol yncerdded gyda’r rhai y mae’rCoronafirws yn ddim ond un herychwanegol ar ben sawl her aralliddynt, yn cynnwys yr argyfwnghinsawdd, anghydfod ac yn 2020effaith locustiaid.

    Mae eich rhoddion a’ch gweithredoeddchi yn helpu pobl fel Mekonnen Sofaryn ardal De Omo, Ethiopia, sy’ncloddio hyd at fetr o ddyfnder mewngwely afon er mwyn chwilio am ddfiri’w dda byw. Mae’r argyfwng hinsawddyn gwthio’i deulu i newyn ac ynbygwth ei ffordd o fyw.Mae ffrindiau iddo, cyd-fugeiliaid a

    phlant wedi marw wrth gloddio morddwfn nes i’r gwely sych syrthio ar eupennau.

    Mae Cymorth Cristnogol yngweithio gyda theuluoedd fel unMekonnen i roi ffynhonnell ddfirgymunedol iddynt ac archwilio ffyrddgwahanol o greu incwm, fel creu sebono aloe vera a phlannu cnydau sy’nwydn mewn sychder.

    Mae traddodiadau’n newid, maecariad yn parhau

    Mae’r cyfyngiadau sy’n rheoli sut ygallwn gyfarfod ac ymwneud â’ngilydd wedi ein gorfodi i ailfeddwlynghylch beth yw cymuned. Ond maeein cefnogwyr yn gwybod ein bod wediein clymu ynghyd mewn ffordd lawerdyfnach na’r firws ac maent wedidangos penderfyniad cadarn i barhau iymestyn allan tuag at eraill.

    Y Nadolig hwn caiff eglwysi eugwahodd i ymuno mewn ennyd oundod a gobaith ar Sul cyntafyr Adfent, 29 Tachwedd, trwyddefnyddio’r garol newydd ‘Pan anedgynt mewn tlodi’ wrth iddynt addoli agwneud casgliad dros GymorthCristnogol.

    Mae’r garol ar gael ar ein gwefan(caid.org.uk/christmasresources) acmae’n dathlu cyfraniad Mair a galwadmawr y proffwyd i baratoi ffordd iDduw a’i deyrnas. Y Nadolig hwn,gallwn ddathlu’r gwirionedd anhygoelein bod wedi ein huno ym mhedwarban y byd gan gariad sy’n wydn ynwyneb haint, sychder a thywyllwch, acsy’n adeiladu gobaith i’n hollgymdogion.

    I wybod mwy am Apêl NadoligCymorth Cristnogol, yn cynnwys sut iweithredu dros gyfiawnder hinsawdd,ewch i: caid.org.uk/hope. Yr Adfenthwn,

    • gallai £15 hyfforddi un wraig igreu sebon aloe vera;

    • gallai £80 brynu dwy afr i helputeulu i adeiladu gwell dyfodoliddynt eu hunain, a

    • gallai £290 dalu am ddeunyddac offer i adeiladu pwll,fyddai’n sicrhau cyflenwaddibynadwy o ddfir i gymunedgyfan.

    Lluniau: Cymorth Cristnogol/Elizabeth Dalziel

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 13, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dathlwch gariad sy’n adeiladu gobaith yr Adfent hwnAPÊL NADOLIG CYMORTH CRISTNOGOL

    Mae prinder glaw yn golygu bod y bugail Mekonnen Sofar ynei chael hi’n anodd cael dfir i’w wartheg

    Mae Mekonnen Sofar yn cloddio am ddfir ar gyfer ei dda bywmewn gwely afon sych

  • Cyfrol ddiweddar ardderchog ar gyferdarllenwyr o bob math yw ReadingPhilippians: A Theological Introduction(Cascade, 2020) (978-1-5326-7294-1,$19.00 pb). Ymddangosodd mewncyfres a elwir gan y cyhoeddwyr o’rUDA yn ‘Cascade Companions’, ac fe’ihanelwyd yn bennaf at ddarllenwyr nadoes ganddynt wybodaeth arbenigol yny maes. Mae’r awdur, Nijay K. Gupta,wedi hen ennill ei blwy fel arbenigwr arlythyrau Paul.

    (o wefan On Script)

    Dewisodd Paul, meddai, gyfleu eisyniadau diwinyddol ar ffurf llythyrau.Geiriau ffydd a bywyd ydynt yn dododdi wrth berson real at gynulleidfaarbennig o bobl, ac mae angen bobamser astudio’n ofalus amgylchiadau

    derbynwyr y llythyrau hyn. Annog apherswadio yw eu hamcan ac mae hynyn arwain at geisio darganfod ystyrdiwinyddol y llythyrau. Crynhoir yrymchwil hwn o dan dri phennawd:

    Beth mae’r testun yn ein hannog igredu? (Ffydd).

    Beth mae’n ein hannog i obeithio?(Gobaith).

    Beth mae’n ein hannog i wneud?(Cariad).

    Cyn troi at destun yr epistol disgrifiramgylchiadau ei ddarllenwyr yn ogystalâ rhai’r apostol ei hun. TrefedigaethRufeinig oedd Philipi ac roedd ycysyniad o anrhydedd (honour) ynbwysig i’w thrigolion. Roedd y Philipiaidyn wynebu erledigaeth a cheirproblemau oddi mewn i’r eglwys eihun, gan gynnwys rhai ariannol aboenai nifer o’r aelodau. At hyn roeddPaul ei hun yn y carchar ac roeddynthefyd yn poeni am dynged Epaffroditusa oedd yn gyswllt rhyngddynt â’rapostol.

    Mae Gupta yn dechrau’i esboniad arbob pennod o’r llythyr drwy gyflwyno eigyfieithiad ei hun o’r testun: weithiaumae’n fwy na hynny, yn aralleiriad,ac ychwanega ambell i air neu gymali bwysleisio gogwydd ymadroddarbennig. Rhydd bennawdautarawiadol i bob pennod: ‘Hyder yn yDuw anataliadwy’ (unstoppable)a ddewisodd ar gyfer y bennod gyntaf.Fe’n hatgoffir ynddi nad yw hyd yn oedcarchariad Paul yn rhwystr i ledaeniadyr efengyl. Yn wir, i’r gwrthwyneb.Pennawd yr ail bennod yw: ‘MaePopeth sy’n Dda yn Dod i Lawr’. Mae’r‘Caniad i Grist’, fel y’i gelwir gan Gupta,yn darlunio darostyngiad y Mab ufuddac Arglwydd gostyngedig: disgynnoddo’r nef i lawr er mwyn galluogi pobl igael eu codi i fyny. Crist yw’r esiampl ibob Cristion mewn gostyngeiddrwydd,a gwneir llawer o gerdd G.K.Chesterton‘Gloria in Profundis’: Gogoniant i Dduwyn yr Iselder. Dyma binacl yr ymwacâd.

    Y pennawd ar gyfer trydedd bennod yllythyr yw: ‘Dod yn Gyfeillion y Groes’,h.y. mae’n rhaid i’r Cristion rannu ynnioddefaint a marwolaeth Crist. Hyn arydd iddo’r gallu i fyw’r bywyd newydd.Ac yn olaf, ym mhennod 4 pwysleisir yrangen i: ‘Beidio â Chynhyrfu ac iDdyfalbarhau’. Mae’r rhinweddau arestrir ynddi yn eu hannog i fod yndawel fodlon a mwynhau’r tangnefedd arydd Duw i’w bobl.

    Drwy gydol y gyfrol hon gwireddir yraddewid y bydd yn ein galluogi iddarllen, i astudio ac i adlewyrchu argynnwys y llythyr cyfoethog hwn. Arderfyn pob pennod cynigir cwestiynau

    i’w trafod. Ar ei hyd dangosirperthnasedd y llythyr i’n sefyllfagyfoes.Yn naturiol, o gofio tarddiady llyfr, meddylir yn arbennig amamgylchiadau’r UDA. Cyfeirir, erenghraifft, at yr hyn a eilw yn‘syncretiaeth ddiwylliannol’, pryd ybyddir yn tynnu Iesu i mewn i’ndaliadau ni, a lle y defnyddir enwIesu i gyfiawnhau llawer o werthoeddy byd hwn. Cyfeiria’n benodol at garugynnau, casáu Iddewon, a hyrwyddodemocratiaeth.

    Ar ddechrau’r gyfrol ceir rhestr oesboniadau ar yr epistol sy’n addas argyfer y cyhoedd yn gyffredinol, ac ynaar ei diwedd cyflwynir rhagolwg crynoa defnyddiol tu hwnt o gyfrolau ynymdrin â gwahanol agweddau arastudio’r epistol dros y chwarter canrifddiwethaf. Gallaf yn hyderus iawngymeradwyo’r gyfrol fach hon i bawbsydd am ddod i’r afael â neges yrapostol yn y llythyr hwn.

    John Tudno Williams

    (Cyhoeddir blog gan Dr Gupta. Ewch i am ragor o wybodaeth.)

    Tachwedd 13, 2020 Y Goleuad 7

    Y Silff Lyfrau

    ProfiadYr ydych yn ei garu ef, er nawelsoch mohono; ac am eichbod yn awr yn credu ynddo hebei weld, yr ydych yn gorfoledduâ llawenydd anhraethadwy agogoneddus wrth ichwi fediffrwyth eich ffydd, sefiachawdwriaeth eich eneidiau.

    1 Pedr 1:8-9

    DeisyfiadArglwydd, erfyniaf arnat, ynenw Iesu Grist dy Fab, a’m Duw;rho i mi gariad na all faglu asyrthio, fel y caiff fy lamp(fy ffydd) ei oleuo ac fel na allddiffodd byth. Gad iddo losgiynof fel y medraf oleuo eraill.

    Columbanus

  • 8 Y Goleuad Tachwedd 13, 2020

    • Wythnos nesaf – Dathlu diwedd blwyddyn? •

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…GweddiArglwydd edrych arnom, tyred Iôr i’n plith.Boed i’n mawl, a’n cân, a’n serch, brofi’th

    ras, fel gwlith;Gad i’th Air, sy’n fywyd, gartrefu dan fy

    mron.Tyred drwy dy Ysbryd i’n plith i’r oedfa

    hon. Amen.

    EMYN 352: Ni welodd llygad

    DARLLENIAD: Mathew 25: 14-30Dameg y talentau

    Daw ein gair ‘talent’ o’r ddameg hon. Ynfynych soniwn am berson talentog fel unsydd â nifer o ddoniau, neu sgiliau,naturiol. Os buom yn ddigon ffodus i fodmewn sefyllfa lle cawsom gyfle iddatblygu’n doniau naturiol byddwn wediclywed sawl anogaeth gan athrawon neurieni i beidio â chuddio’n talentau ond i’wdatblygu’n llawn. Gallwn weld pam fodanogaethau o’r fath, ar sail dehongliad o’rddameg hon, yn bosib. Ond mewngwirionedd fe all y dehongliad yma hefydberi ein bod yn fyddar i glywed beth maeIesu Grist yn ei ddweud go iawn.

    Dychmygwch yn awr bod gennych swm oarian a’ch bod am fuddsoddi’r arianhwnnw ar gyfer eich pensiwn. Mae trichwmni wedi eu dewis – wedi’r cyfanddylech chi ddim rhoi eich holl wyau yn yrun fasged! Yr ydych am i’r cwmnïauweithio ar eich rhan i gynyddu’rbuddsoddiad ar eich cyfer. Dyma’r fath osefyllfa mae Iesu’n ei ddefnyddio i’n dysguam Deyrnas Nefoedd.

    Roedd gan ryw feistr gyfoeth sylweddoli’w fuddsoddi a dewisodd dri gwas cyfrifoli ddefnyddio’i arian ac i gynyddu’i gyfoeth.I’r un cyntaf mae’r Meistr yn rhoi pum codo arian, neu bump ‘talent’. Yn amser IesuGrist cyfatebai un dalent i gyflogpymtheng mlynedd gweithiwr cyffredin.Derbyniodd y gwas cyntaf gwerth pumtalent i’w fuddsoddi ar ran ei feistr.Derbyniodd yr ail ddau dalent – gwerthcyflog gweithiwr am ddeng mlynedd arhugain. Nid dibwys oedd yr un dalent aroed i’r trydydd gwas. Roedd hwnnw’ncyfateb i gyflog gweithiwr am bymthengmlynedd. Swm sylweddol yn wir. Roedd ymeistr yn hael yn ei ymddiriedaeth o’iweision.

    Ond mae’n amlwg nad adrodd stori amfuddsoddiad ariannol mae Iesu Grist.Sôn y mae Iesu am drysorau gras aymddiriedwyd i’n gofal.

    Er mwyn i ni ddeall ergyd y ddameggadewch i ni geisio dirnad beth oeddgwrandawyr cyntaf Iesu Grist yn ei glywed

    a’i ddeall pan lefarodd y ddameg honwrthynt. Ymhlith ei ‘bobl ei hun’ roedd yberthynas o Arglwydd a ‘gwas’ yn rhan oddealltwriaeth yr Iddewon yn y cyfnodhwn o’u perthynas gyda’r Arglwydd Dduwei hun. Cofiai’r bobl mai galwad rasol acymyrraeth rasol Duw ei hun greodd euperthynas ag ef. (Exodus 19:4-6)

    Ar yr olwg gyntaf, felly, mae’r adnodau’ncanolbwyntio ar ba fath o ‘weithgarwch’neu ‘fuddsoddiad’ ddylai fod wedinodweddu’r bobl wrth iddynt ddisgwyldyfodiad y meistr, y priodfab, y Meseia.A wnaethant weithio’n ffyddlon neuesgeuluso’i braint fel gweision diog adi-fudd?

    Yn ail, mae a wnelo’r ddameg a daioni ahaelioni’r meistr. Mae’n amlwg bod ygweision mewn safle breintiedig, mewnperthynas agosach na’r cyffredin gyda’rmeistr. Ei ddewis grasol ef oedd sail eiberthynas gyda’r caethweision hyn.A chanlyniad y berthynas rasol oedddiolchgarwch gweithgar y gweision wrthiddynt ddisgwyl dyfodiad y meistr ‘ymhencryn dipyn o amser.’

    Pan ddychwelodd y meistr derbyniasantganmoliaeth am lwyddiant eu hymdrech.‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon’meddai’r meistr. Mae’n eglur maipenllanw’r ganmoliaeth oedd dyfnhau’rberthynas rasol oedd yn bodoli eisoes.‘Tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr,’meddai.

    Cofiwn mai gwahoddiad i wledd ywteyrnas Nefoedd, i ddathliad llawen uniady Priodfab dwyfol a’i briodferch hardd, ifwynhau gogoniant ‘llawenydd dy feistr.’

    Yn drydydd cofiwn ein bod heddiw yn bywrhwng dau fyd – rhwng y deyrnas asefydlwyd a’r Deyrnas sydd eto i ddod ynei gyflawnder. Bob tro y down at Swperyr Arglwydd yr ydym yn ‘cyhoeddimarwolaeth yr Arglwydd hyd nes y daw.’

    Fe’n rhybuddiwyd gan Iesu bod y ‘doeth’yn disgwyl cyflawniad ei deyrnas (ad 1).Ond os yw’r deyrnas yn ‘oedi’ sut ddylaidilynwyr Iesu ymagweddu?

    Gwelsom eisoes bod dau o’r gweision arsail gweithgarwch grasol y meistr wediymdaflu i weithgarwch diolchgar wrthiddynt ddisgwyl ei ddychweliad. Nid pryd ydaw’r Arglwydd yw eu cyfrifoldeb, ondbeth fyddant yn ei wneud er ei fwyn panddaw.

    Ond beth oedd dewis y trydydd gwas?

    Ni roddodd ef mo’r arian i ennill llog banchyd yn oed. Cuddiodd y cyfoeth aymddiriedwyd iddo yn y ddaear.

    Yn ôl pob sôn trafodwyd ymhlith yRabbiaid pwy oedd yn gyfrifol os byddaiarian a ymddiriedwyd i ofal un arall yncael ei ddwyn? Cytunwyd yn fras ar hyn.Os claddwyd yr arian o dan o leiaf drwchpum dwrn o bridd nid oedd yr un a’icladdodd yn gyfrifol am unrhyw ladrad o’reiddo.

    Felly, yn ôl ymresymiad y gwas, osydoedd wedi claddu’r cyfoeth a’i warchodnid oedd dim mwy y gellid ei ddisgwylganddo. Ond nid dyna farn y Meistr. Gwasdrwg a diog ydoedd nad oedd wedigwarchod buddiannau ei feistr nac wedidefnyddio’r cyfoeth.

    Yn lle gwerthfawrogi ei fraint a’rymddiriedaeth a roed iddo dangosodd ygwas mewn gwirionedd nad oedd wediadnabod haelioni ei feistr o gwbl.(ad 24-26) Un i’w ofni, nid un i’w fwynhauydoedd! A fforffedwyd y berthynas lawengan ei ddiogi hunangyfiawn. Fe’i bwriwydi’r tywyllwch eithaf.

    Ond beth mae’n ei olygu i ni roi’n ‘talent’ysbrydol ar waith? Onid hyn?

    Beth bynnag yw lefel y ffydd sydd ynomgadewch i ni weithio arno i’w ddefnyddio.Defnyddio cyhyr sy’n ei gryfhau, ymarfersy’n perffeithio dawn. Gweithredu ffyddsy’n cryfhau’n ffydd.

    Efallai ein bod wedi clywed gwahoddiadgrasol Iesu Grist ar i ni ddod ato. Beth amfentro cam mewn ffydd ato heddiw asynnu nad yw’n ein bwrw o’r neilltu?

    Golyga geisio fel unigolion a chynulleidfa,gweithredu’n ffydd drwy ddarllen a myfyrioyng Ngair Duw, gweddïo a cheisiodealltwriaeth ddyfnach o rychwantcyfoethog ein profiad o ras; golyga rannutystiolaeth ein ffydd ag eraill; golygaystyried ein defnydd o’n cyfoeth einhamser ein gwerthoedd a’u cyfeirio atwasanaeth llawen.

    GWEDDI

    Arglwydd, caniatâ i mi werthfawrogi o’rnewydd gymaint wyt ti wedi ymddiried i nieisoes yn Iesu Grist. Mewn tawelwch rwyfyn awr am dy geisio o’r newydd. Arglwyddnertha fi i ddatblygu’r dalent o ras aymddiriedwyd i mi fel y medraf fod ynwas teilwng a ffyddlon wedi fy mharatoiar gyfer dy ddyfodiad ac i gael mynd imewn i lawenydd fy Meistr.

    Gweddi dawel

    GWEDDI’R ARGLWYDD

    EMYN 385: Goleuni’r byd yw Crist

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.